Ysgol Sul

Page 1

Ymunwch â ni!


R

hodd gan Dduw yw pob plentyn ac yma, yng Nghapel Seion mae’r Ysgol Sul yn darparu amgylchedd diogel, hapus a cheadigol sy'n galluogi plant i archwilio eu perthynas â Duw. Rydym yn griw o athrawon ymroddedig yn caru'r Arglwydd ac yn caru plant. Rhannwn straeon, gweithgareddau a gweddïau o'r Beibl yn frwd, sy'n meithrin datblygiad ffydd eich plentyn. Mae'r dosbarthiadau Ysgol Sul ar gyfer plant oed ysgol gynradd a blynyddoedd cynnar ysgol uwchradd. Defnyddiwn astudiaeth Feiblaidd, gemau, gweithgareddau, celf, a hyd yn oed bwyd arbennig i wneud profiadau cofiadwy.

Unwaith y mis cynhaliwn Cwrdd Plant sy’n cynnig cyfle i blant glywed stori, darllen emyn, gweddio a darllen o'r beibl a dweud ei hadnodau yng ngwmni‘r oedolion yn y Capel. Mae’r cyfle yma yn amhrisadwy gan ei fod yn datblygu sgiliau cyfathrebu, adrodd a chanu yn gyhoeddus a pherfformio yng ngwyl y geni. Rydym yn trin y plant â'r gofal mwyaf. Fel athrawon a gwirfoddolwyr rydym yn aelodau ymroddedig sy’n estyn allan at blant fel y galwodd Iesu arnom i wneud. Mae gennym lawer o gyfleoedd i blant a theuluoedd ddysgu, addoli a mwynhau cymrodoriaeth gyda'n gilydd. Mae addysg Gristnogol yn gwneud plentyn cyflawn a

dylai pob un ohonom barhau i ddysgu fwy am y Beibl a byw ein bywyd yn ei holl gyflawnder.

ATHRAWON

Caroline Jones. Ann Thomas. Ann Davies.

01269 870893 gwynelfyn@gmail.com 01269 841362 annyberllan@googlemail.com 01269 843767 anndm@talktalk.net

Am fwy o wybodaeth ewch i capelseion.uk/plant

Ysgol Sul


YSGOL SUL Pa mor bwysig yw gweinidogaeth plant? Erbyn i blentyn fod yn 9 oed mae ei sylfaen foesol wedi'i ffurfio. Bydd ymhell dros hanner y plant sy'n credu yn Iesu yn gwneud hynny erbyn eu bod yn 12 oed ac erbyn 13 oed mae person wedi ffurfio ei gredoau sylfaenol cyntaf, hynny yw, natur Duw, dibynadwyedd y Beibl a chariad tragwyddol yr Arglwydd Iesu. Trwy weinidogaeth plant mae gennym gyfle i ymgysylltu â chalonnau plant pan fyddant fwyaf agored i'r Efengyl. Rydym yn gallu camu i'w bywydau trwy'r holl roddion o ddysgu, gwasanaethu a hyrwyddo er mwyn gallu rannu'r Efengyl gyda phlant am y tro cyntaf yn eu bywydau a'u helpu i ffurfio eu meddyliau cyntaf o bwy yw Duw. Mae gan ein athrawon ac oedolion sy'n gwirfoddoli i gyd gliriadau DBS ac maent yn dilyn canllawiau ein Polisi Amddiffyn Plant. Gellir ddarllen ein polisïau ar-lein ac mae copïau gennym yn yr Ysgol Sul. BLE:

Festri Capel Seion, Drefach. SA157BW

PRYD: 9.30 -10.30yb. CWRDD PLANT: Yn y capel drws nesaf i’r festri am 10.30yb. GWYLIAU: Bydd gennym wyliau rhun fath â’r ysgolion. TRIP: Bydd trip y plant ar ddiwedd tymor yr haf i un o draethau hyfryd de Penfro. Gwahoddwn rhieni ac aelodau. PARCIO: Gallwch barcio’n ddiogel yn y maes parcio ond byddwch yn ofalus os ydych yn parcio ar yr heol fawr oherwydd traffig cyflym ar adegau.


EIN GWELEDIGAETH “Adnabod Iesu a’i wneud yn hysbys i’r genhedlaeth nesaf.” Meddai Iesu,

“Gadewch i'r plant bach ddod ata i. Peidiwch â'u rhwystro, am mai rhai fel nhw sy'n derbyn teyrnasiad yr Un nefol.”

CYSYLLTU

Mathew 19:14 Beibl.net

PLANT AG

IESU

Gweledigaeth


DYSGU A DATBLYGU Gorolwg

Mae’r Ysgol Sul yn cynnig nifer o brofiadau datblygiadol pwysig i blant. Bydd plant yn dysgu gyda’i gilydd, canu, adrodd, gwrando ar storïau, paratoi a chydweithio, adrodd ei hadnodau a cymryd rhan yn oedfa’r Nadolig.

Cwrdd Plant

Y Gymanfa

Mae’r plant yn paratoi ar gyfer y Gymanfa tua dechrau mis Mawrth a chael ei rihyrsal cyn y Gymanfa ar Sul y Blodau.

Cawn Gwrdd Plant ar yr ail Sul o bob mis yn y capel. Cawn stori berthnasol i amser o’r flwyddyn a chyfle i blant gyflwyno emynau, darllen a gweddio ac ymateb yn rhyngweithiol. Ar ddiwedd pob oedfa adroddir eu hadnodau o’r sedd fawr gan wynebu'r gynulleidfa o blant ac oedolion.

Ond meddai Iesu,

100 mlynedd o nawr, BYDD DDIM OTS beth oedd fy nghyfrif banc, y math o dŷ roeddwn i'n byw ynddo, neu'r car y gwnes i ei yrru, ond gall y BYD FOD YN WAHANOL IAWN oherwydd roeddwn i'n BWYSIG YM MYWYD PLENTYN.

Diolchgarwch

Mae’r Hydref yn gyfle i ni gyd ddiolch am y cynhaeaf. Mae yn hen draddodiad yn y wlad i ddiolch i Dduw am ei rhoddion i ni. Diolchwn hefyd am rhieni, brawd neu chwaer a theulu. Am yr ysgol ac athrawon, ysbytai a meddygon a nyrsys ac am y bobl eraill sy’n gofalu amdanom ar daith bywyd.

Nadolig

Mae’r Nadolig yn gyfnod spesial iawn yng nghalendr yr eglwys. Mae’r athrawon a gwirfoddolwyr yn paratoi plant o bob oed yr Ysgol Sul i gymryd rhan mewn oedfa arbennig i ddathlu Gwyl y Geni. Mae’r cyfnod yn dysgu plant am enedigaeth Iesu mewn cyfnod o erledigaeth, am ymdrech Mair a Joseff i’w ddioglei ac am y mab a anwyd mewn preseb a rhanwyd gan anifeiliaid y stabl.

Casgliad

Mae casgliad Ysgol Sul y plant yn arfer da sy’n dysglu’r plant i gyfrannu ac elwa o’r gronfa fach drachefn.

DYSGU


CAPEL SEION Drefach, Llanelli, Sir Gaerfyrddin. SA14 7BW gwynelfyn@gmail.com 01269 870893 07970 410278


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.