Cyrsiau Prifysgol yn y Coleg 2024-25

Page 1

DECHRAU DYFODOL GWELL HEDDIW

Caerdydd | Casnewydd | Pontypridd CYRSIAU PRIFYSGOL YN Y COLEG 2024

Y COLEG MERTHYR TUDFUL

Mae’r Coleg yn cynnal pum diwrnod agored bob blwyddyn, gan gynnwys Digwyddiad Agored AU. Hefyd, gall myfyrwyr fynd i Ddiwrnod Agored

Rhithwir 24/7 i gael gwybod mwy am gyrsiau, gwylio fideos, mynd ar deithiau rhithwir a gwrando ar dystebau dysgwyr. Gallwch ddod o hyd i’r cyfan sydd ei angen arnoch i ddewis y cwrs iawn i chi.

Ewch i: www.merthyr.ac.uk

COLEG PENYBONT

COLEG GWENT

Gallwch fynd i ddigwyddiadau agored lle byddwch yn gallu gweld ein cyfleusterau, cwrdd â thiwtoriaid a chael gwybod mwy am ein cyrsiau. Bydd staff o’n timau Gwasanaethau Myfyrwyr, Anghenion Dysgu Ychwanegol a Lles Myfyrwyr yn gallu ateb eich cwestiynau ynglŷn â chyllid, bywyd myfyriwr yn y Coleg a’r cymorth sydd ar gael i chi. Ewch i: www.bridgend.ac.uk

COLEG CAERDYDD A’R FRO

Mae CAVC yn cynnal Digwyddiadau Agored rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Ewch i cavc.ac.uk/cy/openevenings i gael manylion llawn a dyddiadau. Gallwch hefyd fynd i Ddiwrnod Agored Rhithwir yn y Coleg ar unrhyw ddiwrnod ac unrhyw amser i gael atebion i’ch cwestiynau a dysgu am y cyrsiau a’r cymorth sydd ar gael. Ewch i: www.cavc.ac.uk

COLEG Y CYMOEDD

Mae ein Digwyddiadau Agored yn ffordd wych o ddysgu mwy am ein cyrsiau a'r yrfa rydych chi ei heisiau. Mae ein staff arbenigol ar gael yn ystod bob digwyddiad. Mae cyngor ac arweiniad ar gael drwy gydol y flwyddyn, cysylltwch â ni a darganfod mwy am feysydd pwnc. Ewch i: www.cymoedd.ac.uk

Mae’r Coleg yn cynnal cymysgedd o ddigwyddiadau rhithwir ac ar y campws. Gallwch fynd ar daith o amgylch ei gampysau, cael gwybod am feysydd pwnc a dysgu am gymorth, cyllid a bywyd myfyrwyr yn y coleg. Gallwch glywed profiadau myfyrwyr eraill hefyd. Ewch i: www.coleggwent.ac.uk

COLEG GWYR ABERTAWE

Mae'r Coleg yn cynnal nosweithiau agored a digwyddiadau dilyniant drwy gydol y flwyddyn. Gallwch ymweld â'n cyfleusterau, mynd ar daith o amgylch ein campysau a Chanolfan y Brifysgol a siarad â staff i helpu i ddod o hyd i'r cwrs iawn i chi. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein Cyrsiau Addysg Uwch drwy wneud ymholiad ar www.gcs.ac.uk/cy/he-enquiry-form neu dewch i mewn i'r Coleg i siarad ag aelod o'n Tîm AU. Ymweld : www.gcs.ac.uk

GRWP COLEGAU NPTC

Mae’r Coleg yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn. Mae staff arbenigol wrth law i roi cyngor ac arweiniad arbenigol ar gyrsiau, ceisiadau a bywyd coleg. Ewch i: www.nptcgroup.ac.uk www.decymru.ac.uk

| 3 2 | Prifysgol De Cymru
DIGWYDDIADAU AGORED

CYRSIAU PRIFYSGOL YN Y COLEG

Os hoffech chi yrfa gyffrous yn gwneud rhywbeth rydych chi’n dwlu arno, astudiwch gwrs PDC o gysur eich coleg lleol. Gallwch newid eich yfory.

AR EICH CARREG DRWS

Mae PDC yn gweithio gyda cholegau ledled De Cymru felly gallwch astudio cwrs prifysgol yn y coleg. Gallech arbed amser ac arian, parhau i weithio, cydbwyso bywyd teulu ac aros yn nes at gartref.

Dewch o hyd i goleg ar dudalen 6.

CYRSIAU HYBLYG

Mae’n hawdd astudio o amgylch eich bywyd. Mae llawer o gyrsiau llawnamser neu ran-amser ar gael, ac mae rhai yn cael eu darparu yn ystod y dydd ac eraill gyda’r nos.

Dewch o hyd i gwrs sy'n dechrau ar dudalen 20.

AR GAEL YN HYGYRCH

DROS BEN

Os nad oes gennych y gofynion mynediad i astudio gradd prifysgol, gallwch astudio HNC, HND neu Radd Sylfaen yn gyntaf. Mae ein colegau partner hefyd yn cynnig cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch. Darllenwch fwy ar dudalen 16.

CYMORTH ARIANNOL

Gall cost astudio fod yn llai nag rydych yn ei feddwl. Mae myfyrwyr Cymru sy’n astudio cwrs addysg uwch yn elwa ar gymorth ariannol, ac efallai byddwch yn gymwys am gymorth gyda ffioedd dysgu neu gostau byw.

Darllenwch fwy ar dudalen 14.

GYRFAOEDD CYFFROUS

Gall cymhwyster prifysgol arwain at well cyfleoedd gwaith. Mae llawer o gyrsiau yn cynnwys lleoliad gwaith ac fel myfyriwr PDC gallwch fanteisio ar ein gwasanaethau gyrfaoedd. Darllenwch fwy ar dudalen 11.

TEULU PDC

P’un a ydych chi’n dychwelyd i ddysgu, neu’n parhau o’r ysgol neu’r coleg, bydd croeso i chi i deulu PDC.

Darllenwch fwy ar dudalen 12.

www.decymru.ac.uk | 5 4 | Prifysgol De Cymru

COLEGAU PARTNER

Y COLEG MERTHYR TUDFUL

Gall myfyrwyr astudio cyrsiau HND a Graddau Sylfaen, neu raddau Anrhydedd a chymwysterau proffesiynol. Mae pynciau’n cynnwys y Diwydiannau Creadigol, Busnes, Cyfrifiadura a TG, Gofal, Saesneg a Hanes, Gwasanaethau Cyhoeddus a Chwaraeon. Mae’r Coleg yn cynnig cyfleusterau, addysg, cymorth a chysylltiadau rhagorol â chyflogwyr. Mae myfyrwyr hefyd yn elwa ar niferoedd bach mewn dosbarthiadau. Darllenwch y rhestr cyrsiau ar dudalen 22.

01685 726 000 www.merthyr.ac.uk

COLEG PENYBONT

Mae'r Coleg yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau addysg uwch, o HNC i raddau Anrhydedd a chymwysterau proffesiynol. Mae cannoedd o fyfyrwyr yn dewis astudio cwrs PDC gyda ni bob blwyddyn, yn llawn amser neu'n rhan-amser, mewn pynciau sy'n cynnwys Amaethyddiaeth a Bywyd Gwyllt, Gofal Anifeiliaid, Astudiaethau Plentyndod, Cyfiawnder Troseddol, Peirianneg, Ceffylau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Garddwriaeth, Cerddoriaeth, Seicoleg, Gwasanaethau Cyhoeddus ac Argyfwng, ac Addysgu ac Addysg.

Darllenwch restr y cwrs ar dudalen 28.

01656 302 302

www.bridgend.ac.uk

COLEG Y CYMOEDD

Wedi’i leoli ar draws pedwar campws, mae’r Coleg yn cynnig addysg, cysylltiadau diwydiannol ac opsiynau astudio llawn-amser a rhan-amser rhagorol. Gall myfyrwyr astudio HND, Gradd Sylfaen, Gradd Anrhydedd neu hyfforddiant addysgu. Mae pynciau’n cynnwys Busnes, Celfyddydau Cynhyrchu Creadigol, Llunio Gwisgoedd, Ffotograffiaeth, Celf a Dylunio Gemau, Addysg, Dysgu a Datblygu, TGCh a Thirfesureg. Darllenwch y rhestr cyrsiau ar dudalen 26.

01443 662 800

www.cymoedd.ac.uk

GRWP COLEGAU CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Mae’r Coleg yn ymfalchïo mewn cynnig mwy nag addysg. Caiff myfyrwyr eu haddysgu mewn grwpiau bach ac maen nhw’n derbyn profiad dysgu personol. Mae gan y Coleg gampysau yng Nghastell-nedd, Afan, Aberhonddu, Y Drenewydd a Llandarcy. Mae’n cynnig cyrsiau ym maes Busnes, Astudiaethau

Plentyndod, Camddefnyddio Sylweddau ac Addysg. Darllenwch y rhestr cyrsiau ar dudalen 21.

01639 648 000

www.nptcgroup.ac.uk

COLEG CAERDYDD A'R FRO

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cynnig cymwysterau mewn partneriaeth â phrifysgolion mewn llawer o bynciau, o HND i TAR. Mae’r Coleg yn cynnig cymorth eithriadol, dull personol o addysgu, a chyfleusterau sy’n efelychu amgylcheddau go iawn. Mae cyrsiau’n diwallu anghenion cyflogwyr ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer eu gyrfa.

Darllenwch y rhestr cyrsiau ar dudalen 30.

02920 250 250

cavc.ac.uk

COLEG GWENT

Mae Coleg Gwent yn ymdrechu i sicrhau bod astudiaethau prifysgol ar gael i bawb drwy gynnig amrywiaeth eang o opsiynau addysg uwch i ddysgwyr, gan gynnwys Graddau Sylfaen, HND, TAR ac ategion BSc, gan ddarparu ar gyfer mwy na 600 o fyfyrwyr PDC ar drefniant rhan-amser neu lawnamser. Mae myfyrwyr yn elwa ar gyfleusterau rhagorol, staff addysgu profiadol a chysylltiadau sefydledig â chyflogwyr. Cyflwynir cyrsiau ar draws pum campws yn Sir Fynwy, Torfaen, Blaenau Gwent, Casnewydd a Chaerffili. Nid oes angen ymgeisio trwy UCAS ac anogir ceisiadau uniongyrchol. Darllenwch y rhestr cyrsiau ar dudalen 24.

01495 333 777

www.coleggwent.ac.uk

COLEG GWYR ABERTAWE

Mae’r Coleg yn darparu cyrsiau addysg uwch o safon. Mae ei Ganolfan Prifysgol bwrpasol i fyfyrwyr ar gyrsiau lefel uwch yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, lyfrgell ac ystafell gyffredin. Mae cyrsiau’n cynnwys Busnes, Addysg, Cyfiawnder Troseddol a Gwyddoniaeth. Darllenwch y rhestr cyrsiau ar dudalen 20.

01792 284 000

www.gcs.ac.uk

PRIFYSGOL DE CYMRU

Gyda rhestr hir o gyrsiau i ddewis o’u plith, mae rhywbeth i bawb. Mae cwrs gyda PDC yn fwy na gradd. Rydym yn creu graddedigion sy’n barod am y dyfodol. Gallwch ddewis astudio drwy un o’n colegau partner neu’n uniongyrchol gyda’r Brifysgol, gan wneud dysgu'n hynod o hygyrch. Darllenwch fwy am PDC ar dudalen 8.

03455 767 778

www.decymru.ac.uk

www.decymru.ac.uk | 7 6 | Prifysgol De Cymru

PRIFYSGOL

Mae gan PDC gampysau yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phontypridd. Os byddwch yn ategu’ch cymhwyster i radd Anrhydedd gyda ni, gallech astudio mewn un o’n campysau a bod yn gymwys ar gyfer ein bwrsariaeth dilyniant gwerth £1,000.

PDC PONTYPRIDD

PDC Pontypridd yw ein campws mwyaf sy’n cynnwys dau safle: Trefforest a Glyn-taf. Wedi’u hamgylchynu gan fannau gwyrdd agored, mae ein myfyrwyr yn dwlu ar yr awyrgylch cymunedol. Mae popeth sydd ei angen arnoch ar gael ar y campwseich dosbarthiadau, y llyfrgell, Undeb y Myfyrwyr, caffis a bariau. www.decymru.ac.uk/pontypridd

PDC CAERDYDD

Mae PDC Caerdydd yng nghanol y ddinas - lleoliad perffaith ar gyfer ein myfyrwyr y diwydiannau creadigol. Byddwch hefyd yn darganfod mannau astudio creadigol, y llyfrgell ac Undeb y Myfyrwyra’r cyfan mewn un adeilad nodedig. www.decymru.ac.uk/caerdydd

PDC CASNEWYDD

Mae PDC Casnewydd yn nghanol y ddinas. Mae’n un o adeiladau mwyaf eiconig y Brifysgol ac ni allai fod mewn lleoliad gwell i allu manteisio ar fywyd y ddinas. Mae llety’r myfyrwyr ychydig o daith gerdded i ffwrdd, ac mae Friars Walk gyferbyn â’r campws – sydd llond ei ben â siopau, barau a bwytai.

www.decymru.ac.uk/casnewydd

CYNGOR GAN PDC

Mae Tîm Recriwtio Myfyrwyr PDC ar gael i’ch helpu. Os oes gennych gwestiynau ynglŷn ag astudio yn y coleg neu’r Brifysgol, mae croeso i chi gysylltu â ni.

E-bostiwch: ysgolionacholegau@decymru.ac.uk

www.decymru.ac.uk | 9 8 | Prifysgol De Cymru

YFORY LLWYDDIANNUS

Mae cwrs prifysgol yn fuddsoddiad yn eich dyfodol. Gall wella eich rhagolygon gyrfa, ac ar gyfer rhai swyddi mae gradd yn hanfodol. Gallwn eich helpu i lwyddo a chyflawni eich potensial llawn.

CEFNOGAETH GYRFAOEDD

Gall ein tîm Gyrfaoedd PDC eich helpu i ddod o hyd i gyfleoedd a bod yn barod i fanteisio arnynt. Bydd y tîm yn eich helpu i ystyried eich opsiynau gyrfa a sut i ddatblygu'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch. Maen nhw hefyd yn cynnig cymorth ymarferol i ddod o hyd i leoliadau gwaith, cwblhau ceisiadau am swyddi ac ymarfer technegau cyfweld. Mae gan ein hadnoddau arlein bopeth sydd ei angen arnoch i gynllunio ar gyfer yfory.

Ewch i www.decymru.ac.uk/gyrfaoedd

LLEOLIADAU GWAITH

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio ar y cyd â chyflogwyr. Credwn fod profiad gwaith yn amhrisiadwy, a dyna pam mae ein Graddau Sylfaen yn cynnwys cyfleoedd lleoliad gwaith fel rhan ohonynt. Mae hyn yn caniatáu ichi roi theori ar waith ac mae'n edrych yn wych ar eich CV.

GWOBR GRAD EDGE

Y wobr hon yw eich cyfle i gael eich cydnabod am ddatblygu'r sgiliau neu'r priodoleddau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi wrth iddynt chwilio am raddedigion i’w recriwtio. Bydd cymryd rhan yn ystod eich astudiaethau yn helpu i roi mantais gystadleuol i chi a sefyll allan pan fyddwch chi'n dechrau chwilio am swydd.

MENTER MYFYRWYR

P'un a ydych am ddod yn weithiwr mentrus, gweithio'n llawrydd neu gael syniad busnes newydd, gall Menter Myfyrwyr eich helpu i wireddu'ch uchelgais. Gallwch feithrin yr hyder i ddechrau eich busnes eich hun drwy gymorth a mentora un-i-un, neu gyflwyno cynnig am hyd at £1,000 i roi hwb i’ch syniad busnes yn y Ffau Syniadau Disglair. Mae yna hefyd ddigwyddiadau a gweithdai, gan gynnwys Academi Gweithwyr Llawrydd PDC flynyddol sy'n eich arwain trwy'r camau sydd eu hangen i roi'ch syniad busnes ar waith.

RHWYDWAITH75

Mae Rhwydywaith75 yn gynllun gradd noddedig pum mlynedd sy'n galluogi myfyrwyr i Weithio, Ennill a Dysgu! Mae yna lu o fuddion ariannol a chyfradd cyflogaeth 100% hefyd. Yn ystod y tymor, mae myfyrwyr yn mynychu eu lleoliad tri diwrnod yr wythnos ac yn dod i’r Brifysgol i astudio ddau ddiwrnod yr wythnos. Yn ystod cyfnodau gwyliau mae myfyrwyr yn mynychu eu lleoliad 5 diwrnod yr wythnos. Mae myfyrwyr yn derbyn bwrsariaeth ddi-dreth o £6,500 sy'n cynyddu £1,000 bob blwyddyn academaidd.

Ar y cyd â Phrifysgol De Cymru, mae pob myfyriwr yn elwa o rai o'r graddau gorau a gynigir, y cyfleusterau dysgu diweddaraf, ac addysgu rhagorol.

Ewch i: www.decymru.ac.uk/rhwydwaith75

GRADDIO

Pan fyddwch wedi cwblhau eich Gradd Sylfaen, HNC, HND, CertHE neu radd Anrhydedd yn llwyddiannus, gallwch fynychu seremoni raddio. Gwahoddir myfyrwyr sy'n astudio yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, Coleg y Cymoedd, Coleg Gwent neu'r Coleg Merthyr Tudful i seremoni raddio ym Mhrifysgol De Cymru. Bydd y rhai sy’n astudio yng Ngholeg Penybont a Grŵp Colegau NPTC yn cael eu gwahodd i seremoni a gynhelir gan eu coleg.

Ewch i: www.decymru.ac.uk/graddio

CEFNOGAETH GAN PDC A'CH COLEG

• Cymorth i ysgrifennu CV

• Paratoi ceisiadau ac ar gyfer cyfweliadau

• Cyngor ar ddewisiadau gyrfa neu astudiaethau pellach

• Cynghorion profiad gwaith

• Cefnogaeth i chwilio am waith

• Help i weithio ac astudio dramor

• Hyfforddiant gyrfa a magu hyder

• Help i ddod yn hunangyflogedig neu ddechrau busnes

• Mynediad at adnoddau ac offer cyflogadwyedd ar-lein

• Mynediad at ystod o weminarau sy'n canolbwyntio ar recriwtio

www.decymru.ac.uk | 11 10 | Prifysgol De Cymru

PDC

Fel myfyriwr sy’n astudio cwrs Prifysgol De Cymru (PDC) yn eich coleg lleol, byddwch yn cael y gorau o’r ddau fyd. Gallwch ddefnyddio’r cymorth a’r cyfleusterau sydd ar gael gan y coleg, yn ogystal â PDC.

CYMORTH DYSGU

Mae ein colegau partner yn cynnig gwasanaethau a chymorth amrywiol, a byddwch hefyd yn cael defnyddio’r adnoddau sydd gan PDC. Fel myfyriwr PDC, cewch ddefnyddio ein llyfrgelloedd a bydd gennych gyfrif TG y Brifysgol a chyfeiriad e-bost myfyriwr. Mae gennym leoliad ar bob campws ag oriau agor hir a chyfleusterau hunanwasanaeth. Mae gennym filoedd o gyfrifiaduron ar draws ein campysau yn ogystal â’r technolegau a’r adnoddau dysgu diweddaraf.

CYMORTH YN Y COLEG

Bydd gennych fynediad i’r amrywiaeth o wasanaethau cymorth sydd ar gael yn y coleg lle byddwch yn astudio. I gael gwybod pa gymorth sydd ar gael, cysylltwch â'ch coleg neu archebwch le ar Ddigwyddiad Agored i fynd am dro o amgylch y campws. Efallai bydd eich coleg yn eich cyfeirio i Barth Cyngor yn PDC hyd yn oed.

Ewch i: www.decymru.ac.uk/cyngor

CYMORTH YN PDC

Os byddwch chi’n ategu’ch cymhwyster i radd Anrhydedd lawn ym Mhrifysgol De Cymru, gallwch fanteisio ar yr holl gymorth a chyfleusterau. Mae gennym Barthau Cyngor, Gwasanaeth Anabledd, Gwasanaeth Lles, Clinigau Iechyd, Gwasanaeth Gyrfaoed, Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr, Caplaniaeth a Chanolfannau Sgiliau Astudio.

Rydym hefyd yn cynnig llety i fyfyrwyr a chyfleusterau gofal plant yn PDC Pontypridd. *Costau ychwanegol yn daladwy.

CYFLEOEDD CYMRAEG

Gallwch barhau i ddefnyddio’ch sgiliau Cymraeg wrth astudio cwrs PDC. Mae rhai cyrsiau’n cynnig cyfleoedd dwyieithog, a gallwch gyflwyno’ch gwaith yn Gymraeg, hyd yn oed os nad addysgir eich cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Gallech hefyd ddewis lleoliad profiad gwaith cyfrwng Cymraeg. I gael gwybod mwy, cysylltwch â’r Hyrwyddwr Dwyieithrwydd yn eich coleg.

CYFLEUSTERAU NODEDIG

Mae llawer o’n colegau partner wedi elwa ar fuddsoddiad enfawr dros y blynyddoedd diwethaf. Mae ganddynt gyfleusterau a mannau addysgu nodedig.

CHWARAEON PDC

Er y byddwch yn astudio yn eich coleg lleol, gallwch chwarae i dimau chwaraeon y Brifysgol yng nghynghrair Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS). Mae 60 o dimau i ddewis o’u plith, gan gynnwys pêl-droed, rygbi, pêl-rwyd a hoci. I fod yn gymwys mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu hŷn ac yn astudio 60 credyd neu fwy y flwyddyn. Mae chwarae yng nghynghrair BUCS yn golygu y gallech hyfforddi ym Mharc Chwaraeon PDC. Mae’r cyfleusterau gystal, y mae timau proffesiynol yn eu defnyddio’n rheolaidd, gan gynnwys tîm pêl-droed Cymru a Llewod Prydain.

UNDEB Y MYFYRWYR

Gallwch ddod yn aelod o Undeb y Myfyrwyr yn y coleg lle byddwch yn astudio, yn ogystal ag Undeb y Myfyrwyr yn y Brifysgol. Mae Undeb y Myfyrwyr yn PDC yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn. Mae digon o glybiau a chymdeithasau i ymuno â nhw, wedi’u lleoli ar draws ein holl gampysau. Gall ein cymdeithasau eich helpu i ddarganfod hobïau a diddordebau newydd a chwrdd â phobl â meddylfryd tebyg.

Ewch i: www.uswsu.com

www.decymru.ac.uk | 13 12 | Prifysgol De Cymru

BUDDSODDWCH YN EICH DYFODOL

Mae cymorth ariannol ar gael i fyfyrwyr, felly gall astudio gradd uwch fod yn fwy fforddiadwy nag rydych chi’n ei feddwl. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol, fe allech fod yn gymwys ar gyfer ystod o grantiau, benthyciadau a lwfansau i helpu gyda ffioedd dysgu a chostau byw.

FFIOEDD CYRSIAU

Ar adeg cynhyrchu, nid yw’r ffioedd cyrsiau na’r cymorth ariannol i fyfyrwyr yng Nghymru wedi’i gadarnhau ar gyfer dechreuwyr 2024-25. Cyn i chi wneud cais, rydym yn argymell y dylech fynd i’n gwefan i weld yr wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd a chymorth myfyrwyr. Ewch i: www.decymru.ac.uk/arian

CYMORTH ARIANNOL ARALL

Mae cymorth ariannol ar gael trwy Cyllid Myfyrwyr Cymru, i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru, neu Student Finance England, i fyfyrwyr o Loegr. Mae gwybodaeth am gyllid myfyrwyr, ynghyd â sut i wneud cais ac i wirio cymhwysedd ar gael ar-lein. Ewch i: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk neu www.gov.uk neu chwillich am ‘cyllid myfyrwyr’ i fyfyrwyr sy’n byw yn Lloegr.

CYMORTH YCHWANEGOL

Ar ôl i chi gwblhau’ch cwrs prifysgol yn eich coleg lleol, efallai byddwch yn penderfynu ategu’ch cymhwyster i radd Anrhydedd lawn yn un o gampysau’r Brifysgol. Os byddwch yn gwneud hynny, efallai byddwch yn gymwys ar gyfer rhagor o gymorth ariannol, gan gynnwys ein Bwrsariaeth Dilyniant gwerth £1,000.*

COSTAU YCHWANEGOL

Yn ogystal â thalu am lyfrau ac offer hanfodol, fe allai fod costau ychwanegol ar gyfer rhai cyrsiau. Gallai hyn gynnwys teithiau maes, offer celf neu amser stiwdio. Cysylltwch â’ch coleg dewisol i gael gwybod mwy am gostau ychwanegol.

BWRSARIAETH DILYNIANT

Rydym yn cynnig Bwrsariaeth Dilyniant gwerth

£1,000.* Mae myfyrwyr coleg sy’n ategu eu cymhwyster HND neu radd sylfaen i radd Anrhydedd lawn drwy gwrs ategol ar gampws PDC yn gymwys. I gael manylion llawn, ewch i'n gwefan.

*Mae

telerau ac amodau ar gael ar ein gwefan.
www.decymru.ac.uk | 15 14 | Prifysgol De Cymru

Efallai fod gradd brifysgol yn haws ei gwneud nag y byddwch chi’n ei feddwl. Os nad oes gennych y gofynion mynediad i astudio gradd brifysgol ar unwaith, gallwch astudio HNC, HND neu Radd Sylfaen.

GOFYNION MYNEDIAD

• Nodir gofynion mynediad nodweddiadol isod

• Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf mynediad, gellid ystyried gwaith perthnasol a phrofiad bywyd ar sail unigol

• Mae cyfuniadau o gymwysterau yn dderbyniol

• Gellid hefyd ystyried cymwysterau Lefel 3 eraill, fel CACHE, OCR, City and Guilds, Cskills, NCFE a VTCT

• Os nad ydych yn siŵr a ydych yn bodloni’r gofynion, cysylltwch â’ch coleg dewisol

GOFYNION MYNEDIAD

NODWEDDIADOL AR GYFER HNC, HND A GRADD SYLFAEN

• Proffil BTEC Lefel 3 perthnasol o Deilyngdod/Pasio neu Pasio/Pasio/Pasio; neu

• DD yn Safon Uwch; neu

• D yn Safon Uwch a D yn Nhystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru; neu

• Mynediad i AU (Diploma Pasio gyda 45 credyd pasio Lefel 3)

• Bydd angen tair gradd C neu uwch yn TGAU hefyd, gan gynnwys mathemateg a Saesneg iaith neu gyfatebol

• Ar gyfer cwrs ategol, bydd fel arfer angen HND neu Radd Sylfaen mewn pwnc cysylltiedig

GOFYNION MYNEDIAD I GOLEGAU

• Efallai bydd angen prawf llythrennedd, rhifedd neu wyddoniaeth

• Mae angen gwiriad DBS uwch ar gyfer rhai cyrsiau*

• Mae rhai proffesiynau yn gofyn am raddau TGAU penodol mewn pynciau penodol

• Mae meini prawf ychwanegol wedi’u rhestru ar dudalennau’r cwrs ar wefan y coleg

ATEGU I RADD LAWN

• Mae gan bob cwrs HND a Gradd Sylfaen o leiaf un llwybr dilyniant, felly gallwch ddewis ategu’ch cymhwyster i radd lawn

• I gael gradd Anrhydedd, byddwch yn astudio 360 credyd, fel arfer dros gyfnod o dair blynedd llawnamser

• I ategu’ch cymhwyster HND neu Radd Sylfaen i Radd Anrhydedd, fel arfer byddwch yn astudio 120 credyd dros flwyddyn ychwanegol lawnamser neu gyfwerth ran-amser. Mae rhai cyrsiau’n gofyn am ddwy flynedd astudio ychwanegol oherwydd gofynion statudol

• Fel arfer bydd angen i chi fynd i gampws PDC i ategu’ch gradd i astudiaethau Lefel 6, er bod rhai cyrsiau ar gael mewn colegau

DOD YN ATHRO

Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa ym maes addysg, rydym yn cynnig cymwysterau addysgu yn ein colegau partner. Darllenwch ein rhestr cyrsiau sy’n dechrau ar dudalen 20.

CYRSIAU ÔL-RADD

Ni fydd eich perthynas â’r Brifysgol yn dod i ben pan fyddwch yn graddio. Rydym yn cynnig cyrsiau ôl-radd a phroffesiynol i’ch helpu i ddatblygu hyd yn oed ymhellach yn eich gyrfa. Ewch i: www.decymru.ac.uk/ol-raddedig

SUT I YMGEISIO

Cysylltwch â’ch coleg lleol i wirio’r broses ymgeisio. Mae rhai colegau’n derbyn ceisiadau uniongyrchol, a wneir yn bersonol neu ar-lein. Fel arall bydd angen i chi wneud cais drwy UCAS.

*Bydd costau ychwanegol yn berthnasol www.decymru.ac.uk

| 17 16 | Prifysgol De Cymru

Gallwch astudio gradd Anrhydedd lawn ar gampws PDC neu ddilyn cwrs Prifysgol mewn coleg partner. Mae cyrsiau coleg yn dechrau ar Lefel 4 gyda chyfleoedd i ddatblygu i radd Anrhydedd ac astudiaethau ôl-radd yn PDC. Gweler llwybrau dilyniant posibl isod.

LEFEL 3

SAFON UWCH • BTEC • NVQ LEFEL 3

PRENTISIAETH UWCH

MYNEDIAD I ADDYSG UWCH

BAGLORIAETH CYMRU

DIPLOMA ASTUDIAETHAU SYLFAEN

RHESTR TERMAU

GRADD SYLFAEN

Cymhwyster yw hwn yn ei rinwedd ei hun a byddwch yn mynd i seremoni graddio ar ôl ei chwblhau. Mae’n rhoi’r sgiliau i chi sy’n berthnasol i ddiwydiant. Caiff astudiaethau eu cyfuno â dysgu yn y gwaith felly byddwch yn dysgu yn y gweithle yn ogystal â’r ystafell ddosbarth. Ar ôl ei chwblhau’n llwyddiannus, cewch gyfle i symud ymlaen i gymhwyster gradd ategol.

TYSTYSGRIF GENEDLAETHOL

UWCH (HNC) A DIPLOMA

CENEDLAETHOL UWCH (HND)

Mae’r cymwysterau cysylltiedig â gwaith hyn yn rhoi’r sgiliau i chi wneud swydd benodol. Maen nhw’n alwedigaethol, ac felly’n ddeniadol i gyflogwyr, a gallan nhw gyfrif tuag at aelodaeth cyrff proffesiynol. Gallan nhw eich arwain yn syth i yrfa, neu gallwch ddatblygu i Radd Sylfaen neu Radd Anrhydedd.

GRADD ANRHYDEDD

Cwrs a gaiff ei astudio mewn prifysgol neu goleg addysg bellach. Bydd gradd BA neu BSc Anrhydedd lawn-amser fel arfer yn para tair blynedd, a byddwch yn astudio 360 credyd.

UCAS

Byrfodd y Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau. Mae UCAS yn prosesu ceisiadau i brifysgolion a cholegau’r DU ar gyfer cyrsiau israddedig llawn-amser. Nid yw rhai o’n colegau partner yn defnyddio UCAS a derbynnir ceisiadau yn uniongyrchol yn lle hynny - cysylltwch â’r coleg yn uniongyrchol i gael manylion.

CYLLID MYFYRWYR CYMRU

Bydd y corff cyllido yn asesu’ch cymorth ariannol os ydych yn byw yng Nghymru.

FFIOEDD DYSGU

TYSTYSGRIF GENEDLAETHOL UWCH (HNC)

TYSTYSGRIF ADDYSG UWCH

DIPLOMA CENEDLAETHOL UWCH (HND)

GRADD SYLFAEN

GRADD ATEGOL (ANRHYDEDDAU)

TYSTYSGRIF ADDYSG UWCH

Mae Tystysgrif Addysg Uwch (CertHE) yn gymhwyster Lefel 4 a ddyfernir ar ôl blwyddyn o astudiaethau addysg uwch llawn-amser.

DIPLOMA ADDYSG UWCH

Mae Diploma Addysg Uwch (DipHE) yn gymhwyster Lefel 5 a ddyfernir ar ôl dwy flynedd o astudiaethau addysg uwch llawn-amser.

ADDYSG UWCH (AU)

Ar ôl i chi gwblhau addysg bellach mewn coleg neu chweched dosbarth, mae sefydliadau fel prifysgolion a cholegau yn cynnig rhaglenni addysg uwch.

Mae’r ffioedd hyn yn talu cost eich astudiaethau a gallan nhw amrywio yn dibynnu ar beth a ble y byddwch yn astudio. Gall yr holl fyfyrwyr cymwys wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu ac ni fydd yn rhaid ei ad-dalu nes eu bod yn ennill mwy na swm penodol o arian.

BWRSARIAETH

Arian a ddarperir tuag at gost astudio nad oes angen ei ad-dalu.

DILYNIANT/GRADD ATEGOL

Blwyddyn ychwanegol o astudio llawn-amser neu ddwy flynedd ran-amser yw hyn fel arfer, ond gallai fod yn fwy yn dibynnu ar ofynion statudol. Byddech yn symud ymlaen neu’n ategu’ch Gradd Sylfaen neu gyfwerth, i radd Anrhydedd lawn. Fel arfer, caiff cyrsiau dilyniant ac ategol eu hastudio yn yr un pwnc neu bwnc cysylltiedig â’r Radd Sylfaen.

ASTUDIAETH ÔL-RADD

LEFEL 4 LEFEL 5 LEFEL 6 LEFEL 7
www.decymru.ac.uk | 19 18 | Prifysgol De Cymru

COLEG GWYR ABERTAWE

HND Rheoli Busnes

BA (Anrh) Rheoli Busnes (Cyfrifeg a Chyllid) (Atodol)

BA (Anrh) Rheoli Busnes (Marchnata) (Atodol)

BA (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid

BA (Anrh) Rheoli Busnes

BA (Anrh) Rheoli Gwesty a Lletygarwch

BA (Anrh) Rheoli Adnoddau Dynol

BSc (Hons) Busnes Ryngwladol

BSc (Hons) Rheoli Cadwyn Gyflenwi

BSc (Anrh) Marchnata

Gradd Sylfaen Troseddeg

HND Rheoli Busnes

BA (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid

BA (Anrh) Rheoli Adnoddau Dynol

BSc (Hons) Busnes Ryngwladol

BSc (Hons) Rheoli Cadwyn Gyflenwi

BSc (Anrh) Marchnata

Gradd Sylfaen Astudiaethau Plentyndod

BSc (Anrh) Astudiaethau Plentyndod

BSc (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Gradd Sylfaen Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol

BA (Anrh) Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol

Gradd Sylfaen eChwaraeon**

Tystysgrif Broffesiynol (ProfCE) mewn Addysg orfodol a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

Tystysgrif Broffesiynol i Raddedigion (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

CertHE Camddefnyddio Sylweddau

BSc (Anrh) Nyrsio (Oedolion)

BSc (Anrh) Nyrsio (Plentyn)

BSc (Anrh) Nyrsio (Anableddau Dysgu)

BSc (Anrh) Nyrsio (Iechyd Meddwl)

Tystysgrif Broffesiynol (ProfCE) mewn Addysg orfodol a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

Tystysgrif Broffesiynol i Raddedigion (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

MAE 4 4 4 4

CWRS A LLWYBR DILYNIANT 4 CWRS A LLWYBR DILYNIANT AR GAEL YN Y COLEG AR GAEL YN PDC 4 4 4 4

AR 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4

Tystysgrif Broffesiynol i Ôl-raddedigion (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

www.decymru.ac.uk | 21 20 | Prifysgol De Cymru
COLEGAU NPTC MAE’N BOSIB Y BYDD YR UN LLWYBRAU DILYNIANT AR GAEL MEWN COLEGAU LLEOL ERAILL.
GRWP
GAEL YN Y COLEG AR GAEL YN PDC 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 **Yn amodol ar ddilysu a chymeradwyo.
Tystysgrif Broffesiynol i Ôl-raddedigion (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET) ’N BOSIB Y BYDD YR UN LLWYBRAU DILYNIANT AR GAEL MEWN COLEGAU LLEOL ERAILL. NPTC Group of Colleges
BA (Anrh) Rheoli Busnes
BA (Anrh) Rheoli Gwesty a Lletygarwch

CWRS A LLWYBR DILYNIANT

HND Cyfrifiadura

BSc (Anrh) Cyfrifiadura

BSc (Anrh) Cyfrifiadura (Gan gynnwys y Flwyddyn Sylfaen)

BSc (Anrh) Cyfrifiadureg

BSc (Anrh) Cyfrifiadureg (Gan gynnwys y Flwyddyn Sylfaen)

BSc (Anrh) Seibrddiogelwch Cymhwysol

BSc (Anrh) Diogelwch Cyfrifiaduron

BSc (Anrh) Diogelwch Cyfrifiaduron (Gan gynnwys y Flwyddyn Sylfaen)

Gradd Sylfaen Ymarfer Celf

BA (Anrh) Ymarfer Celf

Gradd Sylfaen Ffotograffiaeth

BA (Anrh) Ffotograffiaeth

Gradd Sylfaen Rheoli Busnes

BA (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid

BA (Anrh) Rheoli Busnes

BA (Anrh) Rheoli Gwesty a Lletygarwch

BA (Anrh) Rheoli Adnoddau Dynol

BSc (Hons) Busnes Ryngwladol

BSc (Hons) Rheoli Cadwyn Gyflenwi

BSc (Anrh) Marchnata

Gradd Sylfaen Seicoleg

BSc (Anrh) Seicoleg

Tystysgrif Addyg Uwch Mewn Iechyd a Lles

Gradd Sylfaen eChwaraeon

Tystysgrif Broffesiynol (ProfCE) mewn Addysg orfodol a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

Tystysgrif Broffesiynol i Raddedigion (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

Tystysgrif Broffesiynol i Ôl-raddedigion (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

www.decymru.ac.uk | 23 22 | Prifysgol De Cymru Y COLEG MERTHYR
MAE’N BOSIB Y BYDD YR UN LLWYBRAU DILYNIANT AR GAEL MEWN COLEGAU LLEOL ERAILL. NPTC Group of Colleges
TUDFUL
AR GAEL YN Y COLEG AR GAEL YN PDC 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4

HNC Peirianneg Sifil**

HND Peirianneg Sifil**

BSc (Anrh) Peirianneg Sifil

BEng (Anrh) Peirianneg Sifil

HNC Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig**

HND Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig**

BSc (Anrh) Arolygu Adeiladau

BSc (Anrh) Rheoli Prosiectau Adeiladu

BSc (Anrh) Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol

HNC Peirianneg (Gweithgynhyrchu Uwch)**

HNC Peirianneg Drydanol ac Electronig**

HND Peirianneg Drydanol ac Electronig

BSc (Anrh) Peirianneg Drydanol ac Electronig (Atodol)

HNC Peirianneg Fecanyddol**

HND Peirianneg Fecanyddol

BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol

BSc (Anrh) Peirianneg Fecanyddol

Gradd Sylfaen Iechyd a Lles Anifeiliaid

BSc (Anrh) Iechyd a Lles Anifeiliaid (Atodol)

Gradd Sylfaen Nyrsio Milfeddygol

BSc (Anrh) Nyrsio Milfeddygol (Atodol)

Gradd Sylfaen Astudiaethau Plentyndod

BSc (Anrh) Astudiaethau Plentyndod (Atodol)

Tyst AU mewn Rheoli Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol

Gradd Sylfaen mewn Rheoli Iechyd, Lles a Gofal

Cymdeithasol

BSc (Anrh) Rheoli Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol

Gradd Sylfaen Celf a Dylunio - Gemau

BA (Anrh) Celf Gemau

BA (Anrh) Dylunio Gemau Cyfrifiadurol

Gradd Sylfaen Darlunio

BA (Anrh) Darlunio ar gyfer Diwydiant

BA (Anrh) Darlunio

BA (Anrh) Cynhyrchu Sain ac Ysgrifennu Caneuon**

Gradd Sylfaen (Gwyddoniaeth) Technoleg Cerddoriaeth

Boblogaidd (Llwybr Perfformio Cerddoriaeth)

Gradd Sylfaen (Celfyddydau) Technoleg Cerddoriaeth

Boblogaidd (Llwybr Perfformio Cerddoriaeth)

BA (Anrh) Cerddoriaeth Boblogaidd a Masnachol

BSc (Anrh) Diwydiannau Creadigol (Technoleg Cerddoriaeth

Boblogaidd) (Atodol)

Gradd Sylfaen Cynhyrchu Cyfryngol

BA (Anrh) Cynhyrchu Cyfryngol

HND Cyfrifiadura

Gradd Sylfaen Seibrddiogelwch ar Waith**

BSc (Anrh) Cyfrifiadura

BSc (Anrh) Technoleg Gwybodaeth A Chyfathrebu

BSc (Anrh) Seibrddiogelwch Cymhwysol

BSc (Anrh) Gwaith Fforensig Cyfrifiadurol

BSc (Anrh) Datblygu Gemau Cyfrifiadurol

BSc (Anrh) Cyfrifiadureg

BSc (Anrh) Diogelwch Cyfrifiaduron

HND Rheoli Busnes

BA (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid

BA (Anrh) Rheoli Busnes

BA (Anrh) Rheoli Gwesty a Lletygarwch

BA (Anrh) Rheoli Adnoddau Dynol

BSc (Hons) Busnes Ryngwladol

BSc (Hons) Rheoli Cadwyn Gyflenwi

BSc (Anrh) Marchnata

Gradd Sylfaen Astudiaethau Plentyndod

BSc (Anrh) Datblygiad Plentyndod

BSc (Anrh) Astudiaethau Plentyndod (Atodol)

Tystysgrif Broffesiynol (ProfCE) mewn Addysg orfodol a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

Tystysgrif Broffesiynol i Raddedigion (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

Tystysgrif Broffesiynol i Ôl-raddedigion (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

MAE

COLEG
GWENT
’N BOSIB Y BYDD YR UN LLWYBRAU DILYNIANT AR GAEL MEWN COLEGAU LLEOL ERAILL.
’N BOSIB Y BYDD YR UN
DILYNIANT AR GAEL MEWN COLEGAU LLEOL ERAILL.
Group of Colleges CWRS A LLWYBR DILYNIANT AR GAEL YN Y COLEG AR GAEL YN PDC
MAE
LLWYBRAU
NPTC
NPTC Group of Colleges
CWRS A LLWYBR DILYNIANT AR GAEL YN Y COLEG AR GAEL YN PDC 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 **Yn amodol ar ddilysu a chymeradwyo.
www.decymru.ac.uk | 25 24 | Prifysgol De Cymru

COLEG Y CYMOEDD

CWRS A LLWYBR DILYNIANT

HNC Peirianneg Drydanol ac Electronig

Gradd Sylfaen Peirianneg Drydanol ac Electronig (Atodol)

HND Peirianneg Drydanol/Electronig (Atodol)

BSc (Anrh) Peirianneg Drydanol ac Electronig (Atodol)

Gradd Sylfaen Rheoli Busnes

BA (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid

BA (Anrh) Rheoli Busnes

BA (Anrh) Rheoli Gwesty a Lletygarwch

BA (Anrh) Rheoli Adnoddau Dynol

BSc (Hons) Busnes Ryngwladol

BSc (Hons) Rheoli Cadwyn Gyflenwi

BSc (Anrh) Marchnata

Gradd Sylfaen Addysg, Dysgu a Datblygu

BA (Anrh) Addysg, Dysgu a Datblygu (Atodol)

BA (Anrh) Addysg

Gradd Sylfaen Celf a Dylunio Gemau

BA (Anrh) Celf Gemau

BA (Anrh) Dylunio Gemau Cyfrifiadurol

Gradd Sylfaen Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

BSc (Anrh) Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Gradd Sylfaen Ffotograffiaeth

BA (Anrh) Ffotograffiaeth

BA (Anrh) Adeiladu Gwisgoedd

BA (Anrh) Teledu a Ffilm: Gwallt, Harddwch ac Effeithiau Arbennig

BA (Anrh) Teledu a Ffilm: Creu Propiau

AR GAEL YN Y COLEG AR GAEL YN PDC

CWRS A LLWYBR DILYNIANT

Tystysgrif Broffesiynol (ProfCE) mewn Addysg orfodol a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

Tystysgrif Broffesiynol i Raddedigion (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

Tystysgrif Broffesiynol i Ôl-raddedigion (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

MAE’N BOSIB Y BYDD YR UN

MAE’N BOSIB Y BYDD YR UN

LLWYBRAU DILYNIANT AR

LLWYBRAU DILYNIANT AR

GAEL MEWN COLEGAU LLEOL ERAILL.

GAEL MEWN COLEGAU LLEOL ERAILL.

www.decymru.ac.uk | 27 26 | Prifysgol De Cymru
Group of Colleges
NPTC
PDC 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4
AR GAEL YN Y COLEG AR GAEL YN

COLEG

CWRS A LLWYBR DILYNIANT

HNC Amaethyddiaeth

HND Amaethyddiaeth

HNC Astudiaethau Anifeiliaid

HND Astudiaethau Anifeiliaid

Gradd Sylfaen Cyfiawnder Troseddol

BSc (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

HNC Peirianneg Drydanol ac Electronig

HND Peirianneg Drydanol ac Electronig

BSc (Anrh) Peirianneg Drydanol ac Electronig (Atodol)

HNC Rheoli Cadwraeth Amgylcheddol

HND Rheoli Cadwraeth Amgylcheddol

HND Rheoli Cadwraeth Amgylcheddol (Atodol)

HNC Astudiaethau Ceffylau

HND Astudiaethau Ceffylau

HNC Garddwriaeth (Cynhyrchu a Dylunio)

HND Garddwriaeth (Tirlunio a Dylunio Gerddi)

HND Peirianneg Fecanyddol

BSc (Anrh) Peirianneg Fecanyddol

HND Gwasanaethau Cyhoeddus a Brys

BA (Anrh) Gwasanaethau Cyhoeddus

BA (Anrh) Cynhyrchu Sain ac Ysgrifennu Caneuon

BA (Anrh) Cerddoriaeth Boblogaidd a Masnachol

BSc (Anrh) Diwydiannau Creadigol (Technoleg Cerddoriaeth Boblogaidd)

Gradd Sylfaen Effeithiau Gweledol**

BA (Anrh) Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol

Gradd Sylfaen Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tystysgrif Addyg Uwch Mewn Iechyd a Lles Cymunedol

BSc (Anrh) Rheoli Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol

AR GAEL YN Y COLEG AR GAEL YN PDC

CWRS A LLWYBR DILYNIANT

Gradd Sylfaen Seicoleg

BSc (Anrh) Seicoleg

Gradd Sylfaen Astudiaethau Plentyndod**

BSc (Anrh) Datblygiad Plentyndod

BSc (Anrh) Astudiaethau Plentyndod (Atodol)

Tystysgrif Broffesiynol (ProfCE) mewn Addysg orfodol a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

Tystysgrif Broffesiynol i Raddedigion (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

Tystysgrif Broffesiynol i Ôl-raddedigion (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

AR GAEL YN Y COLEG AR GAEL YN PDC

www.decymru.ac.uk | 29 28 | Prifysgol De Cymru
PEN Y BONT MAE’N BOSIB Y BYDD YR UN LLWYBRAU DILYNIANT AR GAEL MEWN COLEGAU LLEOL ERAILL.
4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 **Yn amodol ar ddilysu a chymeradwyo. 4 4 4

COLEG CAERDYDD A’R FRO

HND Gwasanaethau Cyhoeddus ac Argyfwng

BA (Anrh) Gwasanaethau Cyhoeddus

Gradd Sylfaen Cymorth Dysgu

BA (Anrh) Addysg, Dysgu a Datblygiad (Atodol)

BA (Anrh) Addysg

Gradd Sylfaen Celf a Dylunio Gemau

BA (Anrh) Celf Gemau

BA (Anrh) Dylunio Gemau Cyfrifiadurol

Gradd Sylfaen Seicoleg

BSc (Anrh) Seicoleg

Gradd Sylfaen Chyfiawnder Troseddol**

BSc (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Gradd Sylfaen Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol

CertHE Camddefnyddio Sylweddau

BSc (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

BA (Anrh) Gwasanaethau Cyhoeddus

BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

Tystysgrif Broffesiynol (ProfCE) mewn Addysg orfodol a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

Tystysgrif Broffesiynol i Raddedigion (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

Tystysgrif Broffesiynol i Ôl-raddedigion (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

MAE

LLWYBRAU DILYNIANT AR GAEL MEWN COLEGAU LLEOL ERAILL.

ASTUDIAIS RADD SYLFAEN, AC

WEDYN SYMUD YMLAEN I’W

HATEGU YN Y COLEG. ERBYN

GRADDIO, ROEDDWN I’N BAROD

AR GYFER Y DIWYDIANT

OHERWYDD ROEDDWN I WEDI

CAEL PROFIADAU GWAITH GWYCH.

ROEDD CYDBWYSO GWAITH

ACADEMAIDD AC YMARFEROL YN

HAWDD, A CHEFAIS GYMORTH

RHAGOROL GAN FY NHIWTORIAID.

Melissa Humphries, Gradd Sylfaen mewn

Llunio Gwisgoedd ar gyfer y Sgrin a’r Llwyfan, Coleg y Cymoedd

www.decymru.ac.uk | 31 30 | Prifysgol De Cymru
’N
Y BYDD YR UN
BOSIB
AR GAEL YN Y COLEG AR GAEL YN PDC 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 4 **Yn amodol ar ddilysu a chymeradwyo.
CWRS A LLWYBR DILYNIANT

SIARTER

Datblygir y Siarter Myfyrwyr ar y cyd gan y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Mae’n esbonio ymrwymiad y Brifysgol i weithio mewn partneriaeth â chi i ddarparu profiad o ansawdd uchel o fod yn fyfyriwr a’ch helpu i gyflawni llwyddiant personol ac academaidd. Ewch i www.decymru.ac.uk

Y GYMRAEG

Gallwch wella'ch sgiliau Cymraeg a defnyddio'r Gymraeg wrth astudio cwrs PDC. Gall myfyrwyr astudio rhai cyrsiau’n ddwyieithog. Os nad oes cyfleoedd dwyieithog, gall myfyrwyr gyflwyno’u gwaith yn

Gymraeg o hyd. Gallwch hefyd ddewis lleoliad profiad gwaith cyfrwng

Cymraeg. I gael gwybod mwy, cysylltwch â’r hyrwyddwr

dwyieithrwydd yn eich coleg. Ewch i: www.decymru.ac.uk

HYGYRCHEDD

Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu gwefannau a chyhoeddiadau sy’n gwbl gynhwysol. Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod pob tudalen ar y wefan ac mewn cyhoeddiadau yn cydymffurfio â chanllawiau hygyrchedd. Oherwydd maint a chymhlethdod presenoldeb y Brifysgol ar y we, mae hon yn broses barhaus. I sicrhau bod ein cyhoeddiadau mor hygyrch â phosibl, rydym yn cynnig dwy ffordd o’u cyrraedd, eu gweld a’u darllen. Gallwch naill ai eu darllen drwy’r platfform ISSUU neu eu gweld ar-lein a lawrlwytho PDF. Mae’r ffeil PDF wedi’i datblygu i fod yn hygyrch. Rydym wedyn yn defnyddio’r union ffeil hon ac yn ei llwytho i’r ISSUU i gadw cynifer â phosibl o’r nodweddion hygyrchedd drwy’r platfform. I ddarllen pa nodweddion hygyrchedd sydd wedi’u defnyddio yn y PDF, ewch i’n gwefan. Os oes gennych gwestiynau neu sylwadau ynglŷn â hygyrchedd y wefan hon neu ein cyhoeddiadau, neu os cewch chi unrhyw anawsterau, cysylltwch â ni.

I gael cymorth hygyrchedd, anfonwch e-bost: accessibility@southwales.ac.uk

I gael cymorth o ran anabledd neu anghenion ychwanegol, anfonwch e-bost: disabilityadviser@southwales.ac.uk

CYN I CHI WNEUD CAIS

Mae’r Brifysgol yn adolygu ei phortffolio o gyrsiau’n rheolaidd i sicrhau ein bod yn darparu’r ansawdd gorau posibl. Rydym hefyd yn diweddaru ac yn adolygu cynnwys cyrsiau yn ôl yr angen i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol a chyfoes. Rydym yn cynghori ymgeiswyr yn gryf i fynd i wefannau ein colegau partner a’n gwefan ni i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gyrsiau, cynnwys cyrsiau, gofynion mynediad a chostau ychwanegol cyn cyflwyno’u cais.

GWYBODAETH DDEFNYDDIOL

YNGLYN A’R CANLLAW HWN

Mae’r canllaw hwn yn darparu arweiniad cyffredinol ac nid yw’n ffurfio rhan o unrhyw gontract. Mae’r wybodaeth a roddwyd wedi’i chynhyrchu ymhell cyn cyflwyno’r cyrsiau a amlinellir ar gyfer myfyrwyr sy’n disgwyl dechrau’r Brifysgol yn y flwyddyn academaidd 24-25. Er y credir ei bod yn gywir ar yr adeg gynhyrchu, dylid edrych ar ein gwefan a/neu wefannau colegau partner i gael y sefyllfa ddiweddaraf. Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i ddiwygio neu ddileu cyrsiau, neu addasu cyfleusterau, mewn ymateb i amgylchiadau y tu hwnt i’w rheolaeth neu os yw’n ystyried bod rheidrwydd rhesymol i wneud hynny. Bydd y Brifysgol yn ymdrechu i ymateb i newid drwy ymgynghori â’r rhai y bydd yn effeithio arnynt a/neu gymryd camau unioni i’w helpu. I gael manylion am ffioedd a chyllid a’r wybodaeth ddiweddaraf, ewch i: www.decymru.ac.uk/arian

SICRWYDD ANSAWDD

Mae’r logo diemwnt QAA a ‘QAA’ yn nodau masnach cofrestredig yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch ac yn dangos bod y Brifysgol wedi bod yn destun adolygiad annibynnol o safon y ddarpariaeth addysg uwch, ac wedi cyflawni canlyniad llwyddiannus.

DYLUNIAD

Wedi’i gynhyrchu gan Adran Myfyrwyr y Dyfodol. Diolch yn fawr i bawb a helpodd gyda’r prosiect hwn.

Dyluniad: Argraffu a Dylunio PDC decymru.ac.uk/argraffuadylunio

Llun y clawr: Myfyriwr o Coleg Gwent

STATWS ELUSEN

Mae Prifysgol De Cymru yn elusen gofrestredig. Rhif Cofrestru 1140312.

GRWP PRIFYSGOL DE CYMRU

Mae Grŵp Prifysgol De Cymru’n cynnwys Prifysgol De Cymru, Y Coleg Merthyr Tudful, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

www.decymru.ac.uk | 33 32 | Prifysgol De Cymru
Prifysgol De Cymru | Pontypridd | Cymru | DU | CF37 1DL Ffoniwch: 03455 76 77 78 Ewch i: www.decymru.ac.uk Mae Prifysgol De Cymru yn elusen gofrestredig. Rhif Cofrestru 1140312 Fersiwn dau, cynhyrchwyd Hydref 2023 DECHREUWCH GREU EICH YFORY, HEDDIW
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.