Glöyn y Pysgotwr
gan Coco & Cwtsh
Heledd, Mared, Caleb, Elan, Mabli, Elsi a Cadno
am eu hysbrydoliaeth
Cyhoeddiadau Coco & Cwtsh
Ar waelod coetir bach tawel, mae criw o goed derw hynafol yn sefyll yn agos at ei gilydd, fel hen ffrindiau. Mae eu canghennau cryfion yn ymestyn allan fel breichiau mawr i gwrdd yn uchel uwchben i wneud to o ddail gwyrdd. O dan y to deiliog hwn mae gardd y mae pawb wedi hen anghofio, lle mae pelydrau’r haul yn dawnsio ac yn plethu patrymau euraidd ar ei thraws cyn diflannu mor gyflym ag y daethant.
Roedd yr ardd wedi tyfu’n wyllt dros flynyddoedd lawer - adar yn hedfan o gangen i gangen, gwenyn yn hymian ar ei taith, a gweision y neidr yn gwibio dros y llyn bach a oedd yn disgleirio yng ngolau'r haul. Mae'r ardd yn llawn blodau gwyllt â blanced o glychau'r gog yn siglo’n dyner yn yr awel.
O dan gangen hen dderwen ddoeth safai sedd bren a threuliwyd gan y tywydd ac wrth ei hymyl, saif hen degyl haearn rhydlyd wrth ochr lwybr carreg. Roedd y tegyl yn gyfan ac yn
edrych fel pe bai wedi bod yno ers amser maith.
Wedi'i guddio yng nghysgodion clyd y tegyl roedd Glöyn yn byw. Creadur bach chwilfrydig oedd Glöyn gyda breuddwydion mawr a chariad rhyfedd at anturiaethau. Doedd e ddim
cweit yn byg, nac yn dipyn o löyn byw, ond rhywbeth yn y canol. Y tegell oedd ei gastell, ei hafan bach diogel, a'r ardd gyfan ei deyrnas o anturiaethau.
Dechreuodd y bore yma, fel llawer o rai eraill, gyda’r addewid o ddarganfod, chwerthin—a dim ond ychydig bach o ddireidi.
Y tu mewn i'r tegell, mae rhywun arbennig yn deffro i ddiwrnod newydd, heulog, braf.
Yn araf cododd Glöyn gaead y tegyl a phipiodd allan ar yr ardd. Gwenodd yr haul i lawr, gan fwrw streipiau aur rhwng y dail, a chanodd yr adar yn llawen yn y coed.
“Wel, mae hwn yn fore braf!” meddai Glöyn, gan agor ei enau mewn dyrnod llydan a rhwbio ei glustiau bach, melfedaidd. Gwthiodd y clawr yn uwch a gwenodd iddo'i hun, wrth freuddwydio am bosibiliadau'r dydd.
Dringodd allan yn heini, gafaelodd ar ddolen y tegell â'i dwy law, a fflipiodd ei hun i'r awyr fel gymnastwr, a glanio’n berffaith ar y llwybr.
“Diwrnod da i bysgota, dwi’n meddwl,” datganodd, gan estyn ei freichiau ag ochenaid fodlon.
Estynnodd yn ôl i’r tegyll a thynnodd allan, gwialen bysgota, rhwyd lydan ac ymbarél gwyrdd a melyn i gysgodi rhag gwres yr haul. Rhwygodd ddarn mawr o fara oddi ar dorth fechan, taflodd ei fag dros ei ysgwydd ac i ffwrdd ag ef yn sionc, gan hymian ar ei fford ar hyd y llwybr tuag at lyn Penlan.
Pan gyrhaeddodd lan y llyn, agorodd yr ymbarél i gysgodi rhag yr haul, gollyngodd y rhwyd
lawr wrth ei ymyl a thaflodd ei lein bysgota i'r llyn glas llonydd. Yna eisteddodd ar garred fawr gwastad, gan wylio'r lein yn y dwr a’r crychdonnau yn ymledu.
Bu yno am amser hir heb weld yr un pysgodyn a methyliodd wrtho’i hun, “Efallai y byddai pysgota yn y dŵr dyfnach yn well, Ie, dyna beth fydd orau.”
meddyliodd, gan edrych o gwmpas am gwch. Ond roedd ddim ar gael.
Cafodd syniad. Cydiodd yn yr ymbarél, ei droi drosodd a’i ddodi wyneb i waered yn y dŵr.
“Perffaith. Dyma ni, dyma’r cwch sydd angen arnaf i hwylio i ganol y llyn.”
Cyn camu i'r ymbarél gwelodd Glöyn ddŵr yn gollwng trwy dwll bach yn yr ymbarél gan
lanw'r gwaelod â dŵr y llyn.
Cyn camu i'r ymbarél gwelodd Glöyn ddŵr yn gollwng trwy dwll bach yn yr ymbarél gan
lanw'r gwaelod â dŵr y llyn. Diflanodd ei ei wên ar unwaith.
"O diar beth wnaf i nawr," meddai yn ddigalon. Wrth iddo blygu ymlaen i edrych ar y twll yn fwy manwl clywodd lais bach gwichlyd yn dod o gangen y goeden uwchben. Trodd Glöyn i
weld o ble ddaeth y llais. Gwelodd gorryn bach yn hongian ar linyn disglair o we yn symud
yn ôl ac ymlaen fel pendil cloc ar yr awel.
“Rwyf wedi sylwi arnat ti ers tipyn” meddai’r corryn bach. “Rwyf wedi newydd orffen cartref
bach hyfryd i mi fy hun ac rwy'n credu gallaf dy helpi di.” meddai’r corryn bach.
Gwenodd y corryn. “Gall hyd yn oed y rhai lleiaf drwsio problemau mawr.”
Aeth Glöyn ymlaen i egluro wrth y corryn bach ei fod am rwyfo’r ymbarél i ganol y llyn er mwyn pysgota, ond roedd twll ynddo.
“Gallaf gywiro'r twll bach i ti allan o glytiau dail a’u gwnïo gyda'i gilydd dros y twll.” eglurodd y corryn bach.
“O diolch yn fawr corryn bach,” meddai Glöyn. Roedd mor ddiolchgar ond yn dal rhywfaint yn ansicr.
Casglodd Glöyn y dail mwyaf meddal a gweithiodd y corryn bach yn ddiwyd i’w gwnïo gyda’i gilydd. Wrth i’r ddau brysuro i glytio’r twll nofiodd Eog mawr aur yn dawel ar wyneb y llyn i ochr y cwch bach a gofynnodd i’r ddau beth oeddent yn ei wneud.
Atebodd Glöyn yn llawn gobaith.
“Ni’n gwneud cwch bach o’r ymbarél er mwyn i’w rhwyfo i ganol y llyn i bysgota”
“Pysgota!” gwaeddodd yr Eog mawr aur, wedi dychryn yn llwyr, "Pysgota!" gwaeddodd eto, ond dipyn yn uwch y tro hyn. Yna suddodd yn ôl i’r llyn a nofio i ffwrdd nerth ei gynffon.
O’r diwedd roedd y twll wedi’i gywiro a chamodd Glöyn yn ofalus i mewn i’r cwch bach.
Defnyddiodd y wialen bysgota i wthio’r cwch bach i ffwrdd o ochr y llyn a rhwyfodd yn araf i ganol y llyn.
Wedi cyrraedd y canol, tynnodd y bara allan o’i fag pysgota a thorrodd ddarnau llai o faint.
Clymodd tamaid ar ddiwedd y lein a thaflodd y lein i mewn i’r llyn. Yna eisteddodd yn ôl i aros i’r pysgod ddod yn agos.
Roedd yr Eoag mawr aur yn ofnus o gael ei ddal. Ond oedd hefyd eisiau bwyd. Nofiodd yn agos i’r cwch ac edrychodd ar y bara’n fanwl cyn mentro ei fwyta.
‘Wel, Wel” meddai’r Eog mawr wrtho’i hyn, “Does ddim bachyn ar y lein yma i ddal yr un pysgodyn. Mae’n ddiogel i fwyta’r bara wedi'r cwbl.” Yna llyncodd y bara i gyd a thynnodd ar y cordyn i roi arwydd ei fod wedi gorffen.
Tynnodd Glöyn y lein i mewn a chlymodd ddarn arall o fara ar y lein a thaflodd hwnnw eto i mewn i ddŵr y llyn.
Bwytaodd yr Eog mawr aur y bara i gyd unwaith eto. Erbyn y diwedd roedd wedi bwyta bob tamaid o'r bara ac roedd ei fol fel balŵn ar fin postio.
Roedd Glöyn y hapus dros ben a chwarddodd wrth daflu’r briwsion oedd ar ôl i’r dŵr.
Cododd yr Eog mawr aur ei ben dros wyneb ddŵr y llyn a gwaeddodd,
“Diolch yn fawr Glöyn” a chwythodd golofn o ddŵr o’i geg yn uchel i’r awyr gan wneud bwa mawr dros y cwch.
Dechreuodd fwrw glaw yn drwm a llanwodd gwaelod yr ymbarel yn gyflym.
Yn sydyn, teimlodd Glöyn ei draed yn wlyb, edrychodd i lawr a chriodd allan mewn ofn dychrynllyd.
“Dŵr!"
“O diar,” criodd Glöyn yn ofidus “Beth wnâi nawr? Mae’r glaw wedi dechrau llanw’r ymbarel ac mae’r edau gwnïodd y coryn wedi rhyddhau o’r dail ac mae dŵr y llyn yn llifo'i fewn.”
Roedd yr Eog mawr aur yn mwynhau torheulo yn y dŵr bas wrth ymyl y llyn pan glywodd lais crynedig Glöyn yn galw. Gwaeddodd yr Eog mawr aur yn ôl.
“Paid â phoeni Glöyn bach rwyf ar y ffordd.” Nofiodd yr Eog nerth ei gynffon tuag at Glöyn ac wrth iddo agosáu, gorchmynnodd,
"Neidia ar fy nghefn i ac fe nofiwn yn ddiogel i’r lan"
Roedd Glöyn braidd yn betrusgar wrth ddringo allan o'r ymbarél. Roedd rhaid iddo symud yn gyflym gan ei fod bron hanner llawn dŵr erbyn hyn ac yn dechrau suddo. Neidiodd o’r ymbarél wrth iddo suddo a glaniodd gyda phlop meddal ar gefn yr Eog mawr aur.
“Dal yn dynn Glöyn bach!” meddai'r Eog.
I ffwrdd â nhw - yn ôl i'r lan, gan anfon tonnau mawr a defnynnau pefriog ar draws y llyn.
Nofiodd yr Eog mawr yn gyflym ar draws y llyn â Glöyn yn eistedd fel marchog balch ar ei gefn.
Wrth iddynt gyrraedd y dwr bas, dringodd Glöyn oddi ar gefn yr Eog yn ddiogel ar y
glaswellt, yn socian ond yn gwenu.
“Diolch,” meddai, ei lais yn crynu mewn ofn a chyffro. “Fe wnaethost fy achub i!”
Chwarddodd yr Eog. "Rhoddaist ti wledd i mi, ond teg ro'n i'n rhoi reid i ti!"
Cyrhaeddodd y ddau'r lan lle'r oedd y corryn bach yn dal yn hongian ar linyn tenau o we
wrth y goeden. Roedd y corryn wedi gweld a chlywed yr holl helynt ac wedi synnu gweld yr antur fawr.
Dringodd Glöyn i ddiogelwch y lanfa allan o wynt yn llwyr.
“Wel, wel! dyna bysgotwr rhyfedd wyt ti Glöyn. Gwelais i erioed bysgotwr yn bwydo pysgod heb geisio eu dal o’r blaen. A dyna bysgodyn aur rhyfedd wyt ti. Gwelais i erioed Eog aur yn
cludo pysgotwyr ar ei gefn i’r lan o’r blaen.”
Edrychodd pawb ar ei gilydd a chwarddodd y tri yn braf.