Cylchlythur Yr Uned Brentisiaethau Mehefin 2025

Page 1


CYLCHLYTHYR BRENTISIAETHAU YR UNED

HAF 2025

CROESO I’R TÎM

JACOB WILLIAMS

Mae’n bleser gennym groesawu Jacob Williams i’r Uned Brentisiaethau fel ein Swyddog Cyswllt

Prentisiaid newydd. Ymunodd Jacob â ni ym mis Mai 2025 a daw â dros 10 mlynedd o brofiad yn y sector peirianneg gydag ef, gan gynnwys amser a dreuliwyd mewn amgylchedd gweithgynhyrchu sy’n symud yn gyflym.

Yn un o raddedigion balch PCYDDS (Anrhydedd

Dosbarth Cyntaf mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig, 2022), mae Jacob yn frwd dros gefnogi prentisiaid drwy gydol eu teithiau eu hunain. Mae ei brofiad prentisiaeth cadarnhaol yn gyrru ei ymrwymiad i ddarparu’r un lefel o anogaeth ac arweiniad i eraill.

Y tu allan i’r gwaith, mae Jacob yn mwynhau gwylio Swansea City, heicio, mynd i’r gampfa, a chadw’n brysur.

CADWCH Y DYDDIAD:

SEREMONI RADDIO I BRENTISIAID – 16 GORFFENNAF 2025

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Seremoni

Raddio Prentisiaethau eleni yn cael ei chynnal yn Neuadd Brangwyn, Abertawe, ddydd Mercher 16 Gorffennaf 2025 am 10:30am.

Anfonir gwahoddiadau drwy’r Gofrestrfa. Bydd man cyfarfod ar gael ar y diwrnod i’ch croesawu a’ch arwain i’ch seddi. Byddwn hefyd yn cofnodi’r digwyddiad ar ffilm a thrwy ffotograffiaeth i ddathlu’r garreg filltir bwysig hon - ac i’w rhannu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Yn ddiweddar cwblhaodd Jacob daith gerdded elusennol 32 milltir o hyd i godi arian ar gyfer Ward Plant Ysbyty Tywysoges Cymru “roedd yn hir ac yn galed,” meddai, “ond yn werth chweil!”

FFAITH HWYLIOG

YMWELIAD ASTUDIO Â JAPAN – MEHEFIN 2025 YN DOD YN FUAN:

Mae paratoadau ar y gweill ar gyfer ein hymweliad astudio rhyngwladol â Japan sydd i ddod ym mis Mehefin. Mae’r rhaglen yn cynnwys Tokyo, Toyota City, Osaka, Hiroshima, a Kyoto - gan gynnig cyfuniad cyfoethog o brofiadau academaidd, diwylliannol a diwydiannol.

Mae’r cyfle cyffrous hwn wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth sylweddol gan Taith, rhaglen gyfnewid ryngwladol ar gyfer dysgu Llywodraeth Cymru.

Mae uchafbwyntiau’r daith yn cynnwys:

• Ymweliad academaidd â Phrifysgol Rikkyo

• Teithiau o gwmpas Cyfnewidfa Stoc Tokyo a’r Amgueddfa Genedlaethol

• Profiadau diwylliannol gan gynnwys y Tokyo Skytree, Shinjuku Gyoen, ac ardaloedd traddodiadol yn Asakusa

• Ymgysylltu â Swyddfa Llywodraeth Cymru yn Tokyo a Swyddfa Prif Gonswl Prydain

• Taith o gwmpas ffatri ac ymweliad ag amgueddfa yn Toyota

• Diwrnod yn Universal Studios yn Osaka

• Mynychu’r World Expo 2025 sy’n canolbwyntio eleni ar Gynaliadwyedd ac arloesi yn y dyfodol

• Adfyfyrdodau hanesyddol yn Hiroshima ac ymweliad ag Ynys Miyajima

• Archwilio diwylliannol yn Kyoto, gan gynnwys temlau a phrofiad trên dros nos

“Mae’r daith hon yn gyfle sy’n newid bywydau ein prentisiaid. Mae’n cynnig cyfle i ddod i gysylltiad uniongyrchol â diwylliant Japan, rhagoriaeth mewn peirianneg, a chydweithio rhyngwladol. Edrychaf ymlaen at weld sut y bydd y profiad hwn yn ysbrydoli ac yn ehangu eu hagwedd.”

— Marie Pitson, Uwch Ddarlithydd ac Arweinydd y Daith

ERTHYGL NODWEDD:

GWERTH PRENTISIAETHAU

Mae prentisiaethau yn parhau i fod yn llwybr pwerus a hyblyg i ystod eang o yrfaoedd. Boed hynny yn y diwydiannau peirianneg, iechyd, digidol, neu greadigol, maen nhw’n cynnig:

• Cyfle i ennill arian wrth ddysgu – astudiwch ochr yn ochr â chyflogaeth go iawn

• Cymwysterau cydnabyddedig sy’n cyd-fynd ag anghenion y diwydiant

• Profiad ymarferol a datblygiad proffesiynol

• Llwybrau dilyniant gyrfa clir

Rydym yn falch o gefnogi prentisiaid wrth iddynt gydbwyso gwaith, astudio a thwf proffesiynol.

SBOTOLAU:

GRADD-BRENTISIAETH BSC Y GADWYN GYFLENWI A LOGISTEG

Eisiau uwchsgilio mewn logisteg, warysau neu gaffael? Mae’r rhaglen Gradd-brentisiaeth BSc (Anrh) Y Gadwyn Gyflenwi a Logisteg yn PCYDDS bellach ar agor ar gyfer ceisiadau.

• Wedi’i hariannu’n llawn ar gyfer dysgwyr cymwys yng Nghymru a Lloegr

• Wedi’i chyflwyno’n gyfan gwbl ar-lein, gydag addysgu byw un diwrnod yr wythnos

• Yn cyfuno astudiaeth academaidd gyda chymhwyso yn y byd go iawn

• Yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ar draws logisteg, gweithrediadau, a sectorau’r gadwyn gyflenwi

DIDDORDEB?

Cysylltwch â’r Uned Brentisiaethau heddiw i ddarganfod rhagor a sicrhau eich lle.

FE’CH GWAHODDIR I FYNYCHU

CADWYN GYFLENWI A LOGISTEG CYFARFOD À BRECWAST Y DARLITHYDD

Dydd Mawrth 24ain Mehefin

8:30 AM – 10:30 AM

Ystafell Gynadledda Matrics Arloesi, SA1

Campws y Glannau, Abertawe

Mae’n bleser gennym eich gwahodd i’n Brecwast Busnes ‘Cwrdd â’r Darlithydd’ ar gyfer y Gadwyn Gyflenwi a Logisteg, a gynhelir yn fuan, cyfle gwych i rwydweithio â chydweithwyr proffesiynol a chael mewnwelediadau gwerthfawr gan ein darlithwyr gwadd nodedig, Moutushi Tanha a Greg Owen, Pennaeth Peirianneg.

Mae’r digwyddiad hwn yn cynnig cyfle unigryw i ymgysylltu ag arbenigwyr yn y diwydiant, archwilio tueddiadau busnes allweddol, a mwynhach y Lleoliad]u brecwast blasus tra’n adeiladu cysylltiadau gwerthfawr.

Ateber erbyn dydd Gwener 20 Mehefin os gwelwch yn dda i gadarnhau eich presenoldeb.

DIGWYDDIADAU SYDD I DDOD

PRYNHAWN

DIWRNOD

SEREMONI

RHWYDWEITHIO AGORED PCYDDS RADDIO

I’R DIWYDIANT

Dydd Iau 26 Mehefin

3:00-5:00pm

Matrics Arloesi, Campws SA1, Heol y Brenin, Abertawe

Ymunwch â ni am brynhawn diddorol o ddosbarthiadau meistr, rhwydweithio, a mewnwelediadau gan ein tîm a phartneriaid busnes.

Dydd Sul 29 Mehefin

11:00am–3:30pm

Campws SA1, Abertawe

Dewch i gwrdd â’r Tîm Prentisiaethau, archwilio cyfleoedd i ddod yn brentis, neu ddarganfod sut i recriwtio prentisiaid ar gyfer eich busnes.

Cadwch eich lle: www.uwtsd.ac.uk/cy/events/ diwrnod-agored-pcydds-abertawe

Dydd Mercher 16 Gorffennaf 10:30am

Neuadd Brangwyn, Abertawe

Dewch i ddathlu cyflawniadau ein prentisiaid. Bydd gennym fan pwrpasol i’ch croesawu a byddwn yn ffilmio ac yn tynnu lluniau o’r diwrnod i nodi’r achlysur arbennig hwn.

Cysylltwch â prentisiaethau@uwtsd.ac.uk a dilynwch ni ar LinkedIn Degree Apprenticeships @ UWTSD

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.