Prosbectws YDDS Israddedig 2013

Page 93

Gwneud cais am gymorth ariannol  phwy i gysylltu os ydych yn byw fel arfer yn: Cymru Cyllid Myfyrwyr Cymru 0845 602 8845 www.studentfinancewales.co.uk Lloegr Student Finance Direct 08456 077 577 www.studentfinancedirect.co.uk Yr Alban Student Awards Agency for Scotland (SAAS) www.saas.gov.uk

Lwfansau atodol Mae arian ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd mewn amgylchiadau arbennig, gan gynnwys os ydych yn anabl neu os oes gennych ddibynyddion, ee, Grant Cymorth Arbennig, Grant Gofal Plant, Lwfans Dysgu Oedolion. Mae’r Brifysgol yn darparu cymorth gyda cheisiadau am y Lwfans Myfyrwyr Anabl, y Lwfans Cynorthwy-ydd Anfeddygol a’r Lwfans Offer os oes ei angen.

Mynediad at gronfeydd dysgu/bwrsariaethau cyfwng ariannol Mae’r cronfeydd hyn ar gael i fyfyrwyr i helpu talu costau byw a fyddai fel arall yn ystyried peidio mynd i mewn i addysg uwch. Gall myfyrwyr wneud cais am y cronfeydd hyn ar ôl cychwyn y cwrs. Cysylltwch â’r Gwasanaethau Myfyrwyr i gael rhagor o fanylion 01267 676830.

Meddyg Arian Mae’r Brifysgol yn rhedeg cynllun ‘Meddyg Arian’ i’ch helpu i reoli eich arian, gan gynnwys cyngor ar osod cyllideb a chadw ati fel eich bod yn osgoi anawsterau ariannol. Cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr i gael mwy o fanylion: 01267 676830.

Gogledd Iwerddon Student Finance ni Contact Centre 0845 600 0662 www.studentfinanceni.co.uk Gwlad arall yn yr UE Gallwch gael yr un math o gymorth gyda ffïoedd dysgu ag sydd ar gael i fyfyrwyr y DU ond ni fyddwch yn gymwys i wneud cais am Fenthyciad Myfyrwyr, Grantiau Atodol na Chronfeydd Mynediad at Ddysgu. Er mwyn cael ffurflen gais ar gyfer cael cymorth gyda ffïoedd dysgu, cysylltwch â: The European Team, Dept for Education & Skills (SSD1), Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington, Co Durham DL3 9BG. Ffôn: 0141 243 3570.

www.ydds.ac.uk | 93


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Prosbectws YDDS Israddedig 2013 by University of Wales Trinity Saint David - Issuu