Llais mai 2015

Page 1

Llais Ardudwy 50c

£3 am barcio am gyfnod byr yn nhref Harlech

RHIF 441 MAI 2015

AILAGOR CAPEL BERW GOCH

Pnawn Sul, Ebrill 19, cafwyd gwasanaeth arbennig yng Nghapel Bach Engedi, Uwchartro, neu “Berw Goch” i’r rhan fwyaf ohonom, sef ailagor y drws ar ôl atgyweirio, trwsio ac addurno yn dilyn stormydd Chwefror 2014. Er mai nifer fach o aelodau sydd yn Engedi, a agorwyd gyntaf yn 1894, roedd hwn yn achlysur hapus iawn. Daeth nifer o aelodau Rehoboth – y fam eglwys fel Bedyddwyr Albanaidd yn Harlech, a nifer o gyfeillion o eglwysi eraill y fro i ymuno â ni ar yr achlysur arbennig yma. Cafwyd gwasanaeth bendithiol iawn yng nghwmni Geraint a Nerys Roberts o Bronaber, Trawsfynydd ac Alwena Morgan o Ffestiniog – Nerys yn ein tywys trwy stori’r Pasg ar lafar a Geraint yn canu caneuon ‘Cwmni Theatr Maldwyn’ i gyd-fynd â’r darlleniadau i gyfeiliant Alwena. Paratowyd paned a chacen i bawb yn dilyn y gwasanaeth, a chafwyd orig hyfryd o sgwrsio a mwynhau’r awyrgylch arbennig. Rydym fel aelodau Engedi yn ddiolchgar iawn i bawb ddaeth i ymuno â ni ar y pnawn arbennig yma gan bod y capel bach yn golygu cymaint inni – yr aelodau hŷn yn cofio’r Ysgol Sul yma, ac i’r gweddill mae mynychu’r gwasanaethau arbennig sydd wedi cael eu cynnal yma ar hyd y blynyddoedd yn rhan o’n hanfod, ac wrth gofio hyn, mae cân Trebor Edwards yn mynnu dod i’r cof “…ond mi garaf yr hen gapel bach, ac fe’i caraf tra byddaf i byw, I’r hen fro gwnaeth ei ran, canys dyma y fan Clywais gyntaf mai cariad yw Duw. ”

Bydd unrhyw un sydd angen picio i dref Harlech yn rheolaidd i fynd i’r banc, post, fferyllydd ayyb yn gorfod talu £3 i barcio ym maes parcio Bron y Graig Isaf o hyn ymlaen. Dyna’r penderfyniad diweddaraf a wnaed gan gabinet Cyngor Gwynedd. Derbyniodd Cyngor Cymuned Harlech amryw o lythyrau yn cwyno ynglŷn â’r penderfyniad hwn. Nid oedd Swyddogion Cyngor Gwynedd wedi cysylltu ag unrhyw un o’r cynghorwyr lleol. Adroddodd Mr Caerwyn Roberts ei fod wedi cysylltu â Mr Colin Jones o Gyngor Gwynedd a’i fod ef wedi datgan (ar ran Mr Dafydd Wyn Williams) pe bai’r mwyafrif o’r bobl leol o blaid cael maes parcio Bron y Graig Isaf yn un arhosiad byr yna buasent yn ailedrych ar y sefyllfa. Anfonwyd llythyr gan Gyngor Harlech at Mr Dafydd Wyn Williams yn datgan bod y mwyafrif o’r bobl leol o blaid hyn a gofyn iddo ddelio gyda’r mater o newid statws maes parcio Bron y Graig Isaf mor fuan â phosib a chyn tymor yr ymwelwyr. Nodwyd hefyd bod CADW wedi nodi y bydd y maes parcio newydd ger y castell yn un arhosiad byr a bod Cyngor Gwynedd wedi cytuno â hyn. Trefnir deiseb yn enw’r Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu bod meysydd parcio’r dref i gyd yn rhai arhosiad hir a bod angen gwneud maes parcio Bron y Graig Isaf yn un arhosiad byr. Datganwyd pryder hefyd bod pobl gyda busnesau’n dal i barcio mewn safleoedd ar hyd y stryd a oedd wedi eu clustnodi ar gyfer rhai oedd yn picio i’r dref. Oherwydd hyn, mae’n rhaid i bobl leol ddefnyddio’r meysydd parcio a thalu am barcio.

DAWNS Y STRYD

Llongyfarchiadau i’r grŵp gweithgar uchod [Gravity], sy’n aelodau o ‘Dizzy Dancers’ ar eu llwyddiant mewn cystadleuaeth yn Knowsley yn ddiweddar. Cânt eu hyfforddi gan Eirian Foster sy’n haeddu canmoliaeth am ei hymdrechion. Dyma’r canlyniadau: Unigol: Ella John, ail dan 10 oed; Danielle Smith, 1af dan 16; Lia Evans, 4ydd dan 16; Eirian Foster, 1af dros 16. Deuawdau: Ella a Mya, 1af dan 10; Jess ac Amber, 3ydd dan 10; Danielle ac Izzy, 1af dan 16. Pob hwyl iddyn nhw yn y gystadleuaeth yn Blackpool ar Mai 9!


Llais Ardudwy

HOLI HWN A’R LLALL

GOLYGYDDION

Phil Mostert Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech (01766 780635 pmostert56@gmail.com Anwen Roberts Cae Bran, Talsarnau (01766 770736 anwen@barcdy.co.uk

Newyddion/erthyglau i: Haf Meredydd hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk (07760 283024 Trefnydd Hysbysebion Ann Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 ann.cath.lewis@gmail.com Ysgrifennydd Iwan Morus Lewis Min y Môr, Llandanwg (01341 241297 iwan.mor.lewis@gmail.com Trysorydd Iolyn Jones Tyddyn Llidiart, Llanbedr (01341 241391 iolynjones@Intamail.com Casglwyr newyddion lleol Y Bermo Grace Williams (01341 280788 David Jones (01341 280436 Dyffryn Ardudwy Gwennie Roberts (01341 247408 Susan Groom (01341 247487 Llanbedr Gweneira Jones (01341 241229 Susanne Davies (01341 241523 Llanfair a Llandanwg Hefina Griffith (01766 780759 Bet Roberts (01766 780344 Ann Lewis (01341 241297 Harlech Ceri Griffith (07748 692170 Edwina Evans (01766 780789 Carol O’Neill (01766 780189 Talsarnau Gwenda Griffiths (01766 771238 Anwen Roberts (01766 770736 Cysodwr y mis - Phil Mostert Gosodir y rhifyn nesaf ar Mai 29 am 5.00. Bydd ar werth ar Mehefin 3. Newyddion i law Haf Meredydd cyn gynted â phosib ac erbyn Mai 25 fan bellaf os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau.

2

Enw: Jane Sharp Gwaith: Darlithydd yng Ngholeg Meirion Dwyfor. Man geni: Bangor Sut ydych chi’n cadw’n iach? Byddaf yn mynd i nofio ym mhwll Harlech yn eithaf rheolaidd. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Rwyf yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i amser i wneud hynny. Y llyfr diwethaf imi ei orffen oedd Hunangofiant Yogi. Llyfr a oedd yn gwneud imi werthfawrogi fy mywyd a gwneud imi deimlo cywilydd am gwyno am fân bethau. Hoff raglen radio neu deledu? Rwyf wrth fy modd yn cael gwylio F1 a Jonathan cyn gwylio’r gemau rygbi’r diwrnod olynol. Ydych chi’n bwyta’n dda? I’r rhai sydd yn fy adnabod rydych yn gwybod wrth edrych arnaf fy mod yn mwynhau fy mwyd! Hoff fwyd? Bwyd Tsieineaidd. Rwyf yn hoff o ‘crispy duck pancakes’ - blasus iawn. Rwyf hefyd wrth fy modd yn cael cinio dydd Sul. Hoff ddiod? Rwyf yn mwynhau glasiad o win pinc – Zinfandel ran amlaf, ond dim ond os oes gen i gwmni da. Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Rwyf yn credu y buaswn yn gofyn

i Michelle Davies am ei hiwmor, Dilwyn Morgan am ei straeon doniol, Michael Schummacher i ateb fy nghwestiynau am F1, y plant a falle buasai’n well imi ofyn i Russ y gŵr hefyd - i dalu’r bil. Lle sydd orau gennych? Adref gyda fy nheulu a ffrindiau. Nid oes dim byd gwell. Ble cawsoch chi’r gwyliau gorau? Nid wyf yn mynd ar wyliau’n aml (Sioe Llanelwedd bob blwyddyn a dyna fo i fod yn onest) ond cefais wythnos fythgofiadwy gyda’r teulu yn EuroDisney yn 2005. Roedd cael gweld y pleser a’r cynnwrf ar wynebau’r plant yn rhywbeth fydd yn aros gyda mi am byth. Beth sy’n eich gwylltio? Mae ambell beth yn fy ngwylltio. Rhieni Cymraeg yn siarad Saesneg efo’u plant a rheini yn eu tro yn colli’r cyfle i fod yn ddwyieithog - rhinwedd pwysig iawn yn ein diwylliant (siomi efallai yn fwy na gwylltio yw hyn). Un peth arall sydd yn fy ngwylltio yw unigolion sy’n pwyntio bys a chwyno nad oes dim yn digwydd yn ein hardal ond yn anfodlon gwneud dim i newid hynny eu hunain. Rwyf yn gredwr cryf os nad ydych yn fodlon gwneud rhywbeth amdano eich hun ni ddylech gwyno am y rhai sydd yn gwneud eu gorau. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Gonestrwydd, ffyddlondeb a dealltwriaeth o fy mywyd prysur. Pwy yw eich arwr? Mam a Dad yw fy arwyr mwyaf, oherwydd y ffordd maent wedi ymdopi â phopeth mae bywyd wedi ei daflu atynt, heb droi’n chwerw er mor hawdd y buasai hynny wedi bod. Maent wedi plannu rhinweddau cadarn a moesol ynom i gyd fel plant. Pobl fel Nelson Mandela a Steve Biko a oedd yn fodlon mynd i

ymladd yn erbyn yr anghyfiawnder yn eu bywydau er mwyn gwella ffordd o fyw eraill yn y dyfodol. Yn olaf, Yr Athro Stephen Hawking. Nid yw wedi gadael i’r clefyd Motor Neuron ei rwystro rhag byw bywyd llawn na pharhau gyda’i waith pwysig. O ganlyniad mae wedi cynorthwyo llawer o bobl a byw bywyd llawn. Beth yw eich bai mwyaf? Ystyfnigrwydd a methu dweud ‘Na’. Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Pobl sy’n ddauwynebog a phobl sy’n rhagfarnu eraill. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Bod gyda fy ngŵr, fy mhlant a fy nheulu i gyd. Eich hoff liw? Piws Eich hoff flodyn? Clychau’r gog, yn enwedig wrth eu gweld fel blanced ar hyd y caeau. Eich hoff fardd? Rwyf yn mwynhau darllen Jabberwocky gan Lewis Carroll. Eich hoff gerddor? Wrth fy modd gyda Bryn Fôn a Rhys Meirion. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Rwyf yn hoff iawn o bob math o gerddoriaeth boed honno’n fodern, clasurol, bandiau pres, ‘Country and Western’ neu’n gerddoriaeth Gymraeg. Pa dalent hoffech chi ei chael? I fod yn gerddor o fri. Rwyf yn chwarae ambell i offeryn ac yn mwynhau canu, ond yn methu gwneud yr un yn dda iawn. Buaswn wrth fy modd yn medru datblygu’r rhain yn llawn a chael boddhad (yn hytrach na rhwystredigaeth) wrth eu canu. Eich hoff ddywediad? Cenedl heb iaith, cenedl heb galon. Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Prysur, prysur, ond bodlon iawn fy myd.

YN YR ARDD - Mis Mai Mae’r tymor plannu yn ei anterth. Gallwch barhau i blannu bron bob llysieuyn. Tatws: Rydan ni wedi plannu’r tatws cynnar ‘Rocket’ a ‘Swift’ ac wedi dewis ‘Estima’, ‘Cara’ a ‘Desiree’ fel tatws diweddar. Plannwyd y ‘Rocket’ mewn mawn yn y tŷ gwydr ar Chwefror 21 a’u symud nhw wedyn i 14 o fwcedi mawr efo dwy daten ym mhob un. Byddan nhw’n barod i’w bwyta erbyn i chi ddarllen y rhifyn hwn. Cennin: ‘Musselburgh’ yw’r dewis. Dydy hi ddim yn tyfu’n rhy fawr ond mae hi’n flasus. Mae hefyd yn cadw’n dda rhag unrhyw bla. Betys: Mae ‘Boltardy’ yn ddiguro. Nid yw’n rhedeg i had yn hawdd. Rydan ni hefyd wedi plannu betys hir eleni - ‘Cylindra’.

Moron: Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydan ni wedi arbrofi efo bob math o foron. Erbyn hyn tueddwn i gadw at ‘Nantes’. Dydy o ddim yn foryn rhy fawr, does dim canol rhy fawr iddo, mae’r blas yn wych ac mae’n cadw’n dda. Nionod: ‘Stuttgarter’ a ‘Kelsae’ yw’r dewis. Fe gadwodd rhain tan fis Ebrill eleni. Mae’r blas yn dda a dydyn nhw ddim yn tyfu’n rhy fawr. Ffa: ‘Aquadulce’ blannwyd eleni. Pys: Gallwch blannu pys cynnar unrhyw amser, hyd yn oed yn hwyr yn y tymor! Yr hen ffefrynnau sydd acw, sef ‘Kelvedon Wonder’ ac ‘Onward’. Ffa Ffrengig: Er mwyn gwneud y gorau o’r lle, rydan ni’n tyfu ‘Cobra’ sy’n dringo’n uchel.

Ffa Dringo: ‘Enorma’ ddewiswyd eleni ond bu bron i ni fynd am ‘Prizewinner’. Ffa hirion, blasus heb lawer o ‘linyn’. Bresych: Dwy hen ffefryn, ‘Primo’ a ‘Greyhound’ sydd acw; maen nhw’n ffefrynnau ers tro. Letys: ‘All the Year Round’. Tomatos: Cefais gasgliad amrywiol gan Edwin Morlais y llynedd ac fe gafwyd cnwd ardderchog. Eleni mae o wedi rhoi ‘Money Maker’, ‘Shirley’, ‘Ailsa Craig’, ‘Alicante’ ‘Gardener’s Delight’ [un fach goch], a ‘Sungold’ [un fach oren - mae’n felys iawn] i mi. Roedd ganddo fymryn dros ben ddiwedd yr wythnos diwethaf. Gair i gall!


Y BERMO A LLANABER Merched y Wawr Nos Fawrth yr 17eg o Fawrth cawsom gwmni Gethin Davies o Barc Cenedlaethol Eryri yn siarad am ei swydd sydd yn gwarchod bywyd gwyllt a gerddi Eryri. Cawsom noson hynod o ddiddorol a gwybodus am ei waith a lluniau bendigedig o’n hardal, hefyd gwybodaeth am yr amrywiol grantiau sydd ar gael i’n hannog ni i warchod ein bywyd gwyllt. Diolchwyd iddo gan Glenys. Wedyn aethom ymlaen hefo gwaith y noson. Llongyfarchwyd Geinor ar gyrraedd pen-blwydd arbennig yn ddiweddar ac Eurwen a Gareth ar ddod yn daid a nain. Dymunwyd adferiad buan i Heulwen a Mair. Diolchwyd i’r rhai a ddarllenodd y Llais. Cafwyd adroddiad am raglen y dysgwyr gan Pam, a Megan ar ran y pwyllgor Celf a Chrefft Bu Iona a Jean ar y cwrs crefft ym Mhlas Isa ddechrau’r flwyddyn. Roedd y te o dan ofal Iona a Glenys. Enillwyd y raffl gan Llewela. Cynhaliwyd ein cyfarfod blynyddol a Brethyn Cartref ar Ebrill 21. Rhodd Diolch am y rhodd o £6.50 gan Enid Parry

Canolfan Hamdden Y Pafiliwn yn y Bermo yn elwa wrth arbed ynni Mae ymgyrch i arbed ynni mewn canolfan hamdden yn ne Gwynedd wedi dod yn fwyfwy poblogaidd a’i helw’n mynd o nerth i nerth.

Ers 2005, mae Canolfan Hamdden Y Pafiliwn yn y Bermo wedi llwyddo i leihau ei defnydd o nwy a thrydan fwy na hanner sydd wedi golygu gostyngiad aruthrol o 57.7% mewn allyriadau carbon ac arbedion sylweddol ar filiau ynni’r ganolfan. Fel rhan o’i gynllun rheoli carbon dros gyfnod o bum mlynedd, mae Cyngor Gwynedd wedi buddsoddi i wneud ei adeiladau cyhoeddus yn fwy effeithlon o ran ynni, gyda’r nod o ostwng ei ôl-troed carbon yn sylweddol yn ogystal â gwneud arbedion effeithlonrwydd. Yn ôl y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd: “Mae Canolfan Hamdden y Pafiliwn yn un o’r adeiladau sydd wedi ei wella, gan gynnwys system boeleri newydd a mwy syml, goleuadau mwy effeithlon a system newydd i reoleiddio gwres. “Yn ogystal â gwneud gwelliannau i’r adeilad, mae’n llwyddiant hefyd oherwydd bod staff yn cymryd agwedd ragweithiol tuag at arbed ynni drwy fod yn ystyrlon ac ail-fuddsoddi’r arian a arbedwyd yn yr adeilad. O ganlyniad, mae cynnydd o 30% yn nifer aelodau yn y Ganolfan sydd yn hynod galonogol i’r dyfodol.” Ychwanegodd Craig Papirnyk, rheolwr ar ddyletswydd Canolfan Hamdden y Pafiliwn, y Bermo: “Pan gawsom ein cyllideb dair neu bedair blynedd yn ôl daeth yn amlwg bod rhaid i ni arbed arian. Drwy wella ein defnydd o ynni rydym wedi arbed yn sylweddol ac mae’r arian yma wedi ei fuddsoddi yn ôl yn y Ganolfan. “Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi oddeutu £10,000 yn y gampfa ar amryw o beiriannau y gofynnwyd amdanyn nhw gan ein cwsmeriaid – mae hyn wedi bod yn bosib oherwydd bod ein costau rhedeg wedi lleihau. Heb os, mae’r peiriannau newydd hyn wedi annog mwy o bobl i ddefnyddio cyfleusterau’r ganolfan.”

Llên Gwerin Meirion

Yn cynnwys straeon gwerin am arwyr, seintiau a chewri; esboniadau ar enwau lleoedd; ymadroddion ac idiomau llafar gwlad; dywediadau tywydd; hen benillion; llysenwau lleoedd; chwedlau tylwyth teg a llawer mwy o lên gwerin sir Feirionnydd. Mae bron i 200 tudalen o gyfrol Cyfansoddiadau Eisteddfod Blaenau Ffestiniog 1898 wedi’i neilltuo i ffrwyth gwaith buddugol un enillydd, sef ‘Casgliad o Lên Gwerin Meirion’ gan William Davies, Tal-y-bont, Ceredigion. Mae’n gamp cael

gafael ar gopi o’r gyfrol honno erbyn hyn, ac os bydd un ar silff siop lyfrau ail-law, bydd yn costio dros £25. Y rheswm dros y pris anarferol hwnnw yw’r cyfoeth a gasglwyd ynghyd yn y traethawd arbennig hwn. Dr John Rhŷs, Prifathro Coleg yr Iesu, Rhydychen ar y pryd, ac arbenigwr ar lên gwerin oedd y beirniad. Yn ei feirniadaeth mae’n canmol natur amrywiol y casgliad – llên gwerin am arwyr, seintiau a chewri; esboniadau poblogaidd ar enwau lleoedd; ymadroddion ac idiomau llafar gwlad; dywediadau tywydd; hen benillion; llysenwau lleoedd; chwedlau tylwyth teg a llawer mwy. Mae’n crynhoi’i sylwadau gyda chlod anarferol: ‘dyma un o’r casgliadau gorau o’i fath a ddarllenais erioed, ac os bydd yn cael ei gyhoeddi, bydd marchnad barod ar ei gyfer’. Dyma argraffiad newydd o’r gwaith felly, y cyfan wedi’i olygu gan Gwyn Thomas, edmygydd arall o lafur mawr William Davies. Prynwch o, chewch chi ddim mo’ch siomi.

Mark Holloway, Rheolwr ar Ddyletswydd Rhan Amser gyda Craig Papirnyk, Rheolwr ar Ddyletswydd, y Cyng. John Wynn Jones, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd a’r aelod lleol, y Cyng. Gethin Glyn Williams yng Nghanolfan Hamdden y Pafiliwn yn y Bermo.

R.J.WILLIAMS ISUZU Talsarnau 01766 770286 TRYCIAU ISUZU

Am fwy o wybodaeth am Ganolfan Hamdden Y Pafiliwn, y Bermo a pha weithgareddau sydd yn cael eu cynnal yno, ewch i www. gwynedd.gov.uk/hamdden neu ffoniwch 01341 280111.

3


LLANFAIR A LLANDANWG

Diolch Dymunwn fel teulu’r diweddar John Evans, Glanygors, Llandanwg ddiolch o galon i bawb am eu cydymdeimlad a’u caredigrwydd â hwy yn eu profedigaeth o golli John. Diolch i Mrs Bethan Johnstone am ei gwasanaeth, i Mrs Meinir Lewis am ganu’r organ, yn ogystal ag i Pritchard a Griffiths am eu trefniadau trylwyr. Diolch hefyd am y cyfraniadau er cof tuag at Ymatebwyr Cyntaf Harlech. Rhodd a diolch £20

Clwb 200 Côr Ardudwy Nawr yw’r amser i adnewyddu eich taliad am y flwyddyn. £9 yw’r gost ac mae’n bosib ennill 72 o wobrau mewn blwyddyn. Cysylltwch ag unrhyw aelod. 4

Englynion Englynion coffa gan Morris Evans i’w frawd, y diweddar John A Evans, gynt o Faesyraelfor, Llanfair I Gweneth rhodd’ ei gynnig, a’i galon, A gwelwyd arbennig O uniad caboledig, Dim troe’n sâl na dal dig. Un annwyl ’rown ni heno- ’ny gweryd, A garw’r ffarwelio, Fel un na fynnai gwyno A’i fwyn naws y cofiwn o. Heddwch i’w lwch a fyddo – yn y wir Chwith inni fydd hebddo, I Gwen rôl dwys dyrys dro Iôr a lunia’r ail uno.

Llun o’r Golff Ymddangosodd y llun hwn mewn papur dyddiol yn weddol ddiweddar, ond doedd dim manylion amdano megis dyddiad ac yn y blaen. Oes unrhyw un yn gwybod unrhyw beth amdano?

Cyhoeddiadau Caersalem 2015

Am 2.15 oni nodir yn wahanol MAI 10 Bnr Rhys ab Owain 24 Y Fns Buddug Medi MEHEFIN 14 Parchg Tecwyn R Ifan 28 Parchg Megan Williams

Eglwys Sant Tanwg, Harlech

GWASANAETH CYMORTH CRISTNOGOL

Dydd Sul, Mai 10 am 3.30 Croeso cynnes i bawb.

CYNGOR CYMUNED LLANFAIR

Yr Elor Nododd y Clerc ei bod wedi anfon copi arall o’r cytundeb i’r Cyfeillion. Cytunwyd bod yr aelodau yn holi rhai o Gyfeillion Ellis Wynne ynglŷn â hyn. Coed o amgylch giât Porth yr Eglwys Adroddodd Russell Sharp fod rhai o’r coed wedi pydru. Holwyd a oedd y safle yn rhestredig a chytunodd Caerwyn Roberts ymholi. Cytunodd Russell Sharp ofyn i arbenigwr ddod i gael golwg ar y safle i weld pa fath o waith oedd ei angen cyn i’r Cyngor ofyn am brisiau i wneud y gwaith. Cyfarfod Blynyddol Pwyllgor y Neuadd Adroddodd Mair Thomas ei bod wedi mynychu’r uchod a bod peth o’r gwaith adnewyddu wedi ei wneud. Mae sefyllfa ariannol y neuadd yn bur iach. Bydd Robert G Owen ac Eurig Hughes yn cynrychioli’r Cyngor ar y pwyllgor. Cais cynllunio Ychwanegu ffenestr to ar yr edrychiad dwyreiniol - Tegfan, Llandanwg - caniatáu. GOHEBIAETH Parc Cenedlaethol Eryri Cais cynllunio Llanfair Uchaf - nid yw’r adeilad wedi ei restru. Adran Reoleiddio Gwnaed colled ariannol o £203.32 gyda’r fynwent yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Ar ôl trafodaeth, cytunwyd i godi’r prisiau newydd o hyn ymlaen, hefyd cytunwyd i beidio â chodi am yr hawl i ailosod carreg fedd o hyn ymlaen. Adran Briffyrdd Llwybr cyhoeddus rhif 23 ger Penrallt - cafwyd cyfarfod gyda’r tirfeddiannwr a threfnwyd i gontractwyr dorri’n ôl hyd at ryw 40m o’r eithin i ochr y llwybr hwn i lawr i’r ffos er mwyn galluogi defnyddwyr i osgoi’r darn gwlyb. Efallai wedyn y bydd y contractwyr yn torri ffos wrth yr ochor, ond mae hyn yn dibynnu ar yr hyn a ddarganfyddir. Bydd y contractwyr hefyd yn torri’n ôl rhyw 40m o’r postyn ar yr ochor ddwyreiniol i Benrallt; mae’r linc o’r llwybr Mis Mawrth tan fis Hydref

Merched y Wawr Cychwynnwyd ar nodyn trist wrth gydymdeimlo â Gweneth yn ei phrofedigaeth o golli’i gŵr John yn sydyn. Darllenwyd cofnodion o’r Pwyllgor Rhanbarth gan Hefina, Meinir a Bronwen. Tynnwyd ein sylw at nifer o weithgareddau’r Mudiad dros y misoedd nesaf: Noson y Dysgwyr - Mai 14, Gŵyl Haf - Mai 16, Taith Gerdded Mehefin 5. Cytunodd Hefina a Bronwen i gynrychioli’r gangen ym mhwyllgor y Sioe Sir sydd i’w chynnal yn Nhŷ Cerrig fis Awst. Da oedd deall bod tri ffibriliadur yn yr ardal erbyn hyn. Daeth Ross McAllister a Jean Hammomd o Gyfeillion y Pwll Nofio atom i’n hannog i ymuno â’r cynllun Loteri Gymunedol. Pleser oedd croesawu Lowri Thomas Jones a chriw o ddysgwyr atom. Cafwyd noson ddifyr yn eu cwmni gyda phawb yn gwneud eu gorau i helpu’r dysgwyr sgwrsio yn Gymraeg. Gorffennwyd trwy chwarae Bingo gydag Winnie ac Edwina yn ennill y prif wobrau. Christine Hemsley, Winnie a Bronwen enillodd y raffl. Ar ddiwedd y noson mwynhawyd danteithion wedi’u paratoi gan Hefina, Eirlys a Janet.

Sêl Cist Car

yma wedi ei nodi ac mae camfa yn y canol bron â diflannu o dan y tyfiant. Hefyd yn gofyn i’r Cyngor gynnwys y darn yma o’r llwybr ar y rhestr o lwybrau’r Cyngor sy’n cael eu torri. Cyfeillion Ellis Wynne Gwahoddwyd yr aelodau i alw yn y Lasynys Fawr tra bydd yr arddangosfa yno o waith celf plant ysgolion lleol, sef enillwyr ac ymgeiswyr yn y gystadleuaeth a gynhaliwyd yn ddiweddar i lunio golygfa o lyfr y Bardd Cwsg. UNRHYW FATER ARALL Mae carreg yn rhydd ar lwybr Steepways ger Tŷ Gwyn a hefyd wal wedi chwalu ar y llwybr grisiau ger Murmur y Don. Mae arwydd yn dynodi llwybr cyhoeddus wedi ei osod o dan Yr Erw, ac nid yw’n bosib bellach gweld yn iawn i ddod allan o’r cae, felly eisiau gofyn i’r arwydd yma gael ei symud i’r ochr arall. Hefyd, am gael gosod arwydd bach yn dynodi ffordd y llwybr cyhoeddus yn nes i lawr. Cytunodd Robert G Owen roi lle iddynt osod hwn pe bai angen. Mae angen tynnu eiddew o borth yr eglwys a chytunwyd i ofyn i Mr Arwel Thomas wneud y gwaith hwn. Cytunwyd i ofyn i Mr Geraint Williams, Gwrach Ynys wneud darn o bren i’w osod ar ris porth yr eglwys pan mae cadair olwyn eisiau mynediad i’r fynwent a chytunodd Robert G Owen ddangos y safle iddo. Cytunwyd bod angen ysgrifennu at Gyngor Gwynedd i ddangos anfodlonrwydd yr aelodau bod y prisiau am barcio yn y meysydd parcio yn Harlech wedi codi cymaint, hefyd y ffaith bod y meysydd parcio i gyd wedi eu gwneud yn rhai arhosiad hir. CYNGOR GWYNEDD Mae Annwen Hughes fel Cynghorydd Gwynedd dros yr ardal wedi ysgrifennu at Gyngor Gwynedd yn datgan siom a phryder am y prisiau sy’n cael eu codi yn y meysydd parcio yn Harlech a’r ffaith bod y prisiau hyn wedi eu penderfynu heb gysylltu gyda hi na Caerwyn Roberts.

Clwb Chwaraeon Porthmadog

Dydd Sul 8 tan 1 £6 y car Ymholiadau - 01766 128667


LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL Merched y Wawr Nantcol Nos Fercher Ebrill 1af cawsom air o groeso gan Gwen. Cydymdeimlwyd â Heulwen yn ei phrofedigaeth o golli tad yng nghyfraith a hefyd Elisabeth Jones ac Elinor Evans, brawd yng nghyfraith. Llongyfarchwyd Olwen Lewis ar enedigaeth gor-wyres, Elin Hannah, i lawr yn y de a Beca, wyres Mair Thomas, ar gael ei dewis i sgwad pêl-droed Gogledd Cymru. Diolch i Gwen ac Enid am gytuno i dapio’r Llais ym mis Ebrill a Mai. Aethpwyd ymlaen wedyn i groesawu Hazel Jones atom o gwmni ‘Aerona’ sydd yn gwneud licïwr o aeron yr Aronia. Cawsom hanes sut aeth y teulu ffermio ati i arall gyfeirio a sefydlu’r cwmni yn 2004 yn dilyn prosiect Menterra. Erbyn hyn maent yn gwneud diod di-alcohol yn ogystal â siocled. Cawsom flasu’r gwahanol ddiodydd sydd yn hyfryd wedi eu hychwanegu at siampaen, prosseco, lemonêd neu donic. Mis nesa edrychwn ymlaen at groesawu Gwenno Pugh, cyn enillydd y Fferm Ffactor atom. Y gôg Daeth y gog unwaith eto i’r Cwm. Clywodd Eleri Cefn Ucha hi ar 16 Ebrill. Y tywydd braf wedi ei denu yma’n gynnar. Llongyfarch Llongyfarchiadau i Rachel ac Eifion ar enedigaeth mab bach, Harri Bryn; dymuniadau gorau i chwi. Damwain Dymunwn adferiad iechyd buan i Paul Crabtree ar ôl ei ddamwain. Mae’n Ysbyty Alltwen ar ôl cyfnod yn Ysbyty Gwynedd.

Teulu Artro Ym mis Ebrill, croesawyd yr aelodau gan Gweneira. Croesawyd Beti a gafodd driniaeth yn ddiweddar, a chydymdeimlwyd ag Elizabeth ac Eleanor wedi colli John, Maesyraelfor gynt, mor ddisymwth. Cafwyd ymddiheuriad gan Pam a Myfanwy. Croesawydd Gweneira ddwy o’n haelodau atom, i ddangos eu gwaith llaw, a diolchodd iddynt am ddod. Iona oedd y cyntaf, a dangosodd amrywiol ddillad, a oedd yn addas i’r ddoli Cindy, a dywedodd mai’r Cindy oedd yr unig ddoli o’r wlad yma, ac yn werth gryn arian erbyn hyn. Yna, dangosodd nifer o fagiau a wnaed ganddi. Beti oedd yr ail, a chafwyd arddangosfa o nifer fawr o’i gwaith cywrain megis clustogau, bocsys, a’r gwaith cwiltio gwych. I orffen y prynhawn darllenodd Iona ddarnau o’r llyfr ‘Hiwmor Llafar Gwlad’ gan Myrddin ap Dafydd. Diolchodd Glenys am brynhawn difyr iawn ac enillwyd y rafflau gan Catherine a Gretta. Cae Chwarae Codwyd ffens newydd rhwng y cae pêl-droed yn y cae chwarae a chae Tyddyn Pandy yn ddiweddar. Meirion a Malcolm sydd wedi codi’r ffens a Phwyllgor y Neuadd sydd wedi talu am y deunydd. Yn ogystal mae Aron Morgan, Cefn Uchaf wedi llenwi’r pant o flaen y gôl. Diolch i Aron am ei waith. Mae’r gwaith cynnal a chadw ar yr offer chwarae wedi ei gwblhau. Bu’r cyhoedd yn dda iawn am gadw’r lle yn daclus yn ddiweddar. Yn gwella Balch iawn ydym o weld Catherine Brown adre ac o gwmpas ar ôl rhai wythnosau yn Ysbytai Bangor ac Alltwen.

CYFARFOD PREGETHU yn Salem, Cefncymerau (Trwy ganiatâd caredig)

Nos Wener, Mai 22ain am 7:00 o’r gloch

PREGETHWR: Y Parch R O Roberts, Morfa Nefyn

TREFNIR GAN EGLWYS EFENGYLAIDD ARDUDWY

LLYTHYR

Annwyl Olygydd Awdur y penillion er cof am Richard Jones (Dic) Gellibant oedd fy nhad sef Robert Gwilym Evans, Hen Efail, Llanbedr. Enillodd gadair fach a wnaethpwyd gan Mr Edward Edwards, Cilcychwyn. Mae wedi cael ei gwneud gyda chyllell boced. Mae EIG 1946, sef Eisteddfod Ieuenctid Gwynfryn, wedi ei naddu arni. Roedd yr eisteddfod yma’n cael ei chynnal ar ddydd Gwener y Groglith. Roedd fy nhad yn ffrind iddo. Mae gennyf lythyr a ysgrifennodd at fy nhad ar y 13eg o Dachwedd ac roedd yn cael ei ladd ar y 29ain 1944 yn 20 mlwydd oed. Yn y llythyr mae’n cyfeirio at ei ffrindiau adref ac am y pethau oedd wedi digwydd iddynt. Mae gennyf luniau a phenillion sydd yn gysylltiedig â’r digwyddiadau hynny. Mae’n drueni nad ydyw hanesion fel hyn yn cael eu cofnodi. Maent yn rhan o hanes lleol. Yr eiddoch yn gywir, Aldwyth Wynne

Cyhoeddiadau’r Sul

Am 2.00 o’r gloch y prynhawn oni nodir yn wahanol MAI 10 Capel y Ddôl, Harri Parri 17 Capel Salem, Parch Dewi Tudur MEHEFIN 7 Capel y Ddôl, Parch Patrick Slattery

Nel yn mynd yn ôl i’w gwreiddiau Difyr iawn oedd darllen hanes taith Nel Bere, sydd â’i gwreiddiau ym mro Ardudwy, i ben draw’r byd wrth ddilyn ôl troed un o’i chyndeidiau. Yn 18 oed ac yn fyfyriwr yng Ngholeg Meirion Dwyfor, mae Nel yn ferch i Mai Bere (Jones, gynt o Allt Goch, Llanbedr), ac yn or-or-or wyres i Michael D Jones, sylfaenydd y Wladfa ym Mhatagonia. Teithiodd Nel, a gafodd ei magu ar Ben Llŷn, draw i dde America ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf. Yn ystod ei thaith, cyflwynodd Nel ddarlun wedi ei fframio o Michael D Jones, rhodd gan Alun Owen, cefnder ei thad, i’r Amgueddfa yn y Gaiman i nodi dathliad penblwydd y Wladfa yn 150 oed. Teithiodd Nel gyda 24 o bobl ifanc eraill o Gymru ar y daith a drefnwyd gan yr Urdd a Mentrau Iaith Cymru. Ar ôl hedfan o Heathrow, treuliodd Nel a’i ffrindiau amser yn Nhrelew, Esquel a Buenos Aires. Bu’n ymweld â’r Ysgol Feithrin Gymraeg, yn cymdeithasu gyda siaradwyr Cymraeg o’r Ariannin a hefyd yn cystadlu yn yr Eisteddfod yno. Meddai Nel, “Roedd yn brofiad rhyfeddol a dwi di gwneud ffrindiau newydd o bob cwr o Gymru; ar adegau, roedden ni fel un teulu mawr. Roedd gwahaniaeth mawr yn awyrgylch laith y Gaiman a’r eira ar fynyddoedd yr Andes, ac yn brofiad hollol swreal i fod yng nghanol pobl a oedd yn siarad Cymraeg er nad oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi bod yn agos i Gymru erioed. Roedd yr acenion yn wahanol iawn ac roedd yn ddiddorol gweld eu bod yn hollol rugl yn y Gymraeg a’r Sbaeneg a ninnau yma wedi arfer bod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg. Roedd yn anrhydedd hefyd cael cyflwyno’r rhodd i bobl Patagonia. Byddwn wrth fy modd yn cael dychwelyd rhyw ddydd, oherwydd does dim dwywaith bod y lle a’i holl hanes yn cael gafael arnoch.” Fel y 24 o bobl ifanc eraill ar y daith, bu’n rhaid i Nel godi swm sylweddol o arian i dalu am y daith, yn bennaf drwy gynnal digwyddiadau codi arian. Dyma daith gyntaf yr Urdd i bobl ifanc o bob cwr o Gymru, yn hytrach nag un ai o’r de neu o’r gogledd. Pob lwc i ti, Nel, yn y dyfodol, a phaid ag anghofio dy wreiddiau yma yn Ardudwy. Yn y llun fe welir Nel gyda’r darlun a gyflwynwyd i Amgueddfa’r Gaiman.

5


HARLECH Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau mawr i Hefin Jones, Aelfor, Harlech, am ennill y wobr gyntaf am ei fodel o injan dân o’r flwyddyn 1894 yn Sioe Fodelau Gogledd Cymru a gynhaliwyd yn Y Bala. Roedd wedi gwneud pob tamaid o’r model hon ei hun ond bu rhaid iddo brynu’r foiler gopr. Cafodd hefyd y brif wobr yn y Sioe am y model gorau. Sefydliad y Merched Rhoddwyd croeso i’r aelodau a’r gwesteion gan y Llywydd Christine Hemsley i’r cyfarfod a gynhaliwyd ar nos Fercher, 8 Ebrill yn y Neuadd Goffa. Dymunwyd yn dda i aelodau oedd yn methu bod gyda ni oherwydd salwch. Rhoddwyd cardiau pen-blwydd i aelodau oedd yn dathlu penblwydd y mis yma a rhoddwyd blodau a cherdyn i Gwenda Jones a Myfanwy Jones, y ddwy yn dathlu pen-blwydd arbennig y mis yma. Diolchodd y Llywydd i bawb oedd wedi helpu i wneud y noson Gymraeg ym mis Mawrth mor llwyddiannus ac yn arbennig i Myfanwy Jones am drefnu’r adloniant gwych i’r noson yma. Mi fydd y Llywydd Christimsley a Jan Cole, yr ysgrifenyddes, yn mynd i barti ym Mhalas Buckingham i gynrychioli SyM Harlech. Mae trefniadau ar y gweill i ni fynd i ddathlu 100 mlwyddiant Sefydliad y Merched a gychwynnwyd yng Nghymru yn Llanfairpwll ym 1915. Cynhelir hwn yng Nghlwb Golff Dewi Sant ar nos Wener, 24 Ebrill 2015. Trefnwyd gyda’r aelodau bawb oedd yn gyfrifol am roi blodau ar y Gofeb am fis Ebrill a mis Mai. Ar ôl darfod y busnes cafwyd yr adloniant. Yn anffodus, roedd y siaradwr o Gwmni Seren yn methu bod efo ni ond mi oedd Jennifer Dunley wedi paratoi cwis i ni a chawsom hwyl yn rhoi cynnig ar ateb y cwestiynau. Y mis nesaf Mici Plwm fydd y siaradwr o Age Concern Cymru. Croeso i unrhyw un ymuno â ni am y noson ar nos Fercher 13 Mai am 7 o’r gloch.

6

Wedi cael triniaeth Dymuniadau gorau i Mrs Julie Price, y Waun, sydd wedi cael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd, a hefyd i Rhiannon (Owen gynt) o Ben yr Hwylfa sydd hefyd mewn ysbyty. Llongyfarch Llongyfarchiadau i Gareth a Helen Owen, 40 Y Waun, oedd yn dathlu 60 mlynedd o fywyd priodasol yn ddiweddar. Llongyfarchiadau hefyd i Gwenda Jones a Myfanwy Jones, y ddwy yn dathlu pen-blwydd arbennig ym mis Ebrill. Pen-blwydd arbennig Dymunwn ben-blwydd hapus iawn i Glennys Griffiths, Glennar, 44 Y Waun, Harlech, sydd yn dathlu pen-blwydd arbennig yn 80 oed ar yr 8fed o Fai. Cyfarchion gan y teulu a ffrindiau i gyd.

Teulu’r Castell Croesawyd yr aelodau gan Lywydd Sefydliad y Merched Christine Hemsley i’r cyfarfod oedd wedi ei drefnu ganddi hi ac aelodau o Sefydliad y Merched. Diolchwyd iddi hi am y croeso gan Edwina Evans, a diolchodd hefyd i aelodau am ddarparu’r bwyd ac am ddod yno i helpu am y prynhawn. Dymunwyd yn dda i rai oedd yn absennol oherwydd salwch. Roedd llawer yn dathlu pen-blwydd y mis yma sef Nancy Nelson, Mair Evans, Jack Forster, ond tair yn dathlu pen-blwydd arbennig sef Rhiannon Jones a Gwenda Jones ar 20 Ebrill a Myfanwy Jones ar 27 Ebrill. Braf oedd gweld Dorothy Harper ac Eileen Lloyd yn ôl gyda ni. Mae eisiau syniadau am fynd allan i de yn ôl ein harfer ym mis Mehefin. Y mis nesaf Merched y Wawr Harlech fydd yn gyfrifol am y prynhawn a’r adloniant fydd John a Roger Kerry. Mae pawb yn edrych ymlaen at eu clywed eto’r flwyddyn yma. Yna cyflwynwyd Annette Evans o Dalsarnau oedd wedi dod i ddangos a siarad am y gwaith gwydr yr oedd hi’n ei wneud. Gwych iawn oedd ei gwaith o’r pethau mawr i’r pethau bach. Rhoddwyd y diolchiadau gan Christine Freeman a diolchodd hefyd am y te a’r rafflau a roddwyd gan aelodau’r Sefydliad.

YSGOL SUL Y TABERNACL HARLECH, 1964-65

Cydymdeimlo Cydymdeimlwn gyda Mrs Irene Roberts, 9 Pen yr Hwylfa, a’r teulu i gyd ar golli ei gŵr Ronnie a fu farw yng nghartref Bryn Awelon yn ddiweddar. Babi Newydd Llongyfarchiadau i Sian Russell ac Anthony Richards, 43 Y Waun ar enedigaeth Tyler Lee, brawd bach i Joe-Lloyd. Llongyfarchiadau hefyd i nain Olwen Richards.

Diolch i Mr James Nelson am y llun a diolch i Beryl a Gareth Evans am enwi cymaint o’r plant yn y llun.

YARIS

AURIS

AYGO NEWYDD

TOYOTA HARLECH Ffordd Newydd, Harlech 780432 Dewch i weld yr Aygo newydd!

Enwau’r plant yn y llun: Rhes ôl - chwith i’r dde: Mrs Maggie Jones, Mrs Mair Dole, Miss Mair Williams, Mr James Nelson, Miss Jennie Williams, Mrs Annie Wyndham Thomas. Plant [cefn]: Valerie Parry, Gillian Edwards, ?, Ion Griffith, ?; [canol - ôl] Bethan Griffith, ?, Gareth Evans, Bethan?, Siân Dole, [canol - blaen] Mandy Edwards, Beryl Evans, Gwen Dole, Emlyn Dole, Gareth Griffith. Blaen: Olwen Dole, Angela?, Ruth Austin?, John Nelson, Gwyn Jones?, Edwin Jones. Os all unrhyw un lenwi’r bylchau olaf, cofiwch gysylltu. Diolch.


RHAGOR O HARLECH CYNGOR CYMUNED HARLECH Rhandiroedd Darllenwyd llythyr gan rai o’r tenantiaid yn pryderu bod y rhent yn rhy uchel, hefyd yn datgan y dylai’r Cyngor fod yn gyfrifol am dalu’r yswiriant. Cytunwyd i gynnal cyfarfod gydag is-bwyllgor y rhandiroedd a’r tenantiad yn fuan. Cyfarfod gyda’r Pwyllgor Twristiaeth Roedd pryder wedi ei ddatgan ynglŷn â chyflwr hen westy Dewi Sant a Phlas Amherst. Roedd yn fwriad holi a oedd grantiau ar gael er mwyn gallu rhedeg bws cymunedol yn Harlech. Gwefan y Cyngor Mae’n fwriad gan y Cyngor i sefydlu gwefan. Ethol Cynghorydd Roedd Mr Huw Jones, Celt, 14 Tŷ Canol wedi datgan diddordeb yn y sedd wag ac fe gytunwyd yn unfrydol i’w gyfethol. Ceisiadau cynllunio Ehangu ac addasu’r estyniad ar y llawr cyntaf, newidiadau i gyfluniad y ffenestri a’r drysau, gosod ffliw allanol, addasu to’r heulfan, gosod paneli solar, amgáu dwy ochr y porth ceir ac addasu’r portsh ffrynt - Isgaer, Ffordd Glan y Môr. Cefnogi’r cais hwn. Dymchwel y byngalo presennol a chodi byngalo newydd - Enfys, Ffordd y Morfa. Cefnogi’r cais hwn. GOHEBIAETH Parc Cenedlaethol Eryri Mae apêl 1 Tŷ Gwyddfor, Stryd Fawr, wedi ei gwrthod. Swyddfa’r Post Bydd swyddfa bost y dref yn symud i Siop Spar, ond nid oes dyddiad wedi ei benodi eto. Adran Reoleiddio Cedwir prisiau claddu yn y fynwent yr un fath ond ni fydd y Cyngor yn codi am yr hawl i ailosod carreg fedd o hyn ymlaen.

Mynyddoedd Pawb Mae deiseb Mynyddoedd Pawb yn fyw ar wefan y Cynulliad ac yn gofyn yn garedig i bawb ei harwyddo. Cyfeillion Ellis Wynne Gwahoddwyd aelodau Cynghorau Cymuned lleol i alw draw yn y Lasynys Fawr i weld yr arddangosfa yno o waith celf plant ysgolion lleol. CADW Gwahoddwyd y Cynghorwyr i ymweld â’r gwaith sy’n cael ei wneud yn y castell ac i gael y diweddaraf ynglŷn â’r gwaith. Hefyd maent eisiau gwybod pwy yw perchennog y tir lle mae’r ffens gyda’r arwyddion dim parcio arno ac adroddwyd mai’r Cyngor Cymuned sy’n berchen ar y tir dan sylw ac nad yw’r Cyngor yn fodlon i’r ffens na’r arwyddion hyn gael eu tynnu. UNRHYW FATER ARALL Rhoddwyd caniatâd i Seindorf Arian Harlech ddefnyddio’r cae chwarae i gynnal eu ffair haf ar Gorffennaf 11. Nid yw’r llinellau melyn dwbl wedi eu gosod yn y mannau a nodwyd. Nid yw’n bosib mynd i mewn i gae chwarae Llyn y Felin ar hyn o bryd oherwydd y gwaith ger y castell. Mae’r bont bren ar lwybr cyhoeddus 22 wedi pydru. Mae’r wal wedi disgyn ar y llwybr sy’n mynd i lawr o Benygraig am yr A496. Mae angen mwy o finiau yng nghae chwarae Brenin Siôr. Cafodd llawer o boteli plastig eu lluchio ar hyd y ffordd o Bont y Glyn draw am y dref yn dilyn y Triathlon. Cytunodd y Cynghorydd Thomas Mort gysylltu gyda phwyllgor y Triathlon ynglŷn â hyn. Datganwyd pryder bod rhai’n lluchio hen deiars a bagiau baw cŵn dros y wal dan y coleg.

PWLL NOFIO HARLECH Pa bryd galla’ i fynd i nofio? Llun Mawrth Mercher Iau Gwener Sul

12.00 tan 2.00, nofio lôn: 6.00 tan 7.00 4.30 tan 7.00 12.00 tan 12.45 7.00 tan 9.00, 11.00 tan 2.30, 3.30 tan 6.00, oedolion 6.00 tan 7.00 3.00 tan 4.00, nofio lôn: 6.00 tan 7.00 Merched yn unig 7.00 tan 8.00 11.00 tan 2.00

Gŵyl Gerddorol Harlech 1910

Dydd i’w gofio oedd y 6ed o Orffennaf, 1910, i’r chwech neu saith mil a ddaeth i Harlech y dydd hwnnw. Dydd atgyfodi hen ŵyl gerddorol y Castell ydoedd, ar ôl pedair blynedd ar hugain o ddistawrwydd. Owen Roberts, o Dalsarnau, roddodd y syniad i’w sefydlu. Yn 1867 ysgrifennodd lythyr at John Roberts (Ieuan Gwyllt, 1822-77) a fu’n achlysur i gychwyn yr ŵyl, gyda’r prif fwriad o wella canu cynulleidfaol a chanu corawl. Ar y 26ain o Fedi, 1867, cyfarfu pwyllgor yn Horeb (MC), Dyffryn Ardudwy, i ystyried awgrym Owen Roberts, ac i gychwyn y trefniadau. Yn gefn iddo cafwyd rhai fel Edward Morgan (1817-71), Dyffryn (Cadeirydd); Owen Jones, BA, Ffestiniog; Cynhafal Jones, Penrhyn; Dafydd Dafis, y Bermo; Griffith Williams, Talsarnau; Eiddon Jones, Rhydymain; a Foster Edwards, Llanfair; yn ogystal â dau athro ysgol, R R Rowlands, Talsarnau, a H Lloyd Jones, Corris. Aed ati ar unwaith i sefydlu deg o gorau mewn gwahanol ardaloedd. Nid oedd gan yr un ohonynt offeryn cerdd. Felly yn yr ŵyl gyntaf a gynhaliwyd yn 1868 bu’n rhaid croesi ffiniau’r sir i Arfon, i gael gwasanaeth Robert Roberts, cyfeilydd Eglwys Gadeiriol Bangor. Erbyn 1910 cymerwyd rhan gan bymtheg o gorau a phob un ohonynt gyda mwy na digon o gyfeilyddion. Ieuan Gwyllt fu’n arwain yr ŵyl o 1868 hyd 1873, ac eithrio 1869, pryd yr ymgymerodd Edward Edwards (Pencerdd Ceredigion, 1816-1897) i lenwi’r swydd. Un o’r darnau clasurol cyntaf ar gyfer y corau unedig ym mlynyddoedd cynnar yr ŵyl oedd ‘The Heavens are telling.’ Daeth Robert Rees (Eos Morlais, 1841-92) yn arweinydd yn 1873, a diwygiodd ansawdd y canu o ŵyl i ŵyl o dan ei law ef. Yn yr un flwyddyn cafwyd datganiad o’r cantata ‘Gweddi Habacuc’ (John Ambrose Lloyd), ac ar ôl hynny nifer fawr o anthemau cyfansoddwyr Cymreig y cyfnod. Yr oratorio gyntaf a ganwyd oedd Judas Maccabeus a hynny heb gerddorfa. Yna, yn eu tro, y Meseia, Y Cread, a Samson gyda cherddorfa fechan. Yn 1886 oherwydd Eisteddfodau Llundain a Phorthmadog, penderfynwyd gohirio’r ŵyl am flwyddyn, ond aeth yr un yn bedair ar hugain erbyn cynnal Gŵyl 1910. Yn 1886 yr oedd Gŵyl Gerddorol Harlech yn llawer mwy na’r hyn yr oedd mewn blynyddoedd diweddarach, er nad oedd rhif y cantorion ond rhyw 400. Yn 1910 yr oedd lleisiau’r côr a ganai’r Meseia ym mherfformiad y nos yn 1,500. Arhosodd dylanwad a brwdfrydedd Owen Roberts yn iraidd yn ei fro ei hun am gyfnod hir. Ar ei ôl ef, yn 1909, daeth Owen Owens Roberts (OO, 1847-1926), ei fab, i’w ddilyn fel arweinydd. Ganwyd yn Nhalsarnau. Bu’n brifathro ysgol elfennol Dolgellau yn 1872, ac yn yr un flwyddyn sefydlodd Gymdeithas Gorawl Idris. Ar yr un pryd bu’n brif sylfaenydd Eisteddfod Meirion, ac yn ysgrifennydd iddi am lawer o flynyddoedd. Iddo ef yn bennaf y rhoddir y clod am ail gychwyn Gŵyl Gerddorol Harlech. (i’w barhau) W Arvon Roberts, Pwllheli.

7


DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT Teulu Ardudwy Cyfarfu’r Teulu yn Neuadd yr Eglwys b’nawn Mercher, 15 Ebrill. Croesawyd pawb gan Gwennie ac roeddem yn falch fod Mrs Leah Jones a Mrs Eirlys Price yn ôl yn ein plith. Cydymdeimlodd â Mrs Elinor Evans a Mrs Elizabeth Jones yn eu profedigaeth o golli brawd yng nghyfraith, Mr John Evans, Maes yr Aelfor, gynt. Yna croesawodd Annette Evans o’r Ynys atom a hefyd Edwina oedd wedi dod yn gwmni iddi. Mae Annette yn gweithio gyda gwydr. I ddechrau dangosodd hen enghreifftiau o waith gyda gwydr lliw ac yna mynd ymlaen i ddangos sut yr oedd hi’n gweithio gyda gwydr a’r offer angenrheidiol. Roedd wedi dod â llawer o’i gwaith i’r arddangos. Cafwyd pnawn hyfryd yn ei chwmni a phawb yn edmygu ei dawn. Bu Mrs Enid Thomas yn ffodus iawn i ennill enghraifft o’i gwaith yn y raffl. Diolchwyd i Annette gan Anthia. Gallwch ymweld â gweithdy Annette yn ei gardd yn 1 Tai Newyddion, Ynys. Rhoddwyd y te a’r raffl gan Glenys Jones, Elinor Evans a Catherine Jones. Penderfynwyd mynd i ginio yng Nghricieth ac yna ymlaen i ganolfan arddio Tyddyn Sachau ar ein trip ym mis Mehefin. Rhodd i’r Llais Diolch i Heulwen Jones am y rhodd o £6.50 Rhodd i’r Llais Mr a Mrs E P Owen, Coed Uchaf £9

Joss Bowater Pen-blwydd arbennig Ar 12 Mai bydd Joss, mab Darren a Yvonne Bowater yn dathlu ei ben-blwydd yn 18 mlwydd oed. Dymuna Taid a Nain (Arthur ac Eleri) benblwydd hapus iawn i ti, Joss. Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i ti ar dy ben-blwydd arbennig. Rhodd £10

Meirion Roberts

Trem arall yn ôl

Meirion Roberts neu Meirion y crydd i ni. Ei weithdy oedd cyrchfan dynion i sgwrsio a phlant i gadw’n gynnes wrth y tân. Cymeriad annwyl iawn. Heddiw mae caffi bach prysur ar safle’r hen weithdy, Caffi’r Hen Grydd.

Daniel Williams Cymeriad arall. Faint sy’n ei gofio tybed? Daniel Williams, Hwylfa Groes, Talybont yn garddio ym Mharc Uchaf.

Golygyddol: Er parch i Meirion, oni fuasai’n braf gweld cywiro enw’r caffi i ‘Caffi’r Hen Grydd’ cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda?

Clwb Cinio Dydd Mawrth 21 Ebrill aeth nifer ohonom am ginio i Westy’r Eryrod yn Llanuwchllyn a chafwyd croeso cynnes iawn gan Eleri (Parc Isa) a’i chwaer Deilwen oedd wedi dod i’w helpu a chafwyd bwyd ardderchog yno. Yna aethom ymlaen i Ganolfan Mari Jones yn Eglwys Llanycil. Mae’r eglwys wedi ei hadnewyddu yn arbennig iawn ac mae’n adeilad hardd iawn a’r arddangosfa yn fodern a diddorol i blant ac oedolion. Mae digon o le i barcio yno a chaffi i gael paned. Ar 19 Mai byddwn yn mynd am ginio i Westy’r Eryrod eto ac yna A dyma gymeriadau annwyl eraill yn cystadlu yng Ngharnifal y Dyffryn – Cernyw Ellis, Horeb Terrace, Mrs Mary Pugh, Margaret i ymweld â Chapel Rhug, ger Pauline a’i mam Mrs Kate Alice Roberts. Corwen. Croeso i unrhyw un ymuno â ni.

CARNIFAL A FU

Celf yn y Llan Cyhoeddiadau’r Sul, Horeb

MAI 10 Buddug Medi McParlin 17 Alma Griffiths 24 Rhian ac Einir 31 Parch Gareth Rowlands MEHEFIN 7 Parch Philip de la Haye

8

Cafwyd gŵyl lwyddiannus iawn yn ystod mis Medi y llynedd, sef Celf yn y Llan yn Nyffryn Ardudwy a Thal-y-bont. Mae’r pwyllgor yn falch iawn o gyhoeddi dyfarnu grantiau i’r canlynol: Tŷ Gobaith Ambiwlans Awyr Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy Clwb Cadwgan Ysgol Feithrin Dyffryn a dau o’n crefftwyr lleol. Caiff yr arian ei roi inni gan ymwelwyr sy’n dod i’r arddangosfeydd [sy’n rhad ac am ddim]. Cynhaliwyd rheini yn Neuadd yr Eglwys, Neuadd y Pentref, Eglwys Llanddwywe ac Eglwys Llanenddwyn. Cynhelir yr ŵyl bob yn ail flwyddyn. Mae’r nesaf yn cael ei chynllunio ar gyfer 2016, ond mi fydd penwythnos Hanfod Ardudwy yn digwydd ym mis Medi eleni. Os oes unrhyw un am gymryd rhan neu werthu eu gwaith yn ystod Hanfod Ardudwy, a wnewch chi gysylltu â Diana ar mike.tregenza@btinternet.com


RHAGOR O DYFFRYN A THAL-Y-BONT

Penillion Coffa

Y mis diwethaf cafwyd Penillion Coffa i Richard Jones, Gellibant, Llanbedr a dyma benillion coffa i un arall o fechgyn Llanbedr a gollodd ei fywyd yn yr Ail Ryfel Byd, Robert Pugh Jones, Bryn Moel; wedi eu hysgrifennu gan John Evans, Tyddyn y Felin, Harlech. Roedd Robert yn frawd i Beti, mam Peter Jones, Harlech, a fu’n gigydd yno, ac yn nain i David sy’n cadw siop gig yn Y Bermo. yr hwn a gollodd ei fywyd yn yr Almaen, Mawrth 28ain, 1945, yn 24 mlwydd oed.

SAMARIAID Llinell Gymraeg

0300 123 3011

PENILLION ER COF AM ROBERT PUGH JONES, BRYN MOEL, LLANBEDR

Brwd a chain yw cerddi’r Gwanwyn Yn yr henfro, gylch Bryn Moel; Ond ar obaith, mwyn ei delyn, Ofer rhoddi nemawr goel. Llawer cân dry yn anobaith, Llawer blodyn syrth yn wyw, Hawdd fu sôn am oes ddianrhaith Uwch dy wanwyn, Robert Pugh. Roedd dy fore’n dlws, addawol, Fel y gwanwyn yn y coed; Ac fe dyfai blodau siriol Yn ddi-feth, yn ôl dy droed. Teg o bryd a hardd dy foesau, Ac ar burdeb yn rhoi bri; Pwyso pen y bu rhinweddau Ar dy gynnes fynwes di. Nid oedd gyfaill mwyn, addfwynach, Nac un galon mwy di-frad; Nid oedd siriol fron radlonach, Mwy di-stŵr ‘mysg llanciau’r wlad. Roedd dy natur foneddigaidd Yn dy wneud yn ffefryn bro; A dy ysbryd tawel, gwylaidd, Eto’n hir a fydd mewn co’.

Udgorn rhyfel a’i erch ddolef Ar dy glyw ddisgynnai’n hy; A gadewaist tithau gartref Gydag arwyr Cymru gu; Er i’r llwybr fod yn arw, Est heb gwyno dan y groes; Fel y dur yn bur a gloew Dan bob cur y bu dy foes. Yn rhyferthwy mwya’r ddrycin Ac er gwaetha’r storm, a’i phla, Dest yn arwr, drwy yr heldrin, Cadw wnest dy enw da. Ond er tlysed oedd dy fywyd, Torrwyd swyn dy hyfryd gainc; Annodd credu ambell ennyd Gyrrid un mor fwyn i Ffrainc. Bechan oedd y Rhein i’w chroesi, Wrth yr ‘afon’ groesaist ti: Hiraeth sydd yn mynnu oedi Fel pererin, wrth ei lli. Annwyl inni mwy fydd Dingen Er ei stormus niwloedd, trwch; A chysegrwyd tir yr Alman Robert annwyl, â dy lwch.

Os yw’r aelwyd o dan gwmwl, Os yw’r fro yn teimlo’n chwith, Dod yn nes a wnest drwy’r cwbwl, Dod i aros yn ein plith, Aros yn dy wisgoedd gwynion, Mewn atgofion lawer haen; A’th rinweddau fel angylion Eto’n dal i fynd ymlaen. Tremio’n syn ’ry’m dros y gorwel Tua dy ddiaddurn fedd; Byddai crwydro gyda’r awel Gylch y fan, yn hyfryd hedd. O! na allem yno dywallt Dagrau, lle mae’n serch yn byw, A rhoi blocyn bach o’r Wenallt Ar dy feddrod, Robert Pugh. John Evans, Tyddyn y Felin, Harlech

Selsig o Fri

CEIR MITSUBISHI

O’r chwith i’r dde – Mark Hughes, Liam Mart, Paul Wellings (perchennog), Mat Coulson a Derek Tibbetts. Rydym yn ffodus iawn yma yn y Dyffryn o gael siop gigydd ardderchog yn London House ac yma y ceir y selsig gorau yng Nghymru gan i’w selsig porc a chennin ennill y teitl Prif Bencampwr Selsig yng Nghymru, yn Abergele yn ddiweddar. Nid dyma’r tro cyntaf iddynt ennill gwobrau gan iddynt ennill gwobr am y selsig porc traddodiadol gorau yng ngogledd Cymru yn 2007 a dod yn brif bencampwr yn 2009. Llongyfarchiadau i chi i gyd; rydym yn llawenhau yn eich llwyddiant ac yn mwynhau’r selsig!

Smithy Garage Ltd Dyffryn Ardudwy Gwynedd LL44 2EN Tel: 01341 247799 sales@smithygarage.com www.smithygarage-mitsubishi.co.uk 9


Canolfan Gymdeithasol Llanbedr

Nid oedd y cais am arian o’r Loteri er mwyn codi Neuadd hollol newydd yn llwyddiannus, felly mae Canolfan Gymdeithasol Llanbedr (neu Bwyllgor y Neuadd fel mae pobl yn cyfeirio ati fel arfer), wedi datblygu cynllun llai lle bydd y Neuadd bresennol yn cael ei hailwampio’n sylweddol a dau estyniad yn cael eu codi. Maent bellach wedi cael caniatâd cynllunio i’r cynllun newydd. Dyma lun o’r cynllun newydd uchod. Bydd taflenni gwybodaeth am y prosiect yn cael eu dosbarthu yn yr wythnosau nesaf. Hefyd cynhelir arddangosfa am y cynllun i ailwampio’r Neuadd Bentref ar ddydd Iau Mai 21 yn y Neuadd Bentref. Ar ôl ailwampio’r Neuadd mi fydd y Neuadd yn adnodd llawer mwy cynaliadwy, felly mae ‘Profiad Ni’ wedi cytuno i ddod draw ar 21 Mai gydag arddangosfa, gwybodaeth a deunydd gyda chysylltiadau am ynni adnewyddol. Felly os oes gennych sylwadau neu ddiddordeb yn y cynlluniau am y Neuadd neu mewn ffyrdd gwell a rhatach o gynhesu eich tŷ, dewch i’r arddangosfa ar Mai 21. Bydd yr arddangosfa yn dechrau am 12:00 (hanner dydd) ac yn gorffen am 7.00 yh. Am fwy o wybodaeth edrychwch ar Llanbedr.com neu cysylltwch â post@llanbedr.com

100 o Olygfeydd Hynod Cymru Taith gerdded ledled Cymru a gynigir inni o fewn y llyfr hwn sydd yn dylunio a disgrifio cant o safleoedd o ddiddordeb hanesyddol arbennig. Cynhwysir llawer iawn o wybodaeth hanesyddol, ac mae gwybodaeth yr awdur yn eang ac yn drawiadol, a hynny mewn nifer o feysydd gwahanol fel archeoleg, pensaernïaeth a daeareg (maes y mae’n amlwg ddigon, y mae’r awdur yn feistr arbennig gan ei fod yn ddaearegwr proffesiynol). Llwyddodd hefyd i gynnwys cyfeiriadau at gymeriadau hanesyddol sydd o bwys lleol yn bennaf. Mae’r gwaith ymchwil cefndirol yn fanwl ac yn eang, a mynegir y cyfan mewn Cymraeg

10

arbennig o raenus fydd yn apelio at groestoriad eang o ddarllenwyr. Er y cynhwysir nifer fawr o olygfeydd rhyfeddol o hardd, dywed yr awdur wrthym iddo eu dewis yn bennaf ‘ar sail eu hynodrwydd, rhagor na’u harddwch naturiol, a’u hygerchedd’. Mae rhai o’r golygfeydd yn rhai enwog dros ben, fel chwarel y Penrhyn ym Methesda, yr Wyddfa, Llyn Tegid, Cadair Idris ac Abaty Cwmhir. Mae ambell enw newydd, llai cyfarwydd hefyd yn ymddangos. Nid esgeulusir yr un ardal, ond ceir nifer fawr o enghreifftiau o Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd. Darperir map o Gymru gydag allwedd i’r safleoedd a bortreadir yma. Dim ond un cofnod a neilltuir ar gyfer arfordir Ceredigion, sef y Borth, Ynys-las a Chors Fochno, er mor hyfryd yw’r golygfeydd lleol, a gellid fod wedi cynnwys rhai safleoedd hanesyddol o ardal Aberystwyth, Aberaeron, Llambed a Chaerfyrddin. Ond cynigir inni ysgrif afaelgar ar Warchodfa Natur Corsydd Teifi a gwaith mwyn ac aur enwog Dolaucothi.

Ein Gwir Hanes: Tro i’r Hen Ogledd (hanes cynnar y Cymry, c400-750) Dewch i Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr yn Arfon, ddydd Sadwrn Mai 16eg i glywed am gyfnod pan oedd teyrnasoedd ein cyndadau Brythonig yn ymestyn o Gymru trwy ganolbarth a gogledd Lloegr i dde’r Alban. Siaredid Brythoneg - mam iaith ein Cymraeg ni - ymhell bell tu hwnt i ffiniau Cymru.

Lle mae Ystrad Clud, Pengwern, Rheged, y Gododdin ?

Mae’n hanes cyffrous, llawn balchder a gwrhydri. Nyni oedd deiliaid Ynys Prydain ymhell cyn i fewnfudwyr estron lanio yma, ffaith sy’n cael ei hanghofio, yn wir ei gwyrdroi gan y Saeson. Ni cheir yr hanes hwn yn ein hysgolion, nac o’r bron ym mhrifysgolion Cymru. Rhaid gofyn, pam? Telir sylw dyledus a pharchus i’r cyfnod hwn ym mhrifysgolion goleuedig a diragfarn y cyfandir. Mae peth o’r hanes yn ein llenyddiaeth gynnar - y cynfeirdd Taliesin ac Aneirin, ac yn y Mabinogi. Ond, am y darlun ehangach, dowch draw i wrando ar ein siaradwr gwybodus a huawdl, Dafydd Glyn Jones, Bangor. Cawn ddarganfod y cysylltiadau rhwng ein hanes cynnar a’n llenyddiaeth odidog, gyda digon o gyfle i ofyn cwestiynau a thrafod. Nodwch y dyddiad yn eich dyddiadur ar unwaith! Dydd Sadwrn Mai 16eg, 10.30 - 2.30pm Cenhadaeth Canolfan Hanes Uwchgwyrfai i roi gwir hanes Cymru i’n cyd-Gymry yw’r gyfres o gyfarfodydd “Ein Gwir Hanes”. Am ragor o fanylion, mae croeso i chi gysylltu â ni: canolfanuwchgwyrfai@gmail.com 01286 660546 Ceir erthygl ddiddorol yn ogystal ar Fynydd Beili-glas, Craig y Llyn, lle darperir gwybodaeth bwysig am lofa adnabyddus y Tŵr ger pentref diwydiannol Hirwaun yng Nghwm Cynon. Cefais flas anghyffredin yn darllen yr ysgrif ar Graig yr Hesg, Pontypridd, lle ceir ffotograffau hyfryd o afon Taf, chwarel Craig yr Hesg a’r gofgolofn enwog sydd ym Mharc Ynysangharad yn y dref honno i Evan a James James, y tad a’r mab a gyfansoddodd ‘Hen Wlad fy Nhadau’ ym 1856. Defnyddiol yw’r rhestr o’r termau daearegol a ddarperir yng nghefn y llyfr ond mae’n drueni na ddarperir unrhyw fath o fynegai i gynnwys y llyfr.

Hyderaf y bydd cynnwys y gyfrol hon yn sbardun i’r darllenwyr i deithio drwy Gymru er mwyn gweld ac astudio’r ardaloedd a’r golygfeydd a bortreadir mor hyfryd yma. Dywed yr awdur wrthym iddo ddewis safleoedd sydd o fewn cyrraedd hwylus i’r mwyafrif ohonom. Hyfryd gweld bod copïau clawr caled a meddal ar gael, a’r ddau am bris rhesymol hefyd. Gobeithio y bydd modd trosi’r gyfrol i’r Saesneg yn ogystal – byddai marchnad dda ar ei chyfer, rwy’n siŵr. J Graham Jones

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.


TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Wedi ymdrin â’r materion uchod, estynnodd y Llywydd groeso i ddwy wraig, Bet Owen a Sara Roberts, a oedd wedi dod atom i gyflwyno dipyn o hanes Ann Griffiths, Dolwar Fach. Dechreuodd Bet drwy sôn am fywyd cynnar Ann, ei theulu a’i chartref, cyn sôn am y dylanwadau a’r profiadau ysbrydol a gafodd ac Loteri Gymunedol a gofnododd yn ei barddoniaeth Llongyfarchiadau i May Wells, Yr a’i hemynau. Tro Sara Roberts Ogof, Ynys ar ennill dros £200 ar oedd hi wedyn i gyflwyno rhai y loteri yn y Pwll Nofio ddiwedd o emynau Ann a sôn am eu Chwefror. cefndir, cyn i bawb gyd-ganu’r Dyma lun o Nicky Roberts, un rhain i gyfeiliant Sara ar yr o wirfoddolwyr y Pwll Nofio, a allweddellau. chymydog i May, yn cyflwyno’r Diolchodd Ella ar ein rhan i siec iddi. Mi’r oedd May wrth Bet a Sara am eu cyflwyniad, ei bodd hefo’r wobr a dymuna gan fynegi mor werthfawr bu flynyddoedd o lwyddiant i’r cyfraniad Ann Griffiths a’i fenter yma. hemynau i ddiwylliant Cymru. Paratowyd y baned gan Frances a Merched y Wawr Meira, a Dawn enillodd y raffl. Croesawyd pawb i’r cyfarfod nos Cynhelir ein Cyfarfod Blynyddol Lun, 13 Ebrill gan y Llywydd, y tro nesaf ar 11 Mai, ar yr ail Siriol Lewis. Derbyniwyd nos Lun o’r mis oherwydd Gŵyl ymddiheuriadau gan bum y Banc. aelod, a chafwyd adroddiad o’r Cinio Dathlu Gŵyl Ddewi yng Ngwesty’r Ship ar 5 Mawrth. Gyrfa Chwist Cyflwynwyd gwybodaeth am NOS IAU nifer o faterion, yn cynnwys 14 Mai archebu cardiau ‘Dolig a dyddiaduron 2016, a rhoddwyd am 7.30 ein pleidlais ar gyfer enw Is-drysorydd Cenedlaethol Neuadd Gymuned newydd. Cytunwyd i beidio ethol Adloniant - Rydym wedi trefnu Swyddogion newydd eleni. noson yng nghwmni Meibion Cytunodd Gwenda Griffiths a Prysor, nos Sadwrn 3ydd Hydref Mai Jones i gynrychioli’r gangen eleni. Pris mynediad fydd £10 i ar Bwyllgor Sioe Sir Meirion a oedolion. Rhagor o wybodaeth gynhelir yn Harlech. yn nes i’r amser. Cadwch y

Cydymdeimlad Estynnwn ein cydymdeimlad â Mr Bill Roberts, Tremadog, yn ei brofedigaeth o golli ei frawd Ronnie yn ddiweddar.

Rhodd Diolch am y rhodd o £16.50 gan Sally Williams. HGV Llongyfarchiadau i Aaron Evans, 4 Maes Gwndwn sydd wedi llwyddo yn ei brawf gyrru HGV yn ddiweddar. Da iawn Aaron.

Talwrn y Beirdd Rownd yr Wyth Olaf Nos Fawrth, Mehefin 9 am 7.00 Taith Gerdded er cof am Gwynfor Gwrach Ynys

Bydd taith gerdded at elusen ‘Tenovus’ yn cael ei chynnal er cof am ac i ddathlu bywyd Gwynfor, ar ddydd Sadwrn Mehefin 20, i ben Y Cnicht. Am fanylion pellach ewch i wefan www.cofiogwynfor.com Croeso cynnes i bawb.

Carolau Mai Ar ddydd Llun, 4 Mai, daeth amryw ynghyd ar ddiwrnod braf o wanwyn i ddathlu Calan Mai mewn ffordd bur wahanol, ac eto’n draddodiadol. Yn gyntaf, daeth pawb ynghyd yn Eglwys Llandecwyn lle bu Mair Tomos Ifans, gyda chymorth Arfon Gwilym a Sioned Webb, yn cyflwyno sesiwn anffurfiol o ganu carolau Mai. Yn awyrgylch Mair Tomos Ifans yn cyflwyno gartrefol a braf yr hen Eglwys un o garolau Mai hynafol, cafwyd cyfle i ymuno yn y canu a dysgu mwy am yr hen draddodiad yma, a chanwyd un o garolau Ellis Wynne ei hun. Yn dilyn y Plygain Haf, roedd cyfle i wledda ar frecwast hwyr a baratowyd gan amryw o ferched lleol gweithgar yn Neuadd Talsarnau. Wedi’r wledd flasus, roedd taith wedi ei threfnu ar hyd y clawdd llanw heibio Tŷ Gwyn y Gamlas, Yr Ynys, i Eglwys Llanfihangel-y-traethau, cyn croesi’r caeau am Y Lasynys Fawr lle cafwyd cyfle i weld y tŷ hynafol, a phaned a chacen i ddod â’r gweithgareddau i ben. Diolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y diwrnod difyr dros ben yma. Trefnwyd ar y cyd gan Gyfeillion Eglwys Llandecwyn a Chyfeillion Ellis Wynne.

dyddiad yn rhydd!

R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250

Y cerddwyr wedi cyrraedd Y Lasynys Fawr

Honda Civic Tourer Newydd Pawb yn mwynhau’r canu yn Eglwys Llandecwyn

11


THEATR HARLECH

CROESAIR 1

2

3

4

5

6

8

7

9

Am fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr, ffoniwch 01766 780667, neu ewch i’r wefan ar www.theatrharlech.com Digwyddiadau am 7.30 oni nodir yn wahanol.

MAI

10

Mai 21: HFS - Calvary (15)

11 12

13 14

15

16

17

18

19

Pôs y Beirdd - Mis Mai gan Iwan Morgan

20 22

21

Ar draws 1 Math o flodyn (7) 5 Ardderchog (4) 7 Disynnwyr (7) 8 Segur (4) 9 Mynegiad fel canlyniad i gwestiwn (4) 10 Ymlusgiaid, weithiau gyda brathiad gwenwynig (6) 12 Nam ar groen (5) 13 Symudiad yn ôl ac ymlaen (4) 15 Anarferol (2) 16 Mesur o bwysau (4) 19 Gardd a/neu faes chwarae at ddefnydd y cyhoedd (4) 21 Rhoi eich hunan yn llwyr (5) 22 Anhwylder ar y croen (6) I lawr 1 Ymryson geiriol (4) 2 Ceisio denu sylw aelod o’r rhyw arall (8) 3 Casgliad eang o wybodaeth wedi’i gadw ar gyfrifiadur (7) 4 Math o flwch ar ben uchaf y corn gwynt (7) 5 Hynod (7) 6 Saim (6) 11 Gair sy’n cael ei greu trwy ddefnyddio llythrennau cyntaf geiriau eraill (7) 14 Cyfansoddiad llenyddol ar gyfer ei actio (5) 17 Tref yn ne Orllewin Cymru (4) 18 Arf sy’n cael ei saethu ar fwa (4) 19 Glud tenau (4) 20 Gwaedd (3)

ENILLWYR MIS EBRILL Dyma’r enillwyr y tro hwn: Idris Williams, Tanforhesgan; Megan Jones, Pensarn, Pwllheli; Ieuan Jones, Rhosfawr, Pwllheli; Dilys A Pritchard Jones, Abererch. ATEBION EBRILL AR DRAWS 1. Gwagle 4. Cymal 7. Festri 8. Picio 9. Cymanfa 11. Clo 14. Olwyr 16. Winc 17. Lefel 19. Islwyn 21. Oel 22 Iro 23. Asyn I LAWR 1. Gafr 2. Arswydo 3. Larfa 5. Y Pil 6. Adiolyn 10. Fertigol 12. Ceiliog 13. Rwdlian 15. Waldio 18. Folt 20. Ffin SYLWER Atebion i sylw: Phil Mostert, Bryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech LL46 2SS, erbyn canol y mis os gwelwch yn dda.

1. Hen fuwch y borfa uchel heb aerwy A bawr heddiw’n dawel, A dail Mai fel diliau mêl Wedi rhoswellt y rhesel. (bardd lleol) 2. Beth sydd ymlaen fore o Fai ar y bronnydd? Edrychwch arnynt, ar aur y banadl a’r euron A’r wenwisg loyw ar ysgwyddau’r ddraenen Ac emrallt astud y gwellt a’r lloi llonydd. (Delweddau Pabyddol i ddisgrifio ‘Difiau Dyrchafael’) 3. Mi welais fy Mai heulog Yn fwtsias glas ar y glog. (gwnaethpwyd ‘pob peth yn newydd’ wrth fynd ‘o blentyndod i lencyndod’ yn ôl y prifardd ‘dwbwl-dwbwl’ a’r ysgolhaig)

4. Os marw hon yn Is Conwy Ni ddyly Mai ddeilio mwy. Gwywon yw’r bedw a’r gwiail, Ac weithian ni ddygan’ ddail. (cefnodd y bardd hwn o’r 15fed ganrif ar lannau Glaslyn ac ymsefydlu’n y Deheudir) 5. Y Mai a’i arogl mirain Pan fo’r deilios dros y drain O gannaid hug ewyn ton, Sindal cynhyrfus wendon; A’i ffodau mwynion fel ôd y mynydd, Ac wynned ag oen ar gnwd y gweunydd; Gyda’i dawch llygad y dydd, a’i ridens Melyn yr orens ym mlaenau’r irwydd. (o awdl arall ar ‘fesur Llundain’ ... a gadeiriwyd ym Mae Colwyn, flwyddyn union ar ôl i ‘Wlad y Bryniau’ TGJ ddod i fri ym mhrifddinas Lloegr)

ATEBION MIS EBRILL 1. R Williams Parry 2. Meirion MacIntyre Hughes 3. T Rowland Hughes 4. Nesta Wyn Jones 5. Dafydd Ap Gwilym

Noson Rasio Ceffylau

Noson i Gofio Meinir Wyn

yng nghwmni Heather Jones a Geraint Lövgreen a’r Enw Da Nos Sadwrn, Mai 9 Llew Coch, Dinas Mawddwy Drysau’n agor 8.30pm Tocyn - £8 Holl elw’r noson at elusen Achub y Plant

12

Ystafell y Band, Harlech Nos Wener, Mai 15 am 7.30


NEWYDDION YSGOL ARDUDWY RGC Mae pump o fechgyn yr Ysgol wedi cael cynnig mynd i ymarfer hefo sgwad Rygbi Gogledd Cymru. Dyma’r pump: Cedri Jones, William McKenzie, Aron Moore, Jay Porter a Justin Williams. Petaent yn cael eu derbyn i’r sgwad, mae’n bosib y byddent yn cael mynd i’r Eidal y Pasg nesaf, i gystadlu am Gwpan Carwyn James. Adeiladu Dyfodol Cafodd disgyblion o B10 gipolwg ar y diwydiant peirianneg sifil yn ddiweddar pan ymwelon nhw â’r contractwr Jones Bros o Ruthun. Tra buon nhw yno, fe gawson nhw gymryd rhan mewn tair gweithgaredd yn ymwneud ag adeiladu. Roedden nhw yno mewn diwrnod agored, ynghyd â disgyblion o Ysgol y Creuddyn, a chawsant dro o gwmpas canolfan hyfforddi bwrpasol Jones Bros. Rhoddodd hyn gyfle iddyn nhw ddysgu mwy am sut i ddilyn gyrfa lwyddiannus mewn peirianneg sifil. Aeth 19 o ddisgyblion o B10 ar yr ymweliad ar ddau ddiwrnod gwahanol. Mae Jones Bros wedi recriwtio dwsinau o bobl ifanc dros nifer o ddegawdau – maen nhw’n cyflogi prentisiad ers 2010. Mae nifer da o’u prentisiaid bellach yn gweithio mewn swyddi mwy cyfrifol ar brosiectau uchel eu proffil ar draws y DU. Lab Mewn Lori Cafodd disgyblion eu gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgaredd gwyddonol o’r enw ‘Lab Mewn Lori’. Daeth lori i fuarth yr ysgol gyda thri labordy bach ynddi ynghyd â thri gwyddonydd o’r Athrofa Ffiseg (IOP). Gwelwyd tair agwedd wahanol o wyddoniaeth yn y labordai, gyda’r ffocws ar Ffiseg a’r defnydd o Ffiseg yn ein byd. Canolbwyntiai’r labordy cyntaf ar y defnydd o Ffiseg mewn meddygaeth. Dangosodd y gwyddonydd sut mae opteg ac opteg ffibrau yn cael eu defnyddio yn ein byd, o’r defnydd mewn band llydan i endosgopi mewn ysbytai. Mathenogi Daeth pump o staff Techniquest Glyndŵr at B7 a B8 yn ddiweddar. Sesiynau i wella sgiliau gwyddoniaeth, rhesymu a mathemateg oeddent. Bu i rai o’r disgyblion gymryd rhan mewn gweithgaredd ymchwil seicoleg yn rhoi cymorth i fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith tîm, meddwl ochrol, datrys problemau a sgiliau llythrennedd gwyddonol. Cawsant flas ar fyd ymchwil gwyddonol go-

iawn drwy gynllunio eu harbrofion eu hunain, profi eu damcaniaethau eu hunain a chyfrannu at ymchwil gwyddonol ddilys. Ffair Basg Fel rhan o’r cwrs Sgiliau Hanfodol, Gweithio Gydag Eraill, bu disgyblion B10 yn gweithio’n galed yn trefnu Ffair Basg. Yn ystod y gwaith trefnu, roedd y disgyblion yn rhannu’n grwpiau a phenderfynu ar gadeirydd ac ysgrifennydd ar gyfer bob grŵp. Byddai cadeiryddion pob grŵp wedyn yn cyfarfod bob wythnos fel Pwyllgor y Ffair Basg er mwyn trafod gweithgareddau’r wythnos honno, a gwneud penderfyniadau fel pa elusen i gasglu tuag ati. Ar ôl gwneud hyn roedd rhaid creu gêm er mwyn casglu arian yn ystod y ffair. Agorwyd y noson gan y grŵp dawnsio disco o Harlech, Gravity, ynghyd â Jake Threadgill. Cafwyd llawer o hwyl a bu cystadlu brwd. Canlyniad yr holl weithgareddau oedd codi £1,800; £600 yr un i’r dewis elusennau eleni, sef Cymdeithas MS, Tŷ Gobaith a Thŷ Ronald McDonald. Hoffai Mr Gareth Williams, eu tiwtor, ddiolch i ddisgyblion B10 am eu gwaith caled. Ers dechrau ar drefnu Ffair Basg dair blynedd yn ôl, mae’r cyfansymiau a godwyd wedi cynyddu bob tro: o £700 i £1,000 i £1,800 eleni. Daeth Terry Williams, fu’n rhedeg Marathon Llundain eleni, ac sydd wedi casglu £12,000 i’r Gymdeithas MS ei hun, i dderbyn cyfraniad yr Ysgol (£600).

seboni o 9.00 tan 1.30; yn golchi ceir y cyhoedd a’r staff. Roedd hi’n braf gweld nifer o’r gymuned wedi dod i’w cefnogi ac i roi cyfraniadau hael – mwy na’r pris gofyn. Da iawn, hogia! Mwy at Achosion Da Cyflwyodd Elin Jones a Rosalynd Blow o’r Cyngor Ysgol siec o £300 i Elwyn Jones ac Enid Jones o’r Samariaid. Trwynau Coch – casglwyd £362 trwy gyfuniad o ddiwrnod gwisg hamdden, pobi a gwerthu cacennau a stondin nwyddau.

Chwaraeon Mewn sesiwn ôl-ysgol ddiweddar cafodd genethod B7 gêm bêl-rwyd gyfeillgar. Chwaraeon nhw’n dda iawn yn erbyn Ysgol y Moelwyn. Erbyn diwedd yr hanner cyntaf roedd Ysgol Ardudwy ar y blaen o 5-2. Ar ddiwedd yr ail hanner roedd y sgôr derfynol yn 13-4 i Ardudwy. Dyma’r tîm: Cara Evans; Cêt Gwilym; Llio Henshaw; Elin Ann; Elin McKenzie; Ella Papirnyk; Iona Scott; Cerys Sharp; Hannah Waters; Beca Williams ac Elan Williams. Cafodd Rebecca Williams, B7, ei dewis i sgwad pêl-droed merched Cymru.

Dartiau Fel rhan o’u cwrs BTEC Chwaraeon, roedd gofyn i ddisgyblion B10 drefnu digwyddiad chwaraeon. Oherwydd ei fod yn cyd-daro â’r Ffair Basg, gwelwyd cyfle i gasglu arian tuag ati. Penderfynwyd cynnal cystadleuaeth ddartiau ar gyfer CA3 a CA4 (a’r athrawon hefyd). Fel ym mhob cystadleuaeth, dim ond un enillydd sydd. Y tro hwn, yn CA3, Llio Henshaw gurodd Tomos Jones, ac yn CA4, Jamie Wynne drechodd Meilir Edwards. (Wnawn ni ddim sôn am bencampwr y staff!) Golchi Ceir Gweithgraedd arall a gyfrannodd at gyfanswm y Ffair Basg oedd y bore o olchi ceir. Bu pedwar disgybl wrthi’n ddyfal yn gweddnewid pob cerbyd er gwell. Bu Gwilym Poultney, Corey Moore, Cemlyn Griffiths a Nathan Knight wrthi’n

13


Gŵyl Roc Ardal Harlech ac Ardudwy

DYCHMYGION Beth mae pawb yn ei wneud ar yr un adeg? Mynd yn hen. Beth aiff i fyny yn wyn ac i lawr yn felyn? Ŵy Beth rêd yn gynt ar ôl torri ei phen? Ffos Cnoc, cnoc yn y coed, esgid haearn am ei throed? Bwyell Beth ddalith ddafad heb redeg dim? Miaren Beth sydd yn yr afon ar le sych [ar les ych]? Dŵr Beth aiff yn fwy wrth ei naddu? Twll clicied Beth sydd â’i ben ym mhob tŷ? Llwybr Beth sydd a’i ddau ben yn y dŵr a’i ganol yn sych? Pont Pwy laddodd un rhan o bedair o drigolion y byd? Cain Beth aiff oddi yma i Lundain a’i hwyneb tuag adref? Pedol Pam mae’r fuwch yn brefu? Am na fedr hi siarad Beth sydd yn ddu fel y frân ac yn wyn fel yr eira? Pioden Beth sydd yn debyg i ddyn ar gefn ceffyl? Dyn arall ar gefn ceffyl Sut mae O yn debyg i ynys? Am ei fod yng nghanol y môr Ym mha fis y bydd y merched yn siarad leiaf? Ym mis Chwefror

Llais Ardudwy Mae ôl-rifynnau Llais Ardudwy i’w gweld ar y we. Cyfeiriad y safle yw: http://issuu.com/llaisardudwy/docs

14

Ymunwch â ni yng Ngŵyl Roc Ardudwy a gynhelir ar y 13eg o Fehefin ar dir ‘Hamdden Harlech ac Ardudwy’. Mae’r giatiau’n agor am 2.00 y prynhawn gyda Batala Bermo yn cychwyn yr ŵyl. Trwy’r dydd bydd amrywiaeth o fandiau gwreiddiol Cymreig, a bandiau ‘covers’ lleol yn chwarae sef Swnami, Ratz Alley, Jambyls, Old Steel Spurs, Session, Strapless a Mojo Skiffle yn ogystal ag artistiaid eraill, a DJ yn cynnal y dydd. Bydd yna amrywiaeth o stondinau bwyd, gan gynnwys mochyn rhost, a bydd Gwesty Cadwgan yn rhedeg y bar. Bydd hefyd amryw o stondinau gan fusnesau lleol a gweithdai - felly bydd rhywbeth i bawb o bob oed. Bydd tîm diogelwch ar y safle, gyda phob mynediad wedi ei gau heblaw am y brif fynedfa. Bydd yna hefyd dîm cymorth cyntaf. Mae tocynnau ar werth yn nerbynfa Hamdden Harlech ac Ardudwy, a gan nifer o fusnesau lleol: HARLECH Swyddfa’r Post, Seasons & Reasons a Castle Hair Studio; DYFFRYN ARDUDWY Gwesty Cadwgan a Siop Barbwr Webb’s; BERMO Luv It; TALSARNAU Ship Aground; LLANBEDR Tŷ Mawr. Pris tocynnau £20 a £15 i blant rhwng 11 - 16 oed. Plant o dan 11 am ddim (efo oedolyn). Arian parod neu sieciau’n daladwy i ‘Gŵyl Roc Ardudwy ‘ yn unig os gwelwch yn dda. Mae gennym hefyd nifer o docynnau cyfyngedig i bobl bwysig i’r caffi a’r balconi am £35. Bydd unrhyw elw a wneir yn mynd tuag at gostau cynnal Hamdden Harlech ac Ardudwy, gan obeithio ei wneud yn ased cymunedol hunangynhaliol a llewyrchus. Yn ogystal fe ddylai’r digwyddiad fod o fudd i fusnesau’r ardal a’r economi leol. Gobeithiwn y daw’r ŵyl yn ddigwyddiad blynyddol. Ein gwefan yw www.rockardudwy.co.uk a gallwch ein dilyn ar Facebook. Diolch yn fawr i ‘MADE WITH ZEAL’ sy’n gyfrifol am ein marchnata, logos, posteri, adeiladu’n gwefan, ayyb. Edrychwn ymlaen at eich gweld ar y diwrnod. Ymholiadau i 01766 781324.

Aduniad Ysgol Ardudwy

Mynediad 1961 – ac unrhyw un arall hoffai ymuno â ni

9 Mai 2015 Ysgol Ardudwy 6.00 yh Clwb Golff Harlech 7.30 Bwffe £15.00

Ffoniwch: Olwen Jones ar 01650 531379 am fwy o fanylion.


H YS B YS E B I O N CYNLLUNIAU CAE DU Harlech, Gwynedd 01766 780239

Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a Thai Cymharwch ein prisiau drwy gysylltu ag: Eirian Lloyd Hughes 07921 088134 01341 421290

YSWIRIANT I BAWB

E B Richards Ffynnon Mair Llanbedr

01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math Toi gyda llechi, gosod brics, plastro, teilsio lloriau a waliau, gwaith coed ayyb.

Am hysbysebu yma? Telerau - £6 y mis neu £60 y flwyddyn [am 11 mis] Rhagor o wybodaeth gan Ann ar 01341 241297

Cefnog wch e in hysbyseb wyr

Ffoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297

Tafarn yr Eryrod Llanuwchllyn 01678 540278

Gosod stofiau llosgi coed Cofrestrwyd gyda HETAS

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol. Stoc yn cyrraedd yn aml.

Ar agor: Llun - Gwener 10.00 tan 15.00 Dydd Sadwrn 10.00 tan 13.00

Sgwâr Llew Glas

Bwyd Cartref Da Cinio Dydd Sul Dathliadau Arbennig Croeso i Deuluoedd

Llais Ardudwy

Tremadog, Gwynedd LL49 9RH www.pritchardgriffiths.co.uk 01766 512091 / 512998

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

GERALLT RHUN

JASON CLARKE

Bryn Dedwydd, Trawsfynydd LL41 4SW 01766 540681

g.rhun@btinternet.com

BWYTY SHIP AGROUND TALSARNAU

01766 780186 07909 843496

Pritchard & Griffiths Cyf.

drwy’r post Manylion gan: Mrs Gweneira Jones Alltgoch, Llanbedr 01341 241229 e-gopi pmostert56@gmail.com [50c y copi]

Tiwniwr Piano a Mân Drwsio

Phil Hughes Adeiladwr

Maesdre, 20 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth LL48 6BN 01766 770504

DAVID JONES

Cigydd, Bermo 01341 280436

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

GERAINT WILLIAMS Gwrachynys, Talsarnau

SAER COED Amcanbris am ddim. Gwarantir gwaith o safon.

Ffôn: 01766 780742/ 07769 713014

Ar agor bob nos dros yr haf 6.00 - 8.00 Dydd Sadwrn a Dydd Sul 12.00 - 9.00

Tacsi Dei Griffiths

Bwyd i’w fwyta tu allan 6.00 - 9.00 Rhif ffôn: 01766 770777 Bwyd da am bris rhesymol!

Sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl 15


100 o lefydd i’w gweld cyn marw Cyfrol gynhwysfawr sy’n sôn am 100 o lefydd yng Nghymru y mae’n rhaid i chi ymweld â nhw, yn ôl John Davies. Gyda lluniau lliw gan Marian Delyth, dyma lyfr sy’n rhoi cipolwg ar safleoedd hanesyddol fel Pentre Ifan a chastell Maenorbŷr; campau peirianyddol fel pontydd Menai a Phont Cysyllte, a chanolfannau twristaidd fel Canolfan y Dechnoleg Amgen a Phortmeirion. Adargraffiad. Fe ddylai pawb gael dau gopi o’r llyfr hwn. Un i’w arddangos ar y bwrdd coffi yn y stafell ffrynt, a’r llall i’w gadw ar sedd gefn y car er mwyn gallu pori ynddo wrth fynd ar daith drwy Gymru. Byddai’n rhaid i’r bwrdd coffi fod yn ddodrefnyn cydnerth gan fod hon yn gyfrol ac iddi gryn bwysau. Mae galw hefyd ar i’r rhai ohonom sy’n heneiddio ystyried symud yn bur sydyn os ydym yn bwriadu ymweld â’r cant (a mwy) o lefydd a gynhwysir rhwng y cloriau, cyn marw. Yn sicr, nid yw’n llyfr i’w ddarllen ar frys. O barch at y ddau awdur, rhaid mynd trwyddo’n ofalus. Wedi’r cwbwl, fe beryglodd Marian Delyth ei bywyd wrth fynd ati i dynnu’r lluniau. Yn y rhagair, mae’n sôn amdani hi a’i chamera yn llwyddo i ‘ennill ras can metr yn erbyn tarw blin’. Mewn tafarn yng Nghwm Clydach, lle roedd yn paratoi nodiadau ar gyfer y llyfr hwn, fe gyhuddwyd John Davies yntau o fod yn ysbïwr ar ran y llywodraeth. Mae’n amlwg, felly, fod y gwaith wedi magu cryn chwedloniaeth ymhell cyn iddo gael ei gyhoeddi. Fe ddywed John Davies mai ‘ffrwyth gwaith y ddynolryw’ yw’r hyn a ddethlir yn y llyfr yn hytrach na harddwch y wlad (er ei bod hi’n anorfod fod rhywfaint o hynny yma hefyd). Ôl ymdrech dyn ar

16

ddaear Cymru yw’r hyn a gawn. Fe’n cyflwynir i gromlechi, cestyll, eglwysi, capeli a thai, a rhoddir sylw dyledus yn yr un modd i’r diwydiannol, y morwrol a’r amaethyddol. Ceir yma naratif gyfoethog, fel y disgwyliech gan ein prif hanesydd. Fe helaethir cryn dipyn ar ein gwybodaeth am Gymru wrth ddarllen y llyfr. Yn wir, mae’r manionach hanesyddol a gyflwynir i ni cyn ddifyrred bob tamaid â’r ffeithiau pwysig. Drwy ddarllen y gyfrol hon y dysgais mai ar Forfa Conwy y chwaraewyd golff am y tro cyntaf yn ein gwlad. Ffaith sy’n achosi i John Davies ychwanegu’r sylw pigog, ‘ysywaeth, mae’r arfer wedi lledu.’ Yr un mor ddiddorol yw’r sylw am hoffter George III o sanau oedd yn cael eu gwau yn y Bala. Nhw yn unig a leddfai ei wynegon. Rwy’n siŵr mai problem fawr awdur yr ysgrifau oedd ceisio cyfyngu’r holl wybodaeth y dymunai ei rhannu â ni i ofod cymharol fyr. Wn i ddim a chafodd gyngor yn hyn o beth gan y tynnwr lluniau. Ond mae’n rhaid pwysleisio fod y ffotograffau yr un mor gyfoethog a gwerthfawr â’r naratif. Rhwng y gair a’r llun, ni all rywun ond troi’r tudalennau’n araf iawn. Fe gefais i fy ngwefreiddio, mae’n rhaid dweud, gan y lluniau ar dudalen 11 (Mynydd Parys), tudalen 153 (Pentre Ifan), tudalen 158 (Cyrion Tyddewi) a thudalen 199 (adlewyrchiad o Abaty Nedd). Ar bob tudalen fe ymdeimlir â rhyw wladgarwch cynnes. Er hynny, fe fyddai’r gyfrol ar ei hennill o gynnwys cyfeirnod grid a mynegai. Os bydd argraffiad arall, neu fersiwn Saesneg o’r llyfr, fe ddylid ystyried hynny. Dafydd Morgan Lewis Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.