
1 minute read
Croeso i Bartneriaeth Academi'r
6ed Dosbarth Y Drenewydd
Croeso i'r gorau o ddau fyd!
Mae Partneriaeth Academi'r 6ed Dosbarth Y Drenewydd yn bartneriaeth gyffrous, arloesol rhwng Coleg Y Drenewydd ac Ysgol Uwchradd Y Drenewydd.
Drwy weithio mewn partneriaeth rydym yn gallu cynnig y profiadau dysgu ac addysgu gorau posibl i fyfyrwyr ar draws amrywiaeth eang o gyrsiau; gan gynnig y rhyddid iddynt ddilyn y llwybr o'u dewis ac ymgymryd â'u harddull dysgu personol.
Bydd ein partneriaeth yn cynnig cwricwlwm cyffrous, eang ac amrywiol y gellir ei deilwra i anghenion pob myfyriwr. Yn ogystal, bydd cyfle i gysylltu â gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn y Coleg a'r staff ymroddedig a phrofiadol yn yr Ysgol a'r Coleg.
Partneriaeth Academi’r 6ed Dosbarth Y Drenewydd
Newtown 6th Form Academy Partnership
Bydd ymuno â Phartneriaeth Academi'r 6ed Dosbarth Y Drenewydd yn cynnig y cymysgedd perffaith o annibyniaeth a chefnogaeth wrth symud i'r Brifysgol, ymlaen i brentisiaeth neu ddechrau ym myd gwaith.
Rydym yn cynnig darpariaeth lawn ac amrywiol o bynciau UG, Safon Uwch a BTEC yn Academi'r 6ed Dosbarth ar draws Coleg Y Drenewydd ac Ysgol Uwchradd Y Drenewydd, ac rydym yn argymell y dylai pob disgybl astudio ystod o dri phwnc o leiaf, yn ogystal â Chymhwyster Bagloriaeth Cymru (CBC).
Mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosibl astudio pum pwnc, ar yr amod bod Pennaeth Academi'r 6ed Dosbarth wedi cytuno ar hyn.
Mae pynciau yn cynnwys: q Celf a Dylunio q Bioleg q Busnes a'r Gyfraith q Cemeg q Drama a Theatr q Saesneg Iaith q Daearyddiaeth q Cyfathrebu Graffeg q Iechyd a Gofal Cymdeithasol q Hanes
I ymgeisio
Gwneir ceisiadau ar-lein yn: www.powys6.cymru
Claire Scotti: q Technoleg Ddigidol q Y Gyfraith [E-sgol] q Mathemateg q Cerddoriaeth q Ffotograffiaeth q Ffiseg q Seicoleg q Addysg Gorfforol q Cymdeithaseg [E-sgol]
Rheolwr Partneriaeth Cyswllt Ysgolion 14-19 e-bost: claire.scotti@nptcgroup.ac.uk