USW Schools Brochure 20pp A5 cymraeg 2025 SUMMER

Page 1


TYMOR YR HAF 2025

TÎM YSGOLION, COLEGAU AC ALLGYMORTH

Mae ein tîm yn gweithio'n agos gydag ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol i gefnogi myfyrwyr ar eu taith at addysg uwch. Rydym yn darparu cyngor wedi'i deilwra a chanllawiau ar bopeth, o wneud ceisiadau i’r brifysgol a chyllid myfyrwyr i archwilio'r ystod eang o opsiynau astudio sydd ar gael.

Dewch o hyd i ni mewn digwyddiadau ac arddangosfeydd ledled y DU, yn cyflwyno sesiynau yn eich ysgol neu'ch coleg, neu’n croesawu myfyrwyr i'n digwyddiadau ysbrydoledig ar ein campysau. Rydyn ni'n angerddol dros helpu myfyrwyr i gael profiad uniongyrchol o fywyd yn PDC, ac arfogi athrawon a chynghorwyr â'r offer a'r wybodaeth sydd eu hangen i lywio dysgwyr trwy eu teithiau addysg unigryw.

DILYNWCH EIN LINKEDIN NEWYDD!

Diolch am ymuno â ni yn ein Cynhadledd Athrawon a Chynghorwyr ym mis

Chwefror. Yn ogystal â diweddariadau gwerthfawr gan UCAS a Chyllid Myfyrwyr, roedd yn wych gallu croesawu Baasit

Siddiqui - addysgwr, siaradwr ysgogol, a seren Gogglebox - a rannodd gipolwg pwerus ar les a gwytnwch athrawon, a sut i rymuso staff i gefnogi eu dysgwyr yn y ffordd orau bosib.

DIGWYDDIADAU A DIWRNODAU BLASU

Rydym yn cynnal sawl digwyddiad i ysgolion a cholegau a diwrnodau blasu ar ein campysau trwy gydol Tymor yr Haf. Os hoffech drefnu diwrnod blasu ar gyfer eich myfyrwyr Blwyddyn 12 neu Flwyddyn 13, cysylltwch â: ysgolionacholegau@decymru.ac.uk

MEWN AROLYGON ÔL-DDIGWYDDIAD, DYWEDODD 95% O'R YMATEBWYR BOD Y DIGWYDDIAD YN DDEFNYDDIOL/ DEFNYDDIOL IAWN O RAN EU CYSYLLTU AG ADDYSG UWCH

DIWRNOD BLASU GWYDDORAU BIOLEGOL

Mae'r digwyddiad hwn yn cynnwys nifer o sgyrsiau a gweithdai rhyngweithiol fydd yn rhoi cipolwg i fyfyrwyr ar yr ystod o gyfleoedd a ddaw o gwblhau gradd mewn Bioleg, Gwyddor Fiofeddygol, Gwyddorau Meddygol, a Bioleg Bywyd Gwyllt Rhyngwladol.

DIWRNOD BLASU CYFRIFIADUREG

Mae ein cyrsiau Cyfrifiadureg a TGCh yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau datblygu'r sgiliau ymarferol hanfodol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa hir ac amrywiol yn y diwydiant TG. Yn y digwyddiad hwn, cewch gyfle i weld sut mae technoleg yn cael ei defnyddio i ddatrys problemau yn y byd go iawn ac i fod yn greadigol gyda’n hoffer wedi'u pweru gan Raspberry Pi, wrth i chi archwilio un o themâu allweddol ein cyrsiau: Rhyngrwyd y Pethau.

DIWRNOD BLASU CWNSELA

AC YMARFER THERAPIWTIG

Dyddiad: 21 Mai 2025

Mae'r Diwrnod Blasu Cwnsela ac Ymarfer Therapiwtig yn cynnig cyfle unigryw i ddarpar fyfyrwyr archwilio maes cwnsela. Bydd y myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol, yn gwneud gweithgareddau ymarferol, ac yn dysgu am y gwahanol dechnegau therapiwtig a ddefnyddir wrth ymarfer. Mae'r digwyddiad hwn wedi'i gynllunio i gynnig cyflwyniad cynhwysfawr i'r ddisgyblaeth, a helpu myfyrwyr i benderfynu a yw'r llwybr hwn yn cydfynd â'u nodau gyrfa.

DIWRNOD BLASU GWYDDOR

FFERYLLOL

Bydd myfyrwyr yn cael profiad ymarferol o gemeg ffisegol ac organig yn ein labordai cyfoes.

ARDDANGOSFA GYRFAOEDD CREADIGOL

Dyddiad: 18 Mehefin 2025

Rhyddhewch botensial eich myfyrwyr yn ein digwyddiad hanfodol ar gyfer pobl greadigol uchelgeisiol. Gall eich myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithdai ymarferol dan arweiniad arbenigwyr y diwydiant, yn ogystal â chael profiad o rai o elfennau bywyd prifysgol a'n cyfleusterau o safon y diwydiant. Bydd y digwyddiad hwn yn cwmpasu cyrsiau mewn Dylunio, y Cyfryngau, Ffilm, Ffasiwn, Celfyddydau Digidol, a mwy. Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i fyfyrwyr rwydweithio, dysgu, a throi eu hangerdd yn yrfa greadigol.

SAFLE TROSEDD I'R LLYS (TROSEDDEG, PLISMONA, FFORENSIG A'R GYFRAITH)

Dyddiad: 25 Mehefin 2025

Mae'r diwrnod yn cyflwyno senario safle troseddu efelychiadol i fyfyrwyr, a’u galluogi i ddeall sut mae gwahanol feysydd pwnc yn rhyngweithio, o'r safle troseddu hyd at yr erlyniad mewn llys barn.

NEILLTUWCH
LE NAWR:

DIWRNOD BLASU TROSEDDEG

Mae ein Diwrnod Blasu Troseddeg yn cynnig cyflwyniad ymarferol i fyd troseddeg, gan archwilio pynciau fel troseddu, cyfiawnder, ymddygiad troseddol, a gweithdrefnau’r system gyfreithiol. Dan arweiniad staff â phrofiad yn y diwydiant, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau am astudiaethau achos go iawn a dysgu am opsiynau astudio a llwybrau gyrfa mewn troseddeg a chyfiawnder troseddol.

CYNHADLEDD STEM PDC 2025

Dyddiad: 23 Mehefin 2025

Nod y digwyddiad hwn yw tynnu sylw at y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael i fyfyrwyr o ddewis astudio pynciau STEM yn y brifysgol. Bydd y diwrnod yn cynnwys sesiynau blasu rhyngweithiol o bob un o feysydd STEM PDC, o Wyddoniaeth Fforensig i Beirianneg Awyrofod.

ADDYSG AC ADDYSGU

Dyddiad: 14 Mai 2025

Bydd y Diwrnod Blasu hwn yn archwilio arfer gorau mewn addysg plentyndod cynnar, yn dangos sut beth yw bod yn athro dan hyfforddiant, yn datblygu sgiliau newydd, ac yn cynnig cyfleoedd cydweithio mewn gweithdai rhyngweithiol.

DIWRNODAU BLASU PEIRIANNEG

Mae ein Diwrnodau Blasu i gyd yn cael eu teilwra, ac yn cwmpasu ystod o feysydd o fewn peirianneg, gan gynnwys Peirianneg Awyrenegol, Awyrofod, Cynnal a Chadw Awyrennau, Modurol, Amgylchedd Adeiledig, Sifil, Trydanol ac

Electronig, a Mecanyddol. Bydd myfyrwyr yn gallu mwynhau diwrnod rhyngweithiol dan arweiniad ein hacademyddion, a chael blas ar fywyd prifysgol yn PDC.

IECHYD (NYRSIO,

BYDWREIGIAETH, YMARFER

ADRAN LAWDRINIAETH AC IECHYD

A GOFAL CYMDEITHASOL)

Dyddiad: 18 Mehefin 2025

Ydych chi’n angerddol dros weithio mewn amgylchedd gofal iechyd? Gallwch gymryd rhan mewn llu o weithgareddau yn ein cyfleuster efelychu, a gweld sut beth yw bod yn nyrs, yn fydwraig, neu’n ymarferydd adran lawdriniaeth.

DIWRNODAU BLASU HYDRA

Mae ein digwyddiadau yng Nghanolfan Efelychu Hydra yn gyfle gwych i fyfyrwyr gael profiad dysgu trochi, fydd yn datblygu eu sgiliau meddwl beirniadol, eu gwaith tîm a’u cyfathrebu. Mae amrywiaeth eang o weithgareddau ar gael yng Nghanolfan Efelychu Hydra y gellir eu teilwra i gyd-fynd â sawl maes o'r cwricwlwm, gan gynnwys Troseddeg, Gwasanaethau Cyhoeddus, Plismona, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a llawer mwy.

DIWRNOD BLASU,R GYFRAITH

Dyddiad: 30 Mehefin 2025

Wedi'i gynnal yn ein Hystafell Ffug Llys, mae'r diwrnod yn cyflwyno dysgwyr i egwyddorion craidd y gyfraith, systemau cyfreithiol, ac astudiaethau achos go iawn. Yn ystod y dydd, bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai ymarferol a gweithgareddau cyfreithiol efelychiadol yn archwilio gwahanol feysydd y gyfraith,

i gael mewnwelediad i yrfaoedd yn y sectorau cyfreithiol a chyfiawnder, a dysgu sut beth yw astudio'r Gyfraith ar lefel gradd.

SEICOLEG

Dyddiad: 16 Mehefin 2025

Gallwch gael blas ar ddarlithoedd, seminarau a gweithdai ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys mapio hunaniaethau cymdeithasol, dulliau ymchwil, deall llwybrau llygaid, a Biopac. Caiff myfyrwyr gyfle i ymweld â’n Labordy Seicoleg, ac i roi cynnig ar ddefnyddio peth o'n hoffer.

DIWRNOD BLASU YR ACADEMI

SEIBERDDIOGELWCH

GENEDLAETHOL

(NCSA)

Cafodd PDC ei dewis yn Brifysgol Seiber y Flwyddyn am bedair blynedd yn olynol rhwng 2019 a 2022, ac roedd ar restr fer Gwobrau Seiber Cenedlaethol 2024. Rydym yn benderfynol o annog pobl ifanc i ystyried gyrfa mewn

Seiberddiogelwch. Yn y digwyddiad hwn, bydd myfyrwyr yn gweld sut beth yw ymchwilio i arteffactau digidol mewn safle trosedd, chwilio am dystiolaeth gudd, a chreu achos yn erbyn rhywun dan amheuaeth. Bydd cyfle i ddysgu hefyd am y model Gadwyn Lladd Seiber a’r gwahanol gamau mewn ymosodiad seiber.

DIWRNOD BLASU BUSNES A RHEOLI

Dyddiad: 30 Mehefin 2025

Ymunwch â ni ar Ddiwrnod Blasu cyffrous ar ein campws yn Nhrefforest, lle gall myfyrwyr fentro i fyd deinamig busnes. Yn ogystal â rhoi blas ar sut beth yw

astudio yn y brifysgol, byddwn hefyd yn cynnal sesiwn ar ddatganiadau personol i baratoi eich myfyrwyr Blwyddyn 12 ar gyfer cylch ymgeisio UCAS. Byddwn hefyd yn tynnu sylw myfyrwyr at ein cyfleoedd rhagorol am brentisiaethau gradd yn y maes hwn ac yn rhannu cynghorion call ynghylch gwneud ceisiadau.

CHWARAEON

Datblygu Hyfforddwyr y Dyfodol

Mae'r Diwrnod Blasu hwn yn rhoi cipolwg i fyfyrwyr ar sut y gallan nhw ddod yn hyfforddwyr chwaraeon ac athrawon addysg gorfforol. Bydd amrywiaeth o weithgareddau, yn ffocysu ar Ddatblygu Chwaraeon, Hyfforddi Rygbi a Pherfformiad, a Hyfforddi Pêl-droed a Pherfformiad.

DIWRNOD BLASU CEIROPRACTEG

Mae Ceiropracteg yn ymwneud â chymaint mwy na chefnau poenus a gyddfau stiff. Mae ceiropractyddion yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol sylfaenol sy'n arbenigo mewn esgyrn, cymalau, cyhyrau a meinwe meddal. Gall myfyrwyr gael blas ar ddysgu ymarferol yn ein canolfan bwrpasol, Sefydliad Ceiropracteg Cymru (WIOC). gallwch annog eich myfyrwyr i ystyried gyrfa yn y maes hwn drwy fynd i Ddiwrnod Blasu fydd yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, ddulliau o drin y meingefn a thechnegau tylino pwyntiau sbarduno. Gallan nhw sgwrsio â myfyrwyr presennol, ymweld â'r cyfleusterau, cwrdd â darlithwyr, a chael cynghorion call ynghylch gwneud cais i'r brifysgol.

I gael rhagor o fanylion ac i gadw lle ar unrhyw un o'r sesiynau a restrir, e-bostiwch ysgolionacholegau@decymru.ac.uk

YSGOL HAF PDC 2025

21– 25 GORFFENNAF, MYNEGIADAU O DDIDDORDEB NAWR AR AGOR

Mae Ysgol Haf PDC yn ôl ym mis Gorffennaf, ac yn cael ei chynnal ar holl gampysau PDC rhwng 21 a 25 Gorffennaf 2025.

Ydy eich myfyrwyr/defnyddwyr gwasanaeth chi’n barod am wythnos o ddarganfod, ysbrydoliaeth a dysgu ymarferol fydd yn eu helpu i ennill sgiliau a phrofiadau i’w gwneud wir yn barod ar gyfer y brifysgol?

Mae Ysgol Haf PDC yn ôl ac yn fwy nag erioed yn 2025.

Gwahoddir cyfranogwyr i fwynhau 5 diwrnod o sesiynau academaidd rhyngweithiol, gweithdai lles, a chymorth cyffredinol a gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i'w helpu i ystyried syniadau, sgiliau a llwybrau newydd. Gall myfyrwyr fynychu am un diwrnod neu'r pum diwrnod llawn; rydym yn cynnig rhaglen hyblyg i weddu at eu hanghenion a'u diddordebau.

Gydag ystod eang o feysydd pwnc i ddewis rhyngddynt, gall cyfranogwyr adeiladu eu hamserlen eu hunain o weithgareddau a gyflwynir ar bob un o’n campysau a darpariaeth, gan fanteisio i'r eithaf ar ein cyfleusterau o'r radd flaenaf a'n sesiynau dan arweiniad arbenigwyr. Rydym bellach yn croesawu Mynegiadau o Ddiddordeb ar gyfer yr wythnos gyffrous hon o gyfoethogi, tyfu ac ymgysylltu.

Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau 10 awr neu fwy o weithgareddau’r Ysgol Haf yn gymwys ar gyfer y Cynllun Gwarant o Gynnig yr Ysgol Haf, y gellir gweld ei delerau, amodau a chyfyngiadau ar ein tudalen we.

FFURFLEN MYNEGI

DIDDORDEB

RHAGOR O WYBODAETH

GWEITHDAI COFRESTRU UCAS

Ar gael ar gampysau PDC neu yn eich ysgol neu'ch coleg.

Mae'r sesiynau yn rhoi trosolwg o broses ymgeisio UCAS a sut i wneud cais i brifysgol.

• Gall myfyrwyr greu eu cyfrifon UCAS ar-lein a dechrau llenwi'r ffurflen gais.

• Bydd myfyrwyr yn derbyn Canllaw UCAS PDC i ddechrau ymchwilio i brifysgolion a chyrsiau, ac ystyried eu hopsiynau.

• Byddwn yn esbonio newidiadau i’r datganiadau personol ar gyfer 2026.

• Byddwn yn cyflwyno Cyllid Myfyrwyr - faint mae'r brifysgol yn ei gostio, y cyllid sydd ar gael, sut a phryd i wneud cais am gyllid ac awgrymiadau o ran cyllidebu.

• Bydd cyfleoedd i fynd ar Deithiau Campws i gael syniad o fywyd myfyrwyr yn PDC.

Bydd pawb a ddaw yn derbyn Canllaw UCAS PDC.

Rhowch ddechrau da i waith ymchwilio eich myfyrwyr i Addysg Uwch yn un o'n Diwrnodau Agored. Mae'r digwyddiadau hyn yn ffordd wych i'ch myfyrwyr gael gwybod am yr amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael yn PDC.

NEILLTUWCH LE

MEWN DIWRNOD AGORED

BWRSARIAETH TEITHIO

Gallwn ad-dalu treuliau teithio rhesymol sydd yn gysylltiedig ag ymweld â Phrifysgol

De Cymru ar gyfer Diwrnod Agored, Cyfweliad, neu Ddiwrnod Profiad Ymgeiswyr.

Mae taliadau'n cwmpasu prisiau trên neu fysiau, ac rydym yn gallu helpu gyda chostau teithio mewn car.

Sganiwch y cod QR i gael gwybod mwy am gymhwysedd a sut gall myfyrwyr a'u rhieni/gofalwyr wneud cais.

Parc Chwaraeon
Campws Caerdydd
Campws Glyn-taf
Campws Trefforest
Campws Casnewydd

CLIRIO

Dod o hyd i gwrs decymru.ac.uk

O 5 Gorffennaf, gall eich myfyrwyr wneud cais am le ar cwrs gradd israddedig ym Mhrifysgol De Cymru drwy’r system Glirio. Sganiwch i wneud cais trwy UCAS southwales.ac.uk/cy/gwneud-cais/

DIWRNODAU ANWYTHO,R CHWECHED DOSBARTH MEDI 2025

Dyddiadau: 1 Medi - 12 Medi

Lleoliad: Campws Trefforest | Amser: 10:00 - 14:00

Rhowch gychwyn cadarn i’r flwyddyn academaidd gyda Diwrnodau Anwytho'r

Chweched Dosbarth sydd â’r nod o groesawu'ch myfyrwyr Blwyddyn 12 newydd i'r

chweched dosbarth ac agor eu llygaid i fyd addysg uwch. Mae'r digwyddiad hwn ar y campws yn helpu myfyrwyr i bontio’n hyderus, datblygu sgiliau astudio hanfodol, a dechrau ystyried y dyfodol, o ran bywyd prifysgol a’r tu hwnt.

Bydd uchafbwyntiau'r sesiwn yn cynnwys:

• Cyngor gan arbenigwyr ar sut i wneud yn fawr o gyfleoedd y chweched dosbarth.

• Cyngor ynghylch astudio effeithiol a dysgu annibynnol.

• Cyflwyniad i lwybrau prifysgol a bywyd myfyrwyr.

• Gweithgareddau adeiladu tîm cynhwysol a llawn hwyl i annog hyder a chydweithio.

E-bostiwch ysgolionacholegau@decymru.ac.uk i gadw lleoedd.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.