Llais Ardudwy Mawrth 2023

Page 1

£1

Llais Ardudwy

RHIF 529 - MAWRTH 2023

PRIF GOGYDD

Cymdeithas Gymraeg y Bermo

Bwyd da, cwmni ffrindiau, chwerthin iach a chanu soniarus - rysáit ar gyfer noson arbennig a llwyddiannus ar Ddydd Gŵyl Ddewi. Cawsom gwmni Aeron Pughe, Sara Meredydd (llais) a Mike West (banjo a mandolin) yn ein Cinio Dathlu yng Ngwesty Min-y-môr, yn y Bermo ar nos Fercher, Mawrth 1af. Mwynhawyd y noson yn fawr gennym i gyd. Diolch i bawb am eu cefnogaeth, yn enwedig Cyngor Tref y Bermo am eu rhodd tuag at y noson.

Cynhelir ein cyfarfod nesaf yn y Parlwr Bach, Theatr y Ddraig ar nos Fercher, 15 Mawrth. Cyfarfod Blynyddol am 7.00 ac yna sgwrs gan Dr Anna Z Skarzynska, Archifydd Meirionnydd am 7.30. ac, wrth gwrs, paned a sgwrs. Dewch draw am dro.

Ar gopa Moelfre

Mae bwyty’r Fanny Talbot, y Bermo yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Owen Vaughan yn Brif Gogydd o fis Ebrill.

Mae’n frodor o’r Bermo ac mae’n cael ei adnabod yn fwyaf diweddar fel ymgeisydd yn rownd derfynol MasterChef the Professionals

Ymhlith ei swyddi blaenorol mae gweithio yn rhai o fwytai mwyaf blaenllaw gogledd Cymru, fel Portmerion, Pale Hall a Phenmaenuchaf.

Gwyddoch lle i fynd rŵan os am ginio i’w gofio.

Gwenda Davies (Owen gynt) sydd wedi cyflawni ei dyhead o gerdded i gopa Moelfre. Magwyd Gwenda a’i brodyr Alun a Geraint yn Bodafon, Llanbedr pan oedd eu tad, y diweddar Barchedig John Owen yn weinidog yng nghapeli Moreia, Gwynfryn a Nantcol am 28 mlynedd.

Mae gan y tri feddwl mawr o’r ardal ac yn gefnogwyr brwd i Lais Ardudwy. Pan glywodd Gwenda fod ei ffrindiau yn Llanfairpwllgwyngyll yn dod ar daith Clwb Mynydda Cymru, oedd yn cynnwys dringo Moelfre, roedd yn rhaid iddi gael dod hefyd.

Yn anffodus, diwrnod niwlog iawn a gafwyd ond er hynny boddhad mawr gafodd Gwenda wrth iddi wneud yr ymdrech i gyrraedd y copa. Er nad yw’n fynydd uchel, mae’r llwybr yn serth ac i rywun sydd heb arfer mynydda, mae angen ymdrech sylweddol. Llongyfarchiadau iddi!

GOLYGYDDION

1. Phil Mostert

Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech 01766 780635 pmostert56@gmail.com

2. Anwen Roberts

Craig y Nos, Llandecwyn 01766 772960 anwen15cynos@gmail.com

3. Haf Meredydd

Newyddion/erthyglau i: hmeredydd21@gmail.com 01766 780541, 07483 857716

SWYDDOGION

Cadeirydd

Hefina Griffith 01766 780759

Trefnydd Hysbysebion

Ann Lewis 01341 241297

Min y Môr, Llandanwg ann.cath.lewis@gmail.com

Trysorydd

Iolyn Jones 01341 241391

Tyddyn y Llidiart, Llanbedr

Gwynedd LL45 2NA llaisardudwy@outlook.com

Côd Sortio: 40-37-13

Rhif y Cyfrif: 61074229

Ysgrifennydd

Iwan Morus Lewis 01341 241297

Min y Môr, Llandanwg iwan.mor.lewis@gmail.com

CASGLWYR NEWYDDION

LLEOL Y Bermo

Grace Williams 01341 280788

Dyffryn Ardudwy

Gwennie Roberts 01341 247408

Mai Roberts 01341 242744

Llanbedr

Jennifer Greenwood 01341 241517

Susanne Davies 01341 241523

Llanfair a Llandanwg

Hefina Griffith 01766 780759

Bet Roberts 01766 780344

Harlech

Edwina Evans 01766 780789

Ceri Griffith 07748 692170

Carol O’Neill 01766 780189

Talsarnau

Gwenda Griffiths 01766 771238

Anwen Roberts 01766 772960

Gosodir y rhifyn nesaf ar 31

Mawrth a bydd ar werth ar 5 Ebrill.

Newyddion i law Haf Meredydd erbyn diwedd mis Mawrth os gwelwch yn dda. Cedwir yr

hawl i docio erthyglau. Nid yw’r golygyddion o angenrheidrwydd yn

cytuno â phob barn a fynegir yn y papur hwn. ‘Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.’

Dilynwch ni ar ‘Facebook’ @llaisardudwy

Cofnodi Enwau Lleol

Hyd a lled Gwynedd, mewn sgyrsiau bob dydd, mae hen enwau lleol ar lefydd yn cael eu defnyddio. Enwau rhyw hen lwybrau tarw, strydoedd cefn, rhyw fryncyn lleol neu dro mewn afon. Mae’r rhain yn enwau sydd wedi eu defnyddio ar lafar gan genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o Gymry Cymraeg ond sydd erioed wedi cyrraedd unrhyw fapiau swyddogol. Maen nhw’n gyfoeth o hanesion ac yn rhan annatod o dirlun ieithyddol y sir. Er mwyn ceisio cofnodi’r enwau pwysig hyn mae Cyngor Gwynedd wedi creu Map Enwau Lleol a lansiwyd ddiwedd Medi 2022. Map digidol ydy o sydd eisoes yn cynnwys enwau caeau, traethau, clogwyni, tyllau crancod ac ogofâu yn ardaloedd Abersoch a Thudweiliog, Llŷn a hynny’n sgil cyd-weithio gyda disgyblion ysgolion cynradd lleol.

Y nod rŵan yw poblogi’r map â llu o enwau tebyg ond ledled y sir. Mae cynlluniau ar y gweill i Meirion MacIntyre Huws, Swyddog y Prosiect Enwau Lleol, ymweld ag ysgolion ledled Gwynedd ond da fyddai hefyd dod i hyd i unigolion cymwys i gyfrannu enwau a gwybodaeth. Meddai Mei, ‘Mae gan bob un ohonom enw lleol ar lefydd o fewn ein milltir sgwâr, enwau unigryw sy’n drwm o chwedloniaeth leol, straeon gwerin a digwyddiadau hanesyddol. Biti garw fyddai i’r enwau hynny ddiflannu wrth i bobl symud o un ardal i’r llall i fyw.’

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cyfrannu at y map, cysylltwch ag iaith@ gwynedd.llyw.cymru ac fe anfonwn fanylion pellach atoch.

Mae’r map i’w weld drwy fynd i https://www. gwynedd.llyw.cymru/cy/Cyngor/Yr-IaithGymraeg/Map-Enwau-Lleol-Gwynedd.aspx Fel arall, rhowch y geiriau ‘map enwau lleol Gwynedd’ mewn porwr fel Google.

Bisgedi Pasg

a dyma fisgedi bach blasus a hawdd i’w gwneud at y Pasg.

Cynhwysion:

4 owns o fenyn

3 owns o siwgr castor

1 melynwy

7 owns o flawd plaen

½ llwy de o sbeis cymysg

½ llwy de o sinamon

2 owns o gyrens

1 i 2 llond llwy fwrdd o laeth.

Cymysgwch y menyn a’r siwgr mewn dysgl nes y bydd yn ysgafn, ychwanegwch y melynwy a’i gymysgu. Yna ychwanegwch y blawd a’r sbeisys a’u cymysgu yn dda, yna ychwanegu’r cyrens a digon o laeth i wneud toes.

Rholiwch y toes, a thorrwch i siapiau gwahanol neu yn grwn gan ddefnyddio torrwr ffliwtiog.

Gosodwch ar dun gyda phapur pobi arno a choginiwch ar wres 200°c am 8 - 10 munud.

Taenwch gyda siwgr castor.

Mwynhewch! Pasg Hapus i chi i gyd.

Rhian Mair

Tyddyn y Gwynt gynt

CASGLU STAMPIAU AT ACHOSION DA

Os torrwch chi’r stampiau oddi ar eich llythyrau, gallwch eu hanfon at yr RNLI yn y cyfeiriad isod:

RNLI Stamps c/o Lara

7 Speed Well

BRIXHAM, Devon

TQ5 9MJ

2
Y GEGIN GEFN
Mae’r Pasg bron yma,

Cylch Meithrin Harlech Llais Ardudwy

Apêl am Ddeunydd

Mae’r ffeil o erthyglau sydd gennym wrth gefn yn brysur wagio.

Tybed fedrwch

chi ein helpu i gynhyrchu papur

difyr trwy gyfrannu

erthygl, lluniau lleol, arwyddion tywydd, troeon trwstan, meddyginiaethau, atgofion, pôs, ysgrif, traethawd, cerdd, portread, stori wir ayyb i Llais Ardudwy?

Buasem yn falch iawn o dderbyn eich cyfraniad. Diolch am bob cymorth. [Gol.]

Y FYNWENT

Gwaith Tendro ar gyfer Cyngor Cymuned Llanbedr

Torri gwair y fynwent a’i glirio (lle pwrpasol yn y Fynwent Newydd). Torri yr hen fynwent a’r fynwent newydd un waith bob 5 wythnos, ond yn dibynnu ar y tyfiant. I gychwyn o Ebrill hyd Hydref. Pris fesul toriad os gwelwch yn dda.

CAE CHWARAE yn cynnwys yr isod

Torri’r cae pêl-droed bob pythefnos. Pris am bob toriad.

Torri o amgylch ac oddi mewn i gae chwarae’r plant – unwaith y mis.

Torri cae coed coffa – unwaith y mis.

Torri Cae Deiliog – llwybr unwaith y mis.

Torri o amgylch coed Cae Deiliog – unwaith y mis.

Torri wrth y gofgolofn – unwaith y mis.

Torri llwybrau cyhoeddus –

*62 – Tyddyn Bach i ben yr Allt Fawr

*7 – Pentre Gwynfryn, ger Plas Gwynfryn

*Llwybr at Ffynnon Enddwyn

*Llety Walter rhif 16 at groesffordd Coed Mawr: 18 at gamfa Penarth: Rhif 17 (rhannau rhedynog)

*Llwybr rhif 2, Cae Nest

*Llwybr 42, Tyddyn Du

Pris fesul toriad os gwelwch yn dda. Mae’n debygol y bydd rhaid gneud y rhain ddwywaith yn ystod y tymor tyfu.

Disgwylir hefyd ychwanegu at y rhestr.

Tendr i law’r Clerc drwy e-bost cyngorllanbedr@gmail.com erbyn 6.4.23 os gwelwch yn dda.

3
Dydd Gŵyl Ddewi 2023

LLANFAIR A LLANDANWG

Symud i Lanfair

Croeso i Mr Aneurin Williams i Derlwyn, Llanfair. Mae Aneurin yn wreiddiol o Drawsfynydd ond yn rhinwedd ei swydd fel dirprwy a phrifathro mae wedi byw yn Llan Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog, Bae Colwyn, Y Rhyl a Betws-y-coed. Os oes rhywun yn ei adnabod, mae croeso i chi gysylltu ag o ar 07592 738851.

Merched y Wawr Harlech a Llanfair

Yn dilyn trafod materion yn ymwneud â’r gangen, croesawyd 5 o siaradwyr newydd, Corina, Alan, Martin, Ros a Rosy atom ynghyd â Pam Cope oedd yn gyfrifol am y noson. Roedd Pam, sydd yn siaradwraig rhugl erbyn hyn, wedi dewis cerdd ‘Terfyn’

gan Gwyn Thomas, ac wedi llunio 2 bôs wedi ei seilio ar y gerdd - tipyn o her i ni!!

Noson wahanol ac addysgiadol pan oedd pawb yn gallu cymryd rhan. Paratowyd

lluniaeth gan Eirlys, Bronwen, Ann a Janet ar ein cyfer.

Enillwyd y raffl gan Corina (dysgwraig)

ac Eirlys. Talwyd y diolchiadau gan

Carys oedd yn ein hannog i siarad â’r

siaradwyr newydd Cymraeg. Roedd

hefyd yn ddiolchgar iawn am y lluniaeth a baratowyd ar gyfer y noson.

Ym mis Mawrth, bydd cangen y Bermo yn ymuno â ni i ginio Gŵyl Ddewi yn y Ship Aground, Talsarnau.

Yn yr ysbyty

Anfonwn ein cofion at Ray Gregson, Derlwyn, sydd ar hyn o bryd yn yr ysbyty. Brysia wella, Ray.

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR

MATERION YN CODI

Llinellau melyn ger Stesion Llandanwg

Cytunwyd i barhau i osod y llinellau melyn uchod er bod un llythyr wedi ei dderbyn ond barnwyd mai sylw oedd ynddo ac nid gwrthwynebiad.

Mae’r llinellau hyn wedi eu gosod.

Gosod mast ffôn ar Foel Gerddi

Gofynnwyd am sylwadau’r aelodau. Byddai’r aelodau yn falch o gael gwybod faint o arwynebedd tir fydd ei angen ar y mast.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Caniatâd Adeilad Rhestredig i osod pared serennog i rannu’r ystafell fyw i greu ail ystafell wely a gosod drws tân yn lle’r drws mynediad i’r ystafell wely bresennol - Y Bwthyn, Tŷ Mawr, Llanfair. Cefnogi’r cais hwn.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Ceisiadau am gymorth ariannol

Ysgol Ardudwy - £500.00

Ysgol Hafod Lon - £500.00

CFfI Meirionnydd - Dim

Ambiwlans Awyr Cymru - Dim (cafwyd gwybod nad oedd amryw o flychau arian wedi eu casglu ers amser maith)

Bydd Ms Luned Fôn Jones o Adran Cyllid, Cyngor Gwynedd yn gweithredu fel Archwiliwr Mewnol y Cyngor eto eleni.

GOHEBIAETH

Cyngor Gwynedd – Adran Briffyrdd

Derbyniwyd llythyr gan yr uchod yn hysbysu’r Cyngor eu bod yn bwriadu newid camfa ddiffygiol ar lwybr cyhoeddus rhif 13 ger Cilybronrhydd a thorri eithin ac ail osod giât i agor/cau ar lwybr cyhoeddus rhif 34 Ty’n Llidiart Mawr.

Ysgol Ardudwy

Derbyniwyd llythyr yn gofyn am gymorth ariannol tuag at uwchraddio’r cwrt tenis. Cytunwyd i gyfrannu £500 tuag at y gwaith hwn.

Ms Rachel Heal

Derbyniwyd llythyr gan riant i blentyn sydd yn mynychu Ysgol Hafod Lon yn gofyn a fyddai’r Cyngor yn fodlon rhoi cyfraniad ariannol tuag at archebu beic arbennig i blant yn Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth. Cytunwyd i gyfrannu £500 tuag at archebu beic.

Galw am wirfoddolwyr

yng Nghanolfan Llanbedr

Tybed a oes gennych ddiddordeb mewn planhigion ac yn fodlon rhoi ychydig o amser i ddatblygu Cae Deiliog fel lle i hamddena?

Mae’r cyfeillion sy’n gofalu am Ganolfan Gymdeithasol Llanbedr, sydd gyda chymorth y Cyngor Cymuned yn edrych ar ôl y safle, yn awyddus i ddenu gwirfoddolwyr i gynnal a chadw’r ardal hamddena ger y Ganolfan.

Mae’r gymuned yn falch iawn o’r darn tir hwn.

Hyd yma, rydym wedi helaethu’r rhan sydd wedi ei wella’n ddiweddar drwy blannu coed, blodau a gosod meinciau. Llwyddwyd i sicrhau

cymhorthdal gan Reilffordd y Cambrian a Roc Ardudwy i ychwanegu at y datblygiad gyda llwyni a mwy o feinciau. Tybed a oes gennych syniadau ynghylch sut i wireddu hyn? Pa blanhigion ddylid eu plannu ac yn lle?

Sut feinciau fuasai’n addas ac yn lle y dylid eu gosod?

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â neuadd.llanbedr@outlook.com neu Iolyn Jones ar 07767 445503. Diolch.

4
Diolch i Helen Gardner, Cae Gwyn, Llanfair am y llun o Allt y Môr.

Cysylltwch â Dioni i siarad am eich bwthyn gwyliau Gwion Llwyd 01341 247200 gwion@dioni.co.uk

BUSNES LLEOL ... CWSMERIAID BYDEANG

CYFREITHWYR BREESE GWYNDAF

MEWN STRACH? MAWR NEU FACH? CYSYLLTWCH Â NI

Trawsgludo Tai a Busnesau · Ewyllysiau · Profiant

Hawliad Iawndal · Niwed Personol · Materion Sifil

Ysgariad a Theulu · Cyfraith Amaethyddol · Troseddau di-annod

Apwyntiadau ar gael yn eich cartref, gyda’r hwyr neu ar y penwythnos drwy drefniant

PORTHMADOG PWLLHELI ABERMAW 01766 512214/512253 01758 612362 01341 280317

60 Stryd Fawr Adeiladau Madoc Stryd Fawr office@bg-law.co.uk

Yn gweithredu ar ran y gymuned ers dros 150 o flynyddoedd …

Neuadd Fawr, Aberystwyth

Dydd Sadwrn, 25 Mawrth am 8.00 o’r gloch

PHILOMUSICA ABERYSTWYTH

Arweinydd: Iwan Teifion Davies

Rachmaninov: Concerto Piano 1

Unawdydd: Gareth Owen

Schumann: Symffoni’r Gwanwyn

Boulanger: D’un Matin de Printemps

Swyddfa Docynnau: 01970 623232

Tocynnau: £2 - £12

Llais Ardudwy

Mae ôl-rifynnau i’w gweld ar y we. http://issuu.com/ llaisardudwy/docs neu https://bro.360. cymru/papurau-bro/

5
LLINELL GYMRAEG
SAMARIAID
08081 640123

LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL

Diolch

Yn dilyn marwolaeth Ann Davenport yn ddiweddar, dymuna Catherine

Jones a’r teulu ddiolch o galon am bob arwydd o garedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt drwy alwadau ffôn, ymweliadau, cardiau a blodau. Diolch hefyd i’r Parchedig Miriam Beecroft am arwain yr angladd ac i gwmni Pritchard a Griffiths am eu trefniadau gofalus.

Rhodd a diolch £10

Ysgol Llanbedr

Yn dilyn y Nadolig, mae pawb wedi setlo’n ôl yn grêt i fywyd yr ysgol. Hoffem ddiolch i bawb a gefnogodd ein cyngerdd Nadolig ‘Y Gêm Fawr’ - roedd y plant a’ch cefnogaeth yn anhygoel!

I begynau’r De a’r Gogledd aeth y plant ieuengaf, gan ddysgu am bengwiniaid, yr arth wen a sut mae bywyd yn yr ardaloedd eithafol oer yma.

Wrth ddilyn llais y disgyblion hŷn, rydym ym myd y dyniaethau, gan deithio drwy gwahanol gyfnodau mewn hanes. Dechreuwyd yn yr

Aifft, gyda’r ffocws wedi troi erbyn hyn i Hari Tudur. Roedd y sioe

‘Mewn Cymeriad’ am Hari Tudur a berfformiwyd i ni yn yr ysgol yn

sbardun arbennig i’r amser hwn mewn hanes. Byddai’r plant hyn i gyd yn wirioneddol mwynhau’r cyfle i gael bod ar raglen ‘Horrible

Histories’ neu ‘Amser Maith yn ôl’. Rhyw ddiwrnod, efallai!

Rhodd i Llais Ardudwy

£50 gan Rhian a Iola er cof am eu mam a’r teulu ehanghach o Faesygarnedd, Cwm Nantcol.

Dorothy 1922-201

William 1924- 2016

Morris 1930-1990

a’r olaf o’r teulu a fu farw yn ddiweddar, Stephen 1949-2022

Cyhoeddiadau Capel y Ddôl a Nantcol

MAWRTH

5 Elfed Lewis

26 Beryl Vaughan

Nosweithiau difyr yng Nghymdeithas y Cwm

Daeth tymor Cymdeithas y Cwm i ben gyda chyngerdd gan Meibion Prysor ddiwedd mis Chwefror. Cawn seibiant drwy’r gwanwyn a’r haf, ac ailgychwyn tua’r hydref gydag eitemau gobeithio fydd at ddant pawb. Fel arfer ceir paned a lluniaeth ysgafn. Hoffwn ddiolch i bawb sy’n cyfrannu at y bwyd, rafflau a hefyd cynulleidfa deilwng iawn. Mae croeso i bawb fynychu’r Gymdeithas – cymdeithas werinol, cefn gwlad. Edrych ymlaen i’ch croesawu yn ôl yn yr hydref felly.

Mae Phil, Aled a minnau wedi rhannu’r gwaith o gyflwyno’r siaradwyr gwadd, a thalu’r diolchiadau. Eraill wedi bod yn paratoi y neuadd, gosod cadeiriau ac, wrth gwrs, clirio ar ddiwedd y noswaith. Dwi ddim am enwi neb rhag ofn i mi anghofio rhywun.

Dwy noson dda a gafwyd nid yn annhebyg i’w gilydd – hoffwn gyfeirio atynt yma. Dwy ferch, hwyliog iawn eu naws, cartrefol, dwy ffrind, a’r ddwy o Ardudwy. Roeddem yn hynod ffodus i gael croesawu Haf Llewelyn atom ym mis Tachwedd yn sgwrsio yn hamddenol braf am ei gwaith o sgwennu llyfrau. Haf Graig Isaf neu Haf Allt Goch i ni. Pwy fyddai’n meddwl ei bod wedi sgwennu yr holl lyfrau, a llyfr barddoniaeth, a llyfrau gyda gwedd hanesyddol iddynt hefyd? Llyfrau plant bach hefyd, cyfres Ned y Morwr. Enillodd wobr Tir na n-Og y Cyngor Llyfrau am ei nofel ‘Diffodd y Sêr’, hanes Hedd Wyn. Yn aelod o dîm Talwrn Penllyn, a darllenodd aml i ddarn o’i gwaith. Rhywbeth i bawb. Er ei bod yn cyfeirio at ei llyfrau at beth ddaru ei hysbrydoli i’w sgwennu, nid oedd raid i chi fod wedi darllen y llyfryn dan sylw, ac roedd ei champ yn y ffaith ei bod yn dod a’r cymeriadau yn fyw i ni yn y gynulleidfa. Y llyfr roeddwn i wedi ei ddarllen oedd Y Graig. Un llyfr arbennig ganddi oedd ‘Stwffia dy ffon hoci’ - llyfr yn llawn hiwmor o’i chyfnod yn Ysgol Ardudwy a gwersi hoci! Rhyfedd iddi sôn yma mai ei ffrind Alwen oedd tu ôl i un cymeriad yn y llyfr a’u diffyg awydd at unrhyw chwaraeon! Yn enwedig hoci yn erbyn merched llawer mwy na nhw yn gorfforol. Doniol iawn ei dawn cymeriadu. Noson hwyliog. Tybed a oes llyfr newydd ar y gweill?

Dim rhyfedd felly bod Alwen a ddaeth i gynnal noson ar 7 Chwefror, Alwen Frongaled i ni i gyd hefyd, yn cyfeirio at ei ffrind ysgol – sef Haf a’i llyfryn o hanes a phortread o Hedd Wyn, a’i bod hithau wedi bod yn pori drwy’r llyfr hwnnw er mwyn cael syniadau ar gyfer ei gwaith rŵan yn yr Ysgwrn. Cafwyd yr hanes, ac er bod yr hanes yn un trist roedd gan Alwen ei ffordd hamddenol braf o gyflwyno’r stori am ddireidi oedd yn perthyn i’r Hedd Wyn ifanc. Gwaith Alwen rŵan yw tywys pobl o amgylch yr Ysgwrn er mwyn ceisio rhoi y profiad gorau i’r ymwelwyr ddaw yno. Gwerth chweil, ac yn sicr mae hi wedi codi awydd ar nifer o rai yng Nghymdeithas y Cwm i ymweld â’r Ysgwrn, er mwyn profi unwaith eto rhamant, brwdfrydedd a naws werinol yr hen hanesion, bywyd cefn gwlad a ffordd o fyw.

Llawer o ddiolch i’r ddwy, Haf ac Alwen, am eu cyflwyniadau yn llawn angerdd, hwyl ac ysbrydoliaeth i ni i gyd. Y ddwy yn gyn-athrawon, ac yn ferched eu milltir sgwâr. O Ardudwy i Lanuwchllyn, ac o Ardudwy i’r Felinheli. Hyderaf yn fawr y cawn nosweithiau difyr fel hyn ar gyfer rhaglen 2023/24. Cofiwch, ddarllenwyr Llais Ardudwy, os gwyddoch am unrhyw eitemau difyr fel hyn ar ein cyfer yng Nghymdeithas y Cwm, cofiwch adael i ni wybod. Llawer o ddiolch i bawb am eu cefnogaeth bob amser. Ac fel y dywedwyd gan Ieuan Jones. ‘Y gymdeithas sy’n asio

Doniau brwd Ardudwy’n bro.’

Cofion, Morfudd Hendra

6

PEN-BLWYDD HAPUS

Merched y Wawr Nantcol

Croesawodd Beti Mai ni i gyfarfod cyntaf y flwyddyn a dymunodd Flwyddyn Newydd Dda i’r holl aelodau. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Einir, Pat a Jean. Roedd hi’n braf gweld Beti yn ôl wrth y llyw a dymunwyd gwellhad iddi yn dilyn ei damwain yn ddiweddar.

Llongyfarchwyd Beti Wyn ar ddod yn hen nain i Jude. Llongyfarchiadau i Lois Enlli Williams a Cara Thomas ar gael eu penodi yn swyddogion yn Ysgol Ardudwy – Lois yn Brif Swyddog a Cara yn Swyddog. Mae’r ddwy yn wyresau i Mair a Dafydd.

IONAWR

Llongyfarchiadau i Gweneira, Allt Goch gynt, a oedd yn dathlu ei phenblwydd yn 90 oed ddydd Sadwrn, 25 Chwefror. Cafodd ddathlu’r achlysur yn y Vic efo cinio i’r teulu agos. Anfonwn ein dymuniadau gorau iddi.

Treuliwyd orig ddifyr iawn yn dysgu crosio yng nghwmni medrus Ceri sy’n arbenigwraig ar y grefft. Roedd Ceri wedi paratoi taflen gyfarwyddiadau manwl gyda lluniau i bob un ohonom. Roedd amryw yn cael hwyl dda ar y dasg ond ambell un ohonom yn cael tipyn o drafferth! Diolch i Ceri am ei hamynedd a’i chymorth. I ddiweddu, cawsom gyfle i weld peth o’i gwaith cywrain gan gynnwys planced mewn sgwariau lliwgar, planced wen mewn pwyth arbennig, cardigan wedi ei gwneud o sgwariau unlliw, côt babi a chwningen fach las. Cyflwynodd Ceri snŵd amryliw fel gwobr raffl a’r enillydd oedd Heulwen. Beti Mai enillodd wobr y gangen. Diolchodd y Llywydd i Ceri am noson ddiddorol ac am yr holl waith paratoi ac i Mair ac Elinor am fod yng ngofal y baned.

CHWEFROR

Yn ein cyfarfod mis Chwefror cawsom gwmni Mari Wyn Lloyd a rhoddodd fraslun o hanes ei gwaith fel ffotograffydd proffesiynol. Astudiodd ym

Mhrifysgol Caer a chawsom gipolwg ar ei gwaith cwrs gradd. Roedd yn amlwg fod ei chynefin, sef Cwm Nantcol, y mynyddoedd, y môr, y bywyd amaethyddol a thrigolion y Cwm yn ddylanwad mawr ar ei holl waith. Cawsom bleser yn pori trwy nifer o ffotograffau yr oedd wedi eu gosod yn drefnus mewn llyfrau amrywiol. Dyma gofnod gwych o fywyd cefn gwlad i’w drysori i’r cenedlaethau i ddod.

Erbyn hyn, mae Mari wedi sefydlu busnes llwyddiannus iawn yn ei stiwdio yn Neuadd Cwm Nantcol. Mae yn cynnig gwasanaeth amrywiol ac yn llwyddo i ddenu cwsmeriaid o bell ac agos. Diolchwyd i Mari am noson arbennig iawn gan Beti Mai a dymunwyd pob llwyddiant iddi yn y dyfodol.

Gweneira efo dau o’r gor-wyrion, Trystan a Moli.

Tai Fforddiadwy

Mae Cyngor Gwynedd wedi prynu

tŷ yn Llanbedr fel rhan o’r ymgyrch i fynd i’r afael â’r argyfwng tai a gwella mynediad pobl at dai fforddiadwy.

Daeth yr arian i brynu’r eiddo o grantiau tai gwag gan Lywodraeth

Cymru. Fel eiddo canolraddol, bydd y lefel rhent oddeutu 20% yn llai na phrisiau’r farchnad.

Os oes angen tŷ fforddiadwy arnoch, dylech gofrestru gyda Tai Teg.

Cyhoeddiadau Capel y Ddôl a Nantcol

Ebrill

9 Eirwen Evans - Sul y Pasg

23 Parch Huw Dylan Jones [Nantcol]

30 Parch W Bryn Williams

Dymunwyd gwellhad i Elinor a llongyfarchwyd Jean a John ar enedigaeth gorwyres, Casi Mai, merch fach i Aron a Mari. Enillwyd y raffl gan Pat. Rydym i gyd yn ddiolchgar i Anwen am anfon pob gohebiaeth yn ddigidol i ni bob mis.

7
Plant Ysgol Llanbedr yn dathlu Dydd Gŵyl Ddewi.

DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT

Llongyfarch

Llongyfarchiadau i Eifiona Shewring, Glanywerydd, Dyffryn ar enedigaeth gor-ŵyr ym mis Medi 2022. Llongyfarchion hefyd i Marjorie, ei merch, ar ddod yn nain i Owain Sam Brown, mab Hayley a Dale draw yng Nghroesoswallt. Dymuniadau gorau i’r teulu bach.

Genedigaeth

Llongyfarchiadau cynnes iawn i Ewart a Siân, Ystumgwern, ar enedigaeth eu mab bychan, Huwi Rhydd Williams ar 11 Ionawr, brawd bach i Menna Mair. Dymuniadau gorau hefyd i nain a taid, sef John a Jane Williams, North Lodge, ac i Beth a Will draw yn y Bermo.

Genedigaeth

Llongyfarchiadau cynnes iawn a dymuniadau gorau i Cai a Ceri Ann sy’n byw ym Melbourne, Awstralia, ar enedigaeth bachgen bach, Gruff Lleu. Llongyfarchiadau i taid a nain, sef Gareth John ac Anwen Williams, Glanffrwd, Tal-y-bont a phob dymuniad da i Anwen fydd yn hedfan i Awstralia ar 6 Mawrth i ymweld â’r teulu bach.

Festri Lawen, Horeb

Ar 9 Chwefror, cawsom gwmni

Esyllt Iorwerth a Ffermwyr Ifanc

Trawsfynydd. Croesawyd hwy gan lywydd y noson, Jean Roberts. Dyma barti o bobl ifanc talentog a brwdfrydig a sefydlwyd i gystadlu yn Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc. Yn ogystal ag eitemau gan y parti, cafwyd unawdau gan Tomos

Heddwyn ac unawdau gan ddwy

ferch Esyllt Iorwerth, Elain Rhys a Llio Rhys. Roedd eu brawd bach, Wil Ifan, yno hefyd, ac fe ganodd o i ni ddwywaith a phawb wedi gwirioni gyda’i berfformiad.

Noson ardderchog! Diolchodd Jean yn gynnes iawn iddynt ac hefyd i Esyllt Iorwerth am ei gwaith dygn yn eu hyfforddi.

Ar 9 Mawrth, yn Nineteen57, byddwn yn cael cinio Gŵyl Ddewi ac yn cael cwmni Glesni a Gethin.

Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb

MAWRTH

12 Meinir Lloyd Jones, 10.00

19 Parch Christopher Prew, 5.30

26 Mai a Rhian, 10.00

EBRILL

2 Jean ac Einir, 10.00

Diolch

Diolch i bawb a ddaeth i dalu’r gymwynas olaf i Elenor (Pryce Jones) yn ddiweddar. Diolch i’r Parchedig Brian Evans am arwain gwasanaeth teimladwy ac urddasol ac i Mr Raymond Owen am ei deyrnged diffuant. Diolch hefyd i’r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths am eu trefniadau trylwyr a pharchus. Derbyniwyd £750 o roddion er cof am Elenor i’w rhannu rhwng Ysgol Feithrin y Gromlech a Tŷ Gobaith. Gwerthfawrogwyd pob arwydd o gydymdeimlad, yn gardiau, galwadau ffôn a negeseuon yn dilyn colli un a oedd mor annwyl. Mae’r geiriau caredig a’r atgofion a rannwyd am Elenor wedi bod yn gysur mawr. Alma a Janet

Rhodd er cof am Elenor - £10

Bedydd

Fore Sul, 26 Chwefror, yn Horeb, bedyddiwyd dau blentyn bach gan y Parch R O Roberts, Morfa Nefyn. Gan ddefnyddio dŵr o Ffynnon

Enddwyn, bedyddiodd Alys Medi, merch fach Phil ac Elen Beavan, Glanywerydd ac William Aron, mab bach Gwynfor a Meinir Evans, Llys Enlli, Tal-y-bont. Roedd yn achlysur hapus iawn ac roedd cynulleidfa niferus yn bresennol.

Pen-blwydd arbennig

Pob dymuniad da i R Arwel Williams, Ffridd y Gog (Derlwyn, Llanfair gynt), oedd yn dathlu penblwydd arbennig ar 2 Mawrth.

8

Gorymdaith Gŵyl Ddewi Ysgol y Traeth

CYNGOR CYMUNED

DYFFRYN A THAL-Y-BONT

CYHOEDDIADAU’R CADEIRYDD

Estynnwyd cydymdeimlad gyda’r Is-gadeirydd a’r teulu yn dilyn eu profedigaeth o golli ei ewythr.

Estynnwyd cydymdeimlad â Catrin Williams (y cyfieithydd) â’r teulu yn dilyn eu profedigaeth o golli Mr Aled Gwynne Davies yn ddiweddar.

MATERION YN CODI

Grŵp Gwella Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont

Adroddwyd, yn absenoldeb Steffan Chambers, nad oedd dim byd pellach i’w drafod ynglŷn â’r Grŵp uchod. Yn absenoldeb Kathleen Aikman, nodwyd ein bod wedi derbyn yr adroddiad canlynol ganddi ar ran Y Tir – ‘Rydym bellach yn dechrau ein hail flwyddyn gynhyrchiol yn y rhandiroedd; mae llwybr Glan yr Afon wedi ei raeanu ac agoriad wedi ei greu drwy’r wal gerrig ffiniol fel bod pobl bellach yn gallu cerdded yr holl ffordd drwodd i’r cae pêl-droed a’r berllan arfaethedig ar Ffordd yr Orsaf. Bwriad y Clwb Hwyl, y clwb oedolion sy’n dysgu, yw codi tŷ gwydr cyn bo hir. Mae gwaith ar fin dechrau yng ngardd stad Pentre Uchaf, ac mae Cadw Cymru’n Daclus wedi mabwysiadu’r cynllun hwn. Mae Adra wedi gosod giât a fydd yn rhoi mynediad i’r ardd, a bydd pwll, man eistedd, sied ac offer i’r trigolion ymuno â’r garddio os ydyn nhw’n dymuno. Mae’r rhan fwyaf o’r offer wedi cyrraedd erbyn hyn. Mae gennym eisoes goed ffrwythau, bylbiau a bydd tywyrch blodau gwyllt. Dwi’n cynnig galw’r ardd yn Ardd Blodeuwedd, os yw’r trigolion yn dymuno, ar ôl y fenyw a wnaed o flodau a grybwyllir yn Y Mabinogi. Mae’r trigolion i gyd sy’n byw gerllaw wedi cael nodyn yn egluro beth yw’r ardd.’

Parc Chwarae Pentre Uchaf

Mae’r adroddiad archwiliad wedi ei dderbyn gan y Play Inspection Company ac mae angen trafod y gwaith sydd angen ei wneud yn y parc chwarae. Cytunodd Edward Williams archebu dwy sedd siglen babanod ar ran y Cyngor. Hefyd mae’n fwriad i archebu mwy o offer at ddefnydd pobl gydag anableddau yn bennaf.

GOHEBIAETH

Derbyniwyd lluniau yn dangos bod ceir yn parcio yn y safle troi rownd rhwng rhif 15 a 16 stad Penrhiw ac oherwydd hyn bod gyrwyr yn gorfod mynd i droi rownd ger Tyddyn Du, sy’n ffordd breifat. Hefyd, datganwyd pryder bod perchennog rhif 12 stad Penrhiw yn parcio ar ben y brif hydrant. Mae pryderon hefyd ynglŷn â diogelwch plant yn chwarae o amgylch y stad hon oherwydd y ffordd mae’r ceir wedi parcio a phryder nad yw’r gwasanaethau brys yn gallu pasio oherwydd bod perchennog rhif 12 yn parcio ar y brif hydrant. Adroddodd y Cyng Eryl Jones Williams ei fod wedi pasio’r neges hwn ymlaen i’r Adran Briffyrdd a’u bod wedi cytuno i osod arwydd ‘dim parcio’ yn y safle troi rownd.

Ysgol Ardudwy

Derbyniwyd llythyr yn gofyn am gymorth ariannol tuag at uwchraddio’r cwrt tenis presennol trwy osod ffens newydd o’i amgylch a datblygu cae aml bwrpas yno.

Cytunwyd i gyfrannu £4,000 tuag at y gwaith hwn.

9

TYFU TATWS NEWYDD Y LLYGOD MAWR

bwyd, wrth reswm, a does ’na fawr o faeth mewn hen gompost. Credir gan y garddwyr y gwn i amdanyn nhw, bod angen tail i gael llwyddiant efo tatws newydd. Ond fe wnaiff hen bridd o’ch tomen gompost eich hun y tro yn iawn hefyd.

POTYN

TATWS NEWYDD YN GYNNAR

TATWS CYNNAR

Mae’n ddechrau mis Mawrth ac yn amser meddwl am blannu tatws newydd. Does dim raid i chi fod yn arddwr profiadol i wneud hyn ac yn sicr does dim, o ran blas, i guro tatws newydd wedi eu tyfu gartref.

DEWIS

Y cwestiwn cyntaf ydi pa rai i’w prynu. Mae ’na ddewis eang iawn ar gael. Ymhlith y rhai y gwn i’n dda amdanyn nhw y mae Arran Pilot, Pentland Javelin, Home Guard, Swift a Rocket. Mae’r ddwy olaf a enwyd yn barod o fewn 11-12 wythnos. Mae llawer yn canmol Sharpe’s Express, gan gynnwys fi fy hun, ond mae’n tueddu i fynd efo’r dŵr ar ôl rhyw bythefnos. Un arall sy’n hawdd ei thyfu ydi Charlotte. Ail gynnar ydi hon. Taten addas ar gyfer salad ac mae hi’n tyfu ychydig yn fwy na’r rhai cynnar iawn.

PARATOI

Wedi prynu’r tatws, mae llawer yn eu rhoi mewn bocs ac yn aros am weld egin cyn eu plannu. Dywed eraill nad oes raid gneud hyn. Gallwch eu rhoi mewn bocsys wyau a’u gadael yn rhywle ond iddyn nhw fod yn y goleuni.

PRIDD NEU GOMPOST

Mae compost wedi mynd yn beth drud i’w brynu ond does dim raid i chi ei ddefnyddio. Mae rhai pobl yn casglu’r pridd o dwmpath twrch daear, eraill yn defnyddio hen fagiau compost oedd gynt yn cynnwys tomatos neu rywbeth tebyg.

Mae’n rhaid i bopeth sy’n tyfu gael

Mewn gwirionedd, gallwch ddefnyddio unrhyw beth i’w dal nhw cyhyd â bod ’na dwll yn ei waelod er mwyn osgoi bod unrhyw ddŵr yn sefyll ar y gwaelod. Gallech ddefnyddio hen fwced, hen sach, bag plastig, neu focs pren.

DAN DO?

Un rheol sydd ynghylch hyn. Rhaid osgoi rhew a barrug. Gorau oll os yw’r tatws mewn gwres o ryw 10 gradd C, ond barrug ydi’r gelyn pennaf.

Mae llawer o bobl yn eu plannu allan ganol mis Mawrth. Os oes peryg o noson oer, maen nhw’n gorchuddio’r tatws efo papur newydd neu wair/ gwellt rhydd.

Mae eraill yn plannu’r daten mewn potyn bychan ar y cychwyn ac yn eu cadw yn y tŷ am sbel. Pan mae’r hin yn cynhesu, maen nhw’n symud y daten, a fydd wedi gwreiddio, i botyn llawer mwy.

BWYDO

Mi gewch well tatws os byddwch yn eu bwydo. Bob pythefnos, gan ddechrau o’r wythnos gyntaf ym mis Ebrill, rhowch fwyd tomatos i’r planhigion. Mae gwrtaith fel Growmore yn debyg o annog gormod o dyfiant dail. Fodd bynnag, bydd bwyd tomatos yn annog tyfiant i’r tatws eu hunain. Gwn hefyd am bobl sy’n rhoi tail, dail danadl poethion neu lysiau’r cwlwm [comffri] mewn dŵr ac yn defnyddio’r trwyth fel gwrtaith. Wrth reswm, mae hwn hefyd yn gweithio efo tomatos.

BETH WEDYN

Ar ôl rhyw 12 wythnos, rhowch eich llaw o dan y pridd i deimlo maint y tatws. Gallwch eu codi os ydyn nhw gymaint ag wŷ. Does dim angen eu pilio nhw, maen nhw’n fwy blasus os gadewch y croen arnyn nhw!

Mwynhewch!

Monolog yn nhafodiaith Sir Fôn

‘Dwi isio dy help di, Joni,’ medda’ Capten Robaits wrtha i pan welis i o yn Cae Sêl wsnos dwytha. ‘Galwa acw cynta’ medri di.’ Dydi’r hen gaptan ddim yn arfar defnyddio ‘os gweli di’n dda’ ac ynta’ ’di bod yn gaptan llong. Gorchmynion mae o’n ’u rhoi i bawb! Gwna hyn, gwna llall!

Dyma gerdded yn ddistaw ar y graean mân o flaen Tyddyn Melyn a dod wyneb yn wyneb â’r hen gaptan. Ond taswn i’n onast, o’n i ddim ond yn cyrraedd at ’i fol o. Andros o ddyn mawr ydi o, bol fel budda’ a thrwyn coch sgleiniog. Amlwg ’i fod o ’di cael ’i siâr o rỳm pan o’dd o ar y môr.

Dyma fi’n holi, ‘Yn eich tŷ chi maen nhw?’

‘Paid â bod mor wirion,’ medda’r Capten.

‘Dim byd yn wirion mewn llygod mawr yn tŷ,’ me’ finna’.

‘Yn y das wair maen nhw.’

Llygod mawr yn gall w’chi ac mae’n rhaid i’r sawl sy’n ’u dal nhw fod yr un mor beniog! Rhaid ’u nabod nhw’n dda a gw’bod lle maen nhw. ’Di trapia’m yn help bob amsar, mae’r rhan fwyaf yn gw’bod sut i ddelio efo rheini. Ddaliwch chi’m llawar o lygod Ffrengig efo trap, ’nenwedig os ydyn nhw mewn ffos garthion. Haws ichi roi rwbath yn ’u bolia’

10
PM

nhw, rhwbath fel sment – mi gnoian beth felly ac mi gledith yn ’u bolia’ nhw ar ôl iddyn nhw gael ddiod o ddŵr. Llygod yn arw am gnoi.

‘Ydach chi am roi gwenwyn iddyn nhw?’ holodd y Capten.

‘Nac ’dw,’

‘Be’ rowch chi iddyn nhw ta?’

‘Ceirch! Ll’godan yn ddrwgdybus ond mi fytith geirch.’

‘Eu dal nhw sy’ isio,’ medda’r Capten, ‘nid ’u bwydo nhw.’

‘Pwy ydi’r llygotwr? Y gweithredydd llygod?’

‘Lle gest ti’r enw yna?’

‘Cyngor Sir! Oeddan nhw isio dyn gofalus a dyn clyfar. A dyna sut ges i’r gwaith!’

Dyma estyn tun bach o dabledi a’i agor o dan drwyn y Capten, wel cyn bellad â fedrwn i gyrraedd at ei drwyn o, yntê. O’dd ’i wynab o fel tae o ’di byta wermod. Ac yna agorais i dun arall o geirch a deud: ‘Mi ro’ i bentyrra bach o hwnna o gwmpas y das wair iddyn nhw heddiw. Ac mi ddo’ i yn f’ôl yfory i roi rhagor o geirch. A mi gewch weld, mi fyddan nhw ’di gwadd y teulu i gyd i wledda erbyn dydd Merchar ac mi ddo’ i yma wedyn i roi’r tabledi yn y ceirch. Mae angan bod yn fwy clyfar na ll’godan fawr a dydi hynny’m yn hawdd! Felly cadwch y cŵn a’r ieir yn glir o’r das wair o ddydd Merchar ymlaen.’

‘Tabledi,’ ddudist ti? Be’ wnei di efo petha’ fel ’na? Wyt ti am ddal llygod efo tabledi.’

‘Taro’r hoelan ar ’i phen, Capten Robaits,’ me’ fi.

Tabledi cysgu gafodd nacw gan y doctor sy’ gen i. Wn im be’ sy’ ar ’i phen hi, ond mae’n gwrthod ’u cymryd nhw ac yn ’u taflu nhw i’r ardd gefn. Sylwis i ’mhen dipyn bod bob math o greaduriaid yn cysgu yn yr ardd gefn ’cw yn y boreau. Wiwar weithia’, draenog dro arall, twrch daear. . . a mi ges i syniad . . . dwi ’di bod yn hel y tabledi ac maen nhw’n gweithio’n dda, fel arfar. Ma’ ll’godan fawr yn farus ac mi fytith ddwy neu dair o’r tabledi. Mae’n San Fferi Ann arni wedyn. Os nad ydi’r tabledi yn

lladd y ll’godan fawr, mi eith i gysgu am oria’ lawar. Hawdd wedyn imi eu hel nhw mewn bwcad a’u lladd nhw!

Ac felly bu. Es i’n ôl at y Capten dydd Iau ond o’dd rh’wbath mawr o’i le. Do’dd y llygod mawr ddim ’di cyffwrdd yn y twmpathau ceirch. ‘Glywais i ti’n deud dy fod ti’n un peniog,’ medda’r Capten yn sbeitlyd. ‘Ond dwyt ti’m yn glyfar iawn, nag wyt?’

‘Rhaid bod ’na fwyd arall iddyn nhw yn rhwla.’

‘Llond y llofft storws o haidd,’ medda’r Capten, ‘ac mae’r cryshar yn gyrru’r stwff i lawr i’r gwaelod lle mae’r ddwy hwch gen i. Mae ’na ’chydig o fwyd yn y siedia’ moch a’r cwt ieir hefyd.’

Da i ddiawl o ddim! Pa obaith oedd gen i mewn lle fel ’na? Doedd ryfadd bod ’na lygod mawr yno.

‘Rhaid inni roi’r haidd mewn sacha’ a chlirio’r bwyd o’r siedia’ moch.’

‘Fedrwn ni’m gneud hynny, siŵr Dduw,’ medda’r Capten.

A dyma ddeud wrth y Capten fod gen i syniad arall. ‘Dangoswch imi lle mae’r beipan yn dod i lawr o’r cryshar.’

A dyma’r Capten yn mynd â fi i’r sied lle roedd ’na hen raw, berfa yn gagla’ i gyd a thwmpath haidd o’r cryshar yn un doman yn barod i gael ’i gymysgu efo bwydydd er’ill.

Edrychis i fyny a mi welwn y twll lle roedd y llygod yn dwad o’r llofft storws. O’dd ’u llwybr nhw’n amlwg. Roeddan nhw’n rhedeg i lawr y wal gerrig ac at y wal flocia’ oedd rhyw dair troedfadd a hannar o’r llawr. Hannar ffordd ar draws y cwt roedd y giât bren lle roeddan nhw’n gallu neidio at y sachau bwydo. A dyna lle

roedd y llygod yn cael y trysor.

‘Fetia i bumpunt y medra’ i ladd ll’godan fawr heb wenwyn na phastwn na gwn,’ me’ fi.

Rŵan ta, mae gan y Capten enw am fod yn un cynnil. Wrth ’i weld o’n gneud ceg gam, mi holis, ‘Be’ am bunt ta?’

Ond gwrthod yn lân a mynd i’w bocad nath y Capten.

Nhwrn i oedd gorchymyn rŵan. ‘Sefa’ i yn y gongol lle mae’r wal flocia’n cychwyn, ewch chitha’ i fyny’r grisia’ cerrig ac agor drws y storfa haidd. Mi fydd y llygod yn ei g’luo hi, a mi fydda’ i yn fama yn aros amdanyn nhw. Dewch yn ôl yn syth i weld be’ ddigwyddith.’ Edrychodd y Capten am arna’ i’n hurt ond mi ddaru ufuddhau.

Glywis i’r drws yn crafu llawr y llofft wrth i’r Capten ’i agor. Ymhen chwinciad, mi ddaeth ll’godan fawr sgleiniog i lawr y wal a rhedag am ’i hoedal ar draws y wal flocia’. Fel roedd hi’n mynd heibio, mi daliais hi yn fy llaw ac mi ddisgynnodd yn farw - yn y fan a’r lle. Daeth un arall mewn llai na deg eiliad, [’i chariad hi, siŵr gen i] ac mi ddaliais hwnnw hefyd a’r un oedd ’i dranc o. Erbyn i’r Capten gyrraedd yn ’i ôl, roedd dwy lygodan fawr yn gelain ar lawr a’u traed i fyny.

‘Sut ddigwyddodd hynna?’ holodd y Capten. Cael trawiad ddaru’r ddwy,’ me’ fi. Pawb yn gw’bod bod ll’godan fawr yn dychryn i farwolaeth os geith hi sioc. Digwydd yn amal.’

Ddudodd y Capten ddim byd ond syllu arna’ i’n syn wrth i mi droi oddi wrtho fo a chychwyn ar draws yr ardd ŷd a cherdded yn dawal ar hyd y graean o flaen Tyddyn Melyn.

O’dd ’na si yn y Bwl n’ithiwr fod y Capten o’i go efo fi am fod yr ieir ’di rhoi’r gora’ i ddodwy. Yn ôl y stori, maen nhw’n cysgu yn yr ardd ŷd drwy’r dydd!

A’ i ddim yno eto! PM

11

Gwelsom fel y bu i’r Cymry yn

Lerpwl sefydlu capel ar ôl capel yno o tua 1800 ymlaen. Erbyn 1900, roedd yna ddwsinau ohonynt o boptu afon Mersi (neu afon Nerpwl i bobol Sir Fôn).

Wrth i’r Cymry, neu rai ohonynt beth bynnag, ymgyfoethogi a dod yn wŷr o ddylanwad yn y ddinas, fe godid capeli crandiach o hyd a thyfai rhyw fath o gystadleuaeth ymhlith y saint i weld pwy allai sicrhau’r capel mwyaf neu’r organ orau.

Ac nid hynny’n unig; gallai arian a statws eglwysi Lerpwl sicrhau galwad i gewri’r pulpud yno. Wrth edrych ar restrau gweinidogion pob enwad yn Lerpwl, dyweder rhwng 1850 a 1900, mae rhywun yn synnu at y fath ddoniau oedd yn y ddinas yn ysgolheigion a phregethwyr ac athronwyr. Does ryfedd i lawer alw Lerpwl y cyfnod yn brifddinas gogledd Cymru.

Un o’r rhai praffaf o weinidogion Lerpwl oedd Gwilym Hiraethog, gŵr sydd â chwech emyn Cymraeg yn

Caneuon Ffydd. Mae un o’r chwech yna yn ymddangos yn y gyfrol wedi ei drosi i’r Saesneg hefyd.

William Rees oedd enw bedydd

Gwilym Hiraethog (1802–1883) ac fe’i ganed a’i maged yn Llansannan, Sir Ddinbych. Er iddo gychwyn efo’r Methodistiaid Calfinaidd, trodd at yr Annibynwyr gan ddechrau pregethu gyda’r enwad hwnnw. Ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd ond

gweithiodd yn ddygn fin nos ar ôl llafur y dydd i’w ddiwyllio ei hun. Erbyn 1831, roedd wedi cael ei ordeinio ym Mostyn, Sir y Fflint. Wedi cyfnod yno, symudodd i Gapel Lôn Swan, Dinbych. Ym 1843, sefydlwyd ef yn weinidog Capel y Tabernacl, Great Crosshall Street, Lerpwl a bu yno hyd 1853 pryd y symudodd i eglwys arall yn Lerpwl. Ymddeolodd ym 1874 a symud i fyw i Gaer, lle roedd ei fab Henry yn weinidog. Doedd yna ddim pwt o ddiogi yn perthyn i Gwilym Hiraethog. Ef oedd golygydd cyntaf ‘Yr Amserau’, papur newydd Cymraeg llwyddiannus iawn yn ei ddydd –yn wir y papur newydd Cymraeg cyntaf i gael unrhyw fath o lwyddiant masnachol.

Gwilym ei hun oedd yn gyfrifol am y rhan a elwid yn ‘Llythyrau’r Hen Ffarmwr’. Yn y llythyrau, oedd wedi eu sgwennu yn nhafodiaith gogledd ddwyrain Cymru, roedd yr Hen Ffarmwr yn rhoi ei linyn mesur ar bynciau’r dydd; pethau fel Deddfau’r Ŷd, y Degwm, Mudiad Rhydychen ac ati.

Ond doedd yr Amserau ddim yn anwybyddu materion tramor chwaith. Cefnogai ryddid i’r Eidal yn erbyn llywodraeth yr Awstriaid a brwydrai`r papur yn rheolaidd o blaid dileu caethwasiaeth yn America.

Ysgrifennodd fath ar nofel hefyd, sef ‘Aelwyd F`Ewythr Robert’, sydd wedi ei seilio i raddau helaeth iawn ar y nofel Saesneg enwog ‘Uncle Tom`s Cabin’, nofel fu’n flaenllaw yn ei dylanwad i ddangos i bobol beth mor ffiaidd yw’r syniad o un dyn yn

perchnogi un arall a’r creulondeb a’r anghyfiawnder sy’n dilyn o hynny.

Ysgrifennodd Gwilym Hiraethog nofel arall hefyd, sef ‘Helyntion Bywyd Hen Deiliwr’. Dyma un o’r nofelau sylweddol cyntaf, os nad y cyntaf, a gafwyd yn y Gymraeg. Roedd yna gryn ragfarn yn erbyn nofelau neu ffug-chwedlau fel y gelwid hwy gan y capeli. Eu dadl oedd, os oedd stori yn wir wel dyna fo, ond os oedd y stori yn un oedd wedi ei gwneud nid oedd yn ddim ond celwydd.

Cred llawer ar y pryd, felly, oedd bod darllen nofelau, heb sôn am eu sgwennu, yn bechod ac yn tynnu sylw pobl oddi ar eu gwir bwrpas yn y byd, sef byw bywyd rhinweddol a Christnogol.

Dim ond yn ara deg iawn y daeth y nofel i hawlio’i lle yn llenyddiaeth Cymru. Mae ‘Helyntion Bywyd Hen Deiliwr’ yn ddifyr iawn i’w ddarllen hyd yn oed heddiw ond nid oes yn y nofel y gwead stori tyn y byddai rhywun yn disgwyl ei weld mewn gwaith modern, ac mae yma lawer o ôl moeswersi’r pregethwr yn y llyfr. Roedd Gwilym Hiraethog yn fardd hefyd. Uchelgais mawr llawer o feirdd ei oes, a chyn hynny, oedd sgwennu arwrgerdd sef cerdd hir hir tebyg i Coll Gwynfa (Paradise Lost), John Milton.

A rhoddodd Gwilym gynnig arni. Enw ei gerdd ydi ‘Emmanuel neu Ganolbwngc Gweithredoedd a Llywodraeth Duw’. Cyhoeddodd y gerdd mewn dwy gyfrol ym 1861 a 1867. Mae iddi tua 22,000 o linellau (tydw i ddim wedi eu cyfrif i gyd!).

Tydi cyfrol 1 ddim gen i ond mae yna 450 o dudalennau yng nghyfrol

2. Os oes cyfrol 1 ar gael gan un o ddarllenwyr Llais Ardudwy – da chi peidiwch â thrafferthu ei anfon i mi. Tybed ai hon yw’r gerdd hwyaf erioed a ysgrifennwyd yn yr iaith Gymraeg? Rhown y gair olaf am y gerdd i’r ysgolhaig mawr, Syr Thomas Parry:

‘Nid oes yn holl feithder anial y gwaith odid un rhinwedd lenyddol.’ Ond mae llawer mwy i Gwilym Hiraethog na hyn. Cawn olwg ar ei emynau y tro nesaf.

JBW

12 O Hiraethog i Lerpwl
John Bryn Williams

Y BERMO A LLANABER

Genedigaeth

Llongyfarchiadau i Fred a Chelsey

Brooks, Llanaber ar enedigaeth eu mab Alfred Barnabas ychydig ar ôl y Nadolig. Dymuniadau gorau iddynt.

Merched y Wawr

Cyfarfu’r aelodau yn Theatr y Ddraig ar 14 Chwefror. Croesawyd ein

gwraig wadd, sef Haf Llewelyn o Llanuwchllyn, yn wreiddiol o Gwm

Nantcol, gan Iona Anderson.

Mwynhawyd sgwrs ddiddorol a hwyliog yng nghwmni Haf, sy’n athrawes, yn awdures dalentog ac yn

fardd o fri. Cyhoeddodd sawl llyfrrhai i blant ac oedolion.

Dymunwyd pen-blwydd hapus

arbennig buan i’w mam fydd yn 90 oed ddiwedd mis Chwefror.

Llongyfarchwyd Morwena Lansley, ein llywydd, ar ennill eto eleni am ddylunio cardiau Nadolig.

Edrychwn ymlaen at gyd-ddathlu

Dydd Gŵyl Ddewi yng nghwmni

Cangen Harlech.

Diolchwyd i Haf gan Glenys a pharatowyd y baned gan Heulwen, Tona a Lorraine.

Banc Bwyd y Bermo

Rydym angen yr isod ar fyrder:

• Bisgedi

• Pacedi bach o reis (500g)

• Tatws

• Llefrith UHT

Tuniau o:

• Pys melyn

• Pwdin reis

• Cwstard

• Sardîns

• Mecryll Pethau ymolchi:

• Past dannedd

• Shampŵ a chyflyrydd

• Sebon cawod

Mae gennym ddigon o’r isod, diolch

• Pasta

• Ffa pôb

• Cawl

• Grawnfwyd

Diolch am bob cyfraniad. (Gallwch adael unrhyw gyfraniad gyda staff Harlech Ardudwy Hamdden)

Profedigaeth

Trist iawn yw gorfod cofnodi marwolaeth dwy chwaer annwyl o’r Bermo, y ddwy wedi bod yn derbyn Llais Ardudwy drwy’r post am flynyddoedd , yn gefnogol i’r papur ac yn edrych ymlaen yn awchus i’w dderbyn bob mis. Wrth ddarllen ymlaen, fe welwch fod trydydd aelod o’r teulu wedi marw’n ddiweddar.

Enid Parry (Williams gynt)

Dymuna teulu’r ddiweddar Enid

Parry o Benygroes, (gynt o’r Bermo) ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a gawsant ar golli mam, nain a chwaer annwyl. Un o’r Bermo oedd Enid, yn ferch i Hugh a Dorothy Williams ac yn chwaer fach i William (Bill), Mair a Beti.

Priododd â Maldwyn Parry ac ymgartrefu yn Epworth Terrace cyn symud i Flaenau Ffestiniog, wedyn i’r Bala ac yna i Ddyffryn Nantlle. Roedd yn fam ofalgar a chariadus i Geraint, Llinos a Tegwen, ac yn nain annwyl i Lleucu, Cai a Beca. Er bod Enid wedi byw yn Nyffryn Nantlle am dros 50 mlynedd, roedd Bermo a’r ardal yn agos iawn at ei chalon. Roedd yn mwynhau dod am dro i’r dref a hel atgofion am y bobl a’r ardal. Byddai’n dod i aduniad blynyddol yr Ysgol Ramadeg hefyd, gan fwynhau dal i fyny efo ffrindiau a chyfoedion. Roedd yn mwynhau darllen Llais Ardudwy bob mis. Hoffai’r teulu gyfrannu rhodd er cof am Enid tuag at bapur bro Llais Ardudwy. Yn fuan ar ôl inni dderbyn gwybodaeth am farwolaeth Enid,

daeth gair i ddweud am farwolaeth ei chwaer.

Mair Elliot

Fel ei chwaer Enid, magwyd Mair yn Park Road, Bermo gyda’i brawd a chwaer arall Bill a Beti. Priododd â Herbert Elliot, Fron Olau, Llanfair yn 1955. Ym 1962, symudodd y teulu i Fferm Pant, Trecelyn, Caerffili lle magwyd tri o blant, Valerie, Carolyn a John. Yno bu Mair yn byw am weddill ei bywyd. Bu farw ar Chwefror 24 yn 89 oed. Bydd yr angladd ar 24 Mawrth yn eglwys St Paul, Trecelyn.

Yn drist iawn bu farw Valerie, merch Mair yn ddiweddar. Roedd Valerie, oedd yn byw yn Llundain gyda’i gŵr Tony, yn arfer bod yn ohebydd papurau newydd. Roedd ganddyn nhw ddau fab, Charles a James, ac un ŵyr, George.

Ffôn: 01766 770286

13
R J Williams Honda Garej Talsarnau

SUT I DDATRYS POS 21

Mae mynd ati i ddatrys y pôs (rhif 21) yn broses ddieithr i nifer o’r darllenwyr felly dyma arweiniad o sut roedd yn bosib mynd ati i’w ddatrys.

Cam 1: Mae O ac S gennych yn barod ac yn y pos mae gair tair llythyren yn dechrau efo O ac yn gorffen efo S. Dim ond un llythyren yn sylfaenol all ffitio yn y canol sef ‘e’. Felly, llanwer pob sgwâr gyda 7 ynddo gydag e:

27 7 3

O E S

Cam 2: Mae gair ar i lawr ar y chwith. Gan fod O ac S gennych mae’r gair yn edrych fel hyn _ OSO_ . Faint o eiriau fedwch chi feddwl fasa’n ffitio? Yr un amlwg yw NOSON ond all y llythrennau ‘n’ ddim bod yno (mae ‘n’ yn rhif 14). Pa eiriau eraill ? GOSOD, neu RhOSOD yn cynnig eu hunain. Os ydi un o’r ddau yma yn gywir, mae’r llythyren olaf yn sicr o fod yn D, felly mae pob llythyren 1 yn debyg o fod yn D.

18 27 3 21 1

G/Rh O S O D

Cam 3: Mae gennych air ar draws ochr dde yn agos i’r top S_D_ _. Beth bynnag yw’r gair mae’n rhaid cael llafariad rhwng S a D . Mae O ac E eisoes wedi eu canfod, sy’n gadael A neu I neu U, W, Y. Ni fedraf feddwl am unrhyw air sy’n dechrau SUD_ _ . Gydag Y mae’r gair SYDYN yn dod i’r meddwl, ond nid yw dwy Y yn bosib, mae’r rhifau yn wahanol ar yr ail a’r pedwerydd sgwâr). Fedra i ddim meddwl am air SWD _ _ ychwaith. Felly, naill ai A neu I fydd y llythyren sy’n cael y rhif 2

3 2 1 11 16

S A/I D - -

Cam 4: Ar y gornel chwith ar i lawr, mae gair sy’n cynnwys yr un llythyren ddwy waith a rhif 2 sydd yn y sgwâr. Gwyddom fod yn rhaid i rif 2 fod yn llafariad, fwy na thebyg yn A neu I. Felly

18 2 21 2 27

A/I A/I O

Nid oes llawer o eiriau Cymraeg sy’n gorffen gyda AO, os o gwbwl, felly gallwn fod yn bur siwr mai I ydi’r llythyren. O lenwi pob llythyren I dylai hyn fod yn agor y posibiliadau.

Cam 5: Mae gair ar ochr dde isaf y croesair sydd bellach yn D I N _ _. Beth sy’n bosibl? DINOD? Na ddim yn bosib, mae dwy D ynddo. DINAS? Na, gwyddom pa rif yw S. DINYCh yn bosib, ond mae’n air pur anarferol. Beth am DINAM? Os penderfynwch ar hwn yna mae gennych A ac M. Posib dyfalu mwy o eiriau? Fel:

13 14 22 27 1 20 3

A N O D S

Gerallt Rhun

POS CRACIO’R COD - Rhif 21

ATEBION PÔS CRACIO’R COD - 20

Llongyfarchiadau i: Mrs Dilys A PritchardJones, Abererch; Mary Jones, Dolgellau; Bethan Ifan, Llanbadarn Fawr; Mai Jones, Llandecwyn; Angharad Morris, Y Waun, Wrecsam; Gwenda Davies, Llanfairpwllgwyngyll; Wendy Haverfield, Garn Dolbenmaen; Dotwen Jones, Cilgwri.

Anfonwch eich atebion i’r Pôs Geiriau at Phil Mostert. [Manylion ar dudalen 2].

14
POS GEIRIAU Phil Mostert (7) POS Phil Mostert A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I (J) L Ll M N O P ( Ph ) R Rh S T Th U W Y 1 D 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 T 17 18 19 20 21 22 23 A 24 25 26 27 28 PH A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y POS CRACIO’R COD RHIF 21 18 2 23 11 14 13 14 8 5 9 9 27 13 27 7 3 27 17 8 3 2 1 11 16 25 7 15 11 3 27 27 7 24 6 15 22 1 11 6 14 13 2 1 11 10 6 27 2 3 5 2 19 7 3 15 6 11 1 4 13 24 13 8 7 16 20 13 13 2 6 11 10 27 3 15 5 17 8 13 12 5 14 7 3 24 16 13 18 27 1 24 13 13 14 N 22 27 O 1 20 3 S 2 24 2 6 2 11 21 13 6 14 27 10 5 11 14 7 25 2 16 27 13 2 3 13 7 27 14 7 23 7 26 15 11 10 27 6 N O S

HYSBYSEBION

Telerau gan Ann Lewis 01341 241297

ALAN RAYNER

07776 181959

ARCHEBU A GOSOD CARPEDI

ALUN WILLIAMS

TRYDANWR

GALLWCH

HYSBYSEBU

* Cartrefi

YN Y

* Masnachol

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

Tafarn yr Eryrod

Llanuwchllyn 01678 540278

JASON CLARKE

Maesdre, 20 Stryd Fawr Penrhyndeudraeth

LL48 6BN

Sŵn y Gwynt, Talsarnau www.raynercarpets.co.uk

NEAL PARRY Bwlch y Garreg Harlech

E B RICHARDS

Ffynnon Mair

Llanbedr 01341 241551

CYNNAL EIDDO

O BOB MATH

Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

BLWCH HWN

* Diwydiannol

Archwilio a Phrofi

AM £6 Y MIS

Ffôn: 07534 178831 e-bost:alunllyr@hotmail.com

Bwyd cartref blasus

Cinio Dydd Sul

Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad a golchi llestri.

CHADW TU

THU

Drwy’r post Iolyn Jones 01341 241391

E-gopi llaisardudwy@outlook.com

£11 y flwyddyn am 11 copi

CAE DU DESIGNS

DEFNYDDIAU DISGOWNT

GAN GYNLLUNWYR

Stryd Fawr, Harlech

Gwynedd LL46 2TT

01766 780239

ebost: sales@caedudesigns.co.uk Dilynwch ni:

Oriau agor: Llun - Sadwrn 10.00 tan 4.00

GWION ROBERTS, SAER COED 01766 771704 / 07912 065803

gwionroberts@yahoo.co.uk

dros 25 mlynedd o brofiad

Arbedwch arian ar drydan,nwy, band eang, ffôn symudol, ffôn cartref ac yswiriant

Utility Warehouse (UW)

Peter Jones (Partner ID 119770)

Hafod Talog, Penrhyndeudraeth

Ffôn: 01766 771410

Defnyddiwch y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth https://uw.partners/peter.jones

Os ydych chi am hysbysebu eich busnes yn Llais Ardudwy, cysylltwch â: Mrs Ann Lewis

Min-y-môr

01766 770504 Talybont Ceredigion SY24 5HE www.ylolfa.com

Llandanwg Harlech

LL46 2SJ

15
Gwasanaeth Cadw Llyfrau a Marchnata Am argraffu diguro Holwch Paul am bris! paul@ylolfa.com 01970 832 304
CYNNAL A
MEWN A
ALLAN 07814 900069 Llais
Ardudwy
Tyddyn Llidiart, Llanbedr llaisardudwy@outlook.com
01341 241297

TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

Hynt a Hanes Ynys Gifftan

Nos Wener, Chwefror 17eg daeth tyrfa gref o bobl ynghyd i Neuadd Gymuned Talsarnau i gyfleu bod ganddynt ddiddordeb arbennig yn y darn o dir sydd wedi ei leoli yng nghanol afon Dwyryd. Ynys Gifftan oedd dan sylw a Ken Robinson ac Erddyn Davies oedd yn cyflwyno.

Ken oedd yn cyflwyno ffeithiau am hyd a lled ac uchder ac yn rhoi inni wybodaeth sawl cyfrifiad yn nodi pwy oedd yn byw yno ar wahanol amseroedd. Bu’n olrhain hanes yr enw a chanddo gynigion diddorol ac amrywiol. Cawsom weld amrywiaeth o luniau o’r lleoliad hyfryd hwn ynghyd â’r math o fywyd yr oedd y bobl yn ei fyw. Fe’i dilynwyd gan Erddyn Davies yn sôn am ei brofiadau fel plentyn yn mynd i ymweld ag Ynys Gifftan i aros gyda’i nain a gweddill ei deulu ar wahanol amseroedd. Roedd yr atgofion personol yn gwneud y profiadau yn rhai byw iawn ac yn amlwg roedd llawer yn y gynulleidfa yn gallu uniaethu â’i brofiadau. Llawer, er enghraifft, yn cofio Dic y ceffyl ar ei fynych deithiau draw tuag at Llechollwyn yn tynnu’r drol a chario pob math o nwyddau angenrheidiol i fywyd ar yr ynys. Eraill yn ei gofio’n pori yng ngardd gefn un o’r tai cyngor ym Minffordd!

Cafwyd hanes y ffordd o fyw unigryw y bu pobl yn ei brofi tra’n brwydro i gael dau ben llinyn ynghyd. Gweithio yn y chwarel gydol yr wythnos ac amaethu a thyfu pob math o gnydau at eu cynhaliaeth weddill eu hamser a gorfod wynebu heriau caled bywyd megis damwain greulon yn y chwarel. Heb os cafodd y gynulleidfa fwynhad a phleser wrth wrando a gweld y lluniau ac wrth ddwyn i gof eu profiadau eu hunain, a hel atgofion wrth sgwrsio dros baned ar y diwedd.

Diolch cynnes iawn i bawb fu’n ymwneud â threfnu’r noson. Yn sicr diolch arbennig i Ken Robinson ac Erddyn Davies. Roedd yr elw’n mynd tuag at gostau rhedeg y Neuadd a diolch yn gynnes iawn i bawb ddaeth i gefnogi’r noson.

CAPEL NEWYDD

Darlith Gŵyl Ddewi

Nos Fercher, 8 Mawrth am 7:30

Darlithydd:

Y Parchedig Ddr Andras Iago

‘Teulu Arch Noa’

Hanes y Methodistiaid

cynnar yn Ardudwy

Croeso cynnes i bawb

BORE COFFI yn y Capel Newydd Bore Sadwrn, 11 Mawrth, rhwng 10 a hanner dydd. Pob cyfraniad at ddioddefwyr trychineb y ddaeargryn yn Nhwrci/Syria. Dewch yn llu.

Oedfa bob nos Sul am 6:00

MAWRTH

5 - Dewi Tudur

12 - Eifion Jones

19 - Dewi Tudur

26 - Dewi Tudur

EBRILL

2 - Dewi Tudur

9 - Dewi Tudur (Pasg)

Mae croeso cynnes i bawb. Os nad ydych wedi bod ers tro neu ddim erioed wedi mynychu, yr un yw’r croeso!

Merched y Wawr Talsarnau

Croesawodd Eluned Williams, yr Is-lywydd, bawb i’r cyfarfod yn y Neuadd pnawn dydd Llun, 6 Chwefror a braf oedd gweld nifer dda wedi dod ynghyd. Y gŵr gwadd oedd Ken Brassil o Groesor, yn gynarcheolegwr wrth ei alwedigaeth ac yn cyflwyno sgwrs i ni o dan y teitl ‘Aros mae’r mynyddau mawr’. Gyda chymorth taflunydd, cafwyd sgwrs yn cynnwys mynydda, yn arbennig o gwmpas yr Wyddfa, ynghyd â sôn am lawer o bethau eraill dros y byd, o natur i hanes, ac roedd yn frwdfrydig iawn wrth gyflwyno’i sgwrs. Diolchwyd iddo gan Haf am sgwrs ddiddorol ac addysgiadol, a bu sgwrsio pellach gydag ef tra’n cael y baned a’r bisged. Tynnwyd y raffl a Margaret oedd yr enillydd.

Wedi i Ken adael, aethpwyd ymlaen i drafod materion y gangen – yn bennaf y tro yma cinio Gŵyl Ddewi ac eglurwyd mai yn yr Oakeley Arms, Maentwrog y bydd hwn ar ddydd Iau, 2 Mawrth am 12.30 o’r gloch. Bydd Mai yn anfon copi o’r fwydlen at bawb iddynt wneud eu dewis ohoni.

Cylch Meithrin Talsarnau

16
Plant y Cylch Meithrin yn dathlu Dydd Gŵyl Ddewi.

YSGOL TALSARNAU

Dathlwyd Dydd Gŵyl Ddewi trwy drefnu cinio traddodiadol Cymreig yn ogystal â chynnal gweithgareddau amrywiol oedd yn canolbwyntio ar hanes a bywyd Dewi Sant a’i ddylanwad ar Gymru a’r byd.

Treuliodd rhai o ddisgyblion yr Adran Iau fore egnïol yn cystadlu mewn cystadlaethau yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn, Porthmadog yn ddiweddar. Cafodd pawb hwyl yn cymryd rhan ac arddangos eu sgiliau athletaidd.

Daeth cynrychiolwyr o Cadwch Gymru’n Daclus draw ym mis Chwefror i helpu’r dysgwyr i blannu rhagor o goed. Yn ogystal â phlannu coed, trafodwyd sut y gallwn ni i gyd, cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol, ymateb i’r her newid hinsawdd.

Cyfeillion y Neuadd Gymuned Mae Pwyllgor Rheoli’r Neuadd yn gwneud apêl arbennig eleni am eich cefnogaeth ariannol at gynnal a chadw’r Neuadd ardderchog sydd yn Nhalsarnau. Yn y gorffennol rydym wedi cael cefnogaeth arbennig o hael pan wnaethpwyd apêl fel hyn ar ddechrau bob blwyddyn ac eleni eto, gyda chostau cynnal a chadw’r Neuadd yn drwm, mae angen eich cefnogaeth yn fwy nag erioed. Byddem yn ddiolchgar iawn o dderbyn eich cyfraniad fel a ganlyn - £20 i deulu (rhieni a’u plant oedran ysgol), £10 i oedolyn a £5 i bensiynwr – i’w roi i Brynmor Jones, y Gofalwr, yn y Neuadd neu ei dalu drwy’r banc – Rhif BACS Cyfrif y Neuadd: Côd didoli: 40-37-13: Rhif y Cyfrif : 31676970 a rhoi eich enw fel cyfeirnod. Gobeithiwn fel Pwyllgor, y byddwch yn barod i roi eich cefnogaeth i sicrhau bod y Neuadd yn parhau yn adnodd arbennig iawn i Dalsarnau.

Cymerodd rhai o ddysgwyr B5 a B6 ran yng nghystadleuaeth pêl-droed yr Urdd. Er nad aethon nhw i’r gemau terfynol, cafodd pawb hwyl. Diolch i Mr Hughes (Ysgol Cefn Coch) a Miss Perry (Ysgol Talsarnau) am eu hyfforddi.

17
R J WILLIAMS Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU IZUZU

Pen-blwydd

Pen-blwydd hapus iawn i Edwin Lewis, 26 y Waun, sydd wedi

dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed yn ddiweddar, Dymuniadau gorau gan ei ffrindiau i gyd yn y Waun, Hoffwn ddymuno gwellhad buan i Edwin hefyd, ar ôl iddo dreulio amser yn Ysbyty Dolgellau.

Yn yr ysbyty

Anfonwn ein cofion cynnes at Melanie Griffiths, 24 Y Waun, sydd ar hyn o bryd yn yr ysbyty. Mae pawb yn dymuno gwellhad buan iddi.

Pen-blwydd arbennig

Pen-blwydd hapus iawn i Mr Wil Evans (Cae Gwastad) sydd wedi dathlu pen-blwydd arbennig yn ddiweddar.

Genedigaeth

Llongyfarchiadau mawr i Nick a Laura Standring, mab Dougie a Delyth Standring, Cae Gwastad, Harlech,ar enedigaeth eu mab. Ar y 15fed o Ragfyr, ganwyd Arthur Ellis yn 5 pwys 14 owns, brawd bach i Arwyn. Llongyfarchiadau mawr i’r teulu bach, heb anghofio Nain a Taid a Hen Nain, Maureen.

Diolchiadau

Dymuna teulu Mr D Davenport, 19

Y Waun, Harlech, Siôn, Teresa, Richy, Declan, a Bernie ddatgan eu diolch am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth o golli gwraig, mam a nain annwyl iddynt i gyd. Rhodd a diolch £10

CAPEL JERUSALEM MAWRTH

12 Parch Iwan Ll Jones 3.30

19 Parch Christopher Prew 2.00

26 Br Iwan Morgan 4.00

EBRILL

Cymun Gwener y Groglith

7 Parch Dewi Morris 10.30

Rhoddion

John a Karen Kerry, Tŷ Canol £10

Dotwen Jones, Cilgwri £10

Cymdeithas Hanes Harlech

Mi fydd Jean Napier yn rhoi sgwrs am Ynys Enlli ar nos Fawrth, 14 Mawrth i aelodau Cymdeithas Hanes Harlech yn y Neuadd Goffa, Twtil, Harlech am 7.30yh. Am ddim i aelodau, £2 os nad yn aelod yn cynnwys te/coffi a bisgedi.

Teulu’r Castell

Cynhaliwyd cyfarfod Teulu’r Castell yn Neuadd Goffa Llanfair, 14 Chwefror 2023. Rhoddodd y llywydd groeso i bawb oedd yn bresennol, a chroeso arbennig i Fiona Roberts a Ross McAlister.

Cydymdeimlwyd gyda theulu Menna Jones a theulu Terry Jones, y ddau wedi bod yn aelodau ffyddlon ar hyd y blynyddoedd.

Dymunwyd yn dda i Maureen Jones oedd yn mynd am seibiant i’r ysbyty am bythefnos i Landudno.

Cynhelir y cyfarfod nesaf yn Llanfair ddydd Mawrth, 14 Mawrth am 2.00 o’r gloch.

Croesawyd Fiona a Ross a chawsom awr ddifyr o chwarae bingo. Diolch i Jim a Sheila Maxwell am brynu teclyn bingo newydd i ni, handi iawn os fydd angen llenwi bwlch yn y rhaglen. Cafwyd prynhawn yn llawn o hwyl, a diolch i bawb oedd wedi dod a gwobrau ac am y rafflau.

Mwynhawyd y te oedd wedi ei baratoi gan y pwyllgor. Y mis nesaf Siân Roberts fydd ein siaradwr. Croeso i unrhyw un ymuno â ni. Cyflwynwyd y diolchiadau gan Eileen Greenwood.

Hwb Harlech/Hen Lyfrgell

Mae gan yr Hen Lyfrgell wybodaeth am gyfrifiad 1921 ar gyfer Harlech/ Llandanwg a Llanfair. Mae’r llyfrgell ar agor, fel arfer, bob dydd o’r wythnos rhwng 11-1 a 2-4. Mae croeso i bobl ddod i edrych ar y cyfrifiad hwn ac eraill o 1840 i gofrestr rhyfel 1939. Nid oes tâl.

Yn yr ysbyty

Anfonwn ein cofion at Bob Major sy’n glaf yn Ysbyty Gwynedd.

LLYTHYR

DYDDIAD NEWYDD

GWEITHDY COSTAU BYW

MEIRIONNYDD

Annwyl Olygydd, Yn sgil yr argyfwng gyda chostau byw, mae Mantell Gwynedd yn trefnu gweithdy ac hyfforddiant am ddim i unrhyw aelodau o’n cymunedau. Cynhelir y sesiwn ar ddydd Llun, 27 Mawrth, rhwng 10.00 ac 1.00pm yn Nhŷ Siamas, Dolgellau. Pwrpas y sesiwn yw cyflwyno gwybodaeth i bobl er mwyn iddyn nhw helpu eraill e e gyda chostau egni, talebau bwyd, yn ogystal â budd-daliadau.

Dilynwch y cyswllt isod i archebu eich lle, neu cysylltwch gyda ni: https://www.eventbrite.co.uk/e/ gweithdy-costau-byw-costof-living-workshop-dolgellautickets-559571562607

Darperir cinio am ddim. Diolch yn fawr, Carwyn Humphreys

HARLECH 18

TEYRNGED

Roedd Richard yn hoff iawn o sgwennu ar Facebook ac roedd hiwmor yn byrlymu ar ei dudalen yn aml. Fe welech luniau ohono fo yn gwisgo crys tîm Cymru efo’i ffrindiau a weithiau efo enwogion byd rygbi. Roedd yn un o’r cefnogwyr mwyaf selog.

Fe ddaw deigryn i’ch llygad wrth i chi ddarllen yr holl deyrngedau sydd iddo fo ar Facebook. Dyma i chi flas ar rai ohonyn nhw.

Mark Durkin

Un o wŷr bonheddig yr hen fyd yma, bydd colled ar ei ôl.

Patrick Gillespie

fath hebot ti. Mi fydd ‘na beint ar y bar ymhob gêm ar dy gyfer di - efo centimetr o lager yntê! Anfonaf fy nghariad at Claire a’r plant ac at dy deulu i gyd. Caru ti Richie xxx.

Rosie Irvine

Fedra’ i ddim coelio be’ dwi newydd ei ddarllen! Richard fy ffrind wedi’n gadael. Dwi mor falch i mi dy weld ddydd Sadwrn ac i ni gael cofleidio fel ddaru ni. Roedd dy wên yn gneud i mi wenu. Roeddet ti’n enaid mor garedig.

COLLI RICHARD

Yn frawychus o sydyn, bu farw

Richard Evans yn Ysbyty Douglas, Ynys Manaw mewn amgylchiadau trist ac yntau yn 52 oed. Roedd yn fab i Carol a’r diweddar annwyl Robert, llysfab i Stephen, 6 Pen yr Hwylfa ac yn frawd i David a Gethin.

Roedd clywed y newydd yn sioc fawr i holl drigolion Harlech. Roedd, fel ei dad, y tu hwnt o boblogaidd ymhlith ei fyrdd o ffrindiau a chydnabod. Mae pawb oedd yn ei adnabod wedi talu teyrngedau cynnes iawn i ddyn oedd mor uchel ei barch.

Mi gefais i’r fraint o’i ddysgu pan oeddwn yn athro yn Ysgol Tanycastell ddechrau’r 80au. Gallaf nodi, â’m llaw ar fy nghalon, ei fod o’n un o’r disgyblion annwylaf imi ddod ar eu traws yn ystod fy ngyrfa. Roedd ganddo gydwybod cymdeithasol cryf iawn bryd hynny ac mi fyddai’n cyfrannu’n frwd i’r sgwrs pan oedden ni’n trafod problemau’r byd fel rhyfel ac anghyfiawnder a phlant bach yn llwgu.

Ac mi oedd y wên a’r direidi y mae cymaint o sôn amdano, ganddo fo bryd hynny ac fe’i cadwodd ar hyd ei fywyd.

Gwnaeth yrfa dda lwyddiannus iddo’i hun drwy weithio’n galed. Roedd o wrth ei fodd yn byw efo’i gariad Claire a’r plant ar Ynys Manaw.

Dwi wedi torri ’nghalon o ddarganfod bod Richard Evans wedi’n gadael. Ffrind i bawb a gelyn i neb. Gorffwys mewn hedd.

Emily Wright

Dw i am golli ei wên a’r chwerthin.

Andrew Parry

Roeddet ti’n gneud imi chwerthin nes o’n i’n gwlychu fy hun!

Sarah Buchanan

Ges i sioc fawr o glywed am ymadawiad Richard. Roedd o mor ffeind ac mor barod i helpu pawb. Mae fy nheimladau gyda’i deulu.

Charlotte Clarke

Roedd ganddo fo galon o aur pur a’i wên gynnes yn gneud i chi deimlo mor gartrefol yn ei gwmni. Wna i byth anghofio’r dyddia’ rygbi yn yr Outback lle bydda’ Rich yn canu nerth ei ben. Mi fydd colled ar dy ôl di, anfonaf fy nghofion at dy holl deulu a dy ffrindia’ yn yr amser anodd hwn.

Emma Bowers

Gorwedd mewn hedd Richie. Alla’ i ddim coelio fod 20 mlynedd wedi mynd heibio ers iti ffonio a gofyn imi agor y bar ar gyfer un o gemau Cwpan y Byd oedd yn cychwyn ben bore, am 5.45am. Fe ddoist i mewn a helpu i osod y meinciau a’r stolion ac ers hynny fe fuon ni’n ffrindiau.

Mi fydd dy wên hyfryd yn aros efo fi am byth a fydd y rygbi byth yr un

Dwi’n wirioneddol gredu bod Rich yn un o’r bobol gleniaf y ces i’r fraint o fod yn ffrind iddyn nhw. Cydymdeimlaf yn arw iawn efo’r teulu i gyd. Bydd colled fawr ar ei ôl.

Sera Pennant

Dy galon sy’ ’di stopio, Ar daith dy fywyd di, Ein calonau wedi torri, Wrth orfod byw hebot ti, Y wên ddireidus, A dy chwerthin mawr, Y jôcs di-ri a’r tyngu mawr, Rhoddodd bawb ar y llawr, Yn y dafarn roedd hwyl fawr, Gwylio rygbi a chymdeithasu, Yng nghanol y dorf roedd bloeddio mawr, Dy waed yn berwi pan yn colli, Gwirioni a drygioni pan yn dathlu, Teulu, ffrindiau a chymdogion, Yn eu galar ac yn dy fethu, Yr atgofion cynnes cawn drysori, Tra’n ymdopi â dy golli. Cwsg yn dawel Rich.

Mathew Jones

Mae pawb wedi colli ffrind fyddlon, hapus a genuine heddiw. Bydd yna wagle gan bawb dwi’n siŵr wrth i ni gofio a ffarwelio â Richard Evans. Bob amser wedi cael hwyl yn ei gwmni a doedd r’un Sadwrn yr un peth yn Harlech heb i Richie ymweld â’r llefydd arferol. Am hwyl gawson ni i gyd! Cwsg yn dawel Richie, mae Harlech wedi colli un o’r goreuon.

‘Gwyn eu byd y rhai addfwyn’. Cydymdeimlwn â’r teulu oll yn eu profedigaeth.

19
PM

CORNEL NATUR Mwyalchen y Mynydd

COLLI ROBIN

Ar ôl cystudd hir, trist iawn yw gorfod cofnodi marwolaeth Robin [Bob] Price Jones, Gellilydan. Bu’n aelod gwerthfawr a phoblogaidd o Gôr Meibion Ardudwy ers rhai blynyddoedd. Bydd colled ar ôl ei gwmni difyr a’i wên siriol. Roedd wrth ei fodd yn y Côr ac yn un garw am dynnu coes.

Ysgrif gan y diweddar Wil Ifor Jones, y naturiaethwr (o’r Dyffryn), o’i lyfr ‘Cacwn yn y Ffa’, Llyfrau Llafar Gwlad (rhif 58), Gwasg Carreg Gwalch, Gorffennaf 2004. Diolch i deulu Wil a’r wasg am eu caniatâd i gyhoeddi ei erthyglau yn Llais Ardudwy.

Mwyalchen y mynydd

Dyma enw da ar aderyn. Clogwyni, carneddi a marianau ein mynyddoedd yw ei gynefin tra bydd yn ein gwlad. Fel yr awgryma ei enw mae’n perthyn yn agos iawn i’r aderyn du ond go anaml y bydd tiriogaeth y ddau yn mynd ar draws ei gilydd. O ran pryd a gwedd mae ei fib gwyn yn ei wahaniaethu oddi wrth ei berthynas ac nid yw ei got mor loywddu chwaith. Ceir peth

dryswch ambell waith gan fod yr

aderyn du yn dueddol i ddangos gwyn yn ei blu a hynny o gwmpas

ei wddf ambell waith yr un fath â mwyalchen y mynydd. Gellir bod yn sicr bron os gwelir aderyn du â gwddf gwyn yn y gaeaf, mai dyna ydyw.

Ymwelydd yw mwyalchen y mynydd o ogledd Affrica, sydd yn cyrraedd

ein gwlad ym mis Mawrth ac yn aros hyd ddiwedd yr haf i nythu a magu cywion.

Y cynefin fel arfer yw’r ffordd ddiogelaf i wahaniaethu rhyngddo ac aderyn du ein gerddi. Ni fentra’r

aderyn du ymhell o gysgod rhyw goed neu brysgwydd, ond moelni llwm heb ddim ond cerrig, a grug i’w guddio, yw cynefin mwyalchen y mynydd. Bydd ei gân leddf un nodyn yn aml yn cyhoeddi ei fodolaeth mewn hafan a chwm, ond y rhan amlaf nid yw hyn o gymorth yn y byd i ddangos lle mae’r aderyn. Teflir y nodau clir o faen i farian ac o glogwyn i darren fel nad oes posib dweud lle mae clwyd y cantor. Ehed yn isel a disylw o garreg i garreg gen beri i nodau ei gân greu argraff newydd ddryslyd o hyd o’i leoliad. Caiff ei daflu oddi ar ei echel ambell waith pan ddaw cudyll neu hebog i’r golwg a bydd yn uchel ei gloch tra pery’r bygythiad yr un fath yn union â’i berthynas pan ddaw’r gath i’r ardd. Mae lloches i guddio nyth yn brin ar y mynydd a chymer yr aderyn fantais o hollt mewn craig neu dwll mewn wal i osod ei nyth o fân weiriach Gwyrddlas golau gyda brychau browngoch yw’r pedwar neu bump o wyau. Fel amryw o adar y mynydd, lle nad oes cynhaliaeth fras, gwasgarog yw tiriogaethau yr adar yma gyda phob pâr gryn bellter oddi wrth ei gilydd. Nid yw felly yn aderyn amlwg nac yn berfformiwr eofn fel ei berthynas llawr gwlad, ond mae ei gân a’i ymddygiad swil yn gweddu’n addas i awyrgylch llwm a diaddurn ei gynefin.

Bydd rhai o bobl hŷn yr ardal yn ei gofio fel gwas fferm diwyd ar fferm Caerwych.

Roedd yn saer talentog iawn. Bu’n gweithio gyda chwmni Mason a Nicholson cyn symud i weithio ym Mhortmeirion am gyfnod.

Roedd Bob yn gweddu i’r dim i’w waith ym Mhortmeirion oherwydd un o’i dasgau yn y fan honno oedd creu ffenestri i gyd-weddu â’r adeiladau yn y pentref. Nid tasg hawdd oedd hon, wrth gwrs, ond doedd neb gwell na Bob ar gyfer y gwaith - roedd yn anwylo’r pren ac yn feistr ar y gwaith o’i drin.

Fe gofia’i gydnabod yn dda am ei waith pren cywrain a’i barodrwydd i roi enghreifftiau o’i waith gwych fel rhoddion. Cofiaf pan fyddai gennym gyngerdd Nadolig ym Mhlas Aberartro, fel y byddai Bob yn dod â sawl powlen ffrwythau, wedi’u turnio o un darn o bren, fel eitemau i’w gwerthu ar ocsiwn. Ymfalchïaf bod un ohonyn nhw yn fy meddiant. Bu farw yn ei gartref yng ngofal ei deulu ar ôl cystudd hir.

Cynhelir yr angladd ar ddydd Llun, Mawrth 13 yn Eglwys Maentwrog am 11.30 o’r gloch ac i ddilyn wedyn am 1.30 yn yr Amlosgfa ym Mangor. Mae’n meddyliau gyda Jean ei wraig, y plant Siân, Esyllt, Aled a Delyth a’r teulu estynedig i gyd. Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf atyn nhw. ‘Gwyn eu byd y rhai pur o galon.’

20
PM

CLWB RYGBI HARLECH

CYNGOR CYMUNED HARLECH

DATGAN BUDD

Datganodd Wendy Williams a Thomas Mort fudd yng nghais cynllunio Clwb Golff Dewi Sant, Harlech. Datganodd Rhian Corps fudd yng nghais ariannol Ysgol Ardudwy.

MATERION YN CODI

Arwyddion Tŷ Canol

Ar fore Sul, 5 Chwefror aeth tîm rygbi plant dan 8 oed Clwb Rygbi Harlech i Ddolgellau i chwarae yn erbyn Pwllheli a Dolgellau. Mwynhawyd sawl gêm ar fore braf ond oer! Graham Perch oedd yng ngofal y tîm gyda’r Cadeirydd

Gareth John Williams a’r rhieni yn cefnogi ac yn gwylio’r gemau brwdfrydig. Cynhelir hyfforddiant ar nos Fawrth, 4.30 - 5.30 ac mae croeso i blant 7/8 oed ymuno gyda’r criw yn Ysgol Ardudwy.

Dewch i

cynnig ar yrru’r Yaris Cross newydd!

newydd!

TOYOTA HARLECH

Mae polion yr arwyddion wedi eu gosod ers tro. Ceisiwyd cysylltu gydag Iwan ap Trefor i weld pryd y bydd yr arwyddion eu hunain yn cael eu gosod, dydyn ni ddim eto wedi cael ateb ganddo.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Cais ôl-weithredol i ailsefydlu preswylfa a thrac mynediad - fferm Cae Du, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. Trosi siop golff broffesiynol a swyddfa bresennol yn lety noswylio 9 gwely, ail-leoli’r siop broffesiynol i’r storfa droli, ystafell sychu a rhan o ystafell newid bresennol – Clwb Golff Dewi Sant. Cefnogi’r cais hwn.

Trosi sgubor yn anecs un ystafell wely ynghyd ag adeiladu estyniad a gosod 4 ffenestr do (3 ar y drychiad blaen ac 1 ar y drychiad cefn), a gosod ffliw allanol (ailgyflwyniad) - Foel, Harlech. Cefnogi’r cais hwn. Estyniad deulawr yn y cefn, gosod simnai allanol ac ail-leoli’r corn simnai bresennol, dormer newydd a balconi llawr cyntaf ar y drychiad blaen. Gwaith peirianyddol i greu man parcio a wal gynnal newyddAelfor, Ffordd Isaf, Harlech. Adroddodd y Clerc mai newydd dderbyn y cais uchod oedd hi.

GOHEBIAETH

TOYOTA HARLECH

Ffordd Newydd

Ysgol Ardudwy

Ffordd Newydd

Harlech

Harlech

LL46 2PS 01766 780432

LL46 2PS 01766 780432

www.harlech.toyota.co.uk

www.harlech.toyota.co.uk

info@harlechtoyota.co.uk

info@harlechtoyota.co.uk

Facebook.com/harlechtoyota

Twitter@harlech_toyota

Derbyn llythyr yn gofyn am gymorth ariannol tuag at uwchraddio’r cwrt tenis presennol sydd yn yr ysgol trwy osod ffens newydd o’i amgylch a datblygu cae aml bwrpas yna. Cytunwyd i gyfrannu £5,000 tuag at y gwaith.

21
Dewch i roi cynnig ar yrru’r Yaris Cross roi

CYFNOS

Cyfrol newydd Alan Llwyd

Y Rhyfel yn Wcráin

Oherwydd rhyw un ynfytyn mae hi’n lladdfa eto: gwlad fawr, o fwriad, yn hybu dilead gwlad lai. Digwyddodd o’r blaen, pan gadwyd Iddewon mewn geto cyn eu llarpio a’u lladd. Malurir y tir a’r tai,

ac mae’r ddaear yn crynu, yn crynu o gyrion Wcráin, ac mae bomiau yn ffrwydro drwy’r byd, yn lladd pob tawelwch; rhag hynny, newidiwn y sianel, diffoddwn y sain, am na allwn wneud dim, dim ond gwylio mewn diogelwch.

Yn nwylo’r arweinwyr-lofruddion mor greulon yw grym, y grym sydd yn gyrru ymaith y miliynau o’u gwlad ar ffo dros ryw ffin: y wladwriaeth ddidostur a llym sy’n llofruddio ei phobol ei hun heb yr un eglurhad.

Dim ond mymryn o edefyn sy’n dal y cyfan ynghyd: peri galar i bawb y mae’r un sy’n peryglu’r byd.

Cyfnos yw’r gyfrol ddiweddaraf o gerddi gan y Prifardd Alan Llwyd. Y mae Alan yn un o’n prif feirdd ni, yn ddios, yn gofiadur i’r genedl yn ogystal ag yn fardd. Casgliad telynegol ac arbennig a geir yn Cyfnos. Mae’n edrych ar dreigl amser o safbwynt oedolyn a welodd amser yn llithro heibio ac sy’n gresynu at y ffaith fod amser yn cerdded o hyd.

Fel y gellid disgwyl gan un o’r meistri, y mae yn y gyfrol ddarnau sy’n rhagorol - mae yma rai o gerddi gorau’r bardd yn ddi-os.

Cerdd amserol iawn yw’r gyntaf rydw i am ei dyfynnu: Y ‘Tywysog’ Newydd Os yw’n hanes yn honni, yn wasaidd, mai’r tywysog inni yw’r gŵr hwn, trwy’i goroni, nid hanes yw’n hanes ni.

A dyma ichi englyn i dywysog go iawn: Englyn i Owain Glyndŵr

[ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr]

Dy wlad, nid cenedl yw hi; ni hidia am sarhad ac anfri; aeth dydd dy dreftadaeth di yn ddydd cywilydd iddi.

Dyma un arall o’i gerddi amserol: ‘Yma o Hyd’

[Dafydd Iwan yn canu ‘Yma o Hyd’ adeg gêm Cymru yn erbyn Wcráin.]

Nid cân dros Gymru’n unig oedd dy gân: roedd dwy genedl ysig yn y nodau crynedig yn wylo, cyd-ddiawlio’n ddig.

Mae yn y gyfrol amryw o gerddi iasol yn trafod y rhyfel erchyll yn yr Wcráin, pob un ohonyn nhw yn taro’r hoelen ar ei phen, a dyma un aeth at fy nghalon:

Ar dro, fe ddaw pobol ataf i holi a oes gen i awgrym ar gyfer cerdd neu englyn i’w rhoi ar daflen angladd neu ar garreg fedd. Wrth imi bori yn y gyfrol hon, mi ddes i ar draws dwy enghraifft ragorol i bobol sy’ mewn cyfyng gyngor tebyg. Mi gewch chi farnu a ydych yn cytuno â mi ai peidio!

Mae’r gyntaf, ar t.85, yn un o bedwar englyn a sgrifennwyd er cof am Sibyl Thomas, cymdoges i Alan a fu farw’n sydyn ar drothwy Nadolig 2020.

Y Wraig War

Ni fyddai, pe bai pob un ohonom fel hon, neb i’n herbyn, na’r un rhyfel na gelyn, dim ond byd hyfryd, cytûn.

Gwych!

Lluniwyd yr englyn teyrnged nesaf, sydd ar t. 116, i Olive van Lieshout, gwraig ryfeddol o ddewr. O’r pum englyn a greodd Alan iddi, hwn yw’r englyn a roddwyd ar ei charreg fedd:

I Olive van Lieshout

Chwiliais ond ni welais i wraig arall â rhagoriaeth arni, na chael, er mynych holi, neb o’r byd a’i hysbryd hi.

Rhagorol yn wir!

Byddaf yn darllen ac ailddarllen y llyfr hwn lawer gwaith. Os ydych wedi mwynhau darllen y cerddi uchod ac am ddarllen rhagor o gerddi gwych tebyg, ewch i chwilio am y gyfrol yn eich siop lyfrau arferol. Cyhoeddiadau Barddas yw’r cyhoeddwyr ac mae’r llyfr yn costio £8.95.

22
PM

Gwrychoedd gwych

MEIBION PRYSOR YN DIDDORI

Mae gwrychoedd yn gallu nodi terfynau, rhannu rhan o’r ardd neu guddio rhywbeth, fel bin neu domen gompost. Maen nhw’n cryfhau fwyfwy dros amser ac, yn wahanol i ffensys, fyddan nhw byth angen eu peintio!

Mae angen tocio pob gwrych yn rheolaidd i’w gadw’n drwchus ac yn iach, ac mae hyn yn creu cynefin da ar gyfer bywyd gwyllt yn ogystal ag edrych yn dda. Bydd gwrychoedd pigog fel Pyracantha, Berberis neu Rosa rugosa yn helpu i gadw lladron draw, ond i ddarparu aeron i adar yn y gaeaf plannwch Pyracantha, draenen wen neu rosod.

Meibion Prysor oedd yn diddori yng Nghymdeithas Cwm Nantcol ddiwedd Chwefror, gyda’u harweinydd, Lona Williams a’u cyfeilydd, Iona Mair. Hefyd yn perfformio yn y cyngerdd yr oedd David Bissecker a Gerallt Rhun. Roedd Neuadd Gymunedol Llanbedr yn bur lawn a’r gynulleidfa yn ymateb yn wresog i bob eitem. Diolchwyd i’r artistiaid gan Morfudd Jones, yr ysgrifennydd a diolchwyd i’r swyddogion a merched y gegin gan y Cadeirydd, Phil Mostert. Diolch i ‘Noson Allan’ am noddi’r adloniant.

Geraint Williams, Gwrach Ynys, Talsarnau

01766 780742 / 07769 713014

www.gwyneddmobilemilling.com

*MELIN LIFIO SYMUDOL

Llifio coed i’ch gofynion chi Cladin, planciau, pyst a thrawstiau

Bydd coed cyll yn denu wiwerod, bydd arogl da ar lafant, a bydd ffawydd yn cadw ei ddail dros y gaeaf. Mae planhigion ar gyfer creu gwrych ar gael rŵan ar ffurf bwndeli gwreiddiau-moel, felly dyma’r adeg rhataf o’r flwyddyn i blannu gwrych.

*COED TÂN MEDDAL WEDI EU SYCHU Netiau bach, bagiau mawr a llwythi ar gael

*GWAITH ADEILADU AC ADNEWYDDU

*SAER COED Ffoniwch neu edrychwch ar ein gwefan

23

Plant Ysgol Dyffryn Ardudwy yn dathlu Dydd Gŵyl Ddewi

Cylch Meithrin y Gromlech

Y disgyblion yn dangos eu gwaith yn seiliedig ar Ddydd Gŵyl Ddewi. Disgyblion yn perfformio i ddathlu’r Ŵyl Cylch Meithrin y Gromlech, Dyffryn Ardudwy yn mwynhau cacen gri ar Ddydd Gŵyl Ddewi.
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.