
8 minute read
MYNEDIAD I'R DYNIAETHAU
Bwriad y Diploma Mynediad i Addysg Uwch – Dyniaethau yw paratoi myfyrwyr i astudio Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol mewn Addysg Uwch. Mae hyn wedi'i leoli yn yr Academi Chweched Dosbarth.

Mae'n darparu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen i Addysg Uwch neu i wella potensial cyflogaeth.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Cyflwynir yr addysgu a'r dysgu drwy broses o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau, trafodaethau, arddangosiadau, dysgu cyfunol a gwaith grŵp.
Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu gan ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau asesu gan gynnwys cyflwyniadau, traethodau a phrofion dosbarth. Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu drwy amrywiaeth o ddulliau asesu.

Rhagolygon gyrfa
Mae cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn caniatáu mynediad i ystod eang o raglenni gradd gan gynnwys q Y Gyfraith q Hanes q Saesneg q Seicoleg q Cwnsela q Troseddeg q Hyfforddiant Athrawon q Gwaith Cymdeithasol
Mynediad i'r Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol 3
Mae'r cwrs hwn yn darparu ar gyfer myfyrwyr 19 oed a throsodd sy'n gobeithio dychwelyd i addysg. Bydd angen gradd C ar fyfyrwyr mewn TGAU Saesneg a D mewn TGAU mathemateg neu gyfwerth. Fodd bynnag, bydd gofyn i'r rhai heb y graddau hyn sefyll asesiad sgiliau cychwynnol cyn cofrestru, ac yna cyfweliad.
Amaethyddiaeth a FfERmIO
Mae amaethyddiaeth yn fwy na ffermio yn unig; mae'n un o fusnesau mwyaf y byd. Mae dros 200 o feysydd gyrfa amrywiol ar gael mewn amaethyddiaeth ac ar hyn o bryd, mae galw uchel iawn ar draws y diwydiant am bobl ifanc hyfforddedig, addysgedig a llawn cymhelliant.
Mae tua 450,000 o bobl yn gweithio yn y diwydiant amaethyddol yn y DU y mae bron i 300,000 ohonynt mewn rolau rheoli neu bartneriaeth mewn menter ffermio. Yn ogystal â chynnig dewis gyrfa diddorol a boddhaus, mae astudio amaethyddiaeth hefyd yn agor y drysau i lawer o ddiwydiannau eraill, o ganlyniad i'r addysg, sgiliau, hyfforddiant a phrofiad eang y byddwch yn eu cael!
Mae Fferm Fronlas yng Ngholeg y Drenewydd yn gweithredu fferm defaid a chig eidion ucheldir 140 hectar sy'n caniatáu i fyfyrwyr gael profiad ymarferol cyfoes sy'n adlewyrchu diwydiant amaethyddiaeth y Canolbarth a'r mentrau bach a chanolig lle mae mwyafrif y myfyrwyr amaethyddol a pheirianneg amaethyddol yn dod o hyd i gyflogaeth.
Mae'r fferm yn gartref i amrywiaeth o ystafelloedd dosbarth pwrpasol yn ogystal â gweithdai, llety i wartheg a defaid a chyfleusterau trin o'r radd flaenaf.
Rydym yn cynnig cyfleoedd helaeth ar gyfer sgiliau ystâd a chyfleoedd cadwraeth ac arallgyfeirio hefyd. Mae gan y fferm tua 150 o wartheg cig eidion, yn cynnwys buches sugno a menter pesgi bustach llaeth, a 750 o ddefaid bridio yn magu tua 1200 o ŵyn.
Mae Bwyty Themâu, Coleg Y Drenewydd yn derbyn cig eidion a chig oen gan y fferm. Mae'r fferm hefyd yn cyflenwi Morrisons a Sainsbury's gyda chig eidion a chig oen yn ystod y flwyddyn.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae ein cyrsiau yn rhai ymarferol dros ben, ac yn gyfle hefyd i chi ennill profiad gwaith gwerthfawr o fewn fferm. Yn y Coleg byddwch yn astudio meysydd fel cynhyrchu da byw, cynhyrchu cnydau, cynnal a chadw ystadau a gwaith cynnal a chadw a gweithrediadau tractorau a pheiriannau.

Mae gan ein darlithwyr wybodaeth helaeth am y diwydiant ac yn cadw ar y blaen o ran y datblygiadau diweddaraf mewn systemau cynhyrchu a thechnolegau TG, gan gynnwys technoleg dronau a GPS.
Mae llawer o'n myfyrwyr yn symud ymlaen i Addysg Uwch, naill ai yn y Coleg ar y cwrs HND mewn Amaethyddiaeth neu mewn sefydliadau eraill i astudio gradd yn ymwneud ag amaethyddiaeth.

Rhagolygon gyrfa
Ar ôl cwblhau cwrs amaethyddiaeth, gall myfyrwyr ddewis o blith ystod eang o gyfleoedd ymarferol o fewn sector amaethyddiaeth y DU gan gynnwys rheolwr fferm, rheolwr da byw, maethegydd, agronomegydd, cynghorydd fferm, arolygydd ffermydd, ac arwerthwr.
12 Mehefin
Dydd Sul
Mae Elin wedi dangos lefel uchel o ymrwymiad i'w chwrs
HND Amaeth er gwaethaf yr holl heriau rydym wedi'u hwynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae ganddi ran fawr yn y gwaith o redeg ei fferm deuluol a hi yw ysgrifennydd ei grŵp CFfI lleol. Mae hi'n fyfyriwr astud sydd bob amser yn cyfranogi'n llawn ac yn cymryd rhan mewn cyd-drafodaethau dosbarth lle mae'n cyfrannu gyda dadleuon cadarn a rhesymedig. Mae gwaith caled Elin wedi cael ei wobrwyo â Rhagoriaeth. Roedd ei phrosiect ymchwil yn arbennig o ddiddorol gan iddo edrych ar rôl ffermydd ucheldir Cymru wrth fwydo'r genedl, maes pwnc y mae Elin yn teimlo'n angerddol iawn drosto.
Mae'r CFfI wedi agor sawl drws i Elin. Ar lefel sirol mae wedi dal swydd Cadeirydd y Fforwm Ieuenctid ac wedi'i dyfarnu'n aelod Iau y flwyddyn. Mae hi'n cystadlu yng nghystadlaethau trin gwlân CFfI ac wedi ennill cystadleuaeth trin gwlân CFfI yn y Sioe Frenhinol a'r wobr Nofis Pob Gwlad sy'n ei galluogi i gystadlu yn nhîm Cymru yn Sioe Frenhinol Balmoral Iwerddon. Mae hefyd wedi cystadlu yng nghystadlaethau beirniadu stoc, siarad yn gyhoeddus, ac ar Fferm Factor.
Cyrsiau
Mae Elin hefyd yn rhoi cryn dipyn o'i hamser i'r gymuned ac yn ddiweddar mae wedi ymgymryd â rôl ysgrifennydd noddi Cneifio Cyflym Rhyngwladol Cymru a gynhelir ochr yn ochr â'r Sioe Frenhinol fel digwyddiad codi arian. Mae hi wedi ennill Myfyriwr y Flwyddyn yn yr un sioe yn 2021.

Yn gynharach eleni dyfarnwyd y wobr dysgwr y flwyddyn Lantra uchel ei bri i bobl 20 oed ac yn iau i Elin mewn cydnabyddiaeth o' chyfraniad at sector tir Cymru. Yn ddiweddar cafodd wybod ei bod wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn y siwrnal cenedlaethol "Farmers' Weekly", sy'n gamp wych. Ar ben hynny enillodd wobr Myfyriwr y Flwyddyn Grŵp Colegau NPTC ar gyfer 2022.
Mae Elin yn bwriadu "ategu" ei chymhwyster HND gyda gradd ym Mhrifysgol Harper Adams yn yr hydref ac yna mae'n bwriadu teithio ar draws y byd i gael profiadau newydd drwy weithio mewn gwahanol wledydd, yn enwedig Awstralia a Seland Newydd. Ei huchelgais hirdymor yw dychwelyd adref a gweithio ochr yn ochr â'i thad ar y fferm cig eidion a defaid teuluol.
Mae hi wedi bod, a bydd hi'n parhau i fod, yn llysgennad gwych i Grŵp Colegau NPTC ac Amaeth yn gyffredinol.
Enillion blynyddol cyfartalog
Cyflog Gweithiwr Fferm £27k

Rheolwr Fferm £34K
*Seilir hyn ar ddata cenedlaethol
“Dwi wrthi'n cwblhau'r Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth ac wedi cael profiad mor wych yn gweithio ar y fferm yma. Roeddwn i'n ail yng Ngwobrau Lantra Cymru a rhan yn ymgeisio i fynd i'r Brifysgol”
Emma Morgan-Page
Yng Ngrŵp Colegau NPTC, byddwn yn eich helpu, eich cefnogi a'ch arwain ar eich ffordd i fod yn rhan o'r sector deinamig hwn sy'n symud yn gyflym iawn. Amcangyfrifwyd bod gan y DU 2.29m o swyddi yn y diwydiannau creadigol yn ystod y flwyddyn hyd at fis Medi 2021, gan gynnwys 1.62m o swyddi parhaol, yn ôl ystadegau swyddogol.
Roedd 663,000 arall o swyddi'r diwydiant creadigol yn hunangyflogedig. Yn gyffredinol, nid yw cyflogaeth yn y diwydiannau creadigol wedi dioddef yn ystod y pandemig cymaint ag yr oedd wedi'i ofni ar y cychwyn. Roedd y diwydiannau creadigol yn gyfrifol am 6.9 y cant o holl swyddi'r DU ym mis Medi. Mae hyn i fyny o 5.8 y cant yn 2015, ac ers hynny mae'r diwydiannau creadigol wedi ychwanegu tua 400,000 o swyddi newydd yn y DU.
Pan ychwanegir swyddi creadigol sydd y tu allan i'r diwydiannau creadigol hefyd - i gyfrifo cyfanswm swyddi yr hyn a elwir yn economi greadigol y DU - mae'r cyfanswm wedi cyrraedd 3.12 miliwn sy'n golygu bod 1 o bob 11 swydd yn rhan o'r diwydiant hwn.
Mae ein darlithwyr yn artistiaid gweithredol felly byddwch yn dysgu gan y rhai sy'n dal i chwarae rhan hanfodol yn y sector creadigol. Yng Ngrŵp Colegau NPTC, byddwn yn rhoi cyfle i chi archwilio eich talent greadigol bersonol yng nghyd-destun maes diwylliannol ehangach ac i'w llywio, ei newid, a gwneud gwahaniaeth.


Rydym yn ganolfan greadigol ar gyfer dysgu lle mae'r myfyrwyr yn symud ymlaen, ein nod yw eich helpu i fod yn barod am eich gyrfa!
Beth fyddaf yn ei wneud?
Dysgir gwersi mewn amgylchedd creadigol, gan ddefnyddio'r cyfarpar diweddaraf at safon y diwydiant o fewn cyfleusterau arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol.
Darperir nifer o gyfleoedd ar gyfer myfyrwyr Celf a Dylunio, Ffotograffiaeth ac Amlgyfrwng i arddangos gwaith o fewn y Coleg ac mewn digwyddiadau cyhoeddus allanol. Mae myfyrwyr y Cyfryngau
Creadigol yn gweithio ar brosiectau 'byw', gan gysylltu â chleientiaid a sgrinio eu darn olaf o waith

Rhagolygon gyrfa q Penseiri q Treftadaeth y celfyddydau q Crefftwyr q Dylunydd q Cyfarwyddwr q Cynhyrchydd ffilm q Artistiaid cain q Dylunwyr graffig q Ffotograffydd q Gwneuthurwr print q Dylunwyr cynnyrch q Dylunio propiau a setiau q Dylunio gofodol, mewnol a thirlunio q Artist tatŵ q Addysgu ac addysg q Fideograffydd q Dylunydd gwe.

Celf, DylunIO a'r Cyfryngau Creadigol Byddwch yn greadigol... gyda gyrfa mewn celf, dylunIO a'r cyfryngau
Myfyriwr Celfyddydau Creadigol a Pherfformio y Flwyddyn 2022 - Minka Spears


Derbyniodd Minka Ragoriaeth yn ei Diploma Estynedig
UAL Lefel 3, mae'n fyfyriwr rhagorol ac yn artist talentog iawn. Roedd hi'n arbenigo mewn portreadau cyfoes ac wedi cynhyrchu nifer fawr o ddarnau gwych ar raddfa fawr a bach.

Er bod ganddi ddiddordeb mewn dogfennu pobl, eu cyrff a'u hosgo drwy gelf, mae hi hefyd wedi cynhyrchu nifer o luniau o anifeiliaid mewn paentiau olew ac inc hefyd. Mae Minka hefyd yn ddawnus mewn technegau eraill gan gynnwys sialciau pastel. Mae hi'n adeiladu ei gwaith o frasluniau i baentiadau ar raddfa fwy.
Aeth Minka yn ei blaen i'r Cwrs Sylfaen Celf yng Ngholeg Y Drenewydd cyn mynd i'r Brifysgol lle, dros y flwyddyn ddiwethaf, mae hi wedi dylunio a phaentio murlun ar gyfer canol tref Y Drenewydd sy'n dathlu treftadaeth Laura Ashley, fel rhan o'r Clwb Celf allgyrsiol.
Creodd baentiad yn ffocysu ar bwysau newid yn yr hinsawdd ar iechyd meddwl pobl ifanc, fel rhan o arddangosfa'r Prosiect Un Genhedlaeth yn Oriel Davies. O ganlyniad i hyn gwnaeth hi wirfoddoli yn yr Oriel lle bu'n gweithio gyda'u Cynhyrchydd Creadigol i guradu Arddangosfa 'Proses 22' Diwedd Blwyddyn ein Hadran Celf a Dylunio.
Modelodd ei dyluniadau ei hun hefyd yn 'Sioe Ffasiwn Gwnaed yng Nghymru' yn adeilad Pryce Jones, mewn cydweithrediad â Fashion Enter, a oedd yn hynod lwyddiannus, gan amlygu hanes a phwysigrwydd Ffasiwn a Thecstilau yng Nghanolbarth Cymru.
Ar ben hynny fe gyflawnodd hi radd Rhagoriaeth ar gyfer ei phortffolio o waith ar y Diploma Sylfaen, gan gynhyrchu paentiadau eithriadol o ddyfeisgar, aeddfed a medrus.
Meddai Minka ‘Byddwn i’n argymell y cyrsiau celf a Dylunio yng Ngholeg Y Drenewydd yn fawr i unrhyw un sydd am ehangu eu hyder a’u sgiliau, a dysgu mwy am y diwydiannau creadigol. Roedd yr holl diwtoriaid yn gyfeillgar ac yn barod i helpu, ac yn gyffredinol roedd y coleg yn wych.’
Trawsnewid Ffenestri Siop
Roedd ffenestr y siop hon wedi gweld dyddiau gwell.
Rhoddwyd postiad ar Facebook yn galw ar rywun lleol i drawsnewid y gofod. Ymgymerodd Adran Celf a Dylunio Y Drenewydd â'r her! Cafodd hyn ei ddylunio, ei guradu a'i weithredu gan y myfyrwyr yn ystod y Clwb Celf amser cinio.

Cyrsiau
Cyrsiau sy'n Canolbwyntio ar Yrfa
Mae'r paentiad wedi'i ysbrydoli gan y chwedlonol Laura Ashley sydd wedi gadael marc enfawr ar yr ardal leol.
Gobeithiwn y bydd pobl leol Y Drenewydd a'r cyffiniau'n mwynhau'r paentiad bywiog hwn a oedd yn ymdrech tîm enfawr, sef saith wythnos i'w greu. Byddwn yn gweld eisiau paentio hyn ar amseroedd cinio nawr!
3/4
1 Safon Uwch ar radd C neu Ddiploma Estynedig. Bydd myfyrwyr aeddfed (21 + oed) yn cael eu hystyried ar sail portffolio.

Os ydych chi o dan 21 oed, mae'n rhaid bod gennych un o'r canlynol: 5 gradd TGAU lwyddiannus ar radd A * - C, (neu gyfwerth) ynghyd â Diploma Estynedig (gysylltiedig â'r Cyfryngau Creadigol) neu ddau bwnc UG NEU un Safon Uwch lawn a rhaid i chi fod dros 17 oed. Mae angen i bob myfyriwr gyflwyno portffolio o waith ymarferol yn y cyfweliad.
Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr aeddfed.Os ydych dros 21 oed ac â nifer cyfyngedig o gymwysterau ond mae gennych ddiddordeb yn Niwydiant y Cyfryngau Creadigol, cysylltwch â ni i siarad am sut y gallwn ni helpu chi.
“Fe wnaeth fy mlwyddyn yn y Coleg roi profiad unigryw i mi a chwrs hamddenol gyda thiwtoriaid eithriadol a arhosodd mewn cyswllt ac yn ysgogol er gwaethaf cyfnod clo Covid. Rydw i’n hapus iawn ac yn ddiolchgar am eleni.” Tobias Williams, Myfyriwr DCD.
Cyfarwyddwr Creadigol
“Mae'r tiwtoriaid yn darparu cefnogaeth ac arweiniad ar gyfer y dyfodol ac mae'r cyrsiau'n cynnig ystod eang o gyfleusterau i'w harchwilio ac rydych chi'n dysgu gwybodaeth ddefnyddiol.”
Kate Poole, myfyriwr Lefel 3 yn yr ail flwyddyn.
Llawrydd
£500 i £700+ y dydd
Llawrydd
£200 i £400 y dydd
Cyflogedig
£100k i £160k+
Cyflogedig
£35 i £55k