Rhaglen Tymor Y Gwanwyn 2025 - Ar Gyfer Ysgolion, Colegau a Grwpiau Cymunedol
Gydag amrywiaeth o sesiynau rhyngweithiol i ddewis ohonynt ar draws amrywiaeth o feysydd, bydd ein digwyddiadau a'n
gweithgareddau pwnc-benodol yn rhoi cyfle i'ch myfyrwyr gael
blas go iawn ar astudio pwnc penodol yn y brifysgol.
Rydyn ni’n cynnig sesiynau yn y meysydd canlynol:
• Animeiddio a Gemau
• Celf a Dylunio
• Bioleg a Gwaith Fforensig
• Busnes
• Ceiropracteg
• Rheoli Gwestai a Lletygarwch
• Y Gyfraith
• Cerddoriaeth
• Nyrsio a Bydwreigiaeth
• Therapi Galwedigaethol
• Addysgu ac Addysg
• Cyfrifiadureg a Seiberddiogelwch
• Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig
O RADDEDIGION PDC
MEWN GWAITH A/NEU ASTUDIAETH BELLACH 15 MIS AR ÔL GRADDIO
Canlyniadau i Raddedigion Arolwg 2021/22 96%
• Troseddeg
• Technoleg Dylunio
• Drama
• Peirianneg
• Saesneg
• Ffasiwn
• Ffilm a'r Cyfryngau
• Iechyd a Gofal Cymdeithasol
• Hanes
• Ymarfer Adran Lawdriniaeth
• Gwyddor Fferyllol
• Ffotograffiaeth
• Seicoleg
• Seicotherapi a Chwnsela
• Gwasanaethau Cyhoeddus
• Plismona
• Ffisiotherapi
• Gwaith Cymdeithasol
• Cymdeithaseg
• Chwaraeon
“ Gallwch ddysgu rhagor am ein gweithgareddau pwnc-benodol ar ein gwefan: www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
MAE EICH CEFNOGAETH GYDA’R DIGWYDDIADAU HYN YN GWNEUD CYMAINT O WAHANIAETH I LAWER O’N MYFYRWYR. MAE'R ADBORTH GAN FYFYRWYR, RHIENI AC ATHRAWON WEDI BOD YN HYNOD GADARNHAOL. GADAWON NHW I GYD GYDA LLAWER O WYBODAETH A DEWISIADAU GWYBODUS I’W GWNEUD. ROEDD Y RHIENI’N FALCH IAWN O ALLU SIARAD GYDA CHI’N UNIONGYRCHOL AC MAEN NHW WEDI DWEUD MOR WERTHFAWR OEDD Y DIGWYDDIAD IDDYN NHW A’I FOD WEDI HELPU’N SYLWEDDOL.
Helen Smith, Arweinydd Dyfodol Dysgwyr Ysgol Sackville
DIGWYDDIADAU A
DIWRNODAU BLASU
Rydyn ni’n cynnal nifer o ddigwyddiadau ysgol a choleg a diwrnodau blasu ar ein campysau drwy gydol Tymor y Gwanwyn. Os hoffech chi drefnu diwrnod blasu ar gyfer eich myfyrwyr Blwyddyn 12 neu Flwyddyn 13, cysylltwch â ni drwy: ysgolionacholegau@decymru.ac.uk
NEILLTUWCH
LE NAWR:
DIWRNOD BLASU CWNSELA AC YMARFER THERAPIWTIG
DIWRNOD BLASU GWYDDOR FFERYLLOL
DYWEDODD 95% O'R YMATEBWYR MEWN
AROLYGON AR ÔL Y DIGWYDDIAD EI FOD YN
DDEFNYDDIOL NEU’N DDEFNYDDIOL IAWN
WRTH EU CYSYLLTU AG ADDYSG UWCH.
DIWRNOD BLASU
GWYDDORAU BIOLEGOL
DIWRNOD BLASU CYFRIFIADUREG
Mae’r digwyddiad hwn yn cynnwys nifer o weithdai a sgyrsiau rhyngweithiol fydd yn rhoi cipolwg i fyfyrwyr ar yr ystod o gyfleoedd sy’n codi o ddilyn gradd mewn Bioleg, Gwyddor Fiofeddygol, Gwyddorau Meddygol a Bioleg Bywyd Gwyllt Rhyngwladol.
Mae ein cyrsiau Cyfrifiadureg a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau datblygu'r sgiliau ymarferol hanfodol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa hir ac amrywiol yn y diwydiant technoleg gwybodaeth. Yn y digwyddiad hwn, byddwch yn cael cyfle i weld sut mae technoleg yn cael ei defnyddio i ddatrys problemau’r byd go iawn ac i fod yn greadigol gyda’n hoffer sydd wedi’i bweru gan Raspberry Pi, wrth i chi archwilio un o themâu allweddol ein cyrsiau: Rhyngrwyd Pethau.
Mae’r Diwrnod Blasu Cwnsela ac Ymarfer Therapiwtig yn cynnig cyfle unigryw i ddarpar fyfyrwyr archwilio maes cwnsela. Bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol, yn cael profiad o weithgareddau ymarferol, ac yn dysgu am y technegau therapiwtig amrywiol sy’n cael eu defnyddio wrth ymarfer. Mae'r digwyddiad hwn wedi'i gynllunio i roi cyflwyniad cynhwysfawr i'r ddisgyblaeth, gan helpu myfyrwyr i benderfynu a yw'r llwybr hwn yn cydfynd â'u hamcanion gyrfaol.
DIWRNOD BLASU CELFYDDYDAU
CREADIGOL A THERAPIWTIG
Dyddiad: 11 Chwefror 2025
P'un a oes gan fyfyrwyr ddiddordeb mewn celfyddyd gain, dylunio, crefft neu ymgysylltu â'r gymuned greadigol, mae cwrs BA (Anrh.) Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig Prifysgol De Cymru yn cwmpasu amrywiaeth eang o ddisgyblaethau creadigol. Bydd y sesiynau blasu’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio offer ac adnoddau arbenigol sy'n rhan annatod o'r addysgu mewn gofodau pwrpasol ar y campws.
Bydd myfyrwyr yn cael profiad ymarferol o gemeg ffisegol ac organig yn ein labordai modern.
DIWRNOD BLASU ANIMEIDDIO A GEMAU
Dyddiad: 26 Mawrth 2025
Os hoffai’ch myfyrwyr ddysgu sgiliau ymarferol a thechnegol ar gyfer gyrfa gyffrous ym myd Teledu, Ffilm, Effeithiau Gweledol neu Gemau, dyma’r diwrnod blasu iddyn nhw ar ein Campws bywiog yng Nghaerdydd.
EXPO GYRFAOEDD CREADIGOL
Dyddiad: 9 Ebrill 2025
Cyfle i ryddhau potensial eich myfyrwyr mewn digwyddiad hanfodol i rai sy’n dymuno llwyddo yn y byd creadigol. Gall eich myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithdai ymarferol dan arweiniad arbenigwyr yn y diwydiant, yn ogystal â chael profiad o elfennau o fywyd prifysgol a’n cyfleusterau sydd o safon y diwydiant. Bydd y digwyddiad hwn yn ymdrin â chyrsiau mewn Dylunio, Cyfryngau, Ffilm, Ffasiwn, Celfyddydau
Digidol a mwy. Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i fyfyrwyr rwydweithio, dysgu, a throi eu hangerdd yn yrfaoedd creadigol.
O SAFLE’R DROSEDD I’R LLYS (TROSEDDEG, PLISMONA, FFORENSEG A'R GYFRAITH)
Dyddiadau: 18 Mehefin, 25 Mehefin 2025
Mae’r diwrnod yn cyflwyno senario safle trosedd ffug i fyfyrwyr, gan eu galluogi i ddod i ddeall sut mae gwahanol feysydd yn rhyngweithio, o safle’r drosedd hyd at yr erlyniad mewn llys barn.
CSI: TU ÔL I'R TÂP
Dyddiadau: 30 Ebrill, 7 Mai, 14 Mai 2025
Camwch i mewn i fyd cyffrous ymchwilio ar safle trosedd gyda'n digwyddiad gwaith maes CSI trochol. Bydd y profiad ymarferol hwn, sy’n berffaith ar gyfer rhai sy’n awyddus i fynd yn wyddonwyr fforensig ac unrhyw un arall sy’n chwilfrydig, yn rhoi cyfle i chi neidio i ganol y broses anhygoel sydd ynghlwm â datrys achos llofruddiaeth.
ADDYSG AC ADDYSGU
Dyddiad: 15 Ionawr 2025 Bydd y diwrnod blasu hwn yn archwilio arfer gorau mewn addysg plentyndod cynnar, yn datgelu sut beth yw’r profiad o fod yn athro dan hyfforddiant, yn datblygu sgiliau newydd, ac yn cynnig cyfle i gydweithio drwy weithdai rhyngweithiol.
DIWRNODAU BLASU
PEIRIANNEG
Mae ein diwrnodau blasu pwrpasol yn cwmpasu ystod o bynciau sy’n rhan o faes peirianneg, gan gynnwys Peirianneg Awyrennol, Fodurol, Fecanyddol, Drydanol, Electronig a Sifil, Awyrofod, Cynnal a Chadw Awyrennau, a’r
Amgylchedd Adeiledig. Bydd myfyrwyr yn profi diwrnod rhyngweithiol fydd yn cael ei gynnal gan ein hacademyddion yn y maes, ac yn cael blas ar fywyd prifysgol ym Mhrifysgol De Cymru.
IECHYD
(NYRSIO, BYDWREIGIAETH, YMARFER ADRAN LAWDRINIAETH A IECHYD
A GOFAL CYMDEITHASOL)
Dyddiadau: 15 Ionawr, 12 Mawrth, 18 Mehefin 2025
Ydych chi’n angerddol am weithio mewn amgylchedd gofal iechyd? Cymerwch ran mewn carwsél o weithgareddau yn ein hystafell efelychu er mwyn archwilio sut beth yw bod yn nyrs, yn fydwraig, neu'n ymarferydd adran lawdriniaeth.
DIWRNODAU BLASU HYDRA
Mae ein digwyddiadau ystafell Hydra yn gyfle gwych i fyfyrwyr gael profiad dysgu trochol fydd yn datblygu eu sgiliau meddwl beirniadol, gwaith tîm a chyfathrebu. Mae amrywiaeth eang o weithgareddau ar gael yn ein hystafell Hydra y mae modd eu teilwra ar gyfer addysgu sawl maes o'r cwricwlwm gan gynnwys Troseddeg, Gwasanaethau
Cyhoeddus, Plismona, Iechyd a Gofal
Cymdeithasol a llawer mwy.
GŴYL TROCHI
Dyddiadau: 6 Mawrth – 3 Ebrill 2025
Digwyddiad wythnos o hyd yw Gŵyl
Trochi gyda rhestr drydanol o gerddoriaeth, ffilm, celf, ffasiwn a theatr. Wrth galon yr ŵyl mae noson o gerddoriaeth fyw fydd yn cael ei chynnal nos Sadwrn 22 Mawrth yn y Tramshed yng Nghaerdydd.
Os hoffech chi ddod â grŵp i Gampws
Caerdydd i brofi ein cyrsiau Sain, Cerddoriaeth a Thechnoleg
Digwyddiadau Byw, cysylltwch ag ysgolionacholegau@decymru.ac.uk
SEICOLEG
Dyddiad: 2 Ebrill 2025 Cyfle i brofi darlithoedd, seminarau a gweithdai ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys mapio hunaniaeth gymdeithasol, dulliau ymchwil, dilyn llwybr llygad, a Biopac. Mae hwn yn gyfle i fyfyrwyr fynd ar daith o gwmpas ein Labordy Seicoleg, yn ogystal â rhoi cynnig ar ddefnyddio peth o’r offer.
DIWRNOD BLASU’R ACADEMI
SEIBERDDIOGELWCH
GENEDLAETHOL
Cafodd Prifysgol De Cymru ei henwi’n Brifysgol Seiber y Flwyddyn am bedair blynedd yn olynol rhwng 2019 a 2022, ac mae wedi cyrraedd y rhestr fer yn 2024 yn y Gwobrau Seiber Cenedlaethol. Rydyn ni wedi ymrwymo i annog pobl ifanc i ystyried gyrfa mewn Seiberddiogelwch.
Yn y digwyddiad hwn, bydd myfyrwyr yn gweld sut brofiad yw ymchwilio i arteffactau digidol ar safle trosedd, dod o hyd i dystiolaeth gudd, creu achos yn erbyn rhywun a ddrwgdybir, a dysgu am fodel Cadwyn Lladd Seiber a chamau ymosodiad.
DIWRNOD BLASU BUSNES A RHEOLI
Dyddiad: 25 Mehefin 2025
Ymunwch â ni am Ddiwrnod Blasu cyffrous ar Gampws Trefforest, lle gall myfyrwyr neidio i mewn i fyd deinamig busnes. Yn ogystal â rhoi blas o sut brofiad yw astudio yn y brifysgol, byddwn hefyd yn cynnal sesiwn datganiad personol i baratoi’ch myfyrwyr Blwyddyn 12 ar gyfer cylch UCAS. Byddwn hefyd yn cyfeirio myfyrwyr at ein cyfleoedd prentisiaeth gradd ardderchog yn y maes hwn ac yn rhoi awgrymiadau defnyddiol iddynt ar gyfer gwneud cais.
CHWARAEON
Diwrnod Darganfod Perfformiad Athletwyr
Dyddiadau: 22 Ionawr, 5 Chwefror, 2 Ebrill
Mae’r diwrnod blasu hwn yn archwilio’r llu o wasanaethau cymorth y gallai athletwr eu profi, gan gynnwys Cryfder a Chyflyru, Gwyddor Chwaraeon, a Therapi Ymarfer Corff, gan roi cipolwg i fyfyrwyr ar yr opsiynau gyrfa (ar y cae ac oddi arno) i rywun sydd wedi graddio gydag un o’r graddau hyn.
Datblygu Hyfforddwyr Yfory
Dyddiadau: 29 Ionawr, 5 Mawrth, 4 Mehefin Mae'r diwrnod blasu hwn yn rhoi cipolwg i fyfyrwyr ar sut y gallant ddod yn hyfforddwyr chwaraeon neu’n athrawon Addysg Gorfforol. Bydd cyfres o weithgareddau amrywiol yn canolbwyntio ar Ddatblygu Chwaraeon, Perfformiad a Hyfforddiant Rygbi, a Pherfformiad a Hyfforddiant Pêl-droed.
DIWRNOD BLASU CEIROPRACTEG
Dyddiadau: 5 Chwefror 2025 Mae ceiropracteg yn llawer mwy na chefn poenus a gwddf anystwyth. Gweithwyr gofal iechyd sylfaenol proffesiynol yw ceiropractyddion, sy'n arbenigo mewn esgyrn, cymalau, cyhyrau a meinwe meddal. Gall myfyrwyr gael profiad o ddysgu ymarferol yng nghanolfan bwrpasol Sefydliad Ceiropracteg Cymru (WIoC). Anogwch eich myfyrwyr i archwilio'r llwybr gyrfa hwn drwy ddod i ddiwrnod blasu fydd yn cynnwys technegau tylino pwyntiau sbardun a thrin asgwrn cefn. Gallant siarad gyda myfyrwyr presennol, mynd ar daith o gwmpas y cyfleusterau, cwrdd â darlithwyr, a chael awgrymiadau gwerthfawr ar gyfer gwneud cais i fynd i’r brifysgol. I gael rhagor o fanylion ac i archebu lle ar unrhyw un o'r sesiynau sydd wedi’u rhestru, e-bostiwch ysgolionacholegau@decymru.ac.uk
SESIYNAU GWYBODAETH, CYNGOR AC ARWEINIAD
Mae ein sesiynau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad yn addas ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 neu gyfwerth. Mae sesiynau hefyd ar gael i rieni a gwarcheidwaid. Gellir eu cyflwyno yn yr ysgol, yn y coleg neu ar-lein ac ar amser sy'n gyfleus i chi.
CYLLID MYFYRWYR
Mae'r sesiwn yn darparu gwybodaeth hanfodol i ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol am yr opsiynau ariannu sydd ar gael ar gyfer eu hastudiaethau. Bydd cyfranogwyr yn dysgu am ffioedd dysgu, benthyciadau myfyrwyr, grantiau, ysgoloriaethau a bwrsariaethau, ac yn cael awgrymiadau ar gyllidebu er mwyn rheoli eu harian yn effeithiol. Mae'r sesiwn hefyd yn cynnwys arweiniad ar y broses ymgeisio am gymorth ariannol, gan sicrhau bod myfyrwyr wedi'u paratoi'n dda ar gyfer eu taith ariannol wrth astudio.
PAM PRIFYSGOL A GWNEUD Y DEWISIADAU CYWIR
Bydd y sesiwn yn amlygu'r gwahanol ddulliau o ymchwilio a darganfod y brifysgol a'r cwrs cywir. Bydd y sesiwn hefyd yn annog myfyrwyr i ystyried sut gallant gael y gorau o ddiwrnodau agored ac arddangosfeydd addysg uwch.
YMDRIN Â CHYNIGION PRIFYSGOL
Mae'r sesiwn hon yn arwain myfyrwyr drwy'r broses o ddeall a gwerthuso cynigion prifysgolion. Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i asesu eu hopsiynau, dehongli amodau cynigion, a gwneud penderfyniadau gwybodus am eu haddysg yn y dyfodol. Mae'r sesiwn hefyd yn ymdrin â dyddiadau cau allweddol, awgrymiadau ar gyfer cyfathrebu â phrifysgolion, a strategaethau ar gyfer gwneud y dewis gorau ar gyfer eu hamcanion academaidd a phersonol nhw.
SGILIAU ASTUDIO
Mae sgiliau astudio yn bwysig o ran gwella gallu myfyriwr i gadw ac adalw gwybodaeth. Bydd y sesiwn hon yn amlygu technegau er mwyn hybu perfformiad myfyrwyr a datblygu sgiliau trosglwyddadwy fydd yn ddefnyddiol i fyfyrwyr ar hyd eu hoes ac fydd yn lleihau straen a phryder ynghylch astudio.
GWNEUD ARGRAFF MEWN CYFWELIADAU
Cyn cael cynnig, mae’n bosib y bydd myfyrwyr yn cael eu gwahodd i gyfweliad yn eu dewis brifysgol. Bydd y sesiwn hon yn esbonio beth i'w ddisgwyl, sut i baratoi a sut i fod ar eu gorau ar y diwrnod. Mae'r sesiwn hon hefyd yn berthnasol i'r rheini sy'n gwneud cais am swyddi neu brentisiaethau.
CYFWELIADAU FFUG (CYMORTH UN I UN)
Rydyn ni’n cynnig cyfweliad 30 munud i fyfyrwyr fel cyfle i ymarfer cwestiynau y gallent eu hwynebu. Mae ymarfer ar gyfer cyfweliad yn helpu myfyrwyr i ddod yn fwy cyfarwydd â'r broses gyfweld. Gallan nhw ymarfer eu hatebion mewn amgylchedd diogel, datblygu strategaethau cyfweliad, gwella’u sgiliau cyfathrebu, a gwella’r ffordd maen nhw’n cyflwyno’u hymatebion.
RHWYDWAITH75 – GWEITHIO, ENNILL A DYSGU
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn dysgu am y rhaglen radd noddedig sy'n caniatáu iddynt ennill gradd, ennill pum mlynedd o brofiad gwaith, a graddio heb ddim dyled myfyrwyr. Mae'r graddau sydd ar gael yn cynnwys Cyfrifeg, Hysbysebu, Busnes, Cyfrifiadureg, Peirianneg a Thirfesur, gan alluogi myfyrwyr i gymhwyso’u gwybodaeth academaidd mewn lleoliadau gwaith yn y byd go iawn.
PARATOI AR GYFER GYRFAOEDD Y DYFODOL
Mae'r sesiwn hon yn rhoi cipolwg ar dirwedd cyflogaeth sy’n newid yn barhaus a sut mae addysg uwch yn paratoi myfyrwyr ar gyfer cyfleoedd gwaith yn y dyfodol. Mae’n bosib ei haddasu i ganolbwyntio ar bynciau penodol, gan sicrhau perthnasedd i ddiddordebau a llwybrau gyrfa myfyrwyr.
EHANGU CYFRANOGIAD
Ym Mhrifysgol De Cymru, rydyn ni’n credu bod pawb yn haeddu’r cyfle i ffynnu ym myd addysg uwch, beth bynnag eu cefndir, eu hoedran neu eu hamgylchiadau bywyd. Mae ein tîm yma i gefnogi myfyrwyr a allai wynebu heriau ychwanegol ar eu taith i’r brifysgol, ac rydyn ni’n ymroddedig i greu amgylchedd cynhwysol, croesawgar i bawb.
Cymorth wedi'i Deilwra er mwyn Codi Dyheadau Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o raglenni wedi’u teilwra sydd wedi’u cynllunio i gyfuno dyheadau myfyrwyr a’r cyfleoedd y gall addysg uwch eu darparu. O fore coffi galw heibio i gyfle i holi cwestiynau mewn amgylchedd anffurfiol, i gyfres o weithdai diddorol sy’n meithrin sgiliau a hyder gyda rhaglen Aspire2HE, rydyn ni yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.
Rydyn ni’n angerddol ynghylch helpu myfyrwyr sy’n cael eu tangynrychioli i fagu hyder, cael mynediad at adnoddau, a dod o hyd i gymuned ym Mhrifysgol De Cymru. Mae hyn yn cynnwys:
• Gofalwyr ifanc a'u teuluoedd
• Plant milwyr a'u teuluoedd
• Myfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol
• Myfyrwyr Du ac Ethnig Leiafrifol
• Oedolion 21+ oed
• Myfyrwyr sydd mewn gofal ar hyn o bryd, neu sydd â phrofiad o ofal
• Myfyrwyr o ardaloedd cod post difreintiedig wedi'u nodi drwy systemau POLAR, TUNDRA a Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
Anfonwch e-bost at: wideningparticipation@southwales.ac.uk os hoffech drafod sut gallwn eich cefnogi chi neu grŵp. Gallwn drefnu ymweliadau campws penodol neu weithdai wedi’u cynllunio o gwmpas eich anghenion a’ch diddordebau chi.
Stori Lwyddiant o Aspire2HE:
“
DIOLCH AM DREFNU CYFLE MOR WYCH IDDYN NHW, DW I
WIR YN GOBEITHIO Y GALLWN NI DDAL ATI I GYDWEITHIO A DATBLYGU'R RHAGLEN BOB BLWYDDYN. MAE'R TÎM A'R
BOBL IFANC WEDI DWEUD PETHAU MOR GADARNHAOL
AM Y CWRS AC MAEN NHW’N TEIMLO’U BOD NHW WEDI
ELWA CYMAINT O DDOD.
CYMERODD COURTNEY RAN YN Y RHAGLEN Y LLYNEDD AC FE
GAFODD HI BROFIAD ANHYGOEL O GADARNHAOL. YN DILYN Y
CWRS Y LLYNEDD, CYFLWYNODD HI GAIS I WNEUD NYRSIO
OEDOLION MEWN PUM PRIFYSGOL WAHANOL. MAE HI WEDI
CAEL PUM CYNNIG AMODOL AC MAE HI WRTH EI BODD!
YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi'ch myfyrwyr gyda'r costau sy'n gysylltiedig â'u hastudiaethau.
BWRSARIAETH GWENT PDC
Rydyn ni’n cynnig Bwrsariaeth Gwent i fyfyrwyr sy’n byw mewn cod post NP ar adeg gwneud cais am gwrs ym Mhrifysgol De Cymru ac sydd wedi cael cynnig ac wedi derbyn lle yn y Brifysgol fel rhan o feini prawf Polisi Derbyn Cyd-destunol y Brifysgol.
YSGOLORIAETH CHWARAEON PDC
Ym Mhrifysgol De Cymru, rydyn ni’n falch o ansawdd y gefnogaeth a'r awyrgylch mae ein llwybrau perfformiad yn eu creu, sy'n sicrhau bod pob myfyriwr sy’n athletwr yn cael cyfle i ragori yn eu hastudiaethau ac yn eu dewis gamp.
BWRSARIAETH CYDRADDOLDEB ETHNIG PDC
Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig 15 bwrsariaeth i fyfyrwyr israddedig sy’n dechrau eu hastudiaethau yn y flwyddyn academaidd 2025-2026 ac sydd wedi hunanddatgan eu bod yn rhan o un o’r grwpiau ethnig sy’n dod o dan y penawdau canlynol: Du, Affricanaidd, Caribïaidd, neu Ddu Prydeinig, Grŵp Ethnig Cymysg neu Sawl Grŵp Ethnig, Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig, Grŵp Ethnig Arall.
BWRSARIAETH ASESU DIAGNOSTIG
Gallai myfyrwyr sydd wedi ymrestru ym Mhrifysgol De Cymru ac sy’n astudio o leiaf 60 credyd fod yn gymwys i gael asesiad mewnol am ddim gyda chymorth gan y Fwrsariaeth Profion Diagnostig.
YSGOLORIAETHAU CYFRWNG CYMRAEG
PDC
Mae gennym ni ystod o ysgoloriaethau ar gael, gan gynnwys:
• £250 pan fyddwch chi’n astudio o leiaf 5 credyd o'ch cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
• £1,000 pan fyddwch chi’n astudio o leiaf 40 credyd o'ch cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
BWRSARIAETH DILYNIANT PDC
Mae'r fwrsariaeth yn werth £1,000 i fyfyrwyr amser llawn a £500 i fyfyrwyr cymwys rhan-amser. Byddwch yn cael y fwrsariaeth yn eich tymor cyntaf a hynny erbyn diwedd mis Tachwedd 2025. I fod yn gymwys, mae angen i chi gwblhau HND neu radd sylfaen sydd wedi’i hachredu gan Brifysgol De Cymru yn llwyddiannus gydag un o'n Colegau Partner erbyn Haf 2025.
YSGOLORIAETH NODDFA PDC
Bydd yr Ysgoloriaeth Noddfa yn cefnogi dau ymgeisydd israddedig llwyddiannus drwy hepgor eu ffioedd dysgu am gyfnod eu hastudiaethau israddedig, a rhoi ysgoloriaeth i helpu gyda chostau sy'n gysylltiedig â'r cwrs.
CYNLLUN NODDFA FFOADURIAID
Mae Cynllun Noddfa Ffoaduriaid Israddedig Prifysgol De Cymru yn darparu cymorth i nifer cyfyngedig o ffoaduriaid cymwys drwy wersi Saesneg am ddim am 15 wythnos neu lai, cyn dechrau ar gwrs israddedig yn y Brifysgol.
Cynigir ysgoloriaethau a bwrsariaethau Prifysgol De Cymru ar y sail y gallent newid. Mae'r Brifysgol hefyd yn cadw'r hawl i gyfyngu ar nifer yr ysgoloriaethau a'r bwrsariaethau sydd ar gael.
I gael rhagor o fanylion am ein hysgoloriaethau a’n bwrsariaethau ac am y meini prawf i fod yn gymwys, ewch i'n gwefan.
CYNHADLEDD ATHRAWON A CHYNGHORWYR 2025
Ble: Campws Casnewydd PDC
Pryd: 12 Chwefror 2025, 9.30am – 3.20pm
Mae Cynhadledd Athrawon a Chynghorwyr Prifysgol De Cymru yn dychwelyd ar gyfer 2025, gan roi cyfle gwych i gasglu'r wybodaeth hanfodol y bydd ei hangen arnoch i gefnogi'ch myfyrwyr i mewn i Addysg Uwch. Ochr yn ochr â diweddariadau gan UCAS a Chyllid Myfyrwyr, bydd siaradwr ysbrydoledig a seren Gogglebox Channel Four, Bassit Siddiqui, yn ymuno â ni, i drafod lles a gwydnwch athrawon a grymuso staff i gefnogi eu dysgwyr.
EICH LLE, SGANIWCH Y COD QR: Bassit Siddiqui, seren Gogglebox
I NEILLTUO
GWOBRAU ATHRAWON A CHYNGHORWYR 2025
Eleni rydyn ni’n cynnal pumed Gwobrau
Athrawon a Chynghorwyr Prifysgol De Cymru, gyda chefnogaeth Ymestyn yn
Ehangach, fydd yn cael eu cynnal ddydd Gwener 11 Gorffennaf 2025.
Bydd y gwobrau’n cael eu dyfarnu i athrawon a chynghorwyr o ysgolion uwchradd a cholegau o bob rhan o wledydd Prydain sydd wedi dangos rhagoriaeth mewn tri chategori yn ystod blwyddyn academaidd 2024-25. Bydd enillydd pob gwobr yn
cael £500 tuag at ddatblygiad proffesiynol parhaus a/neu fentrau llesiant staff yn eu hysgol neu goleg.
Mae’r categorïau’n cynnwys:
• Cymorth Llesiant a Bugeiliol Eithriadol
• Cefnogi Dilyniant i Addysg Uwch
• Athro neu Gynghorydd Ysbrydoledig y Flwyddyn
RHAGOR O WYBODAETH:
ENWEBWCH GYDWEITHIWR:
DW I’N EDRYCH YMLAEN AT Y DIGWYDDIAD
YMA BOB BLWYDDYN. MAE’N CAEL EI
DREFNU'N DDA AC MAE’N LLAWN
GWYBODAETH DDEFNYDDIOL.
Cynadleddwr yn 2024
DIWRNODAU AGORED 2025
22 MAWRTH • 14 MEHEFIN
NEILLTUWCH LE
AR DDIWRNOD
AGORED HEDDIW:
Rhowch gychwyn ar ymchwil eich myfyrwyr i fyd addysg uwch yn un o'n Diwrnodau Agored. Mae'r digwyddiadau hyn yn ffordd wych i'ch myfyrwyr gael gwybod am yr amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael ym Mhrifysgol De Cymru.
BWRSARIAETH TEITHIO
Gallwn dalu am gostau rhesymol sy’n gysylltiedig ag ymweld â Phrifysgol De Cymru i ddod i Ddiwrnod Agored, Cyfweliad neu Ddiwrnod Profiad Ymgeiswyr i israddedigion. Mae’r
taliadau’n gallu talu costau trên neu goets a gallwn eich cefnogi gyda chostau teithio mewn car.
Sganiwch y cod QR i gael gwybod mwy am fod yn gymwys a sut gall myfyrwyr a’u rhieni/gofalwyr wneud cais.
DIWRNODAU PROFIAD YMGEISWYR 2025
1 MAWRTH • 5 EBRILL • 17 MAI
Mae myfyrwyr sydd wedi cael cynnig gan Brifysgol De Cymru yn cael gwahoddiad i Ddiwrnod Profiad Ymgeiswyr. Ymweld â Diwrnod Profiad Ymgeiswyr yw’r ffordd orau i fyfyrwyr ddod i nabod eu darlithwyr, dysgu mwy am eu dewis gwrs drwy sesiwn flasu, a chael taith o gwmpas ein cyfleusterau. Os oes gennych fyfyrwyr sydd wedi gwneud cais i Brifysgol De Cymru, cofiwch eu hannog i ddod.
“
ROEDD Y GWEITHGAREDDAU’N ANHYGOEL – ROEDDEN NHW’N GYNHYRCHIOL
AC ROEDD POB DARPAR FYFYRIWR YN LLAWN DIDDORDEB. DRWY’R DIWRNOD
PROFIAD YMGEISWYR FE GES I GYFLE I WNEUD FFRINDIAU NEWYDD, A CHWRDD Â MYFYRWYR Y BYDDA I O BOSIB YN ASTUDIO GYDA NHW. MAE'R
TIWTORIAID YN GAREDIG, YN BARCHUS, YN GYFEILLGAR, AC YN YSTYRIOL.
Ymwelydd Diwrnod Profiad Ymgeiswyr
Campws Trefforest
Parc Chwaraeon
Campws Caerdydd
Campws Casnewydd
Campws Glyn-taf
ARDDANGOSFEYDD ADDYSG UWCH
Cyfle i siarad â staff academaidd, llysgenhadon myfyrwyr a chynghorwyr Prifysgol De Cymru ar draws gwledydd Prydain y gwanwyn a’r haf hwn. Gall myfyrwyr archwilio ystod eang o gyfleoedd academaidd a gyrfaol, a darganfod dyfodol sy'n addas iddyn nhw. Dewch o hyd i'ch digwyddiad lleol a dewch i’n gweld ni yno.