2024 Prosbectws Israddedig - Met Caerdydd - Cymraeg

Page 1

Eich Prifddinas

dechreuadau newydd, uchelgeisiau mawreddog, breuddwydion mawr, dyheadau mawr, calonnau

mawr, croeso cynnes, mentoriaid ysbrydoledig, cysyniadau heriol a newid meddylfrydau, dyfalbarhad, penderfyniad, trawsnewid, syniadau gwych a dyfodol disglair, angerdd, mentro, rhyfeddu,

Prosbectws

Israddedigion 2024

chi.

Hoffwn eich croesawu i Brifysgol Metropolitan Caerdydd, ein prifysgol flaengar sy’n gweithio mewn partneriaeth â’n myfyrwyr i weddnewid bywydau ledled Cymru a’r byd tu hwnt.

Mae ein llwyddiant ni a’ch llwyddiant chi yn cael ei ysgogi gan addysg effaith uchel o’r radd flaenaf sy’n seiliedig ar ymchwil ac arloesedd sy’n torri tir newydd. Ein nod yw eich helpu i wireddu eich potensial llawn i wneud cyfraniadau eithriadol fel graddedigion i gymdeithas, yr economi a diwylliant, waeth o ba ran o’r byd rydych chi’n dod a ble fyddwch chi’n ymgartrefu ar ôl graddio.

Mae ein dull cydweithredol o weithio gyda phob myfyriwr yn pwysleisio maint dosbarthiadau bach, lefelau uchel o gyswllt dosbarth, addysgu gan staff cymwys iawn sy’n weithgar mewn gwaith ymchwil, a chyfleoedd helaeth i ennill profiad proffesiynol, rhyngwladol ac ymchwil gyda chymorth eich Tiwtor Personol, ein Gwasanaethau Myfyrwyr ag adnoddau da a’n campysau sy’n cynnig ymdeimlad gwirioneddol o gymuned.

Bydd ein hagwedd fentrus, ein cyfleusterau o’r radd flaenaf a’n partneriaethau â diwydiant, cyflogwyr a cholegau partner a sefydliadau ledled y byd yn rhoi’r profiad a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y brifysgol ac mewn bywyd yn fwy cyffredinol.

Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn ymdrechu i wella’n gyson a chyflawni’r canlyniadau sy’n troi ymdrech yn llwyddiant. Dyna pam y cawsom ein henwi’n Brifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2021

gan The Times Higher Education a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru

2021 The Times a The Sunday Times.

Byddwch yn astudio pynciau a fydd yn newid eich ffordd o feddwl am y byd. Byddwch yn cwrdd â phobl a ddaw’n ffrindiau i chi am oes. Byddwn yn eich herio chi drwy eich cyflwyno i syniadau newydd a dadleuol a byddwn yn meithrin eich cymhwysedd a’ch hyder i archwilio ffyrdd newydd o feddwl a chymryd rhan mewn trafodaethau a dadleuon ar sail tystiolaeth. Byddwch yn datblygu profiad a rhwydweithiau sy’n helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r meddylfryd Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuraidd sy’n rhoi manteision Met Caerdydd i bob un o’r graddedigion.

Ategir y dull hwn gan dystiolaeth fod ein perfformiad o ran canlyniadau graddedigion yn gwella, gan gael ein henwi’n brifysgol orau Cymru yn yr Arolwg Canlyniadau Graddedigion diweddaraf (2022) sy’n mesur canran y myfyrwyr mewn gwaith neu’n astudio 15 mis ar ôl graddio.

Rydym ni’n canolbwyntio ar eich lles a’ch ffyniant chi a’n planed yn y dyfodol. Ni yw’r brifysgol orau yn y DU yng Nghynghrair Werdd y Bobl a’r Blaned 2022/23 ac rydym yn y 10% uchaf o brifysgolion y DU yn gyson ar gyfer busnesau newydd a sefydlir gan raddedigion.

Rwy’n hynod falch eich bod yn ystyried ymuno â ni yma ym Met Caerdydd.

Bydd y prosbectws hwn yn rhoi trosolwg da i chi o’n prifysgol wych, ac yn dangos i chi sut y gall Met Caerdydd eich grymuso i gyflawni o’ch gorau.

Prosbectws Israddedigion 2024 | 1
Yr Athro Cara Aitchison, Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Croeso i’r brifddinas. Strydoedd anghyfarwydd sydd eisoes yn teimlo’n gartrefol. Wynebau newydd sy’n disgwyl i fod yn hen ffrindiau.

Croeso i galon goch danllyd y wlad hon, gwlad ein dyfodol. Lle o angerdd, o falchder...

2 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

...eich prifddinas chi.

Prosbectws Israddedigion 2024 | 3
Croeso i Met Caerdydd 06 Pam astudio gyda ni? 08 Caerdydd 14 Ein campysau a’n cyfleusterau 16 Llety a Bywyd mewn Neuaddau 20 Undeb y Myfyrwyr 22 Chwaraeon 26 Myfyrwyr Rhyngwladol 28 Gwasanaethau Cymorth, Gyrfaoedd ac Entrepreneuriaeth Ysgolion Academaidd a Chyrsiau Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd 32 Cyflwyniad 34 Cyfleusterau 36 Cyrsiau Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd 62 Cyflwyniad 64 Cyfleusterau 66 Cyrsiau Ysgol Reoli Caerdydd 88 Cyflwyniad 90 Cyfleusterau 92 Cyrsiau Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd 120 Cyflwyniad 122 Cyfleusterau 126 Cyrsiau Ysgol Dechnolegau Caerdydd 162 Cyflwyniad 164 Cyfleusterau 166 Cyrsiau 182 Derbyn a sut i wneud cais 184 Ffioedd dysgu, cyllid ac ysgoloriaethau 186 Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg 188 Astudio dramor 190 Cyfeiriadur cyrsiau 196 Diwrnodau Agored 4 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Prosbectws Israddedigion 2024 | 5

‘EDGE’ Met Caerdydd

Datblygu sgiliau Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuraidd

(‘EDGE’) yn eich gradd. Meithrin eich profiad, eich gwybodaeth, eich hyder a’ch gwydnwch ochr yn ochr â’ch gwybodaeth arbenigol am eich pwnc.

Cymuned

Elwa ar ddull cefnogol drwy ein cynllun tiwtor personol.

Costau Byw Myfyrwyr

Y ddinas fwyaf fforddiadwy i fyfyrwyr yn y DU*

*NatWest Student Living Index 2022

Pam astudio gyda ni?

Caerdydd – Ein Dinas, Eich Cartref

Cyflogadwyedd – y gorau yng Nghymru

O ran graddedigion sy’n cael gwaith neu’n dechrau astudiaethau pellach o fewn 15 mis i raddio.

96% - Arolwg diweddaraf o ganlyniadau graddedigion.

Mae’n cynnig y gorau o ddau fyd. Bywyd dinas gyda mannau gwyrdd, cefn gwlad ac arfordir o fewn tafliad carreg. Lle sy’n hawdd teithio o’i gwmpas, gyda phoblogaeth ffyniannus o fyfyrwyr, mae ein prifddinas yn lle gwych i’w alw’n ‘gartref’.

Gweler tudalennau 08-13

Teithio’r Byd

Ehangu eich gorwelion, datblygu eich sgiliau ac ennill profiadau newydd drwy astudio rhan o’ch gradd neu wirfoddoli dramor.

Gweler tudalen 188

Prifysgol Chwaraeon Cymru

Rydym ni’n cystadlu ar y lefel uchaf mewn chwaraeon prifysgol ac yn cynnig amgylchedd deuol gyrfa a pherfformiad chwaraeon achrededig i sicrhau eich bod yn cyflawni eich dyheadau academaidd a pherfformio.

Gweler tudalennau 22-25

Sicrwydd o Le mewn Neuadd

I bob myfyriwr blwyddyn gyntaf cymwys.

6 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Llety a Chymuned Bywyd Preswyl

Enillydd y wobr

‘Cymuned Myfyrwyr

Gorau’ yn Arolwg

Llety Myfyrwyr

Cenedlaethol 2019. Ar y rhestr fer yn 2022.

Gweler tudalennau 16-19

Prifysgol y Flwyddyn yng

Nghymru 2021

The Times & Sunday Times Good University Guide

Derbynnydd y Wobr Prifysgol Masnach Deg

Un o 25 sefydliad addysg uwch yn unig i ennill y statws hwn. Annog partneriaethau rhwng cynaliadwyedd, arlwyo, staff academaidd ac Undeb y Myfyrwyr.

Prifysgol arobryn.

Y brifysgol orau yn y DU o ran cynaliadwyedd

People and Planet 2022

Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2021

Gwobrau Times Higher Education

Prosbectws Israddedigion 2024 | 7
8 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

o ryfeddodau

Caerdydd – Ein dinas, eich cartref

Mae penderfynu ble i astudio’n golygu mwy na dim ond dewis y cwrs mwyaf priodol. Mae angen hefyd i chi ddewis ble rydych chi am fyw neu leoli eich hun ar gyfer blynyddoedd nesaf eich bywyd.

Dyma ein dinas - prifddinas Cymru. Yn llawn diwylliant, antur a chwaraeon. Bywyd nos, siopa, sin fwyd ryngwladol ffyniannus, mannau gwyrdd, dyfrffyrdd a mwy - oll wedi’u crynhoi mewn dinas sy’n hawdd teithio o’i chwmpas lle mae popeth yn gyfleus.

Os ydych chi’n byw’n lleol, neu’n ystyried dod atom o bell i astudio, rydym yn ffyddiog y byddwch am alw Caerdydd yn gartref.

Caerdydd yw’r ddinas fwyaf fforddiadwy i fyfyrwyr yn y DU.

NatWest Student Living Index 2022

Prosbectws Israddedigion 2024 | 9

Dinas i fyfyrwyr

Gyda phoblogaeth ffyniannus o fyfyrwyr, mae’r ardaloedd traddodiadol i fyfyrwyr yng Nghaerdydd ym maestrefi y Rhath a Cathays, lle ceir digonedd o gaffis, tafarnau, bariau a siopau i ddiwallu eich holl anghenion.

Yng nghanol y ddinas, mae tafarnau traddodiadol a bariau coctels a chwrw crefft ochr yn ochr â’r clybiau nos mwy sy’n cynnal nosweithiau thema wythnosol i fyfyrwyr, yn ogystal â lleoliadau unigryw fel y DEPOT –man gwreiddiol a sefydlwyd gan un o raddedigion marchnata Met Caerdydd, Nick Saunders – sy’n gyrchfan heb ei hail ar gyfer bwyd stryd, diod, digwyddiadau byw a’r BINGO LINGO enwog!

O ran bwyd, gall Caerdydd gynnig popeth o’r cadwyni adnabyddus i sîn fwyd annibynnol ffyniannus ac arobryn, gyda digwyddiadau a gwyliau rheolaidd mewn lleoliadau unigryw ledled y ddinas.

I bobl sy’n hoff o gerddoriaeth fyw, mae Caerdydd yn gartref i amrywiaeth o leoliadau annibynnol llai fel Clwb Ifor Bach a’r Tramshed, gydag Arena Ryngwladol Caerdydd, Stadiwm Principality a hyd yn oed Castell Caerdydd yn rhoi llwyfan i fandiau ac artistiaid mawr.

Mae Neuadd Dewi Sant yng nghanol y ddinas a The Glee Club ym Mae Caerdydd yn lleoliadau gwych ar gyfer comedi byw, ac os mai ffilm sy’n mynd â’ch bryd, mae Caerdydd yn gartref i bedwar sinema aml-sgrin, a llond llaw o sinemâu dros dro sy’n cynnal dangosiadau mewn lleoliadau annhebygol megis Castell Caerdydd a hyd yn oed toeon ac isloriau o gwmpas y ddinas.

I’r rhai sy’n hoff o ddrama a sioeau cerdd, mae Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd yn lleoliad theatr a chelfyddydau byd-enwog, ac mae Canolfan y Celfyddydau Chapter yn Nhreganna yn gartref i sinema, theatr gyfoes, bar a chaffi.

Dinas ar gyfer chwaraeon Mae gan Gaerdydd dreftadaeth chwaraeon anhygoel. Gallech dreulio eich penwythnosau yma yn gwylio pêl-droed yn stadiwm Dinas Caerdydd, criced rhyngwladol yng Ngerddi Sophia, hoci iâ gyda’r Cardiff Devils ym Mae Caerdydd ac, wrth gwrs, rygbi rhyngwladol yn Stadiwm Principality. Os ydych yn hoff o ddigwyddiadau torfol neu chwaraeon anghystadleuol, mae 10k Caerdydd a Hanner Marathon Caerdydd yn cael eu cynnal bob blwyddyn, gyda marathon llawn dafliad carreg i ffwrdd yng Nghasnewydd.

Sganiwch y cod QR i wylio ein

fideo Bywyd yng

Nghaerdydd

“Mae gan Gaerdydd gymaint i’w gynnig - dinas diwylliant, amrywiaeth a ‘chippy lane’!
A dweud y gwir, mae wedi bod yn wych dod i adnabod Caerdydd, gweld y golygfeydd a phrofi ffordd o fyw’r brifddinas.”
10 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Aaron Roberts Gwaith Cymdeithasol

Bute mor fawr a mor hardd.”

Dylunio Ffasiwn

Antur – Yn y ddinas a thu hwnt

I’r rhai sy’n chwilio am antur yn y ddinas, mae digon o opsiynau dan do, gan gynnwys dringo, rafftio dŵr gwyn, sglefrio iâ neu nofio mewn pwll maint Olympaidd.

Caerdydd yw un o’r dinasoedd gorau yn y DU o ran mynediad rhwydd i’r awyr agored hefyd. Gallwch fwynhau syrffio, arforgampau neu dorheulo ar draethau heb eu hail, neu fynd i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i feicio, cerdded neu farchogaeth ceffylau – i gyd o fewn awr o daith o ganol y ddinas.

“Fy hoff beth i am Gaerdydd yw’r parciau. Mae Parc y Rhath yn berl, ac mae Parc
Prosbectws Israddedigion 2024 | 11

Teithio i Gaerdydd ac yn y ddinas

Fel prifddinas Cymru, mae

gan Gaerdydd gysylltiadau

trafnidiaeth da ac mae’n

hawdd cyrraedd yma, o ble bynnag y byddwch yn dod. Bangor

Sut i ddod o hyd i ni

CAMPWS CYNCOED

Cod post ar gyfer GPS: CF23 6XD

O’r A48 Rhodfa’r Dwyrain, teithiwch ar hyd Ffordd Llanedeyrn i Ffordd Cyncoed.

CAMPWS LLANDAF

Cod post ar gyfer GPS: CF5 2YB

Mae’r campws ar Rodfa’r Gorllewin (A48).

Yn y car

Mae traffordd yr M4 o fewn cyrraedd hawdd i ganol y ddinas, gan roi mynediad rhwydd i Lundain a De-ddwyrain

Lloegr neu’r M5 i Ganolbarth Lloegr, De-orllewin Lloegr a Gogledd Lloegr.

Ar y trên

Mae teithio ar y rheilffordd yr un mor hawdd. Mae rhwydwaith rheilffyrdd da yn cysylltu Caerdydd â phob rhan o Gymru. Mae gwasanaethau cyflym, dyddiol i ddinasoedd mawr eraill a dim ond taith o ddwy awr yw hi i Lundain ar y gwasanaeth Inter-City.

Y brif orsaf ar gyfer gwasanaethau Inter-City yw Caerdydd Canolog yng nghanol y ddinas. Mae tua 2.5 milltir o’r campysau yn Llandaf a Chyncoed.

Mae cyfarwyddiadau manylach

i’w cael yma:

www.metcaerdydd.ac.uk/dewchohydini

2
3
Bryste
munud Brighton 3 awr
Caerfyrddin 1 awr
2 awr
munud Caerloyw 1 awr 20 munud Hull 4 awr 10 munud Leeds 3 awr 50 munud Lerpwl 3 awr 50 munud Llundain 2 awr 30 munud Manceinion 3 awr
munud Newcastle upon Tyne 6
Nottingham 2 awr
munud Norwich 4
4 awr 20 munud Birmingham
awr 30 munud Bournemouth
awr
50
30 munud
20 munud Caerwysg
30
40
awr
40
awr 40 munud Casnewydd 20 munud
Rhydychen 2 awr Plymouth 2 awr 20 munud Southampton 2 awr 10 munud Abertawe 50 munud
12 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Teithio o gwmpas

Noder: Nid oes cyfleusterau parcio i fyfyrwyr preswyl ar unrhyw gampws, felly’r ffordd hawsaf i deithio o gwmpas Caerdydd yw ar droed, ar feic (mae cyfleusterau cadw beiciau dan glo ar bob campws) neu drwy ddefnyddio’r Gwasanaeth Met Rider.

Cynllun Beiciau OVO Bob blwyddyn, rydym yn sicrhau aelodaeth beiciau OVO AM DDIM i chi archwilio’r ddinas neu deithio i’r campws ac, yn 2022, fe wnaethom sicrhau 5,000 aelodaeth am ddim. Unrhyw bryd y byddwch chi’n defnyddio beic OVO, mae eich 30 munud cyntaf AM DDIM, waeth faint o weithiau’r dydd y byddwch chi’n ei ddefnyddio, gydol y flwyddyn. Mae hon yn ffordd wych ac ecogyfeillgar o archwilio’r ddinas a theithio i ddarlithoedd.

Mae gennym orsafoedd beicio OVO ar ein campysau yn Llandaf a Chyncoed.

Rhagor o wybodaeth: www.nextbike.co.uk

Met Rider Caerdydd

Mewn partneriaeth â Bws Caerdydd a Traveline Cymru, gallwn gynnig cynigion gwych i chi ar gyfer teithio o gwmpas dinas Caerdydd ar y bws.

Mae ar gael i bob myfyriwr, ond os ydych chi rhwng 16-21 oed, gallwch wneud cais am Fy Ngherdyn Teithio gan Lywodraeth Cymru i gael gostyngiad o hyd at 30% ar bob taith ar fws ledled Cymru hyd at eich pen-blwydd yn 22 oed! Mae’n gyflym ac yn hawdd gwneud cais; ewch i wefan Fy Ngherdyn Teithio.

Mae angen cyfeiriad preswyl yng Nghymru arnoch chi, ond y newyddion da yw bod cyfeiriad eich neuadd neu gyfeiriad eich landlord yn cyfrif!

Mae cymaint o opsiynau, gan gynnwys pasys dyddiol, wythnosol, tymor a blynyddol; y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dewis yr opsiwn sy’n cyfateb i’ch anghenion chi. Mae holl docynnau MetRider yn cynnwys teithio AM DDIM ac ANGHYFYNGEDIG ar draws holl fflyd Bws Caerdydd hefyd.

Campws Plas Gwyn Cyfarwyddiadau rhwng Campws Llandaf a Champws Cyncoed LLANDAF Cwrt Liberty Tŷ Liberty
Prosbectws Israddedigion 2024 | 13
Cwrt Fictoria

Campws Cyncoed

Mae’r campws, sy’n gartref i Ysgol Addysg a Pholisi

Cymdeithasol Caerdydd a rhan o Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd

Caerdydd (Chwaraeon), wedi’i leoli’n agos at ardal fywiog y Rhath, a thaith fer ar fws i ganol y ddinas.

Mae’r campws yn cynnig cyfleusterau chwaraeon helaeth o’r radd flaenaf i wella perfformiad a datblygiad academaidd pob myfyriwr. Mae yna fannau addysgu penodol ar gyfer ein graddau Addysg, Hyfforddiant Athrawon a’r Dyniaethau hefyd, gyda buddsoddiad mewn cyfleusterau newydd ar gyfer graddau mewn Troseddeg a Phlismona.

Yn ogystal â llety ar y safle, mae’r campws yn gartref i Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd ac mae’n cynnig canolfan bwrpasol ar y campws, siop ar y safle, bariau coffi a llefydd niferus i fwyta a chymdeithasu gyda ffrindiau. www.metcaerdydd.ac.uk/cyncoed

Sganiwch y Cod QR i ddod o hyd i ni 14 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Ein campysau a’n cyfleusterau

Campws Llandaf

Cartref Ysgol Gelf a Dylunio

Caerdydd, Ysgol Reoli

Caerdydd, rhan o Ysgol

Chwaraeon a Gwyddorau

Iechyd Caerdydd ac Ysgol

Dechnolegau Caerdydd.

Campws prysur sydd wedi elwa ar filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad diweddar mewn mannau dysgu, addysgu a chymdeithasu; gyda chyfleusterau chwaraeon rhagorol, siop ar y safle, caffis a llefydd i fwyta.

Mae’r campws tua dwy filltir o ganol y ddinas, wedi’i amgylchynu gan sawl parc, caeau chwarae a phentref hanesyddol Llandaf. Mae campws llety Plas Gwyn gerllaw hefyd.

www.metcaerdydd.ac.uk/llandaf

Prosbectws Israddedigion 2024 | 15

Cymuned myfyrwyr gorau yn Arolwg Llety Myfyrwyr Cenedlaethol 2019. Ar y rhestr fer yn 2022

Llety a Bywyd mewn Neuaddau

Prifddinas dod o hyd i gartref, teimlo croeso gan y rhai o’ch cwmpas, drysau agored a meddyliau agored. Prifddinas cyfeillgarwch ar draws coridor, llaeth a dau siwgr, ehangu gorwelion a rhoi cynnig ar fwydydd newydd. Prifddinas nosweithiau mentrus allan, o nosweithiau difyr i mewn. Dyma brifddinas byw eich ffordd chi.

Eich cartref oddi cartref

Mae symud oddi cartref am y tro cyntaf yn gam mawr ac mae dod o hyd i’ch cartref oddi cartref yn allweddol i sicrhau eich bod yn cael amser llwyddiannus a phleserus yn y brifysgol. Mae ein tîm llety pwrpasol wrth law i helpu – o’r eiliad rydych chi’n gwneud cais, drwy gydol eich amser gyda ni.

Yr hyn rydym yn ei gynnig

Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig bron i 1,000 o ystafelloedd gwely astudio yng nghampysau Cyncoed a Phlas Gwyn. Hefyd, rydym ni’n neilltuo ychydig dros 650 o ystafelloedd en-suite i fyfyrwyr drwy gytundebau enwebu gyda neuaddau preifat ger y campysau.

Faint mae’n ei gostio*

PLAS GWYN

(Addas ar gyfer myfyrwyr Llandaf)

£130-140 yr wythnos* (hunanarlwyo)

CYNCOED

(Addas ar gyfer myfyrwyr Cyncoed)

£182 - £197 yr wythnos* (wedi’i arlwyo)

£115-140 yr wythnos* (hunanarlwyo)

*Ffioedd yn seiliedig ar gontract 40 wythnos ac yn gywir adeg argraffu (Mawrth 2023).

Mae gwybodaeth lawn am ffioedd a’r cymorth ariannol a allai fod ar gael i helpu gyda chostau llety ar gael ar ein gwefan: www.metcaerdydd.ac.uk/ffioeddllety

Enillydd
16 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Gwneud cais am le mewn neuadd neu lety preifat

Unwaith y byddwch wedi penderfynu arnom ni fel eich dewis cyntaf neu eich ail ddewis, bydd angen i chi wneud cais ar-lein am lety mewn neuadd o ddechrau mis Ebrill yn: www.metcaerdydd.ac.uk/llety

Os byddai’n well gennych lety mewn

tŷ preifat, mae gan y Swyddfa Llety Gofrestr o Landlordiaid sy’n cynnwys landlordiaid sy’n bodloni’r holl ofynion deddfwriaethol i osod eu tai. Gallwn roi cyngor ar gontractau a beth i chwilio amdano hefyd.

Sicrwydd o le mewn neuadd

Byddwn yn sicrhau lle mewn llety a gymeradwyir gan y brifysgol os ydych chi’n gwneud cais i fod yn fyfyriwr llawn amser ym Met Caerdydd am y tro cyntaf.

I fodloni’r meini prawf ar gyfer sicrwydd o lety:

• Nid ydych wedi bod yn fyfyriwr llawn amser ym Met Caerdydd erioed o’r blaen

• Rydych wedi derbyn cynnig am le ym Met Caerdydd ac wedi ein dewis ni fel eich dewis cyntaf drwy UCAS

• Rydych wedi cyflwyno eich cais am le mewn neuadd ar-lein i ni erbyn 31 Mai

• Rydych angen y llety ar gyfer y cyfnod gosod llawn fel deiliad unigol

• Rydych yn derbyn ein cynnig o lety, a thalu eich blaendal i ni, o fewn saith diwrnod i ni gynnig y llety i chi

• Nid ydych yn fyfyriwr “lleol” fel y nodir yn ein Polisi Dyrannu Neuaddau

• Rhaid sicrhau bod gennym lety addas i ddiwallu eich anghenion

Mae telerau llawn a gwybodaeth bellach ar gael ar ein tudalennau gwe.

Oes gennych chi gwestiwn?

Sgwrs fyw drwy ein tudalennau gwe

Ffôn: 029 2041 6188 neu 6189

E-bost: accomm@cardiffmet.ac.uk

Facebook: /cardiffmethallshousing

Ewch ar daith 360 gradd o gwmpas ein Llety drwy sganio’r cod QR

Prosbectws Israddedigion 2024 | 17

Ein nod yw sicrhau mai byw mewn neuadd yw un o brofiadau gorau eich bywyd coleg ac, i’ch helpu

i gael profiad bythgofiadwy, mae gennym raglen Bywyd Preswyl o fri.

Wrth wneud eich cais, gallwch gyflwyno eich dewisiadau o ran pa fath o lety yr hoffech fyw ynddo hefyd.

Er enghraifft, os ydych chi’n siarad

Cymraeg ac eisiau byw mewn llety

gyda myfyrwyr eraill sy’n siarad

Cymraeg, rydym yn gwneud ein gorau

i ddarparu ar gyfer y ceisiadau hyn.

Fel arall, efallai y byddai’n well gennych

fod mewn fflat di-alcohol neu dawel, ac rydym yn gwneud ein gorau i ddarparu ar gyfer y ceisiadau hyn yn seiliedig ar y galw.

I gael gwybod mwy am sut beth yw bywyd mewn neuaddau, ewch i’n gwefan blogiau yn: www.metcaerdydd.ac.uk/blogiau

Bywyd mewn Neuaddau
“Mae bywyd mewn neuadd yn rhan bwysig o’r profiad Prifysgol, ac mae’n ffordd wych o gyfarfod â chymaint o bobl newydd a gwahanol –rwyf wedi caru pob munud.”
18 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Gemma Carolan Myfyriwr neuadd a warden

“Mae ein calendr blwyddyn gyfan o ddigwyddiadau

wythnosol wyneb yn

wyneb a rhithwir ar gyfer

myfyrwyr blwyddyn

gyntaf yn neuaddau Met

Caerdydd. Rydym ni wedi rhoi tocynnau i’n

myfyrwyr fynd i gemau

rygbi Cymru, sglefrio

iâ, premieres ffilm, ioga, nosweithiau pizza, clybiau

llyfrau, twrnameintiau FIFA, torri gwallt, gwibdeithiau a llu o ddigwyddiadau

cymdeithasol eraill, gan gynnwys gwirfoddoli a digwyddiadau rhwydweithio.

A’r peth gorau yw bod y cyfan AM DDIM!”

Prosbectws Israddedigion 2024 | 19

perthyn

20 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

“Rydym ni am i chi gael y profiad myfyriwr gorau posib ym Met Caerdydd gan mai ni, fel chi, yw Undeb y Myfyrwyr! Ein nod yw cynrychioli eich barn a rhoi llawer o gyfleoedd i chi wneud y gorau o’ch amser yn y brifysgol. Fel myfyriwr Met Caerdydd, rydych chi’n dod yn aelod o Undeb y Myfyrwyr yn awtomatig, felly mae gennych fynediad llawn at bopeth sydd gennym ni i’w gynnig. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, o sbarduno newid cadarnhaol drwy ein strwythur

Cynrychiolaeth Undeb y Myfyrwyr, i ymuno â chymdeithas neu glwb chwaraeon.”

I ddysgu mwy am

fywyd fel myfyriwr ym

Met Caerdydd, ewch i

www.metcaerdydd.ac.uk/ bywydmyfyriwr

www.cardiffmetsu.co.uk

Sganiwch y cod QR i wylio ein fideo a darganfod mwy

Undeb y Myfyrwyr Venky Gonavaram Llywydd Undeb y Myfyrwyr Ar y Cyfryngau Cymdeithasol
Prosbectws Israddedigion 2024 | 21
Dilynwch

Prifysgol Chwaraeon Cymru

Dyma brifddinas boreau

cynnar. Taflenni tîm a dosbarthiadau meistr tactegol. Prifddinas gornest yn y gôl, sgorio o dri deg llath, plymio

i’r pen dwfn. Ennill yn y funud olaf, cystadleuaeth

o’r radd flaenaf, brwydro i gyrraedd y llinell gais un fodfedd wych ar y tro.

Prifddinas rhagoriaeth

chwaraeon, tîm sy’n fwy na’r unigolion sydd ynddo, gyda chalonnau mawr yn curo fel un.

Chwaraeon i bawb

Ym Met Caerdydd, rydym ni’n cynnig cyfle i bob myfyriwr ddefnyddio cyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf a chyfleoedd i gymryd rhan mewn pob math o weithgareddau chwaraeon a hamdden.

Cyfleusterau

Mae’r Brifysgol yn cynnig amgylchedd chwaraeon a fydd yn eich cynorthwyo i ragori ac i berfformio ar y lefel uchaf yn eich dewis o chwaraeon, neu i gadw’n heini a chwarae i fwynhau. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys arena chwaraeon amlbwrpas newydd, cyfleusterau cryfder, cyflyru a gwyddor chwaraeon sy’n torri tir newydd, canolfannau ffitrwydd cwbl gynhwysol, pwll nofio, canolfan tennis dan do a’r caeau diweddaraf ar gyfer pêl-droed, rygbi a hoci. Rydym yn gartref i’r Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol hefyd.

Iechyd a Ffitrwydd

Os ydych chi am gadw’n heini, gallwch wneud hynny drwy ymuno â Met Active – y cynllun Aelodaeth Chwaraeon a Ffitrwydd. Mae tîm ymroddedig yn trefnu gweithgareddau amrywiol ar gyfer pob lefel, gan gynnwys dechreuwyr sydd eisiau gwneud dim mwy na chadw’n heini a chael tipyn o hwyl. Mae dosbarthiadau ffitrwydd yn cynnwys bocsiomarfer, pilates, bŵtcamp a chodi pwysau.

Chwaraeon Clwb

O rygbi rheolau Awstralia i syrffio, o fadminton i ddawnsio cheer, mae amrywiaeth o weithgareddau hamdden i ddiwallu anghenion pob myfyriwr, gan sicrhau cyfleoedd cymdeithasol, iach ac egnïol i bawb gymryd rhan.

22 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Bob blwyddyn, mae timau prifysgol ac unigolion yn cystadlu yng nghynghreiriau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS), gan gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon, lle caiff myfyrwyr gyfle i gynrychioli Met Caerdydd yn erbyn Prifysgolion a Cholegau eraill bob wythnos. Mae gan Brifysgol Met Caerdydd dros 50 o dimau cystadleuol yn cymryd rhan yn BUCS yn wythnosol, felly mae digon o gyfle i wireddu eich uchelgeisiau cystadleuol.

Felly, os ydych am gymryd rhan mewn chwaraeon i gystadlu yn erbyn eraill a gwella eich perfformiad, neu am gymdeithasu, gwneud ffrindiau newydd a gofalu am eich lles corfforol a meddyliol eich hun, mae gennym gyfleoedd a gweithgareddau i ddiwallu eich anghenion.

Mae manylion gweithgareddau chwaraeon a hamdden i fyfyrwyr ar gael yn:

www.metcaerdydd.ac.uk/chwaraeon www.cardiffmetsu.co.uk/sports

Aelodaeth chwaraeon a ffitrwydd am ddim i bob myfyriwr israddedig llawn amser ym Met Caerdydd.

Prosbectws Israddedigion 2024 | 23

Chwaraeon Perfformio

Mae Met Caerdydd wedi ennill ei phlwyf fel un o’r prifysgolion mwyaf blaenllaw ar gyfer chwaraeon myfyrwyr yn y DU. Rydym ni’n cynnig amgylchedd deuol gyrfa a pherfformiad chwaraeon achrededig TASS unigryw, sy’n canolbwyntio ar sicrhau eich bod yn cyflawni eich dyheadau chwaraeon ac academaidd, gan osod y sylfeini ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Mae gennym ni nifer o raglenni perfformio sy’n cynnig amgylchedd elitaidd i’n myfyrwyr sy’n perfformio orau. Cefnogir y rhaglenni hyn gan dîm ymroddedig o staff sy’n darparu hyfforddiant o ansawdd uchel a nifer

o wasanaethau perfformiad, gan gynnwys cryfder a chyflyru, ffisio, dadansoddi perfformiad a gwasanaethau ffordd o fyw perfformiad.

Ysgoloriaethau Chwaraeon

Mae ysgoloriaethau ar gael i’r rhai sy’n bodloni meini prawf penodol. Am fanylion llawn, y meini prawf ac i wneud cais, ewch i: www.metcaerdydd.ac.uk/ysgoloriaethau

I ddysgu mwy, ewch i: www.metcaerdydd.ac.uk/ chwaraeonperfformio

@CMetSUSport

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am lwyddiant ei myfyrwyr chwaraeon ddoe a heddiw, a hynny ar lefel prifysgol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol

24 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Dilynwch ein timau ar Instagram a Twitter a sganiwch yma i wylio Cardiff Met Sport TV ar YouTube.

Alex Dombrandt

Clwb Rygbi Met Caerdydd

Chwaraeon ac Addysg GorfforolBSc (Anrh) a Chwaraewr Rygbi’r

Undeb i Harlequins a Lloegr

Rhaglenni Perfformiad

• Athletau

• Pêl-fasged Menywod

• Pêl-fasged Cadair Olwyn

• Criced Dynion (Canolfan Ragoriaeth Criced Prifysgol Caerdydd, UCCE)

• Pêl-droed Dynion

• Pêl-droed Menywod

• Hoci Dynion

• Hoci Menywod

• Pêl-rwyd

• Rygbi’r Undeb Dynion

• Rygbi’r Undeb Menywod

• Triathlon (Canolfan Perfformiad Triathlon Genedlaethol Cymru, NTPCW)

“Mae fy amser yn y brifysgol wedi bod yn wych. Fyddwn i ddim lle rydw i heddiw heb y datblygiad hwnnw. Alla i ddim canmol ddigon ar y rhaglen rygbi.”
Prosbectws Israddedigion 2024 | 25

Myfyrwyr Rhyngwladol

Mae Met Caerdydd yn gartref i fyfyrwyr o bob cwr o’r byd, ac mae ganddi enw da sefydledig am gymorth i fyfyrwyr

rhyngwladol. Mae myfyrwyr rhyngwladol sy’n astudio yn y Brifysgol yn elwa ar bopeth sydd gan Gaerdydd, Cymru a gweddill y DU i’w gynnig.

Ble bynnag rydych chi wedi cwblhau eich addysg ysgol, bydd y Tîm Derbyn yn y Brifysgol yn gallu rhoi arweiniad ar ofynion mynediad ar gyfer y cwrs rydych chi am ei astudio. Mae hyn yn cynnwys cymwysterau academaidd, a Gofynion Iaith Saesneg. Mae gwybodaeth benodol am eich gwlad ar dudalennau rhyngwladol ein gwefan.

Gwasanaeth Cynghori

Myfyrwyr Byd-eang

Fel myfyriwr rhyngwladol sy’n astudio ym Met Caerdydd, gallwch fanteisio ar y Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr

Byd-eang. Mae’n dîm o staff cyfeillgar a gwybodus sy’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau, gan ddarparu’r holl gyngor a chymorth y gallech fod eu hangen wrth fyw ac astudio yn y DU.

Ar ôl i chi gyrraedd y DU, cewch eich gwahodd i ddigwyddiad ymsefydlu a gynhelir ar ddechrau eich cwrs. Wrth ymsefydlu, byddwch yn cyfarfod â thîm y Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr

Byd-eang, myfyrwyr newydd eraill a byddwch yn cael llawer o wybodaeth i’ch helpu i ymgartrefu yn eich bywyd yng Nghaerdydd.

26 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Yn ystod eich astudiaethau, bydd sawl ffordd i chi gysylltu â’r gwasanaeth i gael cymorth. O ddydd Llun i ddydd Gwener mae’r tîm yn y Lolfa Fyd-eang ar gampws Llandaf, a gallwch alw heibio os oes gennych ymholiadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau ar gyfer ymholiadau mwy cymhleth hefyd. Os ydych wedi’ch lleoli ar gampws Cyncoed, gall y tîm drefnu i gyfarfod â chi yno. Gallwch gysylltu â’r tîm dros y ffôn neu drwy e-bost hefyd.

Gall y tîm ddarparu gwasanaethau fel:

• Cyngor ar faterion mewnfudo

• Cyngor ar lety

• Cyngor ar sgiliau academaidd

• Awgrymiadau ar reoli eich arian

• Ymgartrefu yn y DU a chymorth i agor cyfrif banc, cofrestru gyda meddyg

• Cadw’n ddiogel yn y DU

• Cyfleoedd Byd-eang (astudio, gwirfoddoli a gweithio dramor)

• Cymorth lles cyffredinol

Yn ogystal â chyngor a chymorth cyffredinol, mae’r tîm yn cynnig rhaglen gymdeithasol hefyd sy’n cynnwys teithiau dydd i wahanol lefydd ledled y DU sy’n boblogaidd iawn ymhlith myfyrwyr. Mae’r tîm yn gyfrifol am drefnu digwyddiad Wythnos Fydeang flynyddol Met Caerdydd hefyd sy’n dathlu amrywiaeth ddiwylliannol Met Caerdydd.

Sganiwch y cod QR i ddysgu mwy am astudio fel myfyriwr rhyngwladol ym Met Caerdydd

Prosbectws Israddedigion 2024 | 27

Gwasanaethau Cymorth

Gwasanaethau Myfyrwyr

Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yma i’ch cefnogi chi yn ystod eich astudiaethau, gan eich helpu i gyrraedd eich llawn botensial, beth bynnag fo’r heriau sy’n eich wynebu. Mae ein staff arbenigol yn cynnig cyngor a chymorth diduedd a chyfrinachol mewn perthynas ag arian, lles, anabledd, dyslecsia a chymorth dysgu arbenigol.

Parth-i

Mae ein staff i-zone ar gael trwy gydol y flwyddyn i’ch helpu gydag unrhyw ymholiadau anacademaidd. Gallant ddarparu gwybodaeth am bob math o bynciau a byddant yn gallu eich cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol ar gyfer eich anghenion. Dyma’r lle i fynd iddo hefyd os ydych chi eisiau dysgu mwy am Wasanaethau Myfyrwyr a chael mwy o gymorth.

Lles Myfyrwyr

Mae’r Tîm Lles yn cynnig pob math o gymorth i fyfyrwyr sydd ag anableddau, anawsterau dysgu penodol (SpLD, gan gynnwys dyslecsia), niwroamrywiaeth ac iechyd meddwl. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod ein gwasanaethau a’ch astudiaethau yn hygyrch. Nid yw anabledd neu gyflwr iechyd meddwl yn rhwystr i lwyddiant ym Met Caerdydd, felly edrychwn ymlaen at gyfarfod â chi.

Mae ein tîm yn darparu gwybodaeth a mynediad i’r canlynol:

Cymorth Anabledd Os oes gennych anabledd, bydd ein cynghorwyr yn gweithio gyda chi i

ddatblygu pecyn cymorth sy’n mynd i’r afael â’r heriau penodol y gallech ddod ar eu traws yn ystod eich astudiaethau. Byddwn yn helpu i nodi eich anghenion cymorth ac unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch, yn ogystal â rhoi mynediad i chi at adnoddau pellach. Rydym yn cynnig cymorth ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau, gan roi hyder i chi y byddwch yn cael eich cefnogi yn ystod eich amser ym Met Caerdydd bob amser. Os ydych wedi gwneud cais i Met Caerdydd neu’n ystyried gwneud cais, cysylltwch â ni i drefnu cyfarfod.

Iechyd a Lles Meddyliol

Mae dechrau yn y brifysgol yn gallu bod yn gyfnod heriol i unrhyw un. Yma ym Met Caerdydd, gall ein staff arbenigol ddarparu’r offer a’r adnoddau a fydd yn gwneud eich cyfnod pontio’n haws. Rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar y stigma ynghylch iechyd meddwl ac yn ceisio creu amgylchedd lle gall pawb ffynnu, beth bynnag fo’r rhwystrau. Ar ôl i fyfyrwyr fynegi angen am ein gwasanaethau, byddant yn cael mynediad wedyn at bob math o gymorth, gan gynnwys Cynghorydd Lles, cwnsela cyfrinachol un i un, sesiynau lles grŵp, mynediad at adnodd arbenigol a mwy.

Cyngor a Lles Ariannol

Ym Met Caerdydd, rydym yn deall gwerth rheoli eich arian. Rydym yn darparu cyngor arbenigol ar eich holl bryderon ariannol megis ffynonellau cymorth ariannol, benthyciadau a grantiau, cyllidebu neu unrhyw broblemau ariannol eraill a allai effeithio ar eich astudiaethau. Mae ein cynghorwyr yn darparu cymorth hefyd i fyfyrwyr sy’n gadael gofal, sydd â chyfrifoldebau gofalu eu hunain neu sydd wedi’u gwahanu oddi wrth eu teuluoedd mewn unrhyw ffordd arall.

28 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

sy’n datgelu anabledd yn cael cynnig cymorth wedi’i deilwra ac addasiad rhesymol. Mae’r cymorth hwn yn helpu myfyrwyr i wireddu eu potensial.”

Cymorth Dysgu

Gall myfyrwyr wynebu llawer o rwystrau wrth astudio gyda ni.

Mae’r tîm Cymorth Dysgu’n darparu apwyntiadau tiwtor a mentor arbenigol un i un, adnoddau, gweithdai a deunyddiau dysgu wedi’u teilwra i’ch helpu i oresgyn unrhyw rwystrau y gallech eu hwynebu. Ein nod yw helpu myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau a’r strategaethau sydd eu hangen i oresgyn unrhyw heriau astudio, megis addasu i astudio yn y brifysgol a chynllunio llwyth gwaith.

Gall Lles Myfyrwyr eich cyfeirio at wneud cais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl i dalu costau cymorth ar gyfer problem iechyd meddwl, salwch hirdymor neu unrhyw anabledd arall. Mae ein Canolfan Asesu Anghenion Anabledd

ar gael i drafod effaith unrhyw gyflyrau iechyd a pha gymorth fyddai’n ddefnyddiol i chi. Gall hyn gynnwys offer, meddalwedd, cymorth un i un a chostau teithio.

Mae rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’n meysydd Gwasanaethau Myfyrwyr ar ein gwefan yn: www.metcaerdydd.ac.uk/ gwasanaethaumyfyrwyr

I wneud apwyntiad gydag un o’n cynghorwyr cyn dechrau yn y brifysgol, cysylltwch â ni:

Ffôn: 029 2041 6170

E-bost: studentservices@cardiffmet.ac.uk

“Ym Met Caerdydd, rwy’n rhan o dîm cefnogol ac ymroddedig sy’n gweithio’n galed iawn i sicrhau bod unrhyw fyfyriwr
Lisa Aske
Prosbectws Israddedigion 2024 | 29
Uwch Ymgynghorydd Lles

Canolfan Entrepreneuriaeth

P’un a oes gennych

ddiddordeb mewn dechrau busnes, gweithio’n llawrydd neu fod yn feistr arnoch chi’ch hun, gall y Ganolfan Entrepreneuriaeth eich helpu.

Rydym yn hyderus yn eich gallu i wneud gwahaniaeth ac yn ymroddedig i’ch helpu.

Rydym yn gweithio gyda myfyrwyr a graddedigion o bob math o ddisgyblaethau gan gynnwys

Chwaraeon, Gwyddorau Iechyd, Celf a Dylunio, Technolegau a Busnes a Rheoli. Gydol y flwyddyn, rydym ni’n cynnal rhaglen o weithgareddau i fyfyrwyr a graddedigion, o ddigwyddiadau rhwydweithio anffurfiol a chystadlaethau ariannu, i weithdai a chyrsiau a fydd yn eich helpu i ddatblygu pob math o sgiliau mentergarwch.

Rydym yn cynnig cymorth un-iun i fusnesau newydd myfyrwyr a graddedigion hefyd. Mae ein tîm ymroddedig o Gynghorwyr Busnes a Mentoriaid ar gael i’ch tywys drwy’r camau y mae angen i chi eu cymryd i ddechrau eich busnes eich hun.

Rydym yn datblygu digwyddiadau a gweithgareddau newydd yn gyson i helpu i gefnogi ein myfyrwyr a’n graddedigion, gan gynnwys cyfleoedd masnachu prawf a gweithgareddau dysgu drwy brofiad. Yn gynyddol, rydym yn ceisio darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau a’u ffordd entrepreneuraidd o feddwl, waeth a ydynt yn bwriadu dechrau busnes ai peidio.

astudio Tecstilau ym Met Caerdydd fy ngalluogi i ddod o hyd i

angerdd am ddylunio patrymau arwyneb

a, gyda chymorth staff a’r Ganolfan Entrepreneuriaeth wych, gwnaeth fy arwain at ddechrau fy musnes

llwyddiannus fy hun (Freya Snow

Textiles) ar ddechrau fy mlwyddyn olaf.”

Freya Snow

Dylunio Tecstilau - BA (Anrh)

Gall hyn gynnwys cymdeithasau menter gymdeithasol, prosiectau byw gyda busnesau bach lleol a chefnogi achosion gwerth chweil drwy weithgareddau mentrus.

Mae ein huned dechrau busnes newydd yn darparu gofod cydweithio i fyfyrwyr a graddedigion, mynediad at ein rhaglen gyflymu a pharth diogel i rannu a phrofi syniadau.

Pa bynnag lwybr rydych chi’n penderfynu ei ddilyn, gall y Ganolfan Entrepreneuriaeth eich helpu ar eich taith i lwyddiant.

Rhagor o wybodaeth: www.metcaerdydd.ac.uk/ entrepreneuriaeth

“Gwnaeth
Sganiwch y cod QR i ddarllen mwy am daith Freya 30 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Mae ein ffocws ar gyflogadwyedd a gyrfaoedd wedi sicrhau bod 96% o’n graddedigion yn cael gwaith neu’n dechrau astudiaethau pellach o fewn 15 mis i raddio.*

hyfforddwyr sy’n gofalu am ein myfyrwyr tra’u bod ar leoliad a pha mor angerddol ydyn nhw am rannu eu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr nid yn unig yn cael y profiad dysgu gorau, ond eu bod yn ei fwynhau hefyd!”

Gwasanaeth Gyrfaoedd

O’r diwrnod y byddwch yn cyrraedd Met Caerdydd, bydd gennych fynediad at amrywiaeth eang o wasanaethau sydd â’r nod o wella eich sgiliau cyflogadwyedd a gwella eich rhagolygon yn y dyfodol.

Mae ein cymorth ar gael gydol y flwyddyn drwy gymysgedd o wasanaethau ar y campws ac arlein. Rydym yn cynnig cymorth i raddedigion am hyd at dair blynedd ar ôl graddio hefyd. I’r rhai sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol rhag datblygu sgiliau a chyflogaeth, gallwch elwa ar hyfforddiant gyrfa arbenigol.

Mae ein tîm yn darparu cyngor diduedd, proffesiynol sydd wedi’i deilwra ar gyfer eich anghenion penodol chi. Gallwn helpu gyda phob cam o’ch taith gyrfa, gan eich helpu i benderfynu beth rydych am ei wneud, dod o hyd i gyfleoedd i feithrin eich sgiliau a’ch profiad a gwneud cais am swyddi ac astudiaeth bellach. Bydd ein Hymgynghorwyr Gyrfaoedd yn nodwedd reolaidd yn ystod eich cwrs, gan ddarparu addysg gyrfaoedd amserol sy’n benodol i’ch rhaglen.

Mae gan bob myfyriwr fynediad at ein menter datblygu sgiliau, Siapio eich Dyfodol. Yma, gallwch asesu lefel eich sgiliau yn erbyn y sgiliau y mae’r galw mwyaf amdanynt ymhlith cyflogwyr a chael mynediad at adnoddau a chyfleoedd amrywiol i uwchsgilio a pharatoi eich hun ar gyfer y dyfodol.

Gan weithio gyda chyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, rydym yn darparu amrywiaeth eang o weithdai, gweminarau a ffeiriau wyneb yn wyneb ac ar-lein. Mae’r holl weithgareddau hyn yn eich galluogi i gael mynediad at gyflogwyr a chael y cyfle gorau i sicrhau eich swydd gyntaf ar ôl i chi orffen astudio gyda ni.

Rhagor o wybodaeth: www.metcaerdydd.ac.uk/gyrfaoedd

*Arolwg diweddaraf o ganlyniadau graddedigion

“Mae mor ysbrydoledig cwrdd â’r
Sue Harding
Ymgynghorydd Lleoliad
Prosbectws Israddedigion 2024 | 31

Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd (YGDC)

Yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, rydym yn arbenigo mewn darparu cyrsiau gradd creadigol i’ch paratoi ar gyfer cyfleoedd mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd.

Dewch yn un o’n graddedigion hynod fedrus, yn barod i ymuno ag arweinwyr, meddylwyr ac entrepreneuriaid y dyfodol.

Byddwch yn gweithio gydag artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr eraill ar draws disgyblaethau, gan rannu sgiliau, syniadau a phrofiadau.

Byddwch yn meithrin eich sgiliau a’ch profiad yng nghyd-destun cyfrifoldeb cymdeithasol, dinasyddiaeth fyd-eang, cynwysoldeb a lles ac yn cyfrannu at greu dyfodol cynaliadwy i’r byd rydym yn byw ynddo.

Gyda’n lleoliad mewn prifddinas, cyfleusterau pwrpasol gwerth miliynau o bunnoedd a chyfleoedd i deithio’n rhyngwladol, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yw’r lle delfrydol i barhau â’ch taith greadigol.

Dysgwch fwy am yr Ysgol drwy sganio’r cod QR neu drwy fynd i www.metcaerdydd.ac.uk/ celfadylunio

32 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Ein cwricwlwm

Mae pob un o’n cyrsiau gradd israddedig yn elwa ar gwricwlwm unigryw sy’n cynnwys tair elfen sydd â’r nod o ehangu eich gorwelion, meithrin eich sgiliau a’ch paratoi ar gyfer gyrfa greadigol.

Pwnc Dyma eich arbenigedd, eich cartref yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol. Bydd modiwlau pwnc yn eich trochi yn arferion, hanes a theori’r radd rydych chi wedi’i dewis. Byddwch yn cael eich herio’n greadigol ac yn academaidd, ac yn meithrin eich sgiliau presennol drwy gymryd rhan mewn prosiectau ymarfer stiwdio, sesiynau tiwtorial a gweithdai sy’n berthnasol i’ch disgyblaeth.

Maes

Nod ein modiwlau maes rhyngddisgyblaethol yw gwneud i chi edrych o gwmpas o wahanol safbwyntiau, gweithio ar brosiectau ar y cyd â myfyrwyr o gyrsiau eraill, sylwi ar wahaniaethau a thebygrwydd ac ehangu eich profiadau.

Clwstwr

Mae’r modiwlau hyn yn eich cyflwyno i fyd ehangach syniadau, theori ac astudiaethau cyd-destunol o fewn, y tu allan a’r tu hwnt i gelf a dylunio. Byddwch yn dysgu sut mae celf a dylunio’n cyfrannu at rwydwaith o leoliadau cymdeithasol, diwylliannol, moesegol, hanesyddol ac athronyddol cyfoes, ac yn cael ei ddylanwadu ganddynt.

Prosbectws Israddedigion 2024 | 33

Cyfleusterau Celf a Dylunio

Mae Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn cynnig casgliad eang o gyfleusterau i’ch helpu i wireddu eich creadigrwydd, pa bynnag ffurf fo i hynny.

Caiff ein gweithdai llawn offer eu staffio gan Arddangoswyr Technegwyr arbenigol sy’n gallu darparu’r holl hyfforddiant, cyngor a chymorth sydd eu hangen arnoch i wneud y gorau ohonynt.

Mae ein cwricwlwm rhyngddisgyblaethol yn caniatáu i fyfyrwyr o’n holl gyrsiau Israddedig gael mynediad at ein holl gyfleusterau amrywiol.

34 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Clyweledol – Gantri goleuo theatr a reolir yn electronig ar gyfer cynhyrchu fideo a pherfformio. Camcordorau, goleuadau, meicroffonau a recordwyr sain y gellir eu harchebu. Taflunyddion digidol, sgrin sinema a system sain ac amrywiaeth o gyfleusterau animeiddio arbenigol.

Gwaith Cerameg – Olwynion taflu, odynau, plastr, enamlo, ardaloedd clai a gwydr, odynau siapio gwydr. Mynediad allanol at odynau soda a chyfleusterau tanio Raku.

Cyfrifiadura a Meddalwedd –ystafelloedd TG a CAD sy’n llawn meddalwedd arbenigol o bob math.

FabLab – cyfleusterau sganio ac argraffu 3D, electroneg, torwyr laser a pheiriant CNC gwastad.

Cyfryngau/Technoleg – Realiti Estynedig (AR), Realiti Rhithwir (VR), Cyfryngau Rhyngweithiol, Electroneg, Mannau Hacio, ystafelloedd codio Arduino a Raspberry Pi, ystafell Dylunio Rhyngwyneb.

Metel – Ffowndri a gofod metel poeth, weldwyr Mig a Tig, torwyr plasma, offer drilio, plygu a melino, a chyfleuster ar gyfer gwaith metel, enamlo a gemwaith ar raddfa fach.

Ffotograffiaeth – Stiwdios goleuo mawr a bach. Ystafell dywyll du a gwyn ar gyfer cynhyrchu printiau gelatin arian RC a ffibr mewn fformat 35mm, 120 neu 5X4. Cyfleusterau ar gyfer Ffotogramau, Cyanoteipiau a phrosesau Golau Hylif. Ystafell golygu ffotograffau gyda meddalwedd Adobe Lightroom a Photoshop.

Gwneud Printiau – Cyfleusterau sgrinargraffu, intaglio, engrafu a litho carreg.

Modelu Meddal – Argraffwyr 3D, Torwyr Laser, peiriannau melino CNC bach.

Pwytho ac Argraffu – Peiriannau gwnïo proffesiynol, ‘over-lockers’ a brodwaith digidol. Offer argraffu digidol a thorri laser.

Pren – Turniau pren diamedr mawr a bach, sandwyr drwm a disg, llif panel echelin X ac Y, llif crwn, mowldiwr gwerthyd, plaen cafnu cyflymder uchel, llif trawstorri braich rheiddiol, llifiau band, driliau piler, peiriant mortais, llif sgrôl a phlaeniwr/tewychydd arwyneb.

Sganiwch y cod QR i fynd ar daith rithwir o gwmpas Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Prosbectws Israddedigion 2024 | 35

Animeiddio BA (Anrh)

Dod â straeon yn fyw ac ennyn diddordeb pawb mewn iaith sy’n cael ei deall gan bawb.

Byddwch yn dechrau drwy ddatblygu dealltwriaeth eang o’r broses animeiddio wrth greu eich prosiectau cyntaf gan ddefnyddio technegau digidol ac analog. Byddwch yn datblygu eich ymarfer personol ymhellach – gan ehangu eich gwybodaeth ac archwilio cyddestun hanesyddol, damcaniaethol a chymdeithasol eich pwnc.

Cewch lawer o brofiadau gwerthfawr eraill hefyd – megis ymarferion ysgrifennu sgript a chyfleoedd i gyfarwyddo actorion llais a phypedwyr. Drwy ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial, seminarau a gweithdai, byddwch yn meithrin dealltwriaeth ddofn o’r egwyddorion a’r technegau sy’n sail i animeiddio, gan ddysgu gan dîm o animeiddwyr, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr gweithredol.

Byddwch yn treulio’ch amser mewn stiwdios arbenigol, gan ddefnyddio offer o safon diwydiant i hogi eich sgiliau technegol mewn sawl disgyblaeth wahanol, gan gynnwys:

• Elfennau sylfaenol animeiddio. Deall iaith symud drwy dechnegau cynhyrchu animeiddio amrywiol

• Creu bwrdd stori ac iaith ffilmiau ar gyfer animeiddio

• Bywluniadau

• Adrodd stori a chyfarwyddo

• Camera, goleuo a chyfansoddiad

• Cyfarwyddo celf; creu a dylunio cymeriadau a bydoedd

• Cymeriadu ac actio ar gyfer animeiddio

• Cyfryngau cymysg ac animeiddio arbrofol

• Archwilio llwyfannau newydd, chwarae gemau, rhithwirionedd a gosodiadau newydd

• Technegau a phrosesau cynhyrchu traddodiadol a digidol; o ddatblygu syniad hyd at gyflawni

• Ymarfer proffesiynol a sgiliau busnes

Eich dyfodol

• Cewch gyfleoedd i gael profiad yn y diwydiant a chyflwyno briffiau byw i gleientiaid allanol.

• Ar ddiwedd y cwrs, byddwch yn animeiddiwr sydd â’r sgiliau, yr hyder a’r meddwl beirniadol i lamu i fyd animeiddio proffesiynol sy’n tyfu. Gallwch weithio fel animeiddiwr annibynnol, ymuno â chwmnïau cyfryngau a dylunio neu asiantaethau hysbysebu neu gael eu cyflogi yn y diwydiannau ffilm, teledu a darlledu.

• Gallwch ddewis mynd ymlaen i astudiaethau pellach drwy gyflawni gradd ôl-raddedig yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

36 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bedair

blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n cyflawni

lleoliad rhyngosod am flwyddyn

Gofynion

mynediad: Cynnig

nodweddiadol: 96-120 pwynt UCAS

ynghyd â phortffolio a chyfweliad

Mae cyfle

i astudio

rhan o’r radd yn Gymraeg.

“Ar y dechrau, animeiddio stop-symud oedd yn apelio fwyaf ataf fi, ond fe wnaeth y cwrs fy helpu i ehangu fy ngorwelion. Erbyn hyn, mae gen i ddiddordeb mawr mewn

animeiddio 2D a dylunio

amgylcheddol mewn animeiddio, yn ogystal â chynllunio setiau.”

Gradd

BA (Anrh) – Animeiddio

Sganiwch i wylio’r tâp arddangos animeiddio diweddaraf
Prosbectws Israddedigion 2024 | 37

Dylunio a Thechnoleg Bensaernïol

BSc (Anrh)

38 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Datblygu arferion a dulliau a all gael effaith amgylcheddol gadarnhaol drwy ddylunio ac adeiladu adeiladau.

Bydd ein gradd ag achrediad proffesiynol mewn Dylunio a Thechnoleg Bensaernïol yn datblygu eich dealltwriaeth dechnegol o sut mae adeiladau’n gweithio a’r technegau a’r deunyddiau sydd eu hangen arnoch i’w llunio.

Drwy ddarlithoedd, seminarau, ymarferion ac amser yn ein stiwdios pwrpasol, byddwch yn dysgu i feddwl yn greadigol ac yn ddadansoddol. Byddwch yn astudio pynciau craidd yn cynnwys technoleg bensaernïol, deunyddiau adeiladu a gwyddoniaeth bensaernïol, ac yn dod yn fedrus mewn Modelu Gwybodaeth Adeiladu a Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur.

Eich dyfodol

• Bydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y byd go iawn, gan gynnwys gwaith gyda chymunedau a chyflogwyr lleol.

• Mae strwythur y cwrs yn rhoi cyfle amhrisiadwy i chi astudio gradd ryngosod bedair blynedd, gan dreulio eich trydedd flwyddyn yn trochi yn y diwydiant gyda lleoliad mewn practis pensaernïol. Mae graddedigion o’r rhaglen mewn sefyllfa dda i ymuno â phractis pensaernïol, gan weithio fel technolegwyr pensaernïol.

• Mae’r cwrs wedi’i achredu gan Sefydliad Siartredig y Technolegwyr Pensaernïol (CIAT) a Chymdeithas Siartredig y Peirianwyr Adeiladu (CABE), gan alluogi graddedigion i symud ymlaen i fod yn aelodau siartredig llawn yn y proffesiwn amrywiol a chyffrous hwn.

Byddwch yn datblygu sgiliau cyflwyno cryf hefyd ac yn ymdrin â sawl cymhwysed allweddol drwy gydol eich cwrs, gan gynnwys:

• lluniadu pensaernïol a sgiliau cyflwyno

• dylunio adeiladau, dehongli briffiau a diwallu anghenion cleientiaid

• technoleg adeiladu – sut caiff adeiladau eu strwythuro a’u hadeiladu

• deunyddiau a gorffeniadau adeiladu

• y gyfraith a rheoliadau sy’n ymwneud â dylunio adeiladau

• ysgrifennu manylebau

• manylion pensaernïol

• cadwraeth ac ailwampio adeiladau

• gwyddoniaeth bensaernïol –gwresogi, oeri, awyru ac ati

• arloesedd a chynaliadwyedd

• ymarfer proffesiynol, gwaith ymarfer pensaernïol

Lleoliad astudio: Campws Llandaf Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n cyflawni lleoliad rhyngosod am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96-120 pwynt UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

Prosbectws Israddedigion 2024 | 39

Pensaernïaeth BA (Anrh)

Byddwch yn dysgu sut i ddylunio adeiladau a chreu lleoedd i bobl mewn ffordd greadigol sy’n gyfrifol yn amgylcheddol.

Pensaernïaeth sy’n siapio’r byd o’n cwmpas. Mae’n adlewyrchu ein cymdeithasau a’n cymunedau, ac yn dylanwadau ar y ffordd rydym ni’n meddwl ac yn teimlo. Mae pensaernïaeth yn gwneud ei farc ar ein gorwel, yn trawsnewid ein dinasoedd, yn newid y ffordd rydym ni’n byw ac yn gweithio ac yn dod yn rhan o’n naratif. Nod y radd yw sefydlu deialog greadigol rhwng gwahanol feysydd o wybodaeth bensaernïol: dylunio, cynrychioli, technoleg, astudiaethau cyd-destunol ac ymarfer proffesiynol.

Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o’r meysydd thematig hyn a’u hintegreiddiad drwy gymryd rhan mewn prosiectau a fydd yn gynyddol anodd.

Bydd hyn yn eich galluogi i ffurfio cynigion pensaernïol a fydd wedi’u datrys yn dechnegol ac yn ofodol, gyda sail ddamcaniaethol gadarn. Byddwch yn dysgu sut i gyfleu eich cynigion yn effeithiol mewn cyddestun proffesiynol hefyd drwy gyfryngau amrywiol.

Yn olaf, rhoddir pwyslais arbennig ar gyfrifoldeb y pensaer i fynd i’r afael â phroblemau cyfoes sy’n destun pryder yn amgylcheddol ar lefel leol a bydeang (megis yr argyfwng hinsawdd).

Cewch gryn anogaeth i ddatblygu safbwyntiau beirniadol ar sut y gellir defnyddio gwybodaeth a chreadigrwydd gyda’i gilydd i ganfod atebion dylunio sydd â’r potensial i wneud adeiladau, cymdogaethau neu ddinasoedd yn fwy cynaliadwy yn y tymor byr a’r tymor hir.

Mae’r radd wedi’i dynodi’n gymhwyster Rhan 1 gan yr ARB (Bwrdd Cofrestru Penseiri), y corff sy’n rheoleiddio proffesiwn y penseiri yn y DU.

Ar ôl cwblhau’r radd yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich eithrio o Arholiad Dynodedig yr ARB yn Rhan 1, y cam cyntaf tuag at ddod yn bensaer cofrestredig.

Eich dyfodol

• Cymryd rhan mewn gweithgareddau go iawn, cyflawni briffiau byw a chael profiad gwaith drwy leoliadau, yn ogystal chyswllt â gweithwyr proffesiynol pensaernïol ac adeiladu drwy sgyrsiau a mentora yn y diwydiant.

• Mae graddedigion o’r rhaglen mewn sefyllfa dda i ddilyn astudiaethau a hyfforddiant pellach tuag at gymhwyso fel penseiri neu gael eu cyflogi fel cynorthwywyr pensaernïol neu yn y diwydiannau creadigol ehangach.

40 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

“Rwy’n credu bod gan benseiri gyfraniad sylfaenol i’w wneud at symud tuag at ffordd fwy cynaliadwy o fyw ar y blaned a gwneud y defnydd gorau posib o’i hadnoddau gwerthfawr.

Bydd y radd hon yn rhoi pwyslais arbennig ar sut y gellir defnyddio creadigrwydd i ddylunio adeiladau cynaliadwy.”

Fausto Sanna

Darlithydd Pensaernïaeth –BA (Anrh)

“Mae cynaliadwyedd yn broblem

fawr yn y gymuned bensaernïol, ac rydym yn canolbwyntio ar hynny

drwy gydol y flwyddyn gyntaf.

Mae’n golygu mwy na gweithio gyda’r dirwedd, mae’n rhaid bod gennych syniad ynghylch beth sy’n digwydd i’r adeilad ar ôl i’ch gwaith chi fel y pensaer ddod i ben hefyd.”

Josh May BA (Anrh) - Pensaernïaeth

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n cyflawni lleoliad rhyngosod am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 120-128 pwynt UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

Prosbectws Israddedigion 2024 | 41

Arlunydd Ddylunydd: Gwneuthurwr BA (Anrh)

Creu’r gwrthrychau sy’n siapio ein byd.

Mae gwneuthurwyr yn artistiaid, dylunwyr, crefftwyr, arloeswyr, pobl greadigol, technolegwyr a sawl peth arall hefyd. ‘Gwneud’ sydd wrth wraidd y radd hon.

Beth sy’n gwneud y cwrs hwn mor unigryw yw’r cyfuniad o sgiliau traddodiadol a thechnolegau sy’n torri tir newydd. Cewch brofiad ymarferol gyda deunyddiau megis metelau, gwydr, cerameg, pren, tecstilau a gwneuthuriad digidol.

Byddwch yn dysgu sut i bontio’r bwlch rhwng sgiliau traddodiadol a’r dechnoleg ddiweddaraf, ac yn creu ffyrdd newydd a gwreiddiol o wneud mewn byd sy’n newid drwy’r amser.

Law yn llaw â chaffael sgiliau, byddwch yn dysgu am gyd-destun arferion gwneud. Byddwch yn nodi lle mae eich gwaith wedi’i leoli o fewn paramedrau ehangach ymarfer creadigol; ydych chi’n ddylunydd, yn artist, yn grefftwr neu a ydych chi’n gweithio ar draws amryw o ddisgyblaethau?

Byddwch yn dysgu sut i ymchwilio a datblygu syniad i fod yn ganlyniad wedi’i wireddu’n llawn, boed yn gynnyrch swyddogaethol, yn arteffact addurnol, yn osodiad neu’n wrthrych mynegiannol.

Drwy gydol y radd, byddwch yn dysgu gan artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr proffesiynol sy’n ymarfer, gan rannu eu hangerdd a meithrin eu sgiliau.

Beth bynnag yw eich diddordebau fel gwneuthurwr, mae’r cwrs hwn wedi’i strwythuro i’ch helpu i’w harchwilio.

Eich dyfodol

• Er mai diben eich dysgu yw eich datblygu i fod yn artist/dylunydd galluog a deallus, mae eich cwricwlwm wedi’i strwythuro yn yr un modd gyda’ch potensial mewn golwg.

• O’r herwydd, mae’r pwyslais a fydd wedi’i roi ar eich agwedd at waith, yn greadigol ac yn academaidd, yn cyd-fynd â ffocws sylweddol ar brofiad yn y byd go iawn; o feithrin cysylltiadau a chyflawni lleoliadau i friffiau byw ac, os byddwch chi’n dewis hynny, cymorth i ffurfio eich busnes eich hun.

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
42 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Lleoliad astudio:: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n cyflawni lleoliad rhyngosod am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig

nodweddiadol: 96-120 pwynt UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad

Mae cyfle i astudio

rhan o’r radd yn Gymraeg.

“Mae’r cwrs Arlunydd Ddylunydd: Gwneuthurwr ym Met Caerdydd wedi fy ngalluogi i archwilio amrywiaeth eclectig o brosesau technegol o fewn fy mhrofiad yn y brifysgol, yn ogystal â’m cysylltu i ag ymarferwyr creadigol eraill o’r un anian. Dan arweiniad briffiau modiwl clir a gyda chymorth parhaus gan diwtoriaid ac arddangoswyr technegol, llwyddais i ddatblygu fy sgiliau i gyflawni safon uchel o waith rydw i’n falch o’i

Zoe Worton

Arlunydd

arddangos.”
Ddylunydd: Gwneuthurwr – BA (Anrh)
Prosbectws Israddedigion 2024 | 43

Cerameg

BA (Anrh)

Teimlo’r byd drwy eich dwylo ac ymgysylltu â phŵer trawsnewidiol deunyddiau.

Mae gan glai iaith weledol a materol sy’n croesi pob diwylliant. Mae’n rhan annatod o fywydau, anghenion ac atgofion pobl.

Drwy astudio ar gyfer gradd mewn Cerameg gyda ni, byddwch yn dod yn ceramegydd medrus sy’n gallu gweithio gyda’r deunydd amlbwrpas hwn a chyfrannu at y maes hwn sy’n ehangu o hyd.

Byddwch yn archwilio dulliau anthropolegol o greu, mapio deunyddiau ac arferion yn ddaearyddol-gymdeithasol, a gallu cymdeithasol sgiliau drwy weithio gyda mentrau lleol, megis orielau, marchnadoedd a chasgliadau fel rhan o’n ‘stiwdio fyd-eang’. Byddwch yn archwilio strategaethau creadigol i nodi eich tueddiadau a’ch patrymau eich hun wrth ddatblygu syniadau, gan astudio technoleg ddeunyddiau a gwydro i droi’r syniadau hynny’n ffurf.

44 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Ein stiwdios pwrpasol fydd eich cartref drwy gydol y cwrs. Byddwch yn gweithio gydag amrywiaeth eang o brosesau, gan archwilio potensial llawn cerameg a meithrin sgiliau uwch. Byddwch yn dysgu gan dîm o ceramegwyr sy’n ymarfer ac yn cael cyfle i brofi amrywiaeth o arferion a addysgir – gan gynnwys:

Alcemeg - Cerameg a Gwyddor Deunyddiau, technoleg gwydro, a fydd yn cynnwys trafodaeth ddaearyddol a hanesyddol-gymdeithasol

Taflu - technegau crochenwaith traddodiadol o lestri cartref i ffurfiau cerfluniol cyfansawdd

Modelu â llaw - y ffurf ddynol mewn clai, o waith addurniadol a cherfluniol i gerfwedd isel gain

Gwneud mowldiau - castio mewn plastr, mowldiau cyfrwng cymysg (ffabrig/ hylosg), mowldiau cyfansawdd, turnio

Patrymau ar arwynebau - technegau printio – gan gynnwys trosgluniau, sgrin-brint a throswydro

Tanio - trydan, nwy, raku, soda, sagar, adeiladu odynnau allanol i archwilio swyddogaeth a pherfformiad

Gwneuthuriad digidol - gan gynnwys meddalwedd dysgu a defnyddio argraffu 3D, torri â laser, modelu CNC

Eich dyfodol

“Yn ystod fy nhair blynedd ar y cwrs, fe wnes i adeiladu rhwydwaith o gymorth a dealltwriaeth ddofn o’m diwydiant, gan gynnwys sefydliadau, orielau, artistiaid, cylchgronau, awduron, gwyliau a digwyddiadau sy’n gysylltiedig â cherameg. Roedd hyn i gyd yn help i greu sylfaen sefydlog a roddodd yr hyder i mi ddechrau meithrin fy ngyrfa yn y celfyddydau.”

Elin Hughes BA (Anrh) - Cerameg

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n cyflawni lleoliad

rhyngosod am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig

• Gyda chyfleoedd i weithio mewn cyd-destunau byd go iawn ar friffiau byw, cystadlaethau creadigol a phrosiectau rhyngddisgyblaethol, byddwch yn cael eich annog i ganfod a datblygu eich ymarfer annibynnol eich hun a gweithio tuag at eich gyrfa yn y dyfodol.

• Mae gan Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd enw da o fri rhyngwladol am astudiaethau ôl-raddedig a PhD mewn Cerameg. Ar ôl cwblhau eich astudiaethau israddedig, gallwch fwrw ymlaen â’ch uchelgais academaidd a chreadigol ymhellach drwy’r llwybrau hyn.

nodweddiadol:

96-120 pwynt UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad

Mae cyfle

i astudio

rhan o’r

radd yn Gymraeg.

Prosbectws Israddedigion 2024 | 45

Dylunio Ffasiwn

BA (Anrh)

Dewch yn ddylunydd cyfrifol sy’n barod i siapio’r diwydiant.

Bydd y radd hon yn cynnig cyfle i chi archwilio eich doniau unigol drwy’r broses ddylunio broffesiynol. Ei nod yw adlewyrchu arferion cyfoes a’ch ysbrydoli i lwyddo yn y diwydiant hwn sy’n symud yn gyflym.

Mae’r radd yn ymwreiddio gwreiddioldeb a mentergarwch yn y broses ddylunio, o’r cysyniad hyd at y cynnyrch terfynol, gydag ystyriaeth o hyfywedd masnachol a chreadigrwydd wrth wraidd y cyfan. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o’r materion moesegol sy’n wynebu’r diwydiant ffasiwn hefyd.

Byddwch yn gweithio ar eich portffolio o’r cychwyn cyntaf – eich ffordd i mewn i fyd ffasiwn. Byddwch yn ychwanegu ato’n rheolaidd, yn ei adolygu ac yn ei fireinio – felly pan fyddwch chi’n graddio, bydd yn gallu dangos eich talent a’ch corff o waith.

Byddwch yn treulio amser yn ein stiwdios ffasiwn pwrpasol, yn datblygu sgiliau hanfodol mewn amryw o dechnegau, gan gynnwys:

• Ymchwil Greadigol Eang

• Prosesau, Arbrofi a Datblygiadau Dylunio

• Lluniadu, Cyfathrebu a Darlunio Ffasiwn

• Torri Creadigol

• Dylunio a Drafftio Patrymau Fflat

• Modelu a Gwisgo ar Stand

• Dylunio a Theilwra

• Cynhyrchu Gwisgoedd a Gweithgynhyrchu gan Ddiwydiant

• Integreiddio Dylunio, Technoleg a Theori

• Meddalwedd Photoshop, Illustrator a CAD

• Ffabrig, Lliw, Tueddiadau, Ymchwil i’r Farchnad a Rhagfynegi

• Dylunio a Llunio Cyfresi

• Cyflwyno Portffolio Proffesiynol Dylunwyr

Wrth i chi ddechrau meistroli’r sgiliau hyn, byddwch yn dechrau creu gwisgoedd ac yn dod â’ch dyluniadau’n fyw.

46 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Eich dyfodol

• Byddwch yn dod yn Ymarferydd ffasiwn aml-sgil, hyblyg, dyfeisgar a chreadigol gyda sgiliau trosglwyddadwy a rhyngbersonol da.

• Mae graddedigion wedi bachu cyfleoedd gyda phob math o frandiau adnabyddus, gan gynnwys Givenchy Paris, Renli Su, Julien McDonald, Tu at Sainsbury’s, SeaSalt a George at ASDA.

• Yn ogystal â rôl y dylunydd, mae arbenigeddau ac opsiynau gyrfa cysylltiedig yn cynnwys: Technoleg Gwisgoedd, Dylunio Ategolion, Prynu ar gyfer Manwerthu, Darlunio Ffasiwn, Masnachu Nwyddau, Steilio Ffasiwn, Dylunio Tecstilau, Cysylltiadau Cyhoeddus Ffasiwn, Ysgrifennu/ Blogio Ffasiwn.

gyson tuag at fod yn ddylunwyr proffesiynol nid yn unig yn ein hymarfer, ond hefyd yn y modd rydym yn cyflwyno ein hunain i’r diwydiant. Rydym yn cael y rhyddid i ddarganfod, ac i wneud pethau’n anghywir ar y ffordd i’w gwneud yn iawn.”

Aspire Norton BA (Anrh) - Dylunio Ffasiwn

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n cyflawni lleoliad rhyngosod am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96-120 pwynt UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

Sganiwch i wylio uchafbwyntiau o Sioe Ffasiwn 2022

“Mae ein tiwtoriaid yn ein cefnogi’n
Prosbectws Israddedigion 2024 | 47

Celfyddyd Gain

BA (Anrh)

Dewiswch eich siwrnai eich hun – gan ddiffinio eich diddordebau a’ch arferion ac ymgolli’n llwyr mewn archwilio.

Mae angen gallu prin ac arbennig i fod yn artist gwych. Mae angen sgiliau technegol a chraffter creadigol arnoch i gynhyrchu gwaith sy’n cyfleu safbwynt gwreiddiol.

Mae ein gradd BA Celfyddyd Gain yn rhoi’r lle, y rhyddid a’r cymorth i chi fynegi eich gweledigaeth artistig yn llawn.

Wrth i chi symud ymlaen drwy’r cwrs, byddwch yn datblygu eich sgiliau technegol a chreadigol drwy archwilio deunyddiau amrywiol a’r defnydd o gyfryngau. Bydd gennych fynediad i’ch gofod stiwdio eich hun a byddwch yn gweithio gyda’r staff academaidd i ddiffinio a datblygu eich

diddordebau a’ch arferion mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

Proses a Dysgu yn seiliedig ar Ddeunydd: Peintio, fideo, animeiddio, gwneud printiau, ffotograffiaeth, lluniadu, perfformio, plastr, roboteg, celf gyhoeddus, arferion cyfranogol a chynhwysol, gwaith coed, gwaith metel, cerameg, dylunio cynhyrchion, castio efydd a gwnïo. Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Drwy gyfuno archwilio, ymarfer ac athroniaeth deunyddiau, byddwch yn archwilio’r cysylltiadau cymhleth rhwng syniadau damcaniaethol a chysyniadol a bwriad artistig. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o gyd-destunau rhyngddisgyblaethol amrywiol, yn ymwneud â theori feirniadol ac yn dysgu eu cymhwyso drwy’ch gwaith.

Byddwch yn uchelgeisiol, yn ddisgybledig ac yn frwdfrydig yn eich ymarfer a byddwch yn graddio gyda’r sgiliau, yr hyder a’r gallu beirniadol i barhau â’ch taith fel artist proffesiynol.

48 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Eich dyfodol

• Mae cyfleoedd aml i ryngweithio ag ymarferwyr a phartneriaid allanol. Gallwch ddewis dysgu sut mae arferion proffesiynol yn gweithredu drwy leoliadau diwydiant ac archwilio beth sydd gan entrepreneuriaeth i’w gynnig i artistiaid cyfoes.

• Byddwch yn treulio’ch blwyddyn olaf yn cynhyrchu gwaith ar gyfer arddangosfa broffesiynol, a chewch gyfle i ddatblygu cynllun busnes.

• Mae dilyniant i astudiaethau ôl-raddedig ac ymchwil mewn Celfyddyd Gain yn opsiwn yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n cyflawni lleoliad rhyngosod am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig

nodweddiadol: 96-120 pwynt UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

“Mae’r technegau a’r dulliau a ddatblygais yn ystod fy amser yn astudio Celfyddyd Gain ym Met Caerdydd wedi fy helpu i baratoi ar gyfer fy nghamau nesaf fel artist a rhoi’r sgiliau i mi gychwyn fy ymarfer.”
Rebecca Jones BA (Anrh) - Celfyddyd Gain
Prosbectws Israddedigion 2024 | 49

Cyfathrebu Graffig

BA (Anrh)

Gwnewch eich marc ar y byd.

Mae Cyfathrebu Graffig yn gwneud cyfraniad hanfodol i’r diwylliannau materol a gweledol o’n cwmpas. Mae’n gatalydd pwerus ar gyfer newid cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol, mae ganddo’r grym i siapio ymddygiad, dylanwadu ar safbwyntiau a llywio sylw.

Ar y cwrs gradd hwn, byddwch yn archwilio tirwedd a rôl newidiol dylunio graffig yng nghyd-destun yr unfed ganrif ar hugain, gan ymdrin â heriau globaleiddio, cynwysoldeb a chynaliadwyedd.

Byddwch yn ymgysylltu ag arferion stiwdio blaengar, yn cydweithredu â disgyblaethau eraill, yn archwilio dulliau a theori, yn gweithio ar friffiau byw gyda chleientiaid go iawn a chyflawni prosiectau dylunio hunangyfeiriedig.

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn archwilio pob math o ieithoedd gweledol ac yn arbrofi gyda chynifer o wahanol gyfryngau, deunyddiau a thechnolegau ag y gallwch, gan gynnwys:

• Teipograffeg

• Gwneud Delweddau

• Meddwl Cysyniadol a Chynhyrchu Syniadau

• Dylunio Golygyddol

• Brandio

• Hysbysebu

• Dylunio Cymdeithasol a Chynaliadwyedd

• Dylunio Gwybodaeth

• Graffeg Symud ac Animeiddio

• Rhyngwyneb Defnyddiwr a Phrofiad Defnyddiwr/Dylunio Gwasanaeth

• Naratif a Dilyniant

• Ymarfer Proffesiynol

Credwn fod rôl y dylunydd megis beirniad, curadur, awdur, crefftwr, athronydd, cyfathrebwr, cydweithredwr ac ysgogydd, a byddwn yn eich cynorthwyo i ddod yn ymarferydd medrus sy’n barod am swyddi cenedlaethol a rhyngwladol.

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

50 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Eich dyfodol

• Byddwch yn dysgu’r sgiliau a’r technegau sydd eu hangen arnoch i ddod yn hynod gyflogadwy. Byddwch yn adeiladu rhwydwaith o bobl yn y diwydiant – drwy siaradwyr sy’n ymweld, mentoriaid yn y diwydiant a briffiau byw gyda sefydliadau go iawn – bydd hynny’n amhrisiadwy ar ôl i chi raddio. Cewch gyfle i ddysgu o ddisgyblaethau eraill, teithio, cymryd rhan mewn ymchwil a chyflawni lleoliadau gwaith.

• Mae gan y cwrs gysylltiadau rhagorol â chymunedau dylunio Cymru a Llundain, yn ogystal â phartneriaid ymchwil a diwylliannol. Mae ein graddedigion mewn swyddi dylunio amlwg ledled y byd ac yn gyfrifol am allbwn dylunio graffeg mewn pob math o gyd-destunau diwylliannol, cymdeithasol, technolegol, gwleidyddol ac amgylcheddol.

drwy’r Gymraeg. Mae’r stiwdio graffeg yn lle cadarnhaol a chynhyrchiol

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n cyflawni lleoliad rhyngosod am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96-120 pwynt UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

“Dewisais y cwrs oherwydd roeddwn i’n gallu astudio'n ddwyieithog. Roedd cael yr opsiwn yn bwysig, gan fy mod i bob tro yn teimlo’n gyfforddus i gwblhau gwaith
i fod ac mae’r tiwtoriaid bob amser yn hapus i gynnig adborth ar eich gwaith.”
Prosbectws Israddedigion 2024 | 51
Erin Evans Cyfathrebu Graffig - BA (Anrh)

Darlunio BA (Anrh)

Datgloi syniadau ar gyfer deunydd darluniadol –o safbwyntiau amrywiol.

Mae darluniau’n ddelweddau gweithredol; mae ganddyn nhw ddiben bob amser, sef gwneud synnwyr o syniadau cymhleth. Fel darlunydd, byddwch yn gweithio i alluogi dealltwriaeth o bethau bob dydd – o gyfoethogi llenyddiaeth a barddoniaeth i ymateb i faterion cymdeithasol ym maes gwyddoniaeth, meddygaeth, gwleidyddiaeth ac economeg.

Yr her yw deall a defnyddio tueddiadau gweledol mewn ffordd feirniadol, wrth i chi ddatblygu eich stamp unigryw eich hun – y cyfan wrth ystyried pŵer delweddau mewn byd sy’n llawn dop o bethau gweledol. Byddwch yn datblygu ymatebion cyfoethog, llawn dychymyg i adeiladu eich ymarfer unigryw sy’n gwahodd eich cynulleidfaoedd i mewn.

Gyda sgiliau craidd mewn lluniadu a naratif byddwch yn archwilio ac yn arbrofi gyda deunyddiau, gan ddatblygu casgliad o sgiliau technegol i ddod o hyd i’ch ieithoedd gweledol eich hun i fynd i’r afael â phynciau heriol.

Drwy ein cwricwlwm unigryw byddwch yn datblygu ymarfer sy’n cael ei ddiffinio yn ei bwrpas, nid yn unig yn ôl sut y byddwch yn gwneud eich gwaith ond hefyd – a hyn sy’n bwysig – yn ôl beth yw testun eich gwaith, a sut mae’n cyfathrebu, wedi’i ategu’n ddamcaniaethol ac yn hanesyddol.

Byddwch yn profi’ch darluniau mewn amrywiaeth o amgylcheddau a senarios – gan archwilio y tu hwnt i fyd uniongyrchol y darlunydd drwy, er enghraifft; animeiddio, ffilm, cyfryngau printiedig a digidol, i fynegi’ch disgyblaeth a’i rhoi yn ei chyd-destun, gan gyfoethogi eich gwaith â dealltwriaeth well o’r amgylchedd y mae’n gweithredu ynddo.

Byddwch yn ymuno â’n Stiwdio Fertigol lle byddwch yn ymchwilio, yn archwilio ac yn datgelu’r ddisgyblaeth drwy sgyrsiau, dadleuon a chyflwyniadau dynamig, gan ddatgloi pŵer darlunio.

52 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Eich dyfodol

• Mae darlunio’n ymestyn ei gyrhaeddiad o hyd. Boed yn gweithio gyda chleientiaid a chydweithredwyr neu’n llunio ac yn cyfarwyddo eich prosiectau eich hun, byddwch yn graddio gyda llu o sgiliau trosglwyddadwy.

• Mae ffocws sylweddol ar brofiad yn y byd go iawn. Bydd hyn yn cynnwys meithrin cysylltiadau a chyflawni lleoliadau, yn ogystal â briffiau byw. Cewch gynnig cymorth i ffurfio’ch busnes eich hun os byddwch chi’n dewis gwneud hynny.

• Mae graddedigion mewn sefyllfa dda i ymuno â chwmnïau dylunio, gweithio fel darlunwyr a dylunwyr mewn sefydliadau mawr neu sefydlu eu busnesau eu hunain. Mae astudiaeth ôl-raddedig yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn opsiwn hefyd.

“Fe wnes i fwynhau fy ngradd mewn darlunio o’r diwrnod cyntaf. Roedd gen

i’r rhyddid i greu celf yn ddiddiwedd, roeddwn i’n teimlo cysylltiad mewn

grŵp ac yn gweld fy mod i’n gwella bob dydd.”

Polly Allburn BA (Anrh) - Darlunio

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n cyflawni lleoliad rhyngosod am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig

nodweddiadol: 96-120 pwynt UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad

Mae cyfle i astudio

rhan o’r radd yn Gymraeg.

Prosbectws Israddedigion 2024 | 53

Dylunio Mewnol

BA (Anrh)

Newid y ffordd rydym ni’n byw ein bywydau er gwell, drwy ddylunio mewnol effeithiol.

Bydd eich astudiaethau’n canolbwyntio ar wrthrychau a’u perthynas â gofod, yn ogystal â’r ffyrdd y byddan nhw’n creu profiad i ddefnyddwyr.

Byddwch yn dysgu pwysigrwydd cynaliadwyedd a dylunio amgylcheddol-gyfrifol; traddodiad a threftadaeth lle; estheteg a defnyddioldeb; yn ogystal â’r effaith y caiff dylunio ar brofiad a lles pobl.

Byddwn yn rhoi dealltwriaeth feirniadol a chyfoes i chi o ofod mewnol. Bydd y sgiliau hyn yn eich galluogi i ailfodelu’r gorffennol, creu’r presennol a llywio’r dyfodol.

Byddwch yn cyflawni prosiectau cydweithredol sy’n pontio cyddestunau, gwledydd a diwylliannau amrywiol. Byddwch yn archwilio ac yn defnyddio pob math o dechnolegau, yn ymdrin yn feirniadol â briffiau byw a phryderon y byd go iawn wrth i chi ddatblygu eich hunaniaeth ddylunio eich hun.

Bydd hyn yn eich galluogi i gyfansoddi, delweddu ac efelychu amgylcheddau unigryw ac unigol, gan eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Bydd eich pynciau craidd, sef meddwl yn greadigol, lluniadu, gwneud modelau, technegau dylunio stiwdio a thechnolegau CAD, yn rhoi sylfaen gadarn i chi yn elfennau sylfaenol dylunio.

Byddwch yn archwilio gwahanol dechnegau, syniadau a dulliau mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys:

• Ailfodelu; cadw; adfer; adnewyddu safleoedd sy’n bodoli eisoes

• Creu amgylcheddau â’r defnyddwyr yn ganolog (byw; gweithio; gorffwys; chwarae)

• Dadansoddi diwylliant cleientiaid (iaith dylunio; naws; awyrgylch)

• Ffurfio strategaethau dylunio

• Creu lleoedd priodol ar gyfer profiad

• Cynhyrchu gwybodaeth Manylion Tectonig

• Braslunio a lluniad dylunio â manylion wrth raddfa

• Gwneud modelau a delweddu 3D (CAD; Realiti Rhithwir; Labordy Profiad Canfyddiadol)

• Datblygu perthynas â chleientiaid, adeiladwyr ac arbenigwyr eraill

• Fframweithiau Cyfreithiol a Rheoleiddiol

Byddwch yn dysgu am yr ystyriaethau creadigol, gwyddonol a swyddogaethol y mae angen i chi eu hystyried pan fyddwch yn ymdrin â gofod. A byddwch yn ymgyfarwyddo â chyfyngiadau technegol, cyfreithiol a rheoleiddiol sy’n wynebu dylunwyr mewnol.

54 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Eich dyfodol

• Mae ffocws sylweddol ar brofiad yn y byd go iawn; o feithrin cysylltiadau a chyflawni lleoliadau i friffiau byw gyda chleientiaid. Yn eich blwyddyn olaf, gallwch ddewis datblygu cynllun busnes a chael eich cynorthwyo i ffurfio eich busnes eich hun.

• Mae graddedigion mewn sefyllfa dda i ymuno â chwmnïau dylunio mewnol a gweithio fel dylunwyr annibynnol. Mae astudiaeth ôl-raddedig yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn opsiwn hefyd.

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n cyflawni lleoliad rhyngosod am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig

nodweddiadol: 96-120 pwynt UCAS

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

“Gydol y radd hon, rydw i wedi cael cyfleoedd

diddiwedd i dyfu fel

dylunydd mewnol. Gyda phrosiectau byw, cawsom gyfle i weithio gyda

chleientiaid go iawn – roedd hwn yn gyfle

anhygoel i bob un ohonom

sylweddoli sut mae’r byd go iawn yn gweithio.”

Anouk Mimi

BA (Anrh) - Dylunio Mewnol

Prosbectws Israddedigion 2024 | 55
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Ffotograffiaeth

BA (Anrh)

Gall eich gweledigaeth unigryw helpu i ailddiffinio’r ffordd rydym ni’n gweld y byd o’n cwmpas.

Mae ffotograffiaeth yn iaith bwerus. Mae’n ein galluogi i gyfleu syniadau ac emosiynau cymhleth. Mae’n dweud wrthym beth sy’n cael ei ystyried yn bwysig ac yn ein helpu i ddeall a chwestiynu’r gorffennol a’r presennol. Fel ffotograffydd beirniadol a chreadigol, gallwch gyfrannu at greu tirweddau gweledol y dyfodol.

Bydd y radd hon yn datblygu eich dealltwriaeth o agweddau technegol, creadigol a chysyniadol ffotograffiaeth, gan gael ysbrydoliaeth o ddulliau artistig a golygyddol o wneud delweddau ac arferion arbrofi gyda lensys.

Byddwch yn dysgu sut i werthuso’n feirniadol eich dulliau creadigol o ymdrin ag arferion ffotograffig cyfoes, gan eu lleoli o fewn diwylliant gweledol ehangach.

Byddwn yn eich annog i ddilyn eich diddordebau ffotograffig eich hun, gan feithrin ffordd unigryw o weld, a chreu portffolio dynamig o waith.

Byddwch yn datblygu hunaniaeth weledol unigryw a dealltwriaeth o sut y gallech ddefnyddio eich arddull bersonol mewn gwahanol gyddestunau, o ffasiwn a chelfyddyd gain i hysbysebu a gwaith golygyddol.

Byddwch yn meithrin sgiliau ffotograffiaeth ffilm a digidol proffesiynol law yn llaw â gwybodaeth am hanes ac ymarfer ffotograffig, gan gynnwys:

• Sgiliau gwneud delweddau analog a digidol

• Technegau goleuo stiwdios a lleoliadau

• Genres ffotograffig

• Golygu a dilyniannu

• Iaith ffotograffiaeth

• Llif gwaith digidol ac ôl-gynhyrchu

• Datblygu portffolio

• Protocolau moesegol

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

• Cyd-destunau proffesiynol (gan gynnwys cyllidebu, prisio, hawlfraint, asiantaethau ac ymwybyddiaeth o’r farchnad)

56 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Lleoliad astudio:

Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n cyflawni lleoliad rhyngosod am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96-120 pwynt UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

Eich dyfodol

Duncan Cook

BA (Anrh) - Ffotograffiaeth

Darlithydd

• Yn ystod y cwrs, bydd cyfle i gyflawni briffiau byw a chael profiad gwaith. Bydd hyn yn cynnwys meithrin cysylltiadau a chyflawni lleoliadau, yn ogystal â dod i gysylltiad â gweithwyr proffesiynol ym maes ffotograffiaeth drwy anerchiadau gan rai o fyd diwydiant a mentora.

• Mae gan ein hysgol bartneriaeth hirsefydlog gyda Ffotogallery, Asiantaeth Ffotograffiaeth Genedlaethol Cymru, sy’n arwain at interniaethau â thâl a chyfleoedd i fyfyrwyr arddangos a gwirfoddoli yn ystod Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd, a gynhelir bob dwy flynedd.

• Mae graddedigion mewn sefyllfa dda i weithio fel ffotograffwyr annibynnol, ymuno â chwmnïau cyfryngau a dylunio neu asiantaethau hysbysebu, neu gael eu cyflogi yn y diwydiannau celf a dylunio creadigol ehangach.

“Fy rôl i yw helpu myfyrwyr i leoli eu hymarfer creadigol o fewn maes eang ffotograffiaeth gyfoes, ac i’w harwain yn eu camau cyntaf tuag at yrfa broffesiynol.”
Prosbectws Israddedigion 2024 | 57 Prosbectws Israddedigion | 57

Dylunio Cynnyrch

BA/BSc (Anrh)

Datblygu cynnyrch sydd â’r potensial i newid bywydau.

Mae’r pethau yn ein bywydau, y gwrthrychau a garwn, y cyfarpar y byddwn ni’n ei ddefnyddio a’r offer rydym ni’n dibynnu arno, yn cael eu datblygu gan ddylunwyr cynnyrch.

Mae dylunydd cynnyrch yn datrys problemau’n greadigol yn ogystal â chanfod problemau yn y lle cyntaf. Bydd yn ymateb i anghenion dynol mewn cyd-destunau yn y byd go iawn, yn datblygu ymyriadau cynaliadwy, yn eu profi’n drylwyr ac yn eu troi’n gynhyrchion yn barod i gael eu gweithgynhyrchu a’u defnyddio.

Bydd ein gradd wedi’i hachredu’n broffesiynol yn rhoi’r sgiliau i chi y mae’r diwydiant hwn sy’n symud yn gyflym yn mynnu eu cael. Byddwch yn archwilio syniadau blaengar ym maes dylunio, egwyddorion dylunio cynaliadwy, gwyddor a pheirianneg defnyddiau, prototeipio a gweithgynhyrchu cyflym, ac egwyddorion dylunio sy’n canolbwyntio ar y person.

Llwybr BA

Byddwch yn canolbwyntio ar y sgiliau deallusol a chreadigol sydd eu hangen arnoch i ddatblygu gwrthrychau â diben, harddwch a pherthnasedd cymdeithasol. Bydd gennych agwedd defnyddiwrganolog at ddylunio a byddwch yn ystyried sut caiff gwrthrychau eu defnyddio mewn grwpiau cymdeithasol a sefyllfaoedd diwylliannol.

Llwybr BSc

Byddwch yn canolbwyntio ar ddylunio ar gyfer gweithgynhyrchu a chydosod – gan ganolbwyntio ar faterion technegol a pheirianegol. Byddwch yn datblygu eich sgiliau logistaidd a deallusol ac yn eu defnyddio i ddatrys problemau a datblygu cynhyrchion.

Bydd gennych ddefnydd llawn o’n cyfleusterau gweithdai helaeth a’n stiwdios dylunio arbenigol – lle byddwch yn ennill gwybodaeth ymarferol am amrywiaeth o ddeunyddiau ac yn datblygu sgiliau, gan gynnwys:

• Y Broses Ddylunio: Methodolegau â’r Defnyddiwr yn Ganolog, gan gynnwys Ystyriaethau Dylunio a Dylunio Person-Ganolog

• Mewnwelediadau Defnyddiwr: Ymchwil Ethnograffig, Empathi fel Offeryn Dylunydd, Profi gan ddefnyddwyr

• Cysyniadu 2D a 3D: Braslunio, Prototeipio Cyflym, Modelu â Llaw

• Prototeipio: Arduino/Electroneg, Torri â Laser, Rheoli Rhifiadol Cyfrifiadurol (CNC), argraffu 3D, Gwaith Coed, Pwytho, Gwaith Metel, Cerameg

• Dylunio ar gyfer Gweithgynhyrchu: Meddalwedd CAD o safon diwydiant, CAD/CAM, Archwilio Prosesau Gweithgynhyrchu a Phriodweddau Deunyddiau

• Technegau Cyflwyno: Illustrator, Photoshop, InDesign, Keyshot

• Gwyddor Peirianneg (BSc): Priodweddau Mecanyddol, Peiriannau a Mantais Fecanyddol, Systemau Trawsyrru Pŵer, Signalau Analog a Digidol a’u prosesu, Electroneg, Rhaglennu Cyfrifiadurol, Systemau Electromecanyddol

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

58 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Eich dyfodol

• Mae’r BA a BSc yn rhoi cyfleoedd hanfodol i chi gael profiad o sut mae dylunio cynnyrch yn gweithio yn y byd go iawn. Byddwch yn gweithio mewn cyd-destunau byd go iawn ar friffiau byw, ar brosiectau rhyngddisgyblaethol a chystadlaethau creadigol i ddatblygu eich gwybodaeth am brosesau dylunio hyd at y broses weithgynhyrchu.

• Mae lleoliadau mewn diwydiant, prosiectau ymchwil ac opsiynau i astudio dramor ar gael hefyd.

• Mae graddedigion wedi cael swyddi dylunydd cynnyrch yn y diwydiant ar ôl graddio, tra bod eraill wedi symud ymlaen i astudio ôl-radd gydag Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.

arweiniodd y cyswllt hwn â’r diwydiant at gael cynnig swydd gyda DS Smith, a dyna ddechrau fy ngyrfa.”

Toby Edmunds BSc (Anrh) - Dylunio Cynnyrch

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n cyflawni lleoliad rhyngosod am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig

nodweddiadol: 96-120 pwynt UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

“Yn ystod fy ngradd Dylunio Cynnyrch, cyflwynwyd sawl ‘briff byw’ i ni. Yn y pen draw,
Prosbectws Israddedigion 2024 | 59

Dylunio Tecstilau

BA (Anrh)

Datblygu’n rhywun sy’n creu newid yn y diwydiant, gan gyfuno technegau arloesol i greu cynhyrchion tecstilau unigryw a gwydn ar gyfer y dyfodol.

Os ydych chi’n hoffi lliw, patrwm, lluniadu, gweadau, deunyddiau a gwneud, mae’r radd Dylunio Tecstilau’n ddelfrydol i chi. Byddwch yn datblygu’r sgiliau creadigol, proffesiynol ac ymchwil sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant amrywiol hwn sy’n tyfu’n gyflym.

Byddwch yn ennill profiad ymarferol mewn sesiynau stiwdio ymarferol a gweithdai arbenigol lle byddwch yn dysgu sgiliau traddodiadol, yn ogystal â’r prosesau digidol diweddaraf. Cewch eich addysgu gan staff academaidd a thechnegol arbenigol sy’n cymryd rhan mewn gwaith ymchwil, a dylunwyr ac artistiaid proffesiynol. Mae darlithwyr gwadd a theithiau maes yn rhoi cyfle i chi brofi amrywiaeth o arferion go iawn ym maes Dylunio Tecstilau.

Byddwch yn cael profiad o gasgliad eang o dechnegau ac arddulliau tecstilau, gan gynnwys Print a Phatrwm, Gwau a Gwehyddu, Pwytho a Thrin Ffabrig a Chyfryngau Cymysg. Byddwch yn darganfod sut i gymhwyso eich dyluniadau i ofodau mewnol, cerameg, dillad, dodrefn, deunydd lapio anrhegion, cardiau, ategolion a mannau cyhoeddus hyd yn oed.

Byddwch yn archwilio themâu allweddol mewn Dylunio Tecstilau megis cynaliadwyedd, gweithgynhyrchu a diwylliant deunyddiau, i gyd wrth ddatblygu eich arddull eich hun a’ch iaith decstilau bersonol.

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

60 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Eich dyfodol

• Mae ein cysylltiadau â’r diwydiant yn golygu y gallwn roi cyfle i chi weithio ar friffiau cleient byw a chyfleoedd interniaeth, gan eich paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Cewch

gyfle hefyd i gymryd rhan mewn arddangosfeydd graddedigion megis New Designers, gan eich dwyn i sylw’r diwydiant yn gyffredinol.

• Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio mewn pob math o rolau sy’n cynnwys Dylunwyr Tecstilau ar gyfer ffasiwn a dylunio mewnol (Premier Textiles, Ian Snow, Peacocks, Rapture & Wright, Elan Bac); Dylunwyr

Print ar gyfer ffasiwn neu ddylunio

mewnol (Wilkos, Sainsbury’s, B&M); Dylunwyr Patrwm Arwyneb ar gyfer

deunyddiau ysgrifennu (Hallmark, Design Group, Ling Design, Clinton Cards, UK Greetings) a Marchnata

Gweledol (John Lewis, IKEA).

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n cyflawni lleoliad rhyngosod am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96-120 pwynt UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

“Gan fy mod i’n dal i weithio fel dylunydd, rwy’n gallu deall a dadansoddi’r sgiliau a’r ffordd o feddwl mae angen i fyfyrwyr eu datblygu er mwyn dod yn ddylunwyr llwyddiannus eu hunain.”
Sian Thomas Darlithydd Dylunio Tecstilau - BA (Anrh)
Prosbectws Israddedigion 2024 | 61

gwneud gwahaniaeth

Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd (YAPCC)

Mae’r Ysgol, sydd wedi’i lleoli ar gampws Cyncoed a champws Llandaf, yn cynnig graddau sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd ym meysydd pwnc Addysg, Saesneg ac Ysgrifennu

Creadigol, Y Cyfryngau, Polisi

Cymdeithasol ac Addysg Gychwynnol i Athrawon.

Mae’n gartref i Bartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon, un o’r canolfannau addysg a hyfforddiant athrawon mwyaf yn y DU, ac mae gennym dros 60 mlynedd o brofiad ac enw rhagorol am ansawdd ein darpariaeth hyfforddiant athrawon.

Mae gan ein graddau enw da cenedlaethol a rhyngwladol cynyddol am ragoriaeth, gyda llawer yn cael eu datblygu ar y cyd â chyrff rheoleiddio a phroffesiynol. Cewch eich addysgu gan ddarlithwyr a siaradwyr gwadd sydd wrthi’n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu maes gwaith ac sy’n ymrwymedig i ddarparu amgylchedd dysgu o ansawdd uchel wrth gefnogi eich dyheadau gyrfa.

Dysgwch fwy am yr Ysgol drwy sganio’r cod QR neu drwy fynd i www.metcaerdydd.ac.uk/addysg

62 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Rydym yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn hynod fedrus ac wedi’u paratoi’n llawn ar gyfer byd gwaith. Mae gan ein holl gyrsiau leoliadau gwaith gorfodol neu ddewisol fel y gallwch gael profiad ymarferol gwerthfawr drwy ein cysylltiadau rhagorol ag ysgolion, diwydiant a’r gymuned. Yn ogystal, mae rhai o’n cyrsiau’n cynnig cyfleoedd ychwanegol i chi gael hyfforddiant a chymwysterau a gydnabyddir yn broffesiynol i wella eich CV.

Rydym yn falch bod ein cymuned fywiog o raddedigion yn gwneud gwahaniaeth mewn cymdeithas. Mae llawer o’n myfyrwyr yn cael swyddi mewn amrywiaeth eang o sectorau, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, tra bod eraill yn parhau gyda’u hastudiaethau ar lefel ôl-raddedig a doethuriaeth.

Mae pynciau’n cynnwys:

• Troseddeg

• Addysg Blynyddoedd Cynnar

• Addysg, Seicoleg ac Anghenion Addysgol Arbennig

• Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

• Iechyd a Gofal Cymdeithasol

• Y Cyfryngau a Chyfathrebu

• Addysgu Cynradd

• Plismona Proffesiynol

• Gwaith Cymdeithasol

• Cymdeithaseg

• Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

Prosbectws Israddedigion 2024 | 63

Cyfleusterau Addysg a Pholisi Cymdeithasol

Gyda’r nod o gyfoethogi profiad dysgu a chyflogadwyedd ein myfyrwyr, mae gennym

lawer o fannau addysgu arbenigol sy’n darparu cyfleoedd hollbwysig ar gyfer dysgu seiliedig ar ymarfer ar y campws.

Mae’r rhain yn cynnwys Canolfan Ddysgu Awyr Agored ac ysgol goedwig, labordai gwyddoniaeth a seicoleg, gweithdai celf a dylunio, ystafelloedd cyfryngau a TG, stiwdio gerddoriaeth a llyfrgell addysg bwrpasol.

Mae ein lleoliad arbenigol, Froebel House, yn galluogi ein myfyrwyr addysg gychwynnol i athrawon ac addysg gynradd i ddysgu am egwyddorion Froebel ac arferion chwarae ym maes dysgu plentyndod cynnar. Mae’r tŷ yn integreiddio mannau dan do ac awyr agored fel y gall ein myfyrwyr gael profiadau ‘ymarferol’ rhyngweithiol o chwarae bloc, clai, gwaith coed a garddio.

Yn ogystal, mae ein myfyrwyr troseddeg a phlismona proffesiynol yn elwa ar ein Tŷ Lleoliad Trosedd newydd ar gampws Cyncoed, sy’n cynnwys dalfa, ystafell arsylwi a gwyliadwriaeth ac ystafell gyfweld; ynghyd ag ystafell Ffug Lys bwrpasol ar gampws Llandaf.

64 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Dysgwch fwy am ein

cyfleusterau Addysg a Pholisi Cymdeithasol drwy sganio’r cod QR

Prosbectws Israddedigion 2024 | 65

Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Ymarfer

Proffesiynol

gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (SYBC) BA (Anrh)

Datblygu’n ymarferydd blynyddoedd cynnar hynod fedrus sy’n gweithio gyda phlant a’u teuluoedd.

Mae dau lwybr astudio ar gael:

• BA (Anrh) Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Ymarfer Proffesiynol gydag SYBC (Dwyieithog)*

• BA (Hons) Early Years Education and Professional Practice with Early Years Practitioner Status (EYPS)

Byddwch yn ennill statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (SYBC) cymwysedig, gan gael profiad seiliedig ar waith ymarferol wedi’i gyfuno

â gwybodaeth ddamcaniaethol a seiliedig ar bolisi, yn ogystal â’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n ofynnol ar gyfer ymarfer effeithiol yn y Blynyddoedd Cynnar, gan gynnwys rheoli lleoliadau Blynyddoedd Cynnar.

Elfen ganolog o’r radd arloesol hon yw’r 700 awr o brofiad ymarferol wedi’i asesu y byddwch yn eu cwblhau er mwyn ennill SYBC.

Mae hyn yn cynnwys lleoliad yn ystod pob blwyddyn astudio mewn amrywiaeth o leoliadau perthnasol megis ystafelloedd dosbarth babanod, meithrinfeydd preifat, canolfannau plant ac ysgolion cynradd.

Byddwch yn treulio amser yn ein darpariaeth Ysgol Goedwig ar y campws, lle byddwch yn gallu cael profiad uniongyrchol o’r dull dynamig hwn o ddarparu addysg gynnar a chyfle i gyflawni cymhwyster Hyfforddiant Cynorthwyol Lefel 2 Ysgol Goedwig ychwanegol. Byddwch yn datblygu sgiliau arwain hanfodol hefyd ac yn cael cymhwyster ILM Lefel 5 cydnabyddedig mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, a fydd yn fuddiol mewn swyddi arwain yn y dyfodol.

Yn ystod y radd, cewch eich addysgu gan academyddion sydd wrthi’n gwneud gwaith ymchwil ac arbenigwyr blynyddoedd cynnar, gan gynnwys darlithwyr gwadd o leoliadau cysylltiedig, megis Chwarae Cymru a Thŷ Hafan, i ddarparu cyfleoedd addysgu a dysgu ychwanegol.

Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn cael eich gwerthfawrogi’n fawr gan ddarpar gyflogwyr yn y sector blynyddoedd cynnar.

66 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Ffion Thompson

Gradd Blynyddoedd Cynnar - BA (Anrh) A Pherchennog Canolfan Chwarae

Modiwlau nodweddiadol

• Chwarae a Dysgu Cynnar

• Y Plentyn sy’n Datblygu

• Addysgeg ac Ymarfer yn y Blynyddoedd Cynnar

• Dod yn Ymchwilydd

• Ymarfer Cynhwysol yn y Blynyddoedd Cynnar

• Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Eich dyfodol

• Mae cyrchfannau gyrfa nodweddiadol yn cynnwys swyddi mewn lleoliadau chwarae, rheolwr meithrinfa, lles addysgol a bod yn berchen ar eich canolfan chwarae eich hun, yn ogystal â gyrfaoedd cysylltiedig mewn gwaith cymorth i deuluoedd, diogelu, iechyd a gofal cymdeithasol a therapi chwarae.

• Mae’r radd hon yn fan cychwyn i symud ymlaen i addysgu cynradd. Ym Met Caerdydd, mae pob myfyriwr sy’n graddio yn cael sicrwydd o gyfweliad ar gyfer y TAR Cynradd, yn amodol ar fodloni gofynion mynediad.

• Mae dilyniant i astudiaethau ôl-raddedig a PhD pellach ar gael, gan gynnwys ein graddau meistr addysg amrywiol ym Met Caerdydd.

Lleoliad astudio: Campws Cyncoed

Hyd y cwrs:

Tair blynedd yn

llawn amser

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 104 pwynt UCAS

*Er y bydd rhywfaint o’r radd yn cael ei chyflwyno drwy gyfrwng y Saesneg, Cymraeg yw cyfrwng y rhan fwyaf o’r cwrs dwyieithog, gan gynnwys cyfleoedd lleoliad a chymorth tiwtor personol cyfrwng Cymraeg. Efallai y bydd ysgoloriaethau ar gael.

“Rwy’n berchen ar ganolfan chwarae rôl i blant sy’n darparu cyfleoedd chwarae amrywiol i blant o’u geni hyd at saith oed. Rydw i mor falch fy mod i wedi agor fy musnes. Does dim byd gwell na gwylio plant yn cael rhyddid wrth chwarae.”
Prosbectws Israddedigion 2024 | 67

Addysg, Seicoleg ac Anghenion Addysgol Arbennig BSc

Un radd – tri arbenigedd pwnc.

Mae’r radd gymhwysol unigryw hon yn archwilio materion addysgol ac anghenion dysgu ychwanegol o safbwyntiau seicolegol. Bydd y radd yn darparu gwybodaeth ddamcaniaethol fanwl a’r strategaethau ymarferol sydd eu hangen i gefnogi amrywiaeth o ddysgwyr, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.

(Anrh)

Mae ffocws cryf ar seicoleg drwy gydol y radd. Byddwch yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddeall sut y gall seicoleg gymhwysol lywio polisi ac ymarfer addysg mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

Byddwch yn archwilio meysydd amrywiol seicoleg a sut y gallant gyfrannu at ein dealltwriaeth o bethau fel datblygiad cymdeithasol, emosiynol a chorfforol, anghenion dysgu ychwanegol, ymddygiad yn yr ysgol, prosesau dysgu meddyliol a biolegol, a dylanwad hunan-barch a chymhelliant ar ddysgu a chyflawni. Mae pwyslais hefyd ar bwysigrwydd meddwl beirniadol yng nghyd-destun ymarfer addysgol, a datblygu sgiliau ymchwil ym maes addysg.

68 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Cewch eich addysgu gan staff sydd â phrofiad o gymhwyso seicoleg i gyd-destunau addysgol, mewn addysg prif ffrwd ac addysg arbennig.

Gydol y radd gyffrous hon, byddwch yn cyflawni profiad gwaith mewn amrywiaeth o leoliadau addysgol, gan gynnwys ysgolion anghenion arbennig a darpariaethau arbenigol mewn ysgolion prif ffrwd. Cewch gyfle i gwblhau hyfforddiant ychwanegol a chyrsiau achrededig hefyd, megis hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth, gan wella eich cyflogadwyedd a’ch cyfleoedd gyrfa ymhellach.

Modiwlau nodweddiadol

Mae modiwlau’n cyfuno agweddau ar seicoleg gydag addysg ac anghenion dysgu ychwanegol, gan annog dull integredig o ymdrin â’r pynciau hyn.

Mae’r modiwlau’n cynnwys:

• Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Ymarfer Cynhwysol

• Egluro Amrywiaeth mewn Addysg

• Ymddygiad a Chyfathrebu Cymdeithasol

• Deall Ymddygiad Dysgwyr

• Dyfodol Addysg

• Themâu sy’n dod i’r amlwg ym maes Seicoleg mewn Addysg

Eich dyfodol

“Ar leoliad, gweithiais fel cynorthwyydd cymorth lleol yn helpu unigolion ag anawsterau dysgu difrifol.

Fe wnes i gyflawni lleoliad gydag asiantaeth a gefnogir gan y brifysgol hefyd, a oedd yn golygu fy mod i’n cael fy nhalu i ddysgu!”

Chloe Edwards

Addysg, Seicoleg ac Anghenion

Addysgol Arbennig – BSc (Anrh)

• Mae gyrfaoedd nodweddiadol yn cynnwys gweithio gydag unigolion sydd ag amrywiaeth o anghenion dysgu ychwanegol, gwasanaethau cymorth addysgol, gwaith cymdeithasol addysgol a seicoleg addysgol.

• Mae’r radd hon yn fan cychwyn i symud ymlaen i hyfforddiant athrawon hefyd. Ym Met Caerdydd, mae pob myfyriwr sy’n graddio yn cael sicrwydd o gyfweliad ar gyfer y TAR Cynradd, yn amodol ar fodloni gofynion mynediad.

• Mae dilyniant i astudiaeth ôl-raddedig a PhD pellach ar gael, gan gynnwys ein MA Addysg ac MSc Seicoleg mewn Addysg a achredir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain ym Met Caerdydd.

Lleoliad astudio: Campws Cyncoed Hyd y cwrs: Tair neu bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 126)

Gofynion mynediad: Cynnig

nodweddiadol: 104 pwynt UCAS

Prosbectws Israddedigion 2024 | 69

Astudiaethau Addysg Gynradd BA (Anrh)*

Astudio addysg gynradd drwy lens gyfoes.

Mae’r radd hon wedi’i gwreiddio ym maes astudiaethau addysg, gan roi gwybodaeth i chi am faterion sylfaenol mewn addysg ar draws cyd-destunau ac amgylcheddau amrywiol. Mae’r cwrs yn canolbwyntio’n benodol ar y sector cynradd a bydd yn darparu llwyfan delfrydol i’r rhai sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd ym maes addysg gynradd, yn ogystal â gweithio ym meysydd ehangach addysg, addysgu ac iechyd.

Mae dau lwybr astudio ar gael:

• BA (Anrh) Astudiaethau Addysg Gynradd (Dwyieithog)**

• BA (Hons) Primary Education Studies

Mae modiwlau’n cyflwyno ac yn archwilio materion a thrafodaethau cyfoes ynghylch cydraddoldeb, rhywedd, globaleiddio, cynaliadwyedd a thechnolegau. Byddwch yn ymdrin

â chysyniadau a safbwyntiau gwrthgyferbyniol amrywiol sy’n dylanwadu ac yn effeithio ar brofiadau plant mewn cymdeithas ac addysg. Mae addysgu a dysgu’n eich annog i ymdrin

â’r berthynas rhwng tirweddau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd, materion dadleuol a pholisïau. Cewch eich annog a’ch cefnogi ym mhob cam i ddatblygu eich gallu i feddwl yn feirniadol ac yn greadigol.

Mae cyfleoedd cyson ar gyfer profiad seiliedig ar waith ac ymarfer cyfredol ar gael gan ddefnyddio’r technolegau a’r strategaethau dysgu diweddaraf.

Ym mlwyddyn un, byddwch yn cyflawni lleoliad y tu allan i addysg gynradd e.e. meithrinfa breifat, cylch chwarae cymunedol, ysgol uwchradd, ysgol ysbyty neu hyfforddi chwaraeon. Ym mlwyddyn dau, byddwch yn gweithio mewn ysgol gynradd fel cynorthwyydd addysgu ac mewn capasiti arsylwadol. Mae’r naill brofiad a’r llall yn eich cyflwyno i bob math o lwybrau gyrfa.

Cewch eich addysgu gan academyddion sydd wrthi’n gwneud gwaith ymchwil a siaradwyr gwadd o feithrinfeydd, ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion lleol. Bydd teithiau maes lleol yn gwella eich dysgu. Byddwch yn treulio amser mewn ystafelloedd dosbarth a lleoliadau awyr agored amrywiol, gan gynnwys Canolfan Dysgu Awyr Agored y Brifysgol. Gallwch ddewis ennill cymhwyster Ysgol Goedwig Lefel 2 hefyd. Yn ogystal, byddwch yn archwilio pwysigrwydd chwarae bloc, gwaith coed, clai a garddio yn ein gofod adnoddau arbenigol, Froebel House. Mae’r holl arferion hyn, ynghyd â phrofiadau allgyrsiol sydd ar gael, yn datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r cwricwlwm, addysgeg ac ymarfer.

Modiwlau nodweddiadol

• Meysydd Dysgu a Phrofiad

• Dysgu Cynnar

• Addysg a Chydraddoldeb

• Addysg Fyd-eang a Chymharol

• Dulliau Amgen

• Dyfodol Addysg

70 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Eich dyfodol

• Ar ôl cwblhau’r radd, byddwch yn barod i ddilyn gyrfa ym maes addysg yn y blynyddoedd cynnar, addysg gynradd, addysg gymunedol, iechyd a lles, y trydydd sector a mwy.

• Mae’r radd yn fan cychwyn delfrydol i symud ymlaen i addysgu cynradd ac uwchradd. Ym Met Caerdydd, mae pob myfyriwr sy’n graddio yn cael sicrwydd o gyfweliad ar gyfer y TAR Cynradd, yn amodol ar fodloni gofynion mynediad.

• Mae dilyniant i astudiaethau ôlraddedig a PhD pellach ar gael, gan gynnwys ein casgliad o raddau meistr addysg ym Met Caerdydd.

Lleoliad astudio: Campws Cyncoed

Hyd y cwrs: Tair blynedd yn llawn amser

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 104 pwynt UCAS

*Noder nad yw’r radd hon yn cynnig Statws Athro Cymwysedig (gweler tudalen 72)

**Er y bydd rhywfaint o’r radd yn cael ei chyflwyno drwy gyfrwng y Saesneg, Cymraeg yw cyfrwng y rhan fwyaf o’r cwrs dwyieithog, gan gynnwys cyfleoedd lleoliad a chymorth tiwtor personol cyfrwng Cymraeg. Efallai y bydd ysgoloriaethau ar gael.

“Yn wreiddiol dechreuais fy astudiaethau yn Saesneg yn y brifysgol, ond roedd gymaint o ganmol gan fy ffrind oedd wedi dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Felly gwnes i benderfynu mynd amdani, a dyma’r dewis gorau dwi erioed wedi ei wneud. Roedd gen i ofn nad oedd fy Nghymraeg yn ddigon da, roeddwn i’n ddihyder… ond mae hyn i gyd wedi mynd, mae’r gefnogaeth yn wych, a dwi’n teimlo llawer mwy cyfforddus yn y grŵp seminar Cymraeg.”

Amber Cripps

Astudiaethau Addysg

Gynradd (Dwyieithog) - BA (Anrh)

Prosbectws Israddedigion 2024 | 71

Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig

Hyfforddi i fod yn athro ysgol gynradd blaengar sy’n barod ar gyfer yr ystafell ddosbarth.

Nod y cwrs yw eich paratoi i fod yn ymarferydd hynod fedrus, hyderus ac arloesol sy’n gallu myfyrio’n feirniadol ac sy’n ymrwymedig i ddysgu proffesiynol gydol oes ac i addysg pobl ifanc.

Mae dau lwybr astudio ar gael sydd wedi’u hachredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg:

• BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig*

• BA (Hons) Primary Education with Qualified Teacher Status

Mae’r radd yn cyfleu’r cwricwlwm diwygiedig yng Nghymru, gan eich galluogi i addysgu’r cwricwlwm ar draws yr ystod oedran 3-11 oed.

Mae ein hymarfer clinigol yn seiliedig ar ymchwil, gan eich galluogi i ddefnyddio theori i lywio ymarfer, ac i’r gwrthwyneb.

Yn y radd, byddwch yn cyflawni cyfanswm o 120 o ddiwrnodau yn yr ysgol ac mae strwythur y diwrnodau hyn yn cynnwys ‘diwrnod dychwelyd’ i’r brifysgol neu’r ysgol bartneriaeth arweiniol bob wythnos i atgyfnerthu a chydlynu egwyddorion allweddol diwylliant cydweithredol a dysgu sy’n cael ei lywio gan ymchwil.

BA (Anrh)

Byddwch yn elwa hefyd ar 15 o Ddiwrnodau Hyfforddiant dan Arweiniad Ysgol ychwanegol mewn Ysgolion/ Cynghreiriau Partneriaeth Arweiniol, gan ddysgu gan ddarparwyr addysg a datblygiad proffesiynol blaenllaw.

Yn y flwyddyn gyntaf, mae ymarfer clinigol wedi’i gynnwys mewn modiwl academaidd, ac ni fydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn addysgu annibynnol. Ym mlynyddoedd dau a thri, byddwch yn cymryd rhan mewn addysgu annibynnol a bydd gofyn i chi ysgwyddo cyfrifoldeb cynyddol dros addysgu dosbarth, neu ddosbarthiadau, yn annibynnol dros gyfnod parhaus a sylweddol. Mae ymarfer clinigol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd, a bydd pob athro dan hyfforddiant yn cael 36 awr o addysgu uniongyrchol mewn perthynas â datblygiad y Gymraeg.

Mae cyfleoedd ychwanegol i ymgymryd â Chymorth Achrededig Agored Cymru yn hyfforddiant Lefel 2 yr Ysgol Goedwig, ac mae blwyddyn ryngosod Erasmus ar gael hefyd.

Modiwlau nodweddiadol

• Meysydd Dysgu a Phrofiad

• Dyfodol Llwyddiannus

• Archwilio Chwarae a Dysgu Cynnar

• Ymchwilio i Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Addysg Gynradd

• Dulliau Lleol, Byd-eang a Blaengar ym maes Addysg

• Ymarfer Proffesiynol a Llesiant

72 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Eich dyfodol

• Ar ôl cwblhau’r radd, byddwch yn hynod gyflogadwy ac yn barod i ateb gofynion yr ystafell ddosbarth fel athro ysgol gynradd.

• Mae Statws Athro Cymwysedig yn golygu y gallwch addysgu mewn ysgolion cynradd yng Nghymru, y DU a thramor.

• Mae ein gradd yn darparu sail wych i chi symud ymlaen i gyrsiau addysg ôl-raddedig arbenigol, gan gynnwys cyrsiau MA Addysg ac MSc Seicoleg mewn Addysg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon

Mae hyfforddi i addysgu ym Met Caerdydd yn gyfle cyffrous i ddysgu ym Mhartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon. Mae Partneriaeth Caerdydd yn cynnwys Met Caerdydd a’i hysgolion cysylltiedig yn gweithio gyda Phrifysgol Rhydychen, Prifysgol Caerdydd, Consortiwm Canolbarth y De (CSC), y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS) a Chyngor Dinas Caerdydd. Mae Partneriaeth Caerdydd yn cydweithio i sicrhau y bydd ein hathrawon dan hyfforddiant nid yn unig yn cyrraedd y safonau proffesiynol ar gyfer SAC ond yn ceisio gwneud mwy na hynny drwy addysg broffesiynol o safon uchel sy’n ymarferol drylwyr ac yn ddeallusol heriol.

Beau Fryer

Gradd Addysg Gynradd gyda SAC - BA (Anrh)

Athro Cynradd

Lleoliad astudio: Campws Cyncoed Hyd y cwrs: Tair blynedd yn llawn amser

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 115 pwynt UCAS

5 TGAU yn cynnwys Saesneg/ Cymraeg (Iaith gyntaf) a Mathemateg gradd C/4, Gwyddoniaeth Gradd C/4, (neu gyfwerth)

Gwiriad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Tystiolaeth o brofiad gwaith mewn ysgol gynradd prif ffrwd

*Gall myfyrwyr ddewis gwneud traean o’r radd drwy gyfrwng y Gymraeg (yn cyfateb i o leiaf 40 credyd fesul blwyddyn academaidd). Bydd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn derbyn sesiynau ‘Gloywi iaith’ a fydd yn mynd i’r afael ag elfennau gramadegol y Gymraeg a chaiff athrawon dan hyfforddiant gyfarwyddyd ar ddulliau sy’n gysylltiedig â datblygu sgiliau llythrennedd personol disgyblion a’u dealltwriaeth o gefndiroedd ieithyddolgymdeithasol dysgwyr.

“Mae’r seminarau wedi bod yn amhrisiadwy ac yn help mawr i’ch paratoi chi ar gyfer eich profiadau yn yr ystafell ddosbarth. Roeddwn i’n nerfus ynghylch mynd ar leoliad ysgol i ddechrau, ond fe ddes i’n gyfforddus yn yr ystafell ddosbarth yn gyflym.”
Prosbectws Israddedigion 2024 | 73

Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

BA (Anrh)

Datblygu eich llais fel awdur a beirniad.

Mae ein gradd yn mynd â chi ar daith drwy 600 mlynedd a mwy o hanes llythrennedd – o’r clasuron i ramantiaeth i lenyddiaeth gyfoes. Bydd yr awduron gwych y byddwch chi’n eu hastudio yn ysbrydoli ac yn dylanwadu ar eich gwaith ysgrifennu. Yn y cyfamser, bydd datblygu eich gwaith creadigol eich hun ar y radd yn arwain at ddealltwriaeth newydd o dechneg a fydd yn hogi eich sgiliau dadansoddi testunau llenyddol. Mewn seminarau, cewch eich gwahodd i ystyried sut mae llenyddiaeth ac ysgrifennu’n fyw, gan edrych ar faterion cyfoes fel anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, dad-drefedigaethu, newid hinsawdd a mwy.

Mae’r radd yn canolbwyntio ar dair cydran graidd: DARLLEN, YSGRIFENNU, CYSYLLTU. Bob blwyddyn, byddwch yn cyflawni dau fodiwl o bob edefyn, felly byddwch yn archwilio Llenyddiaeth Saesneg, yn ymarfer Ysgrifennu Creadigol ac yn cysylltu popeth rydych chi’n ei ddysgu mewn ffyrdd cydweithredol, rhyngddisgyblaethol ac arloesol.

Byddwch yn dysgu sgiliau proffesiynol hanfodol hefyd ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau yn y byd go iawn: cystadlu yn ein cystadlaethau SLAM barddoniaeth; darllen eich

gwaith mewn nosweithiau meic agored; cwrdd ag awduron cyhoeddedig ac ymarferwyr creadigol; gwirfoddoli

mewn digwyddiadau a gwyliau

llenyddol lleol; cyflwyno eich gwaith i’n detholiad dan arweiniad myfyrwyr; a llawer mwy. Ym mlwyddyn dau, gellir teilwra’r lleoliad gwaith gwarantedig i fodloni eich dyheadau gyrfa.

Yn ystod y radd, cewch eich addysgu

gan ddarlithwyr sy’n ymchwilwyr

rhyngwladol blaenllaw, ac awduron sawl monograff gyda gweisg prifysgolion, yn ogystal â chyfrolau golygedig ac

74 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

i wella lles yn eich bywyd chi ac ym mywydau pobl eraill; drwy archwilio’r posibiliadau creadigol addysgol a therapiwtig drwy arbrofi gyda chofnodi meddyliau, barddoniaeth,

Dr Kate North

BA (Anrh) - Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Darllenydd mewn Ysgrifennu Creadigol

argraffiadau arbennig mawr eu bri. Mae ein hacademyddion yn dod i’ch adnabod chi a’ch uchelgeisiau gyrfa’n dda drwy’r dosbarthiadau addysgu bach a’r cymorth gwych a ddarperir i fyfyrwyr.

Drwy eich modiwlau, prosiectau a gweithgareddau allgyrsiol, byddwch yn gadael Met Caerdydd gyda phortffolio o waith sy’n dangos eich sgiliau a’ch galluoedd datblygedig a byddwch yn barod ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau creadigol a thu hwnt.

Modiwlau nodweddiadol

• Llenyddiaeth Ramantaidd a Fictoraidd (Darllen)

• Llenyddiaeth Gyfoes a Gwobr y Llyfr (Darllen)

• Mae Straeon yn Bwysig: Plot, Cymeriad a Thu Hwnt (Ysgrifennu)

• Cyhoeddiadau a’r Dyniaethau Digidol (Ysgrifennu)

• Dweud yn Uchel: Ysgrifennu ar gyfer Cynulleidfaoedd (Cysylltu)

• Byd Dychmygol a Dyfodol Posib (Cysylltu)

Eich dyfodol

• Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i yrfaoedd cyffrous ym maes cyhoeddi, golygu, ysgrifennu copi, cynhyrchu yn y cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus, rheoli’r celfyddydau, addysgu, gwasanaeth sifil a llawer mwy.

• Mae’r radd yn fan cychwyn i chi symud ymlaen i astudiaethau ôlraddedig a PhD, gan gynnwys ein cyfres o gyrsiau MA Ysgrifennu Creadigol a Llenyddiaeth Saesneg ym Met Caerdydd.

Lleoliad astudio: Campws Cyncoed

Hyd y cwrs:

Tair blynedd yn

llawn amser

Gofynion mynediad: Cynnig

nodweddiadol: 104 pwynt UCAS

“Datblygwyd y modiwl dewisol ‘Ysgrifennu er Lles’ i ystyried sut y gellir defnyddio darllen ac ysgrifennu
gair llafar a rhyddiaith.”
Prosbectws Israddedigion 2024 | 75

Y Cyfryngau a Chyfathrebu

BA (Anrh)

Gwella eich gwybodaeth a’ch sgiliau yn y cyfryngau a chyfathrebu, yn ogystal â chael dealltwriaeth ddofn o ddamcaniaethau’r cyfryngau a’u defnydd yn y byd rydym ni’n byw ynddo heddiw.

Mae’r cwrs blaengar hwn yn rhoi cyfle i chi ddod o hyd i’ch llwybr gyrfa eich hun drwy ymdrin ag amrywiaeth o bynciau wrth wella eich sgiliau digidol ac ysgrifennu proffesiynol; gan eich galluogi i ddod yn arbenigwr yn eich maes dewisol ac agor y drws ar amrywiaeth eang o yrfaoedd.

Mae cynllun y cwrs yn unigryw gyda thair colofn ganolog sy’n rhoi ei strwythur iddo: theori’r cyfryngau; ysgrifennu yn y cyfryngau; ac ymarfer digidol creadigol.

Mae theori’r cyfryngau yn cynnig ymgysylltiad beirniadol dyfnach â’r cyfryngau, tra bod ysgrifennu yn y cyfryngau yn canolbwyntio ar ysgrifennu ar gyfer newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu.

Byddwch yn datblygu sgiliau ysgrifennu a chyfathrebu effeithiol trwy gydol y cwrs ac yn gallu arbenigo mewn meysydd o ddiddordeb megis chwaraeon, teledu, ffasiwn, bwyd, ffilm a gwyddoniaeth amgylcheddol. Byddwch yn ysgrifennu erthyglau newyddion, erthyglau nodwedd, datganiadau i’r wasg a chynlluniau ymgyrchu hefyd.

Yn ystod ymarfer digidol creadigol, byddwch yn datblygu sgiliau digidol y mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr, gan ddefnyddio Adobe Creative Cloud, gan gynnwys Photoshop, InDesign a Premiere Pro. Byddwch yn canolbwyntio ar gynhyrchu amlgyfrwng lle byddwch yn gallu dylunio, ffilmio a golygu eich gwaith creadigol eich hun, gan ymarfer eich sgiliau yn ein hystafell gyfryngau a’n hystafell bodlediadau bwrpasol, gan fynd ati i wneud ffilmiau symudol hefyd.

Ym mlwyddyn dau, mae’r modiwl lleoliad gwaith yn rhoi profiad gwerthfawr i chi o’r byd go iawn yng Nghaerdydd a thu hwnt. Mae lleoliadau blaenorol wedi cynnwys Llenyddiaeth Cymru, Eat Sleep Media, Rygbi Caerdydd, Youth Cymru a Bristol 24/7. Neu gallwch ddewis y lleoliad gwaith estynedig neu gyflawni blwyddyn ryngosod er mwyn cael profiad ychwanegol o’r diwydiant.

Byddwch yn cael eich addysgu gan ddarlithwyr sydd wrthi’n gwneud gwaith ymchwil a siaradwyr gwadd sydd â chyfoeth o brofiad yn y sectorau cyfryngau a newyddiaduraeth, ac sy’n eich deall chi a’ch dyheadau gyrfa personol.

76 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

gwaith sydd wrth fy modd, drwy’r dydd, bob dydd. Rydw i wedi ymdrin â phob math o straeon ac mae fy ngwaith wedi bod yn effeithio ar gymunedau ledled y DU. Ni fyddwn i wedi gallu cyflawni’r hyn rydw i wedi’i gyflawni heb fy ngradd a’m

Aamir Mohammed

Gradd BA (Anrh) yn y Cyfryngau a Newyddiadurwr

Modiwlau nodweddiadol

• Y Cyfryngau

• Ysgrifennu yn y Cyfryngau: Newyddiaduriaeth

• Gwneud Ffilmiau Symudol

• Sinema Radical

• Dylunio Digidol Creadigol

• Prosiect Menter Ddigidol

Eich dyfodol

• Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i bob math o yrfaoedd cyffrous yn y cyfryngau, newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus, marchnata, cyfathrebu, cyfryngau digidol a mwy.

• Aeth llawer o raddedigion ati i sefydlu mentrau llwyddiannus yn seiliedig ar syniadau a gynhyrchwyd yn ystod eu gradd a thrwy gymorth ein Canolfan Entrepreneuriaeth.

• Mae’r radd yn fan cychwyn i chi symud ymlaen i astudiaethau ôlraddedig a PhD, gan gynnwys ein MA Newyddiaduraeth Arbenigol ym Met Caerdydd.

Lleoliad astudio: Campws Cyncoed

Hyd y cwrs:

Tair blynedd yn

llawn amser, Pedair blynedd yn

llawn amser (lleoliad rhyngosod)

Gofynion mynediad: Cynnig

nodweddiadol: 104 pwynt UCAS

“Cefais swydd yn Wales Online a nawr rwy’n gwneud
profiadau ym Met Caerdydd.”
Prosbectws Israddedigion 2024 | 77

Troseddeg BSc

(Anrh)

Herio eich barn am droseddu.

Ydych chi wedi meddwl erioed tybed beth sy’n ysgogi pobl i droseddu? Ydych chi wedi ystyried sut mae cymdeithas yn llunio ein dealltwriaeth o droseddu a throseddwyr? Ydych chi wedi meddwl sut mae dioddefwyr yn cael eu trin yn y system cyfiawnder troseddol?

Mae’r radd droseddeg gyffrous hon yn cyfuno astudiaeth ddamcaniaethol ac empirig mewn rhaglen fodern a fydd yn herio’r ffordd rydych chi’n edrych ar astudio trosedd.

Yn ogystal â dysgu am yr athroniaethau

a’r damcaniaethau sylfaenol sy’n archwilio trosedd fel maes astudio academaidd, byddwch yn archwilio’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y damcaniaethau

a’r athroniaethau hyn, ac o bosibl yn cyfrannu at ein dealltwriaeth ddatblygol mewn amrywiaeth o bynciau arloesol.

Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn canolbwyntio ar dri maes allweddol sydd

wedi’u plethu drwy gydol y radd, sy’n cynnwys Damcaniaethau Troseddeg, hanfodion y System Cyfiawnder

Troseddol a Disgyblaethau Sy’n Dod i’r

Amlwg mewn Troseddeg gyfoes.

Byddwch yn meithrin dealltwriaeth werthfawr o gyfleoedd yn y byd go

iawn gan amrywiaeth o siaradwyr

gwadd a theithiau maes a byddwch yn

cael eich addysgu gan ddarlithwyr sydd

wrthi’n gwneud gwaith ymchwil ac sydd

â phrofiad cenedlaethol a rhyngwladol yn eu harbenigeddau.

Mae ein cyfleusterau pwrpasol yn cynnwys tŷ lleoliad trosedd, dalfa, ystafell arsylwi a gwyliadwriaeth, ystafell gyfweld ac ystafell ffug lys, sy’n rhoi cyfleoedd dysgu efelychiadol hollbwysig i chi roi’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi’n eu dysgu ar waith.

Yn ystod y lleoliad yn yr ail flwyddyn, byddwch yn cael profiad gwaith amhrisiadwy mewn diwydiannau priodol a pherthnasol, gydag un o’n sefydliadau partner. Asesir y lleoliad hwn drwy gymhwyster Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5 (ILM), felly byddwch yn cyflawni cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol a fydd yn eich helpu i’ch gwneud yn unigryw ar ôl graddio. Yn ogystal, mae cyfleoedd gwirfoddol â chymorth amrywiol ar gael drwy gydol eich astudiaeth hefyd.

Modiwlau nodweddiadol

Byddwch yn astudio detholiad o fodiwlau craidd. Ym mlynyddoedd dau a thri, gallwch ddewis un modiwl dewisol. Mae’r modiwlau’n cynnwys:

• Archwilio’r System Cyfiawnder Troseddol

• Troseddu, Rheoli ac Atal

• Seicoleg Trosedd

• Salwch Meddwl, Niwroamrywiaeth a Throsedd

• Bygythiad, Risg a Niwed neu Ddefnyddio Seicoleg mewn Troseddeg (modiwlau dewisol blwyddyn dau)

• Gwrthderfysgaeth neu Seiberdroseddu a Chymdeithas (modiwlau dewisol blwyddyn tri)

78 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Lleoliad astudio: Campws Cyncoed

Hyd y cwrs: Tair neu bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 126)

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96-112 pwynt UCAS

Eich dyfodol

• Ar ôl cwblhau’r radd, byddwch yn barod ar gyfer amrywiaeth o rolau yn y sector cyfiawnder troseddol a thu hwnt.

• Mae cyrchfannau graddedigion yn cynnwys gweithio yn y gwasanaeth prawf a’r heddlu, llu’r ffiniau, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaeth carchardai, llysoedd y DU, Cyllid a Thollau EM, llywodraeth ganolog neu leol a mwy.

• Mae ein gradd yn fan cychwyn i chi symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig a PhD, gan gynnwys ein gradd Meistr mewn Troseddeg ac Ymchwiliadau Troseddol.

“Mae troseddeg yn caniatáu i ni ofyn y cwestiynau lletchwith am wirioneddau anghyfforddus cymdeithas. Mae’r radd hon yn rhoi’r adnoddau sydd eu hangen arnoch chi i ateb rhai o’r cwestiynau mawr sy’n ein hwynebu, drwy archwilio pynciau cyfoes megis troseddau rhyweddol, troseddeg werdd ac astudiaethau cosbi cyfoes.”

Dan Williams

BSc (Anrh) - Troseddeg Darlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen

Prosbectws Israddedigion 2024 | 79

Plismona Proffesiynol

BA (Anrh)

Un radd plismona – opsiynau gyrfa di-ri yn y system cyfiawnder troseddol.

Mae plismona modern yn wynebu heriau proffesiynol newydd ac mae’r cymunedau a wasanaethir gan yr heddlu yn gynyddol amrywiol a chymhleth, gydag anghenion a blaenoriaethau gwahanol. Mae natur troseddu’n esblygu.

Mae’r radd hon wedi’i thrwyddedu gan y Coleg Plismona ac mae’n caniatáu i chi wneud cais am lwybr mynediad y Radd Plismona Proffesiynol (PPD). Bydd y cwrs nid yn unig yn eich paratoi gyda’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen i ymuno fel Cwnstabl Heddlu, ond bydd yn eich paratoi i ddilyn gyrfa mewn rolau eraill ym maes cyfiawnder troseddol hefyd.

Ar y radd cyn-ymuno hon, byddwch yn datblygu lefelau uchel o wybodaeth a sgiliau proffesiynol ar draws amrywiaeth o sefyllfaoedd a chyddestunau cymhleth a heriol, yn ogystal ag arddangos ymddygiad priodol sy’n gydnaws â phlismona rheng flaen effeithiol a phriodol.

Byddwch yn cael eich addysgu gan ddarlithwyr sydd wrthi’n gwneud ymchwil a chyn-swyddogion heddlu sydd wedi’u hachredu’n genedlaethol, sydd â chyfoeth o brofiad, gan gynnwys unedau ymateb, cymdogaeth, CID a diogelu’r cyhoedd arbenigol.

Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu sydd â’r nod o ddarparu ar gyfer pob math o anghenion dysgu. Mae hyn yn cynnwys gweithdai, seminarau, darlithoedd ac amgylcheddau dysgu rhithwir. Rhoddir problemau plismona cymhleth i chi hefyd gyda’r bwriad o ddatblygu sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau. Byddwch yn cymryd rhan mewn senarios ffug, gan gynnwys chwiliadau tai, derbyn rhywun i’r ddalfa a chyfweliadau dioddefwr a rhywun a ddrwgdybir yn ein tŷ lleoliad trosedd pwrpasol. Hefyd, mae ein Hystafell Ffug Lys yn eich helpu i fod yn gwbl barod ar gyfer profiadau yn y llys fel heddwas.

Mae llawer o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael i chi gyflawni profiad gwaith yn ystod y radd. Gallwn eich cynorthwyo i fod yn Gwnstabl Arbennig neu gallech weithio gyda Heddlu De Cymru ar eu rhaglen wirfoddoli i fyfyrwyr, gan gryfhau eich cyflogadwyedd ar ôl graddio.

80 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Modiwlau nodweddiadol

Mae meysydd arbenigol allweddol y byddwch yn eu hastudio yn cyd-fynd

â’r Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona a gofynion y Coleg Plismona.

Mae’r modiwlau’n cynnwys:

• Plismona Cymunedau

• Troseddeg ac Atal Troseddu

• Cynnal Ymchwiliadau

• Plismona Ymatebol

• Gwneud Penderfyniadau a Disgresiwn

• Gwrthderfysgaeth

gyda

De Cymru drwy weithio ar y bws diogelwch a helpu aelodau’r cyhoedd sy’n agored i niwed. Fe wnaeth y rôl hon gadarnhau fy angerdd i ymuno â’r heddlu, yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ychwanegol i mi er mwyn helpu i gwblhau fy aseiniadau prifysgol a defnyddio gwybodaeth rydw i wedi’i dysgu mewn sefyllfaoedd ymarferol.”

Jack Lewis

BA (Anrh) - Plismona Proffesiynol

Eich dyfodol

• Ar ôl cwblhau’r radd, byddwch yn gymwys i wneud cais i unrhyw heddlu yng Nghymru a Lloegr. Gallwch ddilyn gyrfa fel Cwnstabl neu Dditectif Heddlu, yn ogystal â rolau eraill megis swyddogion cymorth cymunedol a gyrfaoedd yn y system cyfiawnder troseddol.

• Gall graddedigion weithio i sefydliadau eraill e.e. Pencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU, Yr Asiantaeth Droseddu Genedlaethol, y gwasanaeth prawf, heddlu’r lluoedd arfog a diogelwch preifat.

• Mae’r radd hon yn eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig ac ymchwil hefyd, gan gynnwys y radd Meistr mewn Troseddeg ac Ymchwiliadau Troseddol ym Met Caerdydd.

Lleoliad astudio: Campws Cyncoed Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 126)

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 104 pwynt UCAS

“Dewisais wirfoddoli
Heddlu
Prosbectws Israddedigion 2024 | 81

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae’r radd gyffrous hon yn darparu dysgu rhyngbroffesiynol os ydych chi’n bwriadu dilyn gyrfa ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Bydd yn rhoi’r wybodaeth, y theori a’r sgiliau angenrheidiol i chi ar gyfer pob math o opsiynau gyrfa, gan gynnwys polisi, ymchwil, arweinyddiaeth a rheolaeth. Cewch eich addysgu gan staff sydd wrthi’n gwneud gwaith ymchwil ac sydd ag arbenigedd yn y diwydiant, yn ogystal ag amrywiaeth o siaradwyr

gwadd o’r sector, gan gynnwys Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru.

Ym mlwyddyn dau, byddwch yn cyflawni lleoliad gwaith gorfodol a fydd yn rhoi profiad gwerthfawr yn y byd go iawn i chi gyda chyflogwyr a darparwyr

gwasanaethau allweddol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Byddwch yn elwa ar ein cysylltiadau partneriaeth cryf gyda lleoliadau gan gynnwys llywodraeth leol a chanolog, sefydliadau trydydd sector, y GIG, gwasanaethau cyffuriau ac alcohol ac Ambiwlans Sant Ioan. Gallwch ennill cymhwyster Lefel 5 ychwanegol y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) hefyd, yn ogystal â’ch gradd. Drwy gydol y cyfnod, byddwch yn ennill y sgiliau a’r arbenigedd hanfodol sydd eu hangen i gael rolau arwain yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Yn ogystal, bydd ein modiwl Entrepreneuriaeth Gymdeithasol arloesol ym mlwyddyn tri yn gyfle i chi gynllunio, datblygu a chyflwyno syniad busnes cymdeithasol sy’n berthnasol i’r sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol i grŵp o arbenigwyr yn y diwydiant, gan ddatblygu eich craffter cychwyn busnes ar yr un pryd.

Mae pwyslais cryf ar ddulliau ymchwil creadigol ym mhob blwyddyn

astudio,fel eich bod yn deall y cysylltiad rhwng darganfyddiadau yn y diwydiant iechyd a gofal cymdeithasol, gan arwain at ymchwil, a pholisïau dilynol a ariennir gan y llywodraeth. Penllanw hyn yw arddangosfa poster ymchwil academaidd, cyn i chi gwblhau eich traethawd hir ar bwnc perthnasol o’ch dewis.

Themâu Modiwlau

Bydd eich astudiaethau’n canolbwyntio ar dair thema graidd:

• Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gydol Oes

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Dwy i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu ar gyflawni’r

HND/Gradd a’r

flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 126)

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol:

HND: 64 pwynt UCAS

Gradd: 96 pwynt UCAS

• Iechyd a Gofal Cymdeithasol Byd-eang

• Iechyd Meddwl

*Noder. Mae’r radd hon yn destun adolygiad cyfnodol yn 2023. O’r herwydd, gall y modiwlau a restrir yma newid. Cyfeiriwch at ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.

Eich dyfodol

• Ar gyfer myfyrwyr sy’n cyflawni’r HND, ar ôl cwblhau’r radd yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn tri o’r radd BSc (Anrh).

• Mae’r radd yn agor y drws ar bob math o lwybrau gyrfa, gan gynnwys gweithio yn y sectorau gwirfoddol, elusennol a phreifat. Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio mewn rolau amrywiol megis cydgysylltydd gwirfoddolwyr, rheolwr cartref gofal, arweinydd tîm gwasanaeth troseddu ieuenctid, gweithiwr cymorth preswyl, swyddog polisi a mwy.

• Bydd graddedigion yn barod ar gyfer cyfleoedd menter gymdeithasol a chychwyn busnes hefyd.

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

• Mae’r radd yn fan cychwyn delfrydol i symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig neu hyfforddiant galwedigaethol pellach hefyd mewn nyrsio, bydwreigiaeth, gwaith cymdeithasol a meysydd perthynol.

HND/BSc
(Anrh)*
82 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Cymdeithaseg

BSc (Anrh)*

Mae’r radd Gymdeithaseg newydd hon yn darparu dealltwriaeth gymdeithasegol eang, gyfoes ac ymarferol mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae cymdeithaseg yn ddisgyblaeth ddamcaniaethol ac yn un sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Ar y radd flaengar hon, byddwch yn meithrin dealltwriaeth ddofn o ddamcaniaeth wleidyddol, athroniaeth, moeseg a pholisi cymdeithasol, cyhoeddus a dinesig, yn ogystal â sgiliau ymarferol allweddol ym maes ymchwil, polisi ac ymarfer.

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o gymdeithaseg fel adnodd ymarferol i’ch helpu i adnabod, gwerthuso a mynd i’r afael â materion cymdeithasol. A byddwch yn meithrin sgiliau y mae gofyn amdanynt gan gyflogwyr, gan gynnwys galluoedd arweinyddiaeth, ymarfer myfyriol a datrys problemau.

Mae cryn ffocws ar gyflogadwyedd drwy gydol y cwrs. Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn cyflawni modiwl lleoliad, a fydd yn cynnig profiad gweithle perthnasol i chi yn y byd go iawn. Fel rhan o hyn, byddwch yn ennill cymhwyster lefel 5 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth hefyd. Ym mlwyddyn tri, byddwch yn datblygu ac yn dangos eich sgiliau busnes ac arwain gyda’r cyfle i greu, cynllunio a chyflwyno ateb sy’n seiliedig ar fenter gymdeithasol i broblem gymdeithasol yn y byd go iawn.

Mae cyflogadwyedd yn cael ei wella drwy gysylltiadau gwaith agos â chyrchfannau cyflogaeth allweddol i raddedigion, megis llywodraeth leol a chenedlaethol, y trydydd sector a sefydliadau polisi.

Byddwch yn cael eich addysgu gan staff addysgu arbenigol sydd ag arbenigeddau mewn amrywiaeth eang o feysydd cymdeithasegol, gan gynnwys tai, lles, addysg a gwaith cymdeithasol.

Themâu Modiwlau

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair blynedd yn llawn amser

Gofynion mynediad: Pwyntiau UCAS: gweler y wefan

Byddwch yn astudio dau fodiwl sy’n cyd-fynd â phob thema. Bydd un modiwl yn cymryd agwedd eang, gysyniadol, gan gyflwyno myfyrwyr i ddamcaniaethau a thrafodaethau cymdeithasegol allweddol. Mae’r ail yn canolbwyntio ar ddefnyddio’r damcaniaethau hyn yn ymarferol yn y byd go iawn. Dyma’r prif themâu:

• Unigolion a Chymdeithas

• Hunaniaeth a Gwahaniaeth

• Pŵer ac Anghydraddoldeb

*Noder. Mae’r radd BSc (Anrh) Cymdeithaseg hon yn destun dilysu ar gyfer mynediad yn 2024. Gweler ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.

Eich dyfodol

• Mae’r radd hon yn canolbwyntio ar gymdeithaseg ymarferol y byd go iawn, sy’n golygu ar ôl graddio y byddwch chi’n barod ar gyfer gyrfaoedd ym maes ymchwil, polisi a’r trydydd sector, llywodraeth leol a chenedlaethol ac arweinyddiaeth a rheolaeth yn y sector preifat.

• Mae’r radd yn gyfle delfrydol hefyd i barhau i astudio tuag at radd Meistr ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus neu i addysgu mewn addysg bellach ac uwch.

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Prosbectws Israddedigion 2024 | 83

Gwaith Cymdeithasol

BSc (Anrh)

Newid bywydau a chymhwyso fel Gweithiwr Cymdeithasol cofrestredig.

Mae astudio Gwaith Cymdeithasol yn cynnwys dull hyblyg o ddiwallu anghenion unigolion, grwpiau neu gymunedau. Mae’r radd hon yn seiliedig ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer ymarfer

Gwaith Cymdeithasol ac yn cael ei chynnig mewn partneriaeth ag asiantaethau Gwaith Cymdeithasol lleol a chynrychiolwyr unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau a gofalwyr.

Mae’n cyfuno ac yn integreiddio hyfforddiant proffesiynol mewn Gwaith Cymdeithasol gydag astudiaeth academaidd i lefel gradd. Byddwch yn archwilio darpariaeth ddeddfwriaethol gwasanaethau a phwysigrwydd deall Gwaith Cymdeithasol yng nghyddestun Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Mae cymhwyso theori i ymarfer yn sail i’r radd hon. Gydol eich tair blynedd, byddwch yn cael eich cefnogi wrth ymarfer gan un o’n hasiantaethau lletyol a bydd yn ofynnol i chi gyflawni o leiaf 200 diwrnod o ddysgu seiliedig ar ymarfer i atgyfnerthu eich dysgu.

Mae blwyddyn un yn cyflwyno cyflwyniad i Waith Cymdeithasol. Byddwch yn cyflawni 20 diwrnod o ymarfer asesedig lle mae’n rhaid i chi ddangos bod gennych chi’r sgiliau a’r gwerthoedd rhyngbersonol sydd eu hangen i gyflawni gwaith gyda phobl ag anghenion gofal cymdeithasol a’u gofalwyr. Mae’r astudio’n canolbwyntio

ar werthoedd a sgiliau craidd, yn ogystal â phrosesau cymdeithasol, diwylliannol a sefydliadol ehangach sy’n fframio rôl a thasg gwaith cymdeithasol.

Ym mlynyddoedd dau a thri, byddwch yn cymhwyso ac yn datblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau, eich gwerthoedd a’ch cymhwysedd mewn ymarfer gwaith cymdeithasol, fel y gallwch ragori. Byddwch yn cwblhau 180 diwrnod arall mewn lleoliadau dysgu ymarfer a asesir (80 diwrnod ym mlwyddyn dau a 100 diwrnod ym mlwyddyn tri), sy’n cynnwys o leiaf ddau leoliad ymarfer. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd dysgu amrywiol i chi ddangos cymhwysedd mewn perthynas â’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol (2011)

a’r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol (2017). Erbyn y diwedd, byddwch yn gallu cymhwyso gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd gwaith cymdeithasol, gan gynnwys canfyddiadau ymchwil i’ch ymarfer ac mewn gwaith a asesir yn academaidd. Byddwch yn cael eich cynorthwyo i werthuso effaith anghydraddoldeb, anfantais a gormes ac i ystyried materion gwaith cymdeithasol cyfoes yn feirniadol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn gallu dangos barn broffesiynol, ymyrraeth a myfyrio beirniadol a dadansoddol ar draws eich ymarfer er mwyn gallu mynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol cymhleth a bod yn Weithiwr Cymdeithasol medrus.

84 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Jane Blades

Gradd BSc (Anrh)Gwaith Cymdeithasol a Gweithiwr Cymdeithasol

Themâu Modiwlau

• Blwyddyn 1: Cyflwyniad a Sylfaen

• Blwyddyn 2: Cymhywso gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd

• Blwyddyn 3: Datblygu Cymhwysedd mewn Ymarfer Gwaith Cymdeithasol

Eich dyfodol

• Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn gallu cofrestru fel ymarferydd Gwaith Cymdeithasol cymwys a gweithio yn y sectorau statudol ac annibynnol a’r trydydd sector.

• Mae’r radd yn rhoi man cychwyn i chi weithio mewn meysydd eraill hefyd megis y gwasanaeth prawf, lles addysg, troseddu ieuenctid, gwleidyddiaeth, tai a gofal cymdeithasol.

• Mae llawer o raddedigion yn parhau i astudio tuag at radd Meistr ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus neu i addysgu mewn addysg bellach ac uwch.

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair blynedd yn llawn amser

Gofynion mynediad: Cynnig

nodweddiadol: 96 pwynt UCAS

TGAU Saesneg Iaith (neu Gymraeg Iaith Gyntaf) a Mathemateg Gradd C/4 neu uwch. Ystyrir cymwysterau cyfwerth –gweler y wefan

Mae mynediad yn

amodol ar wiriad uwch gan y Gwasanaeth

Datgelu a Gwahardd hefyd ac o leiaf 13 wythnos (455 awr) o waith wedi’i oruchwylio (am dâl/ di-dâl) mewn lleoliad gofal cymdeithasol

“Daeth pob dim roeddwn i wedi’i ddysgu yn ystod fy astudiaethau’n fyw ar bob un o fy lleoliadau ymarfer, a oedd yn wahanol iawn ond yr un mor bleserus â’i gilydd. Bedwar mis cyn graddio, cefais gynnig swydd fel Gweithiwr Cymdeithasol ym maes amddiffyn plant rheng flaen, fy swydd ddelfrydol.”
Prosbectws Israddedigion 2024 | 85

Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

Tystysgrif Sylfaen/BA (Anrh)

Gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc a chymunedau.

Mae gweithwyr ieuenctid a chymunedol yn gwneud cyfraniad allweddol a chyffrous at gymdeithas, gan gefnogi datblygiad personol a chymdeithasol unigolion, a’u galluogi i wireddu eu potensial. Mae ein cyrsiau ymarferol yn eich paratoi i hyfforddi fel gweithiwr ieuenctid a chymunedol effeithiol a phroffesiynol.

Byddwch yn cael eich addysgu gan weithwyr ieuenctid a chymunedol hynod brofiadol a chymwys ac yn elwa ar ein rhwydweithiau a’n partneriaethau cryf i adeiladu eich cysylltiadau â’r diwydiant.

Mae dau lwybr astudio ar gael:

• Tystysgrif Sylfaen Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

• BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

Tystysgrif Sylfaen Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

Caiff y cymhwyster hwn ei gymeradwyo gan Gyngor y Gweithlu Addysg a Safonau Addysg a Hyfforddiant (ETS) Cymru ac fe’i darperir mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy.

Mae’r cwrs yn rhoi’r sgiliau, y gwerthoedd, yr hyder, y profiad a’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i gyflawni’r gofynion proffesiynol Lefel 3 ar gyfer gwaith ieuenctid, ac yn eich galluogi i gael y 100 awr o brofiad gwaith ieuenctid sydd ei angen i symud ymlaen i’r BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymunedol. Byddwch yn cael y Dystysgrif mewn Gwaith Ieuenctid (Lefel 3) hefyd, y cymhwyster proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Cymorth Ieuenctid.

Modiwlau nodweddiadol

• Paratoi ar gyfer Dysgu ac Ymarfer mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

• Cyflwyniad i Ymarfer Gwaith Ieuenctid

• Cyd-destun Cymdeithasol Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

• Datblygu Ymarfer Gwaith Ieuenctid

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

86 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Esther Yeboah-Afari

Gradd Gwaith Ieuenctid a Chymunedol - BA (Anrh) a Gweithiwr Cymorth Ieuenctid

BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

Gyda chymeradwyaeth broffesiynol gan ETS Cymru a chydnabyddiaeth gan y Cyd-bwyllgor Negodi (JNC) ar gyfer Gweithwyr Ieuenctid a Chymuned, mae’r radd hon yn darparu dealltwriaeth ddofn o gynhwysiant cymdeithasol, grymuso a natur cymdeithas, gan roi cyfle i chi ddatblygu sgiliau a fydd yn eich galluogi i gyflawni amrywiaeth o rolau proffesiynol yn effeithiol.

Byddwch yn cyflawni profiadau gwaith allweddol mewn amrywiaeth eang o leoliadau i wella eich cyflogadwyedd. Ym mlwyddyn un, byddwch yn cwblhau 250 awr, ym mlwyddyn dau 300 awr, ac ym mlwyddyn tri 250 awr ar leoliad, gyda chymorth hwyluswyr gwaith maes a thiwtor personol.

Modiwlau nodweddiadol

• Gweithio gyda Phobl mewn Cyd-destun Cymdeithasol

• Yr Hyn sy’n Ein Gwneud Ni’n Bwy Ydyn Ni

• Polisi ac Ymarfer Gwaith

Ieuenctid Cyfoes

• Addysg ar gyfer Newid

• Y Cyd-destun Byd-eang

Eich dyfodol

Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn bodloni gofynion cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ac yn barod i weithio mewn amrywiaeth o rolau a lleoliadau gwaith ieuenctid a chymunedol proffesiynol:

Lleoliad astudio: Campws Cyncoed

Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen

Gofynion mynediad: Tystysgrif Sylfaen

Cynnig

nodweddiadol: 48 pwynt UCAS

BA (Anrh) Cynnig

Nodweddiadol: 80-104 pwynt UCAS

Mae mynediad yn amodol ar wiriad uwch gan y Gwasanaeth

Datgelu a Gwahardd

hefyd. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n gwneud

cais am y BA (Anrh) gael profiad mewn agwedd ar waith ieuenctid a chymunedol hefyd, sy’n cyfateb i 100 awr, i’w gwblhau cyn dechrau’r cwrs.

• Mae cyrchfannau graddedigion yn cynnwys gweithio mewn clybiau ieuenctid, datblygu cymunedol, cyfiawnder ieuenctid, addysg amgen a gweithgareddau chwaraeon ac awyr agored. Yn ogystal prosiectau cyffuriau, alcohol, digartrefedd ac iechyd rhywiol, gwaith ieuenctid, mentora ac arweiniad mewn ysgolion ac yn rhyngwladol.

• Mae llawer o fyfyrwyr yn cael gwaith cyflogedig cyn graddio drwy leoliadau a chyfleoedd rhwydweithio yn ein ffair lleoliadau flynyddol.

• Gall graddedigion barhau i astudiaethau ôl-raddedig mewn pynciau amrywiol, yn ogystal â mynd ymlaen i’r MA Ymarfer Ieuenctid a Chymunedol Uwch ym Met Caerdydd.

“Fe wnaeth fy lleoliad ar y Dystysgrif Sylfaen fy helpu i gael fy swydd ieuenctid gyntaf! Rydw i wrth fy modd yn gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ifanc a’u grymuso i fod yn aelod cadarnhaol o gymdeithas.”
Prosbectws Israddedigion 2024 | 87
diwydiant Dysgwch fwy am yr Ysgol drwy sganio’r cod QR neu drwy fynd i wwww.metcaerdydd.ac.uk/rheoli 88 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Ysgol Reoli Caerdydd (YRC)

Yn Ysgol Reoli Caerdydd, rydym yn ymfalchïo yn y ffordd rydym ni’n ymwneud

â byd busnes a diwydiant, a gallwn gynnig cyrsiau a addysgir o’r radd flaenaf a chyfleoedd heb eu hail i chi wella’ch sgiliau.

Mae ein cyfleusterau pwrpasol ar Gampws Llandaf yn darparu amgylchedd dysgu gwych sydd â’r nod o’ch helpu chi i ddatblygu i fod yr hyn mae cyflogwyr ei eisiau; rhywun sy’n gallu meddwl drostyn nhw eu hunain, gyda’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad i wneud i’r pethau iawn ddigwydd.

Yn Ysgol Reoli Caerdydd, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau israddedig wedi’u hachredu’n broffesiynol ac sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd ym meysydd Cyfrifyddu, Economeg a Chyllid; Busnes a Rheoli; Y Gyfraith; Marchnata; Twristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau.

Gall ein dysgwyr israddedig gael profiad gwaith gwerthfawr yn ystod eu cyfnod yn Ysgol Reoli Caerdydd. Cewch gyfle, a chymorth, i gwblhau naill ai blwyddyn allan yn gweithio yn y diwydiant, lleoliad haf neu interniaeth 15 diwrnod fel rhan o’ch gradd. Byddwch yn cael eich addysgu gan staff academaidd sy’n arbenigwyr yn eu maes a byddwch yn elwa ar fynediad at gyfleusterau, digwyddiadau a darlithwyr gwadd arbenigol. Yn Ysgol Reoli Caerdydd, mae diwylliant ymchwil wedi’i wreiddio’n dda sy’n treiddio ar draws yr Ysgol, gan hyrwyddo gwybodaeth reoli ac sy’n sail i’n holl addysgu a dysgu ac yn eu cyfoethogi.

Prosbectws Israddedigion 2024 | 89

Cyfleusterau rheoli

Mae adeilad trawiadol Ysgol

Reoli Caerdydd ar Gampws

Llandaf yn ymgorffori ein

cenhadaeth i ysbrydoli

arweinwyr diwydiant y dyfodol

gan ddarparu amgylchedd dysgu hynod gefnogol.

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys ein hystafell Ffug Lys bwrpasol, Ystafell Lletygarwch a’n canolfannau

TG pwrpasol gyda mynediad at feddalwedd arbenigol a phroffesiynol

sy’n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau a chael profiad ymarferol fel rhan o’ch astudiaethau.

90 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Sganiwch y cod QR i ddysgu mwy neu ewch i’r wefan Prosbectws Israddedigion 2024 | 91

Rhaglen Sylfaen: Ysgol Reoli Caerdydd

Paratoad academaidd cefnogol ar gyfer astudio llwyddiannus ar lefel gradd.

Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn dysgu am feysydd rheoli allweddol, yn ogystal â datblygu eich gwybodaeth a’ch hyder mewn sgiliau ymchwil, rhifedd, marchnata, sgiliau academaidd a phroffesiynol a thechnoleg gwybodaeth.

Gall y llwybr sylfaen fod yn iawn i chi os ydych chi am ymrestru ar un o’r graddau a amlinellir ar dudalen 93 a’ch bod yn perthyn i un o’r categorïau canlynol:

• Dydych chi ddim yn siŵr pa bwnc yr hoffech chi arbenigo ynddo

• Nid yw’r cyfuniad cywir o bynciau gennych chi i gael mynediad uniongyrchol i Flwyddyn Un

• Dydych chi ddim yn bodloni’r gofynion disgwyliedig ar gyfer cael mynediad uniongyrchol i Flwyddyn Un

• Rydych chi’n dychwelyd i addysg ar ôl peth amser i ffwrdd neu o lwybr anhraddodiadol

“Fe wnes i ffrindiau ar y Flwyddyn Sylfaen, myfyrwyr a staff, ac maen nhw’n dal i fod yn ffrindiau da. Fe wnaeth fy addysgu i sut i ymdopi â’r brifysgol; sut i gael y gorau o’r profiad hwn a sut i reoli’r llwyth gwaith a chydbwyso ymrwymiadau eraill ar yr un pryd. Fyddwn i ddim yn petruso cyn argymell gwneud

Blwyddyn Sylfaen; roedd yn un o flynyddoedd gorau fy mywyd i!”

Rhaglen Sylfaen: Gradd o Ysgol Reoli Caerdydd

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Blwyddyn yn llawn amser

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 5 TGAU gradd C (neu gyfwerth) a 32 pwynt UCAS

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

92 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Drwy ddilyn y llwybr Sylfaen, byddwch yn treulio blwyddyn academaidd ychwanegol yn cwblhau eich gradd anrhydedd. Mae’n bwysig cofio y byddwch chi’n cael eich integreiddio’n llawn ym mywyd myfyrwyr ac yn dod yn rhan o gymuned ehangach y brifysgol o’r diwrnod cyntaf. Mae’r rhaglen sylfaen yn gysylltiedig â’r rhaglenni gradd anrhydedd canlynol:

Cyfrifeg, Economeg a Chyllid:

Cyfrifeg - BA (Anrh) Tudalen 94

Cyfrifeg ac Economeg Tudalen 94 - BA (Anrh)

Cyfrifeg a Chyllid Tudalen 94 - BA (Anrh)

Bancio a Chyllid Tudalen 97 - BSc (Anrh)

Economeg - BSc (Anrh) Tudalen 102

Busnes a Rheoli:

Entrepreneuriaeth Tudalen 96

Gymhwysol a Rheoli

Arloesedd – BA (Anrh)

Rheoli Hedfan Tudalen 98 – BA (Anrh)

Busnes a Rheoli Tudalen 100 (gyda llwybrau arbenigol) - BA (Anrh)

Rheoli Busnes Tudalen 108

Rhyngwladol - BA (Anrh)

Rheoli ac Tudalen 116

Arweinyddiaeth – BA (Anrh)

Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth:

Systemau Gwybodaeth Tudalen 168

Busnes - BSc (Anrh)

Y Gyfraith:

Y Gyfraith - LLB (Anrh) Tudalen 114

Cyfraith Busnes Tudalen 115

a Rheoli - BA (Anrh)

Marchnata:

Rheoli Hysbysebu Tudalen 118

a Marchnata – BA (Anrh)

Rheoli Brand Tudalen 118

a Marchnata – BA (Anrh)

Rheoli Marchnata Tudalen 117

Digidol – BA (Anrh)

Prynu a Ffasiwn a Tudalen 106

Rheoli Brand – BA (Anrh)

Rheoli Marchnata Tudalen 106

Ffasiwn – BA (Anrh)

Rheoli Marchnata Tudalen 118 - BA (Anrh)

Rheoli Cysylltiadau Tudalen 118

Cyhoeddus a Marchnata – BA (Anrh)

Rheoli Gwerthu a Tudalen 118

Marchnata – BA (Anrh)

Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau:

Rheoli Digwyddiadau Tudalen 104 - BA (Anrh)

Rheoli Gwesty a Tudalen 110

Lletygarwch Rhyngwladol - BA (Anrh)

Rheoli Twristiaeth Tudalen 112

Ryngwladol - BA (Anrh)

Chwaraeon:

Hyfforddi Chwaraeon Tudalen 150 - BSc (Anrh)

Rheoli Chwaraeon Tudalen 154 - BSc (Anrh)

Cyfryngau Chwaraeon Tudalen 156 - BSc (Anrh)

Dadansoddi Perfformiad Tudalen 158

Chwaraeon - BSc (Anrh)

Chwaraeon, Addysg Tudalen 160

Gorfforol ac Iechyd - BSc (Anrh)

Chwaraeon, Addysg Tudalen 160

Gorfforol ac Iechyd

(Dawns) - BSc (Anrh)

Astudiaethau Chwaraeon Tudalen 160 ac Addysg Gorfforol

Dwyieithog - Gradd BSc (Anrh)

Bydd y flwyddyn sylfaen yn gweithredu fel blwyddyn 0 a bydd myfyrwyr sy’n dymuno dilyn y rhaglen sylfaen yn gwneud cais am y rhaglen radd berthnasol, gan ddefnyddio’r cod UCAS perthnasol ar gyfer y rhaglen

honno, ac yn gwneud cais am bwynt mynediad 0 ar wefan UCAS.

Prosbectws Israddedigion 2024 | 93

Graddau Cyfrifeg

Graddau cyfrifeg wedi’u hachredu’n broffesiynol ac sy’n canolbwyntio ar agweddau ymarferol.

Graddau sydd ar gael:

• Cyfrifeg – BA (Anrh)

• Cyfrifeg a Chyllid – BA (Anrh)

• Cyfrifeg ac Economeg – BA (Anrh)

Bydd ein graddau cyfrifeg sydd wedi’u hachredu’n broffesiynol yn rhoi cyflwyniad cynhwysfawr i bob rhan o faes Cyfrifeg. Byddant yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddilyn cymwysterau cyfrifeg proffesiynol a gyrfa yn y diwydiant.

Bydd ein cwrs Cyfrifeg - BA (Anrh) yn eich galluogi i gael yr holl eithriadau posibl o arholiadau ACCA ac eithriadau sylweddol o arholiadau ICAEW a CIMA, a bydd ein graddau Cyfrifeg eraill yn eich galluogi i gael eithriadau sylweddol o arholiadau’r cyrff proffesiynol hyn hefyd. Bydd cwblhau unrhyw un o’r graddau hyn yn eich rhoi chi ar ben ffordd tuag at ennill eich cymwysterau cyfrifeg proffesiynol.

Mae profiad gwaith yn rhan bwysig o bob cwrs, gan eich galluogi i gael profiad yn y diwydiant yn y byd go iawn. Mae Cyfrifeg a Chyllid - BA (Anrh) a Chyfrifeg ac Economeg - BA (Anrh) yn eich galluogi i gwblhau Profiad Gwaith neu Brosiect Gwirfoddoli am gredyd yn eich ail flwyddyn. Gallwch ddewis yr opsiwn cwrs rhyngosod ar y tair gradd hefyd, a chyflawni lleoliad gwaith blwyddyn o hyd rhwng yr ail a’r drydedd flwyddyn. Mae lleoliadau yn y gorffennol wedi digwydd mewn sefydliadau fel Warner Bros., Proctor & Gamble a Deloitte.

Mae’r gwaith cwrs yn ymarferol iawn gan mwyaf, gan adlewyrchu’r sgiliau a’r technegau sydd eu hangen ar gyfrifydd proffesiynol. Mae asesiad ar gyfer modiwlau a achredir gan ACCA yn cynnwys arholiad llyfr caeedig er mwyn bodloni gofynion eithrio.

“Yn ystod fy nhrydedd

flwyddyn yn y brifysgol, cefais gyfle i weithio i gwmni anhygoel gyda

phobl anhygoel yn Warner Bros. Entertainment UK yn Llundain. Roedd fy nghyfnod yn Warner Bros yn hynod

werthfawr a rhoddodd syniad da iawn i mi am y cyfeiriad roeddwn i am i’m gyrfa fynd

Yodhin Punja

Gradd BA (Anrh) – Cyfrifeg a Chydymaith Archwilio yn Deloitte

iddo, yn y dyfodol agos o leiaf.”
94 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bum mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 92) a/neu leoliad rhyngosod am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112 pwynt UCAS

Modiwlau nodweddiadol

Mae’r tair gradd yn rhannu modiwlau blwyddyn gyntaf cyn arbenigo ym mlynyddoedd dau a thri, gyda myfyrwyr

Cyfrifeg yn gwneud modiwlau craidd sy’n cynnwys cyfraith gorfforaethol a busnes, trethiant, rheolaeth ariannol ac adroddiadau ariannol, gyda myfyrwyr

Cyfrifeg a Chyllid yn astudio modiwlau craidd mewn arian, bancio a risg, rheoli buddsoddi a mwy.

Bydd y rhai sy’n dilyn y llwybr Cyfrifeg ac Economeg yn cyfuno modiwlau

cyfrifeg craidd a modiwlau economeg sy’n canolbwyntio ar y cwricwlwm

economeg CORE sy’n darparu dysgu economeg yn y byd go iawn.

Mae enghreifftiau o fodiwlau gorfodol yn cynnwys:

• Cyfrifeg Ariannol a Digidol

• Gwasanaethau Ariannol Byd-eang

• Cyfrifeg Rheoli

• Rheoli Perfformiad

• Rheolaeth Ariannol

Cecelia Tandi

Gradd BA (Anrh) – Cyfrifeg a Chyllid a Dadansoddwr Cyllid Treth yn Legal & General

Eich dyfodol

• Fel rhywun sydd wedi graddio mewn Cyfrifeg, bydd galw mawr amdanoch chi gan gyflogwyr yn y DU a chyflogwyr rhyngwladol.

• Mae graddedigion y gorffennol wedi cael lleoedd hyfforddi graddedigion yn y pedwar cwmni cyfrifeg mawr (Deloitte, PwC, EY, KPMG) a CThEM, gyda llawer o rai eraill yn cael eu cyflogi gan gwmnïau cyfrifeg llai o faint.

• Byddech yn barod i ymgymryd ag amrywiaeth o rolau yn adrannau cyllid busnesau, practisau ar y stryd fawr a’r sector cyhoeddus.

“Mae pob sefydliad, boed yn fawr, yn fach neu’n elusen, angen cyfrifydd, felly bydd digon o gyfleoedd bob amser!”
Prosbectws Israddedigion 2024 | 95

Entrepreneuriaeth Gymhwysol a Rheoli Arloesedd BA (Anrh)

Ydych chi’n entrepreneur brwdfrydig sy’n awyddus i wella eich sgiliau menter a datblygu eich syniadau busnes?

Y radd hon oedd y gyntaf o’i fath yn y DU, a dyma’r radd berffaith os ydych chi am arloesi, herio’r sefyllfa bresennol a chreu busnesau cynaliadwy’r dyfodol.

Gradd ymarferol yw hon sydd wedi’i hadeiladu o gwmpas diwrnodau addysgu cywasgedig, sy’n golygu y gallwch chi dreulio’r rhan fwyaf o’r wythnos waith yn eich lleoliad ym mlwyddyn un ac yn neorfa bwrpasol

Met Caerdydd yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. Yn ystod yr ail flwyddyn, bydd pob myfyriwr yn lansio ei fenter fusnes ei hun ac yn canolbwyntio ar dwf y busnes yn y drydedd flwyddyn.

Byddwch chi’n cael mentor busnes ymroddedig gydol eich cyfnod ym

Met Caerdydd a fydd yn eich helpu a’ch tywys ar eich taith dechrau busnes, gan ddatblygu eich priodoleddau a’ch rhwydweithiau entrepreneuraidd.

Mae’r radd wedi’i datblygu a bydd yn cael ei darparu gan arbenigwyr yn y maes astudio perthnasol. Byddant yn cynnwys rheolwyr cychwyn busnes, cyfrifwyr, arbenigwyr ar y gyfraith ac entrepreneuriaid sydd ag arbenigedd a phrofiad amhrisiadwy o gychwyn busnes.

Modiwlau nodweddiadol

Cewch sail ddamcaniaethol i entrepreneuriaeth a rheoli busnes. Yn ogystal, byddwch yn astudio hanfodion marchnata, y gyfraith, technoleg gwybodaeth (digidol, data a’r we) a chyfrifeg. Gallai modiwlau craidd nodweddiadol gynnwys:

• Cyllid i Entrepreneuriaid

• Lansio Busnes Newydd

• Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi Foesegol

Eich dyfodol

• Byddwch yn eithriadol oherwydd eich gallu i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol mewn amgylchedd ymarferol.

• Byddwch yn graddio gyda’ch busnes eich hun wedi’i sefydlu ac yn meddu ar y sgiliau a’r arbenigedd i weithio mewn swyddi rheoli mewn cwmnïau newydd mewn meysydd megis Hysbysebu, Cyllid, Brandio a Chysylltiadau Cyhoeddus.

• Mae’r cwrs yn darparu mynediad i amrywiaeth eang o raddau Meistr ac ymchwil yn y Brifysgol hefyd.

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bum mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 92) a/neu leoliad am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112 pwynt UCAS

96 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Bancio a Chyllid BSc (Anrh)

Cyfuno trylwyredd academaidd, gwybodaeth arbenigol a sgiliau ariannol ymarferol.

Byddwch yn astudio cysyniadau allweddol bancio a chyllid mewn cyd-destun ymarferol a damcaniaethol, a bydd y cwrs yn darparu dealltwriaeth o bwysigrwydd ac effaith ehangach y sector bancio ar economi’r byd.

Bydd y cwrs yn darparu’r adnoddau a’r galluoedd dadansoddol sydd eu hangen arnoch i adnabod a datrys problemau cymhleth mewn ffordd ddynamig a strategol. Hefyd, bydd yn darparu sgiliau hynod drosglwyddadwy, ynghyd â gwybodaeth ddofn am amrywiaeth o feddalwedd ariannol.

Bydd y dulliau addysgu’n cynnwys darlithoedd, gweithdai a seminarau, gyda gwybodaeth academaidd a phrofiad ymarferol. Bydd y profiad ymarferol yn cynnwys defnyddio meddalwedd ariannol, megis Refinitiv, a fydd yn eich galluogi i wneud penderfyniadau buddsoddi, masnachu a risg hollbwysig gyda hyder yn barod ar gyfer y gweithle ar ôl graddio.

Yn ogystal, byddwch yn cael profiad bywyd go iawn fel rhan o’ch astudio drwy brofiad gwaith gorfodol, ynghyd â lleoliad blwyddyn ryngosod ac interniaethau diwydiannol dewisol.

Modiwlau nodweddiadol*

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn dysgu sut mae sefydliadau ariannol yn cyfrannu at economi’r byd ac yn dysgu am y dulliau a’r technegau meintiol allweddol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y diwydiant hwn. Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn ehangu eich gwybodaeth trwy astudio effaith gwahanol fathau o risg ar gwmnïau a gwledydd. Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn gwella eich dealltwriaeth o gael yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion cyfoes yn y cyd-destun busnes ehangach drwy gynnal ymchwil annibynnol. Gallai modiwlau nodweddiadol gynnwys:

• Gwasanaethau Ariannol Byd-eang

• Cyfrifeg Ariannol

• Arian, Bancio a Risg

• Marchnadoedd ac Egwyddorion Buddsoddi

• Marchnadoedd Cyfalaf a Deilliadau

*Noder. Mae’r radd hon yn destun adolygiad cyfnodol yn 2023. O’r herwydd, gall y modiwlau a restrir yma newid. Cyfeiriwch at ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.

Eich dyfodol

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bum mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 92) a/neu leoliad am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112 pwynt UCAS

• Mae yna bob math o gyfleoedd gyrfa yn y sector bancio a chyllid, gan gynnwys y sector dadansoddi credyd, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, dadansoddi risg a chyfleoedd buddsoddi sefydliadol.

• Mae’r radd hon yn rhoi llwyfan i chi symud ymlaen i Astudiaethau Ôl-raddedig.

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Prosbectws Israddedigion 2024 | 97

Rheoli Hedfan

BA (Anrh)

Datblygwyd gyda’r diwydiant i helpu eich gyrfa i ‘esgyn’ yn y sector Hedfan.

Mae’r radd Rheoli Hedfan yn gymhwyster hedfan pwrpasol, a ddarperir ar y cyd ag Embry-Riddle Aeronautical University – Worldwide a Maes Awyr Caerdydd, a fydd yn eich cyflwyno i wahanol agweddau ar y diwydiant hedfan. Byddwch chi’n ennill dealltwriaeth o bob agwedd ar gyfraith hedfan, rheolaeth strategol hedfan, rheoli gweithrediadau maes awyr a materion dynol yn ymwneud â hedfan.

Nod y radd yw sicrhau y byddwch yn derbyn hyfforddiant ac addysg o’r radd flaenaf yn y damcaniaethau a’r systemau Rheoli Hedfan diweddaraf i ddod yn arbenigwr arloesol a hynod fedrus ar reoli hedfan, gyda’r cyfuniad priodol o wybodaeth academaidd a sgiliau ymarferol i ddiwallu anghenion y diwydiant nawr ac yn y dyfodol.

Mae ein perthynas agos â Maes Awyr Caerdydd yn ychwanegu at natur ymarferol y radd a byddwch yn cael profiad o feysydd busnes a gweithredol ar draws y maes awyr drwy gydol eich astudiaethau.

Bydd profiad gwaith gorfodol yn eich ail flwyddyn, a’r flwyddyn ddewisol mewn diwydiant, yn eich galluogi i roi damcaniaeth ar waith ac yn gyfle i chi ddangos eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch doniau i gyflogwyr y dyfodol yn y sector. Byddwch yn elwa ar ymweliadau â meysydd awyr a chwmnïau hedfan, a bydd darlithoedd arbennig gan reolwyr profiadol yn y diwydiant hedfan yn rhoi syniad gwell i chi o fyd ymarferol Rheoli Hedfan.

Cyfarwyddwr Rhaglen

BA (Anrh) – Rheoli Hedfan

“Un o nodweddion mwyaf cyffrous ac unigryw’r cwrs yw’r berthynas wirioneddol agos rydyn ni wedi’i datblygu gyda Maes Awyr Caerdydd. Ac mae’r berthynas unigryw rydyn ni wedi’i datblygu gydag EmbryRiddle Aeronautical University yn rhoi cyfle eithriadol i fyfyrwyr ddysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol ym maes hedfan.”
98 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Modiwlau nodweddiadol

Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o feysydd pwnc rheoli hedfan, a gyflwynir gan Ysgol Reoli Caerdydd (80 credyd y flwyddyn) a chan Embry- Riddle Aeronautical University - Worldwide (40 credyd y flwyddyn). Mae modiwlau nodweddiadol yn cynnwys:

• Arferion Busnes Moesegol a Chynaliadwy

• Cymwysiadau mewn Cyfraith Awyrofod/Hedfan

• Rheoli Cwmnïau Hedfan

Eich dyfodol

• Byddwch yn barod ar gyfer amrywiaeth o swyddi yn y diwydiant hedfan, megis: Rheolwyr Gweithrediadau a Chynhyrchu, Rheolwyr Logisteg a Rheolwyr Cyffredinol sydd â chyfrifoldeb eang am bob agwedd ar reoli hedfan.

• Os hoffech fynd ymlaen i astudio ymhellach, mae’r cwrs yn darparu mynediad i amrywiaeth eang o raglenni Meistr gradd ymchwil a gradd a addysgir yn y Brifysgol lle gall graddedigion fynd ymlaen i naill ai i radd MA, MSc neu MRes.

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bum mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 92) a/neu leoliad am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112 pwynt UCAS

Prosbectws Israddedigion 2024 | 99

Busnes a Rheoli (gyda llwybrau)

BA (Anrh)

Creu arweinwyr a rheolwyr busnes y dyfodol; agor cyfleoedd ar draws diwydiannau a sectorau.

Bydd y radd boblogaidd hon yn rhoi addysg fusnes o ansawdd uchel i chi, sy’n berthnasol yn broffesiynol, gyda’r nod o greu rheolwyr ac arweinwyr busnes y dyfodol. Bydd y sgiliau, yr wybodaeth a’r hyder gennych i lwyddo yn y sector preifat, y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector yn unol â’ch uchelgeisiau gyrfa neu fel entrepreneur sy’n rhedeg eich busnes eich hun.

Llwybrau sydd ar gael:

• Entrepreneuriaeth

• Cyllid

• Marchnata

• Rheoli Adnoddau Dynol

• Masnach Ryngwladol

• Y Gyfraith

• Marchnata

• Cynaliadwyedd

Mae’r radd yn caniatáu cryn hyblygrwydd i sicrhau eich bod yn cael eich tywys yn academaidd wrth i chi ddewis graddio gyda naill ai gradd Busnes a Rheoli - BA (Anrh), neu radd Busnes a Rheoli - BA (Anrh) gydag un o’r llwybrau sydd ar gael.

Byddwch yn cael profiad gwerthfawr o’r byd go iawn drwy gyflawni modiwl lleoliad gwaith gorfodol yn yr ail flwyddyn, a gallwch ddewis cyflawni blwyddyn ryngosod mewn diwydiant rhwng blwyddyn dau a’r flwyddyn olaf. Mae lleoliadau yn y gorffennol wedi cynnwys Deloitte, Dŵr Cymru a Chanolfan Seibergadernid Cymru. A byddwch yn elwa ar ein cysylltiadau helaeth â diwydiant drwy ddarlithoedd arbennig gan arbenigwyr busnes, teithiau maes a’r cyfle i gwblhau prosiectau ymgynghori.

Mae cyfleoedd i astudio dramor, am semester neu am flwyddyn lawn, yn cael eu cefnogi’n llawn ar y radd hon hefyd.

100 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

hollbwysig

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bum mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 92) a/neu leoliad rhyngosod am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112 pwynt UCAS

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

Modiwlau nodweddiadol

Mae strwythur y cwrs yn datblygu o flwyddyn gyntaf orfodol, sy’n cynnwys saith modiwl, i ddau fodiwl gorfodol yn unig yn y flwyddyn olaf o astudio. Bydd hyn yn eich galluogi i ganolbwyntio eich diddordebau ar lwybr arbenigol neu gyfres benodol o fodiwlau dewisol, gan sicrhau eich bod yn cael dealltwriaeth a gwerthfawrogiad cadarn o fusnes a rheoli. Gallai modiwlau craidd nodweddiadol gynnwys:

• Busnes ar Waith

• Arferion Busnes Moesegol a Chynaliadwy

• Arwain Newid

Eich dyfodol

• Cewch gyfleoedd cyflogaeth mewn amrywiaeth eang o sefydliadau, yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae graddedigion diweddar wedi mynd ymlaen i weithio i Lloyds Bank, y GIG, BAE Systems, Leicester Rugby, Heddlu Gwent a Deloitte.

• Mae modd camu ymlaen i raglenni ôl-raddedig arbenigol yn y Brifysgol hefyd.

“Yn edrych nôl ar fy nghyfnod mae nifer o fanteision i astudio’r cwrs yn Gymraeg. Roedd cael opsiwn i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn
i mi oherwydd fy mod yn teimlo y byddwn yn fwy cyfforddus yn ysgrifennu traethodau a gwneud cyflwyniadau fel rhan o’m gradd yn fy mamiaith.”
Keira Davies
Busnes
a
Rheoli (Y Gyfraith)
Prosbectws Israddedigion 2024 | 101
- BA (Anrh)

Economeg

BSc (Anrh)

Rydym yn falch mai ni yw’r brifysgol newydd gyntaf i fabwysiadu’r cwricwlwm CORE.

Rydym yn falch ein bod wedi mabwysiadu’r cwricwlwm economeg CORE, sy’n cynnwys datblygiadau diweddar yn y pwnc a dull sy’n seiliedig ar ddatrys problemau o ddysgu economeg.

Cryfder ein gradd Economeg yw’r pwyslais clir ar gymhwyso a dealltwriaeth feirniadol ac rydym yn gweithio’n agos gyda diwydiant, gan gynnwys

Gwasanaeth Economaidd y Llywodraeth, i sicrhau bod ein cwricwlwm yn cyd-fynd ag anghenion y diwydiant.

Byddwch yn cael profiad o’r byd go iawn ac yn datblygu eich cyflogadwyedd

gyda lleoliad gwaith gorfodol fel rhan o’r ail flwyddyn. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi cwblhau lleoliadau mewn sefydliadau megis Deloitte, Hargreaves Lansdown a’r GIG.

Modiwlau nodweddiadol*

Mae’r radd yn seiliedig ar sawl modiwl gorfodol dros y tair blynedd o astudio, sy’n cynnwys:

• Micro-economeg a Macro-economeg

• Materion Cyfoes yn yr Economi Wleidyddol Ryngwladol

• Economeg Ddiwydiannol

• Hanes Meddwl Economaidd

Bydd opsiynau ym mlynyddoedd dau a thri yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich arbenigedd i ddiwallu eich diddordebau penodol a’ch paratoi ar gyfer eich gyrfa broffesiynol neu academaidd yn y dyfodol.

*Noder. Mae’r radd hon yn destun adolygiad cyfnodol yn 2023. O’r herwydd, gall y modiwlau a restrir yma newid. Cyfeiriwch at ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.

102 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

yn cynnig amrywiaeth o opsiynau gyrfa, o ymchwil i fancio buddsoddi a phob gyrfa rhwng y ddwy yna!

Mae gan y brifysgol system

gyfer

Julia Diniz

BSc (Anrh) - Economeg a Chyllid Rhyngwladol ac Ymgeisydd PhD

Eich dyfodol

• Mae ein gradd Economeg yn cynnig rhagolygon gyrfa rhagorol, gyda galw mawr am Economegwyr yn y sectorau preifat a chyhoeddus fel rheolwyr, ymchwilwyr, dadansoddwyr a strategwyr.

• Mae symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig yn Ysgol Reoli Caerdydd yn opsiwn hefyd.

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bum mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 92) a/neu leoliad rhyngosod am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112 pwynt UCAS

“Roedd y cwrs yn heriol iawn. Fodd bynnag, nawr ei fod yn tynnu at ei derfyn, rwy’n teimlo fy mod i wedi cael boddhad mawr ac wedi cyflawni rhywbeth. Mae’r rhaglen
gymorth wych ar
myfyrwyr sy’n chwilio am interniaethau, lleoliadau, blynyddoedd i ffwrdd neu swyddi rhan-amser.”
Prosbectws Israddedigion 2024 | 103

Rheoli Digwyddiadau

BA (Anrh)

Wedi’i hachredu’n broffesiynol ac yn hynod ymarferol; mae’n eich paratoi ar gyfer byd dynamig rheoli digwyddiadau.

Llwybrau sydd ar gael:

• Rheoli Digwyddiadau - BA (Anrh)

• Rheoli Digwyddiadau gydag Interniaeth - BA (Anrh)

Os ydych chi’n breuddwydio am gynllunio gwyliau, digwyddiadau chwaraeon mawr, cynadleddau, arddangosfeydd, digwyddiadau codi arian neu ddathliadau personol a bywyd, gall ein BA (Anrh) mewn Rheoli Digwyddiadau gynnig y sgiliau, y profiad a’r cyfleoedd rhwydweithio sydd eu hangen arnoch i ffynnu yn y diwydiant.

Rydym wedi’n hachredu gan y Sefydliad Lletygarwch, y corff proffesiynol ar gyfer darpar reolwyr sy’n gweithio ac yn astudio ym maes digwyddiadau, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, ac rydym yn falch o fod yn bartner

‘The Power of Events’ ac yn aelod o’r Association for Events Management Education (AEME).

Bydd y radd yn rhoi dealltwriaeth drylwyr i chi o gysyniadau allweddol rheoli digwyddiadau, law yn llaw

â’r cyfle i ddatblygu cyfres o sgiliau trosglwyddadwy. Byddwch yn dod yn arbenigwr ar y technegau, yr arbenigeddau a’r problemau sy’n gysylltiedig â chynnal digwyddiadau, o elfennau creadigol dylunio a chreu thema ar gyfer digwyddiadau, i lwyfannu a chynhyrchu, marchnata a hyrwyddo, rheoli prosiectau, diogelwch a thrwyddedu, gwerthuso effaith a chynaliadwyedd, rheoli strategol, cyllid a materion hollbwysig eraill yn y diwydiant.

Cewch eich grymuso i wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy ddatblygu eich gwybodaeth a’ch defnydd o arferion moesegol, gan greu ffyrdd tecach a mwy cynaliadwy o weithio ac annog amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob lefel mewn cymdeithas.

Rydym yn gweithio gyda sawl cwmni, sefydliad a lleoliad rheoli digwyddiadau lleol, gan gynnwys ICC Cymru, Stadiwm Principality, Canolfan Mileniwm Cymru, the Depot ac Amgueddfa Cymru, a byddwch yn cael cyfle i gynnal prosiectau byw gyda’r diwydiant i ennill profiad ymarferol yn eich trydedd flwyddyn.

104 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

caniatáu i mi ddod o hyd i rôl ym maes digwyddiadau

Paige Cradduck

Gradd BA (Anrh)

- Rheoli Digwyddiadau

Bydd cyfle i chi gyflawni profiad gwaith yn eich ail flwyddyn a’r opsiwn i gyflawni lleoliad blwyddyn o hyd. Mae gennym bartneriaethau parhaus gyda Yummy Jobs (Disney) a Greenwich Country Club ac mae lleoliadau yn y gorffennol wedi cynnwys Hewlett Packard (Digwyddiadau Byd-eang), Cancer Research UK (digwyddiadau a chodi arian) ac Ironman (interniaeth digwyddiadau).

Modiwlau nodweddiadol

Bydd y flwyddyn gyntaf yn eich cyflwyno i’r cysyniadau allweddol ym maes rheoli busnes a digwyddiadau. Mae eich ail flwyddyn o astudio yn adeiladu ar eich sylfaen wybodaeth bresennol ac yn symud ymlaen i feysydd rheoli digwyddiadau mwy arbenigol; ac yn eich blwyddyn olaf, gallwch deilwra’r radd yn seiliedig ar eich diddordebau a’ch dyheadau gyrfa. Gallai modiwlau craidd nodweddiadol gynnwys:

• Profiad a Dylunio Digwyddiad

• Cynllunio Digwyddiad ar Raddfa Fawr

• Cynaliadwyedd a Moeseg mewn Digwyddiadau

Eich dyfodol

• Mae’r radd hon yn cynnig rhagolygon gyrfa a chyflogaeth rhagorol ym mhob maes o’r diwydiant digwyddiadau, gan gynnwys gwyliau, cynadleddau, arddangosfeydd, lletygarwch corfforaethol, chwaraeon, codi arian, nawdd, marchnata drwy brofiad a mwy.

• Mae ein graddedigion wedi sicrhau cyflogaeth mewn amrywiaeth o sefydliadau o leoliadau rhyngwladol a chwmnïau digwyddiadau, i gadwyni gwestai a gweithredwyr teithiau, noddwyr a digwyddiadau chwaraeon mawr, i awdurdodau lleol ac elusennau mewn sefydliadau megis The Telegraph, Cancer Research UK a’r Bathdy Brenhinol.

• Mae’r cwrs yn darparu mynediad i amrywiaeth eang o gyrsiau ôl-raddedig ymchwil a rhai a addysgir yn y Brifysgol.

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bum mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 92) a/neu leoliad rhyngosod am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112 pwynt UCAS

Gradd

(Anrh) - Rheoli

Digwyddiadau a Chydgysylltydd

Datblygu a Gweithrediadau yn Event Till Solutions

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

“Mae’r rhaglen yn cwmpasu cymaint o bethau rydych chi’n eu defnyddio yn ymarferol yn y maes a byddech chi’n synnu pa mor aml rydych chi’n clywed ac yn gweld pethau roeddech chi wedi’u gweld neu eu clywed mewn ystafell ddosbarth.”
Louis Straker
BA
“Fe wnaeth Met Caerdydd fy helpu i baratoi ar gyfer byd gwaith. Cefais fy annog i chwilio am gyfleoedd profiad gwaith amrywiol, gan y byddai hyn yn
sydd o ddiddordeb arbennig i mi.”
Prosbectws Israddedigion 2024 | 105

Graddau Marchnata Ffasiwn

Dechreuwch eich gyrfa yn y diwydiant ffasiwn dynamig, byd-eang.

Bydd ein graddau Marchnata Ffasiwn arbenigol, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad ag anghenion y diwydiant ffasiwn, yn darparu cyfuniad cyffrous o ddamcaniaeth academaidd a phrofiad o’r diwydiant yn y byd go iawn – gan eich paratoi chi ar gyfer pob math o yrfaoedd posibl ym myd dynamig ffasiwn.

Prynu Ffasiwn a Rheoli Brand – BA (Anrh)

Os ydych chi’n breuddwydio am greu gyrfa yn swyddogaethau prynu, rhagweld tueddiadau, marchnata a rheoli brand y diwydiant ffasiwn dynamig, gallai’r radd hon fod yn berffaith i chi. Byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau gyda phwyslais ar reoli brandiau a chynnyrch yn broffesiynol ar bob lefel, gan gynnwys ffasiwn rhad, labeli annibynnol, brandiau cynaliadwy, brandiau moethus rhyngwladol, ynghyd â chyfleoedd ymchwil i greu brandiau mewn marchnad ffasiwn fyd-eang. Gan fod creadigrwydd yn briodoledd gwerthfawr iawn yn y diwydiant ffasiwn, caiff aseiniadau eu creu i ddatblygu eich syniadau, i annog mentro ac i’ch cefnogi i greu deunyddiau a chynlluniau brandio cofiadwy.

Rheoli Marchnata Ffasiwn – BA (Anrh)  Cyfuniad unigryw o ffasiwn, marchnata a rheoli i unigolion sydd eisiau gyrfa yn y diwydiant ffasiwn byd-eang bywiog.

Byddwch yn ymchwilio i bwnc amrywiol marchnata ffasiwn, gan ganolbwyntio ar ymddygiad defnyddwyr, datblygu ymgyrchoedd marchnata creadigol a marchnata rhyngwladol ar gyfer brandiau byd-eang.

Dyfarnwyd statws ‘Gradd Achrededig’ CIM i’n gradd Rheoli Marchnata Ffasiwn – mae’r achrediad hwn yn rhoi cyfle i chi gael eich eithrio o gymwysterau’r Dystysgrif CIM mewn Marchnata Proffesiynol a’r Diploma mewn Marchnata Proffesiynol.

Bydd pob myfyriwr Rheoli Ffasiwn yn dilyn blwyddyn gyntaf gyffredin lle cewch eich cyflwyno i farchnata ffasiwn, yn ogystal ag astudio meysydd delweddu ffasiwn, egwyddorion astudiaethau ffasiwn a chyfryngau digidol i farchnatwyr.

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael profiad ymarferol, cewch gymorth i ddod o hyd i leoliad gwaith perthnasol yn ymwneud â ffasiwn ym mlwyddyn dau, gan ennill profiad gwerthfawr a chyfleoedd rhwydweithio yn y diwydiant. Gallwch ddewis treulio blwyddyn mewn diwydiant rhwng eich ail a’ch trydedd flwyddyn hefyd. Mae lleoliadau yn y gorffennol wedi cynnwys The Very Group, Boohoo a Michael Kors (Shanghai).

106 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Modiwlau nodweddiadol

Bydd pob myfyriwr Rheoli Ffasiwn

yn dilyn blwyddyn gyntaf gyffredin lle cewch eich cyflwyno i farchnata ffasiwn, yn ogystal ag astudio meysydd delweddu ffasiwn, egwyddorion astudiaethau ffasiwn a chyfryngau digidol i farchnatwyr. Yn ystod blwyddyn dau a’ch blwyddyn olaf, byddwch yn arbenigo yn eich arbenigedd dewisol gydag amrywiaeth o fodiwlau dewisol. Mae enghreifftiau o fodiwlau craidd yn cynnwys:

• Cyflwyniad i Farchnata Ffasiwn

• Egwyddorion Astudiaethau Ffasiwn

• Delweddu Ffasiwn

• Cyfryngau Digidol i Farchnatwyr

Eich dyfodol

• Ar ôl cwblhau ein gradd mewn Rheoli Marchnata Ffasiwn yn llwyddiannus, bydd y sgiliau gennych i gael swydd ym maes marchnata ffasiwn, gan ddefnyddio eich sgiliau mewn swyddi ym meysydd hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus, prynu a marchnata, marchnata digidol ac e-fasnach, ysgrifennu ffasiwn, marchnata ac ymchwil defnyddwyr, gwerthu a datblygu brand, rheoli cynnyrch, dylunio profiad defnyddwyr, cysylltiadau cyhoeddus a rheoli busnes.

• Bydd ein gradd mewn Prynu Ffasiwn a Rheoli Brand yn datblygu eich gwybodaeth a’ch profiad, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn prynu, marchnata, canfod nwyddau, datblygu cynnyrch, ymchwil i dueddiadau, rheoli cynnyrch, marchnata, datblygu a rheoli brand a mwy.

• Mae graddedigion diweddar wedi mynd ymlaen i weithio mewn rolau marchnata a rheoli ffasiwn mewn brandiau megis Dior, River Island, Victoria’s Secret ac EDITED (Retail Intelligence).

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bum mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 92) a/neu leoliad rhyngosod am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112 pwynt UCAS

Matti Atkinson

BA (Anrh) - Prynu Ffasiwn a Rheoli Brand Lleoliadau wedi’u cwblhau yn The Very Group ac Adore Me (Efrog Newydd)

“Yn ddi-os, byddwn yn annog pob myfyriwr i chwilio am brofiad gwaith, gan y bydd yr hyn y byddwch yn
ei ddysgu yn helpu i’ch arwain yn gadarnhaol yn eich gyrfa yn y dyfodol.”
Prosbectws Israddedigion 2024 | 107

Rheoli Busnes Rhyngwladol

BA (Anrh)

Datblygu eich sgiliau iaith a’ch

paratoi ar gyfer llwyddiant yn y farchnad fusnes fyd-eang.

Os ydych chi am ddilyn gyrfa yn arena rheoli busnes rhyngwladol a’ch bod am gael mantais gystadleuol ym marchnad swyddi fyd-eang heddiw, yna gallai’r BA (Anrh) mewn Rheoli Busnes Rhyngwladol fod yn ddelfrydol i chi. Cewch wybodaeth a sgiliau eang ym maes rheoli busnes rhyngwladol a rheoli traws-ddiwylliannol. Yn ogystal, bydd gofyn i chi astudio un iaith dramor fel modiwl craidd (naill ai ar lefel dechreuwr/ar ôl TGAU neu ar ôl Safon Uwch) gydol eich cwrs. Gallwch ddewis naill ai Ffrangeg, Sbaeneg neu Tsieinëeg Mandarin (yn amodol ar y galw). Ystyrir sgiliau mewn iaith dramor yn gaffaeliad yn y rhan fwyaf o sectorau busnes a rheoli.

Modiwlau nodweddiadol*

Mae’r radd yn cyfuno modiwlau craidd a dewisol o ddisgyblaethau busnes a rheoli, astudiaethau rhyngddiwylliannol ac ieithoedd. Mae’r modiwlau gorfodol yn cynrychioli’r wybodaeth a’r sgiliau craidd hanfodol sy’n ofynnol ar gyfer pob maes astudio, gan gynnwys meysydd sylfaenol busnes a rheoli ym mlwyddyn un, megis cyllid, marchnata, rheoli adnoddau dynol a busnes byd-eang.

Mae modiwlau blynyddoedd dau a thri yn ychwanegu mwy o ddyfnder academaidd at y pynciau, ac maen nhw’n fwy cymhwysol, ymarferol, ymchwiliadol a dadansoddol eu natur, a gallant gynnwys pob math o fodiwlau a chewch ddewis a dethol. Gallant gynnwys:

• Rheoli Creadigrwydd ac Arloesedd

• Busnes Rhyngwladol ac Amrywiaeth Ddiwylliannol

• Rheoli Gweithrediadau Cyfoes

*Noder. Mae’r radd hon yn destun adolygiad cyfnodol yn 2023. O’r herwydd, gall y modiwlau a restrir yma newid. Cyfeiriwch at ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.

108 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bum mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 92) a/neu leoliad rhyngosod am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112 pwynt UCAS

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

“Mae ein graddedigion yn datblygu amrywiaeth o gymwyseddau sy’n eu harfogi â’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i weithio mewn amgylcheddau busnes cynyddol fyd-eang, i weithio’n effeithiol gyda thimau amlddiwylliannol ac sydd

â’r gallu i ddeall materion rheoli busnes, ac arweinyddiaeth, o safbwynt traws-ddiwylliannol.”

Esperanza Tevar-Terol

Uwch Ddarlithydd BA (Anrh)

- Rheoli Busnes Rhyngwladol

Eich dyfodol

• Mae graddedigion y gorffennol wedi mynd ymlaen i weithio mewn sefydliadau megis BT, SKY, GKN Aerospace, y GIG a Deloitte.

• Mae’r rhagolygon gyrfa’n wych, gyda chyfleoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ym mhob maes busnes, rheoli a masnach. Mae graddedigion llwyddiannus wedi cael swyddi mewn sefydliadau sector preifat a chyhoeddus amrywiol.

• Byddwch yn barod ar gyfer llwyddiant mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys rheoli adnoddau dynol rhyngwladol, marchnata rhyngwladol, ymgynghoriaeth a chynllunio busnes, rheoli ariannol a masnachu rhyngwladol.

• Mae symud ymlaen i raddau ôl-raddedig a addysgir neu astudiaeth ymchwil yn opsiwn yn y Brifysgol hefyd.

Prosbectws Israddedigion 2024 | 109

Rheoli Gwesty a Lletygarwch Rhyngwladol BA

Wedi’i achredu’n broffesiynol ac yn canolbwyntio ar yr agweddau ymarferol; eich paratoi ar gyfer y diwydiant.

Llwybrau sydd ar gael:

• Rheoli Gwesty a Lletygarwch

Rhyngwladol – BA (Anrh)

• Rheoli Gwesty a Lletygarwch

Rhyngwladol gydag Interniaeth - BA (Anrh)

Mae’r ddau lwybr astudio wedi’u hachredu’n broffesiynol gan y Sefydliad Lletygarwch (IoH). Mae eich dysgu’n seiliedig ar y gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud gan y Council for Hospitality Management (CHME), Canolfan Ymchwil Twristiaeth Cymru (WCTR) a’n staff academaidd.

Rydym ni’n credu’n gryf mewn rhoi’r theori ar waith ac rydym yn gwneud hyn

mewn sawl ffordd, gan gynnwys profiad gwaith diwydiannol, dysgu seiliedig ar waith a’n Hystafell Lletygarwch ein hunain ar y safle. Byddwch yn elwa ar arbenigedd arbenigwyr o’r diwydiant mewn gweminarau byw, darlithoedd gwadd a mentora, gan gynnwys; Red Carnation Hotels, Hilton International, Greenwich Country Club (UDA), Gleneagles, the Dalata Hotel group, Gwestai Park Plaza, y Vale Resort & Spa, grŵp bwytai The Ivy a’r Exclusive Hotel Collection.

(Anrh)

Mae profiad gwaith diwydiannol yn greiddiol i’r radd. Os ydych chi’n dilyn y llwybr BA (Anrh) mewn Rheoli Gwesty a Lletygarwch Rhyngwladol gydag Interniaeth, gallwch gyflawni’r lleoliad blwyddyn o hyd yn y DU neu dramor. Mae cyrchfannau profiad gwaith yn y gorffennol wedi cynnwys Grand Prix Silverstone, The Royal Crescent Hotel and Spa (Caerfaddon), Greenwich Country Club (UDA) a Phencampwriaeth Golff Agored yr Alban.

Modiwlau nodweddiadol

Byddwch yn astudio modiwlau rheoli a lletygarwch craidd penodol, gydag amryw o opsiynau fel y gallwch deilwra’r cwrs i’ch diddordebau a’ch dyheadau gyrfa penodol eich hun. Gallwch ddewis astudio iaith fel rhan o’ch gradd hefyd; Ffrangeg, Sbaeneg neu Mandarin, y gellir parhau â hi yn eich blwyddyn olaf. Gallai modiwlau craidd nodweddiadol gynnwys:

• Gweithrediadau Gwesty a Lletygarwch Ymarferol

• Gweithrediadau Gwesty, Tactegau a Gwneud Penderfyniadau

• Rheoli Gwesty a Lletygarwch Cynaliadwy mewn Byd sy’n Newid

110 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Eich dyfodol

• Bydd y sgiliau y byddwch yn eu hennill yn eich galluogi i ddatblygu’n uwch reolwyr mewn cyfnod cymharol fyr, a hynny mewn amrywiaeth eang o feysydd.

• Mae’r rhain yn cynnwys swyddi mewn gwestai, bwytai, clybiau, bariau, rheoli mannau manwerthu trwyddedig, rheoli cynadleddau a digwyddiadau, personél a marchnata ym maes lletygarwch –ac adrannau lletygarwch yn y lluoedd arfog, y gwasanaeth iechyd ac arlwyo llesiant.

• Mae cyrchfannau graddedigion yn y gorffennol yn cynnwys Rheolwr Cynorthwyol Gwasanaethau Gwesteion yn The Manor House (rhan o’r Exclusive Collection) a Chyfarwyddwr Rheoli Refeniw yn The Peninsula London.

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bum mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 92) a/neu leoliad rhyngosod am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96-112 Pwynt UCAS

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

Caerdydd yn

Cymerais ran mewn gweithgareddau allgyrsiol fel y digwyddiadau

‘Passion for Hospitality’ a greodd gyfleoedd i greu cysylltiadau yn y sector ac a arweiniodd yn y pen draw at sicrhau fy rôl gychwynnol fel Rheolwr Graddedig yng Ngwesty’r Manor House.”

Gareth Rees

BA (Anrh) - Rheoli Lletygarwch

Rhyngwladol a Rheolwr Cynorthwyol Gwasanaethau, Gwesty’r Manor House

“Roedd y cwrs ym Met
wych.
Prosbectws Israddedigion 2024 | 111

Rheoli Twristiaeth Ryngwladol

Mae’r radd hon sydd wedi’i hachredu’n broffesiynol yn agor byd o gyfleoedd.

Llwybrau sydd ar gael:

• Rheoli Twristiaeth Ryngwladol - BA (Anrh)

• Rheoli Twristiaeth Ryngwladol gydag Interniaeth - BA (Anrh)

Mae’r ddau lwybr wedi’u hachredu’n broffesiynol gan y Sefydliad Rheoli Twristiaeth (TMI). Rydym yn falch hefyd o fod yn Bartner Addysgol yn ABTA, prif gymdeithas asiantau teithio a gweithredwyr teithiau, ac mae hyn yn caniatáu i chi wneud cais am yr Interniaeth ABTA gystadleuol.

Mae eich dysgu wedi’i seilio ar yr ymchwil a wneir gan Ganolfan Ymchwil Twristiaeth Cymru (WCTR), y Gymdeithas Twristiaeth mewn Addysg Uwch (ATHE) a’n staff academaidd.

Er mwyn eich helpu i archwilio a pharatoi am yrfa yn y diwydiant gwydn ac amrywiol hwn, mae ein gradd Rheoli Twristiaeth Ryngwladol yn darparu cymysgedd o wybodaeth graidd sy’n adlewyrchu’r cyd-destun economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ac arferion twristiaeth, gyda theori reoli drylwyr yn sail i’r cyfan.

BA (Anrh)

Hyd yma, mae myfyrwyr wedi bod ar leoliadau tramor a rhai yn y DU. Mae lleoliadau tramor wedi cynnwys Universal Studios, Disney, gwestai a chlybiau gwledig amrywiol yn UDA, Camp America, gweithredwyr cwmnïau hedfan megis Virgin Atlantic, yn ogystal â lleoliadau Ewropeaidd gyda chwmnïau teithio fel TUI. Yn y DU, mae myfyrwyr wedi gweithio i amrywiaeth o sefydliadau megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Gymdeithas Hosteli Ieuenctid, Maes Awyr Caerdydd ac Amgueddfa Cymru.

Er mwyn gwella cynnwys y modiwl ymhellach, mae’r cwrs yn manteisio ar arbenigedd nifer o arbenigwyr yn y diwydiant, gan gynnwys: rhai o Croeso Cymru, Maes Awyr Caerdydd, Stadiwm Principality, Arena Motorpoint Caerdydd, CADW, Castell Caerdydd, Amgueddfa Caerdydd a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Cewch gyfle i ymweld ag amrywiaeth o atyniadau a chyrchfannau twristaidd sy’n cysylltu theori â bywyd go iawn o safbwynt y DU, Ewropeaidd a rhyngwladol.

112 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bum mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 92) a/neu leoliad rhyngosod am flwyddyn

Gofynion mynediad:

Cynnig nodweddiadol: 96-112 Pwynt UCAS

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

Modiwlau nodweddiadol

Byddwch yn astudio sawl modiwl rheoli a thwristiaeth craidd penodol, gyda chasgliad o opsiynau fel y gallwch deilwra’r cwrs i’ch diddordebau a’ch dyheadau gyrfa penodol eich hun. Cewch gyfle i astudio iaith fel rhan o’ch gradd hefyd; Ffrangeg, Sbaeneg neu Mandarin, y gellir parhau â hi yn eich blwyddyn olaf. Gallai modiwlau nodweddiadol gynnwys:

• Yr Amgylchedd Twristiaeth Byd-eang

• Rheoli Cyrchfannau

• Twristiaeth a Heriau Byd-eang

Eich dyfodol

• Mae’r diwydiant twristiaeth yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa, a byddwch mewn sefyllfa dda i gael swyddi rheoli yn y DU a thramor.

• Mae cyfleoedd ar gael ym meysydd marchnata a chynllunio cyrchfannau, gweithrediadau meysydd awyr a chwmnïau hedfan, gweithrediadau teithio a theithiau, rheoli digwyddiadau, rheoli chwaraeon a marchnata sefydliadau twristiaeth cenedlaethol a lleol a rheoli atyniadau ymwelwyr.

• Mae graddedigion diweddar wedi mynd ymlaen i weithio yn TUI, Bluestone, True Travel a Hangloose Adventure (Eden Project).

• Mae modd symud ymlaen i raglenni ôl-raddedig arbenigol yn y Brifysgol hefyd.

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Prosbectws Israddedigion 2024 | 113

Y Gyfraith LLB (Anrh)

Ein nod yw eich cael chi i feddwl a gweithredu fel cyfreithiwr gyda’n Gradd Cymhwyso yn y Gyfraith sy’n seiliedig ar sgiliau.

Mae gradd LLB y Gyfraith (Anrh) yn radd cymhwyso yn y gyfraith sy’n cael ei chydnabod gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) a Bwrdd Safonau’r Bar (BSB).

Mae’n cynnig dealltwriaeth fanwl o’r fframwaith a’r defnydd o reolau cyfreithiol a chyfleoedd arloesol i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy proffesiynol drwy asesiadau ymarferol megis ymarferion cynnal ffug lysoedd, trafod a chyfryngu.

Mae’r radd yn eich annog i ddatblygu dull chwilfrydig, rhesymegol a beirniadol, cyfathrebu’n gryno a gallu llunio dadleuon darbwyllol ac effeithiol. Byddwch chi’n gallu rhoi damcaniaeth gyfreithiol ar waith yn ein hystafell ffug lys a chewch eich cefnogi i ddatblygu eich sgiliau cydweithredu, cyfathrebu effeithiol, ymchwil gyfreithiol a siarad cyhoeddus.

Byddwch yn cael profiad ymarferol gwerthfawr drwy gyflawni modiwl lleoliad gwaith gorfodol a Lleoliad Gwaith Digidol wedi’i wreiddio. Byddwch yn elwa ar ein cysylltiadau helaeth â diwydiant hefyd drwy ddarlithoedd gwadd a chyfleoedd rhwydweithio gyda chwmnïau cyfreithiol, arbenigwyr yn y sector cyhoeddus a sefydliadau nid-er-elw.

Modiwlau nodweddiadol

Mae’r LLB (Anrh) yn cynnig yr holl fodiwlau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer gradd cymhwyso yn y gyfraith (QLD), yn ogystal ag amrywiaeth o fodiwlau dewisol mewn meysydd cyfoes o’r gyfraith, gan gynnwys cyfraith fasnachol, cyfraith seiber, cyfraith teulu, cyfraith amgylcheddol a chyfraith chwaraeon.

• Cyfraith Droseddol

• Y Gyfraith ar Waith ac Arloesi Digidol (Clinig Cyfreithiol a Lleoliad Gwaith Digidol)

• Sgiliau Cymhwysol mewn Eiriolaeth

Eich dyfodol

• Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn gyfreithiwr neu fargyfreithiwr sy’n ymarfer, mae’r radd hon yn ddelfrydol i chi. Ystyrir y Radd Cymhwyso yn y Gyfraith (QLD) hon fel cam academaidd addysg gyfreithiol sy’n ofyniad hanfodol i symud ymlaen i’r ail gam o hyfforddiant galwedigaethol sydd ei angen i ddod yn fargyfreithiwr neu’n gyfreithiwr yn y DU.

• Mae’r radd yn datblygu cymwyseddau a sgiliau trosglwyddadwy hefyd sy’n addas ar gyfer y rhai sydd eisiau dilyn amrywiaeth eang o yrfaoedd mewn meysydd polisi megis sefydliadau rhyngwladol, adrannau’r llywodraeth, y sector elusennol a byd busnes.

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 92)

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112-120 pwynt UCAS

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

114 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Cyfraith Busnes a Rheoli BA

Ehangu eich gorwelion y tu hwnt i’r proffesiynau cyfreithiol traddodiadol.

Cydnabyddir y radd hon gan y Sefydliad Ysgrifenyddion a Chynorthwywyr Personol Cyfreithiol (ILSPA) a bydd yn eich galluogi i ddatblygu set sgiliau addasadwy yn dibynnu ar eich nodau personol a’ch dyheadau gyrfa.

Ein nod yw creu amgylchedd agored, cefnogol ac ysgogol yn ddeallusol a fydd yn eich galluogi i ymchwilio i’r berthynas rhwng y gyfraith a busnes. Byddwch yn rhoi theori gyfreithiol ar waith yn ein hystafell ffug lys bwrpasol ac yn datblygu eich gwybodaeth a’ch cyflogadwyedd ym meysydd busnes a rheoli.

Cewch gyfle i gael profiad gwerthfawr o’r byd go iawn drwy gyflawni blwyddyn ryngosod mewn diwydiant a byddwch yn elwa ar ein cysylltiadau â diwydiant drwy ddarlithoedd arbennig gan arbenigwyr cyfreithiol.

Modiwlau nodweddiadol

Mae ein modiwlau wedi’u cynllunio’n unol ag anghenion y diwydiant, er mwyn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn busnes a’r gyfraith a gwella eich datblygiad personol.

• Mae ein modiwl ‘Cyfraith Fewnol’ sy’n unigryw yn y DU, yn cynnig cyfle i archwilio rôl y Cwnsler Cyffredinol, sef yr unigolyn sy’n rhan o’r busnes ac yn swyddog y llys ar yr un pryd.

• Hefyd, yn eich blwyddyn olaf o astudio gallwch ddewis cymryd rhan ym ‘Mhrosiect Briff Amicus Curiae’ gan gyflwyno dadleuon ac argymhellion cyfreithiol mewn achos Hawliau Dynol cyfredol y gellid eu cyflwyno ar ôl asesu.

(Anrh)

Eich dyfodol

• Rydym yn gobeithio ehangu eich gorwelion y tu hwnt i broffesiynau traddodiadol cyfreithwyr a bargyfreithwyr i gwmpasu gweithwyr cyfreithiol proffesiynol eraill, megis paragyfreithiwr, ysgrifennydd cyfreithiol, technegydd trawsgludo, trawsgludwr trwyddedig, ac ymarferydd profiant.

• Mae modd symud ymlaen i raglenni ôl-raddedig arbenigol yn y Brifysgol hefyd.

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bum mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 92) a/neu leoliad am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112-120 pwynt UCAS

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Prosbectws Israddedigion 2024 | 115
Bydd graddedigion yn derbyn eithriadau o:

Rheoli ac Arweinyddiaeth BA (Anrh)

Dewch yn arweinydd busnes effeithiol, gwydn yn y dyfodol.

Amcan y radd hon mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth yw adeiladu a gwella eich sgiliau a’ch galluoedd i ddod yn arweinydd busnes effeithiol yn y dyfodol.

Mae’r radd yn canolbwyntio ar eich cymwyseddau personol a rhyngbersonol sy’n diwallu anghenion diwydiant, gan gynnwys: hunangred, ymwybyddiaeth a chymhelliant, sgiliau deallusol mewn perthynas â rheoli ac arweinyddiaeth, y gallu i addasu, meddylfryd twf a gwydnwch.

Byddwch yn cryfhau a chyfoethogi eich gwybodaeth mewn amrywiaeth o feysydd arwain, rheoli a busnes, gan gynnwys strategaeth, marchnata, cyllid, rheoli adnoddau dynol, entrepreneuriaeth a datblygiad personol.

Mae’r radd yn cyfrannu at ddatblygu gyrfa drwy gyfuno addysgu, busnes bywyd go iawn ac arweinyddiaeth gyda datblygu sgiliau allweddol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. O ddechrau’r radd, cewch eich annog i feddwl am eich gyrfa a’ch cyflogadwyedd, ac mae’r modiwl Profiad Gwaith yn yr ail flwyddyn yn cynnig cyfleoedd pellach i ennill profiad ymarferol. Bydd gennych fynediad at siaradwyr ysbrydoledig a rhwydwaith amrywiol o arweinwyr, ymarferwyr ac entrepreneuriaid busnes llwyddiannus a fydd yn cyflwyno gweithdai a darlithoedd.

Modiwlau nodweddiadol

Nod penodol y radd yw rhoi’r gallu i chi weithio ac ymchwilio gyda mwy o annibyniaeth, drwy ddod i gysylltiad â damcaniaethau, modelau a dulliau’n ymwneud â rheoli ac arweinyddiaeth. Byddwch yn dysgu sut i lunio atebion a strategaethau ac i feddwl yn greadigol i ddatblygu atebion gwreiddiol i broblemau busnes. Mae modiwlau nodweddiadol yn cynnwys:

• Yr Entrepreneur sy’n Canolbwyntio ar Werthoedd

• Arwain mewn Byd sy’n Newid

• Arferion Busnes Moesegol a Chynaliadwy

• Datblygu’r Arweinydd Byd-eang

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bum mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 92) a/neu leoliad am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112 pwynt UCAS

Eich dyfodol

• Byddwch yn barod i gael swyddi reoli yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector/sector gwirfoddol. Mae’r cwrs yn galluogi graddedigion i wneud cais am raglenni datblygu arweinyddiaeth gyda chwmnïau megis Network Rail, Deloitte a Dunelm hefyd.

• Mae mynediad ar gael i amrywiaeth eang o raddau ôl-raddedig ac ymchwil a addysgir yn y Brifysgol, er mwyn datblygu a gwella eich sylfaen wybodaeth a’ch maes arbenigedd.

116 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Rheoli Marchnata Digidol BA (Anrh)

Gradd achrededig sydd â’r nod o ddatblygu eich sgiliau ar gyfer tirwedd ddynamig marchnata digidol.

Mae ein gradd Rheoli Marchnata Digidol wedi’i hachredu gan a’i datblygu ar y cyd â’r Sefydliad Marchnata Digidol (DMI) ac anghenion y diwydiant marchnata digidol. Byddwch yn dysgu amrywiaeth eang o dechnegau a gwybodaeth ym maes marchnata digidol arbenigol, gan eich paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Yn ystod eich amser gyda ni, byddwch yn datblygu dealltwriaeth feirniadol o ymddygiad prynu cwsmeriaid digidol a dealltwriaeth drylwyr o’r damcaniaethau, y tueddiadau a’r technegau diweddaraf wrth ddefnyddio dadansoddeg ddigidol ar draws y we a thechnoleg symudol. Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o farchnata digidol ar raddfa fyd-eang.

Mae gan y radd bwyslais cryf ar feithrin eich cyflogadwyedd ac, er mwyn sicrhau eich bod yn cael profiad ymarferol amhrisiadwy, byddwch yn cyflawni lleoliad gwaith gorfodol yn yr ail flwyddyn a chewch ddewis cyflawni lleoliad blwyddyn o hyd mewn diwydiant.

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bum mlynedd yn

llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 92) a/neu leoliad am flwyddyn

Gofynion mynediad:

Cynnig nodweddiadol: 112 pwynt UCAS

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

Cewch eich addysgu gan arbenigwyr academaidd ac ymarferwyr profiadol. Mae siapter o’r Sefydliad Siartredig

Marchnata (CIM) yn rhoi cyfle i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol sy’n gysylltiedig â’ch astudiaethau, gan ddatblygu eich sgiliau ymarferol ymhellach.

Modiwlau nodweddiadol

Byddwch yn gallu dewis o blith sawl modiwl dewisol yn yr ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf o astudio i deilwra eich dysgu i gyd-fynd â’ch diddordebau a’ch dyheadau gyrfa. Gallai modiwlau craidd nodweddiadol gynnwys:

• Cyfathrebu Marchnata Digidol Creadigol

• Dadansoddeg Ddigidol

• Ymddygiad Defnyddwyr Digidol

• Marchnata Chwilio

• Marchnata Dylanwadwr

Eich dyfodol

• Byddwch yn datblygu’r sgiliau a’r ddealltwriaeth allweddol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa mewn Marchnata Digidol; gan ennill y sgiliau ar gyfer swydd Uwch Swyddog Gweithredol Rheoli Cyfrifon, Rheoli Chwilio a’r Cyfryngau Cymdeithasol, Datblygiad Creadigol Digidol a Chyfathrebiadau Marchnata mewn amrywiaeth o ddiwydiannau yn y sectorau preifat, cyhoeddus ac elusennol.

• Mae’r radd yn rhoi mynediad i amrywiaeth eang o raglenni gradd Meistr ac ymchwil a addysgir yn y Brifysgol hefyd.

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Prosbectws Israddedigion 2024 | 117

Graddau Marchnata

Graddau achrededig a ddatblygwyd i ddiwallu anghenion y diwydiant.

Wedi’u datblygu ar y cyd â chyrff proffesiynol a’r diwydiant, bydd ein graddau Marchnata arbenigol mewn Hysbysebu, Brand, Digidol, Cysylltiadau Cyhoeddus a Gwerthiant yn eich galluogi i gael yr wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y diwydiant marchnata creadigol sy’n esblygu’n gyson.

Dyfarnwyd statws ‘Gradd Achrededig’ CIM i’n graddau Rheoli Marchnata –mae’r achrediad hwn yn rhoi cyfle i chi gael eich eithrio o gymwysterau Tystysgrif mewn Marchnata Proffesiynol a Diploma mewn Marchnata Proffesiynol CIM.

Cewch eich addysgu gan arbenigwyr academaidd, ymarferwyr profiadol a siaradwyr gwadd o’r diwydiant. Mae siapter o’r Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM) yn rhoi cyfle i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol sy’n gysylltiedig â’ch astudiaethau.

Graddau sydd ar gael:

• Rheoli Hysbysebu a Marchnata – BA (Anrh)

• Rheoli Brand a Marchnata – BA (Anrh)

• Rheoli Marchnata – BA (Anrh)

• Rheoli Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus – BA (Anrh)

• Rheoli Gwerthu a Marchnata – BA (Anrh)

Mae pwyslais cryf ar gyflogadwyedd ar draws ein portffolio o raddau marchnata ac, er mwyn sicrhau eich bod yn cael profiad ymarferol gwerthfawr, byddwch yn cwblhau lleoliad gwaith gorfodol yn yr ail flwyddyn a chewch ddewis cyflawni lleoliad blwyddyn o hyd yn y diwydiant.

Modiwlau nodweddiadol

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau cyffredin sydd ar gael yn y graddau marchnata hyn i gyd, gan gynnwys y cyfryngau digidol ar gyfer marchnatwyr a dysgu rhaglenni meddalwedd safonol y diwydiant, wrth gyflawni modiwlau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’ch pwnc arbenigol.

Ym mlwyddyn dau, byddwch yn parhau i ganolbwyntio ar fodiwlau craidd sy’n gysylltiedig ag ymddygiad defnyddwyr, cyfathrebu marchnata creadigol a dulliau ymchwil, ynghyd â modiwlau craidd mwy penodol sy’n gysylltiedig â’r radd o’ch dewis. Mae detholiad o opsiynau sy’n rhoi sylw i feysydd megis marchnata chwilota, marchnata symudol a marchnata cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â marchnata chwaraeon, digwyddiadau a nawdd, ar gael hefyd.

Yn eich blwyddyn olaf, mae pwyslais ar feysydd mwy strategol y pwnc o’ch dewis a meysydd marchnata eraill gan gynnwys marchnata byd-eang rhyngwladol a rheoli cyfrifon. Byddwch yn gallu dewis o blith nifer o fodiwlau dewisol hefyd.

118 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

BA (Anrh) - Rheoli Marchnata

Swyddog Gweithredol y Cyfryngau yn Confused.com

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bum mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 92) a/neu leoliad am flwyddyn

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112 pwynt UCAS

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

Eich dyfodol

• Mae graddedigion y gorffennol wedi mynd ymlaen i weithio i frandiau fel Dubarrys of Ireland, Confused. com a Gü; asiantaethau creadigol yn rheoli ymgyrchoedd hysbysebu cenedlaethol, rheolwyr brand ar gyfer brandiau cyfarwydd, rheolwyr cyfrifon mewn asiantaethau cysylltiadau cyhoeddus ac ati, gydag eraill yn cychwyn eu busnesau eu hunain.

• Mae’r cwrs yn rhoi mynediad i amrywiaeth eang o raglenni gradd Meistr ymchwil a rhai a addysgir yn y Brifysgol lle gallwch fynd ymlaen i ddilyn graddau MA, MSc neu MRes.

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

“Dewis astudio Rheoli Marchnata ym Met Caerdydd oedd un o’r penderfyniadau gorau y gallwn i fod wedi’u gwneud! Ers graddio, rydw i wedi cael Interniaeth yn Confused. com, gan weithio gyda sawl tîm i gael profiad cyn symud i rôl barhaol fel Swyddog Gweithredol y Cyfryngau.”
Ellie Herbert
Prosbectws Israddedigion 2024 | 119

effaith

Ysgol Chwaraeon a

Gwyddorau Iechyd

Caerdydd (YChGIC)

Mae Ysgol Chwaraeon a

Gwyddorau Iechyd Caerdydd yn ganolfan ragoriaeth

gydnabyddedig yn y DU, gydag enw da yn genedlaethol ac yn

rhyngwladol am ansawdd ei gwaith ymchwil ac academaidd

ar draws gwyddorau chwaraeon ac iechyd.

Ein gweledigaeth yw cael ein hadnabod yn fyd-eang am ein haddysg sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd a’n hymchwil mawr ei heffaith.

Er mwyn helpu i gyflawni’r weledigaeth hon, bydd ein portffolio cyffrous o gyrsiau gradd rhyngddisgyblaethol yn datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau, yn cynnig cyfle i gael profiad ymarferol a defnyddio offer a chyfleusterau blaengar, wrth baratoi ar gyfer eich gyrfa ddewisol.

Wedi’u lleoli ar Gampws Llandaf, mae llawer o’n cyrsiau iechyd arbenigol wedi’u hachredu’n broffesiynol i fodloni gofynion y proffesiynau gofal iechyd, ac mae nifer ohonynt yn unigryw yng Nghymru, gan ganiatáu mynediad uniongyrchol i’ch proffesiwn dewisol a gweithredu fel man cychwyn gwych i’ch gyrfa; ar gyfer astudiaethau pellach ar lefel ôl-raddedig, neu ymchwil.

Dysgwch fwy am yr Ysgol drwy sganio’r cod QR neu drwy fynd i
www.metcaerdydd.ac.uk/chwaraeonagwyddorauiechyd
120 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Mae ein graddau chwaraeon, a ddarperir ar gampws Cyncoed, wedi’u strwythuro i ddarparu llwybrau unigryw sy’n darparu ar gyfer diddordebau unigol myfyrwyr ac yn bodloni gofynion galwedigaethol marchnad sy’n ehangu mewn meysydd megis gwyddor chwaraeon, rheoli, hyfforddi, dawns, addysg gorfforol ac iechyd a mwy. Mae ymchwil ac ysgolheictod heb eu hail yn sail i’r holl raddau, dan arweiniad ein hathrawon ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol, mewn cydweithrediad â llawer o Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol, clybiau a’r diwydiant. Mae ein cyfleusterau chwaraeon rhagorol ar y safle yn sicrhau bod elfennau ymarferol y cyrsiau’n cael eu darparu i safon uchel.

Mae ein holl staff a’n rhaglenni academaidd yn weithgar ym maes ymchwil, mae ganddynt amrywiaeth eang o weithgareddau menter parhaus ac maent yn cynnig cysylltiadau rhagorol â diwydiant i ddarparu cyfleoedd gyrfa cyffrous. Yn ogystal â hyn, mae llawer o’r rhaglenni’n cynnig cyfleoedd i gyflawni lleoliadau gwaith, gan wella eich sgiliau ymhellach i gael mynediad at fyd gwaith.

Mae gan bob myfyriwr fynediad at ystod eang o raglenni Met Active a chyfleusterau campfa ar y ddau gampws am ddim.

Prosbectws Israddedigion 2024 | 121

Cyfleusterau Chwaraeon

Mae ein cyfleusterau

chwaraeon ac academaidd

arbenigol yn rhoi cyfle i chi gael profiadau ymarferol i’ch paratoi ar gyfer eich

gyrfa yn y dyfodol.

Mae’r cyfleusterau addysgu’n cynnwys:

Labordy Dadansoddi Perfformiad

Mae ein cyfleuster Dadansoddi

Perfformiad blaenllaw yn cynnwys 3 labordy cyfrifiadurol sydd â chasgliad o systemau PC a Mac sydd ar gael yn fasnachol, ynghyd ag adnoddau golygu fideo pwerus. Mae gan gampws Cyncoed rwydwaith camera IP awyr agored sy’n tyfu hefyd i hwyluso prosesau cipio fideo pwerus.

Lab Ffisioleg

Mae ein Labordai Ffisioleg Chwaraeon wedi’u hachredu gan Gymdeithas

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BASES). Mae gennym ddau labordy ag amrywiaeth eang o gyfarpar ar gyfer asesiadau sy’n benodol i chwaraeon, gan gynnwys rhedeg, beicio, nofio a rhwyfo. Maent yn cynnwys casgliad o offer a ddefnyddir i wella eich dysgu ac sy’n cynnig profiad ymarferol gydag offer gwyddor chwaraeon arbenigol.

122 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Lab Biomecaneg

Mae cartref Biomecaneg Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol (NIAC), sydd â gofod labordy pwrpasol, dwy ardal casglu data yn yr ardal athletau, ystafell ddadansoddi a gweithdy. Mae’r caledwedd yn cynnwys systemau cipio symudiadau awtomatig Vicon a Codamotion, camerâu cyflymder uchel a llwyfannau mesur grym Kistler.

Campfa Cryfder a Phŵer

Mae’r Gampfa Adfer a Chyflyru wedi’i lleoli uwchben y Gampfa Cryfder a Phŵer. Mae gan hanner yr ardal hon gyfarpar ar gyfer datblygu cryfder y corff uchaf, gyda phedair mainc codi pwysau a raciau, meinciau dymbel, meinciau tynnu wyneb i lawr a chasgliad o ddymbelau. Mae’r hanner arall yn darparu ardal agored ar gyfer cynhesu a darlithoedd ymarferol ar adfer.

Ystafell Addysgu Tylino

Mae ystafell addysgu Tylino Chwaraeon yr Ysgol ar lawr cyntaf y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol (NIAC).

Mae’r ystafell yn llawn cyfarpar i addysgu agweddau ymarferol a damcaniaethol ar dylino chwaraeon, gan ddarparu amgylchedd dysgu ac addysgu rhagorol.

Ystafell Darlledu a Chyfryngau Chwaraeon

Mae’r cyfleuster yn cynnwys stiwdio deledu wrthsain â goleuadau, camerâu, sgrin werdd a set rithwir, oriel deledu â system weithredu TriCaster a gorsaf prif olygu, a stiwdio radio wrthsain hunanweithredol â chyfarpar recordio podlediadau/sain.

Labordai Ymchwil:

Ffisioleg

Mae ein labordai’n cefnogi pob math o weithgarwch ymchwil gan staff a myfyrwyr. Gall myfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn olaf gael profiad gyda chyfarpar ffisioleg ymarfer corff mwy datblygedig yn ystod prosiectau traethawd ymchwil annibynnol. Mae cyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil sydd ar waith gan fyfyrwyr ôl-raddedig a staff hefyd. Mae ein cyfarpar mwyaf arbenigol wedi’i leoli yn y labordy ymchwil at ddefnydd myfyrwyr doethurol ac aelodau staff.

SCRAM

Mae ein Labordy Ymchwil SCRAM yn galluogi dadansoddiad manwl o berfformiad athletaidd. Mae’r cyfleuster yn galluogi ymchwilwyr ac ymarferwyr i bennu lefel perfformiad athletwr ar gyfer amrywiaeth o nodweddion cryfder a phŵer.

Mae’n galluogi ymarferwyr i asesu perfformiad cyhyrol mewn lleoliad adferol hefyd.

Mae’r cyfleusterau chwaraeon yn cynnwys:

• Caeau 3G (Pêl-droed a Rygbi)

• Astro Turf

• Arena’r Saethwyr

• Stiwdio Ddawns

• Canolfan Denis Dan Do

• Stiwdio Un a Stiwdio Droelli

• Cyrtiau Sboncen

• Campfa Syd Aaron

• Pwll Nofio

• Cyfleuster Athletau Awyr Agored

• Canolfan Athletau Dan Do Genedlaethol Cymru (NIAC)

Sganiwch y cod QR

i ddysgu mwy neu ewch i’n gwefan

Prosbectws Israddedigion 2024 | 123

Cyfleusterau iechyd

Cynlluniwyd ein cyfleusterau gwyddorau iechyd arbenigol

gyda’ch gyrfa chi yn y dyfodol mewn golwg, gan eich galluogi i gael profiadau ymarferol fel rhan o’ch gradd.

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:

Labordai Gwyddor Biofeddygol a Gofal Iechyd

Mae ein labordai addysgu gwyddor biofeddygol yn fawr, yn fodern ac yn llawn offer, gan eich galluogi i ddatblygu cymwyseddau allweddol

sy’n cyd-fynd â gofynion achredu.

Byddwch yn cyflawni sesiynau ymarferol hanfodol mewn meysydd disgyblaeth craidd sy’n cynnwys

microbioleg ac imiwnoleg, gwyddorau

gwaed a chellol, bioleg foleciwlaidd a geneteg, drwy gydol eich rhaglen astudio. Mae trefniant sgrin a sain cyfryngau’n galluogi ymgysylltu rhyngweithiol rhwng staff a

myfyrwyr, gan sicrhau y cyflwynir profiad dysgu rhagorol yn ystod pob sesiwn labordy.

Ystafell Asesu Iechyd

Mae ein Hystafell Asesu Iechyd yn ymwneud ag asesu gwirfoddolwyr dynol yn ffisiolegol gan ddefnyddio amrywiaeth eang o dechnegau. Mae rhai o’r technegau hyn yn cynnwys mesuriadau pwysedd gwaed, mesuriadau stiffrwydd rhydwelïol gan ddefnyddio tonometreg ‘applanation’, ocsimetredd pwls, mesurau uwchsain gan gynnwys asesu llif y gwaed i’r ymennydd, sbirometreg, profion ymarfer corff a chymryd a dadansoddi gwaed gwythiennol a chapilari. Mae’r ymchwil a wneir yn yr Ystafell Asesu Iechyd yn canolbwyntio’n benodol ar iechyd fasgwlaidd, sy’n llywio addysgu yn y maes hwn.

Labordai Technoleg Ddeintyddol

Mae gan ein labordai deintyddol yr holl adnoddau i’ch galluogi i gynnal ymarferion ymarferol yn nisgyblaethau prosthodonteg ac orthodonteg sefydlog a symudadwy. Bydd gennych eich mainc labordy llawn offer eich hun, gyda micromotor, echdynnu personol, lamp golau dydd uwchben, llosgydd bunsen a gwresogydd anwytho. Rydym yn darparu’r holl offer canolig a mawr arall yn yr ystafell blastr ymroddedig gymunedol. Mae gennym ystafell CAD / CAM cwbl weithredol hefyd, gyda meddalwedd CAD, sganwyr deintyddol ac argraffwyr 3D ar gyfer technegau deintyddol modern.

Canolfan Diwydiant Bwyd

Mae ein cyfleusterau ZERO2FIVE yn ein Canolfan Diwydiant Bwyd ar gael

i’w defnyddio gan fyfyrwyr Gwyddor Bwyd, Maetheg, Deieteg, Gwyddor Biofeddygol ac Iechyd yr Amgylchedd i gefnogi eu dysgu. Bydd gennych fynediad at ystafell synhwyraidd i ddefnyddwyr, pedwar peiriant maint peilot, cegin ddatblygu a chegin ymchwil i ddefnyddwyr.

124 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Clinig Podiatreg

Byddwch yn gallu defnyddio cyfleuster clinigol mawr gyda chlinig sawl cadair ar y safle, ynghyd â labordy cerddediad, labordai gweithgynhyrchu orthosis a labordy anatomeg a ffisioleg newydd lle defnyddir technoleg i wella’r ffordd o gyflwyno’r pynciau hyn. Mae yna ystafell efelychu hefyd lle gellir datblygu amrywiaeth o sgiliau diagnostig cyn-glinigol a thriniaeth.

Labordai Seicoleg

Mae’r cyfleusterau seicoleg yn cynnwys ystafelloedd profi unigol ar gyfer arbrofion ymddygiadol a chasgliad o offer arbenigol gan gynnwys traciwr llygaid Tobii, EEG Biosemi a darllenydd wyneb Noldus. Mae gennym labordy addysgu hefyd sydd â chasgliad o gyfrifiaduron sydd ar gael yn fasnachol a sawl BIOPAC MP46 ar gyfer addysgu egwyddorion seicoffisioleg.

Sganiwch y cod QR i weld ein teithiau rhithwir, neu ewch i’n gwefan

Prosbectws Israddedigion 2024 | 125

Rhaglenni Iechyd a Gwyddorau Cymdeithasol Sylfaen

Bwriad y rhaglenni iechyd a gwyddorau cymdeithasol sylfaen yw darparu ar gyfer y rhai sy’n gobeithio ymrestru ar radd anrhydedd neu HND mewn iechyd neu wyddorau cymdeithasol

ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, nad ydynt wedi sicrhau’r nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (A2 neu gyfwerth).

Maent yn addas hefyd ar gyfer y rhai sydd wedi astudio pynciau Safon Uwch (neu gyfwerth) mewn meysydd nad ydynt yn darparu’r cefndir angenrheidiol yn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol ar gyfer y rhaglen radd Anrhydedd neu HND dan sylw.

Mae’r rhaglenni’n ehangu mynediad a chyfranogiad hefyd ar gyfer myfyrwyr sy’n ‘dychwelyd i ddysgu’ sy’n dymuno cychwyn ar radd anrhydedd mewn pwnc Gwyddoniaeth.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn cael ei hystyried yn flwyddyn 0 a bydd myfyrwyr sy’n dymuno cyflawni’r rhaglen sylfaen yn gwneud cais am y rhaglen radd berthnasol, gan ddefnyddio’r cod UCAS perthnasol ar gyfer y rhaglen honno, ac yn gwneud cais am bwynt mynediad 0 ar wefan UCAS.

126 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Blwyddyn Sylfaen yn arwain at BSc Gwyddorau Iechyd

Mae’n berthnasol i’r graddau canlynol ac yn ymdrin â meysydd Gwyddorau

Biolegol, Cemegol a Ffisegol, yn ogystal â dealltwriaeth o sut mae gwaith ymchwil a dadansoddi data’n cael ei gyflawni yn y gwyddorau iechyd:

BSc (Anrh) Gwyddor Tudalen 128 Biofeddygol

BSc (Anrh) Gwyddorau Tudalen 128

Biofeddygol gydag Iechyd, Ymarfer Corff a Maetheg

BSc (Anrh) Iechyd Tudalen 134 yr Amgylchedd

BSc (Anrh) Gwyddor Tudalen 136

Bwyd a Maetheg

BSc (Anrh) Gwyddor Tudalen 148 Chwaraeon ac Ymarfer Corff

BSc (Anrh) Cyflyru Tudalen 152 Adferiad a Thylino Chwaraeon

Gall myfyrwyr gyflawni’r flwyddyn sylfaen hefyd os ydynt yn dymuno cael eu hystyried ar gyfer mynediad i un o’r rhaglenni gradd canlynol. Yn yr achos

hwn, dylai myfyrwyr wneud cais drwy UCAS gan ddefnyddio’r cod B901*:

BSc (Anrh) Technoleg Tudalen 133 Ddeintyddol

BSc (Anrh) Gwyddor Tudalen 130 Gofal Iechyd

BSc (Anrh) Maetheg Tudalen 138 a Deieteg Ddynol

BSc (Anrh) Podiatreg Tudalen 140

*Noder nad oes dilyniant awtomatig o’r graddau sylfaen i’r pedair rhaglen radd hyn.

Blwyddyn Sylfaen yn arwain at BA/BSc

Gwyddorau Cymdeithasol

Mae’n berthnasol i’r graddau canlynol ac yn ymdrin â meysydd sgiliau allweddol a dadansoddi beirniadol yn y gwyddorau cymdeithasol. Yn ogystal, mae modiwlau penodol yn cynnwys Cyflwyniad i Seicoleg, Cyflwyniad i Gymdeithaseg, Cymunedau ac Iechyd a Throsedd a Throseddu.

HND/BSc (Anrh) Iechyd Tudalen 82 a Gofal Cymdeithasol

BSc (Anrh) Troseddeg Tudalen 78

BSc (Anrh) ) Addysg, Tudalen 68 Seicoleg ac Anghenion Addysgol Arbennig

BSc (Anrh) Iechyd Tudalen 134 yr Amgylchedd

BSc (Anrh) Seicoleg Tudalen 142

BA (Anrh) Plismona Tudalen 80 Proffesiynol

BA (Anrh) Gwaith Tudalen 86 Ieuenctid a Chymunedol

Mae cyfleoedd i symud ymlaen i raglenni gwyddorau cymdeithasol eraill hefyd.

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Blwyddyn yn llawn amser

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 5 TGAU yn cynnwys Saesneg a Mathemateg gradd A*-C

Gwyddorau Iechyd Sylfaen: 56 pwynt UCAS

Gwyddorau Cymdeithasol Sylfaen: 48 pwynt UCAS

Prosbectws Israddedigion 2024 | 127

Gwyddor Biofeddygol BSc (Anrh)

Gwyddorau Biofeddygol gydag Iechyd, Ymarfer Corff a Maetheg BSc (Anrh)

Bydd ein graddau Gwyddorau

Biofeddygol achrededig yn eich galluogi i ddod yn

ymarferydd Gwyddorau

Biofeddygol hyderus yn

eich maes dewisol. Yn ystod eich astudiaethau gyda ni, bydd cyfle i chi fanteisio ar gyfleusterau a labordai a byddwch yn cael cymorth gan dîm ymroddedig o staff gwyddorau biofeddygol sydd wrthi’n gwneud ymchwil a thiwtor personol gydol eich amser gyda ni.

Gwyddor Biofeddygol

BSc (Anrh)

Nod y radd hon, sydd wedi’i hachredu’n broffesiynol gan y

Sefydliad Gwyddor Biofeddygol a’r Gymdeithas Fioleg Frenhinol, yw eich galluogi i ddatblygu, integreiddio a chymhwyso gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau gwyddonol i’r ymchwiliad amlddisgyblaethol o glefydau ac anhwylderau dynol, megis diabetes, canser a chlefyd cardiofasgwlaidd. Bydd sesiynau labordy ac addysgu yn rhoi’r wybodaeth wyddonol a’r sgiliau technegol i chi a fydd yn eich paratoi ar gyfer blynyddoedd dau a thri.

Gwyddorau Biofeddygol

gydag Iechyd, Ymarfer Corff a Maetheg BSc (Anrh)

Mae’r radd unigryw hon, sydd wedi’i hachredu’n broffesiynol gan y Gymdeithas Fioleg Frenhinol, yn canolbwyntio ar astudiaeth wyddonol o agweddau ar ffordd o fyw a lles sy’n cwmpasu gwahanol strategaethau y gellir eu defnyddio i wella iechyd a hybu iechyd. Rhoddir pwyslais ar gyfraniad ymarfer corff, hybu iechyd a maetheg yn hyn o beth. Cewch eich cyflwyno i themâu sylfaenol maetheg ddynol, ffisioleg ddynol, biocemeg ac ymateb y corff i ymarfer corff (gan gynnwys gallu ymarfer corff i ennyn manteision iechyd drwy ei effaith ar ddatblygiad corfforol a meddyliol y corff).

128 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

wedi bod yn bosib heb y profiad ymarferol a ges i yn ystod fy astudiaethau.”

Gwyddorau Biofeddygol gydag Iechyd, Ymarfer Corff a Maetheg - Gradd BSc (Anrh) a Gwyddonydd, Bioleg Canser

Modiwlau nodweddiadol

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn ennill dealltwriaeth o ffisioleg ddynol, biocemeg, bioleg celloedd, geneteg, microbioleg ac imiwnoleg. Ar ôl cwblhau’r flwyddyn gyntaf yn llwyddiannus, gall myfyrwyr benderfynu pa radd i’w dilyn o flwyddyn dau ymlaen. Gall modiwlau o flynyddoedd dau a thri gynnwys:

• Gwyddorau Gwaed a Chelloedd

• Ffisioleg, Ffarmacoleg a Thocsicoleg

• Bioleg Foleciwlaidd a Geneteg

• Ffisioleg Ymarfer Corff Clinigol a Llesiant Ffisiolegol

• Maetheg mewn Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Eich dyfodol

• Bydd gan raddedigion Gwyddor Biofeddygol y sgiliau i ddod yn Wyddonydd Biofeddygol a chael gwaith mewn labordai patholeg, labordai ymchwil, y diwydiant bwyd, gwyddoniaeth fforensig, cynhyrchion fferyllol, iechyd a diogelwch, masnach ac addysgu.

• Bydd gan raddedigion Biofeddygol gydag Iechyd, Ymarfer Corff a Maetheg y sgiliau i weithio yn y sectorau iechyd a ffitrwydd, gan gynnwys y diwydiant Chwaraeon a Hamdden, y Gwasanaeth

Iechyd Gwladol, Cynghorau Chwaraeon Cenedlaethol, Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol, Hybu Iechyd a Chynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru.

• Mae llawer o’n graddedigion wedi mynd ymlaen i astudio ar gyfer graddau

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 126)

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 120-128 pwynt UCAS

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

uwch ym Met Caerdydd, yn ogystal â graddau mynediad mewn meddygaeth a deintyddiaeth i raddedigion, hyfforddiant Cydymaith Meddygol, hyfforddiant Gwyddonydd Clinigol a chymwysterau proffesiynol pellach.

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

(Anrh)
“Rydw i wedi symud i Boston, UDA, i weithio mewn cwmni Biotech lle rydyn ni’n ceisio darganfod cyffuriau newydd i drin mathau o ganser sy’n anodd eu trin ar hyn o bryd. Fyddai hyn ddim
Ben Stevens
Prosbectws Israddedigion 2024 | 129

Gwyddor Gofal Iechyd BSc

Dewch yn Wyddonydd Biofeddygol.

Mae Ffioedd Dysgu ar gyfer mynediad yn 2024 yn cael eu talu’n llawn gan fwrsariaeth y GIG

Mae manylion llawn am fwrsariaethau’r GIG a’r dyraniad ar gyfer mynediad yn 2024 ar gael yn: www.metcaerdydd.ac.uk/ NHS-Bursaries.aspx

Mae Gwyddor Gofal Iechyd yn ddisgyblaeth ddynamig sy’n esblygu drwy’r amser lle mae gofyn i unigolion sydd wedi’u hyfforddi i safon uchel gyflawni technegau labordy sy’n cyfrannu at ofal a lles cyffredinol cleifion.

Nod penodol y radd hon, sydd wedi’i hachredu’n broffesiynol, yw eich galluogi i ddatblygu, integreiddio a chymhwyso gwybodaeth a sgiliau gwyddonol wrth gynnal ymchwiliadau amlddisgyblaethol i iechyd a chlefydau dynol. Gydag elfennau o hyfforddiant seiliedig ar waith wedi’u hymgorffori ym mhob blwyddyn o’r radd, mae wedi’i strwythuro’n ofalus i baratoi graddedigion ar gyfer gyrfa yn y GIG.

(Anrh)

Modiwlau nodweddiadol

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch dysgu am fiocemeg sylfaenol, bioleg celloedd a geneteg, microbioleg, imiwnoleg a ffisioleg ddynol. Byddwch yn datblygu sgiliau dadansoddi, cyfathrebu a phroffesiynol perthnasol ac yn cyflawni lleoliad dysgu 6 wythnos seiliedig ar waith yn un o labordai clinigol achrededig y GIG.

Yn ystod yr ail flwyddyn o astudio, byddwch yn arbenigo yn un o’r disgyblaethau canlynol: Gwyddor Gwaed, Gwyddor Celloedd, Gwyddor Geneteg neu Wyddor Heintiau.

• Gwyddorau Gwaed a Chelloedd

• Haint ac Imiwnedd

• Bioleg Foleciwlaidd a Geneteg

• Ffisioleg, Ffarmacoleg a Thocsicoleg

Eich dyfodol

• Mae cysylltiad agos rhwng y radd a gofynion cynllunio’r gweithlu ar gyfer GIG Cymru, felly mae’n cynnig lefel uwch o gyflogadwyedd.

• Bydd graddedigion llwyddiannus yn gymwys i wneud cais i gofrestru fel Gwyddonydd Biofeddygol gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), gan wella cyfleoedd gyrfa ymhellach mewn sefydliadau megis yr Asiantaeth Diogelu Iechyd, yr Awdurdod Gwaed Cenedlaethol a’r Cyngor Ymchwil Meddygol.

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

130 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

“Roedd cael tiwtor personol yn golygu fy mod i’n teimlo fy mod i’n cael cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn academaidd, a phan oeddwn i ar leoliad. Ar leoliad, roedd cwblhau tystysgrif cymhwysedd IBMS yn golygu y gallwn i fynd ati’n syth i weithio fel Gwyddonydd Biofeddygol ar ôl graddio, yn hytrach na gorfod cwblhau hyfforddiant pellach cyn cychwyn ym myd gwaith.”

Sacha Bhuchar

Gradd BSc (Anrh) - Gwyddor Gofal

Iechyd a Gwyddonydd Biofeddygol

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 126)

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 120-128 pwynt UCAS

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

Prosbectws Israddedigion 2024 | 131

Gofal Iechyd Cyflenwol - Blwyddyn Ategol

BSc (Anrh)

Mae’r radd ategol hon yn gyfle gwych i ymestyn eich dysgu a’ch profiad ym maes therapïau cyflenwol i ennill gradd BSc (Anrh) mewn

Gofal Iechyd Cyflenwol (gyda Statws Ymarferydd).

Ar ôl ennill cymwysterau cydnabyddedig priodol mewn tylino’r corff, aromatherapi ac adweitheg, a’r wybodaeth sylfaenol berthnasol ar Lefelau 4 a 5, byddwch yn gallu canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen i gael swydd raddedig fel rhan o dîm amlddisgyblaethol mewn dau leoliad gofal iechyd integredig gwahanol (un fesul tymor).

Byddwch yn defnyddio’r tri dull, yn aml ar y cyd, i drin cleientiaid ag amrywiaeth eang o bryderon iechyd corfforol ac iechyd meddwl, ac i gynorthwyo eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’r cyfle i weithio ochr yn ochr â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, neu arsylwi arnynt, yn weithgarwch dysgu amhrisiadwy a gynigir gan nifer o leoliadau.

Mae’r lleoliadau gwaith yn cynnwys yr uned anhwylderau metabolaidd yn ysbyty lleol y GIG; lleoliadau gofal lliniarol; canolfan byw â chymorth a chyfleuster preswyl tymor byr sy’n cynorthwyo gydag anghenion iechyd meddwl. Bydd gennych oruchwyliwr lleoliad ar y safle, a chewch gymorth gan aelod penodol o’r tîm addysgu. Ynghyd â mynd ar leoliad gwaith, byddwch yn gweithio fel tîm i weithredu pob agwedd ar Glinig Gofal Iechyd Cyflenwol y Brifysgol sydd ar agor i’r cyhoedd.

Modiwlau nodweddiadol

Gallwch ymestyn a datblygu eich sgiliau therapi a diagnosis gwahaniaethol drwy’r modiwlau Ymarfer Uwch a Newid Ymddygiad Iechyd. Un o brif elfennau’r flwyddyn ategol yw cwblhau prosiect ymchwil. Yn aml, bydd hwn yn estyniad i faes sydd o ddiddordeb sydd eisoes wedi’i nodi ar Lefel 4 neu 5.

Eich dyfodol

Rhagor

Heb os, bydd y cyfle ategol hwn yn gwella cyfleoedd cyflogaeth ac yn galluogi therapyddion i ymestyn ac ehangu eu sylfaen posibl o gleientiaid.

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs:

Blwyddyn yn

llawn amser neu

ddwy flynedd yn

rhan-amser

Gofynion mynediad: Cynnig

nodweddiadol:

Gradd sylfaen

neu HND mewn

Therapïau Cyflenwol y mae’n rhaid iddi

gynnwys modiwlau ar Lefel 4 a 5 ym

mhynciau tylino’r corff, adweitheg ac aromatherapi

Mae ymgeiswyr

angen gwiriad gan y

gwasanaeth datgelu a gwahardd hefyd

132 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Technoleg Ddeintyddol

BSc (Anrh)

Eich paratoi ar gyfer gyrfa ym mhob maes Technoleg Ddeintyddol.

Nod ein gradd Technoleg Ddeintyddol yw cynhyrchu technegwyr deintyddol sy’n gallu creu adferiadau, prosthesis a chyfarpar deintyddol (megis capiau a phontydd neu declynnau orthoddeintyddol unigryw sydd wedi’u creu’n unigol) i safon uchel. Mae’r cwrs yn ceisio ehangu dealltwriaeth o feysydd newydd a meysydd sy’n datblygu ym maes technoleg ddeintyddol hefyd, yn enwedig digideiddio.

Cynigir y radd hon mewn cydweithrediad agos ag Ymddiriedolaeth Ysbyty

Deintyddol Prifysgol Cymru, a fydd yn darparu ac yn asesu traean o’r cwrs ac yn gyfrifol am y rhan honno o’r cwrs. Fel technegydd deintyddol israddedig, byddwch yn gweithio gyda deintyddion dan hyfforddiant a deintyddion ymgynghorol yn ystod ail a thrydedd flwyddyn y rhaglen.

Modiwlau nodweddiadol

Byddwch yn astudio modiwlau gydol y tair blynedd sy’n cynnwys ffocws ar anatomeg ddeintyddol a ffisioleg, dannedd gosod llawn a rhai y gellir eu tynnu, adfer cast; CAD/CAM mewn deintyddiaeth a prosthodonteg y gellir eu tynnu. Cewch ddefnyddio cyfleusterau labordy deintyddol arbenigol ar y safle a chewch gymorth drwy gydol eich astudiaethau gan diwtor personol penodol.

Yn ystod blynyddoedd dau a thri, byddwch yn cyflawni lleoliadau gwaith hefyd gydag Ymddiriedolaeth Ysbyty Deintyddol Prifysgol Cymru. Bydd y cyfnodau ar leoliad yn eich galluogi i gael y profiad angenrheidiol o ran cynhyrchu offer, adferiadau a phrosthesis i gleifion.

Eich dyfodol

Mae gan ein graddedigion ragolygon gyrfa ardderchog. Mae technolegwyr deintyddol yn cael eu cyflogi yn y GIG, mewn labordai masnachol, practisau preifat ac ysgolion deintyddol. Mae strwythur gyrfa clir yn y Gwasanaeth Iechyd, yn cynnwys Graddau Uwch, Prif Raddau ac Uwch Brif Raddau. Yn y sector masnachol, ar ôl rhai blynyddoedd o brofiad, byddai modd dod yn berchennog neu reolwr labordy masnachol.

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 126)

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96 pwynt UCAS

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg

Prosbectws Israddedigion 2024 | 133
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Iechyd yr Amgylchedd

BSc (Anrh)

Un radd - pum gyrfa.

Bydd ein gradd Iechyd yr Amgylchedd, sydd ag achrediad triphlyg, yn eich paratoi i fod yn weithiwr proffesiynol uchel eich parch mewn gyrfa a fydd yn eich galluogi i gyflawni rôl ddiogelu mewn cymdeithas.

Mae’r radd yn gyfle i astudio ar gyfer pum cyfle gyrfa posibl mewn un maes disgyblaeth, gan gynnwys Diogelwch Bwyd; Tai; Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle; Diogelu’r Amgylchedd a themâu sylfaenol Iechyd y Cyhoedd; Epidemioleg ac Asesu Risg.

Mae ein tîm addysgu’n cynnwys ymarferwyr profiadol o’r sectorau cyhoeddus a phreifat a bydd eu gwybodaeth yn eich galluogi i fod yn weithiwr proffesiynol amryddawn yn y maes.

Mae gennym gyfleoedd lleoliad rhagorol seiliedig ar waith yn y sectorau preifat a chyhoeddus, a chewch gyfle i fynd ar sawl taith maes yn y DU a thramor i wella eich profiad dysgu.

“Rhoddodd yr elfennau dysgu ymarferol yr hyder sydd ei angen arnaf fi yn y fyddin, yn ogystal â’r gallu i ymateb i senarios newydd ac anghyfarwydd. Mae defnyddio sgiliau a enillwyd drwy’r radd yn fy ngalluogi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ac amlwg mewn rôl werth chweil.”

Georgina Dornom

Gradd BSc (Anrh) - Iechyd yr Amgylchedd a Swyddog Iechyd yr Amgylchedd y Llynges Frenhinol

134 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

“Fy nghyngor i unrhyw fyfyriwr arall yw manteisio i’r eithaf ar bob cyfle yn y Brifysgol, mae cymaint o gefnogaeth i leoliadau gwaith, teithio rhyngwladol a hyd yn oed pobl y gallwch chi siarad â nhw am unrhyw bryderon neu broblemau sydd gennych chi. Gwnewch y gorau ohono a

Jerome Evans

Gradd BSc (Anrh) - Iechyd yr Amgylchedd Swyddog Gwasanaethau Masnachol (Swyddog Iechyd yr Amgylchedd - Bwyd ac Iechyd Porthladdoedd)

Modiwlau nodweddiadol

• Gwyddorau Iechyd yr Amgylchedd

• Asesu a Gwella Iechyd y Boblogaeth

• Ymyriadau ar gyfer Iechyd a Datblygu Cynaliadwy

• Egwyddorion Diogelu’r Cyhoedd

Eich dyfodol

• Mae gennym gyfraddau cyflogadwyedd rhagorol ar gyfer graddedigion yn y sectorau cyhoeddus, preifat ac annibynnol.

• Mae ein graddedigion yn gweithio mewn meysydd megis: Adrannau Iechyd yr Amgylchedd Awdurdodau Lleol; Llywodraeth Ganolog (e.e. Asiantaeth Safonau Bwyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru/Lloegr, Asiantaeth yr Amgylchedd, Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch); Manwerthwyr mawr megis Tesco a Sainsbury’s; gweithgynhyrchwyr ar raddfa fawr; Cymdeithasau Tai.

• Mae cyfleoedd i astudio ymhellach yn cynnwys yr MSc mewn Diogelwch Galwedigaethol, Iechyd a Lles a Gradd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus Cymhwysol.

Lleoliad astudio: Campws Llandaf Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 126)

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96-104 pwynt UCAS

bachwch bob cyfle posib!”
Prosbectws Israddedigion 2024 | 135

Gwyddor Bwyd a Maeth

BSc (Anrh)

Mae ein gradd BSc (Anrh)

newydd mewn Gwyddor

Bwyd a Maeth yn ddatblygiad

cyffrous sy’n rhoi’r cyfle i chi lywio eich gradd i ddarparu

sylfaen gref ar gyfer eich gyrfa o ddewis.

Chi sy’n penderfynu sut olwg fydd ar eich gradd wrth i chi ddeall mwy am y meysydd pwnc. Bydd eich dewisiadau’n adlewyrchu sut mae eich diddordebau’n esblygu hefyd, a sut mae sicrhau’r nodau gyrfa yn y modd mwyaf effeithiol.

Mae’r defnydd o’n cyfleusterau ardderchog ar y safle, gan gynnwys ystafell synhwyraidd defnyddwyr, pedwar peiriant maint peilot, cegin ddatblygu a chegin ymchwil i ddefnyddwyr a chysylltiadau agos rhwng y cwrs a Chanolfan ZERO2FIVE y Diwydiant Bwyd, yn sicrhau deialog barhaus gyda diwydiant ac yn gwella eich astudiaethau gyda ni.

Mae’r llwybr BSc Gwyddor Bwyd

a Maeth (Maeth Dynol), sydd wedi’i achredu gan yr Association for Nutrition, yn darparu rhaglen astudio sy’n eich galluogi i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i gefnogi ymarfer yn y dyfodol fel Maethegydd Cofrestredig. Byddai myfyrwyr sydd â diddordeb mewn gweithio fel maethegwyr llawrydd neu astudiaeth bellach i ddod yn ddeietegydd y GIG yn dewis modiwlau mewn seicoleg iechyd a biocemeg faethol a ffisioleg.

Mae’r llwybr BSc Gwyddor Bwyd

Rhagor

a Maeth (Ansawdd, Diogelwch ac Arloesedd), sydd wedi’i achredu gan y Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Bwyd, yn darparu rhaglen astudio sy’n eich galluogi i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i gefnogi agweddau technegol sefydliadau sy’n gweithredu yn y sector diwydiant bwyd byd-eang. Sicrheir y cyswllt mwyaf posibl i fyfyrwyr â’r diwydiant drwy gynnwys ymweliadau diwydiannol a phrofiad gwaith diwydiannol.

136 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

cleientiaid ar sut i newid eu deiet. Mae cymaint o yrfaoedd ym maes bwyd, yn cynnwys cynhyrchu a chludo, diogelwch a chadw, pecynnu, y gyfraith a gwerthiant. Y peth gorau? Mae’r

Dr James Blaxland

BSc (Anrh) - Gwyddor Bwyd a Maeth Tiwtor Lefel 4

Modiwlau nodweddiadol

Mae’r ddau lwybr yn dilyn blwyddyn gyntaf gyffredin o astudio ac, ar ôl hynny, rydych chi’n dewis y naill lwybrau a enwir neu’r llall. Mae’r flwyddyn gyntaf a rennir yn eich galluogi i feithrin sgiliau allweddol ar gyfer gweithio mewn bob math o rolau mewn amrywiaeth o sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Gall modiwlau nodweddiadol ym mlynyddoedd dau gynnwys:

• Asesu a Gwella Iechyd y Cyhoedd

• Biocemeg a Ffisioleg Faethol

• Ansawdd, Cyfansoddiad a Labelu Bwyd

• Diogelwch Microbiolegol a Dadansoddiad Cemegol Bwyd

Eich dyfodol

• Bydd gyrfa yn y diwydiant bwyd yn eich rhoi yng nghanol y gweithgarwch economaidd mwyaf a phwysicaf yn y byd; mae ein myfyrwyr wedi mynd ymlaen i gyflawni rolau sy’n cynnwys; Gweithgynhyrchu a manwerthu, Microbioleg bwyd, Deietegwyr cofrestredig y GIG, Maethegwyr Chwaraeon a mwy.

• Bydd y radd yn rhoi sylfaen gref i chi hefyd ar gyfer astudio ymhellach ar lefel Meistr neu PhD ar ôl graddio.

Lleoliad astudio: Campws Llandaf Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 126)

Gofynion mynediad: Cynnig

nodweddiadol: 96-112 pwynt UCAS

“Pan fyddwch chi’n meddwl am Wyddor Bwyd a Maeth, beth fyddwch chi’n meddwl amdano? Efallai mai ffatri fwyd sy’n dod i’r meddwl neu gynghori
sgiliau’n drosglwyddadwy ledled y byd.”
Prosbectws Israddedigion 2024 | 137

Maetheg a Deieteg Ddynol

BSc (Anrh)

Mae Ffioedd Dysgu ar gyfer mynediad yn 2024 yn cael eu talu’n llawn gan fwrsariaeth y GIG

Mae manylion llawn am fwrsariaethau’r GIG a’r dyraniad ar gyfer mynediad yn 2024 ar gael yn: www.metcaerdydd.ac.uk/ NHS-Bursaries.aspxs

Mae’r radd hon, sydd wedi’i chymeradwyo’n broffesiynol gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal a Chymdeithas Ddeieteg Prydain, yn cynnwys dwy brif elfen – yr elfen academaidd ar y campws a hyfforddiant y GIG.

Mae’r ddwy elfen yn hanfodol ar gyfer cyflawni amcanion y cwrs a dyfarnu’r radd gyda chymhwysedd i wneud cais i’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) i gofrestru fel Deietegydd.

Mae cwblhau a llwyddo mewn tri lleoliad yn y GIG yn ofynnol ar y cwrs:

• Lleoliad un: am 6 wythnos yn ystod blwyddyn dau (Mai - Mehefin)

• Lleoliad dau: am 8 wythnos ar ddechrau blwyddyn tri (Medi - Hydref)

• Lleoliad tri: am 14 wythnos yn ystod blwyddyn tri (Ionawr - Ebrill)

Mae’n ofynnol ar bob lleoliad i fyfyrwyr ddangos cymwyseddau mewn sgiliau deieteg penodol. Mae lleoliadau dau a thri’n cynnwys elfen a asesir ar lefel chwech sy’n cyfrannu at ddosbarth terfynol y radd.

Gydol eich astudiaethau, bydd gennych fynediad i’r cyfleusterau o’r radd flaenaf ar y campws sydd wedi’u lleoli yn y Ganolfan Diwydiant Bwyd.

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

138 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Arbenigol Band 6 yn awr ar ôl newid o Iechyd Acíwt i Iechyd Cymunedol yn ddiweddar. Darparodd Met Caerdydd amgylchedd dysgu gwych, staff cyfeillgar a gwasanaethau llyfrgell rhagorol. Gwnaeth hyn fy helpu i gwblhau fy ngradd mewn Deieteg yn llwyddiannus ac rwy’n ddiolchgar iawn am bob cyfle a gefais gan y Brifysgol.”

Nokhuthula Nyoni-Smith

Gradd BSc (Anrh) - Maetheg a Deieteg Ddynol a Deietegydd HEF Arbenigol

Modiwlau nodweddiadol

• Biocemeg Faethol

• Anatomeg a Ffisioleg Ddynol

• Maeth (macro a microfaetholion)

• Sgiliau Allweddol ac Egwyddorion Deieteg

• Seicoleg Iechyd a Lles

• Poblogaeth a Maeth Cylch Oes

Eich dyfodol

Mae deietegwyr yn gweithio mewn pob math o leoliadau ac mae ein Graddedigion yn dechrau eu gyrfa yn GIG Cymru gan amlaf. Mae llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol pellach i bob math o leoliadau, gan gynnwys swyddi clinigol uwch mewn lleoliadau cleifion mewnol a chymunedol; iechyd y cyhoedd a phrosiectau cymunedol; ymchwil, y cyfryngau, practis preifat, diwydiant ac addysg.

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 126)

Gofynion mynediad:  Cynnig

nodweddiadol: 120 pwynt UCAS

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

“Rydw i’n Ddeietegydd HEF
Prosbectws Israddedigion 2024 | 139

Podiatreg BSc

(Anrh)

Mae podiatryddion yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n arbenigo ar y droed, y ffêr a’r goes, gan lywio gofal cleifion drwy’r daith gyfan, yn cynnwys atal, diagnosis a thriniaeth, gyda’r nod o wella symudedd, annibyniaeth ac ansawdd bywyd cleifion.

Mae ein gradd, sydd wedi’i hachredu’n broffesiynol, yn cynnig cydbwysedd rhwng theori ac ymarfer sy’n ymgorffori technoleg a detholiad o ddulliau dysgu ac addysgu creadigol. Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein cyfleusterau pwrpasol i adlewyrchu dulliau technolegol modern. Er mwyn creu amrywiaeth o ddulliau ac amgylcheddau dysgu, rydym yn integreiddio gwaith rhyngddisgyblaethol a dysgu yn y gymuned; gan ymgorffori Realiti Rhithwir ac Efelychu.

Bydd y profiadau a gewch drwy gydol y radd yn eich galluogi i fod yn weithwyr proffesiynol â’r gallu i addasadwy yn y sector. Cewch brofiadau gyda gwahanol sectorau gofal iechyd a chewch y cyfle hefyd i archwilio eich diddordebau eich hun drwy leoliadau cenedlaethol a mewnol yn ein clinig ar y safle. Bydd yr holl brofiadau hyn yn eich paratoi i fod yn bodiatregydd cyfoes yn y GIG neu’r sector preifat.

Mae Ffioedd Dysgu ar gyfer mynediad yn 2024 yn cael eu talu’n llawn gan fwrsariaeth y GIG

Mae manylion llawn am fwrsariaethau’r GIG a’r dyraniad ar gyfer mynediad yn 2024 ar gael yn: www.metcaerdydd.ac.uk/ NHS-Bursaries.aspxs

Mae gennym leoliadau allanol ym Myrddau Iechyd Prifysgol y GIG yng Nghymru, yn ogystal â chyfleoedd i ymweld â phractisau preifat sy’n canolbwyntio ar anafiadau chwaraeon a chyflyrau cyhyrysgerbydol.

Rydym yn cynnal clinigau’r GIG lle mae cleifion amrywiol y GIG yn cael eu trin gan ein myfyrwyr podiatreg dan oruchwyliaeth podiatryddion y GIG. I archwilio eich diddordebau eich hun ymhellach, mae lleoliadau allanol yn digwydd ar bob un o dair lefel y rhaglen. Ar ddiwedd blwyddyn tri, cewch gyfle i gyflawni lleoliad arall lle mae rhai o’n myfyrwyr blaenorol wedi penderfynu teithio i Singapore, yr Iseldiroedd, Seland Newydd, Lloegr neu aros yng Nghymru – gan gael profiad o bodiatreg mewn Bwrdd Iechyd Prifysgol arall. Yn ystod y lleoliadau hyn, mae ein myfyrwyr blaenorol wedi arsylwi ar lawdriniaethau podiatrig ac wedi cyfrannu at brosiectau ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch eraill hefyd.

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
140 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Modiwlau nodweddiadol

Mae’r radd yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar achosion sy’n eich galluogi i ddatblygu sgiliau rhesymu, dadansoddi ac ymarferol gyda chymorth senarios realistig. Mae’r pwyslais ar eich cefnogi i roi theori ar waith er mwyn dod yn hyderus a gwybodus ym maes podiatreg. Mae’r modiwlau’n cynnwys:

• Ymarfer Podiatrig Integredig

• Ymarfer Podiatrig Cymhwysol

• Ymarfer Podiatrig Estynedig

• Theori Ymarfer Podiatrig

Eich dyfodol

Mae galw am bodiatryddion yn y GIG a’r sector preifat.

• Ar ôl graddio, byddwch yn gymwys i ymarfer fel podiatregydd (yn amodol ar gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal).

• Gall graddedigion ddewis symud ymlaen i astudio ôl-raddedig yn yr adran hefyd fel rhan o’r MSc Ymarfer Uwch (Astudiaethau Cyhyrysgerbydol).

• Mae’r amrywiaeth eang o glinigau sydd ar gael yn cynnig cyfle i weld pob math o gleifion a’r cyfle i ddatblygu casgliad eang o sgiliau clinigol sy’n bwysig ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol.

Lleoliad astudio:

Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 126)

Gofynion mynediad: Cynnig

nodweddiadol: 96-112 pwynt UCAS

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

Prosbectws Israddedigion 2024 | 141

Seicoleg BSc (Anrh)

Gallwch arbenigo mewn maes o ddiddordebAddysg, Clinigol ac Iechyd neu Seicoleg Fforensig.

Mae’r radd hon wedi’i hachredu’n broffesiynol gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS), ac yn cynnig cyfle i chi astudio cwrs seicoleg a gymeradwyir gan y diwydiant ac sy’n uchel ei barch ymhlith cyflogwyr ac ennill Aelodaeth Siartredig o’r Gymdeithas ar ôl graddio. Mae’r radd yn eich cyflwyno i seicoleg gymdeithasol, ddatblygiadol a biolegol, yn ogystal ag ymchwil a dadansoddi data yn y flwyddyn gyntaf o astudio.

Bydd cyfle i chi gyflawni lleoliadau gwaith a gwirfoddoli fel rhan o’r modiwlau sy’n rhan o’ch cwrs. Mae lleoliadau yn y gorffennol wedi cynnwys gweithio gydag oedolion ifanc agored i niwed; gweithio gyda phlant mewn ysgolion uwchradd fel mentor; mewn lleoliadau fforensig, clinigol ac iechyd, a chysgodi gweithwyr proffesiynol mewn meysydd fel y gwasanaeth prawf ac ysbytai. Yn ogystal, mae gennym gysylltiadau diwydiant â’r City Unity College yn Athen, sy’n cynnig cyfle i chi rannu a datblygu eich sgiliau seicoleg gyda myfyrwyr o bob cwr o’r byd (gyda chyfleoedd posibl ar gyfer cyfnewid byd-eang).

Cewch ddefnyddio casgliad o gyfleusterau a labordai, gan gynnwys traciwr llygaid Tobii ac EEG Biosemi, tîm ymroddedig o staff seicoleg sydd

wrthi’n gwneud ymchwil a thiwtor personol a fydd yn eich cefnogi gydol eich cyfnod gyda ni.

“Gosododd fy ngradd seicoleg israddedig ym Met Caerdydd y sylfeini i mi allu symud ymlaen ar hyd y llwybr gyrfa hwn, a heb os fe wnaeth fy helpu i gael gwaith mewn swyddi oedd yn cynnig profiad perthnasol i’m nod o fod yn seicolegydd. Rhoddodd y cwrs sylfaen dda i mi mewn theori ac ymchwil seicolegol, a helpodd i ddatblygu fy sgiliau ysgrifennu hefyd.”

142 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 126)

Gofynion mynediad:  Cynnig nodweddiadol: 96-112 pwynt UCAS

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

Rosie Rapado

Gradd BSc (Anrh) - Seicoleg a Swyddog Ymchwil yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Modiwlau nodweddiadol

Rydym yn gwneud mwy nag addysgu seicoleg i chi; bydd ein modiwlau Datblygiad Proffesiynol a Rhyngbroffesiynol a gynhelir drwy gydol y tair blynedd o astudio yn eich cymell i feddwl sut rydych chi’n datblygu eich gyrfa.

Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, gallwch deilwra eich gradd i gyd-fynd â’ch diddordebau drwy arbenigo mewn llwybr Addysg, Clinigol ac Iechyd neu Seicoleg Fforensig. Mae’r modiwlau’n cynnwys:

• Seicoleg Fiolegol a Niwrowyddoniaeth Wybyddol

• Seicoleg Gymdeithasol a Datblygiadol Feirniadol

• Cyflwyniad i Seicoleg Fforensig

Eich dyfodol

• Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i lawer o yrfaoedd llwyddiannus gan gynnwys fel Swyddogion Ymchwil, Seicolegwyr Fforensig, Cyfarwyddwyr Gweithredol, Hwyluswyr Ymyrraeth a mwy.

• Mae ein gradd Seicoleg yn rhoi llwyfan i chi symud ymlaen i gyrsiau Seicoleg ôl-raddedig arbenigol.

“Ar y cyfan, rwy’n gallu dweud wrth bawb gymaint rwy’n caru Met Caerdydd, o gynnwys y cwrs, darlithwyr anhygoel, i’r tîm gyrfaoedd gwych. Rwy’n hiraethu am fy amser yno a byddwn i’n mynd nôl mewn eiliad!”
Prosbectws Israddedigion 2024 | 143
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Therapi Lleferydd ac Iaith

BSc (Anrh)

Mae’r radd hon yn cynnig cyfle i chi ymuno â phroffesiwn cyffrous ac ennill cymhwyster Therapydd

Lleferydd ac Iaith sydd wedi’i gymeradwyo gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.

Cewch eich addysgu gan dîm ymroddedig o ddarlithwyr sy’n cynnwys therapyddion lleferydd ac iaith profiadol sydd ag amrywiaeth eang o arbenigeddau, yn ogystal ag ymchwilwyr sydd wedi creu gwaith o fri rhyngwladol. Mae gennym gysylltiadau hirsefydlog â’r GIG, ac mae pob un o’n myfyrwyr yn cael profiad clinigol ymarferol gydag amrywiaeth o gleientiaid sy’n oedolion a chleientiaid pediatrig.

Mae’r cyfleoedd lleoliad gwaith yn amrywiol iawn, yn cynnwys ein clinigau mewnol, ysbytai, clinigau, ysgolion a chanolfannau arbenigol. Mae pob lleoliad yn cael ei drefnu gan y cwrs ac yn darparu profiad clinigol amrywiol i wella eich rhagolygon cyflogadwyedd. Byddwch yn datblygu eich arbenigedd wrth asesu a thrin grwpiau cleientiaid o bob math.

Modiwlau nodweddiadol

Mae’r cwrs yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn pynciau sy’n greiddiol i’r proffesiwn therapi lleferydd ac iaith, megis ieithyddiaeth, seineg, anatomeg, ffisioleg a seicoleg. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o amrywiaeth o anhwylderau lleferydd ac iaith penodol mewn oedolion a phlant, yn ogystal ag astudio meysydd clinigol mwy arbenigol.

Yn ein modiwl Ymarfer Clinigol ac Ymchwil, byddwch yn cwblhau cyfres o ddiwrnodau achos yn ystod blwyddyn dau i barhau i ddatblygu eich sgiliau clinigol law yn llaw ag addysgu. Ar gyfer un o’r diwrnodau achos, mae pob myfyriwr yn cael sgwrs â chleient sydd ag affasia i ddatblygu eu sgiliau mewn sgwrs â chymorth. Drwy gydol y cwrs, mae theori ac ymarfer wedi’u plethu.

Mae Ffioedd Dysgu ar gyfer mynediad yn 2024 yn cael eu talu’n llawn gan fwrsariaeth y GIG

Mae manylion llawn am fwrsariaethau’r GIG a’r dyraniad ar gyfer mynediad yn 2024 ar gael yn: www.metcaerdydd.ac.uk/ NHS-Bursaries.aspxs

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
144 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

“Mae gweithio gyda’r myfyrwyr ym Met Caerdydd wedi bod yn wych. Mae fy therapi wedi cynnwys defnyddio strategaethau i wneud fy lleferydd yn gliriach ac edrych ar luniau a dweud beth sy’n digwydd ynddyn nhw. Cefais fy recordio, ac roedd yn agoriad llygad go iawn i mi. Roeddwn i’n swnio’n normal! Roeddwn i’n gallu deall fy hun a chlywed bod fy lleferydd yn iawn.”

Elaine Newberry

Claf Strôc a Defnyddiwr Gwasanaethau ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd

Eich dyfodol

Mae gan ein graddedigion hanes ardderchog o gael gwaith fel therapyddion lleferydd ac iaith ym mhob maes clinigol.

• Mae graddedigion o’r rhaglen yn gymwys i ymarfer fel therapyddion lleferydd ac iaith (yn amodol ar gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal).

• Mae therapyddion lleferydd ac iaith yn gweithio gyda phobl o bob oed sydd ag anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu, ac anhwylderau llyncu. Gall therapyddion weithio mewn ysbytai, canolfannau iechyd, ysgolion ac unedau arbenigol. Mae rhai clinigwyr yn cael eu cyflogi gan sefydliadau elusennol neu’n cychwyn practis preifat. Mae cyfleoedd i weithio dramor hefyd.

• Gall graddedigion ddewis symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig a/neu ymchwil yn yr adran hefyd.

Lleoliad astudio:

Campws Llandaf

Hyd y cwrs:

Tair blynedd yn

llawn amser

Gofynion mynediad: Cynnig

nodweddiadol: ABB o dri phwnc

Safon Uwch (neu gyfwerth), yn

cynnwys pwnc

Gwyddoniaeth yn ddelfrydol

Mae cyfle

i astudio

rhan o’r

radd yn

Gymraeg.

Prosbectws Israddedigion 2024 | 145

Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol Dwyieithog

Gradd BSc (Anrh)

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu eich dealltwriaeth academaidd ac ymarferol o chwaraeon drwy gyfrwng dwyieithog.

Er y caiff rhan o’r cwrs ei gyflawni drwy gyfrwng y Saesneg, bydd y rhan fwyaf o’r cwrs ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae wedi’i gynllunio i foddhau’r galw cynyddol am raddedigion sydd â chymwyseddau a chymwysterau dwyieithog.

Er bod y cwrs yn cynnig ystod eang o bynciau ac agweddau disgyblaethol, eto i gyd bydd y cwricwlwm yn eich galluogi i ganolbwyntio ac i arbenigo wrth i chi symud drwy’r tair blynedd o astudio academaidd. Yn ogystal â’r fframwaith academaidd damcaniaethol ac ymarferol cynhwysfawr, cewch eich annog i adeiladu portffolio o gymwysterau hyfforddi UKCC, dysgu ar leoliad gwaith a phrofiadau yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol.

Mae Met Caerdydd yn cynnig cyfleoedd ar-gampws y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw ac mae cysylltiadau rhagorol gan y Met â Chwaraeon Caerdydd a’r ysgolion a’r awdurdodau lleol sydd o’n cwmpas.

Mae myfyrwyr sy’n astudio y cwrs hwn yn gymwys am ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae nifer o ysgoloriaethau o £1000 a £500 y flwyddyn ar gael. Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth: www.colegcymraeg.ac.uk

Mae modiwlau nodweddiadol yn cynnwys

• Dwyieithrwydd

• Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Lles

• Materion mewn Chwaraeon, Cymdeithas ac Addysg

• Maeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff

• Moeseg Chwaraeon

Eich dyfodol

• Mae graddedigion AChAG wedi ennill cyflogaeth yn y meysydd canlynol: cyfryngau, addysg, chwaraeon a llywodraeth leol. Mae llawer o’n graddedigion yn parhau’n y Brifysgol ar gyrsiau ôl-raddedig (TAR, Meistr a Doethuriaeth)

• Trwy gydol eich gradd, cewch gyfloedd i ddatblygu’ch galluoedd trwy dysgu seiliedig ar broblemau, astudiaethau achos y byd go iawn, profiad gwaith ar gampws a lleoliadau gwaith oddi ar gampws

Lleoliad Astudio: Campws Cyncoed

Hyd y cwrs: Tair blynedd amser llawn neu bedair blynedd amser llawn gan gynnwys blwyddyn Sylfaen

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112-120

Pwynt

UCAS

Gwybodaeth Bellach, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
146 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Astudiaeth Ychwanegol)

BSc (Anrh)

Lleoliad astudio: Campws Cyncoed

Hyd y cwrs: Blwyddyn yn llawn amser

Dim ond i fyfyrwyr meddygol yn y DU y mae eu ‘prifysgol gartref’ yn eu hystyried yn addas ar gyfer astudiaeth ychwanegol y mae’r radd BSc mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Astudiaeth Ychwanegol) ar gael.

Gofynion mynediad: Rhaid bod ymgeiswyr wedi pasio holl fodiwlau cyfnod canolradd eu hastudiaethau meddygol ar eu hymgais gyntaf. Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cael cymeradwyaeth eu Hysgol Feddygol bresennol hefyd.

Fel arfer mae hyn ar ôl y cyfnod astudio canolradd/cyn-glinigol ond gall fod amrywiadau mewn gwahanol ysgolion meddygol. Nid yw’r rhaglen hon yn gwrs ‘ategol’.

Bydd y rhaglen Lefel 6 yn unig hon yn cynnwys prosiect Annibynnol a bydd yn rhoi cyfle i chi ddewis modiwlau iechyd a pherfformiad ym meysydd Biomecaneg, Ffisioleg a Seicoleg er mwyn cwblhau eich gradd.

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Chwaraeon Blwyddyn Ategol BSc (Anrh)

Mae ein gradd Chwaraeon ategol yn rhoi cyfle i chi adeiladu ar eich astudiaethau blaenorol i gwblhau gradd sy’n adlewyrchu eich gofynion ac yn darparu sylfaen gref i chi adeiladu arni yn y dyfodol.

Bwriedir i’r radd hon fod yn rhaglen hyblyg iawn. Er mai dim ond un lefel sydd iddi, gallwch ddewis llawer o gyfuniadau gwahanol o fodiwlau i’ch galluogi i adeiladu ar yr hyn rydych chi’n ei wybod eisoes a datblygu sgiliau a gwybodaeth newydd sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i swydd neu i astudio ymhellach.

Lleoliad astudio: Campws Cyncoed

Hyd y cwrs: Blwyddyn yn llawn amser, dwy flynedd yn rhan-amser Gofynion mynediad: Fel arfer, dylai ymgeiswyr fod wrthi’n cyflawni, neu eisoes fod wedi cwblhau, Gradd Sylfaen neu HND i lefelau 4 a 5 ar lefel Addysg Uwch y DU mewn pwnc sy’n gysylltiedig â chwaraeon.

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Prosbectws Israddedigion 2024 | 147

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

BSc (Anrh)

Mae’r radd hon, sydd wedi’i chymeradwyo’n broffesiynol gan Gymdeithas Gwyddorau

Chwaraeon ac Ymarfer

Corff Prydain (BASES) yn canolbwyntio ar sail wyddonol perfformiad mewn chwaraeon a chymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff.

Er mwyn cyflawni gofynion BASES, byddwch yn dilyn llwybr penodol gydol y tair lefel sy’n canolbwyntio ar ennill dealltwriaeth o ddisgyblaethau

chwaraeon ac ymarfer corff craidd ffisioleg, biomecaneg a seicoleg, ynghyd ag archwilio agweddau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol Gwyddor

Chwaraeon ac Ymarfer Corff gyda lefel uchel o berthnasedd galwedigaethol.

Gallwch ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn thema astudio ddewisol ychwanegol hefyd yn seiliedig naill ai ar gryfder a chyflyru neu faetheg chwaraeon.

Mae cyfle hefyd i ennill cymwysterau galwedigaethol ychwanegol naill ai mewn hyfforddiant personol, cyfarwyddyd campfa neu les athletwyr.

Gydol y cwrs, byddwch yn ennill profiadau ymarferol o weithgareddau labordy, yn ogystal â chael cyfle i arsylwi a chymryd rhan mewn ymarfer cymhwysol. Cewch lawer o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau ymarferol sy’n cynnwys rheoli a dadansoddi data chwaraeon ac ymarfer corff. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf o astudio, byddwch yn cael cyfle i gyflawni cymwysterau technegol mewn amrywiaeth o feysydd perthnasol i’r diwydiant, gan gynnwys hyfforddi chwaraeon, atgyfeirio i ymarfer corff, hyfforddiant ffitrwydd, diogelu a chymryd cyffuriau anghyfreithlon. Bydd y cyfleoedd hyn yn sicrhau bod y cymwysterau a’r profiad priodol gennych i’ch paratoi ar gyfer llawer o gyfleoedd gwaith ar ôl graddio.

Modiwlau nodweddiadol

Mae’r radd hon yn seiliedig ar ddau brif beth. Yn gyntaf, sicrhau eich bod yn wybodus yn y disgyblaethau gwyddonol sylfaenol, sef ffisioleg, biomecaneg a seicoleg ac, yn ail, cymhwyso’r wybodaeth hon o safbwynt ymarferol. Mae’r modiwlau’n cynnwys:

• Biomecaneg Symudiad Dynol

• Problemau ym maes Gwyddor

Chwaraeon ac Ymarfer Corff

• Seicoleg Chwaraeon

• Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff

• Cryfder a Chyflyru ar gyfer Gwyddor

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Chwaraeon ac Ymarfer Corff

148 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Lleoliad astudio: Campws Cyncoed

Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 126)

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 128-136 pwynt UCAS

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

Eich dyfodol

• Mae graddedigion diweddar

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer

Corff yn gweithio gyda thimau

chwaraeon proffesiynol, timau

chwaraeon academi yn ogystal

â gyda Chyrff Llywodraethu

Cenedlaethol chwaraeon. Hefyd, mae llawer o fyfyrwyr yn

gweithio mewn practisau preifat, amgylcheddau clinigol neu mewn lleoliadau yn y diwydiannau milwrol, gwasanaethau brys a ffitrwydd.

• Mae myfyrwyr eraill wedi parhau

i astudio ymhellach ar lefel Meistr ym maes gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff neu ddisgyblaethau cysylltiedig megis maetheg chwaraeon, dadansoddi perfformiad chwaraeon, ffisiotherapi neu gryfder a chyflyru. Mae eraill wedi symud ymlaen i astudiaethau lefel ddoethurol er mwyn gweithio fel ymchwilwyr neu academyddion.

“Fe wnes i helpu gyda llawer o brosiectau ymchwil, rhai ohonynt yn defnyddio uwchsain i ymchwilio i effaith ymarfer corff ac addasiadau athletaidd ar y galon a’r rhydwelïau. Ar ôl gweld uwchsain yn cael ei ddefnyddio yn yr astudiaethau ymchwil hyn, cefais fy ysbrydoli i ddilyn gyrfa mewn delweddu meddygol ym maes gofal iechyd. Heb y cyfleoedd a’r cysylltiadau a ddatblygais yn ystod fy nghyfnod ym Met Caerdydd, dydw i ddim yn credu am funud y byddwn i lle ydw i heddiw.”

Hannah Davey

Gradd BSc (Anrh) - Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff a Gwyddonydd Fasgwlaidd

Prosbectws Israddedigion 2024 | 149

Hyfforddi Chwaraeon

BSc (Anrh)

Pobl sy’n ganolog i hyfforddi.

Bydd ein gradd Hyfforddi

Chwaraeon nid yn unig yn eich

addysgu beth sydd ei angen i fod yn hyfforddwr gwych

ond bydd yn rhoi’r sgiliau a’r galluoedd i chi hefyd i arwain, ysbrydoli a chymell eraill.

Nod y radd yw datblygu eich dealltwriaeth o’r rhyngweithiadau dynamig a chymhleth sy’n bodoli yn yr amgylchedd hyfforddi. Bydd y cwrs yn rhoi ymwybyddiaeth graff i chi o sut y gall theori o feysydd amrywiol lywio a chael ei lywio gan arferion hyfforddi er mwyn datblygu eich galluoedd datrys problemau beirniadol ac arloesol. Byddwch yn gallu cymhwyso eich gwybodaeth am natur gymhleth a dynamig hyfforddi a’i chyfuno â’r hyn a gafodd ei ddysgu o ddisgyblaethau eraill megis gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff, moeseg, astudiaethau diwylliannol a dadansoddi perfformiad.

Yn ystod y cwrs, cewch amrywiaeth o gyfleoedd i ennill cymwysterau

sy’n gysylltiedig â gwahanol Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol. Drwy sesiynau ymarferol, cyfleoedd profiad gwaith a lleoliadau amrywiol, byddwch yn meithrin gwerthfawrogiad o sut rydych chi’n dylanwadu ar hyfforddwyr, athletwyr a phobl arwyddocaol eraill ac yn cael eich dylanwadu ganddynt. Mae’r profiadau hyn, yr wybodaeth a ddatblygir yn ystod eich cwrs a’r cymwysterau hyfforddi yn rhoi’r cwrs mewn sefyllfa unigryw o ran cymysgu gwybodaeth a sgiliau traddodiadol gyda dulliau mwy cyfoes o hyfforddi y gellir eu defnyddio fel sylfaen ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

150 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Lleoliad astudio: Campws Cyncoed

Hyd y cwrs:

Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 126)

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112-120 pwynt UCAS

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

“Yr hyn wnaeth fy nenu i at Hyfforddi Chwaraeon oedd faint o ddysgu ymarferol oedd ar gael a sut yr oedd yn gysylltiedig â’r ddamcaniaeth berthnasol. Oherwydd dyfnder y trafodaethau a ddigwyddodd dros y tair blynedd gyda darlithwyr a chyfoedion, fe ddes i o hyd i ffordd o gyfleu fy hun yn effeithiol a chymhwyso’r ddamcaniaeth. Gan allu cefnogi fy safbwyntiau wrth wrando ar eraill, fe ddechreuais i feirniadu fy meddyliau i, yn ogystal â meddyliau pobl eraill. Rwy’n teimlo bod hyn yn rhywbeth nad oeddwn i wedi sylweddoli y byddwn i’n ei ddysgu neu’n meddwl bod angen i mi ei ddysgu, ond rwy’n ei ddefnyddio nawr wrth addysgu.”

Emily Brightling

Gradd BSc (Anrh) - Hyfforddi Chwaraeon a Dirprwy Feistres Tŷ ac Athro Ysgol Baratoi dan Hyfforddiant

Modiwlau nodweddiadol

Yn eich blwyddyn gyntaf o astudio, byddwch yn cyflawni modiwlau gorfodol lle byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o gysyniadau a damcaniaethau allweddol ym meysydd hyfforddi chwaraeon. Byddwch yn gwella eich gwybodaeth, eich dealltwriaeth a’ch cymhwysiad ymarferol o’r cysyniadau hyn ac amrywiaeth o sgiliau. Mae’r modiwlau ym mlynyddoedd dau a thri yn cynnwys:

• Addysgeg a Chyfathrebu mewn Hyfforddi Chwaraeon

• Deall Arferion Hyfforddi

• Cymhwyso a Deall Theori Hyfforddi Chwaraeon ar Waith

• Rheoli Chwaraeon Perfformiad Uchel

• Hyfforddi’r Hyfforddwr: Datblygiad Proffesiynol ac Addysg

Eich dyfodol

• Mae graddedigion diweddar Hyfforddi Chwaraeon yn gweithio mewn timau chwaraeon proffesiynol, timau chwaraeon academi yn ogystal â gyda Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol chwaraeon. Mae llawer o fyfyrwyr yn dilyn cyfleoedd ym maes ffitrwydd a’r diwydiant hamdden hefyd.

• Mae myfyrwyr wedi symud ymlaen i raglenni Meistr fel y radd Hyfforddi Chwaraeon ac Addysgeg, TAR ac wedi symud ymlaen ymhellach i astudiaethau lefel ddoethurol, gan gynnwys y Ddoethuriaeth a Addysgir mewn Hyfforddi.

Prosbectws Israddedigion 2024 | 151

Cyflyru, Adferiad a Thylino Chwaraeon

BSc (Anrh)

Mae’r radd hon yn rhoi’r wybodaeth sylfaenol a’r cymhwysiad ymarferol ym meysydd cryfder a chyflyru, adfer mewn chwaraeon a thylino chwaraeon.

Byddwch yn archwilio gwybodaeth sylfaenol o ddisgyblaethau gwyddor chwaraeon sef ffisioleg, seicoleg a biomecaneg. Mae’r dull cytbwys, amlddisgyblaethol hwn yn rhoi dealltwriaeth drylwyr i chi o hyfforddi, ynghyd ag ymarfer corff a therapïau llaw ar gyfer gwella perfformiad ac adfer.

Mae dysgu seiliedig ar waith yn elfen allweddol o’r rhaglen, i’ch galluogi i gymhwyso eich gwybodaeth o’r rhaglen mewn lleoliadau yn y byd go iawn ac ennill profiad gwerthfawr i’w ddefnyddio fel sail ar gyfer swydd yn y dyfodol.

“Rwyf wedi graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Cyflyru, Adferiad a Thylino Chwaraeon, wedi cael fy nghyflogi’n syth ar ôl gadael y Brifysgol ac rwy’n gobeithio cwblhau Gradd Meistr ac, yn y pen draw, PhD. Mae hyn y tu hwnt i’m disgwyliadau a mwy. Mae’r radd wedi fy mharatoi i garu unrhyw swydd

chwaraeon rwy’n ei chael gan ei bod wedi rhoi gwybodaeth ac egni ac awydd i mi

ddysgu a cheisio sicrhau rhagoriaeth ym mhopeth rwy’n ei wneud.”

Gradd BSc (Anrh) - Cyflyru, Adferiad a Thylino Chwaraeon a Darlithydd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Hartpury University and College

152 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Modiwlau nodweddiadol

• Anatomeg ac Asesiad Clinigol

• Sylfeini ym maes Cryfder a Chyflyru

• Patholeg Anafiadau ac Adferiad

• Tylino Chwaraeon ac Arferion Meinwe Meddal

• Menter mewn Chwaraeon ac Iechyd

Eich dyfodol

• Mae’r deilliannau dysgu ar gyfer modiwlau’ rhaglen wedi’u cysylltu’n glir â chymwyseddau Cymdeithas Cryfder a Chyflyru’r DU (UKSCA) a fydd yn eich rhoi ar ben ffordd i gael yr achrediad proffesiynol annibynnol hwn ar ôl graddio.

• Mae’r radd wedi’i chymeradwyo gan y Gymdeithas Cryfder a Chyflyru Genedlaethol (NSCA) hefyd fel rhan o’r Rhaglen Cydnabod Addysg, sy’n darparu sail wybodaeth i chi fynd ar drywydd ardystiad Arbenigwr Cryfder a Chyflyru Ardystiedig (CSCS).

• Mae graddedigion diweddar yn gweithio mewn timau chwaraeon proffesiynol, timau chwaraeon academi yn ogystal â gyda Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol chwaraeon.

Lleoliad astudio: Campws Cyncoed

Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 126)

Gofynion mynediad:

Cynnig nodweddiadol: 128-136 pwynt UCAS

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

• Mae myfyrwyr wedi symud ymlaen i astudiaethau pellach ym maes Ffisiotherapi neu i raglenni Meistr megis yr MSc mewn Adferiad Chwaraeon neu’r MSc mewn Cryfder a Chyflyru a gymeradwyir gan BASRaT, ac mae rhai wedi symud ymlaen ymhellach i astudiaethau lefel ddoethurol.

Prosbectws Israddedigion 2024 | 153

Rheoli Chwaraeon

BSc (Anrh)

Bydd y radd hon yn eich galluogi i ddatblygu’r ddealltwriaeth feirniadol, y wybodaeth broffesiynol, y sgiliau a’r agweddau sydd eu hangen i gyflawni swydd reoli yn y diwydiant chwaraeon a gweithgareddau sy’n prysur ehangu.

Gallai hyn fod mewn rolau arwain sy’n ymwneud ag ymchwilio i’r problemau a’r heriau cyfoes sy’n gysylltiedig â chwaraeon modern; datblygu a chyflwyno chwaraeon a gweithgareddau cymunedol; datblygu a rheoli strwythurau ac amgylcheddau priodol ar gyfer chwaraeon elît yn ogystal â llywodraethu a gweinyddu chwaraeon ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, yn yr oes fodern.

Elfen hanfodol o gyflawni hyn fydd meithrin dealltwriaeth o sut mae chwaraeon yn cael eu rhedeg o safbwynt byd-eang a gwerthfawrogiad o ddefnyddwyr chwaraeon fel cefnogwyr a chyfranogwyr. Cewch gyfle hefyd i archwilio amrywiaeth eang o feysydd rheoli sy’n ymwneud â gwneud i chwaraeon ddigwydd. Mae’r rhain yn cynnwys cyllid, adnoddau dynol, gweithrediadau, digwyddiadau, y cyfryngau, cyfathrebu a marchnata.

Byddwch yn archwilio cysyniadau fel ansawdd, strategaeth a pholisi law yn llaw â’ch datblygiad personol a phroffesiynol eich hun; bydd hyn drwy gyd-destun chwaraeon ond yn cael ei gyflwyno mewn modd a fydd yn eich galluogi i drosglwyddo eich gwybodaeth a’ch sgiliau i sectorau eraill.

Mae lleoliadau o’r radd flaenaf o fewn tafliad carreg, ynghyd â rhwydwaith o bartneriaid cefnogol yn y diwydiant, yn rhoi rhaglen ddysgu seiliedig ar waith i ni. Nod hyn yw eich galluogi i gymhwyso’r wybodaeth a geir o gwricwlwm y radd mewn lleoliadau yn y byd go iawn a chael profiad gwerthfawr i’w ddefnyddio fel sylfaen ar gyfer astudiaethau pellach neu gyflogaeth yn y dyfodol.

Y rhaglen hon oedd y gyntaf yn y DU i dderbyn cymeradwyaeth gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (CIMSPA), gan ardystio bod y radd wedi’i mapio i’r safonau proffesiynol Rheolwr Mynediad a Rheolwr Cyffredinol a gymeradwywyd gan y Sefydliad, gan gydnabod y sgiliau, y rhinweddau a’r profiad mae’r rhaglen yn helpu i’w datblygu. I ategu a gwella’r ardystiad hwn, mae ein myfyrwyr presennol yn derbyn aelodaeth myfyrwyr o’r corff diwydiant hwn.

154 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Modiwlau nodweddiadol

Bydd cynnwys y modiwlau’n rhoi cyfle i chi fyfyrio ar yr egwyddorion busnes sylfaenol sy’n helpu i gynnal a datblygu’r diwydiant chwaraeon ac mae ffocws cryf ar entrepreneuriaeth a meddwl strategol sy’n cynnig y potensial i chi ddiffinio a datblygu eich syniadau eich hun ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â chwaraeon. Mae theori ac arferion rheoli yn sail i’r egwyddorion hyn ac yn cael eu cymhwyso mewn lleoliadau o bob math sy’n gysylltiedig â chwaraeon. Mae’r modiwlau’n cynnwys:

• Y Diwydiant Chwaraeon yn Fyd-eang

• Y Defnyddiwr Chwaraeon

• Marchnata a Chyfathrebu

• Polisi a Mewnwelediad Chwaraeon

• Rheolaeth Strategol

Eich dyfodol

• Bydd y radd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau gyrfa posibl i chi a fydd yn gwneud gwahaniaeth yn y sector chwaraeon, addysg gorfforol ac iechyd.

• Mae graddedigion Rheoli Chwaraeon yn gweithio mewn chwaraeon proffesiynol a lled-broffesiynol, asiantaethau cenedlaethol a Chyrff Llywodraethu chwaraeon, sefydliadau awdurdod lleol a menter gymdeithasol, sefydliadau cymunedol, yn ogystal â chwaraeon a ffitrwydd masnachol.

• Mae llawer o fyfyrwyr yn dilyn eu trywydd eu hunain hefyd ac yn sefydlu busnesau’n seiliedig ar syniadau maen nhw wedi’u cynhyrchu yn ystod eu hastudiaethau.

• Mae myfyrwyr eraill wedi symud ymlaen i astudiaethau pellach ac yna symud ymlaen ymhellach i astudiaethau lefel ddoethurol.

chwaraeon cenedlaethol, rheoli tîm) ac mae wedi fy ngalluogi i adeiladu rhwydwaith eang o gysylltiadau.”

Jana Pacyna

Gradd BSc (Anrh) - Rheoli Chwaraeon a Swyddog Gweinyddu Addysg yn Athletau Cymru

Lleoliad astudio: Campws Cyncoed

Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 92)

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112-120 pwynt UCAS

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

“Mae astudio ym Met Caerdydd wedi rhoi cyfle i mi gael profiad gwaith gwerthfawr mewn meysydd gwahanol o ddiddordeb (trefnu twrnamaint, chwaraeon perfformiad, cyrff
Prosbectws Israddedigion 2024 | 155

Cyfryngau Chwaraeon

BSc (Anrh)

Bydd y radd hon yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol, a gwybodaeth broffesiynol am y diwydiant cyfryngau, marchnata a chyfathrebu chwaraeon.

Byddwch yn datblygu’r sgiliau newyddiaduraeth, cynhyrchu darllediadau a digidol sydd eu hangen i weithio yn yr amgylchedd cyfryngau chwaraeon sy’n ehangu’n gyflym. Gallai hyn gynnwys swyddi newyddiaduraeth darlledu gyda’r prif ddarlledwyr, rolau cynhyrchu’n creu cynnwys ar gyfer brandiau chwaraeon a phlatfformau digidol, neu weithio yn swyddfa cyfryngau sefydliadau chwaraeon mawr. Nod elfen rheoli chwaraeon y rhaglen yw rhoi gwybodaeth sylfaenol i chi ynghylch sut mae chwaraeon proffesiynol yn cael eu hariannu a chyfle i archwilio’r meysydd lle mae cyfryngau, busnes a marchnata chwaraeon yn gorgyffwrdd.

Bydd hyn yn rhoi sgiliau hanfodol i chi ar gyfer gyrfa ym maes rheoli chwaraeon.

Byddwch yn ennill dealltwriaeth sylfaenol o sut mae’r diwydiant

cyfryngau chwaraeon yn cael ei drefnu, o ddarllediadau teledu i hawliau darlledu, i strwythur timau proffesiynol a thwrnameintiau. Byddwch yn meithrin gwerthfawrogiad o’r defnyddiwr chwaraeon; gan gynnwys y defnyddiwr fel cefnogwr, yn y gêm ei hun neu ar-lein, ac fel cyfranogwr.

“Mae’r amrywiaeth eang o bynciau, law yn llaw â’m darlithwyr sy’n cyfuno addysgu gyda’u henghreifftiau byd go iawn eu hunain o’r diwydiant, wedi ennyn fy niddordeb i drwy gydol y cwrs. Yn fy ail flwyddyn, fy uchafbwynt oedd y modiwl

Newyddiaduraeth Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Mi wnes i fwynhau edrych ar hyn yn fwy trylwyr

fel rhan o aseiniad lle bues i’n ffilmio a chymryd rhan mewn cyfweliad yn y stiwdio ddarlledu yn siarad am Gyfres

Ddogfen Amazon Prime o’r enw ‘The Test’.”

Alex BSc (Anrh) - Cyfryngau Chwaraeon
156 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Ein nod yw helpu i sefydlu egwyddorion arweiniol yr hyn sydd ei angen i gael troed yn y diwydiant heddiw, a ffynnu ynddo. O fyd chwaraeon ar y cyfryngau

cymdeithasol a ffrydio sy’n newid yn gyflym, i gysyniadau megis moeseg, cyfraith y cyfryngau, hawliau delweddau, adrodd straeon digidol, byddwn yn eich helpu chi i archwilio pob agwedd ar gyfryngau chwaraeon.

Mae’r cyfleusterau cyfryngau rhagorol ar y safle, cyfleusterau chwaraeon ar y campws a lleoliadau o’r radd flaenaf yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, ynghyd

â rhwydwaith o bartneriaid yn y diwydiant darlledu a chyfryngau, yn cyfuno i ddarparu rhaglen

gynhwysfawr o ddysgu cysylltiedig

â gwaith a dysgu seiliedig ar waith.

Lleoliad astudio: Campws Cyncoed

Hyd y cwrs: 3-4 blynedd llawn amser, yn dibynnu ar gymryd y flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 92)

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112 Pwynt UCAS

Mae cyfle i astudio rhan o'r radd yn Gymraeg

Modiwlau nodweddiadol

• Cyfryngau Chwaraeon Digidol

• Newyddiaduraeth Chwaraeon

• Cyfathrebu Chwaraeon a Marchnata

• Moeseg Chwaraeon

• Llywodraethiant Chwaraeon yn Fyd-eang

Eich dyfodol

• Bydd disgwyl i fyfyrwyr sydd wedi graddio o’r rhaglen Cyfryngau Chwaraeon fynd ymlaen i weithio mewn gyrfaoedd ym maes cyfryngau chwaraeon, marchnata, cyfathrebu, cyfryngau digidol a’r diwydiant darlledu, a thu hwnt.

• Efallai y byddwch yn dewis symud ymlaen i astudiaethau pellach drwy ein rhaglen MSc Darlledu Chwaraeon, a gallech fynd ymlaen i astudiaethau lefel doethurol. Gallwch fynd ymlaen i raglenni cyfryngau, darlledu, marchnata a rheoli lefel Meistr mwy cyffredinol hefyd, gan gynnwys y Meistr Gweinyddu Busnes (MBA).

Prosbectws Israddedigion 2024 | 157

Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon

BSc (Anrh)

Mae’r radd hon yn rhaglen gwyddor chwaraeon gymhwysol sy’n canolbwyntio ar ddeall, gwella a dadansoddi perfformiad chwaraeon.

Mae’r cwricwlwm yn datblygu eich gwybodaeth yn gynyddol am ddadansoddi tactegau, mesur effeithiolrwydd technegol a dadansoddi techneg benodol ym maes perfformiad chwaraeon gwirioneddol gan ddefnyddio technegau a thechnoleg fodern amrywiol. Yn ogystal, cewch eich cyflwyno i ddadansoddiad ymddygiadol o hyfforddwyr ac athletwyr, a chymhwyso technegau olrhain athletwyr.

Cewch gyfleoedd di-ri i ddatblygu eich gwybodaeth ymarferol a chyd-destunol mewn hyfforddiant, hyfforddi a pherfformio a fydd yn eich galluogi i werthuso ac addasu eich ymarfer proffesiynol eich hun fel dadansoddwr yn ogystal ag ymarfer proffesiynol perfformwyr a hyfforddwyr mewn pob math o gampau. Bydd yn eich galluogi hefyd i ddatblygu’r set sgiliau galwedigaethol benodol sy’n angenrheidiol i gychwyn ar yrfa ym maes dadansoddi perfformiad.

Modiwlau nodweddiadol

Mae’r modiwlau craidd ym maes Dadansoddi Perfformiad yn cael eu hategu gan fodiwlau o feysydd perthnasol hyfforddi, addysgeg a gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff. Mae’r elfennau hyn yn rhoi blas unigryw i’r cwrs sy’n eich galluogi i ddeall yr egwyddorion damcaniaethol a’r sgiliau proses cymhwysol sy’n sail i ddadansoddi perfformiad.

• Dysgu gan Athletwyr mewn Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon

• Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon a Rôl y Dadansoddwr

• Dadansoddi a Delweddu Data mewn Chwaraeon

• Problemau Hyfforddi Cymhwysol a Dadansoddi Perfformiad

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

158 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Eich dyfodol

• Mae graddedigion diweddar Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon yn gweithio i Sefydliad Chwaraeon Lloegr, Chwaraeon Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Clwb Rygbi’r Scarlets, Undeb Rygbi’r Alban, Clwb Rygbi Caerfaddon, Clwb Pêl-droed

Southampton, Clwb Pêl-droed

Abertawe, Clwb Pêl-droed Dinas Bryste a thu hwnt, megis y New South Wales Institute of Sport yn Awstralia.

• Mae myfyrwyr wedi symud ymlaen i astudiaethau pellach ar lefel Meistr a doethurol hefyd.

Chwaraeon ym Met Caerdydd na dim ond cael gradd ar y diwedd; mae’n ymwneud â’r cyfleoedd cyson ar hyd y ffordd. Roedd cael y cyfle i weithio i FIFA cyn graddio hyd yn oed yn rhywbeth allwn i byth fod wedi’i ragweld. Y rhan orau oedd cyfarfod a gweithio’n agos gyda hanner cant a mwy o’r dadansoddwyr gorau o bob cwr o’r wlad, a hyd yn oed Ewrop, sy’n golygu fy mod i wedi ehangu fy rhwydwaith yn aruthrol yn awr.”

Jonathan Aveston

Gradd BSc (Anrh) -

Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon a Dadansoddwr Perfformiad y Tîm Cyntaf yng Nghlwb Pêl-droed Abertawe

Lleoliad astudio: Campws Cyncoed

Hyd y cwrs: Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 92)

Gofynion mynediad: Cynnig

nodweddiadol: 120-128 pwynt UCAS

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

“Mae mwy i’r cwrs Dadansoddi Perfformiad
Prosbectws Israddedigion 2024 | 159

Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd

BSc (Anrh)

Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd (Dawns)

BSc (Anrh)

Mae’r radd hon yn gwrs ymarferol sy’n canolbwyntio ar ddatblygiadau yn y sector nawr ac yn y dyfodol.

Mae’r radd mewn Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd yn eich gwerthfawrogi ac yn eich herio mewn amgylchedd dysgu cefnogol ac yn cynnig cyfleoedd i fanteisio ar yr ymchwil, ei deall a’i chymhwyso er mwyn gwella arfer arloesol a deall rôl addysgwyr corfforol yn y dyfodol. Bydd gennych fynediad at gwricwlwm cyfoes sy’n seiliedig ar ymchwil sy’n cydnabod cyfraniad chwaraeon ym maes addysg gorfforol wrth ddatblygu iechyd a lles gydol oes drwy weithgarwch corfforol.

“Mae’r fenter Campws Agored yn golygu dysgu ymarferol ac mae’n rhan o lawer o fodiwlau lle gallwch gynllunio a chyflwyno sesiynau gweithgarwch corfforol i blant o ysgolion lleol. Rydw i wedi cael gwell gwybodaeth a dealltwriaeth o sut i weithio gyda phlant ifanc mewn amgylchedd hyfforddi sydd wedi rhoi hwb i’m hyder mewn sgiliau addysgeg.”

Audrey Gunn

Gradd BSc (Anrh) - Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
160 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Law yn llaw â’r radd, byddwch yn cael y cyfle i gwblhau cymwysterau a gydnabyddir yn broffesiynol a chael profiadau dysgu amrywiol pellach, sydd oll yn cyfoethogi eich amser gyda ni ym Met Caerdydd.

Llwybr Dawns

Mae’r llwybr Dawns arbenigol yn y radd BSc (Anrh) Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd yn canolbwyntio ar le cymhwysol dawns fel celfyddyd greadigol a gweithgarwch corfforol. Mae’r pwyslais ar ymarfer creadigol, addysgu a pherfformiad ym meysydd addysg, iechyd a lles a dawns gymunedol.

Bydd cynllun y llwybr yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich gwybodaeth, eich dealltwriaeth ac arferion medrus mewn dawns law yn llaw â gwybodaeth academaidd ac ymarferol fanwl am addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid. Mae ein cysylltiadau dawns rhagorol yn y diwydiant yn cynnig cyfleoedd i chi gymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith a lleoliadau dros y tair blynedd a fydd yn cefnogi datblygiad ymarferwyr creadigol ac arloesol y dyfodol.

Modiwlau nodweddiadol

Mae llawer o’n modiwlau’n gysylltiedig â’r fenter Campws Agored lle byddwch yn cymhwyso eich gwybodaeth ac yn rhoi eich dealltwriaeth o faterion cyfoes ar waith. Byddwch yn cyflawni lleoliadau ym mlynyddoedd dau a thri mewn lleoliad addysgol i adeiladu ar eich sgiliau addysgol a datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd ymhellach. Mae’r modiwlau’n cynnwys:

• Addysg Gorfforol, Hyfforddi Chwaraeon ac Addysgeg

• Cymdeithaseg Chwaraeon a Diwylliannau Corfforol

• Agweddau Amlddisgyblaethol at Chwaraeon ac Iechyd

• Materion Moesegol mewn Chwaraeon

Eich dyfodol

• Mae graddedigion diweddar yn gweithio fel athrawon Addysg Gorfforol (uwchradd), athrawon ysgolion cynradd a chynorthwywyr addysgu. Mae graddedigion y gorffennol wedi dilyn gyrfaoedd mewn addysg bellach ac uwch, clybiau chwaraeon, gwyddor chwaraeon, y diwydiant hamdden a datblygu chwaraeon yn y gymuned/awdurdod lleol.

• Mae myfyrwyr eraill wedi symud ymlaen i astudiaethau pellach ar lefel Meistr a doethurol neu i gyflawni Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg.

Lleoliad astudio: Campws Cyncoed

Hyd y cwrs:

Tair i bedair blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 92)

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol:

Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd: 112-120 pwynt UCAS

Llwybr Dawns: 96-112 pwynt UCAS

Mae cyfle i astudio rhan o’r radd yn Gymraeg.

Prosbectws Israddedigion 2024 | 161

arloesi

Ysgol Dechnolegau Caerdydd (YDC)

Yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd, nod ein graddau yw eich paratoi ar gyfer gyrfa’n llywio dyfodol technoleg.

Dysgwch fwy am yr Ysgol drwy sganio’r cod QR neu drwy fynd i www.metcaerdydd.ac.uk/technolegau

O’r diwrnod cyntaf, byddwch yn cael eich annog i fabwysiadu meddylfryd twf, gan gryfhau eich gallu i ddysgu’n annibynnol a rhoi’r meddylfryd cyfrifiadurol, y gallu i ddadansoddi yn y byd go iawn a’r sgiliau modelu a pheirianneg sydd eu hangen arnoch i lwyddo mewn byd digidol sy’n esblygu. Byddwch yn cael eich addysgu gan academyddion ac ymarferwyr ym meysydd cyfrifiadureg, TG busnes, seiberddiogelwch, electroneg, gemau a roboteg, a fydd yn rhoi dealltwriaeth i chi o’u gweithgarwch ymchwil a menter. Mae ein rhwydwaith o arbenigwyr o’r diwydiant yn dod â gwybodaeth arbenigol ac arferion gorau i’r ystafell ddosbarth drwy ddarlithwyr gwadd, gweithdai rhyngweithiol a darparu problemau byd go iawn ar gyfer asesiadau.

162 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Er mwyn cryfhau’r cysylltiad â chyflogwyr, cewch gyfle i gael profiad o’r diwydiant. Gallwch gwblhau blwyddyn ar leoliad neu gymryd rhan yn ein ‘Hacathonau’ ymarferol sy’n seiliedig ar y diwydiant. Mae ein myfyrwyr wedi llwyddo i gael lleoliadau gwaith mewn cynlluniau sy’n gystadleuol yn rhyngwladol gyda Microsoft, HP, General Electric, IBM, y Swyddfa Gartref, CGI, Heddlu De Cymru a’r European University Institute yn Fflorens, yr Eidal, ymhlith eraill.

Yn ogystal, rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid academaidd rhyngwladol i gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr astudio a gweithio dramor.

Mae’r rhain yn cynnwys trefniadau cyfnewidiad ac wythnosau rhyngwladol

sy’n canolbwyntio ar roboteg, dronau, gemau, gwyddor data, datblygu

symudol a llawer o feysydd cyfrifiadura eraill. Bydd modd i chi ddefnyddio’ch sgiliau a’ch gwybodaeth mewn cyddestun rhyngwladol a gweithio gyda myfyrwyr o bob cwr o’r byd.

Ar ben hynny, mae llawer o’n rhaglenni wedi’u hintegreiddio â chynnwys ardystio proffesiynol megis SAS, Tableau, Cisco a Hacio Moesegol Ardystiedig (CEH), i roi mantais i chi ym marchnad swyddi gystadleuol heddiw.

Prosbectws Israddedigion 2024 | 163

Cyfleusterau Technolegau

Mae Ysgol Dechnolegau Caerdydd sydd newydd ei datblygu’n gartref i gyfres o fannau dysgu arbenigol a chyfleusterau o safon diwydiant sydd â’r nod o’ch helpu i roi theori ar waith.

Mae ein labordai manyleb uchel, sydd wedi’u cynllunio i hwyluso hyfforddiant ymarferol, yn cwmpasu pob agwedd ar dechnoleg – o raglennu gemau a chanfod gwybodaeth o ddata gan ddefnyddio AI, i roboteg soffistigedig a rhaglennu a datblygu rheolyddion ar gyfer y rhyngrwyd pethau.

Byddwch yn gallu cydweithio yn ein hardaloedd dysgu agored hyblyg a chael profiad gyda senarios sy’n efelychu’r diwydiant mewn amgylchedd cadarnhaol.

Mae ein mannau arbenigol yn cynnwys:

Labordai Roboteg

Mae ein Labordy Roboteg wedi’i integreiddio’n agos â Chanolfan Roboteg EUREKA. Mae’n cynnig mynediad at dros 30 o robotiaid arbenigol, robotiaid dynolffurf a breichiau robotig, yn ogystal â phecynnau a meddalwedd deallusrwydd artiffisial, realiti estynedig, roboteg ac offer a meddalwedd argraffu 3D datblygedig.

Diogelwch Cyfrifiadurol

Bydd ein labordy seiberddiogelwch Cisco cyflawn yn eich galluogi i ddysgu am adnoddau a thechnegau safonol y diwydiant ac ennill profiad ymarferol o rwydweithio, profion hacio, profion diogelwch a’r rhyngrwyd pethau.

Systemau Electronig

Mae ein Labordy Systemau

Electronig yn cynnig profiad trochi gyda meddalwedd ac offerwaith sy’n cwmpasu’r holl dechnegau system a chymwysiadau electroneg, awtomeiddio ac ymreolaethol.

Labordy Gemau

Bydd ein Labordy Gemau yn eich cynorthwyo gyda chipio symudiadau, pecynnau datblygu symudol a chonsolau, gan eich galluogi i weithio ar brosiectau gemau sydd wedi’u targedu ar gyfer gwahanol blatfformau caledwedd.

164 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Gofodau Realiti Rhithwir

Mae ein bythau realiti rhithwir wedi’u cynllunio i chi archwilio realiti rhithwir

mewn man diogel, gan ymgolli yn y byd

rhithwir drwy ddefnyddio pensetiau realiti rhithwir, sgrin werdd a thechnolegau

eraill i’ch cynorthwyo ar eich taith drwy’r byd rydych chi’n ei greu.

Labordy Gwyddor Data

a Deallusrwydd Artiffisial

Bydd ein Labordy Gwyddor Data

a Deallusrwydd Artiffisial yn

mireinio eich sgiliau ymarferol gyda

pheiriannau a chyfarpar manyleb

uchel sydd â’r gallu i redeg delweddu data cymhleth a dysgu peirianyddol.

Labordai Addysgu

Mae casgliad o labordai addysgu

pwrpasol yn cefnogi dysgu ac addysgu yn y portffolio llawn o raddau.

Sganiwch y cod QR i fynd ar daith

rithwir o gwmpas Ysgol Dechnolegau

Caerdydd, neu ewch i’n gwefan yn

www.metcaerdydd.ac.uk/technolegau

Sganiwch y cod QR i fynd ar daith

rithwir drwy Ysgol Dechnolegau

Caerdydd, neu ewch i’n gwefan yn

www.metcaerdydd.ac.uk/technolegau

Prosbectws Israddedigion 2024 | 165

Rhaglen sylfaen yn arwain at Beirianneg a Chyfrifiadureg

Nod y rhaglen sylfaen hon yw hwyluso mynediad at amrywiaeth eang o raddau anrhydedd llawn mewn

Peirianneg a Chyfrifiadureg yn Ysgol

Dechnolegau Caerdydd.

• BEng/MEng (Anrh) Peirianneg Systemau Electronig a Chyfrifiadurol

• BEng/MEng (Anrh) Peirianneg Roboteg

• BSc (Anrh) Dylunio a Datblygu Gemau Cyfrifiadurol

• BSc (Anrh) Cyfrifiadureg

• BSc (Anrh) Diogelwch Cyfrifiadurol

• BSc (Anrh) Cyfrifiadura gyda Dylunio Creadigol

• BSc (Anrh) Gwyddor Data

• BSc (Anrh) Peirianneg Meddalwedd

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn symud ymlaen at y radd BSc (Anrh) mewn Systemau Gwybodaeth Busnes, gweler Rhaglen Sylfaen Rheoli ar dudalen 92.

Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i ehangu mynediad ar gyfer myfyrwyr nad yw eu cymwysterau’n briodol ar gyfer mynediad arferol i flwyddyn un eich gradd o ddewis, a/neu’r rhai nad ydynt wedi bod ym myd addysg ers peth amser ond sydd â phrofiad gwaith perthnasol.

Ar ôl cwblhau’r radd yn llwyddiannus, bydd gennych sylfaen gref o wybodaeth graidd y byddwch yn gallu ei defnyddio yn eich astudiaethau yn y dyfodol.

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

166 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Byddwch yn ennill sylfaen drylwyr ac ymarferol mewn cysyniadau ym maes mathemateg a themâu cyfoes sy’n hanfodol i dechnoleg. Bydd modiwlau dewisol yn eich galluogi i deilwra eich astudiaethau i’ch diddordebau penodol chi a’ch gradd o ddewis, tra bydd prosiect terfynol yn atgyfnerthu eich dysgu. Bydd y rhaglen yn hwyluso datblygiad sgiliau ymchwil allweddol a throsglwyddadwy i gynorthwyo gydag astudiaeth bellach ac yn rhoi cyfle i chi integreiddio’n llawn i fywyd myfyrwyr cyn symud ymlaen i flwyddyn un.

Modiwlau nodweddiadol

Mae’r radd yn seiliedig ar sawl modiwl gorfodol a dewisol:

• Mathemateg ar gyfer Technoleg

• Themâu Cyfoes mewn Technoleg

• Sgiliau Proffesiynol ac Academaidd

• Prosiect Unigol

• Sgiliau Rhaglennu ac Ystadegau (opsiwn)

• Ffiseg ac Electroneg (opsiwn)

Eich dyfodol

• Bwriad y cwricwlwm yw ennyn lefel o hyder a pharodrwydd a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i flwyddyn eich gradd o ddewis.

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Blwyddyn yn llawn amser, gyda thair i bum mlynedd ychwanegol o astudiaeth llawn amser yn ofynnol i gwblhau’r rhaglen radd o ddewis

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 64 pwynt UCAS

Prosbectws Israddedigion 2024 | 167

Systemau Gwybodaeth Busnes

BSc (Anrh)

Arddangos effaith a phwysigrwydd systemau gwybodaeth i economi’r DU a’r economi ddigidol fyd-eang.

Nod y radd hon sydd wedi’i hachredu’n broffesiynol yw datblygu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd wrth ddadansoddi, datblygu a chymhwyso systemau cymdeithasoldechnegol, gyda dealltwriaeth ddofn o bwysigrwydd technoleg gwybodaeth a chyfrifiadura mewn cymdeithas.

Cewch wybod am y damcaniaethau, y technolegau a’r ymchwil o’r radd flaenaf a byddwch yn ennill sylfaen gadarn yn sylfeini damcaniaethol gwybodaeth, technoleg a systemau a gymhwysir i amgylcheddau busnes modern.

Byddwch yn dechrau trwy ddatblygu’ch sgiliau rhaglennu sylfaenol ac yn symud ymlaen i roi’r sgiliau hyn ar waith gyda chymwysiadau ar y we. Bydd yr opsiynau estynedig yn mynd i’r afael â dylunio systemau gwybodaeth ar gyfer busnes bydeang, rheoli data a gwybodaeth, amlgyfrwng a rhyngweithio, marchnata, rheoli strategol, seiberddiogelwch a deallusrwydd busnes.

Modiwlau nodweddiadol*

Mae’r radd yn seiliedig ar sawl modiwl gorfodol ar draws y tair blynedd, sy’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

• Elfennau Sylfaenol Systemau Gwybodaeth

• Busnes mewn Cyd-destun Byd-eang

• Adeiladu ar gyfer y We

• Technoleg a Chymdeithas

• Meddwl yn Gyfrifiadurol

• Datblygu Systemau a Meddalwedd o Ansawdd

Bydd amrywiaeth o fodiwlau craidd ac opsiynol ar gael wrth i chi symud ymlaen drwy ail a thrydedd flwyddyn y radd.

*Noder. Mae’r radd hon yn destun adolygiad cyfnodol yn 2023. O’r herwydd, gall y modiwlau a restrir yma newid. Cyfeiriwch at ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

168 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Eich dyfodol

• Gellir cael profiad byd go iawn drwy gwblhau lleoliad blwyddyn ryngosod dewisol neu interniaeth ddiwydiannol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein myfyrwyr wedi llwyddo i gael lleoliadau mewn cynlluniau cystadleuol cenedlaethol gyda Microsoft, HP, General Electric a’r Swyddfa Dywydd.

• Gall graddedigion weithredu fel datblygwyr meddalwedd gyda dealltwriaeth o bwysigrwydd allweddol systemau gwybodaeth busnes i fasnach fyd-eang.

• Bydd cyfleoedd gyrfa ar gael ar draws y sector TG a thelathrebu traddodiadol, diwydiannau digidol/ creadigol, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, ymgynghoriaeth reoli ac ar draws y sector cyhoeddus ehangach.

• Mae wedi’i hachredu’n broffesiynol gan BCS, Y Sefydliad TG Siartredig, sy’n golygu y gall graddedigion gyflawni rhan o’r meini prawf i ennill statws Gweithiwr Proffesiynol TG Siartredig (CITP).

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bum mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 92) a/neu leoliad rhyngosod blwyddyn o hyd

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 104-112 pwynt UCAS

ystod fy ail flwyddyn, cefais leoliad blwyddyn o hyd yn Heddlu De Cymru fel datblygwr ar interniaeth. Roedd y profiad hwn yn y byd go iawn yn amhrisiadwy. Fe wnes i gymryd rhan mewn sawl prosiect parhaus, darparu cymorth ac arwain fy mhrosiectau fy hun i wella prosesau’r system

- Systemau Gwybodaeth Busnes

“Yn
adrannol.”
Prosbectws Israddedigion 2024 | 169

Dylunio a Datblygu Gemau Cyfrifiadurol

BSc (Anrh)

Archwilio a datblygu eich syniadau eich hun ar gyfer gemau.

Mae’r radd hon yn ymdrin â’r technegau a ddefnyddir i greu gemau cyfrifiadurol, gan gynnwys y theori a’r ymarfer perthnasol o feysydd Cyfrifiadureg a Pheirianneg Meddalwedd. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o sut mae gemau’n cael eu dylunio a’u datblygu, yn ogystal â’r wybodaeth a’r sgiliau trosglwyddadwy y gallwch eu datblygu yn eich gyrfa wrth i dechnoleg gemau ddatblygu.

Cewch ddysgu am yr offer a’r technolegau diweddaraf a ddefnyddir yn y diwydiant, yn ogystal â gweithio ar nifer o brosiectau gemau wedi’u targedu at blatfformau caledwedd gwahanol.

Byddwch yn datblygu eich gwybodaeth ac yn dysgu amrywiaeth eang o sgiliau.

Mae hyn yn cynnwys sut mae gemau’n cael eu dylunio a’u gweithredu, sut mae peiriannau gemau’n gweithio, mecaneg gemau, deallusrwydd artiffisial, datblygu gemau ffonau symudol a gemau aml-chwaraewr.

Byddwch yn dysgu sawl iaith raglennu hefyd, gan gynnwys C++. Mae hyn yn caniatáu i chi ddeall sut mae agweddau mewnol gemau’n gweithio ac yn rhoi’r hyblygrwydd i chi wireddu eich syniadau eich hun i ddylunio gemau. Mae systemau gemau heddiw, o ffonau symudol i gonsolau, yn defnyddio cerdyn graffeg (Uned Prosesu Graffeg, neu GPU) i greu’r effeithiau rydych chi’n eu gweld ar y sgrin.

Modiwlau nodweddiadol*

Mae’r radd yn seiliedig ar nifer o fodiwlau gorfodol, gydag amrywiaeth a fydd yn rhoi cyfle i chi arbenigo mewn peiriannau gemau, chwarae gemau neu realiti rhithwir. Mae modiwlau nodweddiadol yn cynnwys:

• Sylfeini Systemau Gemau

• Egwyddorion Rhaglennu

• Dylunio a Gweithredu Mecaneg Gemau

• Cyflwyniad i Ddylunio Lefelau a Chreu Asedau Gemau

• Graffigwaith Cyfrifiadurol Amser Real

• Datblygu Peiriannau Gemau

• Creu Bydoedd Rhithwir drwy Ddefnyddio GPU

*Noder. Mae’r radd hon yn destun adolygiad cyfnodol yn 2023. O’r herwydd, gall y modiwlau a restrir yma newid. Cyfeiriwch at ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.

Eich dyfodol

• Bydd y radd hon yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddilyn gyrfa ym maes datblygu gemau neu yn y diwydiant TG ehangach. Mae graddedigion wedi’u cyflogi yn y sector gemau, er enghraifft, Cloud Imperium ac Ubisoft, a sectorau eraill, er enghraifft, DTM Global a CGI.

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

• Mae cysylltiadau cryf â diwydiant yn golygu y gallwch ennill profiad byd go iawn fel rhan o’ch astudiaeth drwy leoliadau blwyddyn ryngosod/ interniaethau dewisol.

170 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

“Yr hyn a’n hysbrydolodd ni a’r hyn oedd yn wahanol yma ym Met

Caerdydd oedd yr arferion diwydiant y buon ni’n gweithio gyda nhw yn ystod y cwrs, yn ogystal â’r cymorth

roedden ni’n ei gael gan ein darlithwyr.

Rydym wedi agor ein cwmni ein

hunain yn awr ar ôl creu a chyhoeddi

ein gêm symudol gyntaf yn yr haf

rhwng ein hail a’n trydedd flwyddyn.”

Will Hain & Brad Plokker

BSc (Anrh) - Dylunio a Datblygu

Gemau Cyfrifiadurol

Lleoliad astudio:

Campws Llandaf

Hyd y cwrs:

Tair i bum mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 166) a/neu leoliad rhyngosod blwyddyn o hyd

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 104-112 pwynt UCAS

Prosbectws Israddedigion 2024 | 171

Cyfrifiadureg BSc (Anrh)

Bydd ein gradd Cyfrifiadureg, sydd wedi’i chynllunio mewn cydweithrediad â diwydiant ac wedi’i hachredu’n broffesiynol, yn rhoi gwybodaeth gadarn i chi am gysyniadau allweddol cyfrifiadura, meddalwedd a systemau.

Gan greu cysylltiadau rhwng theori ac ymarfer, mae’r cwrs yn cwmpasu sylfeini damcaniaethol data a chyfrifiadura, saernïaeth cyfrifiaduron, adeiladu cyfrifiaduron a’u systemau gweithredu. Byddwch yn adeiladu ar y damcaniaethau hyn i ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau rhaglennu a datblygu meddalwedd ymarferol, ynghyd â sgiliau hynod drosglwyddadwy mewn meddwl cyfrifiadurol, dadansoddi a datrys problemau.

Byddwch yn archwilio’r ffordd orau o drefnu cod meddalwedd proffesiynol a byddwch yn dechrau gweithio ar y ffin lle mae meddalwedd a chaledwedd yn cyfarfod i ddeall sut gall meddalwedd ryngweithio â’r byd ffisegol.

“Rhoddodd astudio Cyfrifiadureg ym Met Caerdydd sawl cyfle

cyffrous i mi. Cefais gyfle i gyfrannu at daith Richard Parks i Antarctica yn 2018. Roeddwn i’n rhan o’r tîm a raglennodd Robot NAO i helpu Richard i gofnodi eiliadau nodedig ei daith

tuag at Begwn y De.”

Ioana Eliza Georgescu BSc (Anrh) - Cyfrifiadureg (Llwybr Roboteg)

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

172 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bum mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 166) a/neu leoliad rhyngosod blwyddyn o hyd

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 104-112 pwynt UCAS

Modiwlau nodweddiadol*

Mae’r radd yn seiliedig ar sawl modiwl gorfodol ar draws y tair blynedd, sy’n cynnwys:

• Egwyddorion Rhaglennu

• Saernïaeth a Systemau Gweithredu

• Adeiladu ar gyfer y We

• Datblygu Systemau a Meddalwedd o Ansawdd

• Dylunio System Sy’n Canolbwyntio ar Wrthrych

• Seiberddiogelwch a Cryptograffeg

Bydd opsiynau eraill ym mlwyddyn dau a thri yn rhoi cyfle i chi arbenigo mewn meysydd fel roboteg, deallusrwydd artiffisial a’r rhyngrwyd pethau.

*Noder. Mae’r radd hon yn destun adolygiad cyfnodol yn 2023. O’r herwydd, gall y modiwlau a restrir yma newid. Cyfeiriwch at ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.

Eich dyfodol

• Gellir cael profiad byd go iawn drwy gwblhau lleoliad blwyddyn ryngosod dewisol neu interniaeth ddiwydiannol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein myfyrwyr wedi llwyddo i gael lleoliadau mewn cynlluniau cystadleuol cenedlaethol gyda Microsoft, HP, General Electric a’r Swyddfa Dywydd.

• Mae llwybrau arbenigol mewn deallusrwydd artiffisial, dadansoddi data, roboteg a chyfrifiadura symudol yn ehangu eich opsiynau gyrfa a byddwch mewn sefyllfa dda i lenwi bylchau pwysig yn y farchnad swyddi yn y sector technoleg ar ôl graddio.

• Mae achrediad proffesiynol gan BCS, Y Sefydliad TG Siartredig, yn golygu y gall graddedigion gyflawni rhan o’r meini prawf i ennill statws Gweithiwr Proffesiynol TG Siartredig (CITP).

Prosbectws Israddedigion 2024 | 173

Diogelwch Cyfrifiadurol

BSc (Anrh)

Bydd y radd hon, sydd wedi’i hachredu’n broffesiynol**, yn archwilio’r technolegau a’r arferion sydd â’r nod o amddiffyn rhwydweithiau, cyfrifiaduron a data rhag ymosodiadau, difrod neu fynediad heb awdurdod.

Drwy ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial, labordai technegol ac astudiaethau achos go iawn, byddwch yn dysgu sut mae ymosodiadau’n gweithio, y bygythiadau a’r gwendidau tebygol, a’r dulliau a ddefnyddir gan ymosodwyr. Byddwch yn cymryd rhan mewn heriau a chystadlaethau perthnasol i’r diwydiant hefyd er mwyn profi’ch sgiliau a datblygu’ch galluoedd.

Gan ddefnyddio technegau ac offer o safon diwydiant, byddwch yn dysgu sut i gynnal profion treiddio a dadansoddi gwendidau mewn sefydliadau busnes er mwyn datblygu systemau diogel. Byddwch yn deall ac yn cynllunio fframweithiau a fydd yn gallu cael eu gweithredu ar draws sefydliadau i leihau risg, canfod a lliniaru gwendidau, a bodloni ymrwymiadau cydymffurfio.

Caiff modiwlau’r cwrs eu hintegreiddio â chynnwys tystysgrifau proffesiynol megis Rhwydweithio Cisco (CCNA) a Seiberddiogelwch, a Hacio Moesol Ardystiedig (CEH) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Gallwch ddewis cyflawni’r ardystiadau hyn law yn llaw â’ch astudiaethau heb unrhyw gost ychwanegol.

Mae’r cwrs hwn yn un o ddim ond deg rhaglen

BSc diogelwch cyfrifiadurol yn y DU, a hon oedd y radd baglor gyntaf yng Nghymru i gael ardystiad dros dro gan y Ganolfan Seiberddiogelwch

Genedlaethol (NCSC).

*Noder. Mae’r radd hon yn destun adolygiad cyfnodol yn 2023. O’r herwydd, gall y modiwlau a restrir yma newid. Cyfeiriwch at ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.

**yn disgwyl achrediad ar ôl i’r garfan gyntaf raddio.

Modiwlau nodweddiadol*

• Saernïaeth a Systemau Gweithredu

• Adeiladu ar gyfer y We

• Datblygu Systemau a Meddalwedd o Ansawdd

• Gwybodaeth a Risg

• Bygythiadau ac Ymosodiadau

• Saernïaeth a Gweithrediadau Seiberddiogelwch

• Seiberddiogelwch a Chryptograffeg

• Hacio Moesegol

Eich dyfodol

• Fel Partner Academaidd i’r Sefydliad Siartredig Diogelwch Gwybodaeth (CIISec), bydd y cwrs yn rhoi cyfle i chi gymhwyso fel Aelod Myfyriwr o’r CIISec a dechrau eich siwrnai tuag at statws proffesiynol ym maes diogelwch gwybodaeth.

• Gellir cael profiad byd go iawn fel rhan o’ch astudiaeth drwy gwblhau lleoliad blwyddyn ryngosod/ interniaeth ddiwydiannol ddewisol.

• Gyda galw cynyddol am raddedigion medrus ym maes Seiberddiogelwch/ Diogelwch Cyfrifiadurol, bydd y cwrs yn eich paratoi ar gyfer gyrfa heriol a phroffidiol ar flaen y gad o ran amddiffyn busnes a seilwaith cenedlaethol y DU.

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bum mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 166) a/neu leoliad rhyngosod blwyddyn o hyd

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 104-112 pwynt UCAS

174 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Cyfrifiadura gyda Dylunio Creadigol BSc (Anrh)

Pontio’r bwlch rhwng y bydoedd technegol a chreadigol i greu atebion arloesol i broblemau hen a newydd.

Bydd y radd hon, sy’n cael ei chynnig mewn cydweithrediad â’r radd Dylunio Cynhyrchion yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd (gweler tudalen 58), yn eich galluogi i ddatblygu’ch sgiliau cyfrifiadura gan ganolbwyntio’n benodol ar y cyfleoedd creadigol a dylunio a geir yn y ddisgyblaeth hon.

Yn ogystal â dysgu hanfodion datblygu systemau cyfrifiadurol a systemau sy’n cael eu gyrru gan feddalwedd, cewch eich annog i gynnwys ffordd fodern o feddwl wrth ddylunio cynhyrchion yn eich gwaith technegol.

Cewch eich cyflwyno i amrywiaeth eang o dechnolegau ac offer sy’n hwyluso’r gwaith o ddylunio a chreu atebion newydd o ran caledwedd a meddalwedd, gan eich helpu i ddatblygu’ch galluoedd dadansoddi wrth edrych ar brosesau dylunio cynhyrchion.

Modiwlau nodweddiadol*

Mae’r radd yn seiliedig ar sawl modiwl gorfodol ar draws y tair blynedd, sy’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

• Meddylfryd Dylunio

• Adeiladu ar gyfer y We

• Datblygu Systemau a Meddalwedd o Ansawdd

• Technolegau Symudol a Gwe

• Gwyddor Peirianneg

• Rhaglennu Gwe Uwch

• Rheoli Prosiect Technoleg

*Noder. Mae’r radd hon yn destun adolygiad cyfnodol yn 2023. O’r herwydd, gall y modiwlau a restrir yma newid. Cyfeiriwch at ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.

Eich dyfodol

• Gellir cael profiad byd go iawn fel rhan o’ch astudiaeth drwy gwblhau lleoliad blwyddyn ryngosod/ interniaeth ddiwydiannol ddewisol.

• Mae galw cynyddol ym mhob sector am raddedigion sydd â’r sgiliau creadigrwydd a dylunio ynghyd â’r gallu i adeiladu meddalwedd dibynadwy y gellir ei chefnogi.

• Mae cyfleoedd mewn meysydd fel y celfyddydau, adloniant/gemau, datblygu cymwysiadau symudol, amlgyfrwng, dylunio cynnyrch/gwe a systemau rhyngweithiol eraill.

• Mae’r radd yn cynnig mynediad i amrywiaeth o raglenni gradd Meistr ac ymchwil a addysgir yn y Brifysgol hefyd.

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bum mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 166) a/neu leoliad rhyngosod blwyddyn o hyd

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 104-112 pwynt UCAS

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Prosbectws Israddedigion 2024 | 175

Gwyddor Data BSc

(Anrh)

Bydd y radd hon, a gaiff ei llywio gan anghenion y diwydiant, yn eich galluogi i ddeall, cymhwyso a gwerthuso egwyddorion gwyddor data a deallusrwydd artiffisial yn feirniadol.

Mae data a gynhyrchir gan bobl a pheiriannau yn gweddnewid ein cymdeithas, economeg a gwleidyddiaeth. Ni fu’r gallu i gael dealltwriaeth, gwybodaeth a deallusrwydd ystyrlon o ddata cymhleth yn bwysicach erioed.

Bydd y radd yn rhoi’r sgiliau i chi ddylunio a defnyddio systemau gwyddor data a defnyddio offer a thechnegau safonol y diwydiant i fynd i’r afael â phroblemau’r byd go iawn.

Mae amrywiaeth eang o sefydliadau diwydiant a llywodraeth wedi gweithio’n agos i ddatblygu’r radd, gan greu senarios ac asesiadau heriol yn seiliedig ar achosion go iawn ar gyfer eich amgylchedd dysgu. Er mwyn eich paratoi i ddiwallu anghenion y diwydiant, mae’r cwricwlwm yn cwmpasu technoleg cadwyn bloc – y cyntaf o’i fath yng Nghymru.

Cewch gyfle i archwilio cyfleoedd profiad gwaith ac ehangu eich persbectif rhyngwladol drwy gyfleoedd cyfnewid i fyfyrwyr ac interniaethau gyda sawl partner Ewropeaidd a rhyngwladol.

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bum mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 166) a/neu leoliad rhyngosod blwyddyn o hyd

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 104-112 pwynt UCAS

Modiwlau nodweddiadol*

Mae’r radd yn seiliedig ar sawl modiwl gorfodol ar draws y tair blynedd, sy’n cynnwys:

• Dadansoddi Data

• Hanfodion Cadwyn Bloc

• Adrodd Straeon a Delweddu Data

• Gramadeg ac Idiomau Delweddu Data

• Dadansoddeg a Gwybodaeth Busnes

Bydd opsiynau yn y flwyddyn olaf yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich diddordebau a’ch arbenigedd penodol.

*Noder. Mae’r radd hon yn destun adolygiad cyfnodol yn 2023. O’r herwydd, gall y modiwlau a restrir yma newid. Cyfeiriwch at ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.

Eich dyfodol

• Gellir cael profiad byd go iawn fel rhan o’ch astudiaeth drwy gwblhau lleoliad blwyddyn ryngosod/ interniaeth ddiwydiannol ddewisol.

• Bydd gan raddedigion y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i ddeall, cymhwyso a gwerthuso egwyddorion gwyddor data sylfaenol yn feirniadol. Yn ogystal, bydd gan raddedigion y sgiliau i ddylunio a defnyddio systemau gwyddor data a defnyddio offer a thechnegau safonol y diwydiant wrth eu gweithredu.

• Mae galw am wyddonwyr data cymwysedig, gyda chyflogau da ar gael yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

176 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol ac Electronig BEng/MEng

(Anrh)

Bydd y radd integredig hon mewn Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol ac Electronig yn rhoi’r sgiliau angenrheidiol i chi allu gweithio gyda meddalwedd a chaledwedd i ddylunio systemau electronig a chyfrifiadurol cyffrous.

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o theori electronig a thrydanol, signalau a systemau, yn ogystal â rhaglennu cyfrifiadurol. Byddwch yn dysgu am raglennu systemau ymgorfforedig yn ogystal â rhwydweithiau a seiberddiogelwch, gan ymdrin ag ystyriaethau proffesiynol a moesegol digideiddio.

Gyda mynediad at labordai a chyfleusterau pwrpasol, bydd cyfle i chi adeiladu systemau electronig i atgyfnerthu gwaith damcaniaethol drwy ddatblygu prosiectau caledwedd. Bydd cymhwyso mathemateg i ddyluniad systemau rheoli’n rhoi dealltwriaeth i chi o leoli a thrin peiriannau awtomataidd.

Drwy ddatblygu sgiliau rhaglennu yn y ddwy flynedd gyntaf, byddwch yn mynd ymlaen i ddefnyddio’r sgiliau hyn i raglennu caledwedd a microbroseswyr arbenigol a sglodion rheolwr ym mlwyddyn tri. Ym mlwyddyn pedwar, byddwch yn dechrau meistroli sgiliau uwch mewn pynciau cymhleth fel y rhyngrwyd pethau, offeryniaeth a thechnegau mesur ar gyfer casglu data.

Modiwlau

nodweddiadol

Mae’r radd yn seiliedig ar sawl modiwl gorfodol ar draws y pedair blynedd sy’n cynnwys:

• Electroneg Analog a Digidol

• Mathemateg Peirianneg

• Mecatroneg

• Systemau Rheoli

• Signalau a Systemau Cyfathrebu

• Systemau ac Electroneg Pŵer

• Prosesu Signalau Digidol

Bydd opsiynau ym mlwyddyn

tri a phedwar yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich diddordebau

a’ch arbenigedd penodol.

Eich dyfodol

• Gellir cael profiad byd go iawn fel rhan o’ch astudiaeth drwy gwblhau lleoliad blwyddyn ryngosod/ interniaeth ddiwydiannol ddewisol.

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i chwe blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 166) a/neu leoliad rhyngosod blwyddyn o hyd

Gofynion mynediad:

Cynnig nodweddiadol:

112-120 pwynt UCAS (BEng)

120-128 pwynt UCAS (MEng)

• Bwriad y radd yw caniatáu achrediad gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg, sy’n golygu bod graddedigion ar ben ffordd i ddod yn Beiriannydd Siartredig.

• Y cyflog cyfartalog ar gyfer Peiriannydd Trydanol cymwysedig yn 2022 oedd £41,148 – Glassdoor.

Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Prosbectws Israddedigion 2024 | 177

Peirianneg Roboteg

BEng/MEng (Anrh)

Bydd y radd integredig hon mewn Peirianneg Roboteg yn rhoi golwg eang i chi ar un o’r sectorau mwyaf dynamig sy’n tyfu ym maes technoleg.

Bydd cynllun unigryw’r radd yn rhoi’r cyfle i chi astudio elfennau mwyaf cyffrous roboteg a’u cymhwyso i’r gwaith o ddylunio a datblygu systemau deallus ymreolaethol soffistigedig. Byddwch yn cael eich cyflwyno i amrywiaeth eang o ddamcaniaethau a chymwysiadau gwyddonol peirianneg roboteg, gan ystyried y materion moesegol sy’n gysylltiedig â’r sector.

Bydd profiad uniongyrchol gyda’r cyfarpar mwyaf modern yn rhoi sgiliau ymarferol i chi. Mae’r radd wedi’i hintegreiddio’n agos â Labordy Roboteg

EUREKA Ysgol Dechnolegau Caerdydd.

Mae’r Labordy wedi’i gydnabod gan Lywodraeth y DU fel un o ddim ond pedair ar ddeg o ganolfannau ymchwil arbenigol mewn roboteg yn y DU, a’r unig ganolfan flaenllaw sy’n arbenigo mewn roboteg gymdeithasol a gwasanaeth.

Cewch ddefnyddio cyfleusterau o’r radd flaenaf a rhai o’r robotiaid mwyaf datblygedig ar y farchnad. Byddwch yn gallu gweithio gyda robotiaid dynolffurf cymdeithasol, gwasanaeth ac addysgol â nodweddion deallusrwydd artiffisial blaengar, a breichiau robotig ar gyfer ymchwil a datblygu roboteg ddiwydiannol.

“Rwy’n dal i gofio’r tro cyntaf i mi dreialu a gweithredu robotiaid addysgol yn y byd go iawn – sut cafodd myfyrwyr, rhieni, athrawon a’r cyhoedd eu hysgogi, sut y crëwyd argraff arnyn nhw a sut y gwnaethon nhw gael hwyl yn rhyngweithio â’r robotiaid! Taniodd fy niddordeb i yn y rhyngweithio rhwng pobl a robotiaid ac arweiniodd at yrfa yn ymchwilio i sut i ymgorffori dysg, rhesymu ac emosiwn dynol mewn peiriannau.”

Dr Esyin Chew

Adran Cyfrifiadura a Pheirianneg Gymhwysol. Sylfaenydd Labordy Roboteg EURKEA.

178 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Modiwlau nodweddiadol

Mae’r radd yn seiliedig ar sawl modiwl gorfodol ar draws y pedair blynedd sy’n cynnwys:

• Mecatroneg

• Mathemateg Peirianneg

• Roboteg Ddynolffurf Gymdeithasol

• Roboteg a Systemau Awtomeiddio

• Systemau ac Electroneg Pŵer

• Deallusrwydd Artiffisial Uwch mewn Roboteg

• Rhyngrwyd Pethau

Bydd opsiynau ym mlynyddoedd tri a phedwar yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich diddordebau a’ch arbenigedd penodol.

Eich dyfodol

• Gellir cael profiad byd go iawn fel rhan o’ch astudiaeth drwy gwblhau lleoliad blwyddyn ryngosod/interniaeth ddiwydiannol ddewisol.

• Bwriad y radd yw caniatáu achrediad gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg, sy’n golygu bod graddedigion ar ben ffordd i ddod yn Beiriannydd Siartredig.

• Cyflog cyfartalog Peiriannydd Roboteg cymwysedig yn 2022 oedd £39,590 – Glassdoor.

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i chwe blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 166) a/neu leoliad rhyngosod blwyddyn o hyd

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112-120 pwynt UCAS (BEng) 120-128 pwynt UCAS (MEng)

Prosbectws Israddedigion 2024 | 179

Peirianneg Meddalwedd

BSc (Anrh)

Bydd y radd hon sydd wedi’i hachredu’n broffesiynol yn

datblygu eich gwybodaeth

a’ch arbenigedd wrth

ddylunio, datblygu a darparu

meddalwedd ar gyfer

amgylcheddau a phlatfformau modern. Byddwch yn datblygu gwerthfawrogiad o saernïaeth

meddalwedd ac arferion

codio, gan greu arteffactau meddalwedd defnyddiol.

Rhennir eich blwyddyn gyntaf gyda’n gradd BSc (Anrh) Cyfrifiadureg (gweler tudalen 172) a thrafodir cysyniadau cyfrifiadurol hanfodol. Ym mlynyddoedd dau a thri, byddwch yn canolbwyntio ar ddylunio a datblygu meddalwedd at ddefnydd penodol ac yn archwilio paradeimau saernïol megis cyfrifiadura paralel a gwasgaredig.

Lleoliad astudio: Campws Llandaf

Hyd y cwrs: Tair i bum mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 166) a/neu

leoliad rhyngosod blwyddyn o hyd

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 104-112 pwynt UCAS

“Rydw i’n rhan o ddiwydiant ffyniannus erbyn hyn – un sy’n esblygu’n gyson ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y byd modern. Yn fy swydd bresennol fel Peiriannydd

DevOps gyda Vistair, rydym yn arloesi gyda meddalwedd ar gyfer diogelwch, ansawdd a rheoli dogfennau ar gyfer cwmnïau hedfan masnachol, awyrofod ac amddiffyn. Fyddai hyn i gyd ddim wedi bod yn bosib heb fy ngradd.”

Thomas Henson  BSc (Anrh)

- Peirianneg Meddalwedd

180 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa

Modiwlau nodweddiadol*

Mae’r radd yn seiliedig ar sawl modiwl gorfodol ar draws y tair blynedd, sy’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

• Rhaglennu Uwch

• Saernïaeth a Systemau Gweithredu

• Adeiladu ar gyfer y We

• Dylunio Systemau sy’n Canolbwyntio ar Wrthrychau

• Dadansoddi a Dylunio Systemau

• Technolegau Symudol a Gwe

• Datblygu Systemau a Meddalwedd o Ansawdd

*Noder. Mae’r radd hon yn destun adolygiad cyfnodol yn 2023. O’r herwydd, gall y modiwlau a restrir yma newid. Cyfeiriwch at ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.

fy nghwrs,

i nifer fawr o fodelau rôl benywaidd yn y tîm darlithio. Roedd y tîm mor gefnogol ac yn fy ysbrydoli i wthio fy hun. Cefais fy enwi’n Fyfyriwr

Peirianneg Meddalwedd y Flwyddyn a llwyddais

i gael swydd yn syth ar ôl graddio – cynllun graddedig yn swyddfa

Caerdydd cwmni

ymgynghori digidol bydeang sy’n arbenigo

mewn datblygu

cymwysiadau symudol.”

Lakshima Dimiyawa Mudiyanselage   BSc (Anrh)

- Peirianneg Meddalwedd

Eich dyfodol

• Gellir cael profiad byd go iawn drwy gwblhau lleoliad blwyddyn ryngosod dewisol neu interniaeth ddiwydiannol.

• Bydd llwybrau arbenigol yn ehangu eich opsiynau gyrfa a byddwch mewn sefyllfa dda i lenwi bylchau pwysig yn y farchnad swyddi yn y sector technoleg sy’n tyfu ar ôl i chi raddio.

• Mae wedi’i hachredu’n broffesiynol gan BCS, Y Sefydliad TG Siartredig, sy’n golygu y gall graddedigion gyflawni rhan o’r meini prawf i ennill statws Gweithiwr Proffesiynol TG Siartredig (CITP).

“Gydol
roedd gen
Prosbectws Israddedigion 2024 | 181

Trefniadau derbyn a sut i wneud cais

Cyngor i ymgeiswyr

I’ch helpu i wneud cais i astudio gyda ni, rydym ni wedi creu tudalennau gwe ’Cyngor i Ymgeiswyr’, i’ch helpu i nodi’r prif bethau sy’n rhaid i chi eu gwneud wrth ymgeisio – cyn ac ar ôl i chi lenwi’ch cais UCAS: www.metcaerdydd.ac.uk/study/ adviceforapplicants

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm Derbyniadau:

Datganiadau personol

Mae’r datganiad personol yn rhan bwysig iawn o’ch cais UCAS; eich cyfle chi i ddweud wrthym ni beth sy’n eich cyffroi a’ch ysgogi chi, eich uchelgeisiau, eich sgiliau trosglwyddadwy, unrhyw ymchwil rydych chi wedi’i gwneud a’ch profiadau. Gwnewch yn siŵr mai’ch datganiad personol chi yw e, ond gofynnwch i athro, ffrind neu riant ei brawfddarllen; does dim byd gwaeth na gweld camgymeriadau sillafu.

Ewch i: www.ucas.com/ personalstatement am help ac arweiniad.

Sut a phryd y byddwch yn clywed am statws eich cais

Dyddiadau ymgeisio a dyddiadau cau   Gallwch wneud cais o fis Medi ymlaen drwy ucas.com.

Cofiwch wirio gyda’n tîm Derbyniadau i weld a oes dyddiad cau penodol ar gyfer eich cwrs chi.

Mae’r cyfarwyddiadau llawn ar-lein, ac mae cymorth ar gael yn: www.ucas.com/apply

Mae Met Caerdydd yn derbyn ceisiadau gohiriedig ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau, cysylltwch â’r tîm Derbyniadau i gadarnhau bod hyn yn wir am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi.

Gallwch weld statws eich cais ar-lein unrhyw bryd drwy fynd i UCAS Hub yn www.ucas.com/hub. Hefyd, byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost o’r eiliad y byddwch yn gwneud cais, a thrwy bob cam o’r cylch ymgeisio.

Bydd cyngor a nodiadau atgoffa defnyddiol yn cael eu hanfon atoch tan i chi ddechrau’r cwrs ym mis Medi.

Diwrnodau Ymgeiswyr

Fel rhan o’ch profiad fel ymgeisydd ac i’ch helpu i wneud penderfyniad gwybodus am ddewis astudio gyda ni, bydd y rhan fwyaf o’n cyrsiau yn cynnal Diwrnodau Ymgeiswyr i roi blas i chi ar sut beth yw astudio gradd yng Nghaerdydd.

029
Sgwrs
askadmissions@cardiffmet.ac.uk @CMetAdmissions 182 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
2041 6010
fyw drwy ein tudalennau gwe

Fel arfer, mae Diwrnodau Ymgeiswyr yn wahanol i Ddiwrnodau Agored ac maent yn canolbwyntio ar ddarparu profiad mwy manwl ac, mewn rhai achosion, yn rhoi profiad ymarferol o’ch gradd. Byddwch yn cael manylion pellach drwy e-bost os yw hyn yn berthnasol i’r cwrs rydych chi wedi gwneud cais amdano.

Cyfweliadau

Bydd nifer o’n graddau israddedig yn cynnwys cyfweliad fel rhan o’r broses ymgeisio. Gall hyn fod oherwydd gofynion proffesiynol neu’r angen i drafod eich cais yn fanylach a chyflwyno corff o waith (e.e. portffolio ar gyfer graddau celf a dylunio).

Os byddwch chi’n gwneud cais am radd sy’n gofyn am gyfweliad, byddwch yn derbyn e-bost gyda’ch gwahoddiad. Bydd dyddiad ac amser eich cyfweliad ar UCAS Hub i chi hefyd. Gall cyfweliadau gael eu cynnal yn y cnawd neu ar-lein yn dibynnu ar y cwrs.

I wybod mwy, ewch i: www.metcaerdydd.ac.uk/cyfweliadau

Gofynion mynediad

Mae gofynion mynediad yn amrywio o gwrs i gwrs. Mae’r Brifysgol yn gwerthfawrogi profiad gwaith a chymwysterau academaidd a bydd yn ystyried myfyrwyr o bob math o gefndiroedd academaidd. Bydd pob tudalen cwrs yn y prosbectws hwn yn rhoi syniad o bwyntiau tariff UCAS a dderbynnir ar gyfer pob rhaglen, ynghyd ag unrhyw ofynion penodol.

Am fanylion llawn am y gwahanol gymwysterau a dderbynnir ar gyfer ein graddau, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/ gofynionmynediad

Ymgeiswyr Rhyngwladol

Mae croeso i Ymgeiswyr Rhyngwladol

wneud cais i ni drwy UCAS, ond gallant wneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol am ddim hefyd os nad ydynt yn ystyried sefydliadau eraill yn y DU.

Efallai y bydd angen i chi gyflawni cymhwyster Saesneg cyn cael eich derbyn i gwrs. Gall hyn gynnwys gofyn am Gyfweliad i asesu eich Saesneg neu ddarparu Prawf Saesneg SELT fel rhan o’ch amodau.

I gael arweiniad ar ofynion mynediad ar gyfer eich gwlad a chymwysterau Saesneg a dderbynnir, trowch i’n tudalen sy’n rhoi gwybodaeth ar gyfer gwledydd penodol: www.metcaerdydd.ac.uk/rhyngwladol

Prosbectws Israddedigion 2024 | 183

Polisi cyd-destunol

Mae Met Caerdydd yn defnyddio derbyniadau cyd-destunol er mwyn cael darlun llawnach o gyflawniadau a photensial ein hymgeiswyr. Rydym yn gweithredu cynllun cynnig cyd-destunol sy’n ystyried sawl dangosydd cyddestunol a byddwn yn gwneud cynnig llai pan fydd ymgeiswyr yn bodloni’r dangosyddion hyn.

Nid oes angen gwneud cais am gynnig cyd-destunol gan y byddwn yn ystyried gwybodaeth a ddarperir fel rhan o’ch cais UCAS, ond mae’n bwysig bod hyn yn cael ei gwblhau’n llawn.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.metcaerdydd.ac.uk/

Contextual-Admissions

Telerau ac amodau eich cynnig   I gael rhagor o fanylion, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/terms

Cyllid Myfyrwyr a Ffioedd Dysgu

Mae’r ffioedd dysgu diweddaraf ar gyfer eich cwrs, ynghyd ag unrhyw gostau ychwanegol, i’w gweld ar ein gwefan yn www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd

Yn ogystal, mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol am y gwahanol fathau o gymorth ariannol sydd ar gael i chi – o fenthyciadau ffioedd dysgu a chynhaliaeth i grantiau.

Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau  Mae’r Brifysgol wedi creu casgliad o ddyfarniadau i’ch cefnogi ar eich taith academaidd. Mae’r rhain yn cynnwys:

• Bwrsariaeth Gofalwyr

• Bwrsariaeth Myfyrwyr sy’n Gadael Gofal a Myfyrwyr sydd wedi Ymddieithrio

• Ysgoloriaethau Perfformiad a Chwaraeon Elitaidd

• Dyfarniad Noddfa

• Dyfarniad Bywyd Astudio

• Ysgoloriaethau Myfyrwyr Rhyngwladol

Os ydych chi’n ystyried astudio un o’n graddau a ariennir gan y GIG*, gallwch weld manylion bwrsariaeth y GIG a chymorth ychwanegol gan Met Caerdydd yn www.metcaerdydd.ac.uk/ bwrsariaethaunhs

Am fanylion llawn a meini prawf cymhwysedd ar gyfer ein bwrsariaeth a’n www.metcaerdydd.ac.uk/ ysgoloriaethau

*BSc (Anrh) Gwyddorau Gofal Iechyd (tudalen 130); BSc (Anrh) Maethiad Dynol a Deieteg (tudalen 138); BSc (Anrh) Podiatreg (tudalen 140); BSc (Anrh) Therapi Lleferydd ac Iaith (tudalen 144).

184 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Taith eich cais i’r brifysgol

Blwyddyn 12 Blwyddyn 13

Mai – Medi

Dechrau ymchwilio i’ch dewis o brifysgol a chwrs.

Mae’n bwysig dechrau eich ymchwil yn gynnar!

Mae miloedd o gyrsiau ar gael mewn cannoedd o brifysgolion yn y DU. Edrychwch ar wefannau, ewch i Ddiwrnodau

Agored ac ewch i ddigwyddiad UCAS i weld beth sydd ar gael.

Medi – Ionawr Dechrau ymgeisio!

Gallwch ddechrau cyflwyno eich ceisiadau i hyd at bum prifysgol rhwng mis Medi a mis Ionawr, gan ddefnyddio UCAS. Ionawr Dyddiad cau cyntaf ar gyfer cyflwyno eich cais UCAS. Chwefror (i Fehefin)

Gwneud cais am Gyllid Myfyrwyr (gweler tudalen 184)

Ebrill

Gwneud cais am eich lle mewn llety (gweler tudalen 16)

Mai

Prifysgolion yn ymateb i fyfyrwyr sydd wedi gwneud cais. Byddwch yn cael cynnig amodol, cynnig diamod neu ddim cynnig o gwbl. Os na chewch unrhyw gynigion, gallwch ddefnyddio UCAS Extra a gwneud cais am gyrsiau mewn prifysgolion sydd â llefydd gwag o hyd.

Awst Diwrnod canlyniadau a chadarnhad o’ch lle – llongyfarchiadau! Os na chewch y graddau rydych yn eu disgwyl, neu os byddwch chi’n newid eich meddwl funud olaf am ba gwrs rydych chi am ei astudio, mae Clirio yn opsiwn.

Medi

Dechrau eich antur yn y brifysgol!

Prosbectws Israddedigion 2024 | 185

Cymru

Prifddinas ehangu geirfaoedd, ehangu gorwelion. Mynegi eich hun, deall pobl eraill. Prifddinas geiriau sy’n gweithio fel hud, gan gysylltu tir, hanes, diwylliant, dyfodol – lle gallwch chi archwilio pob ochr o’ch calon, eich personoliaeth, eich llais.

Os ydych chi’n siaradwr Cymraeg ac eisiau astudio rhan o’ch gradd drwy gyfrwng y Gymraeg, ym Met Caerdydd gallwn ni helpu. Mae nifer o’n graddau’n cynnig modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd ym meysydd chwaraeon, iechyd, addysg, celf a dylunio a busnes.

Am restr lawn o raddau sy’n cynnig yr opsiwn hwn, edrychwch ar y cyfeirlyfr cyrsiau, neu chwiliwch am y logo Cymraeg ar dudalennau’r cyrsiau yn y prosbectws hwn.

Mae llawer o fanteision i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n cynnwys:

• Arian ychwanegol

• Dosbarthiadau llai

• Cyfle i ddatblygu terminolegau arbenigol yn ddwyieithog

• Datblygu sgiliau dwyieithog a fydd yn fanteisiol wrth chwilio am gyflogaeth

Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
186 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Sganiwch i ddysgu mwy am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg

Cymorth Ariannol

Mae Met Caerdydd yn cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr sy’n dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Prif Ysgoloriaeth: £1,000 y flwyddyn (£3,000 dros dair blynedd)

Pwy sy’n gymwys: Myfyrwyr sy’n astudio o leiaf 66% o’u cwrs h.y. 80 credyd y flwyddyn, drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ysgoloriaeth Cymhelliant: £500 y flwyddyn (£1,500 dros dair blynedd)

Pwy sy’n gymwys: Myfyrwyr sy’n astudio 33% o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg mewn unrhyw bwnc.

Coleg Cymraeg

Cenedlaethol

Mae Cangen Met Caerdydd yn gymdeithas o fyfyrwyr a staff sy’n awyddus i hyrwyddo addysg a chyfleoedd cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr a staff, ac mae’n gweithio’n agos gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i sicrhau hyn.

Astudio a chymdeithasu

drwy gyfrwng y Gymraeg

Y Gymdeithas Gymraeg

Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn sefydliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg y Brifysgol. Mae’n gyfle gwych i ddod i adnabod myfyrwyr Cymraeg

eraill, boed o gampws Llandaf neu Gyncoed. Mae’r Gymdeithas yn

cyfarfod yn rheolaidd ac yn trefnu nifer o weithgareddau cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys tripiau rygbi, Eisteddfod Rhyng-gol, y cinio Darpariaeth Gymraeg a mwy.

“Fy enw i yw Bo a fi yw Swyddog y Gymraeg ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23. Rwy’n fyfyriwr trydedd flwyddyn ar y cwrs BA (Anrh) Addysg Gynradd

gyda SAC. Mae gen i rôl yn Undeb y Myfyrwyr hefyd, sef sicrhau bod lleisiau myfyrwyr Cymraeg yn cael eu clywed. Yn fy rôl, bydda i’n

ymdrechu i sicrhau bod eich profiad yn y brifysgol yn un cadarnhaol.”

Prosbectws Israddedigion 2024 | 187

gorwelion newydd

Prifddinas ffyrdd heb eu teithio eto. Ieithoedd heb eu dysgu eto. Pobl ymhell o’r fan yma, y byddwch chi’n eu hadnabod cyn hir fel cymrodyr, cydweithwyr, ffrindiau. Llefydd a fydd yn addysgu cymaint i chi ag unrhyw gyfres o ddarlithoedd neu werslyfr. Prifddinas teimlo’n gartrefol, ble bynnag rydych chi.

Cyfleoedd Byd-eang

Drwy astudio, gweithio a gwirfoddoli dramor, gallwch chi archwilio’r byd fel y mynnoch, gyda chyfleoedd mewn pob math o feysydd pwnc yn Ewrop, Gogledd America, Gogledd Affrica, America Ladin, Asia, De’r Môr Tawel a mwy.

Bydd cymryd rhan mewn cyfle bydeang, naill ai fel rhan o’ch cwrs neu fel gweithgaredd allgyrsiol, yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y farchnad fyd-eang. Os ydych chi eisiau ehangu eich gorwelion, datblygu eich sgiliau, cael profiadau newydd a gwella eich cyflogadwyedd yn y dyfodol, yna mae astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor yn ddelfrydol i chi.

Mae pob math o gyfleoedd ar gael sy’n amrywio o deithiau diwylliannol a chyflogadwyedd tymor byr, ysgolion haf academaidd ac wythnosau rhyngwladol, cyfleoedd rhithwir i gyfleoedd cyfnewid am semester neu flwyddyn. Efallai y bydd arian ar gael i’ch cefnogi chi yn ystod eich amser dramor, yn dibynnu ar y cyfle.

Rhagor o wybodaeth: www.metcaerdydd.ac.uk/ cyfloeddbyd-eang

188 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

“Cawsom gyfle i ymweld â llawer o grefftwyr lleol, o weithwyr cerameg i gerfwyr bloc pren i fân-ddarlunwyr. Roedd yn brofiad amhrisiadwy i fod yn dyst i’r angerdd a’r ymrwymiad sydd gan y bobl hyn i’w harferion. Drwy fynychu cymaint o weithdai a chyfarfod â gwneuthurwyr o ddiwylliant mor wahanol i’n un ni, bu modd i ni feithrin dealltwriaeth o’n harferion ni ein hunain na fyddai byth wedi datblygu fel arall. Roedd y daith bythefnos yn brofiad anhygoel, amhrisiadwy a syfrdanol.”

Alis Joscelyne and Petros Koraknis

BA (Anrh) - Arlunydd-Ddylunydd: Gwneuthurwr

Taith maes pythefnos i Rajasthan, India

Prosbectws Israddedigion 2024 | 189
Sganiwch y cod QR i ymweld â’n gwefan blogiau a darllen mwy gan ein myfyrwyr sydd wedi ymweld â Brasil, Zambia, Sri Lanka, Yr Eidal, Gwlad Groeg a mwy

Cyfeiriadur cyrsiau

Mae eich gyrfa a chyflogadwyedd yn elfennau blaenllaw yn ein gwaith addysgu. Bydd ein rhaglenni gradd yn rhoi’r sgiliau a’r addysg ymarferol i chi fel y gallwch chi gael effaith gadarnhaol ac ymateb i heriau byd cymhleth sy’n prysur newid.

Mae EDGE Met Caerdydd yn ymwreiddio sgiliau moesegol, digidol, byd-eang ac entrepreneuraidd yn y cwricwlwm, gan feithrin eich profiad, eich gwybodaeth, eich hyder a’ch gwydnwch, a’ch gwybodaeth arbenigol am eich pwnc.

Mae’r cyfeiriadur hwn yn gweithredu fel canllaw byr iawn. Mae rhagor o wybodaeth am bob un o’r graddau isod i’w gweld ar dudalen y cwrs perthnasol yn y prosbectws hwn.

Roedd yr wybodaeth yn y prosbectws yn gywir adeg argraffu (Ebrill 2023). Cyfeiriwch at ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf am y cyrsiau a gofynion mynediad cyn gwneud cais.

CYFRIFEG, ECONOMEG A CHYLLID Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Cyfrifeg - BA (Anrh) 112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI 94 Cyfrifeg ac Economeg - BA (Anrh) 112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI 94 Cyfrifeg a Chyllid - BA (Anrh) 112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI 94 Bancio a Chyllid - BSc (Anrh) 112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI 97 Economeg - BSc (Anrh) 112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI 102 PENSAERNÏAETH Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Dylunio a Thechnoleg Bensaernïol - BSc (Anrh) 96-120 3LLA/4LLA C 38 Pensaernïaeth - BA (Anrh) 120-128 3LLA/4LLA C 40 ALLWEDD LLA Llawn amser Wedi’i hachredu’n broffesiynol £ Ffioedd dysgu’n cael eu talu drwy fwrsariaeth y GIG  S Llwybr sylfaen ar gael S* Llwybr sylfaen ar gael (dim dilyniant awtomatig) BLI Blwyddyn ar leoliad ar gael C Cyfle i astudio rhan o’r radd yn y Gymraeg 190 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

CELF A DYLUNIO

GWYDDORAU BIOFEDDYGOL A GOFAL IECHYD Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Gwyddor Biofeddygol - BSc (Anrh) 120-128 3LLA/4LLA S 128 Gwyddorau Biofeddygol gydag Iechyd, Ymarfer Corff a Maeth - BSc (Anrh) 120-128 3LLA/4LLA S 128 Blwyddyn Atodol Gofal Iechyd Cyflenwol – BSc (Anrh) GWELER Y WE 1LLA/2LLA 132 Gwyddor Gofal Iechyd - BSc (Anrh) 120-128 3LLA/4LLA* £ C S* 130 BUSNES A RHEOLI Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Entrepreneuriaeth Gymhwysol a Rheoli Arloesedd – BA (Anrh) 112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI 96 Rheoli Hedfan – BA (Anrh) 112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI 98 Busnes a Rheoli – BA (Anrh) gyda llwybrau mewn: • Entrepreneuriaeth • Cyllid • Rheoli Adnoddau Dynol • Masnach Ryngwladol • Y Gyfraith • Marchnata • Cynaliadwyedd 112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI C 100 Rheoli Busnes Rhyngwladol – BA (Anrh) 112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI C 108 Rheoli ac Arweinyddiaeth – BA (Anrh) 112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI 116
Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Animeiddio - BA (Anrh) 96-120 3LLA/4LLA BLI C 36 Arlunydd-Ddylunydd: Gwneuthurwr - BA (Anrh) 96-120 3LLA/4LLA BLI C 42 Cerameg - BA (Anrh) 96-120 3LLA/4LLA BLI C 44 Dylunio Ffasiwn - BA (Anrh) 96-120 3LLA/4LLA BLI C 46 Celfyddyd Gain - BA (Anrh) 96-120 3LLA/4LLA BLI C 48 Cyfathrebu Graffig - BA (Anrh) 96-120 3LLA/4LLA BLI C 50 Darlunio - BA (Anrh) 96-120 3LLA/4LLA BLI C 52 Dylunio Mewnol - BA (Anrh) 96-120 3LLA/4LLA BLI C 54 Ffotograffiaeth - BA (Anrh) 96-120 3LLA/4LLA BLI C 56 Dylunio Cynnyrch - BA/BSc (Anrh) 96-120 3LLA/4LLA BLI C 58 Dylunio Tecstilau - BA (Anrh) 96-120 3LLA/4LLA BLI C 60 Prosbectws Israddedigion 2024 | 191

CYFRIFIADUREG, PEIRIANNEG A THECHNOLEGAU

TECHNOLEG

ADDYSG, BLYNYDDOEDD CYNNAR AC ADDYSG GYNRADD

SAESNEG AC YSGRIFENNU CREADIGOL

Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Systemau Gwybodaeth Busnes (Anrh) 104-112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI 168 Dylunio a Datblygu Gemau Cyfrifiadurol – BSc (Anrh) 104-112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI 170 Cyfrifiadureg – BSc (Anrh) 104-112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI 172 Diogelwch Cyfrifiadurol – BSc (Anrh) 104-112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI 174 Cyfrifiadura gyda Dylunio Creadigol – BSc (Anrh) 104-112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI 175 Gwyddor Data – BSc (Anrh) 104-112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI 176 Peirianneg Meddalwedd – BSc (Anrh) 104-112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI 180 TROSEDDEG Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Troseddeg – BSc (Anrh) 96-112 3LLA/4LLA S 78
Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
BA (Anrh) 104 3LLA 74
DDEINTYDDOL Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Technoleg Ddeintyddol – BSc (Anrh) 96 3LLA/4LLA C S* 133
Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gydag SYBC (Dwyieithog) - BA (Anrh) 104 3LLA C 66 Addysg, Seicoleg ac Anghenion Addysgol Arbennig – BSc (Anrh) 104 3LLA/LLA S 68 Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig - BA (Anrh) 115 3LLA C BLI 72 Astudiaethau Addysg Gynradd (Dwyieithog) - BA (Anrh) 104 3LLA W 70
Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Peirianneg
a Chyfrifiadureg – BEng/MEng (Anrh) 112-120 (BEng) 120-128 (MEng) 3LLA/4LLA/ 5LLA/6LLA S BLI 177 Peirianneg Roboteg – BEng/MEng (Anrh) 112-120 (BEng) 120-128 (MEng) 3LLA/4LLA/ 5LLA/6LLA S BLI 178 192 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
PEIRIANNEG
Systemau Electronig

IECHYD YR AMGYLCHEDD

Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Iechyd yr Amgylchedd – BSc (Anrh) 96-104 3LLA/4LLA S 134 FFASIWN Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Prynu Ffasiwn a Rheoli Brand – BA (Anrh) 112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI 106 Dylunio Ffasiwn – BA (Anrh) 96-120 3LLA/4LLA C 46 Rheoli Marchnata Ffasiwn – BA (Anrh) 112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI 106 GWYDDORAU BWYD, MAETHEG A DEIETEG Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Gwyddor Bwyd a Maeth – BSc (Anrh) 96-112 3LLA/4LLA S 136 Maethiad Dynol a Deieteg – BSc (Anrh) 120 3LLA/4LLA £ C S* 138 Y GYFRAITH Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Cyfraith a Rheoli Busnes - BA (Anrh) 112-120 3LLA/4LLA/5LLA S BLI C 115 Cyfraith – LLB (Anrh) 112-120 3LLA/4LLA S 114 MARCHNATA Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Hysbysebu a Rheoli Marchnata - BA (Anrh) 112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI C 118 Brand a Rheoli Marchnata – BA (Anrh) 112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI C 118 Rheoli Marchnata Digidol – BA (Anrh) 112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI C 117 Rheoli Marchnata – BA (Anrh) 112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI C 118 Cysylltiadau Cyhoeddus – BA (Anrh) 112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI C 118 Rheoli Gwerthu a Marchnata – BA (Anrh) 112 3LLA/4LLA/5LLA S BLI C 118
Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Y Cyfryngau a Chyfathrebu – BA (Anrh) 104 3LLA/4LLA BLI 76 Prosbectws Israddedigion 2024 | 193
Y CYFRYNGAU A CHYFATHREBU

PODIATREG

PLISMONA PROFFESIYNOL

THERAPI LLEFERYDD AC IAITH

Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Podiatreg – BSc (Anrh) 96-112 3LLA/4LLA £ C S* 140
Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Plismona Proffesiynol – BA (Anrh) 104 3LLA/4LLA S 80
Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Seicoleg – BSc (Anrh) 96-112 3LLA/4LLA S C 142
SEICOLEG
Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Therapi Lleferydd ac Iaith – BSc (Anrh) GWELER Y WE 3LLA £ C 144 POLISI CYMDEITHASOL Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Iechyd a Gofal Cymdeithasol – BSc (Anrh)/HND 96/64 2LLA/3LLA/4LLA S 82 Gwaith Cymdeithasol - BSc (Anrh) 96 3LLA 84 Cymdeithaseg – BSc (Anrh) GWELER Y WE 3LLA 83 CHWARAEON Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Chwaraeon – BSc (Anrh) (Blwyddyn Atodol) GWELER Y WE 1LLA/2PT 147 Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff – BSc (Anrh) 128-136 3LLA/4LLA C S 148 Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Astudiaeth Ychwanegol) –BSc (Anrh) GWELER Y WE 1LLA 147 Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (Dwyieithog) - BSc (Anrh) 112-120 3LLA/4LLA S C 146 Hyfforddi Chwaraeon – BSc (Anrh) 112-120 3LLA/4LLA S C 150 Cyflyru, Adferiad a Thylino Chwaraeon – BSc (Anrh) 128-136 3LLA/4LLA S C 152 Rheoli Chwaraeon – BSc (Anrh) 112-120 3LLA/4LLA S C 154 Cyfryngau Chwaraeon – BSc (Anrh) 112 3LLA/4LLA S C 156 Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon – BSc (Anrh) 120-128 3LLA/4LLA S C 158 Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd - BSc (Anrh) 112-120 3LLA/4LLA S C 160 Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd (Dawns) - BSc (Anrh) 96-112 3LLA/4LLA S C 160 194 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

ar gyfer y flwyddyn gyntaf.er y flwyddyn gyntaf.

CHYMUNEDOL Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Gwaith Ieuenctid a Chymunedol – BA (Anrh) 80-104 3LLA/4LLA S 86
GWAITH
IEUENCTID A
Tariff UCAS Hyd Allwedd Tudalen Rheoli Digwyddiadau - BA (Anrh) 96-112 3LLA/4LLA/5LLA S PY 104 Rheoli Gwesty a Lletygarwch Rhyngwladol Rheoli - BA (Anrh) 96-112 3LLA/4LLA/5LLA S PY 110 Rheoli Twristiaeth Ryngwladol - BA (Anrh) 96-112 3LLA/4LLA/5LLA S PY 112 LLWYBRAU SYLFAEN Rydym yn cynnig
academaidd a meysydd pwnc amrywiol a fydd yn
i’r radd o’ch dewis os na fyddwch yn bodloni’r gofynion
Tariff UCAS Hyd Tudalen Sylfaen yn arwain at BSc Gwyddorau Iechyd 56  1LLA  126 Sylfaen yn arwain at BA/BSc Gwyddorau Cymdeithasol 48  1LLA  126 Sylfaen yn arwain at Gyfrifeg, Economeg a Chyllid 32  1LLA  92 Sylfaen yn arwain at Fusnes a Rheoli 32  1LLA  92 Sylfaen yn arwain at BSc Systemau Gwybodaeth Busnes 32  1LLA  92 Sylfaen yn arwain at Beirianneg a Chyfrifiadureg 64  1LLA  166 Sylfaen yn arwain at y Gyfraith  32 1LLA  92 Sylfaen yn arwain at Farchnata 32  1LLA  92 Sylfaen yn arwain at Chwaraeon 32  1LLA  92 Sylfaen yn arwain at Dwristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau 32  1LLA  92 Sylfaen yn arwain at BA Gwaith Ieuenctid a Chymunedol 48  1LLA  86 Prosbectws Israddedigion 2024 | 195
TWRISTIAETH, LLETYGARWCH A RHEOLI DIGWYDDIADAU
amryw o lwybrau sylfaen mewn Ysgolion
rhoi cyfle i chi gamu ymlaen yn awtomatig
mynediad

darganfod

196 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Prifddinas cofleidiad cynnes, gwen disglair. Prifddinas nid oes y fath beth â chwestiwn gwirion. Prifddinas, ew, mae hynny’n ddiddorol, o un cwpanaid arall o goffi, o sgyrsiau a allai bara drwy’r dydd os nad ydym yn ofalus. Prifddinas: ie, gobeithio eich gweld eto yn fuan.

Diwrnodau Agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle perffaith i chi ddarganfod mwy am y cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo, siarad â thiwtoriaid a myfyrwyr y cwrs a mynd o amgylch ein cyfleusterau, llety a champysau. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle perffaith i chi ymweld â Chaerdydd a dod i adnabod ein dinas wych.

Rydym yn cynnal Diwrnodau Agored ar y campws trwy gydol y flwyddyn, sy’n berthnasol i’ch cwrs a’ch maes diddordeb. Cyfeiriwch at dudalennau’r cwrs yn y prosbectws hwn i weld pa gampws y dylech ei fynychu.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn mwy nag un cwrs ar wahanol gampysau? Peidiwch â phoeni, rydym yn rhedeg rhaglen hyblyg a fydd yn rhoi cyfle i chi greu eich diwrnod eich hun ac archwilio popeth sydd o ddiddordeb i chi.

Byddwch hefyd yn gallu siarad â’n tîm derbyn i gael gwybod mwy am gyllid myfyrwyr, i sgwrsio â’r gwasanaeth gyrfaoedd a gweld beth sydd gan Undeb y Myfyrwyr i’w gynnig.

Dyddiadau

Dydd Sadwrn, 01 Gorffennaf 2023

Dydd Sadwrn, 07 Hydref 2023

Dydd Sadwrn, 04 Tachwedd 2023

Allwn ni’m aros i’ch gweld ar y campws.

Teithiau o’r Campws

Os na allwch ddod i un o’n Diwrnodau Agored, ond eich bod yn dal eisiau mynd ar daith o amgylch ein campysau, dewch draw i un o deithiau campws dan arweiniad llysgenhadon myfyrwyr i gael golwg o gwmpas. Maent yn rhedeg trwy gydol y flwyddyn ac yn gwasanaethu ein dau gampws yn Llandaf a Chyncoed.

Sganiwch y cod QR i archebu eich lle ar-lein ar gyfer un o’n Diwrnodau Agored neu Deithiau o’r Campws.

Prosbectws Israddedigion 2024 | 197

029 2041 6010

askadmissions@cardiffmet.ac.uk metcaerdydd.ac.uk/israddedig metcaerdydd.ac.uk

Chwilio @metcaerdydd

Noddfa
Prifysgol

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.