
2 minute read
CyfLEuSTERau Arobryn
Y Drenewydd: Fferm unigryw sy'n eiddo i'r Coleg.

Y Drenewydd: Theatr a Mannau Cynadledda o'r Radd Flaenaf

Y Drenewydd: Cyfleusterau peirianneg o safon y diwydiant.

Bannau Brycheiniog: Cyfarpar Chwaraeon.
Y CWTCH
Y CWTCH – Hyb y Coleg o Fewn y Gymuned

Mae ychwanegiad diweddaraf Coleg Bannau Brycheiniog, Hyb Y Coleg o fewn y Gymuned – 'Y CWTCH' – wedi agor ei ddrysau yn swyddogol.

Bydd y ganolfan groeso gynt yn creu gweledigaeth ar gyfer addysg bellach yn Aberhonddu a bydd yn rhan o'r gymuned gyda mynediad agored i bawb.
Dadorchuddiwyd plac gan Aelod Senedd blaenorol Brycheiniog a Maesyfed a'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams i nodi'r achlysur.
Dywedodd Ms Williams: "Mae'r adeilad hwn wedi cael diben newydd a bydd yn ehangu gweithgarwch y coleg drwy fod mor hygyrch a chanolog. Bydd yn ganolbwynt ac yn dod â phobl ynghyd. Rwy'n gweld yr adeilad hwn a'r hyn sy'n digwydd yn ysbrydoledig.”

Mae'r CWTCH wedi cael ei adnewyddu ac mae'n cynnwys ardaloedd gweithio hyblyg, cyfleusterau cynadledda fideo, sgriniau cyffwrdd rhyngweithiol a mynediad i ryngrwyd 1GB hynod gyflym, ynghyd â chyfleusterau cyfrifiadura o'r radd flaenaf at ddefnydd myfyrwyr a'r cyhoedd. Hefyd ar gael fydd cyngor ar chwilio am swyddi, sefydlu eich busnes eich hun, technegau cyfweld ac ysgrifennu CV.
Mae cynlluniau pellach i adleoli Coleg Bannau Brycheiniog yn nhref Aberhonddu. Mae trafodaethau'n mynd rhagddo ar hyn o bryd ynghylch caffael dau adeilad yn y dref. Byddwn yn gallu rhoi mynediad uniongyrchol i'n myfyrwyr i'r dref ac i'r cyfleusterau a ddarperir gan fusnesau lleol ar sail bob dydd.
Coleg Bannau Brycheiniog yn symud i'r dref


Mae darpariaeth addysg bellach yn Aberhonddu yn cael ei thrawsnewid gyda bwriad Grŵp Colegau NPTC i adleoli i ganol y dref.
Trosglwyddwyd Watton Mount yn Aberhonddu a'r hen lyfrgell ar Stryd y Llong gan Gyngor Sir Powyswrth gael eu prynu i Grŵp Colegau NPTC. Bydd hyn yn galluogi Grŵp Colegau NPTC i adleoli Coleg Bannau Brycheiniog i ganol y dref ar gyfer campws ag 'ymdeimlad o brifysgol', gan arwain at addysg â cyfoeth o adnoddau sy'n addas i'r 21ain ganrif.
Daw'r symud yn sgil cytundeb cynharach rhwng y cyngor a Grŵp Colegau NPTC a welodd y cyn Ganolfan Croeso maes parcio'r farchnad wartheg yn cael ei had-drefnu'n fewnol a'i hail-frandio gan Grŵp Colegau NPTC fel "Y Cwtch”.
O dan brydles 25 mlynedd, mae'r lleoliad wedi mynd yn ganolfan galw heibio ac yn darparu sawl cyfle dysgu i drigolion.
Bydd yr adeiladau'n cael eu hadnewyddu gan y Coleg i fod yn gartref i dechnolegau rhyngweithiol a gofodau tra chyfoes ar gyfer sawl maes astudio. Mae'r ddau sefydliad hefyd yn gweithio mewn partneriaeth yn y dref yn atyniad blaenllaw Aberhonddu, Y Gaer, a fydd yn arwain at lyfrgell newydd i'r Coleg, rhai mannau dysgu a rennir a chaffi, a bydd oriau agor y llyfrgell gymunedol yn cael eu hymestyn i saith diwrnod yr wythnos.

Meddai Nigel Brinn, Cyfarwyddwr Gweithredol Economi a'r Amgylchedd Cyngor Sir Powys: “Bydd trosglwyddo'r adeiladau nodedig hyn yng nghanol y dref yn dod â manteision adfywio sylweddol i Aberhonddu, gan roi hwb i fasnach siopau a busnesau a chan ddod â chwa o awyr iach i ganol y dref.
“Bydd y cyngor yn cydweithio'n agos â Grwp Colegau NPTC wrth iddynt gyflwyno eu cynlluniau datblygu ar gyfer Coleg Bannau Brycheiniog.”
Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC ei fod wrth ei fodd â'r cynnydd sy'n cael ei wneud. “Mae'r prosiect hwn wedi bod ar y gweill ers tro, ac rydym yn falch iawn ei fod bellach yn symud i'r cyfeiriad cywir wrth i gontractau ar gyfer Watton Mount a Llyfrgell Stryd y Llong gael eu cyfnewid.”