2 minute read

AstudiaeTHAu Sylfaen

Next Article
Cymraeg yn y CoLEg

Cymraeg yn y CoLEg

Mae ein rhaglenni sylfaen yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau allweddol o ran byw'n annibynnol, iechyd a llesiant, y gymuned a chyflogadwyedd drwy ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae'r cyrsiau a gynigir yn amser llawn neu'n rhanamser ac mae gan y staff sy'n eu darparu ystod eang o arbenigedd galwedigaethol yn ogystal â phrofiad helaeth o weithio gyda dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae pob cwrs yn cynnwys amserlen strwythuredig, cymorth astudio, ystafelloedd ymlacio/ tawel, gweithgareddau cyfoethogi a chyflwyniad i fywyd yn y Coleg ac Addysg Bellach. Bydd myfyrwyr yn dilyn llwybr sy'n datblygu sgiliau cyfathrebu, llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol ac o hyn daw gwell hyder a chryfhau sgiliau personol, cymdeithasol ac emosiynol sydd eu hangen ar gyfer dysgu a bywyd.

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch; dim ond awydd i gymryd rhan yn y gweithgareddau dysgu a gynigiwn. Mae'n bosibl rhoi cynnig ar lawer o wahanol bynciau yn dibynnu ar eich diddordebau unigol. Mae hyn yn eich helpu i ddarganfod beth rydych chi'n ei fwynhau, beth ydych chi'n dda yn ei wneud a'ch helpu gyda'ch dewisiadau yn y dyfodol. Gallwch weithio ar eich lefel a chyflymder eich hun, ond mae cymorth ychwanegol ar gael fel rhan o'r cwrs a, thrwy gymorth dysgu a thiwtorialau, rydym yn gallu darparu ar gyfer ystod eang o anghenion. Mae'r staff yn athrawon cymwysedig, profiadol sydd â sgiliau arbenigol i gyflwyno'r cyrsiau a gynigir mewn amgylchedd cefnogol a gofalgar.

Rydym yn cynnal digwyddiadau cyflogadwyedd a dilyniant gyda chyflogwyr ac asiantaethau cymorth.

Mae'r ysgol yn cynnal nifer o weithgareddau menter a gwirfoddoli ac yn annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gystadlaethau ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol gan gynnwys Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a thwrnameintiau chwaraeon yr ILS.

Mae ein myfyrwyr yn creu siopau dros dro a mentrau symudol ac rydym yn sicrhau bod myfyrwyr yn creu cysylltiadau â sefydliadau cyflogaeth â chymorth.

Mae myfyrwyr yn cynnal asesiad cychwynnol o anghenion addysgol a sgiliau bywyd yn ystod y broses bontio a sefydlu. Mae tiwtoriaid wedyn yn gweithio gyda myfyrwyr i nodi eu nodau tymor hir a thymor byr - ac wedyn cytunir ar dargedau a llwybrau addas ar gyfer dilyniant a fydd yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.

Mae ein cyrsiau'n cynnig cyflwyniad i'r Coleg i ddysgwyr a chyfleoedd i flasu gwahanol feysydd galwedigaethol megis adeiladwaith, garddwriaeth ac arlwyo a bydd dysgwyr wedyn yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus am lwybrau dilyniant yn y dyfodol.

Aeth dros 95% o fyfyrwyr ymlaen i gyrsiau astudiaethau sylfaen ar lefelau uwch, cyrsiau prif ffrwd yn y Coleg, cyflogaeth â chymorth neu wasanaethau gwirfoddol.

Cyrsiau

Cyrsiau Amser Llawn

Sgiliau Bywyd

Llwybrau 1 a 2

Sgiliau Gwaith Llwybrau 2

Blasu Galwedigaethol a Pharatoi Galwedigaethol Llwybrau 3

Gofynion Mynediad Lleoliad

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol

Bannau/ Y Drenewydd

Bannau/ Y Drenewydd

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ond rhaid dangos awydd i gymryd rhan ym mhob gweithgaredd dysgu yn y cyfweliad.

Bannau/ Y Drenewydd

Porth i Addysg Bellach

Nid oes angen gwybodaeth flaenorol ar gyfer y cyrsiau hyn. Bydd ymgeiswyr yn cael eu derbyn drwy gyfrwng proses ymgeisio a chyfweld y Coleg. Mae angen i ddysgwyr allu dangos eu bod yn gallu gweithio ar lefel Mynediad 3 o leiaf cyn y cwrs hwn. Rhaid bod gan ddysgwyr etheg gwaith cadarnhaol a diddordeb mewn datblygu sgiliau. Mae'r cyrsiau'n cynnwys crefftau ymarferol, celfyddydau perfformio, arlwyo, TG a chwaraeon.

Bannau/ Y Drenewydd

Porth i'r Gwaith Llwybrau 4

Rhaglen interniaeth amser llawn am flwyddyn yw'r cwrs hwn, sy'n cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol i ddod o hyd i gyflogaeth gyda phrofiad gwaith mewn lleoliadau interniaeth bywyd go iawn. Bydd dysgwyr yn mynychu tua dau ddiwrnod yn y gweithle ac un diwrnod yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer addysgu ffurfiol.

Porth Lefel 1 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Bannau/ Y Drenewydd

Graddau TGAU E/F neu gwblhau cymwysterau Mynediad 3 yn llwyddiannus. Y Drenewydd

This article is from: