Cylchgrawn Cyn-fyfyrwyr Perthyn 2024

Page 1


PERTHYN 2024

Cylchgrawn i gyn-fyfyrwyr

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’i sefydliadau rhagflaenol

Cipolwg ar Ymchwil

Tudalen 6

Dathlu 25 mlynedd o

Chwaraeon Moduro

Tudalen 16

Cyfweliad gyda chyn-fyfyriwr: Andrew Wallis, OBE

Tudalen 18

Newyddion a diweddariadau o’n campysau a’n cymuned cyn-fyfyrwyr

Cadw mewn cysylltiad

CROESO

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym gyflwyno rhifyn arall o Perthyn - cylchgrawn ar gyfer cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’i sefydliadau rhagflaenol.

Rydym wrth ein bodd yn turio i’r digwyddiadau diweddaraf ar draws ein campysau a dathlu cyflawniadau ein staff gwych, ein myfyrwyr ac wrth gwrs, ein cymuned cynfyfyrwyr.

Yn y rhifyn hwn, rydym yn dathlu’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol, gan gyflwyno newyddion ymchwil diweddaraf y Brifysgol; dathlu cerrig milltir; tynnu sylw at gyfleoedd, a chloddio yn yr archifau am atgofion o’r gorffennol. Rydym yn gobeithio y bydd rhywbeth at ddant pawb yn y rhifyn hwn.

P’un a ydych wedi graddio’n ddiweddar, neu a oes degawdau wedi mynd heibio ers hynny, rydym yn eich gwahodd ailddarganfod hanfod Perthyn, gan fod y cylchgrawn hwn yn gweithredu fel rhwydwaith ar gyfer cysylltiad a chyfeillgarwch i bob un sy’n rhan o deulu PCYDDS.

Ymgollwch yn y tudalennau hyn a mwynhewch eu darllen! as well as an introduction to Professor Elwen Evans, KC, our new Vice-Chancellor from September.

Mared Anthony Swyddog Cysylltiadau â Chyn-fyfyrwyr

P’un a oes gennych gwestiynau neu adborth, neu efallai eich bod chi am ddweud helo, byddwn bob amser yn falch o glywed gennych.

lumni@pcydds.ac.uk

www.uwtsd.ac.uk/cy/cyn-fyfyrwyr

UWTSD Alumni Network

Cadw Cyswllt…

Mae nifer o resymau pam y dylech barhau i gadw cyswllt â’r Brifysgol hon. Rydym yn parhau i weithio dros ein cyn-fyfyrwyr a gyda nhw i ddatblygu cynigion a chyfleoedd. Mae’r rhain yn cynnwys:

• Cymorth entrepreneuraidd a gyrfaol

• Cyfleoedd datblygiad proffesiynol

• Gwahoddiadau ddigwyddiadau rhwydweithio ac aduniadau

• Mynediad parhaus at adnoddau a chyfleusterau

• Gostyngiadau pan fyddwch yn ôl ar y campws neu’n astudio ymhellach gyda ni

Diweddarwch eich manylion…

Rydym yn deall y gall amgylchiadau a manylion newid. Dyna pam rydym angen eich cymorth!

Cymerwch eiliad i ddiweddaru eich manylion cyswllt, fel y gallwn cadw ein cofnodion yn gyfredol a sicrhau y gallwn gysylltu â chi

Sganiwch y cod QR hwn i ddiweddaru eich manylion.

CYNNWYS

Croeso’r Is-Ganghellor

Newyddion ein cyn-fyfyrwyr

Cipolwg ar waith ymchwil a prosiectau

Cofleidio AI yn y Celfyddydau

Perfformiad gorau posibl Athlewtr Paratriathlon

Côr Ifor Bach yn canu i Fuddugoliaeth

Dysgu Chwyldroadol

O’r Archifiau

Dathlu 25 mlynedd o Chwaraeon Moduro

Cyfweliad gyda chyn-fyfyriwr: Andrew Wallis, OBE

Chwalu Rhwystrau gyda Chymhwyster Seiliedig ar Waith

amser yng Nghymru” - stori myfyriwr o St Vincent

Annwyl gyn-fyfyrwyr,

Mae’n bleser mawr gennyf eich croesawu’r rhifyn hwn o gylchgrawn cyn-fyfyrwyr y Brifysgol, Perthyn.

Mae’r teitl yn adlewyrchu’r cysylltiad yr wyf yn gobeithio y byddwch yn teimlo fel aelodau gwerthfawr o gymuned y Brifysgol. Mae’n gymuned sy’n gwerthfawrogi ei phobl a’r effaith a wnawn gyda’n gilydd, i’n cymdeithas. Nid yw pŵer trawsnewidiol addysg uwch byth yn fwy amlwg nag yn llwyddiannau a chyflawniadau’r rhai sydd wedi astudio gyda ni.

Fel cyn-fyfyrwyr, mae eich taith a’ch cysylltiad parhaus yn ysbrydoliaeth i’n myfyrwyr presennol. Hoffem glywed am eich teithiau proffesiynol neu bersonol a’r rôl y mae’r Brifysgol hon wedi’i chwarae yn eich bywyd.

Nod y cylchgrawn yw dathlu straeon ein cyn-fyfyrwyr a rhoi newyddion i chi am y Brifysgol. Fe welwch wybodaeth yn y tudalennau hyn am sut y gallwch rannu eich gwybodaeth a’ch profiadau a chefnogi ein gwaith.

Byddwch hefyd yn darganfod sut y gallwn eich cefnogi chi – p’un a ydych yn chwilio am ddatblygiad proffesiynol, yn dymuno cydweithio â ni, yn dechrau eich busnes eich hun neu’n dymuno ymweld â hi.

Diolch am eich cefnogaeth a’ch ymrwymiad parhaus.

Gyda dymuniadau gorau.

Yr Athro Elwen Evans, CB Is-Ganghellor

Dyma gipolwg ar ychydig o’r straeon:

Cloddio ei gyrfa

Rydym wrth ein bodd yn clywed gan ein cymuned cyn-fyfyrwyr am eich anturiaethau a’ch cerrig milltir diweddaraf. Rydym wedi derbyn nifer o ddiweddariadau ysbrydoledig gennych yn ystod y flwyddyn sy’n arddangos eich llwybrau amrywiol a’ch cyflawniadau rhyfeddol.

Llwyddodd Ellie Lockwood (BA Archaeoleg yr Aifft a’r Dwyrain Agos, 2018) bontio’n llwyddiannus o’i hastudiaethau i yrfa lewyrchus mewn archaeoleg. Mae’n mwynhau ei rôl fel Archeolegydd Maes yn Oxford Archaeology Ltd, lle mae’n gweithio ar brosiectau cloddio sylweddol sydd wedi cael sylw ar ‘Digging for Britain’ ar BBC2 yn ogystal ag ychwanegu gwybodaeth at lyfrau hanes. Mae ei gwaith yn ei swyno bob dydd ac mae’n dod ar draws eraill sy’n gweithio yn ei maes yn rheolaidd a oedd hefyd yn astudio yn Llambed.

Cymysgu gyda’r sêr

Mae’r beirniad ffilm a theledu, Maggie Lovitt (MA Anthropoleg Ymgysylltiedig 2021) yn defnyddio ei dealltwriaeth o ryngweithiadau a naratifau dynol o’i gradd ym maes adloniant a newyddiaduraeth. Fel Golygydd Newyddion Arweiniol ar gyfer Collider, mae’n cyfweld ac yn llywio paneli trafod gyda chyfweliadau â pherfformwyr gan gynnwys Ewan McGregor a sêr ‘Harry Potter’ Jason Issacs a Matthew Lewis. Y tu allan i’w swydd o ddydd i ddydd, mae portffolio personol Maggie yn cynnwys amrywiaeth o waith gan gynnwys straeon byrion, cerddi a nofelau. Mae ei doniau sgriptio wedi cael eu hanrhydeddu mewn gwyliau ffilm amrywiol hefyd.

Dysgu am hanes Cymru drwy gêm gardiau

Mae Eifion Rogers (BA Rheoli Chwaraeon, 2007) wedi cael gyrfa amrywiol, gan gynnwys hyfforddi timau pêl-droed a chyhoeddi llyfr ar hanes pêl-droed ym Mrynaman. Gan fwynhau hanes a chwedloniaeth ers yn blentyn, ei fenter ddiweddaraf yw creu gêm gardiau dwyieithog yn seiliedig ar gymeriadau o chwedlau llên gwerin Cymru. Nod gêm gardiau dwyieithog Eifion, Welsh Legends, yw addysgu ac ysbrydoli pobl ledled y byd i ymddiddori yn y ffigurau eiconig hyn sydd wedi llywio diwylliant Cymru. Mae’r gêm wedi cael ei hallforio i 12 gwlad a 15 talaith yn yr Unol Daleithiau hyd yn hyn ac wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau Cymreig.

Bod yn feistr arno ef ei hun

Eleni, dathlodd yr entrepreneur, Alun Jones (BA Technoleg Gwybodaeth Busnes, 2013) ben-blwydd cyntaf ei asiantaeth ddigidol greadigol, Libera. Mae Libera yn fusnes marchnata digidol dwyieithog sydd wedi adeiladu rhestr o gleientiaid amlwg o Gymru yn ei flwyddyn gyntaf o fusnes, gan gynnwys Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Yn ogystal, cyd-drefnodd Gynhadledd Cyfryngau Cymdeithasol Cymru gyntaf yn 2023 a oedd yn llwyddiant ysgubol gan ddenu bron i 300 o gynadleddwyr, gydag un arall wedi’i gynllunio ar gyfer 2024. Mae Alun wrth ei fodd gyda’r her o redeg ei gwmni ei hun a gweithio iddo’i hun ac mae’n gyffrous i dyfu Libera.

Gadewch i ni ddathlu eich llwyddiannau gyda’n gilydd! Os hoffech gael eich cynnwys mewn rhifyn o’r cylchgrawn, rhannwch eich stori gyda ni. alumni@pcydds.ac.uk

AR WAITH YMCHWIL A PROSIECTAU

Yn Y Drindod Dewi Sant, rydym wedi ymrwymo i gyflwyno ymchwil sy’n ymgysylltiol ac yn arloesol bob amser. O feysydd sy’n cwmpasu peirianneg, y gwyddorau cymdeithasol, y celfyddydau a’r dyniaethau, mae ein prosiectau’n pwysleisio cydweithrediad rhyngddisgyblaethol ac effaith yn y byd go iawn, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i les cymdeithasol ac economaidd.

Dyma gipolwg ar rai o’r gwaith arloesol sydd wedi gyrru cynnydd o fewn cymuned ein prifysgol dros y flwyddyn ddiwethaf.

Gwneud sblash gyda bwrdd padlo arloesol

Mae gan Rhys sydd yn ei arddegau, gyflwr genetig prin cynyddol sy’n effeithio ar ei ddwylo a’i draed yn ogystal â’i gryfder corfforol. Er ei fod wedi rhoi cynnig ar syrffio, ac yn ei fwynhau pan fo’r môr yn dawel, mae gwlychu a mynd yn oer yn anodd iddo.

Cysylltodd ei fam, Adele, â Chanolfan Arloesi Cerebra (CIC) y Brifysgol i weld a fyddant yn gallu meddwl am gynllun i helpu Rhys fwynhau’r môr mewn ffordd wahanol.

Mae Dr Ross Head PCYDDS a’i dîm yn CIC yn enwog am eu haddasiadau creadigol. Yn y gorffennol, gweithion nhw addasu bwrdd syrffio a oedd wedi caniatáu i blant ag anableddau brofi’r llawenydd o syrffio’n ddiogel. Felly doedd dim ffordd yn y byd roeddynt am wrthod yr her hon.

Gan ddefnyddio sgiliau peirianneg glyfar, dyluniodd y tîm fwrdd i Rhys a fyddai’n caniatáu iddo eistedd yn gyfforddus ac yn bwysicaf oll, yn ddiogel.

Mae Rhys wrth ei fodd gyda’i fwrdd padlo newydd ac mae’n gallu mwynhau bod ar y dŵr eto lle mae’n gallu gweld bywyd gwyllt a chadw ei gorff a’i feddwl yn gryf ac yn iach, tra’n cael hwyl gyda’i ffrindiau.

Cydnabod effaith Geiriadur Prifysgol Cymru

Geiriadur Prifysgol Cymru yw’r geiriadur Cymraeg hanesyddol safonol sydd wedi’i gynhyrchu a’i ddiweddaru gan ymchwilwyr yng Nghanolfan

Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd y Brifysgol (CUCCh). Eleni, mae’r geiriadur wedi’i gydnabod yn adroddiad ‘SHAPE of Research Impact’ yr Academi Brydeinig am ei gyfraniadau sylweddol at ieithyddiaeth ac astudiaethau diwylliannol.

Mae’r geiriadur Cymraeg ar-lein a’r apiau symudol wedi gadael marc parhaus ar ddysgu iaith, gan gael eu defnyddio dros 3 miliwn o weithiau’r flwyddyn gan unigolion sy’n astudio’r Gymraeg, gan sefydlu’r geiriadur fel adnodd amhrisiadwy.

Ers ei lansio ar-lein yn 2014, mae’r Geiriadur wedi ychwanegu 4,000 o eiriau, gan adlewyrchu ei ymrwymiad i hyrwyddo dealltwriaeth o ieithyddiaeth. Mae’r gwaith gan ymchwilwyr yn CUCCh yn parhau gael effaith ar seilwaith Cymraeg cyfoes yn ogystal ag ar y maes ar lefel ryngwladol.

Yn ogystal, mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn chwarae rhan allweddol yn strategaeth Llywodraeth Cymru gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.

Prawf gwaed arloesol ar gyfer canfod canser y coluddyn cynnar yn gyflym

Mae Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) y Brifysgol yn ceisio trawsnewid bywydau trwy ymchwil ac arloesi ym maes gofal iechyd.

Yn 2024, mae wedi partneru â Sefydliad TriTech o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar brosiect cydweithredol gyda’r cwmni gwyddorau bywyd o Gymru, CanSense Ltd.

Mae’r CanSense-CRC yn arloesi prawf gwaed ar gyfer canfod canser y colon a’r rhefr cynnar (CRC) – neu ganser y coluddyn. Gall y prawf gyflawni canlyniadau cyflym mewn 48 awr ac mae ganddo’r fantais ychwanegol bosibl o leihau’r gofynion am ddiagnosis colonosgopi mwy ymledol o 65%.

Fe’i cynlluniwyd helpu clinigwyr i wahaniaethu rhwng cleifion sydd â graddau amrywiol o risg o ganser y coluddyn, gan flaenoriaethu cleifion risg uwch i gael eu rhoi ar y llwybr carlam ddiagnosis a thriniaeth ddiffiniol. Gallai leihau’r baich ariannol ar y GIG yn sylweddol, gydag amcangyfrif o arbedion cost posibl o £250M y flwyddyn.

Mae ATiC, sydd wedi’i leoli yn Ardal Arloesi SA1 Abertawe, yn ymgymryd â gweithgarwch ymchwil gyda meddygon teulu, gwaedyddion (phlebotomists) a thechnegwyr labordy archwilio anghenion defnyddwyr mewn perthynas â’r dechnoleg CanSense-CRC. Maent yn cynnal astudiaethau arsylwadol gan ddefnyddio eu hoffer a’u cyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf, gan gyfrannu yn y pen draw at fireinio’r broses brofi.

Grymuso addysg yng Nghymru

Ym mis Mawrth 2024, lansiodd y Brifysgol Gam 3 o brosiect Camau i’r Dyfodol, gyda’r nod o lunio dyfodol addysg yng Nghymru.

Fel menter gydweithredol gyda Phrifysgol Glasgow, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, mae Cam 3 y prosiect yn nodi cyfnod allweddol yn ei daith, gan ganolbwyntio ar gydadeiladu dulliau o ddatblygu’r cwricwlwm a dilyniant dysgu.

Roedd Cam 1 yn canolbwyntio ar ddeall cynnydd addysgol yng Nghymru gyda Cham 2 yn ehangu ar hyn drwy gydweithio ag addysgwyr i fynd i’r afael â heriau a chyfleoedd wrth weithredu’r Cwricwlwm i Gymru (CIG) mewn ysgolion.

Bydd Cam 3 yn grymuso athrawon ac yn rhoi dealltwriaeth ddofn o’r CIC fel dull pwrpasol, sy’n canolbwyntio ar broses, gan arwain at ddatblygu cefnogaeth ymarferol i ysgolion ledled Cymru. Mae’n creu cyfle gwerthfawr i ysgolion ganolbwyntio ar ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain, gyda chefnogaeth tîm Camau i’r Dyfodol.

Mewn digwyddiad ffurfiol i lansio’r cam diweddaraf, rhoddwyd llwyfan athrawon ac ymchwilwyr gydweithio a chydgyfeirio i ystyried gweithredu CIG deinamig.

Gwyliwch Rhys yn mwynhau ei fwrdd padlo am y tro cyntaf
Darganfod mwy am CUCCh
Darganfod mwy am waith ATiC
Dysgwch mwy am y prosiect

Y PERFFORMIAD GORAU POSIBL: SUT MAE GWYDDOR CHWARAEON YN GYRRU’R ATHLETWR PARATRIATHLON DARREN WILLIAMS

I LWYDDIANT

Mae cyfuno bywyd bob dydd â chystadlu’n rhyngwladol yn anodd unrhyw athletwr. I Darren Williams sy’n defnyddio cadair olwyn ar ôl digwyddiad a newidiodd ei fywyd yn 2014, mae’r her hyd yn oed yn fwy. Ond gyda chymorth gwyddor chwaraeon, mae’n ffynnu fel athletwr para triathlon.

Yn 2024, mae’r Brifysgol Drindod Dewi Sant mewn partneriaeth â Triathlon Cymru, wedi bod yn cefnogi Darren baratoi ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol. Dan arweiniad Ffisiolegydd Ymarfer Corff y Brifysgol, Geraint Forster a’i fyfyrwyr BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, mae Darren wedi derbyn profion VO2max, dadansoddiad nofio tanddwr, cymorth cryfder a chyflyru, triniaethau therapi chwaraeon, a phrofion olrhain amrywioldeb cyfradd y galon.

COFLEIDIO AI A THECHNOLEG DROCHOL:

DATBLYGU CWRICWLA AR GYFER Y DYFODOL

Mae effaith deallusrwydd artiffisial (AI) a thechnoleg drochol ar y celfyddydau ac addysg yn ddiymwad ac yn anochel.

Gan gredu ei bod yn hanfodol cwestiynu sut y gall y technolegau modern hyn herio’n gadarnhaol ein syniadau sefydledig o gelf, dylunio a’r cyfryngau, mae Coleg Celf Abertawe (CCA) Y Drindod Dewi Sant ar flaen y gad ym maes addysg celf a dylunio gan gofleidio potensial trawsnewidiol AI a thechnolegau trochol.

Mae’r rhaglenni MA Celf a Dylunio a’r Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio yn cychwyn ar y daith gyffrous i baratoi myfyrwyr ar gyfer tirwedd greadigol ddeinamig sy’n cael ei gyrru gan AI.

Mewn maniffesto o’r enw “Maniffesto Meta-amhariad: Cofleidio Effaith Drawsnewidiol AI a thechnoleg drochol mewn ymarferion Celf a Dylunio”, mae rheolwyr rhaglenni yn amlinellu egwyddorion craidd sy’n tanlinellu ymrwymiad y rhaglenni i integreiddio AI i’r cwricwla, gan gynnwys, cofleidio creadigrwydd hybrid a meithrin llythrennedd artiffisial moesegol.

Mae Timi Isaac O’Neill, rheolwr y rhaglen, yn rhagweld dyfodol lle mae graddedigion MA Celf a Dylunio a’r Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio yn barod fod yn arweinwyr yn y diwydiannau creadigol, yn fedrus wrth harneisio potensial AI tra’n cynnal cyfrifoldeb moesegol.

Mae’r gefnogaeth wyddonol hon wedi bod yn hanfodol ar gyfer hyfforddiant ac adferiad Darren, gan ei helpu gyrraedd ei botensial llawn fel athletwr para-triathlon.

I fyfyrwyr PCYDDS, mae gweithio gydag athletwyr fel Darren yn darparu profiad byd go iawn amhrisiadwy, gan wella eu sgiliau a’u cyflogadwyedd ym maes gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff.

CÔR IFOR BACH YN FUDDUGOL MEWN CYSTADLEUAETH CANU

Ym mis Mai, bu ein côr - Côr Ifor Bach - yn fuddugol yng nghystadleuaeth S4C Côr Cymru 2024.

Cystadleuaeth deledu yw Côr Cymru sy’n chwilio am y côr gorau yng Nghymru. Mae’n cael ei chynnal bob dwy flynedd ac mae’n cael ei darlledu’n fyw ar S4C.

Un o nodau’r gystadleuaeth yw rhoi cyfle gorau Cymru gymryd rhan mewn cystadleuaeth safon ryngwladol gydag arbenigwyr o bob cwr o’r byd yn cael eu gwahodd i feirniadu. Eleni, roedd y panel beirniadu yn cynnwys yr arweinydd Grant Llewellyn o Gymru, yr arbenigwr corawl Greg Beardsell o Swydd Efrog a’r arweinydd byd-enwog Dr Darius Lim o Singapore.

Cynhaliwyd y rownd derfynol yng Nghanolfan y Celfyddydau

Aberystwyth lle’r oedd pum côr a oedd wedi ennill eu categorïau unigol, yn cystadlu am dlws Côr Cymru a gwobr o £4,000.

Rydym yn falch iawn o Gôr Ifor Bach, casgliad o fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau BA Perfformio, BA Theatr Gerddorol a BMus Perfformio Lleisiol ar gampws y Brifysgol yng Nghaerdydd, ynghyd ag unigolion eraill sy’n byw ac yn gweithio yn y brifddinas.

I TO DDYSGU LEARNING DYCHWELYD RETURN

Dewch i astudio gyda ni a chynllunio eich dyfodol gyda’n profiad ôl-raddedig ardderchog. Rydym yn cynnig cymwysterau ôl-raddedig a addysgir, ymchwil a phroffesiynol i wella eich rhagolygon gyrfa a chynyddu eich potensial o ran enillion.

CYLLID AR GAEL

Ar gyfer mynediad yn 2023, hyd at £12,167 i fyfyrwyr y DU, neu £18,770 ar gyfer myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru.

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU AR GAEL

Mae ein hysgoloriaethau a’n bwrsarïau’n amrywio o £100-£4000, ac i’n graddedigion, mae gennym fwrsari dilyniant Ôl-raddedig o £2,500 i’r rheini sy’n dymuno parhau â’u hastudiaethau.

CYFLWYNO HYBLYG

Opsiynau Llawn Amser, Rhan-Amser, O Bell ac Ar-lein ar gael i weddu i chi.

AMRYWIAETH O RAGLENNI

Dewiswch o’n portffolio eang o raglenni mewn meysydd fel y celfyddydau, addysg, gwyddoniaeth, iechyd, y dyniaethau, rheolaeth, a’r gwyddorau cymdeithasol.

CANOLBWYNTIO AR YRFA

Dysgu ac addysgu wedi’u cynllunio i fodloni’ch anghenion gyrfa a hyfforddi ac yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf gan ein staff sy’n weithgar ym maes ymchwil.

CYSWLLT: info@uwtsd.ac.uk

Study with us and plan your future with our excellent postgraduate experience. We offer postgraduate taught, research and professional qualifications to enhance your career prospects and increase your earning potential.

FUNDING AVAILABLE

For 2023 entry of up to £12,167 for UK students, or £18,770 for Welsh-domiciled students.

SCHOLARSHIPS AND BURSARIES AVAILABLE

Our scholarships and bursaries range from £100-£4000, and for our graduates, we have a £2,500 Postgraduate progression bursary for those wishing to continue their studies.

FLEXIBLE DELIVERY

Full-Time, Part-Time, Distance and Online options available to fit around you.

VARIETY OF PROGRAMMES

Choose from our wide-ranging portfolio of programmes in areas such as arts, education, science, health, humanities, management, and social sciences.

CAREER FOCUSSED

Learning and teaching designed to meet your career and training needs and informed by the latest research from our research-active staff.

CONTACT: info@uwtsd.ac.uk

DYSGU CHWYLDROADOL:

SUT MAE EIN HYSTAFELLOEDD

TROCHI YN GWELLA

YMGYSYLLTIAD MYFYRWYR

Yn 2023, Y Drindod Dewi Sant oedd y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i lansio ei hystafelloedd trochi arloesol, o’r radd flaenaf sy’n darparu mannau dysgu blaenllaw i’n myfyrwyr a’n partneriaid.

Mae’r ystafelloedd trochi hyn sydd wedi’u gosod ar ein campysau yng Nghaerfyrddin ac Abertawe yn trawsnewid y profiad addysgol gyda dysgu trochol wedi’i brofi’n ffordd hynod effeithiol lawer o ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau.

Gan ddefnyddio 16.4 metr o sgriniau LED Samsung 1.5mm, maent yn creu cynnwys ac amgylcheddau digidol sy’n dynwared senarios bywyd go iawn. Mae hyn yn caniatáu ddysgwyr ymarfer a mireinio sgiliau a thechnegau newydd yn weithredol. Maent yn cynnig lle di-risg a diogel lle gellir ailadrodd dysgu a lle mae llwyddiant wedi’i fesur yn gywir.

Dyma sut mae’r ystafelloedd trochi wedi cael eu defnyddio ers eu gosod:

Cynnwys addysgu wedi’i deilwra:

Mae academyddion y Brifysgol yn cydweithio â’r tîm Profiad Digidol ac Ymgysylltu i greu deunyddiau dysgu pwrpasol, gan chwyldroi addysg ar gyfer profiad ymdrochol fyfyrwyr.

Dysgu sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr:

Mae myfyrwyr yn defnyddio technoleg drochi i wella eu dealltwriaeth o gynnwys cwrs trwy brofiadau gweledol, gan wneud yr ystafell yn agwedd hanfodol ar eu taith academaidd.

Ymgysylltu â’r gymuned:

Mae’r Ystafelloedd Trochi wedi croesawu ysgolion lleol a grwpiau cymunedol, gan hyrwyddo cydweithredu a phrofiadau dysgu rhyngweithiol ar gyfer cymuned amrywiol y tu hwnt i addysg uwch.

I gael gwybod mwy am ddefnyddio ein hystafelloedd trochi, cysylltwch â immersive@uwtsd.ac.uk

“Mae technoleg drochol yn pontio ffiniau daearyddol, gan hwyluso cydweithredu o bell a chysylltedd byd-eang. Gall myfyrwyr gydweithio â chyfoedion o bob cwr o’r byd, gan rannu safbwyntiau diwylliannol. Mae integreiddio’r dechnoleg hon i addysg nid yn unig yn gwella canlyniadau academaidd ond hefyd yn arfogi myfyrwyr i fynd i’r afael â heriau byd sy’n gynyddol cydgysylltiedig ac sy’n cael ei yrru gan dechnoleg.”

Yueyao Hu, darlithydd MA Celf a Dylunio

O’R ARCHIFAU: CYNLLUNIAU CAPEL COLEG Y DRINDOD

Eleni, cyflwynodd ein tîm

Casgliadau Arbennig ac Archifau ychwanegiad cyffrous at yr archifau: naw cynllun pensaernïol ar gyfer Coleg y Drindod, Caerfyrddin, sy’n dyddio o 1894 i 1930. Ymhlith y trysorau hyn mae pum cynllun ar gyfer capel newydd arfaethedig y coleg o 1930, sy’n taflu goleuni ar adeg hollbwysig yn hanes y coleg.

Yr Angen am Gapel Mwy

Wedi’i adeiladu’n wreiddiol ar gyfer 60 o fyfyrwyr, erbyn 1911, nododd Adroddiad Blynyddol y Coleg fod y capel yn rhy fach. Erbyn 1924, penderfynodd y Prifathro, ynghyd â’r staff a myfyrwyr y gorffennol a’r presennol, ddefnyddio arian a gasglwyd ar gyfer cofeb ryfel i drosi’r llyfrgell yn Rhag-Gapel, gyda lle i 70 o fyfyrwyr ychwanegol.

Gosodwyd llechen ar wal y Rhag-Gapel gyda’r arysgrif deimladwy hon:

“Mae’r Rhag-Gapel hwn wedi’i gysegru Anrhydedd a Gogoniant Duw, ac er cof cariadus am y Tiwtoriaid, cyn-fyfyrwyr a Myfyrwyr y Coleg a ildiodd eu bywydau dros eu gwlad, 1914-1919.”

Gwthio am Gapel Newydd

Erbyn 1927, roedd problemau capasiti’r capel yn parhau. Gorfodwyd myfyrwyr i eistedd ar risiau’r allor, a bu’n rhaid cynnal dau wasanaeth ar yr un pryd ar foreau Sul—un yn y capel ac un arall yn llyfrgell newydd y coleg. Roedd yr angen am gapel newydd yn anwadadwy.

Ar 25 Mehefin 1929, penderfynodd Cyngor y Coleg adeiladu capel newydd. Erbyn Mehefin 1930, cymeradwywyd cynlluniau a gyflwynwyd gan y pensaer Mr. Ernest John Vale Collier o Gaerfyrddin. Dewiswyd safle, a derbyniwyd tendr o £8,668 gan y cwmni adeiladu Messer’s C. Thomas & Co. o Landeilo. Rhoddwyd cyfraniadau hael i’r prosiect: roedd Archesgob Cymru ac Esgobion Talaith Cymru wedi darparu’r allor, a rhoddodd Mr. W.R. Lewis y pulpud.

Diwrnod Cysegru

Cysegrwyd y capel ar 2 Hydref, 1931. Dechreuodd y diwrnod gyda dau wasanaeth boreol a fynychwyd gan Esgobion yr Eglwys yng Nghymru. Am hanner dydd, cynhaliwyd gwasanaeth cyhoeddus gyda phregeth a draddodwyd gan Archesgob Cymru, ac wedi hynny cynhaliwyd gorymdaith fawreddog. Parhaodd y dathliadau gyda chinio yn Neuadd y Coleg gan orffen gyda gwasanaeth gyda’r nos a chanu Te Deum Laudamus.

Roedd cysegru’r capeli newydd yn garreg filltir yn hanes y coleg, yn symbol o dwf, cofio, ac ysbryd cymunedol. Mae’r cynlluniau a ychwanegwyd at ein harchifau yn 2024 yn datgelu’r cynllunio manwl a’r ymroddiad y tu ôl i greu gofod ar gyfer addoli ac undod.

Mae cynllun y capel o 1894 yn dangos pa mor fach oedd y capel gwreiddiol o gymharu â’r cynlluniau ar gyfer y capel newydd.

DARGANFOD TRYSORAU CUDD LLAMBED

Mae ein tîm Casgliadau Arbennig ac Archifau yn cymryd rhan mewn Drysau Agored, dathliad blynyddol CADW o dreftadaeth Cymru. Ar 28 Medi, o hanner dydd tan 4pm, dewch i archwilio taith drwy’r oesoedd yn Llyfrgell Llambed lle bydd y tîm yn arddangos detholiad o drysorau gan gynnwys:

• Llawysgrif 1279 yr Esgob Thomas Burgess o’r Beibl Lladin;

• Dau lyfr oriau o’r bymthegfed ganrif;

• Copi o atlas Abraham Ortelius sy’n cynnwys y map printiedig cyntaf o Gymru;

• Argraffiad cyntaf gwych o sŵoleg Brydeinig Thomas Pennant.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan CADW

DATHLU 25 MLYNEDD O RAGORIAETH RASIO:

RHAGLEN CHWARAEON MODURO ARLOESOL YN NODI CHWARTER CANRIF

Y flwyddyn academaidd hon, mae’n 25 mlynedd ers sefydlu rhaglen radd BEng Peirianneg Chwaraeon Moduro, cwrs a oedd yn arloesol ar y pryd, y cyntaf o’i fath yn y byd o bosibl.

Hanes ac esblygiad

Lansiwyd y rhaglen yn 1998 yn Athrofa Addysg Uwch Abertawe gyda chefnogaeth Cymdeithas y Diwydiant Chwaraeon Moduro. Syniad Roger Dowden oedd y rhaglen a darlithiodd Roger ar y cwrs hyd at ei ymddeoliad yn 2020.

Esblygodd y syniad yn dilyn llwyddiant tîm rasio o fyfyrwyr Peirianneg Modurol HND sefydliad yr oedd Roger wedi helpu i’w sefydlu ym 1996. Datblygodd myfyrwyr gar rasio a aeth ymlaen i ennill Pencampwriaeth GT Genedlaethol Privilege Insurance a thrwy eiliad o oleuni, gwelodd Roger botensial ar gyfer cwrs a fyddai’n canolbwyntio’n benodol ar y diwydiant chwaraeon modur.

Cyflwynwyd BEng Peirianneg a Dylunio Chwaraeon Moduro gan baratoi’r ffordd ar gyfer nifer o raglenni llwyddiannus eraill, gan gynnwys Rheoli Chwaraeon Modur a Pheirianneg Beiciau Modur yn ystod y 2000au. Ers hynny mae cannoedd o raddedigion llwyddiannus wedi gwneud cyfraniadau gwerthfawr yn y diwydiant cystadleuol, gyda llawer yn gweithio fel peirianwyr rasio, yn y maes aerodynamig, fel dadansoddwyr data neu mewn swyddi rheoli ar gyfer timau rasio.

Heddiw

Mae’r Brifysgol yn parhau fod yn un o brifysgolion mwyaf blaenllaw’r DU ar gyfer addysg Chwaraeon Moduron, gyda rhaglenni’n cael eu cynnal yn adeilad IQ y Brifysgol ar gampws Glannau Abertawe. Mae’r rhaglenni’n cynnig ystod eang o weithdai, cyfleusterau a meddalwedd safonol y diwydiant sy’n rhoi profiad ymarferol a dan arweiniad y diwydiant i fyfyrwyr.

Mae’r cwrs Peirianneg Chwaraeon Modur yn cyfuno egwyddorion peirianneg fecanyddol gyda’r cymhwysiad chwaraeon modur ac fe’i cynigir ar lefel baglor a meistr. O fewn yr un portffolio, mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig rhaglenni Beiciau Modur a Modurol.

Llinell amser a chyflawniadau’r tîm rasio

1990au – Sefydlwyd Tîm Darrian yn Athrofa Addysg Uwch Abertawe ac mae myfyrwyr yn datblygu car sy’n mynd ymlaen i ennill Pencampwriaeth fawreddog GT Privilege Insurance.

2000au – Mae myfyrwyr yn datblygu eu car mynediad Fformiwla Myfyrwyr cyntaf yn 2003 wrth gystadlu ym Mhencampwriaeth Locost 750.

2010au – Mae’r darlithydd, Tim Tudor yn sefydlu’r Monoposto gyda nawdd Renault UK, ac yna’n sefydlu Tîm MCR 2014. Mae myfyrwyr yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Rasio Chwaraeon 2000 yn erbyn timau proffesiynol, gan gyflawni nifer o orffeniadau podiwm a gwobrau am eu gwaith tîm.

2020au – Mae’r tîm yn parhau i redeg gyda 2 gar, un yn cael ei yrru gan yr aerodynamegydd a’r Athro Ymarfer, John Iley. Ym mis Ionawr 2024, mae’r tîm yn cwblhau Treial Caerwysg gan ddefnyddio tanwydd cwbl gynaliadwy, Coryton Sustain 100 mewn car Morgan Plus Four.

“Fe wnaeth y radd fy arfogi â’r wybodaeth angenrheidiol i weithio mewn Chwaraeon Moduron, ond daeth y gwir fantais o’r profiadau cysylltiedig â’r bobl y des i i’w hadnabod drwy gydol y cwrs. Yr hyn rwy’n ei garu am weithio yn y diwydiant yw’r teimlad o ennill, yn ogystal â dysgu a gweithio fel tîm!”

Jeremy Vick, oedd ymhlith y garfan gyntaf i raddio o Athrofa Addysg Uwch Abertawe

CYFWELIAD GYDA

CHYN-FYFYRIWR:

ANDREW WALLIS, OBE

Ydych chi erioed wedi cael eich syfrdanu gymaint gan anghyfiawnder cymdeithasol nes eich bod yn teimlo gorfodaeth i gymryd camau mawr yn ei erbyn? Dyna’n union a wnaeth cyn-fyfyriwr Llambed, Andrew Wallis, OBE, ar ôl dysgu am realiti arswydus caethwasiaeth a masnachu pobl ar ôl gweld ei effaith uniongyrchol.

Andrew yw Prif Swyddog Gweithredol Unseen, prif elusen gwrth-gaethwasiaeth y DU sydd wedi ymrwymo i ddileu caethwasiaeth fodern. Cynghorodd ar yr adroddiad dylanwadol “It Happens Here” a helpodd i lunio Deddf Caethwasiaeth Fodern y DU yn 2015. Dyfarnwyd OBE iddo’r un flwyddyn am ei waith hynod effeithiol.

Gwnaethom sgwrsio gydag Andrew am ei waith rhyfeddol yn ogystal â hel atgofion am ei gyfnod yn Llambed.

Helo Andrew! Allech chi rannu eich cefndir a beth wnaeth eich arwain at Lambed i ddarllen Diwinyddiaeth yn 1986?

Treuliais ran o fy mhlentyndod dramor a blynyddoedd fy arddegau yng Nghaint. Wedi fy nenu’n wreiddiol at Hanes a Gwleidyddiaeth, arweiniodd rhwystr gydag un o fy arholiadau Safon Uwch at Lambed drwy Glirio. Roedd yn un o’r ychydig brifysgolion a oedd yn cynnig astudiaeth aml-bwnc, gan roi cyfle i archwilio pynciau amrywiol. Roedd Llambed yn rhyfedd ac yn bwysicach, roedd dros 250 milltir o’m cartref a oedd yn cyfyngu ar y demtasiwn i ddychwelyd adref yn aml!

Beth yw rhai o’ch atgofion gorau am eich cyfnod yn Llambed?

Des i’n Swyddog Adloniant a arweiniodd at atgofion gwych. Un uchafbwynt oedd trefnu digwyddiadau - llwyddais gael y band Brother Beyond i berfformio yn Llambed yr wythnos yr oedd ei sengl cyntaf wedi cyrraedd brig y siartiau cerddorol. Roedd yr awyrgylch colegol yno’n wych ac oherwydd ei leoliad agos ac anghysbell, cawsom ein hannog feddwl y tu allan i’r bocs am adloniant, gan ei wneud yn llawer o hwyl.

Proffil cyn-fyfyrwyr

Campws: : Coleg Prifysgol Dewi Sant, Llambed

Pwnc: Diwinyddiaeth

Blynyddoedd astudio: 1986-1989

Galwedigaeth: Sylfaenydd a Phrif

Swyddog Gweithredol elusen gwrthgaethwasiaeth

Ym mha ffyrdd y gwnaeth eich astudiaethau lunio eich persbectif ar gyfiawnder cymdeithasol a materion hawliau dynol ac, i bob pwrpas, llwybr eich gyrfa yn y dyfodol?

Roeddwn erioed â diddordeb mewn gwleidyddiaeth ac yn bryderus am faterion cyfiawnder. Er hynny, roedd fy hoff ran o’r radd, Crefydd, Cymdeithas a Gwleidyddiaeth, yn cynnwys astudiaethau ar ddiwinyddiaeth rhyddid, diwinyddiaeth ddu, a’r mudiad hawliau sifil, ac fe wnaeth hyn siapio fy safbwynt yn sylweddol. Atgyfnerthodd yr astudiaethau hyn fy niddordeb mewn cyfiawnder cymdeithasol yn ogystal â diffinio fy llwybr gyrfa. Yn ogystal, roedd yr adran wedi gwahodd darlithwyr gwadd i siarad â ni am eu profiadau o fywyd a oedd yn addysgiadol ac yn ysbrydoledig.

Beth wnaeth eich arwain at sefydlu Unseen a pha effaith y mae’r elusen yn ei chael?

Ar ôl gyrfa mewn busnes, gweithiais gydag eglwys i fynd i’r afael â materion cymunedol lle des i wybod am fasnachu pobl. Gwnaeth adroddiadau brawychus gan gydweithwyr yn Wcráin a newyddion am fasnachu trwy feysydd awyr y DU fel Bryste fy sbarduno i weithredu. Ysgrifennais at gynghorwyr ac ASau a arweiniodd at gyfarfod hanfodol gydag uwch heddwas a wnaeth ddatgelu graddfa leol masnachu ac a wnaeth fy herio i wneud mwy nag ysgrifennu llythyrau’n unig. Felly sefydlais Unseen gael effaith wirioneddol ar gefnogaeth gyfannol a thai diogel. Y swyddog heddlu oedd ein hymddiriedolwr cyntaf, a bu ei ddylanwad yn gymorth agor drysau i’r Swyddfa Gartref a’r Asiantaeth Troseddu Genedlaethol.

Ers ei sefydlu, mae Unseen wedi llwyddo newid deddfwriaeth fel Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 ac wedi cefnogi goroeswyr, gan gynnwys tua 40,000 o ddioddefwyr posibl drwy ein llinell gymorth. Rydym hefyd yn gwneud gwaith hanfodol wrth godi ymwybyddiaeth o’r mater ymhlith busnesau gan eu helpu i

fynd i’r afael â llafur gorfodol yn eu cadwyni cyflenwi eu hunain.

Andrew, beth yw hi am eich cymeriad personol a wnaeth Unseen yn bosibl?

Un agwedd allweddol ar fy nghymeriad yw fy ngwrthwynebiad i glywed y gair ‘na’ neu rywun yn dweud nad yw’n bosibl gwneud rhywbeth. Hyd yn oed yn Llambed yn fy rôl fel Swyddog Adloniant, byddwn yn aml yn herio’r sefyllfa bresennol, wedi’i yrru gan y gred y gall dyfalbarhad gyflawni canlyniadau yn aml. Mae’r nodwedd hon wedi bod yn hanfodol yn fy ymdrechion gydag Unseen.

Rhaid i’ch gwaith fod yn dorcalonnus weithiau. Beth ydych chi’n ei wneud i ymlacio a datgysylltu?

Mae gen Ddaeargi Gwyddelig o’r enw Bertie ac mae gen i deulu a ffrindiau gwych. Nid oes unrhyw beth na all fynd am dro hir gyda’r ci, ac yna bwyd, gwin a chwmni da, helpu. Rwyf hefyd yn cadw’n heini ac yn mynd i’r gampfa’n rheolaidd sy’n ffordd wych o leddfu straen. Ydy, mae’r gwaith yn gallu bod yn dorcalonnus, ond mae’n bosibl dysgu datgysylltu a chanolbwyntio ar bethau nad oes ganddynt unrhyw beth i’w wneud â’ch gwaith.

Ar wahân i sefydlu Unseen a chael OBE yn 2015, beth yw eich cyflawniadau mwyaf balch?

Mae gen dri o blant gwych felly mae eu gweld nhw’n tyfu fyny ac yn gwneud yn dda mewn bywyd yn fy ngwneud i’n falch, yn ogystal â phan mae fy Naeargi

Gwyddelig yn ymateb i’m galwadau i ddod yn ôl sy’n hollol groes i arferion y brîd!

Rwyf hefyd yn ymfalchïo mewn gweld

cydweithwyr yn ffynnu er mae’n debyg nad wyf yn eistedd ac yn mwynhau fy nghyflawniadau fy hun gymaint. Mae’n braf cael gwobrau a chydnabyddiaeth ond mae fy meddylfryd yn ymwneud â gweithredu nes ein bod yn llwyddo yng nghenhadaeth

Unseen: rhoi terfyn ar gaethwasiaeth fodern.

CHWALU RHWYSTRAU GYDA

CHYMHWYSTER

SEILIEDIG AR WAITH: ASTUDIAETH ACHOS GRADDEDIG

Proffil cyn-fyfyrwyr

Enw: Sarah Bolton

Cwrs: MA Ymarfer Proffesiynol

Blynyddoedd astudio: 2020-2023

Galwedigaeth: Pennaeth Trawsnewid Gofal

Cyn ymuno â PCYDDS, roedd Sarah Bolton wedi cael gyrfa amrywiol, gan ddechrau yn y maes gweinyddu a symud ymlaen i rolau amrywiol. Er gwaethaf ei hymroddiad i ddysgu a datblygu gyrfa, yn y pen draw, fe wnaeth Sarah daro rhwystr yn ei gwaith pan welodd bod angen cymhwyster lefel meistr arni i sicrhau rolau uwch.

Yn benderfynol o oresgyn y rhwystr hwn, cofrestrodd Sarah ar MA Ymarfer Proffesiynol, cwrs a oedd yn addo dysgu hyblyg i’w galluogi barhau â gwaith llawn amser mewn awdurdod lleol, gyda modiwlau y gallai eu cymhwyso i’w rôl.

Cwblhaodd Sarah brosiect ymchwil dysgu seiliedig ar waith a oedd yn gysylltiedig â’i hymarfer fel rhan o’r cwrs. Yn ddiweddarach, byddai ei chanfyddiadau’n cael effaith ar ei sefydliad a thu hwnt, gan roi mewnwelediadau gwerthfawr strategaethau partneriaethau rhanbarthol a gwella arferion ymgysylltu parhaus.

Gwnaeth yr MA Ymarfer Proffesiynol nid yn unig wella arbenigedd academaidd Sarah ond mae hefyd wedi sicrhau twf ei gyrfa. Yn 2024, llwyddodd gael rôl uwch reolwraig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i GIG Cymru, dyrchafiad y mae’n dweud na fyddai wedi bod yn bosibl heb gwblhau ei gradd meistr.

Sylfaenol ym Mwrdd Iechyd GIG Hywel Dda Troi eich profiad gwaith yn gymhwyster gwerthfawr

Rhagor o resymau i astudio gyda ni

· Cydnabod a gwobrwyo eich profiad

· Eich profiad yw’r unig ofyniad

· Llwybrau dysgu unigol

· Darpariaeth hyblyg, ar-lein

· Yn addas ar gyfer pob diwydiant

· Datblygwch eich sgiliau ymchwil a myfyrio

· Cefnogaeth unswydd gan diwtor (1:2:1 a grŵp)

· Cymuned o ddysgwyr seiliedig ar waith

Gweminarau

Sganiwch god QR gyda’ch ffôn clyfar i’w fynychu.

Mae rhaglenni Fframwaith Ymarfer Proffesiynol (FfYP) Y Drindod Dewi Sant, gan gynnwys MA Ymarfer Proffesiynol, yn grymuso dysgwyr i werthfawrogi eu dysgu seiliedig ar waith a gwella eu sgiliau ar gyfer llwyddiant yn y farchnad swyddi gystadleuol sydd ohoni.

cynyddu eu hyder 90% yn ennill

Medi 9 - 12pm-1pm Tachwedd 12 - 12pm-1pm Rhagfyr 9 - 12pm-1pm

Neu cysylltwch â ppf@uwtsd. ac.uk gyda’ch ymholiadau. Os ydych chi, fel Sarah, eisiau symud ymlaen yn eich gyrfa heb roi’r gorau i weithio’n llawn amser, beth am astudio wrth weithio a chael cydnabyddiaeth am werth eich profiad?

HIRAETH AM DDAWNSIAU’R HAF:

AIL-FYW’R HUD!

Ydych chi’n cofio’r digwyddiadau diwedd blwyddyn – y ‘Ddawns Haf’, ‘Dawns y Llywydd’, ‘Dawns y Coleg’, neu ein hoff ‘dathliadau haf’?

P’un a wnaethoch dreulio’r noson yn gwneud atgofion bythgofiadwy neu’n ceisio osgoi dod yn un ohonynt, mae’r digwyddiadau hyn dros y blynyddoedd wedi meithrin a chryfhau cyfeillgarwch gydol oes a pherthnasoedd rhamantus. Dewch gyda ni ar daith yn ôl i’r gorffennol, gan ddwyn i gof hiraeth am yr eiliadau hudol hynny.

Mae’r rhain wedi’u rhannu gan ein cymuned cyn-fyfyrwyr ac, mae’r cipluniau hyn yn dal ysbryd cyfeillgarwch a dathlu. Paratowch hel atgofion, chwerthin neu efallai hyd yn oed wingo ychydig!

“Dawns Coleg 1963 yn Llambed gyda fy nghariad newydd, Dawn, fy ngwraig am 56 mlynedd bellach.” Rhannwyd gan John King

“Fi a fy ffrind gorau yn barod i fynd i’r Ddawns Haf yn 1997.”

Rhannwyd gan Matt Batten

“7am ar ôl Dawns Haf 1995 yng Ngholeg y Drindod.” Rhannwyd gan Phil Catling

Dawns Haf 2002 yng Nghaerfyrddin. “Un o’r reidiau dychrynllyd mewn car ym maes parcio’r staff. Byddai bagiau llaw, esgidiau a sbectol ym mhobman os na wnaethoch ddal yn sownd.” Rhannwyd gan Gaz Jones

“Dyma fi a fy ngŵr erbyn hyn yn 2001. Gwnaethom gyfarfod yn Llambed yn 1999 a phriodi yn 2004”. Rhannwyd gan Laura Deavall

Myfyrwyr yn dawnsio yn Nawns y 1950au/1960au yng Ngholeg Dewi Sant, Llambed

Dawns y Llywydd 1984 yn Llambed a rannwyd gan Anna Somerset

Dawns Haf 2003 yng Ngholeg y Drindod. “Gwisgo’n smart. Gwnaeth pawb ymdrech arbennig gyda llawer yn gorffen eu harholiadau’r prynhawn hwnnw.” Rhannwyd gan Gaz Jones

yr

yn ei weld. Cymerodd ddiwrnod neu ddau i osod i fyny.” Wrth Gaz Jones.

Dawns Haf 2002: “Y ffair yn y maes parcio oedd
olwg gyntaf y byddai myfyrwyr
Mwynhaodd myfyrwyr PCYDDS
Abertawe noson epig o gerddoriaeth fyw a’r diodydd yn llifo yn TaweFest 2024 Dawns Haf 1992
Dawns Haf 1986 wedi’i rhannu gan Anna Somerset

FY AMSER YNG NGHYMRU:

COFNOD AM GYFNEWID DIWYLLIANNOL GAN

FYFYRIWR O SANT VINCENT A’R GRENADINES

Ym mis Ionawr 2022, cyrhaeddodd 37 o fyfyrwyr o Saint Vincent a’r Grenadines yng Nghymru i astudio rhaglenni a nodwyd fel rhai buddiol i ddatblygiad eu gwlad yn y dyfodol.

Gydag ysgoloriaethau gan y Brifysgol a llywodraeth SVG, bu’r myfyrwyr yn astudio pynciau fel Hanes, Datblygiad Rhyngwladol, Addysg Plentyndod Cynnar, Tirfesur Meintiau a Pheirianneg Sifil.

Daeth y myfyrwyr sy’n byw ar ein campws yn Llambed â heulwen y Caribî orllewin Cymru glawiog, gan wneud cyfraniad i’r campws a’r dref drwy gymryd swyddi rhan-amser. Mae’r myfyrwyr wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau a thimau chwaraeon, a’n haddysgu ar ddiwylliant a bwyd eu hynys, wrth gofleidio ein diwylliant ar yr un pryd.

Wrth iddynt raddio, bydd rhai yn aros yng Nghymru, ar ôl sicrhau rolau yma, tra bod eraill yn dychwelyd adref gyda’u harbenigedd a’u hatgofion. Un o’r rhain yw Xion Da Breo a rannodd ei feddyliau am ei gyfnod gyda ni.

Fy mam wnaeth fy annog wneud cais am yr ysgoloriaeth yn Y

Drindod Dewi Sant ac rwyf mor falch ei bod wedi gwneud hynny.

Pan gyrhaeddais Lambed am y tro cyntaf i astudio Datblygiad

Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth

Fyd-eang, meddyliais ei fod yn oer iawn a bod llawer o ddefaid!

Roedd popeth yn fy nghartref newydd am y ddwy flynedd nesaf yn ffres a chyffrous ac roeddwn yn ei gofleidio gyda breichiau agored.

Ers bod yma, rwyf wedi mwynhau rhyngweithio â phobl yr wyf wedi cwrdd â nhw ar y campws ac yn y dref. Rwyf wedi cael profiad o weithio ochr yn ochr

â’r porthorion ar y campws a gyda’r rhai sy’n rhedeg y clwb rygbi lleol. Rwyf wedi dod i garu gwylio rygbi ac wedi ymuno â thîm rygbi’r campws sydd wedi fy helpu i gymysgu â myfyrwyr o ddisgyblaethau eraill.

Ymunais â phwyllgor carnifal y dref fel ffordd o ddysgu am ddiwylliant Cymru a chyfnewid rhai arferion o’n hynys ni. Pan af yn ôl

i St Vincent a’r Grenadines byddaf yn rhoi cynnig ar y cyfarchion

‘Shwmae’ a ‘Bore da’ gyda fy ffrindiau a’m teulu, yn y gobaith o ddod ag ychydig bach o Gymru i’m tref enedigol, Clare Valley.

Rwyf am ddefnyddio fy ngradd er budd fy nghymuned leol. Rwy’n bwriadu defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau rwyf wedi’u hennill trwy ryngweithio â sefydliadau lleol, megis y Groes Goch neu grwpiau crefyddol, mewn ymdrech i wella’r gymuned mewn ffordd sy’n amgylcheddol gynaliadwy ac yn deg i bawb.

Rwyf wedi mwynhau fy amser yma yn Llambed ac yn ddiolchgar am y ffrindiau rwyf wedi’u gwneud sydd wedi cyfrannu cymaint at fy amser yma.

RHOWCH EICH

CEFNOGAETH I NI

Ein cyn-fyfyrwyr yw ein llysgenhadon pennaf. Mae eich cefnogaeth a’ch ymgysylltiad yn chwarae rhan hanfodol yn llwyddiant y Brifysgol hon mewn sawl ffordd. Gall eich ymdrechion helpu darpar fyfyrwyr i ddarganfod beth sy’n gwneud PCYDDS yn arbennig, a gwella profiad ein myfyrwyr presennol yn sylweddol.

Dyma sut y gallwch roi eich cefnogaeth i ni:

Rhannu eich profiad

Mae eich taith bersonol yn Y Drindod Dewi Sant yn unigryw ac yn ysbrydoledig. Gyda thystiolaeth am sut mae eich amser yma wedi llywio eich gyrfa a’ch twf personol, gall eich stori roi enghreifftiau o lwyddiant go iawn i fyfyrwyr presennol, neu gallai fod yn ffactor allweddol sy’n helpu darpar fyfyriwr sy’n ystyried eu dyfodol wneud penderfyniad.

Argymell Y Drindod Dewi Sant

Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n chwilio am y brifysgol gywir? P’un a yw ffrind, anwylyn neu gymydog yn chwilio am eu gradd gyntaf neu gymhwyster i wella eu gyrfa, beth am argymell Y Drindod Dewi Sant iddynt? Mae eich cymeradwyaeth yn amhrisiadwy, a gall eich barn bersonol wneud byd o wahaniaeth.

Gwneud rhodd

Gall cyfraniad ariannol i’r Drindod Dewi Sant, waeth pa mor fawr neu fach, alluogi myfyrwyr i wneud penderfyniadau sy’n newid bywydau a symud ymlaen yn eu hastudiaethau. Gall eich cyfraniadau gyfrannu at ysgoloriaethau a gwella cyfleusterau a fydd yn cyfoethogi profiad myfyrwyr.

Gall eich cyfranogiad a’ch cefnogaeth barhaus gael effaith ddwys. Helpwch ni i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr yn cael y cyfle ffynnu yn Y Drindod Dewi Sant, yn union fel y gwnaethoch chi.

Lluniwch y dyfodol

Arolwg cenedlaethol dienw yw’r Arolwg Hynt

Graddedigion a ofynnir i raddedigion ei gwblhau 15 mis ar ôl iddyn nhw orffen eu rhaglenni.

Bydd cwblhau’r arolwg yn gwneud gwahaniaeth i’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr ac yn codi ymwybyddiaeth o raglenni’r

Brifysgol, ein rhaglenni a’u perthnasedd i gyflogwyr.

Cefnogwch y Drindod Dewi Sant

DIGWYDDIADAU

CYN-FYFYRWYR

SEMESTER BYTHGOFIADWY

YNG NGHYMRU

Dros benwythnos ym mis Mai, ymgasglodd grŵp o gynfyfyrwyr Americanaidd yn Charleston, De Carolina, i ddathlu 42 mlynedd ers eu semester trawsnewidiol yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.

Daeth y cyn-fyfyrwyr cyfnewid hyn at ei gilydd o bob cwr o’r Unol Daleithiau i hel atgofion am eu profiadau yng Nghymru yn ystod 1982 fel rhan o raglen Central College yng Nghymru. Er iddyn nhw ddod o wahanol golegau ar draws America a threulio cyfnod byr yn unig gyda’i gilydd yng Nghaerfyrddin, mae’r cwlwm perthynas a ffurfiwyd yng Ngholeg y Drindod wedi sefyll prawf amser.

Aduniadau Llambed Tachwedd 2024

Fel rhan o gyfres o benwythnosau aduniad bach a gynlluniwyd i roi profiad mwy personol ac agos atoch i grwpiau blwyddyn penodol, rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni ar gampws Llambed ailgysylltu a hel atgofion gyda hen ffrindiau.

Gyda rhai sesiynau wedi’u trefnu, cinio aduniad i ddathlu a digon o amser rhydd i chi ddilyn eich trywydd eich hun, mae’r penwythnosau hyn yn addo bod yn llawn hwyl a chyfleoedd fyfyrio am y gorffennol

Ewch i’n tudalen Digwyddiadau ac Aduniadau:

www.uwtsd.ac.uk/cy/cynfyfyrwyr/digwyddiadau-acaduniadau

Darllenwch y stori lawn

Rydym ar frig y tabl ar gyfer cefnogi busnesau newydd graddedigion!

Roedd ffigurau a gyhoeddwyd eleni yn rhoi’r Drindod Dewi Sant yn gyntaf o blith 220 o brifysgolion yn y DU ar gyfer busnesau newydd graddedigion sy’n dal i fod yn weithredol ar ôl tair blynedd. Arolwg Rhyngweithio Busnes a Chymuned Addysg Uwch 2022/23 (HE-BCI

Mae’r safle uchaf hwn yn dangos y gefnogaeth gychwynnol y mae ein myfyrwyr yn ei derbyn yn ogystal â’r perthnasoedd parhaus sy’n cael eu meithrin rhwng ein cyn-fyfyrwyr, ein myfyrwyr presennol a’n staff.

Mae ein graddedigion entrepreneuraidd yn rhannu eu harbenigedd a’u profiadau’n hael, gan greu rhwydwaith bywiog a chefnogol sy’n tanio dysgu a llwyddiant parhaus.

Un enghraifft yw James Owen (BA Gwneud Ffilm, 2021) sy’n rhedeg cwmni cynhyrchu ffilmiau o dde Cymru o’r enw Stori Cymru. Dychwelodd James yn gynharach eleni i rannu ei arbenigedd gyda myfyrwyr Ffilm y flwyddyn gyntaf. Siaradodd am y brwydrau a’r buddugoliaethau wrth iddo ddechrau ei fusnes yn 2019. Rhannodd sut mae wedi tyfu’r cwmni i’r llwyddiant y mae’n ei fwynhau heddiw, gan adeiladu’r profiad, yr offer a’r tîm. Mae hyd yn oed wedi cynnig gwaith a chyfleoedd profiad gwaith i gyd-fyfyrwyr a graddedigion PCYDDS.

Llun: James Owen

Ydych yn chwilio am gefnogaeth busnes?

Os ydych chi’n berchennog busnes neu’n weithiwr llawrydd, fel cyn-fyfyrwyr gallwch chi cael mynediad at amrywiaeth o gymorth i’ch helpu i ehangu’ch busnes neu lansio syniadau newydd.

O gyrsiau a gweithdai, i gymorth ariannol, gall ein tîm menter eich cefnogi, ni waeth pryd y gwnaethoch raddio.

Cysylltwch â’n tîm Menter ar: enterprise@uwtsd.ac.uk

Gostyngiad o 10% ar briodasau sydd ar gael i deuluoedd cyn-fyfyrwyr hefyd! 10%

Ydych chi neu aelod o’ch teulu yn awyddus i briodi? Beth am ystyried eich hen gampws Prifysgol fel lleoliad ar gyfer y diwrnod arbennig hwnnw.

Yn Llambed, gellir cynnal Seremoni

Sifil yn yr Hen Neuadd a Llyfrgell y Sylfaenydd. Yna, gallwch ddathlu yn

Neuadd Fwyta Lloyd Thomas - y lleoliad perffaith ar gyfer derbyniad priodas.

Yng Nghaerfyrddin, mae canolfan

Halliwell yn darparu’r lleoliad perffaith ar gyfer seremonïau agos atoch yn ogystal â gwleddoedd priodas mwy.

I gael gwybod mwy neu i archebu ymweliad, ewch i https://venuewales.co.uk/cy/

CEFNOGAETH GYRFA

Oeddech chi’n gwybod bod Gwasanaeth Gyrfaoedd Y Drindod

Dewi Sant dal yma i chi ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau?

Ydych chi am goffáu eich amser yn Y Drindod Dewi Sant gyda nwyddau cofiadwy? Peidiwch ag anghofio galw yn Siop Y Drindod Dewi Sant.

Mae cyn-fyfyrwyr yn cael gostyngiad o 10% gan ddefnyddio’r cod ALUMNI10.

shop.uwtsd.ac.uk

Gall ein tîm o ymarferwyr profiadol sydd â chymwysterau proffesiynol ym

maes Cyfarwyddyd Gyrfaoedd Prifysgol eich helpu chi fel cyn-fyfyrwyr i ddeall eich opsiynau gyrfa a datblygu eich cyflogadwyedd.

Mae gan gyn-fyfyrwyr hefyd fynediad i blatfform Gyrfaoedd digigol y Brifysgol – MYCAREER.

Am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth, cysylltwch â’r tîm gyrfaoedd ar careers@uwtsd.ac.uk

Byddwch yn ran o Gymdeithas Llambed

Mae Cymdeithas Llambed yn fudiad

gwirfoddol allanol sy’n anelu i gefnogi campws Llambed ac i weithredu fel ffocws i gyn-fyfyrwyr.

Ar hyn o bryd mae canghennau yng Nghaerdydd Llundain, ardal SevernThames-Exe ac Abertawe.

Mae’n cefnogi Llambed trwy roddion sy’n mynd tuag at datblygu’r campws a’r profiad myfyriwr. Mae hefyd yn trefnu nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol trwy gydol y flwyddyn yn Llambed a rhannau eraill o’r wlad. Y prif ddigwyddiad yw Aduniad blynyddol sy’n digwydd yn Gorffennaf yn ôl ar y campws.

Cysylltwch â: lampeteralumni@uwtsd.ac.uk

AR Y CELFYDDYDAU

Eto eleni, mae myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau creadigol ar ein campysau yn Abertawe, Caerfyrddin a Chaerdydd, wedi dangos eu doniau trwy amrywiaeth o sioeau a arddangosfeydd.

Dyma gipolwg ar rai!

Myfyrwyr Coleg celf Abertawe yn arddangos eu gwaith yn eu sioe radd blwyddyn olaf

Myfyrwyr BA Actio a BA Dylunio a Chynhyrchu Set a’u gwaith ar ‘The Visit’ a ‘Shrek the Musical’

Myfyrwyr Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru yn perfformio ‘Nine the Musical’ a ‘Jekyll and Hyde’

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.