5 minute read

PAM Dewis Grŵp Colegau NPTC?

Next Article
Cymraeg yn y CoLEg

Cymraeg yn y CoLEg

Llongyfarchodd Grŵp Colegau NPTC ein holl fyfyrwyr a dderbyniodd eu canlyniadau eleni. Dosbarth 2022 yw'r cyntaf i sefyll arholiadau ers y pandemig er gwaethaf yr heriau a wynebwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Cyrhaeddodd myfyrwyr sy'n sefyll eu Tystysgrifau Diploma Cenedlaethol Estynedig y penawdau hefyd, gyda 63 o fyfyrwyr yn ennill graddau rhagoriaeth driphlyg, a 25 o fyfyrwyr yn cyflawni'r proffil graddau uchaf sy'n bosib o sêr rhagoriaeth driphlyg (D*D*D*) sy'n cyfateb i dri A* ar Safon Uwch.

At hynny, llwyddodd ddim llai na 292 o ddysgwyr i gyflawni'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch gyda chyfradd lwyddo eithriadol o 99.6 y cant gyda 65 y cant yn cyflawni gradd rhwng A* ac C.

Mae llawer o fyfyrwyr wedi bachu lleoedd yn y prifysgolion gorau, gan gynnwys Prifysgol Rhydychen, neu ennill y cymwysterau i lanio eu swyddi delfrydol. Mae'n bwysig nodi na fu eleni fel unrhyw flwyddyn arall. Mae'r staff wedi ymgymryd â maint enfawr o waith i groesawu myfyrwyr yn ôl i'r ystafell ddosbarth a'u paratoi ar gyfer arholiadau o dan amgylchiadau anodd iawn. Dywedodd Catherine Lewis, Prif Weithredwr Dros Dro a Phennaeth Dros Dro

Grŵp Colegau NPTC:

"Mae'r canlyniadau hyn yn rhagorol. Mae rhagori ar y graddau A* - B yn 2019 (cyn-COVID) yn gyflawniad eithriadol. Rwy'n falch iawn o'n myfyrwyr a'n staff addysgu a chefnogi am y gwaith caled iawn sydd wedi bod yn sail i'r holl gannoedd o lwyddiannau sydd y tu ôl i'r ffigurau.”

ADVANC E D SKILLS Pass Rate

Uchafbwyntiau'r Canlyniadau

Cafodd y myfyrwyr chwaraeon Laura Shinton a Jennifer Jarvie y radd uchaf y gellir ei gyflawni: Rhagoriaeth driphlyg * mewn BTEC Lefel 3 Chwaraeon, Hyfforddi a Datblygu. Mae'r canlyniad yn gyfwerth â 3 o gymwysterau A * ac mae'n golygu bod ganddyn nhw gyfanswm o 168 o bwyntiau UCAS.

Dywedodd Laura, nofiwr ymroddedig sydd wedi cyrraedd y deg uchaf am y 50 metr mewn nofio ar y frest yn y cystadlaethau cenedlaethol a'r 15 uchaf mewn nofio ar y frest 100 metr yng Nghymru: "Rydw i mor falch iawn o fy nghanlyniadau sy'n golygu y gallaf fynd ymlaen i Brifysgol Solent Southampton i astudio Gwyddor Iechyd, Maeth ac Ymarfer Corff.”

Dywedodd y darlithydd chwaraeon Amy Watkins: "Mae Laura wedi dangos ymroddiad mawr drwy gydol ei hastudiaethau ac mae ganddi'r holl botensial am yrfa wych o'i blaen, ac mae Jen yn llysgennad gwych ac yn

99.3%

99.6% SGILIA

CHALLENGE C ERTIFICATE arweinydd naturiol. Mae hi'n uchel ei chymhelliad ac mae ganddi ddyfodol gwych o'i blaen yn y diwydiant chwaraeon. Rydym i gyd yn dymuno pob lwc i Jen a'n holl fyfyrwyr ar gyfer y dyfodol.”

Mae myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi profi eu bod yn griw sy'n gweithio'n galed gyda nifer dda yn cael graddau gwych.

Mae Ellie Hinge D*D*D*, Iris ShanahanD*D*D* a Katie Clarke DDM i gyd wedi cael eu derbyn i Brifysgol Aberystwyth a byddant ymhlith y myfyrwyr cyntaf i ddilyn y cyrsiau BSc Nyrsio newydd yn y Brifysgol. Mae Iris wedi dewis y BSc mewn Nyrsio Iechyd Meddwl a Katie ac Ellie y Radd Nyrsio Oedolion.

Roedd canlyniadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol eraill yn cynnwys: Amy Sheddon a Leanne Moore wrth ennill Rhagoriaethau Seren Driphlyg gyda Megan Woodhousea Ceara Burnside yn derbyn D*D*D. Mae Ceara yn bwriadu mynd i Brifysgol John Moore Lerpwl i astudio Seicoleg.

Dywedodd Claire Bumford, y Darlithydd Iechyd a Gofal

Cymdeithasol: "Mae'r myfyrwyr wedi gweithio mor galed ac wedi cael eu gwobrwyo â chanlyniadau gwych. Rydyn ni mor falch ohonyn nhw i gyd. O ystyried profiadau pawb yn y pandemig mae wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cyfleoedd hyfforddi yn y sector ac rydym yn falch iawn o allu cefnogi'r ymdrechion hynny, gan gynorthwyo ein myfyrwyr i gyflawni canlyniadau a all gefnogi gyrfa lwyddiannus yn yr amgylchedd gofal iechyd.”

Roedd myfyrwyr gofal plant hefyd yn falch o'u canlyniadau. A hithau'n dychwelyd i ddysgu, enillodd Corina Gamble

Seren Ragoriaeth mewn Gofal Plant Lefel 3, Diploma Chwarae, Dysgu a Datblygu ac mae wedi dewis astudio BA (anrhydedd) mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Dywedodd y Darlithydd Gofal Plant, Laura Thomas "Rwy'n hynod falch o'r myfyrwyr, yr oedd yn rhaid i rai ohonynt jyglo dyletswyddau gartref ac astudio, tra bod eraill yn gweithio ochr yn ochr â'u hastudiaethau. Ond mae pob un wedi gweithio mor galed. Pob lwc yn eich cam nesaf.”

Mae myfyrwyr busnes hefyd wedi llwyddo yn yr arholiadau a gwaith cwrs anodd eleni i sicrhau canlyniadau gwych, ymysg y rhain mae:

Ruth Rees-Jones D*DD, yn aros gyda ni yng Ngholeg Y Drenewydd i wneud HND mewn Amaethyddiaeth.

Ffion Rowlands D*DD sydd wedi'i phenodi i rôl Gweinyddiaeth Fusnes llawn amser yn Control Techniques.

Carys Wilson Mills DDD, sy'n mynd i Brifysgol Caerhirfryn i astudio Cyllid a Chyfrifeg.

Dywedodd y Darlithydd Busnes, Harriet Bailey: "Rwy'n hynod falch o'r menywod ifainc sydd wedi cyflawni canlyniadau perffaith heddiw. Nid oedd heriau ac aberth y pandemig trwy gydol dwy flynedd eu hastudiaeth ond wedi'u gwneud hyd yn oed yn fwy penderfynol o ragori ym mhob maes pwnc y cwrs Busnes BTEC lefel 3 gyda llwyddiant ysgubol. Fy ngrwp cyntaf i mi weld trwyddo ers y diwrnod cyntaf a fi yw'r mwyaf balch. Mae wedi bod yn bleser i'w haddysgu a gweld y menywod ifainc hyn yn tyfu'n academyddion busnes uchelgeisiol, rwy'n dymuno'r gorau iddynt ar gyfer y dyfodol. Da iawn chi, merched.”

Gweithiodd ein myfyrwyr HND Amaethyddiaeth yn galed gartref ar eu ffermydd ac yn y Coleg i ddod allan gyda chanlyniadau eithriadol.

Enillodd Elin Protheroe, Nia Powell, Cerys Mills a Gwawr Jones i gyd Ragoriaeth.

Meddai Martin Watkin, Rheolwr Ystadau Tir a Dirprwy

Bennaeth Arlwyo, Garddwriaeth ac Amaethyddiaeth: ‘Rydym i gyd yn falch o'n holl fyfyrwyr am eu cyflawniadau. Maent i gyd yn ferched sy'n gweithio'n galed, ar eu ffermydd cartref ac yn y Coleg. Gwnaethon nhw weithio'n galed drwy'r cyfnod clo gan ddysgu ar y we ond pan ddychwelon nhw i'r Coleg fe wnaethon nhw ragori. Bob amser yn ymdrechu i gyflawni mwy ar bob cyfle. Mae eu canlyniadau'n haeddiannol iawn. Da iawn chi, merched.”

Enillwyd graddau Rhagoriaeth ar draws tri maes y Celfyddydau, gyda UAL Lefel 3 blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn yn cyflawni'r graddau uchaf ac yn y diplomâu estynedig.

Derbyniodd Demi Forbes, myfyriwr blwyddyn gyntaf Celf a Dylunio Lefel 3 Ragoriaeth. Ar gyfer ei phrosiect terfynol, cynhyrchodd Demi lyfr naid graffeg darluniadol, yn seiliedig ar chwedl Tsieineaidd 'The Red Thread of Fate'.

Cyflawnodd Roxie Brookes Ragoriaeth yn y UAL Lefel 3 Diploma Estynedig Celf a Dylunio. Mae Roxie yn gobeithio cael cyflogaeth yn lleol fel dylunydd graffeg/gwe llawrydd. Ar gyfer ei phrosiect olaf, bu i Roxie arbrofi gyda dyluniadau ailfrandio ar gyfer y cwmni lleol Hafren Vets.

Meddai'r darlithydd yn y Celfyddydau, Rob Loupart: “Mae'r myfyrwyr i gyd wedi dangos ystod amrywiol o sgiliau. Mae Demi yn ddarlunydd dawnus mewn arlunio, paent a chyfryngau digidol. Mae gan Roxie ddealltwriaeth wych o gynllunio hysbysebion a dylunio, brandio a chynllunio tudalennau gwe, gan ddefnyddio'r ystod lawn o feddalwedd Adobe at safon broffesiynol. Dymunwn bob lwc i'n holl fyfyrwyr yng ngham nesaf eu gyrfaoedd.”

Derbyniodd y myfyrwyr Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Lefel 3, Ruby Morgan, Aneirin Parton ac Evangelia Dimitriou i gyd ragoriaethau a byddant yn symud ymlaen i'r ail flwyddyn.

Derbyniodd myfyrwyr Diploma Estynedig Lefel 3 yn y Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Lucy Jones, Amy Richards a Jake Robinsoni gyd ragoriaethau ac maent wedi sicrhau lleoedd yn Ysgol Gerddoriaeth, Cyfryngau a'r Celfyddydau Perfformio LMA.

Meddai'r Darlithydd Celfyddydau Perfformio Elizabeth Hebden: “Mae'r myfyrwyr wedi gweithio mor galed ers dychwelyd i'r coleg ar ôl y pandemig. Maen nhw wedi ffitio llawer i mewn i'r flwyddyn ddiwethaf, ac rwy'n falch iawn o'u holl waith caled.”

Cyflawnodd y myfyrwyr diploma Estynedig Lefel 3 Cyfryngau Creadigol Arron Weston a Harrison CollardFrancis, Ragoriaeth.

This article is from: