Llais Ardudwy Ionawr 2023

Page 1

Llais Ardudwy

GWOBRAU I FAES GWERSYLLA

LLUNIAU O’R ARDAL GAN WYN EDWARDS

Er bod y cyfnod o dywydd oer a gafwyd cyn y Nadolig yn sioc i’r system wedi inni gael tywydd cymharol fwyn ym mis Tachwedd, roedd y golygfeydd godidog yn yr ardal yn werth eu gweld. Diolch i Wyn Edwards, Dyffryn Ardudwy, sydd wedi ennill sawl gwobr am ei ffotograffiaeth, am ei barodrwydd i rannu’r lluniau isod efo ni.

Llongyfarchiadau calonnog i Aled ac Eleri Jones a’r tîm sy’n rhedeg Maes Gwersylla Rhaeadr Nantcol yng Nghwm Nancol ar gael eu dewis gan gwmni Campsites. co.uk fel y lleoliad gorau trwy Wledydd Prydain am nofio gwyllt. Derbyniodd Rhaeadr Nantcol hefyd yr ail wobr am y ‘lleoliad allanol’ gorau - ‘The Great Outdoors Award’.

Coron ar eu llwyddiannau diweddar oedd cael eu henwi ymhlith y deg uchaf trwy Wledydd Prydain gan ‘Flogas’ a gomisynodd yr ymchwil ar feysydd pebyll ger afonydd lle mae’n bosib nofio ynddyn nhw.

RHIF 527 - IONAWR 2023
£1
Cricieth a bryniau Eifionydd o Ardudwy Moel y Blithcwm, Diphwys a Moelfre o dan eira Moel Hebog o draeth Llandanwg Maes Gwersylla Rhaeadr Nantcol

GOLYGYDDION

1. Phil Mostert

Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com

2. Anwen Roberts

Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com

3. Haf Meredydd

Newyddion/erthyglau i: hmeredydd21@gmail.com 01766 780541, 07483 857716

SWYDDOGION

Cadeirydd

Hefina Griffith 01766 780759

Trefnydd Hysbysebion

Ann Lewis 01341 241297

Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com

Trysorydd

Iolyn Jones 01341 241391

Tyddyn y Llidiart, Llanbedr

Gwynedd LL45 2NA llaisardudwy@outlook.com

Côd Sortio: 40-37-13

Rhif y Cyfrif: 61074229

Ysgrifennydd

Iwan Morus Lewis 01341 241297

Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com

CASGLWYR NEWYDDION

LLEOL Y Bermo

Grace Williams 01341 280788

Dyffryn Ardudwy

Gwennie Roberts 01341 247408

Mai Roberts 01341 242744

Llanbedr

Jennifer Greenwood 01341 241517

Susanne Davies 01341 241523

Llanfair a Llandanwg

Hefina Griffith 01766 780759

Bet Roberts 01766 780344

Harlech

Edwina Evans 01766 780789

Ceri Griffith 07748 692170

Carol O’Neill 01766 780189

Talsarnau

Gwenda Griffiths 01766 771238

Anwen Roberts 01766 772960

Gosodir y rhifyn nesaf ar 3

Chwefror a bydd ar werth ar 8

Chweforor. Newyddion i law Haf

Meredydd erbyn diwedd Ionawr os gwelwch yn dda. Cedwir yr

hawl i docio erthyglau. Nid yw’r golygyddion o angenrheidrwydd yn

cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

Dilynwch ni ar ‘Facebook’ @llaisardudwy

CÔR MEIBION ARDUDWY

Bu’r Côr yn canu carolau yn Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy ar y cyd â Cana-mi-gei ganol mis Rhagfyr pan gafwyd noson gyda naws Nadoligaidd hyfryd. Aled Morgan Jones oedd yn arwain y canu gydag Idris Lewis yn cyfeilio. Wedyn bu’r Côr yn Nineteen57 yn Nhal-y-bont wythnos cyn y Nadolig gyda’r gynulleidfa ar eu traed yn cymeradwyo ar ddiwedd y sesiwn ganu!

Byddwn yn ailgychwyn ar yr ymarferion ar 8 Ionawr pan gynhelir y Cyfarfod Blynyddol. Cyfarfod gweddol fyr fydd hwnnw. Os ydych yn gallu canu ac awydd ymuno â ni, dyma’r amser delfrydol i ddod yn aelod. Mae taith i’r Almaen o’n blaenau ym mis Hydref. Fel arfer, byddwn yn cynnig llefydd ar yr awyren i gyfeillion y Côr. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni ar y daith, rhowch wybod yn fuan. Mae’n debyg y bydd y llefydd yn brin!

Addunedau Blwyddyn Newydd

Ymhlith yr addunedau mwyaf poblogaidd a wneir mae cyfrannu mwy at achosion da, bod yn fwy blaengar neu gwneud mwy i warchod yr amgylchedd.

Mae’r canlynol yn addunedau poblogaidd hefyd:

• Gwella iechyd

• Colli pwysau

• Gwneud mwy o ymarfer corff

• Bwyta’n iach

• Yfed llai o alcohol

• Stopio ysmygu

• Peidio cnoi ewinedd

• Gwella sefyllfa ariannol; dileu dyled, cynilo mwy

• Datblygu gyrfa: cael gwell swydd

• Gwella addysg: cael canlyniadau gwell

• Dysgu rhywbeth newydd (megis iaith dramor neu gerddoriaeth), astudio’n amlach

• Gwella hunan: i fod yn fwy trefnus, delio’n well â straen, rheoli amser, bod yn fwy annibynnol

• Gwylio llai o deledu, chwarae llai o gemau fideo

• Teithio mwy

• Gwirfoddoli i helpu eraill, rhoi i achosion da

• Meithrin gwell perthynas gydag eraill

• Lleihau yfed alcohol

• Ehangu cylch ffrindiau

• Arbrofi mwy gyda bwydydd o dramor

Os ydych wedi gwneud addewid eleni, buasem yn falch iawn o glywed gennych chi. Buasem yn medru cadw golwg ar eich cynnydd tuag at y nod a chyhoeddi erthyglau achlysurol yn Llais Ardudwy am eich hynt [a’ch helynt!].

Buasai’n braf gweld nifer fawr o’n darllenwyr yn addunedu i sgwennu pwt i Llais Ardudwy bob hyn a hyn. Mae’n her fawr cadw’r papur i fynd heb fod ugeiniau o bobl wrth gefn i gyfrannu yn ôl eu gallu. Diolch i bawb sydd eisoes yn cyfrannu a chroeso cynnes i bobl eraill sy’n addunedu i helpu i gynhyrchu papur difyr a darllenadwy.

2

Pont y Bermo

Mae gweithio yn ystod y gaeaf a dibynnu ar gael mynediad ar gyfnodau o drai wedi golygu bod cynllunio’r gwaith yn her. Bu cryn grafu pen er mwyn penderfynu sut i fynd ati.

Penderfynwyd cael dau graen mawr yn gweithio o ganol y bont at y ddwy lan gyda gwagle rhyngddynt. Mae hwn yn ddull arloesol o weithio a bu raid cynnal arbrofion er mwyn cadarnhau na fyddai’r cwbl yn dymchwel wrth osod coed y llawr.

Ni fydd yn newydd i breswylwyr Ardudwy fod gwaith cynnal a chadw yn digwydd ar y bont. Er hynny, bûm yn meddwl beth yn union yw’r gwaith sy’n cael ei wneud. Diddorol oedd dod ar draws erthygl yn New Civil Engineer gan Rob Horgan yn manylu ar y gwaith. Erthygl ar gyfer peirianwyr ydi hi ond mae’n cynnwys llawer o ffeithiau diddorol. Meddyliais y buasai gan ddarllenwyr Llais Ardudwy diddordeb hefyd. Dyma ichi grynodeb; os ydych chi am ddarllen yr erthygl ewch i <https://www.newcivilengineer. com/the-future-of/future-ofbridges-network-rail-breathesnew-life-into-barmouths-timberviaduct-25-10-2022/>

Mae BR yn edrych ar ôl tua 30,000 o adeileddau a dim ond naw o’r rhain sy’n bontydd pren. Pont y Bermo, sy’n 860m o hyd, yw’r hiraf ac mae’n debygol mai hi yw’r mwyaf trawiadol. Mae’n dyddio’n ôl i 1868. Mae’n heneb restredig ac mae’r gwaith atgyweirio yn cydnabod hynny. Bydd y rhan o’r bont oedd yn arfer agor i longau tal yn cael ei hadnewyddu ond fel adeiladwaith deniadol yn unig. Hefyd bydd rhybedi, sy’n addurniadol yn unig, yn cael eu hychwanegu er mwyn cadw delwedd wreiddiol y bont.

Strwythur y bont sydd bwysicaf, wrth gwrs, ond mae manylion fel hyn yn cael sylw manwl gan beirianwyr British Rail a’r contractwyr, Alun Griffiths.

Er mwyn cadw’r bont yn agored, caiff y gwaith ei wneud dros dair blynedd, a hynny yn ystod y gaeaf. Trwsio ac adnewyddu’r gwaith coed sydd wedi cael blaenoriaeth yn ystod y ddwy flynedd gyntaf o’r gwaith. Adnewyddwyd 53 allan o 565 o ddistiau coes, 119 o 226 o ddistiau croes ongl, 81 o 113 o ddistiau traws a gosodwyd 109 sylfaen concrid newydd a thrwsio 70 ohonyn nhw. Gosodwyd y cyfan o’r distiau llawr yn newydd i gyd a 226 o’r coed derbyn.

Pren a elwir yn ‘greenheart’ o Gyuana, De America gaiff ei ddefnyddio yn lle’r coed pîn gwreiddiol. Mae’r coedyn hwn yn hynod o galed a bu’n rhaid cael llafnau llifio arbennig i’w drin. Yn wahanol i goed arferol, mae mor drwm fel nad yw’n arnofio. Disgwylir i’r bont bara am tua 60 mlynedd heb angen gwaith adnewyddu sylweddol yn ystod y cyfnod hwnnw.

Y prif waith yn y cam olaf fydd adnewyddu’r rhannau haearn yn y rhan o’r bont oedd yn arfer agor, gosod trawstiau haearn newydd a glanhau a pheintio. Rhagwelir y bydd hyn yn digwydd yn 2023. Nid yw’r dyddiadau wedi’u pennu, ond mae’n debyg o fod tua’r un amser o’r flwyddyn â’r gwaith presennol.

3
IJ
Llun: Network Rail

Ysgol Gynradd Llanbedr

Pêl-droed, pêl-droed a phêl-droed ydi hi ’di bod yn Ysgol Llanbedr dros yr hanner tymor diwethaf. Mae’r plant wedi cael ystod o brofiadau ac wedi cwblhau llwyth o waith o amgylch y thema ee dod i adnabod tîm Cymru, gwledydd y byd, cadw’n iach fel chwaraewyr a pherfformio sgript fel sylwebydd. Roedd hyd yn oed ein cyngerdd Nadolig wedi ei seilio ar ‘Y Gêm Fawr!’

Diolch i dîm Cymru am yr ysbrydoliaeth a’r atgofion, a llongyfarchiadau i’r Ariannin!

Grŵp Llanbedr - Huchenfeld

Rydym yn chwilio am aelodau newydd i’r grŵp uchod. Mae Llanbedr wedi gefeillio efo

Huchenfeld yn yr Almaen ers 2008 ac mae’r cysylltiad yn mynd yn ôl ymhellach na hynny. Yn ystod yr amser yma mae llawer o gydweithio a chyd-gyfathrebu wedi digwydd rhwng y ddau le.

Fel grŵp, rydym yn awyddus i hybu a datblygu’r cysylltiad ac felly hoffwn estyn gwahoddiad i unrhyw un sydd awydd ymuno efo ni fel unigolyn neu fel cynrychiolydd o unrhyw fudiad lleol.

Os oes gennych ddiddordeb

cysylltwch â:

Susanne Davies

ebost: susannejdavies@aol.com

Gallwch hefyd gysylltu ag unrhyw aelod o’r Grŵp.

Gwelsom y cerdyn Nadolig hwn mewn pentref bach yng nghylch yr Arctic yn y Ffindir!

Dymunwn anfon cyfarchion at ein holl gyfeillion yn ardal Llanbedr a dymuno Nadolig Bendithiol a Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch.

Hyderwn y bydd 2023 yn flwyddyn well i bawb. Mae gennym un dymuniad mawr, wrth gwrs, sef y bydd pob rhyfel yn dod i ben, nid yn unig y rhyfel yn yr Wcráin. Gyda’n dymuniadau gorau, Wolfgang a Petra

Cymdeithas Cwm Nantcol

Ar nos Wener, Rhagfyr 16, cawsom ein cinio blynyddol yng Nghlwb

Golff Dewi Sant ar y cyd ag aelodau o Gôr Meibion Ardudwy a chyfeillion eraill. Cafwyd cinio blasus iawn a diolchwyd i Arwel Jones a’i staff am eu gwaith gwych.

Roedd 14 gwobr yn y raffl ac o ganlyniad roedd nifer dda yn gwenu wedi’r tynnu!

Catrin Angharad o Gaerwen, Ynys Môn oedd yn diddori. Fe wnaeth hynny’n rhagorol gan ganu nifer o’i hoff garolau i’w chyfeiliant ei hun a hefyd arwain y 60 ohonom wrth inni ganu rhai o’r hen ffefrynnau. Cafodd pawb eu plesio’n fawr gan ansawdd yr adloniant.

Diolchodd Meirion Richards, Isgadeirydd Côr Meibion Ardudwy, i Catrin a’r chauffeur am noson o adloniant pur.

Diolch hefyd i ‘Noson Allan’ am eu parodrwydd i noddi’r adloniant. Cynhelir ein cyfarfod nesaf ar nos Fawrth, 10 Ionawr pan fydd Gwenan Gibbard yn dod atom i drafod canu gwerin efo ni.

Dringo can copa

Llongyfarchiadau i Iolyn Jones, Tyddyn y Llidiart ar gyflawni’r gamp o ddringo can copa yn ystod y flwyddyn. Roedd wedi gosod y nod iddo’i hun i wneud hyn cyn iddo gyrraedd pen-blwydd nodedig. Tipyn o gamp!

4 LLANBEDR, CWM BYCHAN
A NANTCOL
Llun: BBC Catrin Angharad Plant Ysgol Gynradd Llanbedr yn eu Cyngerdd Nadolig
O HUCHENFELD
BLWYDDYN NEWYDD DDA

Clwb Cawl Llanbedr

Am brynhawn hyfryd gafodd Clwb Cawl Llanbedr ar brynhawn Iau, 8 Rhagfyr. Roedd yr addurniadau Nadolig a cherddoriaeth yn ychwanegu at yr awyrgylch cartrefol. Darparwyd cinio ysgafn ar gyfer criw o ferched ac un bonheddwr.

Enillwyd cystadleuaeth yr addurniadau Nadoligaidd cartref gan Cynthia Jones, Maureen Griffiths a Betty Taylor ac enillwyd rhagor o wobrau raffl. Gorffennwyd y prynhawn gyda sgwrs gan Dilwyn Morgan o’r Bala a’n diddannodd i gyd gyda straeon digri o’i blentyndod. Diolch Dilwyn am yr hwyl. Cafodd pawb ddiwrnod hyfryd iawn.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi mynychu’r Clwb Cawl am y pum mlynedd diwethaf. Dros y cyfnod hwnnw, bu’n bleser darparu gwasanaeth amhrisiadwy. Diolch hefyd i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi gwneud y Clwb Cawl yn llwyddiant. Diolch ichi i gyd.

Capel y Ddôl

Cynhaliwyd gwasanaeth Nadolig bendithiol ac amrywiol ddydd Sul, 18 Rhagfyr gyda chriw da o aelodau yn bresennol. Roedd y gwasanaeth dan ofal Morfudd Lloyd, Tyddyn Hendre ac Eleri Jones, Cefn Uchaf. Diddanwyd ni gan driawd, sef Gwenan Owen, Eleri Jones ac Elliw Jones yn canu’r garol swynol, ‘Anwylyn Mair’. Cafwyd deuawd swynol gan Aron Jones ac Iwan, sef ‘Trysor y Coed’ a hefyd unawd gan Aled, sef ‘Haleliwia’. Gwych iawn! Cyflwynodd Mari Wyn Lloyd adroddiad ac englynion yn ymwneud â’r Ŵyl.

Cafwyd naws y Nadolig gyda’r gynulleidfa yn ymuno. Diolchwyd i’r rhai fu’n cymryd rhan a hefyd i’r gyfeilyddes, Heulwen Jones ac anfonwyd ein cofion at y rhai oedd yn methu â bod yn bresennol, yn enwedig Gretta Benn. Ar ddiwedd y gwasanaeth, mwynhawyd lluniaeth blasus wedi’i baratoi gan Morfudd ac Eleri a dymunwyd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

GJ

flwyddyn newydd eich arwain at iechyd, hapusrwydd a llwyddiant.

Cyhoeddiadau

Capel y Ddôl

IONAWR 2023

8 Mrs Glenys Jones

15 Mr Iwan Morgan

22 Aneirin Owen

29 Dim gwasanaeth

CHWEFROR

5 Morfudd Lloyd - yng Nghapel Nantcol

CALENDR

Mae ychydig ar ôl!

Pris: £7.00 drwy’r post

5
Dilwyn Morgan ac Annwen Hughes, Crafnant, Llanbedr.
Blwyddyn Newydd dda i bawb o’n darllenwyr. Boed i ddrws y
LLAIS ARDUDWY

LLANFAIR A LLANDANWG

Terrence Graham John Jones

Gyda thristwch y clywsom am farwolaeth Terry Jones, Bryn Tanwg, Llanfair, ar 16 Rhagfyr.

Yn gyn-ymgynghorydd ariannol, roedd yn ŵr i Maureen, yn dad i Stephen, Karen a Graham, ac yn daid hoff i’w holl wyrion.

Merched y Wawr

Wedi cystudd hir iawn, trist yw gorfod cofnodi marwolaeth Caerwyn Roberts, Sgubor, Llandanwg. Roedd yn adnabyddus i lawer iawn ymhell y tu hwnt i ffiniau Ardudwy. Fe wasanaethodd ei gyd-ddyn yn anrhydeddus iawn mewn nifer o wahanol feysydd a dringodd i fod yn gadeirydd y Fainc Ynadon yn ogystal â bod yn gadeirydd Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri.

Er hynny, bydd pobl Ardudwy yn

ei gofio am ei wasanaeth clodwiw i’w ardal, i fyd amaeth, byd addysg, ein bywyd diwylliannol a gwaith cynghorau lleol.

Rydym yn meddwl am ei deulu i gyd, yn arbennig ei wraig Bet ac am ei blant Iwan, Iola a Bryn a’u teuluoedd yn ystod yr amser anodd hwn. Hyderwn y bydd modd cynnwys

coffâd llawn iddo yn ein rhifyn nesaf.

R J Williams Honda

Yn ŵr ifanc, bu Terry’n chwarae pêldroed i Glwb Pêl-droed Tywyn. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yn Amlosgfa Bangor ddydd Mercher, 4 Ionawr, a chasglwyd cyfraniadau er cof am Terry er budd yr MND Association a Dementia UK, dan ofal Pritchard a Griffiths, Tremadog. Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf â Maureen, y plant a’r teulu oll, yn eu colled fawr.

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR

MATERION YN CODI

Llinellau melyn ger Stesion

Llandanwg

Adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu gyda Swyddog o Gyngor Gwynedd ynglŷn â hyn ac wedi cael gwybod bod y mater gyda’r Gwasanaeth Cyfreithiol a bod yr amserlen i’w roi yn y papur newydd wedi llithro ychydig. Maent yn gobeithio bydd y rhybudd yn y papurau newydd cyn y Nadolig.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Diwygiad ansylweddol i ganiatâd materion a gadwyd yn ôl i osod paneli ffotofoltäig ar y drychiad blaen, gosod pwmp ffynhonnell gwres aer, ehangu i un ffenestr to yn y cefn, ail-leoli ffenestr to arall, a newid uchder y grib - Tir ger Tyddyn Llwyn, Llandanwg. Cefnogi’r cais hwn.

Ffôn: 01766 770286

Addasiadau a thrwsio ffermdy presennol - Tyddyn y Gwynt, Llanfair. Gwrthwynebu’r cais hwn oherwydd nad oedd y cynlluniau yn gweddu â chymeriad y tŷ gyda’r holl wydr.

GOHEBIAETH

SARPA

Gwahoddwyd y Cyngor i ymuno â SARPA, grŵp defnyddwyr rheilffordd sy’n pwyso i wella’r gwasanaeth rheilffordd. Mae tâl o £10 i ymuno â’r grŵp. Cytunwyd na ddylid ymuno.

Croesawodd Eirlys pawb i’r cyfarfod ac roedd brwdfrydedd yr aelodau yn amlwg. Roedd gan bawb oasis gwlyb wedi’i osod yn barod ar hambwrdd petryal, blodau amrywiol a deiliach o bob math, a phawb yn ysu i gychwyn gwneud y trefniant blodau dan arweiniad Edwina. Roedd hi yn ei wneud yn sydyn a mor ddi-drafferth ac roedd yn werth ei weld. Wedyn ein tro ni aelodau, pawb wrthi’n frwdfrydig a’r ymdrechion yn werth eu gweld, a phawb yn mynd adref gyda threfniant hardd.

Diolchodd Eirlys i Edwina am noson bleserus. Bronwen oedd yn gyfrifol am y baned, y mins pei â’r bisgedi Berffro oedd yn cloi noson arbennig. Enid enillodd y raffl. Roedd Bronwen wedi cymryd rhan yn y Gwasanaeth Llith a Charol a gwnaed casgliad o £265 tuag at Fanc Bwyd Blaenau. Dymunwyd Nadolig Llawen i bawb, a gan fod Bronwen yn cael ei phenblwydd y diwrnod hwnnw, canwyd pen-blwydd hapus iddi.

PLYGAIN yn Eglwys Llanfair

Ionawr 11, am 7.00

Os hoffech gyfrannu at y swper eto eleni neu helpu ar y noson, cysylltwch â Haf Meredydd os gwelwch yn dda [manylion cyswllt y tu mewn i’r clawr]. Hefyd, mae parti Plygain y Lasynys yn ymarfer ym

Mhenrhyndeudraeth ar brynhawn Sul, 8 Ionawr am 3.00 o’r gloch.

6
Garej Talsarnau
Cyfeillion Ellis Wynne

Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau

Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk

BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG

CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF

MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI

Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant

Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil

Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod

Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant

PORTHMADOG PWLLHELI ABERMAW 01766 512214/512253 01758 612362 01341 280317

60 Stryd Fawr Adeiladau Madoc Stryd Fawr office@bg-law.co.uk

Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd …

STORI’R SGEWYLL

Dydi cinio Dolig ddim yn ginio Dolig heb ’sgewyll [sprouts] nac ydi! Mae hon yn stori sy’n dod i’r cof gen i bob Dolig ac mae’n hollol wir, wrth gwrs. Mi oedd Mam yn aros efo ni rai blynyddoedd yn ôl pan oedd y plant yn fach. Ac wrth stwna yn y gegin, mi sylwodd fod Janet yn torri croes ar bob un o’r ’sgewyll er mwyn hwyluso’r coginio. Yna pan aeth Mam adref i Sir Fôn, fe soniodd am y torri croes yn y ’sgewyll wrth fy chwaer. ‘Syniad da,’ meddai honno. A dyna hi’n torri croes ar bob un o’r ’sgewyll - ond nid ar y gwaelod fel Janet, ond ar draws y top! Wrth gwrs, wrth iddyn nhw gael eu berwi, fe agorodd bob un ohonyn nhw fel blodau ac mi oedd y llysiau yn debycach i fresych. Erbyn hyn, rydan ni’n torri’r ’sgewyll yn eu hanner cyn eu coginio; gweithio’n dda hefyd! PM

Llais Ardudwy

Mae ôl-rifynnau i’w gweld ar y we. http://issuu.com/ llaisardudwy/docs neu https://bro.360. cymru/papurau-bro/

7
SAMARIAID LLINELL GYMRAEG
08081 640123

DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT

Gwasanaeth Nadoligaidd

Fore Sul, 18 Rhagfyr, cynhaliwyd

Gwasanaeth Nadolig Horeb.

Trefnwyd y gwasanaeth gan

Meryl ac Elen ac roedd y capel wedi ei addurno’n hardd iawn gan

Meryl a Mai. Cymerwyd rhan gan yr oedolion a phlant yr Ysgol Sul. Gwnaeth y plant eu rhan yn ardderchog a chanu’n dda, a phawb yn falch o’u gweld.

Diolchodd Huw Dafydd i Meryl ac Elen am y trefniadau trylwyr ac am hyfforddi’r plant. Casglwyd nwyddau ar gyfer y banc bwyd yn y Bermo.

Noson Garolau

Daeth criw da i Neuadd Bentref

Dyffryn Ardudwy ar nos Fawrth, 13 Rhagfyr i fwynhau canu carolau. Croesawyd pawb gan Jennifer Yuill a diolchodd i’r aelodau ffyddlon o Bwyllgor ’81 o dan arweiniad y diweddar Mrs Cartwright a Mr Telfer, am eu teyrngarwch i’r noson arbennig hon. Gobeithir parhau

â’u gweledigaeth i gasglu ynghyd i ddathlu’r Nadolig drwy gân yn y dyfodol. Diolch i’r ddau gôr lleol, sef Côr Meibion Ardudwy dan arweiniad

Aled Morgan Jones a’u cyfeilydd

Idris Lewis a Côr Cana-mi-gei dan arweiniad Ann Jones a’u cyfeilydd Elin Williams.

Diolch i’r criw am baratoi’r Neuadd, i bobl y baned ac i bawb am eu cefnogaeth yn gyffredinol.

Festri Lawen Horeb

Cynhaliwyd Cinio Nadolig y Festri Lawen yn Nineteen57 nos Iau, 8 Rhagfyr, ac roedd nifer dda yn bresennol. Croesawyd pawb gan y cadeirydd, John G Roberts. Yn dilyn y gwledda, cyflwynodd Mai, llywydd y noson, ein gwesteion Gwyn a Siri. Mae Gwyn yn adnabyddus iawn fel Arthur yn Rownd a Rownd, ac mae Siri, yn wreiddiol o Norwy, yn siarad Cymraeg yn rhugl.

Bu’r ddau yn sôn am draddodiadau Nadoligaidd Norwy a chanodd Siri dair cân yn ei mamiaith. Canodd Gwyn dair aria ac yna ymunodd pawb i ganu ‘O deuwch, ffyddloniaid’. Diolchodd Mai iddynt am gyflwyniad diddorol iawn.

Ar 12 Ionawr, byddwn yn cael sgwrs gan Caron Jones, Swyddog Gwastraff ac Ailgylchu Gwynedd.

Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb

IONAWR 2023

8 Edward ac Enid, 10.00

15 Cyfarfod Gweddi, 10,00

22 Parch Iwan Ll Jones, 5.30

29 Parch Bryn Williams, 5.30

CHWEFROR

5 Raymond Owen, 10.00

8
1875
Cymharu golygfa o’r pentref yn 1875 a 1905. Beth sy’n wahanol?

Y GEGIN GEFN

Pwdin siocled ac oren wedi’i stemio

Digon i wyth, barod mewn 35 munud.

Cynhwysion:

1 oren, a llond llwy fwrdd o sudd

Chwistrell coginio

100g blawd hunan-godi

50g powdr coco

½ llwy de o bowdr pobi

50g ymenyn neu fargarîn wedi ei

doddi

4 llwy fwrdd lefel o ronynnau melysu (sweetener granules)

4 ŵy mawr

Iogwrt neu fromage frais, i weini

Cyfarwyddiadau

1 Crafwch groen yr oren (zest), yna tynnwch y croen a’r pith, a’i sleisio’n denau yn 6-7 darn crwn.

Chwistrellwch bowlen wydr 1-litr gyda chwistrell coginio a threfnwch y sleisys o oren ar waelod y bowlen.

2 Cymysgwch y blawd, y coco, y powdr pobi a phinsiad o halen gyda’i gilydd. Mewn powlen arall, curwch yr ymenyn/margarîn a’r melysydd nes bydd yn ysgafn, yna ychwanegwch y crafiadau o groen oren (zest) a’r sudd. Cymysgwch pob ŵy i mewn gyda llond llwy fwrdd o’r gymysgedd blawd, yna ychwanegwch weddill y gymysgedd blawd a’i droi’n dda nes bydd wedi cymysgu’n dda.

3 Defnyddiwch lwy i daenu’r gymysgedd dros y sleisys oren. Gorchuddiwch y bowlen gyda ‘cling film’ a’i goginio yn y popty ping/ meicrodon ar ‘uchel’ am 5-6 munud (popty 800 wat). Gadewch y sbwng i oeri am 2-3 munud, yna thynnwch y ‘cling film’ a throi’r pwdin i blât.

4 Torrwch yn 8 darn a’i weini’n syth bin gyda’r iogwrt neu’r fromage frais

CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT

CYHOEDDIADAU’R CADEIRYDD

Gofynnwyd a fyddai’r Cyngor yn fodlon talu am logi’r Neuadd ar gyfer cyngerdd Pwyllgor ’81 yn y Neuadd ar y 13 Rhagfyr. Cytunwyd i wneud hyn. Diolchwyd i bawb oedd wedi helpu i osod y goeden Nadolig yn Nhal-y-bont.

MATERION YN CODI

Sul y Cofio

Bu’r gwasanaeth uchod yn llwyddiant unwaith yn rhagor, ond roedd problemau efo’r system sain; cytunodd Nia Rees ofyn i Mr Damian Williams am gymorth ar sut i’w ddefnyddio.

Coffad i Gyn-gynghorwyr sydd wedi ein gadael

Trafodwyd y mater uchod ac un syniad oedd archebu mainc a gosod plac arni er cof am y cyn-gynghorwyr sydd wedi ein gadael. Cytunwyd i adael y mater ar hyn o bryd a’i roi ar agenda mis Chwefror ac i bawb feddwl am syniadau eraill a fyddai yn dderbyniol.

Cyfarfod cyhoeddus gyda HAL – 24.11.22

Roedd y Cadeirydd yn siomedig gyda nifer y cyhoedd a ddaeth i’r cyfarfod er ei fod wedi cael ei hysbysebu mewn pryd; hefyd mynegodd siom nad oedd Cynghorwyr wedi anfon ymddiheuriad. Cytunwyd i drafod y mater ymhellach ym mis Ionawr.

GOHEBIAETH

SARPA

Gwahoddwyd y Cyngor i ymuno â SARPA, grŵp defnyddwyr rheilffordd sy’n pwyso i wella’r gwasanaeth rheilffordd. Mae tâl o £10 i ymuno â’r grŵp. Cytunwyd na ddylid ymuno.

Dewch i roi cynnig ar yrru’r

UNRHYW FATER ARALL

Mae landar yn rhydd ar y bloc toiledau yn Nhal-y-bont. Hefyd, mae angen peintio’r bloc toiledau i gyd.

Yaris Cross newydd!

Mae brigau coed yn cael eu tipio ger y fynwent a chytunwyd i gadw llygad ar hyn. Nid yw’r canllaw ar Bont Tal-y-bont byth wedi ei drwsio.

Gofynnwyd a fyddai’r Cyngor yn fodlon cyfrannu’n ariannol at Fanc Bwyd Bermo. Rhaid cael llythyr swyddogol yn gofyn am gyfraniad; byddai ceisiadau yn cael eu trafod ym mis Mawrth a mis Hydref. Bu’r nosweithiau ieuenctid yn llwyddiant, gyda 29 o blant yn mynychu, ond yn anffodus byddant yn dod i ben adeg y Nadolig.

Datganwyd pryder nad oedd y goeden Nadolig ger Canolfan Huws Gray byth wedi ei chodi a chytunodd y Cadeirydd ddelio gyda’r mater hwn.

Dewch i roi cynnig ar yrru’r

Yaris Cross newydd!

TOYOTA HARLECH

Ffordd Newydd

Harlech

LL46 2PS

TOYOTA HARLECH

Ffordd Newydd

01766 780432

Harlech

LL46 2PS

01766 780432

www.harlech.toyota.co.uk

info@harlechtoyota.co.uk

www.harlech.toyota.co.uk

info@harlechtoyota.co.uk

Facebook.com/harlechtoyota

Twitter@harlech_toyota

9

CORNEL NATUR Llygoden

o aderyny dryw eurben

Ffilm Fer Cwpan Olympus

Ysgrif gan y diweddar Wil Ifor Jones, y naturiaethwr (o’r Dyffryn), o’i lyfr ‘Cacwn yn y Ffa’, Llyfrau Llafar Gwlad (rhif 58), Gwasg Carreg Gwalch, Gorffennaf 2004. Diolch i deulu Wil a’r wasg am eu caniatâd i gyhoeddi ei erthyglau yn Llais Ardudwy.

Ein haderyn lleiaf sy’n cael y sylw y tro yma, llygoden o aderyn dim ond rhyw dair modfedd a hanner o hyd. Os cewch olwg arno, a rhaid bod yn sydyn gan ei fod yn hynod o aflonydd, gwyliwch am y rhimyn main, oren yn y ceiliog a melyn yn yr iâr, sydd rhwng dwy res ddu ar hyd ei gorun. Fel arall, mae’n llwyd wyrdd ar y cyfan ac yn olau oddi tano gyda dwy res wen ar yn ail â du ar ei adain.

Wedi manylu fel yna mae’n rhaid dweud mai rhyw aderyn bach i’w ddirnad bron yn hytrach na’i weld

yn iawn yw’r dryw eurben. Yn y gaeaf, bydd i’w weld yn aml yng nghwmni haid gymysg o ditw a’r un fath â’r rhain yw ei ymddygiad wrth iddo wau ei lwybr di-drefn rhwng y canghennau i gasglu ei fwyd o bryfetach o gilfachau rhisgl â’i big main.

Main iawn yw ei gân hefyd sef cyfres o wichiadau bychain hynod dreiddgar yn un llinell ar ôl ei gilydd. Clywir y gân yma yn y gwanwyn yn dod o goeden gonwydd, ywen neu gyprusen fel arfer. Yn y coed y bydd yn nythu ond nid oes raid iddo wrth goedwig ohonynt a gall ei amgylchedd cyffredinol fod yn goed collddail neu ddim ond yn lled goediog. Bydd yn gosod ei nyth yn agos i flaen y gangen gan weithio ei hymylon am y brigyn nes bydd yn hongian fel basged oddi tani. Bydd y cwbl wedi ei wneud o fwsog mân a gwawn ac wedi ei esmwytho â phlu oddi mewn. Yma y bydd yr iâr yn dodwy rhwng saith i ddeg o wyau gwyn wedi eu mân frychu ac ni fydd yn gori’r wyau am ychydig dros bythefnos.

Gwyliwch am yr aderyn bach yma os oes ywen neu gyprusen yn eich hymyl, ac yn y gwanwyn gwrandewch.

Efallai eich bod yn cofio neu wedi clywed sôn am longau yn cael eu dal yng Nghamlas Suez yn 1967. Mae gan Amgueddfa Forwrol Llŷn, Nefyn, gysylltiad unigryw â’r hanes hwn, sef bod Cwpan Olympus o’r Gemau Olympaidd bach a gynhaliwyd gan y criwiau llongau yn yr Amgueddfa. Diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o ‘Raglen Grant Amgueddfeydd Cymru a Chwpan y Byd’, mae ffilm fer newydd yn adrodd yr hanes. Dylan Jones o ‘Ar y Marc’ a’r ‘Post Prynhawn’ ar Radio Cymru sy’n lleisio’r ffilm, ac mae’r gwaith ffilmio a golygu gan Siôn Bryn Evans. Felly, ewch i dudalen YouTube yr Amgueddfa, sef @AmgLlynMus, i weld y ffilm.

10

STORI’R TWRCI

Clywais y stori hon ar Radio Cymru rai blynyddoedd yn ôl. Eitem oedd hi am bobl oedd yn paratoi i goginio Cinio Dolig am y tro cyntaf yn eu bywyd priodasol. A dyna glywed am y wraig oedd wedi paratoi popeth ymlaen llaw yn gydwybodol. Wrth iddi roi’r twrci yn y popty, gan ei bod yn ddibrofiad, rhoddwyd yr aderyn â’i ben i lawr! Bid a fo am hynny. Ymhen rhyw ddwy awr, daeth yn amser i dynnu’r papur gloyw er mwyn crasu mymryn ar gig y frest. A dyna pan sylweddolwyd y camgymeriad. Er hynny, aed ymlaen i dorri’r cig a llenwi’r platiau. Ac yn ôl y wraig ar y rhaglen, dyna’r cig twrci gorau iddi ei flasu! Mae hi’n dal i osod y twrci â’i ben i lawr hyd heddiw. Gair i gall! PM

ANGEN

TIWTORIAID DYSGU CYMRAEG

Annwyl olygydd

Ysgrifennaf atoch o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn y gobaith y bydd yr wybodaeth isod o ddiddordeb i’r darllenwyr.

Rydym eisiau lledaenu’r gair fod ysgoloriaeth gwerth hyd at £2,000 ar gael i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn gwybod mwy am fod yn diwtor Dysgu Cymraeg i oedolion neu athro/athrawes Cymraeg.

Mi fyddwn yn talu £500 yr wythnos i ymgeiswyr llwyddiannus, gan gynnig pythefnos yng Nghaerdydd yn dysgu mwy am faes Dysgu Cymraeg i oedolion a phythefnos mewn ysgol uwchradd yn arsylwi gwersi Cymraeg. Mi all ymgeiswyr llwyddiannus ddewis faint o wythnosau maen nhw’n dymuno eu gwneud.

Mae yna alw cynyddol am diwtoriaid ac athrawon Cymraeg ledled Cymru, ac mae arnom angen cyflenwad cyson o dalent newydd.

Gall myfyrwyr sy’n astudio unrhyw bwnc wneud cais – rydym yn chwilio am bobl ifanc a all ysbrydoli eraill i ddysgu a siarad Cymraeg, gyda medrau cadarn yn y Gymraeg eu hunain.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Ionawr 2023 ac mae modd gwneud cais trwy wefan y Ganolfan – dysgucymraeg.cymru

Helen Prosser

Clwb Rygbi Harlech

Dyma dîm dan 8 oed Rygbi Tag, Clwb Rygbi Harlech cyn cychwyn ar eu gemau yn erbyn dau dîm o Ddolgellau ac un o Aberystwyth ar 4 Rhagfyr. Yn yr ail lun, mae pawb wedi mwynhau er gwaethaf y tywydd oer! Mwynhawyd cŵn poeth ar ôl y gêm gan Glwb Rygbi Dolgellau ac aeth pawb adre’n hapus ac wedi cynhesu!

Rhai o blant tîm Rygbi Tag Clwb Rygbi

Harlech ar ôl mwynhau swper blasus yng

Nghaffi Glandŵr, Pwll Nofio Harlech.

Edrychwn ymlaen i’w gweld yn yr ymarfer

fydd yn cychwyn ar nos Fawrth, 10 Ionawr, 2023 am 4.30 yng Nghampfa Ysgol Ardudwy.

11
Gruffudd, William a Zac yn mwynhau eu bwyd Steffan, Nathaniel, Ellie ac Yvonne yn y cefn

Iaith rymus Môn a geir yma, ar ffurf casgliad o ddywediadau, rhigymau a geiriau, oll at bwrpas, wedi eu casglu dros gyfnod o ddeugain mlynedd gan Siôn Gwilym, Llannerch-y-medd. Llafur cariad am iddo wirioni’n llwyr pan oedd yn ifanc iawn ar wreiddioldeb hwyliog a dawn dweud y gymdeithas werinol a gwledig y’i magwyd ynddi.

Cafodd Siôn Gwilym ei ddwyn i fyny ar aelwyd ei daid a’i nain yn Llannerch-y-medd yng nghanol cymuned hŷn, ffraeth y fro, oedd yn llawn cymeriadau a Chymraeg drwyddi draw.

Roedd Siôn ei hun yn gymeriad a hanner. Cymeriad mawr o gorff a phlaen ei dafod na allai ddioddef ffyliaid. Ymhyfrydai yn ei bobl a threuliodd ei oes yn cywain y perlau o ddoethineb yn y gyfrol hon – wedi eu crisialu o hir brofiadau bywyd ac oddi ar leferydd sawl cenhedlaeth o wladwyr gwâr Môn.’

Twm Elias

‘Cyfrol ardderchog iawn y dylai pawb sy’n caru’r iaith Gymraeg ei darllen.’

Robin Gwyndaf

Dyma’r llyfr gorau imi ei ddarllen ers tro byd!

[Gol]

DIOLCH

Diolch i Bethan Ifan, Llanbadarn

Fawr am ei rhodd o £10 i goffrau Llais Ardudwy.

Pos geiriau Cracio’r Côd Mai Jones

POS CRACIO’R COD MAI JONES

ATEBION CRACIO’R COD RHIF 19

Sylwadau: Lwyddoch chi gracio’r cod y mis diwethaf ? Doedd o ddim yn help o gwbwl fod dau gamgymeriad y tro hwn ! Fel cefais y sylw sawl tro pan yn cyflwyno gwaith cartref yn yr ysgol ers talwm, ‘Braidd yn frysiog oedd hwn!’ Ymddiheuriadau ! ‘Gwasgodd’ oedd y gair ar i lawr tua canol gwaelod y croesair, nid ‘geasgodd’ a ‘lluwch’ oedd y gair yng nghornel dde y croesair, nid ‘lluwr’. Gwnaethoch gryn gamp yn cyflawni’r pos felly!

Y mis yma, mae angen diolch a llongyfarch Mai Jones am baratoi’r pos geiriau. Fel rydym wedi dod i ddisgwyl, mae Mai yn siŵr o’n haddysgu gyda rhai geiriau dieithr! Ond mae’n werth dyfalbarhau i ddatrys y cod. Mae un gair yn y pos sy’n enw priod, ond mae yn un amserol!

Diolch i bawb sy’n rhoi cynnig arni.

Llongyfarchiadau i Mary Jones, Dolgellau; Mai Jones, Llandecwyn; Bethan Ifan, Llanbadarn Fawr; Angharad Morris, Y Waun, Wrecsam; Mair Rich, Pantymwyn, Yr Wyddgrug; Dilys A Pritchard-Jones, Abererch; Wendy Haverfield, Garn Dolbenmaen a Gwenda Davies, Llanfairpwllgwyngyll.

Anfonwch eich atebion i’r Pos Cracio’r Cod at Phil Mostert. [Manylion ar dudalen 2].

12
POS GEIRIAU Phil Mostert (7) POS Phil Mostert A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I (J) L Ll M N O P ( Ph ) R Rh S T Th U W Y 1 D 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 T 17 18 19 20 21 22 23 A 24 25 26 27 28 PH A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y
5 4 9 6 26 23 11 12 5 17 26 24 18 11 11 7 11 17 18 25 23 8 20 5 20 26 7 11 27 23 26 11 18 19 26 4 5 17 26 3 20 22 26 16 17 26 7 20 23 14 17 27 18 8 25 20 1 8 21 12 5 23 8 4 23 11 27 17 7 17 17 11 16 20 13 11 20 26 19 26 1 8 4 21 12 7 14 7 20 23 12 22 11 7 11 12 8 19 20 7 26 23 15 14 2 27 26 26 21 8 12 25 12 11 10 23 R 26 1 11 11 26 23 20 26 O 20 4 18 20 19 26 8 16 26 17 L 20 26 7
R L O
Gerallt Rhun

Y BERMO A LLANABER

Merched y Wawr

Cangen y Bermo a’r Cylch yn

mwynhau eu cinio Nadolig yng

ngwesty’r Vic, Llanbedr. Byddwn yn

cyfarfod eto ar Ionawr 17, 2023, yn

Theatr y Ddraig, Y Bermo pan fydd

Elliw Williams, Swyddog Cefnogi

Cymuned yr Heddlu, yn dod atom. Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

Y Gymdeithas Gymraeg

Clwb Rygbi Harlech

Platiau gwag a boliau llawn - dyna’r stori tu ôl i’r llun hwn! Criw wedi dod at ei gilydd o dan ambarel Clwb Rygbi Harlech i fwynhau a chlywed am hanes y Clwb yn 2022. Croesawyd dros 30 ohonom i fwyty Hendrecoed Isaf, Llanaber i wledda a chymdeithasu. Diolch i bawb am eu gwaith gyda Chlwb Rygbi Harlech a bydd croeso i blant B3 o’r Bermo i Lanfrothen ymuno yn yr hyfforddi ar 10fed Ionawr, 2023 yng Nghampfa Ysgol Ardudwy am 4.30. Hyfforddiant i oedolion fase’n hoffi cynorthwyo gyda hyfforddi Rygbi tag ar fore Sadwrn, Ionawr 21. Cysylltwch efo’r Clwb - clwbrygbiharlech@gmail.com

Yng nghyfarfod mis Tachwedd, mwynhawyd sgwrs a chân ddifyr iawn yng nghwmni Mair Tomos Ifans. Cafodd Mair ei magu yn Harlech ac felly braf iawn oedd cael ei chroesawu’n ôl i Ardudwy. Mae doniau Mair yn niferus iawn - actores, darlithydd, bardd, cerddor, sgriptiwr ... ac mae hi bob amser yn gefnogol i bopeth sy’n hybu ein diwylliant. Roedd Mair yn sôn am ei gwaith difyr yn casglu storiau gwerin lleol – yn ardal Dysynni a’r cyffiniau, ar hyn o bryd ond hwyrach, os oes gennych chi ddarllenwyr straeon lleol o ardal Ardudwy, gyrrwch nhw i Mair neu at Llais Ardudwy, er mwyn inni gael eu rhoi ar gof a chadw. Llywyddwyd y noson gan Llewela Edwards. Anfonwyd ein cofion at Les a Megan Vaughan gan fod Megan wedi derbyn triniaeth yn ddiweddar. Diolch i bawb am gefnogi a chroeso cynnes i bawb – rydym yn cyfarfod ar nos Fercher cyntaf y mis.

Troedio’n ofalus wnaethon ni ar noson oer ym mis Rhagfyr i Eglwys Crist, Y Bermo i wrando ar leisiau persain Côr Lliaws Cain o Drawsfynydd a’u harweinydd Cellan Lewis o Ddolgellau. Mae rhai o ddarllenwyr llais Ardudwy yn adnabod ei fam, Rhiannon Lewis fu’n dysgu yn Ysgol Ardudwy, a’i thad Rhyddid Williams. Cyfeilydd y Côr yw Heulwen Jones o Benrhyndeudraeth. Llywyddwyd y noson gan Meryl Jones a noddwyd y noson, gyda diolch, gan Harri Jones.

Paratowyd gwledd o luniaeth yn y festri uwchben ar ôl y wledd gerddorol yn y Capel. Diolch i John a Grace Williams am baratoi’r festri ac i aelodau Christchurch am gael defnyddio’r Capel, oedd wedi ei addurno’n hyfryd ar gyfer dathlu’r Nadolig. Gobeithio bod pawb oedd wedi mynychu’r noson wedi mwynhau a diolch am eich cefnogaeth.

BANC BWYD Y BERMO

Ar ôl holl brysurdeb y Nadolig, cofiwch y bydd man casglu nwyddau ar gyfer Banc Bwyd y Bermo ym

Mhwll Nofio Harlech ac Ardudwy. Os yn llwyddiannus, byddwn yn parhau i gasglu yn y Flwyddyn

Newydd.

Rydym angen yr isod ar fyrder:

• Bisgedi

• Pacedi bach o reis (500g)

• Tatws

• Llefrith UHT

Tuniau o:

• Pys melyn

• Pwdin reis

• Cwstard

• Sardîns

• Mecryll

Pethau ymolchi:

• Past dannedd

• Shampŵ a chyflyrydd

• Sebon cawod

Mae gennym ddigon o’r isod, diolch

• Pasta

• Ffa pôb

• Cawl

• Grawnfwyd

Diolch am bob cyfraniad. (Harlech Ardudwy Hamdden.)

13
Eilir Hughes, Ben Bailey, Edmund Bailey, Jack Brooks, Gwion Llwyd a Ben Cartwright yn mwynhau Cinio Nadolig Clwb Rygbi Harlech yn Hendrecoed Isaf, Llanaber.

Tro Ymysg y Sgowsars

Thomas a John Williams Brynsiencyn yn y prif gapeli yn y ddinas.

Wrth gwrs gallai chwilio am y pregethwyr mawr neu ffasiynol esgor ar elfen o gystadleuaeth rhwng y capeli â’i gilydd. Hefyd, wrth i’r ddinas brifio ac i rai o’r Cymry lwyddo yn ariannol ac yn gymdeithasol, gallai elfen o snobyddiaeth lithro i mewn.

gymryd tridiau ar y môr i gyrraedd yn ôl y sôn.

Ers talwm, ond nid ers talwm iawn chwaith, fe fyddai gan bob teulu yng ngogledd Cymru berthnasau yn Lerpwl. Fe fyddai yna o leiaf un aelod o’r teulu wedi mynd yno i chwilio am waith ac wedi cychwyn teulu yn y ddinas. Roedd bywyd gwas fferm yn un caled a’r cyflog yn brin i neb ystyried codi teulu arno. Ac nid oedd pethau fawr gwell, os gwell o gwbl, yn y chwarel gyda’i damweiniau a gormes y perchnogion.

Aeth llawer un i’r ‘Sowth’ i wlad y pyllau glo ond roedd yna lif cyson o Gymry i’r ddinas ar lan afon Mersi i gyd yn chwilio am waith a hynny heb fod yn rhy bell o’r hen wlad. Roedd yna waith yn nociau Lerpwl ond gwell byth roedd yna ofyn parhaol am ddynion i weithio i godi’r tai oedd yn ymddangos fesul stryd ar ôl stryd o tua 1850 ymlaen.

Gwnaeth llawer un ffortiwn yn codi tai yn Lerpwl a Chymry oedd rhai o’r contractwyr prysuraf a chyfoethocaf yn y ddinas. Cerddodd sawl un yno o gefn gwlad Cymru gyda swllt neu ddau yn ei boced a dod maes o law yn filiwnydd. Un o’r rhai hyn oedd John Morris o Lanbedr ym Meirionnydd. Fe hwyliodd David Hughes o Gemaes, Môn yno o Amlwch gan

Erbyn cyfrifiad 1891, roedd yna fwy o Gymry yn Sir Gaerhirfryn nag oedd yn Sir Fôn – 60,819 yn y naill a 50,079 yn y llall. Does ryfedd i sawl un alw Lerpwl yn brifddinas gogledd Cymru. Ac fel yr âi’r ugeinfed ganrif rhagddi, roedd yr ecsodus o Gymru i Lannau Mersi’n parhau. Byddai merched ifanc yn mynd yno i weini yn y tai mawr ac fe fyddai Lerpwl a’r cylch yn croesawu athrawon ifanc o Gymru yn dod i’w hysgolion.

Byddai Lerpwl yn gyrchfan i rai oedd yn cymhwyso fel nyrsys a doctoriaid. Adref yn ôl i Gymru yr ai llawer o’r bobol ifanc yma maes o law ond cartrefodd llawer yn Lerpwl hefyd a gellid byw bywyd llawn mwy neu lai yn Gymraeg o boptu i afon Mersi [neu afon Nerpwl fel y byddai rhai yn ei galw].

Byddai presenoldeb yr holl Gymry yn yr ardal yn sicrhau bywyd cymdeithasol brwd iawn ac fe fyddai yna bob math o leoedd i’r Cymru ymgasglu – cymdeithasau, yr Urdd ac yn y blaen.

A chapeli. Dwsinau ohonynt, yn perthyn i’r pedwar prif enwad ymneilltuol Cymraeg. Ym 1900, roedd gan y Methodistiaid Calfinaidd ddwsin yn Lerpwl ei hun heb sôn am y trefi cyfagos. Doedd y tri enwad arall ddim llawer ar ôl chwaith. Denai’r capeli cryfaf a chyfoethocaf bregethwyr mawr eu henwad i ddod yn weinidogion arnynt ac fe welid cewri fel Gwilym Hiraethog, Owen

Cofiaf fodryb i mi yn dweud ei bod wedi mynd i aros at berthynas iddi yn Lerpwl pan oedd yn blentyn a chael ei siarsio i beidio siarad Cymraeg ar y stryd nac yng nghlyw’r cymdogion. ‘Not nice, my dear.’ Popeth yn iawn i’r Hen Iaith gael ei lle yn y cartref ac yn y capel ond iddi gael ei chadw o’r golwg fel arall! Nid pob pregethwr a gai gyhoeddiad yng nghapeli Glannau Mersi chwaith.

Daeth tro ar fyd bellach, wrth gwrs, ac mae Lerpwl wedi peidio â bod yn gyrchfan i’r miloedd o Gymru. Mae yna Gymry da yno o hyd, wrth reswm, ac mae’r ddinas yn dal i gyfrannu i’r bywyd Cymraeg mewn sawl ffordd. Ond mae’r capeli enfawr smart bron i gyd wedi mynd ac er i lawer teulu o Gymru ddal eu gafael ar yr iaith am dair neu bedair cenhedlaeth yn y ddinas, doedd dim posib dal ymlaen am byth heb fewnlifiad cryf parhaol.

Pam sôn am Lerpwl mewn erthygl am Ganeuon Ffydd? Wel mae cyfraniad Glannau Mersi i ganiadaeth y cysegr yn yr iaith Gymraeg wedi bod yn werthfawr iawn. Bu llawer iawn o’n hemynwyr yn byw yno a llawer o gyfansoddwyr y tonau hefyd. Byddai angen cyfrolau i adrodd y stori i gyd ac fe gaech lawer iawn o wybodaeth ar y pwnc yn llyfrau ysgolheigaidd y Dr D Ben Rees ar hanes a helyntion y Cymry yn Lerpwl.

Fel y gwelsom Lerpwl a’r cylch oedd cefndir Eleazar Roberts a’r tonic solffa ond nid y fo oedd yr unig un a fu’n cyfoethogi ein bywyd cerddorol. Fe ddechreuwn y tro nesaf hefo hanes Elliot.

JBW

14

HYSBYSEBION

Telerau gan Ann Lewis 01341 241297

ALAN RAYNER

07776 181959

ARCHEBU A GOSOD CARPEDI

ALUN WILLIAMS

TRYDANWR

GALLWCH

HYSBYSEBU

* Cartrefi

YN Y

* Masnachol

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

Tafarn yr Eryrod

Llanuwchllyn 01678 540278

JASON CLARKE

Maesdre, 20 Stryd Fawr Penrhyndeudraeth

LL48 6BN

Sŵn y Gwynt, Talsarnau www.raynercarpets.co.uk

BLWCH HWN

* Diwydiannol

Archwilio a Phrofi

AM £6 Y MIS

Ffôn: 07534 178831 e-bost:alunllyr@hotmail.com

Bwyd cartref blasus

Cinio Dydd Sul

Dathliadau Arbennig

Croeso i Deuluoedd

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad a golchi llestri.

NEAL PARRY Bwlch y Garreg Harlech

E B RICHARDS

Gwasanaeth Cadw Llyfrau a Marchnata

Ffynnon Mair

Llanbedr

01341 241551

CYNNAL EIDDO

O BOB MATH

Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

CAE DU DESIGNS

DEFNYDDIAU DISGOWNT

GAN GYNLLUNWYR

Stryd Fawr, Harlech

Gwynedd LL46 2TT

01766 780239

ebost: sales@caedudesigns.co.uk

Dilynwch ni:

Oriau agor:

Llun - Sadwrn

10.00 tan 4.00

GWION ROBERTS, SAER COED 01766 771704 / 07912 065803

gwionroberts@yahoo.co.uk

dros 25 mlynedd o brofiad

01766 770504 Talybont Ceredigion SY24 5HE www.ylolfa.com

Glanhäwr Simdde • Chimney Sweep Gosod, Cynnal a Chadw Stôf Stove Installation & Maintenance 07713 703 222

Glanhäwr

07713 703222

CYNNAL A CHADW TU MEWN A THU ALLAN 07814 900069 Llais Ardudwy Drwy’r post Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr llaisardudwy@outlook.com E-gopi llaisardudwy@outlook.com £11 y flwyddyn am 11 copi Am hysbysebu yn Llais Ardudwy? Manylion gan: Ann Lewis Min-y-môr Llandanwg, Harlech LL46 2SD 01341 241297

H Williams Gwasanaeth cynnal a chadw yn eich gardd Ffôn: 01766 762329 07513 949128

15
Simdde
Gosod, Cynnal a Chadw Stôf Am argraffu diguro Holwch Paul am bris! paul@ylolfa.com 01970 832 304

TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Ysgol Talsarnau

Snwcer

Pleser pur oedd cael gwahodd rhieni a thrigolion y gymuned i’r ysgol unwaith eto i wylio ein sioe Nadolig. Thema sioe eleni oedd ‘Siôn Corn a’r Streic’. Cafwyd perfformiad lliwgar, llawn bwrlwm gyda’r plant yn rhoi o’u gorau. Yn ystod mis Rhagfyr, cafodd pawb gyfle i fynd yn ôl i Oes Fictoria a dathlu’r Nadolig fel y gwnâi plant yn yr oes honno ym Mwthyn Highgate, Llanystumdwy. Roedd cyfleoedd iddynt wisgo dillad hen ffasiwn a pharatoi ar gyfer Nadolig Cymreig traddodiadol. Roedd pawb wedi mwynhau.

Cystadleuaeth Snwcer

Mae’r Gystadleuaeth Snwcer

Nosweithiau Gwener wedi bod yn digwydd bellach ers rhai wythnosau yn Neuadd Gymuned Talsarnau.

Mae yna gystadlu brwd wedi bod, a llawer iawn o hwyl a thynnu coes.

Mae yna gryn amrywiaeth yn y chwarae, rhai, yn arbennig yr ifanc â llygad dda ganddyn nhw tra mae ambell i hen lwynog yn gorfod o reidrwydd chwarae gêm dactegol i gael unrhyw obaith!

Braf ydy gweld fod adnoddau’r Neuadd yn cael eu defnyddio a gweithgaredd fel hon yn dod â phobl at ei gilydd a’r cymdeithasu yn gynnes a gwerth chweil. Rhaid nodi mai Siôn Richards – y trefnydd - fu’n fuddugol ar y noson gyntaf, ond mae yna rai wedi ei gadw yn ei le ar ôl y llwyddiant cynnar – mae o bellach yn ‘marked man’!

Mae’r llun yn dangos y chwaraewyr ar y noson Wener gyntaf.

Croeso cynnes i bawb ymuno!

Capel Newydd yn darparu lle cynnes

Bwriedir darparu yn ddi-gost, lle cynnes, paned, cawl a bara, papur newydd, gemau bwrdd, llyfrau

lliwio, Wi-Fi am ddim a chwmnïaeth i bobl yr ardal o bob

oedran rhwng 3.00 a 6.00 o’r

gloch bob pnawn dydd Mercher. Rhan o gynllun Croeso Cynnes, Cyngor Gwynedd.

Dewch yn llu!

Merched y Wawr

Aeth 13 o aelodau Cangen Talsarnau i Westy’r Ship yn Nhalsarnau am eu cinio Nadolig ar bnawn dydd Iau, 8 Rhagfyr. Wedi croesawu pawb, a chyn i’r bwyd gyrraedd, darllenodd y Llywydd, Siriol Lewis gyfarchion Nadolig arbennig y Llywydd Cenedlaethol, Jill Lewis i bawb. Yna daeth y bwyd a dyna wledd a gawsom, gyda phlât llawn o’n blaenau a dysglaid o wahanol lysiau ar y bwrdd i’w ychwanegu ato. Roedd yn bryd ardderchog a’r bwyd yn flasus dros ben, gyda gwahanol bwdinau yn dilyn, oedd yr un mor ddeniadol. I orffen, paned o de neu goffi.

Cyhoeddodd Siriol rai materion cenedlaethol at sylw’r aelodau cyn symud at y raffl, ac roedd gwobr fach i bawb gyda hwn. Hefyd cyhoeddwyd dyddiad cyfarfod cyntaf mis Ionawr 2023, sef dydd Llun y 9fed yn Neuadd Talsarnau am 2.00 o’r gloch y pnawn.

16

Ffair Nadolig ardal Talsarnau

Cynhaliwyd y Ffair Nadolig nos Iau 1af o Ragfyr yn y Neuadd Gymuned. Braf iawn oedd gweld cymaint wedi troi allan i gefnogi’r digwyddiad. Roedd amrywiaeth dda o stondinau a chynnyrch amrywiol iawn yn cael eu cynnig. Sawl stondin Tombola, crefftwaith a gweithiau arlunio cain, eitemau ail-law, llyfrau, rafflau a gwin poeth i gynhesu’r galon. Ac yn wir daeth Siôn Corn heibio i rannu rhai o’i anrhegion cynnar. Y cyfan yn digwydd a charolau yn cael eu chwarae yn y cefndir yn creu awyrgylch Nadoligaidd i’r noson. Roedd naws dda i’r noson a braf iawn oedd gweld pobl yn cymdeithasu a chwrdd hwn a’r llall i roi’r byd yn ei le. Diolch yn fawr iawn i bob un fu’n gyfrifol am roi cymorth mewn unrhyw ffordd i

sicrhau bod y noson yn llwyddiant ac am bob cyfraniad tuag at wobrau a’r rafflau. Oherwydd y cynnydd mewn pris tanwydd a phopeth arall, mae cynnal y Neuadd Gymuned a sicrhau fod y drysau yn cadw’n agored yn gallu bod yn sialens i’r Pwyllgor Rheoli. Mae cael

cefnogaeth fel a gafwyd i’r noson hon yn cael ei werthfawrogi. Diolch yn fawr iawn ichi.

Capel Newydd

Oedfaon am 6.00 bob nos Sul

IONAWR

8 Rhodri Glyn

11 Cyfarfod gweddi

15 Dewi Tudur

22 Dewi Tudur

29 Dewi Tudur

CHWEFROR

5 Gruffydd Davies

12 Dewi Tudur

17
R J WILLIAMS Talsarnau 01766 770286
IZUZU
Cynhaliwyd gwasanaeth Llith a Charol gwych yn Eglwys Llanfihangel-ytraethau ar Rhagfyr 11. Bu i nifer o’r plwyfolion gymryd ran ynghyd â Roger Kerry a berfformiodd ddwy garol swynol iawn i’w gyfeiliant ei hun ar y gitâr.
TRYCIAU
Llith a Charol

Marwolaeth

Ar 15 Rhagfyr yn Ysbyty Gwynedd, bu farw John Povey, 13 Castell Morfa, Harlech. Roedd yn ŵr i Helen ac yn dad i Sonja a John. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yng Nghapel Rehoboth, Harlech a rhoddwyd ef i orffwys yn y Fynwent Newydd. Cydymdeimlwn yn fawr â’r teulu yn eu profedigaeth.

Cymdeithas Hanes Harlech

Merfyn Jones fydd y siaradwr yng nghyfarfod nesaf Cymdeithas Hanes Harlech yn y Neuadd Goffa, Twtil, Harlech am 7.30pm, nos Fawrth, 10 Ionawr.

Testun sgwrs yr Athro Jones fydd ‘How we failed to ban the Bomb (CND in the 1960s in the immediate area)’. Aelodau am ddim; os nad ydych yn aelod, £2 yn cynnwys te neu goffi.

Merched y Seindorf

Hwb Harlech

Erbyn hyn mae hysbysfwrdd newydd wedi ei osod y tu allan i Hwb Harlech (yr Hen Lyfrgell). Gweler manylion yn fuan am y dosbarth Cymraeg i ddechreuwyr (5-7, 31 Ionawr) a Ti a Fi (10-11yb, 18 Ionawr).

Os ydych yn gwybod am unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu Cymraeg, cofiwch adael iddyn nhw wybod.

Dan anhwylder

Anfonwn ein cofion at Edwin Lewis, 26 Y Waun sydd wedi treulio cyfnod yn Ysbyty Gwynedd ar ôl iddo syrthio yn ei gartref yn ddiweddar.

Dyma’r chwech o’r merched o fand Harlech fu allan bore Nadolig yn chwarae carolau o gwmpas Harlech a Llanfair. Yn y blaen yn tynnu’r llun mae Megan ac yna o’r chwith i’r dde mae Angela, Ceri, Sera, Cerys a Jane. Roedd rhai o’r dynion yn sâl, eraill ar eu gwyliau ac eraill oddi cartref.

Diolch yn fawr iawn i drigolion Llanfair, Pant Mawr a Harlech am eu caredigrwydd dros gyfnod y Nadolig. Casglwyd £218.53 tuag at gronfa Seindorf Arian Harlech. Blwyddyn Newydd Dda ichi i gyd.

HARLECH 18
Trigolion lleol yn mwynhau cinio Nadolig yng Nghaffi Pwll Nofio, Harlech

CYNGOR CYMUNED HARLECH

Croesawodd y Cadeirydd Gwyndaf Williams o Grŵp Cynefin, Tony Hughes o Williams Homes Bala a Jamie Bradshaw o gwmni Owen Development i’r cyfarfod i drafod y cynllun arfaethedig i adeiladu 21 o dai ar dir gyferbyn â stad Penyrhwylfa. Bu Grŵp Cynefin yn chwilio am safle addas yn Harlech ers cryn amser. Williams Homes, Bala fydd yn gyfrifol am adeiladu’r tai. Dangoswyd y cynlluniau arfaethedig i’r aelodau. Bydd y tai yn cael eu cynnig i bobl leol. Darllenwyd llythyr gan rai o drigolion stad Tŷ Canol yn datgan pryder ynglŷn â’r system garthffosiaeth os byddai’r tai hyn yn cael eu hadeiladu. Cytunwyd bod Grŵp Cynefin yn gofyn i Tai Teg a Chyngor Gwynedd ddod draw i gyfarfod y Cyngor i drafod y gofrestr dai gyda’r aelodau.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Rhyddhau Amod 4 ynghlwm i Ganiatâd Cynllunio ar gyfer cyflwyno mesurau gwella bioamrywiaeth / cydadferol – Plas Amherst. Cefnogi’r cais hwn. Adeiladu ystafell ardd newydd –Clogwyn Villa, Stryd Fawr. Cefnogi’r cais hwn.

Adeiladu byngalo dormer fforddiadwy ar wahân - Tir i gefn Nant-y-Mynydd, Hwylfa’r Nant. Cefnogi’r cais hwn.

GOHEBIAETH

SARPA

Gwahoddwyd y Cyngor i ymuno â SARPA, grŵp defnyddwyr rheilffordd sy’n pwyso i wella’r gwasanaeth rheilffordd. Mae tâl o £10 i ymuno â’r grŵp. Cytunwyd na ddylid ymuno.

Triathlon

Gofynnwyd a fyddai modd defnyddio cae chwarae Brenin Siôr V fel yn y gorffennol ar gyfer parcio yn ystod y Triathlon ar 25 a 26 Mawrth 2023. Cytunwyd i roi caniatâd.

Mr David Craik

Gofynnwyd a fyddai’n bosib iddo blannu dwy goeden rhywle yn y fynwent gyhoeddus er cof am ei dad a’i fam, sef George a Rose Craik. Cytunwyd i roi caniatâd iddo.

Cylch Meithrin Harlech

Ar y dde, fe welwch blant y Cylch yn brysur iawn cyn y Nadolig yn paratoi cardiau i’w gyrru i deulu a ffrindiau ac i gartrefi yr henoed. Dymuniadau gorau oddi wrthym a diolch i bawb am eich cefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.

Cyflogwr y Flwyddyn

19
Mae Clwb Golff Dewi Sant yn hynod falch o fod wedi ennill gwobr Cyflogwr y Flwyddyn y System ar Alwad/Dyletswydd Rhan Amser am ganiatáu i’w Tirmon, Llion Lloyd Kerry fynychu galwadau ymladd tân yn ei oriau gwaith. Llion Kerry yn derbyn y wobr gan Gadeirydd y Clwb, David Vaughan

Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 Eich Cyfrifoldeb Chi

Flwyddyn yn ôl, atgoffwyd darllenwyr

Llais Ardudwy pa mor bwysig

oedd cyfraniad y rhai ohonom sy’n

siaradwyr Cymraeg i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Dyna yw’r neges eto eleni. Ac mae hyn yn dod ar ôl derbyn canlyniad siomedig cyfrifiad 2021. Does dim rhaid digalonni. Meddyliwch am yr holl newidiadau cadarnhaol sydd wedi digwydd. Faint ohonoch a gafodd wersi ‘Welsh’ yn yr ysgol?

Faint o ffurflenni Cymraeg oedd ar gael rhyw ddeugain mlynedd yn ôl?

Neu, i fynd yn ôl ymhellach, mae’n syndod i lawer fod hyd yn oed O M

Edwards yn ysgrifennu llythyrau at siaradwyr Cymraeg yn Saesneg, a bod darlithwyr prifysgol yn defnyddio

Saesneg wrth drafod yr iaith.

Arferiad oedd hyn ac mae llawer o newid wedi bod, diolch byth.

Mae agweddau y rhai sy’n ein llywodraethu hefyd wedi newid yn llwyr. Meddyliwch am y gwahaniaeth

sydd ers i George Thomas a Neil Kinnock a chiwed o rai eraill fod yn flaenllaw yn ein llywodraethu.

Rŵan mae gennym Mark Drakeford a Jeremy Miles yn ein llywodraeth yng Nghaerdydd. Mae Alun Davies, sy’n aelod Llafur dylanwadol, yn gyn-aelod o Gymdeithas yr Iaith. Yn llywodraeth Llundain, mae

Ysgrifennydd Cymru, David T C Davies, yn un sydd wedi gwneud yr ymdrech i ddysgu ac yn gefnogol iawn i’r iaith.

Sôn am newid agwedd.

Diolch i ymdrech ac aberth llawer o aelodau Cymdeithas yr Iaith, mae sefyllfa ddeddfwriaethol yr iaith wedi newid yn llwyr. Daeth hyn i fod drwy wthio yn erbyn y drefn oedd

Harlech

Tref fyglyd, ddrewllyd, ddryllioga dinas

Dynion dauwynebog, Gwŷr llawen a gwasau lleuog, Pawb o’r un radd, pob un yn rôg!

Llywelyn Twrog

yn bodoli. Efallai bod angen ychydig mwy o wthio i ddod ond mi fydd hyn yn wthio ar ddrws sydd yn fwy na chil agored.

Yr angen mawr rŵan yw tynnu. Tynnu pobl Cymru i arfer byw drwy gyfrwng yr iaith. Mae mwy nag erioed o bobl, sydd heb gael y fraint o gael eu magu yn yr iaith, yn gwneud yr ymdrech i’w dysgu hi.

Cyfrifoldeb mawr y rhai ohonom sydd wedi bod yn sŵn a swyn y Gymraeg o’r crud yw tynnu eraill atom. Fel yr eglurwyd y llynedd, mae dyletswydd arnom i hybu dysgwyr. Felly pan fyddwch yn sgwrsio gyda rhywun nad ydyn nhw’n rhugl, peidiwch â throi i’r Saesneg os nad oes raid.

Mae rhai pethau eithaf hawdd y gallwn i gyd eu harfer i wneud yr iaith yn fwy amlwg. Mae’n bwysig i ddysgwyr sylweddoli ei bod yn fanteisiol i ddysgu neu fedru ychydig o eiriau, hyd yn oed os nad yw yn fwy nag ynganu enwau lleoedd yn gywir. Beth am ddilyn Aled Hughes, Radio Cymru, sydd wedi penderfynu y bydd yn gofyn a fyddai rhywun yn hoffi paned nid ‘cup of tea’ os bydd yn siarad Saesneg. Dyma rai awgrymiadau eraill. Defnyddiwch ‘diolch’ bob amser nid ‘thanciw’ a bore da nid ‘good morning’. Bydd bron pawb yn deall

Y Sbectol Newydd

Gwelaf uwchlaw ’nisgwyliady mynydd

A’r manion heb eithriad.

Cŵn lu a chwain y wlad

A llau yng ngolau’r lleuad.

Ehedydd Iâl

y geiriau yma ac eithriad fyddai i chi gael ymateb gwael. Mae un newid arall yr hoffwn weld yn cael ei fabwysiadu. Sawl tro dwi wedi gofyn i rywun wneud rhyw waith i mi ac wedyn dwi’n derbyn yr anfoneb yn Saesneg. Mae hyn yn deillio o ryw hen arfer o wneud popeth yn Saesneg. Mae’n bosib nad yw llawer ohonynt wedi arfer ysgrifennu yn Gymraeg, ond siawns nad oes modd newid yr arferiad. Dwi yn sylweddoli fod hyn yn golygu dipyn mwy o ymdrech na dweud diolch, ond os oes rhai unigolion yn fodlon ymdrechu i ddysgu siarad gobeithio bod y rhai sy’n siarad yr iaith yn fodlon ymdrechu i ysgrifennu.

Nodyn i ‘Siaradwyr Newydd’ Yn gyntaf, diolch am eich ymdrech a daliwch ati; mae eich cyfraniad at gyrraedd y miliwn yn werthfawr iawn. Byddwch yn ddigon hyderus i ddefnyddio’r hyn yr ydych wedi ei ddysgu, trwy ymarfer mae perffeithio. I’r rhai ohonoch sydd yn teimlo fel cymryd cam ymlaen beth am roi cynnig ar ysgrifennu? Byddai rhyw bwt bach yn y Llais yn ffordd dda i ddangos i bawb eich bod yn dymuno cael eich cyfarch yn y Gymraeg.

Hen Rigwm

Harlech lwm a’r Berwyn leuog

Tal-y-bont yn chwil gynddeiriog, Cae’n y coed, lladron erioed

A witshus Coed Ystumgwern.

20
Diolch i Mrs Mair Rich, Pantymwyn, Yr Wyddgrug am anfon y farddoniaeth uchod atom.
IJ

DATBLYGIAD YN HARLECH

Diwrnod Agored

Ydych chi’n byw yn Harlech?

Ydych chi eisiau dysgu mwy am gynlluniau posib a thai fforddiadwy yn yr ardal?

Peidiwch â cholli cyfle i rannu eich sylwadau.

Dydd Iau, 12 Ionawr 2.30 tan 6.00 yn y Neuadd Goffa

Rhagor o wybodaeth gan y noddwyr isod.

Ffrindiau Ysgol, Ffrindiau Oes

Ugain mlynedd yn ôl, yn 2002, daeth rhai o’r merched a gychwynnodd yn Ysgol Ardudwy, Harlech fis Medi 1966 at ei gilydd am noson allan. Mae hyn wedi parhau tair gwaith y flwyddyn ers hynny.

Rydym yn cael swper mewn amryw o fwytai gwahanol yn yr ardal sydd yn rhoi amser i ni gymdeithasu a dal i fyny. Fel arfer mae ’na oddeutu dwsin ohonom.

Mae rhai wedi trafeilio yn ôl yma o lefydd mor bell ag Eastbourne, Lerpwl a Chaerdydd i ymuno â’r grŵp.

Ers rhai blynyddoedd rydym yn cael aduniad llai ffurfiol yn yr Oakeley Arms, Maentwrog bob mis Mehefin.

Rydym yn ymestyn gwahoddiad i bawb (dynion a merched) a gychwynnodd yn Ysgol Ardudwy, mis Medi 1966, i ymuno â ni. Cysylltwch ag un ohonom yn y llun am ddyddiad yn nes at yr amser. Tynnwyd y llun ym Mwyty’r Sgwâr, Tremadog.

21
O’r chwith: Eluned Williams, Talsarnau; Ann Lewis (Thomas gynt), Llandanwg; Delyth Thompson (Hughes gynt), Talsarnau; Ann Muddie (Pierce gynt), Penrhyn; Ann Jones (Harris gynt), Dyffryn; Susan Parkinson (Jackson gynt), Talsarnau; Catherine Marsh (Eastwood gynt), Minffordd; Evelyn Greaves (Millns gynt), Penrhyn; Iona Jones, Penrhyn; Meinir Blaire (Griffiths gynt), Bermo; Rhiannon Lewis (Williams gynt), Bermo; Olwen Jeffs (Jones gynt), Bermo; Eirian Williams (Evans gynt), Llanbedr.

YSGOL ARDUDWY

Cafwyd taith i Lanelwedd ar ddiwedd

Tachwedd i flasu’r hyn yr oedd gan y Sioe Aeaf i’w gynnig. Cafwyd diwrnod gwerth chweil gan ymweld â stondinau, blasu cynnyrch Cymru a chael cyfle i weld yr hyn sydd gan gwmnïau Cymru i’w gynnig o ran bwyd a maeth.

Mae dau unigolion yn gwneud eu marc yn y byd coginio ar hyn o bryd. Y ddau ydi Dylan Owens ac Owen Vaughan.

Mae Dylan yn gweithio fel Prif Gogydd

Stadiwm Etihad, sef cae Clwb Pêl-droed

Manchester City. Roedd yn dipyn o sgŵp

i’w gael i siarad gyda disgyblion B11 sy’n dilyn cwrs Bwyd a Maeth.

werthfawrogol o’r hyn a gyflwynwyd iddynt. Diolch i bawb am gyfrannu; mae’n golygu llawer i nifer fawr o deuluoedd.

Am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn, trefnwyd Cyngerdd Nadolig. Cafwyd nifer dda o eitemau ar y llwyfan gan gynnwys unawdau, llefarwyr a chôr o ddisgyblion B7 yn diddanu’r gynulleidfa niferus gyda chaneuon Nadoligaidd.

Yn ystod pythefnos olaf y tymor trefnwyd bod disgyblion yn derbyn profiadau gwahanol i’w gwersi arferol. Cafodd disgyblion B7 gyfle i gymryd ran mewn amrywiaeth o weithgareddau STEM. Roedd hyn wedyn yn arwain at adeiladu a chyflwyno eu syniadau i greu parc antur cynaliadwy. Cafodd disgyblion B8 brofiadau yn y maes Celfyddydau Mynegiannol ac Iechyd a Lles o dan y thema Llew Frenin (‘Lion King’).

Y neuadd dan ei sang a’r llwyfan yn llawn o bobl ifanc yn canu, dawnsio a llefaru. Dyma y mae pawb wedi ei golli dros y dair blynedd ddiwethaf.

Cafwyd cyfle i’w holi am y gwaith y mae’n ei wneud, beth mae’r sêr pêl-droed yn ei fwyta ac ydy o’n ‘nabod ‘Pep’ Guardiola?

Roedd yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio’n ddygn yn yr ysgol a’r coleg, wedyn manteisio ar bob cyfle i wella gan obeithio y daw ychydig o lwc er mwyn cyrraedd y safle maent eisiau ei gyrraedd. Cafodd y disgyblion agoriad llygad a chyfle i ddeall fod posib cyrraedd yr uchelfannau os ydy’r gwaith yn cael ei wneud – mae Dylan yn enghraifft o hyn.

Cyn-ddisgybl arall sy’n disgleirio ym maes bwyd ydi Owen Vaughan. Cyrhaeddodd y bachgen o’r Bermo rownd derfynol rhaglen Masterchef i’r sawl sy’n gweithio’n broffesiynol gyda bwyd. Gwnaeth ymdrech anhygoel ar hyd y daith a gall fod yn falch iawn o’i ymdrechion yn sicr. Gobeithio y gallwn ei weld eto ar y teledu ac hwyrach y bydd yntau’n galw heibio’r Ysgol yn y dyfodol i gyflwyno ei brofiad a’i hanes i’r disgyblion ifanc sydd yn anelu i deithio ar hyd yr un ffordd a aeth yntau lai na ddeng mlynedd yn ôl bellach. Da iawn ti, Owen, a dal ati.

Trefnwyd ymgyrch i gasglu bwyd a deunyddiau i’r cartref ac unwaith eto gwelwyd nifer o fagiau a bocsys llawn yn cael eu cludo i’r Bermo er mwyn eu cyflwyno i’r Banc Bwyd yno. Dyma’r ail waith i hyn ddigwydd ers mis Medi ac roedd y criw yn y ganolfan yn hynod

Yn y sesiynau, cafodd y disgyblion brofiadau gwerthfawr mewn meysydd newydd. Gobeithio y bydd hyn yn bachu dychymyg nifer er mwyn parhau i fwynhau’r hyn a gafwyd yn ystod y tridiau. Roedd brwdfrydedd, ymdrech a dyfalbarhad y disgyblion wrth iddynt wynebu heriau newydd yn werth ei weld. Da iawn, bawb.

Ar ddiwrnod ola’r tymor, cynhaliwyd Eisteddfod Ysgol am y tro cyntaf ers 2019. Roedd yr wythnos wedi bod yn fwrlwm o weithgaredd fel gwneud gwisgoedd, dysgu geiriau, a threfnu addurniadau y gwahanol dai. Roedd yr ysgol yn gwegian o dan y brwdfrydedd heintus. Cychwyn ben bore a gorffen ar y gloch olaf am 2.20yp a doedd dim eiliad wedi ei wastraffu yn y cyfnod yma.

Yn ystod y prynhawn, cafwyd seremoni’r Cadeirio. Cododd Erin Lloyd, disgybl blwyddyn 10 ac o dŷ Rhinog, ar ganiad y cyrn a chamu i’r llwyfan fel enillydd y gadair am 2022. Llongyfarchiadau mawr i Erin ar ei llwyddiant.

Wedi cyfrif y marciau ar y diwedd, y cochion sef Cnicht a ddaeth i’r brig gyda Rhinog yn ail a Moelfre yn y trydydd safle. Ond er y marciau, teg yw dweud fod pawb yn enillwyr ar ddiwrnod fydd yn aros yn y cof am amser maith. Da iawn i bawb am yr ymdrechion; roedd y brwdfrydedd i berfformio yn amlwg. Ymlaen i Steddfod 2023 rŵan.

Hoffai’r staff a’r disgyblion

ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i holl rieni a chefnogwyr yr ysgol gan obeithio y daw 2023 ag iechyd a hapusrwydd i bawb.

22

Bywyd gwyllt

I’W GWNEUD Y MIS HWN

* Cofiwch lanhau’r baddon adar a mannau bwydo’n rheolaidd i gadw afiechydon draw, a gwnewch yn siŵr bod dŵr ffres ar gael i’r adar bob amser.

* Dylid gwneud yn siŵr bod dŵr ffres nad yw wedi rhewi ar gael, gan ei fod yn hanfodol i’r adar ymolchi ac yfed. Os oes gennych bwll yn yr ardd, gwnewch yn siŵr bod ramp neu ochrau bas i’r pwll fel y gall bywyd gwyllt ddringo allan ohono pe baen nhw’n cwympo i mewn.

* Gosodwch fwyd i’r adar ar y ddaear,

yr ardd

y bwrdd adar ac mewn bwydwyr adar.

PRYFED

* Mae pryfed ac infertebratau eraill yn hanfodol bwysig i gydbwysedd naturiol eich gardd. Mae llawer ohonyn nhw’n ailgylchu maetholion ac yn torri planhigion marw i lawr, ac mae eraill yn hela pryfed eraill. Mae llawer o bryfed ehedog yn peillio ein planhigion.

* Bydd bywyd gwyllt yn defnyddio pob rhan o’ch gardd ond mewn gofod bach neu brysur efallai y gallwch adael y gwellt mewn un llecyn i dyfu’n hir lle nad oes dim yn aflonyddu ar y llecyn, fel y tu ôl i sied.

* Mae llwyni bytholwyrdd a

*MELIN LIFIO SYMUDOL Llifio coed i’ch gofynion chi Cladin, planciau, pyst a thrawstiau

dringwyr, dail wedi cwympo, bonion marw a phennau hadau i gyd yn darparu lloches dros y gaeaf i lawer o bryfed.

ADAR

* Mi welwch chi’r aderyn du, y telor penddu, teulu’r titw, bronfreithod a’r robin goch yn aml yn ystod y gaeaf. Chwiliwch hefyd am y coch dan adain a’r socan eira, bronfreithod sy’n dod atom o’r gogledd yn ystod y gaeaf.

*COED TÂN MEDDAL WEDI EU SYCHU

Netiau bach, bagiau mawr a llwythi ar gael

*GWAITH ADEILADU AC ADNEWYDDU

*SAER COED Ffoniwch neu edrychwch ar ein gwefan

Blwyddyn Newydd Dda i bawb o’n cwsmeriaid. Edrychwn ymlaen at eich gwasanaethu yn 2023

Telor penddu

* Mae llawer o ffynonellau naturiol o fwyd, fel hadau ac aeron, wedi eu bwyta i gyd erbyn yr adeg hon o’r gaeaf, felly mae bwydo adar yr ardd yn bwysicach nag erioed.

*Prynwch fwyd adar o ansawdd uchel o siopau ar-lein neu canolfannau adwerthu, neu gwnewch eich peli saim eich hun wrth ddefnyddio braster naturiol megis lard a siwed cig eidion.

*Os yn bosib, ceisiwch ddilyn patrwm amser rheolaidd a chyson er mwyn i’r adar ddychwelyd yn aml i’ch gardd.

* Gallwch warchod adar rhag ysglyfaethwyr wrth osod bwydwyr adar mewn llefydd lle na fydd cathod, er enghraifft, yn gallu cael mynediad atyn nhw.

23
Geraint Williams, Gwrachynys, Talsarnau 07766 713014

PA WIN?

Ydych chi’n hoff o’ch gwin? Organig, biodynamic neu naturiol? Hawdd yw drysu ar ddewis gwinoedd: pa wlad; pa rawnwin; pa gynhyrchwr?

Ond rŵan mae dewis pellach gyda symudiad fwyfwy tuag at win organig, biodynamig ac, yn llai ond yn nodweddol, at win naturiol. Felly beth yw’r mantais?

Mae’n deg dweud nad oes yr un o’r dulliau yma yn gwarantu safon. Y grawnwin, y tir, y tywydd, y gwinwyddiaeth a’r gwneuthurwr gwin sydd â’r dylanwad yna. Er hynny, mae’n wir dweud (efallai byddaf mewn trwbl am hyn!) fod y rhai sy’n dewis y ffordd organig neu fiodynamig yn aml yn rhoi mwy o ofal i’r tir a’r broses.

Roedd gwneuthurwraig yn Bordeaux yn feirniadol iawn o dai mawr gwin yr ardal gan ddweud fod y winllan

drws nesaf iddynt fel tirlun y lleuad, heb welltyn gwyrdd i’w weld yn agos i unrhyw winwydden. I ni, mae’r sylw a roddwyd i gynaladwyedd eu gwinllan yn holl bwysig. Trwy ymweld â’r busnes a’r bobl gallwn gael teimlad o’r berthynas rhwng y cynhyrchydd gwin a’r tir. Efallai nad ydyn nhw’n ardystiedig ond yn arfer

FICER NEWYDD I ARDUDWY

Arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd ym Mro Ardudwy

Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai’r Parchg Ben

Griffith fydd Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth

Bro Ardudwy. Ar hyn o bryd mae’n gweinidogaethu yn

Esgobaeth Henffordd ac edrychwn ymlaen at groesawu Ben a’i wraig Jean yn y gwanwyn.

Gan gyflwyno’i hun, meddai Ben, ‘Mae fy nhad yn wreiddiol o ogledd Cymru a fy mam o Cockney London. Rwy’n un o saith o blant a chawsom ein magu yn Gatholigion, er bod gennym gymysgedd eang o enwadau yn y teulu. Fel myfyriwr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin yn yr 1980au y deuthum ar draws Anglicaniaeth a’r hyn sydd wedi teimlo ers hynny fel fy nghartref ysbrydol.

Cyfarfûm â Jean pan oeddwn yn 49. Merch o Sir Faesyfed ydi hi. Wnaethon ni briodi yn 2014 ac mae’r teulu’n cael ei gwblhau gan Labrador du egnïol 3 oed o’r enw Jack. Nid yw wedi arfer â’r môr, felly gallai gwylio’r datblygiad hwnnw fod yn hwyl.

Mae gwreiddiau fy nheulu yn Ardudwy a bûm yn ymweld

â’r ardal cyhyd ag y gallaf gofio. Dyma’r lle rwyf wedi’i garu yn fwy nag unrhyw un arall ar y Ddaear.

Mae’r syniad o rannu antur ogoneddus yr Efengyl mewn

lle dwi wedi ei garu o bell ers cyhyd yn teimlo fel gwireddu

breuddwyd: dwi’n mawr obeithio nad oes neb yn mynd i’m deffro ohoni unrhyw bryd yn fuan!

ymyrryd cyn lleiad â phosib. Dyma’r dull yng ngwinllan Emmanuel a’i dad yn Domaine Ogereau ond, erbyn hyn, roedd yn adrodd i ni yn ystod ein hymweliad diwethaf, maent nawr yn organig. Yn ogystal, defnyddir dull o gasglu rhai grawnwin yn gynnar a chychwyn yr eplesiad gyda’r burum gwyllt, sy’n cryfhau’r burum naturiol i’r eplesiad. Maent yn defnyddio hwn i gychwyn y prif eplesiad gyda’r gweddill o’r grawnwin. Er nad oes diffiniad cyfreithiol na phroses o ddarparu dogfennaeth yn ardystio yn swyddogol fod gwin yn naturiol, mae dull Ogereau o ddefnyddio burum brodorol yn naturiol.

Ond, mae angen llawer mwy o le i drafod gwin naturiol! Am y tro, dwi’n mwynhau gwydraid o rosliw cyfoethog Ogereau. Llinos Rowlands, Gwin Dylanwad, Dolgellau

Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.