Llais Ardudwy 50c
DYMCHWEL GWESTY DEWI SANT?
RHIF 474 - MAI 2018
PENCAMPWR SELSIG Mae’n fwriad gan Gyngor Gwynedd drefnu bod gwesty Dewi Sant yn cael ei ddymchwel a bod y bil am wneud y gwaith yn cael ei anfon at berchnogion y safle, sef Aitchinson Associates Ltd sy’n gwmni o Gibraltar. Hwrê ddwedwn ni! Ers i’r gwesty gau yn 2008, bu cryn gwyno am gyflwr y safle ymhlith pobl yr ardal. Yn sicr, mae ei gyflwr presennol yn tynnu oddi wrth harddwch y dref a’r ardal yn gyffredinol. Yn 2009, rhoddwyd caniatâd i ailgodi gwesty ar y safle yn cynnwys 130 o ystafelloedd a 76 o fythynnod gwyliau. Adnewyddwyd y caniatâd yn 2014. Cafodd Aitchinson Associates Ltd ddirwy o £1000 yn Llys Ynadon Caernarfon y llynedd am beidio cymryd sylw o’r gorchymyn i ddymchwel y gwesty ac mi gawson nhw ddirwy a chostau o £21,800 yn ddiweddar am beidio cymryd sylw o’r ddirwy gyntaf. Hyderwn y gwelwn ni Gyngor Gwynedd yn dangos eu dannedd yn y mater hwn yn fuan iawn. Rydan ni eisoes wedi aros yn rhy hir.
HWB I DWRISTIAETH YN ARDUDWY Llongyfarchiadau i Mark Hughes sy’n gigydd yn siop London House, Dyffryn ar ei lwyddiant yn Sioe Gynnyrch Cig Gogledd Cymru a Chaer 2018, a gynhaliwyd yn Abergele yn ddiweddar. Dyfarnwyd Mark yn bencampwr y Sioe am ei selsig porc traddodiadol a hefyd yn Brif Pencampwr Selsig y sioe. Mae Mark wedi dod yn bencampwr y sioe bum gwaith mewn 12 mlynedd. Da iawn Mark; rydym yn falch iawn o dy lwyddiant.
BWS YN EI ÔL
Mae Cyngor Gwynedd yn falch o gadarnhau bod gwasanaethau bws cyhoeddus rheolaidd bellach ar gael rhwng y Bermo a Phorthmadog. Ers penderfyniad y Comisiynydd Traffig i ddileu trwydded cwmni Express Motors (Penygroes), mae’r swyddogion wedi bod yn gwneud popeth posib i sicrhau fod gwasanaethau bws cyhoeddus yn parhau i fod ar gael i drigolion Gwynedd. Yn dilyn trafodaethau gyda chwmnïau bws lleol, bydd gwasanaethau ychwanegol rŵan ar gael ar hyd llwybr 38 a 39 o’r Bermo i Borthmadog. Mae’r gwasanaeth 38/39 yn cynnig hyd at wyth taith y dydd rhwng Porthmadog, Harlech a’r Bermo (gan gysylltu gyda’r gwasanaeth T3 i/o Ddolgellau a Wrecsam). Mae manylion llawn am y gwasanaethau i’w gweld ar wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru/bws
Yn ddiweddar cyhoeddodd y Gweinidog Twristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas ychydig dros £500,000 o fuddsoddiad a fydd yn hwb sylweddol i ddiwydiant twristiaeth yng Ngwynedd. Ymysg y prosiectau a fydd yn cael eu gweithredu yn 2018/19 mae arwyddion a llwybrau tref yn Harlech, gwelliannau i feysydd parcio a chyfleusterau cyhoeddus yn Harlech ac uwchraddio cyfleusterau mynediad arfordirol. Y nod yw ceisio datblygu a gwella cyfleusterau twristiaeth sy’n gynaliadwy a safonol er mwyn ehangu profiadau ymwelwyr i’r sir. Mae ymwelwyr yn disgwyl i bob agwedd ar eu hymweliad fod o’r ansawdd gorau, gan gynnwys llety, gwybodaeth, toiledau a meysydd parcio. Meddai Graham Perch ar ran Cymdeithas Twristiaeth Harlech: ‘Mae Cymdeithas Twristiaeth Harlech yn ddiolchgar am y gefnogaeth a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru a Chroeso Cymru drwy’r gronfa TAIS. Gobeithiwn y bydd y cymorth ariannol hwn yn gychwyn ar greu a datblygu profiad anhygoel i ymwelwyr ac i greu’r ymdeimlad o berchnogaeth o fewn y gymuned leol.’ ‘Bydd yr arian hwn yn helpu i greu newidiadau cyffrous o gwmpas Harlech a fydd yn annog pobl i archwilio’r dref ac ardal Ardudwy. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid er mwyn datblygu’r prosiectau a nodwyd yn y dyfodol agos. Bydd y budd cymdeithasol ac economaidd, i fusnesau lleol ac i’r gymuned, yn hwb i ddatblygiad Harlech.’