Llais mai 2015

Page 1

Llais Ardudwy 50c

£3 am barcio am gyfnod byr yn nhref Harlech

RHIF 441 MAI 2015

AILAGOR CAPEL BERW GOCH

Pnawn Sul, Ebrill 19, cafwyd gwasanaeth arbennig yng Nghapel Bach Engedi, Uwchartro, neu “Berw Goch” i’r rhan fwyaf ohonom, sef ailagor y drws ar ôl atgyweirio, trwsio ac addurno yn dilyn stormydd Chwefror 2014. Er mai nifer fach o aelodau sydd yn Engedi, a agorwyd gyntaf yn 1894, roedd hwn yn achlysur hapus iawn. Daeth nifer o aelodau Rehoboth – y fam eglwys fel Bedyddwyr Albanaidd yn Harlech, a nifer o gyfeillion o eglwysi eraill y fro i ymuno â ni ar yr achlysur arbennig yma. Cafwyd gwasanaeth bendithiol iawn yng nghwmni Geraint a Nerys Roberts o Bronaber, Trawsfynydd ac Alwena Morgan o Ffestiniog – Nerys yn ein tywys trwy stori’r Pasg ar lafar a Geraint yn canu caneuon ‘Cwmni Theatr Maldwyn’ i gyd-fynd â’r darlleniadau i gyfeiliant Alwena. Paratowyd paned a chacen i bawb yn dilyn y gwasanaeth, a chafwyd orig hyfryd o sgwrsio a mwynhau’r awyrgylch arbennig. Rydym fel aelodau Engedi yn ddiolchgar iawn i bawb ddaeth i ymuno â ni ar y pnawn arbennig yma gan bod y capel bach yn golygu cymaint inni – yr aelodau hŷn yn cofio’r Ysgol Sul yma, ac i’r gweddill mae mynychu’r gwasanaethau arbennig sydd wedi cael eu cynnal yma ar hyd y blynyddoedd yn rhan o’n hanfod, ac wrth gofio hyn, mae cân Trebor Edwards yn mynnu dod i’r cof “…ond mi garaf yr hen gapel bach, ac fe’i caraf tra byddaf i byw, I’r hen fro gwnaeth ei ran, canys dyma y fan Clywais gyntaf mai cariad yw Duw. ”

Bydd unrhyw un sydd angen picio i dref Harlech yn rheolaidd i fynd i’r banc, post, fferyllydd ayyb yn gorfod talu £3 i barcio ym maes parcio Bron y Graig Isaf o hyn ymlaen. Dyna’r penderfyniad diweddaraf a wnaed gan gabinet Cyngor Gwynedd. Derbyniodd Cyngor Cymuned Harlech amryw o lythyrau yn cwyno ynglŷn â’r penderfyniad hwn. Nid oedd Swyddogion Cyngor Gwynedd wedi cysylltu ag unrhyw un o’r cynghorwyr lleol. Adroddodd Mr Caerwyn Roberts ei fod wedi cysylltu â Mr Colin Jones o Gyngor Gwynedd a’i fod ef wedi datgan (ar ran Mr Dafydd Wyn Williams) pe bai’r mwyafrif o’r bobl leol o blaid cael maes parcio Bron y Graig Isaf yn un arhosiad byr yna buasent yn ailedrych ar y sefyllfa. Anfonwyd llythyr gan Gyngor Harlech at Mr Dafydd Wyn Williams yn datgan bod y mwyafrif o’r bobl leol o blaid hyn a gofyn iddo ddelio gyda’r mater o newid statws maes parcio Bron y Graig Isaf mor fuan â phosib a chyn tymor yr ymwelwyr. Nodwyd hefyd bod CADW wedi nodi y bydd y maes parcio newydd ger y castell yn un arhosiad byr a bod Cyngor Gwynedd wedi cytuno â hyn. Trefnir deiseb yn enw’r Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu bod meysydd parcio’r dref i gyd yn rhai arhosiad hir a bod angen gwneud maes parcio Bron y Graig Isaf yn un arhosiad byr. Datganwyd pryder hefyd bod pobl gyda busnesau’n dal i barcio mewn safleoedd ar hyd y stryd a oedd wedi eu clustnodi ar gyfer rhai oedd yn picio i’r dref. Oherwydd hyn, mae’n rhaid i bobl leol ddefnyddio’r meysydd parcio a thalu am barcio.

DAWNS Y STRYD

Llongyfarchiadau i’r grŵp gweithgar uchod [Gravity], sy’n aelodau o ‘Dizzy Dancers’ ar eu llwyddiant mewn cystadleuaeth yn Knowsley yn ddiweddar. Cânt eu hyfforddi gan Eirian Foster sy’n haeddu canmoliaeth am ei hymdrechion. Dyma’r canlyniadau: Unigol: Ella John, ail dan 10 oed; Danielle Smith, 1af dan 16; Lia Evans, 4ydd dan 16; Eirian Foster, 1af dros 16. Deuawdau: Ella a Mya, 1af dan 10; Jess ac Amber, 3ydd dan 10; Danielle ac Izzy, 1af dan 16. Pob hwyl iddyn nhw yn y gystadleuaeth yn Blackpool ar Mai 9!


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.