5 minute read

BAGLORIAETH SGILIAU CYMRU UWCH?

Next Article
Cymraeg yn y CoLEg

Cymraeg yn y CoLEg

Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch (BSCU) yn gymhwyster Lefel 3 newydd cyffrous sy'n cefnogi myfyrwyr i fod yn ddinasyddion effeithiol, cyfrifol a gweithgar, gan gyfarparu nhw â'r sgiliau ar gyfer astudio yn y dyfodol neu gyrchu'r farchnad swyddi.

Dyluniwyd y cymhwyster yn bennaf ar gyfer Myfyrwyr 16-19 oed, a gellir ei wneud ochr yn ochr â cymwysterau Lefel 3 eraill, gan gynnwys Safon Uwch.

BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO?

Mae ein cwrs dwy flynedd yn cynnwys tri phrosiect: Prosiect Cymunedol Byd-eang, Prosiect Cyrchfan y Dyfodol, a Phrosiect Unigol. Byddwch yn datblygu ac yn cymhwyso'r pedwar sgìl Integredig ac yn cael cyfleoedd i ddatblygu'r tri sgìl sydd wedi'u hymwreiddio.

Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a chyd-destunau cyffrous a fydd yn seiliedig ar agenda datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig a Nodau Llesiant Cymru fel y'i diffinnir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

PA SGILIAU FYDDAF YN EU DATBLYGU?

Byddwch yn datblygu amrywiaeth o sgiliau sy'n ddeniadol i gyflogwyr, colegau a phrifysgolion gan gynnwys:

Sgiliau integredig

M Cynllunio a Threfnu

M Meddwl yn Feirniadol

M Datrys Problemau

M Creadigrwydd ac Arloesi

Sgiliau wedi'u hymwreiddio

M Llythrennedd

M Rhifedd

M Cymhwysedd Digidol

SUT FYDDAF YN CAEL FY ASESU?

Prosiect Cymunedol Byd-eang (25%)

Byddwch yn dewis mater byd-eang i ymchwilio iddo, yn rhannu eich gwybodaeth ag eraill ac yn cymryd rhan mewn gweithredu cymunedol.

Prosiect Cyrchfan y Dyfodol (25%)

Byddwch yn magu dealltwriaeth o chi'ch hun, yn ymchwilio i nodau cyflogaeth a lles y dyfodol ac yn cynllunio sut y gallwch chi gyflawni hyn.

Prosiect Unigol (50%)

Byddwch yn cynllunio, rheoli, ac yn ymchwilio i bwnc sy'n gysylltiedig â'ch dyheadau addysg neu yrfa yn y dyfodol, ac yn creu traethawd hir ysgrifenedig neu arteffact.

Gellir gwneud yr asesiadau drwy gydol y cwrs dwy flynedd a bydd cymedroli allanol yn digwydd ym mis Ionawr a mis Mai. Mae'n debygol y byddwch chi'n cwblhau'r Prosiect Unigol yn yr ail flwyddyn.

GYRFAOEDD GYDA BSCU

Mae'r cymhwyster hwn yn caniatáu i chi ddatblygu sgiliau pwysig y gallwch chi symud ymlaen â nhw waeth p'un a ydych yn mynd i'r brifysgol, hyfforddiant neu gyflogaeth. Bydd datblygu'r sgiliau hyn yn eich helpu i fod yn ddinesydd effeithiol, cyfrifol ac egnïol a gall gael effaith ddofn ar eich llwyddiant a'ch lles yn y dyfodol.

"Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn datblygu sgiliau datrys problemau gwerthfawr, drwy ddarparu problemau y gellir uniaethu â nhw sy'n galluogi dysgwyr i weithio'n gynhyrchiol tuag at atebion arfaethedig. Mae'n galluogi dysgwyr i ddadansoddi gwybodaeth, ystyried sawl ymagwedd at ymdrin phroblem, ac wrth weithio ar y cyd, argymell atebion creadigol."

Rebecca Davies Prif Weithredwr Engineering Education Scheme Wales Ltd

Career Coach - cyngor gyrfaol wedi’i

Deilwra Gan Ddefnyddio Gwybodaeth Leol Am Y Farchnad Swyddi

Pan fydd gan fyfyrwyr weledigaeth glir o'r dyfodol, maen nhw'n fwy tebygol o ragori yn eu hastudiaethau a mynd ymlaen i greu gyrfaoedd llwyddiannus. Mae Career Coach yn offeryn ar-lein am ddim sydd ar gael gan Grŵp Colegau NPTC a all helpu i lunio'r weledigaeth honno.

Gan ddefnyddio data cynhwysfawr am y farchnad swyddi, gall Career Coach eich helpu i ddod o hyd i'ch swydd berffaith a'r cyrsiau a fydd yn eich helpu i gyrraedd yno!

Mae asesiad ar-lein manwl Career Coach yn awgrymu gyrfaoedd sy'n seiliedig ar eich diddordebau a'ch sgiliau. Gyda gwybodaeth fanwl am y farchnad lafur, enillion disgwyliedig a nifer y swyddi yn yr ardal, mae Career Coach yn tynnu sylw at y cyrsiau gorau i'ch helpu i symud ymlaen i'r yrfa o'ch dewis.

Mae Career Coach hefyd yn cysylltu â menter Barod am Yrfa y Coleg sydd wedi'i chynllunio'n benodol er mwyn eich paratoi ar gyfer y byd gwaith. Mae Barod am Yrfa yn cynnig gweithdai ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau ac ymarfer, lleoliadau profiad gwaith a chymorth gyda phob agwedd ar y broses ymgeisio.

Sganiwch yma i ddechrau defnyddio

Career Coach neu ewch i’n gwefan www.nptcgroup.ac.uk

RHYWBETH GWERTH CHWEIL YW Dysgu

Os nad yw astudio'n amser llawn yn mynd â'ch bryd, yna efallai mai dysgu seiliedig ar waith yw'r union beth i chi. Mae rhaglenni at ddant pawb! Mae dysgu seiliedig ar waith yn rhoi'r cyfle i chi ennill profiad mewn swydd go iawn, yn ogystal â chyflawni cymwysterau swyddbenodol ac ennill arian ar yr un pryd. Mae'r cyfleoedd yn amrywio yn dibynnu ar y rhaglen.

Dyma'r llwybrau: q Cyfrifeg q Amaethyddiaeth q Mecaneg Amaethyddol q Gofal q Gweinyddu Busnes q Gofal Plant a Gwaith q Adeiladwaith Chwarae q Gwasanaeth Cwsmeriaid q Peirianneg q Lletygarwch ac Arlwyo q Cerbydau Modur q Manwerthu q Arwain Tîm q Atgyweirio Cyrff Cerbydau q Rheolaeth.

Twf Swyddi Cymru+

Os ydych rhwng 16 a 18 oed, mae Twf Swyddi Cymru+ yn cynnig rhaglenni dysgu i'ch cefnogi i feithrin sgiliau cysylltiedig â gwaith a nodi dewisiadau gyrfa. Mae hon yn rhaglen hyblyg iawn sydd wedi'i dylunio o'ch cwmpas chi i ddatblygu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau cydnabyddedig i roi hwb i'ch opsiynau gyrfa nes i chi fentro ar eich taith brentisiaeth, coleg neu waith. I wneud cais, rhaid i chi fod:

M Rhwng 16 a 18 oed; ac yn

M Byw yng Nghymru; a

M Heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant amser llawn

Beth fydd yn ei gynnig i mi?

M Derbyn cymorth hyfforddiant parhaus gan gontractwr dynodedig

M Tystiolaeth i'w datgan ar geisiadau gysylltiedig â gyrfa a'ch CV

M Profiadau hyfforddi a gwaith am ddim

M Magu eich hyder wrth i chi dyfu eich sgiliau a phrofiad

M Cael troed yn y drws a mynediad i swyddi gyda chyflogwyr lleol.

Pa gymorth sydd ar gael trwy Twf Swyddi Cymru+?

Mae tri edefyn o gymorth gan Twf Swyddi Cymru+:

M Twf Swyddi Cymru Plws Ymgysylltu

M Twf Swyddi Cymru Plws Datblygu

M Twf Swyddi Cymru Plws Cyflogaeth.

Pam dod yn Brentis?

q Ennill wrth i chi ddysgu - cael cyflog q Ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a wynebu heriau newydd q Ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol q Cyfleoedd dilyniant ardderchog. q Mae tri math o brentisiaethau y gallwch wneud cais amdanynt, yn dibynnu ar sgiliau a chymwysterau cyfredol: q Prentisiaeth Sylfaen - Lefel 2 q Prentisiaeth - Lefel 3 q Prentisiaeth Uwch - Lefel 4+.

Pa fathau o brentisiaethau sydd ar gael?

Prentisiaethau

Byddwch yn mynychu lleoliad gyda chyflogwr ac o bosibl yn mynd i'r Coleg am un diwrnod yr wythnos. Byddwch yn cael eich asesu yn y gweithle a chewch eich helpu i gasglu tystiolaeth ar gyfer eich portffolio.

Mae prentisiaeth yn rhaglen seiliedig ar waith lle y gallwch ennill cyflog wrth ddysgu. Os ydych yn byw yng Nghymru a’ch bod yn 16 oed neu’n hŷn a heb fod mewn addysg amser llawn, gallwch wneud cais am Brentisiaeth.

Prentisiaethau Gradd

Yn ddiweddar dyfarnwyd cyllid i Grŵp Colegau

NPTC a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW) wedi derbyn cyllid yn ddiweddar o dan y Rhaglen

Beilot Prentisiaeth Gradd newydd i Gymru. Gan adlewyrchu anghenion sgiliau Cymru, gofynnwyd i brifysgolion a sefydliadau dyfarnu graddau eraill ddylunio cyfres newydd o raglenni digidol i alluogi sefydliadau yng Nghymru i wella sgiliau eu gweithwyr presennol neu recriwtio talent newydd mewn meysydd megis peirianneg meddalwedd, seiberddiogelwch a gwyddor data ar gyfer y

Fframwaith Prentisiaethau Gradd Digidol newydd.

A Oes Gennych Ddiddordeb?

Cysylltwch â'r tîm drwy e-bostio ni: pathwaystraining@nptcgroup.ac.uk

Neu ffoniwch ni ar: 0330 818 8002

This article is from: