CANLLAW LLETY MYFYRWYR 2024/25

Page 1

Caerdydd | Casnewydd | Pontypridd

EICH CARTREF ODDI CARTREF CANLLAW LLETY MYFYRWYR 2024/25

WWW.DECYMRU.AC.UK


2 / CYNNWYS

CYNNWYS 3 CROESO I PDC 4 DOD O HYD I’CH CARTREF ODDI CARTREF 6 8 10 12 14 16 18 19

Ein Lleoliadau Dewis Llety sy’n Iawn i Chi Llety PDC – Caerdydd Llety PDC – Casnewydd Llety PDC – Pontypridd Rhaglen Bywyd Preswyl Rhestr Wirio Llety Ein Gwarant Llety

20 PARATOI AR GYFER BYWYD PRIFYSGOL 22 24 26 28 29

Rheoli Arian Coginio Iechyd a Lles Diogelwch Eich Contract a’ch Hawliau

30 Y CAMAU NESAF 32 34 36 38 42

Cynllunio’ch Ymweliad Proses ac Amserlen Ymgeisio Rhestr Wirio Pacio Cwestiynau Cyffredin Cysylltiadau Defnyddiol

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


3 / CROESO I PDC

CROESO I PDC Rydym yn falch o’ch croesawu chi yma i PDC. Fe welwch ein bod yr un mor gyfeillgar a diffwdan â’r lle hardd rydyn ni’n ei alw’n gartref. Rydym yn un brifysgol sy’n gweithredu o dri champws: Caerdydd, Casnewydd a Phontypridd. Mae ein holl safleoedd yn rhynggysylltiedig ac o fewn cyrraedd hawdd i’w gilydd. Ym mha le bynnag y byddwch chi’n astudio, byddwch yn rhan o #DeuluPDC. Rydym hefyd yn falch o fod yn un o ddarparwyr llety prifysgol mwyaf cystadleuol o ran pris yn Ne-orllewin Lloegr a Chymru. Felly mae’n dda gwybod y bydd eich arian yn mynd ymhellach, gan adael i chi fyw eich bywyd myfyriwr i’r eithaf.

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


4 / DOD O HYD I’CH CARTREF ODDI CARTREF

DOD O HYD I’CH

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


5 / DOD O HYD I’CH CARTREF ODDI CARTREF

ODDI CARTREF WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


6 / EIN LLEOLIADAU

MAE LLE RYDYCH CHI’N BYW YR UN MOR BWYSIG Â’R HYN RYDYCH CHI’N EI DDYSGU Mae lle rydych chi’n byw yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr, ac mae’n bwysig eich bod chi’n dod o hyd i’ch cartref cywir. Gallwch ddewis byw mewn unrhyw un o’n tri lleoliad: Caerdydd, Casnewydd neu Bontypridd. Ac ym mha le bynnag y byddwch chi’n byw, fe welwch chi’r gorau o Dde Cymru wrth garreg eich drws.

ABERTAWE PONTYPRIDD

CASNEWYDD

CAERDYDD BRYSTE


7 / EIN LLEOLIADAU

CAERDYDD Rydyn ni’n dwli ar ein prifddinas, ac rydyn ni’n gwybod y byddwch chithau hefyd. Dyma’r ddinas fawr sy’n tyfu gyflymaf yn y DU gyda naws amlddiwylliannol a chosmopolitaidd go iawn. Cewch fywyd gwych, ymhlith llawer o bobl anhygoel, a mwy o fannau gwyrdd y pen nag unrhyw ddinas arall yn y DU. O safleoedd hanesyddol i sinemâu to, allfeydd bwyd stryd dros dro, theatr fyw, siopau coffi, chwaraeon byd-eang, cerddoriaeth, gwyliau, a chymaint mwy, fyddwch chi byth yn diflasu. Mae eich arian yn mynd ymhellach yma hefyd – mae Caerdydd wedi’i henwi’n ddinas fwyaf fforddiadwy y DU i fyfyrwyr.*

CASNEWYDD Mae Casnewydd yn ddinas glyd gydag agwedd ‘gallu gwneud’. Mae’n llawn hanes, gyda’i strydoedd coblog, baddonau Rhufeinig, cestyll canoloesol a phensaernïaeth Fictoraidd. Mae Casnewydd hefyd yn ddinas sydd ar gynnydd – dyma lle mae rhaglen adfywio marchnad dan do fwyaf Ewrop, mae’r ddinas yn nefoedd i bawb sy’n dwli ar fwyd bwyd, ac yn llawn mannau ar gyfer digwyddiadau a busnesau annibynnol. Mae digonedd o gaffis clyd, bariau bywiog, mannau gwych i fwyta’r bwyd gorau, a chlybiau nos bywiog i ddewis rhyngddynt. Dyma gartref y bragdy arobryn Tiny Rebel hefyd, wrth gwrs.

PONTYPRIDD Mae Pontypridd yn dref farchnad Gymreig go iawn, gyda digon o siopau, caffis a bariau lleol. Mae yno gymuned glos a chroesawgar. Ar y campws, mae’n hawdd teimlo’ch bod chi ymhell o’r byd a’i bethau - ond neidiwch ar drên ac mi fyddwch yng nghanol Caerdydd o fewn 20 munud. Gyda bryniau gwyrdd o amgylch y dref, mae Pontypridd hefyd dafliad carreg o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Gwisgwch eich esgidiau cerdded a dihangwch i fynyddoedd enwog Cymru. Neu ewch i ymdrochi’n foreol yn Lido Cenedlaethol Cymru os mai dyna sy’n mynd â’ch bryd.

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY

*(Mynegai Myfyrwyr NatWest 2023)


8 / DEWIS LLETY SY’N IAWN I CHI

LLETY SY’N FWY NAG YSTAFELL YN UNIG Mae eich cartref prifysgol gerllaw.

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


9 / DEWIS LLETY SY’N IAWN I CHI

DEWIS LLETY SY’N IAWN I CHI Rydym yn gwybod y gall y syniad o adael cartref cyfarwydd godi ofn. Peidiwch â phoeni, rydym yma i sicrhau eich bod yn dod o hyd i’r lle iawn i chi. Mae llawer o opsiynau llety ar gael i gyd-fynd â phob cyllideb a ffordd o fyw.

BETH YW EICH OPSIYNAU?

NEUADDAU SY’N EIDDO I’R BRIFYSGOL Os penderfynwch fyw ym Mhontypridd, gallwch ddewis byw yn ein neuaddau preswyl ar y campws. Mae’r neuaddau hyn yn cael eu rhedeg yn uniongyrchol gan PDC, ac rydych chi’n gwneud cais drwy’r brifysgol (mwy am hynny yn nes ymlaen). Mae byw mewn neuadd yn ffordd wych o wneud ffrindiau a theimlo’n rhan o deulu PDC, yn enwedig yn eich blwyddyn gyntaf. Mae llawer yn digwydd, ac os ydych chi’n astudio ar ein campws yn Nhrefforest, mae eich darlithoedd boreol daith cerdded fer o’ch llety.

NEUADDAU PREIFAT Gallwch chi fyw mewn neuaddau hefyd os ydych chi am fyw yng Nghaerdydd neu Gasnewydd. Yr unig wahaniaeth yw nad PDC sy’n berchen ar y neuaddau yno. Yn hytrach, mae gennym bartneriaethau gyda darparwyr preifat sydd wedi’u dewis yn ofalus. Mae ganddyn nhw’n union yr un naws gynnes, groesawgar. Byddwch yn cwrdd â llwyth o fyfyrwyr PDC, yn ogystal â myfyrwyr o brifysgolion a cholegau eraill.

TAI PREIFAT Dewis arall yw rhentu tŷ neu fflat preifat gyda ffrindiau. Eich gofod chi’ch hun fydd hwn a gallwch ddewis eich cyd-letywyr. Law yn llawn â hyn, wrth gwrs, bydd yr holl weinyddu sydd ynghlwm wrth rentu tŷ, ac mae’n debygol y bydd yn rhaid i chi ymrwymo am flwyddyn gyfan. Mae’r myfyrwyr sy’n rhentu tai preifat yn dueddol o wneud hynny o’u hail flwyddyn ymlaen, yn hytrach na phan fyddant yn cyrraedd gyntaf.

BYW GARTREF Os ydych chi’n lleol i’r rhanbarth, yna mae byw gartref bob amser yn opsiwn!

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


10 / LLETY PDC - CAERDYDD

CAERDYDD Mae gennym bartneriaethau â nifer o ddarparwyr llety preifat i gynnig cyfleoedd gwych ar gyfer byw fel myfyriwr. Mae pob llety’n agos at gampws Caerdydd. Ac os nad ydych chi’n astudio yng Nghaerdydd ond yn dymuno byw yn y ddinas, fe allwch - mae’n gyflym ac yn hawdd cyrraedd Casnewydd a Phontypridd ar drafnidiaeth gyhoeddus.

YNG NGHAERDYDD, FE GEWCH CHI’R CANLYNOL:

CYMUNED MYFYRWYR AMRYWIOL Cyfle i wneud ffrindiau gyda myfyrwyr PDC a phob un o brifysgolion a cholegau eraill Caerdydd.

DIM BILIAU ANNISGWYL Bydd eich rhent, dodrefn, yswiriant cynnwys, costau ynni a Wi-Fi i gyd wedi’u cynnwys.

PRIFDDINAS AR STEPEN EICH DRWS Mae cymaint i’w weld a’i wneud, o fewn cyrraedd hawdd.

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


ROEDD SYMUD I FFWRDD I’R BRIFYSGOL YN DDECHRAU O’R NEWYDD, GALLWN YN WIRIONEDDOL FOD YN FI FY HUN George Cade Myfyriwr graddedig PDC

CIPOLWG AR LETY CAERDYDD Lleoliad: Neuaddau preifat yng nghanol y ddinas Agosrwydd i’r campws: Taith gerdded fer i’n campws yng Nghaerdydd a thaith trên i’n campysau eraill Mathau o ystafelloedd: Stiwdios a fflatiau i’w rhannu Ystafelloedd hygyrch: Ydyn, rydym yn gweithio gydag ystod o darparwyr ychwanegol i gynnig ystafelloedd hygyrch Cost ar gyfartaledd: £139–£151 yr wythnos* Hyd y contract: 42–51 wythnos *

*Costau llety 2022/23. Bydd angen i chi wirio safle pob darparwr i weld y costau a hyd contractau diweddaraf.


12 / LLETY PDC - CASNEWYDD

CASNEWYDD Mae pentref myfyrwyr Casnewydd mewn lle delfrydol â golygfeydd dros yr Afon Wysg. Dim ond pum munud o daith gerdded yw hi i’r campws. Awydd mynd am dro i Gaerdydd neu Fryste? Dim problem. Gyda chysylltiadau trafnidiaeth rhagorol yn Ne Cymru a thu hwnt, mae pob cyrchfan o fewn cyrraedd.

YN EIN LLETY YNG NGHASNEWYDD FE GEWCH CHI’R CANLYNOL:

CYMUNED GYFEILLGAR YN BAROD I’CH CROESAWU Gyda llwyth o ddigwyddiadau am ddim yn y neuaddau, a’r ddinas ar stepen eich drws.

DIM BILIAU ANNISGWYL Mae eich rhent, dodrefn, yswiriant cynnwys, costau ynni a Wi-Fi wedi’u cynnwys. Gallwch hefyd ddewis arhosiad 51, 42, 34 neu 25-wythnos, yn dibynnu ar bryd rydych chi’n dechrau.

EICH HOLL GYFLEUSTERAU AR UN SAFLE Gan gynnwys cyfleusterau storio beiciau a golchi dillad, gofod astudio ac ystafell gyffredin, yn ogystal â pharcio ar y safle.


13 / LLETY PDC - CASNEWYDD

EICH DEWIS O YSTAFELLOEDD Mae ein llety yng Nghasnewydd ar gael trwy ein darparwr neuaddau partner, Campus Living Villages (CLV). Mae CLV yn cynnig fflatiau hollgynhwysol cyfforddus a modern gydag ystafelloedd ymolchi en-suite, ceginau modern, ac ystafelloedd gemau cymdeithasol a ffilmiau i’ch helpu chi i fwynhau amgylchedd deniadol ac ymlaciol yn ystod eich amser segur.

WEDI EU CYNNWYS YN Y GOST • • •

Mae’r holl gostau rhent ac ynni’n sefydlog Digwyddiadau am ddim Dodrefn a man astudio preifat

• •

Diogelwch 24/7 Yswiriant cynnwys

Mae CLV yn cynnig amrywiaeth o feintiau ystafelloedd i gwrdd â’ch cyllideb ac mae’r prisiau’n amrywio o £139 £145* Ewch i www.campuslivingvillages.com am ragor o fanylion. *Costau llety 2022/23

EWCH I WWW.CAMPUSLIVINGVILLAGES.COM I WELD COSTAU CYFREDOL A HYD CONTRACTAU

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


14 / LLETY PDC - PONTYPRIDD

PONTYPRIDD Fe gewch chi’r gorau o bopeth yn byw ar ein campws ym Mhontypridd: mynediad rhwydd i natur, cymuned gynhwysol, a thaith fer ar y trên i’r brifddinas.

YN EIN LLETY YM MHONTYPRIDD FE GEWCH CHI’R CANLYNOL:

CYMUNED GROESAWGAR A CHYNHWYSOL Y cyfle i fanteisio i’r eithaf ar y cyfan sydd gan Undeb y Myfyrwyr i’w gynnig, yn ogystal â llawer o ddigwyddiadau am ddim drwy ein Rhaglen Bywyd Preswyl, a’r gampfa ar y safle.

DIM BILIAU ANNISGWYL Mae eich rhent, dodrefn, yswiriant cynnwys, costau ynni a Wi-Fi i gyd wedi’u cynnwys.

EICH HOLL GYFLEUSTERAU AR UN SAFLE Gan gynnwys cyfleusterau storio beiciau, man cymunedol ‘Yr Hyb’, cyfleusterau golchi dillad a pharcio ar y safle. Mae gennym ni ddiogelwch campws 24/7 hefyd a llinell gymorth y gellir ei chyrchu 365 diwrnod y flwyddyn.


15 / LLETY PDC - PONTYPRIDD

EICH DEWIS O YSTAFELLOEDD

YSTAFELLOEDD LLYS MORGANNWG – £112– £130 YR WYTHNOS Ein hystafelloedd safonol clyd yn Llys Morgannwg, bob un â chawod en-suite. Mae gennym hefyd amrywiaeth o ystafelloedd hygyrch ar gael yn y pecyn hwn. Contract 40 wythnos (51 wythnos ar gael ar gais)

FFLATIAU STIWDIO – £186 YR WYTHNOS Mae ein stiwdios yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr aeddfed, myfyrwyr ôl-radd a chyplau. Mae gan bob stiwdio wely dwbl, en-suite a’i chegin fach lawn offer ei hun. Contract 40 wythnos (51 wythnos ar gael ar gais)

YSTAFELLOEDD NEUADDAU’R MYNYDD A LLYS MORGANNWG WEDI’U HUWCHRADDIO – £126–£143 YR WYTHNOS Mae ein hystafelloedd premiwm yn rhai en-suite gydag ychydig mwy o le, a gwely o faint 3/4. Mae gennym hefyd amrywiaeth o ystafelloedd hygyrch sydd ar gael yn y pecyn hwn. Contract 40 wythnos (51 wythnos ar gael ar gais)

YSTAFELL HYGYRCH – PRISIAU AMRYWIOL AR GAEL Mae gennym ystafelloedd ar y campws sydd wedi’u cynllunio ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Os hoffech ddod i ymweld â ni ymlaen llaw i dawelu’ch meddwl, cysylltwch â ni ar bob cyfrif. Contract 40 wythnos (51 wythnos ar gael ar gais)

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


1616 / EIN / OUR RHAGLEN RESILIFE BYWYD PROGRAMME PRESWYL

EIN RHAGLEN BYWYD PRESWYL Os penderfynwch fyw yn ein neuaddau ym Mhontypridd, gallwch fanteisio ar ein rhaglen Bywyd Preswyl rhad ac am ddim, sy’n cynnig cyfleoedd am ddatblygiad cymdeithasol a phersonol.

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


17 / EIN RHAGLEN BYWYD PRESWYL

Mae Bywyd Preswyl yn rhaglen unigryw a gynlluniwyd i gefnogi myfyrwyr mewn neuaddau trwy greu cyfleoedd i gwrdd ag eraill a dysgu sgiliau newydd ar stepen eich drws. Cewch fynediad i’r Hyb – eich ardal gymdeithasol ddynodedig, lle gallwch chi ymlacio a chymdeithasu. Hefyd, mae digon yn digwydd – o ddosbarthiadau celf i weithdai byw’n iach. Dyma rai o’r pethau y gallwch eu disgwyl o’ch rhaglen Bywyd Preswyl.

CYMUNED

DYSGU

Cyfle i ymwneud â bywyd eich neuaddau a chymunedau lleol trwy ddigwyddiadau llawn hwyl, a gwirfoddoli.

Cyfle i ymuno ag un o’n dosbarthiadau defnyddiol, wedi’u cynllunio i’ch helpu i fyw’n annibynnol. Mae’r pynciau’n amrywio o goginio ar gyllideb i reoli eich cyllid.

CYMRYD RHAN Cyfle i dorchi llewys a mynd i ganol gwahanol ddigwyddiadau a gweithgareddau. Byddwch yn cwrdd â llawer o breswylwyr yr amrywiol neuaddau ac yn gwneud ffrindiau newydd y tu hwnt i’ch fflat eich hun.

YMARFER HUNANOFAL

DWEUD EICH DWEUD

Cyfle i leihau straen yn eich bywyd drwy weithdai sydd wedi’u cynllunio i’ch helpu i ymlacio.

Cyfle i gymryd rhan mewn trefnu digwyddiadau neu ddod yn aelod o bwyllgor, i gael dweud eich dweud ar ddatblygiad y rhaglen a’r gweithgareddau.

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


18 / RHESTR WIRIO LLETY

RHESTR WIRIO LLETY ^ Ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi dod o hyd i’r un? Gwnewch yn siwr ei fod yn ticio pob blwch. RYDYCH CHI WEDI EDRYCH AR NEUADDAU. RYDYCH CHI WEDI ARCHWILIO RHENTI LLETY MYFYRWYR PREIFAT. AC RYDYCH CHI’N MEDDWL EICH BOD WEDI DOD O HYD I’R ATEB PERFFAITH I CHI. GWYCH! OND CYN I CHI LOFNODI AR Y LINELL DDOTIOG, DYMA RESTR WIRIO DERFYNOL:

A YW’N FFORDDIADWY? Arian yw un o’r pethau pwysicaf (ac amlwg) i’w ystyried wrth ddewis ble i fyw. Yn seiliedig ar eich cyllid myfyriwr a’ch cyllideb, a allwch chi fforddio talu’r rhent bob mis? Cymerwch amser i gyfrifo costau. Er enghraifft, gall neuaddau myfyrwyr ymddangos yn ddrytach nag opsiynau eraill ond gan eu bod yn cynnwys biliau ac amwynderau, gallant fod yn rhatach yn y tymor hir. Edrychwch ar ein hawgrymiadau cyllidebu ar dudalen 22.

A YW’N CYNNIG POPETH RYDYCH CHI’N CHWILIO AMDANO? Cymerwch lyfr nodiadau ac ysgrifennwch restr o’ch ‘hanfodion llety’. Os ydych chi’n berson sy’n gwerthfawrogi gofod eich hun, mae fflat stiwdio neu ystafell en-suite yn berffaith i chi. Os ydych chi’n ffanatig am ffitrwydd, yna bydd campfa ar y safle at eich dant. Cymharwch bopeth y mae pob llety yn ei gynnig yn erbyn eich rhestr.

A FYDD YN EICH HELPU I WNEUD FFRINDIAU? Mae byw mewn neuaddau yn cynnig mantais wirioneddol, yn enwedig yn eich blwyddyn gyntaf, gan fod llawer o gyfleoedd i gymdeithasu. Mae ein neuaddau yng Nghaerdydd a Chasnewydd hefyd ar agor i fyfyrwyr o wahanol brifysgolion, felly byddwch yn cwrdd ag ystod eang o bobl.

A YW MEWN LLEOLIAD DA? Nid oes angen meddwl ddwywaith am fyw mewn neuaddau o ran dewis lleoliad cyfleus. Ond, os dewiswch fyw ymhellach i ffwrdd, gwnewch yn siŵr bod digon o opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ar gael fel y gallwch gyrraedd y campws.

A YW’N GYFREITHLON? Cyn ichi lofnodi’r contract, gwnewch yn siŵr bod y landlord wedi’i achredu â ‘Rhentu Doeth Cymru.’ Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws os aiff unrhyw beth o’i le yn ddiweddarach. Ewch i weld yr eiddo bob tro cyn ymrwymo. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y contract yn drylwyr cyn ei lofnodi. Os ydych chi’n ystyried byw mewn tŷ preifat, edrychwch ar Student Pad, ein gwasanaeth chwilio am lety am ddim neu cysylltwch â gwerthwyr tai a landlordiaid yn uniongyrchol.

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


19 / EIN GWARANT LLETY

EIN GWARANT LLETY Mae PDC yn gwarantu llety i bob myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig sy’n bodloni ein meini prawf cymhwysedd.

YDYCH CHI’N GYMWYS?

Sganiwch yma i ddysgu mwy am Warant Llety PDC

I fod yn gymwys ar gyfer Gwarant Llety PDC, rhaid i chi fod wedi gwneud y canlynol: • • •

Derbyn PDC fel eich dewis cadarn erbyn 6 Mehefin 2024 Gwneud a sicrhau archeb llety gyda ffi cadw erbyn 30 Mehefin 2024 Cwrdd â thelerau ac amodau eich cynnig academaidd

Bydd llety naill ai yn Neuaddau Preswyl PDC neu gydag un o’n darparwyr llety preifat yng Nghaerdydd neu Gasnewydd a bydd yn cael ei ddyrannu yn unol â thelerau ein polisi dyrannu.*

*Rydym yn cadw’r hawl i gartrefu myfyrwyr mewn lleoliad arall pan fo llety’n llawn. Mae’r term “llety” yn cyfeirio at ystafell wely sengl i fyfyrwyr (h.y., nid yw’n berthnasol i barau neu lety teulu).

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


20 / PARATOI AR GYFER BYWYD PRIFYSGOL

PARATOI

AR GY


21 / PARATOI AR GYFER BYWYD PRIFYSGOL

YFER BYWYD PRIFYSGOL


22 / RHEOLI ARIAN

RHEOLI ARIAN Iawn, mae gyda chi syniad nawr ynghylch ble hoffech chi fyw, felly beth am sôn am yr ‘A’ pwysig (Ie, arian).

MAE DECHRAU YN Y BRIFYSGOL YN AML YN GOLYGU RHEOLI EICH CYLLID YN ANNIBYNNOL AM Y TRO CYNTAF, AC EFALLAI Y BYDD ANGEN AMSER I DDOD I ARFER Â HYNNY. OND MAE LLAWER O HELP AR GAEL I’CH HELPU I DDOD YN ARBENIGWR PAN MAE’N DOD AT REOLI EICH CYLLID.

DEALL EICH INCWM A’CH COSTAU Gall ymddangos yn ddiflas, ond bydd yn talu ar ei ganfed! Nodwch bob incwm sydd gennych (benthyciad myfyrwyr, ysgoloriaethau neu grantiau, cyflogau gwaith, cymorth gan y teulu). Wedyn, nodwch bob cost (rhent, biliau, tanysgrifiadau, aelodaeth, petrol ac ati).

CREU CYLLIDEB Wedi i chi gyfrifo faint sydd gyda chi i fyw arno bob mis, gallwch greu cyllideb fanwl. Penderfynwch faint fyddwch chi’n ei wario ar bethau fel bwyd, hanfodion, teithio, (a phethau sy’n fwy o hwyl). Mae apiau cyllidebu fel Wally neu Money Dashboard Neon yn ddefnyddiol ac yn eich helpu i reoli’ch arian.

DEFNYDDIO AP CYNILO Efallai na fydd gennych lawer o arian sbâr i’w gynilo ond o geiniog i geiniog yr â’r arian yn bunt! Gallwch gynilo arian yn awtomatig heb hyd yn oed sylwi’ch bod yn gwneud drwy ddefnyddio apiau fel Plum neu Moneybox.

PRYNU PETHAU AIL LAW Pan fyddwch ar gyllideb, bydd gwefannau marchnad a siopau elusen yn werth y byd! Fe welwch lwyth o fargeinion felly cofiwch chwilio cyn prynu rhywbeth newydd sbon.

BOD YN SIOPWR CLYFAR Dysgwch pa siopau sy’n cynnig gostyngiadau i fyfyrwyr fel y gallwch wneud i’ch arian fynd ymhellach. Gwnewch eich siopa bwyd ychydig yn ddiweddarach yn y dydd, pan fydd yr archfarchnadoedd yn gostwng prisiau bwyd. Mae’r ap Too Good To Go yn ffordd arall o brynu bwyd cwbl fwytadwy o archfarchnadoedd/bwytai am bris sydd llawer yn is na’r gwreiddiol. Peidiwch ag anghofio cofrestru ar gyfer TOTUM – cerdyn adnabod gostyngiadau myfyriwr a phrawf oedran #1 y DU. Darganfyddwch fwy drwy www.totum.com.

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


23 / RHEOLI ARIAN

BOD YN GADARN Cyn i chi wario arian ar rywbeth, gofynnwch i chi’ch hun a oes gwir angen y rhywbeth hwnnw arnoch chi. Dydyn ni ddim yn dweud bod rhaid gwneud hyn drwy’r amser (byddai hynny’n ddiflas iawn!). Ond mae’n werth bod yn gadarn am yr hyn rydych chi’n gwario arian arno ac yn peidio gwario arian arno, fel nad ydych chi’n ei wastraffu yn y pen draw.

DEFNYDDI0 EIN HADNODDAU AM DDIM Mae llawer o gymorth ar ein gwefan all eich helpu gyda rheoli arian a chyllidebu. Chwiliwch am ‘Costau Byw’ ar wefan PDC. Edrychwch hefyd ar www.savethestudent.org i’ch helpu i arbed arian, dod o hyd i ostyngiadau a chael swyddi.

SIARAD Â’N TÎM CYMORTH ARIANNOL Rydyn ni yma i chi ar bob cam o’ch taith drwy’r brifysgol. Os oes angen cymorth arnoch gydag unrhyw agwedd ar eich cyllid myfyrwyr, boed yn ysgoloriaethau a bwrsarïau, eich benthyciadau neu grantiau myfyrwyr, rheoli eich arian neu os ydych mewn trafferth ariannol. I gael gwybod mwy am yr hyn rydym yn ei gynnig, darllenwch ein prosbectws ar-lein neu ewch i: www.southwales.ac.uk/cymraeg/astudio/ ffioedd-chyllid/

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


24 / COGINIO

COGINIO Ffaith: Un o’r pethau gorau am fyw ar eich pen eich hun yw coginio i chi’ch hun! Efallai eich bod chi’n gallu creu tsili penigamp, neu efallai eich bod yn gwybod (fwy ^ Ond beth bynnag fo’ch sgiliau neu lai) sut i ferwi wy. yn y gegin, dyma ambell awgrym ar fwyd, coginio a chyllidebu.

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


25 / COGINIO

MAE LLWYTH O RYSEITIAU RHAD A BLASUS AR INSTAGRAM A TIKTOK CHWILIWCH AM HASHNODAU FEL #MONEYSAVINGRECIPES #EASYRECIPES #QUICKMEALS

CREU CYLLIDEB BWYD O wneud hynny, byddwch yn gwybod yn union faint o arian sydd gennych i’w wario ar fwyd. Gallwch hyd yn oed ddefnyddio’ch cyllideb i gynnwys pethau fel coffi tecawê neu brydau allan.

CYNLLUNIO, CYNLLUNIO, CYNLLUNIO Arbedwch ychydig o arian drwy gynllunio ymlaen llaw. Gall creu cynllun prydau wythnosol neu bythefnosol helpu i arbed amser, arian ac egni i chi. Mae Yummly yn ap am ddim sy’n eich helpu i gynllunio’ch prydau bwyd. Mae ynddo hefyd dros 2 filiwn o ryseitiau.

COGINIO GARTREF Os ydych am arbed arian, rydym yn argymell eich bod yn gwneud y rhan fwyaf o’ch coginio gartref. (Wrth gwrs, mae pryd allan nawr ac yn y man yn beth braf iawn.)

TROI COGINIO’N HWYL Mae coginio yn gallu dod â phobl at ei gilydd. Beth am gymryd tro yn coginio ar gyfer eich cyd-letywyr? Gallwch greu themâu fel Dydd Llun Heb Gig neu Tacos Dydd Mawrth i gadw pethau’n ddiddorol. Hwyl, cost-effeithiol a blasus!

COGINIO MEWN SWMP Arbedwch amser ac arian trwy goginio mwy mewn swmp. Rhowch beth ohono yn y rhewgell i’w fwynhau fel pryd cyflym a hawdd rywbryd eto.

BOD YN GREADIGOL Does dim rhaid i fwyd fod yn ddrud i fod yn flasus. Defnyddiwch berlysiau i roi blas ychwanegol ar bethau! I gael ysbrydoliaeth, ewch i wylio ein fideo ‘Coginio ar Gyllideb’ ar ein tudalen Facebook.

RHOI CYNNIG AR RYWBETH NEWYDD Mae dod i’r brifysgol yn gyfle perffaith i ehangu eich gorwelion a rhoi cynnig ar fwydydd o wahanol rannau’r byd.

CHWILIO AM OSTYNGIADAU MYFYRWYR A CHWPONAU AR-LEIN Gallwch arbed ychydig o arian gyda gostyngiadau i fyfyrwyr a chodau cwponau. Cofiwch, mae pob ceiniog yn cyfri!

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


26 / IECHYD A LLES

IECHYD A LLES Mae’n bwysig gofalu am eich iechyd meddwl a chorfforol yn y brifysgol. Y cam cyntaf yw dod i wybod beth sy’n rhoi hwb i’ch ymdeimlad o les ac yna ychwanegu’r gweithgareddau hyn i’ch ffordd newydd o fyw a’ch lleoliad newydd. SYMUD EICH CORFF DYMA RAI O’N yn ymarfer bywiog yn y gampfa, yn ddosbarth ioga ar fore Sul, neu’n barti HAWGRYMIADAU Boed dawnsio yn eich cegin – dewch o hyd i rywbeth sy’n gwneud i chi deimlo’n dda. Mae llwyth o glybiau a chymdeithasau yn Undeb y Myfyrwyr a all eich helpu LLES GORAU: i symud eich corff. Mae ein campfa ar gampws Pontypridd yn cynnig ystod wych o gyfleusterau, gydag aelodaeth o £13 y mis ar gyfer profiad ffitrwydd hollgynhwysol.

NEILLTUO AMSER I CHI’CH HUN Cadwch ddyddiadur. Myfyriwch. Gweddïwch. Pobwch. Lliwiwch i mewn. Gwnewch rywbeth rydych chi’n ei fwynhau a bydd hynny’n eich helpu i deimlo’n ddigynnwrf a chadarn.

SIARAD Â RHYWUN Mae siarad wastad yn dda. Gall olygu siarad am eich teimladau gyda ffrind dros baned neu siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Y peth pwysig yw nad ydych chi’n cadw pethau i chi’ch hun. WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


27 / IECHYD A LLES

COFIO ANADLU Gall canolbwyntio ar eich anadlu leihau teimladau o straen a’ch helpu i ymlacio. Mae ‘anadlu bocs’ yn ymarfer anadlu hawdd y gallwch ei ddefnyddio unrhyw le, unrhyw bryd. Anadlwch i mewn tra’n cyfrif i bedwar – daliwch eich gwynt am bedwar – anadlwch allan tra’n cyfri i bedwar.

BWYTA’N DDA Ceisiwch danio’ch corff gyda bwyd da, maethlon. Llawer o brotein, ffrwythau, llysiau gwyrdd deiliog, a brasterau iach. Yfwch ddigon o ddŵr a chymerwch fitaminau neu atchwanegiadau os oes angen.

CYSGU’N DDA Efallai nad cysgu fydd eich blaenoriaeth. Ond mae cwsg yn bwerus. Mae’n effeithio ar bopeth, o’ch gallu i ganolbwyntio i’ch hwyliau. Anelwch am 8 awr o gwsg bob nos bron, ac osgowch edrych ar sgrin yn syth cyn mynd i’r gwely. Gwnewch eich gwaith yn raddol yn ystod aseiniadau a thymor yr arholiadau fel nad ydych chi’n gorfod gweithio dros nos ar y funud olaf.

EIN GWASANAETHAU IECHYD A LLES

GWASANAETHAU LLES AC ANABLEDD Ar gael i holl fyfyrwyr PDC, mae’r tîm yn cynnig cyngor a chymorth am ddim ar bopeth o iechyd corfforol a meddyliol i les cymdeithasol. Gallwch drefnu apwyntiad Cyngor Lles pryd bynnag y bydd ei angen arnoch chi.

GWEITHDAI Rydym hefyd yn cynnal gweithdai rhithwir rheolaidd ar amrywiaeth o faterion lles. I gael gwybod mwy neu i gadw lle ar weithdy, chwiliwch am ‘Cyrsiau, Gweithdai a Digwyddiadau’ ar wefan PDC.

GWASANAETH IECHYD PDC Sganiwch yma i archwilio ein holl Wasanaethau Iechyd a Lles.

Pan fo rhywun yn teimlo’n wael, mae’n braf gwybod bod rhywun yno i ofalu amdanoch chi. Mae ein Gwasanaeth Iechyd yn cael ei arwain gan dîm o nyrsys all eich helpu gydag unrhyw faterion corfforol neu iechyd.

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


28 / DIOGELWCH

DIOGELWCH Eich diogelwch chi yw ein blaenoriaeth. Dyma sut rydyn ni’n eich cadw’n ddiogel ar y campws.

EIN GWASANAETHAU DIOGELWCH

GWASANAETH 24 AWR Mae gan bob llety staff 24-7 a Theledu Cylch Cyfyng.

CYFARFOD CYNEFINO AR-LEIN AR GYFER PRESWYLWYR NEUADDAU Os ydych yn byw mewn llety prifysgol, byddwch yn mynychu cyfarfod cynefino ar-lein fel rhan o’ch contract. Mae’r cyfarfodydd hyn yn cynnwys yr holl wybodaeth allweddol am fyw mewn neuaddau prifysgol a chadw’n ddiogel.

YSWIRIANT Rydym wedi ymuno ag Endsleigh, prif ddarparwr yswiriant myfyrwyr y Deyrnas Unedig, i drefnu yswiriant eiddo. Mae hyn yn cynnwys teclynnau, ceir, teithio a mwy. Gwiriwch eich manylion polisi ar wefan Endsleigh i weld beth sydd wedi ei yswirio. Sganiwch yma i ddarganfod mwy am ein Gwasanaethau Diogelwch.

Os dewiswch fyw yng Nghaerdydd neu Gasnewydd, cofiwch wirio gyda’ch darparwr i gael y manylion diweddaraf am eu darpariaeth yswiriant.

AROS YN DDIOGEL Y TU HWNT I’R CAMPWS

• Byddwch yn ymwybodol o’ch amgylchedd bob amser a gofalwch am eich eiddo. Peidiwch â gadael i unrhyw un o’ch ffrindiau fynd adref ar eu pen eu hunain ar ôl noson allan, a gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn rhoi gwybod i rywun ble rydych chi.

MAE YNA AMBELL BETH Y GALLWCH CHI EI WNEUD I GADW’CH HUN, EICH PETHAU A’CH FFRINDIAU’N DDIOGEL.

• Mae yna lawer o apiau am ddim all helpu i’ch cadw’n ddiogel. Mae Safezone yn eich galluogi i godi pryder, cynnal gwiriadau pan fyddwch yn gweithio ar eich pen eich hun, cysylltu ag adnoddau iechyd meddwl, a derbyn rhybuddion pwysig. Mae What3words yn eich galluogi i adnabod, rhannu ac arbed lleoliadau – cyfleus iawn os byddwch chi ar goll neu wedi’ch gwahanu oddi wrth eich ffrindiau.

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


29 / EICH CONTRACT A’CH HAWLIAU

EICH CONTRACT A’CH HAWLIAU Wedi i chi lofnodi contract gyda darparwr llety, rydych wedi’ch clymu’n gyfreithiol i eiddo am gyfnod penodol o amser. Gall hyn ei gwneud hi’n anodd gadael eich contract neu symud os bydd eich amgylchiadau’n newid. MAE’N WERTH SICRHAU BOD POPETH FEL Y DYLAI FOD CYN I CHI LOFNODI EICH CONTRACT. DYMA AMBELL BETH I’W YSTYRIED:

• P’un a ydych yn dewis byw yn neuaddau PDC neu yn un o neuaddau ein partneriaid preifat, bydd eich contract yn ymrwymiad cyfreithiol. Sicrhewch eich bod yn darllen telerau’r contract cyn i chi lofnodi. Os ydych o dan 18 oed, bydd angen i’r contract gael ei gydlofnodi gan riant neu warcheidwad hefyd. •S efydlwch a oes modd canslo’ch contract cyn i chi symud i mewn. •B yddwch yn glir ynghylch taliadau ymlaen llaw. Gall darparwyr llety godi ffi cadw (hyd at wythnos o rent ar y mwyaf ). Mae’n rhaid i’r swm hwn gael ei ddychwelyd atoch neu ei ddefnyddio yn erbyn eich taliad rhent cyntaf. Os ydych yn talu ffi cadw, mae’n rhaid iddo gael ei ddiogelu’n gyfreithiol gan gynllun ffi cadw tenantiaeth. •C hwiliwch am ffioedd cudd fel ffioedd preswylio, cyfleustodau ychwanegol neu ffioedd gwasanaeth. •G all eich contract gael ei wirio am ddim gan Dîm Cyngor Myfyrwyr PDC. Fel arfer, gallwch lawrlwytho a gweld contract drafft cyn i chi ei lofnodi. Os na, gofynnwch am gopi a chysylltwch â ni i gael gwiriad contract am ddim. Sicrhewch eich bod wedi darllen a deall popeth cyn i chi lofnodi. •G wiriwch fod yr eiddo wedi’i achredu o dan un o’r Codau Cenedlaethol a darganfyddwch pwy sy’n gyfrifol am ei reoli. Mae’r Cod Safonau Cenedlaethol yn set o safonau penodol sy’n berthnasol i ddatblygiadau myfyrwyr mwy. Mae’n sicrhau bod gan fyfyrwyr lety diogel, bod unrhyw broblemau’n cael eu datrys, a bod myfyrwyr yn cael eu cefnogi gan yr Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr (UCM). Darganfyddwch fwy drwy www.nationalcode.org •C yfeiriwch at y Cod Llety Myfyrwyr gan ei fod yn amddiffyn eich hawliau i gael lle diogel ac o ansawdd da i fyw. Darganfyddwch fwy yma: www.thesac.org.uk

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


30 / Y CAMAU NESAF

Y CAMAU

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


31 / Y CAMAU NESAF

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


32 / CYNLLUNIO EICH YMWELIAD

YMWELD Â’N LLETY MYFYRWYR Dewch i gael gwir ymdeimlad o’ch cartref newydd posibl drwy drefnu ymweliad. Dewch i gwrdd â’n Llysgenhadon Myfyrwyr a fydd yn eich tywys o gwmpas neuaddau ac yn ateb unrhyw gwestiynau.

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


33 / CYNLLUNIO EICH YMWELIAD

Gwahoddir pob ymgeisydd i un o’n Diwrnodau Ymgeiswyr, gan roi’r cyfle i chi ymweld â’n Llety Myfyrwyr ac i ddarganfod mwy am ein costau a’n mathau o ystafelloedd a’n proses ymgeisio. Chwiliwch ‘Diwrnodau Ymgeiswyr’ ar wefan PDC i gael gwybod pryd mae ein Diwrnod Ymgeiswyr nesaf ac i neilltuo eich lle. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at eich gweld chi.

FE WNES I FFRINDIAU NA FYDDWN BYTH WEDI CWRDD Â NHW PE NA BAWN YN BYW MEWN NEUADDAU. RYDW I MOR FALCH. Tara Peters Myfyriwr graddedig PDC

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


34 / PROSES AC AMSERLEN YMGEISIO

PROSES AC AMSERLEN YMGEISIO Mae gwneud cais am lety mewn neuadd yn hawdd iawn. Ein cyngor pennaf - peidiwch â’i gadael hi’n rhy hwyr. Po gynharaf y byddwch yn gwneud cais, y mwyaf tebygol y byddwch yn cael y llety rydych chi ei eisiau. Dyma drosolwg o broses ymgeisio PDC.

GALLWCH HEFYD GYSYLLTU Â DARPARWYR PREIFAT A LANDLORDIAID YN UNIONGYRCHOL I ARCHEBU EICH LLETY YN ANNIBYNNOL. DARGANFYDDWCH FWY AR WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


35 / PROSES AC AMSERLEN YMGEISIO

DERBYN EICH CYNNIG CADARN I ASTUDIO YN PDC GWNEUD CAIS AM LETY Byddwn yn cysylltu â chi ac yn eich gwahodd i wneud cais am eich llety o fewn pythefnos o dderbyn eich cynnig cadarn.

LLWYBR GWARANT LLETY PDC Mae Gwarant Llety PDC yn golygu y bydd gennych ystafell wedi’i gwarantu mewn neuadd myfyrwyr - naill ai ar ein campws yn Nhrefforest neu gydag un o’n partneriaid llety preifat yng Nghaerdydd a Chasnewydd. I fod yn gymwys rhaid i chi fodloni’r canlynol: • Derbyn PDC fel eich dewis cadarn erbyn 6 Mehefin 2024 • Gwneud a sicrhau archeb llety gyda ffi cadw erbyn 30 Mehefin 2024 • Cyflawni gofynion eich cynnig academaidd

PRYD Chwefror – Mehefin 2024

PRYD O 8 Gorffennaf 2024

PRYD O 19 Gorffennaf 2024

LLWYBR LLETY HEB WARANT Os nad ydych yn bodloni meini prawf Gwarant Llety PDC, ni fyddwn yn gallu cadarnhau a ydych wedi cael ystafell ai peidio tan ar ôl 15 Awst 2024 (diwrnod canlyniadau Safon Uwch). Os yw’r galw am ystafelloedd yn uchel, efallai y bydd angen i chi ddod o hyd i’ch llety yn annibynnol.

Gofynnir i chi ddewis eich lleoliad dewisol, math o ystafell, hyd y contract ac unrhyw ddewisiadau personol gan gynnwys hygyrchedd, dewis iaith (Cymraeg neu Saesneg), fflatiau un rhyw, di-alcohol a thawel.

Gofynnir i chi ddewis eich lleoliad dewisol, math o ystafell, hyd y contract ac unrhyw ddewisiadau personol gan gynnwys hygyrchedd, dewis iaith (Cymraeg neu Saesneg), fflatiau un rhyw, di-alcohol a thawel.

Anfonir cyfarwyddiadau pellach atoch ar fanylion eich ystafell a sut i gadarnhau eich archeb.

Os oes gennym ystafelloedd ar ôl, anfonir cyfarwyddiadau pellach atoch ar fanylion eich ystafell a sut i gadarnhau eich archeb.

Byddwch yn derbyn gwybodaeth llety cyn ymuno â ni ym mis Medi, gan gynnwys: eich manylion symud i mewn a dyddiadau, gwybodaeth parcio, manylion ystafell a chyfeiriad a chyflwyniad i’n tîm llety

* Ewch i decymru.ac.uk/llety am fwy o fanylion

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY

PRYD Gorffennaf – Awst 2024

PRYD O 4 Medi 2024

PRYD Medi 2024


36 / RHESTR WIRIO PACIO

BYDDWCH YN BAROD I FYND! Dyna’r holl brif bethau wedi’u trefnu. Nawr, mae’n bryd meddwl am eich symudiad nesaf. Rydyn ni wedi llunio rhestr wirio gyflym ar gyfer y pethau y bydd angen i chi ddod gyda chi.


37 / RHESTR WIRIO PACIO

RHESTR WIRIO PACIO Byddwch yn gallu casglu llawer o bethau ar ôl cyrraedd, ond dyma ambell syniad i’ch rhoi chi ar ben ffordd: AR GYFER EICH YSTAFELL WELY

AR GYFER Y GEGIN

Dillad

Llestri a chyllyll a ffyrc

Dillad gwely

Sosbenni

Gliniadur

Cynnyrch glanhau

Hangyrs Bocsys storio Argraffydd Ceblau ymestyn Seinyddion

AR GYFER EICH YSTAFELL YMOLCHI Papur tŷ bach Nwyddau ymolchi Cynnyrch glanhau Tywelion a mat bath Basgedi storio

Hanfodion bwyd fel pasta, nwdls sych, ffa, tomatos tun a pherlysiau sych

FYDD ANGEN I CHI DDOD Â... Microdon, tegell na thostiwr

Dewch â rhywbeth i’w fwyta ar y noson gyntaf (neu gael tecawê) Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o fwyd ffres i bara’r dyddiau cyntaf Dylech gael cyflenwad mis o leiaf o unrhyw feddyginiaeth a ragnodwyd i chi Pecyn cymorth cyntaf sylfaenol

Canhwyllau – defnyddiwch oleuadau LED neu oleuadau ‘tylwyth teg’ yn lle hynny

Yn aml gallwch gael gwerslyfrau eich cwrs yn ail law

Anifeiliaid anwes! (Ymddiheuriadau!)

Unrhyw ddeunyddiau papur ac ysgrifennu y gallai fod ei angen arnoch

PETHAU ERAILL Sicrhewch fod gennych ddigon o arian i’ch cynnal tan i’ch benthyciad myfyriwr gyrraedd

Gemau bwrdd neu gonsol gemio ar gyfer nosweithiau gartref gyda’ch cyd-letywyr Lluniau i wneud i’ch ystafell newydd deimlo’n gartrefol

Efallai y byddwch yn teimlo ychydig yn nerfus wrth feddwl am ddechrau yn y brifysgol. Mae hynny’n hollol normal. Y peth pwysig yw eich bod chi’n sylweddoli nad ydych chi ar eich pen eich hun. Bydd llawer o bobl eraill yn teimlo’r un fath. DYMA AMBELL BETH A ALLAI EICH HELPU I BARATOI AR GYFER Y NEWID MAWR:

• Ewch i ymweld â’ch llety newydd i gael ymdeimlad o ble byddwch chi’n byw • Archwiliwch eich dinas neu dref newydd • Chwiliwch am gaffis, bariau a siopau sy’n plesio (mae bach o ymchwil ar y cyfryngau cymdeithasol yn syniad da hefyd) • Sicrhewch eich bod yn gwybod pa ddigwyddiadau a chlybiau sydd ar gael – ar y campws ac oddi arno • Ymunwch â grwpiau ar-lein lle gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr eraill er mwyn i chi allu adnabod ambell wyneb cyfarwydd cyn i chi gyrraedd • Chwiliwch am ‘Paratoi am Fywyd Prifysgol’ ar wefan PDC i gael awgrymiadau ynghylch sut i oroesi a llwyddo yn eich blwyddyn gyntaf yn y brifysgol. WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


39 / CWESTIYNAU CYFFREDIN

CWESTIYNAU CYFFREDIN GWNEUD CAIS AM EICH LLETY

PA FATHAU O LETY SYDD AR GAEL? Mae pob un o’n hystafelloedd yn en-suite ac mae gennym amrywiaeth o fathau ar gyfer y rhan fwyaf o gyllidebau. Y prif fathau yw: • Stiwdios • Ystafelloedd sengl premiwm • Ystafelloedd sengl safonol • Ystafelloedd hygyrch Rydym hefyd yn darparu ar gyfer amrywiaeth eang o ddewisiadau personol lle bynnag y bo modd. Mae’r rhain yn cynnwys: • Fflatiau byw tawelach • Fflatiau di-alcohol • Llety un rhyw • Llety cymuned Gymraeg Os oes gennych ddewis penodol nad yw wedi’i restru uchod, mae croeso mawr i chi gysylltu â ni i drafod.

PRYD GALLA I WNEUD CAIS AM LETY? Cyn gynted ag y byddwch wedi derbyn eich cynnig cadarn gan PDC ac i ni gael eich manylion, byddwn yn cysylltu â chi i gychwyn ar eich cais.

PWY ALL FOD YN WARANTWR I FI? Gall rhiant, gwarcheidwad, neu unrhyw un dros 18 oed fod yn warantwr i chi. Mae’n rhaid bod ganddynt gyfeiriad dilys yn y DU a chyfrif banc.

SUT YDW I’N YMGEISIO? I gael gwybod mwy am wneud cais, ewch i dudalen 34-35 neu chwiliwch am ‘Gwneud cais am lety’ ar wefan PDC.

DDYLWN I WNEUD CAIS YN GYNNAR? Mae’n well gwneud cais yn gynnar gan fod galw mawr am lety yn aml. Os byddwch yn ei gadael tan y funud olaf, efallai na fydd y llety rydych ei eisiau ar gael.

PA WYBODAETH SYDD EI HANGEN ARNAF WRTH WNEUD CAIS? Wrth wneud cais, bydd angen eich Rhif Adnabod Ymgeisydd arnoch a gofynnir i chi am ffi archebu (mae’r ffi’n gwbl ad-daladwy os caiff ystafell ei chanslo’n unol â’n telerau ac amodau neu os na fyddwch yn dod yn fyfyriwr gyda PDC). Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am eich dewisiadau llety, ynghyd â dewisiadau personol eraill.

ALLA I OFYN AM YSTAFELL YN SEILIEDIG AR FY NEWISIADAU PERSONOL? Gallwch. Mae gennym amrywiaeth o opsiynau llety megis ystafelloedd hygyrch, cymuned Gymraeg, un rhyw, di-alcohol a thawel. Rhowch wybod i ni am eich dewisiadau pan fyddwch yn cyflwyno’ch cais, a gwnawn ein gorau i ddarparu ar eich cyfer. WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


40 / CWESTIYNAU CYFFREDIN

FFIOEDD A THALIADAU

OES ANGEN I FI DALU BLAENDAL? Oes. Os ydych chi’n fyfyriwr yn y DU, bydd angen i chi dalu £200 ymlaen llaw i sicrhau eich llety. Bydd y swm hwn yn cael ei dynnu oddi ar gyfanswm eich ffi.

SUT YDW I’N TALU AM FY LLETY? Os dewiswch le mewn llety sy’n eiddo i PDC, rhennir cyfanswm y rhent blynyddol yn dri thaliad hawdd dros y flwyddyn academaidd. Os byddwch yn dewis byw yn un o’n neuaddau partner sy’n cael eu gweithredu gan ddarparwyr preifat, mae’r broses yn debygol o fod yn debyg iawn. Bydd manylion pellach am beth i’w dalu a phryd yn cael eu rhoi i chi pan fydd eich ystafell yn cael ei chadarnhau.

BETH MAE FY RHENT YN EI GYNNWYS? Mae eich ystafell, Wi-Fi a’ch holl filiau cyfleustodau (trydan, gwres a dŵr) wedi’u cynnwys yn eich rhent. Os ydych chi’n byw ar ein campws yn Nhrefforest, bydd gennych fynediad i’n rhaglen Bywyd Preswyl hefyd. Gweler tudalen 16 am fanylion.

FYDD ANGEN I MI DALU AM DRWYDDED TELEDU? Os ydych chi’n bwriadu gwylio’r teledu, bydd angen i chi brynu trwydded.

SYMUD I MEWN

PRYD GALLA I SYMUD I FY NEUADD? Os dewiswch le mewn neuadd sy’n eiddo i PDC, rydym yn aml yn trefnu dyddiadau cychwyn ar wasgar i sicrhau proses symud esmwyth. Byddwn yn anfon y wybodaeth i gyd atoch yn ystod yr wythnosau cyn i’ch contract ddechrau. Os dewiswch fyw yn un o’n neuaddau partner sy’n cael eu gweithredu gan ddarparwyr preifat, mae’r broses yn debygol o fod yn debyg iawn. Bydd eich darparwr yn cadarnhau dyddiadau symud i mewn gyda digon o rybudd.

ALLA I NEWID FY LLETY MYFYRWYR? Os nad ydych chi’n hapus â ble rydych chi’n byw, rhowch wybod i ni, neu’ch darparwr llety, cyn gynted â phosibl. Byddwn yn gwneud ein gorau i’ch symud chi i rywle arall.

BYW MEWN LLETY MYFYRWYR

BETH SY’N CAEL EI DDARPARU I FYFYRWYR SY’N BYW MEWN NEUADDAU? Mantais fawr byw mewn neuadd yw bod y pris rydych chi’n ei dalu yn hollgynhwysol – yn cynnwys cyfleustodau, Wi-Fi, cynnal a chadw a gwasanaeth diogelwch 24 awr. Bydd yr union ddodrefn a ddarperir yn dibynnu ar ble rydych chi’n dewis byw a pha fath o ystafell rydych chi’n ei dewis, ond yn safonol, bydd gan bob ystafell wely, desg a chadair a lle storio. Os yw’n ystafell en-suite, bydd ynddi ystafell gawod/wlyb, toiled a sinc. Bydd cegin ar gael i’w rhannu hefyd er mwyn i chi allu coginio pryd blasus neu ffa ar dost! WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


41 / CWESTIYNAU CYFFREDIN

OES UNRHYW GYMORTH I FYFYRWYR AG ANABLEDDAU NEU SALWCH CRONIG? Rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw gymorth arnoch i fyw mewn llety. Rydym yn gweithio’n agos gyda Thîm Lles ac Anabledd PDC i sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth dda ac yn cael profiad gwych fel myfyriwr.

OES RHAID I FI FOD GARTREF ERBYN AMSER PENODOL BOB NOS? Nac oes, rydych chi’n rhydd i fynd a dod fel y dymunwch.

GA I DDOD Â BEIC? Yn sicr! Mae mannau storio beiciau yn y neuaddau lle gallwch gadw eich beic am ddim. Rydym yn awgrymu eich bod yn dod â chlo gyda chi.

GA I DDOD Â CHAR? Cewch. Os ydych yn byw ar gampws Trefforest bydd angen i chi wneud cais am docyn parcio preswyl. Mae galw mawr am y rhain fel arfer felly gall opsiynau parcio fod yn gyfyngedig. Os ydych chi’n byw yng Nghaerdydd neu Gasnewydd, bydd angen i chi drefnu eich trwydded parcio eich hun. Mae’n syniad da ymchwilio i’r costau ymlaen llaw gan fod parcio yn gallu bod yn ddrud.

ALLA I GAEL YMWELWYR DROS NOS? Wrth gwrs, gallwch gael rhywun i aros am hyd at 3 noson y mis. bydd yn rhaid i chi eu cofrestru. Rhaid i bob gwestai gydymffurfio â rheolau’r math o fflat rydych chi’n byw ynddo, er enghraifft, os ydych chi’n byw mewn fflat i fenywod yn unig, dylai eich gwestai dros nos fod yn fenyw.

SUT YDW I’N GADAEL CONTRACT LLETY MYFYRWYR? Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer ystafell, naill ai gyda PDC neu ddarparwr preifat, rydych yn ymrwymo’n gyfreithiol i gontract. Bydd yn nodi sut y gallwch gael eich rhyddhau o gontract heb gosb ariannol. Mae rhagor o fanylion ar dudalen 29.

GWYLIAU A DIWEDD TENANTIAETH

OES ANGEN I FI WAGIO FY YSTAFELL DROS Y GWYLIAU? Nid dros gyfnod y Pasg a’r Nadolig. Fodd bynnag, bydd angen i chi glirio’ch ystafell cyn gwyliau’r haf oni bai bod gennych gontract 51 wythnos neu estyniad y cytunwyd arno.

ALLA I AROS MEWN NEUADD DROS YR HAF? Gallwch, os oes gennych gontract 51 wythnos neu estyniad, gallwch aros mewn neuadd dros wyliau’r haf. Os byddwch yn gwneud cais am estyniad, bydd hyn yn golygu cost ychwanegol.

OES ANGEN I FI LANHAU FY LLETY PAN FYDDAF YN SYMUD ALLAN? Oes, bydd angen i chi glirio’ch holl eiddo o’ch ystafell wely a’r mannau cymunedol. Dylai’r llety fod yn lân ac yn daclus cyn i chi adael.

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


42 / CYSYLLTIADAU DEFNYDDIOL

CYSYLLTIADAU DEFNYDDIOL CYSYLLTIADAU DEFNYDDIOL

LLETY PDC G decymru.ac.uk/llety E accom@southwales.ac.uk Ff 01443 482 845

GWASANAETHAU IECHYD PDC G decymru.ac.uk/iechyd E health@southwales.ac.uk

CYNGOR MYFYRWYR PDC G decymru.ac.uk/cyngor

ARIAN MYFYRWYR PDC G decymru.ac.uk/arian E money@southwales.ac.uk Ff 01443 483778

LLES AC ANABLEDD PDC G decymru.ac.uk/lles

ADNODDAU DEFNYDDIOL

COD SAFONAU CENEDLAETHOL G www.nationalcode.org

RHENTU DOETH CYMRU G www.rhentudoeth.llyw.cymru/

COD LLETY MYFYRWYR G www.thesac.org.uk

UNIBUDDY Ewch i decymru.ac.uk/sgwrsio

CANLLAWIAU COSTAU BYW PDC G decymru.ac.uk/arian

CYNGOR PDC AR BARATOI AR GYFER BYWYD PRIFYSGOL G decymru.ac.uk/bywydmyfyrwyr

RHWYDWEITHIAU PDC Cysylltwch â myfyrwyr eraill cyn ymuno â Phrifysgol De Cymru #CroesoiPDC


RHODDODD PDC YMDEIMLAD O DEULU Dezire Mambul Myfyriwr graddedig PDC

Mae’r wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir adeg ei argraffu (Medi 2023) ond gall newid. I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ffoniwch ni neu ewch i’n gwefan: www.decymru.ac.uk Fel rhan o’i hymrwymiad i’r Gymraeg, mae’r Brifysgol yn darparu gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. I gael gwybod mwy, ewch i: www.decymru.ac.uk neu e-bostiwch: cymraeg@decymru.ac.uk Cynhyrchwyd gan Adran Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr Prifysgol De Cymru Dylunio: True North Mae Prifysgol De Cymru yn elusen gofrestredig. Rhif cofrestru 1140312.

WWW.DECYMRU.AC.UK/LLETY


FE WELWN NI CHI CYN BO HIR!

Rydym yn gobeithio y bydd y canllaw hwn yn adnodd defnyddiol wrth i chi drefnu popeth. P’un a ydych yn dewis byw yng Nghaerdydd, Casnewydd, neu Bontypridd, rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i PDC!

WWW.DECYMRU.AC.UK


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.