












MAE UNDEB BANGOR (UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL BANGOR) YN SEFYDLIAD LLWYDDIANNUS, BYWIOG AC ARLOESOL SYDD Â DYFODOL CYFFROUS O'I FLAEN.
Mae Undeb Bangor yn elusen fywiog dan arweiniad myfyrwyr sy ’ n cynrychioli dros 9,000 o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn falch o fod wedi’n gwreiddio yng Ngogledd Cymru, ac mae ein gwaith yn cael ei lunio gan ein gwerthoedd: Cefnogol, Beiddgar, Grymusol, Canolbwyntio ar y Gymuned, Hwyl, a Balch o Fangor.
Mae gennym dîm o bum Swyddog Myfyrwyr etholedig i sicrhau bod syniadau, anghenion a dymuniadau myfyrwyr yn cael eu gweithredu, ynghyd â thîm o 15 aelod o staff gyrfa a 8 aelod o staff myfyrwyr sy ’ n cefnogi i gyflawni ein strategaeth fel Undeb.
Yn ganolog i’n llywodraethu mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr, ac yn ganolog i’r Bwrdd hwnnw mae ein Hymddiriedolwyr. Mae’r 13 unigolyn hyn yn gwneud penderfyniadau allweddol am yr Undeb, ac mae ein Hymddiriedolwyr Allanol yn dod â gwybodaeth a phrofiad penodol i’r Bwrdd. Mae gennym bedwar lle wedi’u cadw ar gyfer Ymddiriedolwyr Allanol (sy’n eistedd ochr yn ochr â’n pum Swyddog Myfyrwyr a phedwar Ymddiriedolwr Myfyriwr).
Rydym yn chwilio am Ymddiriedolwyr Allanol newydd i ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr ac i’n helpu i gyflawni ein strategaeth newydd gyffrous sy ’ n lansio ym mis Medi 2025. Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth a ’ n cefnogi i gynrychioli, grymuso a chefnogi myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, gan eu paratoi ar gyfer y dyfodol, a gweithio gyda ni i adeiladu Undeb Myfyrwyr cryf a deniadol?








Rydym yn chwilio am ddau ymddiriedolwr allanol i ymuno â’n BwrddYmddiriedolwyr.
Mae Undeb Bangor yn elusen fywiog dan arweiniad myfyrwyr sy ’ n cynrychioli dros 9,000 o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn falch o ’ n gwreiddiau yng Ngogledd Cymru, ac mae ein gwaith yn cael ei lywio gan ein gwerthoedd: Cefnogol, Beiddgar, Grymusol, Cymunedol, Hwyl, Balch o Fangor
Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn chwarae rôl hanfodol wrth arwain ein cyfeiriad strategol, sicrhau llywodraethu cadarn, a hyrwyddo diwylliant sy ’ n adlewyrchu ein gwerthoedd. Yn ddiweddar, rydym wedi cynnal darn o waith i wella effeithiolrwydd a diwylliant ein bwrdd, gan ganolbwyntio ar gydweithredu, cynhwysiant ac arweinyddiaeth ar y cyd. Rydym bellach yn awyddus i adeiladu ar y momentwm hwn drwy groesawu dau ymddiriedolwr newydd sy ’ n rhannu ein hymrwymiad i rymuso myfyrwyr ac i ragoriaeth sefydliadol.
Rydym yn arbennig o awyddus i recriwtio unigolion sydd â gwybodaeth neu arbenigedd yn y meysydd canlynol:
· Adnoddau dynol a datblygu pobl – cefnogi diwylliant sefydliadol cynhwysol sy ’ n cael ei arwain gan werthoedd.
· Cyllid ac amrywio incwm – sicrhau cynaliadwyedd hirdymor a goruchwyliaeth ariannol gadarn, gan ddod ag arbenigedd strategol ym maes grantiau, codi arian elusennol neu bartneriaethau corfforaethol.








· Y Gymraeg – sgiliau Cymraeg a dealltwriaeth o ’ r cyd-destun cenedlaethol a lleol, a phwysigrwydd y Gymraeg i fywyd myfyrwyr ym Mangor. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu bwrdd amrywiol sy ’ n adlewyrchu ystod o sgiliau, profiadau a hunaniaeth. P’un ai dyma’ch rôl ymddiriedolaeth gyntaf neu os oes gennych brofiad helaeth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Beth fyddwch chi’n ei wneud:
· Helpu i gael trosolwg o gyflawni ein strategaeth newydd 2025–2030
· Sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau ariannol cadarn ac yn dilyn fframweithiau cyfreithiol.
· Cyfrannu at ddiwylliant bwrdd cydweithredol a chynhwysol.
· Hyrwyddo ein gwerthoedd ac ymateb i anghenion newidiol ein myfyrwyr.
· Mynychu pedwar cyfarfod bwrdd y flwyddyn (wyneb yn wyneb neu ar-lein).
· Cymryd rhan mewn is-bwyllgorau neu grwpiau gwaith sy ’ n cyd-fynd â’ch arbenigedd.
Disgwylir i ymddiriedolwyr fynychu pedwar cyfarfod bwrdd y flwyddyn ac ymuno â oleua un o ’ n is-bwyllgorau sydd hefyd â pedwar cyfarfod y flwyddyn, sydd i gyd a-lein. Mae’r rhan fwyaf o gyfarfodydd yn rhai hybrid, gyda’r opsiwn i fynychu wyneb yn wyneb neu arlein. Disgwylir i ymddiriedolwyr fynychu un cyfarfod wyneb yn wyneb y flwyddyn ym mis Gorffennaf.
Mae hon yn rôl wirfoddol ddi-dâl, ond bydd costau teithio a holl dreuliau cysylltiedig â rôl yr Ymddiriedolwr yn cael eu had-dalu.
Bydd cyfweliadau ar gyfer y rôl hon yn cael eu cynnal ar-lein ac yn debygol o gael eu cynnal yn ystod yr wythnos yn dechrau 8fed o Fedi.







Sut i wneud cais:
