Canllawiau Cam wrth Gam a Rheolau a Rheoliadau Etholiadau Swyddogion Sabothol 2021
Canllawiau Cam wrth Gam Etholiadau Swyddogion Sabothol Dyma'r prif gamau a'r prosesau i sefyll yn Etholiadau’r Swyddogion Sabothol: enwebiadau, eich maniffesto, eich cyhoeddusrwydd, ymgyrchu, pleidleisio a'r cyfrif. Enwebiadau Er mwyn sefyll mewn etholiad rhaid i enwebiad ffurfiol gael ei gyflwyno ar-lein trwy www.UndebBangor.com. Yn dilyn enwebiad llwyddiannus byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau bod yr enwebiad wedi'i dderbyn ac yn cadarnhau eich ymgeisyddiaeth yn yr etholiad. Ni dderbynnir enwebiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau a hysbysebwyd. Drwy gyflwyno enwebiad rydych yn cytuno i'r canlynol ac yn rhoi caniatâd i Undeb Bangor fel a ganlyn: • • • •
Cynnwys eich enw mewn cyhoeddusrwydd a datganiadau i'r wasg yn ymwneud ag Etholiadau Undeb Bangor Arddangos eich maniffesto/datganiad ysgrifenedig a'ch llun mewn cyhoeddusrwydd ar gyfer Etholiadau Undeb Bangor Arddangos eich enw a manylion cyswllt ar ein gwefan os cewch eich ethol yn llwyddiannus Anfon eich enw, cyfeiriad e-bost a Rhif Cerdyn Myfyriwr y Brifysgol at y Brifysgol er mwyn iddynt wirio bod y wybodaeth rydych wedi'i roi yn gywir a chadarnhau eich bod yn fyfyriwr cofrestredig presennol neu'n fyfyriwr PhD yn eu cyfnod ysgrifennu.
Maniffestos Anogir ymgeiswyr yn gryf i gyflwyno maniffesto ymgeisydd. Mae cyfyngiad geiriau caeth o 350 o eiriau i faniffestos. Gellir eu cyflwyno naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg a chânt eu cyfieithu gan Undeb Bangor. Rhaid cyflwyno maniffestos ar-lein trwy’r porth enwebiadau, cyn y dyddiad cau nodir yn Amserlen yr Etholiad. Caniateir i ymgeiswyr newid eu maniffestos cyn y dyddiad cau. Gellir anfon unrhyw newidiadau trwy e-bost i etholiadau@undebbangor.com neu trwy’r porth enwebiadau ar y wefan. Beth yw maniffesto?
1