5 minute read

Cyfrifiadura, DylunIO'r We a Gemau

Next Article
Cymraeg yn y CoLEg

Cymraeg yn y CoLEg

Gyda chyflogaeth yn y diwydiannau cyfrifiadura a digidol ar fin tyfu ar bum gwaith y cyfartaledd cenedlaethol dros y deng mlynedd nesaf, mae cyfrifiadura a thechnoleg ddigidol yn prysur mynd yn un o yrfaoedd mwyaf y DU o ran tâl, gan gyfrif am dros 1.58m o swyddi ledled y DU.

Y prif sectorau i weithio ynddynt yw datblygu meddalwedd ac apiau, rheoli data, seiberddiogelwch, dadansoddi data, caledwedd, dyfeisiau a chaledwedd ffynhonnell agored. Mae ein holl gyrsiau amser llawn wedi'u hanelu at fyfyrwyr sydd am ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol mewn cyfrifiadura a thechnoleg ddigidol. Byddwn yn eich helpu i gyrraedd eich nodau personol, gyrfa a chyflogaeth, p'un a ydych yn gadael yr ysgol, mewn gwaith, neu'n dymuno gwella eich sgiliau cyfrifiadura.

Mae myfyrwyr y gorffennol bellach yn gweithio fel: datblygwyr meddalwedd, datblygwyr CRM deinamig, dadansoddwyr data, technegwyr cymorth a gweithrediadau TG, datblygwyr gwe ac eFasnach, dadansoddwyr warws data, a dadansoddwyr systemau.

Mae gan ein darlithwyr ymroddedig brofiad o'r sector ynghyd â gwybodaeth benodol am y pwnc. Mae'r gwersi'n datblygu mewn ffyrdd creadigol gydag astudiaethau achos ac enghreifftiau o fywyd go iawn. Gall y myfyrwyr ymgymryd â phrofiad gwaith mewn diwydiant.

Mae'r adran yn defnyddio caledwedd a meddalwedd modern, megis Adobe Creative Suite, Visual Studio Community, Visual Studio Code, Java, Audacity a Game Maker, Unity, Maya, React Native, VM Ware, macOS, Windows, Linux, Oculus Quest 2. Darperir pob un o’r cyrsiau mewn labordai TG pwrpasol gydag ystafell arbenigol ar gyfer darparu adeiladu PC a datblygu rhwydweithiau.

Ar hyn o bryd, mae cyflawniad ar ein rhaglenni yn 99%, ac mae 100% o fyfyrwyr BSc yn cael gwaith mewn gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â chyfrifiadura o fewn tri mis i raddio.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn archwilio sut y caiff cyfrifiadura a thechnoleg ddigidol eu defnyddio yn y diwydiant drwy ddatblygu gwybodaeth, sgiliau technegol ac ymarferol sy'n benodol i'r sector, ynghyd â sut i gymhwyso'r sgiliau hyn mewn amgylchedd gwaith.

Rhagolygon gyrfa

Mae'r mwyafrif o'r myfyrwyr ar gyrsiau Cyfrifiadura a thechnoleg ddigidol yn mynd ymlaen i Addysg Uwch ac yng Mae gennym lwybr dilyniant delfrydol lle, ar ôl cwblhau'r Diploma Estynedig Lefel 3 neu raglen safon Uwch mewn disgyblaeth gysylltiedig yn llwyddiannus, gall myfyrwyr symud ymlaen i'r HND mewn Cyfrifiadura (2 flynedd) ac yna'r BSc (Anrh) mewn Cyfrifiadura Cymhwysol (blwyddyn 3).

I symud ymlaen i Addysg Uwch neu i gael cyflogaeth mewn amrywiaeth o fusnesau a sefydliadau â ffocws technoleg, mae llawer o fyfyrwyr yn astudio cyrsiau cyfrifiadurol. Mae rhai o'r sefydliadau sy'n cyflogi myfyrwyr a graddedigion o'r gorffennol yn cynnwys Fujitsu, CBSCNPT, The Good IT Company, BVG Group, Tech-Wales Ltd, Box UK, DVLA, CGI, Arvato CRM Solutions a Virgin Media.

Noder, os ydych yn ystyried addysgu fel gyrfa, mae angen TGAU ar radd B neu'n uwch mewn Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth. Ar gyfer cyrsiau Cyfrifiadureg mae rhai prifysgolion yn gofyn am o leiaf radd B mewn Mathemateg TGAU.

Rhagolygon Gyrfa Posib: Dylunio a Datblygu Meddalwedd/ Apiau, Fforensig Seiber, Dylunio a Datblygu Gemau, Dylunio/ Datblygu'r We, Dadansoddi Systemau, Datblygu / Gweinyddu Cronfeydd Data, Cymorth Technegol, Rhwydweithiau a Diogelwch.

Cyrsiau

Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd

Enillion blynyddol cyfartalog

Technegydd TG £30k

Dadansoddwr Busnes £49k

3 gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg neu Iaith Saesneg, neu Ddiploma Lefel 1 mewn pwnc perthnasol (Teilyngdod neu Ragoriaeth).

5 gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith. Ymgeiswyr trwy Dystysgrif neu Ddiploma Estynedig Lefel 2 mewn pwnc perthnasol (Teilyngdod neu Ragoriaeth).

Rhaglennydd Cyfrifiaduron 30k

Technegydd Cymorth

Cyfrifiaduron/Rhwydwaith £19k

Peiriannydd Meddalwedd £32k

Pensaer Systemau £50k

Gweithredydd Cyfrifiaduron £23k

Gweinyddwr Systemau, Cyfrifiaduron / Rhwydwaith £26k

Arbenigwr Cefnogaeth

Dechnegol £24k

Peiriannydd Diogelwch Rhwydwaith

£36k

Byddwch yn greadigol... gyda gyrfa ym maes

Ffrindiau'n dod ynghyd eto ac yn canmol cyrsiau TG

Yn ddiweddar, daeth dau ffrind a chyn-fyfyrwyr Coleg

Bannau Brycheiniog at ei gilydd yn eu hen ystafell ddosbarth a chanu clod i'w gyrsiau TG!

Fe astudiodd Jamie Smith (ar y chwith) a Luc Zimmer (ar y dde) Ddiploma Estynedig BTEC mewn TG rhwng 2017 a 2019 ac ers hynny maent wedi symud i brentisiaethau yn eu gyrfaoedd dewisol. Fe ddaeth y ddau ffrind yn ôl i'r coleg ar gyfer ymweliad â'u tiwtor, Helen Griffiths, ac roeddent am rannu eu straeon am yr hyn y dysgon nhw o'r cwrs.

Penderfynodd Jamie yn erbyn gwneud Safon Uwch ar ôl ei arholiadau TGAU a gorffennodd ddiploma Lefel 2 mewn TG mewn Coleg arall. Pan symudodd i'r ardal, roedd y BTEC Lefel 3 ar gael iddo barhau â'i ddysgu. Cyflawnodd deilyngdod cyffredinol a lle ar brentisiaeth gyda chwmni e-fasnach. Erbyn hyn mae'n gweithio fel Arweinydd Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid i'r un cwmni yr oedd ganddo'r brentisiaeth gyda nhw.

Roedd Jamie am bwysleisio "nad yw astudio TG yn golygu bod yn rhaid i chi fynd i yrfa TG. Mae dysgu sgiliau yn Microsoft Office Excel, er enghraifft, yn golygu y gallaf fwrw ymlaen â'm gwaith yn llawer cyflymach.”

Dywedodd Jamie hefyd: "Un o'r pethau gorau am y cwrs yw eich bod chi'n dysgu gwahanol agweddau ar gyfrifiadura. Cawsom wersi ar ddylunio'r we, gemau a seiberddiogelwch. Dwi wedi helpu gyda dylunio'r we yn y gwaith ers hynny.”

“Dwi'n cofio mwynhau lot o'r gwaith, fel fi a Luc yn gwneud cyflwyniad ar seiberddiogelwch a Fortnite, a mynd ar deithiau i brifysgolion i fynd i weithdai. Roedd ein dosbarthiadau hefyd yn fach, oedd yn golygu bod gennym fwy o amser gyda'r tiwtor ac yn gallu canolbwyntio'n hawdd.”

Yn y cyfamser, darganfu Luc y Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 drwy Gyrfa Cymru. Roedd e eisiau symud ymlaen i rywbeth gwahanol i'w waith mewn lletygarwch ac wedi cofrestru ar ôl cyfweliad llwyddiannus Ers llwyddo yn y BTEC, mae Luc wedi symud ymlaen i brentisiaeth Cymorth Technegol yng Nghaerdydd.

Ar ei ymweliad, dywedodd: "Gallwn fod wedi setlo am yr opsiwn hawdd o aros yn fy swydd lletygarwch, ond penderfynais wthio fy hun a gwneud rhywbeth gwahanol. Erbyn hyn rwy'n defnyddio rhywbeth ddysgais i ar y cwrs bob dydd yn fy mhrentisiaeth.”

Ychwanegodd Luc ei fod "wedi dysgu llawer ar wahân i sgiliau technegol. Byddai ein tiwtoriaid bob amser eisiau i waith gael ei wneud ar amser, a roddodd brofiad i ni o weithio i derfynau amser; rhywbeth y byddwn i'n ei chael hi'n anodd hebddo yn fy mhrentisiaeth gan i ni orfod gweithio i Gytundebau Dysgu Gwasanaethau.”

O ran â'r hyn y mae'n fwyaf balch ohono, atebodd y tiwtor Helen Griffiths: “Gweld sut mae fy myfyrwyr wedi cymryd ein harweiniad a chreu gyrfa. Mae pob myfyriwr sydd wedi dychwelyd i ymweld yn mynegi mai 'cwrdd â therfynau amser' oedd un o'r sgiliau pwysicaf a ddysgon nhw yn ogystal â'r TG.”

Llwyddiant Myfyrwyr q Dylunio Gwe Aur: Juned Miah q Dylunio Gwe Arian: Oliver Smith q Codio Efydd: Rhys Watkins q Sgiliau TGCh Cynhwysol Arian: Holly Davies

Cymerodd saith o fyfyrwyr Cyfrifiadura a TG hynod o dalentog ran yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ddiweddar, gan ennill bron hanner y prif safleoedd yn y categorïau Seiberddiogelwch, Sgiliau Codio a Dylunio'r We.

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, sy'n cael ei chyflwyno gan y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth mewn Sgiliau yng Nghymru ar ran y Rhwydwaith Llysgenhadon Sgiliau, wedi'i chynllunio i godi proffil sgiliau yng Nghymru. Gan ganolbwyntio ar feysydd twf ac anghenion yr economi, mae'r gystadleuaeth yn hwb i sgiliau gweithlu'r dyfodol.

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru wedi'i halinio i WorldSkills, gyda nifer o gystadleuwyr yn mynd ymlaen i gystadlu yng nghystadlaethau WorldSkills y DU.

"Rwy'n hynod o falch o'r holl fyfyrwyr a fu'n cystadlu.

Mae'n gyflawniad arbennig sy'n dangos y dalent sydd yma yng Ngrwp Colegau NPTC ac mae hefyd yn tystio i'r arbenigedd a'r gefnogaeth a ddarperir gan ein staff addysgu." Eira Williams, Cyfarwyddwr Astudiaethau

This article is from: