Undeb_Bangor_s_Respsonse_to_BCFC_at_Bangor_University-_June_2025-CY

Page 1


Ymateb Undeb Bangor i

Achosion Busnes dros Newid

Prifysgol Bangor

Lluniwyd yr adroddiad gan:

Tîm Swyddogion Sabothol Undeb Bangor 2024-25

Mehefin 2025

Rhagarweiniad

Yn dilyn ymarfer cynaliadwyedd ariannol y Brifysgol, mae Undeb Myfyrwyr Bangor wedi trefnu nifer o sesiynau i alluogi myfyrwyr i roi adborth ar yr hyn sy’n cael ei gynnig yn yr Achosion

Busnes dros Newid. Roedd y grwpiau ffocws hyn yn canolbwyntio ar y newidiadau arfaethedig i’r Ysgolion Academaidd a’r Gwasanaethau Proffesiynol. Fe wnaethon ni hefyd gynnal grŵp ffocws gyda myfyrwyr Cymraeg eu hiaith i gasglu eu barn a'u pryderon ynghylch yr effaith bosibl ar addysg a gwasanaethau cyfrwng Cymraeg. Ynghyd â'r uchod, roedd modd i fyfyrwyr hefyd roi adborth drwy e-bost a thrwy gyflwyno ac arwyddo deisebau.

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno ymatebion Undeb Bangor a'r Myfyrwyr i'r hyn sy’n cael ei gynnig yn yr Achosion Busnes dros Newid. Lluniwyd yr adroddiad hwn o'r sylwadau, y pryderon a'r adborth a godwyd yn y sesiynau niferus a gynhaliwyd gyda'r myfyrwyr sy’n cael eu crybwyll uchod, ac felly mae'n adlewyrchu safbwyntiau a barn y myfyrwyr. Rydym hefyd wedi cynnwys atodiad sy'n cynnwys y deisebau a gyflwynwyd gan fyfyrwyr ar wefan Undeb Bangor yn ogystal ag un ddeiseb ar change.org.

Er gwybodaeth, mae Undeb Bangor ac UMCB wedi cydweithio i lunio'r adroddiad hwn, gan roi sylw hefyd i'r effaith bosibl ar brofiad myfyrwyr Cymraeg eu hiaith.

Safbwynt Undeb Bangor

Mae Prifysgol Bangor yn un o gonglfeini Gogledd Cymru, o ran economi a hunaniaeth, gan gynnig swyddi, hyfforddiant a chyfleoedd i'r rhanbarth. Fodd bynnag, mae’r sector Addysg Uwch yng Nghymru dan bwysau digynsail oherwydd diffyg cyllid, gostyngiad mewn niferoedd myfyrwyr, a newidiadau ym mholisi'r Llywodraeth. Mae'r cylch ailadroddus o ailstrwythuro a diswyddiadau ym Mhrifysgol Bangor wedi cael effaith ddinistriol ar y gweithlu, ar brofiad myfyrwyr ac ar sefydlogrwydd sefydliadol, ac all hyn ddim parhau. Mae ar Gymru angen model ariannu cynaliadwy ar gyfer ei phrifysgolion, a hynny ar fyrder, ynghyd â buddsoddiad hirdymor mwy sefydlog. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu nawr i sicrhau dyfodol cryf a gwydn i’r sector addysg uwch yng Nghymru.

Mae Undeb Bangor yn cydnabod, oherwydd y sefyllfa ariannol y mae’r Brifysgol ynddi ar hyn o bryd, bod yn rhaid gwneud arbedion, ac felly mae'n bosibl na fydd modd i Ddarpariaeth Academaidd a Gwasanaethau gael eu darparu fel y maent ar hyn o bryd. Rydym yn cydnabod bod yr hyn sy’n cael ei gynnig yn yr Achosion Busnes dros Newid yn ceisio mynd i'r afael â sefyllfa ariannol bresennol y Brifysgol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd at y dyfodol. Fodd bynnag, credwn fod y newidiadau arfaethedig, yn ogystal â'r broses a gafodd ei dilyn i gyfathrebu’r newidiadau hynny i fyfyrwyr ac i ymgynghori yn eu cylch, wedi cael effaith andwyol, a byddant yn parhau i gael effaith andwyol, ar fyfyrwyr mwyaf bregus y brifysgol, ac ar fyfyrwyr sydd wedi eu hymyleiddio, yn enwedig felly fyfyrwyr anabl a myfyrwyr sydd angen cefnogaeth y Gwasanaethau Lles.

Mae'n frawychus bod yr un problemau a phryderon ag a gafwyd mewn ymarferion ailstrwythuro blaenorol wedi dod i’r wyneb unwaith eto. (Plant et al. 2019, Williams et al. 2020), gan awgrymu nad yw'r brifysgol wedi dysgu o gamgymeriadau’r gorffennol. Mae'r pryderon hyn yn cynnwys diffyg gwybodaeth hawdd cael gafael arni gan y brifysgol, cyfathrebu gwael, a theimlad nad yw myfyrwyr yn gallu cyfrannu'n ystyrlon at y broses oherwydd pryd y caiff ei chynnal.

Rydym yn rhannu rhwystredigaethau’r myfyrwyr ac yn credu y gallai'r Brifysgol fod wedi rhoi camau ar waith a fyddai wedi lliniaru'r pryderon hyn, gan fod myfyrwyr ar hyn o bryd yn ei chael hi'n anodd deall y cynigion, ddim yn deall beth yw'r newidiadau na beth fydd yr effaith ar eu profiad nhw fel myfyrwyr. Rydym yn rhannu’r rhwystredigaethau y mae’r myfyrwyr wedi'u codi gyda ni nad oedd fersiynau o'r Achosion Busnes dros Newid wedi eu llunio ar gyfer myfyrwyr.

Rydym hefyd yn bryderus iawn bod llawer o fyfyrwyr yn dweud nad ydynt wedi cael gwahoddiad i sesiynau gwybodaeth gan eu hysgolion.

Er ein bod yn cydnabod ei bod yn cymryd amser i baratoi Achosion Busnes dros Newid, rydym yn adleisio rhwystredigaethau ein myfyrwyr bod y cyfnod ymgynghori wedi digwydd dros gyfnod arholiadau, sef cyfnod pan fo myfyrwyr eisoes dan straen a phan nad oes ganddynt lawer o amser nac argaeledd i ddarllen yr Achosion Busnes nac i roi adborth. Nifer fach iawn o fyfyrwyr sydd wedi gallu cymryd rhan weithredol yn y broses, ac o ganlyniad mae'n debygol y byddwn heb sylwi ar lawer o effeithiau'r newidiadau arfaethedig hyn. Yn yr un modd, er ein bod yn gwerthfawrogi bod y cyfarfod a gynhaliwyd i’r holl fyfyrwyr gan y gwasanaethau proffesiynol yn gyfle i fyfyrwyr ofyn cwestiynau a chodi pryderon, rydym yn teimlo bod y cyfarfod wedi'i drefnu'n rhy hwyr yn y broses ac ar adeg anghyfleus i fyfyrwyr, yn union ar ddiwedd y tymor. Mae hyn yn dilyn tuedd gyffredinol o gynllunio gwael o ran y cyfathrebu ynghylch yr Achosion Busnes dros Newid. Yn ogystal â hyn, roeddem yn anfodlon â’r atebion a roddwyd i gwestiynau’r myfyrwyr yn y cyfarfod i’r holl fyfyrwyr, ac yn rhannu rhwystredigaethau’r myfyrwyr na chawsant yr eglurder yr oeddent yn haeddu ei gael.

Yn yr Adolygiad Gwella Ansawdd yn ddiweddar, cafodd y Brifysgol ganmoliaeth am ei pherthynas gref â’r myfyrwyr, “lle mae barn ac adborth myfyrwyr yn flaenllaw mewn mentrau/projectau i gyfoethogi profiad myfyrwyr.” Hefyd, cafwyd canmoliaeth yn yr adolygiad o’r “gefnogaeth helaeth ac ymatebol sydd ar gael yn academaidd ac yn fugeiliol, er mwyn helpu i gefnogi anghenion myfyrwyr drwy gydol eu cyfnod yn y Brifysgol.” (ASA Cymru 2025). Rydym yn hynod bryderus bod y cynigion presennol yn tanseilio'r cryfderau hyn a amlygwyd yn yr arolygiad ac yn tanseilio'r berthynas gref rhwng y Brifysgol a’r myfyrwyr.

Credwn y dylai’r camau canlynol fod wedi eu cymryd i fynd i’r afael â rhai o’r materion hyn a byddai gwneud hynny wedi galluogi myfyrwyr i gymryd rhan ystyrlon yn y broses ymgynghori. Mae’r holl bwyntiau hyn yn rhai yr ydym wedi'u codi yn ystod y cyfnod ymgynghori a chyn i’r cyfnod ymgynghori ddechrau.

• Fersiynau o'r Achosion Busnes dros Newid wedi eu llunio ar gyfer myfyrwyr.

• Rhannu cynlluniau cyfathrebu cliriach yr ymgynghorwyd yn eu cylch gydag Undeb y Myfyrwyr cyn lansio'r Achosion Busnes.

• Cynlluniau cyfathrebu a oedd yn amlinellu dyddiadau ac amseroedd pob cyfarfod ar lefel myfyrwyr ac ar lefel ysgolion mewn modd amserol.

Rydym hefyd yn tynnu sylw penodol isod at y sawl maes allweddol o'r hyn sy’n cael ei gynnig yn yr Achosion Busnes dros Newid yr ydym yn credu bod angen rhoi sylw yn eu cylch ac angen craffu arnynt.

• Amserlen - Mae'r amserlen arfaethedig i dorri swyddi erbyn mis Medi 2025 yn rhy dynn ac nid yw'n caniatáu digon o amser i ymgynghori’n ystyrlon â myfyrwyr, i werthuso camau amgen lliniarol mewn modd priodol, nac i gyfathrebu’n glir gyda myfyrwyr. Mae rhuthro’r penderfyniadau hyn yn cynyddu’r tebygolrwydd o darfu ar fyfyrwyr ac yn cyfyngu ar y cyfle i ddatblygu cynlluniau sy’n cefnogi eu gallu i raddio neu symud ymlaen i’r flwyddyn nesaf.

• Rhagolygon Ariannol - Mae’n bryder i ni bod rhagolygon ariannol y Brifysgol yn rhy besimistaidd a bod perygl i hynny arwain at doriadau cynamserol a diangen. Er bod y Brifysgol yn rhagweld diffyg o £4.6 miliwn, cadarnhaodd yr adroddiad diweddar gan Medr (Medr 2025a) nad oes unrhyw brifysgol yng Nghymru mewn perygl uniongyrchol o fethdalu ar hyn o bryd. Mae Prifysgol Bangor eisoes wedi derbyn £1.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru (Medr 2025b) i helpu i liniaru'r pwysau ariannol presennol, a dylid defnyddio'r cyllid hwn i leihau maint y diswyddiadau arfaethedig. Byddai gwneud toriadau strwythurol dwfn nawr, ac yna llenwi’r swyddi hynny eto yn y 12 i 24 mis nesaf, yn aneffeithlon, yn achosi ansefydlogrwydd, ac yn niweidiol i forâl staff, i barhad sefydliadol, ac i brofiad y myfyrwyr.

• Diswyddiadau Gorfodol - Mae ein gwrthwynebiad yn gryf i ddiswyddiadau gorfodol os na ellir cyflawni’r arbedion drwy ddiswyddiadau gwirfoddol. Nid oes unrhyw brifysgol arall yng Nghymru wedi troi at ddiswyddiadau gorfodol mewn mwy na 15 mlynedd, a byddai’n gosod cynsail peryglus ac yn gwanhau sefydlogrwydd a diogelwch ledled y sector i fyfyrwyr a staff. Mae’r staff yn greiddiol i brofiad myfyrwyr, a byddai torri swyddi’n orfodol yn niweidio ansawdd addysg, cefnogaeth i fyfyrwyr, a'r gymuned. Mae perygl i gamau o'r fath niweidio morâl a thanseilio'r ymddiriedaeth sydd ei hangen er mwyn cael adferiad cynaliadwy yn yr hirdymor. Mae deisebau diweddar yn ogystal â blynyddoedd lawer o gynnal Gwobrau Addysgu dan Arweiniad Myfyrwyr wedi dangos faint y mae myfyrwyr yn gwerthfawrogi ac yn malio am eu staff, ac os bydd y myfyrwyr yn gweld y staff hyn yn cael eu gorfodi i adael y brifysgol, byddai hynny yn peri trallod iddynt.

• Cyflogau Uchel a Strwythur y Bwrdd Gweithredol - Yng ngoleuni'r toriadau sylweddol a gynigir ar draws y gwasanaethau proffesiynol a’r adrannau academaidd, mae'n hanfodol bod y Brifysgol yn dangos tegwch a thryloywder yn ei phenderfyniadau ariannol. Rydym yn galw ar y Brifysgol i adolygu'r cyflogau uchaf o fewn y sefydliad, yn enwedig y rhai sy'n fwy na £100,000 y flwyddyn. Dangosodd Adroddiad Blynyddol a

Datganiadau Ariannol 2024 a gyhoeddwyd yn ddiweddar fod costau cyflogau dros

£100,000 y flwyddyn wedi codi i fwy na £1 miliwn y llynedd, sy’n cynnydd sydd ymhell dros 50% (Prifysgol Bangor 2025). Mae’r gost honno’n anghyfiawn tra bod staff eraill yn colli eu swyddi a gwasanaethau'n cael eu torri. Ar ben hynny, gofynnwn i'r Brifysgol esbonio sut y bydd yn adolygu strwythur a maint y tîm Gweithredol fel y crybwyllir yn y Cwestiynau Cyffredin, sut y bydd hyn yn cyd-fynd â'r arbedion y gofynnir amdanynt o blith staff a gwasanaethau rheng flaen, a sut y caiff hynny ei wneud mewn modd teg, tryloyw, a diduedd. Mae myfyrwyr a staff fel ei gilydd yn haeddu sicrwydd bod arweinyddiaeth y Brifysgol yn rhannu cyfrifoldeb ac effaith y newidiadau hyn a dylent allu cyfrannu at benderfyniadau ynghylch strwythur uwch-arweinyddiaeth y sefydliad.

• Gwasanaethau Anabledd a Llesiant - Rydym yn ymwybodol bod gan Brifysgol Bangor fwy o fyfyrwyr sydd angen cefnogaeth ychwanegol na chyfartaledd y sector. Felly, rydym yn bryderus iawn ynghylch yr effaith ar fyfyrwyr o dorri gwasanaethau cefnogi myfyrwyr ac yn gofyn sut y bydd y Brifysgol yn cynnal y lefelau o gefnogaeth sydd eu hangen.

• Cyfuno Gwasanaethau Anabledd a Llesiant - Ni ddylid uno gwasanaethau anabledd a lles. Yn aml, mae gan fyfyrwyr anabl anghenion neilltuol a phenodol sy'n wahanol i'r anghenion a gaiff eu diwallu gan gefnogaeth lles gyffredinol. Mae perygl, o gyfuno'r ddau wasanaeth, y bydd yr ymraniad pwysig hwn yn niwlog ac rydym yn pryderu y gallai hynny arwain at ostyngiad yn ansawdd ac effeithiolrwydd y gefnogaeth i bobl anabl.

• Asesu Diagnostig - Ni ddylai myfyrwyr orfod talu am asesiad diagnostig ac yn sicr ni ddylent orfod talu mwy nag y maent yn ei wneud ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi'r cynnig y gallai myfyrwyr gael mynediad at gyllid caledi at y diben hwnnw, gan fod myfyrwyr wedi dweud wrthym bod angen iddynt yn aml gynilo am fisoedd i fedru fforddio'r apwyntiadau hyn.

• Gwasanaeth Cwnsela - Rydym yn bryderus iawn ynghylch y cynnig i allanoli'r gwasanaeth cwnsela myfyrwyr. Er ein bod yn cydnabod yr angen am gynaliadwyedd ariannol, ni ddylai ddod ar draul ansawdd, hygyrchedd a chynhwysiant y gefnogaeth iechyd meddwl. Mae'r gwasanaeth mewnol presennol yn darparu parhad gofal, darpariaeth Gymraeg, a dealltwriaeth fanwl o brofiad myfyrwyr ym Mangor, rhinweddau y byddai perygl eu colli pe cai’r gwasanaeth ei allanoli. Nid oes tystiolaeth glir yn yr Achosion Busnes y byddai allanoli yn lleihau amseroedd aros nac yn cynnal safonau mewn modd sy’n cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg, gofynion monitro Medr, nac egwyddorion Siarter Iechyd Meddwl y Brifysgol (Hughes & Spanner 2024). Rydym yn arbennig o bryderus am y posibilrwydd y byddai darpariaeth dameidiog, llai o gefnogaeth wyneb yn wyneb, ac y byddid yn colli staff profiadol. Os dilynir y llwybr hwn, rhaid i'r Brifysgol warantu'r un lefel o ofal, integreiddiad di-dor gyda gwasanaethau ar y campws, ac ymrwymiad cadarn i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Byddai unrhyw beth sy’n llai na hyn yn peryglu tanseilio ymddiriedaeth a lles myfyrwyr.

myfyrwyr Cymraeg eu hiaith i gasglu eu barn a'u pryderon ynghylch yr effaith bosibl ar addysg a gwasanaethau cyfrwng Cymraeg.

Mae gan Brifysgol Bangor enw da dros gyfnod hir fel arweinydd cenedlaethol mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac fel canolfan ar gyfer diwylliant Cymru, a chaiff hynny ei gadarnhau gan ansawdd uchel yr addysgu a’r ddarpariaeth dros flynyddoedd lawer, ynghyd â’r gymuned gref o siaradwyr Cymraeg a geir yma. Mae'r cryfder hwn yn faes y mae’r Brifysgol yn rhagori ynddo, ac amlygwyd hynny yn ddiweddar yn adolygiad gwella ansawdd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA Cymru 2025), a roddodd ganmoliaeth i’r “ffaith fod y Gymraeg a dwyieithrwydd wedi gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant y Brifysgol i’r fath raddau, a hynny er budd amlwg yr holl staff a myfyrwyr mewn perthynas â chyfleoedd dysgu ac ymdeimlad o berthyn".

Er ein bod yn cydnabod y pwysau ariannol sy'n wynebu'r sefydliad ac yn derbyn nad yw'n bosibl amddiffyn pob agwedd ar y ddarpariaeth yn llawn, ni ddylai'r Brifysgol ddefnyddio'r sefyllfa ariannol bresennol i gyfiawnhau gwanhau na thargedu darpariaeth a gwasanaethau addysgu cyfrwng Cymraeg mewn modd anghymesur.

Mae dogfennau strategol y Brifysgol ei hun yn gwneud ymrwymiad cyhoeddus cryf i ymestyn dwyieithrwydd gan nodi uchelgais i arwain y sector o ran darpariaeth Gymraeg, cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 (Llywodraeth Cymru 2017), a meithrin gweithle a phrofiad myfyrwyr dwyieithog. Mae’r Polisi Iaith Gymraeg (Prifysgol Bangor 2023) hefyd yn ymrwymo i sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg a Saesneg yr un mor weladwy, yr un mor hygyrch ac yr un mor effeithiol, a bod cynllunio a recriwtio yn digwydd mewn modd sy’n cefnogi hunaniaeth ddwyieithog y Brifysgol.

I hysbysu ein hymateb ymhellach, rydym yn tynnu ar Adroddiad Mewnwelediadau Myfyrwyr: Profiad Myfyrwyr Cymraeg (Rowlands et al. 2025), a ddatblygwyd gan Undeb Bangor ac UMCB. Mae'r adroddiad yn archwilio pam fod myfyrwyr yn dewis Bangor a beth yw gwerth addysgu cyfrwng Cymraeg, y gymuned Gymraeg, a rôl UMCB. Mae'n tynnu sylw at arferion gorau a meysydd i'w gwella, gan gynnig mewnwelediadau a ddylai lywio cynllunio strategol ac atgyfnerthu'r angen i ddiogelu a chyfoethogi profiad myfyrwyr Cymraeg yn ystod y cyfnod hwn o newid.

Hoffem dynnu sylw’n benodol at sawl maes allweddol ynglŷn â’r Gymraeg yr ydym yn credu bod angen gwneud sylwadau yn eu cylch a chraffu arnynt. Mae Undeb Bangor ac UMCB yn credu:

• Rhaid i unrhyw newidiadau arfaethedig gynnal yr ymrwymiadau a nodir yn Siarter

Myfyrwyr y Brifysgol (Prifysgol Bangor 2024), yn enwedig o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Nid addewidion sefydliadol yn unig yw'r rhain ond rhwymedigaethau cyfreithiol o dan safonau Comisiynydd y Gymraeg, gan gynnwys mynediad at diwtoriaid personol sy'n siarad Cymraeg, yr hawl i gyflwyno gwaith yn y Gymraeg, a darpariaeth gwasanaethau proffesiynol yn Gymraeg. Byddai tanseilio'r pethau hyn yn torri ymddiriedaeth myfyrwyr ac o bosibl yn arwain at ddiffyg cydymffurfiaeth â gofynion statudol. Rhaid i'r Brifysgol sicrhau bod hawliau'r Gymraeg yn cael eu diogelu a'u hintegreiddio'n llawn ym mhob penderfyniad staffio a phob penderfyniad strwythurol.

• Nid yw'r Achosion Busnes dros Newid i’w gweld yn rhoi digon o ystyriaeth i'r effaith ar y ddarpariaeth Gymraeg, yn enwedig y posibilrwydd o golli staff sy'n siarad Cymraeg drwy ddiswyddiadau gwirfoddol. Nid yw'r goblygiadau ar gyfer addysgu a phrofiad myfyrwyr yn ehangach wedi'u hasesu'n glir, a thrwy hynny’n bygwth capasiti dwyieithog y Brifysgol.

• Er i’r Brifysgol ddatgan ei hymrwymiad i’r Gymraeg, ychydig iawn o fanylion sydd yn yr

Achosion Busnes ynghylch sut y bydd y ddarpariaeth yn cael ei chynnal wrth ailstrwythuro. Heb gynlluniau clir, mae risg ddifrifol i ansawdd, gwelededd a hygyrchedd addysgu cyfrwng Cymraeg a gwasanaethau Cymraeg gan danseilio profiad y myfyrwyr a nodau strategol Prifysgol Bangor.

• Mae dal gafael ar staff dwyieithog yn rhoi manteision addysgol ac ariannol clir i Brifysgol Bangor. Mae staff sy'n siarad Cymraeg nid yn unig yn cefnogi dysgu yn y ddwy iaith, ond hefyd yn cyfrannu at ofal bugeiliol, recriwtio, allgymorth, a phresenoldeb y Brifysgol yn y cyfryngau Cymraeg eu hiaith. Byddai eu colli yn effeithio ar lawer mwy na chapasiti addysgu yn unig. Mae'r Gymraeg yn bwynt gwerthu unigryw i Brifysgol Bangor, ac mae cynnal gweithlu dwyieithog cryf yn hanfodol i ddiogelu profiad myfyrwyr, cynnal darpariaeth cyfrwng Cymraeg, a chryfhau recriwtio yn y dyfodol.

• Fel rhan o'r ailstrwythuro arfaethedig yn y Gwasanaethau Proffesiynol, mae'n debyg y bydd nifer y Cyfarwyddwyr yn y Gwasanaethau Proffesiynol sy'n siarad Cymraeg yn gostwng o dri i un. O ystyried swyddogaeth ganolog y Gymraeg yng ngweledigaeth a gweithrediad y Brifysgol, mae'r gostyngiad hwn yn codi pryderon difrifol ynghylch y gynrychiolaeth sydd gan y Gymraeg o fewn yr uwch arweinyddiaeth ac ynghylch faint o ystyriaeth a roddwyd iddi wrth ddatblygu'r achos busnes.

• Rydym yn pryderu ynghylch effaith bosibl y newidiadau arfaethedig ar recriwtio myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, sydd eisoes wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd yr Adroddiad Mewnwelediad: Profiad Myfyrwyr Cymraeg (Rowlands et al. 2025) yn amlygu fod cryfder Prifysgol Bangor o ran addysgu cyfrwng Cymraeg, y cyrsiau unigryw a gynigir, a'r gymuned fywiog Gymraeg ei hiaith yn ffactorau pwysig wrth ddenu myfyrwyr.

Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis Prifysgol Bangor oherwydd ei hunaniaeth ddiwylliannol a'i hymrwymiad i'r Gymraeg. Yn y cyd-destun hwn, rydym yn croesawu'r cynnig i greu rôl

Uwch Swyddog Recriwtio ar gyfer De Cymru, a allai helpu i gryfhau recriwtio myfyrwyr

Cymraeg eu hiaith os cefnogir hynny gan strategaeth glir ac adnoddau digonol.

• Prifysgol Bangor yw prif ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg yng Nghymru ac ar hyn o bryd mae'n gyfrifol am 46% o'r holl fyfyrwyr, yn genedlaethol, sy'n astudio 80 credyd neu fwy drwy gyfrwng y Gymraeg. Dylid gwneud pob ymdrech bosibl i ddiogelu credydau presennol sy'n gymwys ar gyfer ysgoloriaethau neu fwrsariaethau'r Coleg

Cymraeg Cenedlaethol (CCC), gan eu bod yn cael effaith ariannol uniongyrchol ar fyfyrwyr sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Dylai'r Brifysgol roi ystyriaeth ofalus i unrhyw benderfyniadau a allai beryglu buddsoddiad gan y CCC neu grantiau pwncbenodol. Dylid ystyried yr isafswm o 40 credyd fel trothwy, nid targed, dylai myfyrwyr gael y cyfle i gwblhau o leiaf hanner, os nad y cyfan, o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.

• Rydym yn annog y Brifysgol yn gryf i sicrhau bod pob Achos Busnes yn cynnwys asesiad clir o'i effaith ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ac yn cynnwys cynlluniau clir i gynnal a

chryfhau arweinyddiaeth y Brifysgol ym meysydd addysg a gwasanaethau dwyieithog. Byddai gwneud unrhyw beth sy’n llai na hynny’n gam sylweddol yn ôl o ran uchelgais a chyfrifoldebau datganedig y sefydliad i'r myfyrwyr a'r staff sy'n siarad Cymraeg, a'r gymuned.

Mae'r achosion busnes presennol yn peryglu hunaniaeth ddwyieithog, ymrwymiadau strategol a rôl genedlaethol Prifysgol Bangor. Heb gamau pendant:

• Bydd darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn parhau i ddirywio.

• Ni fydd myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg yn cael profiad cyfartal.

• a bydd rôl flaenllaw’r Brifysgol yn y sector yn cael ei thanseilio.

Rydym yn galw ar y Brifysgol i:

• Asesu effaith pob achos busnes ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

• Datblygu strategaeth benodol i gynnal a thyfu addysg a gwasanaethau dwyieithog.

• Adolygu goblygiadau diswyddiadau gwirfoddol trwy lens gallu ieithyddol.

• A sicrhau atebolrwydd ar lefel uwch am gynnal ymrwymiadau i'r Gymraeg.

Mae adborth, sylwadau a phryderon myfyrwyr am effaith yr hyn sy’n cael ei gynnig yn yr

Achosion Busnes dros Newid ar y Gymraeg wedi'u cynnwys ym mhob adran berthnasol o’r ymatebion isod gan y myfyrwyr.

Ymateb y Myfyrwyr i’r hyn sy’n cael ei gynnig yn yr

Achosion Busnes dros Newid

Mae'r adran hon o'r adroddiad yn cynnwys ymatebion, sylwadau a phryderon myfyrwyr am yr hyn sy’n cael ei gynnig yn yr Achosion Busnes dros Newid. Maent wedi'u llunio ar sail grwpiau ffocws gyda myfyrwyr, sylwadau a gafwyd trwy e-bost a deisebau ar wefan Undeb Bangor. Mae Undeb Bangor yn cefnogi pob myfyriwr i fynegi eu pryderon ac yn cydnabod yn llawn yr holl sylwadau isod a wnaed gan fyfyrwyr.

Yn ogystal â sylwadau’r myfyrwyr, rydym hefyd wedi cynnwys cwestiynau ar ôl pob adran. Rydym yn galw ar Brifysgol Bangor i ateb y cwestiynau hyn er mwyn rhoi eglurder a sicrwydd i fyfyrwyr. Mae crynodeb o’r cwestiynau wedi'i gynnwys ar ddiwedd y ddogfen, a byddem yn gwerthfawrogi pe bai'r Brifysgol yn llunio ymatebion i'r cwestiynau hynny fel y gellir eu cyhoeddi at sylw’r myfyrwyr. Credwn y byddai hyn yn lleddfu pryderon y myfyrwyr ac yn helpu i atal ymddiriedaeth y myfyrwyr yn arweinyddiaeth y Brifysgol rhag erydu ymhellach.

Materion Allweddol i Fyfyrwyr

Dyma'r prif themâu sydd wedi dod i'r amlwg o'n sgyrsiau gyda myfyrwyr, ar draws sawl ysgol.

Hygyrchedd yr Achosion Busnes a Chyfathrebu

• Mae'r iaith a ddefnyddir yn nogfennau’r Achosion Busnes dros Newid yn anodd i fyfyrwyr ei deall, gan ei bod yn cynnwys iaith ffurfiol a llawer o acronymau.

• Rydym wedi clywed gan fyfyrwyr a chanddynt Wahaniaethau Dysgu Penodol fod yr iaith anhygyrch a ddefnyddiwyd yn yr Achosion Busnes yn arbennig o heriol i'w deall. O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Llywodraeth y Deyrnas Unedig 2010), pan eir ati i ddarparu gwybodaeth a bod hynny yn rhoi person anabl dan anfantais, mae’n rhaid gwneud addasiadau rhesymol a darparu gwybodaeth mewn fformat hygyrch (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2019). Nid yw'r Brifysgol wedi darparu hyn, sy'n peri pryder arbennig o ystyried bod meysydd o fewn Achos Busnes y Gwasanaethau

Proffesiynol yn effeithio'n uniongyrchol ar Fyfyrwyr Anabl.

• Bu diffyg cyfathrebu clir â myfyrwyr ynglŷn â'r newidiadau, gyda'r Brifysgol yn disgwyl i fyfyrwyr ddarllen yr Achosion Busnes i gael gwybodaeth. Nid yw myfyrwyr yn teimlo bod ganddyn nhw ddigon o ddealltwriaeth o'r newidiadau arfaethedig i roi adborth dilys.

• Nid yw’r myfyrwyr yn deall nac yn sylweddoli bod y 'Gwasanaethau Proffesiynol' yn cynnwys adrannau sy’n rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr, gan nad yw'r enw'n adlewyrchu hynny, sy'n golygu nad yw llawer o fyfyrwyr yn ymwybodol o newidiadau a fydd yn effeithio arnynt.

• Pan fo myfyrwyr wedi gofyn i staff am eglurder am y newidiadau, yn aml nid oes gan y staff ddim mwy o wybodaeth na’r myfyrwyr. Mae myfyrwyr yn teimlo nad yw’r staff wedi cael digon o wybodaeth i ateb eu cwestiynau a'u pryderon.

• Cynhaliwyd y cyfnod ymgynghori ar adeg pan fo myfyrwyr yn sefyll arholiadau neu'n ysgrifennu aseiniadau, gyda rhai myfyrwyr eisoes wedi gadael Bangor am yr haf. Isel iawn yw nifer y myfyrwyr sydd wedi mynychu grwpiau ffocws ac mae myfyrwyr wedi dweud wrthym bod llawer o'u cyfoedion ddim hyd yn oed yn ymwybodol o fodolaeth yr Achosion Busnes, sy'n golygu nad yw'r rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi gallu rhoi adborth ar y cynigion ac mae'n debygol y bydd effeithiau ar fyfyrwyr na fyddwn wedi sylwi arnynt o’r herwydd.

• Mae’r myfyrwyr yn teimlo bod yr Achosion Busnes yn fwriadol wedi eu rhyddhau ar adeg pan mai dim ond ychydig o fyfyrwyr sydd ar gael oherwydd arholiadau a gwyliau'r haf er mwyn cyfyngu ar allu myfyrwyr i gymryd rhan yn y broses a phrotestio yn erbyn y cynigion. Mae’r myfyrwyr yn flin ac yn teimlo bod newidiadau'n cael eu gwneud 'o dan y radar'.

• Mae’r myfyrwyr yn rhwystredig bod llawer o'r penderfyniadau eisoes wedi'u gwneud, er enghraifft trwy ddiswyddiadau gwirfoddol, trwy beidio ag ymestyn contractau dros dro neu trwy beidio â llenwi swyddi gwag. Mae'r newidiadau hyn yn cael effaith ar fyfyrwyr, ac yn cael dylanwad ar ba fodiwlau a pha gefnogaeth fydd ar gael iddynt.

• Mae myfyrwyr yn teimlo bod diffyg gwybodaeth am ba fodiwlau’n union fydd yn cael eu newid neu y rhoddir y gorau i’w cynnig, a pha staff fydd yn gadael, a hynny ar adeg hollbwysig o'r flwyddyn pan ddylai myfyrwyr fod yn dewis eu modiwlau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

• Mae diffyg eglurder am beth fydd effaith y newidiadau ar fyfyrwyr a sut olwg fydd ar y profiad dysgu i fyfyrwyr ar raglenni sy’n cael eu dirwyn i ben neu lle mae nifer y staff yn cael ei leihau.

• Mae canfyddiad bod diffyg tryloywder gan y Brifysgol wedi erydu ymddiriedaeth myfyrwyr yn y Brifysgol.

• Mae myfyrwyr yn teimlo bod y ddogfen wedi'i hysgrifennu mewn modd ansensitif o safbwynt myfyrwyr, gyda'r iaith yn canolbwyntio ar arbedion ariannol, amodau'r farchnad ac ati a bod diffyg ymwybyddiaeth o fanteision anariannol addysg a'r effaith ar fyfyrwyr.

Effaith yr Achosion Busnes ar Lesiant Myfyrwyr

• Mae'r ansicrwydd, y diffyg cyfathrebu, a cholli systemau cefnogi yn cael effaith ddifrifol ar iechyd meddwl myfyrwyr.

• Mae’r myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a'u tanbrisio, ac nad ydy’r trallod y maent ynddo yn cael ei gydnabod.

• Mae amseriad y newidiadau (yn ystod arholiadau) wedi gwaethygu straen a phwysau academaidd, gan adael myfyrwyr yn teimlo dan bwysau mawr.

• Mae staff yn cael eu llethu gan yr ailstrwythuro, gan arwain at oedi neu ddiffyg cefnogaeth academaidd (e.e., cefnogaeth gyda thraethodau hir).

Cwestiynau

• Pa gynlluniau sydd gan y Brifysgol i sicrhau bod newidiadau a phenderfyniadau’n cael eu cyfathrebu i fyfyrwyr drwy amrywiaeth o ddulliau, nid dim ond drwy’r Bwletin Myfyrwyr?

• Sut fydd y Brifysgol yn sicrhau bod newidiadau'n cael eu cyfathrebu gan ddefnyddio iaith hygyrch yn y dyfodol, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr sydd angen addasiadau rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010?

• Beth yw amserlen a chynllun y Brifysgol ar gyfer camau nesaf y broses?

Pryderon ynghylch y Gwasanaethau Proffesiynol:

Newidiadau i’r Gwasanaethau Anabledd a Llesiant

Mae llawer o fyfyrwyr eisoes yn ei chael hi'n anodd cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt drwy'r Gwasanaethau Anabledd, dywedodd myfyrwyr wrthym eu bod wedi ystyried rhoi'r gorau iddi neu orfod ail-wneud blwyddyn oherwydd nad ydynt wedi gallu cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Maent yn pryderu y bydd y newidiadau arfaethedig yn cyflwyno rhwystrau pellach i gael mynediad at gefnogaeth.

Pryderon ynghylch cyfuno'r Gwasanaeth Anabledd gyda Llesiant a Chynhwysiant

• Bydd cyfuno'r Gwasanaeth Anabledd gyda Llesiant a Chynhwysiant yn lleihau'r gefnogaeth benodol sydd ar gael i fyfyrwyr Anabl. Dylai'r Gwasanaeth Anabledd barhau i

fod yn wasanaeth ar wahân er mwyn adlewyrchu'r heriau unigryw a phenodol y mae myfyrwyr anabl yn eu hwynebu.

Asesiadau Diagnostig

• Mae rhai myfyrwyr eisoes yn ei chael hi'n anodd cael y diagnosis sydd ei angen arnynt er mwyn cael Cynllun Cefnogi Dysgu Personol a Lwfans i Fyfyrwyr Anabl, bydd allanoli'r gwasanaeth hwn yn creu rhwystr arall i fyfyrwyr â gwahaniaethau dysgu penodol ac anableddau.

• Ar hyn o bryd mae'n rhaid i fyfyrwyr dalu hyd at £100 tuag at gost asesiadau. Mae llawer o fyfyrwyr eisoes yn cael trafferth gyda'r gost hon, ac mae myfyrwyr wedi dweud wrthym fod yn rhaid iddynt gynilo am fisoedd er mwyn gallu fforddio hyn. Felly, mae pryderon ynghylch y cynnydd pellach tebygol mewn costau.

• Byddai mynnu bod myfyrwyr yn talu 50% o'r gost yn cynyddu cost asesiadau'n sylweddol, gan olygu na fydd llawer o fyfyrwyr yn gallu cael mynediad at asesiadau.

• Nid yw llawer o fyfyrwyr yn gymwys i dderbyn arian o’r cronfeydd caledi sy’n bodoli ar hyn o bryd, er enghraifft dywedwyd wrth fyfyrwyr tramor nad ydynt yn gymwys. Mae’r myfyrwyr yn pryderu na fyddant yn gallu fforddio cost asesiadau ond na fyddant ychwaith yn gymwys i dderbyn arian o’r cronfeydd caledi ac felly y byddant dan anfantais.

• Mae’r myfyrwyr yn dibynnu ar yr asesiadau hyn er mwyn cael Cynllun Cefnogi Dysgu Personol ac er mwyn derbyn y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl. Bydd cyflwyno rhwystr ariannol ychwanegol yn golygu na fydd llawer o fyfyrwyr yn gallu cael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i astudio, gan olygu canlyniadau gwaeth i fyfyrwyr Anabl.

• Mae’r myfyrwyr yn pryderu na fyddant efallai’n gymwys i dderbyn arian o’r cronfeydd caledi, er enghraifft gan eu bod yn fyfyriwr tramor, sy’n golygu na fyddant yn gallu fforddio cost yr asesiadau.

Allanoli Tiwtora Gwahaniaethau Dysgu Penodol a lleihau nifer yr Ymgynghorwyr

Gwahaniaethau Dysgu Penodol

• Mae angen darparu'r gwasanaeth hwn yn y cnawd yn ogystal ag ar-lein, yn ddibynnol ar ofynion y myfyriwr unigol. Mae’r myfyrwyr yn pryderu, os darperir y tiwtora Gwahaniaethau Dysgu Penodol yn allanol, mai dim ond ar-lein y bydd hynny ar gael.

• Mae'n bwysig bod Tiwtoriaid Gwahaniaethau Dysgu Penodol yn gyfarwydd â phrosesau a staff Prifysgol Bangor, ac yn gallu cysylltu â’r staff addysgu pan fo angen. Efallai na fydd gan ddarparwyr allanol ddealltwriaeth fanwl o Brifysgol Bangor a byddai hynny’n lleihau'r gefnogaeth y gallant ei chynnig i fyfyrwyr.

• Pryderon y bydd gostyngiadau yng nghapasiti ymgynghorwyr gwahaniaethau dysgu penodol yn arwain at lai o gefnogaeth i fyfyrwyr.

Allanoli’r Gwasanaeth Cwnsela

• Mae myfyrwyr o’r farn bod y gwasanaeth cwnsela yn hynod werthfawr, gyda nifer o fyfyrwyr yn dweud bod y ddarpariaeth Llesiant ym Mangor yn ffactor wrth ddewis dod i

Brifysgol Bangor ac yn dweud eu bod yn parhau i 'ddibynnu ar y gefnogaeth hygyrch, bersonol, ac ymgorfforedig sy’n cael ei chynnig gan y gwasanaeth mewnol presennol.

• Mae myfyrwyr yn pryderu y bydd allanoli'r gwasanaeth hwn yn golygu y bydd pobl yn 'llithro drwy'r craciau'.

• Mae’r myfyrwyr yn hoffi’r sefydlogrwydd o fedru siarad â'r un cwnselydd bob tro ac o’r farn ei bod yn haws troi at wyneb cyfarwydd. Mae’r myfyrwyr sy'n defnyddio'r gwasanaeth ar hyn o bryd yn ofni y bydd tarfu ar y gofal.

• Mae'n bwysig bod gan gwnselwyr ddealltwriaeth dda o brosesau'r Brifysgol ac o brofiadau myfyrwyr Bangor er mwyn iddynt allu darparu cefnogaeth o'r ansawdd uchaf. Mae’r myfyrwyr yn pryderu na fyddai gan wasanaeth allanol ddigon o wybodaeth am y meysydd hyn ac y byddai allanoli o'r fath yn 'drychinebus i fyfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol yn enwedig y rhai sydd ag anghenion iechyd meddwl cymhleth, rhwydweithiau cefnogi cyfyngedig, neu fyfyrwyr sy'n agored i niwed oherwydd rhwystrau economaidd-gymdeithasol'.

• Mae’r myfyrwyr yn pryderu fod diffyg gwybodaeth ar hyn o bryd ynglŷn â sut olwg fydd ar y gwasanaeth yn y dyfodol.

Ystyriaethau’n ymwneud â’r Gymraeg

• Mae'n bwysig bod darpariaeth cwnsela yn y Gymraeg yn cael ei chynnal.

• Mae'r staff presennol nid yn unig yn siarad Cymraeg ond maent yn deall cyd-destun unigryw astudio ym Mangor. Wrth allanoli byddai perygl o golli’r adnabyddiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol hon, sy'n hanfodol i lesiant ac ymddiriedaeth y myfyrwyr.

• Rhaid i'r Brifysgol barhau â'i hymrwymiad i gyllido'r project Iechyd Meddwl Cymraeg

Myf.Cymru sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Bangor ac sydd wedi derbyn cyllid cyhoeddus sylweddol gan Lywodraeth Cymru drwy Medr.

Cwestiynau

• O gael gwared ar y Ganolfan Asesu Diagnostig, beth fydd yn dod yn ei lle i sicrhau bod myfyrwyr yn dal i allu cael mynediad at Asesiadau er mwyn cael Cynlluniau Cefnogi

Dysgu Personol a derbyn Lwfans i Fyfyrwyr Anabl?

• Sut fydd y Brifysgol yn gwarantu y bydd arian o’r Cronfeydd Caledi ar gyfer Asesiadau Diagnostig ar gael i bob myfyriwr sydd ei angen, o ystyried nad yw llawer o fyfyrwyr yn gymwys i gael arian o’r cronfeydd caledi presennol?

• Sut fydd y Brifysgol yn sicrhau y gall pob myfyriwr gael mynediad at Gynllun Cefnogi

Dysgu Personol mewn modd amserol, ni waeth beth fo'u sefyllfa ariannol?

• Sut fydd y Brifysgol yn sicrhau bod tiwtora gwahaniaethau dysgu penodol ar gael yn y cnawd ac ar-lein?

• Os caiff cwnsela a thiwtora gwahaniaethau dysgu penodol eu allanoli, sut fydd y Brifysgol yn sicrhau bod gan ddarparwyr gwasanaethau ddealltwriaeth dda o brosesau a

chyd-destun y brifysgol a’i hysgolion, er mwyn sicrhau y gall myfyrwyr gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt?

• A fydd cwnsela ac asesu diagnostig yn cael eu rhoi ar gontract allanol i gwmni preifat neu a fydd yn rhaid i fyfyrwyr gael mynediad iddynt drwy'r GIG?

• Sut fyddwch chi’n gwarantu y bydd yr holl wasanaethau yn cael eu darparu trwy gyfrwng y Gymraeg?

Newidiadau i’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

• Roedd y myfyrwyr yn croesawu cyflwyno swyddi cyflogedig i fyfyrwyr fel Cymhellwyr Gyrfa, gan gydnabod gwerth datblygu sgiliau a chefnogaeth gan gymheiriaid.

• Codwyd pryderon ynghylch ymarferoldeb symud rhywfaint o’r ddarpariaeth i staff academaidd, o ystyried cyfyngiadau presennol o ran llwyth gwaith a chapasiti.

• Rhaid i unrhyw newidiadau i'r gwasanaeth sicrhau mynediad parhaus at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, yn unol ag ymrwymiadau'r Brifysgol i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith.

Newidiadau i'r Archifdy

Clywsom gan fyfyrwyr ar draws y Brifysgol sy'n defnyddio'r archifdy fel rhan o’u gradd, gan gynnwys myfyrwyr Hanes, Archaeoleg, Llenyddiaeth Saesneg, Gwyddorau Cymdeithas, a Swoleg, a hynny ar bob lefel, o fyfyrwyr israddedig i fyfyrwyr PhD. Mae cael mynediad at lawysgrifau’n hanfodol ar gyfer llawer o fodiwlau a rhaglenni.

• Bydd lleihau staff yr archif o bedwar i un gweithiwr rhan amser yn cyfyngu'n ddifrifol ar fynediad, i fyfyrwyr ac i bobl leol fel ei gilydd. Byddai hefyd yn golygu colli arbenigedd y tîm, gan godi pryderon difrifol ynghylch sut y gallai un aelod o staff rhan amser reoli'r llwyth gwaith.

• Mae'r archifau a geir yno’n hanfodol gogyfer â hanes, treftadaeth, diwylliant Cymru, ac ymchwil leol, nid yn unig i fyfyrwyr ond hefyd i gymuned gogledd Cymru.

• Mae’r archifdy yn adnodd gwerthfawr ac anhepgor i fyfyrwyr, ac yn rhoi mynediad iddynt at ddeunyddiau nad ydynt ar gael ar-lein na thrwy'r llyfrgell. Mae llawer o fyfyrwyr ac ymchwilwyr ôl-radd yn defnyddio'r archifdy ar gyfer eu traethodau hir a’u hymchwil. Mae’r myfyrwyr yn pryderu y bydd colli staff yn golygu na fydd myfyrwyr bellach yn gallu cael mynediad at destunau ar gyfer eu cyrsiau, gan arwain at brofiad dysgu gwaeth.

• Byddai effeithiau tymor canol i dymor hir lleihau staff yr archifdy’n niweidiol i fodolaeth yr archifdy ac yn y pen draw yn golygu na fyddai modd ei ddefnyddio. Byddai hyn yn erydu ymhellach ansawdd y cyrsiau hanes, archaeoleg a gwyddorau cymdeithas ym Mangor.

• Roedd myfyrwyr wedi ymweld â'r archifau ar ddiwrnodau agored/diwrnodau i ddeiliaid cynnig ac maent bellach yn teimlo bod y Brifysgol wedi dweud celwydd wrthynt am y lefel o fynediad y gallent ddisgwyl ei gael fel rhan o'u cwrs.

• Gyda'r ysgol yn symud ei ffocws o gyrsiau Archaeoleg i Dreftadaeth, mae cyrsiau ac ymchwil o’r fath yn aml yn canolbwyntio ar y dreftadaeth leol, e.e. Ystadau Cymru a’r chwareli, a bydd y cyrsiau Treftadaeth yn golygu y bydd angen mynediad sylweddol i'r archifdy.

Ystyriaethau’n ymwneud â’r Gymraeg

• Roedd y myfyrwyr yn pryderu ynghylch sut y byddai'r newidiadau'n effeithio ar y mynediad at ddogfennau Cymraeg.

• Roedd y myfyrwyr yn rhoi pwyslais cryf ar y ffaith ei bod yn bwysig cael staff sy'n siarad Cymraeg yn yr archifdy, yn enwedig wrth gydnabod gwerth hanesyddol a diwylliannol y deunyddiau.

Yn ogystal ag adborth o'r grwpiau ffocws, mae 81 o fyfyrwyr wedi llofnodi deiseb sy’n cael ei chynnal gan Undeb Bangor sy’n dwyn y teitl 'Achub yr Archifdy' ac mae 3122 o fyfyrwyr, staff a phobl o bob cwr o'r byd wedi llofnodi deiseb ar Change.org (gweler Atodiad 1).

Cwestiynau

• Gyda llai o staff yn yr archifdy, pa feysydd o blith gwasanaethau’r archifdy fydd yn cael eu cynnal a pha rai fydd yn cael eu torri?

• Beth yw'r amseroedd aros tebygol i gael mynediad i’r archifdy yn sgil y gostyngiad mewn staffio?

• Sut fydd y Brifysgol yn sicrhau y gall myfyrwyr barhau i gael mynediad at yr archifdy ar gyfer eu cyrsiau?

• Gyda llai o gapasiti staff yn yr archifdy, sut fydd y Brifysgol yn penderfynu pa gyrsiau sy'n parhau i gael mynediad iddynt?

• A yw'r Brifysgol wedi cynnal adolygiad trylwyr i nodi pa gyrsiau a modiwlau fydd yn cael eu heffeithio gan y toriadau arfaethedig i staff yr archifdy?

Cau Academi

Mae 481 o fyfyrwyr wedi llofnodi deiseb sy’n cael ei chynnal gan Undeb Bangor ac sy’n dwyn y teitl 'Achub Academi rhag cau' (Atodiad 2).

• Mae Academi yn 'rhan hanfodol o fywyd Prifysgol' i lawer o fyfyrwyr Bangor, yn enwedig myfyrwyr sy'n ymwneud â chymdeithasau a chlybiau chwaraeon. Mae Academi yn darparu “lle i ymlacio, cymdeithasu a dadflino... ac i wneud ffrindiau a fydd yn para oes”.

• Mae Academi yn darparu cyfleoedd gwaith i lawer o fyfyrwyr, gan ddarparu gwaith rhan amser hanfodol.

• Mae Academi yn darparu lle mwy diogel i fyfyrwyr ar nosweithiau allan. “Rydych chi'n gwybod eich bod chi bob amser yn ddiogel ac os oes gennych chi broblem, bydd hi'n cael ei datrys mor gyflym.” Mae myfyrwyr wedi codi pryderon ynghylch sbeicio diodydd yn Trilogy a lleoliadau nos eraill nad ydynt yn eiddo i’r brifysgol.

• Mae bywyd nos ym Mangor eisoes yn gyfyngedig. Heb Academi, bydd y cyfleoedd bywyd nos i fyfyrwyr ym Mangor hyd yn oed yn fwy cyfyngedig. Nid problem i fyfyrwyr presennol yn unig yw hyn ond gallai effeithio ar recriwtio os nad yw darpar fyfyrwyr yn teimlo bod Bangor yn darparu digon o gyfleoedd cymdeithasol.

• Mae Academi yn cynnig bywyd nos fforddiadwy, ac mae’r myfyrwyr o’r farn, heb y gystadleuaeth gan Academi, y byddai prisiau Trilogy yn cynyddu ymhellach.

• Mae Academi yn gwneud gwaith allgymorth gyda'r gymuned leol, gan gynnwys cynnal disgos i bobl ifanc dan 18 oed ac yn noddi clybiau chwaraeon. Byddai cau Academi nid yn unig yn effeithio ar fyfyrwyr ond hefyd ar y gymuned leol.

Cwestiynau

• Pa fath o ddigwyddiadau i fyfyrwyr fydd yn cael eu cynnal yn Pontio?

• A fydd y Brifysgol yn parhau i gynnig noson clwb nos ar nos Fercher i fyfyrwyr, yn Pontio neu yn rhywle arall?

• Sut mae'r Brifysgol yn bwriadu gweithio gyda'r gymuned leol i sicrhau diogelwch myfyrwyr ar nosweithiau allan os yw Academi wedi cau?

• Pa gyfleoedd gwaith cyflogedig ac interniaethau fydd y Brifysgol yn eu darparu i fyfyrwyr os bydd Academi yn cau?

Atebolrwydd a Thryloywder gan Bwyllgor Gweithredu’r Brifysgol

Roedd gan fyfyrwyr bryderon ynghylch atebolrwydd a thryloywder Bwrdd Gweithredol y Brifysgol.

• Mae’r myfyrwyr eisiau i'r Is-ganghellor gyfiawnhau'r toriadau'n gyhoeddus (yn debyg i fesurau atebolrwydd Prifysgol Caerdydd).

• Mae’r myfyrwyr yn mynnu tryloywder am gyflogau uwch-swyddogion a chodiadau cyflog yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mewn cyfnod pan fu llawer o ddiswyddiadau ymhlith y staff.

• Mae pryderon bod swyddi cyflogau uchel yn cael eu diogelu tra bod darlithwyr yn wynebu toriadau.

• Mae’r myfyrwyr yn gofyn i gael eu cynnwys yn unrhyw drafodaethau am ailstrwythuro yn y dyfodol.

Cwestiynau

• A fydd strwythur y Bwrdd Gweithredol yn cael ei adolygu fel rhan o'r ymarfer arbed costau?

• A fydd cyflogau Uwch-Swyddogion yn cael eu hadolygu?

Pryderon gan Ysgolion Penodol:

Cynhaliom sesiynau galw heibio i fyfyrwyr o bob coleg yn ogystal â grwpiau ffocws ar gyfer yr ysgolion hynny y mae'n debygol y bydd y cynigion yn cael llawer o effaith arnynt.

Iaith,

Diwylliant a’r Celfyddydau

Pryderon ynghylch rhoi’r gorau i gyrsiau Almaeneg, Eidaleg a Tsieinëeg:

Roedd y myfyrwyr yn ofidus ynghylch y cynnig i roi’r gorau i gyrsiau Almaeneg, Eidaleg a Tsieinëeg. Roeddent yn poeni sut fyddai gweddill eu rhaglenni gradd yn edrych.

• Mae diffyg eglurder ynghylch sut fydd y broses addysgu yn edrych a sut y caiff ei rheoli. Mae’r myfyrwyr nad ydynt eto wedi cwblhau eu cyrsiau yn bryderus iawn ynghylch pa addysgu a pha fodiwlau fydd ar gael iddynt.

• Mae’r myfyrwyr yn pryderu am nifer y staff a fydd ar ôl i addysgu cyrsiau sy’n dod i ben. Bydd toriadau i staff yn arwain at lai o ehangder gwybodaeth ac arbenigedd, llai o ddewis modiwlau a llai o gyfleoedd i ddilyn meysydd diddordeb neu arbenigeddau, yn ogystal â diffyg parhad yn yr addysgu a cholli perthnasoedd sefydledig rhwng myfyrwyr a staff, sy'n rhan bwysig o brofiad dysgu myfyrwyr. At ei gilydd, mae’r myfyrwyr yn bryderus iawn, er y bydd cyrsiau'n cael eu dirwyn i ben, y bydd eu profiad dysgu'n sylweddol waeth.

• Mae myfyrwyr sy'n astudio Eidaleg yn pryderu, gan fod yr unig ddarlithydd Eidaleg llawn amser yn gadael, mai cyfyngedig fydd y capasiti i barhau i addysgu myfyrwyr am weddill blynyddoedd y cwrs. Ar ben hynny, yn gyffredinol, nid yw bod â nifer llai o staff yn golygu gostyngiad uniongyrchol yn nifer cyfredol y myfyrwyr, ac o ganlyniad codwyd pryderon ynghylch sut y byddai'r llwyth gwaith yn cael ei ailddosbarthu ymhlith y staff sy'n weddill gan y bydd y capasiti’n gyfyngedig (ac mewn rhai achosion dim digon o arbenigedd er mwyn dirwyn cyrsiau i ben).

• Mae bod ag ystod eang o ieithoedd (chwech) ar gael yn creu cymuned fywiog ar gyfer dysgu ieithoedd modern yma ym Mangor, gyda digwyddiadau megis nosweithiau ffilm a chaffis iaith. Mae’r myfyrwyr yn teimlo y bydd colli Almaeneg, Eidaleg a Tsieinëeg nid yn unig yn arwain at golli'r cyrsiau hyn ym Mangor ond y bydd hefyd yn lleihau'r gymuned ieithoedd yma ym Mangor a gallai hynny gael effaith hirdymor ar gyrsiau yn yr iaith eraill.

• Mae dileu cyrsiau iaith yn cyfyngu ar fynediad at addysg uwch i bobl ifanc yn lleol, yn enwedig y rhai sy'n methu adleoli i fynd i brifysgol neu sy'n dymuno astudio neu dderbyn cefnogaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cynnig ystod amrywiol o ieithoedd yn cynnig cyfle pwysig i'r darpar fyfyrwyr hynny ddilyn graddau ieithoedd modern yn agosach at eu cartref.

• Mae’r myfyrwyr yn teimlo bod yr Achosion Busnes yn canolbwyntio ar arbedion tymor byr, heb ystyried y risgiau sy’n gysylltiedig â cholli staff a rhoi’r gorau i gyrsiau, megis dal gafael ar fyfyrwyr, colli capasiti staff a chanlyniadau gwaeth i raddedigion, a allai arwain at gylch cynyddol waeth o leihad mewn refeniw ac anawsterau ariannol pellach.

• Mae’r myfyrwyr hefyd yn teimlo nad yw'r Achosion Busnes yn rhoi ystyriaeth i fanteision anariannol graddau ieithoedd modern, megis creu cysylltiadau byd-eang a datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer gyrfa ryngwladol.

• Mynegodd myfyrwyr ymchwil ôl-radd bryderon difrifol ynghylch cael gwared ar rolau cynorthwywyr addysgu graddedig (gan gynnwys contractau dim oriau), sy'n hanfodol er

mwyn ennill profiad o arwain seminarau, darlithoedd, a gweithio gydag israddedigion ac sy’n allweddol i symud ymlaen mewn gyrfa academaidd. Gallai'r newid hwn beri rhwystr difrifol o ran gallu myfyrwyr ymchwil ôl-radd i gystadlu mewn marchnad swyddi gynyddol anodd a chyfyngu ar eu rhagolygon wrth wneud cais am swyddi mewn prifysgolion.

Ystyriaethau’n ymwneud â’r Gymraeg ar gyfer Ffrangeg a Sbaeneg

• Mae diffyg eglurder ynghylch dyfodol y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn Ffrangeg a Sbaeneg.

• Ar hyn o bryd mae'r pynciau hyn yn gysylltiedig â darpariaeth a ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC).

• Caiff Prifysgol Bangor ei chydnabod fel y ganolfan Ieithoedd Modern genedlaethol gan y CCC. Mae'n hanfodol bod Prifysgol Bangor yn cynnal rôl glir a gweithredol yn darparu addysgu cyfrwng Cymraeg yn y meysydd hyn.

Yn ogystal â'r sylwadau hyn a gafwyd yn y grŵp ffocws, mae 218 o fyfyrwyr wedi llofnodi deiseb sy’n cael ei chynnal gan Undeb Bangor yn gofyn ar i'r Brifysgol gadw cyrsiau ieithoedd tramor modern (Atodiad 3).

Pryderon ynghylch Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

• Mae colli staff addysgu yn golygu bod modiwlau’n cael eu hadolygu. Mae’r myfyrwyr yn pryderu am y posibilrwydd o golli dewis modiwlau ac yn pryderu nad ydynt hyd yma wedi gallu dewis eu modiwlau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Mae teimlad ei bod yn annheg bod y celfyddydau’n wynebu toriadau pan nad yw hynny’n digwydd i feysydd Gwyddoniaeth a Pheirianneg

• Mae addysg yn y celfyddydau eisoes yn cael ei danariannu o'i gymharu â phynciau STEM.

• Mae’r myfyrwyr yn teimlo bod cyrsiau yn y Celfyddydau/Dyniaethau yn wynebu mwy o doriadau na chyrsiau ym meysydd Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Mae’r myfyrwyr yn teimlo bod cyrsiau yn y celfyddydau yn rhai rhad i'w rhedeg, gan nad oes angen llawer o offer arbenigol, labordai na theithiau maes arnynt, o'i gymharu â chyrsiau eraill.

• Mae rhai myfyrwyr yn teimlo ei bod yn amhriodol ac yn ansensitif hyrwyddo'r Ysgol Fusnes newydd ar adeg pan fo llawer o gyrsiau eraill yn cael eu torri neu'n colli cyllid a staff yn colli swyddi. Mae diffyg ymwybyddiaeth bod y cyllid ar gyfer y project hwnnw i'w ddefnyddio ar gyfer yr Ysgol Fusnes yn unig, gan olygu bod myfyrwyr yn cwestiynu pam fod y Brifysgol yn tynnu cyllid o rai meysydd ac yn cau adeiladau ond yn buddsoddi mewn Ysgol Fusnes newydd.

Effaith y toriadau i’r Archifdy ar gyrsiau yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau

• Mae’r myfyrwyr yn pryderu y bydd colli 3 allan o 4 aelod o staff yn lleihau’n sylweddol hygyrchedd yr Archifdy i fyfyrwyr ac i bobl leol.

• Ar hyn o bryd mae myfyrwyr sy'n astudio Llenyddiaeth Saesneg yn dibynnu ar lawysgrifau a gedwir yn yr Archifdy wrth ddilyn modiwlau megis 'Llenyddiaeth Ganoloesol'. Mae’r myfyrwyr yn pryderu y bydd colli staff yn golygu na fydd myfyrwyr bellach yn gallu cael mynediad at y testunau hyn ar gyfer eu cyrsiau, gan arwain at brofiad dysgu gwaeth.

• Mae’r myfyrwyr yn pryderu y bydd llai o fynediad i'r Archifdy’n arwain at golled sylweddol o ran treftadaeth ddiwylliannol Cymru.

Cwestiynau

• Sut fydd y broses o ddirwyn yr addysgu i ben mewn rhai meysydd yn edrych i fyfyrwyr?

• Sut fydd y Brifysgol yn diogelu ansawdd yr addysgu i fyfyrwyr ar gyrsiau sy'n cael eu dirwyn i ben?

• A fydd y Brifysgol yn dal gafael ar staff drwy gydol y broses o ddirwyn yr addysgu i ben neu a oes bwriad cyflogi staff allanol?

• A oes gan y Brifysgol unrhyw gynlluniau i ymgynghori â myfyrwyr wrth ddatblygu polisïau ynghylch dirwyn addysgu i ben?

• Sut fydd y Brifysgol yn sicrhau bod gan fyfyrwyr fynediad o hyd at yr ystod o fodiwlau yr oeddent yn disgwyl eu cael wrth ddewis Bangor ar gyfer eu gradd?

• Os yw'r Brifysgol yn bwriadu dal gafael ar staff presennol, neu gyflogi staff allanol at ddibenion addysgu, sut fydd y dull hwn yn arwain at yr arbedion cost angenrheidiol?

• Sut fydd y Brifysgol yn sicrhau y gall myfyrwyr barhau i gael mynediad i’r archifdy ar gyfer eu cyrsiau?

• Pa ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg fydd ar gael yn Ffrangeg a Sbaeneg?

Hanes, Treftadaeth ac Archaeoleg

Pryderon ynghylch cael gwared yn raddol ar y rhaglen Archaeoleg

• Fe wnaeth llawer o fyfyrwyr ddewis dod i’r brifysgol hon yn benodol oherwydd y rhaglen archaeoleg, sydd bellach mewn perygl.

• Mae diffyg cyfleoedd gwaith maes yn y dyfodol eisoes wedi lleihau gwerth y cwrs.

• Mae pryderon y bydd bod â llai o staff, bod â llai o gyllid ac uno yn rhan o ysgol fwy yn golygu y bydd llai o gefnogaeth gan staff a llai o gyfleoedd i fyfyrwyr, gan leihau gwerth eu gradd.

• Mae’r myfyrwyr yn ofni y bydd angen iddynt drosglwyddo i brifysgolion eraill i wneud astudiaethau ôl-raddedig mewn archaeoleg.

• Roedd y myfyrwyr hefyd yn pryderu, heb raglen archaeoleg nac unrhyw fodiwlau archaeoleg, y byddant yn colli'r cyfle i ddilyn gyrfa mewn archaeoleg, yn enwedig gan fod galw cynyddol am archaeolegwyr yn y sector masnachol.

• Pwysleisiodd y myfyrwyr fod yn rhaid i archaeoleg aros yn ganolog i unrhyw ailstrwythuro lle ceir pwyslais ar Dreftadaeth; pwynt a amlygwyd hefyd yn ystod y broses ailstrwythuro flaenorol (Williams et al. 2020, 8).

Pryderon ynghylch cyrsiau Treftadaeth

Gyda'r cynnig i ganolbwyntio mwy ar gyrsiau treftadaeth, mae gan fyfyrwyr bryderon ynghylch y canlynol:

• Dywedwyd wrth y myfyrwyr mai dim ond drwy gyfrwng y Gymraeg y bydd llawer o’r modiwlau Treftadaeth a arferai fod yn ddwyieithog ar gael bellach. Gyda'r ffocws yn symud i faes Treftadaeth, mae cyflogau llawer o'r aelodau staff hyn yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

• Mae cyrsiau treftadaeth yn dibynnu'n fawr ar yr Archifdy. Gyda'r cynigion i dorri lefelau staffio'r Archifdy, mae’r myfyrwyr yn pryderu sut fydd yr arlwy Treftadaeth yn edrych.

Pryderon ynghylch cael gwared yn raddol ar y rhaglen Hanes yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar

• Mae’r myfyrwyr yn teimlo bod y brifysgol wedi methu â chyflawni’r addewid a wnaed ynghylch yr amrywiaeth o fodiwlau a fyddai ar gael, yn enwedig oherwydd toriadau i raglenni hanes yr oesoedd canol a’r cyfnod modern cynnar.

• Codwyd pryderon bod y symudiad tuag at hanes modern/cyfoes yn rhoi myfyrwyr sy’n ffafrio neu sy'n arbenigo mewn hanes canoloesol dan anfantais.

• Mae’r myfyrwyr sy’n astudio hanes yr oesoedd canol yn poeni y byddant yn cael eu 'gorfodi' i ddilyn modiwlau hanes modern, gan olygu y bydd eu gradd yn teimlo'n amherthnasol i'w hamcanion academaidd.

• Mae rhai yn ystyried trosglwyddo i brifysgol arall i gwblhau eu hastudiaethau.

Ystyriaethau’n ymwneud â’r Gymraeg

• Roedd y myfyrwyr yn ymwybodol bod swyddi dau aelod o staff dwyieithog mewn perygl fel rhan o’r cynnig yn yr achos busnes ac roeddent yn teimlo y gallai eu diswyddo beryglu darpariaeth hanes cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys meysydd allweddol megis hanes y canol oesoedd a hanes Cymru.

• Codwyd pryderon ynghylch sut y gallai'r newidiadau effeithio ar fyfyrwyr sy'n derbyn grant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol os na fyddant yn bodloni’r isafswm o 40 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg.

• Roedd y myfyrwyr yn cydnabod bod nifer y myfyrwyr sy'n astudio Hanes drwy gyfrwng y Gymraeg yn isel ar hyn o bryd, ac mae'n siomedig nad oes rhagor o fyfyrwyr yn cael eu denu i wneud y cwrs.

• Dylai'r Brifysgol ystyried dal eu gafael yn y staff sy'n siarad Cymraeg gan y gallant gefnogi dysgu a gofal bugeiliol yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Diffyg cefnogaeth i ddysgu Cymraeg

• Mynegodd myfyrwyr rwystredigaeth ynghylch y diffyg cefnogaeth i bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg sydd eisiau dysgu'r iaith. Mae myfyrwyr eisiau cofleidio diwylliant a iaith Cymru ond yn teimlo nad oes ganddyn nhw'r cyfleoedd i wneud hynny.

• Nid yw'r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd i ddysgu Cymraeg (e.e., Duolingo, Dysgu Cymraeg) yn ddigonol i fyfyrwyr gyrraedd rhuglder yn gyflym.

• Hoffai’r myfyrwyr pe bai’r Brifysgol yn gwarantu cefnogaeth barhaus i’r rhai sy’n dysgu Cymraeg, gan gynnwys cyrsiau iaith priodol.

Ansicrwydd ynghylch Modiwlau a Diffyg Cyfathrebu

• Mae’r myfyrwyr wedi cael ffurflen rhag-gofrestru ond yna dywedwyd wrthynt yn ddiweddarach ei bod yn anghywir a bod yn rhaid iddynt aros tan fis Awst i gael y wybodaeth gywir.

• Dywedwyd wrth fyfyrwyr y byddai eu cwrs/rhai modiwlau (er enghraifft Hanes yr

Oesoedd Canol) yn cael eu 'hailbecynnu' a'u cynnig fel rhan o gynlluniau i ddirwyn yr addysgu i ben neu fel parhad o'u cwrs.

• Does dim eglurder ynghylch pa fodiwlau fydd yn cael eu rhedeg, pa staff fydd yn eu haddysgu, na sut y bydd cyrsiau 'wedi'u hailbecynnu' yn wahanol.

• Roedd amseriad cyhoeddi’r Achosion Busnes dros Newid (yn ystod arholiadau ac ar drothwy gwyliau'r haf) wedi gwneud i’r myfyrwyr deimlo iddynt gael eu gadael heb gefnogaeth.

• Bu cyfathrebu gwael gan yr ysgol am yr Achosion Busnes, a chafodd y cyfarfodydd eu cynnal ar ôl i fyfyrwyr adael am yr haf.

Diswyddo Staff a Cholli Cefnogaeth

• Dim ond tri aelod o staff y maes treftadaeth sydd â sicrwydd swydd; mae’r gweddill yn parhau i fod mewn perygl. Mae diffyg eglurder difrifol oherwydd hyn, gan arwain at bryderon a phanig o ran gwybod pa drywydd y bydd eu cwrs yn ei gymryd ymhen ychydig fisoedd.

• Mae'n bosibl y bydd tiwtoriaid personol, sy’n system gefnogi hanfodol, yn cael eu colli, gan adael y myfyrwyr heb unrhyw arweiniad.

• Mae staff yn cael eu llethu gan yr ailstrwythuro, gan arwain at oedi neu ddiffyg cefnogaeth academaidd (e.e., cefnogaeth gyda thraethodau hir).

Effaith y toriadau i’r Archifdy ar gyrsiau Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth

• Bydd lleihau staff yr archifdy o bedwar i un gweithiwr rhan amser yn cyfyngu'n ddifrifol ar fynediad i lawer o bobl ond yn enwedig felly i fyfyrwyr hanes ac archaeoleg o israddedigion i fyfyrwyr PhD.

• Mae'r archifau a geir yno’n hanfodol gogyfer â hanes, treftadaeth ac ymchwil leol, nid yn unig i fyfyrwyr ond hefyd i gymuned gogledd Cymru.

• Byddai effeithiau tymor canol i dymor hir lleihau staff yr archifdy’n niweidiol i fodolaeth yr archifdy ac yn y pen draw yn golygu na fyddai modd ei ddefnyddio. Byddai hyn yn erydu ymhellach ansawdd y cyrsiau hanes, archaeoleg a gwyddorau cymdeithas ym Mangor.

• Mae’r myfyrwyr yn teimlo bod y Brifysgol wedi 'dweud celwydd wrthyn nhw' gan na fydd y cyfleoedd y soniwyd amdanynt ar ddiwrnodau i ddeiliaid cynnig i gael defnyddio’r archifdy ar gael mwyach.

• Bydd yr effaith ar gyrsiau treftadaeth hefyd yn sylweddol gan fod y Brifysgol yn ôl pob sôn yn newid eu ffocws yn ôl yr Achos Busnes.

• Mae myfyrwyr a rhanddeiliaid allanol (e.e., Aelodau Seneddol, cynghorwyr) wrthi’n protestio yn erbyn y toriadau hyn.

• Mae’r myfyrwyr yn credu y dylai'r Brifysgol gynnal niferoedd presennol y staff er mwyn diogelu mynediad i fyfyrwyr a'r cyhoedd.

Pryderon Ariannol a Phryderon ynghylch Ymddiriedaeth

• Mae myfyrwyr yn cwestiynu i ble mae eu ffioedd dysgu o £9,000+ yn cael eu dyrannu, o ystyried y toriadau.

• Mae’r canfyddiad bod pynciau STEM yn cael ffafriaeth (e.e. dim toriadau yn y Gwyddorau a Pheirianneg) wedi achosi rhwystredigaeth.

• Er bod rhywfaint o adborth wedi pwysleisio pa mor bwysig yw diogelu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, codwyd nifer fach o bryderon ynghylch canfyddiad bod anghydbwysedd, ac y gallai blaenoriaethu myfyrwyr Cymraeg eu hiaith greu amgylchedd dysgu anghyfartal. Mae hyn yn amlygu’r angen am gyfathrebu clir a chynllunio cynhwysol sydd o fudd i bob myfyriwr.

• Mae diffyg tryloywder wedi erydu ymddiriedaeth yn y brifysgol yn sylweddol. Mae'r iaith anhygyrch a ddefnyddiwyd wrth ysgrifennu’r Achos Busnes wedi achosi mwy o bryder ac wedi cyfrannu ymhellach at ddiffyg tryloywder a diffyg ymddiriedaeth ymddangosiadol yn y brifysgol.

Cwestiynau

• Sut fydd y broses o ddirwyn yr addysgu ar y rhaglenni Archaeoleg i ben yn edrych?

• Sut fydd y Brifysgol yn diogelu ansawdd yr addysgu, y gefnogaeth, ac ystod y modiwlau i fyfyrwyr ar raglenni sy’n cael eu dirwyn i ben?

• Gyda llai o staff, sut fydd y Brifysgol yn sicrhau bod gan y staff sy'n weddill y capasiti i ddarparu gofal bugeiliol ac arweiniad fel tiwtoriaid personol?

• Sut fydd y Brifysgol yn diogelu ac yn gwella'r cyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu Cymraeg ym Mangor?

• Sut fydd y Brifysgol yn sicrhau bod amrywiaeth o fodiwlau ar gyfer cyrsiau Hanes a Threftadaeth yn parhau i fod ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg?

• A all y Brifysgol gadarnhau y bydd o leiaf 40 credyd yn cael eu cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg ar bob lefel?

• Beth yw'r amserlen ar gyfer cyhoeddi’r newidiadau a chadarnhau pa fodiwlau fydd ar gael yn 2025-26?

Gwyddorau Cymdeithas

Ystyriaethau’n ymwneud â’r Gymraeg

• Mae colli 9.7 o swyddi CALl yn cynnwys staff allweddol Cymraeg eu hiaith. Ni ddarparwyd unrhyw warantau ynghylch diogelu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys mewn meysydd megis cynllunio ieithyddol.

• Mae'r sôn yn yr Achos Busnes am y posibilrwydd o gynnig yr MA mewn Polisi a Chynllunio Ieithyddol yn amwys ac yn brin o unrhyw fanylion na sicrwydd. Nid oes

ymrwymiad clir, nac esboniad o sut y byddai hyn yn cael ei gyflawni, gan ei gwneud hi'n anodd gweld pa mor realistig neu ystyrlon yw'r cynnig mewn gwirionedd.

• Mae’r posibilrwydd o roi’r gorau i addysgu Polisi a Chynllunio Ieithyddol yn peri pryder arbennig i fyfyrwyr o ystyried pwysigrwydd cynllunio ieithyddol wrth gefnogi meysydd polisi iaith Gymraeg, addysg a datblygu cymunedol. Mae gan Brifysgol Bangor rôl allweddol yn y maes hwn a dylai fod yn cryfhau, nid yn lleihau, ei hymrwymiad i'r maes hwn.

• Mae'r newidiadau'n peryglu rhaglenni gradd a arferai fod yn hyfyw ac a gâi eu cynnal 100% drwy gyfrwng y Gymraeg yng ngwyddorau cymdeithas.

• Dylai'r Brifysgol ystyried dal eu gafael yn y staff sy'n siarad Cymraeg gan y gallant gefnogi dysgu a gofal bugeiliol yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Cwestiynau

• Sut fydd y Brifysgol yn sicrhau bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cael ei diogelu ac y bydd yn parhau, yn enwedig o golli staff allweddol Cymraeg eu hiaith?

• A oes ymrwymiad cadarn i barhau â’r MA mewn Polisi a Chynllunio Ieithyddol, ac os felly, sut y caiff ei gyflwyno a’i ariannu?

• Pa asesiad sydd wedi'i wneud o'r effaith y bydd y newidiadau hyn yn ei chael ar raglenni gradd gwyddorau cymdeithas sy’n cael eu cynnal 100% trwy gyfrwng y Gymraeg?

Blwyddyn Sylfaen – Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas

Pryderon ynghylch holl staff presennol y Flwyddyn Sylfaen sydd mewn perygl o gael eu diswyddo

• Mae gan y myfyrwyr bryder am yr iaith a ddefnyddir yn yr Achos Busnes Dros Newid sy’n dweud mai dim ond "cefnogi’r” rhaglen mae staff y Flwyddyn Sylfaen ond mewn gwirionedd nhw sy'n llwyr gyfrifol am lunio’r cynnwys, am y ddarpariaeth ac am fonitro myfyrwyr.

• O ystyried bod y flwyddyn sylfaen wedi bod yn hanfodol i sicrhau mynediad i addysg uwch, yn enwedig i fyfyrwyr a fyddai fel arall wedi ei chael hi'n anodd cael mynediad, a bod y gefnogaeth fugeiliol ac academaidd gan dri aelod staff y flwyddyn sylfaen wedi bod yn hanfodol ar gyfer llwyddiant myfyrwyr (e.e., meithrin hyder, llwyddiant academaidd), mae’r myfyrwyr yn pryderu y bydd rhannu cyfrifoldebau ymhlith staff sydd eisoes yn gorweithio yn gostwng safonau addysgu ac yn lleihau cyfraddau llwyddiant myfyrwyr.

• Mae’r myfyrwyr yn tynnu sylw at y ffaith bod y Cynorthwywyr Addysgu Graddedig wedi cymryd yr awenau pan gafodd yr arweinydd gwreiddiol ei llethu, gan ddatblygu'r cwrs o ddim, a'i wella'n barhaus.

• Fe wnaethant godi pryderon bod torri rhaglen hynod lwyddiannus i arbed costau yn anwybyddu ei gwerth hirdymor o ran denu a dal gafael ar fyfyrwyr a bydd ailddosbarthu swyddogaethau’n cynyddu llwyth gwaith staff eraill, gan olygu y bydd perygl iddynt chwythu plwc, a risg y bydd yr ansawdd yn gostwng.

Cwestiynau

• Pa dystiolaeth sy'n cefnogi'r honiad y bydd ailddosbarthu llwyth gwaith y flwyddyn sylfaen ymhlith 'staff craidd' yn cynnal yr un ansawdd?

• Sut fydd y brifysgol yn sicrhau nad yw staff eraill sy'n ymgymryd â chyfrifoldebau'r flwyddyn sylfaen yn cael eu gorlwytho, o ystyried y llwythi gwaith presennol?

• A gynhaliwyd asesiad effaith ar sut mae hyn yn effeithio ar ansawdd yr addysgu?

• Sut fydd y brifysgol yn sicrhau bod y gefnogaeth fugeiliol ac academaidd a ddarperir ar hyn o bryd gan y dîm y flwyddyn sylfaen yn cael ei chynnal?

• A yw'r brifysgol wedi ystyried y golled ariannol hirdymor o ganlyniad i ostyngiad mewn cofrestriadau yn ystod y flwyddyn ariannol a chyfraddau llwyddiant myfyrwyr?

Myfyrwyr Ymchwil

Pryderon allweddol

Ôl-radd - Hanes, Archaeoleg, Gwyddorau Cymdeithas

• Mae’r myfyrwyr ymchwil ôl-radd wedi codi pryderon ynghylch y diffyg eglurder a’r ansicrwydd ynghylch newidiadau i oruchwyliaeth os yw goruchwylwyr presennol yn cymryd diswyddiad gwirfoddol neu'n wynebu diswyddiadau gorfodol.

• Mae pryder a gofid cynyddol am gael eu hail-neilltuo i oruchwylwyr newydd heb yr arbenigedd perthnasol, ac y gallai hynny danseilio goruchwyliaeth eu hymchwil.

• Mae'r bwriad i chwalu’r Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas yn codi pryderon ynghylch dyfodol y man gwaith presennol i fyfyrwyr ymchwil ôl-radd. Mae'r man gwaith hwn yn cael ei ddefnyddio'n helaeth gan fyfyrwyr o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9–5, ac mae'n gwasanaethu fel hyb cymunedol hanfodol, yn enwedig i'r rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain neu sydd â theuluoedd.

• Mae’r myfyrwyr ymchwil ôl-radd yn ofni, pan gaiff yr ysgol ei rhannu, na fydd mannau gwaith cyfatebol ac na fydd cyfleoedd i feithrin ymdeimlad o gymuned yn cael eu darparu'n ddigonol.

• Mae’r myfyrwyr ymchwil ôl-radd, yn enwedig y rhai sy'n ariannu eu hastudiaethau eu hunain, yn adrodd bod cyllid i fynychu cynadleddau wedi'i leihau i ddim. Mae'r gostyngiad hwn wedi codi pryderon ymhlith myfyrwyr ymchwil ôl-radd am y lleihad yn y gefnogaeth i'w datblygiad academaidd. O ystyried yr heriau ariannol presennol, mae’r myfyrwyr ymchwil ôl-radd yn cwestiynu pam fod y toriadau'n effeithio ar eu profiad academaidd a'u cyfleoedd ar gyfer twf proffesiynol.

Cwestiynau

• Pa gynlluniau wrth gefn sydd ar waith i fyfyrwyr ymchwil ôl-radd y mae eu goruchwylwyr yn cymryd diswyddiad gwirfoddol neu sy'n cael eu diswyddo?

• Sut fydd y brifysgol yn sicrhau bod gan oruchwylwyr newydd yr arbenigedd priodol ym maes ymchwil y myfyriwr ymchwil ôl-radd ac a fydd gan fyfyrwyr ymchwil ôl-radd lais yn y mater os bydd angen dewis goruchwyliwr newydd?

• Sut mae'r brifysgol yn bwriadu cefnogi’r gwaith o feithrin ymdeimlad o gymuned ôlraddedig a sicrhau rhyngweithio rhwng cyfoedion â’i gilydd os ceir gwared ar y mannau gwaith presennol neu os cânt eu hadleoli?

• A fydd mannau gwaith eraill ar gael gyda mynediad tebyg (e.e., Llun–Gwener, 9–5)?

• Sut mae'r brifysgol yn bwriadu cefnogi datblygiad academaidd a phroffesiynol myfyrwyr ymchwil ôl-radd (yn enwedig y rhai sy'n ariannu eu hunain) mewn cyfnod o gyfyngiadau ariannol megis yn achos cyfleoedd ariannu ar gyfer mynychu cynadleddau neu deithio sy'n gysylltiedig ag ymchwil?

Addysg

Ystyriaethau’n ymwneud â’r Gymraeg

• Codwyd pryderon ynghylch cynaliadwyedd hirdymor y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob cwrs Addysg.

• Mae gostyngiadau staffio a rhannu modiwlau’n ddarnynnol yn peryglu gwanhau cysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Cwestiynau

• Pa sicrwydd all y Brifysgol ei roi ynghylch cynaliadwyedd hirdymor y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob cwrs Addysg, yn enwedig yng ngoleuni'r gostyngiadau arfaethedig i staffio?

• Sut fydd y Brifysgol yn mynd i'r afael â'r risg y bydd rhannu modiwlau’n ddarnynnol a cholli staff yn tanseilio cysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn yr adran Addysg?

Cerddoriaeth

Ystyriaethau’n ymwneud â’r Gymraeg

• Roedd myfyrwyr o dan y ddealltwriaeth mai dim ond dau aelod o staff sy'n siarad Cymraeg fyddai'n aros yn yr adran ar ôl i staff adael trwy’r Cynllun Diswyddiadau Gwirfoddol.

• Nid yw'n glir a fydd y 40 credyd sy'n ofynnol i fodloni darpariaeth cyfrwng Cymraeg CCC ar gael y flwyddyn nesaf.

Cwestiynau

• Ar ôl y newidiadau staffio a fu’n ddiweddar a’r newidiadau staffio arfaethedig, sut mae'r Brifysgol yn bwriadu sicrhau y gall myfyrwyr barhau i gael mynediad at y 40 credyd

cyfrwng Cymraeg sy'n ofynnol i fodloni darpariaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC) mewn Cerddoriaeth?

• A all y Brifysgol gadarnhau faint o staff Cymraeg eu hiaith fydd yn weddill yn yr adran Cerddoriaeth y flwyddyn nesaf, ac a fydd hyn yn ddigonol i gefnogi dysgu cyfrwng Cymraeg ystyrlon?

Seicoleg

Ansicrwydd a Diffyg Cyfathrebu

• Nid oes unrhyw gyfarfodydd ffurfiol wedi'u cynnal gan yr Ysgol Seicoleg i esbonio’r newidiadau.

• Mae’r myfyrwyr yn dibynnu ar wybodaeth ail-law gan ddarlithwyr, sydd eu hunain yn ansicr. Nid oes gan diwtoriaid personol wybodaeth glir, gan olygu nad yw’r myfyrwyr yn cael unrhyw arweiniad.

• Ni chafwyd diweddariadau gan uwch-aelodau staff am yr Achosion Busnes dros Newid.

• Cyhoeddwyd y newidiadau yn hwyr yn y flwyddyn academaidd, heb adael unrhyw amser i ymgynghori â myfyrwyr, i dderbyn adborth nac i wrthwynebu.

• Rhaid i lawer o fyfyrwyr adael y campws gan fod contractau llety yn dod i ben, gan olygu nad oes modd iddynt brotestio.

• Mae’r myfyrwyr yn teimlo diffyg cyfle i herio penderfyniadau cyn iddynt gael eu cadarnhau’n derfynol.

• Mae’r myfyrwyr yn gofyn am gyfarfod brys ar draws yr ysgol gyda’r Pennaeth Seicoleg i egluro pa ddarlithwyr sy'n gadael, pa fodiwlau fydd yn cael eu torri neu eu newid, sut y caiff achrediad Cymdeithas Seicoleg Prydain ei gynnal neu sicrwydd na fydd effaith ar yr achrediad a sicrwydd pellach na fydd goruchwyliaeth traethodau hir yn cael ei pheryglu.

Effaith ar Addysgu a Dysgu

• Mae darlithwyr sy'n rhedeg modiwlau allweddol yn gadael, gan greu ansicrwydd ynghylch pwy fydd yn addysgu’r modiwlau hynny.

• Efallai na fydd goruchwylwyr traethodau hir yn dychwelyd, gan effeithio ar brojectau blwyddyn olaf myfyrwyr.

• Bydd llai o lawer o ddewisiadau modiwl na’r hyn a hysbysebwyd ni all rhai myfyrwyr astudio pynciau y maent wedi cofrestru i’w gwneud.

• Mae opsiynau ar gyfer arbenigo (e.e., niwroseicoleg) yn diflannu, gan orfodi myfyrwyr i ddilyn llwybrau generig.

• Mae pryderon ynghylch achrediad Cymdeithas Seicolegol Prydain os bydd y toriadau'n gwanhau hygrededd y radd, gallai hynny effeithio ar opsiynau gyrfa myfyrwyr yn y dyfodol.

• Pryderon ynghylch y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Hoffai’r myfyrwyr i'r ysgol warantu o leiaf 80 credyd fesul lefel.

• Mae’r myfyrwyr yn poeni y gallai'r brifysgol fethu â chyflawni'r ansawdd a'r sefydlogrwydd a addawyd o ran cefnogaeth academaidd ac na fyddant yn cael gwerth am arian.

Ystyriaethau’n ymwneud â’r Gymraeg

• Mae Prifysgol Bangor wastad wedi arwain o ran addysgu Seicoleg drwy gyfrwng y Gymraeg; roedd y myfyrwyr yn ymfalchïo yn hynny ac yn teimlo na ddylid peryglu'r ddarpariaeth.

• Codwyd pryderon, os bydd nifer y credydau cyfrwng Cymraeg a ddarperir yn gostwng o dan yr isafswm o 40 credyd, efallai na fydd myfyrwyr yn gymwys mwyach ar gyfer grant y CCC.

• Teimlai’r myfyrwyr fod lleihau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i'r isafswm o 40 credyd yn gam yn ôl. Dylai Bangor ymrwymo i ddal gafael ar o leiaf 80 credyd i’w cyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg.

Parhau ag Astudiaethau a Rhagolygon Gyrfa

• Mae llawer o fyfyrwyr bellach yn bwriadu peidio ag aros ym Mangor i wneud gradd meistr oherwydd y toriadau.

• Gallai colli modiwlau arbenigol fod yn niweidiol i geisiadau ôl-radd.

• Gallai graddau golli eu gwerth os bydd yr ailstrwythuro yn lleihau ansawdd yr addysgu. Ar ben hynny, dywedont yn glir nad oeddent wedi dod i Brifysgol Bangor i ddioddef y fath effaith sylweddol ar eu profiad academaidd.

• Mae colli tiwtoriaid personol a staff eraill y mae myfyrwyr yn ymgysylltu â nhw hefyd yn golygu colli canolwyr a all roi geirda i fyfyrwyr, yn enwedig yn achos myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf sydd wedi gweithio'n galed i feithrin perthynas academaidd dda a dod yn gyfarwydd â chanolwyr posibl.

Effaith ar Fyfyrwyr y Dyfodol

• Nid yw darpar fyfyrwyr wedi cael gwybod am y newidiadau cyn derbyn eu cynnig.

• Mae'n bosibl bod diwrnodau agored wedi camarwain ymgeiswyr ynghylch argaeledd modiwlau.

Cwestiynau

• Sut fydd y Brifysgol yn sicrhau, pan fo cyrsiau'n parhau ond bod staff yn gadael, bod ansawdd y cyrsiau a'r gefnogaeth i fyfyrwyr (academaidd a bugeiliol) yn cael ei gynnal?

• Sut fydd y Brifysgol yn sicrhau bod myfyrwyr yn dal i allu dilyn arbenigeddau a fydd yn caniatáu iddynt wneud astudiaethau ôl-radd a dilyn gyrfaoedd yn eu dewis faes?

• Gyda llai o aelodau staff, ynghyd â cholli ymgynghorwyr cyflogadwyedd, sut fydd y Brifysgol yn sicrhau'r capasiti i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad gyrfaoedd, a sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael mynediad at ganolwyr i roi geirda iddynt wrth ymgeisio am swyddi?

• Beth yw'r amserlen ar gyfer cyhoeddi newidiadau i fodiwlau 2025/26?

• A all yr Ysgol warantu y bydd achrediad Cymdeithas Seicolegol Prydain yn cael ei gynnal?

• Sut fydd y Brifysgol yn cyfathrebu’r newidiadau i ddarpar fyfyrwyr er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwneud penderfyniad gwybodus o ran dod i astudio ym Mangor?

Gwyddor Chwaraeon

Dwy Ysgol, Llai o Staff

• Bydd rhannu'n ddwy ysgol (Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon) yn cynyddu'r baich o ran arweinyddiaeth a gweinyddiaeth (e.e., dau Bennaeth Ysgol, timau gweinyddol ar wahân, marchnata, a recriwtio).

• Sut fydd hyn yn gweithio ochr yn ochr â'r toriadau presennol i’r staff? Mae bod â strwythur mwy gyda llai o staff yn peryglu gorlwytho'r gweithwyr sy'n weddill.

Modiwlau a Rennir

• Bydd y modiwl Dulliau Ymchwil yn parhau i fod wedi ei rannu ond efallai mai dim ond staff Seicoleg fydd yn addysgu arno.

• Pwy fydd yn sicrhau bod myfyrwyr Gwyddor Chwaraeon yn derbyn cyd-destun ac aseiniadau sy’n benodol i chwaraeon, ac yn sicrhau y bydd y marcio’n deg?

• Oni bai bod addysgu sydd wedi'i deilwra mewn modd pwnc-benodol, gall fod dirywiad yn ansawdd y dysgu.

Cefnogi Cydfyfyrwyr a Chynrychiolaeth Myfyrwyr

• Eisoes mae gan yw adran Gwyddor Chwaraeon lai o arweinwyr cyfoed a chynrychiolwyr cwrs o gymharu â Seicoleg.

• Ar hyn o bryd mae myfyrwyr Seicoleg yn cynorthwyo yn ystod yr Wythnos Groeso ac mae’r myfyrwyr sy’n darparu’r gefnogaeth honno wedi codi pryder ynghylch sut y bydd yr adran Gwyddor Chwaraeon yn lliniaru'r golled honno.

• Maen nhw hefyd yn poeni sut y bydd y gwaith o ddatblygu cymuned y myfyrwyr yn gweithredu ar ôl gwahanu.

Gofal Bugeiliol

• O rannu’n ddwy ysgol mae angen i’r ddwy ysgol fod ag uwch diwtor yr un i ddarparu cefnogaeth lles.

• Gyda gostyngiad yn nifer y staff, codwyd pryderon y gallai lles myfyrwyr ddioddef gan y bydd yr adnoddau’n gyfyngedig.

Ystyriaethau’n ymwneud â’r Gymraeg

• Codwyd pryderon, os bydd nifer y credydau cyfrwng Cymraeg a ddarperir yn gostwng o dan yr isafswm o 40 credyd, efallai na fydd myfyrwyr yn gymwys mwyach ar gyfer grant y CCC.

Colli Cymuned a Chydweithio

• Fe wnaeth yr uno 3 blynedd yn ôl gryfhau cysylltiadau rhyngddisgyblaethol a hunaniaeth myfyrwyr.

• Mae rhannu'r ysgolion yn peryglu niweidio cydweithrediadau ymchwil, projectau a wneir ar y cyd, a'r ymdeimlad o berthyn.

Cwestiynau

• Sut fydd y rhaniad yn cael ei reoli heb beryglu cefnogaeth i fyfyrwyr a staff?

• Sut mae sicrhau bod myfyrwyr Gwyddor Chwaraeon yn derbyn addysgu sy'n berthnasol i'r pwnc mewn modiwlau a rennir?

• Pa gynlluniau sydd ar waith i gynnal cefnogaeth gan gyd-fyfyrwyr yn yr Ysgol Gwyddor Chwaraeon?

• A fydd gan bob ysgol staff gofal bugeiliol pwrpasol? Os na, sut fydd anghenion lles yn cael eu diwallu?

• Sut fydd y Brifysgol yn sicrhau nad oes unrhyw effeithiau negyddol, neu mai bychan yw’r effeithiau negyddol, ar waith rhyngddisgyblaethol rhwng meysydd Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon?

Crynodeb o’r Cwestiynau

Thema Cwestiynau

Hygyrchedd yr Achosion

Busnes a Chyfathrebu

Gwasanaethau Anabledd a Llesiant

Pa gynlluniau sydd gan y Brifysgol i sicrhau bod newidiadau a phenderfyniadau’n cael eu cyfathrebu i fyfyrwyr drwy amrywiaeth o ddulliau, nid dim ond drwy’r Bwletin Myfyrwyr?

Sut fydd y Brifysgol yn sicrhau bod newidiadau'n cael eu cyfathrebu gan ddefnyddio iaith hygyrch yn y dyfodol, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr sydd angen addasiadau rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010?

Beth yw amserlen a chynllun y Brifysgol ar gyfer camau nesaf y broses?

O gael gwared ar y Ganolfan Asesu Diagnostig, beth fydd yn dod yn ei lle i sicrhau bod myfyrwyr yn dal i allu cael mynediad at Asesiadau er mwyn cael Cynlluniau Cefnogi Dysgu Personol a derbyn Lwfans i Fyfyrwyr Anabl?

Sut fydd y Brifysgol yn gwarantu y bydd arian o’r Gronfa Galedi ar gyfer Asesiadau Diagnostig ar gael i bob myfyriwr sydd ei angen, ni waeth beth fo'u statws rhyngwladol neu dramor?

Sut fydd y Brifysgol yn sicrhau y gall pob myfyriwr gael mynediad at Gynllun Cefnogi Dysgu Personol mewn modd amserol, ni waeth beth fo'u sefyllfa ariannol?

Sut fydd y Brifysgol yn sicrhau bod tiwtora gwahaniaethau dysgu penodol ar gael yn y cnawd ac ar-lein?

Os caiff cwnsela a thiwtora gwahaniaethau dysgu penodol eu allanoli, sut fydd y Brifysgol yn sicrhau bod gan ddarparwyr

Archifdy Prifysgol Bangor

Academi a Bywyd Nos Myfyrwyr

Cyrsiau Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau

gwasanaethau ddealltwriaeth dda o brosesau’r Brifysgol a’i hysgolion, er mwyn sicrhau y gall myfyrwyr gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt?

A fydd cwnsela ac asesu diagnostig yn cael eu rhoi ar gontract allanol i gwmni preifat neu a fydd yn rhaid i fyfyrwyr gael mynediad iddynt drwy'r GIG?

Sut fyddwch chi’n gwarantu y bydd yr holl wasanaethau yn cael eu darparu trwy gyfrwng y Gymraeg?

Gyda llai o staff, pa feysydd darpariaeth gwasanaeth fydd yn cael eu cynnal a pha rai fydd yn cael eu torri?

Beth yw'r amseroedd aros tebygol i gael mynediad i’r archifdy yn sgil y gostyngiad mewn staffio?

Sut fydd y Brifysgol yn sicrhau y gall myfyrwyr barhau i gael mynediad at yr archifdy ar gyfer eu cyrsiau?

Gyda llai o gapasiti, sut fydd y Brifysgol yn penderfynu pa gyrsiau sy'n parhau i gael mynediad iddynt?

A yw'r Brifysgol wedi cynnal adolygiad trylwyr i nodi pa gyrsiau a modiwlau fydd yn cael eu heffeithio gan y toriadau arfaethedig i staff yr archifdy?

Pa fath o ddigwyddiadau i fyfyrwyr fydd yn cael eu cynnal yn Pontio?

A fydd y Brifysgol yn parhau i gynnig noson clwb nos ar nos Fercher i fyfyrwyr, yn Pontio neu yn rhywle arall?

Sut mae'r Brifysgol yn bwriadu gweithio gyda'r gymuned leol i sicrhau diogelwch myfyrwyr ar nosweithiau allan os yw Academi wedi cau?

Pa gyfleoedd gwaith cyflogedig ac interniaethau fydd y Brifysgol yn eu darparu i fyfyrwyr os bydd Academi yn cau?

Sut fydd y broses o ddirwyn yr addysgu i ben mewn rhai meysydd yn edrych i fyfyrwyr?

Sut fydd y Brifysgol yn diogelu ansawdd yr addysgu i fyfyrwyr ar gyrsiau sy'n cael eu dirwyn i ben?

A fydd y Brifysgol yn dal gafael ar staff drwy gydol y broses o ddirwyn yr addysgu i ben neu a oes bwriad cyflogi staff allanol?

A oes gan y Brifysgol unrhyw gynlluniau i ymgynghori â myfyrwyr wrth ddatblygu polisïau ynghylch dirwyn addysgu i ben?

Sut fydd y Brifysgol yn sicrhau bod gan fyfyrwyr fynediad o hyd at yr ystod o fodiwlau yr oeddent yn disgwyl eu cael wrth ddewis Bangor ar gyfer eu gradd?

Os yw'r Brifysgol yn bwriadu dal gafael ar staff presennol, neu gyflogi staff allanol at ddibenion addysgu, sut fydd y dull hwn yn arwain at yr arbedion cost angenrheidiol?

Sut fydd y Brifysgol yn sicrhau y gall myfyrwyr barhau i gael mynediad i’r archifdy ar gyfer eu cyrsiau?

Pa ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg fydd ar gael yn Ffrangeg a Sbaeneg?

Cyrsiau Hanes, Treftadaeth ac Archaeoleg

Gwyddorau Cymdeithas

Blwyddyn Sylfaen – Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas

Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddHanes, Etifeddiaeth, Archaeoleg, Gwyddorau Cymdeithas

Sut fydd y broses o ddirwyn yr addysgu ar y rhaglenni Archaeoleg i ben yn edrych?

Sut fydd y Brifysgol yn diogelu ansawdd yr addysgu, y gefnogaeth, ac ystod y modiwlau i fyfyrwyr ar raglenni sy’n cael eu dirwyn i ben?

Gyda llai o staff, sut fydd y Brifysgol yn sicrhau bod gan y staff y capasiti i ddarparu gofal bugeiliol ac arweiniad fel tiwtoriaid personol?

Sut fydd y Brifysgol yn diogelu ac yn gwella'r cyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu Cymraeg ym Mangor?

Sut fydd y Brifysgol yn sicrhau bod amrywiaeth o fodiwlau ar gyfer cyrsiau Hanes a Threftadaeth yn parhau i fod ar gael yn

Saesneg ac yn Gymraeg?

A all y Brifysgol gadarnhau y bydd o leiaf 40 credyd yn cael eu cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg ar bob lefel?

Beth yw'r amserlen ar gyfer cyhoeddi’r newidiadau a chadarnhau pa fodiwlau fydd ar gael yn 2025-26?

Sut fydd y Brifysgol yn sicrhau bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cael ei diogelu ac y bydd yn parhau, yn enwedig o golli staff allweddol Cymraeg eu hiaith?

A oes ymrwymiad cadarn i barhau â’r MA mewn Polisi a Chynllunio Ieithyddol, ac os felly, sut y caiff ei gyflwyno a’i ariannu?

Pa asesiad sydd wedi'i wneud o'r effaith y bydd y newidiadau hyn yn ei chael ar raglenni gradd gwyddorau cymdeithas sy’n cael eu cynnal 100% trwy gyfrwng y Gymraeg?

Pa dystiolaeth sy'n cefnogi'r honiad y bydd ailddosbarthu llwyth gwaith y flwyddyn sylfaen ymhlith 'staff craidd' yn cynnal yr un ansawdd?

Sut fydd y brifysgol yn sicrhau nad yw staff eraill sy'n ymgymryd â chyfrifoldebau'r flwyddyn sylfaen yn cael eu gorlwytho, o ystyried y llwythi gwaith presennol?

A gynhaliwyd asesiad effaith ar sut mae hyn yn effeithio ar ansawdd yr addysgu?

Sut fydd y brifysgol yn sicrhau bod y gefnogaeth fugeiliol ac academaidd a ddarperir ar hyn o bryd gan y dîm y flwyddyn sylfaen yn cael ei chynnal?

A yw'r brifysgol wedi ystyried y golled ariannol hirdymor o ganlyniad i ostyngiad mewn cofrestriadau yn ystod y flwyddyn ariannol a chyfraddau llwyddiant myfyrwyr?

Pa gynlluniau wrth gefn sydd ar waith i fyfyrwyr ymchwil ôlradd y mae eu goruchwylwyr yn cymryd diswyddiad gwirfoddol neu sy'n cael eu diswyddo?

Sut fydd y brifysgol yn sicrhau bod gan oruchwylwyr newydd yr arbenigedd priodol ym maes ymchwil y myfyriwr ymchwil ôlradd ac a fydd gan fyfyrwyr ymchwil ôl-radd lais yn y mater os bydd angen dewis goruchwyliwr newydd?

Sut mae'r brifysgol yn bwriadu cefnogi’r gwaith o feithrin ymdeimlad o gymuned ôl-raddedig a sicrhau rhyngweithio rhwng cyfoedion â’i gilydd os ceir gwared ar y mannau gwaith presennol neu os cânt eu hadleoli?

A fydd mannau gwaith eraill ar gael gyda mynediad tebyg (e.e., Llun–Gwener, 9–5)?

Sut mae'r brifysgol yn bwriadu cefnogi datblygiad academaidd a phroffesiynol myfyrwyr ymchwil ôl-radd (yn enwedig y rhai sy'n ariannu eu hunain) mewn cyfnod o gyfyngiadau ariannol megis yn achos cyfleoedd ariannu ar gyfer mynychu cynadleddau neu deithio sy'n gysylltiedig ag ymchwil?

Addysg Pa sicrwydd all y Brifysgol ei roi ynghylch cynaliadwyedd hirdymor y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob cwrs

Addysg, yn enwedig yng ngoleuni'r gostyngiadau arfaethedig i staffio?

Sut fydd y Brifysgol yn mynd i'r afael â'r risg y bydd rhannu modiwlau’n ddarnynnol a cholli staff yn tanseilio cysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn yr adran Addysg?

Cerddoriaeth

Cyrsiau Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon

Ar ôl y newidiadau staffio a fu’n ddiweddar a’r newidiadau staffio arfaethedig, sut mae'r Brifysgol yn bwriadu sicrhau y gall myfyrwyr barhau i gael mynediad at y 40 credyd cyfrwng Cymraeg sy'n ofynnol i fodloni darpariaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC) mewn Cerddoriaeth?

A all y Brifysgol gadarnhau faint o staff Cymraeg eu hiaith fydd yn weddill yn yr adran Cerddoriaeth y flwyddyn nesaf, ac a fydd hyn yn ddigonol i gefnogi dysgu cyfrwng Cymraeg ystyrlon?

Sut fydd y Brifysgol yn sicrhau, pan fo cyrsiau'n parhau ond bod staff yn gadael, bod ansawdd y cyrsiau a'r gefnogaeth i fyfyrwyr (academaidd a bugeiliol) yn cael ei gynnal yn y ddwy ysgol?

Sut fydd y Brifysgol yn sicrhau bod myfyrwyr yn dal i allu dilyn arbenigeddau a fydd yn caniatáu iddynt wneud astudiaethau ôlradd a dilyn gyrfaoedd yn eu dewis faes?

Gyda llai o aelodau staff, ynghyd â cholli ymgynghorwyr cyflogadwyedd, sut fydd y Brifysgol yn sicrhau'r capasiti i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad gyrfaoedd, a sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael mynediad at ganolwyr i roi geirda iddynt wrth ymgeisio am swyddi?

Beth yw'r amserlen ar gyfer cyhoeddi newidiadau i fodiwlau 2025/26?

A all yr Ysgol warantu y bydd achrediad Cymdeithas Seicolegol

Prydain yn cael ei gynnal?

Sut mae sicrhau bod myfyrwyr Gwyddor Chwaraeon yn derbyn addysgu sy'n berthnasol i'r pwnc mewn modiwlau a rennir gyda seicoleg?

Pa gynlluniau sydd ar waith i gynnal cefnogaeth gan gydfyfyrwyr yn yr Ysgol Gwyddor Chwaraeon i’r un graddau ag a geir yn yr Ysgol Seicoleg?

Sut fydd y Brifysgol yn sicrhau nad oes unrhyw effeithiau negyddol, neu mai bychan yw’r effeithiau negyddol, ar waith rhyngddisgyblaethol rhwng meysydd Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon?

Sut fydd y Brifysgol yn cyfathrebu’r newidiadau i ddarpar fyfyrwyr er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwneud penderfyniad gwybodus o ran dod i astudio ym Mangor?

Atodiad: Deisebau Myfyrwyr

Ffigur 1: Deiseb myfyrwyr i 'Achub Academi rhag Cau' yr oedd 481 o fyfyrwyr wedi ei llofnodi erbyn 10/6/2025

Ffigur 2: Deiseb myfyrwyr i 'Gadw Ieithoedd Modern Tramor a chyrsiau eraill yn y brifysgol' yr oedd 218 o fyfyrwyr wedi ei llofnodi erbyn 10/6/2025

Ffigur 3: Deiseb myfyrwyr: 'Achubwch eich archifdy' yr oedd 87 o fyfyrwyr wedi ei llofnodi erbyn 10/6/2025.

Ffigur 4: Deiseb: 'Achubwch eich archifdy' ar change.org yr oedd 3122 o bobl wedi ei llofnodi erbyn 10/6/2025.

Geirfa

Achos Busnes dros Newid - Y dogfennau yn amlinellu’r cynigion ar gyfer y newidiadau/toriadau i wahanol ysgolion a gwasanaethau proffesiynol a gyhoeddwyd gan y Brifysgol ar 14 Mai 2025. Gellir eu gweld yma: (ychwanegu dolen yma).

CCC - Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

CALl - Cyfwerth ag Amser Llawn

Medr - (Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil) Corff hyd braich o Lywodraeth Cymru, a sefydlwyd gan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 i ariannu a rheoleiddio'r sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru.

ASA - Yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd

STEM - Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg.

UMCB - Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor,

Cyfeiriadau

Prifysgol Bangor, 2018 Polisi Iaith Gymraeg Prifysgol Bangor. Bangor, Y Deyrnas Unedig: Prifysgol Bangor, Dogfen Bolisi.

Prifysgol Bangor, 2018 Siarter Myfyrwyr [ar-lein]. Prifysgol Bangor. Ar gael o: https://www.bangor.ac.uk/cy/siarter-myfyrwyr [Cyrchwyd 5 Mehefin 2025].

Prifysgol Bangor, 2018 Yr Adroddiad Blynyddol a’r Datganiadau Ariannol. Bangor, Y Deyrnas Unedig: Prifysgol Bangor, Adroddiad Ariannol. Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 2019. Employing people: workplace adjustments [ar-lein]. EHRC. Ar gael o: https://www.equalityhumanrights.com/guidance/business/employing-peopleworkplace-adjustments [Cyrchwyd 5 Mehefin 2025].

Hughes, G. & Spanner, L. (2024). The University Mental Health Charter. (2nd ed.) Leeds: Student Minds. Medr, 2025a. Cyflwyniad ysgrifenedig ar sefyllfa ariannol y sector Addysg Uwch yng Nghymru. Cyflwynwyd ym Mhwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, Caerdydd, Y Deyrnas Unedig: Medr: Medr, 2025b. Cyllid cyfalaf ychwanegol addysg uwch 2024-25.

Plant, R., Morgan, G., Barrow, M., Fell, L., a Firdaus, M., 2019. Ymateb Undeb Bangor i’r Achosion Busnes dros Newid ym Mhrifysgol Bangor. Bangor, Y Deyrnas Unedig: Undeb Bangor.

ASA Cymru, 2025. Adolygiad Gwella Ansawdd: Prifysgol Bangor. Caerloyw, y Deyrnas

Unedig: ASA Cymru, Adroddiad Gwella.

Rowlands, G., Lloyd, L., a Rowlands, M., 2025. Profiad Myfyrwyr Cymraeg. Bangor, Y Deyrnas Unedig: Undeb Bangor, Adroddiad Mewnwelediad Myfyrwyr Rhif 4. Llywodraeth y Deyrnas Unedig, 2010. Deddf Cydraddoldeb 2010. Statute Law Database.

Llywodraeth Cymru, 2017. Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg. Caerdydd, y Deyrnas

Unedig: Llywodraeth Cymru, Cynllun Strategol.

Williams, H., Avison, J., Evans, I., a Tew, K., 2020. Ymateb Undeb Bangor i’r Achosion Busnes dros Newid ym Mhrifysgol Bangor. Bangor, Y Deyrnas Unedig: Undeb Bangor.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Undeb_Bangor_s_Respsonse_to_BCFC_at_Bangor_University-_June_2025-CY by Undeb Bangor - Issuu