Llais Ardudwy 50c
‘Gwisg genhinen yn dy gap, a gwisg hi yn dy galon.’
RHIF 450 MAWRTH 2016
Tai â Chefnogaeth
Arfon Hughes o Grŵp Cynefin a Caerwyn Roberts ar safle Pant yr Eithin Mae cynllun tai â chefnogaeth newydd yn Harlech yn gwneud gwahaniaeth i fywydau unigolion ag anableddau dysgu sy’n darganfod eu hannibyniaeth am y tro cyntaf erioed. Mae Pant yr Eithin, Harlech yn helpu tenantiaid fyw’n annibynnol gyda chefnogaeth hyd braich wrth law. Codwyd chwe byngalo un llofft, a’u haddasu’n arbennig ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu. Mae hwn yn rhoi cyfle i unigolion fyw yn eu cartrefi eu hunain ac i fod mor annibynnol â phosib. Mae byngalo dwy ystafell wely ar gyfer dau denant sydd ag anghenion mwy cymhleth hefyd ar y safle, gyda staff yn bresennol 24 awr. Mae’r un staff hefyd yn gyfrifol am gynnig cymorth i drigolion y 6 byngalo sengl.
Ynyr Roberts
Gethin Sharp
Bu Wynne Evans, y canwr adnabyddus, yn ymweld â gweithwyr tri chwmni yng Nghymru i ffurfio côr newydd. Dewisodd ddau ŵr ifanc o’r ardal, sef Ynyr Roberts o Ddyffryn Ardudwy a Gethin Sharp o Lanfair; y ddau yn gweithio i Ddŵr Cymru. Darlledwyd saith rhaglen yn ddiweddar a rhyddhawyd CD sengl o ‘Cân Heb ei Chanu’, y geiriau gan Hywel Gwynfryn a’r gerddoriaeth gan Robat Arwyn. Caiff yr holl elw o werthiant y CD ei roi i Tenovus Cymru. Yn dilyn y rhaglenni, mae o leiaf un aelod o’r Côr wedi ymuno â chôr meibion lleol. Tybed a oes gan Ynyr neu Gethin yr un awydd?
Sarn Newydd
Enw Newydd i Ffordd Newydd Sarn Newydd yw’r enw y mae Cyngor Cymuned Llanbedr wedi ei fabwysiadu ar gyfer y ffordd newydd sydd yn cael ei hargymell i greu mynediad i ardal fenter ddiwydiannol ar yr hen faes awyr. Mae arian ar gael ar gyfer y datblygiad oherwydd pwysigrwydd y safle. Wrth gynllunio, yr oedd modd hefyd ystyried y trafferthion presennol sy’n digwydd yn Llanbedr yn ystod yr haf gyda’r traffig ac felly ffordd sydd yn osgoi’r pentref yn gyfan gwbl yw’r dewis. Bydd arddangosfa yn Neuadd Gymunedol Llanbedr rhwng 2.00 ac 8 .00 o’r gloch ar ddydd Iau, Mawrth 17eg. Bydd cyfle bryd hynny i bawb astudio’r cynlluniau yn fanwl a mynegi barn arnyn nhw. Mae cynllun amlinellol eisoes wedi ei ddewis ond mae’r manylion eto i’w penderfynu, felly mae’n bwysig eich bod yn mynychu’r arddangosfa. Bu llawer o drafodaeth ynghylch y ffordd newydd ond mae aelodau Cyngor Llanbedr wedi penderfynu cefnogi’r cynllun gydag amodau fydd yn golygu bydd arwyddion yn dangos yn glir fod pentref gyda siopau a gwestai gerllaw. Credir bod cyfle i’r pentref ddatblygu i fod yn lle deniadol i oedi ynddo ac yn fan cychwyn ar gyfer ymweld â’r Rhinogydd.
Ymddeoliad COLLI’R ARGLWYDD Mrs Mai Jones HARLECH
Yn 61 oed, bu farw’r Arglwydd Harlech yn ei gartref yn Y Glyn, Talsarnau. Collodd ei fam mewn damwain car pan oedd yn 12 oed a’r un fu tynged ei dad yn 1985. Collodd ei frawd Julian a’i chwaer Alice mewn amgylchiadau trist. Roedd yn ddyn adnabyddus yn yr ardal ac yn cymysgu’n dda efo pawb. Gwisgai mewn steil ychydig yn hen ffasiwn gyda’i grafat a’i locsyn clust. Etifeddodd diroedd ei dad a dywed pawb o’i denantiaid ei fod yn ddyn teg i wneud busnes ag ef. Tystiolaeth o hynny oedd y criw mawr o’r ardal hon a aeth i’w angladd yng Nghroesoswallt.
Yn ddiweddar, ymddeolodd Mrs Mai Jones o’i swydd yn Ysgol Ardudwy ar ôl gwasanaeth clodwiw am bron i 45 o flynyddoedd - fel ysgrifenyddes am yr 19 mlynedd cyntaf, ac yna o 1989, yn Swyddog Gweinyddol a Chlerc y Llywodraethwyr, sef 16 blynedd, ac am y 10 mlynedd olaf - yn Glerc y Llywodraethwyr yn unig. Mae wedi cyflawni ei holl ddyletswyddau’n gydwybodol iawn ac mae’r Ysgol yn ddiolchgar iawn iddi am ei harweiniad a’i hymroddiad dros y blynyddoedd. Cynhaliwyd cinio arbennig i ffarwelio â hi yn ddiweddar a chyflwynwyd bowlen risial Gymreig arbennig wedi ei hengrafu iddi gan Gadeirydd y Llywodraethwyr, Mr Maldwyn Jones.