Cylchgrawn Myfyrwyr Hwbcast Bob Dau Wythnos 13.11.25

Page 1


Mae eich Taith i Weithio'n Llawrydd ac Entrepreneuriaeth yn Dechrau Yma!

Yn barod i droi eich angerdd yn yrfa? Os ydych chi'n chwilfrydig am weithio'n llawrydd, dechrau busnes, neu adeiladu eich presenoldeb ar-lein, rydym ni yma i chi!

Ymunwch â ni am dri digwyddiad cyffrous sy'n llawn ysbrydoliaeth, cyngor ymarferol, a chanfyddiadau yn y byd go iawn.

Mae’r amserlen cyfan o ddigwyddiadau yma !

Cwestiynau? Eisiau dysgu rhagor? Byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno! Cysylltwch â ni enterprise@uwtsd.ac.uk

Cwestiynau am Ap yr Hwb? Angen arweiniad ar sut i’w ddefnyddio? Dyma’ch ateb!

Mae tîm yr Hwb yn arwain sesiynau galw heibio i’r rhai sydd angen dysgu mwy am Ap yr Hwb.

Pryd?

Campws Dinefwr: 18fed Tachwedd 9yb-12yp

Campws IQ: 27 Tachwedd 9yb-12yp ain

Campws Caerdydd: 24ain Tachwedd 9yb-12yp

Campws Caerfyrddin: TBC

Bydd yr Hwb wedi ei leoli wrth ddesgiau’r dderbynfa ar gyfer y sesiynau yma. Am fwy o wybodaeth cysylltwch: hwb@uwtsd.ac.uk

PENNOD NEWYDD HWBCAST: GYRFAOEDD

P’un a ydych chi’n archwilio eich opsiynau ar hyn o bryd neu’n cynllunio ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol, mae ein Hwbcast Gyrfaoedd newydd yma i’ch tywys bob cam o’r ffordd.

Yn y bennod hon, rydym yn sgwrsio gydag Esyllt o Dîm Gyrfaoedd YDDS, sy’n egluro sut y gallant eich cefnogi. O ddod o hyd i brofiad gwaith a datblygu sgiliau, i baratoi ar gyfer swyddi graddedigion a chyfleoedd yn y dyfodol. Byddwch hefyd yn clywed gan fyfyrwyr sy’n rhannu sut y bu’r wasanaeth o gymorth iddynt feithrin hyder a chymryd camau gwirioneddol tuag at eu nodau gyrfa.

�� Darganfyddwch sut y gall y Tîm Gyrfaoedd eich helpu i lunio eich taith, nawr ac yn y dyfodol.

�� Gwrandewch nawr ar Ap yr Hwb

Gallwch hefyd ddarganfod mwy am y Gwasanaeth Gyrfaoedd drwy gysylltu â’r Hwb Myfyrwyr.

Annwyl myfyrwyr,

Mae Comisiynydd y Gymraeg eisiau clywed gan fyfyrwyr

Addysg Bellach ac Addysg Uwch am eu profiadau o ddefnyddio’r Gymraeg yn eu sefydliadau.

Nod yr ymchwil yw deall sut mae myfyrwyr yn cael mynediad at wasanaethau Cymraeg, pa gefnogaeth sydd ar gael iddynt, a pha gyfleoedd sydd ganddynt i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd academaidd a chymdeithasol.

Mae’r holiadur ar agor i bob myfyriwr – siaradwyr

Cymraeg, dysgwyr, myfyrwyr llawn amser, rhan amser, a phrentisiaid. Bydd yr ymatebion yn gyfrinachol, ac fe’u defnyddir i lunio adroddiad thematig gyda chanfyddiadau a chamau gweithredu.

Cwblhewch yr holiadur yma: https://forms.office.com/e/jw39Snr0eW

Mae’r holiadur ar agor tan 21 Tachwedd 2025 – cofiwch gymryd rhan a rhannu eich profiad i helpu cryfhau darpariaeth Cymraeg ym myd addysg! COMISIYNYDD

Newydd i Ddysgu yn y Brifysgol?

Gall dechrau yn y brifysgol deimlo fel cam mawr, ond does dim rhaid i chi ddatrys y cyfan ar eich pen eich hun!

Mae'r Tîm Cymorth Dysgu yma i'ch helpu i ddechrau, aros yn drefnus, a theimlo'n hyderus yn eich astudiaethau.

Galwch heibio i'n Sesiynau Cymorth Astudio Wythnosol

Pryd:

Dydd Mercher, 1:00 – 4:00 PM

Ble:

�� Y Cwad – Campws Caerfyrddin

�� Caffi IQ – Abertawe

�� Caffi Dynevor – Abertawe

Beth Sydd Ar Gael

Cyngor cyfeillgar, anffurfiol gan Gynorthwyydd Astudio Cymorth Dysgu

Awgrymiadau ar sgiliau astudio a rheoli amser

Cymorth i ddechrau ar aseiniadau

Lle hamddenol i ofyn cwestiynau a chael cefnogaeth

Does Dim Angen Archebu – Galwch Heibio!

P'un a ydych chi'n teimlo'n ansicr neu ddim ond eisiau awgrymiadau, rydym yma i'ch helpu i ymgartrefu a llwyddo.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: disability@uwtsd.ac.uk

Byddwn yn arddangos amrywiaeth o gyfrolau a ddarluniwyd gan artistiaid Cymreig rhwng y 18fed a’r 20fed ganrif. Bydd yr eitemau arddangosir yn cynnwys Cambria depicta gan Edward Pugh, sef ffrwyth naw mlynedd a dreuliwyd yn cerdded o amgylch Gogledd Cymru; darluniau Kenny Meadows, a anwyd yn Aberteifi, o Shakespeare; darluniau John 'Warwick' Smith o ystâd yr Hafod a gwaith Kyffin Williams ar gyfer Gwasg Gregynog.

Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda sgwrs fer, ac wedyn bydd cyfle i archwilio'r cyfrolau. Fe’i cynhelir ddydd Mawrth 18 Tachwedd rhwng 2pm a 4pm, yng Nghasgliadau Arbennig PCYDDS yn Llanbedr Pont Steffan.

Os hoffech wybod mwy neu archebu lle, cysylltwch

â Ruth Gooding (r.gooding@pcydds.ac.uk)

Eisiau dysgu rhagor am gyrraedd a defnyddio adnoddau Ar-lein Llyfrgell PCYDDS? Os felly mae’r sesiwn hon i chi!

Byddwch yn ennill dealltwriaeth o:

• Gymorth ymchwil y Llyfrgell

• Sut i lunio strategaeth ymchwil effeithiol

• Sut i leoli a chyrraedd erthyglau mewn cylchgronau academaidd, elyfrau a chronfeydd data arbenigol

• Ymchwil Mynediad Agored a sut i ddod o hyd iddo

• Arfau ar gyfer darganfod adnoddau i gynorthwyo’ch ymchwil

• Pwysigrwydd gwerthuso’n feirniadol

• Rheoli’ch cyfeirnodi

• Mynediad i Sconul a’n gwasanaeth rhyng-lyfrgelloedd Eisiau Rhagor

Dyddiad: Dydd Mercher 19 Tachwedd 2025

Amser: 1pm

Hyd: 1 awr

Lleoliad: MS Teams Ar-lein - Cofrestrwch Yma

Cwest Gwybodaeth Llyfrgell: datglowch eich gor-rymoedd academaidd!

Credu y gallwch chi dorri’r cod i lwyddiant academaidd?

Beth yw’r her?

Gweithiwch fel tîm neu fel unigolyn i ddatrys posau a datgloi cliwiau. Ar y daith, byddwch yn dysgu sut i:

Ennill gwybodaeth am adnoddau llyfrgell

Deall hanfodion cyfeirnodi

Ddefnyddio offer ac adnoddau digidol allweddol

Pam cymryd rhan?

• Magu hyder wrth ddefnyddio gwasanaethau’r llyfrgell

• Darganfod offer astudio a fydd yn eich helpu drwy’r flwyddyn

• Cwrdd â chyd-fyfyrwyr mewn lleoliad llawn hwyl, rhyngweithiol

• Cyfle i ennill gwobr a’r hawl i frolio!

Dyddiadau: o 6 Hydref 2025 – 1 Rhagfyr 1015

Lleoliad: Llyfrgell Caerfyrddin, Llyfrgell Y Fforwm (Abertawe), Ardal Lyfrgell Llundain, Ardal Ddysgu Birmingham (Llawr 1af, Louisa House)

Cymerwch ran er mwyn cael cyfle i ennill gwobr!

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Cylchgrawn Myfyrwyr Hwbcast Bob Dau Wythnos 13.11.25 by University of Wales Trinity Saint David - Issuu