Llais Ardudwy Hydref 2022

Page 1

Llais £1 Ardudwy RHIF 524 - HYDREF 2022

TYNNU PEILONAU

CALENDR LLAIS ARDUDWY 2023 Yn y siopau rŵan. £5

AILAGOR YR HEN LYFRGELL

Grid Cenedlaethol

Mae gwaith ar y gweill i gael gwared ar y peilonau a gosod y ceblau o dan aber afon Dwyryd, ger Llandecwyn. Edwina Evans a Reg Chapman, Cadeirydd y Pwyllgor Er hynny, bydd y peilonau yn parhau i fod yn weladwy tan 2029, gydag arolygon tir yn ffurfio rhan gyntaf y Pleser yw llongyfarch Pwyllgor yr Hen Lyfrgell yn Harlech prosiect. yn fawr am y gwaith aruthrol maen nhw wedi ei wneud i’r Adeiladwyd y peilonau, sy’n ymestyn dwy filltir (3.2km) adeilad. Hyfryd oedd gweld Mrs Edwina Evans, Cadeirydd dros yr aber, ym 1966. Fe’u gwnaed i gludo pŵer o hen y Cyngor Cymuned, yn agor yr adeilad yn swyddogol ar orsaf niwclear Trawsfynydd ond byddant yn awr yn cael ddydd Gwener, Medi 23. Dywedodd Edwina fod gan yr eu had-drefnu a’u claddu dan ddaear. adeilad gysylltiad personol iawn â hi gan ei bod wedi byw Mae arolygon amgylcheddol ac archeolegol yn nodi rhan yno cyn priodi. Bu Edwina yn weithgar iawn yn y gymuned gyntaf prosiect yr aber gyda gwaith i adeiladu siafft a ers nifer fawr o flynyddoedd. thwnnel ar gyfer y ceblau i fod i ddechrau’r flwyddyn Mae gan yr adeilad enw newydd hefyd - Hwb Harlech. nesaf. Gallai’r enw gymryd amser i ddisodli’r enw Hen Lyfrgell. Dywedodd cyfarwyddwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Mae’r Pwyllgor yn frwd bod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio Eryri, Jonathan Cawley, ei fod yn brosiect ‘eithriadol o yn aml, yn gymdeithasol yn ogystal ag yn addysgol ac yn bwysig fydd yn gwella a gwarchod y dirwedd’. fwy na llyfrgell er bod yna lyfrgell gyfeirio newydd yno gyda Dywedodd hefyd y byddai cael gweithwyr ychwanegol llyfrau o Goleg Harlech. yn yr ardal am tua saith mlynedd hefyd o fudd i fusnesau Mwynhawyd yr Arddangosfa yn dangos lluniau o Harlech lleol. o’r gorffennol, catalogau gwerthiant a deunydd diddorol Cyhoeddodd y Grid Cenedlaethol yn 2014 eu bod am arall gan yr ymwelwyr a ychwanegodd at yr wybodaeth a gladdu ceblau uwchben ar ôl i astudiaeth ddyfarnu bod y ddangoswyd. peilonau’n effeithio ar y ‘tirwedd ddramatig’, a disgrifiodd Mae rhaglen newydd o ddosbarthiadau a digwyddiadau pobl leol nhw fel ‘craith ar y dirwedd’. wedi’i chynllunio ar gyfer yr hydref. Bydd yn cael ei rhoi ar Yn sicr fydd neb yn gwrthwynebu’r cynlluniau i gael yr hysbysfwrdd newydd, tudalen Facebook Llyfrgell Harlech gwared arnynt. Mae’n hen bryd ddywedwn ni! ac ar bosteri. Mae gwybodaeth hefyd ar gael gan aelodau’r pwyllgor trwy e-bost - harlecholdlibrary@outlook.com


GOLYGYDDION

HOLI HWN A’R LLALL

Galway a Chonnemara. Ble cawsoch chi’r gwyliau gorau? 1. Phil Mostert Yn Sbaen pan oedd yr hogia yn fach. Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Beth sy’n eich gwylltio? Harlech 01766 780635 Degau o bethau! Cŵn yn baeddu’r stryd. pmostert56@gmail.com 2. Anwen Roberts Ffyrdd culion. Gwleidyddion celwyddog. Craig y Nos, Llandecwyn Tlodi affwysol a ninnau mewn gwlad 01766 772960 gyfoethog. Llawysgrifen flêr. Cymry dihid. anwen15cynos@gmail.com Pobl diddiwylliant. Peiriannau ar y ffôn. 3. Haf Meredydd Beth yw eich hoff rinwedd[au] mewn Newyddion/erthyglau i: ffrind? hmeredydd21@gmail.com Cwmniaeth, cyngor doeth, gwên barod, 01766 780541, 07483 857716 anogaeth, canmoliaeth a chydymdeimlad. Pwy yw eich arwr? Unrhyw riant sy’n gorfod magu plentyn Cadeirydd ag anawsterau. Os enwi un arwres, mae’n Hefina Griffith 01766 780759 debyg mai Helen Keller fuasai honno. Trefnydd Hysbysebion Enw: Phil Mostert Ann Lewis 01341 241297 Pwy ydych chi’n ei edmygu yn yr ardal Gwaith: Bûm yn gweithio yn myd addysg Min y Môr, Llandanwg hon? am ddeugain mlynedd. ann.cath.lewis@gmail.com Pawb sy’n gweithio’n galed i hybu’r ‘pethe’. Cefndir: Un o Sir Fôn yn enedigol ond yn Trysorydd Y bobl sy’n fodlon codi o’r tŷ i gefnogi byw yn Harlech ers 1974. Iolyn Jones 01341 241391 cymdeithasau, mynd allan ar noson oer i Sut ydych chi’n cadw’n iach? Tyddyn y Llidiart, Llanbedr Gwynedd LL45 2NA Garddio a gofalu am randir yn Nhŷ’r Acrau. ymarfer, mynychu dosbarth. Y rhai sy’n cadw capeli yn agored. Pawb sy’n helpu i roi llaisardudwy@outlook.com Beth ydych chi’n ei ddarllen? Llais Ardudwy yn ei wely bob mis. Côd Sortio: 40-37-13 Bob math o bethau. Barddoniaeth hen a Rhif y Cyfrif: 61074229 Beth yw eich bai mwyaf? newydd, cofiannau, llyfrau taith, storïau Ysgrifennydd Dwi ar frys yn rhy amal. Eisiau gwneud ditectif a nofelau cyffrous yn y ddwy iaith. Iwan Morus Lewis 01341 241297 pethau heddiw yn lle aros tan yfory. Cael blas arbennig ar waith Lee Child a’i Min y Môr, Llandanwg Beth yw eich syniad o hapusrwydd? arwr, Jack Reacher. Dic Jones yw fy hoff iwan.mor.lewis@gmail.com 1. Mynd ar wyliau i le cynnes efo’r teulu a fardd ond mae eraill gwych hefyd. CASGLWYR NEWYDDION digon i gadw’r merched yn ddifyr. Parc dŵr LLEOL Hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Y Bermo Ychydig fydda’ i yn ei wrando a’i wylio. Caf neu barc chwarae i ddiddori’r hogia. Pysgod i swper a glasiad i gynhesu’r galon. Grace Williams 01341 280788 flas ar raglenni teithio a rhaglenni natur. Dyffryn Ardudwy 2. Yn y Confession Box neu Tigh Neachtain Hoffi’r Repair Shop yn fawr. Gwennie Roberts 01341 247408 efo Bryn, Iwan a Bili yn rhoi’r byd yn ei le. Ydych chi’n bwyta’n dda? Mai Roberts 01341 242744 3. Ciw o hanner dwsin o bobl ddifyr yn Bwyta’n dda iawn ers dydd fy mhriodas! Susan Groom 01341 247487 barod i lenwi’r holiadur hwn bob mis. Aml un yn deud fy mod yn cael fy nifetha! Llanbedr Beth fuasech chi yn ei wneud efo £5000? Jennifer Greenwood 01341 241517 Caf ddigon o lysiau ffres o Dŷ’r Acrau ac Mae’n debyg mai’r wyrion yn Kiltan - Efan, Susanne Davies 01341 241523 mae tŷ gwydr yma. Guto a Hari fuasai’n elwa. Llanfair a Llandanwg Hoff fwyd? Hefina Griffith 01766 780759 Cig oen Coedty. Dwi’n hoff iawn o bysgod. Eich hoff liw? Bet Roberts 01766 780344 Mae sglod a sgod o siop John Pugh yn dda. Dwi’n hoffi amryw o liwiau. Fûm i erioed o Harlech blaid gwisg ysgol a phawb yn gwisgo yr un Dim sbeis, cyri, caws na madarch! Edwina Evans 01766 780789 lliw. Gwell gen i weld amrywiaeth o liwiau a Hoff ddiod? Ceri Griffith 07748 692170 phlentyn yn gallu dewis ei liw ei hun. Guinness yn Iwerddon. Chwisgi Jameson Carol O’Neill 01766 780189 Eich hoff flodyn? pan fydd y tywydd yn oer! Talsarnau Gwenda Griffiths 01766 771238 Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Rhosyn. Mae cymaint o rai gwahanol, maen nhw’n para’n hir ac mae’r arogl yn hyfryd. Anwen Roberts 01766 772960 Chefais i erioed bryd cystal ac a gefais yng Eich hoff ddarn[au] o gerddoriaeth? nghwmni Janet, Chris, Rose Parry, Bili, Gosodir y rhifyn nesaf ar Tachwedd Hoffaf ‘Yn 4 oed’ gan Robat Arwyn. Hefyd Carys, Gerallt ac Ann ar benwythnos yng 4 a bydd ar werth ar Tachwedd 9. carolau amrywiol, emynau Cymru, caneuon Nghaerdydd. Mae’r atgofion yn dal i lifo. Newyddion i law Haf Meredydd gwerin Cymraeg, canu rebel y Gwyddel a Cwmni gwych, mwynhad a difyrrwch pur. erbyn Hydref 31 os gwelwch cherddoriaeth glasurol yr Almaen. Lle sydd orau gennych? yn dda. Cedwir yr hawl i docio Pa dalent hoffech chi ei chael? erthyglau. Nid yw’r golygyddion o Cefais flas mawr ar Rufain, Fflorens, Medru canu piano. angenrheidrwydd yn cytuno â phob Gdansk, Dresden, St Petersburg a Helsinki. Eich hoff ddywediadau? barn a fynegir yn y papur hwn. Ond dwi hefyd wrth fy modd yn crwydro Heb ei fai, heb ei eni. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn Cymru. Mae rhywbeth arbennig am Sir ei llafar.’ Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn Benfro, Sir Fôn a Meirionnydd. Ond Dilynwch ni ar ‘Facebook’ o bryd? Iwerddon sydd orau gen i - Trwyn Dingle, @llaisardudwy Yn hyrddio tuag at y dyddiau blin.

SWYDDOGION

2


Rasys Beic Aberdyfi, Medi 2022

Fore Sadwrn, Medi 17, ymgasglodd 270 o feicwyr brwdfrydig yn Aberdyfi i daclo un o bedair her oedd wedi eu trefnu. Roedd y cylchdeithiau yn amrywio o 32 milltir i 101 milltir! Disgrifir yr her fwyaf fel y Ci Mawr (Big Dog) ac ymhlith y reidwyr roedd Gethin Owen, gynt o Lwyn Ynn, Tal-y-bont. Teithiodd gyda’i gyfaill Paul o’i gartref yn Nottingham, brynhawn Gwener. Gwely cynnar a chodi gyda’r wawr er mwyn teithio o Daly-bont i Aberdyfi, i gychwyn y ras am 8:00 y bore. Ni fu’n gychwyn gwbl hwylus i Gethin, gan iddo gael pynsiar a cholli dros ugain munud. Gyda’r cyfaill yn aros amdano a chynnig cefnogaeth, doedd dim digalonni ac yn ôl ar ei feic, yn benderfynol o geisio ennill peth o’r amser yn ôl. O Dywyn, ar hyd yr A493 trwy Lwyngwril a Friog, i gyrraedd Morfa Mawddach. Arwynebedd ychydig yn wahanol wrth barhau’r daith ar hyd Llwybr y Mawddach i Bwll Penmaen.

Yn yr ail lun, gwelir Gethin yn cael seibiant byr ar ôl cwblhau’r dasg. Llanuwchllyn yn eu haros, cyn croesi’r briffordd a rhagor o ddringo i fyny i gyfeiriad Trawsfynydd. Dim cyfle i ymweld â Cherflun Coffa Hedd Wyn a chyn cyrraedd Bronaber troi i gyfeiriad Coed y Brenin ac ymlaen i Abergeirw, Llanfachraeth a’r Brithdir. Cwblhau’r cylch gogleddol a chyrraedd yn ôl i Cross Foxes ar ôl cwblhau rhyw 80 milltir. Lluniaeth ysgafn eto ac yna i lawr Bwlch Tal-y-llyn ac heibio i Lyn Mwyngil.

Paul, cyfaill i Gethin, yn gweithio’n galed ar Bwlch y Groes! Gyda’r dringfeydd heriol bellach y tu cefn iddyn nhw, taith ychydig yn haws yn ôl trwy Dywyn gan ddychwelyd i Aberdyfi ar ôl taith o 101 o filltiroedd. Yr her drosodd, mwynhau’r paned a’r lluniaeth a gwisgo’r medalau gyda balchder. RO

Diwedd Pennod yn Bermo

Yn y llun, gwelir Gethin, â’r bont bren yn y cefndir, yn dweud helo wrth ei dad â deithiodd o Dal-y-bont yn fore i’w gefnogi. O Bwll Penmaen, yn ôl ar hyd y ffordd fawr i Arthog, cyn mynd i’r afael â’r ddringfa i Lynnau Cregennan. Llai llafurus wedyn, wrth deithio i lawr heibio i Lyn y Gwernan i Ddolgellau. Dim llonydd hir rhag y dringo fodd bynnag wrth orfod troi’r beic i fyny Fron Serth i Tabor. Ymlaen i Cross Foxes a chroeso’r trydydd gorsaf fwydo. Lluniaeth ysgafn cyn ail gychwyn i lawr yr A470 i Ddinas Mawddwy yn barod am y ddringfa fwyaf anodd ar y cwrs, Bwlch y Groes, a ystyrir yn un o’r dringfeydd beicio mwyaf heriol yng Nghymru.

Bu’n rhaid i Gapel Siloam, Yr Annibynwyr, Bermo, gau flynyddoedd lawer yn ôl oherwydd bod yr aelodaeth yn lleihau. Ymunodd gweddill yr aelodau â’r ychydig a adawyd o Eglwys Bresbyteraidd Caersalem a oedd wedi cau ymhell cyn Siloam. Mae’r gwasanaethau wedi’u cynnal yng Nghapel Presbyteraidd Saesneg Eglwys Crist. Oherwydd bod niferoedd aelodau Caersalem wedi gostwng ymhellach, gan adael dim ond tri oedd yn gallu bod yn bresennol, penderfynasant gau yn swyddogol ond parhau i addoli trwy gyfrwng y Gymraeg gyda Siloam. Yn anffodus, mae’r gynulleidfa wedi lleihau i bum aelod a benderfynodd na allent barhau mwyach.

Roeddwn yn ffodus i allu eu helpu trwy gymryd gwasanaethau yn rheolaidd am flynyddoedd lawer. Yn anffodus, gofynnwyd i mi bregethu am y tro olaf ar ddydd Sul Medi 18fed. Roeddwn yn weinidog capel Methodistiaid Ebeneser, Abermaw o 1988. Dim ond chwe aelod oedd yn bresennol bryd hynny a chan mai dim ond tri oedd ar ôl erbyn 1991 bu’n rhaid ei gau. Nid oes bellach gapel Cymraeg yn Bermo. Parch Patrick Slattery

3


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Merched y Wawr, Nantcol PRIODAS AUR I ddechrau’r tymor newydd, roeddem i gyd yn edrych ymlaen at daith gerdded hamddenol ar ochor yr afon o Dal-y-bont i lawr tuag at lan y môr. Ond fe ddaeth y glaw a bu’n rhaid anghofio’r cerdded. Fodd bynnag, treuliwyd noson ddifyr iawn yn swpera a sgwrsio ymysg ein gilydd ym mwyty Nineteen 57. Croesawyd ni yn gynnes iawn gan Anwen, yr ysgrifennydd, yn absenoldeb Beti Mai, ein llywydd, a rhoddwyd croeso arbennig i Pat a Rhian. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Beti Wyn. Llongyfarchwyd Ceri ar ei llwyddiant yn ennill y wobr gyntaf ac ail am wau cardigan hefo hwd i blentyn yn y Sioe Sir. Cawsom gyfle i weld ei gwaith medrus. Soniwyd am rai materion pwysig y gangen. Y mis nesaf ar nos Fawrth, Hydref 4, byddwn yn ymuno â changen Llanfair a Harlech yn Neuadd Llanfair. Y gŵr gwadd fydd Y Parchg Iwan Llywelyn Jones. Grwp Llanbedr - Huchenfeld Llyfr ryseitiau Gyda’n cyfeillion o’r Almaen, rydym fel grŵp yn gobeithio creu casgliad o ryseitiau o’r ddwy wlad. Os oes gennych hoff rysáit Cymreig y dymunwch ei rannu efo ni buasem yn falch iawn ac yn ddiolchgar am eich cydweithrediad. Gallwch wneud hyn un ai trwy ei anfon at Susanne Davies, 2, Ystady-Wenallt, Llanbedr LL45 2PD neu at Jennifer Greenwood, Pen-y-Bryn, Llanbedr LL45 2LY. Neu gallwch ei anfon trwy e-bost at susannejdavies@aol.com Diolch yn fawr. Dyfeisio croesair Llongyfarchiadau fil i Idris Lewis, sy’n adnabyddus fel cyfeilydd Côr Meibion Ardudwy, am ennill cystadleuaeth dyfeisio croesair dydd Sadwrn yn y Daily Telegraph. Dyma gryn gamp. Mae’n gefnogwr brwd i groesair y Telegraph ers rhai blynyddoedd.

4

Llongyfarchiadau i Dad a Mam, sef Dewi a Pat Thomas, ar ddathlu eu Priodas Aur ar y 5ed o Awst. Llawer o ddiolch. Ffion a Manon Thomas

CYMDEITHAS CWM NANTCOL RHAGLEN 2022-23

cynhelir yn Neuadd Gymdeithasol Llanbedr am 7.30 Tach: 1

Cyngerdd Ion: 10 Canu Gwerin gyda Meibion Jacob gyda Gwenan Gibbard

Tach: 15 Sgwrs am lyfrau gyda Haf Llewelyn

Ion: 24 Breuddwyd Syr Ifan gyda Penri Jones, Parc

Tach: 29 Gair a Chainc Chwef: 7 Gwaith yn yr Ysgwrn gydag Iwan ac Alwena Morgan gydag Alwen Derbyshire Rhag: 17 Cinio Nadolig am 7.00 Chwef: 21 Cyngerdd yng Nghlwb Golff Dewi Sant gyda Meibion Prysor Adloniant: Catrin Toffoc Trawsfynydd

Fel y gwelwch, mae rhaglen Cymdeithas Cwm Nantcol yn barod ar gyfer yr hydref a’r gwanwyn. Edrychwn ymlaen at weld y ffyddloniaid ond hoffem hefyd weld nifer dda o wynebau newydd yn y Gymdeithas. Bob yn ail nos Fawrth yn y Neuadd Bentref amdani. Croeso cynnes, noson ddifyr, bwyd a phaned a chyfle i ennill raffl. Digon i dynnu dŵr i’r dannedd?


Tanysgrifwyr 2022-23

Diolch i’r mwyafrif mawr ohonoch am danysgrifio am flwyddyn arall. Yn naturiol nid yw pawb wedi gwneud hynny. Mae rhai sydd heb gysylltu â ni o gwbl. Mae’n amlwg fod amgylchiadau wedi newid ac nad ydyn nhw yn dymuno derbyn Llais Ardudwy drwy’r post neu e-bost. Mae llawer wedi cynnwys rhoddion wrth danysgrifio ond nid ydynt am i’w henwau gael eu cyhoeddi yn y papur. Diolch yn fawr iawn am y gefnogaeth; mae’n cael ei werthfawrogi. Fe ddaeth un llythyr drwy’r post o ben draw’r byd. Roedd yn cynnwys rhodd o £50 gan unigolyn na fu erioed yn byw yn yr ardal ond sydd yn meddwl y byd o Ardudwy. Hyderwn y bydd yn gallu ymweld â’r ardal rhywdro yn y dyfodol.

Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG

CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF

MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod

Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant PORTHMADOG 01766 512214/512253 60 Stryd Fawr

PWLLHELI 01758 612362 Adeiladau Madoc

ABERMAW 01341 280317 Stryd Fawr

office@bg-law.co.uk

Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd …

Llais Ardudwy Mae ôl-rifynnau i’w gweld ar y we. http://issuu.com/ llaisardudwy/docs neu https://bro.360. cymru/papurau-bro/

SAMARIAID LLINELL GYMRAEG 08081 640123

5


Y BERMO A LLANABER

Dyma blant Cylch Meithrin Bermo a’r plant oedd yn cychwyn y tymor newydd yn Ysgol y Traeth.

Merched y Wawr y Bermo a’r Cylch

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor yng ngwesty’r Vic yn Llanbedr, lle buom yn mwynhau tê prynhawn hyfryd. Croesawyd pawb yn ôl wedi haf prysur gan ein Llywydd newydd, Morwena Lansley. Cyflwynwyd tusw o flodau i Llewela a Grace, ein cyn-lywydd a’n cynysgrifennydd, fel arwydd o’n gwerthfawrogiad o’u gwaith dros yr holl flynyddoedd. Cawsom adroddiadau o’r pwyllgor Iaith a Gofal a’r pwyllgor Celf a Chrefft gan Pam a Jean. Anfonwyd ein cofion at Megan, ein trysorydd, sydd wedi cael triniaeth ar ei choes. Llongyfarchwyd Jean ar ennill yn y Sioe Sir yng Nghorwen, a chawsom gyfle i weld y bag buddugol cywrain. Cydymdeimlwyd â John a Grace wedi iddynt golli Mrs Monica Buggy, modryb John. Roeddem yn falch o glywed bod Andy, gŵr Iona, yn gwella wedi ei ddamwain anffodus. Ar nodyn hapusach, roeddem yn falch o longyfarch Salmon a Mair ar enedigaeth eu hŵyr Jac Rhys. Diolch yn fawr i staff y Vic am eu croeso ac am y bwyd blasus. Bydd ein cyfarfod nesaf yn Ystafell y Celfyddydau, Theatr y Ddraig, Y Bermo am 2.00yp a’n gwestai fydd Geunor Roberts, Llanymawddwy, Islywydd Cenedlaethol MyW. Croeso cynnes iawn i bawb. Ac yn olaf, diolch i Jac, mab Gwenfron ac ŵyr Mrs.Gwyneth Edwards, am dynnu ein lluniau ar gyfer Llais Ardudwy a’r Wawr.

6

Merched y Wawr Y Bermo a’r Cylch

Hydref 18 Sgwrs gan Geunor Roberts,

Is-lywydd Cenedlaethol MyW

yn Theatr y Ddraig am 2.00

CALENDR LLAIS ARDUDWY

Mae Calendr Llais Ardudwy 2023 ar werth yn: ‘The Set Piece’, Ffordd y Traeth, Y Bermo.


Y GEGIN GEFN

Mi rydan ni yma wedi cael tymor da i domatos, ac mi fyddai wastad yn gwneud cawl cartref gan ddefnyddio llysiau ffres, a dyma rysáit syml iawn a blasus.

Mrs Bessie Smith

Gyda thristwch mawr y cyhoeddwn farwolaeth Mrs Bessie Smith, gwraig y diweddar George Smith, a fu farw yn 99 mlwydd oed ar yr 22ain o Awst yn Ffrainc. Roedd hi wedi bod yn byw gyda’i mab a merch yng nghyfraith. Mike a Cath am y 18 mlynedd diwethaf. Roedd hi’n fam i Mike, Chris, Pam a Pete ac yn nain a hen nain gariadus. Bydd llawer o bobl leol yn cofio George a Bessie pan oedden nhw yn rhedeg eu busnes teuluol yn y Bermo. Roedd Bessie wrth ei bodd yn clywed am y Bermo a’r bobl gan yr ymwelwyr amrywiol oedd yn ymweld â busnes gwersylla Mike a Cath yn Ffrainc. Mae’r teulu’n gobeithio cael gwasanaeth coffa yn Eglwys Crist, Y Bermo yn ddiweddarach yn y flwyddyn, Hoffai’r teulu ddiolch i chi gyd am y negeseuon caredig o gydymdeimlad a dderbyniwyd ganddyn nhw. Rhodd a diolch £20 Mike a Cath a’r teulu

Dull

Torrwch y tomatos yn ddarnau, gan dorri darnau caled i ffwrdd. Sleisiwch y nionyn, y moronyn a’r seleri yn ddarnau bach.

Cawl Tomato

2 bwys 8 owns o domatos aeddfed 1 nionyn 1 moronyn 1 seleri 2 llond llwy fwrdd o olew olewydd 2 llond llwy de o piwré tomato Pinsiad o siwgwr 2 ddeilen llawryf (bay leaf) 2 beint o stoc llysieuol pupur du persli hufen

Rhowch yr olew mewn sosban a choginiwch y nionyn, y moronyn a’r seleri tan yn feddal.(tua 10 munud)

- gwyliwch rhag ofn iddynt losgi! Ychwanegwch y piwré a chymysgwch. Nesaf, ychwanegwch y tomatos, siwgwr, pupur du a’r 2 ddeilen llawryf, cymysgwch gyda’i gilydd a choginiwch am tua 10 munud. Yna ychwanegwch y stoc yn ara deg gan ei gymysgu i mewn i’r gymysgedd a chodwch y gwres nes y bydd yn berwi, yna trowch y gwres i lawr a gadael iddo goginio am 25 munud. Yn ofalus, tynnwch y dail llawryf allan, a rhowch y cawl mewn cymysgydd (blender) a’i gymysgu tan yn llyfn. Gweiniwch gyda hufen a phersli. Mae’n bosib rhewi’r cawl os dymunwch. Mwynhewch! Rhian Mair

7


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Cofion Anfonwn ein cofion at Mr Arthur Jones, Cartref y Bae, Tywyn (Iscoed, Tal-y-bont gynt), oedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 87 ar 18 Medi.

Ysgol Sul Horeb Ailgychwynnodd yr Ysgol Sul ar yr ail Sul o Fedi. Meryl Jones yw’r arweinydd newydd ac mae Rhian, Alma, Elen a Glesni yn ei chynorthwyo yn eu tro. Bu Mai a Rhian Roberts yng ngofal yr Ysgol Sul am o leiaf ugain mlynedd a mawr yw ein diolch iddynt am eu gwasanaeth diflino. Rydym yn falch ac yn ddiolchgar iawn i Meryl am fod mor barod i ymgymeryd â’r gwaith. Rhodd i Llais Ardudwy £10 gan Simon a Dawn Jones

PENNAETH NEWYDD

Cydymdeimlad Ar 5 Medi bu farw Mr Kenneth Owen, Rhandir Mwyn, Dyffryn (fferm Tyddyn Mawr, Tal-y-bont gynt). Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei briod, Pamela, ei ferched, Catherine ac Ellia, ei chwaer Elizabeth a’r teulu oll yn eu profedigaeth. Marwolaeth Trist oedd clywed am farwolaeth Mrs Jane Ellen Griffith, gynt o 1 Hillside, y Bermo, yn Lerpwl yn 98 oed. Roedd yn briod â’r diweddar Mr Emyr Griffith, Siop Cadwalader Roberts, y Bermo. Ganwyd a magwyd hi a’i dau frawd, William a Walter, yn y Dyffryn. Anfonwn ein cydymdeimlad at ei merched Ann a Meinir, ei mab yng nghyfraith Simon, ei hwyrion a’i hwyresau a’r teulu oll yn eu profedigaeth.

Dymuna llywodraethwyr a rhieni Ysgol Dyffryn Ardudwy estyn croeso cynnes i Mrs Cath Davey yn ei swydd newydd fel pennaeth. Caiff y gymuned leol gyfle i ddod i nabod Mrs Davey dros y blynyddoedd nesaf. Pob lwc iddi yn y swydd. Diolch i Mrs Mai Roberts am ofalu am y blodau. Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb Y cwbl am 10.00 o’r gloch HYDREF 9 – Diolchgarwch 16 – Parch Eric Jones 23 – Parch Dewi Lewis 30 – Ceri Hugh Jones

Er Cof Er cof am Kenneth Wyn Owen Penllanw yn Llanaber Ffarwelio â’r brawd Ken, Ar fore braf o Fedi A’r werin yn plygu pen. Wrth roddi ei gorff i orffwys Yn dawel yn y bedd, Distawrwydd, ac atgofion, Boed iddo fythol hedd. JVJ Rhodd a diolch £10.00

8


Priodas

Priodas Llongyfarchiadau i Mauriese a Rhys ar eu priodas yn ddiweddar. Mae Mauriese yn ferch i Emrys (Sarnfaen) a Liese.

CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT CYHOEDDIADAU’R CADEIRYDD Estynnwyd cydymdeimlad y Cyngor â theulu’r diweddar Mr Ken Owen, Tyddyn Mawr, Tal-y-bont. Dymunwyd gwellhad buan i Mr Hari Stanton Hughes yn dilyn damwain car, hefyd i’r Cyng Eryl Jones Williams yn dilyn llawdriniaeth. Dymunwyd ymddeoliad hapus i Paul a Diane Wellings, London House, a diolchwyd iddynt am flynyddoedd o wasanaeth i’r pentref. CEISIADAU CYNLLUNIO Codi garej/gweithdy ar wahân. Cais diwygiedig - tir yng nghefn Trem Eifion, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Adeiladu estyniad cefn deulawr - Garreg Lwyd, Tal-y-bont. Cefnogi’r cais hwn. Amnewid y lolfa haul to polycarbonad gyda lolfa haul to llechi, ac adeiladu estyniad deulawr - Ty’n Twll, Ffordd Glan Môr, Tal-y-bont. Cefnogi’r cais hwn. Adeiladu estyniad cefn un llawr ac ochr deulawr, ymestyn y cwrtil, a newidiadau i fynedfa amaethyddol presennol Pentre Canol, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn. Cais ôl-weithredol am ardal o ddecin wedi’i godi - Glasfor, Dyffryn Ardudwy. Dim sylwadau. Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn llythyr gan Mrs Patricia Owen ynglŷn â’r cais uchod a chytunodd yr aelodau nad oeddynt yn gallu ystyried sylwadau’r cyhoedd wrth drafod cais cynllunio a’u bod wedi cysylltu gyda’r Parc Cenedlaethol yn uniongyrchol. Codi tŷ (angen lleol fforddiadwy) - Cae Wat (tir ger Sŵn-yMôr), Ffordd Glan Môr, Tal-y-bont. Cefnogi’r cais hwn. UNRHYW FATER ARALL Trafodwyd y ffaith bod y wal ger y Gofeb wedi ei ddifrodi pan aeth fan danfon parseli yn ei erbyn a chytunwyd bod y Clerc yn anfon at gwmni yswiriant y Cyngor ynglŷn â hyn.

Dymuno’n Dda

R J WILLIAMS Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU IZUZU

Dymuniadau gorau i Paul a Diane Wellings, London House ar eu hymddeoliad ar ôl dros 20 mlynedd yn gwasanaethu y pentref a’r ardal. Diolch iddynt am eu gwasanaeth a’u safon uchel o gynnyrch dros y cyfnod hir hwn. Gobeithio bydd cyfle rŵan iddynt weld mwy ar Craig, Claire a’u teuluoedd. Hefyd croeso i Liam a Stuart Hallard Nashir i’r Siop a dymunwn y gorau iddynt yn y dyfodol.

9


Carreg fedd William a Theodora Evans

Dewch i roi cynnig ar yrru’r Yaris Cross newydd! Dewch i roi cynnig ar yrru’r Yaris Cross newydd!

Parhad - Rhai o dylwyth Edward a Margaret Evans, Llandecwyn - RHAN 5

TOYOTA HARLECH FforddHARLECH Newydd TOYOTA Ffordd Newydd Harlech Harlech LL46 2PS LL46 2PS 01766 780432 01766 780432

William Evans (g 22 Medi 1920, Butte – m 21 Ebrill 1965, Seattle, Washington), oedd unig blentyn Hugh a Pauline (Buckley) Evans. Eisoes yn dair oed, yr oedd William wedi cymryd rhan gyda’i fam yn yr opereta a nodwyd.

www.harlech.toyota.co.uk www.harlech.toyota.co.uk info@harlechtoyota.co.uk info@harlechtoyota.co.uk

Yn saith oed chwaraeodd ran y corrach Tom Thumb mewn priodas ffug a gyflwynwyd gan blant yr ysgol yng Nghartref y Plant Amddifad, Butte.

Llwybr Arfordir Cymru’n Dathlu’r 10

10

Llun: Facebook

Yn 19 oed, 18 Ebrill 1940, priododd â Peggy Lay (g 1922). Cawsant ysgariad ar 21 Gorffennaf y flwyddyn honno, oedd yn diddymu’r briodas. 1 Tachwedd 1941, priododd â Theodora Mary Davidson (1918 – 1998), a anwyd ym Mescalero, New Mecsico. Ganwyd iddynt bedwar o blant. Ymunodd William â’r llynges adeg yr Ail Ryfel Byd, a chafodd ei ryddhau yn anrhydeddus 15 Mawrth 1946, yng Ngwersyll Shoemaker, Califfornia. Cyn hynny bu’n gweithio i Adeiladwyr Llongau yn Seattle, Washington, lle y gwnaeth ef a’i deulu eu cartref ar 1410 Stryd Seneca. Bu farw yn Seattle, 21 Ebrill 1965, yn 44 oed, ac fe’i claddwyd ef ym Mynwent Gatholig Holyrood, Shoreline, Sir King, Washington. W Arvon Roberts

Facebook.com/harlechtoyota Twitter@harlech_toyota

Eleni mae Llwybr Arfordir Cymru yn 10 oed. Lansiwyd y llwybr ym Mai 2012, ac mae’n ymestyn dros 870 milltir (1,400 km) gan roi i’r cerddwr y cyfle i brofi golygfeydd godidog o’n glannau. I ddathlu’r achlysur arbennig fe gomisiynwyd deg bardd i ysgrifennu cerdd a deg artist i greu gwaith celf i gyfleu eu profiadau am eu rhan arbennig hwy o’r llwybr. Dewisodd Liz Neale a Haf Llewelyn arfordir Ardudwy ar gyfer eu gwaith, a bydd y gwaith i’w weld a’i glywed yng Nghastell Harlech ar ddydd Sadwrn, 29 o Hydref rhwng 2.00 - 4.00. Mae cerdd Haf yn mynd a hi yn ôl i’w dyddiau yn Ysgol Ardudwy, Harlech, pan fyddai’r llwybr traws gwlad yng ngwersi addysg gorfforol yr ysgol yn mynd a’r disgyblion trwy’r twyni tywod ac ar hyd y traeth. ‘Profiad sydd yn dal efo fi hyd heddiw, yn arbennig teimlo’r heli yn chwipio’r coesau!’ meddai Haf. Mae croeso cynnes i bawb fynychu’r digwyddiad uchod. Dewch i ddweud eich atgofion am draethau a llwybrau bendigedig ein hardal.


LLANFAIR A LLANDANWG

Llongyfarchiadau i Ann Lewis, Min-y-môr, Llandanwg ar ennill Pencampwriaeth Merched Hŷn Cymru am y pedwaredd tro. Roedd yn cystadlu yng nghlwb golff Llangollen, cwrs y mae’n eithaf hoff ohono. Roedd yn gystadleuaeth agos a dyna’r tro cyntaf i Ann fod mewn ‘playoff ’. Meddai Ann, ‘mi gefais syndod fy mod i wedi ennill yn y diwedd ond byddaf bob tro yn gwneud fy ngorau glas. Mi wnes i’n dda ar y twll cyntaf un ac roedd hwnnw’n gymorth mawr imi.’

Merched y Wawr, Harlech a Llanfair Croesawodd Eirlys pawb i gyfarfod cyntaf y tymor newydd a braf oedd cael cwmni dwy aelod newydd. Dywedodd bod Cassie yn cofio at bawb ond yn teimlo na allai ddod i’r cyfarfod hwn. Llongyfarchwyd y plant a’r wyrion sydd wedi llwyddo mewn arholiadau allanol eleni. Dymunwn pob lwc iddyn nhw yn eu dewis o ddilyniant mewn byd addysg neu fyd gwaith. Hefyd pob lwc i Glesni, wyres Ann sydd yn gadael ddiwedd y mis am Awstralia am flwyddyn i ddechrau. Bu i ddwy gystadlu yn y Sioe Sir yng Nghorwen – Eirlys gyda’i chardigan efo hwd i blentyn a Janet gyda’i jeli eirin duon bach a llwyddodd i gael yr ail wobr. Diolchwyd i Janet am baratoi ac argraffu’r rhaglen. Rhian Davenport oedd y wraig wadd a chafwyd orig hwyliog yn ei chwmni yn sôn am ei gwaith gyda’r Ambiwlans Awyr. Mae’r gwasanaeth yn hollol ddibynol ar roddion o bob math gan bobl gyffredin. Mae angen £8 miliwn y flwyddyn i redeg y pedair ambiwlans awyr. Mae pob ehediad yn costio £2000. Nid ydynt yn derbyn arian gan y Llywodraeth na’r Loteri Cenedlaethol â’r Gwasanaeth Iechyd sy’n talu am y meddygon a’r paramedics a’r wyth car ‘Ymateb Cyflym’. Mae’r pedair hofrennydd yn ymateb i tua 3,500 o alwadau pob blwyddyn ac maen nhw wedi eu lleoli yng Nghaerdydd, Y Trallwng, Caernarfon a Llanelli ar hyn o bryd. Mae Rhian yn cynnal stondinau yn ystod tymor yr haf yn y Bermo gan amlaf yn gwerthu dillad babis mae gwirfoddolwyr, yn cynnwys Eirlys a Bronwen, yn eu gwau. Daeth a nifer o eitemau i’w gwerthu gyda hi ac fe wnaeth elw o £115 tuag at yr Ambiwlans Awyr. Diolchwyd iddi gan Bronwen. Cynhaliwyd hefyd bwrdd gwerthu er mwyn chwyddo coffrau’r gangen ac fe godwyd £36. Gweneth oedd yn gyfrifol am y baned gydag Enid yn ennill y raffl.

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR MATERION YN CODI goeden Leylandii sy’n gordyfu i’r Llinellau melyn ger Stesion ffordd ger Fron Dirion ar Ffordd Llandanwg Uwch-glan a gofyn iddynt Mae’r Adran Gyfreithiol yn glirio’r dail pinwydd sy’n disgyn symud ymlaen i gyflwyno ar y palmant gyferbyn â Chae gwaharddiadau parcio yn yr Cethin. ardal. Parc Cenedlaethol Eryri CEISIADAU CYNLLUNIO Bydd y cyfarfod blynyddol Codi estyniadau i ffurfio ports rhwng y Parc a’r Cynghorau a lolfa estynedig, teras to garej, Cymuned yn cael ei gynnal dros a ffurfio to brîg dros garej to Zoom eleni ar Hydref 25 a 27. o fflat presennol - Sŵyn y Grug, Hydref. 8 Pant Yr Onnen, Llanfair. UNRHYW FATER ARALL Cefnogi’r cais hwn, ond roedd Datganwyd pryder ynglŷn gan yr aelodau bryderon ynglŷn â â chyflwr ffordd Sarn Hir a mesuriadau’r garej. chytunwyd i gysylltu gyda’r GOHEBIAETH Adran Briffyrdd i weld beth yw’r Cyngor Gwynedd – diweddaraf ynglŷn â gwneud y Tîm Tacluso Ardal Ni gwelliannau iddi. Mae’r gweithlu wedi dechrau ar Mae angen trwsio sedd eu gwaith. Mae’n bosib derbyn gyhoeddus a osodwyd ger ceisiadau drwy system fewnol maes parcio Llandanwg gan y Cyngor o’r enw FFOS drwy Sefydliad y Merched i ddathlu’r ddilyn y ddolen http://www. Mileniwm. Cytunodd Hywel gwynedd.llyw.cymru/timtacluso. Jones i gael golwg arni. Byddant yn gweithio oddi fewn Mae angen tacluso o amgylch i ardaloedd 30 mya. Cytunwyd maes parcio Llandanwg. bod angen gofyn iddynt docio’r

GOLEUDY HARLECH

Llanwyd y Neuadd Goffa yn Harlech â lleisiau hen ac ifanc ar ddydd Sul Medi 25ain yn canu caneuon i ddathlu’r cynhaeaf. Roedd y digwyddiad diolchgarwch hwn yn un o gynulliadau Sul wythnosol Goleudy Harlech a ddenodd pobl o bob rhan o Ardudwy a thu hwnt. Ar ôl llawer o weithgarwch creadigol a rhywfaint o fyfyrio ar yr holl bethau da sydd gennym mewn bywyd, mwynhaodd pawb ginio cynhaeaf gyda’i gilydd. Daeth pobl â bwyd ac arian i’w roi i fanciau bwyd y Blaenau a’r Bermo. Fel criw Cristnogol, mae Goleudy Harlech yn croesawu pawb am 10.15yb ar y Sul yn y Neuadd Goffa. Manylion yn www.goleudyharlech.cymru

11


POS RHIF 17 Straeon doniol o Papur Pawb Caernarfon, 10 Tachwedd 1894 10

Y mae Plato Huws wedi dod i ddeall drwy hirfaith athronyddu mai yr esboniad goreu ar hen lanc ydyw, ‘Dyn ag sydd wedi colli pob cyfleustra i wneud dynes yn anghysurus’. Yr oedd bachgen Plato Huws wedi bod yn cyfansoddi traethawd ar ‘Y Fuwch’. Traethawd byr ydoedd. Y mae y fuwch yn anifail defnyddiol dros ben. Dywedodd ei fam wrtho am ei ddarllen i’r gweinidog. Gwnaeth yntau gydag ychydig gyfnewidiad i gyfarfod yr amgylchiad, ‘Y Fuwch ydyw yr anifail mwyaf defnyddiol ond crefydd.’ Yn llys ynadon Cwmbwrlwm y dydd o’r blaen, cyhuddodd heddgeidwad Ned Roland y cariwr o gysgu yn y drol wrth ddychwelyd o’r farchnad heb un math o reolaeth ar ei geffyl. Y mae yr ynad newydd Abel Mehola Jenkins yn bur hoff o ysmaldod, ac wrth wneud ei order dywedodd – ‘Yr wyf yn eich dirwyo chwi dri a chwech. Hanner coron am wely a swllt am attendance. Teithiwr: Pa faint sydd arnaf i chwi, faint ydi’r bil? Tafarnwr: Dewch i mi weld, yr oedd yr ystafell yn – Teithiwr: Ches i ‘run ystafell, mi gysgais ar y bwrdd biliards. Tafarnwr: O felly mae yn swllt yr awr! Dorothy: Beth fuasai Mam yn ddweud pe buasai hi’n ein gweld ni fel hyn yn eistedd hefo’n gilydd ar lan y môr? Ifor Puw: Fuasai arna i ddim ofn eich cusanu chwi o dan drwyn eich Mam. Dorothy: Buasai yn llawer gwell gen i petaech yn fy nghusanu i dan fy nhrwyn! (Un i JBW) Wigwen Watkins y bargyfreithiwr enwog yn croesholi. Ho! yr ydych chwi yn ystyried fod y carcharor yn ddyn gonest ydych chwi? Tyst: Fu ‘run dyn gonestach erioed ar wyneb y ddaear yma. Wigwen Watkins (yn ffroenuchel) Fyddwch chwi gystal â dywedyd ar ba sail yr ydych yn gallu dweud hyny? Tyst: Ar y ffaith hon syr, iddo unwaith geisio mynd yn dwrne ac iddo fethu. JW

12

18

CRACIO’R COD 17 4

9

12

12 8

19

16

18 8

12

8 27

10

18

18

17

16 16

5

19

10

11

14

23

6

24

27

11

1

15

8

18

15

9

25

18

G

1

25 15

O

11

2

11

11 10

15

7

19

7

15

19

25 5

27

16 25

12

22

11

9

11

18

5 15

3

12

25

8

12

5

27

8

15

5

6

15

25

12

24

9

16 12

15

10

10

27

7

13

16

19

7 6

14

4

11

12

12 21

16

8

11

24

19

19 12

13

24

13

R

12

16

8

18

16

12

9

5

14 26

10

16

19

20

18

6

15

5

25

A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y 1

2

3

4

5

6

7

8

9

10

11

12

13

14

15

16

17

18

19

20

21

22

23

24

25

26

27

28

R

G

O

PH

Yn ôl un tyst, roedd angen cryn ystyried cyn cael unrhyw ddatrysiad i bos rhif 16, ond unwaith y dyfalodd y gair hir ‘dynwarediad’ roedd y gweddill yn syrthio i’w le. Mae pos 17 yn mynd i olygu tipyn bach o bendroni hefyd mi dybiaf. Os oes sylwadau, byddwn yn falch o’u clywed. Mae posib addasu (i raddau) a newid y llythrennau cliw os oes angen. Bwriedir gwneud llyfryn o’r holl bosau maes o law. Hwyl, Gerallt Rhun

ATEBION CRACIO’R COD 16

Llongyfarchiadau i Mrs Dilys A Pritchard-Jones, Abererch; Mary Jones, Dolgellau; Mai Jones, Llandecwyn; Bet Roberts, Ysgubor, Llanfair; Gwenfair Ayckroyd, Y Bala; Angharad Morris, Y Waun, Wrecsam; Gwenda Davies, Llanfairpwllgwyngyll; Mair Rich, Pantymwyn, Yr Wyddgrug; Anfonwch eich atebion i Cracio’r Cod at Phil Mostert. [Manylion ar dudalen 2].


GARDDIO Margaret Roberts Dyma ni yn nhymor yr hydref ac wedi mwynhau haf arbennig, ond efallai braidd rhy sych i ni arddwyr. Erbyn hyn, mae’r glaw wedi cyrraedd a’r borderi yn dechrau edrych braidd yn foel a blêr. Mae angen mynd ati i docio dipyn ar y llwyni sydd wedi ymledu gormod, eu codi a’u teneuo gan gadw’r tyfiant ifanc sydd o gwmpas ymyl y planhigyn a thaflu’r gweddill. Gallwch dannu ychydig o gompost a bwyd esgyrn cyn eu hailblannu. Mae’r potiau hefyd angen eu clirio a’u hailblannu. Mae digon o ddewis bylbiau yn y canolfannau garddio i blesio pawb a rhywbeth i edrych ymlaen amdano pan ddaw’r gwanwyn. Mae angen clirio’r hen flodau blwyddol sydd wedi rhoi sioe arbennig oherwydd y tywydd braf, newid y compost gan blannu’r bylbiau yn y gwaelod a phansis y gaeaf neu cyclamen ar eu pennau i’n cadw i fynd trwy’r gaeaf ac i edrych yn ddeniadol. Mae ambell i hen rosyn wedi ei godi a’i daflu a rhywbeth fel Alstromeria yn cael ei blannu yn ei le. Mae hwn yn blanhigyn arbennig ar gyfer gwneud sioe o liw am fisoedd lawer gydag ychydig iawn o waith gofal. ‘Indian Summer’ yw’r un sy’n rhoi’r sioe orau yma. Mae’n werth ei gael mewn unrhyw ardd. Mae’r blodau hefyd yn cadw am amser hir mewn potyn yn y tŷ. Cofiwch fod angen eu tynnu, fel codi tatws, wrth hel yr hen flodau neu eu torri ar gyfer y tŷ. Mae hyn yn ysgogi tyfiant newydd ffres. Planhigyn arall sy’n ffynnu yma yw’r Agapanthus, mae hwn hefyd angen ei rannu pan mae wedi mynd yn rhy fawr. Ei godi gan ei hollti trwy’i ganol gyda rhaw finiog a dyna chi blanhigyn neu ddau arall i’w plannu mewn man arall yn yr ardd, yn rhad ac am ddim. Mae’r ardd lysiau wedi rhoi cnwd da o datws cynnar sydd wedi eu hen fwynhau, mae’r nionod wedi eu codi a’r ffa dringo yn dal i roi prydau blasus i ni. Does dim llawer o le yma ar gyfer gardd lysiau ond mi fyddaf yn plannu nionod sets mewn hen focs plastig dwfn, ei lenwi gyda mawn a chompost ac fe fyddaf yn cael cnwd reit dderbyniol ar gyfer y gegin. Mwynhewch fod allan yn yr awyr iach a’r gobaith y cawn haf bach Mihangel i leihau dipyn ar y gaeaf. MR

CALENDR 2023 DRWY’R POST

£7 fydd y gost am galendr drwy’r post. Gan fod y banc yn codi am bob siec, mae’n haws os talwch drwy BACS. Côd Sortio: 40-37-13 Rhif y Cyfrif: 61074229 Os g yn dda, anfonwch e-bost hefyd at: llaisardudwy@outlook.com i nodi eich cyfeiriad a’ch bod wedi talu drwy BACS.

13


Ieuan Gwyllt a’r Sol-ffa

John Bryn Williams

Y tro o’r blaen gwelsom fel y bu i John Roberts (1822–1877), neu Ieuan Gwyllt, a rhoi iddo ei enw barddonol, symud o Aberystwyth i Lerpwl yn is-olygydd ‘Yr Amserau’ o dan law Gwilym Hiraethog. Cafodd well cyfle yn y ddinas fawr i bledio’i ddaliadau gwleidyddol, yn enwedig y rhai mwy radical eu lliw. Ond ei hoff waith, a’r hyn a gofiwn amdano heddiw, oedd gwella caniadaeth y cysegr. Ym 1977, gan mlynedd ar ôl marw Ieuan, cyhoeddodd T J Davies gofiant byr ond taclus iawn iddo. Dywedodd mai prif nod Ieuan oedd ‘goleuo a glanhau chwaeth gerddorol’ y Cymry. Ac erys ein dyled iddo hyd heddiw. Yn Lerpwl, daeth Ieuan ar draws y wyddor Sol-ffa. Doedd ganddo fawr o olwg ar y drefn Sol-ffa ar y dechrau ond fe’i perswadiwyd gan ffrind iddo fod hon yn wyddor ardderchog i ddysgu plant, a rhai hŷn na phlant, hefyd sut i ganu a symud yn hwylus o un nodyn i’r llall. Y cyfaill yma oedd Eleazar Roberts (1825–1912) a aned ym Mhwllheli ond a dreuliodd ei oes yn gweithio fel clerc a gweinyddwr mewn swyddfeydd cyfreithwyr a llysoedd barn yn Lerpwl. Bu Eleazar Roberts yn cenhadu dros y Tonic Sol-ffa am flynyddoedd maith a daeth Ieuan Gwyllt i gydweld ag ef ynglŷn â gwerth y nodiant newydd. Gwelsant ei bod yn haws symud o un nodyn i’r llall ar hwn nag ar yr Hen

14

Nodiant fel y gelwid ef. Dyfais gwraig o’r enw Sarah Ann Glover oedd y gyfundrefn Sol-ffa ond gŵr o’r enw John Curwen a’i datblygodd fel y cofiwn ni hi. Mae pawb dros rhyw oed yn siŵr o fod yn cofio Curwen’s Modulator ar fachyn yn y festri hefo’r plant yn mynd i fyny ac i lawr ar y doh re mi ffa ac ati. Dysgodd llawer un ganu’r piano a’r organ gan ddarllen y Sol-ffa yn hytrach na’r Hen Nodiant. A bu Sol-ffa fel manna o’r nefoedd i gorau gan ei gwneud hi’n haws i gantorion ddarllen cerddoriaeth a dysgu darnau yn hwylus ac yn fuan. Ac mae llawer un yn dibynnu ar y Tonic Sol-ffa o hyd. Arwydd o hyn yw bod casgliad ar ôl casgliad o emynau Cymraeg wedi cael argraffiad Sol-ffa yn ogystal â’r un hen nodiant. Ac yn wir felly yr ymddangosodd y Caneuon Ffydd, a hynny yn dri argraffiad – un i’r geiriau yn unig, un cas glas i’r Hen Nodiant ac un cas coch i’r Sol-ffa. Ond nid pawb oedd mor gefnogol i’r drefn newydd. Digon ysgafn ydi Daniel Owen yn ei nofel Enoc Huws o’r codwr canu modern, Eos Prydain, a’i fforch diwnio ac roedd ambell un mwy piwritanaidd na’i gilydd yn gweld gwaith y diafol ei hun yn y Tonic Sol-ffa. Un o`r rhain oedd Jane Hughes neu Deborah Maldwyn a rhoi iddi ei henw barddonol. Mae Dr Meredydd Evans yn rhoi ei hanes yn y gyfrol ‘Merêd’ sy’n ddetholiad o’i ysgrifau. Merch yr hen bregethwr John Hughes, Pontrobert oedd Deborah Maldwyn. Roedd wedi ei magu yn sŵn y Diwygiad Methodistaidd hefo’i ganu teimladol blêr gyda’r addolwyr

yn teimlo’r Ysbryd yn eu cynhyrfu i orfoleddu gan weiddi a slyrio. Byddai canu fel hyn yn anathema i rywun fel Ieuan Gwyllt neu Eleazar Roberts. Eu gwaith hwy a gondemnir gan Deborah, sydd yn eu cyhuddo hwy a’u tebyg o ‘ddrysu’r nefol gân’ ac o ‘ddiffodd ysbryd Iesu’. Cyfansoddodd yr hen wraig gân yn taranu yn erbyn y drefn newydd o ganu, ymhlith pethau eraill. Y teitl oedd ‘Cân ar Niwed Pechodau’r Oes’ ac roedd Sol-ffa yn un o`r pechodau hynny. Roedd y rhai a ddysgai eraill i ganu i’w taflu i’r pydew tân ynghyd â phechaduriaid eraill. Wna i ddim dyfynnu a manylu sut bechaduriaid o ran parch i’r golygyddion! Mewn cân arall mae Deborah yn sôn am ‘Ryw gythraul o’i go yn canu soh do’. Ond wrth edrych yn ôl ar ddoe hefo sbectol heddiw mae’n bosib ystyried fod gan yr hen wraig bwynt digon dilys. Efallai bod yr holl bwyslais a fu ar Sol-ffa a chyfarfodydd canu wedi peri i ni fel cenedl roi rhy ychydig o sylw i bethau eraill llawn cyn bwysiced. Cyn gadael y Sol-ffa, dyma un atgof. Rwy’n cofio yn Nhremadog y byddid yn cynnal cyfarfod bach neu eisteddfod a hynny ychydig cyn Gŵyl yr Ysgol Sul. Yr un fyddai’r testunau cerdd â rhai’r ŵyl fawr i ddod, a rhoddai’r cyfarfod bach gyfle i bawb ddysgu ac ymarfer y darnau gosod a chael beirniadaeth adeiladol cyn wynebu gynnau mawr capeli’r Port. Roedd yna wythawd yn cystadlu; y gweinidog wedi paratoi gyda saith o gantorion disgleiriaf y capel. Penderfynodd rhai o’r aelodau eraill ei bod yn biti braidd nad oedd ond un wythawd yn cystadlu a dyna hel parti arall ar y noson gan ymarfer ym mhen draw y maes parcio. Canodd y parti cyntaf yn daclus ddigon ond aeth yr ail barti i drafferthion yn syth. Rhoddwyd ail gynnig arni – a mynd yn ffliwt yr ail dro. Doedd y trydydd cynnig fawr gwell chwaith. Ar hynny dyma’r beirniad canu’n codi ar ei draed a deud, ‘Fysach chi’n lecio cael ei solffeuo hi gynta?’ Sôn am gywilydd. JBW


HYSBYSEBION

Telerau gan Ann Lewis 01341 241297 ALAN RAYNER

ALUN WILLIAMS

ARCHEBU A GOSOD CARPEDI

GALLWCH HYSBYSEBU * Cartrefi YN Y * Masnachol BLWCH HWN * Diwydiannol Archwilio a Phrofi AM £6 Y MIS

07776 181959

Sŵn y Gwynt, Talsarnau www.raynercarpets.co.uk

NEAL PARRY Bwlch y Garreg Harlech

Llais Ardudwy

TRYDANWR

Ffôn: 07534 178831

e-bost:alunllyr@hotmail.com

CYNNAL A CHADW TU MEWN A THU ALLAN 07814 900069

Drwy’r post Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr llaisardudwy@outlook.com E-gopi llaisardudwy@outlook.com £11 y flwyddyn am 11 copi

CAE DU DESIGNS DEFNYDDIAU DISGOWNT GAN GYNLLUNWYR

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

Tafarn yr Eryrod

JASON CLARKE

Bwyd cartref blasus Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad a golchi llestri. 01766 770504

Llanuwchllyn 01678 540278

Maesdre, 20 Stryd Fawr Penrhyndeudraeth LL48 6BN

GWION ROBERTS, SAER COED 01766 771704 / 07912 065803

gwionroberts@yahoo.co.uk dros 25 mlynedd o brofiad

Glanhäwr Simdde • Chimney Sweep Glanhäwr Simdde

Stryd Fawr, Harlech Gwynedd LL46 2TT

Gwasanaeth Cadw Llyfrau a Marchnata

01766 780239

ebost: sales@caedudesigns.co.uk

Dilynwch ni:

Oriau agor: Llun - Sadwrn 10.00 tan 4.00

E B RICHARDS Ffynnon Mair Llanbedr 01341 241551

CYNNAL EIDDO O BOB MATH Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

Gosod, Cynnal aaChadw Stôf Stôf Gosod, Cynnal Chadw Stove Installation & Maintenance 07713703 703222 07713 222

H Williams ro gu di u ff ra rg a m A Talybont Ceredigion SY24 5HE www.ylolfa.com

Holwch Paul am bris! paul@ylolfa.com

01970 832 304

Gwasanaeth cynnal a chadw yn eich gardd Ffôn: 01766 762329 07513 949128

Am hysbysebu yn Llais Ardudwy? Manylion gan: Ann Lewis Min-y-môr Llandanwg, Harlech LL46 2SD 01341 241297

15


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN CYNGOR CYMUNED TALSARNAU

Gwasanaeth clodwiw Llongyfarchiadau i Eirian Evans, Soar sydd yn ddiweddar wedi cwblhau 40 mlynedd o weithio yn y Gwasanaeth Iechyd. Mae’n nyrs boblogaidd iawn a chafodd amryw o negeseuon ar Facebook yn ei chanmol i’r cymylau. Neuadd Gymuned Braf fydd cael cynnal ein Ffair Nadolig gyntaf ers cyn cyfnod y Cofid ar nos Iau, 1 Rhagfyr. Byrddau gwerthu ar gael am £5 y bwrdd. Rhif ffôn i holi - 01766 772960. Rhagor o wybodaeth i ddod yn Llais Ardudwy mis Tachwedd. Cofion at rai yn yr ysbyty Anfonwn ein cofion cynnes at Geraint Williams (Garej) sydd yn Ysbyty Glan Clwyd, wedi cael llawdriniaeth. Mae pawb ohonom yn meddwl amdano ac yn dymuno gwellhad buan iddo. Mae Geraint Rees Jones, Cilfor yn Ysbyty Alltwen ar hyn o bryd ac anfonwn ein cofion ato yntau a gobeithiwn y caiff ddod adref yn fuan. Cofion cynnes hefyd at Mai Jones, Bronallt, Llandecwyn sydd yn Ysbyty Gwynedd wedi cael llawdriniaeth. Rydym yn meddwl amdani ac yn edrych ymlaen am ei gweld yn ôl yn ein mysg hefo’i phen-glîn newydd!

am 7.00 yn y Neuadd Gymuned TALSARNAU

16

Neuadd Gymuned Talsarnau Nos Iau, 20 Hydref am 7:30 Sgwrs ddifyr gan Len Jones am Bob Owen Croesor, yr ysgolhaig a’r casglwr llyfrau. Paned ar y diwedd. Dim tâl mynediad.

Capel Newydd HYDREF 2 - Dewi Tudur 9 - Dewi Tudur 16 - Dafydd Job (dathlu’r deugain!) 23 - Adrian Brake 30 - Dewi Tudur TACHWEDD 6 - Dewi Tudur. Ar Sul, Hydref 16eg byddwn yn dathlu deugain mlynedd ers i Dewi gychwyn ar ei weinidogaeth yn yr eglwys ac yn yr ardal. Hêd amser!

Trefnwyr Angladdau

• Gofal Personol 24 awr • Capel Gorffwys • Cynlluniau Angladd Rhagdaledig

Heol Dulyn, Tremadog. Ffôn: 01766 512091 post@pritchardgriffiths.co.uk

Camerau CCTV Mae’r gwaith o osod yr offer yn Llandecwyn wedi ei gwblhau ond bod adran Technegol Dŵr Cymru wedi datgan nad oedd yn bosib cysylltu i’w system nhw am eu bod ofn bygythiad cyber, ond eu bod yn ddigon parod i ni ddefnyddio eu hystafell. Bydd gennym ein lein ein hunain ar yr 20fed o’r mis. Mae’r camerâu ar ochr Maentwrog yn gweithio’n barod. CEISIADAU CYNLLUNIO Ffurfio ffordd fynediad newydd Caerffynnon Hall, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn. Newid defnydd rhan o’r golchdy presennol i ddarparu cyfleusterau arlwyo bwyd allan i ddefnyddwyr y safle yn unig - Safle Gwersylla a Charafanau Barcdy, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn. Cynyddu uchder y penty presennol, a thynnu’r simdde - 9 Stryd Bryn, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn. Cyngor Gwynedd – Tîm Tacluso Ardal Ni Bydd y gweithlu yn dechrau ar eu gwaith yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd yn bosib derbyn ceisiadau drwy system fewnol y Cyngor o’r enw FFOS drwy ddilyn y ddolen http://www. gwynedd.llyw.cymru/timtacluso. Byddant yn gweithio oddi fewn i ardaloedd 30 mya. Cytunwyd i anfon y cyswllt hwn ymlaen i bob Aelod. Cyngor Gwynedd – Adran Economi a Chymuned Derbyniwyd llythyr gan yr uchod yn gwahodd Aelodau’r Cyngor i ddigwyddiad ‘Ardal Ni 2035’ Bro Ardudwy yn Theatr y Ddraig, Bermo ar y 26ain o’r mis hwn rhwng 6.15 a 8.30 o’r gloch. Bydd Dewi Tudur Lewis ac Owen Lloyd Roberts yn mynychu’r digwyddiad hwn ar ran y Cyngor. Parc Cenedlaethol Eryri Derbyniwyd llythyr gan yr uchod yn gwahodd yr Aelodau i’r cyfarfod blynyddol a gynhelir rhwng y Parc Cenedlaethol a’r Cynghorau Cymuned a chynhelir y cyfarfod hwn dros Zoom eleni ar y 25ain a’r 27ain o Hydref.


Arddangosfa Geiriadur Prifysgol Cymru

Merched y Wawr Talsarnau Cafwyd dechrau da i dymor newydd cangen Talsarnau o Ferched y Wawr ar ddydd Mercher 21 Medi 2022. Roedd amryw wedi methu bod gyda ni am amrywiol resymau, ac rydym yn cofio am y rhai nad ydynt yn dda ar hyn o bryd. Gobeithio y bydd pawb yn gwella yn fuan ac y cawn eich cwmni eto yn y cyfarfod nesa ar bnawn Llun 3 Hydref am 2 o’r gloch, pryd y bydd Sioned Costa yn cynnal pnawn o waith llaw. Braf oedd cael gwybod ein bod wedi cael dwy aelod newydd i’r gangen, a chroesawn nhw yn gynnes atom. Naw ohonom a ddaeth at ein gilydd, a dechrau’r dydd wrth ymweld ag Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy. Cawsom amser diddorol wrth weld ffilm fer o hanes y gwleidydd ac yna crwydro’r amgueddfa a’r bwthyn lle y’i magwyd. Diolch i staff yr Amgueddfa am y croeso. Yn dilyn yr ymweliad aethom ymlaen i Dyddyn Sachau, Y Ffôr, a chael cinio bendigedig yno. Bu sgwrsio braf a mwynhau cwmni ein gilydd cyn crwydro o amgylch y Ganolfan Arddio. Roedd y blodau a’r planhigion yn werth eu gweld. Manteisiodd sawl un ar y cyfle i brynu! Cafwyd amser ardderchog ac edrychwn ymlaen at y cyfarfod nesa.

Wedi cyfnod o arwahanrwydd, mae’n ryddhad ac yn bleser medru cymdeithasu unwaith eto, a gweld ein hoff ddigwyddiadau lleol a chenedlaethol yn cael eu hatgyfodi. Pwysig iawn i’n pobl ifanc oedd medru dod at ei gilydd i baratoi ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd ac yn Ralïau Sirol Mudiad y Ffermwyr Ifanc, a phwysig iawn i’n cymunedau yw medru cynnal digwyddiadau lleol, gan gynnwys y sioeau amaethyddol. Geiriau eraill am sioe a welir yn y Geiriadur yw siew, siaw, siow, a preimin neu primin, sef ‘Sioe (amaethyddol); cystadleuaeth aredig, ras aredig, clwb troi; gwobr a enillir mewn sioe neu gystadleuaeth o’r fath’. Dyma air bendigedig, sydd ar lafar yn y Gogledd, Ceredigion, a Sir Gâr, yn ôl tystiolaeth y Geiriadur. Oes gair neu ymadrodd lleol gennych chi am sioe? Rhowch wybod i’r Geiriadur os gwelwch yn dda. Mae’r Geiriadur yn diffinio sioe fel ‘Arddangosfa, yn enw. un dros dro lle dangosir casgliad o luniau, anifeiliaid, llysiau, blodau, &c. ... unrhyw

beth sy’n denu sylw cyhoeddus’. Diffinnir arddangosfa fel ‘Casgliad o wrthrychau a arddangosir i roddi pleser, hyfforddiant, &c. ...’, ac ar hyn o bryd, yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, mae yna arddangosfa o’r enw Geiriau, sy’n olrhain hanes geiriadura yng Nghymru, ac yn dathlu canmlwyddiant Geiriadur Prifysgol Cymru. Mae’r arddangosfa yn ddigon o sioe, sy’n rhoi cyfle i weld geiriaduron cynnar prin o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol, ynghyd ag eitemau o archifau’r Geiriadur sy’n darlunio ei hanes o’i sefydlu ym 1921, a’i ddatblygiad o oes y papur a’r pensil i’r oes ddigidol. Mae’r arddangosfa ar agor tan 12 Tachwedd, felly manteisiwch ar y rhyddid i fedru cymdeithasu unwaith yn rhagor, gan alw i mewn i’r Llyfrgell Genedlaethol i weld yr arddangosfa, gan obeithio y bydd yn rhoi pleser, a hyfforddiant (os mynnwch)! Medrwch gysylltu â ni drwy ein gwefan, ar e-bost (gpc@geiriadur. ac.uk), neu drwy ysgrifennu i’r cyfeiriad canlynol: Geiriadur Prifysgol Cymru, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH

Geraint Williams, Gwrach Ynys, Talsarnau 01766 780742 / 07769 713014 www.gwyneddmobilemilling.com

*MELIN LIFIO SYMUDOL Llifio coed i’ch gofynion chi Cladin, planciau, pyst a thrawstiau

*COED TÂN MEDDAL

WEDI EU SYCHU Netiau bach, bagiau mawr a llwythi ar gael

*GWAITH ADEILADU AC ADNEWYDDU

*SAER COED

Ffoniwch neu edrychwch ar ein gwefan

17


HARLECH Sefydliad y Merched Harlech Croesawyd yr aelodau gan y llywydd Jan Cole, nos Fercher, 14 Medi. Cafwyd munud o ddistawrwydd fel teyrnged i Elizabeth II a fu farw yn ddiweddar. Canwyd y gân Meirion wedi ei recordio gan y llywydd. Dymunwyd yn dda i bawb oedd yn sâl, a rhoddwyd cardiau pen-blwydd i bump aelod oedd yn dathlu y mis yma. Darllenwyd y cofnodion am fis Gorffennaf; doedd dim cyfarfod ym mis Awst. Cafwyd cyfrif banc gan y Trysorydd; rydym newydd gael gwybod bod Lloyd’s Pwllheli yn cau. Trefnwyd tîm i fynd i’r cwis ac i wahanol gyfarfodydd hyd at y Nadolig. Cafwyd sgwrs ddiddorol iawn gan Jayne Windmill sydd wedi cychwyn ar ysgrifennu llyfrau. Roedd yn sgwrs ddiddorol a hwyliog iawn. Diolchwyd iddi gan y llywydd. Cawsom hanes yr oedd Sheila Maxwell wedi ei drefnu ar ail-agor y Llyfrgell ar 22 Medi. Fe fydd y cyfarfod nesaf ar 12 Hydref a bydd Gwen a Caroline yn gwneud cardiau. Croeso i unrhyw un ymuno â ni yn y Neuadd, Harlech ar nos Fercher am 7 o’r gloch. Teulu’r Castell Bydd Teulu’r Castell yn ailgychwyn yn Neuadd Goffa Llanfair brynhawn dydd Mawrth, 11 Hydref am 2.00 o’r gloch. Bydd Christine Freeman yn dangos gwaith llaw a wnaeth trwy’r cyfnod Covid-19. Mae croeso i unrhyw un ymuno â ni.

Cylch Meithrin Harlech

Wel am hwyl mae plant Cylch Meithrin Harlech yn ei gael. Fel y gwelwch, mae pawb wedi ymgartrefu yn y Cylch sydd yn Ysgol Tanycastell, ynghyd â’r arweinydd newydd Catrin White. Diolch i bawb am bob cymorth.

Yn 30 oed

HAMDDEN HARLECH CAFFI’R PWLL NOFIO ar gael drwy’r dydd: Brecwast Byrbrydau Paneidiau Galwch draw, digonedd o le parcio!

18

Pen-blwydd hapus iawn i’r pedwar bach yn y llun. Alex Manning, Hydref 7 [mab Denise, Tanforhesgan]; Emily Roberts, diwedd y flwyddyn [merch Gareth a Wendy]; Leah O’Neill, Medi 30 [merch Carol a Steve]; a Catrin Owen, mis Medi, [merch Dafi a Gwen].


TEYRNGED I BRIAN EVANS

Brian John Evans

Ganed Brian yn Whitchurch, Swydd Amwythig yn 1932 a daeth i Harlech yn ei arddegau hwyr pan symudodd ei fam a’i dad i reoli Gwesty’r Queens. Yma y cyfarfu â chariad ei fywyd Bronwena, Bron fel y byddai’n ei galw. Yn 1952, gadawodd Brian Harlech i gwblhau ei Wasanaeth Cenedlaethol yn RAF Hednesford lle cafodd ei gyflogi fel mecanic a gyrrwr a chafodd ei ddyrchafu’n Gorporal gyda gofal yr adran MT yn RAF Poling, Sussex. Ar ôl cwblhau ei wasanaeth cenedlaethol, dychwelodd i Harlech dim ond i ddarganfod bod ei rieni yn dychwelyd i Swydd Amwythig, ond roedd Brian wedi syrthio mewn cariad â Bron a phenderfynodd wneud Harlech yn gartref iddo. Symudodd i fyw at Peggy (chwaer Bron) a Haydn ym Maes yr Haf a chael gwaith yn Green Garage, Abermaw. Yn 1955, priododd ei annwyl Bron a chroesawyd ef i deulu Min y Don. Prynodd Brian a Bron eu cartref cyntaf ‘Brodawel’ lle magwyd tri o blant, Gerald, Colin a Wendy. Wedi peth amser yn Green Garage, symudodd Brian i weithio gyda Gwilym o Garej Bontddu a dyna lle y bu nes iddo ymddeol. Byddai wrth ei fodd yn hel atgofion am yr hen ddyddiau yn gweithio gyda’r hogiau yn y garej. Roedd Brian yn berson cyfeillgar a

byddai’n mwynhau cerdded i lawr maes carafanau Min y Don yn siarad gyda phobl. Yn wir, fe ddaeth yn werthwr answyddogol i’r busnes nes i’r teulu ymddeol. Yn 2011, symudodd Brian a Bron i’w byngalo newydd ‘Brig y Wern’. Dioddefodd Brian golled fawr yn 2017 pan fu farw Gerald ei fab hynaf ac wyth mis yn ddiweddarach bu farw ei annwyl wraig Bron. Byddai’n treulio ei oriau yn gwylio’r hen recordiadau fideo yr oedd wedi’u gwneud o’u gwyliau niferus dramor. Pan ddaeth Medwyn (Jones) i’r tŷ yn ddiweddar cafodd y pleser o ailfyw diwrnod ei briodas ar fideo a’r nesaf ar y rhestr oedd Rhian (Lumb) - y dyddiad i’w drefnu. Roedd yn hoff iawn o gerddoriaeth a byddai’n eistedd ac yn chwarae’r piano nes ei fod wedi meistroli darn cerddorol. Byddai’r radio ymlaen peth cyntaf yn y bore a’r stereo yn chwarae ei gasgliad o hen recordiau finyl yn y prynhawn. Pan fyddai’r tywydd yn caniatáu byddai’n treulio’r oriau yn yr ardd. Bu’n aelod o Seindorf Harlech am flynyddoedd. Ef ac Emlyn Griffiths fyddai’r criw gosod, yn llwytho cadeiriau a’r drwm mawr ac wrth gwrs yn dod â’r cyfan yn ôl ar ddiwedd y dydd. Cafodd ef a Bron nifer o deithiau pleserus yn teithio gyda’r band i nifer o gystadlaethau. Roedd Brian yn cael ei adnabod gan lawer o enwau, sef Brian Queens, Brian Bontddu, Brian Min y Don, Yncl Bri, a Dad. Roedd yn ŵr bonheddig a thawel a mae’n anodd dychmygu bywyd hebddo. Diolch Dymuna Wendy a Colin ddiolch yn fawr am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli eu tad, Brian. Roedd pob gair caredig a cherdyn yn gymorth mawr.

Gwefru trydan Mae Cyngor Gwynedd wedi cychwyn ar y gwaith o osod y peiriant hwn ym maes parcio Bron y Graig uchaf yn Harlech. Hen bryd hefyd!

Hwb Harlech Llun o’r arddangosfa gynhaliwyd yn Hwb Harlech yn ddiweddar. Mae hanes yr agoriad swyddogol ar y dudalen flaen.

Eglwys Llanfihangel-y-traethau

CYFARFOD DIOLCHGARWCH

Dydd Sul, 16 Hydref am 11.30 gydag Andrew Jones Archddeacon

Capel Jerusalem

Hydref 2 Parch Iwan Ll Jones am 2.00 Hydref 30 Br Phil Mostert am 4.00

CYFARFOD BLYNYDDOL CYFEILLION ELLIS WYNNE Dydd Mercher, 23 Tachwedd am 6.30 yr hwyr yn yr Hen Lyfrgell, Harlech Agored i bawb

19


YSGOL ARDUDWY

Erbyn hyn, mae’r disgyblion a ddaeth i mewn ar ddechrau Medi wedi dod i arfer â threfn yr Ysgol Uwchradd. Yn sicr, mae’r cyfnod yma yn un sydd yn mynd i fod yn newid mawr iddyn nhw ond hyd yma mae’r llwybr wedi bod yn esmwyth iawn a’r ffordd o fyw o ddydd i ddydd wedi bod yn weddol ddidrafferth. Mae’n bwysig cofio bod Cyfeillion yr Ysgol yn dal yn brysur. Un o’r gweithgareddau ydi’r Clwb 100, sy’n codi arian yn gyson. Ar hyn o bryd, mae yna gyfle i chi ddod yn rhan ohono drwy gyfrannu £10 am y flwyddyn ysgol, wedyn bydd cyfleon i ennill gwobrau misol. Mae’r arian o’r weithgaredd yn mynd tuag at brynu offer i ddisgyblion yr ysgol. Mae’n bosib derbyn taflen gofrestru gan staff y swyddfa. Ewch amdani a gobeithio y byddwch yn lwcus. Hefyd, mae’n rhaid diolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu tuag at y gwahanol elusennau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Cynhaliwyd sawl diwrnod diwisg ysgol neu wisgo mewn coch, gwyrdd ayyb, gyda’r canlyniad anhygoel a ganlyn – MacMillan (£272), Dangos y Cerdyn Coch (£199.69), Plant Mewn Angen (£342.05), siwmper Nadolig (£205), Ymgyrch Wcráin (£684), Trwyn Coch (£243), Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl drwy wisgo gwyrdd (£237) a’r gêm bêldroed i MacMillan (£205). Mae hyn yn dod a chyfanswm anhygoel o £2,387.74 drwy eich caredigrwydd chi. Diolch yn fawr.

Wedi cyfnod hir o aros, mae’r disgyblion bellach yn cael mynd allan ar waith er mwyn gwella eu haddysg. Cafodd disgyblion B11 sy’n astudio daearyddiaeth daith i Benllyn er mwyn mesur yr afon Lliw yn Llanuwchllyn. Cafwyd diwrnod braf i wneud y gwaith hefyd. Gwelwyd cydweithio ymysg y disgyblion er mwyn casglu’r wybodaeth a chael canlyniadau. Da ydi gweld y math yma o weithgaredd yn dychwelyd i’r amserlen a hyn wedi amser maith.

20

sicr. Dyma ni yn edrych yn ôl bron i dair blynedd i hyn. Mae disgyblion B7 yr adeg honno bellach wedi cychwyn ar eu cyrsiau TGAU! Felly, doedd dim syndod pan ddaeth cyfle i gael gafael ar docynnau i weld Manchester City yn chwarae yn erbyn Dortmund yng Nghwpan Ewrop, a’r tocynnau rheini’n mynd ar amrantiad – dyna ddigwyddodd. Bydd hanes a lluniau’r daith yn y rhifyn nesaf.

Mae’r timau chwaraeon wedi eu sefydlu gyda’r gobaith y daw llwyddiant i’w rhan yn ystod y flwyddyn nesaf. Yn ogystal, gwelwyd nifer o ddisgyblion yn disgleirio mewn timau Rhanbarthol megis RGC. Gobeithio y gallwn weld mwy o hynny eto. Rhaid edrych yn ôl i Tachwedd 2019, pan aeth criw o’r ysgol i ymweld â Stadiwm Pêl-droed am y tro diwethaf. Nid oedd hon yn gêm ddi-nod chwaith gan fod Cymru yn herio Hwngari am le yng ngemau terfynol Euro 2020. Llwyddwyd i ddod yn fuddugol y noson hon a chafwyd taith werth chweil yn

Yn ddiweddar, cafwyd newyddion o Awstralia bell bod Cymro Cymraeg wedi llwyddo i ennill lle yng ngharfan Rygbi Cynghrair Cymru dan 19 oed. Ei enw ydi Gethin Thomas. Nid yw wedi byw yma nac ychwaith ym Mhenrhyndeudraeth lle mae teulu ei dad wedi byw ers blynyddoedd ond y mae’n rhugl yn iaith ei deulu. Mae Gethin yn fab i gyn-ddisgybl Ysgol Ardudwy sef Alan Thomas. Cafodd Alan hefyd lwyddiant yn y maes chwaraeon wrth chwarae pêl-droed i Gymru dan 18 oed a chystadlu mewn cystadlaethau athletau. Erbyn hyn, mae Alan yn teithio’r byd fel llawfeddyg. Cofiwch gadw llygad am Gethin; bydd yn siŵr o wneud ei farc gyda’r bêl hirgron yn y dyfodol agos. Llongyfarchiadau cynnes iawn iti Gethin.

R J Williams Honda Garej Talsarnau Ffôn: 01766 770286


Newyddion Tanycastell

RHODDION I’R YSGOL Hoffem ddiolch yn fawr i Farchogion Ardudwy am y rhodd ariannol o £1000 i’r ysgol. Bydd yr arian yn mynd tuag at adnoddau ffitrwydd i’w rhoi ar iard yr ysgol. Hefyd hoffem ddiolch i Glwb Beicio Ardudwy am eu rhodd o feiciau cyd-bwyso a beiciau ar gyfer y disgyblion ieuengaf. Diolch yn fawr iawn.

Y CYNGOR YSGOL Bu disgyblion B3-6 yn pleidleisio ar gyfer aelodau newydd ar gyfer y Cyngor ysgol eleni. Dyma’r aelodau newydd: Henry Greenwood, Isabella Harcourt, Jac Rissbrook, Jessica Roberts, Zane Woolley (B6); Yvonne Poulton, Thanasis Walters (B5); Hetty Howard, Eddie Matthews (B4); Delilah Williams a Turner Coles (B3). Byddant yn cyfarfod o leiaf unwaith bob hanner tymor i drafod materion amrywiol yn ymwneud â’r ysgol ac i bennu elusennau y byddwn yn eu cefnogi yn ystod y flwyddyn. Llongyfarchiadau cynnes iddyn nhw.

CYNGOR CYMUNED HARLECH Croesawyd Mr Geraint Williams i’r cyfarfod i drafod goleuadau Nadolig. Cafodd dau o’r goleuadau eu difrodi yn y storm fis Mawrth diwethaf. Roedd am ofyn i Gyngor Gwynedd a fyddai’n bosib cau rhywfaint o faes parcio Bron y Graig Isaf ar 26 Tachwedd pan gynhelir y noson Nadolig. Roedd y Ffair Fop sy’n digwydd ddiwedd Gorffennaf yn llwyddiant. Cytunwyd i gyfrannu £1,500 i Mr Williams eleni er mwyn iddo archebu mwy o oleuadau Nadolig. MATERION YN CODI Cae Chwarae Brenin Siôr V Caiff yr offer ei atgyweirio yn fuan. Unwaith y bydd yr arian gan y Clwb Beicio wedi ei drosglwyddo, bydd yn bosib archebu offer ymarfer ffitrwydd. Nododd Emma Howie ei bod wedi bod yn ymchwilio i grantiau sydd ar gael. Bu trafodaeth ynglŷn â gosod bolards ger cae chwarae Llyn y Felin ac adroddodd Christopher Braithwaite ei fod yn dal i aros i glywed ynglŷn â’r mater hwn. Mae angen gwybod a yw ardaloedd y goliau wedi eu hadnewyddu a chytunodd Huw Jones holi ynglŷn â hyn. Cytunwyd i archebu hysbysfwrdd newydd fel yr un yn y dref er mwyn ei osod ar y llecyn tir ger Siop y Morfa. Rhandiroedd Mae Mrs Stephanie Evans a Mr Lee Warwick yn bwriadu hysbysebu bod rhandiroedd ar gael i’w rhentu a bod angen gwybod rhifau y rhai oedd ar gael. Adroddodd y Clerc ymhellach ynglŷn â hyn a datganodd ei bod wedi cael gair gyda’r Cadeirydd a’i bod yn meddwl y byddai’n well aros nes byddai’r safle wedi ei dacluso cyn hysbysebu, ond roedd hysbyseb wedi ei roi ar y gwelyfr eisoes. Hefyd adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod gan Ms Paula Ireland ei bod wedi cysylltu gyda Mr Meirion Griffith ynglŷn â thacluso’r safle. Cafwyd gwybod gan Huw Jones bod rhai â diddordeb mewn rhentu rhandir a chytunwyd iddynt wneud hyn. Mae 5 rhandir ar gael i’w rhentu. CEISIADAU CYNLLUNIO Codi ystafell ardd unllawr newydd ar slab concrit presennol a gwaith tirwedd gysylltiedig - Hafod Wen. Cefnogi’r cais hwn. Codi tŷ gyda lefelau ar wahân (marchnad agored) – Tir i gefn Dôl Aur, Hen Ffordd Llanfair. Cefnogi’r cais hwn.

21


Ymwelydd pur annisgwyl i’r Hendre yn Awst 2022 - gan Morfudd Jones Dyma gar dieithr yn cyrraedd yr iard yma yn Hendre Waelod a minnau wrthi yn ceisio twtio ryw fymryn ar yr hen dŷ. Mam a’i mab oedd yna yn gwasgu ar lythyr yr oedd fy nain wedi ei ysgrifennu, ac wedi ei yrru at rieni y ddynes ddaeth i’r Hendre. Erbyn hyn mae’r ddynes yn 85 oed. Lle mae hyn yn arwain clywaf chi yn gofyn! Wel Audrey oedd enw’r ddynes 85 oed. Yn ôl yn 1944, yr oedd hi yn ferch fach 7 oed. Ei rhieni a hitha wedi bod yn aros yn Harlech ar eu gwyliau. Un diwrnod ym mis Mehefin ddaru iddyn nhw grwydro ar hyd llethrau’r Moelfre. Daeth y niwl i lawr a chollwyd Audrey ar y ffriddoedd. Fe ddaeth ei rhieni i lawr i’r Hendre ac aeth llanciau ifanc y Cwm allan i chwilio am y ferch oedd ar goll. Wel William Lewis (Evans) ddaeth o hyd iddi yn swatio ym môn clawdd. Yr oedd yn fwd drosti yn ôl ei geiriau hi ei hun. Arweiniwyd hi i lawr y mynydd gan William Lewis y noson honno, a hithau yn tynnu at 10.00 yr hwyr. Yr oedd wedi crafu’r ddaear er mwyn cadw’n gynnes. Roedd y mwd wedi sychu ar ei dwylo bychain ac wedi caledu o dan ei hewinedd. Dywedwyd wrthym bod fy nain wedi golchi ei dwylo yn ofalus pan gyrhaeddasant yr Hendre, lle’r oedd ei rhieni yn aros amdani. Mae hi yn cofio hynny fel ddoe, a chyffyrddiad llaw William Lewis yn ei harwain o’r mynydd. Yn anffodus, collodd William Lewis ei fywyd mewn amgylchiadau trist iawn wrth iddo foddi yn afon Nantcol ar Awst 6, 1944. A chyfeirio at yr anffawd hwnnw mae fy Nain yn ei llythyr at deulu Audrey. Mae Audrey wedi cadw’r llythyr hyd heddiw. Wedi derbyn calendr oedd fy nain cyn Nadolig 1944. Roedd yn anfon at Audrey i ddiolch am y calendr a gafwyd ac adroddodd y newydd trist am dranc William Lewis, yn lanc ifanc 18 oed yn nŵr yr afon Nantcol; ar ddiwrnod poeth ar brynhawn Sul ac oedfa yn hen Gapel y Cwm. Mae’n debyg iddi ddod sawl gwaith i ymweld â’r ardal, a hynny yn yr wyth degau, ond nid oedd wedi mentro tan

Martin Payne yng nghwmni ei fam, Audrey

22

Audrey yng nghwmni Morfudd Jones rŵan i alw heibio. Biti garw. Byddai wedi cyfarfod â Nain a Dad pryd hynny, a brodyr William Lewis. Ond rwyf yn falch fy mod wedi clywed am y digwyddiad pan oeddwn yn blentyn. Mor bwysig ydi trysori ar gof a chadw hen atgofion y gorffennol Yr oedd yn gwybod am fan claddu William Lewis ym mynwent Gwynfryn ac roedd yn bwriadu rhoi potyn blodau arno yn ddiweddarach y pnawn hwnnw - er parch i’r un a fu yn arwr, y gŵr ifanc ddaru ei hachub yr holl flynyddoedd yn ôl. Y gŵr ifanc ddaru alluogi iddi hi briodi a magu theulu. Mor eironig. Yr oedd Audrey yn holi a oedd yna berthnasau yn y Cwm heddiw yn perthyn i William Lewis. Atebais yn gadarnhaol a dweud eu bod yn byw ym Maesygarnedd ac anogais iddynt alw yno. A hynny a fu. Yr oedd William a Gwyndaf a’r teulu gartref ac roedd modd iddyn nhw gael sgwrs am eu dewyrth a’u hen ddewyrth a chafwyd cyfle i ddangos hen luniau ohono. Rhyfedd o fyd! Yr oedd Audrey yn methu Wil Evans, Gwyndaf ac Eleri â deall sut yr oedd pawb Evans, Maesygarnedd yng yn adnabod ei gilydd yn y nghwmni Audrey Cwm, ac yn rhyfeddu bod teuluoedd wedi aros yma cyhyd. Diolch i’r teuluoedd am eu Fel y dywedodd fy Nain cymorth gyda’r stori a hefyd i yn y llythyr, ‘it was a terrible shock to us as we Audrey a Martin am dynnu’r lluniau. [Gol.] are all very attached to each other in this valley’.


Prysurdeb Donna

Mae’r rheolwraig newydd Donna Morris-Collins wedi gwneud rhyfeddodau ers iddi gael ei phenodi yn bennaeth Hamdden Ardudwy Harlech. Pan gyrhaeddodd, roedd y pwll yn wag oherwydd nad oedd gan y ganolfan achubwyr bywydau i alluogi’r cyhoedd i nofio. Erbyn dechrau mis Awst, mewn pryd ar gyfer gwyliau’r haf, roedd y pwll yn llawn a darganfuwyd achubwyr bywyd i ofalu am y rhan fwyaf o’r sesiynau yn ystod y tymor prysur. Mae Donna, sy’n enedigol o Harlech, yn frwd dros gadw’r Ganolfan ar agor i bobl Ardudwy. ‘Bu’n her’, yn ôl Donna. ‘Mae angen mwy o achubwyr bywyd i’n galluogi i gynnig rhaglen nofio lawn ac rydym yn gobeithio cynnal sesiwn hyfforddi yn yr hydref i annog pobl leol i ennill cymwysterau.’ Mae Donna a’r Bwrdd hefyd yn bwriadu ehangu’r ystod o weithgareddau yn y ganolfan. Yn ogystal ag amser prysur ar y wal, yn y pwll ac yng nghaffi’r Ganolfan, mae’r tîm, gydag ychydig o help gan ffrindiau a theulu, wedi dechrau plannu blodau mewn teiars fel y cam nesaf yn y prosiect gardd gymunedol. Mae’n Ganolfan Ddi-elw sy’n cael ei rhedeg gan y gymuned er budd y Gymuned gyda Bwrdd Rheoli gwirfoddol a thîm o staff a gwirfoddolwyr ffyddlon. Byddai

croeso mawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn helpu. Gwnaed cynnydd ar dir Canolfan Hamdden Harlech Ardudwy. Dydi’r pentwr o deiars ddim yng nghornel y maes parcio mwyach. Mae’r teiars bellach yn eu lle ac wedi eu plannu. Gosodwyd nhw wrth ochr y coed, sydd eisoes wedi hen sefydlu, fel ail gam gwella tiroedd y Ganolfan. Meddai Donna, y rheolwraig newydd, ‘Dim mwy o deiars, diolch, ond yr ydym yn croesawu rhoddion o fylbiau, yn enwedig cennin Pedr.

Rydym yn gobeithio gweithio gyda disgyblion Ysgol Ardudwy i blannu rhain yn gynnar y mis nesaf.’ Hwn fydd y cam nesaf yn y broses o wella’r tiroedd a chynnwys pobl o’r gymuned leol yng ngwaith eu Canolfan. Rydyn ni wedyn yn gobeithio symud tuag at blannu llysiau yn barod ar gyfer y gwanwyn. Erbyn mis Hydref, pan fydd ysgolion lleol o arfordir Ardudwy yn dychwelyd i’w gwersi nofio ym Mhwll Harlech Ardudwy, bydd amserlen nofio wythnosol sefydlog, gyda rhai rhaglenni arbennig Calan Gaeaf yn ddiweddarach yn y mis. Ar hyn o bryd, mae Donna yn ymdrechu’n galed i ddod o hyd i grantiau i alluogi gwersi nofio am ddim yn wythnosol i bensiynwyr a phlant ddychwelyd. Gobeithir hefyd ailddechrau sesiynau Bingo yng nghaffi’r pwll yn ystod yr hydref hwn.

Staff a gwirfoddolwyr y Caffi fu’n brysur yn paratoi ar gyfer y Noson Gyri a gynhaliwyd yn y Caffi nos Sadwrn, 24 o Fedi. Gwerthwyd bob tocyn. Roedd yr elw yn mynd tuag at redeg y Ganolfan. Diolch i bawb am gefnogi.

23


Bywyd gwyllt yr ardd

I’W GWNEUD YM MIS HYDREF

Lluniwch domen o ddail ar gyfer anifeiliaid sy’n treulio’r gaeaf yn yr ardd; ychwanegwch mwy o foncyffion coed i ehangu’r apêl ar gyfer ystod ehangach o bryfed, neu adeiladwch ‘westy’ i bryfed. Lle bydd hynny’n bosib, gadewch i eiddew heb ei dorri flodeuo gan ei fod yn ffynhonnell hwyr ardderchog o neithdar ar gyfer pryfed sy’n peillio ac mae’r aeron yn parhau’n hwyr i’r gaeaf. Llenwch eich bwydwyr adar a gosodwch fwyd ar y ddaear ac ar y byrddau adar. Byddwch yn ofalus wrth droi tomenni compost gan fod llyffantod, brogaod ac anifeiliaid bach eraill yn hoff o gysgodi ynddyn nhw.

Crëwch ‘westy’ pryfed gyda thwmpathau o frigau neu fonion gweigion. Cofiwch gadw’r baddon adar yn lân ac yn llawn a’i lanhau’n rheolaidd. Lle bod hynny’n bosibl, gadewch bennau hadau ar flodau i ddarparu bwyd a chysgod ar gyfer bywyd gwyllt.

YN YR ARDD Peidiwch â chael eich siomi os na fydd adar yn bwyta’r bwyd pwrpasol ar eu cyfer. Mi fyddan nhw’n parhau i fwynhau bwyd naturiol, fel aeron y gelynnen, nes y bydd hwnnw’n prinhau. Mae mamaliaid bach yn dechrau mynd i safleoedd gaeafgysgu, felly gosodwch flwch gaeafgysgu i ddraenogod mewn rhan ddistaw o’r ardd a pheidiwch ag aflonyddu ar loÿnnod byw fel y fantell goch sy’n treulio’r gaeaf fel oedolion mewn siediau gardd.

Mae llawer o loÿnnod byw, fel y fritheg fach, yn dal o gwmpas, ynghyd â phryfed hofran a’r fuwch goch gota. Er bod y siani flewog neu lindys yn bwyta planhigion, gadewch iddyn nhw fod os allwch chi, gan fod gwyfynod a gloÿnnod byw’n ffurfio rhan o ardd iach a chytbwys – mae’r oedolion yn beillwyr a’r lindys yn hanfodol fel bwyd i adar sy’n nythu. Ymysg y planhigion sy’n darparu bwyd i lindys gloÿnnod byw mewn gerddi mae eiddew, celyn, hopys, nasturtium, ysgall, a’r ddraenen ddu.

Pedwarawd ar y blaen

Elfyn, Stephen, Iwan a Neal uwchben eu digon Enillwyr y gystadleuaeth i bedwarawdau yng Nghlwb Golff Dewi Sant, Harlech, oedd Elfyn Anwyl, Stephen Doran, Iwan Evans a Neal Parry. Roedd y gystadleuaeth boblogaidd hon yn arfer cael ei noddi gan gwmni gwirodydd Courvoisier, sy’n adnabyddus am gynhyrchu’r brandi o safon uchel. Mae gan deulu’r perchnogion gysylltiad hir gyda thref Harlech. Yn yr hen ddyddiau, roedd yr enillwyr yn cael potel fel gwobr ac roedd gwydrau niferus yn cael eu hyfed yn y Clwb. Erys y gystadleuaeth yn un boblogaidd ond mae pethau wedi newid erbyn hyn!


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.