Llais hydref 2015

Page 1

Llais Ardudwy 50c

RHIF 445 HYDREF 2015

HANNER MARATHON

Mi gauwn ni’r banc yn nhref Harlech, Mi ddwedwn fod technoleg ar fai, Does wnelo hyn ddim oll ag elw Ond mae hwnnw ychydig yn llai; Y ni yw y banc oedd yn gwrando, Ond mae’r dyddiau hynny ar ben; A dyma fydd ein neges Nadolig Does dim lle yn y llety - Amen!

Ar Waith Ar Daith Ar y 12fed o Fedi, cafodd fy nheulu a minnau wahoddiad i fynd i Gaerdydd i weld y sioe ‘Ar Waith Ar Daith’. Roedd y sioe yn anhygoel o dda. Roedd yna lawer o ddawnswyr da a cherddoriaeth dda a llawer mwy o bethau i ni eu mwynhau. Cawsom y cyfle i eistedd efo’r VIPs ac roedd hwnna yn brofiad grêt. Cefais gyfle i gyfarfod llawer o bobl bwysig a hefyd mi gefais gyfle i fod ar y teledu a chael fy nghyfweld gan Nia Roberts. Doeddwn i ddim yn gallu coelio mai fy ngeiriau fi oedd wedi cael eu dangos ar wal Canolfan y Mileniwm a hefyd wedi cael eu taflu allan o ganon mewn conffeti. Roedd pawb yn dal fy ngeiriau roedd o’n foment anhygoel. Rhywbeth arall anhygoel oedd bod fy ngeiriau wedi cael eu smentio i mewn i’r llawr tu allan i Ganolfan y Mileniwm am byth hefo fy enw i ar y gwaelod; dydw i ddim yn gallu coelio hynny! Mae hyn wedi bod yn brofiad gwych, yn dechrau hefo Gŵyl y Gelli Gandryll yn ôl ym mis Mai pan gefais y cyfle i gael cyfweliad gyda Shân Cothi ar y radio, i fyny at rŵan yn y sioe ‘Ar Waith Ar Daith’ yng Nghaerdydd. Rwyf yn ddiolchgar iawn i gymaint o bobl yn cynnwys fy nheulu, fy athrawon yn Ysgol Ardudwy, pobl Gŵyl y Gelli Gandryll a phobl o Ganolfan y Mileniwm. Wnaf i byth anghofio’r profiad yma.

Llwyddodd Damon John, Tŷ Canol, Harlech i gwblhau hanner marathon Abersoch mewn 1 awr a 50 munud ar Medi 19. Roedd yn rhedeg y ras er cof am ei daid, Basil Jerram, ac yn codi arian ar gyfer Cymdeithas Alzheimer. Hyd yma mae wedi llwyddo i godi £1,525. Llongyfarchiadau cynnes iawn iddo.

ORDEINIO GWEN EDWARDS Yn y llun fe welir Mrs Bethan Johnstone yn dymuno’n dda i’r chwaer Gwen Edwards, Hafoty, Harlech ar ôl gwasanaeth arbennig yn Eglwys Engedi [Berw Goch], ddydd Sul, Medi 6, pan ordeiniwyd Gwen yn aelod llawn o’r weinidogaeth. Dywedodd Gwen ei bod yn sylweddoli mai un tîm yw’r aelodau i gyd a’i bod yn edrych ymlaen at weld pawb yn cyd-weithio. Roedd yn hyderus y gallai ddibynnu ar y tîm i’w helpu hi i wneud ei gwaith. Roedd hwn yn ddiwrnod hapus iawn i bob un o’r aelodau. Dymunwn yn dda iddi mewn cyfnod anodd iawn yn hanes ein heglwysi.

Charlotte yng nghwmni Shân Cothi a Gwyneth Lewis

Yn olaf, rwyf hefyd wedi cael cyfle i gyfarfod Gwyneth Lewis sef y person oedd wedi creu y geiriau gwreiddiol ar Ganolfan y Mileniwm. Roedd yna yna llawer o waith paratoi cyn y sioe ac roedd o wedi troi allan yn grêt, ac rydw i yn falch iawn ohonof fy hun! Charlotte Ann Hunt, Harlech [Llongyfarchiadau cynnes iawn i Charlotte ar ei champ. [Gol.] DIOLCH Dymuna mam a thad Charlotte [Cheryl ac Anthony] a’i chwaer Katie, a’r teulu i gyd nodi eu bod mor falch o lwyddiant Charlotte. Dymunir diolch i staff Ysgol Ardudwy, i Sarah Roberts o Ganolfan y Mileniwm a fu’n gofalu amdanyn nhw yng Nghaerdydd ac i bawb arall a wnaeth y diwrnod yn un mor arbennig. Fe gawson nhw ddiwrnod bythgofiadwy. Mae’r newyddion wedi eu syfrdanu ac maen nhw uwchben eu digon.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Llais hydref 2015 by LlaisArdudwy - Issuu