MBA Global Business Guide - CYM

Page 1

LLEOLIADAU GWAITH PDC

MBA BYD-EANG

Mae'r rhaglen MBA

Byd-eang yn MBA dwy flynedd sy'n cynnig cyfle i fyfyrwyr gael hyd at wyth mis o brofiad

gwaith gyda chwmnïau

yn y DU a thramor. Mae'n adeiladu ar ethos cryf o helpu rheolwyr ac arweinwyr i ddatrys

problemau busnes

cymhleth a datblygu gweithwyr proffesiynol

fydd yn gwneud

gwahaniaeth strategol o fewn sefydliadau.

MAE ANGEN LLEOLIADAU

YM MEYSYDD

• Rheoli AD

• Cyllid

• Marchnata

• Y Gadwyn Gyflenwi

• Busnes Cyffredinol

GALL LLEOLIADAU FOD

• Yn llawn neu’n rhan amser

• Â thâl neu heb dâl

• Ar y safle, yn hybrid neu o bell yn gyfan gwbl

• Yn y DU neu’n rhyngwladol (ar-lein)

PROFWCH EICH YFORY

CYMRYD RHAN

LLEOLIAD 6-8 MIS

Cefnogi ein myfyrwyr rhyngwladol llawn amser yn eu hail flwyddyn astudio, wrth iddynt ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau presennol. Mae gan lawer o'n myfyrwyr brofiad gwaith sylweddol eisoes a gall cyflogwyr elwa o'u harbenigedd drwy roi cyfle lleoliad iddynt.

Byddai lleoliadau’n dechrau ym mis Chwefror a mis Medi am 6-8 mis.

LLEOLIAD 3-4 MIS

Mae angen lleoliadau hefyd ar fyfyrwyr Lexicon MILE, sy'n ymuno â ni o India.

Mae llawer o'r myfyrwyr wedi gweithio mewn diwydiant yn barod a gallent ddod â meddylfryd newydd i sefydliad.

Byddai lleoliadau'n dechrau ym mis Ionawr a mis Mai am 3-4 mis.

GENNYCH CHI

Disgrifiad swydd llawn wedi'i e-bostio atom yn mbaglobal@southwales.ac.uk yn cynnwys;

• Teitl swydd/ adran

• Dyddiad dechrau/ dyddiad gorffen

• Oriau’r wythnos

• Ble - ar y safle / hybrid / o bell

• Cyflog ac unrhyw fuddion ychwanegol

• Dull ymgeisio, ynghyd â'r dyddiad cau

Gan fod llawer o'r myfyrwyr yn rhyngwladol, byddai angen i'r gwiriadau gofynnol o ran eu hawl i weithio yn y DU gael eu gwneud gan y cyflogwr.

YR SYDD EI ANGEN ARNON NI

TYSTEBAU

RMS (RETAIL MERCHANDISING SERVICES) GEORGIE HILLIER

“Bu’n bleser gennym gael dau o fyfyrwyr MBA (Meistr Gweinyddu Busnes) Prifysgol De Cymru yn ein plith yn y tîm RMS dros y 6 mis diwethaf ar leoliad myfyrwyr.

Rydyn ni i gyd wedi mwynhau gweithio gyda Rajat a Rafiana yn fawr - felly diolch i chi'ch dau am eich cyfraniad i'r busnes yn ystod y cyfnod hwn!

Mae pawb yma yn RMS yn dymuno'r gorau i chi yn eich camau nesaf ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth ewch chi yn eich blaen i’w gyflawni."

RAFIANA KHANAM

“Roedd yn lleoliad 6 mis cynhyrchiol iawn gydag RMS Ltd. Roedd y mentoriaid yn wych, yn gymwynasgar, ac yn gefnogol iawn, ac fe roddon nhw hyfforddiant gwych i'w gweithwyr.

Roedd fy uchafbwyntiau’n cynnwys;

•Sgiliau dogfennu – dysgu sut i ddefnyddio porthol pwrpasol y cwmni a'i reoli.

•Rhwydweithio a chreu cysylltiad gwych gyda fy mentor.

•Gweithio ar wahanol brosiectau, holiaduron iechyd, hawl i weithio'r gweithwyr ac e-bostio gweithwyr neu ymgeiswyr am wahanol resymau.

Roedd yn bleser cwblhau fy lleoliad gwaith gyda sefydliad mor ardderchog a mentor mor wych.”

#MBAGlobal
MBA GLOBAL
mbaglobal@southwales.ac.uk
CWMNI
MYFYRIWR

mbaglobal@southwales.ac.uk

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.