Cym - UCAS SURVIVAL GUIDE 2025

Page 1


UCAS

PROSES UCAS

MEHEFIN-MEDI

YMCHWIL

Gyda miloedd o gyrsiau ar gael ar draws cannoedd o brifysgolion, gall cwtogi’r rhain i hyd at bump fod yn waith caled.

Mae'n bwysig dechrau'n gynnar. Y ffordd orau i ymchwilio i brifysgolion yw mynd i Ddiwrnodau Agored. Gallwch ddod o hyd i ddyddiadau ein Diwrnodau Agored ac archebu eich lle ar-lein fan yma: www.southwales.ac.uk/cy/ diwrnodau-agored

MEDI-IONAWR

GWNEUD CAIS

Fel arfer, caiff ceisiadau eu gwneud i UCAS rhwng mis Medi a mis Ionawr, a bydd y rhan fwyaf o'r broses hon yn cael ei gwneud yn eich ysgol neu goleg.

Y datganiad personol yw un o rannau pwysicaf y cais. Mae tiwtoriaid prifysgolion yn dibynnu ar y wybodaeth hon wrth wneud penderfyniad ynghylch a ddylai darpar fyfyrwyr gael eu derbyn, felly mae angen iddo eich cyfleu chi ar eich gorau. Fe welwch ganllaw pellach i ysgrifennu eich datganiad personol ar dudalen 4 y llyfryn hwn.

IONAWR-MAI

CYNIGION

Ar ôl i chi wneud cais, byddwch yn dechrau cael cynigion. Dyma’r mathau o gynigion sydd:

• Cynnig diamod sy’n gynnig o le ar gwrs prifysgol lle rydych eisoes wedi bodloni’r holl feini prawf mynediad.

• Cynnig amodol sy’n dibynnu ar eich bod yn bodloni meini prawf penodol, fel graddau penodol neu pwyntiau tariff UCAS. Mae'r rhan fwyaf o ymgeiswyr yn derbyn y math hwn o gynnig. Yn dibynnu ar y cwrs, gall rhai prifysgolion eich gwahodd i gyfweliad neu glyweliad cyn iddyn nhw wneud eu penderfyniad.

• Aflwyddiannus sy’n golygu nad ydych wedi cael cynnig lle ar y cwrs prifysgol.

• Newid cwrs sy’n golygu eich bod wedi cael cynnig lle ar gwrs gwahanol i’r un y gwnaethoch gais amdano, fel arfer am nad yw eich pynciau/graddau disgwyliedig yn cyd-fynd â'r rhai ar gyfer eich dewis gwreiddiol.

DERBYN

Ar ôl i chi gael eich cynigion, bydd angen i chi benderfynu ar eich dewis cadarn, sef y cynnig rydych chi'n ei dderbyn fel eich dewis cyntaf. Yn ogystal, gallwch benderfynu ar ddewis wrth gefn (eich ail ddewis), rhag ofn nad ydych chi'n cael y graddau sydd eu hangen ar gyfer eich dewis cyntaf. Mae'n bwysig bod y gofynion mynediad ar gyfer eich dewis wrth gefn yn is na’r rhai ar gyfer eich dewis cadarn. Mae gennych tan ddechrau mis Mai i ymateb i'r holl gynigion.

Gall gwneud cais i brifysgolion ymddangos yn broses frawychus, felly i wneud yn siŵr eich bod chi'n gwybod beth sy'n digwydd pryd, dyma drosolwg defnyddiol i helpu i’ch rhoi ar ben ffordd.

CHWEFROR-MEHEFIN

GWNEUD CAIS AM GYLLID MYFYRWYR

Gall myfyrwyr o Gymru wneud cais am gyllid myfyrwyr fan yma: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

Gall myfyrwyr o Loegr wneud cais am gyllid myfyrwyr fan yma: www.gov.uk/student-finance.

UCAS EXTRA

Os ydych wedi dewis pum prifysgol ond heb gael unrhyw gynigion, neu os ydych chi'n penderfynu gwrthod yr holl gynigion a gewch, bydd gennych gyfle i fynd i mewn i UCAS

Extra. Mae hwn yn ail gyfle i rai ymgeiswyr nad oedden nhw’n llwyddiannus yn eu ceisiadau cychwynnol neu i rai sydd wedi newid eu meddwl. Byddwch ond yn gallu gwneud cais am gyrsiau mewn sefydliadau sydd â lleoedd gwag o hyd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.ucas.com

DYDDIADAU

2 HYDREF

Dyddiad cau Conservatoires.

15 HYDREF

Y dyddiad cau ar gyfer cyrsiau fel meddygaeth, deintyddiaeth a gwyddor filfeddygol, ac ar gyfer ceisiadau i Rydychen neu Gaergrawnt.

14 IONAWR

Y dyddiad cau ar gyfer ystyriaeth gyfartal ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi 2026.

A CHLIRIO

Os nad ydych chi'n bodloni'r gofynion mynediad ar gyfer eich dewis cadarn na’ch dewis wrth gefn, ac maen nhw wedi eich gwrthod, neu os ydych chi'n cael cynnig cwrs arall nad ydych chi ei eisiau, gallwch fynd i mewn i system o'r enw Clirio. Mae hyn yn caniatáu i ymgeiswyr heb eu lleoli wneud cais a chael eu hystyried am le mewn prifysgol sydd â lle gwag o hyd ar eu dewis gwrs.

Mae UCAS yn cynnig i fyfyrwyr a dderbyniodd brydau ysgol am ddim wedi’i ariannu gan lywodraeth y DU yn ystod y chwe blynedd diwethaf gael eu hesgusodi rhag talu ffi, gan ganiatáu iddyn nhw wneud cais heb daliad trwy ddatgan eu bod yn gymwys yn yr adran 'Mwy amdanoch chi' a dewis 'Gwneud cais gan esgusodi rhag talu ffi' wrth gyflwyno. FYFYRIW

PARATOI EICH

DATGANIAD PERSONOL

1 2

PARATOI

3 Dim ond un datganiad personol y gallwch ei ysgrifennu, felly cofiwch wneud rhestr o'r holl bethau yr hoffech eu cynnwys ynddo.

3 Cofiwch y bydd yr un datganiad yn cael ei anfon i'r holl brifysgolion rydych chi'n gwneud cais iddyn nhw felly dylech osgoi enwi prifysgolion a chyrsiau eraill yn eich datganiad.

3 Dechreuwch ddrafftio eich datganiad personol yn gynnar i wneud yn siŵr bod gennych chi ddigon o amser i ddarllen a golygu.

3 Ymchwiliwch! Ymchwiliwch! Ymchwiliwch! Edrychwch ar wefannau gwahanol brifysgolion i weld pa sgiliau a rhinweddau maen nhw’n chwilio amdanyn nhw.

TRI CHWESTIWN

1

Pam ydych chi eisiau astudio'r cwrs neu'r pwnc hwn?

2

Sut mae eich cymwysterau a'ch astudiaethau wedi eich helpu i baratoi at y cwrs neu'r pwnc hwn?

3

Beth arall ydych chi wedi'i wneud i baratoi y tu allan i addysg, a pham fod y profiadau hyn yn ddefnyddiol?

YR HYN MAE

PRIFYSGOLION YN CHWILIO AMDANO

3 Tystiolaeth eich bod chi'n angerddol ac yn wybodus am y maes pwnc.

3 Bod gennych y sgiliau a'r profiadau trosglwyddadwy perthnasol.

3 Bod y gramadeg, y sillafu a’r atalnodi yn gywir.

MANYLION TECHNEGOL

3 Peidiwch â chopïo! Mae systemau meddalwedd UCAS yn canfod a yw datganiad wedi ei gopïo a bydd UCAS yn rhoi gwybod i’r prifysgolion, a allai rwystro eich siawns o gael eich derbyn.

3 I weld beth i’w wneud a beth i beidio â gwneud o ran defnyddio deallusrwydd artiffisial ar gyfer eich datganiad personol, ewch i wefan UCAS.

3 Mae’n rhaid i chi ysgrifennu o leiaf 350 o nodau cyfrifiadurol fesul ateb. Mae terfyn uchaf i gyfanswm nifer y nodau cyfrifiadurol o 4,000 (gan gynnwys bylchau). 3 4

YMCHWIL: BETH I'W YSTYRIED

SEFYDLIAD

Prifysgol De Cymru

TEITL/ TEITLAU’R CWRS

DIWRNODAU AGORED GOFYNION MYNEDIAD

YSGOLORIAETH / BWRSARIAETH AR GAEL

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU YN PDC

DATGANIAD PERSONOL

Mae myfyrwyr yn aml yn

ystyried mai’r datganiad personol yw’r rhan fwyaf heriol o'u cais UCAS.

E.e., Lansio clwb gwaith cartref amser cinio gyda chyd-ddisgyblion.

MAP MEDDWL

Cyn i chi ddechrau gweithio ar eich datganiad personol, mae angen i chi ystyried beth rydych chi am ei gynnwys a beth rydych chi am i'ch dewis brifysgolion ei wybod amdanoch chi. Mapiwch eich syniadau, eich cyflawniadau a'ch profiadau isod.

PAM YDYCH CHI EISIAU ASTUDIO'R CWRS NEU'R PWNC HWN?

Eich rhesymau dros ddewis y pwnc hwn / pynciau hyn.

Meddyliwch am beth ysgogodd eich diddordeb yn y pwnc hwn gyntaf. Ai person neu brofiad penodol, neu rywbeth rydych chi wedi mwynhau dysgu amdano ac eisiau ei archwilio ymhellach? Mae prifysgolion eisiau gweld eich brwdfrydedd a'ch ymrwymiad, felly tynnwch sylw at unrhyw lyfrau, arbenigwyr sydd wedi eich ysbrydoli, neu bynciau penodol sydd wedi dal eich sylw. Bydd cyflwyno’r hyn rydych chi wedi’i archwilio y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth trwy weithgareddau uwchgwricwlaidd yn dangos eich angerdd a'ch parodrwydd i lwyddo.

Eich nodau i’r dyfodol a pham fod y pwnc hwn yn addas i chi.

Os oes gennych chi lwybr gyrfa penodol mewn golwg, esboniwch sut y bydd y pwnc hwn yn eich helpu i gyrraedd yno. Os ydych chi'n dal i archwilio eich opsiynau, ystyriwch yr hyn sydd bwysicaf i chi yn y tymor hir a sut y gall astudio'r pwnc hwn gefnogi eich uchelgeisiau ac agor cyfleoedd i’r dyfodol.

SUT MAE EICH CYMWYSTERAU A'CH ASTUDIAETHAU WEDI EICH HELPU I

BARATOI AM Y CWRS NEU'R PWNC HWN?

Eich astudiaethau a'ch sgiliau perthnasol.

Tynnwch sylw at eich astudiaethau mwyaf diweddar a pherthnasol, boed drwy gyrsiau ysgol, coleg, neu ar-lein, sy'n ymwneud â'ch dewis bwnc. Canolbwyntiwch ar y sgiliau a'r wybodaeth allweddol rydych chi wedi'u hennill, gan ddangos sut maen nhw wedi eich paratoi at astudiaethau pellach a sut maen nhw’n cyd-fynd â'ch diddordebau a'ch cryfderau.

Tynnu sylw at eich cyflawniadau addysgol.

Yn hytrach nag ailadrodd eich graddau, defnyddiwch yr adran hon i ddangos cyflawniadau nodedig fel ennill cystadlaethau, ymgymryd â rolau arwain fel llysgennad myfyrwyr neu gapten tîm, neu ragori mewn gweithgareddau allgyrsiol fel cael rhan arweiniol mewn cynhyrchiad.

BETH ARALL YDYCH CHI WEDI'I WNEUD I BARATOI Y TU ALLAN I ADDYSG, A PHAM FOD Y PROFIADAU HYN YN

DDEFNYDDIOL?

Profiadau a chyfrifoldebau perthnasol. Mae eich profiadau, boed trwy waith, gwirfoddoli, neu gyfrifoldebau personol, yn cynnig sgiliau gwerthfawr sy'n cyd-fynd â'ch dewis gwrs. P'un a ydych chi wedi datblygu eich dealltwriaeth drwy leoliadau gwaith ffurfiol, wedi cyfrannu at eich cymuned, neu wedi wynebu heriau personol fel cyfrifoldebau gofalu, mae'n bwysig tynnu sylw at sut mae'r profiadau hyn wedi siapio eich sgiliau, eich gwytnwch a’ch cymhelliant.

Gweithgareddau allgyrsiol, cyflawniadau, a phrofiadau ôl-addysg. Boed yn chwaraeon, yn waith cymunedol, neu’n gyflawniadau personol fel ennill cystadleuaeth neu gymhwyster, tynnwch sylw at unrhyw weithgareddau sy'n dangos eich galluoedd y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Os nad ydych bellach mewn addysg, dangoswch sut mae eich profiadau ers hynny wedi helpu i ddatblygu'r sgiliau a'r rhinweddau sy'n eich gwneud yn ymgeisydd cryf ar gyfer eich dewis gwrs.

COFIWCH STRWYTHUR ‘PWYNT, TYSTIOLAETH,

ESBONIAD, CYSWLLT’

PWYNT

Dechreuwch â datganiad clir.

TYSTIOLAETH

Rhowch enghreifftiau penodol i gefnogi eich pwynt.

ESBONIAD

Sut mae'r profiadau wedi eich paratoi (defnyddiwch sgiliau trosglwyddadwy).

CYSWLLT

Clymwch eich profiad yn ôl i nodau’r dyfodol.

PWYNT:

TYSTIOLAETH :

ESBONIAD:

CYSWLLT:

PWYNT:

TYSTIOLAETH :

ESBONIAD:

CYSWLLT:

PWYNT:

TYSTIOLAETH :

ESBONIAD:

CYSWLLT:

PWYNT:

TYSTIOLAETH :

ESBONIAD:

CYSWLLT:

PWYNT:

TYSTIOLAETH :

ESBONIAD:

CYSWLLT:

PWYNT:

TYSTIOLAETH :

ESBONIAD:

CYSWLLT:

PWYNT:

TYSTIOLAETH :

ESBONIAD:

CYSWLLT:

ADBORTH ATHRO A CHYNGHORYDD

Os hoffech rywfaint o gymorth ac arweiniad ar eich datganiad personol neu gais UCAS, cysylltwch â ni. Anfonwch e-bost i schoolsandcolleges@southwales.ac.uk neu dewch o hyd i ni ar Unibuddy – ewch i www.southwales.ac.uk/cy/siarad-a-ni

NODIADAU YCHWANEGOL

DOD I ADNABOD PDC

Rydyn ni’n edrych ymlaen at gwrdd â chi a'ch croesawu i PDC! Mae rhestr o'r Diwrnodau Agored sydd ar ddod i’w gweld ar ein gwefan: www.southwales.ac.uk/cy/diwrnodau-agored

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy. Trwy ein gwefan, gallwch sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

SGANIWCH I GADW EICH LLE AR DDIWRNOD AGORED

Gallwch siarad â myfyrwyr a staff academaidd PDC ar-lein unrhyw bryd. Edrychwch am 'Sgwrsio gyda’n

Myfyrwyr' ar www.southwales.ac.uk/cy/siarad-a-ni

DIWRNODAU A

BETH YDW I EISIAU EI WYBOD?

Gwnewch nodyn o rai cwestiynau yr hoffech eu gofyn ar Ddiwrnodau Agored prifysgolion, fel cwestiynau am strwythur y cwrs neu ddulliau asesu, achrediadau, a pha yrfaoedd y mae graddedigion wedi cychwyn arnyn nhw, neu'r profiad gwaith sydd ar gael fel rhan o'r cwrs.

BYWYD MYFYRWYR

Yn PDC fe fyddwch chi'n gwneud ffrindiau am oes, yn rhoi cynnig ar lawer o bethau newydd ac yn dod yn fwy annibynnol nag erioed o'r blaen. Fe fyddwch yn rhan o amgylchedd cefnogol ar gyfer astudio a byw, lle mae myfyrwyr newydd yn teimlo'n gartrefol yn gyflym.

Er ein bod yn un o'r prifysgolion mwyaf yn y DU, fe welwch fod y darlithwyr yn adnabod pob un o'u myfyrwyr yn ôl eu henwau. Mae gennym ni gymuned amrywiol a chroesawgar, felly fe welwch bobl fel chi, sy'n rhannu eich diddordebau, eich gwerthoedd a'ch cymhellion.

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i weld beth sy'n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

De_cymru

Mae'r wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir ar adeg argraffu ond gall newid. I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ffoniwch neu edrychwch ar ein gwefan: decymru.ac.uk

Mae Prifysgol De Cymru yn elusen gofrestredig. Rhif Cofrestru 1140312

Mae'r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.