Llais gorffennaf 2015

Page 1

Llais Ardudwy 50c

CLOD I CHARLOTTE

RHIF 443 GORFFENNAF 2015

PONT BRIWET AR FIN AGOR - O’R DIWEDD!

Charlotte yn derbyn ei thystysgrif gan Gwyneth Lewis Yng ngwanwyn 2014, dechreuodd Canolfan Mileniwm Cymru weithio gyda 14 o ysgolion uwchradd ledled Cymru fel rhan o ddathliadau Dengmlwyddiant Canolfan Mileniwm Cymru. Gan ddwyn ysbrydoliaeth o ganmlwyddiant Dylan Thomas a’r arysgrif enwog gan Gwyneth Lewis sydd ar wyneb y Ganolfan, roedd ganddynt dasg i’r disgyblion . . . i ystyried yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn Gymreig neu’n byw yng Nghymru, rŵan ac yn y dyfodol, ac i gyfansoddi eu fersiynau eu hunain o gerdd yr arysgrif gan ddefnyddio’r llythrennau presennol. Gweithiodd cannoedd o bobl ifanc i greu mwy na 500 o gerddi ac roedd y trefnwyr wedi’u syfrdanu gan y canlyniadau. O’r holl gerddi, dewisodd Gwyneth Lewis ddwy fel ei hoff rai hi, ac un ohonynt oedd ymdrech Charlotte Hunt o Ysgol Ardudwy, Harlech. Yn ddiweddar, cafodd ei gwahodd i Ŵyl y Gelli i gael ei gwobrwyo gan Gwyneth Lewis. Hefyd, cafodd ei chyfweld ar raglen Shân Cothi ar Radio Cymru yn fyw o faes yr ŵyl. Llongyfarchiadau mawr, Charlotte!

Yr hen Bont Briwet [Llun: Wyn Edwards]

Rydym bellach yn gallu cadarnhau y bydd y bont ffordd yn agor i draffig o 2.00 y prynhawn ddydd Llun, 13eg o Orffennaf 2015. Bydd disgyblion o Ysgol Talsarnau ac Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth, yn agor y bont yn swyddogol, a bydd cyfle i gerddwyr gerdded ar draws y bont o 1.00 y prynhawn ymlaen. Fel y gwyddoch, mae’r contractwyr wedi bod yn gweithio tuag at ddyddiad agor ar ddiwedd mis Mehefin ond dydy’r tywydd yn ystod mis Mai a dechrau Mehefin ddim wedi bod yn ffafriol. Mae hyn wedi effeithio ar elfennau o’r datblygiad sydd yn ddibynnol ar y tywydd, er enghraifft tywallt y concrid a diddosi’r dec. Yn anffodus, mae hyn wedi gwthio dyddiad yr agoriad yn ôl pythefnos. Tra bydd y bont ffordd yn agored, mi fydd yna ychydig o waith yn cael ei wneud a fydd yn golygu y bydd ar adegau, efallai, oleuadau traffig dros dro ar y ffordd. Er gwybodaeth, bydd y system gonfoi ar yr A496 rhwng Llandecwyn a Gelli Grin yn dod i ben pan fydd y bont yn agor i draffig. Does ond gobeithio na fydd gormod o drafferthion yn ardal Penrhyndeudraeth wrth i bawb heidio dros y bont yn y dyfodol agos.

CALENDR LLAIS ARDUDWY 2016

Ar werth yn fuan!

Diolch i bawb a brynodd galendr 2015. Gwerthwyd bob un ohonyn nhw. Afraid dweud y dylid sicrhau eich copi yn fuan eleni!


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Llais gorffennaf 2015 by LlaisArdudwy - Issuu