Polisi a Threfnau ar gyfer Myfyrwyr ac Aelodau Cyswllt Dan 18 oed
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cydnabod y gallai rhai o fyfyrwyr Prifysgol Bangor fod o dan 18 oed pan fyddant yn dechrau ar eu cwrs. Dylai'r myfyrwyr hyn a'u teuluoedd ddeall bod Prifysgol Bangor ac Undeb Myfyrwyr Phrifysgol Bangor yn amgylchedd i oedolion a disgwylir i bawb sy'n cymryd rhan yng ngweithgareddau Undeb y Myfyrwyr ysgwyddo cyfrifoldeb oedolyn a bod â'r sgiliau angenrheidiol i gymryd rhan yn annibynnol yng ngweithgareddau Undeb y Myfyrwyr. Cyfrifoldeb yr unigolyn yw sicrhau bod ei riant neu rieni)/gwarcheidwad neu warcheidwaid yn deall y dybiaeth hon ac yn gwneud cais am gefnogaeth ychwanegol os oes ei angen. Bydd Undeb y Myfyrwyr yn llunio adroddiad o'n system Gwasanaethau Aelodaeth i nodi pa fyfyrwyr sydd o dan 18 oed a bydd y wybodaeth hon yn cael ei chyfleu i arweinwyr gweithgareddau perthnasol yr Undeb. Bydd arweinwyr gweithgareddau myfyrwyr hefyd yn hysbysu Undeb Myfyrwyr Bangor yn ysgrifenedig os bydd unrhyw unigolyn o dan 18 oed yn bresennol mewn unrhyw weithgareddau grŵp. Mae pob achos o gofrestru aelod cyswllt yn cael ei brosesu trwy ein system gwasanaethau aelodaeth a bydd hyn yn gyfrwng i hysbysu staff ac arweinwyr gweithgareddau perthnasol yr Undeb am unrhyw unigolion sydd o dan 18 oed. Gall Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor agor rhai o'i weithgareddau i fyfyrwyr o sefydliadau Addysg Uwch neu Addysg Bellach eraill sydd o dan 18 oed. Bydd gofyn i'r myfyrwyr hynny ymaelodi ag Undeb y Myfyrwyr fel Aelodau Cyswllt (gweler 1.6 am ragor o wybodaeth). Bydd aelodau o dan 18 oed yn ddarostyngedig i bolisïau a threfnau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor a byddant yn gallu cael mynediad at y mwyafrif o'i weithgareddau yn amodol ar ddarpariaethau'r polisi hwn ac awdurdodiad ysgrifenedig personol gan gynnwys unrhyw amodau penodol yn ymwneud â chyfranogiad a bennir gan y Rheolwr Adran perthnasol. Bydd unrhyw amodau'n cael eu nodi a'u cytuno arnynt ar sail unigol. 1.1
Cyfrifoldeb Rhieni
Nid yw Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn gallu ysgwyddo'r hawliau, y cyfrifoldebau a'r
awdurdod sydd gan rieni mewn perthynas â phlentyn ac ni fydd yn gweithredu in loco parentis mewn perthynas ag aelodau sydd o dan 18 oed. 1.2
Cyfathrebu ag Aelodau sydd o dan 18 oed
Polisi Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yw cyfathrebu ac ymateb i aelodau sydd o dan 18 oed yn uniongyrchol (neu gydag aelod perthnasol o gyfadran y sefydliad maent yn gofrestredig ag ef lle bo hynny'n briodol). 1.3
Cyfrifoldeb Aelodau sydd o dan 18 oed (neu Rieni/Gwarcheidwaid)