Cylchgrawn Myfyrwyr Hwbcast Bob Dau Wythnos 27.11.25

Page 1


Annwyl Myfyrwyr Rhyngwladol

Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i gefnogi myfyrwyr rhyngwladol, roeddwn i eisiau rhannu rhywfaint o wybodaeth am fy rôl ar draws ein campysau yng Nghymru.

Claire ydw i, y Swyddog Cymorth Myfyrwyr Rhyngwladol o fewn tîm Hwb y Myfyrwyr. Fy rôl i yw sicrhau bod ein myfyrwyr rhyngwladol yn derbyn y cefnogaeth gorau posib drwy gydol eu hamser yn Y Drindod Dewi Sant.

Gallaf roi cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr ar nifer o faterion gan gynnwys llety a bywyd bob dydd, lles a chymorth academaidd, cymuned ac unrhyw faterion ymarferol, gan gynnwys cofrestru gyda gwasanaethau iechyd, gwybodaeth leol, ac addasiadau diwylliannol.

Rwy’n gweithio’n bennaf yn Adeilad IQ, Abertawe, ond rwyf hefyd ar gael ar Gampws Caerfyrddin bob dydd Iau, ar lawr gwaelod Adeilad T&L.

Gall myfyrwyr hefyd drefnu cyfarfodydd un-i-un gyda mi’n uniongyrchol trwy Ap yr Hwb.

Cofion cynnes, Claire

MAE’R DATHLIADAU NADOLIG WEDI DECHRAU! ����

Dechreuodd rhai o’n myfyrwyr rhyngwladol y dathliadau Nadolig yr wythnos hon! �� ���� �� ☃ ❄

Daeth y myfyrwyr i’n campws Canolfan Dylan Thomas i addurno’r goeden Nadolig!

Tra’n mwynhau ‘mins pei’ a siocled poeth, fe wnaethon addurniadau eu hun i hongian ar y goeden

2026

Beth yw gwobrau Whatuni Choice Awards?

Rydym yn falch i gymryd rhan yng ngwobrau Whatuni Choice Awards 2026. Mae’r gwobrau hyn wedi’u seilio’n

llwyr ar adolygiadau myfyrwyr – ac mae eich barn yn bwysig. Whatuni yw ffynhonnell fwyaf y DU o adolygiadau annibynnol, real a gonest gan fyfyrwyr – adolygiadau sydd â sawl mantais:

1. Maent yn rhoi llais hynod o bwysig i fyfyrwyr fel chi a llwyfan i rannu eich safbwyntiau.

2. Maent yn caniatáu i sefydliadau ddarganfod beth yn union rydych chi’n ei feddwl, fel y gallwn wella ar ein harlwy.

Sut ydw i’n gadael fy adolygiad?

Treuliwch ychydig funudau’n rhannu eich profiad o PCYDDS. Cliciwch yma i adolygu eich sefydliad.

Pa mor hir yw’r cyfnod adolygu?

Daw’r cyfnod casglu adolygiadau i ben ym mis Chwefror 2026.

Trwy gwblhau eich adolygiad, cewch eich cynnwys yn raffl fawr WhatUni i ennill £200 cyn y Nadolig. Anrheg gynnar gan Whatuni i un myfyriwr lwcus! Diolch am eich amser a’ch cyfraniad. Cwestiynau

Os oes gennych sylwadau neu gwestiynau eraill am yr adolygiad hwn, mae croeso i chi gysylltu ag

Antonia Cardew ( a.cardew@uwtsd.ac.uk )

afael â’r heriau rydych yn eu hwynebu fel myfyrwyr.

Ein nod yw i bob myfyriwr ac aelod o staff ffynnu a gwireddu eich potensial, ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd darparu

amgylchedd dysgu a gwaith iach i gefnogi’r nod hwnnw. Mae’r strategaeth bresennol ar gael ar ein gwefan, a’n nod yw cyhoeddi’r strategaeth newydd yn gynnar yn 2026. Gallwch helpu i lywio cynnwys y strategaeth newydd drwy rannu eich profiadau gyda ni trwy gwblhau’r arolwg byr hwn. Cadwch lygad hefyd ar gyfleoedd eraill i gyfrannu drwy’r Bulletin Myfyrwyr.

Beth fydd yr arolwg yn ei ofyn amdano

Byddwn yn gofyn cwestiynau ar y themâu canlynol. Bydd gan bob thema ei hadran ei hun yn yr arolwg:

Gwireddu Eich Potensial

Cyllid ac Arian Iechyd a Lles

Iechedd Meddwl

Perthyn a Diwylliant

Mae gan fyfyrwyr a staff bellach fynediad at dros 350 o e-lyfrau newydd gan Bloomsbury Publishing sy'n ymdrin â datblygiad rhyngwladol, astudiaethau Affricanaidd, rhywedd a rhywioldeb tan Awst 2026. Hefyd ar gael mae 100 o deitlau newydd ac archif sy'n ymdrin ag addysg, dylunio, celf a diwylliant gweledol rhwng 2023 a 2025, sydd wedi'u hychwanegu'n barhaol at gasgliadau e lyfrau llyfrgell ar-lein PCYDDS.

Rydym hefyd wedi ymuno â rhaglen Casgliadau

Agored Bloomsbury sy'n cefnogi cyhoeddi mynediad agored. Bydd gan staff a myfyrwyr PCYDDS fynediad awtomatig at e-lyfrau newydd ym meysydd astudiaethau Affricanaidd, datblygiad rhyngwladol, rhywedd a rhywioldeb a gyhoeddwyd gan Bloomsbury rhwng Mawrth 2026 a Chwefror 2027, ac os bydd digon o lyfrgelloedd yn ymuno â'r rhaglen, bydd y teitlau hyn ar gael yn agored i'r gymuned academaidd fyd-eang.

Mae'r holl deitlau hyn bellach ar gael yng Nghatalog y Llyfrgell a gellir dod o hyd i restr

Yn galw ar bob ymchwilydd!

Mae curadu a rheoli ffynonellau yn chwarae rôl hanfodol wrth ymchwilio a chasglu gwybodaeth. Gan fod amser yn adnodd gwerthfawr, gall rheoli eich gwybodaeth yn effeithlon eich helpu i wneud y gorau ohono.

Mae RefWorks yn offeryn rheoli ymchwil, ysgrifennu a chydweithredu ar-lein, wedi'i gynllunio i helpu ymchwilwyr i gasglu, rheoli, storio a rhannu pob math o wybodaeth yn hawdd, yn ogystal â chynhyrchu dyfyniadau a llyfryddiaethau.

Ymunwch â ni wrth i ni archwilio offeryn rheoli RefWorks Citation (y mae’r brifysgol wedi tanysgrifio iddo) i'ch helpu i reoli eich gwybodaeth a'ch cyfeirnodau’n fwy effeithiol.

Os hoffech greu cyfrif cyn cymryd rhan yn y sesiwn, gallwch ei greu gan ddefnyddio'r ddolen isod. Defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost PCYDDS a chreu cyfrinair.

Creu cyfrif RefWorks

Dyddiad: Dydd Iau 4 Rhagfyr 2025

Amser: 1-2pm

Lleoliad: Cofrestrwch Yma - Teams

Gyda: Lisa Ellis (Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd IMH)

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Cylchgrawn Myfyrwyr Hwbcast Bob Dau Wythnos 27.11.25 by University of Wales Trinity Saint David - Issuu