Y Selar - Rhagfyr 2018

Page 21

Gan ’mod i wedi byw trwy’r cyfnod hwnnw ro’n i’n teimlo, os fyswn i’n ffan o Catsgam, mi fyswn i’n ffan yn barod. Ond fe wyddoch chi’r hen ddihareb yna am lyfrau a’u cloriau gwyddoch... y gwir amdani oedd fy mod i’n fwy o ffan nag o’n i’n ei wybod! Ro’n i’n meddwl mai dim ond ‘Riverside Cafe’ fyswn i’n ei hadnabod ond mae’r casgliad yn llawn clasuron cyfarwydd. Mae ‘Moscow Fach’, ‘Llwybrau’, ‘Efallai Afallo’, ‘Seren’ a ‘Chwarae Bant’ wedi chwarae rhan amlwg yn rhestrau chwarae naw tan bump Radio Cymru dros y blynyddoedd ac mae rhywbeth yn gysurus iawn mewn rhywbeth cyfarwydd. Yn naturiol, mae’r sain wedi dyddio braidd ond ma’ nhw dal yn tiwns ac mae modd gwerthfawrogi llais arbennig Catrin Brooks. Wedi dweud hynny, doedd y pedwar aildrefniant newydd ddim yn cyffroi llawer arna’i ac o tua trac 12 ymlaen ro’n i’n dechrau edrych at y diwedd unwaith eto gan gyfiawnhau fy ngreddf wreiddiol o bosib! Gwilym Dwyfor Coelcerth Wigwam Mae agoriad cryf a phendant i’r albwm. Mae popeth yn dod at ei gilydd yn wych ac mae’n siŵr y byddai clywed ‘Hen Bryd’ yn fyw cystal ag yw hi ar record. Yr un ffordd mae ‘Taran’, sy’n cloi’r albwm, yn llawn egni a hwyl a hawdd dychmygu hon yn cael ei mwynhau mewn gig hefyd. Mae sawl cân bop-roc canol y ffordd sy’n ddigon hawdd gwrando arnyn nhw yn y casgliad ond mae’r albwm ar ei orau pan mae’r band yn mentro mwy, gyda sawl cân yn sefyll mas oherwydd hynny. Mae ‘Tria Eto’ â’i naws blŵs, ei bas trwm a’i gitârs yn rhoi sŵn trymach i ni tra mae ‘Ar Dân’ ac ‘Yn Y Byd’ yn fwy heriol ac yn rhoi cyfle i ni glywed sŵn aeddfed a chyflawn y band. Mae’r sain hyderus yn dipyn o beth i fand ifanc a llednewydd, ac yn argoeli’n dda ar gyfer cynnyrch y dyfodol. Bethan Williams

Gwn Glân Beibl Budr Lleuwen O strymio gwyllt bariau agoriadol ‘Myn Mair’ hyd at nodyn olaf hiraethus ‘Hwyr’, dyma albwm sy’n cydio. Amlygir, unwaith eto, allu unigryw Lleuwen i fod yn anghonfensiynol ond persain. Ni ddylai’r clytwaith o dechnegau lleisiol ar ‘Pam’ berthyn i’r un gân ond ma’ nhw’n plethu’n berffaith. Ni ddylai rhythmau anarferol ‘Cân Taid’ weithio ond ma’ nhw rywsut. Os ydach chi, fel fi, wedi eich creithio gan flynyddoedd o wrando ar ffans rygbi meddw’n dinistrio ‘Cwm Rhondda’, mae gan Lleuwen y ffisig perffaith. Mae ei dehongliad hi o eiriau Ann Griffiths, ‘Rhosyn Saron’ ar dôn enwog John Hughes yn ein hatgoffa sut y daeth hi’n un

o hoff emynau’r Cymry yn y lle cyntaf. Ynghyd â’r emynau a’r caneuon traddodiadol mae’n braf clywed cyfansoddiadau gwreiddiol Lleuwen sy’n ein hatgoffa cystal bardd ydi hi. Ceir ryw adlais bach o ‘Nine Million Bicycles’ Katie Melua yn ‘Caerdydd’ ac mae ‘Y Don Olaf’ yn cynnwys y llinell anfarwol, “Ond Iesu, lle ddiawl ma’r emoji sy’n dangos ein bod ni’n hiraethu”. A ‘Mynyddoedd’... mae ‘Mynyddoedd’ yn aruthrol. Un gair i ddisgrifio’r albwm? Angerdd. A phan dwi’n deud angerdd, dwi ddim yn golygu ryw angerdd gweiddi ar dop eich llais, ond angerdd distaw, angerdd diffuant, angerdd credadwy. Gwilym Dwyfor RHAID GWRANDO


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.