Cluste yn colli ei gysgod.

Page 1

Cluste’n Colli Cluste’n Colli eiei Gysgod Gysgod Cyfres ddarllen Anturiaethau Coco a Sisi

Llyfrau newydd i blant rhwng 7a 11 blwydd oed

Gwdihŵ Cyhoeddiadau


Gwdihŵ Cluste’n Colli ei Gysgod gan Gwdihŵ. Argraffiad cyntaf: Awst 2019. Gwdihŵ Argraffiad i ddathlu agoriad swyddogol Cylch Canol Llundain ar 7fed o Fedi 2019 Paratowyd ar gyfer cyhoeddi gan Gwdihŵ. Cedwir pob hawl. Ni chaniateir i unrhyw ran o'r cyhoeddiad neu’r meddalwedd hwn gael ei atgynhyrchu, trosglwyddo neu ei storio mewn system adalw, ar unrhyw ffurf neu drwy unrhyw gyfrwng, heb ganiatâd ysgrifenedig gan Gwdihŵ. Cyhoeddwyd yng Nghymru fel pdf, e-lyfr a chopi caled. Mae Cluste’n Colli ei Gysgod yn rhan o gyfres ddarllen Anturiaethau Coco a Sisi i’ch plentyn. Golygwyd gan Siriol Thomas.


Cluste’n Cluste’nColli Colli eieiGysgod Cysgod gan

Gwdihŵ

Diolch i’r plant

Heledd, Mared, Caleb, Elan, Mabli, Elsi a Cadno am eu hysbrydoliaeth.

Gwdihŵ Cyhoeddiadau


Cododd yr haul yn araf dros y gorwel a chwythodd yr awel yn ysgafn dros wyneb y llyn. Roedd arwyddion o ddiwrnod braf ym Mhenlan. Diwrnod delfrydol i greaduriaid bach yr ardd i ddod allan i chwarae.


Cododd yr haul yn uwch. Yn sydyn, daeth pob anifail bach allan i chwarae.


Roedd Cluste y Sgwarnog yn breuddwydio yn ei wely pan clywodd sŵn ‘bss bss’ uwchben y twll. Cododd ei ben a’i glustiau hir i syllu allan. Gwelodd Gwen y wenynen yn brysur yn casglu mêl o’r cennin Pedr a chlychau’r gog yn yr ardd gan fwmian yn braf iddi ei hun. “Bore da Gwen” meddai “Wyt ti am fynd am dro o amgylch y llyn?” “Syniad da!” Yna meddyliodd Gwen am eliad ac ychwanegodd. “Mae gen i syniad gwell. Hoffet ti gael râs o amgylch y llyn?” “O, rwy’n hoffi’r syniad yna” atebodd Cluste. “Dere i ni ddechrau’r râs ar ochr y lanfa?” Dringodd Cluste allan o’r twll a sbonciodd yn llawen ar ei ffordd draw at y linell gychwyn. Dilynodd Gwen yn agos ar ei ôl. Roedd Sisi’r hwyaden a Coco y cadno bach coch yn gwrando ar y ddau tu ôl i’r blodau yn yr ardd. Penderfynodd Coco i helpu.



“Gofalus” gwaeddodd Sisi hwyaden wrth i Coco fynd yn agos iawn i ochr y llyn “Barod” galwodd Coco. Yna dechreuodd gyfrif allan yn uchel. “ Un, dau, tri a ...bant a chi!” Dechreuodd Gwen yn gyflym a rhedodd Cluste y Sgwarnog ar ei hôl. Cyn bo hir roedd Cluste wedi dal i fyny a bron a chymryd y blaen. Rhedodd Cluste mor gyflym nes i’w gysgod yn haul y bore fethu’n deg a dal i fyny ag ef. Ceisiodd Gwen ei gorau glas i ddal i fyny gan chwifio’i hadenydd bach mor gyflym ag y gallai. Roedd Cluste ymhell ar y blaen ond yn anffodus roedd ei gysgod yn methu’n deg a dal i fyny ag ef. O’r diwedd croesodd y gwibwyr y linell derfyn a Chluste y Sgwarnog yn ennill y râs yn hawdd.



Roedd Cluste a Gwen yn siwps o chwys ac allan o wynt yn llwyr. Erbyn hyn roedd yr haul wedi codi’n uwch yn yr awyr a sylwodd Sisi bod rhywbeth rhyfedd wedi digwydd. Edrychodd ar y ddaear o amgylch Cluste a gofynnodd o ddifrif? “Cluste, ble mae dy gysgod di?” Edrychodd Cluste i lawr ar ei draed ac er mawr syndod iddo gwelodd fod gan pob blodyn a choeden gysgod ond doedd ef heb gysgod o gwbl. Roedd Cluste druan wedi colli’i gysgod wrth rhedeg mor gyflym o amgylch y llyn! “O diar, rwyf wedi colli fy nghysgod,” criodd yn druenus wrth chwilio o gwmpas ei draed. “Beth wnaf fi nawr?” Edrychodd Coco a Sisi ar ei gilydd gan feddwl beth i wneud. “Paid a phoeni” meddai Sisi “Mae’n rhaid ei fod yn rhywle. Dere Coco, dere Gwen, fe awn i chwilio amdano!” “Bydd rhaid i ni adrodd y stori i bawb a chwrdd i chwilio wrth ymyl y llyn”



“Paid a phoeni Cluste bach fe ddewn o hyd i dy gysgod di cyn bo hir.” Siglodd Sisi ei gwt a bant ag ef. Dilynodd Coco a Cluste’n agos ar ei ôl. Cyrhaeddodd y tri ymyl y llyn ond doedd neb yno’n chwarae. Dim ond Gwen oedd yno ac roedd hithau’n brysur yn casglu neithdar o’r blodau.


“Cluste, aros di yma i chwilio ac fe awn ni i chwilio am yr anifeiliaid bach” Yna galwodd allan yn uchel er mwyn i bawb ei glywed, “Cysgod Cluste, ble wyt ti? Cysgod Cluste, ble wyt ti?”


R

Cyrhaeddodd Sisi a Coco wrth droed y goeden dderwen. Dychrynodd Brws y wiwer gymaint nes iddo ddringo’n gyflym i ddiogelwch y gangen uchaf oll. “Mae Cluste y Sgwarnog wedi colli’i gysgod, dere i ni gael chwilio amd,” galwodd Sisi.


Bodlonodd Brws ar un waith ac lawr ag ef o un cangen i’r llall gan edrych yn ôl i weld os oedd ei gysgod yntau yn dal yn ei ddilyn.

Galwodd Brws allan yn uchel, “Cysgod Cluste, ble wyt ti?”

R


Cyrhaeddodd Coco a Sisi wrth ochr y llyn. “Dere Brog!” galwodd Sisi. “Mae Cluste y Sgwarnog wedi colli’i gysgod wrth rhedeg o amgylch y llyn” Cafodd Brog y broga gymaint o ofn nes iddo neidio i’r awyr a bron a glanio ar ben y penbyliaid bach a oedd yn chwarae ar ddail y lili ddŵr.


“Crawc,” atebodd Brog yn groch wrth iddo geisio dyfalu sut ar wyneb ddaear mae rhywun yn gallu colli’i gysgod. Neidiodd allan o’r dŵr a galwodd allan, “Cysgod Cluste, ble wyt ti?”


Wrth i Sisi a Coco gyrraedd y lanfa roedd Baa y ddafad a’r crëyr glas wedi clywed bod Cluste wedi colli’i gysgod ac roedd y ddau yn chwilio amdano’n barod. Roedd Baa wedi mentro ar y lanfa a’i goesau bach yn crynu fel dail y coed mewn storm. Wrth edrych dros ochr y lanfa i ddŵr y llyn clywodd Baa lais yn galw, “Gofalus!” meddai Sisi’n yn ofidus “Paid a mentro! Mae dŵr y llyn yn rhy ddwfn i anifail bach fel ti”.


‘Wsh, wsh, wsh’. Daeth sŵn adenydd yn agos a chysgod mawr y crëyr glas yn dilyn dros y llyn. Curodd ei adenydd hir wrth chwilio’r llyn am y cysgod gan bron a chwythu Baa dros ymyl y lanfa. A’i chwilio am gysgod Cluste neu am bysgod i lanw’i fola oedd e?


Cyrhaeddodd Sisi y coed pîn lle roedd Coco y cadno bach coch yn chwyrnu’n braf yn ei ffau fach gynnes. Roedd Coco wedi mynd yn ôl i’w ffau i orffwys erbyn hyn ac wedi syrthio i drwmgwsg. Breuddwydiodd am antur fawr y bore a’i glustiau bach yn plycio yn ôl ac ymlaen gyda phob digwyddiad.


“Dihuna Coco” galwodd Sisi.” Rhaid i ti ddod i chwilio am gysgod Cluste”. Dihunodd Coco o’i drwmgwsg a chofiodd yn sydyn am helynt y bore. Agorodd un llygad a meddyliodd unwaith eto, sut yn y byd oedd Cluste wedi colli’i gysgod? Cododd Coco i ymyl y ffau ac udodd allan yn uchel, “Cysgod Cluste, ble wyt ti?”


O’r diwedd dyma’r anifeiliaid bach i gyd yn cyrraedd y llyn gyda’i gilydd. Roeddent i gyd wedi chwilio ymhob man yn yr ardd am gysgod Cluste, ond roedd un lle ar ôl i chwilio, sef mewn yn y llyn. “Koiboi! Mae Cluste y Sgwarnog wedi colli’i gysgod ac mae angen dy help di i chwilio’r llyn.” Ond roedd Koiboi y Koi bysgodyn yn rhy brysur yn mwynhau chwarae gyda Gwen.

Casglodd pawb gyda’i gilydd wrth ochr y llyn wedi chwilio a chwilio ymhob man am gysgod Cluste.


“Koiboi” galwodd Sisi unwaith eto. Mae Cluste y Sgwarnog wedi colli’i gysgod mae angen dy help di i chwilio’r llyn” “Rwyf wedi bod yn chwilio am gysgod Cluste ers y bore” atebodd Koiboi. Yna chwythodd golofn o dŵr i’r awyr a deifiodd o’r golwg gan wneud sblas fawr.


Wrth i’r anifeiliaid bach gasglu wrth y llyn crwydrodd Gwen i’r cae blodau i chwilio am neithdar a dyna lle’r oedd cysgod Cluste yn eistedd o’r golwg yng nghanol y blodau a’i ben yn ei ddwylo wedi drysu’n llwyr. Roedd wedi blino’n lan wrth chwilio am Cluste. Yna clywodd sŵn suo Gwen uwchben. Trodd ac edrychodd i fyny ar unwaith a gwelodd Gwen a’i phen yn nhrwmped cenhinen Bedr fawr felen yn mwmian yn braf iddi ei hun. Uwchben roedd y cymylau yn dechrau casglu.


“Gwen, beth wyt ti’n gwneud yn y genhinin Bedr?” holodd cysgod Cluste. “ Rwy’n casglu neithdar. Hŷm.. fi’n dwli arno twel!” atebodd Gwen.


Ond erbyn ei bod wedi troi yn ôl allan o drwmped y genhinen Bedr roedd cwmwl mawr wedi dod heibio a chuddio’r haul yn gyfan gwbl. Diflanodd cysgod Cluste ar unwaith. Edrychodd Gwen yn syn ac edrychodd o amgylch am y llais. Ble oedd y llais wedi mynd?


Hedfanodd Gwen i ddweud y stori wrth yr anifeiliaid bach. Roedd pawb mor drist gan fod yr haul wedi cuddio o’r golwg a gadael pob anifail a phlanhigyn heb gysgod. Dechreuodd dywyllu heb unrhyw obaith o weld yr un cysgod tan y bore. Trodd pob anifail bach am adref..


Y noson honno roedd y lleuad yn llawn ac wedi iddi nosi cofiodd yr anifeiliaid bach bod cysgodion yn dod allan yng ngolau’r lleuad. Unwaith eto daeth pob anifail bach allan i chwilio am gysgod Cluste’r Sgwarnog. Yn sydyn yng ngolau’r lleuad lawn gwelodd Cluste ei gysgod yn yr ardd. Gwelodd y cysgod Cluste hefyd. Gyda gwaedd fawr o “Hwre!” rhedodd y ddau at ei gilydd gan gofleidio’n llawen.


Gwisgodd Cluste ei gysgod yn ôl unwaith eto. “Fi bia ti twel,” meddai Cluste “Fi wedi dwlu!” Dawnsiodd y ddau yn hapus gyda’i gilydd yng ngolau’r lleuad.


Roedd yr anifeiliaid bach mor hapus bod Cluste’r Sgwarnog wedi dod o hyd i’w gysgod nes iddyn nhw hefyd ddechrau dawnsio. Dawnsiodd Coco, Sisi a Cluste, a phob anifail bach arall gyda’i cysgodion o amgylch yr ardd yng ngolau’r leuad lawn hyd oriau mân y bore.


Dewch i ddarllen mwy o Anturiaethau Coco a Sisi

Tan y tro nesaf

Hwy l fa w r!


Cyfres ddarllen Anturiaethau Coco a Sisi

Ar gael fel pdf, e-lyfr neu gopi caled. Cyfres ddarllen i’ch plentyn.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.