1 minute read

Gwneud cai am Cwrs

Next Article
Cymraeg yn y CoLEg

Cymraeg yn y CoLEg

1 Gwneud cai AR-LEIN yn: www.nptcgroup.ac.uk

Ewch i'r bar chwilio a theipio un o'r pynciau yr ydych am wneud cais amdano e.e. Gwaith brics, Dawns, Chwaraeon neu Drin Gwallt. Cliciwch ar y botwm 'Dod o hyd i gwrs a gwneud cais' gwyn ar yr ochr dde i ddechrau eich cais.

Os mai hwn yw'r tro cyntaf i chi wneud cais i’r Coleg, bydd angen i chi greu cyfrif Prospect felly gwnewch yn siŵr fod cyfeiriad e-bost gennych yn barod.

Eich enw defnyddiwr fydd rhan gyntaf eich cyfeiriad eich cyfeiriad bost (y rhan cyn y @).

Rhaid i’r Cyfrinair gynnwys o leiaf naw nod ac o leiaf un briflythyren, un llythyren fechan ac un rhif.

Unwaith eich bod wedi llenwi’r ffurflen ac wedi clicio cofrestru, bydd ffenestr naid yn ymddangos gyda’ch enw defnyddiwr arniond byddwch hefyd yn derbyn cadarnhad trwy e-bost. Unwaith y byddwch wedi clicio ar gofrestru gallwch barhau â’ch cais. Mae gofyn i chi lenwi bob cam un ar ôl y llall. Os ar unrhyw adeg mae angen unrhyw help arnoch mae staff y Coleg bob amser wrth law i helpu dros y ffôn, trwy e-bost neu’r cyfryngau cymdeithasol!

E-bost: admissions@nptcgroup.ac.uk

Gallwch stopio ar unrhyw bryd a bydd y cais yn cael ei gadw. I fewngofnodi unwaith eto ewch i hafan y Coleg. Lleolir y botwm FY NGHAIS ar ben y dudalen.

2 Trefnu eich cyfweliad

Rydyn ni'n cynllunio ein cyfweliadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf ar hyn o bryd, gweler y wefan am yr wybodaeth ddiweddaraf. Mae cyfweliad yn gyfle i chi a’ch rhieni/gwarcheidwaid ddod i siarad â ni, dysgu am y Coleg a chael rhagor o wybodaeth am y pynciau neu’r cyrsiau yr ydych wedi dewis eu hastudio. Does dim angen poeni am eich cyfweliad, mae'n gyfle esmwyth ac anffurfiol i chi ofyn cwestiynau a gwneud yn siŵr bod y cwrs yn iawn i chi.

3 Cynnig Amodol

Wedi i chi drafod ein gofynion mynediad yn eich cyfweliad, a dewis y cwrs yr ydych am ei astudio byddwn yn rhoi eich cynnig amodol ar Prospect, y gallwch ei dderbyn ar unwaith.

4 Dod o hyd i’ch cai

Os oes angen i chi ail-fewngofnodi i’ch cyfrif rywbryd - fe welwch y

This article is from: