Llais Ardudwy 50c
ACHLYSUR ARBENNIG
RHIF 446 TACHWEDD 2015
TEITHIO AM DDIM AR Y BWS A’R TRÊN [i rai dros 60 oed!]
Yr adeg yma o’r flwyddyn, hyd fis Ebrill, y mae modd i bobl dros 60 oed deithio am ddim i Fachynlleth neu i Bwllheli ar y trên, a theithio ar fws i unrhyw ran o Gymru. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw’r ‘Tocyn Teithio Rhatach’ sydd i’w gael gan Gyngor Gwynedd. Diolch i gynllun Llywodraeth Cymru, mae’r tocyn hefyd yn ddilys ar gyfer teithio ar y trên o Wrecsam i Benarlâg, o Amwythig i Abertawe ac o Flaenau Ffestiniog i Landudno. Mae un amod i’r tocyn, sef na chewch chi deithio ar yr un pryd â disgyblion ysgol. Cofiwch fod y gwasanaeth bws yn awr yn mynd dros Bont Briwet i Borthmadog. Er diddordeb i’n darllenwyr ni, dyma fanylion o’r daflen AM RAI o’r amseroedd lleol. Taflen amser - bws Bermo 0620 0723 0850 1048 1248 1400 Dyffryn 0633 0738 0903 1103 1303 1413 Llanbedr 0638 0743 0908 1108 1308 1418 Harlech Uchaf 0650 0752 0917 1117 1317 1413 Harlech Isaf 0757 0922 1122 1322 1428 Talsarnau 0658 0930 1130 1330 1436 Porthmadog 0938 1140 1340 1446 Taflen amser - trên Porthmadog 0653 0747 0957 1201 1402 1601 Talsarnau 0705 0800 1009 1213 1414 1613 Harlech 0715 0809 1020 1227 1428 1629 Llanbedr 0726 0829 1035 1236 1437 1638 Dyffryn 0730 0833 139 1240 1441 1642 Bermo 0742 0845 1051 1252 1453 1654 Dim ond rhannau o’r taflenni amser sydd yma. Cyhoeddir rhain er diddordeb. Ein cyngor i chi yw cael gafael ar y taflenni amser llawn - yn sicr mae’n werth y drafferth os ydych chi dros 60! [Gol.]
Yn y llun gwelir Ken a Beti Roberts, Bellaport, dau a roddodd wasanaeth clodwiw iawn i’r papur hwn am flynyddoedd lawer. Roedden nhw yn dathlu eu pen-blwydd priodas ar ddydd Sul 11eg Hydref - 63 mlynedd hapus iawn! Daw’r cyfarchion gan Llinos a Gareth, Idriswyn a Glenys, Owain a Laura, Gethin a Caryl, Llio a Nicky, Iestyn a Manon, Manon Dafydd heb anghofio eu gor-wyrion Fflur, Dion, Celt a Jini Grug!
LLONGYFARCHIADAU
Llongyfarchiadau i Erin Wyn Williams, Ysgol Llanbedr am ennill cwpan am ysgrifennu stori B5/6 yn Eisteddfod Ardudwy. Hefyd i Elain Iorwerth, Ysgol Bro Hedd Wyn, enillydd Cwpan Goffa Mary Lloyd, Lasynys am serenu yn y cystadlaethau cerdd dant ac i David Bisseker, Aelwyd Ardudwy am ei lwyddiant yn y gystadleuaeth offerynnau pres B6 ac iau.
Theatr Harlech
Dathlu degfed pen-blwydd Gŵyl Gwrw Llanbedr Nos Sadwrn, Tachwedd 7 am 7.00
CYNGERDD yng nghwmni:
Rhys Meirion Elin Fflur Pres Mân Cyflwynydd - Aeron Pughe Tocyn: £15 Elw at yr Ambiwlans Awyr Ffoniwch 01766 780667 i archebu tocyn