Issuu on Google+

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch Ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013


Cyflwyniad

Pa gwrs? Pa bwnc? Mathau o gymwysterau AU

Tudalen 3

Beth yw Addysg Bellach ac Addysg Uwch? Wyddech chi? Ymgyrraedd yn Ehangach Cynllun Llwybr a Chynllun Addysg Personol

Lefelau Cyrsiau Tudalen 4

Dewisiadau wedi 16 oed

Cynigion nodweddiadol Ble i astudio – ffactorau i’w hystyried Ymddiriedolaeth Buttle UK Cefnogaeth gan Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru

Gwneud cais am gyrsiau AU Tudalen 29

Beth yw UCAS? (Tariff UCAS, Gwneud Cais, Derbyn Cynigion, Clirio)

Tudalen 5

Paratoi ar gyfer cyfweliadau

Beth allwch chi astudio?

Beth yw’r hyn y mae tiwtoriaid derbyn yn chwilio amdano?

Esbonio cymwysterau

Cyllid AU

Dysgu yn y gwaith Ble ydw i’n gallu astudio? Sut i ddewis y lle iawn i chi Gwybodaeth bellach am Addysg Bellach

Cyllid AB

Tudalen 37

Materion ariannol (ffioedd dysgu, benthyciadau a grantiau, cymorth ychwanegol) Gwneud Cais am Gymorth Ariannol I ble mae’r arian yn mynd? Cyngor da ar arbed arian

Tudalen 9

Gwybodaeth am gyllid tra mewn AB

Opsiynau wedi AB Tudalen 11

Gweithio, blwyddyn allan neu Addysg Uwch? Pam dilyn Addysg Uwch?

Geirfa Cwestiynau Cyffredin

Gwefannau a chysylltiadau defnyddiol Tudalen 46

Hoffem ddiolch i Aimhigher Kent a Medway am ganiatáu i ni rannu gwybodaeth ar gyfer y cyhoeddiad hwn

2

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


Cyflwyniad Tudalen 3

Beth yw Addysg Bellach (AB)? Mae Addysg Bellach yn addysg ôl-orfodol i bobl dros 16 oed. Gallwch astudio am gymwysterau academaidd neu alwedigaethol, yn dibynnu ar eich amcan. I astudio am gymhwyster Lefel 3, byddwch fel arfer angen cymhwyster Lefel 2 – TGAU, BTEC Diploma Cyntaf/Tystysgrif, Prentisiaeth neu NVQ 2 (gweler tudalennau 4 – 8). Mae Coleg Addysg Bellach yn darparu cymwysterau Addysg Bellach, ac mae rhai’n darparu cymwysterau Addysg Uwch a chymwysterau ar gyfer disgyblion ysgol dan 16 oed.

Beth yw Addysg Uwch (AU)? Addysg Uwch yw’r enw a roddir i addysg y tu hwnt i Addysg Bellach. Mae cymwysterau Addysg Uwch yn cynnwys cyrsiau gradd, cyrsiau ôl-raddedig a Diplomau Cenedlaethol Uwch. Gellir astudio am y cymwysterau mewn Prifysgolion, Colegau, trwy ddysgu o bell neu golegau arbenigol. Fel arfer mae gofyn i chi feddu ar gymhwyster Lefel 3 cyn mynd ymlaen i AU, fodd bynnag mae sawl llwybr i AU, nid dim ond trwy Safon A.

Wyddech chi?

Contents

• Y gallwch astudio TGAU mewn coleg beth bynnag yw’ch oed, hyd yn oed os nad oeddech wedi gorffen yn yr ysgol neu gael y graddau y dymunech eu cael • Y gallwch weithio am gymwysterau eraill a fydd yn eich helpu i gael swydd os nad ydych yn hoffi’r syniad o wneud TGAU • Bod amrywiaeth eang o gyrsiau a chymwysterau i’w hystyried, heblaw am TGAU, UG a Safon A • Y gallwch ystyried astudio ar lefel addysg uwch – megis mynd i brifysgol, hyd yn oed heb Safon A • Os ydych am astudio am radd neu gymwysterau Addysg Uwch eraill does dim rhaid i chi fynd i ffwrdd i’r brifysgol (gallwch eu hastudio mewn coleg neu ddysgu o bell) neu symud i ffwrdd o ble yr ydych yn byw ar hyn o bryd • Bod gan y mwyafrif o golegau a phrifysgolion yng Nghymru aelod penodol o staff i ddarparu cyngor a chefnogaeth i’r rhai sy’n gadael gofal. Edrychwch am Farc Ansawdd Ymddiriedolaeth Buttle UK sy’n dynodi bod Sefydliadau Addysg Uwch wedi ystyried anghenion rhai sy’n gadael gofal ac am gefnogi rhai sy’n gadael gofal yn weithredol i gyrraedd Addysg Uwch ac wrth fynd trwyddi. Beth bynnag eich oedran mae gennych lawer o benderfyniadau i’w gwneud o ran eich dyfodol – ydych chi’n aros mewn addysg i ennill mwy o gymwysterau, neu ydych chi’n mynd i’r byd gwaith? I sawl un bydd y penderfyniad hwn yn seiliedig ar ddilyn uchelgais gyrfaol ac i eraill bydd yn ymwneud ag astudio pynciau sydd o ddiddordeb i chi. Yn gyffredinol, po fwyaf o gymwysterau y byddwch yn eu hennill, y gorau y bydd eich gallu i ennill drwy gydol eich bywyd gwaith. Bydd hyn yn rhoi rhagor o opsiynau i chi yn eich dewis o swydd, ac o ran ble yr ydych yn gweithio. Bydd Addysg Uwch a Phellach yn rhoi cyfle i chi roi cynnig ar bethau newydd, astudio pynciau newydd, cwrdd â phobl newydd a magu eich hunan hyder. Bwriad y llyfryn hwn yw eich darparu â’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud y penderfyniad cywir ar gyfer eich astudiaethau ar lefel AB ac AU. Yn ogystal â’r wybodaeth a roddir, mae’r llyfryn hefyd yn cynnwys y gefnogaeth arbennig y gallwch ei derbyn gan Sefydliadau Addysg Uwch ar draws Gymru.

Ymgyrraedd yn Ehangach Sefydlwyd menter Ymgyrraedd yn Ehangach, a ariannir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn 2002 i ehangu mynediad i ddysgu ac i helpu rhagor o bobl fynd i’r coleg neu’r brifysgol. Ni ddylai’r ffaith eich bod mewn gofal eich atal rhag mynd i’r brifysgol os ydych chi eisiau. Ein nod yw cefnogi rhai sy’n gadael gofal a phlant sy’n derbyn gofal i fynychu’r brifysgol. Mae pob sefydliad Addysg Bellach ac Uwch yng Nghymru yn aelodau o’r bartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach. Mae llawer yn trefnu cynlluniau penodol i’ch cynorthwyo i benderfynu a yw addysg uwch yn addas i chi. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnwys dyddiau agored, cyrsiau preswyl yn yr haf, cynlluniau mentora a rhaglenni ‘cam i fyny’. Er mwyn gwybod mwy siaradwch gyda’ch ymgynghorydd gyrfa neu cysylltwch gyda’ch swyddfa Ymgyrraedd yn Ehangach agosaf i weld beth sydd ar gael.

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

3


Manylion Cyswllt Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru: Campws Cyntaf (De Ddwyrain Cymru): De orllewin Cymru:

ems401@bangor.ac.uk www.firstcampus.org reachingwider@swansea.ac.uk

Ffôn: 01352 744065 Ffôn: 01443 482550 Ffôn: 01792 602128

Mae Partneriaeth Gogledd a Chanolbarth Cymru’n cynnig hyfforddiant mentora i ofalwyr maeth. Amcan cyffredinol yr hyfforddiant hwn yw cyfarparu gofalwyr a’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i helpu pobl ifanc y maent yn gofalu amdanynt i gyrraedd eu potensial addysgol a lle bo’n berthnasol i fynychu AU.

Amcanion y dydd: • I fod yn ymwybodol o reoliadau Llywodraeth Cymru am Blant sy’n Derbyn Gofal (LAC) • I ennill rhyw syniad o rolau a chyfrifoldebau gwahanol sefydliadau sy’n ymdrin â Phlant sy’n derbyn gofal • I ddatblygu syniadau am ddod yn fentoriaid dyheadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal • I archwilio a dod o hyd i atebion i’r problemau y mae plant sy’n derbyn gofal yn dod ar eu traws mewn addysg a dysgu • I fod yn ymwybodol o’r amryw systemau cymorth sydd ar gael o fewn eu sefydliad ac mewn asiantaethau eraill. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Phartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru (manylion uchod)

Cynllun Llwybr a Chynllun Addysg Personol Gan eich bod yn ystyried Addysg Bellach ac Uwch, mae angen i chi feddwl am y cymwysterau sydd angen arnoch i gyrraedd yno. Mae sawl gwahanol lwybr addysgol i ennill cymwysterau; mae llawer ohonynt yn y canllaw hwn. Dylid cofnodi manylion eich llwybr dewisedig (a all newid) yn eich Cynllun Addysg Personol ac yna yn eich Cynllun Llwybr. Bydd gan bob person ifanc mewn gofal ac mewn addysg Gynllun Addysg Personol hyd nes eu bod yn 16 oed. Dylid cofnodi gwybodaeth am eich ysgol, pynciau, cymwysterau ac a ydych yn bwriadu mynd i brifysgol neu beidio. Yn 16 bydd gennych Gynllun Llwybr yn seiliedig ar eich cynllun gofal ar gyfer pobl ifanc sydd yn gadael gofal. Dylai’r bwriadau addysgol yn eich Cynllun Addysg Personol gael eu trosglwyddo i’r Cynllun Llwybr. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am eich cynlluniau ar gyfer Addysg Bellach ac Uwch, yn cynnwys cyllid, llety a chefnogaeth arall.

Lefelau Cyrsiau Tudalen 4

Rhoddir cyrsiau mewn Lefelau a thrwy hyn gallwn nodi rhai cyfwerth â’i gilydd. Os cwblhewch gymwysterau ar un lefel gallwch, fel arfer, symud ymlaen i’r un nesaf.

Lefel Mynediad

• Cynhwysir cymwysterau TGAU, DOVE a thystysgrifau lefel mynediad eraill yn y lefel hon

Lefel 1

• Gelwir hefyd yn Lefel Sylfaenol • Cynhwysir yn y lefel hon NVQ lefel 1, GNVQ Sylfaen, graddau TGAU D-G, TGAU mewn pynciau galwedigaethol DD-GG, CACHE C

Lefel 2

• Gelwir hefyd yn Lefel Ganolradd • Cynhwysir yn y lefel hon NVQ lefel 2, GNVQ Canolradd, TGAU graddau A* – C, TGAU mewn pynciau galwedigaethol A*A* – CC,Diploma Cyntaf BTEC, Bagloriaeth Cymru (Canolradd), Tystysgrif CACHE

Lefel 3

• Gelwir hefyd yn Lefel Uwch • Cynhwysir yn y lefel hon NVQ lefel 2, GNVQ Canolradd, TGAU graddau A* – C, TGAU mewn pynciau galwedigaethol A*A* – CC,Diploma Cyntaf BTEC, Bagloriaeth Cymru (Canolradd), Tystysgrif CACHE

Lefel 4 a Lefel 5

• Gelwir hefyd yn Lefel Bellach • Cynhwysir yn y lefel hon NVQ lefel 4/5, HNC, HND, Gradd, Cymwysterau Proffesiynol

4

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


Dewisiadau wedi 16 oed Tudalen 5

Beth allwch chi astudio? Mae yna amrywiaeth helaeth o opsiynau ar eich cyfer yn 16 oed, neu ar ba bynnag oedran rydych yn astudio – yn amrywio o Lefel A i Sgiliau Allweddol. Strwythurir a dysgir pob cymhwyster yn wahanol, felly mae’n bwysig i ddewis y cymhwyster sy’n addas i’ch dull dysgu a’ch diddordebau chi. Mae’n syniad da i ystyried yr holl opsiynau yn ofalus gan feddwl sut y byddant yn effeithio eich dyfodol. Ystyriwch pa bynciau a astudiwyd gennych eisoes yr oeddech wedi eu mwynhau, ac ystyriwch y pynciau yr oeddech bob amser am eu hastudio ond heb gael y cyfle. Os ydych am symud ymlaen i Addysg Uwch (prifysgol), yna mae’n werth darganfod os ydynt yn gofyn am bynciau arbennig ar gyfer mynediad.

Esbonio Cymwysterau TGAU Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd Dewisir pynciau TGAU fel arfer ym mlwyddyn naw. Fe’u hastudir dros ddwy flynedd yn yr ysgol, ond gellir eu cwblhau mewn blwyddyn mewn Coleg Addysg Bellach (AB). Maen nhw’n amrywio o bynciau academig, megis Saesneg a Hanes, i bynciau TGAU galwedigaethol (yn ymwneud â byd gwaith). Er mwyn symud i gwrs Uwch (Lefel A, UG neu gymhwyster tebyg) dylech anelu i lwyddo mewn pum pwnc gyda gradd C neu well. Bydd rhai sefydliadau yn gofyn am raddau arbennig mewn pynciau penodol er mwyn eu hastudio ar gyfer Lefel A. Digwydd asesu trwy waith cwrs ac arholiadau

Lefel A Er mwyn cael eich derbyn ar gwrs Lefel A mae’r mwyafrif o ysgolion a cholegau yn disgwyl graddau A* – C mewn o leiaf pum pwnc TGAU. Efallai bydd rhai colegau yn barod i dderbyn graddau is Yn Lefel A mae cyfle gennych i astudio pynciau a astudiwyd yn TGAU yn fanylach neu bynciau newydd. Fel arfer mae angen astudio dwy flynedd llawn-amser mewn ysgol neu Goleg Addysg Bellach ar gyfer Lefel A • UG – y flwyddyn gyntaf o astudio a all gyfrif fel 50% o radd Lefel A derfynol. Gallwch astudio hyd at bedwar neu bump o bynciau UG • U2 – yr ail flwyddyn o astudio gan barhau eich astudiaethau mewn dau neu dri phwnc i ennill Lefel A llawn • Mae Lefel Uwch Gyfrannol (UG) yn gymhwyster cyflawn ar ei ben ei hun • Nodir llwyddiant mewn graddau o A i E Lefel A yw’r llwybr traddodiadol i Addysg Uwch a hyfforddiant ar gyfer swyddi proffesiynol. Digwydd asesu trwy waith cwrs ac arholiadau

BTEC Rhagarweiniol (Introductory), Cyntaf a Chenedlaethol Mae cymwysterau BTEC ar gael mewn amrywiaeth o bynciau byd gwaith, megis amaethyddiaeth, adeiladu neu ddylunio. Mae rhai yn benodol ar gyfer swyddi penodol, megis dylunio 3D neu brosesu polymer a thechnoleg defnyddiau. Gall holl gymwysterau BTEC arwain i swyddi, hyfforddiant neu gyrsiau uwch. Gall cyrsiau BTEC Cenedlaethol arwain i Addysg Uwch. Mae cymwysterau BTEC ar gael fel: • Diploma/Tystysgrif Ragarweiniol BTEC (ar lefel sylfaen) – heb angen unrhyw gymwysterau mynediad

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

5


• Diploma/Tystysgrif Gyntaf BTEC (ar lefel ganolradd) – fel arfer mae angen rhai graddau TGAU graddau D i E neu lwyddiant mewn lefel sylfaen ar gyfer mynediad • Diploma/Tystysgrif BTEC Cenedlaethol (ar lefel uwch – mae angen 4 – 5 pwnc TGAU graddau A* – C, neu lwyddiant ar lefel canolradd ar gyfer mynediad. Mae’r BTEC cenedlaethol yn cynnwys: • 6-uned Dyfarniad Cenedlaethol, yn cyfateb i un Lefel A • 12-uned Tystysgrif Genedlaethol, yn cyfateb i ddau Lefel A • 18-uned Diploma Cenedlaethol, yn cyfateb i dri Lefel A Digwydd asesu trwy waith cwrs yn seiliedig ar sefyllfaoedd neu weithgareddau byd gwaith ac ar arsylwi wrth gyflawni gwaith

Bagloriaeth Cymru Cymhwyster newydd ar gael mewn rhai ysgolion a cholegau yng Nghymru Mae myfyrwyr yn cyfuno Lefel UG/A neu unedau lefel 3 NVQ â rhaglen gradd sy’n cynnwys: • • • •

Sgiliau allweddol Cymru, Ewrop a’r Byd Addysg Byd gwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Am fwy o wybodaeth ewch i www.wbq.org.uk

Bagloriaeth Ryngwladol • • • • •

Mae’r Fagloriaeth wedi bodoli ers 40 mlynedd ar draws y byd ond mae’n gymharol newydd yng Nghymru Ar gael mewn nifer fach o ysgolion a cholegau yng Nghymru Yn cyfateb i Lefel A Yn cynnwys astudio chwe phwnc (tri ar lefel uwch a thri ar lefel is) Hefyd yn cynnwys gweithgareddau diwylliannol, chwaraeon a gwasanaeth yn y gymuned

Ceir amrywiol fathau o asesu – traethawd estynedig (4,000 o eiriau), cyflwyniadau, arholiadau a gweithgareddau gwasanaeth cymunedol Am fwy o wybodaeth ewch i www.ibo.org

Cyrsiau Mynediad Ar gyfer oedolion (19+) sydd am fynediad i Addysg Uwch heb y cymwysterau angenrheidiol. Digwydd asesu trwy amrywiaeth o arholiadau a gwaith cwrs yn dibynnu ar y pwnc www.ucas.com/students/choosingcourses/choosingcourse

Dysgu yn y gwaith Mae dysgu yn y gwaith yn estyn y cyfle i chi weithio a dysgu yr un pryd, gan ennill cymhwyster wrth weithio. Bydd hyn yn gwella eich sgiliau a’ch gallu i ennill arian. Y llwybr mwyaf poblogaidd i ennill cymhwyster yw NVQ a Phrentisiaethau ac maent ar gael i astudio ar sawl lefel, gan eich galluogi i symud trwy’r lefelau. Gall hyfforddiant barhau rhwng 1 a 4 blynedd yn dibynnu ar eich gallu, y gwaith yr ydych yn hyfforddi ar ei gyfer a pha mor bell y dymunwch fynd.

NVQ Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol Cymwysterau yn seiliedig ar y gweithle yw NVQ (National Vocational Qualifications) sy’n dangos bod gennych y sgiliau i wneud gwaith arbennig. Maent ar gael mewn amrywiaeth o swyddi, megis crefftau adeiladu, trin gwallt, coedwigaeth, garddio, gwaith swyddfa ac arlwyo. Gallant gael eu dyfarnu ar bum lefel, o lefel sylfaenol i sgiliau lefel

6

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


proffesiynol. Cewch symud ymlaen yn ôl eich dewis chi o ran amser, gan ennill unedau sy’n cyfrif wrth adeiladu tuag at NVQ wrth i chi ennill mwy o sgiliau. Gall pob ifanc ennill NVQau ar lefel 2 a 3 trwy Brentisiaethau Sylfaen Modern a Phrentisiaethau Modern neu gwrs llawn amser neu ran amser mewn coleg. Digwydd asesu yn y gweithle a thystiolaeth mewn portffolio

Prentisiaethau Prentisiaethau Sylfaen Modern • • • • • • • • •

Gan fwyaf ar gyfer y rheini sydd dros 18 Hyfforddiant yn y gwaith Gall gynnwys rhyddhau am ddydd neu gyfnod i fynd i goleg neu ganolfan hyfforddi Gweithio tuag at NVQ Lefel 2/3 Yn cymryd hyd at 2 flynedd i’w gwblhau Lwfans hyfforddiant neu gyflog – o leiaf £50 yr wythnos Cymwysterau mynediad yn amrywio Ar gael mewn sawl maes gyrfa megis cyfrifyddiaeth, peirianneg, adeiladu, chwaraeon neu arlwyo Gall arwain at Brentisiaeth Fodern neu waith arall

Prentisiaethau Modern • • • • • •

Hyfforddiant yn y gwaith Gall gynnwys rhyddhau am ddydd neu gyfnod i fynd i goleg neu ganolfan hyfforddi Gweithio tuag at NVQ Lefel 3/4 Yn cymryd 3/4 blynedd i’w gwblhau Telir cyflog Cymwysterau mynediad amrywiol ond mynediad yn gystadleuol – gall fod angen 4/5 TGAU ar raddfa C neu’n uwch i gynnwys Saesneg a/neu Fathemateg neu gymwysterau cyffelyb • Ei gynnig mewn sawl maes gyrfa megis cyfrifyddiaeth, peirianneg, manwerthu, chwaraeon • Yn eich galluogi i gynnig am HND/HNC neu Radd wedi i chi gwblhau

SkillBuild (Cymru) Mae rhaglen SkillBuild Rathbone yn cefnogi pobl ifanc yng Nghymru a adawodd ysgol yn 16 oed, ond sydd heb fynd ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant na gwaith. Fel dysgwr amser llawn ar raglen SkillBuild byddwch yn cael lwfans a bydd ein Cynghorwyr Hyfforddi yn eich cynorthwyo trwy eich annog mewn sesiynau dysgu yn y ganolfan a thrwy brofiad gwaith y tu allan i’r ganolfan. Ar raglen SkillBuild byddwch yn gweithio ar eich Llythrennedd, Rhifedd a Sgiliau Allweddol gan roi cymwysterau i chi y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt megis Hylendid Bwyd Sylfaenol a Chymorth Cyntaf.

Y Lluoedd Arfog Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa yn y lluoedd arfog, y mae nifer o lwybrau i ddewis ohonynt. Mae pob un o’r lluoedd arfog (Y Fyddin, Y Llynges a’r Llu Awyr) yn cynnig cymorth a hyfforddiant trwy AB ac AU. Daw’r gefnogaeth ariannol trwy gyflog a bwrsarïau. Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) yn cynnig Prentisiaethau hefyd. Yn dilyn eich hyfforddiant byddai disgwyl i chi wasanaethau yn y lluoedd am o leiaf 4 blynedd. www.mod.uk/DefenceInternet/DefenceFor/Jobseekers Am fwy o wybodaeth ynghylch eich dewisiadau a’ch opsiynau yn 16 oed ewch i siarad â chynghorydd gyrfaoedd neu edrychwch ar wefan Gyrfa Cymru www.careerswales.com

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

7


Ble ydw i’n gallu astudio? Wedi i chi ystyried yr hyn yr ydych am ei astudio, mae’n amser i ddewis ble i astudio. Mae gan bob opsiwn gwahanol ei strwythur a’i awyrgylch ei hun gan gynnig gwahanol ddewis o bynciau a chymwysterau i chi.

Chweched Dosbarth mewn Ysgol • • • •

Gall amrywio mewn maint, cyrsiau a chyfleusterau Yr ydych yn dal i fod yn rhan o ysgol ac felly bydd gennych amserlen strwythuredig Fel arfer bydd y dosbarthiadau yn fach o ran nifer Fel arfer byddwch yn dal ymlaen yn yr un ysgol ac o ganlyniad bydd y staff a’r myfyrwyr yn gyfarwydd i chi

Colegau Addysg Bellach • • • • •

Yn wahanol i ysgolion – gan gynnig dull mwy annibynnol i ddysgu Dysgu myfyrwyr sydd i gyd bron dros 16 Yn cynnig dewis eang o gyrsiau, rhai academaidd a galwedigaethol Yn gallu cynnig cyrsiau amser llawn a rhan amser Cewch y cyfle i gwrdd â phobl newydd

Colegau Pynciau Penodol • Gall y rhain arbenigo mewn pynciau penodol – megis celf a dylunio, amaethyddiaeth a garddio neu ddawns a drama • Mae strwythur y cyrsiau yno i gefnogi myfyrwyr ag anableddau neu anawsterau dysgu penodol • Gall olygu tipyn o deithio • Gall rhan o’r cwrs fod ar gyfer myfyrwyr dros 18 oed

Sut i ddewis y lle iawn i chi Mae angen i chi ddod o hyd i’r lle iawn i chi, yr amgylchedd iawn, y strwythur iawn a’r cwrs iawn. • Os oes i’ch ysgol chweched dosbarth, yna efallai y byddwch am ystyried aros yno os ydych yn hapus yno. Gallwch hefyd drosglwyddo i ysgol arall i astudio yn ei chweched dosbarth hi • Os ydych yn teimlo bod eich ysgol yn ‘rhy fach’ i chi ac am gael ychydig mwy o annibyniaeth, yna efallai y byddai amgylchedd coleg yn fwy addas i chi • Os ydych yn astudio pwnc sydd ag angen offer penodol, yna chwiliwch am sefydliad â chyflesterau gwell • Does dim yn eich rhwystro i gynnig am le mewn nifer o sefydliadau, cael cyfweliadau, ymweld â lleoedd, cwrdd â’r staff ac yna gwneud penderfyniad ynghylch y lle y barnwch y byddwch hapusaf ynddo

Gwybodaeth bellach am Addysg Bellach • O fewn y DU mae yna 90,000 o wahanol gyrsiau wedi 16 i ddewis ohonynt • Mae cyrsiau Addysg Bellach llawn amser yn rhad ac am ddim i unrhyw un sydd o dan 19 oed ar ddechrau’i gwrs • Os ydych dros 19 oed, gellir eich gwneud i dalu am eich cwrs, ond os ydych yn derbyn budd-dal (neu yn cwrdd â meini prawf cymhwyster y sefydliad), yna efallai y bydd modd i chi astudio’r cwrs am ddim • Amrywia’r ffioedd rhwng sefydliadau, cyrsiau a lefelau astudio • Golyga AB astudio amser llawn o leiaf 12 awr o ddysgu dan gyfarwyddyd bob wythnos

8

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


Cyllid Addysg Bellach Tudalen 9

Tra’n astudio ar lefel AB mae yna wahanol dduliau o gefnogaeth ariannol ar gael:

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) • • • • •

Lwfans wythnosol £30 yr wythnos yw hwn i’ch helpu wrth astudio Rhaid i chi fod yn dilyn cwrs Addysg Bellach amser llawn mewn coleg neu ysgol i dderbyn y LCA Gallech hefyd dderbyn bonws am bresenoldeb a chynnydd Rhaid i chi fod yn 16 – 18 oed wrth ddechrau’r flwyddyn academaidd Dylai pob person ifanc sy’n derbyn gofal fod yn gymwys yn awtomatig i dderbyn LCA www.studentfinancewales.co.uk

Cymhorthdal Incwm • Os ydych rhwng 16 – 19 oed ac mewn addysg nad yw’n addysg uwch (hyd at astudio Lefel 3) llawn amser yna gallech fod yn gymwys i dderbyn Cymhorthdal Incwm os: • Ydych yn rhiant i blentyn sy’n byw gyda chi • Os ydych yn derbyn gofal gan rywun sy’n gweithredu fel eich rhiant • Os ydych newydd adael gofal ac yn byw yn annibynnol – fodd bynnag, os yw eich awdurdod lleol yn eich cefnogi, yna ni fyddwch yn gymwys i dderbyn Cymhorthdal Incwm i 18 oed

Grant Dysgu’r Cynulliad ar gyfer Addysg Uwch ALG (FE) • Mae Grant Dysgu’r Cynulliad yn daliad o hyd at £1,500 os ydych yn astudio llawn amser a £750 os yn rhan amser • Mae’n amodol ar incwm eich teulu • Rhaid i chi fod yn 19 oed neu’n hyˆ n • Rhaid i’ch cwrs fod o leiaf yn 275 awr er mwyn i chi gael grant y Cynulliad, a’ch bod mewn coleg sy’n rhan o’r cynllun, ac yn arwain i gymhwyster cydnabyddedig cenedlaethol • Rhaid i’ch cwrs fod yn ‘gymwys’ ar gyfer derbyn Grant Dysgu’r Cynulliad ar gyfer Addysg Uwch. Mae llawer o gyrsiau y gallech eu dilyn: • TGAU; lefelau ‘A’ ac ‘UG’; BTEC, GNVQ, cyrsiau NVQ; cyrsiau Sgiliau Sylfaenol www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

Cronfa Cefnogi Dysgwyr • Mae hon ar gyfer myfyrwyr oed 16+ yn dilyn cyrsiau rhan amser neu amser llawn • Gall dalu am bethau megis cludiant, costau offer, llyfrau, gofal plant • Cronfa ddewisol yw hon a weinyddir gan Golegau unigol

Ymddiriedolaethau Elusennol ac Addysgol • Mae yna amrywiaeth o elusennau ac ymddiriedolaethau addysgol a all gynnig cefnogaeth ariannol • Ewch i siarad â’ch gweithiwr cymdeithasol, cynghorydd gyrfaoedd a’r tîm lles yn y coleg

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

9


Dyfarniadau Dawns a Drama • • • • •

Dyfarniadau ar gyfer myfyrwyr sydd am ddilyn gwaith yn y celfyddydau perfformio Ceir ysgoloriaethau cenedlaethol mewn dawns, drama a rheoli llwyfan I gynnig am le ar gwrs dawns rhaid i chi fod dros 16 oed I gynnig am le ar gyfer actio neu reoli llwyfan rhaid i chi fod yn 18 neu’n hyˆ n Rhoddir tua 500 o ddyfarniadau bob blwyddyn – nid yw’r dyfarniad yn talu am y ffioedd i gyd ond mae yna Gronfa Ffioedd a Chynhaliaeth i gynorthwyo gyda chostau byw www.direct.gov.uk/danceanddrama

Cefnogaeth ar gyfer Cludiant • Os oes angen cludiant arnoch ar gyfer addysg, yna mae yna gefnogaeth tuag at y costau hyn • Mae’r gefnogaeth hon yn amrywio felly mae angen i chi drafod hyn gyda’ch Gweithiwr Cymdeithasol a’r sefydliad lle’r astudiwch

Costau wrth astudio • Tra byddwch yn astudio bydd cyfnodau pan fydd angen cefnogaeth ariannol ychwanegol arnoch • Efallai gall eich Awdurdod Lleol (neu Wasanaethau Plant) eich cynorthwyo • Siaradwch â’ch gweithiwr cymdeithasol neu gynghorydd personol i weld pa gefnogaeth bellach sydd ar gael i chi

10

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


Opsiynau wedi Addysg Bellach Tudalen 11

Gwaith, blwyddyn allan neu Addysg Uwch? Opsiynau Gwaith

Manteision • Gwobr ariannol gynharach • Mwy o annibyniaeth • Cyfle i ddysgu sgil yn y gweithle

Anfanteision • • • •

Blwyddyn allan

• Rhoi amser i chi benderfynu yr hyn rydych am ei wneud • Cyfle i deithio • Cynnig toriad o astudio • Cyfle i ennill profiadau bywyd

• • • •

Addysg Uwch

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

• Ennill cymwysterau pellach • Gwir ymgolli mewn maes astudio nad oeddech wedi ei astudio cyn hyn • Cyfle i wneud llawer o ffrindiau newydd • Digon o weithgareddau hamdden • Oedi cyn gorfod gwneud penderfyniad terfynol am yrfa • Ennill cymwysterau angenrheidiol ar gyfer gwaith penodol

• • • •

Gallai gyfyngu ar gyfleoedd am astudio yn y dyfodol Os yw’n cynnwys astudio, gall olygu wedi oriau gwaith Lefel gyfyngedig i’r gwaith Gall cyfleoedd ar gyfer gyrfa fod yn gyfyngedig

Gall mynd yn ôl i astudio brofi yn anodd Posibilrwydd o golli cyfle am rai cymwysterau Cael eich nabod fel un sy’n ‘gwastraffu amser’ Gellid ei ddefnyddio er mwyn osgoi gwneud penderfyniad

Cyllid prin Gall astudio dwfn eich blino Risg o fethu Byw ymhell o leoliad cyfarwydd

11


Pam dilyn Addysg Uwch? Ydych chi mewn gwirionedd am ddilyn Addysg Uwch? • • • • • • • •

Beth ydych chi’n bwriadu ei wneud ar ddiwedd eich cwrs? Rhowch digon o amser i’ch hun i feddwl am hyn Archwiliwch eich opsiynau – mae yna 70,000 o wahanol opsiynau o ran pynciau ar gael Siaradwch â’ch athrawon tiwtoriaid, ffrindiau, rhieni, gofalwyr neu weithiwr cymdeithasol Cadwch feddwl agored a byddwch yn realistig Peidiwch â mynd i banig a pheidiwch â rhuthro i wneud penderfyniad Trefnwch amser i ymchwilio eich opsiynau yn ofalus CHI biau’r penderfyniad!

Efallai y teimlwch nad ydych yn ‘ddigon da’ neu ‘bod angen graddau uchel iawn arnoch’ – ond, mewn gwirionedd, yr hyn sydd angen yw cais da, penderfyniad, brwdfrydedd, gwir ddiddordeb a pheth cymwysterau uwch Lefel 3.

Yr hyn y gellid ei ddisgwyl • • • • • •

3-4 blynedd o astudio Yn gyfrifol am olchi eich dillad eich hun a choginio Syniadau newydd a phobl ddiddorol Bywyd cymdeithasol prysur – digon o bartïon, clybiau, cymdeithasau, cyfleusterau chwaraeon Cymwysterau da Gwell rhagolygon ar gyfer swydd

Manteision Addysg Uwch – beth sydd yma i fi? Arian, gyrfa a bywyd cymdeithasol • Wedi graddio gallwch ennill, ar gyfartaledd, 20% yn fwy yn ystod eich oes (i fenywod mae hyn yn codi i 40%), felly er y bydd gennych ddyled ar ddiwedd cyfnod eich gradd, dylech wneud iawn am hyn yn ddiweddarach • Mae 40% o swyddi yn gofyn am gymhwyster Addysg Uwch • Mae graddedigion yn dringo’r ysgol gyrfaoedd yn gyflymach • Mae cyflogwyr yn hoffi graddedigion – eich sgiliau dadansoddol, eich galluoedd i ddatrys problemau a’ch hunan-gymhelliad • Fe’ch anogir i feddwl drosoch chi eich hun, datblygu eich syniadau eich hun a chodi cwestiynau wrth astudio – sgiliau a fydd gyda chi weddill eich oes • Cewch gwrdd â channoedd o bobl o bob rhan o’r byd – rhai ffrindiau a fydd gyda chi am oes • Bydd yna bartïon, clybiau a chymdeithasau at ddant pob un

12

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


Pa gwrs? Pa bwnc? Unwaith eich bod wedi penderfynu gwneud cais am Addysg Uwch – mae angen i chi benderfynu pa gwrs! Mae’n anodd dewis cwrs pan fo dros 70,000 o gyrsiau gwahanol ac amrywiaeth o gyfuniadau ar gael. Gall y rhain amrywio o Aerodynameg, Ymddygiad Anifeiliaid, Astudiaethau Brasil, Lliw, Cemeg, Dylunio Esgidiau, Ergonomeg, Astudiaethau Golff, Astudiaethau Jazz, Rhesymeg, Nyrsio, Gwyddor Cefnforoedd, Persawr, Pypedau, Roboteg, Iaith Arwyddo, Technoleg, Astudiaethau Oes Fictoria, Rheoli Gwastraff a Thechnegau Pelydr X. Fel arfer pynciau’r dyniaethau sy’n denu’r nifer mwyaf o geisiadau am bob lle. Dyma’r pynciau sy’n astudio diwylliant dynol e.e. Hanes, Llenyddiaeth, Ieithoedd, Y Gyfraith, Athroniaeth, Arlunio, Cerddoriaeth, Astudiaethau Americanaidd. Dewiswch gwrs sy’n cyfateb i’ch diddordebau, anghenion a galluoedd. Bydd cyrsiau Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn awyddus i’ch denu. Bydd cyrsiau a phrifysgolion poblogaidd yn gofyn efallai am ofynion mynediad uwch – gall y rhain newid gan ddibynnu ar y nifer sy’n gwneud cais. Meddyliwch ymlaen ymhellach na diwedd y cwrs. Dewis y cwrs anghywir yw’r rheswm y mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gadael Addysg Uwch. Defnyddiwch lyfrau a rhaglenni cyfrifiadur i’ch helpu gyda’ch dewisiadau. Defnyddiwch brosbectws a fideo i ddod o hyd i gynnwys go iawn y cwrs – ai gwaith cwrs yw’r mwyafrif neu a fydd rhaid i chi sefyll arholiadau? Dewis diogel o radd yw un a astudiwyd gennych ar Lefel 3 – ond gwiriwch gynnwys y cwrs gyntaf. Does dim rhaid i chi bob tro fod wedi astudio hyd Lefel A; edrychwch beth yw gofynion penodol y cwrs. Mae rhai cyrsiau yn fwy galwedigaethol nag eraill – yn benodol ar gyfer swydd, megis, Nyrsio, Dysgu, Gwaith Cymdeithasol neu Beirianneg – gan arwain yn uniongyrchol i yrfa. Gallwch hefyd ystyried astudio’n rhan-amser fel bod modd i chi weithio ac astudio ar yr un pryd.

Mathau o gymwysterau Gellir astudio AU trwy nifer o wahanol fathau o gyrsiau â’r rhain yn amrywio o ran gofynion mynediad, strwythur, hyd ac asesu. Fel gyda AB, mae’n bwysig i chi ddod o hyd i’r cwrs a’r pwnc iawn i chi.

Gradd Lefel Anrhydedd neu Gyffredin • • • •

Y dewis mwyaf cyffredin mewn AU Fel arfer dros gyfnod o 3 – 4 blynedd i gwblhau Gall cyrsiau hwy gynnwys profiad ymarferol Mae’r graddau hyn yn canolbwyntio ar un pwnc

• BA – Bagloriaeth y Celfyddydau • BEng – Bagloriaeth Perianneg

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

• BSc – Bagloriaeth y Gwyddorau • BEd – Bagloriaeth Addysg

• BN – Bagloriaeth Nyrsio

13


Gradd Gydanrhydedd • Dau bwnc yn cael eu hastudio yn gyfartal • Ar dro gellir cael cyfuniadau rhyfedd

Prif Radd/Gradd Leiaf • Mae hon yn cyfuno dwy ran o dair o un pwnc a thraean o bwnc arall – heb fod yn gyfartal

Gradd Gyfun • Dau neu fwy o bynciau gyda chynnwys cyfartal neu wahanol • Yn aml pynciau yn perthyn i’w gilydd e.e. Sbaeneg a Ffrangeg

Gradd Sylfaen Cynigir graddau sylfaen mewn tua 70 o sefydliadau yn Lloegr ond maen nhw’n dal i gael eu datblygu yng Nghymru. • Yn cynnwys astudio mewn perthynas â gwaith a gyda chydweithrediad cyflogwyr • Gall fod yn rhan amser neu dros ddwy flynedd yn llawn amser • Wedi gorffen y radd hon, gallwch ychwanegu tua 15 mis o astudio pellach er mwyn ennill gradd anrhydedd Ni ddylid drysu rhwng gradd sylfaen â:

Cwrs /Rhaglen/Diploma Sylfaen Byddwch efallai yn astudio cwrs/rhaglen/diploma sylfaen os nad oes gennych y cymwysterau mewn pynciau addas ar gyfer eich gradd ddewisedig, neu os nad yw eich graddau yn ddigon uchel. Mae’r mwyafrif o fyfyrwyr sydd am astudio am radd celf a dylunio neu bensaernïaeth yn cwblhau blwyddyn sylfaen.

Tystysgrif/Diploma mewn Addysg Uwch • • • • •

Dyfernir fel dwy ran o dair o radd Yn brinnach bellach Defnyddir gan gyrff proffesiynol, megis Cwnsela neu Nyrsio Gellir eu hastudio mewn colegau Yn aml ar gael i fyfyrwyr rhan amser

Tystysgrif Genedlaethol Uwch – HNC (Lefel 4) Diploma Cenedlaethol Uwch – HND (Lefel 5) • • • • •

Fel arfer dros 2 flynedd o astudio, neu dair blynedd gyda blwyddyn mewn diwydiant Yn ymwneud â phynciau byd gwaith / galwedigaethol Eu hastudio fel arfer mewn coleg Gallwch ddefnyddio HND neu HNC fel llwybr tuag at radd Mae’r gofynion ar gyfer mynediad i HND fel arfer yn is na’r rheini ar gyfer gradd

Cyrsiau Modwlar • • • •

Yn osgoi gorarbenigo Cyfres o gyrsiau byr o’r enw modiwlau Dewis a dethol fel y mynnoch gyda rhai cyfyngiadau Dysgir ac arholir pob pwnc ar wahân

14

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


Cyrsiau Rhyngosod • • • •

Yn cynnwys profiad a lleoliad gwaith mewn diwydiant Gall fod yn y DU neu dramor Yn derbyn tâl neu’n ddi-dâl Nid yw ariannu bob amser yn ystyried y lleoliadau gwaith

‘Cynigion’ nodweddiadol a wneir gan brifysgolion (Dyma’r hyn sydd angen arnoch ei sicrhau er mwyn cael mynediad)

Gradd • • • • •

O leiaf 3 – 4 pwnc TGAU graddau A – C Gall brifysgolion eich caniatáu i gyfrif eich pwyntiau o’ch lefel UG (AS) Efallai bydd modd i chi gyfrif 60 pwynt o’ch Unedau Sgiliau Allweddol 2 – 3 o Lefelau A2, Dyfarniad Cwbl TAAU (AVCE), neu Ddiploma Cenedlaethol BTEC Mae rhai graddau yn gofyn hefyd am gyfweliad a/neu brofiad gwaith yn ychwanegol i’r cymwysterau e.e. Gwaith Cymdeithasol

Gradd Sylfaen • Fel arfer o gwmpas 80 o bwyntiau UCAS o unrhyw un o’r canlynol – pwnc Lefel A, TAAU (AVCE), Diploma Cenedlaethol BTEC neu gwrs Mynediad, ond gwiriwch hyn gyda sefydliadau unigol gan y byddant yn amrywio

Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) • 3 – 4 pwnc TGAU graddau A – C • Yn ogystal ag un o’r canlynol – pwnc Lefel A, TAAU, Diploma Cenedlaethol BTEC neu gwrs Mynediad.

Celf a Dylunio neu HND • Fel arfer gofynnir i ymgeiswyr gwblhau 1 blwyddyn o Gwrs Sylfaen Celf a Dylunio yn gyntaf • Gall myfyrwyr gael eu derbyn i gyrsiau gradd heb gwblhau’r Flwyddyn Sylfaen os oes ganddynt o leiaf 2 Lefel UG ac yn gallu cyflwyno portffolio o waith o safon uchel

Cyngor cyffredinol • Ar gyfer rhai cyrsiau gradd gofynnir am bynciau Lefel A penodol, bydd eraill yn derbyn unrhyw bynciau • Mae tiwtoriaid mynediad yn chwilio am ffactorau eraill hefyd – diddordebau, gwaith gwirfoddol, uchelgais, hobïau, cyflawniadau ym myd chwaraeon • Mae pob prifysgol yn gosod ei gofynion mynediad ei hun – gall prifysgolion poblogaidd osod graddau uwch • Edrychwch ar y nifer o ymgeiswyr ar gyfer pob lle • Er bod prifysgol/cwrs yn gofyn am raddau uwch, nid yw hynny yn golygu ei bod yn well le/cwrs • Asesir pob ymgeisydd yn ôl graddau disgwyliedig – rhaid i chi drafod y rhain gyda’ch tiwtor • Cofiwch wirio gyda’r brifysgol benodol ar gyfer ei mynediad ei hun

Dulliau o astudio • Mae i rai cyrsiau nifer uchel o ‘oriau cyswllt’ – amser y mae yn rhaid i chi weithio, naill ai trwy diwtorialau, darlithoedd, gweithdai neu amser yn y labordy • Mae rhai graddau terfynol yn cynnwys hyd at 50% o waith cwrs - edrychwch i weld beth yw cynnwys y cwrs unigol

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

15


Ble i astudio Setiau Gwybodaeth Allweddol (KIS) O fis Medi 2012, bydd pob prifysgol a choleg sy’n cynnig Addysg Uwch yn cyhoeddi Setiau Gwybodaeth Allweddol ar eu gwefannau. Bydd y KIS yn cynnwys meysydd gwybodaeth i helpu myfyrwyr i ddewis cwrs a sefydliad. Y meysydd hyn yw: • • • • •

bodlonrwydd myfyrwyr gwybodaeth am gyrsiau data am gyflogaeth a chyflogau costau llety gwybodaeth ariannol, fel ffioedd

Dyluniwyd yr wybodaeth hon i’ch helpu chi i ddewis y cwrs gorau ar eich cyfer chi. Bydd y teclyn canfod cyrsiau ‘Course Finder’ ar www.ucas.com yn eich galluogi i edrych ar y data KIS yr un pryd ag y byddwch yn edrych ar y cyrsiau y mae gennych ddiddordeb ymgeisio amdanyn nhw.

Dysgu o bell • Mae dysgu o bell yn eich galluogi i ddysgu yn eich amser a’ch amgylchedd eich hun, nid ar gampws prifysgol • Y Brifysgol Agored (OU) yw’r unig brifysgol yn y DU wedi ei neilltuo i ddysgu o bell • Mae’r Brifysgol Agored yn cynnig dysgu o bell wedi ei gefnogi rhan amser. Golyga hyn gall pobl astudio yn eu cartref (neu mewn unrhyw fan arall) gan drefnu eu hastudiaethau o gwmpas eu gwaith a’u cyfrifoldebau bob dydd • Ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau’r Brifysgol Agored nid oes angen cymwysterau blaenorol • Rhaid i chi fod yn 16 oed pan fo’r cwrs yn dechrau a does dim cyfyngder oed uwch • Mae pob pob cwrs BA yn cynnig credydau ar lefel Addysg Uwch y gellir eu defnyddio ar gyfer gradd neu gymhwyster arall • Ar hyn o bryd mae yna 6,000 o fyfyrwyr yn astudio gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru (OuiW) • Mae’r tîm o Gynghorwyr y Brifysgol yng Nghymru yn cynnig ystod eang o gefnogaeth i fyfyrwyr i astudio gyda’r BA yng Nghymru, o wybodaeth a chanllaw dechreuol, cymorth gydag arian ac anabledd ac arweiniad gyrfa • Mae astudio gyda’r BA yn hyblyg gan alluogi i bobl gael toriad rhwng cyrsiau neu gymryd ond un cwrs ar y tro yn ddibynnol ar eu diddordebau • Gall fod yna gymorth ariannol i’r rheini ar incwm isel a rhai budd-daliadau

Campws neu ganol dinas Canol dinas • Bloc dysgu, dosbarthiadau a gweinyddiaeth yng nghanol y dref • Gall neuaddau preswyl fod rhyw bellter i ffwrdd Mantais • Mewn dinas gyda chyfleusterau a siopau • Aros yno i weithio yn y llyfrgell yn hytrach na llithro nôl i ystafell yn ystod amser rhydd Anfantais • Gall fod amserau hir rhwng darlithoedd a methu mynd yn ôl i’ch ystafell yn hawdd Campws • Lleoliadau holl gynhwysol • Gall fod ychydig filltiroedd o’r dref agosaf • Yn cynnwys neuaddau preswyl, siopau, banciau, cyfleusterau chwaraeon, llyfrgelloedd ac ati

16

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


Mantais • Handi – pob dim yn yr un safle Anfantais • Gall fyw ar y campws fod yn fwy drud na byw yn dref • Mae llai o gyfle i gymysgu gyda phobl nad ydynt yn fyfyrwyr

Ffactorau eraill i’w hystyried • • • • •

Edrych beth yw cydbwysedd dynion/benywod, hefyd oed a niferoedd myfyrwyr aeddfed Gall prifysgol mawr fod wedi eu rhannu yn golegau er mwyn hwylustod Gall prifysgolion mawr feddu ar eu systemau cludiant eu hunain o gwmpas y campws Gall prifysgolion llai fod yn fwy cyfeillgar Mae gan brifysgolion llai gyfleusterau gwych, ond llai ohonynt

Ardal Ddaearyddol Os yw prifysgol yn agos i’ch cartref gall fod yna fanteision • Ymweliadau cyson gan ffrindiau • Rydych yn gyfarwydd â’r ardal Ystyriwch • Cost trafnidiaeth gyhoeddus – cysylltiadau hawdd ar drên neu fws • Peidiwch â bod yn rhagfarnllyd – Cymru neu Loegr, y de neu’r gogledd • Gwnewch yn siwˆr fod parcio am ddim i’w gael ar y lleoliad os oes angen • Beth sydd orau gennych – prysurdeb tref/dinas neu fywyd cefn gwlad? • Fyddwch chi ddim yn gweithio trwy’r amser, felly beth fyddwch chi’n gwneud yn eich amser hamdden? • Os ydych chi’n mwynhau cerdded bryniau, canwˆio, dringo creigiau – peidiwch â dewis Llundain! • Dewch o hyd i wybodaeth am glybiau nos, y sin gerddorol arbennig, cyfleusterau chwaraeon cyfagos, pris cwrw, sinemâu, theatrau, siopa ac ati

Addysgu ac Asesu • Gall peth addysgu gynnwys darlithoedd a roir i 150 o fyfyrwyr gyda bach iawn o fewnbwn gan fyfyrwyr, mae eraill yn golygu gwrando a chymryd nodiadau, neu efallai y cewch seminarau sy’n grwpiau trafod • Mae tiwtorial yn gyfarfod cyson gyda’ch tiwtor, naill ai mewn grwpiau bach neu ar eich pen eich hun, i nodi unrhyw bryder neu gymorth gyda meysydd gwaith pwnc penodol • Defnyddir dulliau asesu gwahanol yn dibynnu ar y cwrs – gallech gael arholiadau bob blwyddyn, neu efallai y cewch ddyddiadau ar gyfer gorffen gwaith cwrs neu gymysgedd o’r ddau • Ystyriwch sut ydych chi’n gweithio orau – sut wnaethoch chi yn yr arholiadau ysgol a gwaith cwrs – pa un sydd orau ar eich cyfer chi

Dechreuwch ymchwilio nawr Gyda chymaint i’w ystyried, nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau ymchwilio. Gorau po gynta! • Mae digon o adnoddau ar gael, gyda’r we, llyfrau a phrosbectysau. Ewch i ymweld â llyfrgell eich ysgol neu goleg a dechreuwch gasglu gwybodaeth • Os ydych yn gwybod pa yrfa y mae gennych ddiddordeb ynddi, yna ceisiwch ddarganfod pa gymhwyster Addysg Uwch sydd angen arnoch, ac yna gweithiwch yn ôl, yn y ffordd hon gallwch sicrhau eich bod yn astudio’r pynciau iawn • Mae staff gyrfaoedd ar gael i’ch helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth angenrheidiol, neu ewch at eich gweithiwr cymdeithasol • Yn yr adran wybodaeth cewch ddigon o fanylion cyswllt defnyddiol i ddechrau arni

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

17


Marc Ansawdd Ymddiriedolaeth Buttle UK Mae Ymddiredolaeth Buttle UK wedi creu Marc Ansawdd sy’n cydnabod y Sefydliadau Addysg Uwch hynny sy’n gwneud ymdrech arbennig i gefnogi myfyrwyr o gefndir gofal. Ar hyn o bryd mae 53 Sefydliad Addysg Uwch ar draws y DU wedi ennill y marc ansawdd. Enillodd Coleg Addysg Bellach Sir Gâr hefyd Farc Ansawdd Buttle UK am y rhai sy’n Gadael Gofal ym myd Addysg Uwch. Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn darparu grantiau cefnogaeth ariannol ar gyfer pobl ifanc o gefndir gofal. Ewch i www.buttleuk.org am fwy o wybodaeth.

Y Gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a rhai sy’n gadael gofal o Sefydliadau Addysg Uwch Cymru Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr Mae gan bob prifysgol yng Nghymru adrannau sy’n gyfrifol am gefnogi myfyrwyr ac o fewn Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr bydd aelod penodol o staff a fydd yn medru cynnig cyngor a chefnogaeth i chi fel rhywun sy’n gadael gofal. Gall Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr gynorthwyo gyda chyllid ac mae gan bob prifysgol yng Nghymru rhyw fath o grant ar gyfer pobl sy’n gadael gofal yn ogystal â chymorth ar agweddau eraill megis dod o hyd i waith a llety. Mae’r manylion am y gwasanaethau sydd ar gael a phwy yw’r cyswllt ymhob sefydliad ar dudalennau 18 – 27.

Metropolitan Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant www.smu.ac.uk DYFARNWYD MARC ANSAWDD BUTTLE UK Cyswllt a enwir ar gyfer plant yn derbyn gofal a’r rheini yn gadael gofal Paul Davies, Cynghorwr Myfyrwyr Ffôn 01792 481 206 or E-bost davidpaul.davies@smu.ac.uk Gweithgareddau estyn allan gyda phlant yn derbyn gofal • Dyddiau ACE: Mae Prifysgol Abertawe a Fetropolitan Abertawe yn cydweithio’n agos â disgyblion Blwyddyn Naw trwy gyfres o weithgareddau gyda’r bwriad o godi dyheadau ar gyfer Addysg Uwch trwy gynyddu ymwybyddiaeth o fywyd myfyrwyr, y gwahanol lwybrau i AU a’r amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael • Recriwtir Mentoriaid o blith y myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Fetropolitan Abertawe i gydweithio gydag ysgolion uwchradd ar hyd a lled Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae mentoriaid yn cynnig cefnogaeth i ddisgyblion a dargedwyd o Flynyddoedd 7 – 11 • Prifysgol Haf Blwyddyn 12 (rhan o Brifysgol Haf Cymru), sef cwrs preswyl pedair wythnos dydd Llun i ddydd Gwener (neu heb lety os yn addas) wedi ei fwriadu ar gyfer disgyblion ysgol Blwyddyn 12 a myfyrwyr Blwyddyn Gyntaf Lefel 3 mewn Addysg Bellach yn astudio yn Abertawe, Chastell-nedd Port Talbot, Sit Benfro a Sir Caerfyrddin Mae cymorth i’r rhai yn gadael gofal yn cynnwys • • • • •

Cyngor ac arweiniad cyn gwneud cais Cysylltir â myfyrwyr yn ystod y broses ymgeisio i’w cyflwyno i wasanaethau cynghori Costau teithio ar gyfer cyfweliadau a dyddiau agored Dod o hyd i gefnogaeth ariannol Dod o hyd i waith rhan amser

18

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


Llety 365 dydd Blaenoriaeth wrth drefnu llety yn y Brifysgol ac ymrwymwn i ddarparu’r llety hwn ar hyd y flwyddyn gyfan a thros amser y cwrs cyfan os oes angen. Cefnogaeth Ariannol ychwanegol Blaenoriaeth i Gronfa Ariannol Wrth Gefn. Cymorth gyda gofal plant Efallai bydd Cronfa Ariannol Wrth Gefn y Brifysgol yn gallu helpu.

Prifysgol Abertawe www.swansea.ac.uk DYFARNWYD MARC ANSAWDD BUTTLE UK Cyswllt a enwir ar gyfer plant yn derbyn gofal a’r rheini yn gadael gofal Asad Rahman Ffôn 01792 513225 E-bost a.rahman@swansea.ac.uk Alison Maguire Ffôn 01792 513393 E-bost a.d.maguire@swansea.ac.uk Rob Ellis Ffôn 01792 602979 E-bost r.j.ellis@swansea.ac.uk Gweithgareddau estyn allan gyda phlant yn derbyn gofal • Dyddiau ACE: Mae Prifysgol Abertawe a Fetropolitan Abertawe yn cydweithio’n agos â disgyblion Blwyddyn Naw trwy gyfres o weithgareddau gyda’r bwriad o godi dyheadau ar gyfer Addysg Uwch trwy gynyddu ymwybyddiaeth o fywyd myfyrwyr, y gwahanol lwybrau i AU a’r amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael • Recriwtir Mentoriaid o blith y myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Fetropolitan Abertawe i gydweithio gydag ysgolion uwchradd ar hyd a lled Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae mentoriaid yn cynnig cefnogaeth i ddisgyblion a dargedwyd o Flynyddoedd 7 – 11 • Prifysgol Haf Blwyddyn 12 (rhan o Brifysgol Haf Cymru), sef cwrs preswyl pedair wythnos dydd Llun i ddydd Gwener (neu heb lety os yn addas) wedi ei fwriadu ar gyfer disgyblion ysgol Blwyddyn 12 a myfyrwyr Blwyddyn Gyntaf Lefel 3 mewn Addysg Bellach yn astudio yn Abertawe, Chastell-nedd Port Talbot, Sit Benfro a Sir Caerfyrddin Mae’r cymorth sydd ar gael i’r rhai yn gadael gofal yn cynnwys • • • • •

Cyngor ac arweiniad cyn gwneud cais Cysylltir gyda myfyrwyr yn ystod y broses ymgeisio i’w cyflwyno i’r gwasanaethau cynghori a rhoi arweiniad Costau teithio ar gyfer cyfweliadau a dyddiau agored Mynediad at gymorth ariannol Dod o hyd i waith rhan amser

Cynllun cytundeb ar gyfer y rheini’n gadael gofal Mae Prifysgol Abertawe’n rhoi Cynnig Cryno i fyfyrwyr sydd wedi bod mewn gofal. Mae’r cynnig hwn wedi’i ddylunio i wneud yn siwˆr ein bod yn gallu rhoi cymorth i chi wrth wneud cais, wrth gyrraedd ac er mwyn llwyddo ym Mhrifysgol Abertawe. Yn hyn o beth rydym yn gofyn eich bod yn ymweld â, ac yn cadw mewn cysylltiad â Asad, Rob neu Alison ac yn gyfnewid am hyn, byddwn yn lleihau’r hyn sy’n ofynnol ohonoch i gael mynediad i’r Brifysgol o safbwynt academaidd yn ogystal ag yn lleihau’r costau ym mhob blwyddyn yr ydych gyda ni. Fel myfyriwr cryno byddwch yn derbyn: • Gostyngiad yn eich gradd Safon Uwch ofynnol (neu gyfwerth). Bydd y cynnig hwn yn lleihau’n gofynion gan un radd lefel Safon Uwch (neu gyfwerth). Mae hyn yn golygu os mai gofynion y rhaglen yw ABB ar lefel Safon Uwch, bydd hyn yn cael ei leihau gan un radd (e.e. bydd eich cynnig yn cael ei leihau i BBB neu ABC – gan ddibynnu ar yr union ofynion ar gyfer y rhaglen radd berthnasol) • Bwrsari o £1,000 ymhob blwyddyn o’ch astudiaethau (yn ychwanegol at gefnogaeth ariannol arall y byddwch efallai yn ei derbyn. Defnyddir yr arian hwn i dalu tuag at gynnal eich llety dros y 52 wythnos lawn

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

19


gael y buddion hyn, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw cysylltu ag un o’r enwau cyswllt uchod a rhoi copi o’ch Cynllun Llwybr iddynt. Asad, Rob ac Alison yw Mentoriaid Prifysgol Abertawe ar gyfer y Rhai sy’n Gadael Gofal ac maent wrth law i’ch helpu a’ch cefnogi gyda phob agwedd o’ch bywyd yn y Brifysgol. SYLWER: 1. Dim ond un o gynlluniau Prifysgol Abertawe sy’n cynnig gostyngiad mewn gofynion gradd y gallwch elwa ohono. Bydd y cynllun sy’n cynnig y gostyngiad uwch yn gymwys. 2. Os ydych yn gwneud cais i Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd mae’n bosibl na fydd y gostyngiad gradd yn gymwys gan fod y gofynion mynediad ar gyfer nifer o’r rhaglenni gradd proffesiynol yn y Coleg hwn yn cael eu pennu trwy ymgynghori â chyrff proffesiynol allanol. Yn lle hynny, os cysylltwch ag Asad Rahman, bydd Prifysgol Abertawe yn gallu cynnig cyngor personol ar sut i wneud eich cais mor gryf â phosib. Gwarentir 365 dydd y flwyddyn o lety ar y campws i chi yn y flwyddyn gyntaf yn y Brifysgol. Cymorth i ddod o hyd i lety am rent yn yr ardal leol yn addas i’ch anghenion pe gwell gennych hynny. Cefnogaeth Ariannol ychwanegol Grant o £1,000 ar gyfer costau llety o dan Gytundeb Cryno Gadael Gofal. Cymorth Gofal Plant Mae grantiau gofal plant ar gael. Efallai gall Cronfa wrth Gefn y brifysgol helpu hefyd.

Prifysgol Aberystwyth www.aber.ac.uk DYFARNWYD MARC ANSAWDD BUTTLE UK Cyswllt a enwir ar gyfer plant yn derbyn a’r rheini yn gadael gofal Dr Debra Croft, Rheolwr Ffôn 01970 622681 07968 77 55 23 E-bost dec@aber.ac.uk Doug Kerr, Swyddog Cymorth Mentora Ffôn 01970 621529 E-bost dok@aber.ac.uk

Gweithgaredd estyn allan gyda phlant yn derbyn gofal • Mae plant sy’n derbyn gofal a rhai sy’n gadael gofal yn grwˆp blaenoriaeth ar gyfer yr holl weithgareddau cymorth mewnol ac allgymorth yr ydym yn eu cynnal • Rydym yn gweithio’n agos gyda gofalwyr maeth a grwpiau awdurdod lleol, yn ogystal â chysylltiadau sydd ar gael i blant sy’n agored i niwed mewn ysgolion a cholegau • Ewch i’n gwefan neu cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth, neu os hoffech i ni gwrdd â chi Cymorth a Ddarperir • • • • •

Cyngor a chanllaw cyn gwneud cais, llythyru a chyngor unigol manwl yn ystod y broses o wneud cais Costau teithio ar gyfer cyfweliadau a dyddiau agored a lle bo’n addas trefnir llety dros nos Myfyriwr mentor cyfoed ar gyfer dyddiau agored Dod o hyd i gefnogaeth ariannol Dod o hyd i waith rhan amser

Llety 365 dydd Ar gael a bydd pob ymgeisydd newydd yn derbyn gair ar bapur ar adegau allweddol yn ystod y flwyddyn gais i’w cynghori am hyn.

20

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


Mentora cyfoedd Cynllun mentora ‘Arwyddbost’ (mentora cyfoed) ar gael i bob myfyriwr israddedig; anogir plant sy’n derbyn gofal a rhai sy’n gadael gofal i ddefnyddio’r gwasanaeth. Cymorth Ariannol ychwanegol Bwrsarïau ar gael ar 2 lefel – £1800 llawn y flwyddyn a rhan o £1000 y flwyddyn – yn amodol ar amgylchiadau a’r amser a dreuliwyd mewn gofal (gwelwch y wefan). Mae’r fwrsariaeth ar gael i grwˆp oedran estynedig hyd at 25 oed. Cefnogaeth bellach • • • •

Cymorth i symud ar ddechrau eich bywyd Prifysgol ac ar ddiwedd blwyddyn/tymor os oes angen Darparu ‘Pecyn i ddechrau’ os oes angen – dillad gwely, cytleri / llestri ac ati Cefnogaeth e-bost barhaus, a chyfarfodydd cymdeithasol – cinio, te / sgwrs dros goffi ac ati! Cyswllt ffôn symudol ar gyfer cael gafael ar Dr Croft – polisi drws agored

Prifysgol Bangor www.bangor.ac.uk DYFARNWYD MARC ANSAWDD BUTTLE UK Cyswllt a enwir ar gyfer plant yn derbyn a’r rheini yn gadael gofal Wendy Williams; Canolfan Gwasanaethau Myfyrwyr. Wendy, hefyd, yw’r Cynghorydd Ariannol i Fyfyrwyr. E-bost Wendy.williams@bangor.ac.uk Gweithgaredd estyn allan gyda phlant yn derbyn gofal • Gwaith estyn allan gydag ysgolion a cholegau lleol. Cymorth a Ddarperir • • • • •

Cyngor a chymorth cyn gwneud cais Gwneir cyswllt gyda myfyrwyr wrth ymgeisio i gyflwyno’r cynghorydd a’r gwasanaethau Costau teithio ar gyfer cyfweliadau a dyddiau agored Dod o hyd i gymorth ariannol Dod o hyd i waith rhan amser

Llety 365 dydd Ar gael. Arweiniad gyda chyfoed Cymorth gan gymheiriaid ar gyfer yr holl fyfyrwyr i’ch helpu i ymgartrefu yn ystod yr Wythnos Groeso ac wythnosau cyntaf y tymor. Cymorth ariannol ychwanegol Bwrsariaeth £1,000 ar gyfer plant yn derbyn gofal a’r rheini sy’n gadael gofal. Cymorth gyda gofal plant Mae cymorth ychwanegol ar gael trwy’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn ar gyfer gofal plant.

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

21


Prifysgol Caerdydd www.cardiff.ac.uk DYFARNWYD MARC ANSAWDD BUTTLE UK Cyswllt a enwir ar gyfer plant yn derbyn a’r rheini yn gadael gofal Einir Evans Ffôn 02920 874787 E-bost EvansE23@cardiff.ac.uk Scott McKenzie Ffôn 02920 870324 E-bost McKenzieSD1@cardiff.ac.uk Gweithgaredd estyn allan gyda phlant yn derbyn gofal • Caiff Ysgol Haf Dyfodol Hyderus ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd a chaiff ei hariannu gan First Campus. Mae’n ddigwyddiad dau ddiwrnod sydd wedi’i anelu i roi cyfle i bobl ifanc gael profiad o fywyd myfyrwyr mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae’r ysgol haf yn cynnwys aros dros nos mewn neuadd breswyl, ble caiff y myfyrwyr eu cyfeillio â myfyrwyr y brifysgol er mwyn profi gweithgareddau bob dydd myfyrwyr – gan gynnwys siopa bwyd, coginio swper mewn fflat myfyrwyr, mynd mas am bryd o fwyd, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a thacsi, trefnu digwyddiad cymdeithasol a dod o hyd i’w ffordd o amgylch y campws. Mae’r Ysgol Haf yn llawn o weithgareddau a gaiff eu llunio i adlewyrchu bywyd myfyrwyr yn ystod Wythnos y Glas, a’r holl brofiadau newydd a fydd yn eu hwynebu. • Gwahoddir ieuenctid yn derbyn gofal hefyd i ymuno â’n cynllun Camu i fyny i’r Brifysgol (Step-Up to Uni) sy’n cynnig nifer o ddigwyddiadau yn delio â phynciau penodol lle gall myfyrwyr ddarganfod mwy am y pynciau y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt a’r hyn yw’r profi ad o’u hastudio • Mae cynllun mentora ar gael i blant mewn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal yn ne ddwyrain Cymru, sy’n cynnwys digwyddiadau cymdeithasol, diwrnodau blasu’r brifysgol, mentora un i un, a gweithdai i gefnogi astudiaethau a cheisiadau am le mewn prifysgol. • Rydym yn gweithio’n agos gydag Awdurdodau Lleol i sicrhau bod cymorth ar gyfer mynediad i Addysg Uwch yn cael ei ymgorffori yng Nghynllun Llwybrau’r unigolyn lle bo’n briodol. Derbyniadau Cyd-destunol • Mae’r Brifysgol wedi rhoi model derbyniadau cyd-destunol ar waith er mwyn hysbysu dealltwriaeth Tiwtoriaid Derbyn yn well o gefndiroedd cymdeithasol ymgeiswyr, gan ganiatáu i Diwtoriaid Derbyn asesu potensial ymgeiswyr i lwyddo ym Mhrifysgol Caerdydd yng nghyd-destun y rhwystrau y gallent fod wedi dod ar eu traws. • Bydd ymgeiswyr sydd wedi treulio amser mewn gofal ac sydd wedi nodi hyn ar eu ffurflen UCAS (gan ddefnyddio’r cwestiwn penodol) yn gymwys i gael ‘ystyriaeth ychwanegol,’ gallai hyn gynnwys cynnig wedi’i warantu, cyfweliad wedi’i warantu neu ystyriaeth ychwanegol yn ystod cyfnod canlyniadau’r haf. Cymorth a Roddwyd • • • • •

Cyngor ac arweiniad cyn gwneud cais, gohebiaeth a chyngor unigol manwl yn ystod y broses o wneud cais Byddwn yn cysylltu â myfyrwyr ar y cam gwneud cais er mwyn cyflwyno cynghorwyr a gwasanaethau Dod o hyd i gymorth ariannol Cyfarfod cyn cael mynediad Cyfarfodydd rheolaidd rhwng yr enw cyswllt, Einir Evans, a myfyrwyr o ofal i amlygu gofynion cymorth, ac i gysylltu ag adrannau’r brifysgol ac asiantaethau allanol lle bo’n briodol (a chyda chaniatâd penodol y myfyriwr)

Llety 365 diwrnod y flwyddyn • Ar gael ar gais. • Llety wedi’i warantu mewn neuaddau y mae’r brifysgol yn berchen arnynt drwy gydol y cwrs Mentora Cyfoed Mae clwb cefnogi gwaith cartref ar gael i fyfyrwyr o Dde Ddwyrain Cymru – gweler uchod.

22

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


Cymorth ariannol ychwanegol Bydd y rhai sy’n gadael gofal yn cael bwrsariaeth gwerth £1,000 yn y flwyddyn gyntaf, £750 dros y blynyddoedd dilynol a £500 yn ystod tymor olaf y flwyddyn olaf (mae telerau ac amodau’n berthnasol). Mae bwrsariaethau ac ysgoloriaethau ychwanegol ar gael yn amodol ar statws, gweler: www.caerdydd.ac.uk/scholarshipsandbursaries Cymorth gyda gofal plant Mae cymorth ariannol ychwanegol ar gael ar gyfer gofal plant drwy’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn. Cymorth Gyrfa • Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol yn cynnig cefnogaeth eang i fyfyrwyr wrth ystyried eu gyrfa yn y dyfodol. • Os ydych yn chwilio am waith fel myfyriwr mae Siop Swyddi Prifysgol Caerdydd a leolir yn Undeb y Myfyrwyr yn cynorthwyo myfyrwyr i ddod o hyd i waith rhan amser. Mae’r gwasanaeth Anabledd hefyd yn recriwtio ac yn hyfforddi myfyrwyr i weithio rhan amser, yn cynorthwyo myfyrwyr ag anableddau fel rhan o Gynllun Cymorth I Weithwyr.

Prifysgol Cymru, Casnewydd www.newport.ac.uk/careleavers GWOBRWYWYD Â MARC ANSAWDD BUTTLE UK Enw cysywllt ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a phobl sy’n gadael gofal Lena Crooke, Cynghorydd Cyllid Myfyrwyr Ffôn 01633 432064 E-bost lena.crooke@newport.ac.uk Gweithgareddau allgymorth gyda phlant sy’n derbyn gofal Mae Campws Cyntaf yn bartneriaeth rhwng Sefydliadau Addysg Uwch, colegau Addysg Bellach, grwpiau cymunedol ac ysgolion yn Ne Ddwyrain Cymru. Mae Campws Cyntaf yn gweithio gydag amrywiaeth o bobl ac yn eu cynnwys mewn digwyddiadau a gweithgareddau o oed ysgol hyd at oedolion sy’n dychwelyd ac yn eu hannog o ran pwysigrwydd dysgu. Nod y prosiect yw codi ymwybyddiaeth, dyheadau a’r cyfleoedd i Addysg Uwch ar gyfer y grwpiau yma. Mae Campws Cyntaf yn cyfrannu taflenni gweithgaredd i becyn dosbarthu Blwch Llythyrau’r Awdurdod Lleol (http:// www.letterboxclub.org.uk/). Mae pob dosbarthiad yn para 6 mis. Thema brifysgol sydd i’r taflenni gweithgaredd, ac maen nhw hefyd yn cynnwys offer ysgrifennu sy’n berthnasol i’r gweithgaredd, e.e. aroleuwyr i’w defnyddio gyda’r chwilair. Ar ddiwedd cyfnod dosbarthiad y pecynnau Blwch Llythyrau, caiff y Plant sy’n Derbyn Gofal a’u Gofalwyr eu gwahodd i Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd, i gael taith o amgylch y campws, cinio am ddim a chyfle i wneud rhyw weithgaredd. Yn y gorffennol, mae’r gweithgareddau wedi cynnwys animeiddio gan ddefnyddio modelau o glai, dylunio gêm fwrdd ac ymweliad gan awdur lleol. Mae’n fwriad parhau â’r gweithgareddau hyn ac mae Campws Cyntaf yn awyddus i ddatblygu cysylltiadau pellach â Phlant sy’n Derbyn Gofal a’u Gofalwyr er mwyn ysgogi eu dyheadau tuag at Addysg Uwch. Mae’r cymorth sydd ar gael i bobl sy’n gadael gofal yn cynnwys: • • • • • •

Cyngor ac arweiniad cyn cyflwyno cais Cysylltir â myfyrwyr yn ystod y cyfnod ymgeisio i gyflwyno cynghorydd a’r gwasanaethau sydd ar gael Dod o hyd i gymorth ariannol Dod o hyd i waith rhan amser Cyngor astudio cyn mynediad Cyngor meddygol cyn mynediad

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

23


Mentora Cydweithwyr Darparwn Fentora Cymheiriaid drwy Gynllun Mentora Myfyrwyr y Brifysgol. Llety 365 dydd Llety yn neuaddau preswyl y brifysgol wedi’i warantu ar gyfer y flwyddyn gyntaf. Cefnogaeth ariannol ychwanegol Bwrsari £1000 y flwyddyn ar gael i blant dan 25 oed sy’n derbyn gofal. Am ragor o fanylion, ebostiwch lena.crooke@newport.co.uk Cymorth gyda gofal plant Efallai bydd Cronfa Ariannol Wrth Gefn y brifysgol yn medru helpu.

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant www.tsd.ac.uk DYFARNWYD MARC ANSAWDD BUTTLE UK Sefydlwyd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ym mis Medi 2010, gan ddod â dau o’r sefydliadau addysg uwch hynaf yng Nghymru – Prifysgol Coleg y Drindod a Phrifysgol Cymru Llanbedr ynghyd. Mae’r brifysgol newydd yn ymrwymedig i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel i’w myfyrwyr ac mae’n cynnig pecyn cynhwysfawr o gymorth o’r broses cyn mynediad trwodd hyd at ar ôl graddio. Cyswllt a enwir ar gyfer plant yn derbyn gofal a’r rheini yn gadael gofal Campws Caerfyrddin a Dysgwyr o bell Delyth Lewis Ffôn 01267 676947 neu E-bost d.lewis@tsd.ac.uk Campws Llanbedr Lynda Lloyd-Davies Ffôn 01570 424761 or E-bost l.lloyd-davies@tsd.ac.uk Gweithgareddau estyn allan gyda phlant yn derbyn gofal • Sesiynau Gwybodaeth i Ofalwyr a Phobl ifanc mewn Gofal • Dyddiau ‘Blas ar y Brifysgol’ penodol ar gyfer pobl ifanc mewn gofal Mae’r cymorth a gynigir i’r rhai yn gadael gofal yn cynnwys: • Gwasanaethau Myfyrwyr integredig, yn cynnwys mynediad hawdd i gefnogaeth ariannol, llety, anghenion ychwanegol, cwnsela a gwasanaethau cefnogi academaidd arbenigol Cefnogaeth ariannol yn benodol ar gyfer rheini’n gadael gofal trwy gronfeydd ariannol a bwrsariaeth y Drindod • Cefnogaeth ariannol yn benodol ar gyfer rheini’n gadael gofal trwy fwrsariaethau a chronfeydd ariannol wrth gefn • Cyfarfodydd cyson rhwng y cysylltiadau a enwir, Delyth Lewis a Lynda Lloyd-Davies, a myfyrwyr o gefndir gofal i nodi gofynion anghenion cymorth, ac i gydlynu gydag adrannau’r Brifysgol ac asiantaethau allanol lle mae hynny’n addas (gyda chaniatâd clir y myfyriwr) • Cymorth wrth gynllunio a threfnu llety yn ystod y tymor ac adeg gwyliau • Gradd uchel o gyfrinachedd ar gyfer myfyrwyr o gefndir gofal o safbwynt y gwasanaeth a gynigir a threfniadau penodol • Arweiniad cyn mynediad gan Swyddog Gyrfaol a chymorth os oes angen yn ystod proses gwneud cais a mynediad y brifysgol • Y cynnig o fentor cyfoed i’ch helpu i ddod yn gartrefol yn ystod wythnosau cyntaf y tymor • Cymorth gyda gofal plant • Cefnogaeth wrth ddod o hyd i waith rhan-amser/gwaith yn ystod y gwyliau a chyda cynllunio gyrfa Llety 365 dydd

24

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


Prifysgol Glyndwˆr Wrecsam www.glyndwr.ac.uk DYFARNWYD MARC ANSAWDD BUTTLE UK Cyswllt a enwir ar gyfer plant yn derbyn gofal a’r rheini yn gadael gofal Beryl Dixon, Senior Student Advice and Guidance officer Ffôn 01978 293 547 E-mail b.dixon@glyndwr.ac.uk Gweithgareddau estyn allan gyda phlant yn derbyn gofal • Ymweliadau blas ar fywyd Prifysgol • Gweithgareddau cyn cyfnod y glas Mae’r cymorth a gynigir yn cynnwys • • • •

Cyngor ac arweiniad cyn gwneud cais Costau teithio ar gyfer cyfweliadau a dyddiau agored Dod o hyd i gymorth ariannol Dod o hyd i waith rhan amser

Llety 365 dydd Gwarentir llety ar hyd y flwyddyn gyfan i blant sy’n derbyn gofal a thros gyfnod eu hastudiaethau. Mentora Cyfoed Mae systemau mentora a ‘buddy’ ar gael. Cymorth Ariannol ychwanegol Mae bwrsariaeth o £1,000 y flwyddyn ar gael i blant sy’n derbyn gofal. Mae bwrsariaethau ac ysgoloriaethau ychwanegol ar gael yn unol â statws. Cymorth gyda gofal plant Disgownt o 15% ar gael i bob myfyriwr sy’n gymwys yn ein meithrinfa ar y campws. Mae opsiynau gofal plant eraill ar gael yn lleol. Cefnogaeth gyrfa Mae siop chwilio am waith a gwasanaeth gyrfaol ar gael ar y safle, hefyd Sparkz zone ar gyfer darpar entrepreneuriaid.

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

25


Prifysgol Fetropolitan Caerdydd (APCC gynt) www.cardiffmet.ac.uk DYFARNWYD MARC ANSAWDD BUTTLE UK Cyswllt enwedig am blant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal Emma Cook, Cynghorwr Cyllid a Lles Myfyrwyr Ffôn 029 2041 6170 neu 6333 E-bost financeadvice@cardiffmet.ac.uk neu welfareadvice@cardiffmet.ac.uk Gweithgarwch allgymorth gyda phlant sy’n derbyn gofal Mae’r Prosiect Campws Cyntaf ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd yn gweithio gydag Awdurdodau Addysg Lleol a Cholegau Addysg Bellach partner i ddylunio rhaglenni blaengar i godi dyheadau a hyder, ac i gyflwyno plant sy’n derbyn gofal i Addysg Uwch ac Addysg Bellach. Mae’r rhaglenni’n ysbrydoledig, yn heriol, ac yn gyffrous, ac maent yn galluogi pobl i barhau mewn addysg gyda chymorth i wneud dewisiadau gwybodus. Bu First Campus ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, mewn partneriaeth â Thîm Mentora Ieuenctid Cyngor Caerdydd a Choleg Caerdydd a’r Fro, yn cynnal peilot yn 2012, ac yn parhau i’w datblygu yn 2013. Mae’r rhaglen wedi’i hanelu at bobl ifanc sydd mewn gofal neu sydd mewn risg o fynd i ofal ac yn ymdrechu i’w helpu i gyflawni eu potensial, adeiladu hyder a hunan-barch ac ysgogi dyheadau tuag at Addysg Bellach ac Uwch. Mae’r rhaglen yn rhedeg dros gyfnod o bum mis ac mae’n cynnig cwrs 30 awr gan y Pacific Institute yn ogystal â phrofiad o’r Coleg a’r Brifysgol. Mae’r cwrs yn seiliedig ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd unwaith yr wythnos am ddwy awr ac yn rhoi’r cyfle i’r dysgwyr ennill credydau Agored Cymru hyd at Lefel 2 mewn hunan ganfyddiad, hunanhyder a gosod targedau. Mae’r Profiad o’r Coleg a’r Brifysgol yn cynnwys cyfle i ymweld â sefydliadau addysg bellach ac uwch, lle bydd y myfyrwyr yn rhoi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau’n ymwneud â’r cwrs sydd wedi’u llunio i roi mwy o ymwybyddiaeth iddynt o’r dewisiadau sydd ar gael ar lefel Addysg Bellach ac Addysg Uwch a’r llwybrau i gyrraedd yno. Mae’r cymorth a ddarperir i’r rhai sy’n gadael gofal yn cynnwys • • • • • • •

Cyngor a chyfarwyddyd cyn cyflwyno cais Cysylltir â myfyrwyr ar yr adeg y maent yn cyflwyno eu ceisiadau i gyflwyno’r ymgynghorydd a’r gwasanaeth Costau teithio ar gyfer cyfweliadau a diwrnodau agored Cyfarfod cyn-fynediad Dod o hyd i gymorth ariannol Dod o hyd i waith rhan amser os oes angen (gyda chefnogaeth Gwasanaethau Datblygu Gyrfa) Cymorth parhaus ar ôl cofrestru (os oes angen)

Llety 365 diwrnod Gwarant o lety mewn preswylfeydd y Brifysgol am hyd y cwrs. Cymorth ariannol ychwanegol Bwrsariaeth i’r rhai sy’n gadael gofal - yn agored i fyfyrwyr dan 25 oed, ac mae’n rhaid darparu manylion llawn am weithiwr gofal neu weithiwr achos y myfyriwr (gweler www.cardiffmet.ac.uk/bursaries am fanylion llawn y telerau a’r amodau). Uchafswm y fwrsariaeth yw £1,000 y flwyddyn. Mae’r rhai sy’n gadael gofal yn flaenoriaeth ar gyfer Cronfa Ariannol Wrth Gefn y Brifysgol. Cymorth gyda gofal plant Mae grantiau gofal plant ar gael. Mae’n bosibl y bydd cymorth ychwanegol ar gael o Gronfa Ariannol Wrth Gefn y Brifysgol.

26

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


Prifysgol Morgannwg www.glam.ac.uk/care DYFARNWYD MARC ANSAWDD BUTTLE UK Cyswllt a enwir ar gyfer plant yn derbyn gofal a’r rheini yn gadael gofal Jennifer Afia Ffôn 01443 482795 E-bost jcafia@glam.ac.uk Gweithgareddau estyn allan gyda phlant yn derbyn gofal • Cydweithio â phartneriaid i sicrhau bod plant sy’n derbyn gofal yn cael eu targedu i’w cynnwys mewn gweithgareddau meithrin hyder i lwyddo a gynigir gan First Campus megis diwrnodau Ace, gweithdai carwsél ac ysgolion haf • Cydweithio’n agos gyda’r Awdurdod Lleol i sicrhau bod cefnogaeth ar gyfer mynediad i Addysg Uwch yn rhan o Gynllun Llwybr yr unigolyn lle mae hynny’n addas Cymorth a gynigir yn cynnwys • Cyngor ac arweiniad cyn gwneud cais • Dod o hyd i gefnogaeth ariannol • Dod o hyd i waith rhan amser Llety 365 dydd Caiff y rhai sy’n gadael gofal flaenoriaeth wrth ddosbarthu llety yn y brifysgol gydag ymrwymiad i ddarparu llety ar hyd y flwyddyn gyfan lle mae hynny’n addas, ac ar gyfer hyd y cwrs cyfan. Cymorth ariannol ychwanegol Mae Cronfa Ariannol Wrth Gefn y brifysgol yn trin y rhai sy’n gadael gofal fel grwˆp blaenoriaeth a gallai gynnig grant ychwanegol i chi i helpu gyda chostau eich astudiaethau. Fodd bynnag, nodwch, os gwelwch yn dda, bod y Gronfa hon yn gyfyngedig a rhaid gwneud cais ar y cyfle cyntaf posibl. Cymorth gyda gofal plant Gall Cronfa Ariannol Wrth Gefn y brifysgol gynnig help hefyd. Cysylltwch â Gwasanaeth Arian Myfyrwyr ar money@glam.ac.uk neu 01443 483778. Os ydych yn eich cefnogi’ch hun drwy gydol eich astudiaethau, gall swydd ran-amser roi bach mwy o ddiogelwch ariannol i chi. Gall ein Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd eich helpu i ddod o hyd i waith dros dro a gwaith rhan-amser yn ystod y tymor a’r gwyliau. Os ydych am roi hwb hollbwysig i’ch CV, mae’r cynghorwyr hefyd yn gallu’ch helpu i ddod o hyd i leoliadau gwaith addas mewn maes gwaith sydd o ddiddordeb i chi.

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

27


Y Brifysgol Agored yng Nghymru (OuiW) www.open.ac.uk Cyswllt ar gyfer plant yn derbyn gofal a’r rheini’n gadael gofal: Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr ar 02920 47 1170 www.wales.open.ac.uk Gweithgareddau estyn allan gyda phlant yn derbyn gofal Mae’r BA yng Nghymru yn hapus iawn i drefnu sesiynau gwybodaeth estyn allan i roi gwybodaeth i Dimau Gadael Gofal am y posibiliadau a’r cyfleoedd sydd gan y Brifysgol Agored i gynnig i fyfyrwyr. Mae’r cymorth sydd ar gael i’r rhai yn gadael gofal yn cynnwys: • Sesiynau gwybodaeth i roi Cyngor ac Arweiniad i Dimau Gadael Gofal • Cyngor ac arweiniad cyn cofrestru i ddarpar fyfyrwyr • Hepgoriadau Ffioedd – mae nifer o gyrsiau’r BA yn rhad ac am ddim i bobl sy’n derbyn budd-daliadau arbennig neu’n ennill incwm isel www.openuniversity.co.uk/now Mentora Cyfoed Cefnogir Myfyrwyr y BA yng Nghymru gan diwtoriaid a thîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn swyddfa’r BA yng Nghaerdydd. Yn ogystal â hyn mae ein tiwtorialau cwrs, fforymau a chynadleddau ar-lein hefyd yn hyrwyddo mentora cyfoed. Cefnogaeth Ariannol ychwanegol: Yn ychwanegol mae’r grantiau canlynol ar gael i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru, sy’n astudio yn rhan amser ar gyfer cymhwyster israddedig sydd o werth o leiaf 30 o bwyntiau credyd, ac nad ydynt eisoes wedi derbyn cymhwyster gradd a’u hincwm teuluol yn llai na £28,180: Grant ffioedd – tuag at ffioedd cwrs. Hyd at £670/1000 yn dibynnu ar faint o bwyntiau sy’n cael eu hastudio. Grant cwrs – i dalu am unrhyw gostau ynghlwm wrth astudio, e.e. Cyfrifiadur, mynediad i’r We, teithio yn ôl ac ymlaen o diwtorialau. Hyd at £1125. Cymorth Gofal Plant Mae’r BA yng Nghymru yn cynnig Grant Gofal Plant.

28

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


Gwneud Cais am Gyrsiau AU Tudalen 29

Beth yw UCAS? Rhaid i bob cais ar gyfer cyrsiau AU fynd trwy UCAS (University and Colleges Admission Service). Golyga hyn bod rhaid i chi wneud cais trwy UCAS pa bynnag brifysgol neu gwrs yr hoffech astudio.

Tariff UCAS – beth yw hi a sut mae’n gweithio? • Tariff UCAS yw’r system bwyntiau a ddefnyddir i gynorthwyo Sefydliadau Addysg Uwch i drosglwyddo cymwysterau a chyflawniadau yn system rifol • Mae’n helpu wrth gymharu gwahanol fathau o gymwysterau yn deg, ac yna wrth gymharu ymgeiswyr yn deg • Gellir cyfrifo cyfanswm y pwyntiau o wahanol gymwysterau a gynhwysir yn y tariff • Nid oes cyfyngu ar y nifer o bwyntiau y gellir eu casglu • Nid yw rhifo dwbl yn digwydd – ni all ymgeiswyr gyfrif yr un cymhwyster neu gymhwyster tebyg ddwywaith • Rhoddir pwyntiau am sgiliau allweddol hefyd

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

29


Tariff UCAS Cymwysterau TGAU

TGAU UG/UG VCE

TGAU Lefel A/ AVCE

BTEC Cenedlaethol

AVCE Dyfarniad Dyfarniad dwbl

Tystysgrif

CACHE Diploma

Diploma

Theori

Ymarferol

Diploma mewn Astudiaethau Sylfaenol (Celf a Dylunio)

Sgiliau Allweddol

DDD

360

DDM

320 Distinction

285

DMM AA

DD

MMM

280 A

240 Merit

225

AB

220

BB

DM

MMP

B

200

BC

180 Pass

CC

MM

MPP

165

C

160

CD A

DD

B

DE

Pwyntiau

140 D

MP

PPP

D

A

120

B

100 90

C

EE

M

PP

E

C

80 77 72 71 64

A

D

60 58 52

B

50 48 45

C

E

P

E

40 39 38 35 33

D

Lefel 4

30 28 26

E

Lefel 3

20 17 14 13

Lefel 2

30

10

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


UCAS Gwneud cais Mae’r ffurflen gais bellach ar-lein, ni ddefnyddir y ffurflen bapur bellach. Mae’r ffurflen ar-lein yn ddiogel heb angen lawrlwytho na gosod. Nid oes rhaid i chi gwblhau’r ffurflen i gyd ar un tro. Wedi cofrestru, gallwch fewngofnodi o’ch cartref neu ble bynnag i newid y ffurflen cyn anfon y fersiwn derfynol. • Efallai bydd eich ysgol neu goleg yn cynnal gwersi/gweithdai penodol i’ch cynorthwyo gyda’ch cais UCAS – awgrymir eich bod yn mynychu’r rhain • Mae gweithiwr cymdeithasol neu gynghorydd gyrfa ar gael bob amser i’ch cynorthwyo gyda chais UCAS

Y ffurflen gais ar-lein • Y ffi am ymgeisio yn 2012/13 yw £22.00 am 5 dewis neu £12.00 am 1 dewis – bydd llawer o awdurdodau lleol yn talu hyn drosoch. Gofynnwch i’ch gweithiwr cymdeithasol • Dim ond un ffurflen UCAS sydd raid i chi ei llenwi – byddwch yn rhoi eich dewisiadau i gyd ar un ffurflen • Mae’r ffurflen ar-lein yn nodi unrhyw elfennau y byddwch wedi eu methu cyn i chi ei hanfon • Rhaid i’r ffurflen orffenedig gyrraedd UCAS rhwng 1af Medi a’r 15fed Ionawr pryd y bydd gwarant o ystyriaeth gyfartal yn bodoli • Mae dyddiadau cau gwahanol ar gyfer rhai cyrsiau, gan gynnwys celf a dylunio a meddygaeth, felly cymerwch olwg ar www.ucas.com/students/applying/whentoapply • Rhaid i’r geirda gael ei gwblhau gan eich ysgol neu goleg YN UNIG • Gall ymgeiswyr ddefnyddio’r ucastrack i wirio cynnydd eu cais wedi iddo gael ei anfon i weld pa brifysgolion neu golegau sydd wedi gwneud penderfyniad Bydd y llythyr croeso o UCAS yn rhoi eich cyfrinair unigryw i chi i gael mynediad i ucastrack ac ucasextra Cwblhau’r ffurflen ar-lein (Gwneud Cais) • Gwnewch yn siwˆr bod darn o bapur a phen gennych wrth law • Wedi cwblhau pob tudalen, gwasgwch ‘nesa’ lle bydd yn ymddangos • Ar y ffurflen mae gwasgu’r botwm ‘enter/return’ yn gallu dileu’r wybodaeth rydych newydd ei osod I gofrestru: • • • • •

• • • • • • • •

Mewngofnodwch i www.ucas.com a chlicio ‘Apply’ Cliciwch ar fewngofnodi myfyrwyr a chliciwch ar cofrestru Darllenwch y telerau ac amodau gan dicio i gytuno Dewiswch y man lle rydych chi’n cofrestru Os nad ydych mewn ysgol neu goleg, yna gallwch wneud cais fel ‘unigolyn’ trwy ddewis y linc ‘mewngofnodi myfyriwr’. Gofynnir nifer o gwestiynau i chi a bydd angen i chi ddarparu geirda gan rywun sydd yn gwybod am eich addasrwydd ar gyfer addysg uwch Teipiwch y ‘buzzword ‘(holwch eich coleg/ysgol os ydych chi’n ymgeisio cofrestru yn eu henw nhw) Dilynwch y cyfarwyddiadau i gofrestru eich manylion personol (enw ac ati) Dewiswch gyfrinair a chofnodwch gwestiwn diogelwch Cliciwch anfon a byddwch yn derbyn eich enw defnyddiwr Gwnewch nodyn o’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Gofynnir i chi i fewngofnodi. Bydd hyn yn eich arwain i’ch cais unigol chi lle bydd rhaid i chi gwblhau 5 adran Gallwch gwblhau’r adrannau mewn unrhyw drefn gan wneud newidiadau unrhyw bryd cyn anfon y ffurflen Unwaith i chi gwblhau pob adran, bydd gofyn i chi wneud taliad am eich cais – gwiriwch sut y telir hyn gyda’ch sefydliad, ac yna anfonwch eich ffurflen i’ch canolwr i’w gwirio. Pan fyddant wedi ychwanegu eich geirda byddant yn anfon eich cais at UCAS

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

31


Amdanoch chi Yn yr adran gwybodaeth ychwanegol ar eich ffurflen UCAS gofynnir i chi a fuoch yn derbyn gofal. Bydd hyn yn rhoi ymwybyddiaeth i’r prifysgolion yr ydych yn dymuno eu mynychu eich bod wedi gwneud cais ac yn gwneud yn siwˆr bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i’ch anghenion a bod cefnogaeth addas yno ar eich cyfer pan fyddwch yn dechrau yno.

Gall cefnogaeth gynnwys; • • • • • • • • •

Cymorth wrth wneud cais i Brifysgol Cymorth ariannol wrth fynychu dyddiau agored Cynlluniau arbennig ar gyfer y rheini sy’n gadael gofal Cymorth wrth wneud cais am gefnogaeth ariannol oddi wrth gwmnïau benthyg arian trwy eich awdurdod lleol Rhoi blaenoriaeth i fwrsarïau a grantiau ychwanegol Llety ar hyd y flwyddyn gyfan Cyswllt wedi ei enwi ar gyfer cefnogaeth i bob agwedd o fywyd prifysgol Cymorth gyda gofal plant wrth astudio Cymorth i ddod o hyd i waith ran amser a chynllunio gyrfa

Nid yw datgan eich bod mewn gofal ar eich ffurflen UCAS yn golygu bod myfyrwyr eraill neu eich tiwtoriaid neu ddarlithwyr yn gwybod hynny. Bydd, fodd bynnag, yn sicrhau bod yr holl gefnogaeth y mae hawl gennych iddi yn cael ei chynnig i chi pe byddech yn dewis derbyn y cyfan, peth ohoni neu ddim. Perchir eich hawliau a’ch cyfrinachedd bob amser.

Beth sy’n digwydd i’r cais nesa? Unwaith bydd eich canolwr wedi anfon eich cais, yna derbyniwch gydnabyddiaeth gan UCAS. Mae UCAS wedyn yn anfon copi o’ch ffurflen i bob prifysgol neu goleg y gwnaethoch gais atynt ac yna gwna’r rheini eu penderfyniad: 1) Gallech dderbyn Cynnig Amodol (C) – a fydd yn nodi pa raddau sydd raid ei chi eu hennill i gael eich derbyn 2) Gallech dderbyn Cynnig Diamod (U) – mae’r graddau sydd angen gennych yn barod 3) Gallech gael eich gwrthod (r) gan y brifysgol neu’r coleg sy’n golygu nad ydynt yn cynnig lle i chi • Byddwch yn derbyn gwybodaeth oddi wrth UCAS ar ucastrack – mae’r gwasanaeth hwn yn eich galluogi i ddilyn eich cynigion ar-lein gan roi dyddiadau i chi erbyn pryd y dylech ateb y cynigion • Bydd UCAS yn anfon manylion eich cynigion fel y derbyniant hwy – gallai hyn fod unrhyw bryd hyd at ddiwedd Mai trwy ucastrack • Ni allwch ymateb i unrhyw gynnig hyd nes y byddwch wedi derbyn pob un Derbyn Cynigion • Pan fyddwch wedi derbyn pob penderfyniad oddi wrth y prifysgolion/colegau, bydd UCAS yn anfon (Llythyr Datganiad Penderfyniadau’ i chi gyda chyfarwyddiadau ar sut i ateb y cynigion (hefyd trwy ucastrack) • Byddwch hefyd yn derbyn dyddiad erbyn pa bryd y mae’n rhaid i chi ateb UCAS – rhaid i chi sicrhau eich bod yn ateb erbyn y dyddiad hwnnw oherwydd gall y prifysgolion dynnu eu cynnig yn ôl • Gofynnir i chi ddewis dau gynnig – un cynnig cadarn (CF) fel eich dewis cyntaf a chynnig yswiriant (CI)- mae hyn rhag ofn na fyddwch yn ennill y graddau sydd angen ar gyfer eich dewis cyntaf • Os nad oes gennych gynigion yna mae dwy system bellach ar agor i chi – • ucasextra – system newydd sy’n rhoi dewis arall i chi trwy UCAS • Clirio – gwasanaeth UCAS sy’n helpu pobl i ddod o hyd i leoedd gwag ar gyrsiau addysg uwch

32

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


• Unwaith y cyhoeddir canlyniadau arholiadau bydd y sefydliadau yn gwneud eu penderfyniadau terfynol ynghylch ymgeiswyr sydd wedi derbyn Cynnig Amodol trwy gymharu’r canlyniadau â’r cynnig a wnaed • Yna maen nhw’n rhoi gwybod eu penderfyniad i UCAS ac mae UCAS yn anfon y cadarnhad o gynigion i ymgeiswyr llwyddiannus a manylion i ymgeiswyr aflwyddiannus 1) ucasextra • Os nad ydych yn derbyn cynnig ac wedi defnyddio eich pum dewis eisoes, gallwch ddefnyddio ucasextra i gael dewis ychwanegol trwy UCAS • Does dim rhaid i chi aros tan Clirio oherwydd mae ucasextra yn gweithredu o ganol Mawrth hyd ddiwedd Mehefin Bydd y prifysgolion yn rhestru eu lleoedd gwag ar wefan UCAS (ar wasanaeth ucascourse) neu gallwch gysylltu â’r brifysgol/coleg yn uniongyrchol • Bydd UCAS yn rhoi gwybod i chi os ydych yn gymwys ar gyfer y system hon pan fyddant yn cysylltu trwy’r llythyr penderfyniad terfynol • Dilynwch y cyfarwyddiadau a roddir ar y wefan yn ofalus • Os ydych yn derbyn cynnig, yna dewiswch naill ai ei dderbyn neu ei wrthod 2) Clirio • Y llynedd daeth y system glirio o hyd i leoedd i fwy na 38,000 o bobl • Os ydych yn gymwys ar gyfer Clirio, anfonir Ffurflen Mynediad Clirio (CEF) yn awtomatig i chi – fodd bynnag nid oes rhaid i chi aros am hon cyn ffonio prifysgolion • Bydd rhestr o gyrsiau â lleoedd gwag yn cael eu cyhoeddi ar wefan UCAS ac yn ‘The Independent’,’ The Independent on Sunday’ a ‘The Mirror’ o ganol Awst tan ddiwedd Medi • Unwaith i chi ddod o hyd i gwrs, cysylltwch â’r brifysgol neu’r coleg i weld a fyddant yn eich derbyn • Os ydych yn derbyn lle trwy clirio, yna anfonir llythyr o gadarnhad atoch yn awtomatig oddi wrth UCAS

Datganiad Personol UCAS Nid ystyried cymwysterau yn unig a wna Tiwtoriaid Derbyn, maen nhw am wybod amdanoch chi a pha ddiddordebau eraill sydd gennych. Mae’r wybodaeth yn eich datganiad personol yn rhoi’r cyfle i chi greu argraff sydyn. Mae’n cefnogi eich rheswm dros wneud cais ac yn rhoi cyfle i chi esbonio eich gobeithion am yrfa. Efallai na chewch gyfweliad felly bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddweud pam yr ydych ym ystyried eich hun yn addas i ddilyn y cwrs. Ystyriwch gynnwys y canlynol • • • • • • • • • •

Eich rhesymau dros ddewis y cwrs Eich cynlluniau ar ddiwedd y cwrs – sut fyddwch yn defnyddio eich gradd Profiad perthnasol a gawsoch eisoes Diddordebau, cyflawniadau, sgiliau a galluoedd (Dug Caeredin ac ati) Unrhyw ymrwymiad mewn cynlluniau i ehangu gorwelion, megis ysgolion haf, gweithgareddau mentora Teithio annibynnol Swyddi o gyfrifoldeb sy’n dangos sgiliau cyfathrebu da Unrhyw swydd, profiad gwaith, gwaith gwirfoddol a wnaed sy’n berthnasol i’ch cwrs Eich diddordebau o ran chwaraeon Os ydych yn gohirio mynediad, dwedwch sut y bwriadwch dreulio eich blwyddyn gap

Egwyddorion allweddol • Ystyriwch yr argraff yr ydych am ei greu • Gwnewch yn siwˆr bod eich datganiad yn berthnasol i bob opsiwn ar eich cwrs • Trefnwch eich gwybodaeth yn dda

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

33


• Cofiwch bydd yr hyn a ysgrifennwch yn cael ei drafod mewn cyfweliad – felly ysgrifennwch ond am y pethau hynny y byddech yn barod i’w trafod • Peidiwch ag ailddweud gwybodaeth sy’n ymddangos mewn man arall yn y ffurflen • Byddwch mor gadarnhaol a gonest ag y gallwch • Gwiriwch y sillafu a’r gramadeg • Peidiwch â defnyddio geiriau hir na wyddoch eu hystyr – gallent ofyn i chi amdanynt yn y cyfweliad! • Gofynnwch am farn arall – gofynnwch i’ch tiwtor, cynghorydd gyrfaol neu weithiwr cymdeithasol i wirio • Cadwch lungopi ohono – darllenwch ef i’ch atgoffa cyn mynd i gyfweliad Pethau i’w hosgoi • • • •

Cyswllt gwael rhwng cwrs AU a phrofiadau cyfredol Cyflwyniad esgeulus – camgymeriadau sillafau/gramadeg Gormod o hobïau digyswllt Rhestru eitemau

Gallwch ddefnyddio hyd at 4,000 o lythrennau, yn cynnwys bylchau, ar gyfer eich datganiad personol neu 47 llinell o destun (yn cynnwys llinellau gwag), pa un bynnag a ddaw gyntaf. Does dim rhaid i chi ddefnyddio’r holl ofod a ddarperir. Wrth gadw’r testun, bydd y system yn rhoi gwybod faint o lythrennau sy’n dal i fod gennych heb eu defnyddio, neu os ydych wedi defnyddio gormod. Gallwch weld eich datganiad wedi i chi ei gadw. Ni allwch ddefnyddio llythrennau bras, italig na thanlinellu. Paratowch eich datganiad personol all-lein mewn pecyn prosesu geiriau a chopïwch a gludwch e i mewn i i system ymgeisio UCAS, gan y bydd UCAS yn cau i lawr ar ôl 35 munud o anactifedd. Defnyddiwch gyfrif geiriau i gadw golwg ar y nifer o lythrennau a ddefnyddiwyd gennych. Paratoi • Dechreuwch gyda thudalen lân o bapur – ysgrifennwch i lawr geiriau digyswllt neu frawddegau ynghylch eich cynlluniau ar gyfer gyrfa, diddordebau astudio, profiad gwaith, dylanwadau, personoliaeth, diddordebau • Gwnewch yn siwˆr fod pob dim yn berthnasol • Trefnwch yr wybodaeth mewn modd rhesymegol • Defnyddiwch baragraffau clir • Byddwch yn onest • Cydweithiwch gyda ffrindiau – darllenwch ddrafftiau eich gilydd – cyfnewidiwch syniadau

34

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


Dim Cynnig Ailfeddwl Ceisio Cyngor - Athrawon, Tiwtoriaid, 16+ LLWYBR 1 - Ailsefyll • Ysgol • Coleg AB • Tiwtor/Astudio Preifat

Ail geisio i UCAS

LLWYBR 2 - Ailsefyll • HND • Dip AU • Gradd Sylfaenol

Posibilrwydd o newid i ail flwyddyn gradd/ cwrs uwchraddedig wedi profiad perthnasol

LLWYBR 3 - Gwaith • Gyda hyfforddiant • Heb hyfforddiant • Hunangyflogedig

Fel myfyriwr aeddfed

LLWYBR 4 - Blwyddyn mas

• • • •

Gwaith gwirfoddol Teithio Profiad Gwaith Diweithdra

Ail ymgeisio i UCAS

ADDYSG UWCH Y datganiad personol yw, siw ˆ r o fod, yr adran bwysicaf o’r ffurflen UCAS – dyma’r unig ddarn ar y ffurflen lle cewch gyfle i werthu eich hun.

Cyfweliadau Pan fo sefydliad yn didoli ffurflenni cais, penderfynant dderbyn, cynnig cyfweliad, gwahodd i ddydd agored neu wrthod yr ymgeisydd • O bryd i’w gilydd bydd angen cyfweliadau pan fo’r cwrs yn un cystadleuol iawn, pan fo myfyriwr yn cynnig cymwys-terau arall, pan fo cwrs yn ymarferol neu pan fo personoliaeth yn bwysig – e.e. dysgu neu waith cymdeithasol • Mae gan bob sefydliad ei bolisi ei hun ynghylch cyfweld a gallant newid o flwyddyn i flwyddyn yn dibynnu ar nifer yr ymgeiswyr • Mae ymgeiswyr ar gyfer iechyd, Saesneg, bioleg, daearyddiaeth a chyrsiau creadigol yn debygol o gael cyfweliad • Mae UCAS yn annog cyfweliadau • Mae siawns y byddwch yn cael un cyfweliad o leiaf – gall fod yn un i un, panel yn cyfweld neu ymarfer grw ˆp – • Bydd ymgeiswyr am y celfyddydau perfformio fel arfer yn cael clyweliad, gall ymgeisydd mathemateg gael problem i’w datrys. Gall ymgeiswyr llefaru orfod ysgrifennu traethawd byr, bydd ymgeiswyr arlunio a dylunio yn gorfod dangos portffolio

Paratoi ar gyfer cyfweliad • Gall paratoi wneud gwahaniaeth mawr i’ch cyfweliad • Ewch â chopi o’ch ffurflen UCAS a darllenwch hi cyn y cyfweliad – canolbwyntiwch ar eich datganiad personol gan y gofynnir cwestiynau i chi am hwn • Darllenwch y prosbectws a manylion y cwrs • Gwisgwch yn daclus ond yn gyffyrddus

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

35


• Gwiriwch eich trefniadau teithio • Byddwch yn barod i ateb: • Pam wnaethoch chi ddewis y cwrs arbennig • Beth yw eich cynlluniau i’r dyfodol wedi graddio • Eich diddordebau, gwaith gwirfoddol a dyheadau • Yr hyn a allwch ei gyfrannu i’r cwrs a’r sefydliad • Cryfderau a gwendidau • Beth yw eich safbwynt chi ar ... • Paratowch rai cwestiynau i’w gofyn – am ddulliau asesu ac ati • Darllenwch lyfrau cefndir am eich pwnc Ambell gyngor • • • • •

Canolbwyntiwch ar y mater dan sylw ac atebwch y cwestiynau mewn ffordd glir Peidiwch ag ofni dweud ‘Wn i ddim’ Dangoswch fod gennych wir ddiddordeb yn eich pwnc Ceisiwch ymlacio a byddwch eich hun – a gwenwch! Gwnewch yn siw ˆr eich bod wedi tawelu eich ffôn symudol cyn y cyfweliad!!

Beth yw’r hyn y mae tiwtoriaid derbyn yn chwilio amdano? Hyder, personoliaeth ddymunol, cwrteisi, brwdfrydedd, gwir ddiddordeb, cymhelliant, potensial, ymrwymiad, dealltwriaeth, sgiliau cyfathrebu, mewnwelediad, meddwl annibynnol, gwybodaeth, profiad a’r gallu i ymateb a bod yn ddadansoddol • Gofynnant gwestiynau agored (e.e. Pam ydych chi am astudio’r pwnc hwn?) • Byddwch yn onest, cymrwch eich amser, dywedwch eich meddwl gan fod yn barod i gyfiawnhau eich safbwynt • Byddwch yn barod am gwestiynau anarferol (e.e. Beth yw’r peth mwyaf trawiadol i chi glywed yn y newyddion yr wythnos hon? Beth ydych chi’n gwybod am y Brifysgol hon?)

Dyddiau Agored Gall dydd agored gael sawl enw – cyfarfodydd cyflwyno, dyddiau ymweld, dyddiau agored, dyddiau i gynnig rhagflas neu ddyddiau rhagolwg. • Gall pob un o’r rhain feddwl rhywbeth gwahanol, felly dewch o hyd i’r ystyr yn gyntaf

Dyddiau cynnig rhagflas neu ddyddiau rhagolwg • Fel arfer wedi eu trefnu gan adrannau ar gyfer pynciau penodol yn y brifysgol, gan gynnwys areithiau am y rhaglenni sydd ar gael, gofynion mynediad a’r rhagolygon am yrfa • Taith o gwmpas yr adran a chyfle i gwrdd â myfyrwyr presennol • Ambell waith cyfle i flasu cwrs gan aros dros nos • Eich cyfle i wybod mwy am y cwrs, archwilio cyfleusterau a phrofi’r awyrgylch

Dydd agored, cyfarfod cyflwyno, dydd ymweld (ar gyfer y rheini a gawsant gynnig ar sail eu ffurflen UCAS) • • • • •

Cyfle i ofyn cwestiynau a sgyrsiau gyda chynrychiolwyr y myfyrwyr Gweld yr adrannau a chyfleusterau’r brifysgol Penderfynu ai hwn yw’r cwrs iawn ar eich cyfer chi Penderfynu a ydych am dderbyn y cynnig Nid prawf ar gyfer dewis pobl yw hwn

36

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


Cyllid AU Tudalen 37

Materion Ariannol Wrth astudio yn y brifysgol, bydd dau fath o gost gennych - eich ffioedd dysgu a’ch costau byw. Mae yna gymorth ar gael ar gyfer y ddau ar ffurf grantiau (arian nad oes rhaid ei chi ei dalu nôl) a benthyciadau (arian y bydd rhaid i chi ei dalu nôl). Mae’r swm y bydd gennych hawl iddo yn dibynnu ar: • • • •

Gost eich cwrs Ble yr ydych yn byw Ble yr ydych yn astudio Eich incwm teuluol

Gan nad yw lefelau cyllido 2013/14 wedi cael eu cadarnhau hyd yn hyn, mae’r ffigyrau a ddefnyddir yn yr adran hon yn seiliedig ar symiau cyllido blwyddyn academaidd 2012/13. Bydd gwybodaeth gyfredol ar gael ar www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk (os ydych yn byw yng Nghymru) neu www.gov.uk (if you live in England).

Ffioedd Dysgu Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2013/2014, uchafswm y ffioedd dysgu y gellid ei godi arnoch yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon yw £9,000. Bydd cost eich ffioedd dysgu yn dibynnu ar eich cwrs a’r sefydliad. Cysylltwch â’r brifysgol yr ydych wedi’i dewis am ragor o fanylion am lefel eu ffioedd. Er y gallwch ddisgwyl gwneud cyfraniad tuag at eich ffioedd dysgu, ni fydd rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd o flaen llaw. Bydd Cyllid Myfyrwyr Lloegr (os ydych yn byw yn Lloegr) yn darparu Benthyciad Ffioedd Dysgu sy’n cyfateb i’r swm a godir gan eich prifysgol. Byddwch yna’n gallu addalu’r swm hwn ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru (os ydych yn byw yng Nghymru) yn darparu Benthyciad Ffioedd Dysgu gwerth £3465 ynghyd â Grant Ffioedd Dysgu i dalu am y gwahaniaeth rhwng y ffigwr hwn a’r swm y mae eich prifysgol yn ei godi. Gallwch ad-dalu’r benthyciad ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau; nid oes rhaid ad-dalu’r grant. Gall myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru sy’n gymwys i dderbyn y grant ffioedd gael mynediad i’r grant p’un ai y maent yn dewis astudio yng Nghymru neu rywle arall yn y DU. Nid yw Benthyciadau Ffioedd Dysgu’n seiliedig ar brawf moddion. Mae hyn yn golygu nad yw’ch cymhwysedd yn seiliedig ar eich incwm cartref.

Gohirio eich Astudiaethau Gall myfyrwyr ohirio eu hastudiaethau er mwyn cymryd blwyddyn allan. Byddant yn amodol i gynllun ffioedd ac ariannu a fydd yn gymwys yn y flwyddyn y byddant yn cychwyn eu hastudiaethau.

Cyrsiau’r Adran Iechyd/Gwaith Cymdeithasol Os ydych yn dilyn hyfforddiant mewn meysydd penodol o Ofal Iechyd neu Waith Cymdeithasol, mae’n bosib y byddwch yn gallu cael bwrsariaeth drwy’r GIG/Cyngor Gofal Cymru i dalu eich ffioedd dysgu (naill ai’n rhannol neu’n llawn). Nid oes rhaid talu unrhyw fwrsariaeth a delir ar gyfer ffioedd yn ôl. Sylwer bod bwrsariaethau ar gyfer ffioedd

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

37


yn seiliedig ar nifer o ffactorau gan gynnwys ble yr ydych yn byw, pa gwrs yr ydych yn ei astudio a ble yr ydych yn astudio. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r brifysgol yr ydych wedi’i dewis. Cyrsiau a ariennir gan y GIG – Bydd cadarnhad o drefniadau ariannu ar gyfer 2012/13 ar gael yn www.nhsbsa.nhs.uk/students Cyrsiau Gwaith Cymdeithasol – Ar gyfer myfyrwyr o Gymru, gellir dod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf ynglyˆn ag ariannu yn www.ccwales.org.uk

Costau Byw Benthyciadau Costau Byw (Benthyciadau Cynhaliaeth) Mae benthyciadau ar gael i gynorthwyo gyda chostau byw, e.e. deunyddiau cwrs, llety, bwyd, dillad, teithio ayyb. Gallwch wneud cais am Fenthyciad Cynhaliaeth os ydych ar gwrs llawn amser, cwrs rhyngosod neu gwrs Dysgu Cychwynnol. Hyd yn oed os ydych wedi astudio mewn Addysg Uwch o’r blaen gall fod hawl gennych i ariannu ar gyfer cwrs pellach. Bydd eich Awdurdod Lleol (yng Nghymru) neu Gyllid Myfyrwyr Lloegr (yn Lloegr) yn rhoi gwybod i chi a ydych yn gymwys i gyflwyno cais am fenthyciad eto. I dderbyn benthyciad myfyriwr rhaid eich bod o dan 60 oed. Telir eich benthyciad fel arfer mewn tri rhandaliad, un ar ddechrau bob tymor, yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc (33% yn nhymor 1 a 2 a 34% yn nhymor 3). Bydd eich Awdurdod Lleol (os ydych yn byw yng Nghymru) neu Gyllid Myfyrwyr Lloegr (os ydych yn byw yn Lloegr) yn rhoi llythyr yn nodi amserlen talu i chi a fydd yn esbonio’r symiau sy’n daladwy i chi a phryd y’u telir. Mae’r swm y gallwch ei fenthyg yn dibynnu ar incwm eich cartref a lle yr ydych yn byw tra’ch bod yn Astudio. Yng Nghymru, mae 75% o’r benthyciad heb ei asesu ar incwm a 25% wedi’i asesu ar incwm. Yn Lloegr bydd 72% heb ei asesu ar incwm a 28% wedi’i asesu ar incwm. Mae hyn yn golygu y bydd cyfran y benthyciad a delir i chi’n dibynnu ar incwm eich cartref.

Cyfraddau Benthyg

Yr uchafswm sydd ar gael

Llundain

£6648

Mannau eraill yn y DU

£4745

Tramor

£5658

Byw gyda Rhieni

£3673

Sylwer bod y cyfraddau benthyg uchod yn ymwneud â myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru ac yn cynrychioli’r swm sydd ar gael i fyfyrwyr yn 2012/2013. Rhagwelir y bydd y symiau hyn yn newid ychydig yn unig ar gyfer myfyrwyr sy’n dechrau eu hastudiaethau yn 2013/2014. Os ydych yn byw yn Lloegr bydd y cyfraddau’n amrywio ychydig. Ewch i www.gov.co.uk neu cysylltwch â Chyllid Myfyrwyr Lloegr am ragor o wybodaeth. Mae swm y benthyciad sydd ar gael yn ddibynnu hefyd ar y swm a ddyfarnwyd gan Grant Dysgu’r Cynulliad (neu Grant Cynhaliaeth yn Lloegr). Bydd y rhan fwyaf o Bobl sy’n Gadael Gofal yn medru hawlio swm y Benthyciad Costau Byw yn LLAWN (llai unrhyw ddidyniad ar gyfer lefel Grant Dysgu’r Cynulliad neu Grant Cynhaliaeth) fel y nodir isod (ar gyfer blwyddyn academaidd 2012/2013). Ad-dalu eich Benthyciadau Unwaith i chi adael y brifysgol bydd angen i chi ad-dalu eich benthyciadau. Bydd y swm y bydd rhaid i chi ei ad-dalu bob mis yn dibynnu ar eich incwm. Mae myfyrwyr sy’n dechrau ar eu haddysg uwch yn 2013 yn dod dan delerau’r system ad-dalu newydd, sy’n golygu y bydd graddedigion yn talu cyfartaledd o £540 y flwyddyn yn llai na’r system

38

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


flaenorol. Yn achos y Benthyciad Ffioedd Dysgu a’r Benthyciad Costau Byw caiff llog ei osod ar gyfradd chwyddiant a 3% ar ben hynny tra’ch bod yn astudio a hyd at y mis Ebrill ar ôl i chi adael y Brifysgol. Mae swm y llog a godir unwaith yr ydych yn gweithio’n dibynnu ar faint yr ydych yn ei ennill. Os ydy’ch incwm yn newid, caiff eich taliadau eu haddasu’n awtomatig. Nid oes rhaid i chi dalu eich Benthyciad Ffioedd Dysgu na’ch Benthyciad Cynhaliaeth yn ôl hyd nes yr ydych yn ennill dros £21,000 y flwyddyn (cyn didyniadau). Caiff eich ad-daliadau eu tynnu o’ch cyflog bob mis yn awtomatig. Am ragor o wybodaeth ar gyfraddau llog a thariffau ad-dalu ewch i: www.gov.uk

Grantiau Os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru, gallech fod yn gymwys i dderbyn Grant Dysgu’r Cynulliad. Os ydych fel arfer yn byw yn Lloegr gallech fod yn gymwys am y Grant Cynhaliaeth. Grant Dysgu’r Cynulliad Mae Grant Dysgu’r Cynulliad yn darparu cymorth ariannol i helpu myfyrwyr o Gymru cwrdd â chostau byw cyffredinol ac mae’n cael ei dalu mewn tri rhandaliad, un ar ddechrau bob tymor, yn union fel eich Benthyciad Cynhaliaeth. Mae’r cyfanswm a dderbyniwch yn dibynnu ar eich incwm teuluol, a chaiff ei gyfrifo gan eich Awdurdod Lleol pan fyddwch yn gwneud eich cais. Bydd y rhan fwyaf o Bobl sy’n Gadael Gofal yn medru hawlio’r swm yn LLAWN sef £5,000 ar hyn o bryd. Os ydych yn gymwys i dderbyn Grant Dysgu’r Cynulliad, bydd rhywfaint o’r swm yr ydych yn gymwys amdano yn cael ei dalu i chi yn lle’r Benthyciad Cynhaliaeth yr ydych yn gymwys amdano. Golyga hyn na fydd rhaid i chi dalu yn ôl gyfran fwy o’r cymorth ariannol yr ydych yn ei dderbyn. Grant Cynhaliaeth Mae’r Grant Cynhaliaeth yn darparu cymorth ariannol i gwrdd â chostau byw cyffredinol myfyrwyr o Loegr ac fe’i telir mewn tri rhandaliad, un ar ddechrau bob tymor, yn union fel eich Benthyciad Costau Byw Myfyrwyr. Os ydych yn byw yn Lloegr, uchafswm y Grant Cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n preswylio yn Lloegr ar ar hyn o bryd yw £3250. Os ydych yn gymwys i dderbyn Grant Cynhaliaeth, bydd rhywfaint o’r swm yr ydych yn gymwys amdano’n cael ei dalu i chi yn lle’r Benthyciad Cynhaliaeth yr ydych yn gymwys amdano. Golyga hyn nad oes rhaid i chi dalu yn ôl gyfran fwy o’r cymorth ariannol yr ydych yn ei dderbyn. Sylwer: Mae’r trothwy incwm ar gyfer Grant Dysgu’r Llywodraeth (yng Nghymru) a’r Grant Cynhaliaeth (yn Lloegr) yn wahanol iawn. Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol (yng Nghymru) neu Gyllid Myfyrwyr Lloegr (yn Lloegr) am ragor o wybodaeth. Mae’r holl gymorth arall a amlygir isod ar gael yn Lloegr ac yng Nghymru. Grant Cymorth Arbennig Bydd rhai myfyrwyr yn gymwys ar gyfer Grant Cymorth Arbennig yn hytrach na Grant Dysgu’r Cynulliad neu Grant Cynhaliaeth. Byddwch yn gymwys os ydych dros 60, neu’n derbyn rhai mathau o fudd-daliadau Anabledd/Incwm. Os oes gennych blant dibynnol ac rydych heb bartner, neu os yw’ch partner yn fyfyriwr amser llawn gallech fod yn gymwys. Fel Grant Dysgu’r Cynulliad a’r Grant Costau Byw, nid oes rhaid ad-dalu’r Grant Cymorth Arbennig ac fe’i telir mewn tri rhandaliad. Nid oes unrhyw ostyngiad yn y Benthyciad Cynhaliaeth ar gyfer myfyrwyr sy’n derbyn y Grant Cymorth Arbennig.

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

39


Bwrsariaethau Mae’n bosib y byddwch yn gymwys am gymorth ariannol ychwanegol gan eich prifysgol neu eich coleg. Gall hyn fod yn fwrsariaeth neu’n ysgoloriaeth os ydych yn cwrdd ag amodau penodol a osodwyd ganddynt. Mae pob prifysgol yn cynnig symiau gwahanol ac mae gan bob un feini prawf gwahanol. Er enghraifft, mae Prifysgol Abertawe ar hyn o bryd (2012/13) yn cynnig Bwrsariaeth Rhagoriaeth o £3000 i fyfyrwyr sy’n ennill 3 gradd A ar lefel Safon Uwch (neu gyfwerth) a 5 gradd A/A* ar lefel TGAU (neu gyfwerth). Mae sawl prifysgol hefyd yn cynnig cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr o gefndiroedd incwm isel ar ffurf Bwrsariaethau yn Seiliedig ar Incwm. Fel enghraifft, ar hyn o bryd mae Prifysgol Abertawe’n darparu bwrsariaethau blynyddol o rhwng £1,000 a £3,000 i fyfyrwyr y mae incwm eu cartref yn is na £30,000. Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn darparu Bwrsariaethau Pynciau Blaenoriaeth i fyfyrwyr sy’n dewis astudio pwnc arbennig. Cysylltwch â’r coleg neu’r brifysgol yr ydych yn ei dewis a fydd yn gallu rhoi rhagor o fanylion i chi. Cymorth Ychwanegol Arall Cymorth i rieni – yn ogystal â’r cymorth ariannol a nodir uchod uchod, gall myfyrwyr sydd â phlant gael cefnogaeth ychwanegol ar sail prawf moddion. Mae’r rhain yn cynnwys Lwfans Dysgu i Rieni, Grant Oedolion Dibynnol (ar gyfer y rheiny sydd â phartner yn ddibynnol arnynt yn ariannol) a chymorth gyda gofal plant trwy Grant Gofal Plant (lle telir hyd at 85% o unrhyw gostau Gofal Plant cofrestredig). Cymorth i fyfyrwyr ag anableddau – Ar gyfer cymorth gyda chostau cwrs ychwanegol sy’n codi oherwydd eich anabledd. Nid yw’ch incwm cartref yn effeithio ar y swm a dderbyniwch o gwbl. Cymorth dewisol – Mae’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF) ar gael trwy brifysgolion a cholegau yng Nghymru a’r Gronfa Mynediad i Ddysgu (ALF) mewn sefydliadau yn Lloegr. Rhoddir blaenoriaeth i’r rhai sy’n gadael gofal ar gyfer y gronfa hon. Am ragor o wybodaeth ynghylch cymhwyster cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr y brifysgol yr ydych yn gwneud cais amdani. Budd-daliadau Lles - Gall myfyrwyr sydd â phlant neu sydd ag anabledd gadw eu hawl i fudd-daliadau arbennig megis Budd-dal Tai a Chymorth Incwm (cysylltwch â’r Asiantaeth Budd-daliadau am eglurhad pellach). Fel arfer, nid yw Cymorth i Fyfyrwyr yn effeithio ar Gredyd Treth Plant. Cyrsiau’r Adran Iechyd – Nid oes angen benthyciad ffioedd ar gyfer cyrsiau bwrsariaeth GIG gan fod y GIG yn talu’r holl ffioedd. Mae modd i fyfyrwyr wneud cais am Grant nad yw’n seiliedig ar brawf moddion o £1000, Bwrsariaeth sy’n seiliedig ar brawf moddion o hyd at £4,395 a Benthyciad Cynhaliaeth ar Gyfradd Ostyngol nad yw’n seiliedig ar brawf moddion o £2,324. Gall myfyrwyr hefyd fod yn gymwys i wneud cais am Lwfans Dibynyddion, Lwfans Gofal Plant a Lwfans Dysgu i Rieni, Grant Teithio a chymorth ychwanegol gyda chostau cwrs sy’n codi o ganlyniad i anabledd. Dylai myfyrwyr wneud cais am y Grant a’r Fwrsariaeth drwy Uned Ddyfarniadau’r GIG. Anfonir pecynnau ymgeisio atoch yn uniongyrchol. Gwneir cais am y Benthyciad i Fyfyrwyr drwy eich corff dyfarnu cyllid (eich Awdurdod Lleol ar gyfer myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru a Student Finance England ar gyfer myfyrwyr sy’n byw yn Lloegr). Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau ariannu ar gyfer 2013/2014 ar gael yn www.nhsbsa.nhs.uk/students . Mae p’un ai y mae myfyriwr yn gymwys i gael mynediad at y cymorth uchod neu beidio yn dibynnu ar natur y cwrs a’i (h)amgylchiadau unigol. Telir yr holl fwrsariaethau a delir gan y GIG yn fisol ac nid oes rhaid eu had-dalu. Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau eraill sydd ar gael – Gall fod sefydliadau a hyd yn oed gyflogwyr sy’n barod i gynorthwyo myfyrwyr. Ewch i www.scholarship-search.org.uk i weld yr hyn sydd ar gael.

40

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


Gwneud cais am gymorth ariannol I wneud cais am ariannu bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais (PN1), mae’r rhain ar gael fel arfer ym mis Chwefror/ Mawrth. Ni ddylech aros hyd nes bod gennych gynnig cadarn am le mewn prifysgol cyn gwneud cais am gymorth ariannol. Mae hyn yn osgoi unrhyw oedi wrth dderbyn pecyn Cyllid Myfyrwyr pan fyddwch yn dechrau ar eich cwrs.

Y Ffurflen Yng Nghymru byddwch yn gwneud cais am gyllid trwy eich Awdurdod Lleol (ALl). Byddant yn asesu eich hawl am Fenthyciad Ffioedd Dysgu, Grant Dysgu’r Cynulliad, Benthyciad Costau Byw, Bwrsariaethau ac unrhyw gymorth ychwanegol y mae gennych hawl iddo. Mae’r ffurflen gais (PN1) ar gael gan eich Awdurdod Lleol. Gallwch hefyd gael gafael ar y ffurflen trwy eich ysgol neu’ch coleg. Gellir gwneud ceisiadau ar-lein drwy www.studentfinancewales.co.uk Mae’n rhaid i Fyfyrwyr o Loegr wneud cais ar-lein i Gyllid Myfyrwyr Lloegr drwy www.direct.gov.uk Os ydych yn gwneud cais ar-lein neu ar bapur (myfyrwyr o Gymru yn unig) mae ambell i beth y dylech eu cofio: Gwneud cais ar-lein • Sicrhewch eich bod yn argraffu copi o’ch ffurflen gais wedi’i chwblhau cyn ei chyflwyno • Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol (yng Nghymru) neu Cyllid Myfyrwyr Lloegr (yn Lloegr) ychydig wythnosau cyn cyflwyno’r cais i wneud yn siwˆr ei fod ar ffeil • Os gofynnir i chi anfon dogfennau ychwanegol, gwnewch lungopi o bopeth yr ydych yn ei anfon a phostiwch y dogfennau fel dosbarthiad a gofnodwyd Gwneud cais ar bapur (Myfyrwyr o Gymru yn unig) • Sicrhewch fod yr holl adrannau sy’n berthnasol i chi wedi’u llenwi a bod y dystiolaeth ddogfennol berthnasol hefyd wedi’i darparu • Gwnewch yn siwˆr bod gennych gopi o’ch ffurflen gais orffenedig a’r dystiolaeth ddogfennol cyn i chi ei chyflwyno • Wrth bostio’r cais neu’r dogfennau ychwanegol, cofiwch eu hanfon fel dosbarthiad a gofnodwyd • Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol ychydig wythnosau ar ôl i chi gyflwyno’r cais i wneud yn siwˆr ei fod ar ffeil Cwblhau cais Mae gan y ffurflen sawl tudalen felly caniatewch ddigon o amser i’w llenwi – gwnewch yn siwˆr eich bod yn cwblhau’r holl adrannau cyn ei chyflwyno gan sicrhau bod y manylion canlynol gennych wrth law: • • • • •

Gwybodaeth bersonol (Tystysgrif Geni/Pasbort) Gwybodaeth am y Cwrs Manylion Yswiriant Gwladol Manylion Cyfrif Banc Gwybodaeth Ariannol

Cofiwch arwyddo’r ffurflen cyn ei dychwelyd a gwnewch yn siwˆr eich bod wedi cynnwys y dogfennau ychwanegol sydd eu hangen. Os ydych yn gwneud cais ar-lein bydd angen i chi hefyd gwblhau ffurflen ddatgan cyn bod arian yn cael ei ryddhau. Rhaid i chi sicrhau hefyd eich bod wedi rhoi awdurdod i’ch gwybodaeth gael ei rhannu gyda’r brifysgol o’ch dewis i sicrhau eich bod yn cael eich asesu ar gyfer unrhyw fwrsariaethau eraill sy’n daliadwy. Os na roddir awdurdod i rannu gwybodaeth ni thelir unrhyw fwrsariaethau.

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

41


Yng Nghymru gallwch ymweld â’ch Awdurdod Lleol i wirio’r ffurflen cyn ei chyflwyno. Fel arall, gallwch gysylltu â’r brifysgol yr ydych yn ei dewis a siarad â’i Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a fydd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau nad ydych yn siwˆr ohonynt. Asesu eich Cais Unwaith i’r Awdurdod Lleol (yng Nghymru) neu Gyllid Myfyrwyr Lloegr (yn Lloegr) dderbyn eich ffurflen, byddant yn asesu eich cais – gall hyn gymryd rhwng 6-10 wythnos felly gwnewch yn siwˆr eich bod yn cyflwyno’ch ffurflen mor fuan â phosib. Unwaith iddynt asesu eich cais byddwch yn derbyn llythyr (Hysbysiad Ariannol) yn dweud faint y mae gennych hawl iddo – gan gynnwys dadansoddiad o’ch Benthyciad Ffioedd Dysgu (a’ch Grant Ffioedd Dysgu, os ydych yn byw yng Nghymru), eich hawl i Fenthyciad Costau Byw, Grant Dysgu’r Cynulliad (yng Nghymru) neu’ch Grant Costau Byw (yn Lloegr) ac unrhyw grantiau arall yn seiliedig ar eich amgylchiadau. Byddwch yn derbyn 3 copi o’r llythyr hwn – RHOWCH Y LLYTHYRAU MEWN MAN DIOGEL gan y bydd eu hangen yn y dyfodol. Eich Arian Ar ôl i chi ymrestru/cofrestru ar eich cwrs, mae’n bosib y bydd angen i chi fynd â chopi o’ch llythyr Hysbysiad Ariannol gyda chi fel y gall eich prifysgol anfon cadarnhad o’ch presenoldeb i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC). Bydd angen i chi gasglu eich cerdyn adnabod prifysgol hefyd. Dylech dderbyn eich rhandaliad cyntaf tri diwrnod yn ddiweddarach. Os nad ydych wedi derbyn eich Benthyciadau a’ch Grantiau gallwch ymweld â Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yn eich prifysgol a fydd yn gallu ffonio’r SLC ar eich rhan i weld beth yw achos yr oedi. Mae’n bosib hefyd y bydd y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yn gallu darparu benthyciad dros dro i’ch helpu â chostau byw yn dibynnu ar y rheswm a hyd tebygol yr oedi. Telir y 2 randaliad sy’n weddill i chi dros weddill y flwyddyn academaidd – bydd yr union ddyddiadau wedi’u hargraffu ar eich rhaglen dalu gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Enghraifft Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd rhai sy’n gadael gofal yn derbyn yr uchafswm cyllid myfyrwyr. I roi syniad i chi o faint y bydd hyn gallwch gyfeirio at yr enghraifft Hysbysiad Ariannol (isod?drosodd?). Sylwer bod y symiau a nodwyd yn seiliedig ar yr uchafswm gyllid sydd ar gael ar gyfer Myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn academaidd 2012/2013. Nid yw’r symiau’n cynnwys unrhyw fwrsariaethau prifysgol/coleg. Caiff y bwrsariaethau hyn eu hasesu gan y brifysgol/coleg o’ch dewis.

42

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


Swm y Benthyciad Ffioedd Dysgu a geisir gan gynnwys Grant.

Ffioedd Dysgu a godir gan y Brifysgol/Coleg.

Eich atebolrwydd ar gyfer Ffioedd Dysgu. Os oes swm fan hyn mae fel arfer yn golygu naill ai eich bod neu dydych ddim yn gymwys ar gyfer y Benthyciad/Grant Ffioedd Dysgu neu nid ydych wedi gwneud cais amdanynt. Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol i wirio hyn.

Benthyciad wedi’i gymryd i ffwrdd ar gyfer elfen o Grant. Mae hwn wedi’i gymryd i ffwrdd fel bod llai gennych i’w ad-dalu ar ôl i chi adael.

Swm y Benthyciad yr ydych wedi ei geisio. Os yw hwn wedi’i osod ar sero naill ai nid ydych yn gymwys am Fenthyciad Costau Byw neu nid ydych wedi gwneud cais ar ei gyfer. Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol i wirio hyn. Swm Grant Dysgu’r Cynulliad – yn daliadwy mewn tri rhandaliad fel y Benthyciad Costau Byw.

Manylion eich cyfrif – Gwnewch yn siwˆr bod rhain yn gywir.

Dadansoddiad o’ch Cyllid Myfyriwr

Benthyciad nad yw’n seiliedig ar eich incwm cartref:

£2844.00

£1186.00

£3559.00

2012/13 7th August 2012

£6901

Y swm y byddwn yn ei dalu o chi:

£9000

Y swm y byddwn yn ei dalu’n uniongyrchol i’ch Prifysgol neu’ch Coleg:

Enw: Myfyriwr A Rhif Cwsmer: 12345678910 Prifysgol neu Goleg: PRIFYSGOL ABERTAWE Enw’r Campws: PRIFYSGOL ABERTAWE Cwrs: BA Hanes Blwyddyn y Cwrs: 1 Bydd angen i chi ad-dalu’r Benthyciad Ffioedd Dysgu a’r Benthyciad Cynhaliaeth.

£3465.00

Ffioedd Dysgu Cyfanswm Ffioedd Dysgu Grant Ffioedd Dysgu (Cymru) Benthyciad Ffioedd Dysgu i’w dalu i’ch Prifysgol neu’ch Coleg

£0.00

£9,000 £5535.00

Swm sydd angen i chi ei dalu i’ch Prifysgol neu’ch Coleg:

Adio’r Benthyciad yn seiliedig ar eich Incwm cartref:

Benthyciad Costau Byw

Llai’r Benthyciad a ddisodlir gan grant*:

£1901.00

£5000.00 £5000.00

£1901.00 £1901.00

Cyfanswm y Benthyciad sydd ar gael i chi: Benthyciad a geisir: Benthyciad sy’n daladwy i chi:

Grantiau Grant Dysgu’r Cynulliad: Cyfanswm y Grant:

Rhif Cyfrif ****1234

Telir eich Cyllid Myfyriwr i’r cyfrif Banc neu Gymdeithas Adeiladu canlynol:

Mae swm hwn eich Benthyciad Costau Byw wedi’i ddisodli gan Grant Ddysgu’r Cynulliad. Mae hyn yn golygu y bydd gennych llai o Gyllid Myfyrwyr i’w ad-dalu. Am ragor o wybodaeth ewch i www.studentfinancewales.co.uk

Cod Didoli 123456

Blwyddyn ariannu academaidd.

Dyddiad Asesu.

Eich Rhif Cwsmer unigryw – Mae angen hwn ar gyfer eich holl drafodaethau dros y ffôn felly cadwch hwn rhywle diogel.

Prifysgol/Coleg o’ch dewis – Gwnewch yn siwˆr bod hyn yn gywir i osgoi oedi wrth dalu Ffioedd.

Cwrs.

Blwyddyn y Cwrs – Os nad yw hyn yn gywir bydd angen rhoi gwybod i’ch Awdurdod Lleol o ‘Newid mewn Amgylchiadau’.

Cyfanswm Benthyciad/Grant Ffioedd Dysgu.

Cyfanswm y Benthyciadau a’r Grantiau ar gyfer Costau Byw.

^ r eich bod Gwnewch yn siw yn mynd â’r llythyr hwn gyda chi i gofrestru yn eich Prifysgol/Coleg. Bydd eich taliad cyntaf dim ond yn cael ei wneud ar ôl i’ch Prifysgol/Coleg gadarnhau eich presenoldeb.

43

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013


Proffesiynau Gofal Iechyd a Chyrsiau Hyfforddi Athrawon Mae nifer o gyrsiau proffesiynol Gofal Iechyd wedi’u hariannu’n llawn gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol tra bod rhai wedi’u hariannu’n rhannol gan y GIG a’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.* Os oeddech yn gymwys am Fenthyciadau Myfyrwyr yn ystod eich cwrs byddwch yn dilyn y camau ad-dalu a nodwyd yn flaenorol. Oes oeddech yn astudio cwrs a ariennir yn llawn gan y GIG, bydd mwyafrif y cyllid y byddwch yn ei dderbyn ar ffurf grant ac felly nid oes rhaid ei ad-dalu. I gael rhagor o wybodaeth am y math o gyrsiau y mae’r GIG yn eu hariannu, ewch i www.nhsbsa.nhs.uk/students *Nodyn pwysig: Gwnewch yn siwˆr eich bod yn ymwybodol o drefniadau ariannu diweddaraf y GIG ar gyfer 2013/14. Ewch i www.nhsbsa.nhs.uk/students am y wybodaeth ddiweddaraf. I’r rhai hynny sy’n dilyn Cyrsiau Hyfforddi Athrawon mae sawl cymhelliad ar gael – mae’n bosib y telir eich ffioedd dysgu a cheir ambell gynllun yn cynnig dyfarniadau o hyd at £5000. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Llinell Gwybodaeth i Athrawon ar 0845 6000 991.

I Ble mae’r arian yn mynd? Llety Bydd nifer o Wasanaethau Gadael Gofal yn talu am eich costau llety i gyd pan fyddwch yn astudio mewn addysg uwch (yn dibynnu ar o ble yr ydych yn dod - gwiriwch hyn gyda hwy). Mae’r costau’n amrywio’n sylweddol rhwng prifysgolion ac ardaloedd: gall costau rhent amrywio rhwng £50 - £120 yr wythnos. Fel arfer bydd myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn byw mewn Neuaddau Preswyl, lle y byddwch yn rhannu ystafell ymolchi a chegin. Mae prosbectysau/gwefannau’r Brifysgol yn darparu gwybodaeth ynghylch byw mewn llety a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl. Cewch gyfle hefyd i edrych ar lety’r brifysgol yn ystod Diwrnodau Agored. Gall y rhan fwyaf o Brifysgolion Cymru warantu llety i’r rhai yn gadael gofal dros 365 dydd y flwyddyn ar y campws ar gyfer eu blwyddyn gyntaf yn y brifysgol. Gwnânt eu gorau i sicrhau bod y math o lety yn addas i’ch gofynion, yn enwedig os ydych wedi arfer byw yn fwy annibynnol cyn dod i’r Brifysgol. Nodwch, os gwelwch yn dda, er mwyn gwarantu llety ar hyd y flwyddyn gyfan y gall Gwasanaethau Llety ofyn i’r rhai yn Gadael Gofal ar dro symud ystafell neu lety yn ystod y gwyliau. Gall unrhyw daliadau ychwanegol am rent yn ystod cyfnodau gwyliau (Nadolig/Pasg/ Haf) gael eu talu gan gymorth ariannol ychwanegol trwy bwrsariaeth Gadael Gofal - (gwiriwch hyn gyda’ch Adran Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yn y Brifysgol). Mae’n well gan rai myfyrwyr sy’n byw mewn llety hunan-arlwyo - fel arfer tyˆ sy’n cael ei rannu gyda myfyrwyr eraill. Bydd Swyddogion Llety yn y brifysgol a all eich helpu os ydych yn dewis yr opsiwn hwn. Mae gan rai prifysgolion dîm penodol sy’n rheoli tai preifat lleol ar ran landlordiaid lleol. Bydd y brifysgol a ddewiswch yn gallu darparu cyngor ac arweiniad am rentu preifat. Wedi i chi dderbyn eich canlyniadau Safon Uwch/BTEC/GNVQ ac ar ôl i chi gadarnhau eich lle yn y brifysgol, anfonir gwybodaeth a ffurflenni atoch i’w cwblhau ynghylch y llety sydd ar gael. Rhaid i chi ddangos y rhain i’ch Tîm Gadael Gofal a all eich helpu i dalu am gost y llety.

Costau Byw Eraill Bwyd Dyma, mae’n debyg, fydd eich cost fwyaf ar ôl eich taliadau rhent. Mae gan Neuaddau Preswyl yn y mwyafrif o brifysgolion ddewis o lety wedi’i arlwyo’n rhannol, sy’n cynnwys brecwast a chinio. Mae hyn yn sicrhau na fyddwch byth yn llwgu. Mae gan rai prifysgolion y dewis o wneud eich bwyd eich hun. Gall hyn fod yn ddrud iawn os ydych

44

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


yn dibynnu ar brydiau bwyd a baratowyd yn barod. Byddwch yn gyfrifol am gost eich bwyd i gyd mewn llety hunanarlwyo; fodd bynnag mae modd cadw’r costau hyn i lawr drwy baratoi a choginio eich prydiau bywyd eich hun. Bydd angen i chi wneud yn siwˆr bod eich taliadau benthyciadau/grantiau yn para cyfnod cyfan bob tymor a chyfnod y gwyliau. Peidiwch ag anghofio, pa bynnag lety yr ydych yn ei ddewis, bydd angen i chi hefyd gyllido am eitemau ymolchi, powdr golchi ayyb. Cymdeithasu/Adloniant Dangosodd arolwg a gynhaliwyd gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) yn 2008 fod myfyrwyr yn gwario hyd at £45 yr wythnos ar gymdeithasu. Gall hyn fod yn rhan fawr o’ch gwariant wythnosol, felly mae paratoi cyllideb dda yn gallu’ch cynorthwyo i reoli eich arian yn well. Gallwch ymweld â Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr eich prifysgol i dderbyn cyngor ar gyllido a sut i wario eich arian yn ddoeth. Cadw mewn cysylltiad Gall ffonau symudol fod yn gostus iawn i’w defnyddio, yn arbennig os ydych ar gytundeb drud. Cymharwch wahanol rwydweithiau/tariffau i ddod o hyd i’r fargen orau. Cofiwch pan fyddwch yn arwyddo cytundeb i dalu’n fisol, rydych yn glwm i’r ddêl honno am y cyfnod a nodir. Cofiwch hefyd fod gan rai ardaloedd fynediad cyfyngedig i’r rhwydwaith. Gall Talu wrth ddefnyddio fod yn opsiwn rhatach. Mae gan y mwyafrif o lyfrgelloedd mewn prifysgolion ddigon o gyfrifiaduron i fyfyrwyr eu defnyddio. Mae cynlluniau newydd i wneud llyfrgelloedd yn fwy hygyrch yn golygu bod cadw mewn cysylltiad drwy Skype, E-bost a Gwefannau Rhwydweithio Cymdeithasol yn haws ac yn rhatach nag erioed. Llyfrau/Offer/Llungopïo/Cyfrifiadur Wrth ddechrau ar eich cwrs efallai y byddwch yn derbyn rhestr o lyfrau i’w darllen ac offer angenrheidiol (os yw’n berthnasol). Gall rhestri darllen fod yn hir iawn felly mae’n syniad da adnabod pa destunau yw’r rhai allweddol y bydd angen i chi eu defnyddio’n aml ac felly y bydd angen i chi eu prynu, a pha destunau y gallwch eu benthyg o’r llyfrgell. Gallwch arbed arian hefyd drwy brynu llyfrau ail law oddi wrth fyfyrwyr sydd eisoes wedi gorffen eu cwrs. Ar gyfartaledd mae llyfrau yn costio £150 y flwyddyn. Byddwn yn argymell eich bod yn cyllido ar gyfer y ffigwr hwn fel lleiafswm. Gall offer cwrs arall ar gyfer pynciau’r celfyddydau/y gwyddorau gostio £40 - £60 y tymor ac ar gyfer cyrsiau meddygol hyd at £200 - £300. NID yw llungopïo yn y brifysgol yn rhad ac am ddim – gall hyn gostio £50 y flwyddyn a deunydd ysgrifennu arall gostio oddeutu £40 y flwyddyn. Mae rhai cyrsiau’n gofyn eich bod yn cwrdd â chostau rhwymo ar gyfer y gwaith yr ydych yn ei gyflwyno. Yswiriant Yn anffodus, mae lladron yn targedu llety myfyrwyr yn aml. Gwnewch yn siwˆr bod gennych bolisi yswiriant i dalu am eich eiddo personol tra’ch bod yn y brifysgol. Os ydych yn byw mewn neuaddau preswyl, gofynnwch i’r brifysgol o’ch dewis a yw yswiriant cynnwys wedi’i gynnwys yn eich taliadau rhent. Gwnewch yn siwˆr eich bod yn gwirio a yw eitemau megis ffonau symudol a gliniaduron wedi’u gwarchod rhag niwed/lladrad y tu allan i’ch ystafell. Os nad ydynt, efallai y bydd angen i chi brynu yswiriant ychwanegol. Trwydded Deledu Os oes gennych deledu neu os ydych yn defnyddio cerdyn teledu drwy gyfrifiadur personol mae’n rhaid bod gennych drwydded Deledu, p’un ai a ydych yn byw mewn neuaddau preswyl neu mewn llety preifat. Mae gan rai neuaddau drwyddedu ar gyfer setiau teledu mewn mannau cymunedol (gwiriwch i fod yn siwˆr) ond ni fydd hyn yn ddilys ar gyfer teledu yn eich ystafell. Os ydych yn byw mewn neuaddau preswyl a bod gennych deledu yn eich ystafell bydd angen eich trwydded unigol eich hun. Os ydych yn byw mewn tyˆ a rennir a’ch bod wedi arwyddo cytundeb tenantiaeth ar y cyd gyda’ch cydbreswylwyr,

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

45


mae’n bosib mai dim ond un Drwydded Deledu fydd ei hangen arnoch ar gyfer yr holl dderbynyddion teledu yn y tyˆ (gwiriwch hyn gyda’r cwmni Trwyddedau Teledu), os felly byddai’n syniad da rhannu’r gost. Os oes gan bob tenant gytundeb ar wahân mae’r gyfraith yn nodi bod angen trwydded ar wahân arnoch. Am ragor o wybodaeth ar Drwyddedau Teledu ewch i: www.tvlicensing.co.uk Teithiau Mae’n syniad da gael gwybod pa dripiau sy’n orfodol ar gyrsiau oherwydd gall y rhain gostio unrhyw beth rhwng £40 - £900 yr un. Gwnewch yn siwˆr eich bod yn gwirio gyda’ch adran cyn i chi gyrraedd fel bod modd i chi gyllido ar gyfer unrhyw gostau teithiau maes hanfodol. Dillad Mae cadw i gyllideb dynn yn golygu na all unrhyw fyfyriwr fforddio prynu llwyth o ddillad newydd. Edrychwch ar ôl y dillad sydd gennych drwy eu golchi a’u smwddio’n iawn. Mae hyn yn golygu y byddant yn para i edrych yn dda yn hirach. Chwiliwch am fargeinion mewn arwerthiannau ac ewch i siopau elusen. Teithio Yn ystod y tymor mae’n bosib y bydd rhaid i fyfyrwyr deithio cryn bellter rhwng darlithoedd mewn safleoedd gwahanol neu deithio o’r neuaddau preswyl i’r prif gampws. Gall y gost o wneud hyn fod yn gryn dipyn! Gallwch arbed arian drwy brynu tocynnau bws dyddiol, wythnosol, misol neu dymhorol. Gofynnwch am y tocyn sy’n siwtio’ch anghenion orau bob tro. Ymhellach, efallai y bydd rhaid i chi wario arian o bryd i’w gilydd i ymweld â ffrindiau a pherthnasau mewn mannau eraill. Yn yr achos hwn, archebwch eich tocynnau o flaen llaw a defnyddiwch eich Cerdyn Rheilffordd i arbed rhagor o arian. Eitemau ‘Dechrau’r Daith’ Yn dibynnu ar ba brifysgol y byddwch yn ei mynychu a’r llety yr ydych wedi’i drefnu, bydd angen i chi fynd ag ambell eitem bersonol gyda chi; dillad gwely, haearn smwddio, tegell, cloc larwm ac os ydych mewn llety hunanarlwyo efallai bydd angen platiau, tostiwr, cyllyll a ffyrc, sosbannau ayyb arnoch. Mae’n bosib y bydd eich Tîm Gadael Gofal yn rhoi cymorth i chi wrth brynu’r eitemau hyn ac wrth dalu amdanynt. Gallwch hefyd ymweld â’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yn eich prifysgol a gofyn am gymorth wrth brynu’r eitemau hyn (os nad yw eich Tîm Gadael Gofal yn gallu darparu cymorth). Sylwer bod gan bob prifysgol unigol reolau gwahanol ynglyˆn â gwneud ceisiadau i’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn (yng Nghymru) a’r Gronfa Mynediad i Ddysgu (yn Lloegr). Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r brifysgol o’ch dewis cyn i chi gyrraedd os yw’n bosib. Disgownt Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol (NUS) Unwaith i chi dderbyn eich cerdyn myfyriwr ac ymuno â chynllun yr NUS gallwch gael disgownt mewn amrywiaeth o lefydd - siopau dillad, siopau cerddoriaeth, cytundebau ffonau symudol, cyfrifiaduron, yn ogystal â disgowntiau ar deithio. Ble bynnag yr ydych yn siopa, gofynnwch a ydynt yn cynnig disgownt NUS - nid yw pob man yn hysbysu hyn felly mae’n werth gofyn!

46

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


Arbed Arian – Rhai o’n Hargymhellion Gorau! Defnyddiwch gynllun cyllido a chadwch ati! Ewch i’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yn eich prifysgol lle gallant eich helpu i baratoi cyllideb addas. Ar ddechrau bob tymor neilltuwch rywfaint o arian i dalu biliau. Gall fod yn syniad da cael cyfrif banc ar wahân (sydd heb orddrafft) y gallwch roi digon o arian ynddo i dalu eich biliau. Agorwch Gyfrif Banc i Fyfyrwyr â chyfleuster gorddrafft am ddim. Gobeithio na fydd angen i chi ei ddefnyddio - ond yn bendant, peidiwch â gorwario eich gorddrafft heb gytuno hyn gyda’ch banc o flaen llaw. Defnyddiwch y llyfrgell neu prynwch lyfrau ail-law. Peidiwch ag anghofio gallwch hefyd ymuno â’ch llyfrgell leol yn eich dinas neu’ch tref. Manteisiwch ar y disgowntiau a’r cynigion sydd ar gael i fyfyrwyr. Gall disgownt NUS roi gostyngiad o hyd at 10% mewn rhai siopau. Os nad ydych yn siwˆr a ydynt yn cynnig disgownt i fyfyrwyr, gofynnwch! Rhannwch y gost o wneud prydiau bwyd gyda’ch cydbreswylwyr – a’r golchi llestri! Ceisiwch osgoi prynu brechdanau a byrbrydau ar y campws a pharatowch ginio blasus i’ch hun – gall hyn arbed hyd at £200 i chi bob tymor! Paratowch restr siopa a chadwch ati. Yn yr un modd, peidiwch â mynd i siopa am fwyd pan rydych yn llwgu! Byddwch yn sicr yn prynu mwy nag sydd ei eisiau! Gwnewch yn siw ˆ r eich bod yn derbyn yr holl gymorth myfyrwyr y mae gennych hawl iddo. Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol (yng Nghymru) neu Gyllid Myfyrwyr Lloegr (yn Lloegr) neu’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yn y brifysgol o’ch dewis i wneud yn siwˆr bod eich pecyn Cymorth Myfyriwr yn gywir. Cyfathrebwch. Siaradwch â’ch banc, eich credydwyr a staff y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr i ofyn am gyngor. Gallant hefyd eich helpu ag unrhyw broblemau yr ydych yn eu hwynebu a gorau po gynharaf yr ydych yn dweud wrthynt am eich sefyllfa, oherwydd gellir gwneud rhywbeth amdani yna yn gyflymach.

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

47


Geirfa

Tudalen 48 Tiwtoriaid - Derbyn Darlithwyr yn y Coleg a’r Prifysgolion sy’n penderfynu pwy sy’n cael eu derbyn ar gwrs. Bwrsarïau ac ysgoloriaethau - Cyllid a allai fod ar gael gan Brifysgolion a cholegau unigol. Er enghraifft, gwobrau rhagoriaeth os byddwch chi’n gwneud yn dda mewn safonau uwch ac ysgoloriaethau chwaraeon. Campws - Safle prifysgol sy’n arfer cynnwys pob cyfleuster y mae eu hangen ar fyfyrwyr fel neuaddau darlithio, llety, siopau, cantinau a bariau. Rhaglen Gyfnewid - Cyrsiau sy’n cynnig cyfle i astudio dramor. Wythnos y Glas - Yw wythnos gyntaf y tymor cyntaf yn y Brifysgol. Byddwch yn cael eich gwahodd i ymuno â chlybiau a chymdeithasau ac yn cael eich tywys o gwmpas y Campws. Graddedig - Dyma beth ydych chi ar ôl ichi gwblhau gradd. Neuaddau preswyl - Y lle y mae llawer o fyfyrwyr yn byw yn ystod eu blwyddyn gyntaf. Gradd Anrhydedd - Rhennir mwyafrif y graddau a’r graddau anrhydedd yn ddosbarthiadau; Dosbarth cyntaf, Ail ddosbarth uwch, ail ddosbarth is a thrydydd dosbarth. Y Dyniaethau - Defnyddir y term hwn i ddisgrifio cyrsiau fel Saesneg, hanes, troseddeg, cerddoriaeth, ieithoedd a sawl un arall. Gradd Fodwlar - Mae’r rhan fwyaf o Brifysgolion yn saernïo’u graddau’n unedau a elwir yn fodiwlau. Cyrsiau heb fod yn alwedigaethol - nid yw’r radd rydych chi’n ei hastudio’n eich hyfforddi am swydd benodol, er enghraifft Ffrangeg, Hanes a Saesneg. Diwrnodau Agored - Mae pob Coleg a Phrifysgol yn cynnig cyfle ichi edrych o gwmpas y campysau a siarad â’r darlithwyr. Ffordd wych o ddod i wybod mwy am y sefydliadau sydd o ddiddordeb ichi. Ôl-raddedig - Astudiaeth a wnewch ar ôl gradd fel meistr neu ddoethuriaeth. Prosbectws - Mae Prifysgolion a Cholegau Unigol yn darparu’r llyfrau hyn yn rhad ac am ddim. Maen nhw’n amlinellu eu cyrsiau, llety, ffioedd, cyfleusterau a gofynion mynediad. Mae’r holl wybodaeth hon ar gael ar-lein hefyd. Cwrs rhyngosod - Cwrs sy’n golygu treulio amser mewn diwydiant neu fusnes. Israddedig - Yr hyn y gelwir myfyrwyr sy’n gweithio tuag at radd. UCAS - Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau. Gwneir pob cais i’r Brifysgol neu’r Coleg ar-lein trwy UCAS. Tariff UCAS - System bwyntiau yw hon a ddefnyddir gan Sefydliadau Addysg Uwch. Dyfernir pwyntiau i bob un o’ch graddau Safon Uwch (neu’r hyn sy’n gyfwerth). Y radd orau fydd yn cael y pwyntiau uchaf. Cyrsiau galwedigaethol - Mae’r swydd a gewch ar ddiwedd eich cwrs yn uniongyrchol gysylltiedig â’ch gradd. Er enghraifft, nyrsio, gwaith cymdeithasol, ffisiotherapi a pheirianneg.

48

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


Cwestiynau cyffredin Tudalen 49

A fydd gradd yn sicrhau swydd raddedig dda imi? Ni fydd cael gradd yn sicrhau swydd ichi ond rydych chi’n fwy tebygol o fod mewn swydd sy’n talu’n well a diddorol os oes gennych un. Bydd gweithio mor galed ag y gallwch a chyflawni dosbarthiad gradd gwell yn rhoi mwy o ddewisiadau i chi. Faint mae graddedigion yn ei ennill? Cyflog cyfartalog unigolyn graddedig newydd gymhwyso yw £25,000. Bydd hyn yn dibynnu ar ba yrfa a ddewiswch. A allaf astudio’n rhan-amser? Gallwch, mae llawer o sefydliadau’n cynnig cyrsiau y gallwch eu hastudio’n rhan-amser. Gallwch hefyd astudio o gartref trwy ddysgu o bell trwy’r Brifysgol Agored. A allaf astudio cyrsiau yn y Gymraeg? Gallwch, mae llawer o sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru’n cynnig modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg. Gwnewch ymchwil bellach yn www.mantais.ac.uk A allaf weithio wrth astudio? Gallwch, mae llawer o fyfyrwyr yn gweithio’n rhan-amser ond mae’r Prifysgolion yn argymell peidio â gweithio mwy na 15 awr yr wythnos. Gall hyn fod yn ffordd wych o ddysgu gwahanol sgiliau ac ennill profiad gwaith. Oes unrhyw gyrsiau Addysg Uwch am ddim? Oes. Ariennir llawer o gyrsiau proffesiynol Gofal Iechyd yn llawn gan y GIG tra caiff rhai eu hariannu’n rhannol gan y GIG ac yn rhannol gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

49


Gwefannau Defnyddiol Tudalen 50

Gwybodaeth Gyffredinol www.careerswales.com www.gapyearjobs.co.uk www.gogapyear.com www.nus.org.uk www.cliconline.co.uk www.studentfreestuff.com www.unofficial-guides.com www.skill.org.uk

Cyngor a gwybodaeth am addysg a gyrfa Gweithio mewn blwyddyn gap Syniadau a gwybodaeth am gymryd blwyddyn allan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Gwybodaeth a chyngor i bobl ifanc yng Nghymru rhwng 11 a 25 oed Deunydd am ddim i fyfyrwyr Fforymau ar yr hyn y mae myfyrwyr yn ei feddwl mewn gwirionedd am eu Prifysgol a’u cwrs Gwybodaeth i fyfyrwyr ag anabledd

Gwybodaeth am ofalwyr maeth www.fostering.net

Y Rhwydwaith Maethu yw’r prif elusen ar gyfer gofal maeth yn y DU ac mae’n darparu cyngor a chymorth ar gyfer unrhyw agwedd mewn perthynas â maethu a gadael gofal. Mae Rhwydwaith Maethu Cymru wedi cyhoeddi arweiniad am ddim i ofalwyr maeth. Am eich copi am ddim o ‘A foster carer’s guide to inspiring and supporting care leavers to Higher Education’ anfonwch e-bost: wales@fostering.net

Gwybodaeth am ariannu a chymorth ariannol www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk www.studentcalculator.org.uk/original www.unigrants.co.uk

Ariannu myfyrwyr yng Nghymru Defnyddiwch y cyfrifiannell myfyriwr UNIAID i’ch helpu i drefnu’ch arian Ble a sut i gael arian ychwanegol ar gyfer eich gradd

Gwybodaeth am eich hawliau www.voiceyp.org www.nyas.net

Sefydliad eiriolaeth i blant Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol

Cymwysterau cyrsiau a dewis prifysgol www.opendays.com www.prospects.ac.uk www.ucas.ac.uk www.uni4me.com www.hotcourses.com www.realuni.com www.unistats.com www.ukcoursefinder.com

Cyfarwyddiadur ar ddyddiau agored prifysgol a choleg Safle gyrfaoedd i fyfyrwyr a graddedigion Gwybodaeth am wneud cais Gwybodaeth gyffredinol am brifysgol Chwilio am gyrsiau a darllen adolygiadau gan fyfyrwyr Llwytho i fyny adolygiadau o gyrsiau a phrifysgolion Cymharu cyrsiau a phrifysgolion Yn cynnwys holiadur ar-lein i’ch helpu i ddewis y cwrs cywir ar eich cyfer

Cyrsiau Addysg Uwch a Addysgir yn Gymraeg www.colegcymraeg.ac.uk/myfyrwyr/cy/myfyrwyr Mae’n eich helpu chi i ddod o hyd i gyrsiau a addysgwyd trwy gyfrwng y Gymraeg

Profiad Gwaith www.gowales.co.uk www.volunteering-wales.net www.unaexchange.org

50

Profiad gwaith i fyfyrwyr addysg uwch a graddedigion yng Nghymru Cyfleoedd gwirfoddoli lleol Gwaith gwirfoddol tymor byr a hir dymor yng Nghymru ac ar draws y byd

Canllaw Addysg Bellach ac Uwch ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru


Gwybodaeth ar gyfer 2012/2013

51


Cynhyrchwyd y canllaw hwn gan Bartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De Orllewin Cymru a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Aelodau’r Bartneriaeth yw: Gyrfa Cymru Gorllewin Dinas a Sir Abertawe Coleg Sir Gâr Coleg Gwˆ yr Abertawe Coleg Castell-nedd Port Talbot Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot Cyngor Sir Caerfyrddin Y Brifysgol Agored yng Nghymru Coleg Sir Benfro Cyngor Sir Benfro Metropolitan Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Prifysgol Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Saint Materion Ariannol lluniwyd gan Alison Maguire, Swyddfa Cyngor a Chymorth Ariannol, Prifysgol Abertawe. Roedd yr wybodaeth i gyd yn gywir pan aeth i’w argraffu.

Am wybodaeth bellach cysylltwch, os gwelwch yn dda, â: Ffôn: +44 (0)1792 602 128

ymgyrraedd.yn.ehangach@abertawe.ac.uk


Canllaw AB ac AU ar gyfer pobl ifanc mewn ac yn gadael gofal yng Nghymru