Llais Ardudwy Ionawr 2019

Page 1

Llais Ardudwy

70c

MERCHED Y WAWR BERMO, HARLECH A LLANFAIR

RHIF 483 - IONAWR 2019

GWOBRAU DYLUNIO

Ymunodd Canghennau Bermo a Harlech i fwynhau cinio Nadolig yn Hendrecoed, Llanaber ddechrau Rhagfyr. Bronwen Williams [Llywydd Harlech] oedd yn arwain y fendith cyn gwledda. Mwynhawyd pryd blasus iawn dan ofal y cogydd Kevin. Cyn troi am adref, darllenodd Llewela Edwards [Llywydd Bermo] gyfarchion Nadolig gan Meirwen, y Llywydd Cenedlaethol a chafwyd cyfle i sgwrsio gyda chyfeillion cyn troi am adref.

PRIODAS DDEIAMWNT

Rhys Parry

Ryan John

Llongyfarchiadau i Ryan John, Tŷ Canol, Harlech ar ddod yn ail mewn cystadleuaeth ar draws Cymru. Mae’r myfyriwr 19 oed yn astudio celf a dylunio yng Ngholeg Meirion-Dwyfor. Llwyddodd i gael y wobr arian yn nigwyddiad cyfryngau a chreadigol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ar gampws Coleg Gwent yng Nghasnewydd ganol mis Rhagfyr. Cafodd gwaith Rhys Parry, myfyriwr 18 oed o Lan Ffestiniog sy’n astudio yng Ngholeg Meirion-Dwyfor Dolgellau, hefyd ei ganmol gan y beirniaid am ei ddyluniad ‘cain a soffistigedig’.

SEINDORF HARLECH PEN-BLWYDD PRIODAS

Hyfrydwch bob blwyddyn ydi clywed Band Harlech yn dod ag ysbryd yr Ŵyl i’n plith gyda chasgliad o garolau a chaneuon Nadoligaidd. Mae’r traddodiad hwn yn yr ardal yn mynd yn ôl yn bell iawn. Mae rhai yn cofio’r band yn ymweld â nifer o bentrefi a hyd yn oed cyn belled â Chwm Nantcol! Eleni fe fuon nhw yn Ffair Nadolig Talsarnau, Noson Oleuo Llanbedr, Gwasanaeth Undebol Sant Tanwg, Harlech, Gwasanaeth Nadolig Llanbedr ac ym Mhant Mawr, Harlech. Yn ôl eu harfer, diweddwyd y diddanwch eleni yng ngwaelod Harlech. Diolch iddyn nhw am eu gweithgarwch diflino.

Llongyfarchiadau cynnes iawn i Ronnie a Gwyneth Davies, Pentre Uchaf ar ddathu penblwydd priodas arbennig. Maent wedi bod yn briod am 60 mlynedd. Priodwyd nhw yn Eglwys Llanenddwyn, Dyffryn ar Ionawr 3, 1959. Dymuniadau gorau a chariad mawr gan Linda a’r teulu, Olwen a’r teulu a Keith a’r teulu. XXX

BLWYDDYN NEWYDD DDA I’N DARLLENWYR


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.