Y Selar - Rhagfyr 2012

Page 1

y Selar

RHIF 31| RHAGFYR | 2012

Gwenno y-selar.co.uk Plant Duw . Y Record Las . @hudmusic . Lansio Gwobrau’r Selar

1



y Selar RHIF 31 | RHAGFYR | 2012

Efallai fod y dydd yn byrhau a’r gaeaf oer yn araf gau amdanom ond peidiwch â phoeni, mae’r rhifyn lliwgar a chynnes hwn yn siŵr o godi eich hwyliau. Cynheswch i ddechrau gydag ychydig o Ymbelydredd Gwenno cyn gadael i Stuntman Hud godi curiad eich calon. Yna mwynhewch fôr o liw Y Record Las a Lliwiau Plant Duw. Gyda Plyci, Afal Drwg Efa a’r Angen yn ymddangos rhwng y cloriau hefyd mae digon i’ch cadw’n hapus, felly hen ddigon o esgus dros aros i mewn yn swatio gyda mwg o rywbeth cynnes a chopi o’r Selar. Wrth gwrs, mae yna un peth da am y gaeaf – dyma dymor y seromoniau gwobrwyo. Felly cadwch olwg allan am newyddion cyffrous ynglyn â dyfodol Cân i Gymru a Gwobrau’r Selar. Datblygiadau diddorol ar y gorwel yn sicr, ond digon yn y rhifyn hwn i’ch cadw’n ddiddyg tan hynny.

CYNNWYS Gwenno

4

@hudmusic

9

o glawr i glawr

10

Y Record Las

12

Plant Duw

14

Gwobrau lu

18

adolygiadau

20

newyddion

22

Hwyl, Gwilym Dwyfor

4

Llun clawr: Gwenno Ffotograffydd: Betsan Haf Evans

10

GOLYGYDDION Gwilym Dwyfor (gwilymdwyfor@hotmail.co.uk) UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk) DYLUNYDD

Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

HYSBYSEBION

Ellen Davies (hysbysebion@yselar.com)

CYFRANWYR Griff Lynch, Casia Wiliam, Owain Gruffudd, Miriam Elin Jones, Ifan Edwards, Ciron Gruffydd a Cai Morgan.

14

19

@y_selar yselar@live.co.uk Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.


Dychwelyd i Fro ei Mebyd Mae comebacks yn boblogaidd ym myd cerddoriaeth y dyddiau hyn, cymerwch Take That, Stone Roses, Tŷ Gwydr... Dwi hyd yn oed wedi clywed sî fod y bachfand chwedlonol, Max-N, yn dod yn ôl! (Peidiwch â phoeni, jôc ydi’r un yna, wneith hynna ddim digwydd) Efallai fod rhai o’r comebacks yma’n gwneud i rywun ail ddarganfod eu plygiau clust ond mae eraill i’w croesawu. A does dim dwywaith mai rhywbeth i’w groesawu yw dychweliad Gwenno Saunders i’r sin yng Nghymru. Wrth gwrs, nid yw Gwenno wedi stopio creu cerddoriaeth dros y ddegawd ddiwethaf ond dyw dilynwyr cerddoriaeth Gymraeg heb glywed ganddi fel artist unigol ers blynyddoedd maith. Felly, gyda’r gantores o Gaerdydd yn ôl yng Nghymru, pa amser gwell i’r Selar yrru Ciron Gruffydd i’w holi am yr EP newydd, Ymbelydredd.

F

e es i i gyfarfod Gwenno Saunders mewn caffi yng Nghaerdydd gwta fis ar ôl iddi ryddhau ei record Gymraeg cyntaf ers dros ddegawd. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae hi wedi teithio’r byd gyda’r band pop, The Pipettes, ac wedi canu a chwarae’r allweddellau i’r band o Awstralia, Pnau. Bellach, mae hi wedi dychwelyd i Gaerdydd, lle ddechreuodd ei thaith. Mae record newydd Gwenno, Ymbelydredd, yn cynnwys pum cân sydd wedi cael eu hysbrydoli gan ei magwraeth yn ardal Riverside, Caerdydd, yn ystod yr 80au a 90au ac mae’r ffaith ei bod hi wedi dychwelyd i’r ddinas i fyw wedi bod yn ysbrydoliaeth iddi. “Ers i mi symud nôl i Gymru rwy’ wedi sylwi shwd gymaint mae Caerdydd wedi newid,” meddai Gwenno. “Mae ’na lawer o flogiau gwahanol gyda hen luniau o’r ddinas ac rwy’ wedi ceisio ymateb i’r newid mawr sydd wedi digwydd wrth edrych yn ôl

4

y-selar.co.uk


“... mae rhywun yn tyfu allan o chwarae rôl, a dyna oeddwn i’n ei wneud yn The Pipette.” ar fy mhrofiadau i’n tyfu fyny.” Ac mae Ymbelydredd yn stori sy’n adrodd hanes ei hatgofion - o nenfydau’n dymchwel a gwersi dawnsio am 50 ceiniog i ddefnyddio sebon fel pâst dannedd a cherdded heibio puteiniaid bob dydd. Ond wedi blynyddoedd yn alltud o’r ddinas, mae’r record yn fwy na thaith yn ôl i’w phlentyndod. “Wedi saith mlynedd i ffwrdd, ro’n i eisiau cysylltu gyda beth yw Caerdydd,” esbonia Gwenno, “a thrwy hynny greu cerddoriaeth sy’n swnio’n ddinesig achos does dim llawer o hynny mewn cerddoriaeth Gymraeg. Dyw e ddim yn feirniadaeth - mae hanes canu gwerin yn gryf yng Nghymru ac mae cerddoriaeth Cymraeg yn tueddu i swnio’n wledig a fi’n caru hynny – ond ar yr un pryd mae e’n golygu bod llai o gerddoriaeth pop.”A does dim dwywaith fod Ymbelydredd yn record bop ddigyfaddawd ac mae nifer o resymau am hynny. “Y tro diwetha’ wnes i record Gymraeg, doeddwn i ddim soundcloud.com/gwenno

yn meddwl fy mod i wedi gneud y gorau allwn i,” meddai. “Ond hefyd, pan welais i The Pipettes am y tro cyntaf yng Nghaerdydd, cyn i mi ymuno â nhw, roedden nhw’n canu caneuon pop da, heb unrhyw gywilydd o gwbl, a does dim llawer o hynny yng Nghymru a dweud y gwir.” Pan adawodd Gwenno Gymru, fe ymunodd â’r band pop, The Pipettes, gan deithio’r byd. Fe gawson nhw’r cyfle hefyd i recordio dwy albwm gan weithio gyda chynhyrchwyr fel Gareth Parton, y dyn tu ôl i The Go! Team; a Martin Rushent, a oedd wedi cynhyrchu ac yn gyfrifol am sŵn The Buzzcocks, Stranglers, The Human League a Soft Cell ymysg eraill. Roedd e’n brofiad anhygoel gweithio gyda Martin meddai Gwenno, a’i farwolaeth drist ef yn 2010 oedd un o’r rhesymau dros adael y band. “Martin oedd yn cadw’r band i fynd a pan farwodd e, roedd y linc wedi mynd gan ei fod e’n rhoi cymaint i mewn i’r prosiect. Ond hefyd, yn naturiol, mae rhywun yn tyfu allan o chwarae rôl, a dyna oeddwn i’n ei wneud yn The Pipettes a dweud y gwir – rhoi sioe ymlaen – a ro’n i eisiau canolbwyntio ar wneud rhywbeth fy hun.” A dyna yw’r EP i raddau – cam cyntaf Gwenno o gaethiwed band i ryddid artist unigol. “Pan ti mewn band ti’n gorfod cyfaddawdu lot a rhannu gweledigaeth sydd ddim o reidrwydd gen ti yn bersonol. Ond nawr fi’n teimlo bo’ fi’n barod i ddilyn trywydd fy hun ond sa’ y-selar.co.uk

5


i’n gwybod pwy ydw i yn greadigol eto. Fel artist, ti eisiau bod yn arbrofol a pheidio bod rhy sâff. Mae’r EP yn gam i’r cyfeiriad iawn ond fi dal i arbrofi.” Mae pob cân ar y record yn Gymraeg ac roedd hynny hefyd yn bwysig i Gwenno. “Do’n i heb ganu yn Gymraeg ers saith mlynedd ac roedd hi’n anodd i fandiau Cymraeg ar ôl llwyddiant bandiau fel Catatonia a’r Super Furry Animals yn y 90au oherwydd bod pawb eisiau bod fel nhw. Mae hi wedi cymryd amser i’r hyder ddychwelyd i’r sin yng Nghymru a fi’n teimlo fe. Fi wastad wedi bod yn fath o berson sy’n dilyn egni – fi eisiau bod ble mae pethau’n digwydd – ac rwy’n teimlo bod rhywbeth arbennig yn digwydd yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.” Ond er yr ymateb ffafriol mae’r record wedi ei gael hyd yma mae rhai blogiau cerddoriaeth wedi gwrthod rhoi sylw oherwydd bod y record yn un Gymraeg. “Fi wedi anfon yr EP at flogiau a gwefannau oedd yn gefnogol iawn i The Pipettes ac er ei bod nhw’n hoffi’r record, wna’ nhw ddim rhoi sylw iddi oherwydd bod y caneuon yn Gymraeg. Ar y llaw arall, mae rhaglen Geltaidd ar orsaf radio Prifysgol Harvard yn America wedi chwarae’r record ac maen nhw’n dweud mai Cymru yw’r unig wlad Geltaidd sydd ag ystod mor eang o steiliau cerddorol yn yr iaith. Mae hyn yn rhywbeth i fod mor falch ohono fe ond mae cymaint mwy i’w ddweud yn y Gymraeg.”

6

“... ma’ Elton John yn hynod gyfeillgar ac yn dangos diddordeb a pharch ym mhawb ma’n gweithio gyda.” Yn ddiweddar, bu Gwenno hefyd yn chwarae’r allweddellau gyda’r ddeuawd dawns o Awstralia, Pnau, ac fe wnaethon nhw berfformio’n fyw gydag Elton John yng Ngŵyl Rocktronic yn Ibiza ym mis Mehefin. Swreal oedd hynny yn fwy na dim arall i Gwenno. “Haha! Odd e fel camu i mewn i fyd hollol wahanol,” meddai Gwenno. “A ma’ nhw’n gweithio ar lefel mor fawr! Ond ges i lot o hwyl a ma’ Elton John yn hynod gyfeillgar ac yn dangos diddordeb a pharch ym mhawb ma’n gweithio gyda.” Ac wedi gweithio gyda dipyn o fawrion dros y ddegawd ddiwethaf aeth Gwenno ati i sgwennu, recordio a chynhyrchu Ymbelydredd i gyd ei hun. “Mae e mor hawdd gwneud dy bethe dy hun adre erbyn hyn ac mae’r busnes recordio wedi bod mor wrywaidd dros y blynyddoedd mae’r posibiliadau o wneud pethe dy hun yn gwneud pethe’n fwy hafal. A hefyd, roedd hyn yn bwysig i fi fel artist fel fy mod i’n cael llwyr ryddid creadigol.” A hithau erbyn hyn yn prysur dorri trywydd newydd iddi ei hun, beth sydd nesaf? “Wel, fi eisiau datblygu fy sŵn ’chydig yn fwy a sgwennu rhagor o ganeuon a thorri’n rhydd yn gyfan gwbl o ddisgwyliadau pobl ohona i. Does gen i ddim byd i golli, a fi’n teimlo’n grêt ac yn gyffrous am y dyfodol.” Ac wedi codi a gorffen ei diod, aeth Gwenno allan i’r gwynt ar Heol y Santes Fair gan grwydro unwaith eto yn ninas ei magwraeth a’i chartref, am nawr beth bynnag.


Os am logi gofod proffesiynol ar gyfer eich gigs cysylltwch a nia@aradgoch.org neu 01970 617998


Tybed pa berlau cerddorol sydd wedi bod yn newid dwylo ar-lein dros yr wythnosau diwethaf?

Pererin - Teithgan Pris Gwerthu: £160.00 (18 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: Hwn yw’r cyhoeddiad gwreiddiol ar label Gwerin SYWN 230. Ail record hir ardderchog gan y gwerin rocwyr seicadleig Pererin. Gwerin Cymreig traddodiadol yn cyfarfod â roc gyda gitarau seicadelig, ffliwt, a lleisiau gwrywaidd / benywaidd... Cyflwr: finyl -Mint; Clawr – Mint; Dalen geiriau - Mint Barn Y Selar: Grŵp Gwerin oedd Pererin a ffurfiwyd gan Arfon Wyn (Y Moniars) – roedd y grŵp wedi esblygu o aelodaeth Yr Atgyfodiad a Brân. Yr aelodau eraill oedd Charli Goodall, Einion Williams, Aneurin Owen a Llio Haf. Rhyddhawyd Teithgan yn wreiddiol ym 1981, ond yn ddiddorol iawn mae wedi’i ryddhau’n hwyrach ar CD gan label Sbaenaidd Guerssen. Y Ficar - Byw Mewn Cwt Yng Ngwaelod Yr Ardd Pris Gwerthu: US $15.71 (tua £9.80) (3 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: Sain (97s), 1982 7”. Cyhoeddiad gwreiddiol o Gymru. Gyda chlawr gwreiddiol a phrin iawn! Doedd dim clawr gyda’r mwyafrif o gopïau. Cyflwr – clawr a finyl mewn cyflwr gwych. Barn Y Selar: Ah, Y Ficar, un o brif grwpiau cyfnod Sgrech ar ddechrau’r 1980au – roedden nhw’n ‘Brif Grŵp Roc’ yng Ngwobrau Sgrech 1982. Dyma’i ail sengl yn dilyn un a ryddhawyd ar Label Fflach ynghynt yn y flwyddyn. Mae’n ddifyr bod y record yma wedi ffeindio’i ffordd i’r Almaen, ond mae’n bris teg o ystyried y cyflwr. Goreuon Sain Eto Pris Gwerthu: £30.99 (8 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: Mae’r record yn ddilyniant i ‘Goreuon Sain’. Mae’r record nid yn unig yn arbennig o brin, mae mewn cyflwr arbennig o dda hefyd (mae’r pris mewn pensil ar y cefn £2.49). Mae llun gwych ar y clawr! Hefyd yn cynnwys taflen eiriau wreiddiol. Sain 1050d

8

y-selar.co.uk

Barn Y Selar: Record sy’n gwneud be mae’n ddeud ar y tin...wel, ar y clawr yn hytrach. Rhai o draciau amlycaf label Sain o 1976 gan gynnwys clasuron fel Cwm Nant Gwrtheyrn – Ac Eraill; Tocyn – Brân; Pishyn / Tŷ Haf – Edward H Dafis; a Blodeuwedd – Hergest. Dim syndod bod hon wedi clirio £30. Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog Pris Gwerthu: £13.16 (5 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: Record 7” Gymraeg, Sain 10, 1970. Mae rhywfaint o draul ar ymyl ac wyneb y clawr gydag enw wedi’i ysgrifennu mewn inc yn y gornel dde. Ambell grafiad ysgafn ar y record ond wedi’i raddio’n dda iawn. Barn Y Selar: Mae’r Dyniadon wedi dod yn grŵp chwedlonol yn hanes y sin Gymraeg erbyn hyn – roedden nhw’n arloesi gyda’i sain unigryw ac elfennau jazz. Mae’r EP yma’n cynnwys traciau ‘Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog’, ‘Dicsi Clustie’, ‘Gast’ a’r hyfryd ‘Dyddiau Fu’ i alaw ‘Yesterday’. Mae’r record yma’n brin iawn ac felly’n sicr yn werth y pris. Meic Stevens – Gog Pris Gwerthu: £174.99 (1 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: Albwm finyl ar Recordiau Sain (1065M, runout groove: SAIN 1065M-A1 / SAIN 1065MB1) o 1977. Mae’n cynnwys dalen gyda holl gyhoeddiadau Sain at y dyddiad hwnnw. Rwy wedi cynnwys ffeiliau sain o ddwy ochr yr albwm. Clawr - Da iawn +, er bod dwy ardal fach wedi treulio ar y meingefn Finyl – Ochr A a B yn arbennig, mae staen bach ar y trac olaf ond hynny ddim yn effeithio ar y chwarae Barn Y Selar: Mae rhai o recordiau cynnar Meic Stevens yn werthfawr iawn, ond dyw Gog ddim yn un o’r rhai amlycaf. Er hynny mae’n cynnwys rhai o’i ganeuon gorau fel ‘Gwenllian’, ‘Cwm y Pren Helyg’ a ‘Dim ond Cysgodion’ ac felly’n cael ei ystyried yn glasur. Dim ond un cynnig yn awgrymu nad yw’r pris yn rhad, ond yn ychwanegiad gwerthfawr i gasgliad unrhyw un.


trydar gyda @hudmusic @y_selar Su’mai Hud, croeso i gyfweliad trydar y_selar. @hudmusic Diolch! @y_selar Creision Hud oeddech chi’r tro diwethaf i ni siarad efo chi. Beth ddigwyddodd i’r creision?! @hudmusic ’Da ni wedi colli’r creision o’r diwadd! Rwbath oedd angan ei wneud ers amsar hir! Dim mwy o jôcs ‘magic crisps’, ac amsar symud ymlaen! @y-selar Mae sôn am newid wedi bod ers dipyn, pam aros tan rŵan? @hudmusic Oeddan ni wedi gobeithio gneud cyn y senglau llynedd, ond efo’r EP newydd allan rŵan, a mwy o gynlluniau cyn Dolig, mi aethon ni amdani. @y_selar Sôn yr EP, Stuntman, beth all y gwrandawyr ei ddisgwyl? @hudmusic Ma’ ‘na dal elfenna’ o’r senglau ar yr EP, yn enwedig yn ‘San Antonio’ a ‘Stuntman’, ond gobeithio sŵn gwahanol hefyd, a sain hŷn! Gobeithio! @y_selar Wedi gwrando, mae ‘na diwns! ‘Cysgod/Aur’ a ‘Podium’ yn ffefrynnau. Ar gael yn ddigidol fydd hon fel y senglau felly? @hudmusic Mi fydd hi ar gael yn ddigidol, ond am y tro cynta’, ‘da ni am ryddhau ar gopi caled ‘fyd! Siôn, ein bassist wedi creu gwaith celf i ni. @y_selar Rhywbeth i’r casglwyr am y tro cyntaf felly, cyffrous! Ond nifer cyfyngedig fydd ‘na yn ôl pob sôn ia? @hudmusic Ia, dim ond 100 copi caled fyddwn ni’n ei werthu! Trio creu elfen ecsglwsif i’r EP! (ac mae ein pres cyhoeddi ni’n brin!)

@y_selar Swnio’n ddiddorol. Ac fe wnaethoch chi’i lansio hi yng Ngŵyl Sŵn eleni do. Pa mor bwysig ydi chwarae mewn gŵyl fawr? @hudmusic Roedd o’n gyfla gwych i chwara o flaen tyrfa wahanol i’r arfer. Ti’n cael sylw gan bobl o du allan i Gymru, a barn gonest a newydd - scary! @y_selar Sôn am gynulleidfa newydd. Gawsoch chi’ch gig gyntaf dros y ffin yn ddiweddar, yn chwarae yn Camden ar daith Nyth. Sut brofiad oedd hwnnw? @hudmusic Briliant! Neis gweld ambell i wynab cyfarwydd yno a hefyd cael cockneys yn dod ata ni ar y diwadd isho prynu CDs! A chael sesh yn Camden! @y_selar Grêt! EP allan rŵan wrth gwrs ond albwm erbyn y Nadolig hefyd yn ôl pob sôn, rydych chi’n brysur iawn ar hyn o bryd Hud. @hudmusic Casgliad o’n caneuon ni fydd yr albwm, efo amball gân newydd. Mynd i’r stiwdio mis Tachwedd, a thaith trwy’r mis i hyrwyddo Stuntman - dim rest! @y_selar Da! A byddwch chi’n defnyddio dipyn ar trydar ‘ma a gwefannau eraill i hyrwyddo bob dim, ‘da chi’n giamstars arni dydach! @hudmusic ‘Da ni’n licio rhoi ryw tweet bach, neu lun stiwpid! Bydd ‘na fideo newydd ar youtube yn fuan hefyd, Ifs fel Stuntman ella! @y_selar Edrych ymlaen yn barod. A dwi’n siŵr fod eich presenoldeb chi ar y we wedi helpu wrth gadw’r ffans i gyd yn y lŵp efo’r newid enw ac ati? @hudmusic Ar twitter naetho ni’r cyhoeddiad yn ystod wsos steddfod, ac mi ledaenodd y newyddion ar y maes fel mumps yn Steddfod Eryri! Hud=mumps 2012!

@y_selar Syniad da, fydd hi werth pres mewn blynyddoedd dwi’n siŵr. Sut beth ydy’r gwaith celf? Ydy pawb yn hapus efo’r gwaith?

@y_selar Ach ia... ‘da ni gyd yn cofio’r mumps! Wel, dyna ni wedi cyrraedd nôl lle ddechreuon ni, (yr enw, nid y mumps) Diolch yn fawr iawn Hud!

@hudmusic Yndan, hapus! Gwell job na fysa neb arall ohona ni’n neud! Ma’ ‘na thema hen ffilms a phosteri sioeau stunts i’r clawr a’r CD.

@hudmusic Ia, nodyn neis i orffan ‘de! Diolch y_selar! Siarad yn fuan! Hud x

y-selar.co.uk

9


Flump Tri pheth ’da chi angen ei wybod am EP Plyci, Flump: Enw grêt, cerddoriaeth wych, a gwaith celf heb ei ail. Dyma’r dewis amlwg felly ar gyfer O Glawr i Glawr y tro hwn.

C

aiff Plyci ei ddisgrifio ar wefan y label, Peski, fel y peth gorau i ddod o’r Rhyl ers Kwik Save, ac wrth wrando ar ei EP diweddaraf, Flump, mae’n anodd iawn dadlau â hynny. Ond un peth sydd yn sicr, mae’r gwaith celf ar y finyl 10 modfedd yma ym mhell o fod yn ‘No Frills’ – a dweud y gwir, mae o’n drawiadol iawn. Ond pwy sy’n gyfrifol am y campwaith hwn? Beth yw hanes y clawr? Plyci ei hun, neu Gareth Ruggiero i roi iddo’i enw iawn sy’n egluro. “Dros gyfnod o flwyddyn mi chwiliais i a Recordiau Peski am ambell berson i wneud y gwaith celf ar gyfer yr EP. Fel bob dim sy’n cael ei ryddhau ar y label roedd y gwaith celf angen bob yn ddiddorol ac unigryw felly roedd hi’n bwysig ofnadwy cael y person cywir oedd yn medru clywed y gerddoriaeth a deall yn syth pa fath o edrychiad oedd y gerddoriaeth ei angen. Nath Ani ddangos dealltwriaeth llwyr o be’ mae’r gwaith celf angen ei gyflawni ac roedd ei syniadau hi’n llawer mwy diddorol.” Yr Ani dan sylw wrth gwrs yw Ani Saunders, o’r Pipettes gynt. A gafodd hi’r rhyddid creadigol i gyd felly? “Gath hi wneud beth oedd hi eisiau. Nes i roi copi o’r EP iddi a gadael iddi ddewis i ba gyfeiriad i fynd a beth i’w wneud.” Ond mae Plyci’n hapus iawn â’r gwaith terfynol, “Mae o’n grêt! Mae o wedi troi allan yn ffantastig, ac mae’n edrych yn wych ar lawes 10” Vinyl.” Rhaid cytuno â hynny felly doedd dim amdani ond holi Ani ei hun i gael gwybod mwy am y gwaith. Mae beirniaid celf hollol ddi glem fel fi yn gallu dweud bod yma steil eithaf nodweddiadol ac unigryw ar waith felly holais i ddechrau beth yn union yw’r arddull? Ac oes yna unrhyw ddylanwadau? “Dwi wedi bod yn defnyddio pensiliau dyfrlliw ers i mi fod yn yr ysgol ac felly wedi bod wrthi’n datblygu’r steil ers y cyfnod hynny.” Eglura Ani. “Fy hoff arlunydd yw Joan Miro, ac rwyf hefyd yn hoff iawn o Paul Klee. Y peth rwy’n ei werthfawrogi fwya’ mewn darn o gelf yw’r cyfansoddiad ac mae’r ddau yma’n feistri ar hyn. Mae’r cyfansoddiad yn hollbwysig, i mi, mae’r gweddill yn eilradd.” Tybed os yw Ani yr un mor hapus â Gareth gyda’r gwaith terfynol? “I fi, y llun hwn oedd yr un a wnaeth gadarnhau fy steil. Fi’n falch ohono ond dwi wedi synnu at yr ymateb ma’ fe ‘di cal. Mae’n amhosib rhagweld ymateb pobl at gelf, rwy’n cael fy synnu ag ymateb pobl o hyd ac yn cael fy synnu fy hun drwy’r amser.” Ydi, yn sicr, mae Ani wedi cadarnhau ei steil ac mae gweithiau eraill ganddi wedi ymddangos yn y cylchgronau cerddoriaeth, MMP a Plastik. Fe allwch chi weld rhagor o’i gwaith ar

10

y-selar.co.uk

thelovelywars.com. Yn amlwg, mae Ani’n mwynhau’r ffordd yma o weithio, ond beth yn union yw’r broses? “I fod yn hollol onest, fi’n artist diog o ran arbrofi gydag arddull. Ond eto i gyd, wedi dweud hyn, fi’n ddigon hapus i eistedd am orie yn neud llun bach iawn nad oes neb yn mynd i weld. Twpsyn! Ma’n ddiddorol i fi i edrych nôl ar fy ngwaith ar y wefan achos allai weld o bob llun fod fy steil wedi bod yn datblygu’n raddol, er nad yw’n teimlo felly ar y pryd. Mae’n broses weddol syml, fi’n neud braslun gyda phensil, lliwio’r cyfan i mewn gyda’r pensiliau dyfrlliw ac ymosod ar y llun gyda brwsh a dŵr. Yna defnyddio Photoshop er mwyn ychwanegu ychydig o ddyfnder i’r lliwiau.” Proses syml yn ôl Ani felly ond mae’n debyg fod y darn hwn wedi cymryd dipyn o amser. Oedd hi’n anodd gwneud wyneb person go iawn? “Wynebau yw’r peth fi’n mwynhau arlunio fwya’. Ma’ ‘na gymaint o stori a hanes mewn wyneb, elli di ddim cuddio lot. Mae’r wyneb, a’r llygaid yn benodol, yn dweud y stori gyfan. Y broses o liwio’r llinellau yn hynnod o ofalus sy’n cymryd yr holl amser, ond wedi dweud hyn, ma’ ’na elfen o gysur a chysondeb mewn gwaith maith.” Does dim dwywaith fod y gwaith ar Flump werth yr holl ymdrech, ac mae’r EP yn atodiad anatod i gasgliad unrhyw gasglwr o werth. Ac mewn oes lle mae cerddoriaeth ar gopi caled yn brysur ddiflannu, mae’n braf gweld label fel Peski’n rhoi gymaint o bwyslais ar yr agwedd yma. “Dwi’n ffan mawr o waith celf.” Eglura Gareth. “I fi a Peski ma’ ’na elfen oeraidd a diflas i ryddhau cerddoriaeth yn ddigidol yn unig, does ’na ddim teimlad o fod yn berchen ar y gerddoriaeth. Wrth ryddhau cyfuniad o record a fersiwn ddigidol ma’ pobl yn cael y gorau o’r ddau, rhywbeth sylweddol sydd yn dangos faint o waith creadigol sydd wedi mynd fewn i greu rhywbeth fel record; a rhywbeth ddigidol i’w roi ar chwaraewyr MP3’s. Hefyd ma’ dewis fformat 10” yn rhoi cynfas wych ar gyfer gwaith Ani.”

“I fod yn hollol onest, fi’n artist diog o ran arbrofi gydag arddull.


o glawr i glawr

A pha mor bwysig felly yw’r cydbwysedd rhwng yr elfennau celfyddydol, y gerddoriaeth a’r gwaith celf? Ac ydi hi’n briodas hapus ar Flump? “Heb eiriau mae’n anoddach cal cerddoriaeth electroneg i roi darlun ym mhen y gwrandäwr. Yn fy marn i mae’r gwaith gweledol ar record fel hon yn help i sefydlu’r darlun yma. Mae fy ngherddoriaeth i’n medru bod yn reit igam ogam a gwallgo’ ar adegau a nath Ani bigo fyny ar hynny’n syth. Ma’ pawb dwi ’di siarad gyda am yr Ep wedi dweud fod cymeriad y gwaith celf yn un ffantastig a bod y gerddoriaeth yn ei ffitio’n berffaith.” Mae’r artist yn yr achos hwn wrth gwrs yn dod o gefndir cerddorol ei hun, ac felly does fawr o syndod ei bod hithau hefyd yn rhannu’r un weledigaeth. “Fi’n teimlo’r union yr un fath am berthynas cerddoriaeth a’r elfen weledol. Mae’n hanfodol, yn fy marn i, fod y ddau yn glir, yn gyson ac yn mynegi syniadau am gelfyddyd na all y llall ei wneud. Canmol ei gilydd ac o ganlyniad soundcloud.com/plyci

creu cynnyrch llawer mwy cyflawn.” Os oes angen prawf pellach o lwyddiant y cyd weithio celfyddydol yma, mae Ani eisoes yn gweithio ar glawr EP nesaf Plyci! Ond os fyddai Ani’n cael y cyfle i greu’r gwaith celf i unrhyw artist neu fand o’i dewis yn y dyfodol, yn y sin Gymraeg neu o du hwnt, pwy fyddai hi’n ei ddewis? “Rwy’n bwriadu creu llun ar gyfer Llwybr Llaethog am un rheswm yn unig – maen nhw’n hollol ffantastig! Hoffwn i hefyd greu gwaith celf ar gyfer Grimes. Mewn gwirionedd, fi fel arfer yn fforso’n llunie ar bobl... does dim dewis gyda nhw! Bydde hi wedi bod yn gret gallu creu gwaith celf i ELO. Fi’n caru Jeff Lynne!” Felly Mr Awyr Las, os wyt ti’n darllen, ti’n gwybod beth i’w wneud. Ond tan i hynny ddigwydd beth am i bawb fwynhau Flump. Heglwch hi i’r siôp i’w phrynu hi... ond ddim i Kwiks... dwi’n meddwl bod fanno ’di cau. y-selar.co.uk

11


Y Record Las Cerddoriaeth a chibabs... dau o bethau pwysig bywyd. Casia Wiliam a fu ar ran Y Selar, yn cyfuno’r ddau beth wrth holi hogiau Recordiau Lliwgar am eu cynnyrch blasus diweddaraf.

H

ir yw pob ymaros, ys dywed nain rywun unwaith, ac aros yn eiddgar a wnaethom am ail record menter gerddorol Meic Parry, Osian Edwards a Gruffudd Pritchard, Y Recordiau Lliwgar. Cafodd Y Record Goch ei rhyddhau flwyddyn a hanner yn ôl yn ’Steddfod Wrecsam, a chyn pen dim roedd y maes yn fwrlwm o goch. Roedd cael baj ar eich crys yn cŵl, roedd pawb a’i gi (go iawn) yn tynnu lluniau o’i hunain gyda’r record, ond yn bwysicach na hynny, roedd pawb yn ei phrynu, yn gwrando arni, ac yn ei mwynhau. Ia, hir yw pob ymaros, a wyddoch chi, roedd nain rywun hefyd yn iawn pan ddywedodd – melys moes mwy. Mae’r Record Las yn flasus (ydy honna’n gynghanedd?!). Es i am dro i siop gibab fach yn Grangetown i gyfarfod Osian a Meic am sgwrs, a chibab wrth reswm. Wedi i ni setlo gyda’n mixed roll a chan o ddiod amheus o oren, dwi’n dechrau holi’r hogia’. Ydyn nhw’n nerfus, tybed, am ryddhau’r ail record, ar ôl llwyddiant ysgubol y gyntaf? “Odd Y Record Goch yn gymaint o lwyddiant odd o’n bwysig i ni fod o ddim yn one-off.” Meddai Osian, “’Da ni ar y difficultsecond-album rŵan ond yn gobeithio y bydd pobl yn hapus. ’Da ni’n hynod falch ohoni.” Wedi cael clywed y record a gweld y gwaith celf cyn neb arall,

12

y-selar.co.uk

dwi’n ffyddiog y bydd Y Record Las yr un mor, os nad yn fwy poblogaidd na’i chwaer goch. Y pedwar artist neu fand, neu bartneriaeth ddylwn i ddweud efallai, sydd wedi cyfrannu ydy Ymarfer Corff, sef prosiect newydd Euros Childs a Pete Richards o’r Gorkys gynt; Llwybr Llaethog gyda Geraint a Lisa Jarman a Rufus Mufasa; H.Hawkline; ac Ifan Dafydd gydag Alys Williams. Yr Artistiaid Ymarfer Corff i ddechrau felly. Euros a Pete sydd yn agor yr albwm gyda ‘Hi yw’r Haul’ a ‘Mewn a Mas’. Ydy Osian a Meic yn meddwl y bydd y prosiect newydd yma’n plesio ffans Euros? “’Swn i’n sicr yn deud y byddan nhw’n hapus!” Meddai Osian, “Ma’n wahanol ond ddim rhy wahanol.” “Y peth mae llawer yn ei fwynhau am ganeuon Euros ydy’r alawon cryf a catchy.” Ychwanega Meic, “Mae hynny’n wir am y ddwy gân yma’n bendant, maen nhw’n ganeuon pop byr, perffaith.” Mae’r ddau drac nesaf yn dod gan ddau hynod weithgar, hynod boblogaidd a hynod driw i’r sin, y deuawd chwedlonol, Llwybr Llaethog. “Odda ni wedi sôn am gael Llwybr Llaethog ar y Record Goch,” meddai Osian, “Felly pan gytunon nhw i gyfrannu i’r Record Las


hefyd ’da ni isio helpu’r bandiau yma mewn unrhyw ffordd y gallwn ni. Felly os oedd cynnig slot i H.Hawkline yn ei annog i greu yn y Gymraeg, wel, mae hynna’n ffantastig.” Daw’r ddwy gân olaf gan Ifan Dafydd gyda llais Alys Williams. Wedi blwyddyn o deithio rhai o brif wyliau Ewrop, mae Ifan Dafydd fel petai ar drothwy rhywbeth newydd a chwyldroadol. Mae llais Alys Williams, yn gyfeiliant i’r piano a’r haenau o sain hudol ar gefndir o guriadau penfeddwol yn brofiad gwrando bendigedig. “’Da ni’n teimlo bod ’na lawer o bethau arbennig ar y record,” esbonia’r hogia’, wrth i ni lyfu’n gweflau ar ddafnau ola’r sôs chilli. “Deunydd Ymarfer Corff ar record am y tro cyntaf, deunydd cwbl newydd gan Llwybr Llaethog, H.Hawkline yn canu’n Gymraeg am y tro cyntaf, ac mae Ifan Dafydd ar fin torri trwodd ac yn siŵr o gyflawni llawer iawn. Mae’n grêt o deimlad dod â’r cwbl at ei gilydd.”

odda ni wrth ein boddau, yn enwedig wrth sylwi eu bo’ nhw wedi creu deunydd mor wahanol.” Wrth gomisiynu artistiaid i gyfrannu tydi’r triawd ddim yn gosod unrhyw reolau a does dim disgwyliadau, felly mae’n dipyn o syrpréis pan mae’r traciau yn eu cyrraedd am y tro cyntaf. “Gawson nhw ryddid llwyr ac mae be’ ma’ nhw ’di greu yn anhygoel. Doedd ganddom ni ddim syniad bod Geraint Jarman wedi cyfrannu tan i ni glywed ei lais o!” Yn ‘Ofergoelion’ mae ansawdd hiraethus i lais Jarman, ac o’i gyfuno â chyfeiliant electro cynnil Llwybr Llaethog ceir cerddoriaeth sy’n teimlo’n newydd ei naws yn y Gymraeg. Dyna un peth sydd bendant i’w deimlo gyda’r Recordiau, eu bod nhw’n rhywbeth byw, ac adweithiol. Yn hawlio traciau pump a chwech mae H.Hawkline. Mae’r elfennau sy’n gwneud H.Hawkline yn berfformiwr byw cystal i gyd i’w clywed yn y caneuon yma, yr egni, yr angerdd, a’r cwbl, am y tro cyntaf, yn y Gymraeg. “Roedd Huw [Evans] wedi bod yn awyddus iawn i wneud rwbath Cymraeg ers tro, felly roeddan ni’n hapus iawn i gynnig lle iddo ar y Record Las,” meddai Meic. “Mae o wedi datblygu, wedi cael band a ’di dechrau canu, mae o wedi ffeindio’i arddull ac yn gwbl naturiol a chyfforddus yn y Gymraeg hefyd.” “’Da ni isio dod â’r gerddoriaeth ddiweddara’ at y bobl ond

Y Gwaith Celf Ond nid trysor clywedol yn unig mo’r Record Las, mae hi hefyd yn eitem i’w gwerthfawrogi ar lefel gelfyddydol wahanol. Mae’r gwaith dylunio gwych wedi ei wneud gan Rich Chitty o Ctrl.Alt. Design unwaith eto, a’r tro hwn daw’r gwaith celf mewnol gan Gethin Wyn Jones. Mae’r criw yn ffrindiau gyda Gethin, a arddangosodd ei waith celf digidol-ei-deimlad mewn arddangosfa yn Oriel Mostyn yn ddiweddar. A digwydd bod, roedd y cwbl yn las. Ond fel pe na bai hynny’n ddigon, mae haen ychwanegol i’r gelfyddyd, gan mai ffotograff gan Dewi Glyn o Bontllyfni, ffotograff o berson yn edrych ar waith Gethin yn yr arddangosfa, a gaiff ei gynnwys o fewn cloriau’r albwm. Dyma haen o gelfyddyd yn cael ei hychwanegu ar ben y gacen sydd eisoes yn aml haenog. Mae’r Record Las yn dod ag artistiaid amrywiol o wahanol gyfryngau ynghyd, ac yn cynnig llwyfan crwn iddynt wneud beth a fynnent arno. Wrth i mi holi sut deimlad yw dechrau menter o ddim a’i gweld yn tyfu, meddai Meic: “Dwi’n andros o falch fod ein cynnyrch ni’n edrych mor barchus ac yn swnio mor dda. Mae’r diolch am hynny i’r bobl greadigol sydd wedi cydweithio efo ni.” Mae’r cibab yn angof ond mae’r Record Las flasus ar y gorwel. Pan welwch chi’r record, prynwch hi, mwynhewch hi, gwrandewch arni, edrychwch arni, gwerthfawrogwch hi. Tynnwch eich llun efo hi os ’da chi ffansi. Mae yna si am gig lansio hefyd felly mi wela’i chi yno, os ’da chi’n gwybod be’ sy’n dda i chi, ys dywed nain rywun rywdro. y-selar.co.uk

13


Plant Lliwgar y Goeliwch chi fod yna wyth mlynedd ers gig gyntaf Plant Duw? Ac er gwaethaf ambell gyfnod distaw mae’n rhaid eu hystyried nhw bellach yn un o fandiau mwyaf sefydledig y sin. Gyda dwy albwm a dwy sengl eisoes yn y disglyfr mae’r hogia’n ôl efo EP newydd sbon, Lliwiau. Aeth Y Selar i holi mwy ar Conor ac Elidir o’r band. Geiriau: Gwilym Dwyfor | Lluniau: Sion Richards

G

yda’r gwaith recordio yn Stiwdio Un efo Sam Durrant wedi’i gwblhau mae Plant Duw yn gobeithio rhyddhau Lliwiau o gwmpas y Nadolig. A dechreuais trwy holi’r hogia’ sut brofiad oedd recordio yn Rachub. “Dyna lle wnaethon ni recordio’r albwm, Distewch Llawenhewch, ac ‘Yn y bore’ hefyd,” eglura Conor. “Pan wnaethon ni recordio ‘Yn y bore’ yno roeddan ni wedi ein plesio gymaint, fe benderfynon ni nad oedd angen mynd i unrhyw le arall.” Ac mae’n amlwg fod Elidir yn hapus efo’r drefn yno hefyd, “mae Sam yn gwybod be’ mae o’n ei wneud, ond dio’m yn rhy cîn i roi ei stamp o’i hun ar y gân. Mae’n gyfuniad da.”

14

y-selar.co.uk

Ceir yr argraff fod y profiad wedi bod yn un da iawn ond beth yw ffrwyth y llafur hwnnw. Beth allwn ni ei ddisgwyl yn yr EP tybed? Conor sy’n egluro, “Yn Distewch Llawenhewch roedd yna ddarnau eitha’ tywyll a darnau eitha’ tawel ac roedd hi’n wahanol iawn i’r albwm gyntaf. Mae yna ’chydig bach mwy o fowns i’r EP yma, ma’ hi’n fwy hapus, mwy lliwgar.” Yn debycach i’r albwm gyntaf, Y Capel Hyfryd, felly? “Ychydig o gyfuniad o’r ddwy ella, ond cam ymlaen eto. Yn fy mhen dwi’n ei weld o fel cerddoriaeth efo lot o liw.” Dyna egluro enw’r EP heb i mi orfod holi felly, a’r hyn sy’n ddiddorol am Lliwiau yw’r ffaith nad oedd yna’r un pwynt yn ystod y broses recordio pan yr oedd y band i gyd yn y stiwdio yr un pryd. “Dim ond tri ohona ni ar y mwyaf fuodd yno yr un pryd!” meddai Elidir. Dyma’n sicr ffordd ddiddorol o wneud pethau felly holais Conor sut yr oeddynt yn mynd o’i chwmpas hi. “Cwbl ti angen ydi cael y person sydd wedi sgwennu’r gân a drymiwr efo’i gilydd i roi’r basics i lawr. Wedyn mae pawb arall yn gallu gweithio dros hynny.”

Sengl yn troi’n EP Sôn am ysgrifennu, mae’n ddiddorol sylwi fod proses greu’r band wedi gorfod addasu rhywfaint wrth i sefyllfa’r aelodau newid. Mae’r band, sy’n wreiddiol o ardal Bangor, bellach yn byw mewn amryw ardaloedd ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn yr EP fel yr eglura Conor. “Mae o’n adlewyrchiad o’n bywydau personol ni rŵan. Oeddan ni’n arfer dod at ein gilydd yn amlach ac os oedd gan Rhys a fi syniad bras am gân, roeddan ni’n gweithio arno fo. Ond tro yma ddoth Rhys i mewn efo dwy gân a syniad go bendant yn barod o be’ oedd yn digwydd efo nhw felly oedd


Cyrion rhaid i Myfyr ac Elidir benderfynu’n reit sydyn be’ oeddan nhw’n ei wneud ar y caneuon. A nesh i ddod i mewn ar adeg wahanol efo caneuon oedd wedi ffurfio’n gyfan gwbl hefyd, ac oedd rhaid i Myfyr ac Elidir wneud yr un peth eto.” Proses ddiddorol iawn felly fel yr eglura Elidir wedyn, “mae yna un o ganeuon Rhys ar yr EP a gafodd ei recordio cyn i Conor wybod am ei bodolaeth hi! Fe ddechreuodd yr EP fel sengl ond benderfynon ni recordio trydedd cân heb i Conor wybod.” Yna, fe ysgrifennodd Conor bedwaredd a gorffennodd y sengl fel EP pum trac! Dyma brawf pellach o ba mor gynhyrchiol yw Plant Duw fel band. Efallai nad yw amgylchiadau’r band yn caniatâu iddynt chwarae’n fyw mor aml ag ambell fand arall ond mae’r broses recordio hyblyg yma’n golygu eu bod yn aros yn weithgar serch hynny.

Gigio Er bod Plant Duw bellach ar wasgar, maent wedi llwyddo i chwarae’n fyw ychydig yn amlach dros y misoedd diwethaf gan berfformio yng ngŵyl Incubate yn yr Iseldiroedd ym mis Medi a thaith Nyth ym mis Hydref. Sut brofiad oedd chwarae yn yr Iseldiroedd tybed? “Neis iawn, er ein bod ni wedi chwarae’n rubbish!” eglura Elidir, cyn i Conor ymhelaethu. “Gyrhaeddodd ’na bwynt tua mis Chwefror dwytha ar ôl ni chwarae gig yn Llundain pan ddechreuon ni feddwl pam oeddan ni’n ei wneud o. Felly cymeron ni saib bach ac wedyn fe gathon ni’r cynnig ’ma i chwarae yn Incubate, ac roedd o’n brofiad gwych chwarae mewn gŵyl fel’na achos oedd o i gyd mor broffesiynol. Naethon ni fwyta yn yr un ystafell a Yann Tiersen, y boi sgwennodd gerddoriaeth y ffilm, Amélie, ac mae o’n athrylith felly oedd hynna’n brofiad anhygoel.” Swnio fel dipyn o brofiad ond sut dderbyniad oedd deunydd Cymraeg Plant Duw yn ei gael gan gynulleidfa ryngwladol? “Dwi’m yn meddwl bod pobl yn meindio,” medd Elidir. “Os wyt ti’n mynd i ŵyl fel’na, ti’n disgwyl bob math o betha’, ti’n disgwyl miwsig da a miwsig gwahanol. Dwi’n meddwl ein bod ni’n cyflawni’r gwahanol ond dwi’m yn siŵr am y da! Mae’n braf iawn chwarae gig fel’na lle mae’r bobol yno i wrando, dim jyst i gael chat a pheint.” Ac o’r Iseldiroedd i Fanceinion, sut aeth taith Nyth? “Naethon ni agor ym Manceinion heb Rhys sydd fel arfer yn chwarae’r gitâr flaen, a nath Sean, sydd fel arfer yn chwarae’r cornet lenwi mewn a gwneud job dda iawn. Naethon ni fwynhau’r profiad gwahanol hwnnw. A naethon ni headlinio ym Mangor felly oedd hynna’n neis. Wedyn yn Aberystwyth naethon ni chwarae yng Nghlwb y Ceidwadwyr ac ar un pwynt yn ein set ni roedda ni a’r dorf i gyd yn gwaeddi ‘Tory Scum’! Profiad eitha’ od i rywun fysa wedi digwydd cerdded heibio dwi’n siŵr.” soundcloud.com/plant-duw

Ar y cyrion Ymateb da, er braidd yn od, yn Aber felly! I’r perwyl hwnnw, roeddwn yn awyddus i holi’r hogia’ am eu cynulleidfa a lle’n union y maen nhw’n gweld eu hunain yn ffitio yn y sin bellach. “Ar y cyrion.” meddai Conor ac mae Elidir yn cytuno. “Ia, ar y cyrion ac yn hapus i fod yno.” “’Da ni ddim yn barod i roi’r gorau i’r petha’ arall ’da ni’n ei wneud,” eglura Conor. “’Da ni’n mwynhau dod at ein gilydd ond be’ dwi’n ei fwynhau fwyaf ydi recordio. Dwi’m rili’n mwynhau teithio a chwarae gigs ac mae’n rhaid i chdi ei fwyhau o os ti am fod yn fand llwyddiannus mewn unrhyw wlad ond yn enwedig yng Nghymru. ’Da ni’n hapus ar y cyrion, ac os oes ’na rywun yn licio ni mae hynna’n bonus.” “Mae’r bobl sydd yn ein licio ni’n dueddol o fod yn bobl ’da ni’n ei licio’n nôl hefyd,” ychwanega Elidir. “’Da ni’n hapus i fod yn hoff fand amball un yn hytrach na bod cannoedd o bobl yn meddwl ein bod ni’n ‘iawn’.” Dwi’n amau nad yw Plant Duw yn rhoi digon o glod i’w hunain, ond mae’n beth braf gweld band yn creu cerddoriaeth am y rhesymau iawn. Dim ysgogiad ariannol neu’r awydd i sefyll yng nghanol y ffordd yn plesio pawb sydd yma ond cariad at gerddoriaeth a chreu cerddoriaeth. A dyna pam y mae’r deunydd diweddaraf, Lliwiau, yn tynnu dŵr i’r dannedd yn barod.

y-selar.co.uk

15


Ti ’Di Clywed...

d un ’da ni’n ei ddilyn on m di el, W ? lyn Di i’w u Da fio Co ! Owain Gruf fudd sydd bellach, i ni gael dilyn yn iawn wrthi, ti ’di clywed...

Pwy? Afal Drwg Efa yw enw pryfoclyd prosiect newydd Gwyn Llewelyn, gitarydd bas y band, Yucatan. Rhwng gigio a recordio hefo’r band, mae Gwyn wedi bod yn creu cerddoriaeth cwbl wahanol ar ei liwt ei hun ers dipyn. “Dwi wedi bod yn ffidlan hefo cerddoriaeth gyfrifiadurol ers sbel rŵan. Mi newidiodd y caneuon ar ôl i mi fynd a nhw i Stiwdio Crychddwr yn Llanllyfni, lle bu profiad a sgiliau cynhyrchu gwych Kevin Jones yn help enfawr i mi siapio’r gerddoriaeth.” Yn dilyn y camau cynnar yma dechreuodd Gwyn gydweithio gyda nifer o artistiaid amlwg eraill, gan gynnwys Steffan Cravos, Casi Wyn a Rhys Trimble, sydd yn ymuno ag Afal Drwg Efa ar y llwyfan, pan yn bosib. Mae Iwan, drymiwr Yucatan, a Rhys, gynt o’r Promatics, yn rhan o’r band byw hefyd. Sŵn? Mae Gwyn yn gyndyn o ddiffinio’r gerddoriaeth ond yn sicr, genre electronig sydd yn eich taro gyntaf wrth wrando, gyda haenau o guriadau a synths, ond mae’n sŵn tywyll iawn ar adegau. Ceir amrywiaeth mawr hefyd ym mhrif lais y caneuon,

gyda chymysgedd o ganu, rapio, barddoni, siarad a gweiddi. “Fe ddaru ni hefyd recordio amryw o offerynnau byw, fel gitâr drydan, gitâr fas, drymiau acwstig, offerynnau taro, offerynnau pres a llinynnau. Ond yn amlwg bydd angen bod yn fwy cynnil mewn set fyw... oni bai ’mod i eisiau pymtheg o bobl ar y llwyfan!” Dylanwadau? Tydi Gwyn ddim yn credu fod cerddoriaeth electronig Gymraeg wedi bod ddigon arbrofol a gwreiddiol yn ddiweddar ond mae’n cydnabod dylanwad Gorwel Owen ac Alan Holmes. “Mae eu cyfraniad nhw tuag at gerddoriaeth heriol Gymraeg wedi bod yn ddirfawr. Nid yn unig ar yr ochr gynhyrchu, ond hefyd oherwydd y gerddoriaeth y maen nhw wedi ysgrifennu - Plant Bach Ofnus yw un o fy hoff fandiau erioed.” Y dylanwad mwyaf ar eiriau Gwyn yw’r bardd, Gerallt Lloyd Owen. “Magwyd fi yn Llandwrog, lle’r oedd Gerallt yn byw, felly mae grym gwleidyddol ei waith yn rhywbeth sydd wastad wedi bod yn fy isymwybod.” Hyd yn Hyn? Dim ond ychydig fisoedd oed yw Afal Drwg Efa felly dim ond yn ddiweddar y mae Gwyn wedi cael cyfle i baratoi set fyw. Ond mae’r gerddoriaeth wedi cael ei chwarae’n gyhoeddus yn barod, gyda rhaglenni C2 Radio Cymru ac Adam Walton o Radio Wales yn rhoi lot o gefnogaeth i’r prosiect. Hefyd, fe wnaeth Elly Stringer gynhyrchu darn o animeiddio i fynd gyda’r gân ‘Marwnad y Fam’ ar gyfer gŵyl Blinc Digital yng Nghonwy’n ddiweddar. “Dwi’n meddwl bod yr animeiddio’n cyd-fynd yn dda gyda theimlad y gân a dwi’n gobeithio defnyddio’r ffilm fel fideo i’r gân. Ar y Gweill? Bydd gig gyntaf y band ym Mharti Nadolig Nyth, yn Gwdihŵ, Caerdydd ar Ragfyr y 7fed. Mae Gwyn wedi cwblhau’r gwaith

16

y-selar.co.uk


Griff ar y Gynghrair

Dwi’n siŵr fod sawl un ohonoch chi’n gwybod erbyn hyn am helynt breindaliadau cerddorion Cymraeg, a bod PRS (y cwmni sy’n casglu arian gan y BBC, yna’i ddosbarthu rhwng yr artistiaid) bellach yn talu ceiniogau yn unig am funud o gerddoriaeth ar Radio Cymru, yn hytrach na phunnoedd fel yr oedd hi flwyddyn ddwy yn ôl. Mae hi bron yn amhosib ar hyn o bryd i rywun wneud bywoliaeth o fod yn gerddor drwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi’n siŵr fod llai ohonoch chi’n gwybod fod yna dros 300 o artistiaid Cymraeg bellach wedi tynnu’r hawl dosbarthu yma oddi wrth PRS, a’i roi i sefydliad o’r enw Y Gynghrair. (Mae o ’chydig bach fwy cymhleth na hynny, ond ’nai ddim smalio mod i’n dallt y manylion.) Yn syml, mae’r cerddorion sydd wedi ymuno â’r sefydliad, wedi rhoi’r hawl i’r Gynghrair yrru’r bil i Radio Cymru am ddarlledu eu caneuon. Os na fydd Radio Cymru’n dod i gytundeb ar bris efo’r Gynghrair, o fis Ionawr ymlaen fydd yr orsaf ddim yn cael chwarae dim o’r caneuon yma.

recordio ar gyfer EP ac albwm gyntaf ac mae’n gobeithio rhyddhau yn y misoedd nesaf. Bydd y trac a gafodd ei recordio gyda Steffan Cravos, ‘Cell’, yn cael ei ail-gymysgu a’i gynnwys ar CD aml gyfrannog label newydd Efa Supertramp, Recordiau Afiach, fydd allan dros y Nadolig. Uchelgais? “Fyswn i’n hoffi cyfrannu at gyflwyno mwy o Gymry Cymraeg i gerddoriaeth electronig. Am ryw reswm dydy’r rhan fwyaf o ddilynwyr cerddoriaeth Cymraeg ddim yn gwrando ar y math yma o gerddoriaeth. Ond yn sicr, yr uchelgais fwyaf yw defnyddio cerddoriaeth electronig fel cyfrwng i helpu amlygu’r iaith i bobl ddi-Gymraeg. Pe bawn i’n cyfrannu’r mymryn lleiaf at hynny buaswn i’n hapus iawn - fel y dywedodd un dyn unwaith, ‘gwnewch y pethau bychain’, ynte.”

Mae’n deg dweud fod S4C wedi ymateb i’r diffyg cerddoriaeth ar eu sianel trwy gomisiynu dwy raglen gerddoriaeth i’w darlledu yn y flwyddyn newydd, a rhoi cyfleoedd i fandiau ar sawl rhaglen gylchgrawn arall. Ond mae’n gwestiwn gen i os ydi penaethiaid Radio Cymru yn sylweddoli llawn ddifrifoldeb y sefyllfa, achos hyd y gwn i does yna ddim cytundeb wedi ei wneud rhyngddynt a’r Gynghrair. A chysidro fod oddeutu 60% o allbwn yr orsaf yn gerddoriaeth, fe fyddai’n ddoeth dod i gytundeb yn fuan iawn, os nad ydynt yn bwriadu llenwi’r amserlen efo dramâu a rhaglenni dogfen. Amser a ddengys be’ ddigwyddith rhwng rŵan a mis Ionawr, dim ond gobeithio y bydd y BBC yn cydnabod, na fydda’ ‘na orsaf radio genedlaethol o gwbl heb y cerddorion yma. A dylai rhoi siâr o’r arian cyhoeddus sy’n ddyledus i’r artistiaid fod yn bwysicach na dim byd arall ar eu hagenda ar hyn o bryd. y-selar.co.uk

17


Lansio Gwobrau’r Selar 2012 Mae’r amser wedi dod unwaith eto i ni lansio gwobrau blynyddol Y Selar ... ac unwaith eto, chi y darllenwyr fydd yn gyfrifol am ddewis yr enillwyr.

Bydd modd i chi, ein darllenwyr ffyddlon, bleidleisio dros enillwyr y categorïau amrywiol, a hynny ar wefan Y Selar, y-selar.com rhwng 1 Rhagfyr hyd at ddiwedd Ionawr. Mae rhywfaint o newidiadau i’r categorïau eleni, a hynny’n adlewyrchu’r ffordd mae’r byd cerddorol yn esblygu mae’n siŵr. Hefyd, am y tro cyntaf eleni, chi fydd yn dewis enillydd teitl ‘Albwm Orau’ 2012.

Dyma’r holl gategorïau, yn ogystal â rhestr enillwyr y gwobrau amrywiol y llynedd. Record Fer orau 2012 (sengl neu EP) Clawr Gorau 2012 (record neu CD) Cân orau 2012 Band newydd gorau 2012 Artist unigol gorau 2012 Digwyddiad byw gorau 2012 Cyflwynydd gorau 2012 Hyrwyddwr gorau 2012 Band byw gorau Albwm orau 2012 Sengl orau 2011: Indigo – Creision Hud EP Gorau 2011: Swimming Limbs – Jen Jeniro Clawr CD gorau 2011: Gathering Dusk – Huw M Cân orau 2011: Wyt ti’n nabod Mr Pei – Y Bandana Band Newydd Gorau 2011: Sŵnami Artist unigol gorau 2011: Al Lewis Digwyddiad Byw gorau 2011: Maes B, Eisteddfod Wrecsam DJ gorau 2011: Lisa Gwilym Hyrwyddwr gorau 2011: Guto Brychan Band gorau 2011: Y Bandana Albwm orau 2011: Troi a Throsi – Yr Ods Bydd modd i chi bleidleisio dros enillwyr 2012 ar wefan Y Selar, www.y-selar.com rhwng 1 Rhagfyr a 30 Ionawr!

18

y-selar.co.uk


Addasu Cân i Gymru

M

ae’n siŵr bod rhan fwyaf o ddarllenwyr Y Selar yn gyfarwydd â chystadleuaeth flynyddol Cân i Gymru S4C. Mae’r gystadleuaeth deledu i ennill arian mawr a thaith i’r Ŵyl Ban Geltaidd am gyfansoddi cân sy’n cipio calon y genedl yn dyddio’n ôl i ddiwedd y 1960au. Dros y blynyddoedd mae clasuron fel Pan Ddaw’r Dydd (Heather Jones), Nid Llwynog oedd yr Haul (Caryl Parry Jones a Bando) a Gwald y Rasta Gwyn (Sobin a’r Smaeliaid) ymysg y caneuon sydd wedi cipio’r wobr. Ond, yn fwy diweddar mae fformat yr holl beth wedi mynd yn fwyfwy stêl, gan ymdebygu i blentyn siawns Eurovision ac X Factor! Ar ôl darlledu CiG llynedd, roedd galwadau o sawl cyfeiriad, gan gynnwys yr enillydd Gai Toms, i newid y gystadleuaeth

er mwyn adlewyrchu a gwobrwyo’r cerddorion hynny sy’n weithgar trwy gydol y flwyddyn. Mae’n ymddangos bod S4C wedi gwrando, gan fod nifer o newidiadau diddorol i’r gystadleuaeth eleni. Yn wahanol i’r drefn arferol bydd y Chwe chyfansoddwr sy’n cyrraedd y rhestr fer eleni’n derbyn £900 i weithio gyda chynhyrchydd a stiwdio o’u dewis i gynhyrchu’r gân derfynol. Mae newid i’r rhai a fydd yn llunio’r rhestr fer hefyd – y panel fydd Gai Toms; cyflwynydd Y Lle, Griff Lynch; y gyflwynwraig Lisa Gwilym; a neb llai na golygydd Y Selar, Gwilym Dwyfor. Y cerddor Sion Llwyd fydd yn cadeirio’r panel. Y geiriosen ar frig y gacen flasus newydd yma yw y bydd enillwyr rhai o gategorïau Gwobrau’r Selar a Gwobrau RAP Radio Cymru hefyd yn derbyn gwobr ariannol fel rhan o’r noson! Bydd enillydd Cân i Gymru yn derbyn £3,500 eleni, gyda £4,000 arall yn cael ei rannu rhwng enillwyr pedwar o enillwyr Gwobrau’r Selar a Gwobrau RAP. Bydd enillwyr categori ‘Band Byw’ a ‘Cân y Flwyddyn’ Y Selar, ac ‘Albwm y Flwyddyn’ a ‘Band a Ddaeth i Amlygrwydd’ gwobrau RAP yn derbyn £1,000 yr un. Y bwriad yw ehangu ar ddigwyddiad blynyddol Cân i Gymru i fod yn seremoni wobrwyo ar gyfer y Sîn Roc Gymraeg. “Mae’r newidiadau eleni yn rhai cyffrous fydd yn ymestyn dylanwad y gystadleuaeth y tu hwnt i’r digwyddiad blynyddol gyda chydweithrediad Y Selar a BBC Radio Cymru” meddai Gaynor Davies, Comisiynydd Rhaglenni S4C. “Y bwriad ydi cefnogi artistiaid sy’n gweithio gydol y flwyddyn ar yr un pryd ag annog caneuon a chyfansoddwyr newydd i drio am wobr flynyddol Cân i Gymru.”

Y dyddiad cau i gyflwyno cais yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2013 yw dydd Llun 10 Rhagfyr, 5.30yh. Mae mwy o wybodaeth ar y wefan s4c.co.uk/canigymru y-selar.co.uk

19


20

adolygiadau

y-selar.co.uk

Yr Hunllef Berffaith Y Rwtch

‘Yr Hunllef Berffaith’ yw sengl gyntaf y band ifanc o Bontypridd. Mae’r gân yn enghraifft wych o’u set acwstig byw, gyda harmoneiddio hyfryd yn amlwg. Mae’r trac yn awgrymu fod y band yn ychwanegiad cyffrous i’r sin acwstig yma yng Nghymru, sydd yn ôl pob golwg yn mynd o nerth i nerth yn ddiweddar. Dwi’n teimlo fod hon yn ymdrech gyntaf dda iawn gan y band, a da hefyd yw gweld band yn dod o ardal Pontypridd a’r Cymoedd. Wedi chwarae mewn nifer o wyliau cerddorol mawr y Sin dros yr haf, fel gigs Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod a Gŵyl Bedroc, mae sôn fod gan y ddeuawd EP ar y gweill, felly dwi’n edrych ymlaen at glywed honno. Mae’r trac ar gael i’w lawrlwytho am ddim o’u tudalen ‘tumblr’. http://yrwtch.tumblr.com 6/10 Owain Gruffudd Y Record Las Recordiau Lliwgar

Wyth cân, pedwar artist, un albwm wych. Ar ôl y gwychbeth ag oedd y Record Goch doeddwn i’n disgwyl dim llai gan ail brosiect y triawd gweithgar sy’n ymroi amser ac arian tuag at y llafur cariad hwn, ac yn wir, mae’r Record Las gystal bob tamaid. Mae’r albwm yn cychwyn mor felys a byrlymus a 7Up gyda dwy gân bop berffaith gan Ymarfer Corff, prosiect newydd Euros Childs a Pete Richards o’r Gorkys gynt. Yna awn i fyd arbrofol

a llesmeiriol Llwybr AID O Llaethog gyda RHRAND GW chyfraniadau lleisiol di-hafal gan Geraint Jarman a Rufus Mufasa. O hynny cawn fynd am dro i fyd H Hawkline gyda’i riffs bachog a’i alawon sy’n ymylu ar fod yn werinol weithiau a jysd yn od dro arall, ond mewn ffordd dda. Ac yna, i glymu’r parsel yn dwt mae cerddoriaeth Ifan Dafydd efo llais Alys Williams, cyfuniad sydd wirioneddol fel rhuban sidan, neu win coch. Gyda churiadau annisgwyl, cyfeiliant piano a chlipiau llais hiraethus , hunllefus ar brydiau, maen nhw’n gorffen yr albwm hon mewn steil. Mae’r Record Las wirioneddol yn dangos safon ac amrywiaeth ein cerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Ffwwwwor. 9/10 Casia Wiliam Eira Sw ˆ nami

O’r agoriad mae curiad y drwm bas a riff egnïol y brif gitâr yn dweud yn syth wrth y gwrandäwr fod ‘na anthem arall ar y ffordd gan y bois o Ddolgellau. Yn dilyn traciau fel ‘Ar Goll’ a ‘Mynd a Dod’ efallai y bydd rhai’n poeni fod y band wedi cyrraedd y brig yn rhy fuan, ond unwaith eto, mae’r trac newydd gan Sŵnami yn eich sugno i mewn o’r cychwyn i fyd o alawon y byddwch yn eu canu am ddyddiau wedyn. Wrth i’r gân fynd yn ei blaen, mae’r côr o riffs gitâr anghyson ac amrywiol yn cael eu cario gan bresenoldeb a chysondeb un o batrymau drymiau mwyaf pwerus i’r SRG ei glywed ers sbel. Os nad ydy hyn yn ddigon mae’r gân wedyn yn eich codi chi fyny a’ch taflu nôl i’r llawr wrth i’r brêc cerddorol gicio i mewn, lle mae’r band rili yn cael dangos pa mor ddawnus yn gerddorol ydynt.

Pwy a ŵyr beth a ddaw o Sŵnami yn 2013, gyda thraciau yn cael ei chwarae ar Radio 1 yn barod, oes ‘na rywbeth gwell eto y gallent ei daflu atom ni dros y flwyddyn nesaf? 8/10 Cai Morgan Stuntman Hud

Wedi blwyddyn brysur o ryddhau sengl bob mis yn 2011, fyddech chi’n meddwl y byddai Hud (Creision Hud gynt) yn gwneud y mwyaf o gael hoe fach – ond na, dyma nhw yn eu holau, wedi bwyta’r creision i gyd, ac yn barod i’n swyno gyda’u EP newydd sbon, Stuntman. Mae’n rhwydd adnabod caneuon Hud o’u sain nodweddiadol, sy’n gyfuniad unigryw o roc-seicadelig trwm, a’r melodïau sy’n eich gorfodi i eistedd a gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i ddweud – a does dim yn wahanol yn yr EP yma. Maent yn dangos unwaith eto fod ganddynt y ddawn ryfeddol i ryddhau caneuon gwirioneddol dda, a gwneud hynny’n gyson. Mae’r trac gyntaf, ‘Stuntman’, yn eich tynnu i stori’r stuntman, a’r riffs cyflym, chwim yn eich gwneud chi’n rhan o’i fywyd peryglus, cyffrous – ac mae’r modd y llwydda Hud i greu caneuon dychmygol, storïol eu naws yn fy rhyfeddu bob tro. Mae ‘Tawela’r Cyfan’, fel byddech yn disgwyl, yn dipyn arafach na’r caneuon eraill, ond yr un mor hypnotig, a hefyd yn eich cyfareddu a’ch denu i wrando. Efallai byddai hi wedi bod yn neis gweld newid cyfeiriad, neu rywbeth bach mwy arbrofol wrthynt, yn enwedig wedi’r newid enw, ond ar y cyfan, mae’r EP yn cynnwys chwe chân gref, a pham newid fformiwla sy’n amlwg yn gweithio? 7/10 Miriam Elin Jones


adolygiadau

y-selar.co.uk

Nos Somnia Violas

Yn gyntaf, dyma un o weithiau celf gorau’r flwyddyn, ac mae’r diolch am hynny’n mynd i Owain Griffiths ac Aled ‘Arth’ Cummins. Crefftwyr. Yn ei chyfarwydd, dyma gampwaith gan yr amryddawn a thalentog, Violas. Fe aiff nodyn cyntaf ‘Moelni’ a ni i fyd hollol wahanol, gydag atsain T.H. yn adrodd ei soned enwog yn ddechrau anhygoel i gasgliad anhygoel, yn ogystal â bod yn un o elfennau cryfaf yr EP. Meddyliaf am y cyfanwaith hwn fel llyfr, un stori fawr, stori sy’n cynyddu mewn cynnwrf reit at y nodyn olaf. Mae fel bod rhywbeth yn cael ei adeiladu, bob yn floc. Mae’r stori’n dechrau’n un hamddenol braf, ac yn gorffen yn eithaf trwm, ond mae diweddglo’r EP yn ein tywys allan o fyd celfyddydol y Violas yn gampweithiol. Teimlaf ryw ias rewllyd, aeafol yn llifo trwyddi; sydd yn ychwanegu gwead at yr EP yn ei chyfanrwydd. Ar y llaw arall, daw elfen o gynhesrwydd trwodd mewn traciau fel ‘Keeping me from sleep’. Datblygiad enfawr o’r EP gynt, Hwylio//Sailing, mae yma newid mawr yn y sŵn yn ogystal ag aeddfedrwydd yn Nos Somnia. Dyma’n syml ddarn o gelf, corcar, ac fe gefais fwynhad yn gwrando arni. Edrych ymlaen at weld Violas yn rhyddhau mwy o gynnyrch yn y dyfodol! 8/10 Ifan Prys Edwards

Ymbelydredd Gwenno

Does yna ddim prinder artistiaid unigol benywaidd sydd yn gallu chwarae gitâr a chanu caneuon bach neis yn

Paid deud (bo fi’n rhy hwyr) Sarah Wynn + DJ Leighton

y sin, ond efallai fod yna brinder genod sydd yn barod i wneud rhywbeth ychydig bach yn wahanol a dangos ychydig o agwedd yn eu miwsig. Que Gwenno. Mae riffs syml y synths ar y trac agoriadol, ‘Ymbelydredd’ a’r trac olaf, ‘Despenser St’ yn eich hudo’n raddol ac yn priodi’n hyfryd gyda llais swynol di ymdrech Gwenno. Ac mae’r baseline ar ‘Ymbelydredd’ yn fy atgoffa o Llwybr Llaethog ar eu gorau. Mae yna rywbeth amrwd iawn a budur am safon y recordio a’r cynhyrchu sy’n gweddu’n berffaith i deimlad dinesig y caneuon. Wedi’r cwbl, does dim angen sglein a pholish stiwdio recordio orau’r wlad wrth ganu am smygu yn y parc a cherdded heibio i buteiniaid ar lân yr afon. A’r teimlad dinesig hwnnw sy’n clymu’r casgliad hwn at ei gilydd. Er mai dim ond EP pum trac sydd yma mae’n teimlo fel albwm gysyniadol bron a bod! Felly, dyma fi’n dweud am y tro cyntaf – dwi’n licio Ymbelydredd. 8/10 Gwilym Dwyfor

Dro ar ôl tro mae’n codi mewn caneuon pop – y thema o ddianc i amser neu le gwahanol. “Dwi isio byw yn y saithdegau”, canodd Estella; “Take me back to the Paradise City” oedd cri Guns N’ Roses. Fy mhwynt i ydi, y sin trance yn Ibiza yn yr 1990au yw lle ac amser ‘Paid deud (bo fi’n rhy hwyr)’ gan Sarah Wynn a DJ Leighton. Dim byd cyffrous, dim byd gwreiddiol a dim byd i gythruddo neb. Dim ond ychydig o trance diniwed gyda geiriau diniwed... a chromfachau diangen yn y teitl. 5/10 Ciron Gruffydd Anodd Gadael Mattoidz

Braf i’w gweld y rocars o Sir Benfro, Mattoidz, yn ôl gyda’u hail sengl eleni wedi bwlch o dair blynedd ers eu cynnyrch diwethaf. Dwi’n dweud ‘rocars’ ond mae prif drac y sengl yn mynd â ni nôl i sŵn meddalach dyddiau cynnar y band. Dyw hynny ddim o reidrwydd yn beth drwg, ac mae’n drac digon bachog gyda chytgan cofiadwy sy’n siŵr o gael digon o airplay. Mae’r ail drac, ‘Difaterwch’, yn dod o albwm diwethaf y grŵp, Llygaid Cau a Dilyn Trefn. Mae hon yn wahanol i’r Mattoidz rydan ni’n ei adnabod – gydag elfennau electronig a Rhys yn cymryd yr awenau fel prif leisydd. Diddorol, er nad yw’n hynod drawiadol efallai. 6/10 Owain Schiavone

21


22

y-selar.co.uk

Teyrnged Tonfedd Oren Mae’r grŵp electroneg Tonfedd Oren wedi rhyddhau cân deyrnged i’r mathemategydd o Fôn, William Jones. Jones oedd yn gyfrifol am gyflwyno’r symbol π, sef y llythyren Roegaidd ‘Pi’, i’r byd. Bydd y darllenwyr dysgedig yn ein mysg yn gwybod wrth gwrs mai hwn yw’r gymhareb o gylchedd cylch i’w ddiamedr yn ôl geometreg Ewclidaidd! Ta waeth am hynny, mae’r gân ‘Pi’ yn ymgais gan y grŵp i ofyn y cwestiwn “I faint o lefydd degol fedrwch chi adrodd pi... yn y Gymraeg?”. “Roedden ni’n meddwl y bysa cân yn ffordd hwyliog i gael siaradwyr Cymraeg i feddwl am yr iaith fel cyfrwng ar gyfer gwyddoniaeth a mathemateg, yn ogystal â chelfyddydau a bywyd pob dydd”

meddai Feydeau, y ci dychmygol Ffrengig sy’n arwain Tonfedd Oren. Mae’r grŵp hefyd yn gweithio ar drac newydd yn seiliedig ar enwau Cymraeg y planedau, “Rydym wedi blino gweld geiriau fel Finws a Neptiwn mewn erthyglau am seryddiaeth, pan mae enwau Cymraeg gwreiddiol yn bod” chwyrnodd Feydeau. Yn y cyfamser bydd rhaid i chi setlo ar ddysgu adrodd Pi i 26 o leoedd mae’r trac ar gael i’w lawr lwytho o www.soundcloud.com/Tonfedd-oren/ pi Ar ôl rhyddhau sengl finyl ddiwedd yr haf, mae’r grŵp wedi dweud wrth Y Selar nad oes ganddyn nhw gynlluniau i ryddhau deunydd pellach yn fuan, ond bydd caneuon newydd yn ymddangos ar eu safle soundcloud.

newyddion

Meistri Ikea Grŵp Cymreig sydd wedi cael ‘chydig o hwyl arni’n ddiweddar ydy Master sin France. Mae cân ganddyn nhw wedi ei defnyddio ar hysbyseb cwmni Ikea fydd yn cael ei redeg ar-lein, ar y teledu ac mewn sinemâu am 6 wythnos. Roedd Ikea wedi gofyn i’r grŵp recordio fersiwn o gân ‘Playin’ with my friends’ gan BB King ar ôl mwynhau caneuon eraill MiF. “Nath ad agency Ikea ffonio a gofyn i ni neud cover o ‘Playin’ with my friends’” meddai Mathew Sayer o’r grŵp wrth Y Selar. “Odda nhw’n licio be odda ni di neud efo’r cover. Wedyn, ar ôl neud final edits bora dydd Gwener oedd yr ad ar rhwng X Factor nos Sadwrn.” Dyna be ydy llwyddiant dros nos!

Sen Segur yn serennu Sen Segur oedd sêr disgleiriaf taith ddiweddar Nyth yn ôl un o’r trefnwyr Gwyn Eiddior. Wrth siarad â’r Selar dywedodd Gwyn fod y daith gyntaf gan y criw sydd wedi bod yn cynnal nosweithiau rheolaidd yn y Gwdihŵ yng Nghaerdydd yn ‘llwyddiant ysgubol’. Sen Segur oedd yr unig grŵp i chwarae ar bob un o’r pum noson wrth i’r daith ymweld â Llundain, Manceinion, Bangor, Aberystwyth a Chaerdydd ac maen nhw’n dechrau selio eu lle fel un o grwpiau gorau’r sin. “Dwi’n meddwl bod eu datblygiad nhw wrth i’r daith fynd ymlaen wedi bod yn anhygoel.” “Un o’r uchafbwyntiau oedd eu gweld yn soundcheckio ym Mangor – roeddet ti’n cael y teimlad bod nhw wedi aeddfedu ac yn barod i headlinio gigs, ac fe wnaethon nhw hynny ar y ddwy noson olaf.” Wiwerod boliog Efallai bod Sen Segur wedi aeddfedu’n gerddorol, mae’n ymddangos bod yr hogiau yn dal i fod â’u pennau yn y gwynt, fel yr eglura Gwyn wrth sôn am un o droeon trwstan y daith.


newyddion

y-selar.co.uk

Brwydr y Bandiau C2 2013 Mae cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru / C2 Radio Cymru yn ôl, ac yn chwilio am fandiau ac artistiaid ifanc 16-21 oed i gystadlu. Pwy? Gall bandiau neu artistiaid o unrhyw arddull gystadlu, ond rhaid i’r unigolyn neu o leiaf hanner aelodau grŵp fod yn 21 mlwydd oed neu iau, a rhaid i bob unigolyn fod dros 16 mlwydd oed a heb ryddhau albwm, sengl neu EP yn fasnachol. Y wobr Mae gwobr deilwng i’r artistiaid buddugol unwaith eto eleni, ac yn cynnwys: * cytundeb i recordio

Sesiwn i C2 BBC Radio Cymru * perfformio ym Maes B, Eisteddfod Genedlaethol 2013 * erthygl tudalen lawn yn un o rifynnau’r cylchgrawn ‘Y Selar’ * sesiwn lluniau hanner diwrnod efo ffotograffydd proffesiynol * cynnig i chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru

Pryd a sut? Bydd rowndiau cyntaf y gystadleuaeth yn cael eu cynnal cyn Chwefror 24 2013, ac mae angen i unrhyw un sydd am gystadlu gofrestru â’u Menter Iaith leol cyn gynted â phosib. Mae rhestr lawn o Fentrau Iaith Cymru ar eu gwefan www.mentrau-iaith.com. Bydd Radio Cymru’n darlledu’r rowndiau cynderfynol ar 13, 14 a 15 Mawrth 2013, a’r rownd derfynol ar 10 Ebrill 2013.

Fformiwla lwyddiannus Mae’r rapiwr Mr Phormula (Ed Holden – Genod Droog, Pep le Pew) wedi cael tipyn o hydref. Yn gyntaf, roedd yn rhan o raglen ddogfen Radio 1 o’r enw ‘Rap Brittania’ lle cafodd gyfle i recordio anthem rap gyda rapwyr o wahanol rannau o Brydain. Roedd fideo’r gân yma’n hynod boblogaidd – gyda thros 300,000 y ei wylio yn yr wythnos gyntaf yn unig! Arweiniodd hyn at wahoddiad i berfformio’r anthem fel rhan o noson gwobrau enwog MOBO yn Lerpwl ar 3 Tachwedd – chwara teg. Mae Mr Phormula yn gobeithio rhyddhau EP newydd yn ddigidol cyn diwedd Tachwedd.

Newydd

i’r Nadolig!

“Roedd angen i ni wneud detour i Benmachno wrth fynd o Fanceinion i Fangor, er mwyn i bois Sen Segur godi ‘chydig o stwff.” “Ar ôl cyrraedd tŷ’r hogia, fe ddaeth hi i’r amlwg eu bod nhw wedi gadael drws y tŷ ar agor ers i ni ddechrau’r daith dridiau ynghynt – hynny ydy, roedd y drws led y pen ar agor! Yn ffodus, dwi’m yn meddwl bod unrhyw un wedi bod i mewn yna...ar wahân i ambell wiwer yn chwilio am fwyd o bosib!”

£14.95

Mwy o deithiau’n bosib Yn ôl Gwyn, mae criw Nyth wedi dysgu tipyn o’r arbrawf ac mae’r awydd yno i drefnu teithiau eto yn y dyfodol. “Gobeithio gallwn ni drefnu taith arall, ac ella y gallai o ddod yn draddodiad ac yn rhywbeth blynyddol bob hydref.” “Roedd o’n waith caled ond hefyd yn lot o hwyl wrth i ni gyd deithio efo’n gilydd, a dwi’n meddwl bod pawb wedi dod yn reit agos erbyn y diwedd.” “I ni roedd o’n arbrawf diddorol ac roedden ni isho rhoi’r profiad i fandiau Cymraeg deithio a gweld sut mae hi i fandiau tu allan i Gymru.”

£8.95

£9.95

www.ylolfa.com

23


Sêl ar ôl gatalog

Hwre! Hwre! Mae’r teitlau canlynol ar gynnig arbennig b a c H w c H fa r g e n !

Rasal•Gwymon•copa £4.99

£4.99

£4.99

£4.99

£2.50

£1.50

£4.99

£1.50

£2.99

£2.99

£2.99

£1.50

POST YN RHAD AC AM DDIM WRTH ARCHEBU DRWY www.sainwales.com

CD newydd :

Fflur Dafydd Ffydd, Gobaith, Cariad £9.99

Sengl ddigidol newydd : Sw ˆ nami Mynd a dod / Eira

Sengl ddigidol newydd :

Y Bandana Heno yn yr Anglesey / Geiban

www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 ffacs 01286 831.497 sain@sainwales.com


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.