Polisi Codi Arian 1.
Crynodeb o'r Polisi 1. Mae'r polisi hwn yn dwyn sylw at y gofynion cyfreithiol y mae'n rhaid i Undeb Bangor a'r holl fyfyrwyr sy'n codi arian trwy gefnogaeth Undeb Bangor ymlynu atynt. 2. Ar adeg ei gyhoeddi, mae'r polisi hwn yn dilyn yr holl ganllawiau statudol perthnasol.
2.
Datganiad Polisi 1. Bydd Undeb Bangor yn ymlynu at Ddeddf Elusennau 2011 ar bob adeg a statudau perthnasol arall lle bo hynny'n briodol. Bydd newidiadau i'r gyfraith yn disodli'r holl ganllawiau yn y polisi hwn ac mae'r codwr arian yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn ymlynu'n unol â hynny. 2. Mae Undeb Bangor wedi ymrwymo i gynnig cyfle i bob myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor gymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian yn ystod eu hastudiaethau. 3. Nod Undeb Bangor yw cynnig cefnogaeth ar gyfer ystod o weithgareddau codi arian sy'n apelio at ein haelodaeth amrywiol o fyfyrwyr trwy gyfrwng y grŵp RAG a chefnogaeth i weithgareddau cymdeithasau neu glybiau eraill. 4. Rhaid i'r holl weithgareddau Codi Arian a ymgymerir gan Gymdeithasau, Clybiau Chwaraeon, projectau a grwpiau Gwirfoddoli Undeb Bangor gael eu gwneud trwy'r grŵp RAG. 5. Bydd Undeb Bangor yn sicrhau bod yr holl weithgareddau codi arian a wneir gan fyfyrwyr yn cael eu cofnodi'n briodol trwy gyfrif RAG fel y gellir ei adrodd yn gywir yn flynyddol i'r corff myfyrwyr, y Brifysgol a rhanddeiliaid allanol. 6. Gall aelodau cymdeithas godi arian ar gyfer eu cymdeithas trwy ddefnyddio statws elusennol Undeb Bangor, neu gallent rannu'r arian rhwng eu cymdeithas ac elusen arall ar yr amod bod hyn wedi’i nodi’n glir ar yr holl ddeunyddiau codi arian. Mae'r adrannau canlynol yn amlinellu'n glir sut i wneud hyn.
3.
Cefnogaeth, Arweiniad a Hyfforddiant 1. Mae Undeb Bangor yn cyflogi staff parhaol i gynorthwyo myfyrwyr sy'n dymuno codi arian. Bydd cefnogaeth ac arweiniad yn cael eu cynnig i bob myfyriwr gan y tîm cyfleoedd myfyrwyr. Dylai pob myfyriwr sy'n cymryd rhan mewn codi arian a drefnir gan Undeb Bangor, gan gynnwys y gweithgareddau a drefnir gan y grŵp RAG, gysylltu â'r Cydlynydd Cyfleoedd (Gwirfoddoli a Chodi Arian) am unrhyw gefnogaeth cyn dechrau'r gweithgaredd codi arian.