

PROSES UCAS
MEHEFIN-MEDI
YMCHWILIO
Gyda dros 36,000 o gyrsiau ar gael mewn cannoedd o brifysgolion, gall penderfynu ar hyd at bump dewis fod yn waith caled.
Mae'n bwysig dechrau'n gynnar. Y ffordd orau o ymchwilio i brifysgolion yw mynd i Ddiwrnodau Agored. Gallwch weld dyddiadau ein Diwrnodau Agored ni a neilltuo lle ar-lein yn: www.decymru.ac.uk/ diwrnodauagored
IONAWR-MAI CYNIGION
MEDI-IONAWR
YMGEISIO
Fel arfer, gwneir ceisiadau i UCAS rhwng Medi ac Ionawr, gyda'r rhan fwyaf o'r broses hon yn cael ei chwblhau yn eich ysgol neu goleg.
Mae'r datganiad personol yn un o rannau pwysicaf y cais. Mae tiwtoriaid prifysgolion yn dibynnu ar y wybodaeth hon wrth benderfynu a gaiff darpar fyfyrwyr eu derbyn, felly mae angen iddo fod yr adlewyrchiad gorau posibl ohonoch chi. Mae rhagor o arweiniad ar ysgrifennu eich datganiad personol yn y llyfryn hwn.
Wedi i chi wneud cais, byddwch yn dechrau derbyn cynigion. Dyma’r mathau o gynigion sy’n cael eu gwneud:
• Mae cynnig diamod yn gynnig o le ar gwrs prifysgol lle rydych eisoes wedi bodloni'r holl feini prawf derbyn.
• Mae cynnig amodol yn dibynnu arnoch chi’n bodloni meini prawf penodol, fel graddau penodol neu bwyntiau tariff UCAS. Dyma’r math o gynnig mae’r rhan fwyaf o ymgeiswyr yn ei gael. Yn dibynnu ar y cwrs, efallai y bydd rhai prifysgolion yn eich gwahodd i ddod i gyfweliad neu glyweliad cyn iddyn nhw wneud eu penderfyniad.
• Mae aflwyddiannus yn golygu nad ydych wedi cael cynnig lle ar y cwrs prifysgol.
• Mae newid cwrs yn golygu eich bod wedi cael cynnig cwrs gwahanol i'r un y gwnaethoch gais amdano, fel arfer oherwydd nad yw'r graddau a ragwelir i chi/eich pynciau’n cyd-fynd â'r rhai ar gyfer eich dewis gwreiddiol.
DERBYN
Wedi i’r cynigion eich cyrraedd, bydd angen i chi benderfynu pa un rydych chi’n ei dderbyn yn gadarn, sef y cynnig rydych yn ei dderbyn fel eich dewis cyntaf. Yn ogystal, gallwch dderbyn cynnig yswiriant neu wrth gefn (eich ail ddewis), rhag ofn na chewch y graddau sydd eu hangen ar gyfer eich dewis cyntaf. Mae'n bwysig bod y gofynion derbyn ar gyfer eich cwrs yswiriant yn is na gofynion eich cwrs derbyn cadarn. Mae gennych tan ddechrau mis Mai i ymateb i'r holl gynigion.
Gall gwneud cais i brifysgol deimlo fel proses ddigon brawychus, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth sy'n digwydd, a phryd. Dyma drosolwg defnyddiol i'ch helpu i gadw trefn ar bethau.
GWNEUD CAIS AM GYLLID MYFYRWYR
CHWEFROR-MEHEFIN AWST DIWRNOD CANLYNIADAU A CHLIRIO
Gall myfyrwyr o Gymru wneud cais am gyllid myfyrwyr drwy: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk. Gall myfyrwyr o Loegr wneud cais am gyllid myfyrwyr drwy: www.gov.uk/student-finance
UCAS EXTRA
Os na chewch chi unrhyw gynigion a chithau wedi dewis pum prifysgol, neu os byddwch yn dewis gwrthod pob cynnig a gewch, bydd cyfle i ddefnyddio UCAS Extra. Dyma ail gyfle i rai ymgeiswyr nad oedden nhw’n llwyddiannus gyda'u ceisiadau cychwynnol neu rai sydd wedi newid eu meddwl. Dim ond i sefydliadau sydd â lleoedd gwag o hyd y byddwch yn gallu gwneud cais. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ucas.com.
Os na fyddwch chi wedi cyflawni’r gofynion derbyn ar gyfer eich dewis cadarn a’ch dewis yswiriant, a'u bod wedi eich gwrthod, neu os cynigir cwrs arall i chi nad ydych ei eisiau, gallwch ymuno â system o'r enw Clirio. Mae hyn yn caniatáu i ymgeiswyr sydd heb eu lleoli wneud cais am le mewn prifysgol sydd â lleoedd gwag o hyd ar gwrs o'u dewis a chael eu hystyried.
DYDDIADAU CAU UCAS
2 HYDREF
Dyddiad cau Conservatoire.
15 HYDREF
Dyddiad cau ar gyfer cyrsiau fel meddygaeth, deintyddiaeth a milfeddygaeth, a cheisiadau i Rydychen neu Gaergrawnt.
29 IONAWR
Dyddiad cau ar gyfer ystyriaeth gydradd, ar gyfer cyrsiau'n dechrau ym mis Medi 2025.

RYDYCH CHI
PARATOI
3 Dim ond un datganiad personol y cewch chi ei ysgrifennu, felly cofiwch wneud rhestr o'r cyfan rydych chi am ei gynnwys ynddo.
3 Cofiwch y bydd yr un datganiad yn cael ei anfon i bob prifysgol rydych chi'n gwneud cais iddi felly dylech osgoi enwi prifysgolion yn eich datganiad.
3 Dechreuwch ddrafftio eich datganiad personol yn gynnar i sicrhau bod gennych ddigon o amser i ddarllen drosto a'i olygu.
3 Ymchwiliwch! Ymchwiliwch! Ymchwiliwch! Edrychwch ar wefannau gwahanol brifysgolion i weld pa sgiliau a phriodoleddau maen nhw'n chwilio amdanyn nhw.
BETH I’W GYNNWYS
3 Bydd angen i chi egluro pam mae gennych ddiddordeb yn y maes pwnc penodol hwn.
3 Sut mae eich astudiaethau presennol a blaenorol yn berthnasol i'r cwrs rydych wedi'i ddewis.
3 Sut mae eich swyddi a'ch profiad gwaith blaenorol yn berthnasol i'ch sgiliau a'r cwrs rydych wedi'i ddewis.
3 Esboniwch unrhyw hyfforddiant rydych wedi'i dderbyn a’ch cyflawniadau.
SUT I’W YSGRIFENNU
3 Y cyflwyniad a'r ffordd rydych chi'n dechrau eich datganiad personol sy’n penderfynu a yw'r darllenydd am barhau i'w ddarllen.
3 Rhowch strwythur i’ch datganiad personol a byddwch yn glir ac yn gryno.
3 Gwiriwch ramadeg, sillafu ac atalnodi.
3 Pwysleisiwch eich ymrwymiad, eich brwdfrydedd a’ch sgiliau.
MANYLION TECHNEGOL
3 Peidiwch â chopïo! Mae systemau meddalwedd UCAS yn canfod a yw datganiad wedi'i gopïo a byddan nhw’n rhoi gwybod i'r prifysgolion rydych chi’n gwneud cais iddyn nhw, a allai olygu eich bod yn llai tebygol o gael eich derbyn.
3 Bydd angen i chi ysgrifennu 47 llinell o destun ar y mwyaf, sy'n cyfateb i 4,000 o gymeriadau (gan gynnwys bylchau gwag).
YMCHWILIO: BETH I’W YSTYRIED
SEFYDLIAD TEITL CWRS/ TEITLAU CYRSIAU
Prifysgol De Cymru
DIWRNODAU AGORED
YSGOLORIAETH/ BWRSARIAETH AR GAEL?
YSGOLORIAETHAU A
BWRSARIAETHAU YN PDC:

GOFYNION MYNEDIAD
DATGANIAD PERSONOL
Yn aml, bydd myfyrwyr yn teimlo mai’r datganiad personol yw rhan fwyaf heriol eu cais UCAS. Gall fod yn anodd gwasgu'ch holl gyflawniadau a phrofiadau i ddim ond 47 llinell neu 4,000 o gymeriadau.
MAP MEDDWL
Cyn i chi ddechrau gweithio ar eich datganiad personol, mae angen i chi ystyried beth rydych chi am ei gynnwys a'r hyn rydych chi am i'ch prifysgolion dewisol ei wybod amdanoch chi. Mapiwch eich syniadau, cyflawniadau a phrofiadau isod.
E.e. wedi lansio clwb gwaith cartref amser cinio gyda chyfoedion
PAM DYLAI PRIFYSGOL
GYNNIG LLE
I FI?
Meddyliwch am eich astudiaethau ar hyn o bryd: Oes yna rai elfennau penodol rydych chi'n eu mwynhau?
Oes meysydd yr hoffech eu hastudio ymhellach?
Beth sy'n apelio fwyaf atoch chi am y cwrs rydych wedi'i ddewis? Pam wnaethoch chi ei ddewis?
I ddechrau drafftio'ch datganiad personol, defnyddiwch eich syniadau o'r dudalen flaenorol i ysgrifennu atebion byr i'r cwestiynau canlynol.
Oes gennych chi yrfa mewn golwg? A yw hyn yn gysylltiedig â'r cwrs yr hoffech chi ei astudio?
Sut rydych chi'n dangos eich angerdd dros eich pwnc? Pa ddarllen, cyrsiau ar-lein, gweminarau neu bodlediadau ychwanegol rydych chi wedi'u mwynhau?
CANLLAW UCAS PDC
PMPau
COFIWCH EICH PMP
Ystyriwch sut mae eich profiadau a’ch cyflawniadau yn berthnasol i’r cwrs prifysgol rydych chi eisiau ei astudio.
PROFIADAU
Beth ydych chi wedi'i wneud, ei gyflawni, ei ddarllen, neu gael profiad ohono?
MANTEISION
Pa fanteision ddaeth i chi o’r profiadau hyn?
PERTHNASOL
Beth yw perthnasedd hyn oll i’r cwrs rydych chi’n gwneud cais amdano?
PROFIADAU:
MANTEISION:
PERTHNASOL:
PROFIADAU:
MANTEISION:
PERTHNASOL:
PROFIADAU:
MANTEISION:
PERTHNASOL:
PROFIADAU:
MANTEISION:
PERTHNASOL:
MANTEISION:
PERTHNASOL:
PROFIADAU:
MANTEISION:
PERTHNASOL:
PROFIADAU:
MANTEISION:
PERTHNASOL:
PROFIADAU:
MANTEISION:
PERTHNASOL:
PROFIADAU:
MANTEISION:
PERTHNASOL:
PROFIADAU:
MANTEISION:
PERTHNASOL:
NODIADAU YCHWANEGOL
Os hoffech gael help ac arweiniad gyda'ch datganiad personol neu’ch cais UCAS, cysylltwch â ni. E-bostiwch ysgolionacholegau@decymru.ac.uk neu chwiliwch amdanon ni ar Unibuddy – chwiliwch 'Siarad â Myfyrwyr' yn www.decymru.ac.uk
CANLLAW UCAS PDC
DEWCH I ADNABOD PDC
Rydyn ni’n edrych ymlaen at gwrdd â chi a'ch croesawu i PDC! Mae rhestr o Ddiwrnodau Agored ar ein gwefan: www.decymru.ac.uk
Gallwch gysylltu â ni a dysgu mwy amdanon ni mewn sawl ffordd. Trwy ein gwefan, gallwch sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych ynghylch astudio yn PDC.

Gallwch siarad â myfyrwyr PDC a staff academaidd ar-lein ar unrhyw adeg. Chwiliwch 'Siarad â Myfyrwyr' yn www.decymru.ac.uk
SGANIWCH I
NEILLTUO LLE MEWN DIWRNOD AGORED

DIWRNODAU AGORED: BETH YDW I EISIAU EI WYBOD?

Nodwch ambell gwestiwn yr hoffech eu gofyn yn Niwrnod Agored y Brifysgol, fel cwestiynau am strwythur y cwrs neu ddulliau asesu, achrediadau a pha yrfaoedd mae graddedigion wedi mynd iddyn nhw, neu'r profiad gwaith sydd ar gael fel rhan o'r cwrs.
BYWYD MYFYRWYR

Yn PDC byddwch yn gwneud ffrindiau oes, yn rhoi cynnig ar lawer o bethau newydd ac yn dod yn fwy annibynnol nag erioed o'r blaen. Byddwch yn rhan o amgylchedd cefnogol ar gyfer astudio a byw, lle mae myfyrwyr newydd yn teimlo'n gartrefol yn gyflym.
Er ein bod yn un o'r prifysgolion mwyaf yn y DU, fe sylwch fod darlithwyr yn adnabod pob un o'u myfyrwyr wrth eu henw. Mae gennym gymuned amrywiol a chroesawgar, felly byddwch yn cwrdd â phobl debyg iawn i chi, sy'n rhannu eich diddordebau, gwerthoedd a chymhellion.
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y diweddaraf am yr hyn sy'n digwydd yn PDC. #TeuluPDC


RYDYN NI AR TIKTOK
