Llais Ardudwy Chwefror 2023

Page 1

Llais Ardudwy

Ymweliad

Gweinidog Addysg

Cefnogi’r Heddlu

Daeth Jeremy Miles, Gweinidog Addysg yn Llywodraeth

Cymru i Ysgol Ardudwy ar Ionawr 26 i gynnal sesiwn cwestiwn ac ateb gyda disgyblion 7M yn yr Adran Saesneg.

Roedd yn fraint fawr i’r ysgol gael croesawu’r Gweinidog ac yn gyfle gwerthfawr i’r disgyblion drafod gyda gwleidydd amlwg sy’n gwneud penderfyniadau a fydd yn effeithio ar ddyfodol y criw ifanc yma.

Y disgyblion eu hunain benderfynodd ysgrifennu at y Gweinidog gan ei wahodd i Harlech. Hefyd yn y gwahoddiad, rhoddwyd blas o’r cwestiynau posib y buasent yn hoffi eu gofyn os y byddai yn ymweld.

Cafwyd sesiwn werth chweil a fydd yn aros yn y cof am amser maith.

Hoffai’r llywodraethwyr, y staff a’r disgyblion ddiolch yn

fawr i’r Gweinidog am wneud yr ymdrech i ymweld. Yn sicr, mae pawb yn Ardudwy yn gwerthfawrogi hyn.

Prynhawn dydd Mawrth, 17 Ionawr, cyfarfu aelodau

Merched y Wawr y Bermo a’r Cylch. Roedden ni’n falch o groesawu Elliw Williams a’i chydweithiwr Gill, Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu yn ein hardal. Roedd yn ddiddorol clywed sut maen nhw’n cefnogi’r Heddlu a’r gymuned wrth fod yn bresennol ar y strydoedd a bod yn barod i ymateb i bethau fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, ffraeo rhwng cymdogion, cymryd cyffuriau, ac ati. Roedd yr ymweliad â ni yn gyson â sut maen nhw’n cadw mewn cysylltiad â phobl y gymuned ar gyfer rhoi cyngor am sut i fod yn ddiogel ac ar gyfer esbonio eu gwaith. Diolch iddyn nhw am ddod aton ni. Bydd ein cyfarfod nesaf ar 14 Chwefror.

Bu Merfyn a Mai Roberts o Awstralia bellach, ar ymweliad ag Ardudwy a’r ardal yn ddiweddar. Mae Merfyn yn wreiddiol o Benrhyndeudraeth a Mai (Jones gynt) o Ddyffryn Ardudwy. Maen nhw wedi gweld llawer o deulu a ffrindiau ond chawson nhw ddim digon o amser i weld pawb o’u cyfeillion. Maen nhw am anfon eu cofion at bawb sy’n eu hadnabod. Tro nesaf hwyrach!

RHIF 528 - CHWEFROR 2023
£1
Ar Ymweliad

GOLYGYDDION

1. Phil Mostert

Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com

2. Anwen Roberts

Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com

3. Haf Meredydd

Newyddion/erthyglau i: hmeredydd21@gmail.com

01766 780541, 07483 857716

SWYDDOGION

Cadeirydd

Hefina Griffith 01766 780759

Trefnydd Hysbysebion

Ann Lewis 01341 241297

Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com

Trysorydd

Iolyn Jones 01341 241391

Tyddyn y Llidiart, Llanbedr

Gwynedd LL45 2NA llaisardudwy@outlook.com

Côd Sortio: 40-37-13

Rhif y Cyfrif: 61074229

Ysgrifennydd

Iwan Morus Lewis 01341 241297

Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com

CASGLWYR NEWYDDION

LLEOL Y Bermo

Grace Williams 01341 280788

Dyffryn Ardudwy

Gwennie Roberts 01341 247408

Mai Roberts 01341 242744

Llanbedr

Jennifer Greenwood 01341 241517

Susanne Davies 01341 241523

Llanfair a Llandanwg

Hefina Griffith 01766 780759

Bet Roberts 01766 780344

Harlech

Edwina Evans 01766 780789

Ceri Griffith 07748 692170

Carol O’Neill 01766 780189

Talsarnau

Gwenda Griffiths 01766 771238

Anwen Roberts 01766 772960

Gosodir y rhifyn nesaf ar 3

Mawrth a bydd ar werth ar 8

Mawrth. Newyddion i law Haf

Meredydd erbyn diwedd Chwefror os gwelwch yn dda. Cedwir yr

hawl i docio erthyglau. Nid yw’r golygyddion o angenrheidrwydd yn

cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

Dilynwch ni ar ‘Facebook’ @llaisardudwy

Cyfarfod Blynyddol Côr Meibion Ardudwy

Cadeirydd: Meirion Richards.

Is-gadeirydd: Iwan Morgan. Bydd y swyddogion eraill i gyd yn aros yn eu swyddi.

Llywydd Anrhydeddus am oes

Enwebwyd Gwilym Rhys Jones ar gyfer y swydd anrhydeddus hon. Bu’n aelod o’r Côr ers nifer fawr o flynyddoedd ac fe ŵyr pawb am ei gyfraniad aruthrol i fywyd diwylliannol y fro.

Adroddiadau

Cafwyd adroddiadau cadarn iawn gan y Cyngadeirydd, Mervyn Williams a chan Aled Morgan Jones, yr arweinydd. Bu’n flwyddyn lwyddiannus o ystyried effeithiau Covid-19 dros ddwy flynedd. Diolchodd y ddau i’r aelodau am gyfrannu mor ddygn tuag at lwyddiant y Côr. Mae nifer dda o gyngherddau eisoes wedi eu trefnu ar gyfer 2023. Adroddodd y trysorydd fod y sefyllfa ariannol yn iach er fod costau banc wedi codi’n sylweddol. Nododd Ieuan Edwards fod angen anfon at aelodau’r Clwb 200 i nodi fod y Clwb wedi dod i ben erbyn hyn.

Tâl aelodaeth

Bydd y tâl aelodaeth am y flwyddyn 2020 yn £25.

Dathlu 70

Byddwn yn dathlu ein pen-blwydd yn 70 oed eleni a gobeithir trefnu achlysur teilwng i nodi hynny.

Newid arweinydd

Nododd Aled ei fod wedi bod yn arwain y Côr ers 18 mlynedd rŵan a’i fod am barhau am ddwy flynedd arall. Hoffai ymddeol ar ôl 20 mlynedd yn y swydd a rhoddodd rybudd bod angen darganfod arweinydd newydd cyn bo hir. Bydd yn fodlon parhau i helpu a chanu yn adran y bas cyntaf pan fydd arweinydd newydd wedi’i ddarganfod.

Dan anhwylder

Anfonwyd ein cofion at Robert Jones [Bob] Gellilydan, aelod poblogaidd iawn o’r Côr, sydd wedi bod o dan anhwylder yn ddiweddar.

Taith i Huchenfeld

Rydym wedi cychwyn ar y trefniadau a gofynnwyd i bawb oedd am gyd-deithio i roi eu henwau i’r trefnydd mor fuan ag sy’n bosibl. Bydd angen i bawb sicrhau bod ei basport yn gyfredol. Byddwn yn hedfan i’r Almaen ar Hydref 25 ac yn dychwelyd ar Hydref 29.

Teyrnged

Dyma’r deyrnged a gyflwynwyd gan Tecwyn Williams, Ty’r Acrau yn y cynhebrwng preifat a gynhaliwyd, yn unol â dymuniad Caerwyn, yn Amlosfa Bangor ar 11 Ionawr.

Annwyl deulu ac annwyl gyfeillion, Braint fawr i mi ydi cael gwahoddiad gan y teulu i draddodi’r deyrnged hon i Caerwyn. Cawr o ddyn oedd Caerwyn, un y cefais i bleser mawr o’i gwmni a’i gyngor o ddyddiau cynnar iawn.

Mi gafodd Caerwyn ei eni ym mis Mawrth, 1943 a chan fod ei chwaer, Jennie, dair mlynedd ar ddeg yn hŷn, a’i genedigaeth hi wedi bod yn un anodd, cafodd eu mam ei chynghori i fynd i Gaer ar gyfer genedigaeth Caerwyn, a bu yno am dair wsnos cyn y geni, a phythefnos wedyn – a dyna sut cafodd ei enw. Caer ydi Chester yn y Gymraeg fel y gwyddoch chi’n dda! Daethant adref i fferm Merthyr mewn tacsi oedd yn cael ei yrru gan Mr William Parry o Harlech.

Pan oedd yn ddwy oed, disgynnodd ar ei ben ôl i fwcedaid berwedig o fwyd moch, a bu’n rhaid iddo fo a’i fam ddod i lawr i’r dre. Buont yn aros yng Nghlogwyn House am tua chwech wythnos er mwyn i’r doctor a’r nyrs drin y llosg yn ddyddiol. Roedd ei fam wedi meddwl ei drochi mewn llaeth enwyn, ond clywodd lais yn deud wrthi am beidio, a dywedodd y doctor wedyn, petai wedi gwneud hynny y byddai’r sioc wedi ei ladd.

Ni chafodd gychwyn yn yr ysgol

2

nes ei fod yn chwech oed am fod ei chwaer wedi gorfod cerdded bob cam i’r ysgol bob dydd o Merthyr, felly mynnodd ei dad fod rhaid cael tacsi iddo fo bob dydd.

Cychwynnodd yn nosbarth Miss

Mary Thomas a bu’n rhaid cael cadair fwy iddo fo fod yn gyfforddus oherwydd ei fod yn fachgen mawr cryf.

Aeth ymlaen wedyn i Ysgol Ramadeg y Bermo, ac yn y flwyddyn 1957, symud i Ysgol Ardudwy, ond mynnodd adael yn bymtheg oed gan fod ei holl fryd ar ffarmio. Dywedodd y prifathro, Mr M G Evans, fod hynny’n iawn am fod ganddo ddigon o waith i’w daclo ar y ffarm. Cychwyn ffarmio gyda’i dad a throi allan i fod yn ffarmwr taclus a chydbwybodol iawn.

Yn ystod y cyfnod hwn, cofiaf fel y byddwn yn cerdded ar bnawn Sul i fyny i Merthyr, heibio Llechwedd Du Bach, a thrwy’r coed a heibio Erw Wen, a chael hwyl wrth i Caerwyn ddangos be’ fyddai wedi bod yn ei wneud ar hyd yr wsnos efo’r anifeiliaid a’r peiriannau! Am flynyddoedd lawer, byddai Caerwyn a’i dad yn cerdded defaid cadw o Merthyr a Tyddyn Felin i lawr i Dy’r Acrau, heibio’r Lion i’r Sgwâr, yna lawr y Llech i Hwylfa’r Nant. Bob ’Dolig byddai teulu Merthyr yn dod i helpu i bluo’r gwyddau a’r tyrcwns, a mam Caerwyn yn helpu fy mam i drin y ffowls!

Mae’r cysylltiad wedi dal ar hyd y blynyddoedd. Caerwyn oedd fy ngwas priodas i, Gwen yn forwyn briodas i Iola, Iola yn forwyn briodas i Gwen, a Bryn yn was priodas i Iddon.

Cyfarfu Caerwyn â Bet yn Neuadd Idris, Dolgellau – Bet a Nia yn athrawon yn y Trallwng a Nia yn perswadio Bet i fynd efo hi i Ddolgellau, gan ei bod hi yn cyfarfod Richard yno! Geraint Lasynys yn gofyn, ‘Bet ydach chi yntê?’ ‘A

Caerwyn Merthyr ydi hwn’ – a dyna gychwyn ar y garwriaeth, a phriodi yn y flwyddyn 1966 - yna cychwyn

ffermio ym Merthyr a chael tri o blant - Iwan, Bryn ac Iola.

Dyma gyfnod prysur yn eu hanes – godro, corddi a gwerthu menyn.

Ac roedd graen arbennig ar y stoc. Cofiaf fel y byddai’n gwerthu mamogiaid yn sêl Harlech a phob tro ymhlith y prisiau uchaf. Trin llawer ar y tir ac yn ailhadu – cynigiais rhywdro i hel cerrig efo fo ddiwrnod y Cup Final pan oedd Wolves yn chwarae Blackburn, diwrnod caled iawn ond wnes i ddim cynnig yr eildro! Roedd Caerwyn yn ffan mawr o Arsenal – ond Man Utd oedd ein tîm ni fel teulu.

Cododd Caerwyn a Bet sied fawr ym Merthyr a chychwyn canolfan i blant o bob rhan o wledydd Prydain gael dysgu am ffarmio a chefn gwlad – roedd ganddo fo ffordd arbennig efo plant a bu’r fenter yn llwyddiant mawr.

Yn 1979, cafodd ei ethol i fod ar Gyngor Cymuned Harlech a dyna gychwyn ar ei yrfa fel cynghorydd. Yna yn 1985, cafodd ei enwebu i fod yn aelod o Barc Cenedlaethol Eryri, yna yn y 90au daeth yn aelod o Gyngor Gwynedd ac yn Gadeirydd Awdurdod y Parc. Gweithiodd yn ddiflino am flynyddoedd lawer. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd gyfle i deithio dramor a’r wlad oedd yn sefyll yn ei gof oedd Romania, am fod y dull o ffarmio mor debyg i’n gwlad ni. Nid oedd raid iddo boeni dim am y ffarm gartra, am fod Bryn a Bet yn dîm da yno.

Ymddeolodd Caerwyn a Bet yn 2010 a symud i lawr i ’Sgubor, Llandanwg a chael llawer o bleser yn garddio a bod yng nghwmni’r wyrion oedd yn meddwl y byd ohono, ac yntau yn meddwl cymaint ohonynt hwythau. Hefyd yn ei amser sbâr, hoffai ddod i fy helpu i ddi-hornio lloi bach neu drin y gwair yn Sarn Hir – cyfnod difyr arall – roedd ei gwmni mor ddifyr oherwydd fod ganddo gymaint o straeon ffraeth am yr hen amser.

‘Mae’n rhaid iddo fod yn amyneddgar iawn,’ meddai Iola, gan mai fo, a neb arall, a ddysgodd imi ddreifio a phasio’r test y tro cyntaf. Aeth â hi ar ryw motorway ar ôl iddi basio a deud wrthi am roi ei throed i lawr a gneud 100 milltir yr awr – a deud wedyn, ‘Dyna ti wedi gneud rŵan a phaid a gneud byth eto.’

Ac, wrth gwrs, mae Elena hefyd

yn deud mai Taid fu’n help iddi roi bollards yn y cae yn Llandanwg. Mae Pris yn cofio fel byddai hi a Caer yn cyrchu’r plant o’r dre ambell dro, ac yntau yn dod allan o’i gar fel gŵr bonheddig ac yn deud wrthi, ‘Dydi’n swydd ni’n sâl, Pris bach!’

Bu ei ddoethineb, ei Gristnogaeth a’i natur bonheddig yn gefn mawr iddo yn ei waith fel cynghorydd. Roedd ganddo natur fynwesol, a phersonoliaeth garedig. Dyn glandeg, smart a thrwsiadus bob amser. Dyn eang ei weledigaeth, dyn galluog a chanddo lawysgrifen gymen iawn.

Mi fydd colled enfawr ar ôl Caerwyn yn ein hardal ni ond mi fydd y golled fwyaf yn y ’Sgubor, Llandanwg. Mi gewch gysur o gofio’r amseroedd da a chysur o gofio am ei ofal, ei hawddgarwch, ei hiwmor a’i gyngor doeth. Mae’r gymdogaeth gyfan dros ardal eang yn meddwl amdanoch i gyd, yn ystod yr amser anodd hwn. Diolch am oes dda a chynhyrchiol a diolch am gawr o ddyn a wnaeth gymaint o waith dyrchafol dros bethau gorau ein cenedl. Diolch am gael ei nabod. Gwyn dy fyd di Caerwyn, wrth iti fynd i lawenydd dy Arglwydd. TW

Diolch

Hoffwn ddiolch yn ddiffuant ar ein rhan fel teulu am y caredigrwydd a ddangoswyd tuag atom yn dilyn marwolaeth Caerwyn. Bu’r cardiau, llythyron, galwadau ffôn, blodau a’r rhoddion, a’r ymweliadau â mi yn y ’Sgubor o gysur mawr inni. Gwerthfawrogwn hefyd y cyfraniadau tuag at Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru.

Diolch arbennig i Gwen Edwards am y modd yr arweiniodd y gwasanaeth gydag anwyldeb, ac i Tecwyn Williams, ffrind bore oes, am y deyrnged hyfryd.

Yn olaf, gwerthfawrogwn gwmni Pritchard a Griffiths am eu trefniadau trylwyr ac urddasol.

Rhodd a diolch £20 gan Bet a’r teulu.

3

Rhodd er cof

Derbyniwyd y swm o £1,101 tuag at Ysgol Hafod Lon er cof am Gwyneth Roberts, Uwch Glan. Croesawyd y swm yn fawr iawn a bwriedir ei roddi tuag at gronfa i gyfarfod â phroject o brynu beiciau tair olwyn i addysgu plant gydag anghenion arbennig a sydd nepell o gostio £3,000 yr un, er mwyn eu haddysgu i ymdoddi i’r gymdeithas yn hanes eu bywydau. Diolchwn fel teulu yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd tuag at swm mor anrhydeddus o dda.

Marwolaeth

Yn Ysbyty Alltwen, Tremadog, bu farw David Tanwg Lampert, Llanfair

Uchaf wedi salwch hir. Roedd yn ŵr i Theresa ac yn dad i Gregory a Matthew a thaid i Aaron a Sarah.

Roedd yn uchel ei barch yn yr ardal ac roedd ganddo wên barod bob amser. Roedd yn weithgar gyda’r Gymdeithas Arddio a Thrên Bach Ffestiniog.

Cynhelir gwasanaeth angladdol yn Eglwys Dewi Sant, Harlech a Mynwent Llanfair ar 10 Chwefror.

Ymarfer eich

Cymraeg

Cyfle i ddysgwyr

Hwb Cymraeg Meirionnydd, Paned a Sgwrs.

Dydd Mercher, 1 Mawrth

Oakeley Arms, Maentwrog, rhwng 1-2 y prynhawn.

Dydd Llun, 6 Mawrth

a dydd Llun, 27 Mawrth

Pwll Nofio Harlech, 11 hyd hanner dydd.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â b.glyn@bangor.ac.uk

Plygain Cyfeillion Ellis Wynne

O’r diwedd! Yn ôl i drefn! Llwyddwyd i gynnal y Plygain yn Eglwys Llanfair eleni ar ôl saib yn dilyn y cyfnodau clo. Daeth tyrfa deilwng ynghyd i lenwi’r Eglwys a chafwyd deg o eitemau ddwy waith yn ôl patrwm traddodiadol y Plygain. Dau barti, tri thriawd, pedwar unigolyn ac un ddeuawd. Nid cyngerdd oedd o wrth reswm, ond gwasanaeth. Gweinyddwyd y cyfan yn urddasol gan y Parch Miriam Beecroft, a ddaeth yr holl ffordd o Fachynlleth i fod yno. Cyfeiriodd Gerallt Rhun yn ei gyfarchion ar ddechrau’r gwasanaeth at golledion a fu ers y Plygain diweddaf, yn benodol Pam Odam a fu’n ffyddlon iawn wrth yr organ. Y tro hwn, llenwyd y bwlch gan Lisabeth Roberts, Penrhyndeudraeth a gwerthfawrogwyd ei gwasanaeth.

Roedd partïon ac un unigolyn o ardal Ardudwy, a braf oedd gweld yr ymdrech yn lleol. Diolch i bawb a gymrodd ran. Ond hefyd roedd eitemau gan rai y tu hwnt i ffiniau’r ardal, parti ac unigolion o ardal Mawddwy, a braf oedd eu croesawu’n ôl i’n plith. Unigolyn arall o Lŷn, ac hefyd y ddeuawd hynaws o ardal y tu hwnt i Aberystwyth, dau sydd wedi cefnogi yn selog dros y blynyddoedd, Trefor a Rhiannon. Rydan ni yn gwerthfawrogi yn fawr eu cyfraniad a’u cefnogaeth gyson.

Roedd nifer o rai di-Gymraeg yn y gynulleidfa a braf oedd eu gweld yn ymhyfrydu yn y traddodiad, ac ar yr un pryd yn dangos awydd i ymdoddi i’r gymuned yn Ardudwy. Roedd gwledd yn aros pawb yn Neuadd Llanfair yn dilyn Carol y Swper, a diolch i bawb a fu’n cyfrannu yn y gwaith o fwydo, gweini a chlirio a glanhau. Cafodd pawb eu gwala, ac roedd ‘deuddeg basged o fwyd dros ben’ fel yn yr hanes am borthi’r pum mil! Diolch i bawb a gyfranodd i wneud y Plygain yn llwyddiant ar ôl ansicrwydd y blynyddoedd diwethaf.

4
LLANDANWG
LLANFAIR A

Anita Schenk

Ar ddydd Sul, 22 Ionawr, bu

farw Anita Schenk (Powell gynt) yn ei chartref yn Altenmarkt, Salzburgerland, Awstria.

Cafodd Anita ei magu ym Mlaenau

Ffestiniog ac yng Nghricieth. Cyfarfu â’i gŵr Heinz ar ddiwedd y 50au pan ddaeth draw efo’i frawd Jurgen i

weithio ym Mhortmeirion fel ‘pastry chef’.

Wedi priodi, symudodd Anita a Heinz i Lanbedr, Ardudwy i gadw gwesty bach, Plas Newydd. Yn y cyfnod yma ganwyd eu dau blentyn, Lisel a Karli.

Ymhen rhai blynyddoedd, symudodd y teulu i Lug in’s Land, cartref Heinz yn Awstria, a’i gynnal fel gwesty bach. Dros y blynyddoedd mae llawer iawn o Gymry o bob cwr o’r wlad wedi aros yn eu gwesty bach i fwynhau cerdded y mynyddoedd neu i sgïo, yn amlach na pheidio yng nghwmni profiadol Heinz. Bu pobl ifanc o wahanol rannau o ogledd Cymru hefyd yn treulio’r gaeaf yno yn magu profiad o gynnal gwesty.

Mae gwreiddiau Anita yn Uwch-glan a Brwynllynnau, Llanfair, ac mae perthnasau iddi’n byw yn yr ardal. Yn ogystal â sawl unigolyn sydd wedi mynd draw yn rheolaidd o bob cwr o Gymru i aros efo Anita a Heinz, aeth Côr Meibion Ardudwy draw rai blynyddoedd yn ôl am wyliau ac i gynnal dau gyngerdd.

Ymwelydd anghyffredin i Dal-y-bont

Ers canol mis Rhagfyr, mae math o betrisen wedi bod yn ymwelydd cyson â gardd yn Nhal-y-bont. Mae’r lliwiau’n cyfleu mai ceiliog y betrisen goesgoch sydd yma. Mae’r aderyn yn gartrefol iawn yn yr ardd ac yn werthfawrogol iawn o’r lluniaeth briodol ar ei gyfer!

Raymond Owen

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR

MATERION YN CODI

Wi-fi yn y Neuadd

Cafwyd gwybod bod croeso i’r Cyngor

Cymuned osod darpariaeth Wi-fi yn y Neuadd ond ar eu cost eu hunain oherwydd bod pwyllgor y Neuadd ar hyn o bryd yn gwario mwy nac y maent yn ei dderbyn. Cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda Mr Rob Lewis ynglŷn â’r mater yma.

Presept y Cyngor 2023/24

Cytunwyd i godi y presept o £16,000 i £17,000.

Polisi Asesiad Risg y Cyngor

Dosbarthwyd copïau o’r uchod i bob aelod a oedd yn bresennol a thrafodwyd pob eitem a oedd arno ar wahân. Penderfynwyd derbyn y polisi hwn.

Panel Cyfrifiad Annibynnol

Mae angen i bob Cynghorydd arwyddo ffurflen ynglŷn â’r uchod eto eleni.

Mae angen rhestru bob rheol sydd yn cael ei mabwysiadu yng nghofnodion y Cyngor ac os bydd rheol daliadau ar gyfer costau yn cael ei mabwysiadu bydd angen i’r Cynghorwyr NAD

YDYN NHW am hawlio costau

arwyddo ffurflen yn datgan hynny. Ar ôl trafodaeth cytunwyd i fabwysiadu’r rheol daliadau ar gyfer costau eto eleni a chytunwyd bod pawb oedd eisiau hawlio costau yn gwneud hynny ond ei fod yn bwysig bod pawb yn ei hanfon yn ôl i’r Clerc ar ôl ei chwblhau. Llinellau melyn Stesion Llandanwg Nawr bydd angen aros i weld a oes unrhyw wrthwynebiadau i’r cynlluniau. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn copi o e-bost gan Rosy Berry a anfonwyd ganddi at Gyngor Gwynedd yn datgan ei bod yn gobeithio bod y syniad hwn wedi cael ei ollwng, neu o leiaf na fydd y llinellau yn ymestyn hyd at y bont. Hefyd yn datgan pe bai’r llinellau yn ymestyn at y bont bydd sefyllfa chwerthinllyd yn codi lle bydd pobl Llanfair yn methu parcio i ddefnyddio eu gorsaf leol yn ystod yr haf, a bod y mwyafrif ohonynt yn defnyddio’r trên i osgoi traffig gwyliau a’r problemau parcio sydd yn bodoli ym Mhorthmadog a’r Bermo. Cytunwyd i fwrw ymlaen â chael y llinellau melyn hyn.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Adeiladu estyniad ochr unllawr newydd gyda’r estyniad ochr presennol wedi’i ymgorffori yn yr estyniad newydd - Hen Gaerffynon, Harlech. Cefnogi’r cais hwn.

GOHEBIAETH

Llywodraeth Cymru

Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod yn hysbysu’r Cyngor mai’r swm priodol o dan Adran 137(4) (a) Deddf Llywodraeth Leol 1972, Gwariant Adran 137, y Terfyn ar gyfer 2022/23 fydd £9.93 yr etholwr. Adroddodd y Clerc mai’r rhif diweddaraf o etholwyr sydd ganddi yw 332 felly mae gan y Cyngor hawl i gyfrannu hyd at £3,296.76 i gyrff allanol.

TORRI GWAIR

Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Llanfair o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol.

Am fwy o fanylion cysylltwch â’r

Clerc: Mrs Annwen Hughes, Crafnant, Llanbedr ar 01341 241613.

Dyddiad cau 28.2.23.

5

LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL

Fforddd osgoi

Byddwch yn ymwybodol o ddatganiad Llywodraeth y DU na fu cais Coridor Gwyrdd Ardudwy (yn cynnwys ffordd osgoi i bentref Llanbedr) i’r Gronfa Ffyniant Bro yn llwyddiannus. Yn amlwg mae hyn yn siom, ond hoffem eich sicrhau ein bod yn parhau i edrych ar ffyrdd amgen o wella opsiynau teithio yn yr ardal, diogelwch ym mhentref Llanbedr a mynediad i’r Ganolfan Awyrofod.

Croesair y Daily Telegraph

Llongyfarchiadau cynnes iawn i Idris Lewis ar ennill cystadleuaeth croesair y Daily Telegraph. Mae Idris yn ymddiddori’n fawr mewn cwisiau a chroeseiriau, yn enwedig rhai anodd, cryptig. Enillodd wobr gysur yn yr yn gystadleuaeth rai misoedd yn ôl, ond yn awr y mae wedi cyrraedd y brig. Ac fel y gŵyr y cyfarwydd, dydi croesair y Telegraph ddim yn un hawdd. Da iawn ti, Idris.

Cymdeithas Cwm Nantcol

Cawsom ein diddanu gan y gantores a’r delynores, Gwenan Gibbard ddechrau mis Ionawr. Cawsom ganddi amrywiaeth o ganeuon gwerin a gosodiadau cerdd dant a’r llais swynol a’i phersonoliaeth yn swyno pawb. Diolch i ‘Noson Allan’ am gefnogi’r noson. Noson hyfryd!

Ddiwedd y mis, daeth Penri Jones o’r Parc atom i drafod ‘Breuddwyd Syr Ifan’, sef hanes bywyd a gwaith Syr Ifan ab Owen Edwards, un a wnaeth cymaint dros ieuenctid Cymru. Cawsom gyflwyniad difyr trwy gyfrwng sleidiau i ddangos sut yr oedd oedd Penri yn credu bod Syr Ifan yn haeddu cael ei gydnabod fel un o’r tri mwyaf blaengar yn hanes diogelu’r Gymraeg. Y ddau arall ar ei restr oedd Syr O M Edwards a’r Esgob William Morgan. Noson ddifyr!

Cyhoeddiadau

CHWEFROR

19 Edward Morris Jones

26 Mrs Eleri Jones

MAWRTH

5 Mr Elfed Lewis

Cymdeithas Cwm Nantcol

CYNGERDD gyda

MEIBION PRYSOR

yn y Ganolfan, Llanbedr Nos Fawrth, 28 Chwefror am 7.30

Cyflwyniad

Lisbeth James yw fy enw, ac rwyf yn enedigol o Gwm Nantcol, Ardudwy. Rwyf yn byw yn Llithfaen ers 2007. Roedd Peter y gŵr yn ficer Botwnnog cyn hynny, ac yn Ficer yn Harlech cyn hynny. Rydym yn byw yn hen Gapel Tabor ac wrth ein boddau yma yn Llithfaen.

Mae gan Peter bedwar o blant a minnau yn lysfam iddynt. Mae Peter yn ‘Grandpa’ a minnau yn ‘Nain’ i 13 o wyrion ac wyresau, bellach yn byw ar chwâl i gyd. Newydd fod yn siarad efo un wyres yn America neithiwr ac yn rhannu beth mae hi wedi’i ddysgu yn y Gymraeg wrth astudio Dualingo!

1 Beth yw eich atgof cyntaf?

Cofiaf i mi fod yn eistedd yn yr ardd o flaen ffenest gegin yn nhŷ fy Nain a’m Taid, Bryntirion, Yr Ynys, Talsarnau, yn bwyta pêrs tun mewn desgil wen. Mae’n debyg mai rhyw dair oed oeddwn ar y pryd. Mae llawer o f’atgofion cynharaf yn ymwneud â bwyd am ryw reswm!

2 Pa dri lle sydd bwysicaf i chi? Cwm Nantcol, Israel a Llithfaen. Yn Ffair Nadolig Nant Gwrtheyrn roedd stondin ffotograffiaeth gan Mari Lloyd o Gwm Nantcol. Roedd ganddi luniau gwerth chweil o Gwm Nantcol. Roeddwn wedi gwirioni ei gweld yno a mawr oedd y sgwrsio.

3 I le byddwch yn mynd ar eich gwyliau?

Lle bynnag bo Katie yn byw ar y pryd. Y tro dwytha oedd Nigeria ... ond stori arall yw honno!

4 Beth sy’n gwneud i chi chwerthin? Ar hyn o bryd, rwy’n darllen am fagwraeth John Ogwen yn Sling. Roedd ganddo ddisgrifiad o oedfa pan ddigwyddodd i ddannedd gosod y pregethwr ddisgyn o’i geg i lawr i’r

6
Capel y Ddôl

sêt fawr a blaenor yn eu codi iddo ar y plât casgliad! Roedd disgrifiad John Ogwen o’r digwyddiad yn hynod. Mi chwerthais lond fy mol!

5 Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Cymerwyd fidio fer o’n hŵyr awtistig yn cyfarfod â Seth, ei frawd mawr, yn y maes awyr pan gyrhaeddodd adra o Seland Newydd, ar ôl treulio blwyddyn yno. Emosiynol iawn.

6 Pa fath o gerddoriaeth ydach chi yn ei hoffi, ac ydach chi yn unigolyn cerddorol eich hun?

Pob math, o gerddoriaeth bop i gerddorfa fyw yn y Philharmonic yn Lerpwl.

Profiad arbennig o emosiynol i mi yw cael gwrando ar gerddorfa lawn fyw yn ogystal ag unawdydd offerynnol proffesiynol. Byddaf yn rhyw drio chwarae offerynnau a chanu dipyn. Ond erbyn hyn mae’r llais yn crygu!

7 Oes yna rywbeth yn codi arswyd arnoch?

Nadroedd.

8 Oes gennych uchelgais, neu oes yna rywbeth y byddech chi’n hoffi ei wneud yn y deg mlynedd nesaf?

Dringo’r Grib Goch ond breuddwyd ydy hynny bellach ac mae’r amser yn prinhau! Hefyd mae gen i ofn methu cael lle i basio ar y grib gan fod cymaint o bobl ddieithr yn dringo hefyd.

9 Beth sydd wedi achosi’r embaras mwyaf i chi?

Anghofio enw rhywun dwi’n nabod yn dda a thrio’n galed i gofio tra maen nhw’n siarad. Wrth wneud hynny colli rhediad y sgwrs.

10 Maen nhw’n dweud fod pobl yn dewis anifeiliaid anwes sy’n debyg iddyn nhw. Oes gennych chi anifail anwes? Pa fath?

Nag oes! Gan i mi gael fy magu ar fferm, allan fyddai pob anifail! Byddai’r ci defaid mewn cwt a’r cathod yn cael digon o ddewis lle i fynd i gysgu ac i fagu digon o gathod bach i gadw’r llygod draw.

11 Pa un yw eich hoff raglen deledu?

Alla’i ddim enwi dim un arbennig ond rwyf wrth fy modd yn edrych ar raglenni natur. Un dda oedd ‘Natur a Ni’. Gobeithio daw yn ei hôl. Gwyliaf hefyd ambell i raglen hanes. Gan mai hanes yw hoff bwnc Peter, rydw inna hefyd yn cael blas ac yn dysgu llawer. Y dwytha oedd cyfres ar Theodore Roosevelt – diddorol iawn.

Does neb rhy hen i ddysgu!

12 Sut fyddwch chi’n treulio eich oriau hamdden?

Fy hoff beth yw cerdded: cerdded ardaloedd Pen Llŷn a gwerthfawrogi ei golygfeydd godidog.

Gan ein bod mewn ardal mor hyfryd â Llithfaen (ail dda i Gwm Nantcol!), gallwn bicio i fyny’r ffordd fel bo’r haul ar fin machlud ac eistedd ar y garreg yr ochor arall i’r clawdd ar y troad mawr sy’n arwain at Nant Gwrtheyrn. Eistedd, myfyrio a sgwrsio wrth i’r dydd ddirwyn i ben.

13 Mae angen help ar Lywodraeth Cymru i redeg y wlad. Pa gyngor fyddech yn ei roi i Mark Drakeford? Dal ati!

14 Beth sy’n dân ar eich croen?

Yr un hen beth! Sathru ar faw ci!

15 Beth fyddai eich swydd ddelfrydol?

Sefyll tu ôl y cownter yn Siop Pen y Groes, Llithfaen, a chael sgwrsio efo hwn a’r llall!

16 Ydach chi’n siopa ar y we, ac os ydach chi, pa fath o bethau fyddech chi’n eu prynu ar y we? Trio peidio! Dim ond os nad ydy o i’w gael yn siop Hefina, siop West End, neu mewn ambell i siop arall ym Mhwllheli.

17 Ydach chi wedi rhoi lliw yn eich gwallt erioed?

Do, beth amser yn ôl bellach tan ddwedodd fy nith, ‘O Anti Lis, mae’ch gwallt chi yn salmon pinc,’ a dyna ddiwedd ar hynny!

18 Oes gennych chi datŵ neu fyddech chi’n cael un? Os felly, tatŵ o beth? ’Rioed wedi apelio!

19 Pwy ydy’r unigolyn mwyaf diddorol ydach chi’n/wedi ei adnabod?

Cymeriad a hanner oedd Yncl John, Cwm’rafon.

Yn y cyfnod hwnnw cyn i deledu ddod i’r un tŷ, byddem yn ymweld â chartrefi ein gilydd yng Nghwm Nantcol a Chwm Bychan. Byddem fel teulu yn edrych ymlaen at fynd i Gwm’rafon lle byddai yno wledd o fwyd cartref, canu penillion gyda’r delyn a sgwrsio yn gylch o gwmpas y tân.

Byddai pawb yn eistedd o bopty’r tân ar ddwy setl reit anghyfforddus ac Yncl John, yn ŵr gweddw erbyn hynny, gyferbyn â’r tân mewn cadair. Y pethau â’m diddorai yn fawr oedd yr hanesion am ffermio ac am fynd i hela llwynogod. Yn ddistaw bach, byddwn mor falch o glywed y byddai’r hen lwynog bach yn newid ei gyfeiriad ambell waith pan glywai hogla baril y gwn yn yr awel ac yn osgoi cael ei saethu. Yna, er mwyn effaith, byddai Yncl John yn cymryd saib tra byddai yn poeri i lygad y tân ... ac o gryn bellter hefyd! Doedd o byth yn methu! Roedd pawb yn meddwl y byd ohono gyda rhyw barch dyledus i’r pen teulu yno yng Nghwm’rafon.

20 Beth ydy’r peth gorau sydd wedi digwydd i chi erioed?

Ni fedraf gelu’r ffaith mai’r peth gorau sy wedi digwydd i mi erioed yw fod Duw wedi dangos i mi mod i’n bechadur ac angen fy achub. Mewn capel bach ym Mae Colwyn yn Ebrill 1970 y dois yn Gristion. Y cychwyn oedd hynny a dwi wedi baglu a methu lawer gwaith ac yn dal i wneud ond does dim byd gwell na chael Iesu yn Waredwr ac yn Ffrind.

Ymddangosodd yr uchod gan Lisbeth yn wreiddiol yn y papur bro Llanw Llŷn a diolchwn i’r golygyddion am gael defnyddio’r cyfraniad.

7
Y ddwy chwaer, Anna Wyn a Lisbeth (Richards bryd hynny), ym Mhenisa’rcwm, Cwm Nantcol.

DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT

Elenor Pryce Jones

Trist oedd clywed am farwolaeth

Elenor yn dawel yng Nghartref Meddygcare, Porthmadog, yn 79 mlwydd oed. Gynt o Sebonig, Taly-bont a Dolafon, Dyffryn Ardudwy, roedd yn ferch i’r diweddar Robert Pryce a Catherine Jane Jones, ac yn gyfnither annwyl a ffrind hoff a thriw, un a oedd bob amser yn ofalgar, caredig a pharod ei chymwynas. ‘Môr o rin a rannodd hon.’

Graddio

Llongyfarchiadau i Lisa Gwynant

Cartwright, Parc Uchaf a raddiodd

gyda Gradd MA mewn Iaith ac

Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol

Lancaster ar 15 Rhagfyr 2022.

Roedd ei thraethawd estynedig yn ymchwil ar sut y mae siaradwyr

dwyieithog yn dewis adnoddau

Cymraeg mewn gwahanol

sefyllfaoedd, megis busnes, hamdden, ffonio, llenwi ffurflenni, darllen canllawiau ayyb.

Mae Lisa yn hollol rhugl yn yr

Almaeneg ac hefyd yn medru cyfathrebu’n effeithiol yn Eidaleg a Ffrangeg.

Dymuniadau gorau iddi am y dyfodol.

Cydymdeimlwn yn fawr â’r teulu estynedig yn eu profedigaeth. Roedd yn ffrind triw i lawer a chymydog caredig, parod ei chymwynas bob amser.

‘Hyn a allodd hon, hi a’i gwnaeth’.

Cynhaliwyd angladd cyhoeddus yn Eglwys Horeb, Dyffryn Ardudwy, fore Sadwrn, 14 Ionawr ac yna ym Mynwent Newydd Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont. Derbyniwyd rhoddion yn ddiolchgar er cof at Tŷ Gobaith a Chylch Meithrin y Gromlech.

Gwellhad

Brysiwch wella Sharon Greer, Pentre Uchaf ar ôl eich triniaeth yn yr ysbyty yn ddiweddar.

Pen-blwydd arbennig

Llongyfarchiadau i Elen Mari Beaven, Glanywerydd, oedd yn dathlu penblwydd arbennig ddiwedd mis Ionawr.

Pen-blwydd arbennig

Llongyfarchiadau i Bethan Williams, Bryn Heulog, ar ddathlu pen-blwydd arbennig yn Ionawr. Gobeithio dy fod wedi cael hwyl yn dathlu gyda’r teulu.

Dyweddïad

Llongyfarchiadau i Cai Edwards, Parc Isaf, a Laura Ashleigh ar eu dyweddïad yn ddiweddar.

Dymuniadau gorau i chwi eich dau yn y dyfodol.

Dydd Gweddi, Chwiorydd y Byd yn Festri Horeb am 2 o’r gloch, Dydd Gwener, 3 Mawrth.

Croeso cynnes i bawb

Cyhoeddiadau’r Sul Horeb

I gyd am 10.00 o’r gloch

CHWEFROR

12 Jean ac Einir

19 Parch Dewi Morris

26 Parch R O Roberts

MAWRTH

5 Elfed Lewis

8

Genedigaeth

Llongyfarchiadau a dymuniadau

gorau i Tomos Glyn a Lisa ar enedigaeth merch fach, Ania Glyn, trydedd wyres i Dei ac Alma Griffiths, Bryn Coch, Dyffryn Ardudwy.

Pen-blwyddi

Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Mrs Enid Thomas, Hafod Mawddach (Glanrhos a Borthwen gynt), ar ei phen-blwydd yn 95 ar 15 Ionawr ac hefyd i Mr John Vincent Jones, Delfryn, ar ei ben-blwydd yn 93 ar 21 Ionawr.

Cydymdeimlad

Anfonwn ein cydymdeimlad at John a Sheila Jones, Dulyn, a’r teulu oll yn eu profedigaeth o golli mam Sheila.

Cydymdeimlwn ag Annwen a Chris Shenton, Gorwel Deg, a’r teulu yn eu profedigaeth o golli ewythr, Mr Caerwyn Roberts (Merthyr gynt). Roedd Caerwyn yn frawd i fam Annwen.

Priodas

Llongyfarchiadau cynnes iawn i Olwen Telfer, Pentre Uchaf ar achlysur priodas ei hwyres Penny gyda Nick yn Gretna Green ar 5 Ionawr. Dymuniadau gorau iddynt yn eu bywyd priodasol draw yng Nghaerdydd.

Corachod caredig Cyn y Nadolig bu corachod caredig sy’n dymuno aros yn ddi-enw yn brysur iawn yn casglu nwyddau a pharatoi hamperi ac yna eu dosbarthu i drigolion yn Nhal-ybont a’r Dyffryn. Diolch o galon i chi am eich caredigrwydd a’ch meddwlgarwch. Gwerthfawrogwyd yr hamperi yn fawr iawn.

Genedigaeth

Llongyfarchiadau cynnes i Aron a Mari, Dolgellau ar enedigaeth eu merch fach, Casi Mai Wellings, ar 24 Ionawr yn Aberystwyth. Dymuniadau gorau i Taid a Nain, Paul ac Iola ynghyd â’r hen daid a nain sef John a Jean Roberts. Pob lwc i’r teulu bach.

CYNGOR CYMUNED DYFFRYN A THAL-Y-BONT

MATERION YN CODI

Panel Cyfrifiad Annibynnol

Mae angen rhestru bob rheol sy’n cael ei mabwysiadu yng nghofnodion y Cyngor ac os bydd rheol daliadau ar gyfer costau yn cael ei mabwysiadu bydd angen i’r Cynghorwyr NAD YDYN NHW am hawlio costau arwyddo ffurflen yn datgan hynny. Cytunwyd i fabwysiadu’r rheol daliadau ar gyfer costau eto eleni a chytunwyd bod pawb oedd eisiau hawlio costau yn gwneud hynny ond ei fod yn bwysig bod pawb yn ei hanfon yn ôl i’r Clerc ar ôl ei chwblhau. Polisi Asesiad Risg Ariannol y Cyngor

Dosbarthwyd copïau o’r uchod i bob aelod a oedd yn bresennol a thrafodwyd pob eitem arno ar wahân. Penderfynwyd derbyn y polisi hwn.

Presept y Cyngor am y flwyddyn 2023/24

Derbyniwyd llythyr oddi wrth Gyngor Gwynedd ynglŷn â’r mater uchod. Ar ôl trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, penderfynwyd gadael y presept ar £50,000.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Gosod ffrâm bren yn lle’r paneli wal concrit allanol presennol, adeiladu ports ffrynt, a gosod paneli haul ar ddrychiad ochr y to - Mwaiseni, Ffordd y Llan, Dyffryn Ardudwy. Cefnogi’r cais hwn.

GOHEBIAETH

Llywodraeth Cymru

Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr uchod yn hysbysu’r Cyngor mai y swm priodol o dan Adran 137(4)(a) Deddf Llywodraeth Leol 1972, Gwariant Adran 137, y Terfyn ar gyfer 2023/24 fydd £9.93 yr etholwr. Adroddodd y Clerc mai’r rhif diweddaraf o etholwyr sydd ganddi yw 1,195, felly mae gan y Cyngor hawl i gyfrannu hyd at £11,866.35 i gyrff allanol.

Dŵr trwy’r tŷ

Derbyniwyd neges yn hysbysu’r Cyngor bod teulu o’r ardal wedi cael dŵr trwy’r tŷ yn ystod y tywydd garw a bod hyn yr ail waith i’r fath beth ddigwydd iddynt, gan ofyn a fyddai’r Cyngor yn gallu cynnig unrhyw ateb i’r broblem. Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon copi o’r neges ymlaen i’r Adran Briffyrdd yn Nolgellau gan ofyn iddynt weithredu ar y mater hwn.

Adroddodd Edward Griffiths bod y cwlfart sydd yn achosi’r broblem hon ar dir preifat uwchben y ffordd fawr a’i fod wedi cysylltu gyda’r perchennog i weld a fyddai’n bosib gwneud unrhyw waith.

TORRI GWAIR

Gwahoddir ceisiadau am dendrau i:

TENDR 1

Dorri gwair a’i glirio unwaith y mis, hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor yn y fynwent gyhoeddus, a gwneud gwaith tacluso fel bo angen, hefyd torri’r gwrych yn y fynwent. Torri gwair a’i glirio unwaith y mis yn hen fynwent Llanddwywe a mynwent Llanenddwyn. Hefyd tocio’r coed bach sy’n tyfu rhwng y beddi ym mynwent Llanddwywe yn rheolaidd.

TENDR 2

Dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yn Nyffryn Ardudwy a Thal-y-bont.

TENDR 3

Dorri a chlirio’r gwair o’r ddau barc chwarae ac fel bydd ei angen i dorri gwair a’i glirio o amgylch y sedd ym Mro Enddwyn, o amgylch y sedd ar Ffordd Ystumgwern, Ffordd y Llan a Ffordd yr Efail.

Am fwy o fanylion a chopiau o’r ffurflenni tendr, cysylltwch â’r Clerc: Mrs Annwen Hughes, Crafnant, Llanbedr ar 01341 241613. Dyddiad cau ar gyfer derbyn tendrau: 28.2.23.

NI DDERBYNNIR UNRHYW DENDR OS NA FYDD WEDI CAEL EI

ANFON I MEWN AR Y FFURFLEN DENDR SWYDDOGOL

9

CORNEL NATUR Y FINTAI

FFWDANLLYD Socan Eira

Ysgrif gan y diweddar Wil Ifor Jones, y naturiaethwr (o’r Dyffryn), o’i lyfr ‘Cacwn yn y Ffa’, Llyfrau Llafar Gwlad (rhif 58), Gwasg Carreg Gwalch, Gorffennaf 2004. Diolch i deulu Wil a’r wasg am eu caniatâd i gyhoeddi ei erthyglau yn Llais Ardudwy.

Gwyddom yn dda am ymwelwyr o adar sy’n dod atom yn yr haf, gyda chân y gog yn mesur y misoedd cyntaf, a gwibiad y wennol yn ymestyn ar ei hyd. Llai cyfarwydd i ni yw ymwelwyr y gaeaf ym myd yr adar pan na fo cân i ddynodi eu presenoldeb na wybren glir i’w gweld. Dyddiau hir i borthi’r cywion sy’n denu ymwelwyr yr haf.

Daear feddal a chynhaeaf y perthi sy’n denu ymwelwyr o’r gogledd oer yn y gaeaf. Un o’r ymwelwyr yma yw’r socan eira. Mae iddi berthnasau agos yn y fronfraith a’r fwyalchen yn y wlad yma a thebyg iddynt o ran maint a lliw ei phlu i raddau. Mae iddi frychau du rheolaidd ar ei mynwes, adenydd browngoch a mantell lwyd o’i chorun hyd at fôn ei chynffon ddu. Nid yw’r nodweddion yma’n rhai trawiadol ac nid y rhain sy’n tynnu’r sylw ond eu nifer a’u hymddygiad mewn haid.

Yn nwyrain Ewrop a Llychlyn y treuliant y tymor nythu ac ymfudant i’r gorllewin yn gyffredinol pan galeda’r tywydd ar y cyfandir.

Yr olwg arferol yw haid ohonynt yn ffrwydro allan o griafolen a’i ffrwyth wedi cael hir lonydd gan y mwyalchod brodorol. Dro arall disgynnant ar gae yn fintai ffwdanllyd gan dawelu’n sydyn ac ymdoddi i lymdra llwyd mis Ionawr neu’r mis bach.

Mantais yr haid dan yr amodau yma yw fod gwybodaeth yr un o ffynhonnell fwyd yn fendith i’r lliaws ond ddim yn golled i berchennog yr wybodaeth, ac mae nifer fawr yn gwella’r cyfle o ddarganfod cyflenwad. Ar dywydd caled iawn, mae modd denu’r socan eira i’r ardd gyda hen afalau sydd wedi cleisio a meddalu. Mae’r rheolau wedi newid yma. Nid yw’r afal ar y lawnt mor ddihysbydd â llond llwyn o aeron coch nac erwau lawer o dir yn llawn cynrhon ac mae’n rhaid ei amddiffyn. Gwae felly unrhyw beth sy’n debyg i socan eira, megis bronfraith neu fwyalchen a ddaw’n agos ati. Dyma gyfle ardderchog i weld aderyn yn goroesi caledi’r tywydd trwy ddianc o’i flaen, cymdeithasu ac eraill a sefyll ar ei draed ei hun. Mae natur yn fyw yn y gaeaf hefyd.

Cais am Lyfr

Annwyl Olygydd, A gaf i ofyn i ddarllenwyr Llais Ardudwy am gymorth i ddod o hyd i gopi o lyfr yr wyf yn chwilio amdano? Enw’r llyfr yw ‘A History of Llanbedr Airfield 1941-2012’ gan Wendy Mills.

Mae llun o’r clawr wedi’i gynnwys uchod; mae yna lyfr arall gan yr un awdur ond dwi wedi bod yn ddigon ffodus i gael copi o hwnnw. Rwyf wedi bod yn edrych a gofyn yn rhai o’r siopau llyfrau lleol, yr argraffwyr a mannau eraill a allai fod â chopi ond heb unrhyw lwyddiant.

Fy rheswm dros geisio cael copi yw oherwydd bod fy nhad, Edward Elias Phillips yn cael ei grybwyll ychydig o weithiau ynddo; felly mae’n bryniant sentimental i mi yn ogystal â ‘thaith i lawr lôn atgofion’. Heblaw am y llu o enwau ac awyrennau a grybwyllir ynddo, mae wedi dod ag atgofion o fynd gyda fy nhad i’r ‘camp’ ar benwythnosau pan fyddai’n gweithio goramser yno.

Os gall unrhyw un fy helpu i gael copi yna yn amlwg byddwn yn ddiolchgar iawn; gellir cysylltu â mi yn Lluest y Coed, Llwyn Ynn, Taly-bont.

Diolch yn fawr, Keith Phillips

10

Y GEGIN GEFN

Cyfrif Mawr Adar Ffermdir

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych ymlaen at amrywiaeth o sesiynau gwybodaeth gyda’r Game and Wildlife Conservation Trust (GWCT) ar ffermydd yng Nghymru i drafod adar brodorol Cymru a sut i ofalu amdanynt.

Cynhelir y sesiynau gwybodaeth, a fydd yn cynnwys cyflwyniad gan y GWCT a thaith gerdded o amgylch fferm, fel rhan o ddigwyddiad blynyddol GWCT sef Cyfrif Mawr Adar Ffermdir a gynhelir rhwng 3-19 Chwefror 2023.

Torth

9 owns o flawd codi Llwy de o halen

6 owns o fargarîn

6 owns o siwgr castor

11 owns o ffrwythau cymysg

3 ŵy mawr

6 llond llwy fwrdd o laeth

3 llwy de o sinamon

Dull

Rhowch y blawd a’r halen mewn dysgl a’i gymysgu. Adiwch iddo y margarîn a’i rwbio i mewn i’r blawd. Ychwanegwch y ffrwythau a’r siwgr a’i gymysgu.

Gwnewch dwll yng nghanol y gymysgedd ac adio’r llaeth a’r wyau (sydd wedi ei cymysgu) iddo nes y bydd o gysondeb gwlyb. Yna rhowch y gymysgedd mewn tun 2 bwys gyda phapur pobi ynddo, a’i goginio ar 170°c am oddeutu 1 awr a chwarter.

Mwynhewch!

Rhian Mair, Tyddyn y Gwynt gynt

Mae’r fenter bwysig hon yn cynnig dull syml o gofnodi effaith unrhyw gynlluniau cadwraeth sydd ar waith ar hyn o bryd gan ffermwyr a chiperiaid ar eu tir. Mae mwy o fanylion ar gael yma: www.bfbc.org.uk/take-part/ Mae digwyddiadau wedi eu cadarnhau. Os ydych yn dymuno mynychu’r sesiwn wybodaeth, cysylltwch â’ch swyddfa sirol leol neu cysylltwch â Phennaeth Cyfathrebu Undeb Amaethwyr Cymru, Anne Dunn ar anne. dunn@fuw.org.uk

Arddangos Lluniau

Ar hyd mis Ionawr, bu John Kerry, 33 Tŷ Canol, Harlech yn arddangos rhai o’i luniau yng Ngaleri Harlech sydd yng nghanol y dref. Mae gan y galeri gornel ar gyfer cefnogi artistiaid lleol ac roedd John yn falch o gael cyfle i fanteisio ar eu caredigrwyddd.

Ym mis Chwefror, penderfynwyd arddangos rhai o luniau John yng Ngaleri’r Seler, felly mae modd i chi bicio draw i’w gweld nhw. Llwyddodd i werthu pedwar llun yn ddiweddar. Gallwch gysylltu â John ar 01766 780791 pe baech am gael arddangosiad preifat!

Mordaith y Mimosa

11
tŷ fferm Diolch yn fawr iawn i Carwyn o ‘Mewn Cymeriad’ am ddod i Ysgol Talsarnau ym mis Ionawr i roi perfformiad o sioe ‘Mordaith y Mimosa’ i’r Adran Iau a B6, Ysgol Cefn Coch. Mwynhawyd y perfformiad yn fawr.

LLAIS ARDUDWY AR CD

POS CRACIO’R COD [Rhif 20]

Wyddoch chi fod posib derbyn Llais Ardudwy ar CD? Mae aelodau o Ferched y Wawr yr ardal yn recordio cynnwys Llais Ardudwy ac yn ei yrru at Gymdeithas y Deillion. Wedyn mae’n cael ei drosglwyddo i gryno ddisg, ar gyfer pobl sy’n ddall ac yn rhannol ddall. Os ydych yn gwybod am rywun a fyddai’n falch o gael CD, cysylltwch â Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru, 325 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1YB, ffôn 01248 353604. Cofiwch bod angen chwaraewr CD!

BANC BWYD Y BERMO

Mae man casglu nwyddau ar gyfer

Banc Bwyd y Bermo ym Mhwll

Nofio Harlech ac Ardudwy.

Rydym angen yr isod ar fyrder:

• Bisgedi

• Pacedi bach o reis (500g)

• Tatws

• Llefrith UHT

Tuniau o:

• Pys melyn

• Pwdin reis

• Cwstard

• Sardîns

• Mecryll Pethau ymolchi:

• Past dannedd

• Shampŵ a chyflyrydd

• Sebon cawod

Mae gennym ddigon o’r isod, diolch

• Pasta

• Ffa pôb

• Cawl

• Grawnfwyd

Diolch am bob cyfraniad. (Harlech

Ardudwy Hamdden)

Atebion Pôs Cracio’r Cod Mai Jones

Llongyfarchiadau i: Mary Jones, Dolgellau; Angharad Morris, Y Waun, Wrecsam; Gwenda Davies, Llanfairpwllgwyngyll;

Dotwen Jones, Cilgwri; Wendy Haverfield, Garn Dolbenmaen.

Anfonwch eich atebion at Phil Mostert. [Manylion ar dudalen 2].

Dyna chi ! Gawsoch chi addysg gyda’r pos diwethaf gan Mai Jones?

Llongyfarchiadau ar ei ddatrys os gwnaethoch lwyddo. Mae pos y mis hwn yn weddol hawdd mi gredaf. Mae isio rhai fel hyn weithiau ! Gerallt Rhun

12
POS GEIRIAU Phil Mostert (7) POS Phil Mostert A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I (J) L Ll M N O P ( Ph ) R Rh S T Th U W Y 1 D 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 T 17 18 19 20 21 22 23 A 24 25 26 27 28 PH A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y
24 13 14 8 10 14 9 13 20 12 19 22 13 10 12 15 26 1 14 23 13 19 16 17 9 12 E 16 R 13 14 14 16 12 14 12 10 O 16 10 10 12 21 3 15 16 15 17 6 22 20 3 21 17 25 17 14 14 2 12 1 4 22 22 7 13 11 10 27 18 1 14 1 2 13 1 15 17 15 20 15 3 5 10 1 13 26 27 10 26 15 2 22 27 15 14 17 10 14 5 21 12 10 17 12 12 7 3 5 20 22 15 9 22 19 15 5 10 12 20 15 5 15 22 15 16 5 14 13 25 15 5 21 8 22 19 5 10 14 R E O

Y BERMO A LLANABER

Cymdeithas Gymraeg y Bermo

Braf oedd cael ailgychwyn y Gymdeithas ar ddechrau blwyddyn

newydd. Croesawodd John ein gŵr

gwadd, sef y Parch Iwan Llewelyn Jones, a chafwyd orig hwyliog a difyr yn ei gwmni. Aeth â ni ar daith drwy ei fagwraeth fel mab y mans

gan arwain at ei flynyddoedd yn y weinidogaeth. Esboniodd fel yr oedd un cyd-ddigwyddiad wedi ei ryfeddu gan ddechrau yn ystod ei blentyndod, trwy ei gyfnod yn y coleg ac yn ystod ei weinidogaeth.

Yn rhan o’r cyd-ddigwyddiad

rhyfeddol hwn, dangosodd lyfr ‘Y

Diwyd Fugail a Helynt y Faciwis’ gan

Marion Arthur. Mae’r llyfr yn olrhain

hanes cyfnod tad yr awdwr, y Parch

Thomas Arthur Jones, fel gweinidog yng Nghapel Jerusalem, Bethesda.

Roedd gan y teulu gysylltiad gyda

thad y Parch Iwan Llewelyn Jones tra bu’n weinidog yn Sir Fôn. Edrychaf ymlaen i’w ddarllen. JW

Cymdeithas Gymraeg y Bermo

Ar nos Fercher, Chwefror 1af

mwynhawyd orig ddiddorol gyda

Sarah Tibbetts a Dianna Treganza

yn sôn am glirio pob math o sbwriel

oddi ar ein traethau. Dangoswyd potel blastig o Sbaen, ac un wydr o’r 70au oedd wedi goroesi’r blynyddoedd. Hefyd poteli plastig

hylif golchi llestri yn costio 6d!

Maent yn casglu pob math o gyrt

lliwgar sy’n ddeniadol iawn i’r bywyd gwyllt yn ein moroedd. Byddant yn

eu golchi a bydd Dianna a Tina (sydd

hefyd yn un o’r gwirfoddolwyr) yn

creu rithod, potiau a basgedi.

Anogwyd ni i agor ein llygaid wrth

fynd am dro a chario menyg a bag

sbwriel er mwyn codi’r llanast.

Diolchwyd iddynt gan Alma Griffiths a dymunwyd yn dda i Sarah yn ei hymddeoliad.

Cynhelir ein cyfarfod nesaf yng

Ngwesty Min-y-môr, i ddathlu Dydd

Gŵyl Ddewi gyda chinio ac Aeron

Pugh, fel ein gwestai. Cysylltwch os am ymuno â ni.

PIZZAS PRONTO

Fel rhan o’u gwersi Technoleg Bwyd, bu disgyblion B8 yn paratoi pizzas i staff Ysgol Ardudwy fedru eu coginio gartref gyda’u teuluoedd. Roedd y dysgwyr yn cael penderfynu i ba elusen y bydden nhw’n hoffi codi arian. Ar ôl pleidlais agos iawn, sefydliad DPJ ddaeth i’r brig. Dyma’r ail grŵp o ddisgyblion i gwblhau’r prosiect yma gyda’r grŵp cyntaf yn dewis yr elusen ‘Young Lives vs Cancer’. Codwyd £70 tuag at elusen Sefydliad DPJ sy’n gwneud gwaith hanfodol yn y byd amaeth.

Taith leol ym Mharc Cenedlaethol Eryri

Ymunwch gyda ni ar daith gerdded meddylgarwch gyda’r arweinydd Davy Greenough. Wrth fwynhau taith gerdded gymedrol, byddwn yn cerdded fel grŵp gan fwynhau’r amgylchedd naturiol a bydd amser am seibiant rheolaidd gyda chyfnodau myfyrdod byr.

Lleoliad: Llyn Mair, Maentwrog – Chwefror 18, 2023

Amser: 9:00yb–12:00yh

Disgrifiad taith: Cychwyn o Blas Tan y Bwlch, drwy’r goedlan tuag at Lyn Mair a Hafod y Llyn nes dychwelyd i’r Plas, Parcio a theithio: Cilfan ger Plas Tan y Bwlch, gwasanaeth bws T2. I ymuno â’r daith, cysylltwch â Pharc Cenedlaethol Eryri.

13

Ar lan afon Mersi

mai cais oedd hwn ar i’r ladies aros ar ôl, fe ffrwydrodd gan weiddi, ‘Ladies! Ladies! Pwy ydi’r ladies? Does dim ladies yn yr eglwys yma; brodyr a chwiorydd sydd yma!’

Roedd Pedr Fardd, wrth gwrs, yn gymydog iddo yn Lerpwl. Ysgogodd yr olygfa John Ellis i gyfansoddi tôn ar y geiriau a’i galw yn Elliot. Bu’n dôn boblogaidd iawn ar hyd y blynyddoedd ac fe’i gwelir ymhob casgliad Cymraeg o emynau a thonau bron iawn. Cenir carolau plygain ar Elliot hefyd ac fe glywais y dôn yng ngwasanaethau’r Eglwys yng Nghymru. Mae hi’n dôn ganadwy iawn a does dim cymaint â hynny o donau ar gael ar y mesur. Yn y Caneuon Ffydd, fe’i rhoddir uwchben dau emyn o eiddo Morgan Rhys (1716–1779) sef:

‘O agor fy llygaid i weled Dirgelwch dy arfaeth a’th air...’ a

Oes aur bywyd Cymraeg Lerpwl oedd o ganol y 19eg ganrif am rhyw gan mlynedd neu well. Adeiladodd yr enwadau Cymraeg nifer helaeth o gapeli yn Lerpwl a’r cyffiniau a llawer hefyd dros yr afon ar Benrhyn Cilgwri, neu’r Wirral a rhoi’r enw Saesneg arno.

Mae’n braf meddwl bod ieuenctid o Gymru ar ôl mudo i ddinas neu dref ddiarth wedi cael aelwyd gynnes i addoli ac i wneud ffrindiau yn y capeli yma. Mae’n siŵr fod cael siarad Cymraeg a chael canu’r hen emynau wedi lleddfu hiraeth sawl un dros y blynyddoedd. Mae’n hollol bendant bod presenoldeb y capeli Cymraeg wedi bod yn foddion i rwystro llawer un rhag mynd i ddifancoll yn y ddinas fawr.

Fel yr oedd y capeli yn ffynnu roedd eu dylanwad yn lledu. Deuai rhai Cymry yn bobol o ddylanwad yn Lerpwl a deuai rhywfaint o steil i mewn i’r capeli, mwy o rysedd yn siŵr nag a welsai’r aelodau yn eglwysi eu maboed yng Nghymru. Nid oedd hyn yn plesio pawb; mae yna hanes ar gael yng nghyfrol werthfawr

John Hughes Morris, ‘Hanes

Methodistiaeth Liverpool’ am flaenor yn cyhoeddi yng Nghapel Peel Road yn Bootle fod yna ddymuniad ar i’r ladies aros ar ôl am ennyd ar ddiwedd yr oedfa. Gofynnodd un arall o`r blaenoriaid yn chwyrn, ‘Dymuniad ar i bwy aros ar ôl?’ Pan gafodd yr ateb

Ym merw’r bywyd yma yn Lerpwl nid yw’n syndod deall fod yna lawer o gyswllt â Lerpwl yn ein hemynau a’n tonau. Mae yna ryw fath o gysylltiad dwbwl gyda’r dôn Elliot (Caneuon Ffydd rhif 219). Y cyfansoddwr oedd John Ellis [1760–1839]. Un o Langwm yn Sir Ddinbych oedd John Ellis – un o efeilliaid. Fe’i prentisiwyd yn gyfrwywr a, maes o law, fe agorodd siop yn Heol Scotland, Llanrwst. Cyhoeddodd lyfr tonau cyn gynhared â 1816 ac wedi hynny symudodd gyda’i fusnes i Lanfyllin. Yn ddiweddarach, symudodd eto, y tro hwn i Lerpwl lle daeth yn rhan o’r bywyd Cymraeg yno ac yn godwr canu yng Nghapel Pall Mall ac wedi hynny yng Nghapel Bedford Street. Roedd hefyd yn feistr ar ganu’r ffliwt.

Cofnodwyd tipyn o hanes cyfansoddi’r dôn Elliot. Ryw dro [cyn 1822 yn sicr] roedd John Ellis yn cerdded trwy ganol Lerpwl. Pan gyrhaeddodd Clayton Square, gwelodd dŷ mawr yn cael ei ddymchwel er mwyn creu ffordd i gysylltu Elliot Street hefo Marchnad St John. Pan welodd hyn daeth geiriau emyn Pedr Fardd (1775–1845) i`w feddwl:

‘Yr holl freniniaethau a dreulir, A’r ddelw falurir i lawr; Y garreg a leinw’r holl wledydd, Ei chynnydd fel mynydd fydd mawr...’

‘Helaetha derfynau dy deyrnas

A galw dy bobol ynghyd...’

Yn ei atodiad i’w lyfr tonau, mae Ieuan Gwyllt yn rhoi emyn arall i ni ar yr un mesur. Nid wyf wedi gweld yr emyn yma yn unlle arall. Yn siŵr i chi, ni chafodd le yn y Caneuon Ffydd. Dyma fo:

‘Mi fûm wrth ddrws uffern yn curo, Gan geisio cael myned i mewn; Ond d’wedodd y gŵr oedd â’r goriad Ei bod wedi’i chaead, na chawn: Yr amser y bûm yno’n sefyll Agorwyd i eraill, mi wn; Pwy wêl arnaf fai am ei garu? Pa gyfaill sy’n haeddu fel hwn?’

Gwelais rai emynau erchyll o bryd i’w gilydd ond go brin y ceir llawer mor sobor â’r pennill yna!

Mae Elliot Street ac ardal siopa St John yn dal i fod ynghanol dinas Lerpwl. Ga’ i gynnig rhywbeth i ddarllenwyr Llais Ardudwy? Mae’n siŵr y byddwch yn ymweld â Lerpwl o dro i dro. Efallai eich bod ar y ffordd i Anfield neu Goodison Park neu eich bod yn chwilio am fargeinion yn Liverpool One. Mae’n bosib hefyd eich bod am gyrchu rhai o’r amgueddfeydd neu’r galerïau ysblennydd yn y ddinas. Ond os cewch chi gyfle, ewch heibio i Elliot Street a chymryd cyfle bach slei i gofio am John Ellis y sadler roddodd dôn mor ardderchog i’w gyd-genedl o ganol llanast a dinistr.

JBW

14

HYSBYSEBION

Telerau gan Ann Lewis 01341 241297

ALAN RAYNER

07776 181959

ARCHEBU A GOSOD CARPEDI

ALUN WILLIAMS

TRYDANWR

GALLWCH

HYSBYSEBU

* Cartrefi

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

Tafarn yr Eryrod

Llanuwchllyn 01678 540278

JASON CLARKE

Maesdre, 20 Stryd Fawr Penrhyndeudraeth

LL48 6BN

Sŵn y Gwynt, Talsarnau www.raynercarpets.co.uk

E B RICHARDS

Ffynnon Mair

Llanbedr

01341 241551

CYNNAL EIDDO

O BOB MATH

Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

YN Y BLWCH HWN

* Masnachol

* Diwydiannol

Archwilio a Phrofi

AM £6 Y MIS

Ffôn: 07534 178831 e-bost:alunllyr@hotmail.com

Bwyd cartref blasus

Cinio Dydd Sul

Dathliadau Arbennig

Croeso i Deuluoedd

Arbenigwr mewn gwerthu

GWION ROBERTS, SAER COED 01766 771704 / 07912 065803

gwionroberts@yahoo.co.uk

dros 25 mlynedd o brofiad

CAE DU DESIGNS

DEFNYDDIAU DISGOWNT

GAN GYNLLUNWYR

Stryd Fawr, Harlech

Gwynedd LL46 2TT

01766 780239

ebost: sales@caedudesigns.co.uk Dilynwch ni:

Oriau agor: Llun - Sadwrn 10.00 tan 4.00

15
a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad a golchi llestri. Gwasanaeth Cadw Llyfrau a Marchnata 01766 770504 Am argraffu diguro Holwch Paul am bris! paul@ylolfa.com 01970 832 304 Talybont Ceredigion SY24 5HE www.ylolfa.com NEAL PARRY Bwlch y Garreg Harlech CYNNAL A CHADW TU MEWN A THU ALLAN 07814 900069 Llais Ardudwy Drwy’r post Iolyn Jones 01341 241391 Tyddyn Llidiart, Llanbedr llaisardudwy@outlook.com E-gopi llaisardudwy@outlook.com £11 y flwyddyn am 11 copi Arbedwch arian ar drydan, nwy, band eang, ffôn symudol, ffôn cartref ac yswiriant Utility Warehouse (UW) Peter Jones (Partner ID 119770) Hafod Talog, Penrhyndeudraeth Ffôn: 01766 771410 Defnyddiwch y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth https://uw.partners/peter.jones

TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

Cyfeillion y Neuadd Gymuned Aeth blwyddyn heibio ers i ni ofyn am eich cefnogaeth ariannol blynyddol fel Cyfeillion y Neuadd. Hyderwn y byddwch yn barod i gyfrannu’r swm arferol eto eleni - £20 i deulu o bedwar, £10 i oedolyn a £5 i bensiynwr – tuag at gostau rhedeg y neuadd.

Mae’r flwyddyn a aeth heibio wedi bod yn un brysur iawn yn y Neuadd, wedi ysbaid hir tawel y cyfnod Covid.

Pennaeth newydd

Llongyfarchiadau gwresog i Mr

Gwion Wyn Owens ar ei benodiad fel pennaeth cyntaf Ffederasiwn Ysgolion Afon Dwyryd. Bu Mr

Owens yn allweddol yn y cydweithio a fu rhwng y ddwy ysgol ers ei ddechreuad. Dymunwn bob llwyddiant iddo yn ei rôl newydd.

Merched y Wawr

Cyfarfu’r aelodau yn Neuadd

Talsarnau pnawn dydd Llun, 9

Ionawr gydag Eluned Williams, yr

Is-lywydd yn y gadair. Roedd Siriol, y Llywydd yn bresennol ond roedd yn gofalu am ei hwyres fach, bron yn 1 oed, yn ystod y cyfarfod, ac roedd yn hogan fach dda iawn.

Estynnwyd cydymdeimlad â Bet yn ei phrofedigaeth o golli ei gŵr Caerwyn Roberts ar ddydd San Steffan.

Danfonwyd cerdyn ar ran yr aelodau i gydymdeimlo â hi ac i anfon cofion

arbennig at Bet.

Anwen a Mai ddaru gynrychioli’r

Gangen yn y Gwasanaeth Llith a Charol yng Nghapel Bowydd, Blaenau ar 5 Rhagfyr, gyda Mai yn darllen carol yn y gwasanaeth. Ni threfnwyd siaradwr gwadd i gyfarfod cyntaf y flwyddyn, ond cafwyd pnawn difyr yn cymdeithasu ac ateb y cwestiynau i’r cwis ymddangosodd yn Llais Ardudwy ym mis Tachwedd 2022, cyn cael gêm o Sgrabl, yn Gymraeg wrth gwrs, gyda’r baned a bisged i orffen y pnawn. Trafodwyd ein cinio Gŵyl Ddewi a chytunwyd i wneud ymholiadau am fwydlen o ddau le a phenderfynwyd ar y dyddiad o 2 Mawrth. Paratowyd y baned gan Mai, gyda help Margaret a Gwenda, ac enillwyd y raffl gan Haf.

Ganwyd Leonard Brittland Horne yn Lerpwl ar 11 Chwefror, 1935. Fo oedd plentyn cyntaf Ernie a Phyllis. Cafodd ei fagu wedyn yn Harlech lle daeth yn blentyn hynaf y teulu o naw o blant. Oherwydd bod cymaint o blant gartref, cafodd ei fagu efo’i nain yn Llechwedd.

Wedi dyddiau ysgol aeth yn brentis saer ac yna i’r fyddin i wneud ei Wasanaeth Cenedlaethol. Yn 1962, priododd efo Vicky a symudasant i Awelon, Cilfor, lle ganwyd dau blentyn iddyn nhw, Judy Ann yn 1964 a Jon yn 1966. Yn ddiweddarach, bu’n gweithio efo Vicky yn Sterling Stainless Steel, Llanbedr. Yn drist iawn, fe gollodd ei wraig, Vicky yn 33 oed a chollodd ei ferch Judy Ann yn 1988 a hithau ond yn 22 oed. Ymhen amser, symudodd i 5 Maes Mihangel, Ynys ac yno y bu weddill ei oes.

Mwynhai gerdded a chrwydro a theithiau bws. Un yn caru’r encilion oedd Len, dyn anymwthgar, annwyl dros ben a chanddo galon fawr. Bydd chwith mawr ar ei ôl.

Capel Newydd

Oedfaon am 6.00

Croeso cynnes i bawb

CHWEFROR 2023

12 Rhodri Glyn

19 Dewi Tudur

26 Derrick Adams

MAWRTH

5 Dewi Tudur

12 Eifion Jones

Mae’r gweithgareddau arferol yn ôl yn eu hanterth, yn ogystal â llawer o rai eraill achlysurol.

Cawsom gwblhau gwaith uwchraddio yn y brif ystafell, gan gwmni lleol, gyda chanlyniad boddhaol iawn. Buom yn ffodus iawn o gael croesawu nifer o aelodau newydd ar y pwyllgor rheoli, a rheini’n rhai gweithgar iawn. Gwnaeth hyn fyd o les i’n ffydd yn nyfodol y Neuadd. Pleser ydi cael cyfarfod yn fisol o gwmpas y bwrdd mawr newydd yn yr Ystafell Adnoddau (diolch i’r gwirfoddolwyr a wnaeth waith mor wych ar ei hailadeiladu i’r pwrpas). Os hoffech gyfrannu’n ariannol, mae croeso i chi roi eich cyfraniad i’r Gofalwr yn y Neuadd. Neu os gwell gennych gyfrannu drwy’r banc, dyma rif BACS Cyfrif y Neuadd: Côd didoli: 40-37-13: Rhif y Cyfrif: 31676970 – a rhoi eich enw fel cyfeirnod.

Diolch am eich cefnogaeth i barhau gyda gweithgareddau’r neuadd.

Clwb Sgota Artro a Thalsarnau CYFARFOD BLYNYDDOL

yng Ngwesty’r Queens , Harlech Nos Iau, 2 Mawrth am 7.30

Croeso arbennig i aelodau newydd

16

CYNGOR CYMUNED TALSARNAU

MATERION YN CODI

Presept y Cyngor am 2023/24

Ar ôl trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, penderfynwyd gadael y presept ar £22,000. Camerau cylch-cyfyng (CCTV)

Adroddodd John Richards a’r Clerc nad oedd y gwaith o gael yr offer yn Llandecwyn yn fyw wedi ei gwblhau oherwydd problemau hefo BT.

Adroddwyd bod peirianwyr Openreach wedi bod ar y safle bedair gwaith ac nad oedd y broblem o gysylltu’r wifren ffibr byth wedi ei datrys ganddynt.

Cytunodd John Richards a Lisa Birks wneud ymholiadau ynglŷn â’r mater hwn a chytunwyd bod y Clerc yn anfon rhif archebu’r gwaith i Lisa Birks.

Llinellau melyn

Anfonwyd cynllun diwygiedig i’r Cyngor gyda dau opsiwn. Anfonwyd yr opsiynau ymlaen i’r aelodau yn gofyn eu barn am ba opsiwn fyddai orau. Roedd rhai wedi ymateb gan ddatgan mai opsiwn 2 fyddai orau ac mae’r trefniadau ar y gweill.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Adeiladu estyniad unllawr cegin/ystafell fwyta i ochr/cefn y bwthyn - Cynefin, Llandecwyn. Cefnogi’r cais hwn.

Cais ôl-weithredol am estyniad unllawr yn cynnwys rhodfa wydrog a chanopi yn y cwrt cefn - Caerffynnon Hall, Talsarnau. Cefnogi’r cais hwn.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Mae’r arian o gyfrif Morris Hughes for Poor wedi ei drosglwyddo i gyfrif y Cyngor oherwydd nad oedd defnydd yn cael ei wneud o’r cyfrif hwn ers blynyddoedd lawer a bod y Cyngor wedi penderfynu cau’r cyfrif. Cytunwyd i drosglwyddo’r arian yr oedd y Cyngor wedi ei dderbyn o’r cyfrif hwn i Eglwys Efengylaidd Ardudwy er mwyn helpu gyda’u cynllun croeso cynnes.

UNRHYW FATER ARALL

Datganwyd pryder bod dŵr yn sefyll ar y ffordd ger y groesffordd am Cefn

Gwyn, hefyd ger Stabl Mail, a chytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda’r Adran Briffyrdd ynglŷn â hyn.

Trefnir taith gerdded rhwng Mehefin a Gorffennaf a gofynnir am ganiatâd i ddefnyddio maes parcio’r pentref os bydd angen. Cytunwyd i hyn.

Mae angen gofyn i’r lori lanhau ochrau ffyrdd fynd i fyny’r ffordd o stad Bryn Eithin, hefyd i fyny’r ffordd am Soar.

Nid oedd y goleuadau traffig oedd wedi eu gosod yn y pentref yn ddiweddar yn gweithio. Roedd hyn yn creu sefyllfa reit beryglus.

Cafwyd gwybod bod twll yn y ffordd ger Bryn Golau, Soar unwaith eto.

Cytunwyd i gynnal cyfarfod cyhoeddus gyda HAL i drigolion Talsarnau am 6.30 o’r gloch, nos Lun, 20 Mawrth.

Llongyfarchiadau i Ysgol Talsarnau ar ennill achrediad Marc Ansawdd mewn gwyddoniaeth, sy’n dangos a dathlu ymrwymiad yr ysgol i wyddoniaeth mewn cwricwlwm eang a chytbwys. Diolch i’r disgyblion a’r staff, yn enwedig Mrs Katie Hughes yn ei rôl fel arweinydd pwnc, am eu gwaith caled. Da iawn chi!

TORRI GWAIR

1. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair a’i glirio a gwneud gwaith tacluso fel bo angen yng Ngardd y Rhiw, Talsarnau.

2. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Talsarnau o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol.

3. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri a chlirio’r gwair o leia unwaith y mis, ac hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor ym mynwentydd Eglwysi Llandecwyn a Llanfihangel-y-traethau. Am fwy o fanylion cysylltwch â’r Clerc, Mrs Annwen Hughes, Crafnant, Llanbedr ar 01341 241613. Dyddiad cau: 28.2.23

17
R J WILLIAMS Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU IZUZU

Colli Menna

Ar 7 Ionawr, bu farw Menna Jones, Calgary, Bron y Graig, Harlech yn

88 mlwydd oed. Roedd yn fodryb i Doug, Carol, Allan, Sandra ac hefyd i’w holl nithoedd a neiant ac yn chwaer i’r diweddar Ken, Neil ac Eirwen.

Bu’n gweithio am gyfnod yn Garej

Morfa ac am gyfnod hir yn y Maes

Awyr yn Llanbedr lle roedd hi’n boblogaidd iawn ymysg ei chydweithwyr. Roedd ganddi wên barod ac mi fyddai wrth ei bodd yn tynnu coes ei ffrindiau. Roedd yn hoff iawn o fynychu Teulu’r Castell a mynd i chwarae chwist. Roedd yn

llawn sirioldeb bob amser. Roedd mor falch o gael mynd allan o’r tŷ a hithau’n gaeth i gadair olwyn am gymaint o flynyddoedd. Roedd yn un o ddarllenwyr ffyddlonaf Llais

Ardudwy ac yn hael ei chyfraniadau. Cynhaliwyd gwasanaeth preifat yn

Amlosgfa Bangor ddydd Llun, 23 Ionawr. Cydymdeimlwn â’r teulu yn eu profedigaeth.

Cydymdeimlad

Yn 91 oed a bellach o Hafod y Gest, Porthmadog, gynt o Fferm Tŷ Canol, Harlech, bu farw Maureen Parry.

Roedd yn wraig i’r diweddar William, ac yn fam i Christopher, Michelle a’r diweddar Stephen ac yn nain a hen nain i chwech. Cydymdeimlwn â’r teulu oll yn eu profedigaeth.

Cafwyd y gwasanaeth yn yr Eglwys Gatholig ym Mhorthmadog a’r claddu yn Eglwys Llanfair lle’r oedd William a Steven wedi eu claddu.

Teulu’r Castell

Cynhelir cyfarfod nesaf Teulu’r Castell yn Neuadd Goffa Llanfair ar ddydd Mawrth, 14 Chwefror am 2 o’r gloch y pnawn i chwarae bingo. Croeso i unrhyw un ymuno â ni a chael te a chymdeithasu.

Priodas ruddem

Llongyfarchiadau i Ifan a Helen Pritchard, 26 Tŷ Canol ar ddathlu eu pen-blwydd Priodas Ruddem ddechrau mis Ionawr.

Marwolaeth

Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, ar 28 Ionawr, bu farw Ann Davenport, 19 Y Waun, Harlech. Roedd yn ferch i Catherine Jones, Llanbedr ac yn wraig i David, ac yn fam annwyl i Siôn a Teresa, mam yng ngyfraith i Ann a nain i Richy, Declan a Bernie. Cynhelir gwasanaeth yn Eglwys Sant Pedr ac wedyn yn yr Amlosgfa ym Mangor ar 16 Chwefror. Cydymdeimlwn â’r holl deulu yn eu profedigaeth.

Clwb Rygbi Harlech

Llongyfarchiadau i’r criw fu’n brysur fore Sul, Ionawr 22 yn derbyn hyfforddiant gan Tim Horne, Undeb Rygbi Cymru. Diolch i chwi i gyd am eich parodrwydd i helpu Clwb Rygbi Harlech yn eu gwaith - Eilir Hughes, Ben Bailey, Dylan Howie, Gavin Fitzgerald, Anthony Richards, Olwen Richards, Graham Perch, David a Mai Roberts, [ac Arfon Bebb o Glwb Rygbi Caernarfon.] Edrychwn ymlaen i ddatblygu’r Clwb.

Cofion

Anfonwn ein cofion at Mrs Myfanwy Jones, Yr Odyn, Penllech sydd wedi cael triniaeth i’w llygad yn ddiweddar.

CYNGOR CYMUNED

TORRI GWAIR

Tendr 1. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus yng nghymuned Harlech o leiaf ddwywaith y flwyddyn oni bai fod y Cyngor yn dweud yn wahanol.

Tendr 2. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri gwair a’i glirio yng nghae chwarae Llyn y Felin o leiaf unwaith y mis ac hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor.

Tendr 3. Gwahoddir ceisiadau am dendrau i dorri a chlirio’r gwair o leiaf unwaith y mis, ac hefyd fel bo angen trwy gyfarwyddyd y Cyngor ym mynwent gyhoeddus Harlech. Am fwy o fanylion cysylltwch â’r Clerc: Mrs Annwen Hughes, Crafnant, Llanbedr ar 01341 241613. Dyddiad cau 28.2.23.

Cymdeithas Hanes Harlech

14 Chwefror

John Hirst yn siarad am Dr Johnson, Mrs Thrale a gogledd Cymru, 7.30pm yn y Neuadd Goffa, Twtil, Harlech. Aelodau am ddim, os nad yn aelod £2.

Dewch i roi cynnig ar yrru’r

Yaris Cross newydd!

Dewch i roi cynnig ar yrru’r

Yaris Cross newydd!

TOYOTA HARLECH

TOYOTA HARLECH

Ffordd Newydd

Ffordd Newydd

Harlech

Harlech

LL46 2PS 01766 780432

LL46 2PS 01766 780432

www.harlech.toyota.co.uk info@harlechtoyota.co.uk

www.harlech.toyota.co.uk info@harlechtoyota.co.uk

Facebook.com/harlechtoyota Twitter@harlech_toyota

HARLECH 18

TEYRNGED

o’i haddysg ond roedd yn ffodus o gael y cyfle i astudio cadw llyfrau yng Ngholeg Harlech. Er gwaethaf ei hanabledd dechreuodd ei gyrfa’n gweithio yn Morfa Garage cyn ymuno â Russell Hughes a gweithio yn y swyddfa yng ngarej Llanbedr. Treuliodd weddill ei dyddiau gwaith fel teleffonydd ym maes awyr RAE Llanbedr. Erbyn hynny roedd wedi symud i 3 Fflat Byrdir, a threuliodd weddill ei hoes yn byw yn Calgary, 4 Bron y Graig, Harlech.

Teyrnged i Menna Jones, Bron y Graig, gan Edwina Evans.

na’r bwyd; roedd yn dod i gael coffi yn y Llew Glas, neu i Cemlyn ac yn mynd o gwmpas Harlech i siopa.

Ar ddydd Sul mi fyddai yn llogi

Idris Lewis a’i gar i’r anabl ac yn mynd am bryd o fwyd i Mochras, y pwll nofio, ac i’r Bistro. Mi oedd yn mynd i Glwb y Werin i Dalsarnau, Teulu’r Castell, gyrfaoedd chwist yn Nhalsarnau a Llanfair ac yn edrych ymlaen at fynd i Lanbedr i’r Clwb Cawl, lle’r oedd ganddi lawer o ffrindiau.

Menna Jones, gan y teulu

Ganwyd Menna yn Harlech, plentyn

ieuengaf Gwen ac Ifan Jones. Bryd

hynny, roedden nhw’n byw yn

Porkington Terrace, yna am ychydig o flynyddoedd roedd y teulu’n byw yn Bronwylfa cyn symud i 58 Y

Waen. Cafodd Menna blentyndod hapus, ond yn anffodus o ganlyniad i ddamwain datblygodd anaf i’w hasgwrn cefn ac roedd angen cyfnod hir yn ysbyty Manchester Royal Infirmary am lawdriniaeth. Yn ystod y cyfnod hwn methodd lawer

Mi wnes i gwrdd â Menna yn 1947 ar ôl gadael Dyffryn a dod i Harlech i fyw. Mi oedden ni’n byw y drws nesaf i’n gilydd yn Byrdir.

Mi oedd gan Menna lawer iawn o ffrindiau ar hyd y blynyddoedd, ac roedd pawb yn edmygu y ffordd yr oedd yn gwneud y gorau o’i bywyd ar ôl y ddamwain.

Mi oedd yn cymryd diddordeb ym mhob dim oedd yn digwydd yn yr ardal, ac yn mynd i bob achlysur pan oedd yn gallu. Mi oedd Menna yn hoff o fynd allan am fwyd ond yr oedd y cymdeithasu’n bwysicach iddi

Pan oedd ei golwg yn dda roedd ei gwaith llaw (tapestri a gwniadwaith) yn werth ei weld, ac yr oedd yn gwau i lawer o fabis a phlant yn Harlech. Roedd yn hoffi darllen ac roedd hi ac Olwen yn cael llawer o lyfrau gan y llyfrgell symudol oedd yn dod i Bron y Graig. Roedd yn mynd i Cil De Gwynedd ddwywaith yr wythnos i weithio ar y teleffonau i’r anabl. Ond, yn y flwyddyn a hanner ddiwethaf mi oedd Menna wedi bod i mewn i’r ysbytai yn aml gan fod ei hiechyd wedi dirywio. Cafodd ofal ardderchog gan y gofalwyr a nyrsys cymunedol Ardudwy. Cafodd ofal dydd a nos da gan Douglas a Carol Jones oedd wedi mynd i fyny i Galgary i fyw gyda hi, fel nad oedd hi ddim ar ei phen ei hun o gwbl ddydd

na nos.

Ar ddydd Llun 23 Ionawr cafwyd gwasanaeth yn Amlosgfa Bangor o dan ofal Mrs Gwen Edwards, a theyrnged gan Edwina Evans. Dymuna’r teulu ddatgan eu diolch am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth, a derbyniwyd rhoddion at Nyrsys Cymunedol Ardudwy.

Edwina Evans

Rhodd a diolch gan y teulu £10

Hwb Harlech/Yr Hen Lyfrgell

Cynhaliwyd cyfarfod cymdeithasol yn Hwb Harlech ar ddechrau mis Ionawr ar gyfer gwirfoddolwyr lleol. Os oes gennych amser i’w gynnig i’r fenter ac os ydych yn dymuno helpu i gadw’r adeilad yma’n agored yna cysylltwch, os gwelwch yn dda, gyda Sheila Maxwell [ffôn 01766 780648 neu ar yr e-bost harlecholdlibrary@outlook.com]

19
Swyddfa
Grwydrol Gwasanaethau Allgymorth yn Ardudwy: Llanfair (Gwener) 13.15 - 14.45 Talsarnau (Mawrth) 09.15 - 12.45 (Gwener) 09.45 - 12.45 Llanbedr (Mercher) 09.30 - 11.30
Bost

Aduniad Ysgol Talsarnau

20

Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk

BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG

CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF

MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI

Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant

Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil

Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod

Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant

PORTHMADOG PWLLHELI ABERMAW 01766 512214/512253 01758 612362 01341 280317

60 Stryd Fawr Adeiladau Madoc Stryd Fawr office@bg-law.co.uk

Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd …

R J Williams Honda

Garej Talsarnau

Ffôn: 01766 770286

Llais Ardudwy SAMARIAID

Mae ôl-rifynnau i’w gweld ar y we. http://issuu.com/ llaisardudwy/docs neu https://bro.360. cymru/papurau-bro/

GYMRAEG 08081 640123

21
LLINELL

CYNGOR CYMUNED HARLECH

MATERION YN CODI

Presept y Cyngor am 2023/24

Derbyniwyd llythyr oddi wrth

Gyngor Gwynedd ynglŷn â’r mater uchod. Ar ôl trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, penderfynwyd gadael y presept ar £70,000.

Arwyddion Tŷ Canol

Adroddodd y Clerc ei bod, ers y cyfarfod diwethaf, wedi cael sgwrs ar y ffôn gydag Iwan ap Trefor o Gyngor

Gwynedd ynglŷn â’r arwyddion

hyn a’i fod wedi ymddiheuro bod y mater hwn yn cymryd cymaint o amser oherwydd bod dryswch wedi digwydd gyda’r arwyddion. Erbyn hyn, mae wedi dylunio arwyddion

fydd yn dynodi’r ardal fel parth

20mya anffurfiol ar hyn o bryd

nes bydd yn cael ei ffurfioli gyda

chynllun Llywodraeth Cymru ym mis Medi eleni; hefyd wedi cynnwys symbol o blant yn chwarae i roi eglurhad dros bwrpas dynodiad y parth. Dangosodd y Clerc luniau o’r arwyddion arfaethedig i’r aelodau, gan obeithio y bydd yr arwyddion hyn wedi eu gosod erbyn diwedd y mis hwn.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Dymchwel adeiladau presennol ac adeiladu tŷ menter gwledig deulawr newydd ar wahân - Tŷ’n y Gwter, Harlech. Cefnogi’r cais hwn.

Adeiladu lle parcio newydd, teras wedi ei godi, grisiau a wal gynnalLlys Maelor, Stryd Fawr, Harlech. Cefnogi’r cais hwn.

Newidiadau allanol - Hafod y Bryn, Harlech. Cefnogi’r cais hwn.

UNRHYW FATER ARALL

Cytunwyd i anfon llythyr o ddiolch i Mr Geraint Williams (Benji) am yr holl waith a wnaed ganddo gyda’r coed ac addurniadau Nadolig yn y dref.

Datganwyd pryder mawr bod y cae pêl-droed unwaith yn rhagor mewn cyflwr drwg iawn oherwydd bod brain wedi bod yn difrodi’r cae.

CLWB RYGBI HARLECH

Harlech gyda’r plant ym Mharc Eirias, Bae Colwyn yn derbyn hyfforddiant gan Undeb Rygbi Cymru. Mae’r plant a’u rhieni yn driw iawn. Llawer o ddiolch i Lewis Weedall, Gruffudd Edwards, Zac Charlton, William Jones, Nathaniel Poulton, Tyler Richards, Ellie Labrum a Steffan Kerr.

Geraint Williams, Gwrach Ynys, Talsarnau 01766 780742 / 07769 713014 www.gwyneddmobilemilling.com

*MELIN LIFIO SYMUDOL Llifio coed i’ch gofynion chi Cladin, planciau, pyst a thrawstiau

*COED TÂN MEDDAL WEDI EU SYCHU

Netiau bach, bagiau mawr a llwythi ar gael

*GWAITH ADEILADU AC ADNEWYDDU

*SAER COED

Ffoniwch neu edrychwch ar ein gwefan

22
Dyma Anthony Richards, un o hyfforddwyr tîm dan 8 oed Clwb Rygbi

Atgofion a hoff straeon am Elenor

Ganwyd Elenor ym Mryncrug! Pan ddeallodd Catherine Jane bod y babi ar y ffordd dyma Robert Pryce yn mynd a hi i lawr i ddal y trên nesaf lawr at ei mam oedd yn byw yn Nolwen, Bryncrug. Unig blentyn oedd hi ond roedd nifer o gefndryd a chyfnitherod yn gwmni, yn enwedig Robat Elwyn oedd yn ‘partner in crime’ efo hi – ‘diawled bach drwg oedden ni hefyd’, medda Elenor. Adroddodd yn aml yr hanes amdani hi yn hel wyau i Robat a hwnnw wedyn yn eu gosod ar ddarn o bren a’u taro efo morthwyl! Elenor wedyn yn cael ei martsio’n ôl i’r tŷ gan ei mam pan gafodd ei dal yn yfed te allan o jerrycan y tramp yn y ’sgubor!

Roedd ganddi wallt hir ac fe fyddai ei thad yn ei blethu iddi fel yr oedd yn plethu mwng a chynffon ceffyl - ond wrth gwrs roedden nhw’n rhy dynn ac yn sticio allan fel cwnffon mwnci!

Y gorau am neud ei gwallt oedd John (John Vincent Jones) a oedd yn plethu’n ofalus ac hefyd yn rhwymo’i gwallt mewn rhacs er mwyn iddi gael ringlets. Yn gerddorol iawn, roedd Elenor yn canu’r organ yn Beulah pan yn 7 oed; yn cerdded yno o S’bonig. Medrai chwarae emynau mewn solffa a hen nodiant! Bu’n cyfeilio i barti cerdd dant O T Morris ac roedd galw mawr amdani i chwarae mewn priodasau ac angladdau. Meddai ar lais canu tlws iawn. Hoffai fynd i gyngherddau - canu clasurol a phop a chorau meibion. Taerodd bod Daniel O’Donnell wedi sbïo i fyw ei llygad a chanu iddi hi yn Llandudno! Roedd yn hoff o wylio chwaraeon ar y teledu - yn arbennig os oedd Cymru’n chwarae. Un stori roedd yn hoff iawn o adrodd oedd yr un am yr adeg yr oedd Cassius Clay yn bocsio Sonny Liston.

Ei thad yn deud bod o’n mynd i’r gwely ac iddi hi ei ddeffro pan oedd y ffeit ar fin cychwyn. Wel, mi oedd Elenor wedi gneud tanllwyth o dân a dyma’r amser yn dod iddi redeg i fyny staer. Wel! Oedd hi’n knockout yn y rownd gynta cyn i’r ddau ddod lawr yn ôl! ‘Fflamia fo’ medda hi!

Ei llysenw pan yn yr ysgol oedd Sputnick S’bonig (mynd fel roced i neud hyn a’r llall oedd hi mae’n debyg). Yn nes ymlaen bu i’r diweddar Alan Massey, Dirprwy Harbwrfeistr y Bermo, ei galw hi’n Posh Bird - ac yn ddistaw bach roedd wrth ei bodd efo’r llysenw ond ‘Hey you!’ fase’n ei ddeud wrtho pan yn ei chyfarch felly ac yn codi dwrn (a chwerthin). Roedd yn rhoi’r argraff yn aml ei bod yn prim and proper, ond roedd hi’n licio sbort, hwyl a thynnu coes. Un o’i hoff raglenni teledu oedd Mrs Brown’s Boys! Wedi meddwl cael mynd i nyrsio plant ond ei swydd gynta oedd ym Mhost Taly-bont efo Mr Emlyn Jones. Roedd ei natur trefnus a thaclus yn golygu ei bod hi’n siwtio’r gwaith i’r dim. Ymfalchïodd yn y ffaith ei bod wedi arwyddo’r Official Secrets Act; doedd dim yn cael ei ddatgelu ganddi o’i gwaith yno! Mynd i fyd ffasiwn wedyn ac i’r Strand efo Mrs Ethel Gee. Swydd ddelfrydol gan ei bod wrth ei bodd yn dilyn ffasiwn a bob amser fel pin mewn papur a phob blewyn yn ei le. Cafodd gynnig prynu’r siop ar ymddeoliad Mrs Gee a honno yn awyddus iawn iddi neud ond yr ochr ddihyder o’i natur yn ei darbwyllo i beidio. Bu’n gweithio am flynyddoedd i David a Carol Clay.

Ymlaen i weithio yn y Beehive wedyn i Edward Owen a mwynhau yn fannoMenswear a Ladieswear y tro hwn!

Gorffennodd ei gyrfa yn gweithio i Ray a Jen Perry yn Perry’s Jewellers, gan roi help llaw i ambell i ddyn di-glem oedd yn siopa ar Noswyl Nadolig gan gofio’n iawn beth oedd gwragedd wedi cymryd ffansi atyn nhw. Roedd wrth ei bodd gydau chyplau oedd yn dewis modrwyau dyweddïo ond doedd hi byth yn datgelu pwy oedd wedi bod yno!

Ei dymuniad hi mewn bywyd oedd priodi a chael plant - ond yn anffodus nid fel’na y digwyddodd. Ei thristwch mwya, medde hi. Ond fe gafodd bleser mawr o fod yn Anti Elenor neu Anti El i nifer o blant a’r plant hynny yn meddwl y byd ohoni. Roedd hi mor ffeind a byth yn anghofio pen-blwydd, bob amser yn cydnabod genedigaeth efo anrheg ac wir, roedd y gegin yn Nolafon amser ’Dolig fel grotto a’r lle yn llawn anrhegion! Roedd wrth ei bodd yn mynd am dro. Llandudno i Claire’s, Cricieth i siop sgidie

Christine’s. Tripiau bws i Gaer oedd y gorau a chael mynd i Browns a Viyella; prynu tri o bob dim - sgert, sgidiau, handbags, a rhaid oedd eu cael nhw mewn navy blue, brown a du!

Y daith fwyaf oedd i’r Unol Daleithiau efo Jonesy, John ac Alun, Iona ac Andy. Cael mynd i’r Grand Ol’e Opry yn Nashville, Efrog Newydd i fyny’r Chrysler Building ac yn goron ar y cyfan, ymweliad â Graceland.

Un o sylfaenwyr MyW y Bermo, bu’n Drysorydd Cymdeithas Gymraeg y Bermo am chwarter canrif, yn gefnogol iawn i Blaid Cymru, yn egnïol yn gweithio dros gymaint o elusennau fel Ymchwil Canser, Leukaemia, Achub y Plant, ac Apêl y Sganiwr i enwi ond ychydig. Un dda oedd hi ar bwyllgor; gweithgar dros ben a phwy alla’i anghofio y sponges ’na i sawl stondin gacennau yn llawn o butter cream go iawn a jam mefus!

Roedd yn Gristion o argyhoeddiad a’i ffydd yn ganolog i’w bywyd, er gwaetha pob storm a wynebodd.

Yn 2004, cydnabuwyd ei chefnogaeth a’i ffyddlondeb i’r achos yn Rehoboth pan apwyntiwyd hi yn un o’r Ymddiriedolwyr.

I Elenor, roedd yn goron haeddiannol ar ei chyfraniad dilychwin i weithgareddau’r capel. Cwblhaodd ei dyletswyddau newydd gyda brwdfrydedd a threfn.

Yn 2010, yn dilyn cau Rehoboth, fe ddaeth Elenor yn aelod yn Horeb a bu iddi ddangos yr un teyrngarwch a ffyddlondeb i Horeb a fu mor amlwg yn ystod ei chyfnod yn Rehoboth.

Hoffai ddreifio yn fawr iawn ac roedd bob amser yn cynnig mynd â rhywun efo hi i gymdeithas neu gyngerdd ac yn hebrwng rhai i apwyntiad yn yr ysbyty. Mi fasa hi’n licio erioed bod wedi cael dreifio lori medda hi, felly pan yn 60 oed dyma drefnu iddi gael dreifio HGV. Ac mi gafodd fideo o’r cyfan yn gofnod, ac yn falch iawn bod hwnnw’n dangos yr hyfforddwr yn ei chanmol fel dreifar da; ‘Well, I’ve been driving tractors on the farm for years,’ medda hi!

Newidiai ei char am un newydd yn reit aml hefyd ac roedd wrth ei bodd pan gafodd blât personol EPJ.

Do, mi ddaeth salwch creulon i gipio’r blynyddoedd diwethaf ond o edrych ar ei bywyd yn ei gyfanrwydd byr fu’r blynyddoedd hynny a heddiw cawn ‘Gofio’r dyddiau gorau, y wên a’r galon lân, Pan oedd pob dim mewn harmoni, yn gymanfa lawn o gân. Er nad ydyw yma – cofiwn ei chofio hi, A chlöiwn yr atgofion o fewn ein calonnau ni.’

23

YSGOL ARDUDWY

Roedd gemau Cwpan y Byd yn Qatar wedi creu diddordeb mawr yn yr ysgol ac wedi ysgogi llawer iawn i brynu dillad y Cochion a chefnogi’r hogiau. Hwyrach na ddaeth y canlyniadau fel yr oedd pawb yn obeithio ond fe fydd cyfle rŵan i anghofio am hynny a chanolbwyntio ar y gystadleuaeth nesaf – Cynghrair y Cenhedloedd.

Er mwyn cario’r momentwm ymlaen, mae’r ysgol yn trefnu taith i lawr i Gaerdydd i gefnogi’r hogiau wrth iddynt herio Latfia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddiwedd mis Mawrth. Dyma gyfle arbennig i nifer gael gwneud y daith i lawr ac i weld y tîm Cenedlaethol yn y gêm gyntaf ers ymgyrch Cwpan y Byd.

Yn ystod mis Rhagfyr, aeth criw o B8 i Brifysgol Bangor er mwyn dysgu mwy am y byd electroneg. Cawsant gyfle i gymryd rhan mewn gweithdy dan reolaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig a dysgu mwy am y byd cynhyrfus yma.

Rhoddwyd nifer dda o dasgau i’r disgyblion i’w cwblhau. Nid oedd hyn yn ddiwedd ar yr her chwaith, gan fod angen cwblhau’r tasgau, sicrhau bod yr hyn roeddynt wedi ei greu yn gweithio a, i orffen, cyflwyno eu gwaith i banel o feirniaid er mwyn ennill y brif wobr a dod yn bencampwyr y dydd. Nid gwaith hawdd yn sicr ond cafwyd areithiau gwerthfawr gan bawb.

Dyma brofiad anhygoel i’r criw ifanc ac un fydd yn sicr yn aros yn y cof am amser maith. Y gobaith ydi yn y blynyddoedd nesa’ y byddwn yn gweld rhai o’r bobl ifanc yma yn cymryd y llwybr hwn gan ddringo yn uchel o fewn y byd electroneg a thrwy hynny ddychwelyd i’r ysgol i adrodd yr hanes gan annog rhai eraill i’w dilyn ar yr un llwybr.

Gwyliwch y gofod!

Yn ddiweddar yn yr adran Gelf, cafwyd sesiwn o greu lluniadau wrth wrando ar gerddoriaeth yn y cefndir. Roedd y gerddoriaeth yn ysgogi gwaith ac yn gyfle i’r disgyblion weithio’n ddistaw ac yn ddiwyd er mwyn cwblhau’r gwaith. Rhai o ddisgyblion B7 yng nghwmni Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.