__MAIN_TEXT__

Page 1

Rhif 47 | Tachwedd | 2016

Cpt.

Smith y-selar.co.uk CaStLeS | Adwaith | Lansio Gwobrau’r Selar

1


#apffrydio – gwasanaeth yn fyw! Y gwasanaeth ffrydio newydd yn benodol ar gyfer cerddoriaeth gan labeli Cymru – ap ar gyfer dyfeisiadau iOS ac Android ynghyd â fersiwn gwe tanysgrifiad misol Sylfaenol £6 Premiwm £9 mis o dreialu am ddim Cofrestrwch ar y wefan am fis o dreial am ddim, yna lawrlwythwch yr ap i’ch dyfais o’r App Store neu’r PlayStore

#chwyldroffrydio #tâlteg #cefnogiartistiaid twitter.com/aptoncymru facebook.com/aptoncymru instagram.com/aptoncymru www.apton.cymru apton@apton.cymru

Catalog Sain, Rasal, Copa, Gwymon, Fflach, Yws Gwynedd ac Ikaching ar gael – gyda mwy i ddilyn yn yr wythnosau nesaf


y Selar

cynnwys

RHIF 47 | TACHWEDD | 2016

Golygyddol 2016, y flwyddyn pan ddysgodd pawb pwy oedd Cymru ond anghofiodd y Cymry pwy oedd pawb. Bydd hon, heb os, yn flwyddyn fydd yn aros yn y cof am amrywiol resymau, ond sut fydd hanes yn cofnodi 2016 yr SRG tybed? Fel un o fandiau mwyaf gweithgar y degawd diwethaf, dwi’n eithaf siŵr y bydd sylw i’r Bandana a’u penderfyniad i roi’r gorau iddi. Dwi’n amau hefyd y bydd lle go amlwg i’r noson gofiadwy honno ym mhafiliwn y Fenni. Ond fel y dywedodd Dave Datblygu wrth Cpt. Smith yn ddiweddar, “dydy pobl ddim yn gwerthfawrogi pethau am ugain mlynedd”, felly pwy a ŵyr pwy neu beth fydd yr uchafbwyntiau wrth edrych yn ôl. Dwi’n casáu’r camddefnydd o’r ymadrodd “creu hanes” achos mae popeth yn “creu hanes”! Gig bach ddinod mewn ystafell dywyll yng nghefn tafarn, demo amrwd wedi ei recordio mewn garej oer, Maes B cyntaf rhywun... dyna uchafbwyntiau 2016 i mi. Gwilym Dwyfor

4

10

CaStLeS

4

Apton - Tarddiad y Ffrwd

8

Adwaith

10

Cpt Smith

12

Selar yn y Stiwdio

16

Gigio gyda’r Selar

18

Lansio Gwobrau’r Selar

19

Adolygiadau

20

Llun clawr: Betsan Haf Evans

12

GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

@y_selar

DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

y-selar.co.uk

MARCHNATA Ellen Hywel (hysbysebionyselar@gmail.com) CYFRANWYR Owain Gruffudd, Ifan Prys, Bethan Williams, Elain Llwyd, Gethin Griffiths, Rhys Tomos, Ceri Phillips, Elan Evans, Lois Gwenllian, Miriam Elin Jones, Leigh Jones, Ciron Gruffydd

16

facebook.com/cylchgrawnyselar

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.


CODI CESTYLL

Efallai fod CaStLeS wedi bod o gwmpas ers blynyddoedd (gweld be’ nesh i’n fanna?) ond does dim dwywaith iddynt ddod yn fwyfwy i’r amlwg yn ddiweddar, yn enwedig ers iddynt fod yn rhan o gynllun Gorwelion 2016. Gydag albwm cyntaf y band seicedelig o ochrau Llanrug yn cael ei ryddhau’r mis hwn, pa adeg well am sgwrs?

4

y-selar.co.uk


N

id pob band sydd yn cynnal ymarferion mewn carafan statig ar lethrau Eryri, ond dyna’n union lle’r oedd Calvin Thomas a’r brodyr, Dion a Cynyr Hamer pan gafodd Y Selar gyfle i holi hogia’ CaStLeS am eu halbwm newydd. Caiff Fforesteering ei ryddhau ar y 18 Tachwedd a rhaid oedd dechrau trwy holi beth y gallwn ei ddisgwyl ar record hir gyntaf y band. “Ma’ ’na amball drac fydd pobl yn gyfarwydd â nhw’n barod,” eglura Dion. “Fydd ‘Foresteering’ yna, oedd honna allan flwyddyn yma, ac ma’r traciau nathon ni i sesiwn C2 hefyd. Yna, ma’ ’na masters newydd o ‘Amcanu’, nath hwnna gael ei ryddhau fel sengl a hefyd ‘Argau’ ac ‘Ar Agor’, fersiynau newydd o’r rheiny. Mae o’n ddilyniant o’n EP cyntaf ni o ran thema.” Er bod CaStLeS yn bodoli ers 2008, dwy sengl yn 2015 oedd y deunydd cyntaf i’r band ei ryddhau ac maent wedi bod yn hynod weithgar ers hynny. “’Da ni wedi gweithio mwy ar ‘Argau’ ac ‘Ar Agor’,” eglura Cynyr. “’Da ni wedi datblygu a newid dipyn dros y flwyddyn felly dyma ni’n meddwl rhoi go arall iddyn nhw a’u rhoi nhw ar yr albwm, ma’ nhw’n swnio ’chydig gwell rŵan ’da ni’n meddwl.” Mae’r garafan yn dyblu, nid yn unig fel gofod ymarfer, ond fel stiwdio recordio i CaStLeS, gyda’r tri aelod yn recordio’r rhan helaeth o’r deunydd eu hunain. “Bob dim heblaw’r mastering sydd wedi cael ei wneud yn Hafod Mastering,” cadarnha Cynyr. FFORMIWLA FFORESTEERING Gyda golygfeydd godidog, mae’r garafan yng Ngheunant ger Llanrug yn cynnig y lleoliad a’r awyrgylch perffaith ar gyfer creu cerddoriaeth. “Ma’ ’na dawelwch i’w gal yma,” meddai Dion. “’Da ni’n edrach i lawr ar Gastall Caernarfon, i lawr ar y dre, felly ma’ ’na lot o ysbrydoliaeth wedi dod o’r lleoliad.” Mae’r holl broses greu yn fformiwla sydd eisoes wedi gweithio i CaStLeS ar yr EP, PartDepart, a gafodd ei rhyddhau tuag at ddiwedd 2015, fel yr eglura Dion. “Mae o’i gyd wedi dechra’ o’r EP cynta ’na ac wedi dilyn o hynny. ’Da ni wedi gosod yr albwm fel bod pob cân yn dilyn o’r frawddeg gynta’ i’r frawddeg ola’ felly ma’ ’na ryw stori fach yn mynd trwy’r albwm. ’Da ni’n defnyddio’r lleoliad a natur fel metaffor mewn rhai llefydd hefyd.”

“Ma’ ’na lot o ysbrydoliaeth wedi dod o’r lleoliad.” Lluniau: Kristina Banholzer

y-selar.co.uk

5


Daw ambell drac sydd ar Fforesteering yn wreiddiol o sesiwn C2 y band ac mae’n amlwg fod y sesiwn honno wedi bod yn garreg filltir bwysig iddynt, nid yn unig yn esgor ar draciau ar gyfer eu record hir gyntaf ond yn denu sylw cynllun Gorwelion hefyd. “Gafon ni ymateb da iawn i’r sesiwn, felly dwi’n siŵr bod honno a’r EP wedi helpu ni lot,” meddai Dion. “Ma’ ’di bod yn brilliant flwyddyn yma, ma’ ’di pasio mor gyflym efo Gorwelion.” Cytuna Cynyr, “does ’na ddim llawar i fynd ond ’da ni wedi dysgu llwyth. ’Da ni wedi mynd fyny lefal fyswn i’n deud, ma’ nhw ’di helpu lot.” Gyda Gorwelion yn ei drydedd flwyddyn bellach, yr hyn sy’n gynyddol amlwg yw’r ffaith mai’r bandiau ac artistiaid sydd yn gweithio’n galed eu hunain ochr yn ochr â chymorth y cynllun yw’r rhai sy’n elwa. Does dim dwywaith fod CaStLeS yn un o lwyddiannau’r prosiect yn hynny o beth ac mae’n braf gweld Calvin yn cydnabod y berthynas ddwy ffordd. “Give and take ydi o ’de, ma’n rhaid i chdi roi rwbath i mewn i gal rwbath yn ôl.” “Dwi’m yn meddwl bysa fo’n gweithio heb i chdi weithio’n galad hefyd,” cytuna Dion. “Trwy wneud hynny gafon ni betha fel Reading a Leeds. Ddoth hwnnw allan o nunlla ond fysa fo heb fod yn bosib oni bai am y petha’ oeddan ni wedi neud efo Gorwelion cyn hynny.” Chwarae ar lwyfan BBC Introducing yn Reading a Leeds oedd un o uchafbwyntiau’r haf i’r hogia’, er i hynny olygu bron i 800 milltir o deithio mewn un penwythnos! “Oedd o reit dda doedd” cofia Calvin. “Oeddan ni’n Leeds nos Wenar, Caerdydd nos Sadwrn yn yr Hub Festival a fyny i Leeds ar y dydd Sul.” Creodd y band o

6

y-selar.co.uk

ogledd Cymru gryn argraff dros y ffin hefyd, cymaint felly nes i fersiwn byw o ‘Amcanu’ gael ei chwarae ar Radio 1 fel rhan o uchafbwyntiau’r orsaf o’r ŵyl. SWINGERS CLUB CERDDOROL Mae CaStLeS yn llawn haeddu eu llwyddiant diweddar ond wnaeth hwnnw ddim dod dros nos. “Ma’ ’na lot o bobl ddim yn dallt ein bod ni wedi bod o gwmpas mor hir,” eglura Dion. “Dwi a Cynyr wedi bod yn gweithio ar brosiectau ers cyn 2008 mashwr, ac mae o wedi morphio mewn i CaStLeS ers i Calvin ymuno â’r band.” Bydd Calvin yn gyfarwydd i rai fel cyn fasydd y chwedlonol, Derwyddon Dr Gonzo, ac mae bod mewn band llai o ran niferoedd yn dipyn o newid byd iddo! “Ma’n haws efo tri ohono’ ni, dim deg” meddai. “Ma’n braf gneud rwbath hollol wahanol, yn neis cal gneud stwff meddal am newid. Dim mewn ffordd ddrwg, ond o’n i wastad yn teimlo mai wbath fel’ma o’n i isho’i neud, ond dwi’n falch mod i wedi gneud Derwyddon achos oedd o’n brofiad brilliant.” Er bod newid o ddau i dri aelod wedi bod yn gam pwysig i CaStLeS mae Dion yn credu bod rheswm arall dros y datblygiad diweddar hefyd.

“Ma’ ’na lot o bobl ddim yn dallt ein bod ni wedi bod o gwmpas mor hir.”


“Ar y pryd, o’n i a Cynyr yn chwara i We Are Animal a nath pethau ddechra’ ffrwydro, gafon ni gigs yn Ewrop a South by Southwest yn Texas. Oeddan ni’n brysur iawn efo nhw felly odd ein prosiect bach ni, CaStLeS, ar y droed gefn am gyfnod. Ond oeddan ni dal yn sgwennu, a dal i gigio hefyd, gigs bach i drio cael y sŵn yn iawn. Oedd teithio efo We Are Animal yn lurning curve i ni dwi’n meddwl a ’da ni’n gallu ei roi o mewn i CaStLeS rŵan.” Does fawr o syndod fod CaStLeS yn cynnwys cyn aelodau o fandiau eraill o ystyried deinameg diddorol bandiau’r ardal. Gyda sawl unigolyn yn codi ei ben mewn mwy nag un prosiect fe ellid llunio rhyw fath o goeden deulu gymhleth ar gyfer bandiau o gyffiniau Llanrug a Llanberis. “Ma’ ’na cyn lleiad o bobl o gwmpas, mae o fatha ryw swingers club cerddorol,” meddai Dion! O ystyried hynny fe fyddai rhywun yn tybio fod sin fyw cymharol gref yn yr ardal ond yn ôl Calvin, canfod eu hunain yn gorfod teithio ar gyfer gigs y mae CaStLeS. “Ochra’ Wrecsam a ballu fwy na dim byd, a Chaerdydd, does ’na ddim byd rownd ffor’ma.” “Ella mai ni sydd ddim yn edrach yn iawn,” meddai Dion, “ond tydi’r llefydd oeddan ni’n chwara ynddyn nhw pan oeddan ni’n cychwyn allan ddim yn bodoli ddim mwy neu tydyn nhw ddim yn gneud gigs ddim mwy. Os oes ’na sin lleol, ’da ni wedi colli twtsh efo hi, ond ma’ pawb yn nabod pawb ac er bod ni ddim yn chwara yn aml ma’ bandia rownd ffor’ hyn yn nabod ei gilydd ac yn cadw mewn cysylltiad.” GORWELION YN CREU SIN Gellid dadlau fod bod yn un o artistiaid Gorwelion fel bod yn rhan o sin o ryw fath ac mae ambell i fand ar y cynllun wedi creu argraff ar Calvin. “Dwi’n licio Ysgol Sul, hogia’ da ’fyd. Ac Anelog, ’da ni wedi gneud dipyn efo nhw.” “Ac ma’n siŵr mai Fleur de Lys s’gynnon ni fwya’ yn gyffredin efo nhw o ran mai nhw sydd fwya’ lleol i ni o blith yr artistiaid eraill,” ychwanega Dion. Un o rinweddau cynllun Gorwelion wrth gwrs yw ei fod yn tynnu gwahanol fathau o gerddoriaeth at ei gilydd ond yr hyn sy’n ddiddorol am CaStLeS yw bod eu cerddoriaeth hwy’n amrywio’n helaeth o un gân i’r llall ac yn cwmpasu sawl arddull cerddorol pryn bynnag, fel yr eglura Dion. “Yn ein sioe byw ni er enghraifft, ma’r caneuon yn wahanol i’r recordings. Gan ein bod ni’n 3-piece ti’n gorfod newid sut ma’ nhw’n cael ei chwara’ ’chydig bach yn fyw. Ma’ lot o’n caneuon ni’n wahanol genre i’r llall hefyd.” Bydd cyfle i glywed yr amrywiaeth hwnnw wrth i’r band lansio Fforesteering yn swyddogol yn y Moon Club yng Nghaerdydd ar y 15 Tachwedd. Ac fel pe bai rhyddhau a hyrwyddo’r albwm cyntaf ddim yn ddigon, fe fydd Dion, Cynyr a Calvin yn brysur dros y misoedd i ddod yn rhyddhau ail albwm hefyd, yn ddwyieithog unwaith eto. “Ma’ Fforesteering reit drwm o ran y Gymraeg ac ar

“Ma’n rhaid i chdi roi rwbath i mewn i gal rwbath yn ôl.”

yr un nesa fydd ’na ryw dri neu bedwar trac Cymraeg,” amcangyfra Dion. “Fydd yr albwm nesa’n un hirach hefyd felly fyddwn ni’n dechra recordio mis Rhagfyr yma dwi’n meddwl.” “Nathon ni sôn yn wreiddiol am ryddhau dau albwm flwyddyn yma. Oedd Fforesteering i fod allan yn yr haf ond gafodd o’i wthio nôl gan ein bod ni wedi cal amball gig reit fawr tua’r un pryd. Felly ma’r un yma’n dod allan ym mis Tachwedd rŵan a fydd rhaid i’r nesa’ gal ei wthio nôl i flwyddyn nesa’. Ma’ bob dim wedi gorfod cael ei shifftio ’chydig ond am reswm da mewn ffordd.” Mae’n braf gweld band sydd wedi profi llwyddiant tu hwnt i gigs a gwyliau Cymraeg yn dewis rhyddhau rhan helaeth o’u deunydd trwy gyfrwng yr iaith. Ond gyda’r caneuon Cymraeg yn cael derbyniad cystal does fawr o syndod efallai. “Yn Leeds Festival, ‘Amcanu’ ath i lawr ora’” eglura Calvin, cyn i Dion adrodd hanes o gig diweddar yn Wrecsam. “Oeddan ni’n siarad ar ôl y gig efo rywun oedd yn y crowd, rywun oedd yn gneud cerddoriaeth ei hun. Oedd o’n siarad ’chydig bach o Gymraeg ond yn Saesneg oedd o’n sgwennu. Ond oedd o’n deud ar ôl ein gweld ni ei fod o am drio sgwennu’n Gymraeg. Dwi’m yn meddwl fod o’n gneud gwahaniath deud gwir pa iaith.” Rhyddhau un albwm, un arall ar y gweill, chwarae gwyliau mawr Lloegr a chenhadu’r iaith yn Wrecsam, oes yna unrhyw beth all CaStLeS ddim ei wneud?

y-selar.co.uk

7


Tarddiad y ffrwd Ym mis Hydref fe welwyd datblygiad arwyddocaol i’r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg wrth lansio cyfrwng newydd ar gyfer cyhoeddi cerddoriaeth. Mae tipyn o sôn wedi bod am lwyfan ffrydio newydd label Sain, Apton. Mae’n gam naturiol wrth i werthiant CDs grebachu, ond mae llawer o’r farn ei fod yn llawer rhy hwyr gyda cherddoriaeth Gymraeg yn gyffredin ar lwyfannau fel Spotify, iTunes ac eraill ers blynyddoedd bellach. Boed Apton yn ffynnu neu’n fflop, mae’n gynllun diddorol ac mae’n dda gweld Sain yn mentro gyda rhywbeth newydd yn hytrach na derbyn yr anochel. Bu’r Selar yn sgwrsio â Robin Llwyd, swyddog artistiaid i Labeli Rasal, Gwymon a Copa i ddysgu mwy am y fenter.

“Ar ôl neud ymchwil gyda Phrifysgol Bangor dros dair blynedd yn ôl, roedd hi’n amlwg mai drwy ffrydio fyddai y rhan fwyaf o bobl yn gwrando ar gerddoriaeth yn y dyfodol” meddai Robin wrth egluro’r rheswm dros ddatblygu’r gwasanaeth.   “Roedd gwerthiant CDs yn disgyn yn flynyddol ar draws y byd i gyd, a doedd yr incwm o blatfformau ffrydio eraill ddim yn mynd i gynnal y diwydiant, felly roedd rhaid meddwl sut y gallwn ni, fel label, fanteisio ar y dechnoleg ffrydio ond mewn ffordd oedd yn dod ag incwm teg i artistiaid a labeli.” Un o brif negeseuon maniffesto Apton ydy talu incwm teg i artistiaid am y caneuon sy’n cael eu chwarae trwy Apton, gan fod yr incwm mor dila o’r darparwyr mawr. Ond i wneud hynny mae’n rhaid denu defnyddwyr, felly sut fydd y gwasanaeth yn gweithio i’r gwrandawyr?

“Bydd rhaid i’r gwrandäwr gofrestru ar y wefan www.apton. cymru, yna lawr lwytho’r ap i’w ffôn neu unrhyw ddyfais arall a mewngofnodi gyda’r manylion cofrestru” eglura Robin.  “Mi gewch chi wedyn fis i dreialu’r ap am ddim, neu 300 ffrwd.  Ar ôl hynny bydd rhaid tanysgrifio am unai £6.00 y mis neu £9.00 y mis am gyfrif premiwm.” Dod â’r gorffennol i’r dyfodol Yr her fawr i Apton fydd cynnig rhywbeth sydd ddim ar gael ar y gwasanaethau ffrydio eraill. Ar yr wyneb, bydd hynny’n anodd gan fod pawb yn rhoi eu cerddoriaeth ar iTunes a Spotify erbyn hyn, ond mae gan Sain ambell saeth yn eu bwa ac efallai mai’r mwyaf gwerthfawr ydy ôl gatalog chwedlonol y label. “Mi fydd ôl gatalog feinyl Sain yn ecsgliwsif ar Apton ar y tanysgrifiad premiwm, gan gychwyn gyda sengl gyntaf Sain 1 sef ‘Dŵr’ gan Huw Jones” eglura Robin.

Bydd cerddoriaeth Yws Gwynedd, a’i label Cosh, hefyd ar Apton “Dwi’n meddwl ei fod o’n syniad da, ond ddim yn siŵr faint o goesau fydd i’r peth. Dwi newydd sylwi fod ‘na broblem fwy real yng Nghymru ar hyn o bryd yn y ffaith nad oes siop gerddoriaeth ar-lein fel Sadwrn neu Sebon mwyach. Dwi’m yn deall pam nad oedden nhw’n llwyddiant.” “Dwi’n dymuno pob lwc iddyn nhw, ac yn gobeithio bydd Apton yn llwyddo.”

8

y-selar.co.uk


“Rydym yn ychwanegu’r feinyls bob yn dipyn, tua 10 sengl ac 20 albwm feinyl y mis, gan fod hyn yn golygu dipyn o waith ailgofrestru’r cwbl. Fyddwn ni ddim yn tynnu unrhyw ganeuon oddi ar blatfformau eraill, ac mae’r dewis gan labeli i benderfynu wedyn beth maen nhw am roi ar unrhyw blatfform arall wrth gyflwyno cerddoriaeth newydd i Apton hefyd.  Mi fydd rhai traciau newydd yn ecsgliwsif i Apton am gyfnod.”  Ac mae’n werth pwysleisio mai nid llwyfan ar gyfer labeli Sain yn unig ydy Apton a’u bod nhw’n ceisio darbwyllo labeli Cymraeg eraill i lwytho eu caneuon i’r gwasanaeth. Hyd yma mae Fflach, Rasp, Fflach Trad, I Ka Ching, Cosh, Ankst a Labelabel wedi cytuno i roi eu cerddoriaeth ar Apton ac mae gobaith y bydd mwy yn ymuno a nhw gydag amser. Ond y bwgan amlwg i’r fenter newydd ydy gafael y cwmnïau mawr ar y farchnad ffrydio, a byddai llawer yn dadlau bod Apton o leiaf bum mlynedd yn rhy hwyr i fachu tamaid o’r gacen sy’n cael ei llowcio’n farus gan iTunes, Spotify

a’r lleill. Nid felly mae Sain yn ei gweld hi... “Mae’n ymchwil efo labeli eraill ar draws y gwledydd Celtaidd a gweddill Ewrop yn dangos nad ydy pawb yn hoff o’r cwmnïau mawr sy’n gyfrifol am y gwasanaethau ffrydio sy’n bodoli, ac nad ydynt am roi eu cerddoriaeth iddynt” meddai Robin. “Bwriad Apton ydy bod yn wasanaeth ffrydio hollol dryloyw sy’n dilyn egwyddorion masnach deg, ac sy’n datblygu i fod yn wasanaeth sy’n arbenigo ar gerddoriaeth leiafrifol neu gerddoriaeth niche ar draws Ewrop yn gyntaf, ac yna’n ehangach. Mae nifer o labeli yn Ewrop wedi cytuno’n barod i fod yn rhan o’r gwasanaeth ehangach hwn.  Hefyd gall Apton drwyddedu’r feddalwedd a’r model i labeli eraill y tu hwnt i Ewrop, er enghraifft  India, ble nad yw Spotify ar gael.  Mae labeli yn India sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth byd eisoes wedi dangos diddordeb yn hyn.” Cynlluniau uchelgeisiol felly, a gobeithio y gwelwn ni ffrwd Apton yn llifo, yn hytrach na sychu.

“Mae’n ymchwil efo labelli eraill... yn dangos nad ydy pawb yn hoff o’r cwmniau mawr”

Un o’r labeli eraill fydd yn rhoi eu caneuon ar Apton ydy I Ka Ching, a dyma oedd gan Branwen Williams o’r label i’w ddweud am y fenter... “Bydd caneuon y label yn cael eu cyhoeddi ar Apton gan ei fod yn cynnig platfform newydd i’n cynnyrch, gan obeithio cyrraedd marchnad wahanol a hefyd gefnogi menter Gymreig newydd.” “Amser a ddengys a fydd Apton yn llwyddo! Bydd yn dipyn o gamp cystadlu efo platfformau fel iTunes a Spotify, felly dwi’n meddwl bydd rhaid iddynt weithio’n galed iawn i gynnig rhywbeth gwahanol i’r arfer i berswadio pobl i’w ddefnyddio yn hytrach, neu’n ogystal â, fformatau eraill.” “Mi fyddwn ni’n parhau i ryddhau ar ffurf caled hefyd, oherwydd mae’n rhoi dipyn mwy o foddhad i ni, yr artist a hefyd y cwsmer gobeithio. Mi fyddwn yn eithaf digalon os daw amser lle na fydd gofyn am CDs neu feinyl.”

y-selar.co.uk

9


ADW

AITH

ed ... Ti

... Ti d e

di Clyw

di Clyw

GEIRIAU: OWAIN GRUFFUDD Pwy? Band o ardal Caerfyrddin yw Adwaith. Mae’r aelodau’n cynnwys Hollie Singer (gitâr a llais), Gwenllian Anthony (gitâr fâs), Chelsea Free (canu) a Heledd Owen (dryms). Roedd Gwenllian a Hollie wedi bod yn ffrindiau ers ysgol feithrin, er i Hollie dreulio amser yn byw yn Awstralia wedi hynny. Wedi i Hollie gyfarfod Chelsea yng Ngholeg y Gŵyr, daeth y tair ohonynt at ei gilydd i ffurfio Adwaith. Ymunodd Heledd â’r band yn dilyn eu gig gyntaf. Mae’r band bellach wedi gwasgaru rhwng Caerfyrddin, Caerfaddon a Llundain. Sŵn?“Mae’n sŵn ni’n eithaf anodd ei ddisgrifio,” meddai Gwenllian. “Mae’n post-folk ond gyda twist urban a hip-hop iddo” Cychwynnodd y band yn fwy stripped-down a thawel, cyn i Heledd ymuno ar y dryms. Y trobwynt mwyaf i sŵn y band oedd y cyfle i weithio a recordio demos gyda Pat Morgan o Datblygu. “Awgrymodd hi roi drymiau ar ein sengl newydd, ‘Pwysau’ ac mae hynny wedi troi’r gân a’r sŵn ar eu pen yn gyfan gwbl.” Dylanwadau? Mae’r band yn tynnu dylanwad gan amrywiaeth eang o fandiau. Clywir dylanwadau amlwg gan fandiau gwerin modern megis The Staves a First Aid Kit yn y sŵn, ac mae Gwenllian hefyd yn enwi Datblygu ymysg y bandiau eraill maen nhw’n eu hedmygu. Yn fwy personol, mae Hollie yn cael ei dylanwadu’n benodol gan y ffilm mods a rocers o 1979, Quadrophenia. Hyd yn hyn? Mae’r band wedi bod yn canolbwyntio ar berfformio’n fyw dros y misoedd diwethaf, gan gefnogi Cowbois Rhos Botwnnog, Alun Gaffey, Huw M ac Ysgol Sul mewn amrywiol gigs yn eu feniw lleol, y Parrot yng Nghaerfyrddin. Maent wedi perfformio set yng ngŵyl The Big Cwtch hefyd ond gig yng Nghlwb Ifor Bach gyda Mellt, Ysgol Sul a Tymbal yw’r uchafbwynt hyd yn hyn yn ôl Gwenllian. Roeddent hefyd yn rhan o gig lansio’r label recordiau newydd, Decidedley Records, yn y Gwdihŵ yn ddiweddar, gyda Mellt ar dop y lein-yp hwnnw hefyd. Maen nhw wedi bod yn y stiwdio yn ddiweddar, ac mae eu sengl gyntaf, ‘Pwysau’ newydd gael ei rhyddhau

10

y-selar.co.uk

ar label Decidedley, sydd hefyd yn gartref i fandiau eraill cyffrous fel ARGRPH a Hotel Del Salto. Ar y Gweill Bydd y gân ‘Pwysau’ hefyd yn ymddangos ar gasgliad aml-gyfrannog epig yr elusen HOPE Not Hate, gydag Yr Ods, Anrhefn, HMS Morris a Datblygu ymysg y 92 o fandiau eraill fydd yn ymddangos ar y casgliad. Bydd y casgliad hwnnw ar gael i’w archebu ar wefan bandcamp. Mae’r band hefyd yn gobeithio dychwelyd i’r stiwdio, gyda’r bwriad o ryddhau eu hail sengl yn gynnar yn y flwyddyn newydd. O ran gigs, mae ’na amryw o ddyddiadau wedi eu trefnu yng Nghaerfyrddin, Aberystwyth a Chaerdydd, felly cadwch olwg ar Twitter (@adwaithband) am y newyddion diweddaraf. Barn y Selar Mae Adwaith yn cynnig rhywbeth cyffrous ac eithaf unigryw sef cyfuniad o werin a chwistrelliad da o agwedd. Mae’n ddiddorol cymharu’r fersiwn o ‘Pwysau’ sydd ar dudalen Soundcloud y band gyda’r fersiwn sy’n cael ei rhyddhau fel sengl. Ymddengys fod Pat Datblygu wedi cymryd band gwerin, a band gwerin da o ran hynny, ac wedi rhoi’r post yn y post-folk. Bydd yn ddiddorol gweld os fydd y genod yn aros ar y llwybr amgen hwnnw yn y dyfodol neu’n dychwelyd at ei gwreiddiau gwerinol. Gwrandewch os yn ffans o The Staves, Anelog a Fleet Foxes


ew N

yng ngofal y cynllun, Robin Llwyd (Y Bandana), wedi cyffroi. “Dwi’n falch iawn ein bod ni wedi dod o hyd i sawl artist newydd, cyffrous sy’n dangos doniau cerddorol ac yn ysgrifennu caneuon bachog,” meddai. “Bydd albwm Sesiynau Stiwdio Sain yn ffordd wych o arddangos eu gwaith diweddaraf, a phleser ydi cael cynhyrchu a chyd-weithio gyda’r artistiaid.” Dyma gyfle gwych i’r artistiaid recordio yn un o sefydliadau mwyaf

chwedlonol cerddoriaeth Gymraeg. Agorwyd Stiwdio Sain ar ei safle presennol yn 1980, wedi cyfnod llewyrchus yn yr hen safle ar fferm Gwernafalau. Y cyfnod hwnnw rhwng 1975 a 1979 oedd ‘oes aur’ y stiwdio gyda Hefin Elis yn cynhyrchu dros 100 o recordiau hir ar system 8-trac.    Gyda safle newydd daeth cyfle i fuddsoddi mewn offer 24-trac ac ar y pryd roedd hi gyda’r stiwdio fwyaf modern o’i bath yn Ewrop. Mae cannoedd o artistiaid

n

M

ae wedi bod yn gyfnod prysur iawn yn Llandwrog yn ddiweddar wrth i Stiwdio Sain dderbyn gweddnewidiad cyn croesawu criw o gerddorion i recordio deunydd newydd. Pwrpas Sesiynau Stiwdio Sain yw rhoi’r cyfle i fandiau ac artistiaid ifanc recordio dau drac newydd sbon a’u rhyddhau fel senglau o dan y cynllun. Ymhlith yr artistiaid hynny y mae Bwncath, Alffa, Glain Rhys a Rhys Gwynfor ac mae’r cynhyrchydd sydd

o di yd

Sesiynau Stiwdio Sain

wedi recordio yno ers hynny a bwriad Sain oedd cynnig yr un cyfle i rai o artistiaid newydd y sin heddiw. Mae’r lle wedi cael côt o baent newydd yn arbennig ac mae lluniau rhai o arwyr y gorffennol yn addurno’r waliau. “Mae’r Hammond organ bellach wedi’i atgyfodi,” ychwanega Robin, “a’r gobaith ydi cael ambell declyn arall nôl ar eu traed er mwyn darparu ar gyfer anghenion unrhyw artist yn y dyfodol.” Y bwriad yw rhyddhau casgliad o’r caneuon ar ffurf CD yn y flwyddyn newydd ond yn y cyfamser bydd y traciau i’w clywed ar y radio ac yn cael eu rhyddhau fel senglau yn wythnosol ar y gwasanaeth ffrydio newydd, Apton.

Bocsŵn yn denu sylw

C

afodd band ifanc o Fôn sylw gan wefan gerddoriaeth fyd enwog yn ddiweddar wrth i Daf a Cian o’r Super Furries ddewis cân o brosiect Bocsŵn i fod yn rhan o’u podlediad i Pitchfork.com. ‘Cysawd yr Haul’ oedd y gân honno, gan A(n)nearol, un o nifer o fandiau’r cynllun sydd yn dechrau gadael ei farc. Cafodd Gweithdai/Stiwdio Bocsŵn ei sefydlu gan Fenter Môn i gynnig cyfleoedd creadigol i blant a phobl ifanc yr ynys trwyg. Maent yn gweithio gyda phobl ifanc o 5 i 18 oed ledled y sir ac un o’r wynebau cyfarwydd sydd ynghlwm â’r cynllun yw Huw Owen (Mr Huw i chi a fi). “Mae’r prosiect ar ei newydd wedd wedi bod yn llwyddiant mawr ers ail gychwyn ym Mehefin 2015,” eglura. “Rydan ni wedi gweithio gydag ymhell dros 200 o bobl ifanc yn ein stiwdio

yn Llangefni ac mewn canolfannau ar draws yr ynys. Pwrpas y prosiect yw rhoi cyfle i bawb gael mynediad i’n gweithgareddau a galluogi pawb i gymryd rhan, bo’ nhw’n gerddorol neu heb unrhyw brofiad o chwarae offerynnau a chyfansoddi.” Ynghlwm â Bocsŵn mae’r

Rhwydwaith Perfformwyr Ifanc ble mae Menter Môn yn meithrin y bandiau i’r pwynt lle maent yn barod i fod yn fwy annibynnol. “Mae dau fand, Carma ac A(n)naearol yn enwedig wedi cael llwyddiant a budd mawr o’r prosiect,” eglura Huw. “Mae Carma’n gigio’n rheolaidd, wedi perfformio yng ngwyliau cerddorol Ynys Môn ac yn parhau i gyfansoddi a pharatoi ar gyfer taith ysgolion cyn y Nadolig.” Bydd A(n)naearol hefyd yn rhan o’r daith ysgolion honno, ble byddant yn siŵr o ychwanegu at ddilyniant sy’n tyfu’n gyflym diolch i’w dau ffan enwog. Ac mae Huw Owen yn awyddus i ledaenu’r gair am Bocsŵn a gweld mwy o lwyddiannau tebyg. “Mae’n bwysig rhoi gwybod i bobl ifanc bod ’na brosiectau allan yna i’w helpu i fod yn greadigol a rhoi’r cyfle iddynt fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth.”


Cwch Propeller

Cpt. S Rydan ni wedi ei ddweud o o’r blaen ond fe ddywedwn ni o eto, does dim yn plesio Y Selar yn fwy na gweld cyn artist ‘Ti Di Clywed’ yn dychwelyd fel un o’n prif gyfweliadau. Mae Cpt. Smith wedi cyflawni’r gamp honno mewn cwta ddeunaw mis. Ar adrothwy rhyddhau eu EP cyntaf, Lois Gwenllian a fu am sgwrs.


mith A

r y ffordd o’u photoshoot ar gyfer Y Selar, fe ddaeth Cpt. Smith wyneb yn wyneb â neb llai na Dave Datblygu. Bu yntau’n ddigon caredig i rannu ei ddoethineb a’i brofiad o fywyd roc a rôl gyda’r bechgyn. “Codwch ddau fys ar y bobl sy’n eich rhoi chi i lawr, achos yn aml iawn dydy pobl ddim yn gwerthfawrogi pethau am ugain mlynedd”, neu rywbeth i’r perwyl hynny oedd ei gyngor yn ôl Ioan Hazell, gitarydd bas a chanwr y band. Ar drothwy rhyddhau eu EP cyntaf, cefais sgwrs gydag Ioan am sut y daeth Cpt. Smith i fodolaeth a beth sydd ar y gorwel iddyn nhw yn eu gorchwyl i chwistrellu ychydig o fywyd i’r sin yng Nghymru. Mae’r pedwar aelod, Ioan, Lloyd, Jack ac Ellis dal yn yr ysgol, dau yn y Preseli a dau ym Mro Myrddin. Ond mae eu cyfeillgarwch a’u hoffter o greu cerddoriaeth yn rhagflaenu’r ysgol uwchradd; “roeddwn i, Jack ac

Ellis yn yr ysgol gynradd gyda’n gilydd” eglurodd Ioan, “ac rydyn ni wedi chwarae cerddoriaeth gyda’n gilydd ers i ni adnabod ein gilydd. Ond yn yr ysgol uwchradd cawsom ein gwahanu, aeth y ddau ohonyn nhw i Fro Myrddin, a minnau i’r Preseli, lle nes i gyfarfod Lloyd.” Ymhen hir a hwyr roedd Ioan a Lloyd yn jamio’n rheolaidd. Daeth y pedwar at ei gilydd yn fuan ar ôl hynny, ac maen nhw’n chwarae o dan yr enw Cpt. Smith ers ychydig dros flwyddyn. Wedi gigio Cymru benbaladr yn cefnogi bandiau niferus, bydd Cpt. Smith yn rhyddhau eu EP cyntaf, Propeller, ar label I KA CHING ym mis Tachwedd. Mae eu label yn eu disgrifio nhw fel band pync seicedelig, ond roedd Ioan yn gyndyn o gyfyngu eu hunain i’r label ‘pync’. Dywedodd fod eu caneuon hynaf, fel ‘Merched’ - yr ail gân iddyn nhw ei chyfansoddi fel grŵp - yn gwyro’n fwy at arddull pync, ond mae’n credu

Lluniau: Betsan Haf Evans

“Codwch ddau fys ar y bobl sy’n eich rhoi chi i lawr.”


fod rhai o’r caneuon newydd wedi aeddfedu ychydig er bod agwedd y geiriau’n parhau i fod yn ‘bynclyd’ ei naws; mae’r arddull pync yn “ffordd dda o gael bod yn grac heb ymddangos yn or-sensitif” chwarddodd. “Dw i’n sicr wedi gweld newid ers ein recordiau cynnar ni, yn enwedig o ran sut mae’r caneuon yn gweithio. Mae loads llai o weiddi a mwy o bwyslais ar alawon nawr.” Er nad yw llawer o fandiau’n chwarae cerddoriaeth pync, dywedodd fod agwedd pync yn fyw ac yn iach yn y sin o ystyried ei bod hi’n un lleiafrifol. Enwodd Ysgol Sul fel un band sy’n gweithio i dorri tir newydd. Uchelgais Cpt. Smith, hefyd, yw creu cerddoriaeth ddifyr sydd ddim yn glynnu at y status quo. Eglurodd Ioan eu bod nhw fel band wedi “aros nes bod [ganddyn nhw] gasgliad o ganeuon rydyn ni’n hapus efo nhw.” Cafodd yr EP ei recordio yn Stiwdiowz yn Hwlffordd, gydag Owain Fleetwood

14

y-selar.co.uk

Jenkins sydd wedi gweithio gyda bandiau o amryw wledydd gan gynnwys y Noisettes sy’n adnabyddus am ddwy o ganeuon mawr 2009, ‘Never Forget You’ a ‘Don’t Upset the Rhythm’. Roedd canmoliaeth Ioan i Owain yn uchel, gan ddweud ei fod “yn gymaint rhan o’r EP a gweddill y band oherwydd ei fod yn greadigol yn y ffordd mae’n cymysgu ac yn rhoi digon o ryddid i ni wneud beth rydyn ni eisiau ei wneud, ac yn gwrando ar ein syniadau.” Gan gydnabod y ffaith eu bod nhw’n fand ifanc sy’n dal i feithrin eu crefft, roedd Ioan yn hapus i gael gweithio gyda rhywun fel Owain, sy’n barod i ddweud ei farn os ydy rhywbeth yn “horrendous” a chynnig trywydd arall. Enwodd Ioan gwpwl o fandiau a fu’n ysbrydoliaeth iddyn nhw o ran peidio dilyn trends a gwneud pethau newydd a gwahanol, sef Sonic Youth a Nick Cave and the Bad Seeds, gan ychwanegu eu bod nhw’n “bobl a oedd yn symud i ffwrdd oddi wrth bopeth oedd yn digwydd yn y cyfnod ond a oedd hefyd yn creu’r genre ’ma, sy’n parhau am ages ond sy’n really cool.” Gofynnais iddo a ydy o’n gweld hynny’n risg i’w chymryd, â sawl person wedi dweud mai ‘sŵn’ yn unig ydy Sonic Youth. Parhaodd, gan anghytuno,


“mae hyn yn wir yn enwedig am Lloyd, un o’r prif ysbrydoliaethau yw ffeindio cerddoriaeth mewn sŵn, tuning chaos mewn ffordd.” Dw i’n credu eu bod nhw wedi llwyddo i ddod o hyd i’r gerddoriaeth ’na yn y sŵn. Mae Propeller yn gasgliad aeddfed, hypnotig ac egnïol o ganeuon da sy’n chwa o awyr iach mewn cyfnod sydd wedi gweld degau o fandiau ysgol ifanc yn recordio EP jyst er mwyn recordio. Plethir y Gymraeg a’r Saesneg mewn un gân yn ddi-ymdrech, gan adlewyrchu’r byd cwbl ddwyieithog yr ydym ni’n byw ynddo. Gofynnais i Ioan a oedd hyn yn fwriadol, neu ai dim ond ffordd o geisio denu sylw y tu hwnt i Gymru yw cynnwys geiriau Saesneg. Roedd ei ateb yn ddifyr, “I ni, mae’n gymysgedd o ddau beth. Mae’n ffordd o gael apêl ehangach i’r gerddoriaeth. Mae pobl Saesneg yn gallu clywed rhywbeth maen nhw’n ei ddeall neu’n uniaethu â’r hyn rydyn ni’n ei deimlo. Ond hefyd mae’n ffordd o ddangos ein bod ni’n falch o fod yn Gymraeg, o gael y fraint o siarad dwy iaith a’n bod ni ddim am i un iaith gael ei threchu gan y llall.” Pan holais am fandiau sydd yn gwneud enwau i’w hunain tu hwnt i Gymru drwy gyfrwng y Gymraeg, dywedodd yn gwbl ddiffuant “mae artistiaid fel Gwenno ac R.Seiliog a bandiau sydd yn cael llawer o sylw, dw i’n credu eu bod yn llawn haeddu’r llwyddiant. Maen nhw’n gymaint o dalent.” Lot o amps mewn tents! Un o uchafbwyntiau’r haf i’r band oedd chwarae ym Maes B yn y Fenni. Sut brofiad fu’r haf iddyn nhw holais: “Lot o amps mewn tents!” oedd ei ateb gydag adlais o gyffro’r nosweithiau hynny’n diferu o’i eiriau. “Ym Maes B wnaethon ni chwarae rhai o’r caneuon newydd am y tro cyntaf. Roedd hynny’n grêt oherwydd roedden ni wedi cael amser i chwarae gyda’n gilydd cyn hynny i’w

chwarae nhw’n really tight. Ac roedd y reception yn grêt, allen ni ddim wedi gobeithio am fwy.” Hwn oedd eu haf cyntaf o gigio dwys, felly roeddwn i’n chwilfrydig i wybod sut beth oedd treulio cymaint o amser gyda’i gilydd. “Roedd e’n really neis cael gwario lot o amser gyda’n gilydd, gyda’r holl straen a’r frustrations ond cael amser da hefyd. Yn sicr, roedd Maes B yn uchafbwynt.” Tu hwnt i’r haf fodd bynnag, meddyliais lle mae band sydd dal yn yr ysgol yn mynd i gigio? “Mae hwn yn un od i ni,” meddai Ioan “rydyn ni’n cael lot o gigs yn y Parrot yng Nghaerfyrddin, ond dw i ddim yn meddwl bod llawer o venues sy’n gweld apêl cerddoriaeth fel un ni lawr ffordd hyn. Felly rydyn ni’n mynd o gwmpas i gigio, dydyn ni ddim yn ganolog i Gaerfyrddin.” Ychwanegodd, â gwên i’w chlywed yn ei lais, “Mae llawer o dafarndai traddodiadol yn Sir Gaerfyrddin, ac rydyn ni’n chwarae cerddoriaeth eitha’ modern. Ond dw i’n meddwl fod y Parrot yn grêt.” Yng Nghaerdydd mae eu gig nesaf nhw. Bydd y band yn lansio’r EP yn Spillers Records ar 11 Tachwedd, gyda gig yn dilyn yng Nghlwb Ifor Bach lle fydd y bechgyn yn cefnogi Estrons a Mellt. Ond ar ôl hynny, beth sydd ar y gweill i Cpt. Smith? “Gigio,” oedd ei ateb cryno “gigio, a pharhau i adeiladu set ac ysgrifennu caneuon newydd.” A beth am albwm, gwthiais innau, “O bosibl. Rydyn ni i gyd yn awyddus i ysgrifennu mwy. Ond rydyn ni’n fussy am beth rydyn ni’n ei ryddhau. Felly, gall e’ fod yn amser hir ond mae’n hollol ddibynnol ar y sefyllfa. Ond os yw pethau’n parhau i wella i ni, yna’n sicr byddwn ni’n ceisio.” Ac rydw innau hefyd yn gobeithio y cawn ni glywed mwy gan y band ifanc yma. Dydw i ddim yn credu bod angen iddyn nhw boeni am orfod codi dau fys ar bobl y tro hwn. Er y bydd gan bawb ei farn, bydd gan y pyncs yn ein plith ddigon i’n cadw’n ddiwyd nes daw’r albwm.

y-selar.co.uk

15


sELAR YN Y STIWDIO Wedi ymweld â’r gogledd a’r de eisoes ar ein taith o gwmpas stiwdios recordio Cymru, rydym bellach wedi cyrraedd y canolbarth.

enw: Stiwdio Bing Cyfeiriad: Tŷ Menter, Cemaes, Machynlleth, SY20 8QP Dyddiad Sefydlu: Mehefin 2015 Offer: Mac Mini, monitorau Yamaha HS50M, cymysgwr 24 trac Allen & Heath GSR24M 24, allweddell M-Audio Keystation 88es Midi, Focusrite ISA One Preamp, Focusrite 18i20 Interface, clustffonau ATHM50 & Sennheisers HD201 x 12, amp clustffonau HP12E 12 Channel, DI’s x2, AT4040 x 2, SEZ3300a x 2, SM58 x 3, Audix i5 x 3, Audix D4, Byerdynamic MCE 82, recordiwr Marantz PMD661 MKII Solid State. Meddalwedd: Logic Pro X, Adobe Audition CS6, CCC2 East West, Strummer Guitar Native Instruments a Trillian Bass Spectrasonics. Offerynnau: Cit drymiau llawn Sonor 2007 Force & symbalau A Custom, snêr Lars Ulrich Tama Signature, bucara, 2 djembe bach, gitâr drydan Hagstrom Super Swede, gitâr acwstig Tanglewood Parlour, piano W.Hoffman C Bechstein, accordion, dwy bib Wyddelig a Shakers! Hanes: “Ges i gontract i recordio llyfrau sain addysgol i Brifysgol Aberystwyth bedair blynedd yn ôl,” eglura sylfaenydd y stiwdio, Rhydian Meilir Pughe. “O hynny y daeth y syniad i ddechrau busnes recordio/golygu sain. Mae gen i ddiddordeb eang mewn cerddoriaeth ac ar ôl lefel A mi ddilynais i gwrs Technoleg Cerddoriaeth yng Ngholeg Menai. Ar ôl cymhwyso fy hun ychydig yn bellach, dyma fi’n gwireddu breuddwyd oes o gael stiwdio recordio fy hun.” Yn ogystal â chystadlu yng Nghân i Gymru a bod

Edrych yn ôl Leigh Jones sydd yn edrych ymlaen wrth edrych yn ôl ar flwyddyn brysur a llwyddiannus i gerddoriaeth Gymraeg. Wrth i’r dyddiau fyrhau, y clociau droi nôl a’r tymheredd ostwng (hyd yn oed yma yn nhrofannau Llundain), does dim amheuaeth fod y gaeaf ar ei ffordd. Mae’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig ar fin cyhoeddi ei enillydd, ac mae’r broses bleidleisio ar gyfer Gwobrau’r Selar wedi dechrau, pa well amser i adlewyrchu ar ddeuddeg mis o gerddoriaeth wych? Fel aelod o reithgor y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, mae hi wedi bod yn fraint cael clywed cymaint o gerddoriaeth anhygoel ac amrywiol o Gymru yn y ddwy iaith cyn i’r beirniaid

16

y-selar.co.uk

gael dweud eu dweud. Rhywbeth sydd wedi bod yn braf eleni yw’r sylw y mae artistiaid Cymru wedi ei gael y tu allan i’r cyfryngau Cymraeg. Pam felly? Tybiwn i fod ’na gymysgedd o ffactorau. Mae llwyddiant rhyngwladol Gwenno wedi profi fod cerddoriaeth dda yn gallu ffeindio cynulleidfa gyda chymorth peirianwaith label da, dim ots pa iaith. O ganlyniad, mae’n debyg fod blogiau iaith Saesneg yn fwy bodlon i ysgrifennu am artistiaid sy’n perfformio yn y Gymraeg (yn ogystal ag ieithoedd eraill), ac mae labeli sy’n fwy na’r rheini sydd gennym ni yng Nghymru yn fodlon rhyddhau cerddoriaeth yr artistiaid yma a’u gwthio i gynulleidfa fwy. Ond beth am yr artistiaid eu

Leigh Jones hunain? Oes newid wedi bod yn y meddylfryd? Fedra i ddim ateb hynny, ond dwi’n teimlo fel bod ein hartistiaid ni’n fwy uchelgeisiol nag o’r blaen. Yn lle dewis un ai chwarae gigs Cymraeg neu gigs Saesneg, mae’r un bandiau’n ceisio chwarae ym mhob man i gynulleidfaoedd ehangach. Does neb yn chwilio am sêl bendith y Saeson, yn hytrach dwi’n meddwl fod artistiaid yn credu’n frwd yng ngwerth eu gwaith nhw, ac eisiau ei rannu â’r nifer fwyaf o bobl sy’n bosib. Mewn cyfnod lle mae ynysiaeth llym ar y gorwel, mae hi’n teimlo fel ei bod hi’n bwysicach nag erioed i ddangos i gynulleidfaoedd digymraeg pa mor gyffrous, bywiog ac amrywiol yw ein celfyddyd gyfoes.


COLOFN ELAN

@StiwdioBing

www.stiwdiorecordio.cymru

yn aelod o nifer o gorau, mae gan Rhydian gefndir o chwarae mewn bandiau. “Ro’n i’n chwarae’r gitâr ac yn cyfansoddi holl ganeuon Hufen Iâ Poeth, ac erbyn hyn yn ddrymiwr i Lobsgows sydd yn chwarae covers a chaneuon gwreiddiol, ac yn achlysurol i grŵp Anthemic sy’n canolbwyntio ar covers Saesneg.” Hyd yn Hyn: O ran cleientiaid, mae uchafbwyntiau Bing yn cynnwys y band Indie, All We Are o Lerpwl ac Yws Gwynedd a ddefnyddiodd y stiwdio am benwythnos yn y gwanwyn i ysgrifennu deunydd newydd. “Yn fwy diweddar, mi ydw i wedi recordio nifer o artistiaid a bandiau lleol,” eglura Rhydian. “Dred o Lanfyllin a Fflamau Gwyllt o Dregaron. Mi wnes i fwynhau cydweithio â’r band talentog lleol, Henebion, hefyd, mi fuon nhw yma’n recordio tair cân newydd i’w rhyddhau ar EP yn fuan, un o’r tair yn un wnes i ei hysgrifennu yn arbennig ar eu cyfer.” Ar y Gweill: Uchelgais a breuddwyd fawr Rhydian yw gwahodd rhai o’i hoff artistiaid Cymraeg i’r stiwdio i recordio albwm o’i ganeuon gwreiddiol ef ei hun. “Dwi’n teimlo ei bod yn bwysig iawn cynhyrchu caneuon Cymraeg newydd o hyd,” meddai. “Fydd ’na byth ormod ar gael.” Yn y cyfamser, ”mae artist poblogaidd o Nigeria yn dod i’r stiwdio i recordio a saethu fideo. Mae’r beiciwr enwog Nick Sanders, a dorrodd record y byd am deithio o amgylch y byd ar feic modur, yn dod i recordio troslais i DVDs o’i anturiaethau. Mae mwy o brojectau recordio llyfrau sain ar y ffordd cyn diwedd y flwyddyn hefyd ac un neu ddau brosiect cyffrous arall ar fîn cael eu cadarnhau!” 3 Ffaith Ddifyr • Mae llwybr cerdded Glyndŵr yn mynd heibio’r stiwdio a’r rhan fwyaf o Ddyffryn Dyfi a Chader Idris i’w gweld drwy ffenest y gegin. • Hen feudy oedd yr adeilad cyn ei adnewyddu, gyda’r ystafell reoli bellach yn lle’r oedd y ‘bing’ wedi’i leoli. Ystyr ‘bing’ ydy’r lle rhwng dau feudy lle’r oedden nhw’n arfer taflu gwair i borthi’r gwartheg. Dyna darddiad enw’r stiwdio! • Mae’r stiwdio mewn llecyn heddychlon ymhell o sŵn y byd. Mae’n debyg bod dros 100 o fathau gwahanol o adar i’w cael yma ond dydyn nhw ddim i’w clywed y tu mewn i’r stiwdio soundproof, yn amlwg!

Merched yn Gwneud Gwalltiau Ei Gilydd Cerddoriaeth Un hanner deuawd DJ-io enwocaf Cymru a chyflwynydd newydd Radio Cymru Mwy, Elan Evans, sydd yn trafod merched y sin yn ei cholofn gyntaf i’r Selar. Mae’r hen olygfa o fechgyn chwyslyd a’i gitârs ar lwyfannau Cymru yn dechrau neilltuo lle i ferched newydd yr SRG. Erbyn heddiw, mae’r niferoedd o ferched mewn bandiau Cymraeg wedi cynyddu, ac mae’n olygfa gyfarwydd gweld merched ar y llwyfan. Gydag unigolion fel Georgia Ruth, Casi, Cate Le Bon a Gwenno ar flaen y gad i ferched yng Nghymru, mae ton newydd o ferched ifanc ar ein llwyfannau, yn creu cerddoriaeth newydd a chyffrous. Dechreuwn gydag enillwyr Brwydr y Bandiau eleni, Chroma. Band anhygoel, sydd â sŵn trwm a geiriau gonest am eu magwraeth yn y cymoedd, gyda Katie Hall fel un o’r front women gore sydd mas ’na ar hyn o bryd heb os. Mae’n chwa o awyr iach gweld merch sydd yn unapologetic am yr hyn mae hi’n ei wneud a’i ddweud. Pyroclastig, a ddaeth yn drydydd yn yr un gystadleuaeth, gyda Hawys Williams ar y bas yn cynnig sŵn unigryw i’r band gyda’i llais trawiadol. Yna i Gaerfyrddin, mae Adwaith wedi bod yn brysur iawn gyda Decidedly Records yn ddiweddar, a fi’n edrych ymlaen yn fawr i glywed mwy ganddynt yn fuan iawn. Sŵn hudolus Anelog o Ddinbych sydd wedi bod ar lwyth o lwyfannau Cymru dros yr haf, gyda Lois ar y synth â’i llais tyner a thrawiadol yn torri trwy’r gitârs a’r dryms. Mae MRGD yr artist o Gaerdydd, sydd bellach yn gweithio gyda’r cynhyrchydd Sakima yn Llundain, yn ’sgwennu caneuon dirdynnol ac unigryw am broblemau merched, trais, anhegwch yn y byd gwaith ac yn rhoi llais i’r rhai sydd yn fud. Cadno, y band o Gaerdydd gyda Rebecca Hayes y prif leisydd a gitarydd, Cadi Thomas ar yr allweddellau a Mali Roberts ar y bas, gyda’u caneuon catchy ti methu help peidio dawnsio. Fi’n credu bod yna bethau cyffrous ar y gweill gyda’r bandiau a’r artistiaid yma, a fi mor falch bod mwy o ferched yn codi ar eu traed, yn ’sgwennu cerddoriaeth newydd ac yn newid yr hen ddelwedd o’r SRG er gwell.

y-selar.co.uk

17


GigiSoeglayrda’r Dyddiad: 14-16/07/2016 Lleoliad: Oriel Mostyn, Llandudno Lein-yp: Bwncath, Palenco, Omaloma, Jack of the Suburbs, Chupa Cabra, CaStLeS Pwy: Luned Williams, 23, trefnwraig gigs o ochra’ Bangor. Hoff fand/artist: Palenco, Omaloma, Lastigband a Falcons... gormod o gerddoriaeth rwy’n ei fwynhau i ddewis ffefryn. Mynychu gigs lleol? Neuadd Ogwen, Rascals ym Mangor a Llandudno heno! Gig cofiadwy? Vortex yn Llundain, triawd improvised jazz o’r enw Cline & Jim Black. Lle ti’n prynu cerddoriaeth? Mudsharks Records ym Mangor, ar-lein gan ffrindiau ac mewn gigs. Cerddoriaeth ddiwethaf i ti brynu? Albwm Broadcast. Pwy: Llyr Alun Jones (neu Piŵb i roi iddo’i enw llwyfan). Hoff fand/artist: Cwestiwn anodd ei ateb efo hangover… ond Stone Roses. Mynychu gigs lleol? Greeks ym Mangor ar y ‘club nights’ a Manceinion, bues i’n gweld Super Furries tua blwyddyn yn nôl. Dwi ’di agor Cob Records ym Mangor er mwyn trio trefnu mwy o gigs fforddiadwy. Gig cofiadwy? Stone Roses ym Manceinion yn 2012. Lle ti’n prynu cerddoriaeth? Dwi’m yn prynu cerddoriaeth rili, ond wnes i brynu CD Palma Violets yn 2014 …dwi’n meddwl. Cerddoriaeth ddiwethaf i ti brynu? Palma Violets, 2014. Pwy: Michael Kerslake, 33, o’r Wirral ger Lerpwl yn wreiddiol ond bellach yn byw yn yr Wyddgrug ac yn medru “dipyn bach” o Gymraeg. Hoff fand/artist Hoff artist Cymraeg ydy ‘The Gentle Good’, hefyd yn mwynhau stwff Meilyr Jones. Mynychu gigs yn lleol? Dwi’n mynychu gigs ar draws y byd, Llundain, Seland Newydd, Portiwgal, Glastonbury a Lerpwl wrth gwrs, bro fy mebyd.

18

y-selar.co.uk

Lland udno a oed d iwe d d y st daraf op ar ein yn bla t a it h su’r s in fyw hy d a lled C ar ymru Philli , a Ce ps a f u ri ’n c hy n sgwrs ulleid io g yd fa Gŵ a yl Gli tch ar e i n rh an.

Gig Cofiadwy? James Blake yn Glastonbury a Harlequin Dynamite Marching Band yng ngŵyl Fire in the Mountain. Lle ti’n prynu cerddoriaeth? Mewn gigs, penderfynu os ydw i’n licio nhw cyn prynu eu cerddoriaeth. Cerddoriaeth ddiwethaf i ti brynu? Hoff fand cariad un o fy ffrindiau gora’, dwi’n meddwl mai enw’r albwm oedd This Is The Kit. Pwy: Endaf Roberts, 25 Hoff fand/artist: Persian Empire Mynychu gigs lleol? Dwi’n trefnu gigs ym Mangor yn Greeks, Academy a Fat Cat. Gig cofiadwy (trefnu)? Dwi’n galw’r nosweithiau dwi’n eu trefnu’n High Grade Grooves ac yn ddiweddar ges i fy mhlesio gan Applebottom a chwaraeodd yn un o’r gigs. Gig cofiadwy (mynychu)? Maribou State yng ngŵyl Rhif 6. Lle ti’n prynu cerddoriaeth? Ar lein, ond dwi’n tueddu i brynu vinyl records yn hytrach na CDs achos yn fy marn i ti’n cael mwy o werth am dy bres efo record. Cerddoriaeth ddiwethaf i ti brynu? EP Persian Empire. Pwy: Michael Powell, 33, Cynhyrchydd Creadigol Grŵp Glitch. Hoff fand/artist: The Smiths oherwydd y lyrics, Velvet Underground oherwydd y sŵn a Talking Heads oherwydd y vibes. Gig cofiadwy? Explosions in the Sky yn yr 80p Festival yn 2008. Lle ti’n prynu cerddoriaeth? Ar y we, neu’n uniongyrchol gan yr artist/band neu’r label. Cerddoriaeth ddiwethaf i ti brynu? Max Richter, Sleep, 8 awr o gerddoriaeth i helpu rhywun gysgu... ia dwi’n dad i fabi llai na blwydd oed felly ma’ cwsg yn bwysig.


Lansio Gwobrau’r Selar 2016

G

redwch chi fod ‘na flwyddyn arall wedi pasio, a’r amser i ni lansio paratoadau un o ddigwyddiadau cerddorol mwyaf y flwyddyn unwaith eto – ydy, mae Gwobrau’r Selar ar y

gweill. Am y bumed flwyddyn yn olynol rydan ni’n cynnal digwyddiad byw i ddathlu llwyddiant y sin dros y flwyddyn ddiwethaf, gwobrwyo’r goreuon a chynnal clamp o gig mawr gwych yng nghanol mis Chwefror. Am y bedwaredd flwyddyn, mae Gwobrau’r Selar yn ôl yn Aberystwyth – fel maen nhw’n dweud, os nad ydy o wedi torri... Penwythnos 17-18 Chwefror ydy’r dyddiad pwysig ar gyfer y dyddiaduron, ac Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth fydd prif ganolbwynt y gweithgarwch. Mae’r digwyddiad yn tyfu eto eleni, gyda hyd yn oed mwy o gerddoriaeth wych, a chyfle i ddathlu’r sin cerddoriaeth gyfoes ardderchog sydd ganddom ni dros y penwythnos. Cyn datgelu cynlluniau’r digwyddiad eleni, mae’n rhaid i ni ddewis yr enillwyr wrth gwrs ac yn ôl yr arfer chi, y ffans a darllenwyr Y Selar sy’n cael y cyfrifoldeb. Y DREFN BLEIDLEISIO Mae’r drefn bleidleisio’n debyg iawn i llynedd, a gyda’ch help chi, byddwn yn llunio rhestrau hir ar gyfer pob categori yn y bleidlais. - Yn gyntaf, bydd modd i unrhyw un gynnig enwebiad ar gyfer unrhyw un o’r categorïau isod rhwng hyn a 2 Rhagfyr. - Yn fuan wedi cau’r enwebiadau bydd ‘Panel Gwobrau’r Selar’ yn trafod yr enwebiadau ac yn penderfynu ar restrau hir ar gyfer pob categori. - Bydd y bleidlais yn agor ar 10 Rhagfyr gyda chyfle i bawb fwrw un bleidlais ar gyfer pob categori rhwng hynny a chau’r bleidlais 8 Ionawr. - Byddwn yn cyhoeddi rhestrau byr y gwobrau ar ôl i’r bleidlais gau, gyda’r enillwyr i’w cyhoeddi’n ecsgliwsif yng Ngwobrau’r Selar yn Aberystwyth! PANEL GWOBRAU’R SELAR Bydd 10 o bobl ar Banel Gwobrau’r Selar, fydd yn gyfrifol am lunio rhestrau hir y gwobrau. Bydd 5 o’r panel yn gyfranwyr rheolaidd i’r Selar, a 5 yn ddarllenwyr selog o’r cylchgrawn – ac mae cyfle i chi fod yn un o’r 5 darllenwr lwcus! Os hoffech chi’r cyfle i fod ar Banel Gwobrau’r Selar yna anfonwch nodyn e-bost at gwobrau-selar@outlook. com erbyn 2 Rhagfyr gyda ‘Panel Gwobrau’r Selar’ fel pwnc i’r neges, a brawddeg yn egluro pam yr hoffech fod ar y panel.

ENWEBU Os ydych chi am gynnig enw i’w ystyried ar gyfer un o gategorïau Gwobrau’r Selar (rhestr categorïau isod) yna gyrrwch enwebiad at gwobrau-selar@outlook.com gan nodi ‘Enwebiadau’ fel pwnc i’r neges, erbyn 2 Rhagfyr. Bydd pob enwebiad, a llawer mwy, yn cael eu hystyried gan y panel. Byddwn yn cyhoeddi’r rhestrau hir ar 10 Rhagfyr, a bydd y bleidlais yn agor bryd hynny. Byddwn yn cyhoeddi rhestrau byrion y categorïau dros yr wythnosau’n arwain at benwythnos Gwobrau’r Selar ar 17-18 Chwefror. - Record Fer Orau - Cân Orau - Hyrwyddwr/wyr Gorau - Gwaith Celf Gorau - Cyflwynydd Gorau - Artist unigol Gorau - Band neu artist newydd Gorau - Digwyddiad Byw Gorau - Band y Flwyddyn - Record Hir Orau - Offerynnwr Gorau - Fideo cerddoriaeth gorau Rhaid i’r holl enwebiadau cynnyrch fod wedi eu rhyddhau ym mlwyddyn galendr 2016 i fod yn gymwys, a rhaid i’r digwyddiad byw fod wedi digwydd yn 2016. Mae canllawiau llawn y gwobrau ar www.y-selar.co.uk ENILLWYR 2015 Rhag ofn bod rhai ohonoch chi ddim yn cofio’n union beth ddigwydd ar y noson honno yn Aberystwyth ym mis Chwefror, dyma pwy enillodd beth yng Ngwobrau’r Selar 2015... Record Fer Orau – Nôl ac Ymlaen - Calfari Cân Orau - Trwmgwsg – Sŵnami Gwaith Celf Gorau – Sŵnami - Sŵnami Hyrwyddwyr Gorau – Maes B Cyflwynydd Cerddoriaeth Gorau – Huw Stephens a Lisa Gwilym Artist Unigol Gorau - Yws Gwynedd Digwyddiad Byw Gorau - Maes B, Eisteddfod Meifod Fideo Cerddoriaeth Gorau – Sebona Fi – Yws Gwynedd Record Hir Orau – Sŵnami - Sŵnami Band neu Artist Newydd Gorau – Band Pres Llareggub Band Gorau - Sŵnami Offerynnwr Gorau – Gwilym Bowen Rhys Cyfraniad Arbennig – Datblygu

y-selar.co.uk

19


adolygiadau Golau Isel Plyci Dwi’n ffan mawr o Plyci ac mae yna dystiolaeth fideo eithaf embarrassing o hyn o Eisteddfod Dinbych 2013. Stori arall ydi honno, ond mae hi’n profi rhywbeth, fod Plyci yn dueddol o lanio yn ein bywydau gyda’i electro heintus yn hollol ddirybudd bob hyn a hyn cyn diflannu oddi ar wyneb y ddaear tan y tro nesaf. Plyci yw’r tad absennol sy’n ymddangos yn achlysurol gyda llond ei gol o anrhegion, ond pwy sydd angen tad hollbresennol pan mae’r presanta’ mor dda? Mae ‘Halen’ fel peiriant arcêd yn cael ffit ac mae ‘Y Dylluan [Golau 2]’ yn felys fel pop, y ddiod hynny yw. Fel yr awgryma’r enw, ceir ambell drac tywyllach ar Golau Isel o’i gymharu â pheth o ddeunydd blaenorol Plyci. Mae ‘Arnofio’ yn troedio’r ffin honno rhwng y breuddwydiol a’r hunllefus ac mae’r piano ar ‘Golau Isel [Rhan 1]’ yn rhoi rhyw ias oer nes yr ydw i’n disgwyl i DCI Mathias a’i wyneb blin ddreifio rownd y gornel unrhyw funud. Ma’r bas yn crynu digon ar ‘Cell’ a ‘Dyffryn Y Bolelo’ i gofnodi ar y raddfa Richter ac alla’ i ddim aros am gyfle i brofi Golau Isel yn fyw, achos dyna fydd o, profiad. Gwilym Dwyfor Ysgol / Camau Gwag Hyll / Cadno Clymir dau o fandiau ifanc y brifddinas, Hyll a Cadno, ynghyd gan benderfyniad diddorol Recordiau JigCal i ryddhau sengl ddwbl, Ysgol / Camau Gwag. Eiddo Hyll yw ‘Ysgol’, ac er ein bod wedi hen ffarwelio â’r haf, mae’r triawd yma wedi dal ’mlaen yn dynn i feibs y gwyliau. Mae ‘Ysgol’ yn herfeiddiol-ddireidus, gyda llinell agoriadol (ag iddi eiriau lled-anweddus) sy’n tynnu sylw’n syth. Tybiaf, petai’n bosib i fandiau Cymraeg ddod at ei gilydd ac atgenhedlu, mai sŵn plentyn

siawns Cpt. Smith a Fleur dy Leus yw bloedd Hyll. Mae naws hollol wahanol i ‘Camau Gwag’ gan Cadno. Mae’n drac llawer tywyllach a thinc o dristwch yn perthyn iddo. Clywn lais ingol ac iasol ar gân ag alaw hudolus. Er mai ‘Ysgol’, heb os, yw fy ffefryn o’r ddwy, yn fy nenu i ddawnsio a chrefu i glywed Hyll yn fyw, mae ‘Camau Gwag’ ddwys-fyfyriol hefyd yn drac sy’n dangos cryn addewid. Mae’n syndod, i country bumpkin o adolygydd fel finnau, glywed dau sŵn gwbl wahanol yn tarddu o sin dinesig, ac mae’r sengl ddwbl hon yn brawf, heb os, fod sin iach iawn yn tyfu yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.   Miriam Elin Jones Hir Oes Dy Wen Griff Lynch Rhywle rhwng cerddoriaeth electro-pop a roc mae hon yn agor â riff sy’n rhedeg drwy’r gân. Mae’n pwyso at fod yn felancolaidd ond mae’n ddigon chwareus a chryf ac mae bît hamddenol yn cael ei gynnal drwyddi. Mae’r elfennau synthaidd yn codi ysbryd y gân a’r elfen gitâr-aidd yn rhoi sŵn llawn iddi, yn enwedig wrth gyrraedd y crescendo ble y daw popeth at ei gilydd. Tuag at y diwedd mae’r sampl o sylwebaeth rasio ceffylau yn ychwanegu haen arall. Mae’r cyfan yn gosod sail i lais Griff ond yn ei wneud yn fwy na chyfeiliant. Patrwm syml sydd i’r gân, sy’n yn ei gwneud yn catchy ac yn hawdd iawn gwrando arni. Ar ôl gwrando dim ond llond llaw o weithiau mae’n teimlo’n gyfarwydd. Gobeithio bod mwy ar y ffordd... Bethan Williams Pwysau Adwaith  Cân uniongyrchol yw ‘Pwysau’, sy’n wahoddiad i unigolyn anghofio ei bryderon er mwyn ymlacio â chyfaill neu gymar. Cynydda’r pryder am yr unigolyn hwn wrth i’r gân ddatblygu, ac amlyga’r pennill

olaf bwysau meddyliol trwm arno ef neu hi. Caiff y datblygiad hwn ei nodweddu gan gân ddi-dor, ddi-gytgan, ar wely gwerin-pop Americanaidd â llais benywaidd hyfryd o gynnil. Nid yw cân o gysur yn gysyniad newydd o bell ffordd, ond mae llinellau bachog fel “breuddwydia am anfeidredd” yn gyngor sy’n ein hannog i feddwl y tu hwnt i’r hyn a glywn. Gan ymwrthod ag unrhyw strwythur traddodiadol, a gan bara’ dwy funud yn unig, rhoddir pwyslais amlwg ar neges gref a darlun pwerus o broblemau cyfoes yr ifanc. Gethin Griffiths Gwna Dy Feddwl i Lawr Mr Huw Rydan ni’n gwybod beth i’w ddisgwyl gan Mr Huw bellach, geiriau crafog wedi eu canu yn ei arddull di ymdrech nodweddiadol i gyfeiliant riffs ailadroddus bachog ar y gitâr. Byddai’r disgrifiad hwnnw’n un digon teg o’i albwm diweddaraf ond mae yma fwy o gig ar yr asgwrn y tro hwn. Yr hyn mae Mr Huw yn ei wneud yn effeithiol ydi gosod geiriau dwys a thrist ar gerddoriaeth hapus upbeat. Pop tywyll. Does dim ond angen edrych ar enwau rhai o’r traciau; ‘Werth Dim Byd’, ‘Gwendidau’, ‘Dioddefwyr’... i gael syniad o naws besimistaidd y casgliad. Ond nid rantio blin sydd yma, ond yn hytrach sylwadau craff ar fywyd a chymdeithas. “Ond darnau o gig ydan ni i gyd, efo dyddiad darfod” meddai yn ‘Anocheladwy’. ‘Du’ yw fy hoff drac, gyda’r llinell agoriadol yn aros yn y cof ac yn crynhoi thema’r albwm yn wych, “Os fysa gen i galon dwi’n siŵr ’sa fo’n ddu.” Dylai Mr Huw fod yn ffefryn ymysg y casglwyr yn eich plith, mae o wastad yn rhoi cryn feddwl i elfen esthetig ei ddeunydd. Tydi Gwna Dy Feddwl i Lawr ddim yn eithriad gyda phob CD yn cynnwys gwaith celf a phrint bawd unigryw. Gwilym Dwyfor


Cloddio Unterdach R.Seiliog Mae’r gân trans, seicedelig yma gan R.Seiliog wedi bod ar loop gen i ers rhai dyddiau a gyda phob gwrandawiad mae’n datguddio elfen newydd. Un thema sy’n bodoli drwy’r gân ond drwy ddefnyddio effeithiau gwahanol mae’r thema yn datblygu gan aros yn fresh a chyffrous. Mae’r elfen electroneg yn plethu’n wych gyda’r synau amgylchol yn y cefndir, a’r drymiau electroneg yn dod â phopeth at ei gilydd. Os ’da chi’n hoffi synau hudolus Gwenno fydd y trac hwn yn sicr o blesio. Cân fedrwch roi ar loop am oriau heb gael eich diflasu ganddi. Ewch i wrando rŵan! Rhys Tomos Fforesteering CaStLeS Ar brydiau’n ddiffaith ac agored, ar brydiau’n dynn a ffynci, mae CaStLeS yn creu sain electronig gyfoes sy’n eich gwahodd ar lwybr cerddorol y byddwch chi eisiau ei droedio fwy nac unwaith. Yn wir, efallai bod angen ei droedio nifer o weithiau i werthfawrogi’r albwm hwn, sydd yn datgelu rhywbeth gwahanol ar bob gwrandawiad. Mae seicedelia cyfredol Tame Impala ac Unknown Mortal Orchestra yn cuddio yn y gwrych yn rhywle, ond mae presenoldeb achlysurol rhythmau diddorol, cyflymach, yn gwneud CaStLeS yn addas ar gyfer tymor y gwyliau haf yn ogystal â misoedd trwm y gaeaf. Mae’r trac agoriadol, ‘Foresteering’, yn gyflwyniad cryf ac egnïol o’u cyfeiriadau seinyddol, gan gynnwys lleisiau cefndirol trwchus, arallfydol, sy’n eich cynhesu’n effeithiol ar gyfer gweddill eu casgliad. Wrth i’r albwm fynd ymlaen, pyla’r egni rhythmig rhyw ychydig i wneud lle i flasau newydd, fel y trawsacennu LladinAmericanaidd a geir ar ‘Ar Agor’.

Glyndŵr wedi ei wneud petai Carcharorion ganddo fo laptop a chasgliad Carcharorion recordiau ac mae ‘Eithafwyr’ â’i Dwy flynedd guriad Balearic yn codi’r tempo ers rhyddhau a’r pwysau gwaed. Gyda ‘Sais’, eu EP cyntaf, mae ailadrodd y gair “diwerth” mae’r ddeuawd yn effeithiol dros ben ac mae electronig Carcharorion wedi ‘Cawsom Wlad’ hefyd yn gwneud dychwelyd gyda record fer arall. i rywun deimlo’n wladgarol Yn y gân gyntaf, ‘Celfyddyd tu hwnt. Maldwyn’, mae’r ddau’n Yn treiddio trwy’r record dangos eu gwybodaeth RHA G I D W mae teimlad tywyll dros a’u gallu wrth samplo RAN DO ben fyddai’n gallu torri amrywiaeth o synau, calon rhywun oni bai bod o ganu telyn (Nansi y deunydd sydd wedi cael ei Richards dwi’n dyfalu) at samplo, yn hytrach, yn codi blys sgrechfeydd a hyd yn oed bugail am wrthryfel. yn chwibanu ar ei gi, i gyd dros Fydd y chwyldro ddim ar y guriad sy’n awgrymu anobaith teledu, gyfaill, ond fe all ddod gan fod y diwylliannau hyn yn trwy’r clustffonau petai pawb yn diflannu’n araf o bosib? gwrando ar y record hon. Mae’r gân ‘Carcharorion’ fel Ciron Gruffydd galwad i’r gad fyddai Owain

Does dim modd setlo mewn diflastod cyfforddus, fodd bynnag, os nad yw riff sitar-aidd ‘Argau’ yn ddigon i daflu eich disgwyliadau, bydd llesmair acwstig ‘Y Sefyllfa’ yn siŵr o wneud. Wrth i’r byd o’n cwmpas ruthro’n ddiderfyn, rhowch eich traed yn ôl ar y ddaear gydag ennyd i fyfyrio yng nghwmni CaStLeS. Gethin Griffiths Gan Bwyll Magi Tudur Tri pheth sydd ei angen ar artist unigol da, dawn offerynnol, llais nodweddiadol a’r gallu i ysgrifennu caneuon cofiadwy. Does dim dwywaith fod Magi Tudur yn gallu chwarae gitâr ac mae ganddi lais cynnes hynod hawdd gwrando arno. Roedd yna adegau serch hynny, wrth wrando ar eiriau’r EP yma, pan yr oeddwn i’n gwingo’n annifyr. Roeddwn i’n gweld ambell odl yn dod o bell efo police escort, roedd ambell i air fel “perspective” yn ‘Munud i Feddwl’ yn teimlo allan o le ac roedd hi’n ymddangos weithiau fod gormod o lyrics wedi eu gwasgu i ddim digon o le. Y newyddion da yw’r ffaith mai

ysgrifennu yw’r elfen y gellir ei datblygu fwyaf. Dawn naturiol yw llawer o’r ddau arall ond gellir gweithio ar y grefft o lunio cân, a dwi’n eithaf siŵr na fyddai rhai o’n hartistiaid mwyaf profiadol yn rhy falch o’u hymdrechion cynnar erbyn heddiw. Go brin y byswn i’n rhoi cymaint o sylw i safon ysgrifennu cyfoedion Magi Tudur ond dwi ddim ond yn gwneud hynny gan fod popeth arall o safon uchel. A does dim yn arddangos hynny’n well na’r gân draddodiadol, ‘Yr Eneth Glaf’, sydd yn rhoi clo atmosfferig trawiadol i’r casgliad. Gwilym Dwyfor


Fan Hyn Fan Draw Wermod Tydi Fan Hyn Fan Draw ddim yn soniarus yn yr ystyr confensiynol, ond eto, mae i’r record yma ryw rinwedd hypnotig bron sydd yn cyfareddu. Mae hi rhywle rhwng y Mabinogi a’r Mighty Boosh. Daw llais iasol Eirian Rowlands a chyffyrddiadau hudolus Maddie Towell ar y ffliwt i dorri’n achlysurol ar y gybolfa o synau electronig anghyfarwydd Rhys Spikes a churiadau annarferol Ashley Love. Mae’r elfennau’n cwffio yn erbyn ei gilydd ond yn priodi’n berffaith ar yr un pryd. Nid yw hwn yn ddarn o gerddoriaeth i’w fwynhau ar ben ei hun. Un rhan o gysyniad ehangach yw’r miwsig yn yr achos yma ac i’w werthfawrogi’n llawn mae’n rhaid amsugno’r holl brosiect yn ei gyfanrwydd, ac yn bwysicach, ymroi’n llwyr i’r ffantasi. Allan o’i gyd-destun mae hwn yn ddarn reit left field! Felly, i grynhoi, oes yma ddarn o gelfyddyd i’w edmygu? Oes. Ydw i yn mynd i fod eisiau gwrando arno wrth blicio fy nhatws ar fore Sul? Nag ydw. Gwilym Dwyfor Propeller Cpt. Smith Er mai band gweddol newydd ydy Cpt. Smith, mae disgwyliadau rhywun yn uchel, wedi eu llwyddiant gydau’r traciau ‘Pobol Mân’ ac ‘Yr Estron’, ac yn wir dyw’r EP yma ddim yn siomi. ‘Llenyddiaeth’ yw’r gân gyntaf, gyda riff y basa Yr Eira yn falch ohono, mae’r gân fel un gytgan fachog hir sy’n gwneud i chi awchu am weddill yr EP. Yn ail mae ‘Red Adair’, hon yw’r gân wnaeth y lleiaf o argraff arna’i. Cân hawdd gwrando arni ond braidd yn undonog o’i chymharu â gweddill caneuon yr EP. Mae ‘Merched’ yn gân Ffug-aidd, un a fyddai’n wych yn fyw. Mae’r trac tynn a byrlymus yma yn arddangos pa mor dalentog yw’r band ifanc.

‘Propeller’ yw’r bedwaredd gân ar yr EP, un sy’n gwella bob tro dwi wedi gwrando arni. Cân roc safonol ble mae’r gitârs yn gwrthgyferbynnu â’i gilydd yn wych. Mae’r EP yn gorffen gyda chân gwbl wahanol i’r gweddill, cân ddistawach, arafach ble mae’r riff ar y piano a’r gitârs yn cyfeilio. Mae’r gân wir yn arddangos mor amryddawn yw llais Ioan y prif leisydd. Dyma EP aeddfed gan fand ifanc sy’n cyflawni eu potensial. Rhys Tomos Ruins / Adfeilion The Gentle Good Yn ogystal â defnyddio’i lais hyfryd o gynnes, mae’r Gentle Good yn defnyddio’i ddawn gerddorol ar y gitâr (ac amryw o offerynnau eraill) i ddweud storïau sydd â naws hynafol ar ei albwm diweddaraf. Be s’gynnon ni ydi adlewyrchiad ohonom ni o fewn adfeilion ein hanes, ac mae Ruins / Adfeilion yn gwneud hynny gyda lliw gwerinol Cymreig cryf wedi ei gymysgu hefo dawn dweud stori fwy modern. Gyda’r gân agoriadol, ‘Gwen Lliw’r Lili’ yn gosod y naws offerynnol yn syth mi ddown ni wedyn at dywyllwch gwerinol ‘Pen Draw’r Byd’ ac ysgafnder ‘Y Gwyfyn’ lle clywn sŵn gitâr nodweddiadol Gareth Bonello a llais hyfryd Georgia Ruth yn cefnogi’r stori, uchafbwynt i mi. Yng nghanol yr albwm fe gawn ni’r teitl-drac ‘Ruins / Adfeilion’ sy’n mynd â ni’n syth i fyd cerddoriaeth ffilm, ac yn cynnwys soundscape anhygoel yn gefndir. Cân sy’n cynnau dychymyg yn syth, ac roedd gen i ffilm gyfan yn chwarae yn fy mhen erbyn diwedd y darn. Mae ‘Bound for Lampedusa’ yn stori epig arall, ac ‘Un i Sain Ffagan’ yn nod gelfydd i’r lle y cafodd y Gentle Good flas ar gerddoriaeth werin am y tro cyntaf. Mae ‘Merch y Morfa’ yn gorffen yr albwm gyda theyrnged emosiynol a’r cyfan wedi ei orchuddio gyda gwaith celf anhygoel o brydferth. Edrych ‘mlaen i chwarae hon yn y tŷ ar ddydd Sul distaw. Elain Llwyd

Tywod ARGRPH Mae ARGRPH wedi bod yn creu, wel, argraff dros y misoedd diwethaf a nawr mae ail sengl prosiect Emyr Sion Taylor wedi gweld golau dydd. Ar y gwrandawiad cyntaf mae sain y sengl yn ddigon cyfarwydd i unrhyw un sydd wedi gwrando ar y Dyffryn Conwy psych scene dros y degawd diwethaf, nid bod hynny’n syndod gan fod Llŷr Pari o Jen Jeniro wedi cynhyrchu’r record gyda Geth Davies o Sen Segur ar y drymiau a George Amor o Omaloma a Palenco ar y gitâr fas. Ond wrtho wrando eto, beth sy’n gwneud ARGRPH yn wahanol yw’r islais tywyll i’r sengl gyda llais Emyr bron yn crefu wrth iddo ganu ei fod o wedi “cael digon”. Mae cynhyrchiad Llŷr Pari hefyd yn llawn syniadau difyr sy’n ychwanegu at y naws tywyll. Ciron Gruffydd Alffa Alffa Alffa, beta, gama, byddwch yn barod i gael eich taro gan donfedd o flŵs pur. Dyma gasgliad addawol dros ben gan y ddeuawd o Lanrug, ac o ystyried fod y band yn weddol newydd, maen nhw’n amlwg yn gyfforddus gyda’u sain. Gyda chymysgedd o draciau trwm megis ‘Tomos Rhys’, a chyferbyniadau arafach megis ‘Cofia’, maent yn ymddangos yn feistrolgar iawn gyda’r arddull penodol hwn. Ceir yma offeryniaeth gadarn rhwng y gitâr a’r drymiau, gyda’r cyfuniad yn fy atgoffa’n gryf o waith Led Zeppelin, yn ogystal â chyffyrddiadau o waith Big Leaves. Yn cyd-fynd â hynny, mae yna sain byw ac amrwd i’r casgliad, sy’n adlewyrchu gwir sain ac arddull y band. Mae yma hefyd yr awydd i arbrofi fel cerddorion, ac mae’r trac ‘Alffa’ yn llwyddo i gynhyrchu naws ynddo’i hun, gan ychwanegu amrywiaeth i’r EP. Bydd yn ddifyr gweld i ba gyfeiriad yr aiff Alffa nesa’. Ifan Prys


Newydd i’r Nadolig! £7.99

£9.99

£8.99

£7.99

www.ylolfa.com

Raslas bach a mawr! DVDs Syr Wynff a Plwmsan Hwn yw’r ail DVD yn dilyn hynt a helynt y ddau gymeriad gwallgof ond hoffus – Syr Wynff ap Concord y Bos a Plwmsan y Twmffat Twp!

Mwynhewch lond bol o chwerthin iach yng nghwmni dau o gymeriadau mwyaf slepjanllyd Cymru

Ar gael o’ch siop leol neu – www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 ffacs 01286 831.497 sain@sainwales.com


Diwrnodau Agored Y Drindod Dewi Sant Campws Caerfyrddin 4 Chwefror 2017

Campws Llambed 28 Ionawr 2017

Campws Abertawe 3 Rhagfyr 2016 18 Chwefror 2017

BA Perfformio (Caerdydd) 26 Tachwedd 2016 11 Chwefror 2017

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

@AstudioYDDS

#DyddieDa

www.ydds.ac.uk/cy/ymweld

Profile for Y Selar

Y Selar Tachwedd 2016  

Cylchgrawn yn trin a thrafod y sin roc Gymraeg - Cpt Smith, CaStLeS, Adwaith, Lansio Gwobrau'r Selar & Apton - gwasanaeth ffrydio newydd i G...

Y Selar Tachwedd 2016  

Cylchgrawn yn trin a thrafod y sin roc Gymraeg - Cpt Smith, CaStLeS, Adwaith, Lansio Gwobrau'r Selar & Apton - gwasanaeth ffrydio newydd i G...

Profile for y_selar
Advertisement