USW_Accommodation_Guide-26/27-cymraeg

Page 1


CROESO I PDC

Rydym yn falch o’ch croesawu chi yma i PDC. Fe welwch ein bod yr un mor gyfeillgar a diffwdan â’r lle hardd rydyn ni’n ei alw’n gartref.

Rydym yn un brifysgol sy’n gweithredu o dri champws: Caerdydd, Casnewydd a Phontypridd. Mae ein holl safleoedd yn rhynggysylltiedig ac o fewn cyrraedd hawdd i’w gilydd. Ym mha le bynnag y byddwch chi’n astudio, byddwch yn rhan o #TeuluPDC.

Rydym hefyd yn falch o fod yn un o ddarparwyr llety prifysgol mwyaf cystadleuol o ran pris yn Ne-orllewin Lloegr a Chymru. Felly mae’n dda gwybod y bydd eich arian yn mynd ymhellach, gan adael i chi fyw eich bywyd myfyriwr i’r eithaf.

DOD O HYD I’CH

EIN TRI LLEOLIAD

Mae gan PDC dri phrif gampws: Caerdydd, Casnewydd a Phontypridd. Mae’r campysau hyn yn rhyng-gysylltiedig ac o fewn cyrraedd hawdd i’w gilydd.

CAERDYDD

Profwch brifddinas fywiog Cymru, dinas amlddiwylliannol sy’n llawn hanes, mannau gwyrdd, a naws heb ei hail sy’n croesawu myfyrwyr. O sinemâu to i fannau bwyd stryd poblogaidd, mae rhywbeth yn digwydd yng Nghaerdydd bob amser.

Caerdydd i Gasnewydd - 15 milltir

- 11 munud ar y trên

Caerdydd i Bontypridd - 12 milltir

- 22 munud ar y trên

MAE GAN GAERDYDD FWY O FANNAU GWYRDD FESUL PERSON NAG UNRHYW DDINAS ARALL YN Y DU.

PONTYPRIDD

Mae Pontypridd yn cyfuno naws gymunedol glòs â thirweddau naturiol hardd. Dim ond 22 munud o Gaerdydd ar y trên, mae’n cynnig bryniau gwyrdd, siopau lleol, a mynediad cyflym at Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gyfer anturiaethau yn yr awyr agored.

Pontypridd i Gaerdydd

- 12 milltir

- 22 munud ar y trên

CASNEWYDD

Mae’r ddinas gryno hon yn llawn hanes a swyn modern, gyda strydoedd llawr cobls, cestyll canoloesol, a chanolfan fanwerthu newydd Friars Walk. Mae’r sîn fwyd, bywyd nos bywiog, a busnesau unigryw yng Nghasnewydd yn ei wneud yn lle gwych i fyw ac archwilio.

Casnewydd i Gaerdydd

- 15 milltir

- 11 munud ar y trên

Casnewydd i Bontypridd

- 19 milltir

- 50 munud ar y trên

MAE CASNEWYDD YN GARTREF I’R FARCHNAD DAN DO FWYAF WEDI’I HAILDDATBLYGU YN Y DU!

Pontypridd i Gasnewydd - 19 milltir

- 50 munud ar y trên

PONTYPRIDD YW MAN GENI’R CANWR ENWOG TOM JONES!

LLETY SY’N

FWY NAG YSTAFELL YN UNIG

Mae eich cartref prifysgol gerllaw.

DEWIS LLETY SY’N IAWN I CHI

Rydym yn gwybod y gall y syniad o adael cartref cyfarwydd godi ofn. Peidiwch â phoeni, rydym yma i sicrhau eich bod yn dod o hyd i’r lle iawn i chi. Mae llawer o opsiynau llety ar gael i gyd-fynd â phob cyllideb a ffordd o fyw.

BETH YW EICH OPSIYNAU?

NEUADDAU SY’N EIDDO I’R BRIFYSGOL

Arhoswch yn neuaddau PDC ar gampws Pontypridd, lle byddwch chi’n gwneud ffrindiau’n gyflym a dim ond taith gerdded fer i’ch darlithoedd. Mae’n ddechrau perffaith i’ch bywyd fel myfyriwr.

NEUADDAU PREIFAT

Yng Nghaerdydd neu Gasnewydd, profwch yr un naws gyfeillgar mewn neuaddau preifat gyda’n darparwyr partner. Byddwch yn cwrdd â llawer o fyfyrwyr PDC ac eraill o brifysgolion cyfagos.

TAI PREIFAT

Rhannwch dŷ neu fflat gyda ffrindiau i rhyddid ychwanegol. Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dueddol o wneud hynny o’u hail flwyddyn ymlaen ond law yn llaw â hyn, bydd yr holl weinyddu sydd ynghlwm wrth rentu tŷ!

BYW GARTREF

Os ydych chi’n lleol, mae aros gartref yn ffordd wych o astudio wrth aros yn agos at deulu ac arbed arian ar rent.

RHESTR WIRIO LLETY

Ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi dod o hyd i’r un? Gwnewch yn siwr ei fod yn ticio pob blwch.

RYDYCH CHI WEDI

EDRYCH AR NEUADDAU.

RYDYCH CHI WEDI

ARCHWILIO RHENTI

MYFYRWYR PREIFAT.

AC RYDYCH CHI’N

MEDDWL EICH BOD

WEDI DOD O HYD I’R

ATEB PERFFAITH I CHI.

GWYCH! OND CYN I CHI

LOFNODI AR Y LINELL

DDOTIOG, DYMA RESTR

WIRIO DERFYNOL:

A YW’N FFORDDIADWY?

Arian yw un o’r pethau pwysicaf (ac amlwg) i’w ystyried wrth ddewis ble i fyw. Yn seiliedig ar eich cyllid myfyriwr a’ch cyllideb, a allwch chi fforddio talu’r rhent bob mis? Cymerwch amser i gyfrifo costau. Er enghraifft, gall neuaddau myfyrwyr ymddangos yn ddrytach nag opsiynau eraill ond gan eu bod yn cynnwys biliau ac amwynderau, gallant fod yn rhatach yn y tymor hir. Edrychwch ar ein hawgrymiadau defnyddiol a llenwch y cynllun cyllideb ar dudalennau 24-25.

A YW’N CYNNIG POPETH RYDYCH CHI’N CHWILIO AMDANO?

Cymerwch lyfr nodiadau ac ysgrifennwch restr o’ch ‘hanfodion llety’. Os ydych chi’n berson sy’n gwerthfawrogi gofod eich hun, mae fflat stiwdio neu ystafell en-suite yn berffaith i chi. Os ydych chi’n frwd dros ffitrwydd, yna bydd campfa ar y safle at eich dant. Cymharwch bopeth y mae pob llety yn ei gynnig yn erbyn eich rhestr.

A FYDD YN EICH HELPU I WNEUD FFRINDIAU?

Mae byw mewn neuaddau yn cynnig mantais wirioneddol, yn enwedig yn eich blwyddyn gyntaf, gan fod llawer o gyfleoedd i gymdeithasu. Mae ein neuaddau yng Nghaerdydd a Chasnewydd hefyd ar agor i fyfyrwyr o wahanol brifysgolion, felly byddwch yn cwrdd ag ystod eang o bobl.

A YW MEWN LLEOLIAD DA?

Nid oes angen meddwl ddwywaith am fyw mewn neuaddau o ran dewis lleoliad cyfleus. Ond, os dewiswch fyw ymhellach i ffwrdd, gwnewch yn siŵr bod digon o opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ar gael fel y gallwch gyrraedd y campws.

A YW’N GYFREITHLON?

Cyn i chi lofnodi’r contract, gwnewch yn siŵr bod y landlord wedi’i achredu â ‘Rhentu Doeth Cymru.’ Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws os aiff unrhyw beth o’i le yn ddiweddarach. Ewch i weld yr eiddo bob tro cyn ymrwymo. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y contract yn drylwyr cyn ei lofnodi. Os ydych chi’n ystyried byw mewn tŷ preifat, edrychwch ar Student Pad, ein gwasanaeth chwilio am lety am ddim neu cysylltwch â gwerthwyr tai a landlordiaid yn uniongyrchol.

GWARANT LLETY PDC– 2026

Mae Prifysgol De Cymru yn gwarantu llety i bob myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig blwyddyn gyntaf (llawn amser) sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:

• Derbyn PDC fel eu dewis cadarn erbyn 6 Mai 2026 ac yn gwneud y taliad perthnasol erbyn y dyddiad cau a nodir yn eu he-bost cynnig llety.

• Cyflwyno eu cais am lety a thalu eu blaendal cadw erbyn 18 Mai 2026

• Bodloni telerau ac amodau eu cynnig academaidd.

Bydd y llety naill ai yn Neuaddau Preswyl PDC ar ein campws yn Nhrefforest neu gydag un o’n darparwyr llety preifat yng Nghaerdydd neu Gasnewydd* a bydd yn cael ei ddyrannu yn unol â thelerau ein polisi dyrannu.**

Sganiwch yma i ddysgu mwy am Warant Llety PDC

*Nid yw’r Warant Llety yn benodol i’r lleoliad ond, lle bo hynny’n bosibl, bydd ystafelloedd yn cael eu dyrannu ar sail yr hyn sydd agosaf at y campws astudio (oni ofynnir yn wahanol).

**Rydym yn cadw’r hawl i ddarparu llety fyfyrwyr mewn lleoliad arall os yw’r dewis cyntaf o lety yn llawn. Mae’r term ‘llety’ yn cyfeirio at un ystafell wely i fyfyriwr (h.y. nid yw’n berthnasol i’r rhai sy’n ceisio llety gwpl neu deulu).

LLETY YNG NGHAERDYDD

Mae Caerdydd, prifddinas fywiog Cymru, yn cynnig profiadau deinamig, amlddiwylliannol gyda’r holl gyffro a chyfleusterau ar garreg eich drws. Mae ein llety yng Nghaerdydd ar gael trwy ddarparwr partner a ddewiswyd yn ofalus. Mae’n cynnig profiad o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y myfyrwyr, a hynny yng nghanol y ddinas. Byddwch yn byw ochr yn ochr â myfyrwyr o

Brifysgol De Cymru a phrifysgolion eraill, gan greu cymuned amrywiol a chroesawgar.

BETH SYDD WEDI’I

GYNNWYS YN EICH

RHENT

Mae eich rhent yn cynnwys yr holl filiau hanfodol: cyfleustodau, WiFi, yswiriant cynnwys, glanhau ardaloedd cymunedol yn wythnosol, a diogelwch 24/7. Mae gwasanaethau cynnal a chadw (ac eithrio atgyweiriadau sy’n ymwneud â difrod) hefyd wedi’u cynnwys, ynghyd â mynediad at ddesg gymorth 24/7 ar gyfer unrhyw anghenion sy’n codi.

LLETY TY PONT HAEARN

Ystafell gyfforddus gydag ystafell wlyb en-suite, lle cwpwrdd dillad da a gwely dwbl bach, wedi’i dylunio i greu profiad byw cartrefol.

£172.90 yr wythnos* Cytundeb 44 wythnos

YN EICH YSTAFELL

• Yn cynnwys yr holl gelfi: gwely, desg, cadair a man storio

• Ystafelloedd ymolchi en-suite ym mhob ystafell

• Cegin i’w rhannu (mewn fflatiau)

• Ar gyfartaledd, mae 6-8 myfyriwr fesul fflat

CYFLEUSTERAU’R ADEILAD

Mae Tŷ Pont Haearn yn cynnig nifer o gyfleusterau i gyfoethogi bywyd myfyrwyr, gan gynnwys:

• Ardaloedd cyffredin i gymdeithasu

• Man storio beiciau, cyfleusterau golchi dillad, a pheiriannau gwerthu

• Cyfleusterau ailgylchu a thîm gwasanaeth 24/7 ar y safle

• Mynediad diogel adeiladau sy’n cael eu monitro gan CCTV, gan sicrhau diogelwch bob amser

• Mynediad Wi-Fi yn y fflatiau ac mewn ardaloedd cymunedol, gyda band eang gwibgyswllt ar gael

DEWISIADAU YSTAFELL

Mae opsiynau ar gyfer fflatiau un rhyw, fflatiau dialcohol, a fflatiau i rai Cymraeg eu hiaith ar gael i gydfynd â’ch dewisiadau.

DARPARWYR LLETY YCHWANEGOL

Rydym hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth o ddarparwyr neuaddau preifat ychwanegol i sicrhau ein bod yn cynnig amrywiaeth o brisiau a manylebau ystafelloedd. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o ddarparwyr sy’n cynnig ystafelloedd hygyrch.

LLEOLIAD A CHYFLEUSTERAU

Wedi’i leoli yng nghanol Caerdydd, mae Tŷ Pont

Haearn yn rhoi mynediad hawdd i gampws Caerdydd PDC, siopau, bwytai ac atyniadau diwylliannol. Mae archfarchnadoedd gerllaw, gan gynnwys Tesco Express (2 funud ar droed) a Sainsbury’s ar Heol y Frenhines (5 munud ar droed). Yn ogystal, mae gwasanaethau dosbarthu bwyd poblogaidd fel UberEats a Deliveroo ar gael ledled Caerdydd.

CYSYLLTIADAU

TRAFNIDIAETH

• Trên: Mae prif orsaf Caerdydd yn eich cysylltu â Chasnewydd (20 munud, £5-£8) a Phontypridd (20 munud, £5-£8).

• Bws: Mae bysiau rheolaidd y ddinas ar gael, gyda thocynnau yn dechrau o £2-£3 y daith.

• Taxis: Mae prisiau tacsi ar gyfer teithiau byr yn ninas Caerdydd yn dechrau o tua £5. (Ystyriwch osgoi tacsis ar gyfer teithio rhwng dinasoedd oherwydd gall y costau fod yn uchel.)

*Mae’r costau hyn yn berthnasol 25/26. Gweler ein gwefan am gostau ar gyfer 26/27.

PARCIO

Nid yw Tŷ Pont Haearn yn darparu maes parcio i breswylwyr, felly caiff myfyrwyr eu hannog i ystyried opsiynau eraill i yrru. Mae maes parcio NCP Cardiff Adam Street gerllaw ar agor 24/7 ac mae’n cynnig tocynnau tymor sy’n dechrau o £4.16 y dydd. Cysylltwch ag NCP yn uniongyrchol i gael y manylion.

MANYLION PELLACH

Ewch i dudalen 18-19 i gymharu ein holl opsiynau llety.

LLETY YNG NGHASNEWYDD

Wedi’i leoli mewn lle hardd ger Afon Wysg, mae Pentref Myfyrwyr

Casnewydd yn cynnig profiad heddychlon sydd â chysylltiadau da. Caiff y pentref ei reoli gan ein partner dibynadwy, Campus Living

Villages. Dim ond pum munud ar droed yw’r pentref o gampws

Casnewydd PDC, mae’n eich rhoi yn agos at opsiynau astudio a hamdden, gyda Chaerdydd a Bryste daith fer ar y trên i ffwrdd.

MATHAU O YSTAFELLOEDD

Fflatiau Efydd

Mae’r ystafell yn cynnwys ystafell wlyb en-suite, gwely sengl, desg gyda chadair, man storio a chwpwrdd dillad.

£151.50 yr wythnos

Cytundeb 42 wythnos *

Fflatiau Aur

Mae’r ystafell yn cynnwys ystafell wlyb en-suite, gwely dwbl, desg gyda chadair, man storio a chwpwrdd dillad.

£160.50 yr wythnos

Cytundeb 42 wythnos.*

Ystafelloedd Hygyrch

Ystafelloedd en-suite pwrpasol gyda nodweddion hygyrchedd ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.

Prisiau amrywiol

Cytundeb 40 wythnos (51 wythnos ar gael ar gais).

YN EICH YSTAFELL

• Yn cynnwys yr holl gelfi: gwely, desg, cadair a man storio

• Ystafell ymolchi en-suite ym mhob ystafell

• Cegin i’w rhannu (mewn fflatiau) neu gegin bersonol (mewn stiwdios)

• Ar gyfartaledd, mae 6-8 myfyriwr fesul fflat

CYFLEUSTERAU’R ADEILAD

Mae Pentref Myfyrwyr Casnewydd hefyd yn darparu:

• Ystafelloedd cyffredin ar gyfer ymlacio a gweithgareddau cymdeithasol

• Man storio beiciau, cyfleusterau golchi dillad, a pheiriannau gwerthu

• Wi-Fi a band eang gwibgyswllt am ddim mewn mannau cymunedol a phersonol

DEWISIADAU YSTAFELL

Mae opsiynau ar gyfer fflatiau un rhyw, fflatiau dialcohol, a fflatiau i rai Cymraeg eu hiaith ar gael i gydfynd â’ch dewisiadau unigol.

LLEOLIAD A CHYFLEUSTERAU

Wedi’i leoli’n gyfleus ger campws Casnewydd PDC, mae Pentref Myfyrwyr Casnewydd hefyd yn agos at archfarchnadoedd fel Tesco a Sainsbury’s (tua 10 munud o gerdded). Mae gwasanaethau dosbarthu bwyd fel UberEats a Deliveroo ar gael, gan ei gwneud hi’n hawdd archebu prydau bwyd yn syth i’ch llety.

CYSYLLTIADAU TRAFNIDIAETH

• Trên: Mae gorsaf Casnewydd yn cynnig cysylltiadau rheilffordd cyfleus i Gaerdydd a Bryste:

• I Gaerdydd: Mae’r daith yn cymryd tua 20 munud, gyda thocynnau unffordd yn amrywio o £5 i £8.

• I Fryste: Mae’r trenau’n cymryd tua 30-35 munud, gyda thocynnau unffordd safonol yn dechrau o tua £4.95 ar amseroedd tawel a chyfartaledd o £6.19.

• Bws: Mae bysiau lleol yn rhoi mynediad hawdd ledled Casnewydd ac ardaloedd cyfagos, gyda phrisiau unffordd yn dechrau o tua £2-£3.

• Tacsis: Yn gyffredinol, mae teithiau tacsi byr yng Nghasnewydd yn dechrau o £4-£5.

*Mae’r costau hyn yn berthnasol 25/26. Gweler ein gwefan am gostau ar gyfer 26/27.

PARCIO

Mae parcio cyfyngedig ar gael ar y safle ym Mhentref Myfyrwyr Casnewydd gyda cherdyn parcio 42 wythnos am bris o £714. Gall preswylwyr sydd â diddordeb gysylltu â Newport@clvuk.com i wneud cais.

MANYLION PELLACH

Ewch i dudalen 18-19 i gymharu ein holl opsiynau llety.

GYNNWYS YN EICH

RHENT

Mae’r rhent yn cynnwys yr holl gyfleustodau, Wi-Fi, yswiriant cynnwys, a glanhau ardaloedd cymunedol yn wythnosol. Mae gan yr adeilad ddiogelwch 24/7, ac mae gwaith cynnal a chadw wedi’i gynnwys (ac eithrio atgyweiriadau sy’n ymwneud â difrod). Bydd hefyd gennych chi fynediad at ddesg gymorth 24/7.

Dyma’r adran Cysylltiadau Trafnidiaeth wedi’i diweddaru ar gyfer llety yng Nghasnewydd, gan gynnwys manylion am y math o docynnau ac opsiynau disgownt i fyfyrwyr:

LLETY YM MHONTYPRIDD

Mae Pontypridd yn cynnig y gorau o’r ddau fyd—bod yn agos at natur ac at fywyd y ddinas. Gyda mynediad hawdd i Gaerdydd ar y trên, bydd gennych chi gysylltiadau da bob amser.

Mae gan PDC Pontypridd nifer o gampysau, gan gynnwys Trefforest, Glyn-taf a Parc Chwaraeon PDC. Gallwch fyw yn Nhrefforest ac astudio yng Nglyn-taf, gan fod y ddau o fewn pellter byr i’w gilydd –taith hawdd ar y bws neu 15 munud ar droed. Wedi’i leoli ar gampws

Trefforest, mae ein llety ychydig funudau o’r gampfa ar y campws (o £15 y mis), archfarchnadoedd lleol (0.5 milltir), a chyfleusterau eraill.

BETH SYDD WEDI’I GYNNWYS YN EICH

RHENT

Mae’r holl filiau wedi’u cynnwys yn eich rhent: cyfleustodau, Wi-Fi ac yswiriant cynnwys. Mae gwaith cynnal a chadw (ac eithrio atgyweiriadau sy’n ymwneud â difrod) hefyd wedi’i gynnwys, ac mae desg gymorth 24/7 ar gael os bydd angen unrhyw gymorth ychwanegol.

MATHAU O YSTAFELLOEDD

Llys Morgannwg

Ystafelloedd safonol cyfforddus gyda chawodydd mewn ystafelloedd gwlyb en-suite a gwelyau sengl, wedi’u dylunio i roi profiad byw cefnogol i fyfyrwyr.

£115 yr wythnos*

cytundebau 40 wythnos (51 wythnos ar gael ar gais).

Ystafelloedd Safon Uwch Llys Morgannwg

Ystafelloedd en-suite safon uwch yn Llys Morgannwg sy’n cynnig gwell lle byw a chyfleusterau ychwanegol gan gynnwys peiriant golchi llestri.

£134 yr wythnos* cytundebau 40 wythnos (51 wythnos ar gael ar gais).

Neuaddau’r Mynydd

Ystafelloedd en-suite premiwm gyda lle ychwanegol a gwelyau maint ¾, perffaith i’r rhai sydd eisiau ychydig mwy o gysur.

£148 yr wythnos* cytundebau 40 wythnos (51 wythnos ar gael ar gais).

Fflatiau Stiwdio

Yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr aeddfed, ôl-radd neu gyplau, mae pob fflat stiwdio yn cynnwys gwely dwbl, en-suite, a chegin fach sy’n cynnwys yr offer i gyd.

£190 yr wythnos* cytundebau 40 wythnos (51 wythnos ar gael ar gais).

Ystafelloedd Hygyrch

Ystafelloedd en-suite pwrpasol gyda nodweddion hygyrchedd ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.

Prisiau amrywiol

Cytundeb 40 wythnos (51 wythnos ar gael ar gais).

YN EICH YSTAFELL

• Yn cynnwys gwely, desg, cadair a man storio

• Ystafelloedd ymolchi en-suite ym mhob ystafell

• Cegin i’w rhannu (mewn fflatiau) neu gegin bersonol (mewn stiwdios)

• Ar gyfartaledd, mae 6-8 myfyriwr fesul fflat

CYFLEUSTERAU YCHWANEGOL

Mae llety ym Mhontypridd yn cynnig nifer o gyfleusterau ychwanegol:

• Ystafelloedd cyffredin i gymdeithasu

• Man storio beiciau, cyfleusterau golchi dillad, a mannau astudio

• Wi-Fi am ddim a band eang gwibgyswllt

• Diogelwch 24/7 ar y safle a CCTV i gynnig tawelwch meddwl

DEWISIADAU YSTAFELL

Mae opsiynau ar gael ddarparu ar gyfer dewisiadau gwahanol, gan gynnwys fflatiau un rhyw, fflatiau dialcohol, a fflatiau i rai Cymraeg eu hiaith.

CYSYLLTIADAU TRAFNIDIAETH

• Trên: Mae gorsaf Trefforest yn cynnig cysylltiadau cyson i ganol tref Pontypridd ac i Gaerdydd

• I Bontypridd: Taith gyflym, gyda phrisiau unffordd ar gyfartaledd yn dechrau o tua £4. Gall myfyrwyr sydd â cherdyn rheilffordd dilys fwynhau gostyngiad o 1/3, gan wneud hwn yn opsiwn mwy fforddiadwy i rai sy’n teithio’n aml.

• I Gaerdydd: Mae’r daith yn cymryd tua 20 munud, gyda thocynnau unffordd fel arfer yn amrywio rhwng £5 a £6. Gyda cherdyn rheilffordd fyfyrwyr, gallwch arbed 1/3 ar y prisiau hyn, gan leihau cost pob taith.

• Bws: Mae gwasanaethau bws rheolaidd yn rhedeg yn lleol ac i drefi cyfagos, gyda phrisiau fel arfer yn dechrau o £2-£3 am daith unffordd.

• Tacsis: Mae gwasanaethau tacsi lleol yn cynnig teithiau byr sy’n dechrau o tua £4-£5, gan olygu bod hwn yn ddewis cyfleus i deithio i fannau cyfagos.

*Mae’r costau hyn yn berthnasol 25/26. Gweler ein gwefan am gostau ar gyfer 26/27.

PARCIO

Mae cardiau parcio ar gael am £15 y mis, £135 ar gyfer y flwyddyn academaidd (cytundebau 40 wythnos), neu £180 ar gyfer y flwyddyn galendr (cytundebau 51 wythnos). Mae deiliaid bathodyn glas wedi’u heithrio rhag ffioedd parcio.

MANYLION PELLACH

Ewch i dudalen 18-19 i gymharu ein holl opsiynau llety.

CAMPWS

COST Y BLWYDDYN

(£)

£4,600

(£5,865 am 51 wythnos)

£5,360

(£6,834 am 51 wythnos)

£7,980 (£9,690 am 51 wythnos)

£7,600

40 wythnos (51 wythnos ar gael ar gais)

40 wythnos (51 wythnos ar gael ar gais)

40 wythnos (51 wythnos ar gael ar gais)

Amrywio

wythnos (51 wythnos ar gael ar gais)

£7,608

wythnos

£6,363 £6,741

wythnos

wythnos

Gwely sengl

Desg, Cadair

Cwpwrdd dillad

Man storio

Gwely ¾, Desg Cadair

Cwpwrdd dillad

Man storio

Gwely ¾

Desg Cadair

Cwpwrdd dillad

Man storio

Gwely dwbl bach

Desg cadair

Cwpwrdd dillad

Man storio

Gwely

Desg cadair

Cwpwrdd dillad

Man storio (hygyrch)

Gwely dwbl bach

Desg cadair

Cwpwrdd dillad

Man storio

Gwely sengl

Desg cadair

Cwpwrdd dillad

Man storio

Gwely dwbl

Desg cadair

Cwpwrdd dillad

Man storio

Ystafell wlyb en-suite

Ystafell gawod en-suite

Ystafell gawod en-suite

En-suite (hygyrch) Ystafell gawod en-suite

Ystafell gawod en-suite

Ystafell wlyb en-suite

Ystafell gawod en-suite

Cegin fwyta i’w rhannu Cegin fwyta i’w rhannu (safon uwch)

Cegin fwyta i’w rhannu Cegin breifat

6-8

Cerdyn parcio (£135/blwyddyn academaidd, £180/ blwyddyn galendr)

6-8 6-8

Cerdyn parcio (£135/blwyddyn academaidd, £180/ blwyddyn galendr)

Cerdyn parcio

(£135/blwyddyn academaidd, £180/ blwyddyn galendr)

Amherthnasol

Cerdyn parcio (£135/blwyddyn academaidd, £180/ blwyddyn galendr)

Cegin i’w rhannu gyda nodweddion hygyrch

Cegin fwyta, lolfa i’w rhannu

Cerdyn parcio (£135/blwyddyn academaidd, £180/ blwyddyn galendr)

Dim lle parcio i breswylwyr (Maes Parcio NCP gerllaw, o £4.16 y dydd)

Cegin, lolfa i’w rhannu

Cegin, lolfa i’w rhannu

Trwydded parcio (£714 am 42 wythnos)

Trwydded parcio (£714 am 42 wythnos)

EIN RHAGLEN BYWYD PRESWYL

Mae’r Rhaglen Bywyd Preswyl ar gampws Pontypridd PDC wedi’i chynllunio i gyfoethogi eich profiad fel myfyriwr, gan gynnig cyfuniad o weithgareddau cymdeithasol, addysgol a lles wedi’u teilwra ar gyfer bywyd mewn neuaddau breswyl. Os ydych chi’n awyddus i wneud ffrindiau am oes neu ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol, mae Bywyd Preswyl yn sicrhau eich bod yn gwneud llawer mwy yn y brifysgol nag astudio yn unig.

MANNAU CYMDEITHASOL

PWRPASOL

Hyb Bywyd Preswyl Pontypridd yw calon ein cymuned—man bywiog lle gallwch ymlacio, cwrdd â chyd-breswylwyr, a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cyffrous.

PROFIADAU DIWYLLIANNOL A CHYMDEITHASOL

Rydym yn dathlu amrywiaeth ym Mhontypridd, gan gynnal nosweithiau rhyngwladol, gwyliau diwylliannol, a theithiau lleol. Cewch gymryd rhan mewn digwyddiadau thematig fel “Blas ar Gymru” neu fwynhau dangosiadau ffilmiau rhyngwladol, gan greu amgylchedd lle mae cyfeillgarwch yn ffynnu ar draws diwylliannau.

DIGWYDDIADAU A GWEITHGAREDDAU

O nosweithiau ffilm a chwis i ddosbarthiadau coginio ymarferol, mae rhywbeth bob amser yn digwydd ym Mhontypridd i’ch cadw mewn cyswllt ac i’ch difyrru. Os ydych chi’n chwilio am noson o ymlacio neu rywbeth mwy bywiog, mae gan Raglen Bywyd Preswyl amrywiaeth eang o weithgareddau.

LLES A THWF PERSONOL

Mae’r Rhaglen Bywyd Preswyl ym Mhontypridd yn cynnwys gweithdai i’ch helpu i ffynnu yn y brifysgol. Gallwch ddysgu sut i reoli eich cyllideb neu sut i ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar i helpu i leddfu straen bywyd academaidd.

ADEILADU CYMUNED A GWIRFODDOLI

LLYWIO BYWYD PRESWYL

Eisiau chwarae rhan fwy ym mywyd y campws? Ymunwch â phwyllgor Bywyd Preswyl i helpu i lywio digwyddiadau a gweithgareddau’r dyfodol. Mae’n gyfle gwych i ddatblygu sgiliau arwain, trefnu mentrau, a chael effaith barhaol ar gymuned y brifysgol.

Ym Mhontypridd, credwn mewn rhoi yn ôl. Trwy Raglen Bywyd Preswyl, cewch gyfle i gymryd rhan mewn mentrau gwasanaeth cymunedol, o wirfoddoli mewn banciau bwyd lleol i gyfrannu at brosiectau cynaliadwyedd ar y campws.

SCANIWCH Y COD QR I GWYBOD MWY

PARATOI

AR GYFER

RHEOLI ARIAN

Mae dechrau yn y brifysgol yn golygu cyfrifoldebau ariannol newydd, ond gyda’r ymagwedd gywir, gall rheoli eich cyllideb fod yn beth syml.

Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i wneud y gorau o’ch arian gan gadw rheolaeth ar eich gwariant.

GWYBOD BETH YW EICH CYLLIDEB

Rhestrwch eich incwm (benthyciadau, cyflog, ac ati) a threuliau hanfodol fel rhent a biliau.

DEFNYDDIO APIAU CYLLIDEBU

BOD YN GRAFF WRTH SIOPA

Porwch mewn siopau elusen, a defnyddiwch apiau fel Too Good To Go i ddod o hyd i ostyngiadau ar fwyd.

Cofrestrwch ar gyfer TOTUM i gael gostyngiadau i fyfyrwyr.

CYNLLUNYDD CYLLIDEB

Mae creu cyllideb fisol yn ffordd ddefnyddiol i’ch helpu i reoli eich arian.

Mae apiau cyllidebu fel Wally neu Neon Dangosfwrdd Arian yn hawdd i’w defnyddio neu ddefnyddio taenlen syml fel yr un isod.

MIS/BLWYDDYN:

NOD CYLLIDEB Y MIS HWN:

Benthyciad myfyrwyr

Bwrsariaethau/ysgoloriaethau

Incwm o swydd rhan amser

Incwm arall

Fy incwm cyfanswm FY

COSTAU DYSGU

Ffioedd

Adnoddau Dysgu (Laptop, llyfrau ac ati)

COSTAU CARTREF A BYW

Rhent

Bwyd

Gofal personol (dillad, nwyddau ymolchi)

Eitemau cartref (nwyddau glanhau)

UTILITIES

Gall offer fel Wally helpu i gadw golwg ar eich gwariant.

CYNILION BACH

Mae apiau fel Plum neu Moneybox yn eich helpu i gynilo heb feddwl.

ANGEN HELP?

YSTYRIED AIL LAW

Prynwch eitemau ail law yn hytrach na rhai newydd sbon. Mae’n eco-gyfeillgar ac yn help i’r gyllideb.

Mae Tim Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr PDC ar gael i gynnig arweiniad a chefnogaeth.

Y COD

Trydan

Nwy

Dŵr

Wi-Fi

Yswiriant

CLUDIANT

Tocynnau trên/bws

Tacsis

Ad-daliadau car (os ydych yn berchen ar gar)

HWYL

Bwyta allan

Adloniant

Tanysgrifiadau e.e. Netflix

Aelodaeth e.e. campfa

ARBEDION

Cronfa gwyliau/at y dyfodol

Cronfa wrth gefn

Cyfanswm y treuliau

Cyfanswm incwm minws cyfanswm gwariant

= gweddill y gyllideb

Peidiwch â phoeni, os ydych chi’n byw mewn llety PDC, mae’r costau hyn i gyd wedi’u cynnwys yn eich rhent.

MIS

COGINIO AR GYLLIDEB

Mae bywyd prifysgol yn aml yn golygu bod angen i chi reoli cyllideb dynn, a gall costau bwyd gynyddu’n sydyn!

DYMA RAI AWGRYMIADAU I’CH HELPU I FWYTA’N DDA HEB ORWARIO.

CREU CYLLIDEB BWYD

Cadwch olwg yr holl gostau sy’n ymwneud â bwyd, gan gynnwys byrbrydau a bwyta allan.

COGINIO GARTREF

Mae prydau bwyd cartref yn aml yn rhatach ac yn iachach na bwyta allan.

COGINIO MEWN SWMP

Paratowch brydau mewn swmp a’u rhewi i’w bwyta yn nes ymlaen. Mae’n effeithlon ac yn gost-effeithiol.

CYNLLUNIO EICH PRYDAU BWYD

Defnyddiwch apiau fel Yummly i greu cynlluniau prydau wythnosol gan arbed amser ac arian.

BOD YN GREADIGOL

Arbrofwch â chynhwysion fforddiadwy a rhowch gynnig ar ryseitiau newydd. Chwiliwch am ysbrydoliaeth ar Instagram neu TikTok gyda hashnodau fel #moneysavingrecipes.

IECHYD A LLES

Mae gofalu am eich iechyd corfforol a meddyliol yn allweddol i gael profiad llwyddiannus yn y brifysgol. Cymerwch olwg ar yr awgrymiadau hyn i gadw’n heini a chytbwys a chael cefnogaeth drwy gydol eich astudiaethau.

ARCHWILIWCH YR AWGRYMIADAU HYN...

CADW’N HEINI

Gallwch wneud ymarfer corff yng nghampfa’r campws (o £15 y mis), ymuno â chlwb chwaraeon, neu ddawnsio yn eich fflat—mae cadw’n heini yn rhoi hwb i’ch hwyliau a’ch egni.

GWASANAETHAU LLES AC ANABLEDD

Mae ein tîm yn cynnig cyngor a chymorth am ddim ar iechyd meddwl, iechyd corfforol a lles. Trefnwch apwyntiad Cyngor Lles unrhyw bryd.

MATERION HUNANOFAL

Cymerwch amser i ymlacio drwy weithgareddau fel cadw dyddiadur o’ch teimladau, myfyrio, neu ymwybyddiaeth ofalgar—beth bynnag sy’n eich helpu i ail-lenwi’r batri.

GWEITHDAI A CHYMORTH

Ymunwch â gweithdai ar reoli straen, iechyd meddwl a mwy i helpu i lywio bywyd fel myfyriwr.

ESTYN ALLAN

Os ydych chi wedi eich gorlethu, siaradwch â ffrind neu weithiwr proffesiynol. Mae cymorth ar gael bob amser.

Sganiwch yma i archwilio ein holl Wasanaethau Iechyd a Lles.

DIOGELWCH PERSONOL AC EIDDO

Yn PDC, eich diogelwch chi yw ein prif flaenoriaeth. Rydym yn darparu diogelwch 24/7 ac ystod o wasanaethau i sicrhau eich bod yn teimlo’n ddiogel a’ch bod yn cael eich cefnogi, ar y campws a thu hwnt.

Mae ap SafeZone ar gael i’r holl fyfyrwyr a staff, gan roi cyswllt uniongyrchol i wasanaeth diogelwch y campws pryd bynnag y bydd ei angen arnoch. Gyda SafeZone, gallwch:

• Tynnu Sylw’r Gwasanaeth Diogelwch: Anfonwch neges frys i gael cymorth ar unwaith.

• Rhannu eich lleoliad: Rhowch wybod i’r gwasanaeth diogelwch ble rydych chi pan fyddwch chi’n gweithio ar eich pen eich hun neu’n cerdded gyda’r nos.

• Rhybuddion Digwyddiad: Cewch Rybuddion am ddigwyddiadau diogelwch ar y campws.

• Cymorth Cyntaf: Gofynnwch am gymorth cyntaf yn gyflym os oes angen, gan sicrhau y cewch chi gymorth yn sydyn.

EICH CYTUNDEB A’CH HAWLIAU

Wedi i chi lofnodi Cytundeb gyda darparwr llety, rydych wedi’ch clymu’n gyfreithiol i eiddo am gyfnod penodol o amser. Gall hyn ei gwneud hi’n anodd gadael eich Cytundeb neu symud os bydd eich amgylchiadau’n newid.

MAE’N WERTH SICRHAU BOD POPETH FEL Y DYLAI FOD CYN I CHI LOFNODI EICH CYTUNDEB. DYMA AMBELL BETH I’W YSTYRIED:

• P’un a ydych yn dewis byw yn neuaddau PDC neu yn un o neuaddau ein partneriaid preifat, bydd eich cytundeb yn ymrwymiad cyfreithiol. Sicrhewch eich bod yn darllen telerau’r cytundeb cyn i chi lofnodi. Os ydych o dan 18 oed, bydd angen i’r cytundeb gael ei gydlofnodi gan riant neu warcheidwad hefyd.

• Sefydlwch a oes modd canslo’ch cytundeb cyn i chi symud i mewn.

• Byddwch yn glir ynghylch taliadau ymlaen llaw. Gall darparwyr llety godi tâl ymlaen llaw/blaendal. Mae’n rhaid i’r swm hwn gael ei ddychwelyd atoch neu ei ddefnyddio yn erbyn eich taliad rhent cyntaf. Os ydych yn talu ffi cadw, mae’n rhaid iddo gael ei ddiogelu’n gyfreithiol gan gynllun ffi cadw tenantiaeth.

Sganiwch yma i ddarganfod mwy am ein Gwasanaethau Diogelwch.

DIOGELWCH AR Y CAMPWS

Mae ein tîm diogelwch hyfforddedig yn gweithio 24/7 ar draws pob campws, gyda chymorth rhwydwaith teledu cylch cyfyng cynhwysfawr. Os ydych chi’n astudio’n hwyr neu’n cerdded o gwmpas y campws, bydd cymorth ar gael ger llaw bob amser.

YSWIRIANT EIDDO

Fel rhan o’ch pecyn llety, mae PDC yn cynnwys yswiriant eiddo sy’n cael ei ddarparu gan Endsleigh, sy’n rhoi yswiriant dros eich teclynnau ac eiddo personol eraill. Bydd hyn yn rhoi tawelwch meddwl i chi o wybod bod eich eitemau gwerthfawr yn cael eu diogelu tra byddwch ar y campws.

BOD YN OFALUS PAN FYDDWCH ODDI AR Y CAMPWS

Tra eich bod ar y campws neu oddi ar y campws, rydyn ni’n eich annog i fod yn ymwybodol o’r hyn sydd o’ch hamgylch. Mae ap SafeZone hefyd yn cynnig arweiniad ar gadw’n ddiogel oddi ar y campws, gan roi offer i chi gadw mewn cyswllt a chadw’n ddiogel ble bynnag yr ewch chi.

• Chwiliwch am ffioedd cudd fel ffioedd preswylio, cyfleustodau ychwanegol neu ffioedd gwasanaeth.

• Gall eich cytundeb gael ei wirio am ddim gan Dîm Cyngor Myfyrwyr PDC. Fel arfer, gallwch lawrlwytho a gweld cytundeb drafft cyn i chi ei lofnodi. Os na, gofynnwch am gopi a chysylltwch â ni i wirio’r cytundeb am ddim. Sicrhewch eich bod wedi darllen a deall popeth cyn i chi lofnodi.

• Gwiriwch fod yr eiddo wedi’i achredu o dan un o’r Codau Cenedlaethol a darganfyddwch pwy sy’n gyfrifol am ei reoli. Mae’r Cod Safonau Cenedlaethol yn set o safonau penodol sy’n berthnasol i ddatblygiadau myfyrwyr mwy. Mae’n sicrhau bod gan fyfyrwyr lety diogel, bod unrhyw broblemau’n cael eu datrys, a bod myfyrwyr yn cael eu cefnogi gan yr Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr (UCM). Darganfyddwch fwy drwy www.nationalcode.org

• Cyfeiriwch at y Cod Llety Myfyrwyr gan ei fod yn amddiffyn eich hawliau i gael lle diogel ac o ansawdd da i fyw ynddo. Darganfyddwch fwy yma: www.thesac.org.uk

Y CAMAU

YMWELD Â’N LLETY MYFYRWYR

Dewch i gael gwir ymdeimlad o’ch cartref newydd posibl drwy drefnu ymweliad. Dewch i gwrdd â’n Llysgenhadon Myfyrwyr a fydd yn eich tywys o gwmpas neuaddau ac yn ateb unrhyw gwestiynau.

Gwahoddir pob ymgeisydd i un o’n Diwrnodau Profiad Ymgeiswyr neu gyfweliad ar y campws, gan roi’r cyfle i chi ymweld â’n Llety Myfyrwyr ac i ddarganfod mwy am ein costau a’n mathau o ystafelloedd a’n proses ymgeisio.

Chwiliwch am ‘Diwrnodau Profiad Ymgeiswyr’ ar ein gwefan i ddarganfod mwy a chadwch lygad ar eich e-byst ar ôl i chi dderbyn eich cynnig am eich gwahoddiad personol.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi.

FE WNES I FFRINDIAU

NA FYDDWN BYTH WEDI CWRDD Â NHW PE NA

BAWN YN BYW MEWN NEUADDAU. RYDW I MOR FALCH.

Tara Peters Myfyriwr graddedig PDC

Y BROSES YMGEISIO

GWNEUD CAIS AM LETY

Byddwn yn cysylltu â chi ac yn eich gwahodd i wneud cais am eich llety o fewn pythefnos i dderbyn eich cynnig yn gadarn.

PROSES AC AMSERLEN YMGEISIO

Mae gwneud cais am lety mewn neuadd yn hawdd iawn. Ein cyngor pennaf - peidiwch â’i gadael hi’n rhy hwyr. Po gynharaf y byddwch yn gwneud cais, y mwyaf tebygol y byddwch yn cael y llety rydych chi ei eisiau.

Dyma drosolwg o broses ymgeisio PDC.

LLWYBR LLETY GWARANTEDIG

Mae Gwarant Llety Prifysgol De Cymru* yn golygu y bydd gennych ystafell warantedig mewn neuaddau preswyl I fod yn gymwys, bydd rhaid i chi:

• Derbyn Prifysgol De Cymru fel eich dewis cadarn erbyn 6 Mai 2026

• Neilltuo llety gyda blaendal erbyn 18 Mai 2026

• Cwrdd â thelerau ac amodau eich cynnig academaidd a gwnewch y taliad perthnasol erbyn y dyddiad cau a nodir yn eich e-bost cynnig llety.

Gofynnir i chi ddewis eich lleoliad dewisol, pwynt pris a chadarnhau unrhyw ddewisiadau personol (h.y. hygyrchedd).

Anfonir cyfarwyddiadau pellach atoch ar fanylion eich ystafell a sut i gadarnhau eich llety.

LLWYBR LLETY HEB WARANT

Os nad ydych yn bodloni meini prawf Gwarant Llety Prifysgol De Cymru, ni fyddwn yn cadarnhau a neilltuwyd ystafell i chi tan ar ôl 13 Awst 2026 (Diwrnod Canlyniadau). Os yw’r galw am ystafelloedd yn uchel, efallai y bydd angen i chi ddod o hyd i’ch llety’n annibynnol.

Gofynnir i chi ddewis eich lleoliad dewisol, pwynt pris a chadarnhau unrhyw ddewisiadau personol (h.y. hygyrchedd).

Os oes gennym ystafelloedd ar ôl, anfonir cyfarwyddiadau pellach atoch ar fanylion eich ystafell a sut i gadarnhau eich llety.

Byddwch yn derbyn gwybodaeth am lety cyn ymuno

â ni ym mis Medi, gan gynnwys eich manylion a dyddiadau ar gyfer symud i mewn, gwybodaeth am barcio, manylion ystafell a chyfeiriad a chyflwyniad i’n tîm llety.

* Ewch www.decymru.ac.uk/llety am fwy o fanylion.

Chwefror – Mehefin 2026 PRYD
Gorffennaf- Awst 2026

RHESTR WIRIO PACIO

Byddwch yn gallu casglu llawer o bethau ar ôl cyrraedd, ond dyma ambell syniad i’ch rhoi chi ar ben ffordd:

AR GYFER EICH YSTAFELL WELY

Dillad

Dillad gwely

Gliniadur

Hangyrs

Bocsys storio

Argraffydd

Ceblau ymestyn

Seinyddion

AR GYFER EICH YSTAFELL YMOLCHI

Papur tŷ bach

Nwyddau ymolchi

Cynnyrch glanhau

Tywelion a mat bath

Basgedi storio

BYDDWCH YN BAROD I FYND!

Dyna’r holl brif bethau wedi’u trefnu. Nawr, mae’n bryd meddwl am eich symudiad nesaf. Rydyn ni wedi llunio rhestr wirio gyflym ar gyfer y pethau y bydd angen i chi ddod gyda chi.

PETHAU ERAILL

Sicrhewch fod gennych ddigon o arian i’ch cynnal tan i’ch benthyciad myfyriwr gyrraedd

Dewch â rhywbeth i’w fwyta ar y noson gyntaf (neu gael tecawê)

Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o fwyd ffres i bara’r dyddiau cyntaf

Dylech gael cyflenwad mis o leiaf o unrhyw feddyginiaeth a ragnodwyd i chi

AR GYFER Y GEGIN

Llestri a chyllyll a ffyrc

Sosbenni

Cynnyrch glanhau

Hanfodion bwyd fel pasta, nwdls sych, ffa, tomatos tun a pherlysiau sych

FYDD DIM ANGEN I CHI DDOD Â...

Microdon, tegell na thostiwr

Canhwyllau – defnyddiwch oleuadau LED neu oleuadau ‘tylwyth teg’ yn lle hynny

Anifeiliaid anwes! (Ymddiheuriadau!)

Pecyn cymorth cyntaf sylfaenol

Yn aml gallwch gael gwerslyfrau eich cwrs yn ail law

Unrhyw ddeunyddiau papur ac ysgrifennu y gallai fod ei angen arnoch

Gemau bwrdd neu gonsol gemio ar gyfer nosweithiau gartref gyda’ch cyd-letywyr

Lluniau i wneud i’ch ystafell newydd deimlo’n gartrefol

CWESTIYNAU CYFFREDIN

YMGEISIO AM EICH LLETY

PA FATHAU O LETY SYDD AR GAEL?

Mae ein mathau o ystafelloedd ychydig yn wahanol rhwng pob un o’n lleoliadau ond maent i gyd yn ystafelloedd sengl, en-suite gyda cheginau wedi’u rhannu, ac mae gennym ddewis sy’n addas ar gyfer y rhan fwyaf o gyllidebau.

Rydym hefyd yn darparu ar gyfer amrywiaeth eang o ddewisiadau personol yn ein fflatiau, a byddwn yn ceisio eu bodloni lle bynnag y bo modd. Mae’r rhain yn cynnwys:

• Fflat dawel

• Fflat di-alcohol

• Un rhyw

• Siaradwyr Cymraeg

Os oes gennych ddewis penodol, mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod.

PRYD ALLA I WNEUD CAIS AM LETY?

Unwaith y byddwch wedi derbyn eich cynnig pendant i astudio yn PDC, byddwn yn cysylltu â chi o fis Chwefror 2026 ymlaen, neu o fewn pythefnos os ydych wedi derbyn eich cynnig ar ôl y dyddiad hwn i gwblhau cam cyntaf eich cais am llety.

OES ANGEN GWARANTWR ARNAF? OS FELLY, PWY ALL FOD YN WARANTWR I MI?

Os gwnewch gais i fyw yn un o’n darparwyr neuaddau partner, bydd angen Gwarantwr arnoch. Gall hwn fod yn rhiant, gwarcheidwad, neu unrhyw un dros 18 oed. Rhaid iddynt fod â chyfeiriad a chyfrif banc dilys yn y DU.

SUT YDW I’N YMGEISIO?

1. Unwaith y byddwch wedi derbyn eich cynnig cadarn i astudio yn PDC, byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost ac yn eich gwahodd i gwblhau’r cam cyntaf yn eich cais am lety. Ar y cam hwn, gofynnir i chi gadarnhau eich dewisiadau o ran lleoliad llety, math o ystafell ac a oes gennych unrhyw ofynion penodol. O fewn y cyfnod ymgeisio bydd gofyn i chi hefyd wneud y taliad perthnasol erbyn y dyddiad cau a nodir yn eich e-bost cynnig llety.

2. Os gwnewch gais am ystafell yng Nghaerdydd neu Gasnewydd, mae gennym system ‘llenwi yn gyntaf’. Mae hyn yn golygu unwaith y bydd gennym ddigon o geisiadau i lenwi ein henwebiad, byddwn yn dechrau gwneud dyraniadau llety cadarn i’n darparwyr partner.

I wybod mwy am ymgeisio, ewch i dudalen 37 neu chwiliwch am ‘Gwneud Cais am Lety’ ar wefan PDC.

PA WYBODAETH SYDD EI HANGEN ARNAF WRTH WNEUD CAIS?

Wrth wneud cais, bydd angen eich rhif adnabod defnyddiwr. Fel rhan o’r cais am lety, bydd gofyn i chi hefyd dalu naill ai taliad rhent ymlaen llaw neu flaendal (yn dibynnu ar ba lety rydych wedi gwneud cais amdano) y gellir ei dalu ar-lein. Gellir ad-dalu hyn yn llawn yn unol â thelerau ac amodau’r darparwr llety.

A DDYLWN I WNEUD CAIS YN GYNNAR?

Mae’n well gwneud cais yn gynnar gan fod galw mawr am lety yn aml, yn enwedig yng nghanol dinas Caerdydd. Os byddwch yn ei gadael tan y funud olaf, efallai na fydd y llety rydych ei eisiau ar gael. Edrychwch ar fanylion ein Gwarant Llety ar dudalen 11.

A ALLA I OFYN AM YSTAFELL YN SEILIEDIG AR FY NEWISIADAU PERSONOL?

Gallwch. Mae gennym amrywiaeth o opsiynau llety fel ystafelloedd hygyrch, fflatiau siaradwyr Cymraeg, di-alcohol a thawel. Os oes gennych unrhyw ddewisiadau penodol, rhowch wybod i ni yn eich cais ac fe wnawn ein gorau i ddarparu ar eich cyfer.

A YDW I’N SICR O GAEL Y LLEOLIAD/YSTAFELL YN FY NGHAIS?

Nid yw ein gwarant llety yn benodol i leoliad, ond ar gyfer y mwyafrif o’n myfyrwyr byddant yn cael cynnig eu dewis cyntaf neu eu hail ddewis. Rydym yn gwneud ein gorau i fodloni dewisiadau cyn belled ag y gallwn.

BETH YW’R DYDDIAD OLAF Y GALLA I WNEUD CAIS AM LETY OS

MAI DIM OND CYNNIG AMODOL SYDD GEN I?

Mae hyn yn dibynnu ar argaeledd. Cyn gynted ag y byddwch yn dod yn ddeiliad cynnig cadarn, byddwn yn anfon hysbysiad i chi wneud cais.

BYDDAF YN GWNEUD CAIS I PDC TTRWY GLIRIO. A YW’R BROSES

GWNEUD CAIS AM LETY YR UN FATH AC YDW I’N SICR O GAEL YSTAFELL?

Mae hyn yn dibynnu ar argaeledd ar adeg clirio. Os oes ystafelloedd ar gael, yna mae’r broses yr un peth i raddau helaeth. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol bod galw mawr am ystafelloedd yng Nghaerdydd a Chasnewydd, felly efallai y byddwch yn cael cynnig ystafell a allai fod ar ein campws yn Nhrefforest.

RWY’N TROSGLWYDDO I PDC O BRIFYSGOL WAHANOL. SUT YDW I’N GWNEUD CAIS AM LETY AC A FYDDAF YN GYMWYS AM Y WARANT LLETY?

Os ydych wedi cael eich derbyn gan PDC fel myfyriwr sy’n trosglwyddo, bydd adran llety PDC yn cysylltu â chi ac yn eich gwahodd i wneud cais am eich llety. Os ydych yn fyfyriwr israddedig neu ôl-raddedig newydd (h.y. yn dechrau ar eich blwyddyn gyntaf o astudio), yna byddwch yn dod o dan delerau Gwarant Llety PDC. Os ydych yn eich ail neu drydedd flwyddyn, ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y Warant Llety a byddwch yn cael eich ystyried yn ‘fyfyriwr sy’n dychwelyd’. Gweler yr adran ‘Ar ôl fy Mlwyddyn Gyntaf’ am fanylion pellach.

FFÏOEDD, TALIAD A’CH CYTUNDEB

RYDW I WEDI CWBLHAU FY MLWYDDYN GYNTAF O ASTUDIO MEWN COLEG PARTNER A BYDDAF YN TROSGLWYDDO I ASTUDIAETH AR Y CAMPWS AM FY AIL FLWYDDYN. SUT YDW I’N GWNEUD CAIS AM LETY AC A FYDDAF YN GYMWYS AM Y WARANT LLETY?

Os ydych yn eich ail neu drydedd flwyddyn, ni fyddwch yn gymwys am y Warant Llety a byddwch yn cael eich ystyried yn ‘fyfyriwr sy’n dychwelyd’. Gweler yr adran ‘Ar ôl fy Mlwyddyn Gyntaf’ am fanylion pellach.

A OES ANGEN I MI DALU BLAENDAL?

Bydd angen i chi dalu taliad rhent ymlaen llaw neu flaendal (yn dibynnu ar ba lety rydych wedi gwneud cais amdano) y gellir ei dalu ar-lein. Fel arfer, mae hyn yn amrywio o £100-£250. Gellir ad-dalu hyn yn llawn yn unol â thelerau ac amodau’r darparwr llety.

SUT YDW I’N TALU AM FY LLETY?

Os dewiswch le mewn llety sy’n eiddo i PDC, rhennir cyfanswm y rhent blynyddol yn dri thaliad rhwydd dros y flwyddyn academaidd. Os byddwch yn dewis byw yn un o’n neuaddau partner sy’n cael eu gweithredu gan ddarparwyr preifat, mae’r broses yn debygol o fod yn debyg iawn. Bydd manylion pellach am beth i’w dalu a phryd yn cael eu rhoi i chi pan fydd eich ystafell yn cael ei chadarnhau.

A YDW I’N TALU FY RHENT YMLAEN LLAW NEU FEL ÔL-DALIAD?

Mae rhent yn cael ei dalu ymlaen llaw.

BETH MAE FY RHENT YN EI GYNNWYS?

Mae eich ystafell, dodrefn craidd, Wi-Fi, yswiriant a’ch holl filiau cyfleustodau (trydan, gwres a dŵr) wedi’u cynnwys yn eich rhent. Os ydych chi’n byw ar ein campws ym Mhontypridd, bydd yr ardaloedd cyffredin yn eich fflat hefyd yn cael eu glanhau’n broffesiynol bob mis a bydd gennych fynediad i’n rhaglen Rhaglen Bywyd Preswyl. Ewch i dudalen 21 am fanylion.

A FYDD ANGEN I MI DALU AM DRWYDDED TELEDU?

Os ydych chi’n bwriadu gwylio’r teledu, boed ar ffôn, gliniadur neu deledu, bydd angen i chi brynu trwydded.

SUT YDW I’N TERFYNU FY NGHYTUNDEB LLETY MYFYRWYR?

Pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer ystafell, naill ai gyda PDC neu ddarparwr preifat, rydych yn ffurfio cytundeb sy’n gyfreithiol rwymol. Bydd yn nodi telerau rhyddhau. Sicrhewch eich bod yn darllen telerau eich cytundeb cyn i chi lofnodi.

SYMUD I MEWN

PRYD ALLA I SYMUD I MEWN I FY NEUADD?

Os dewiswch le mewn neuadd sy’n eiddo i PDC, rydym yn aml yn trefnu dyddiadau cychwyn ar wasgar i sicrhau proses symud i mewn llyfn. Byddwn yn anfon e-bost atoch gyda’r holl wybodaeth yn ystod yr wythnosau cyn i’ch cytundeb ddechrau. Os byddwch yn dewis byw yn un o’n neuaddau partner sy’n cael eu gweithredu gan ddarparwyr preifat, mae’r broses yn debygol o fod yn debyg iawn. Bydd eich darparwr yn cadarnhau dyddiadau symud i mewn gyda digon o rybudd.

ALLA I NEWID FY LLETY MYFYRWYR?

Os nad ydych chi’n hapus â ble rydych chi’n byw, rhowch wybod i ni, neu eich darparwr preifat, cyn gynted â phosibl. Byddwn yn gwneud ein gorau i’ch symud i rywle arall, fodd bynnag, nid yw hyn bob amser yn bosibl oherwydd y galw. Gall taliadau glanhau a gweinyddol hefyd fod yn berthnasol.

A OES UNRHYW GYMORTH I FYFYRWYR AG ANABLEDDAU NEU SALWCH CRONIG?

Rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw gymorth arnoch i fyw mewn llety. Rydym yn gweithio’n agos gyda Thîm Lles ac Anabledd PDC i sicrhau eich bod yn cael digon o gymorth ac yn cael profiad gwych fel myfyriwr.

MAE GEN I ALERGEDD DIFRIFOL. A OES UNRHYW GYMORTH YCHWANEGOL YN CAEL EI DDARPARU?

Mae ein fflatiau yn cynnwys rhwng 5 a 6 ystafell. Ni allwn gadw alergenau allan o fannau sy’n cael eu rhannu. Os oes gennych alergedd difrifol, byddem yn eich cynghori i wneud cais am stiwdio hunangynhwysol.

BETH SY’N CAEL EI DDARPARU I FYFYRWYR SY’N BYW MEWN NEUADDAU?

Mantais byw mewn neuaddau yw bod y pris a dalwch yn hollgynhwysol –cyfleustodau, Wi-Fi, cynnal a chadw, yswiriant a gwasanaeth diogelwch 24 awr. Bydd ble rydych chi’n dewis byw a’ch ystafell o ddewis yn penderfynu yn union pa ddodrefn a ddarperir, ond fel arfer bydd gan bob ystafell wely, desg a chadair, man storio, cawod / ystafell wlyb, toiled a sinc. Mae yna gegin i’w rhannu i chi allu coginio pryd blasus neu wneud ffa pob ar dost cyflym!

ALLA I DDOD Â BEIC?

Yn sicr! Mae mannau storio/raciau beiciau yn y neuaddau lle gallwch gadw eich beic am ddim. Rydym yn awgrymu eich bod yn dod â chlo gyda chi. Os ydych yn aros yng Nghaerdydd neu Gasnewydd, holwch eich darparwr llety cyn cyrraedd.

ALLA I DDOD Â CHAR?

Gallwch. Os ydych yn byw ar ein campws ym Mhontypridd, bydd angen i chi wneud cais am docyn parcio preswyl. Mae galw mawr am y rhain fel arfer felly gall opsiynau parcio fod yn gyfyngedig. Os ydych yn byw yng Nghaerdydd neu Gasnewydd, bydd angen i chi drefnu eich trwydded parcio eich hun. Mae’n syniad da ymchwilio i’r costau ymlaen llaw gan fod trwyddedau parcio yn gallu bod yn ddrud. Ewch i dudalennau 12 i 17 am fwy o fanylion.

OES RHAID I MI FOD GARTREF ERBYN AMSER PENODOL BOB NOS?

Na, rydych yn rhydd i fynd a dod fel y dymunwch.

ALLA I GAEL YMWELWYR DROS NOS?

Wrth gwrs, gallwch gael rhywun i aros am hyd at dair noson y mis. Bydd yn rhaid i chi eu mewngofnodi a rhoi gwybod i bawb arall sy’n byw yn y fflat. Rhaid i bob gwestai gydymffurfio â rheolau’r math o fflat rydych chi’n byw ynddi. Er enghraifft, os ydych yn byw mewn fflat i fenywod yn unig, dylai eich gwestai dros nos fod yn fenyw.

OES RHAID I MI LANHAU FY YSTAFELL FY HUN?

Oes. O dan delerau eich cytundeb, mae’n ofynnol i chi gynnal lefel dderbyniol o lanweithdra. Os ydych chi’n byw ar ein campws ym Mhontypridd, bydd yr ardaloedd cymunedol yn eich fflat hefyd yn cael eu glanhau’n broffesiynol bob mis.

A OES CYFLEUSTERAU GOLCHI DILLAD AR Y SAFLE A BETH YW’R GOST?

Oes – mae cyfleusterau golchi dillad ar gael i chi eu defnyddio am ffi a bydd angen i chi hefyd ddarparu eich powdr/hylif golchi dillad eich hun.

GWYLIAU A DIWEDD TENANTIAETH

OES ANGEN I MI WAGIO FY YSTAFELL DROS Y GWYLIAU?

Nid dros gyfnod y Pasg a’r Nadolig. Fodd bynnag, bydd angen i chi wagio eich ystafell cyn gwyliau’r haf oni bai bod gennych gytundeb 51 wythnos neu estyniad y cytunwyd arno.

ALLA I AROS MEWN NEUADD DROS YR HAF?

Gallwch, os oes gennych gytundeb 51 wythnos neu estyniad, gallwch aros mewn neuadd dros wyliau’r haf. Os byddwch yn gwneud cais am estyniad, codir tâl ar wahân am hyn. Byddwch yn ymwybodol efallai na fyddwch yn gallu aros yn yr un ystafell dros yr haf.

OES ANGEN I MI LANHAU FY LLETY PAN FYDDAF YN SYMUD ALLAN?

Oes, bydd angen i chi glirio’ch holl eiddo o’ch ystafell wely a’r mannau cymunedol. Dylai’r llety fod yn lân a thaclus, heb eiddo na sbwriel ynddo, cyn i chi adael.

AR ÔL EICH BLWYDDYN GYNTAF

A OES OPSIWN I AROS MEWN NEUADDAU YM MLWYDDYN DAU A THRI?

Neuaddau myfyrwyr campws Pontypridd (eiddo i PDC)

Bob blwyddyn, rydym yn dyrannu nifer o ystafelloedd i fyfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn sydd am barhau i fyw ar y campws. Cysylltir â’r holl breswylwyr presennol ym mis Tachwedd a chynigir y cyfle iddynt wneud cais am lety ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol.

Neuaddau myfyrwyr Caerdydd a Chasnewydd (darparwyr neuaddau partner)

Bydd y darparwr llety yn cysylltu’n uniongyrchol â myfyrwyr sy’n byw yn un o’n neuaddau partner ym mis Hydref, gyda gwybodaeth am ystafelloedd sydd ar gael a sut i neilltuo ystafell ar gyfer blynyddoedd dilynol (yn amodol ar argaeledd).

CYSYLLTIADAU DEFNYDDIOL

CYSYLLTIADAU

DEFNYDDIOL

ADNODDAU

DEFNYDDIOL

LLETY PDC

G decymru.ac.uk/llety

E accom@southwales.ac.uk Ff 01443 482845

GWASANAETHAU IECHYD PDC

G decymru.ac.uk/iechyd

E health@southwales.ac.uk

CYNGOR I FYFYRWYR PDC

G decymru.ac.uk/cyngor

CYNGOR ARIANNOL I FYFYRWYR PDC

G decymru.ac.uk/arian

E money@southwales.ac.uk

Ff 01443 483778

LLES AC ANABLEDD PDC

G decymru.ac.uk/lles

COD SAFONAU CENEDLAETHOL

G www.nationalcode.org

RHENTU DOETH CYMRU

G www.rhentudoeth.llyw.cymru/

COD LLETY MYFYRWYR

G www.thesac.org.uk

UNIBUDDY

Chwiliwch am ‘Siarad â’n myfyrwyr’ ar wefan PDC.

CYNGOR PDC AR BARATOI AR GYFER BYWYD PRIFYSGOL

G decymru.ac.uk/bywydmyfyrwyr

CANLLAWIAU COSTAU BYW PDC

G decymru.ac.uk/arian

RHWYDWEITHIAU PDC

Cysylltwch â myfyrwyr eraill

Mae’r wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir adeg ei argraffu (Hydref 2025) ond gall newid. gael y wybodaeth ddiweddaraf, ffoniwch ni neu ewch i’n gwefan: www.decymru.ac.uk

Fel rhan o’i hymrwymiad at y Gymraeg, mae’r Brifysgol yn darparu gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. I gael gwybod mwy, ewch i: www.decymru.ac.uk neu e-bostiwch: cymraeg@decymru.ac.uk

Cynhyrchwyd gan Adran Myfyrwyr y Dyfodol Prifysgol De Cymru

Dylunio: Argraffu a Dylunio PDC

Mae Prifysgol De Cymru yn elusen gofrestredig. Rhif cofrestru 1140312.

NODIADAU

FE WELWN NI CHI CYN BO HIR!

Rydym yn gobeithio y bydd y canllaw hwn yn adnodd defnyddiol wrth i chi drefnu popeth. P’un a ydych yn dewis byw yng Nghaerdydd, Casnewydd, neu Bontypridd, rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i PDC!

WWW.DECYMRU.AC.UK

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.