
www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
![]()

www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
Mae gan Brifysgol De Cymru dîm arobryn o arbenigwyr sy’n gweithio gydag ysgolion a cholegau ledled y DU wrth gynnal gweithdai rhyngweithiol. Nod y gweithdai hyn yw rhoi gwybod i fyfyrwyr am addysg uwch a’u cefnogi i bontio i’r brifysgol.
Dyma ychydig o wybodaeth am ein Sesiynau Ymwybyddiaeth o Addysg Uwch:
• Rhad ac am ddim
• Wyneb yn wyneb neu ar-lein

• Ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg
• Penodol i anghenion eich dysgwyr
Gall ein rhaglen o weithgareddau, adnoddau a digwyddiadau gefnogi eich ysgol neu goleg i gyflawni Meincnodau Gatsby. I ddysgu mwy am yr wyth Meincnod Gatsby o ran cyngor gyrfaoedd da, sganiwch y cod QR:

2
Gydag amrywiaeth o sesiynau rhyngweithiol mewn llu o feysydd gwahanol, bydd ein digwyddiadau a’n gweithgareddau penodol i bynciau yn rhoi cyfle i’ch dysgwyr gael mewnwelediad go iawn ar astudio pwnc penodol yn y brifysgol.
Ry’n ni’n cynnig sesiynau ar y meysydd pwnc canlynol:
• Celf a Dylunio
• Bioleg a’r Gwyddorau Fforensig
• Busnes
• Cemeg
• Ceiropracteg
• Gofal Plant, Addysg ac Addysgu
• Cyfrifiadureg a Seiberddiogelwch
• Troseddeg
• Technoleg Dylunio
• Drama
• Peirianneg
• Saesneg
• Ffilm a’r Cyfryngau
• Gwyddorau'r Amgylchedd
• Iechyd a Gofal Cymdeithasol
• Hanes
• Rheoli Gwestai a Lletygarwch
• TGCh
• Y Gyfraith
• Cerddoriaeth
• Nyrsio a Bydwreigiaeth
• Gwyddorau Fferyllol
• Ffotograffiaeth
• Seicoleg
• Seicotherapi a Chwnsela
• Gwasanaethau Cyhoeddus a Heddlua
• Cymdeithaseg
• Chwaraeon
• Gwaith Ieuenctid a Chymunedol
“ Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein gweithgareddau penodol i bynciau ar ein gwefan: www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
MAE EICH CYMORTH GYDA’R DIGWYDDIADAU HYN WEDI GWNEUD GWAHANIAETH MAWR I’N DYSGWYR. MAE’R ADBORTH WEDI BOD YN HYNOD BOSITIF GAN DDYSGWYR, RHIENI AC ATHRAWON. CAWSANT LAWER IAWN O WYBODAETH, A GADAWON NHW GYDA DEWISIADAU I’W GWNEUD. ROEDD RHIENI’N FALCH IAWN O ALLU SIARAD GYDA CHI’N UNIONGYRCHOL. MAEN NHW WEDI DWEUD PA MOR WERTHFAWR OEDD Y DIGWYDDIAD, A CHYMAINT Y MAE WEDI HELPU.
Helen Smith, Arweinydd y Dyfodol, Ysgol Sackville
www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
Ry’n ni’n cynnal llawer o ddigwyddiadau a diwrnodau blasu ar gyfer ysgolion a cholegau ar ein campysau drwy gydol Tymor yr Hydref. Os hoffech drefnu diwrnod blasu i’ch dysgwyr Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13, cysylltwch â ni: ysgolionacholegau@decymru.ac.uk
NEILLTUWCH LE NAWR:



PERTHYNOL (YMARFER
ADRAN LAWDRINIAETH, THERAPI
GALWEDIGAETHOL, FFISIOTHERAPI A CHEIROPRACTEG)
Mae gan bob rôl gweithiwr proffesiynol iechyd perthynol un peth mewn cyffredin: maen nhw’n chwarae rhan allweddol o ran trin, adsefydlu a gwella bywydau cleifion. Cewch gyfle i fod yn ymarferol yn ein hystafell efelychu clinigol sy’n adlewyrchu ysbyty amrywiol, a lleoliadau cymunedol a chlinigol. E-bostiwch am ragor o wybodaeth: ysgolionacholegau@decymru.ac.uk
O SAFLE’R DROSEDD I’R LLYS (TROSEDDEG, HEDDLUA, GWYDDORAU FFORENSIG A’R GYFRAITH)
Dyddiad: 2 Hydref, 9 Hydref, 16 Hydref, 27 Tachwedd, 16 Rhagfyr, 17 Rhagfyr 2024
Bydd y dysgwyr yn cael eu cyflwyno i senario safle trosedd gan eu galluogi i ddeall sut mae meysydd pwnc amrywiol yn rhyngweithio, o safle’r drosedd hyd at erlyniad mewn llys.
4 www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau



Dyddiadau: 23 Hydref, 6 Tachwedd, 13 Tachwedd, 20 Tachwedd 2024
Camwch i fyd cyffrous archwilio safleoedd trosedd gyda’n digwyddiad allgymorth CSI. Mae’n berffaith ar gyfer darpar wyddonwyr fforensig, a phobl chwilfrydig. Bydd y profiad ymarferol yn rhoi cyfle i'ch dysgwyr gymryd rhan yn y broses ddiddorol o ddatrys achos o lofruddiaeth.
Dyddiad: 2 Hydref 2024
Bydd y diwrnod blasu hwn yn archwilio arfer gorau mewn addysg plentyndod cynnar, yn datgelu sut beth yw bod yn athro dan hyfforddiant, rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu sgiliau newydd a chydweithio mewn gweithdai rhyngweithiol.
Dyddiad: 16 Hydref 2024
Angerddol dros weithio mewn amgylchedd gofal iechyd? Beth am gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau yn ein hystafell efelychu yn gweld sut beth yw bod yn nyrs, fydwraig, neu ymarferydd yn yr adran lawdriniaeth?
Dyddiad: 11 Rhagfyr 2024
Cewch brofi darlithoedd, seminarau a gweithdai ar ystod o bynciau gan gynnwys mapio hunaniaeth gymdeithasol, dulliau ymchwil, tracio llygaid a Biopac. Mae’n gyfle i fyfyrwyr fynd ar daith o amgylch ein Labordy Seicoleg, yn ogystal â rhoi cynnig ar ychydig o’r offer.
Diwrnod Darganfod i Athletwyr
Perfformio
Dyddiadau: 16 Hydref, 13 Tachwedd
2024. Mae’r diwrnod blasu hwn yn archwilio’r sawl gwasanaeth cymorth a allai athletwr fod ynghlwm wrthynt, gan gynnwys Cryfder a Chyflyru, Gwyddorau
Chwaraeon a Therapi Ymarfer Corff, gan roi mewnwelediad i opsiynau gyrfa’r dyfodol (ar ac oddi ar y cae chwarae) fel un sydd wedi graddio o’r rhaglenni hyn.
Datblygu Hyfforddwyr Yfory
Dyddiadau: 23 Hydref, 20 Tachwedd 2024. Mae’r diwrnod blasu hwn yn rhoi mewnwelediad i ddysgwyr ar sut gallent ddod yn hyfforddwyr chwaraeon ac athrawon AG. Bydd ystod o weithgareddau’n canolbwyntio ar Ddatblygu Chwaraeon, Hyfforddi a Pherfformiad Rygbi, a Hyfforddi a Pherfformiad Pêl-droed.
Mae ein cyrsiau Cyfrifiadureg a TGCh yn ddelfrydol i ddysgwyr sydd eisiau datblygu’r sgiliau ymarfer hanfodol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa hir ac amrywiol yn niwydiant TG. Yn y digwyddiad hwn, cewch gyfle i weld sut y defnyddir technoleg i ddatrys problemau byd go iawn, a bod yn greadigol gydag offer Raspberry Pi, wrth i chi archwilio un o themâu allweddol ein cyrsiau: Y Rhyngrwyd Pethau.
E-bostiwch am ragor o wybodaeth: ysgolionacholegau@decymru.ac.uk
Mae ein diwrnodau blasu pwrpasol yn cynnwys ystod o feysydd pwnc peirianneg, gan gynnwys Awyrenegol, Awyrofod, Cynnal a Chadw Awyrennau, Modurol, Amgylchedd Adeiledig, Sifil, Trydanol ac Electronig, a Mecanyddol. Bydd dysgwyr yn profi diwrnod rhyngweithiol dan arweiniad ein hacademyddion, yn ogystal â chael blas ar fywyd prifysgol yn PDC.
E-bostiwch am ragor o wybodaeth: ysgolionacholegau@decymru.ac.uk
Bydd myfyrwyr yn cael profiad ymarferol o gemeg ffisegol ac organig yn ein cyfleusterau labordy modern. E-bostiwch am ragor o wybodaeth: ysgolionacholegau@decymru.ac.uk
Dyddiad: 13 Tachwedd 2024
Ymunwch â ni ar gyfer Diwrnod Blasu cyffrous yn Ysgol Busnes De Cymru, lle gall dysgwyr gael cip ar fyd busnes deinamig. Byddant yn cymryd rhan mewn sesiynau ar Reoli Busnes, Marchnata, Rheoli Gwestai a Lletygarwch, a Chyfrifo a Chyllid. Nod y digwyddiad yw rhoi blas ymarferol o sut beth yw astudio’r cyrsiau hyn, tra’n archwilio’r cyfleoedd gyrfa amrywiol y mae pob maes yn eu cynnig. P’un a yw’ch dysgwyr yn dangos diddordeb mewn arwain tîm, creu strategaethau marchnata arloesol, rheoli gwestai moethus neu ddadansoddi ffigurau, bydd y diwrnod yn eu helpu i bennu’r llwybr cywir ar gyfer eu dyfodol.
www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau

CREADIGOL
Dyddiad: 9 Hydref 2024
Cyfle i ddatgloi potensial eich dysgwyr yn ein Ffair Yrfaoedd y Diwydiannau
Creadigol, digwyddiad delfrydol i ddarpar-weithwyr creadigol. Bydd y digwyddiad deinamig hwn yn rhoi cyfle ardderchog i archwilio tirwedd helaeth gyrfaoedd creadigol. Cewch gymryd rhan mewn gweithdai ymarferol dan arweiniad arbenigwyr y diwydiant, cael clywed barn siaradwyr gwadd ysbrydoledig, a chysylltu â phartneriaid arweiniol y diwydiant sy’n siapio dyfodol meysydd creadigol. P’un a yw dysgwyr yn dangos diddordeb mewn dylunio, y cyfryngau, ffilm, ffasiwn neu’r celfyddydau creadigol, bydd y digwyddiad hwn hefyd yn arddangos cyrsiau prifysgol a all helpu dysgwyr droi eu hangerdd yn broffesiwn. Peidiwch â cholli’r cyfle i ddysgwyr rwydweithio, dysgu a rhoi hwb i’w gyrfa greadigol.
Mae’r digwyddiad hwn yn cynnwys nifer o sgyrsiau a gweithdai rhyngweithiol a fydd yn rhoi cip olwg i ddysgwyr ar yr ystod o gyfleoedd sy’n deillio o fynd ar ôl gyrfa ym maes Bioleg, Gwyddorau

Biolegol, Gwyddorau Meddygol a Bioleg
Bywyd Gwyllt Rhyngwladol.
E-bostiwch am ragor o wybodaeth: ysgolionacholegau@decymru.ac.uk
ADRODD STRAEON: EICH
DYFODOL MEWN HANES A SAESNEG
Dyddiad: 20 Tachwedd 2024
Dysgwch am fyd Hanes a Saesneg yn PDC. Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr brofi sut beth yw astudio’r pynciau hyn yn y brifysgol. Cewch gymryd rhan mewn sesiynau a fydd yn gwneud i chi feddwl ac yn archwilio cyfoethogrwydd llenyddiaeth, iaith a digwyddiadau hanesyddol, tra’n cael mewnbwn i’r sgiliau dadansoddi a meddwl yn feirniadol sy’n deillio o’r meysydd hyn. Bydd dysgwyr hefyd yn dysgu am y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael i raddedigion o addysgu a chyhoeddi i ymchwilio, y gyfraith, y cyfryngau a llawer mwy. P’un a ydynt yn angerddol dros adrodd straeon, datgelu’r gorffennol neu siapio’r dyfodol, bydd y Diwrnod Blasu hwn yn rhoi cip olwg i'ch dysgwyr ar y posibiliadau sy’n deillio o astudio graddau Hanes a Saesneg.
Beth yw Cynghrair y Prifysgolion?
Mae Cynghrair y Prifysgolion yn cynrychioli 16 o brifysgolion technegol a phroffesiynol arweiniol y DU. Mae prifysgolion sy’n rhan o’r grŵp yn arbenigo mewn darparu cyrsiau gradd sy’n alinio ag anghenion diwydiant. Drwy addysgu ymarferol a chynnwys cyrsiau penodol i sectorau, maen nhw’n cynhyrchu graddedigion sy’n barod i weithio ac sy’n hynod gyflogadwy.
Ffactorau allweddol am Gynghrair y Prifysgolion
• Mae prifysgolion sy’n rhan o’r gynghrair yn arweinwyr ym meysydd gofal iechyd, peirianneg, gwyddorau cymdeithasol, diwydiannau creadigol, busnesau a chyfrifiadureg.
• Roedd prifysgolion y gynghrair ar y brig o ran boddhad myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2023.
• Roedd 95% o raddedigion o brifysgolion y gynghrair mewn gwaith neu weithgaredd arall megis astudio pellach 15 mis ar ôl graddio, a disgrifiodd 93% ohonynt bod yr hyn yr o’n nhw’n ei wneud yn ‘ystyrlon’.

• Mae prifysgolion y gynghrair yn fwy tebygol o gael sgôr aur am ragoriaeth addysgu na phrifysgolion mewn unrhyw grŵp arall yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu’r llywodraeth.
• Mae 67% o’r ymchwil ym mhrifysgolion y gynghrair wedi’i raddio’n ardderchog yn rhyngwladol neu’n arwain y byd.
Beth yw’r manteision o astudio mewn prifysgol cynghrair?
Mae prifysgolion y gynghrair yn hyfforddi myfyrwyr ar gyfer swyddi yn y diwydiant, felly mae’r dull addysgu’n ymarferol tu hwnt. Mae hyn yn aml yn golygu bod meintiau’r dosbarthiadau yn llai, a bod offer sy’n unol â safon y diwydiant yn cael ei ddefnyddio. Bydd y cwrs hefyd yn amlwg i gyflogwyr, drwy gyfleoedd profiad gwaith, addysgu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, neu brosiectau a osodir gan y diwydiant. Mae’r dull asesu hefyd yn efelychu’r dull ymarferol hwn gyda phwyslais ar asesu prosiectau ymarferol yn hytrach nag arholiadau. Mae prifysgolion y gynghrair hefyd yn cynhyrchu gwaith ymchwil rhagorol sy’n golygu bod myfyrwyr yn ennill sgiliau a gwybodaeth hanfodol i’w meysydd.
8 www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
Gwneud cais i un o brifysgolion y Gynghrair
Mae prifysgolion y gynghrair yn derbyn ystod o gymwysterau megis Lefel A, BTEC, Lefel T a mwy. Yn aml, mae’r gofynion mynediad ar gyfer cyrsiau yn gymedrol sy’n golygu bod dim angen graddau academaidd uchel. Mae rhai myfyrwyr yn credu bod hyn yn golygu nad yw’r cwrs o ansawdd uchel, ond dyw hynny ddim yn wir. Mae prifysgolion y gynghrair yn rhedeg cyrsiau sy’n mynd y tu hwnt i’r elfen academaidd, ac felly mae’r gofynion mynediad yn efelychu hyn. Yn aml, mae profiad gwaith yn allweddol i gael lle ar y cyrsiau hyn.
Sut gall hyn fy helpu i fel athro neu gynghorydd?
Gall y broses o ddod o hyd i’r cwrs a’r brifysgol iawn beri straen i ddysgwr. Fel athro neu gynghorydd, mae’n bwysig bod yn ymwybodol bod mathau gwahanol o brifysgolion i siwtio mathau gwahanol o ddysgwyr. Yn bendant, mae ‘na ystrydeb bod mynd i’r brifysgol yn golygu eistedd mewn darlithfa a sefyll arholiadau. Dyw hynny ddim yn wir. Mae yna brifysgolion o safon fyd-eang yn y
DU sy’n cynnig llawer mwy na hynny, ac mae llawer ohonynt yn rhan o Gynghrair y Prifysgolion.
Wrth ddewis prifysgol i astudio ynddi, mae’n bwysig ystyried beth yw ystyr llwyddiant i’r dysgwr unigol. Yn aml, mae dysgwr yn clywed bod angen anelu at gyrsiau hynod academaidd, a bod unrhyw beth arall yn teimlo fel methiant. Ry’n ni’n siarad â dysgwr yn llawer rhy aml sydd wedi cael eu cyfeirio i lwybrau amgen a symud oddi wrth y brifysgol yn gyfan gwbl gan nad ydyn nhw’n ffynnu mewn amgylchedd dysgu traddodiadol. Yn aml, rhain yw’r dysgwr a fydd yn gwneud yn dda iawn yn un o brifysgolion y gynghrair.
Os yw cysylltu â'r diwydiant a deilliannau cyflogaeth da yn bwysig i’ch dysgwr, ry’n ni’n annog yn gryf eich bod chi’n edrych ar gynnig prifysgolion y Gynghrair.
Cadwch le ar un o’n digwyddiadau i gael gweld drosoch chi eich hun sut mae’r sefydliadau hyn yn mynd y tu hwnt i ddarlithfeydd.

DIWRNOD ANWYTHO,R CHWECHED DOSBARTH
Mae’r digwyddiadau hyn yn digwydd yn un o’n campysau neu eich sefydliad chi. Maen nhw’n rhoi cyfle i ffocysu meddyliau dysgwyr ar y ddwy flynedd nesaf. Y nod yw rhoi dealltwriaeth ehangach i ddysgwyr o sut mae eu hastudiaethau’n gweddu i daith at addysg uwch, yn ogystal â meithrin eu sgiliau gweithio mewn tîm.
Mae’r sesiwn hon yn annog dysgwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu blynyddoedd olaf yn yr ysgol. Mae’n gyfle i chi amlygu’r camau nesaf yn eu taith a chynnig cyngor ac arweiniad.
Mae sgiliau astudio’n bwysig er mwyn gwella gallu dysgwyr i gofio ac adalw gwybodaeth. Bydd y sesiwn hon yn tynnu sylw at dechnegau i roi hwb i berfformiad dysgwyr, a’u galluogi i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer dysgu drwy gydol bywyd myfyriwr. Bydd hefyd yn lleihau straen a gorbryder ynghylch astudio.
O’r cam cofrestru a dewis cwrs, hyd at ddiwrnod canlyniadau a Chlirio, bydd y sesiwn hon yn tywys dysgwyr drwy’r broses UCAS yn ei chyfanrwydd, ac yn amlygu sut y gallent gyflwyno’r cais gorau posibl.
Mae’r datganiad personol yn agwedd allweddol ar y broses ddethol. Bydd y gweithdy hwn yn helpu dysgwyr i ddeall am beth mae prifysgolion yn chwilio, sut i gyflwyno eu hunain yn y ffordd orau a sut i sicrhau cymhelliant i ysgrifennu’r datganiad.
Mae pob datganiad personol yn wahanol. Mae cymorth un i un yn rhoi cyfle i ddysgwyr feddwl am eu profiadau a pham maen nhw eisiau astudio eu cwrs dewisol. Gydag arweiniad staff y brifysgol, gall dysgwyr fynd ati a chael adborth i newid eu dull os oes angen.
Cyn derbyn cynnig, mae’n bosibl y bydd dysgwyr yn cael gwahoddiad i gyfweliad yn eu prifysgol ddewisol. Bydd y sesiwn hon yn rhannu manylion ar beth all dysgwyr ei ddisgwyl, sut i baratoi a sut i fod y fersiwn orau o'u hunain ar y diwrnod. Mae’r sesiwn hon hefyd yn berthnasol i’r rhai sy’n gwneud cais am swyddi neu brentisiaethau.
10 www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
Rydyn ni’n cynnig cyfweliad 30 munud i ddysgwyr ac yn gofyn cwestiynau a allai gael eu gofyn yn y cyfweliad go iawn. Bydd paratoi at gyfweliad yn helpu dysgwyr i ddod yn fwy cyfarwydd gyda’r broses gyfweld. Gallent ymarfer eu hatebion mewn amgylchedd diogel, datblygu strategaethau cyfweld, gwella eu sgiliau cyfathrebu a gwella cyflwyniad eu hymatebion.

TYMOR YR HYDREF
Blwyddyn 12
Blwyddyn 13
Diwrnod Anwytho’r Chweched Dosbarth
Gwneud y Gorau o’r Chweched Dosbarth
Sgiliau Astudio

TYMOR Y GWANWYN
Pam Addysg Uwch?
Gwneud
Dewisiadau Gwybodus
www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau 11 GRŴP
Y Broses UCAS
Gweithdy
Datganiadau Personol
Datganiad Personol (cymorth un i un)
Paratoi ar gyfer Cyfweliadau
Cyfweliadau Ffug (Cymorth un i un)
Llywio Cynigion y Brifysgol
Cyllid Myfyrwyr
TYMOR Y HAF
Lles a Gwydnwch (Paratoi ar gyfer arholiadau)
Gwneud cais trwy UCAS
Sgiliau Astudio
Paratoi ar gyfer Cyfweliadau
Dewisiadau Hwyr
Bywyd Myfyrwyr
Lles a Gwydnwch
Pontio i’r Brifysgol
Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i gefnogi myfyrwyr sy’n cael eu tangynrychioli o unrhyw oed, cefndir neu grŵp ethnig a sicrhau eu bod yn cael cyfle cyfartal a theg i astudio gyda chefnogaeth.
Mae’r Tîm Recriwtio Myfyrwyr y DU yn cynnwys staff sy’n cefnogi ac yn darparu ystod o weithgareddau i fyfyrwyr sydd, ar hyn o bryd, yn cael eu tangynrychioli mewn addysg uwch. Mae hyn yn cynnwys:
• Gofalwyr ifanc a’u teuluoedd
• Plant y mae eu rhieni yn y gwasanaethau milwrol, a’u teuluoedd
• Myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol
• Myfyrwyr Du a Lleiafrifoedd Ethnig
• Oedolion dros 21
• Myfyrwyr sydd naill ai’n derbyn gofal, neu sydd â phrofiad o ofal
• Myfyrwyr o ardaloedd cod post dan anfantais fel y’i nodir yn systemau WIMD, POLAR a TUNDRA
Cysylltwch â ni os hoffech drafod ymweliad pwrpasol neu gymorth i grwpiau neu unigolion sy’n cael eu tangynrychioli mewn AU.



Rhowch hwb i ymchwil AU eich dysgwyr yn un o’n
Diwrnodau Agored. Mae’r digwyddiadau hyn yn ffordd
ardderchog i’ch dysgwyr
ddysgu am yr amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael yn PDC.




Bydd dysgwyr sydd â chynnig gan Brifysgol De Cymru yn cael gwahoddiad i Ddiwrnod Profiad i Ymgeiswyr. Dod i Ddiwrnod Profiad i Ymgeiswyr yw’r ffordd orau i ddysgwyr ddod i nabod eu darlithwyr, dysgu mwy am eu cwrs dewisol drwy sesiwn flasu a mynd ar daith o’n cyfleusterau. Cofiwch annog eich dysgwyr sydd wedi gwneud cais i PDC i fynychu.






Gallwn dalu costau rhesymol ynghlwm wrth ymweld â Phrifysgol De Cymru i ddod i Ddiwrnod Agored, Cyfweliad neu Ddiwrnod Profiad i Ymgeiswyr. Byddwn yn talu costau trên neu fws, a gallwn gyfrannu at gostau teithio mewn car. Sganiwch y cod QR i ddysgu mwy am gymhwysedd a sut gall dysgwyr a’u rhieni/gofalwyr wneud cais.

www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau



Ry’n ni’n cynnig ystod o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi eich dysgwyr gyda’r costau ynghlwm wrth astudio. I gael rhagor o fanylion am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a meini prawf cymhwysedd, ewch i www.southwales.ac.uk/cy/ffioedd-a-chyllid/ neu sganiwch y cod QR.

Dyma rai dyddiadau pwysig a chanllaw cam wrth gam i broses ymgeisio UCAS.
Dylai dysgwyr ddechrau ymchwilio prifysgolion a mynd i ddiwrnodau agored i archwilio cyrsiau a gyrfaoedd posibl. Bydd angen iddynt gyflwyno cais UCAS. Mae Tîm Recriwtio Myfyrwyr PDC yn cynnig sesiynau i helpu gyda datganiadau personol (gweler tudalennau 10-11). Fel athro neu gynghorydd, ystyriwch gosod dyddiadau cau mewnol yn gynt i adolygu ceisiadau ac ysgrifennu geirdaon. I gael arweiniad, mynnwch gip ar Ganllaw Datganiadau Personol a Chanllaw Geirdaon ar-lein UCAS.
Diwrnodau Agored PDC ar y gweill
Dydd Sadwrn 28 Medi, 30 Tachwedd 2024, 11 Ionawr a 22 Mawrth 2025


IONAWR 2025
PRIF DDYDDIAD CAU UCAS
Dylai’r rhan fwyaf o geisiadau ar gyfer cyrsiau israddedig fod wedi cyrraedd UCAS erbyn 18:00 (amser y DU) ar 29 Ionawr 2025. Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau PDC yn dal i fod ar agor ar ôl y dyddiad uchod, ond mae’n debyg y byddwn yn cau rhai o’n cyrsiau mwyaf cystadleuol wedi hyn.
- MAI 2025
Dylai’r ymgeisydd ddechrau derbyn cynigion. Y cam nesaf yw cadarnhau’r dewis cadarn (dewis cyntaf). Hefyd, dylid gwneud dewis yswiriant (ail ddewis) rhag ofn nad ydyn nhw’n cael y graddau sydd eu hangen ar gyfer y dewis cyntaf.
Os nad yw’r ymgeisydd yn derbyn cynigion, peidiwch â phoeni. Bydd angen ystyried UCAS Extra – gweler y cam nesaf.


Bydd ymgeiswyr sydd heb dderbyn cynnig gan yr un o’u pum dewis UCAS, neu rai sy’n dewis gwrthod pob cynnig, yn cael cyfle i ymgeisio i UCAS Extra. Dim ond cyrsiau mewn sefydliadau sydd â lleoedd ar ôl y bydd yr ymgeiswyr yn gallu gwneud cais ar eu cyfer. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: www.ucas.com/extra. Nawr yw’r amser i wneud cais am gyllid myfyrwyr. Beth am e-bostio Tîm Recriwtio Myfyrwyr PDC ar ysgolionacholegau@decymru.ac.uk i drefnu cyngor cyllid myfyrwyr arbenigol a diduedd, ac i gael arweiniad ar gyfer dysgwyr a’u rhieni/ gofalwyr yn eich ysgol neu goleg?
18 www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
MAWRTH – MEHEFIN 2025
Mae’n bosib y bydd dysgwyr eisoes wedi mynd i Ddiwrnodau Agored, ond bydd
Diwrnodau Profiad i Ymgeiswyr yn eu helpu i gadarnhau eu prifysgol dewis cyntaf. Yn ystod y digwyddiadau hyn i ddeiliaid cynigion, byddan nhw’n cymryd rhan mewn darlithoedd neu weithdai blasu a chael clywed yn uniongyrchol gan lysgenhadon myfyrwyr am hanfodion bywyd prifysgol. Mae digwyddiad fel hyn, ar ôl derbyn cynigion, yn rhoi cyfle go iawn i ddysgwyr weld a yw dull addysgu a dysgu’r brifysgol yn addas iddyn nhw. Hefyd, bydd cyfle i ddod i nabod ymgeiswyr eraill.
Anogwch eich dysgwyr i fynd i
Ddiwrnod Profiad i Ymgeiswyr os ydyn nhw’n derbyn cynnig gan PDC.
Diwrnodau Profiad i Ymgeiswyr PDC
sydd ar y gweill
Dydd Sadwrn 1 Mawrth, 5 Ebrill 2025 ac 17 Mai 2025


GORFFENNAF - AWST 2025
MEDI 2025 DECHRAU’R TYMOR
Mae’r amser wedi dod i’ch dysgwyr adael yr ysgol neu goleg a dechrau’r daith brifysgol!

Yn groes i’r hyn a gredir, mae Clirio’n agor ymhell cyn diwrnod canlyniadau ar 5 Gorffennaf 2025, ac mae’n ddelfrydol i ddysgwyr sydd wedi penderfynu’n hwyrach ymlaen eu bod am wneud cais i Brifysgol, neu ddysgwyrsydd wedi newid eu meddyliau.
Ar ddiwrnod canlyniadau, drwy lwc, bydd dysgwyr sydd wedi gwneud cais i Brifysgol yn ystod y prif gylch wedi cael y graddau sydd eu hangen ar gyfer eu cwrs dewisol. Os na, peidiwch â phoeni, gallent wneud cais drwy Glirio, sy’n paru ymgeiswyr â lleoedd gwag mewn prifysgolion.
Mae Clirio ar agor hyd at 20 Hydref 2025. Ffoniwch ni ar: 03455 76 06 06
SGANIWCH Y COD QR I GAEL
TROSOLWG O GYLCH UCAS GAN PDC

Rydym yn credu mewn creu gwell yfory, a dyna pam rydym yn dechrau lleihau ein defnydd o ddeunyddiau printiedig lle bynnag y bo modd.
Mae ein prosbectws digidol newydd yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar eich dysgwyr am PDC mewn un lle. Sganiwch y cod QR isod neu ewch i prosbectws.decymru.ac.uk


Chwiliwch am: De_Cymru

Cynhyrchwyd gan Myfyrwyr y Dyfodol, Prifysgol De Cymru.
Mae Prifysgol De Cymru yn elusen gofrestredig. Rhif Cofrestru 1140312.