Canllaw i Fabwysiadu LGBTQ+ gan Wasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant

Page 1

CANLLAW LHDTC+I FABWYSIADU

RHAGAIR

Mae'r Canllaw LHDTC+ i Fabwysiadu gan Wasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant yn adnodd hynod werthfawr i'r rheini sy ' n dechrau ar y daith fabwysiadu.

Gyda gwybodaeth dwymgalon gan eiriolwyr, mae ' r canllaw yn ymdrin â phryderon mewn ffordd agos atoch, gan hyrwyddo awyrgylch cynhwysol a chefnogol. Mae'n tynnu sylw at agweddau cadarnhaol fel croesawu amrywiaeth, ymdrin â dynameg deuluol a herio normau cymdeithasol. Drwy drafod iechyd meddwl, ystyriaethau meddygol ac agweddau ymarferol fel cyflogaeth a thai mewn ffordd agored, mae Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant yn sicrhau dealltwriaeth gyfannol Mae'r canllaw yn dathlu llwyddiant lleoliadau LHDTC+, gan ddangos ymrwymiad yr asiantaeth i drefniadau paru amrywiol Gyda straeon sy ' n codi calon a chanllawiau ymarferol, mae ' r canllaw hwn yn cynnig adnodd cadarnhaol i bobl LHDTC+ sy ' n gobeithio mabwysiadu, gan feithrin hyder, gwydnwch ac ymdeimlad o berthyn

LLYTHYRGAN YPRIFSWYDDOG GWEITHREDOL

Fel Prif Swyddog Gweithredol Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant, rwyf yn falch o ailddatgan ein hymrwymiad i groesawu diwylliant amrywiol a chynhwysol. Rydym yn dathlu natur unigryw pob taith fabwysiadu beth bynnag fo'ch cam arni, o wneud yr ymholiad cychwynnol cyntaf hwnnw am fabwysiadu i'n gwasanaethau cymorth ar ôl mabwysiadu.

Mae cenhadaeth pawb sy ' n gweithio yng Ngwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant yn glir: cyfrannu at ein cymuned fywiog ac amrywiol a sicrhau ein bod yno i chi bob cam o ' r ffordd, gan ddathlu'r llwyddiannau a mynd i'r afael â'r heriau

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau ein canllaw LHDTC+ i fabwysiadu, ac rydym yn croesawu eich adborth ac unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella

JASON BAKER, PRIF SWYDDOG GWEITHREDOL
YR HANES 1 IECHYD MEDDWL 3 RHWYSTRAU CANFYDDEDIG 5 YSTYRIAETHAU MEDDYGOL 6 ANABLEDD 7 DYNAMEG DEULUOL 8 SGWRS 9 ELFENNAU TROSEDDOL A CHYFREITHIOL 11 CANFYDDIADAU CYMDEITHASOL 12 CYFLOGAETH AC ARIAN 15 TAI 16 CYFRANWYR 17 SGWRS 13 Gyda Damian Kerlin Gyda Lewis Fitzerald
CANLLAW LHDTC+ IFABWYSIADU

YR HANES

Mae deddfwriaeth mabwysiadu, sy ' n dyddio'n ôl i 1926, wedi llywio tirwedd creu teuluoedd ers amser hir. O ofynion llym o ran priodi i'r agweddau at unigolion LHDTC+ sy ' n datblygu, mae taith hawliau mabwysiadu yn adlewyrchu newidiadau cymdeithasol a datblygiadau cyfreithiol. Mae'r erthygl hon yn trafod agweddau hanesyddol ar ddeddfwriaeth mabwysiadu, gan ystyried yr heriau a wynebir gan y gymuned LHDTC+ a ' r camau a gymerwyd tuag at gynwysoldeb.

1926-1976: Y Gorchymyn Priodas

Gan ddyddio'n ôl i 1926, gorchmynnodd deddfwriaeth mabwysiadu mai dim ond parau priod allai fabwysiadu Gwnaeth Deddf Mabwysiadu 1976 barhau â'r traddodiad hwn, gan gadw'r gofyniad i briodi ond gan ganiatáu i unigolion sengl geisio mabwysiadu

1980au: Cysgodion Adran 28

Roedd yr 1980au yn gyfnod pan fyddai asiantaethau mabwysiadu a maethu yn gwrthod ymgeiswyr LHDTC+ yn aml. Taflodd Adran 28, a ddeddfwyd yn 1987/88, gysgod dros hawliau LHDTC+ drwy wahardd cyfunrhywiaeth rhag cael ei “hyrwyddo” mewn ysgolion. Er gwaethaf yr ymgyrchoedd dilynol yn erbyn Adran 28, arweiniodd hyn at nerfusrwydd ymhlith asiantaethau mabwysiadu a gynhaliodd safbwyntiau gwahaniaethol.

1990au: Tuedd y Cyfryngau a Newidiadau Cyfreithiol

Gwnaeth tuedd y cyfryngau ar ddechrau'r 1990au, a ysgogwyd gan homoffobia ac ymdrechion i godi ofn, ddwysáu safbwyntiau gwahaniaethol Fodd bynnag, arweiniodd datblygiadau cyfreithiol at yr hawl i blant gael eu paru â'r oedolion a allai ddiwallu eu hanghenion orau, gan gynnwys cyplau ac unigolion LHDTC+ Er gwaethaf cyfyngiadau Deddf Mabwysiadu 1976, llwyddodd cyplau o ' r un rhyw i lywio'r broses fabwysiadu gan ddefnyddio dulliau creadigol

1

0au: Anawsterau a Newid Deddfwriaethol

Adran 28 gael ei dirymu yn 2000 yn yr Alban ac yn 3 yng Nghymru a Lloegr, ni wnaeth hyn arwain ar aith at dderbyn unigolion LHDTC+ sy ' n rhoi gofal yn redinol. Tanlinellodd y trafodaethau dadleuol ynghylch df Mabwysiadu a Phlant 2002 y gwrthwynebiad yn erbyn trefniadau mabwysiadu gan unigolion LHDTC+. Gwnaeth y Ddeddf, a ddaeth i rym yn 2005, ganiatáu i gyplau di-briod a chyplau o ' r un rhyw fabwysiadu ar y cyd o ' r diwedd, er i bobl barhau i wrthwynebu

Heddiw: Cynnydd a Heriau

Yn 2024, mae ystadegau mabwysiadu yn adlewyrchu

cynnydd, gydag 1 o bob 8 achos o fabwysiadu yng

Ngogledd Iwerddon, 1 o bob 5 yn Lloegr ac 1 o bob 4 yng

Nghymru yn mynd i deuluoedd LHDTC+. Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant yn nodi tuedd

gadarnhaol, gyda 30% o leoliadau ers mis Ebrill 2019 gyda theuluoedd LHDTC+.

Y Dyfodol: Ymrwymiad i Gydraddoldeb

Er gwaethaf camau breision ymlaen, mae heriau yn parhau ac mae anghydraddoldebau o hyd. Mae

Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant yn cydnabod y gwaith parhaus sydd ei angen i sicrhau cydraddoldeb

gwirioneddol. Mae ein hymrwymiad i ddysgu a gwella yn tanlinellu pwysigrwydd cynnydd parhaus. Wrth i gymdeithas ddatblygu, felly hefyd y mae naratif hawliau mabwysiadu i'r gymuned LHDTC+

2

IECHYD MEDDWL

Yn y broses o asesu ar gyfer mabwysiadu, mae gan asiantaethau, fel ni yma yng Ngwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant, brofiad o weithio gydag unigolion a all fod wedi wynebu heriau iechyd meddwl Mae gweithwyr cymdeithasol yn canolbwyntio ar ddeall eich rhwydwaith cymorth yn ystod cyfnodau anodd, eich ymwybyddiaeth o arwyddion iechyd meddwl, eich defnydd o feddyginiaeth a'i heffaith Mae archwiliad meddygol gorfodol ar gyfer mabwysiadu, a gynhelir gan eich meddyg teulu, yn cynnwys trafodaeth am iechyd meddwl

Gellir ceisio geirdaon gan gwnselwyr, gan bwysleisio'r angen i gadarnhau dyddiadau yn hytrach na manylion penodol. Mae sicrhau bod gennych y galluedd, y cymorth a ' r dulliau ymdopi yn ystod sefyllfaoedd rhianta sy ' n peri straen yn hollbwysig er mwyn creu amgylcheddau diogel i blant sydd wedi'u mabwysiadu.

Er y gall unigolion LHDTC+ fod yn fwy tebygol o ddangos ymddygiad hunanladdol a hunan-niweidiol, nid yw profiadau yn y gorffennol yn eich eithrio o ' r broses fabwysiadu yn awtomatig. Mae'n hanfodol eich bod yn cyfathrebu'n onest â'ch gweithiwr cymdeithasol. Mae asiantaethau yn cydnabod y gall goresgyn adfyd yn y gorffennol wneud pobl yn fwy gwydn, a fydd o bosibl yn helpu'r plentyn i ddeall ei gefndir ei hun Gall ymchwil sy ' n cefnogi'r cysyniad hwn gyfrannu ymhellach at ddealltwriaeth gynhwysfawr o fabwysiadwyr sydd wedi wynebu anawsterau yn y gorffennol

Yng nghanol fy mrwydrau ag iechyd meddwl, roedd y llwybr mabwysiadu yn ymddangos yn anodd dros ben. Gyda chymorth fy ngweithiwr cymdeithasol o Wasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant, daeth yn daith llawn gobaith a gwelliant Gyda'n gilydd, gwnaethom drawsnewid heriau yn gamau i greu ein teulu am byth.

3

YSTADEGAU IECHYDMEDDWL

Mae ystadegau yn dangos cyfraddau sy ' n peri pryder o heriau iechyd meddwl ymhlith y gymuned LHDTC+, gan bwysleisio pwysigrwydd mynd i'r afael â'r problemau hyn yng nghyd-destun mabwysiadu

Yn ôl Stonewall (2018):

- Nododd 52% o unigolion LHDT eu bod wedi dioddef iselder yn ystod y flwyddyn ddiwethaf

- Gwnaeth 13% o unigolion LHDTC+ 18-24 oed geisio cyflawni hunanladdiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf

- Gwnaeth 46% o unigolion traws a 31% o unigolion LHD nad ydynt yn draws ystyried hunanladdiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf

- Gwnaeth 41% o unigolion anneuaidd hunan-niweidio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae ymchwil, gan gynnwys gwybodaeth gan Mind (2020), yn dangos bod y gymuned LHDTC+ yn wynebu lefelau uwch o iechyd meddwl gwael oherwydd ffactorau fel:

- Homoffobia, deuffobia a thrawsffobia

- Stigma a gwahaniaethu

- Profiadau heriol mewn perthynas â dod allan

- Ynysigrwydd, allgáu a gwrthodiad cymdeithasol

ADNODDAU

Stonewall

Yr elusen fwyaf yn y DU ar gyfer hawliau LHDT+ gyda'r nod o roi gwybod i bob person lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, yma a thramor, nad yw ar ei ben ei hun.

Gwefan: www.stonewall.org.uk

Ffôn: 0207 593 1850

Switchboard

Switchboard yw ' r llinell gymorth genedlaethol ar gyfer unigolion LHDTCRhA+.

I unrhyw un, unrhyw le yn y wlad, ar unrhyw gam o'i daith.

Gwefan: www.switchboard.lgbt

Ffôn: 0800 0119 100

4

RHWYSTRAU CANFYDDEDIG

Mae petruster a phryderon ynghlwm wrth ddechrau'r daith fabwysiadu yn aml, a gall hyn atal unigolion rhag cymryd y cam cyntaf. Yng Ngwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant, rydym yn annog cyfathrebu agored ac yn rhoi croeso cynnes i'r rheini sy ' n ystyried mabwysiadu, gan eu sicrhau ein bod yn ymrwymedig i onestrwydd a dull gweithredu anfeirniadol.

Mae'r broses fabwysiadu yn ddwys, felly mae angen bod ar y cam cywir mewn bywyd cyn dechrau arni. Mae myfyrio ar eich gorffennol, gan gynnwys eich plentyndod, profiadau rhianta, addysg, cyflogaeth a pherthnasoedd blaenorol, yn rhan hanfodol o ' r broses hon Gall y broses hunanfyfyriol hon fod yn heriol i rai ac efallai na fyddant yn teimlo'n barod i ymgymryd â hi ar adeg benodol

Yn y canllaw hwn, byddwn yn ceisio mynd i'r afael â'r rhwystrau penodol y gallai unigolion o ' r gymuned LHDTC+ eu hwynebu cyn dechrau'r broses fabwysiadu Er bod meini prawf cymhwystra penodol, fel bod dros 21 oed, peidio â smygu (gan gynnwys e-sigaréts a fêps), a chael un ystafell wely sbâr o leiaf, mae llawer o agweddau yn gofyn am drafodaethau wedi'u teilwra at yr unigolyn. Caiff euogfarnau troseddol eu trafod yn fanwl yn nes ymlaen yn y pecyn gwybodaeth hwn.

Rydym yn ddiolchgar i bob ymgeisydd o gefndiroedd amrywiol sy ' n cyfathrebu'n onest â ni. Mae cydnabod problemau posibl ac ymdrin â nhw ar y cychwyn yn golygu y gallwn ddarparu cymorth amserol. Mae'r broses fabwysiadu yn dibynnu ar onestrwydd a didwylledd ymgeiswyr â'u hasiantaeth fabwysiadu, gan feithrin cydberthynas ddwyochrog lle caiff tryloywder ei werthfawrogi a'i ad-dalu

Mae ystyried pwy ydynt yn agwedd anochel ar fywydau unigolion a gaiff eu mabwysiadu, ac rydym yn annog rhieni sy ' n mabwysiadu i gynnig cymorth i dywys eu plant drwy'r materion cymhleth hyn. Mae gan unigolion LHDTC+, gan eu bod wedi ymchwilio i'w hunaniaethau eu hunain yn aml, lefel uwch o empathi o ran heriau eu plant yn hyn o beth. Ceir enghraifft deimladwy o hyn yn y fideo gan New Family Social, lle mae Alex, Tad sydd wedi mabwysiadu, yn rhannu ei daith bersonol.

5

YSTYRIAETHAU MEDDYGOL

Mae pob darpar fabwysiadwr yn cwblhau archwiliad meddygol a gynhelir gan ei feddyg teulu Mae'n gam hanfodol yn y broses fabwysiadu Rydym yn cydnabod y gall lleoliadau meddygol wneud i rai unigolion deimlo'n anghyfforddus: mae 1 o bob 7 person LHDTC+ yn osgoi ceisio gofal iechyd oherwydd ofn gwahaniaethu

Er mwyn cwblhau'r archwiliad meddygol ar gyfer mabwysiadu, mae ' n rhaid eich bod wedi cofrestru â meddyg teulu a all gael gafael ar eich cofnodion er mwyn cynnal gwerthusiad cynhwysfawr. Mae'r asesiad meddygol yn cwmpasu agweddau ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl, ynghyd â metrigau ffordd o fyw fel pwysau, smygu a faint o alcohol rydych yn ei yfed.Mae'n bwysig nodi nad yw cost yr archwiliad meddygol wedi'i safoni. Mae pob meddyg teulu yn pennu pris gwahanol, felly byddai'n ddoeth holi eich meddygfa er mwyn cadarnhau.

Ar ôl cwblhau'r archwiliad meddygol, bydd eich meddyg teulu yn anfon yr adroddiad ymlaen atom ac, ar ôl hynny, bydd ein Cynghorydd Meddygol yn rhoi argymhellion Mae asiantaethau mabwysiadu yn chwilio am rieni sydd â'r amser, yr egni a ' r gallu i gefnogi plant drwy gydol eu plentyndod Caiff unrhyw risgiau a nodir eu trafod yn agored, gan gynnwys sut rydych wedi ymdrin â phroblemau tebyg yn y gorffennol Mae'n ddoeth ymgynghori â'ch meddyg teulu neu arbenigwr cyn gwneud cais i fabwysiadu os ydych wedi cael triniaeth ar gyfer salwch difrifol er mwyn cael ei farn am amseru ' r cais.

Mewn perthynas â chyflyrau iechyd penodol:

HIV: Yn groes i gamsyniadau cyffredin, nid yw byw gyda HIV yn eich anghymwyso rhag mabwysiadu. Mae asiantaethau mabwysiadu, fel ni, yn trin HIV fel unrhyw gyflwr arall y gellir ei reoli. Ymdrinnir â diagnosis o HIV yn yr asesiad, gan gydnabod ei fod yn ddigwyddiad o bwys mewn bywyd y mae angen ei drafod oherwydd heriau cysylltiedig, fel iechyd meddwl, cydberthnasau teuluol a chymhlethdodau meddygol posibl.

Awtistiaeth: Mae mwy nag 1 o bob 7 person LHDTC+ yn y DU ar y sbectrwm awtistig, ac mae heriau unigryw ynghlwm â magu plant i bobl sydd ar y sbectrwm. Fodd bynnag, mae hefyd yn cynnig cryfderau unigryw a all fod yn werthfawr wrth fagu plant. Mae'r asesiad yn cydnabod yr agweddau gwahanol ar fagu plant i bobl sydd ar y sbectrwm awtistig, gan gydnabod heriau a chryfderau.

6

ANABLEDD

Cydnabyddir y gall unigolion ag anableddau ddarparu cartref magwrus a chariadus i blant

Mae First4Adoption (2013) yn cydnabod y gall profiadau bywyd unigolion ag anableddau gynnig safbwynt unigryw ar fywydau plant mewn gofal, y mae llawer ohonynt yn ystyried eu bod yn 'wahanol' neu ag anableddau tebyg.

Gall byw gydag anabledd o fewn fframwaith cydberthnasau cadarnhaol gyflwyno gwersi gwerthfawr i blant, gan bwysleisio pwysigrwydd cynwysoldeb a meithrin gwerthfawrogiad o wahaniaethau. Fel y crybwyllwyd yn flaenorol, os oes gennych bryderon neu gwestiynau, cysylltwch â ni.

Gall eich meddyg teulu ac unrhyw arbenigwyr y byddwch yn ymgynghori â nhw gynnig gwybodaeth am sut y gallai eich anabledd effeithio ar eich cais mabwysiadu a 'ch gallu i fagu plant yn y dyfodol

Mae cyfathrebu agored yn hanfodol er mwyn deall unrhyw ystyriaethau posibl sy ' n gysylltiedig ag anabledd yn y broses fabwysiadu ac ymdrin â nhw

7

DYNAMEG DEULUOL

Drwy gydol y broses fabwysiadu, gall trafodaethau am rwydweithiau cymorth a 'ch coed teulu godi, a all beri gofid i'r rhai sydd â chydberthnasau toredig neu heriol â'u teuluoedd geni Mae'n gyffredin i unigolion LHDTC+ greu teuluoedd newydd o ' u dewis sy ' n cynnig y cymorth a ' r cariad angenrheidiol a dyheadau cyffredin, gan eu galluogi i fod yn nhw eu hunain.

Yn nodedig, dywedodd 39% o unigolion LHDTC+ a arolygwyd mewn astudiaeth yn America eu bod wedi wynebu'r posibilrwydd o gael eu gwrthod gan eu teuluoedd geni (Pew Research Center, 2013), yn aml am eu bod yn gwrthod derbyn eu hunaniaeth LHDTC+ neu oherwydd yr anallu canfyddedig i ddod allan yn ddiogel i'w teuluoedd geni.

Yn ystod yr asesiad â'ch gweithiwr cymdeithasol, caiff y ddynameg hon ei hystyried. Er y gall eich teulu dewisol gynnig digonedd o gymorth, mae ' r penderfyniad i ymbellhau oddi wrth berthnasau geni yn ddigwyddiad o bwys mewn bywyd y mae angen ei drafod a'i ddeall Bydd eich profiadau bywyd, rhai cadarnhaol a heriol, yn llywio eich dull magu plant Er enghraifft, gallai ymdopi â chael eich gwrthod gan eich teulu geni roi gwybodaeth i chi i helpu plentyn i ddeall ei orffennol a phwy ydyw

Mae ymchwil yn pwysleisio'n fwyfwy bwysigrwydd ac effaith gadarnhaol teuluoedd dewisol, nid yn unig i unigolion LHDTC+ ond hefyd i'r rhai o gefndiroedd ethnig amrywiol ac unigolion sydd â chydberthnasau dan straen â'u teulu geni. Mae'r broses fabwysiadu yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r ffyrdd amrywiol y mae unigolion yn gwneud cysylltiadau ystyrlon ac yn dod o hyd i strwythurau cymorth yn eu taith tuag at ddod yn rhieni cariadus a medrus.

8

SGWRS

Lewis Fitzgerald, Pennaeth Ysgol Gynradd Parc y Rhath, Caerdydd, sy’n sôn am ddulliau arloesol yr ysgol o hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, yn enwedig mewn perthynas â strwythurau teuluol LHDTC+ amrywiol.

Fel darpar rieni LHDTC+, gall agweddau amrywiol ar fywyd eich darpar blentyn beri gorbryder, yn enwedig mewn perthynas ag effaith bosibl eich strwythur teuluol ar dderbyn y plentyn mewn cymdeithas Un maes penodol a allai beri pryder yw sut y caiff y plentyn ei dderbyn yn amgylchedd yr ysgol Ym myd addysg sy ' n newid yn gyson, mae ' r ymgyrch am amgylcheddau dysgu cynhwysol ac amrywiol yn hollbwysig Mae Ysgol Gynradd Parc y Rhath yng Nghaerdydd yn ganolbwynt i werthoedd o ' r fath Mewn sgwrs â Lewis Fitzgerald, Pennaeth Parc y Rhath, trafodwn ddulliau arloesol yr ysgol o hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, yn enwedig mewn perthynas â strwythurau teuluol LHDTC+ amrywiol, a rennir ag ysgolion ledled Cymru.

Mae Lewis yn esbonio, “yn Ysgol Gynradd Parc y Rhath, nid geiriau ffasiynol yn unig yw amrywiaeth a chynhwysiant maent wedi'u plethu drwy'r cwricwlwm cyfan. Nod dulliau addysgu a phrofiadau dysgu arferol yw cyflwyno myfyrwyr i frithwaith cyfoethog eu cymuned mewn ffordd organig. Caiff gwersi ar amrywiaeth, cynhwysiant a strwythurau teuluol eu hintegreiddio'n ddi-dor mewn gwersi Addysg Rhyw a Pherthnasoedd, dinasyddiaeth, ac Addysg Bersonol, Gymdeithasol, Iechyd ac Economaidd. Mae enghreifftiau o fywyd go iawn, fel lluniau o deuluoedd amrywiol yng nghymuned yr ysgol, a deunyddiau darllen cynhwysol yn creu dealltwriaeth gyfannol o strwythurau teuluol gwahanol.”

Mae'n sôn am y ffordd y mae ymdrin â chwestiynau neu bryderon am strwythurau teuluol gwahanol yn flaenoriaeth. “Mae'r ysgol wedi rhoi polisïau cadarn ar waith, gan gynnwys y 'Polisi Cydberthnasau Cadarnhaol,' y 'Polisi Troseddau Casineb', a ' r 'Polisi Dysgu ac Addysgu'Ymdrinnir â chwynion drwy'r 'Polisi Cwynion', gan danlinellu ymrwymiad y tîm arwain a ' r Corff Llywodraethu i gynrychioli a pharchu pawb yn y gymuned, gan gynnwys teuluoedd LHDTC+ Mae datganiadau cydraddoldeb amlwg yn pwysleisio ymroddiad yr ysgol i barchu pob nodwedd warchodedig ymhellach Nid dim ond arwyddair yw "Byw Gyda'n Gilydd, Dysgu Gyda'n Gilydd, Tyfu Gyda'n Gilydd" yn Ysgol Parc y Rhath mae ' n ffordd o fyw Mae'r ysgol yn herio rhagdybiaethau a rhagfarnau yn weithredol, gan gynnal ymchwil uniongyrchol a dibynnu ar ffeithiau yn hytrach na barn Mae'r tîm arwain, y swyddog ymgysylltu â theuluoedd, yr athrawon a ' r staff cymorth yn cydweithio i greu cymuned wirioneddol gynhwysol Mae trafodaethau agored ymhlith myfyrwyr am eu teuluoedd yn ysgogi profiadau dysgu cyfoethog”

Er bod gan Ysgol Gynradd Parc y Rhath bolisïau cadarn i fynd i'r afael ag achosion o bryfocio neu fwlio, pwysleisia Lewis “y mesurau rhagweithiol a roddir ar waith i atal digwyddiadau o ' r fath. Mae'r dull gweithredu cynhwysfawr, sy ' n cynnwys cwricwlwm cynhwysol, mentrau i feithrin cymuned a chydymffurfiaeth â Chonfensiwn UNICEF ar beidio â gwahaniaethu, yn ceisio creu amgylchedd lle caiff gwahaniaethau eu dathlu, nid eu targedu.” Mae Ysgol Gynradd Parc y Rhath yn enghraifft ddisglair o ymrwymiad y mae ysgolion cynradd yn ei wneud i feithrin cynwysoldeb a dathlu amrywiaeth mewn addysg. Mae gwybodaeth Lewis yn rhoi cipolwg ar amgylchedd lle caiff myfyrwyr eu haddysgu ynghyd â'u cefnogi a ' u croesawu, ni waeth beth fo'u strwythur teuluol.

9
10

ELFENNAU TROSEDDOLA CHYFREITHIOL

Mae'n ofynnol i bob darpar riant mabwysiadu gael gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Hyd yn oed os bydd gan ymgeiswyr wiriad DBS cyfredol ac wedi'i ddiweddaru, mae gwiriad newydd yn orfodol gan Wasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant Yn unol â'r thema o dryloywder drwy gydol camau cynnar y broses fabwysiadu, mae ' n hanfodol datgelu unrhyw ddigwyddiadau yn y gorffennol a allai ymddangos mewn gwiriad DBS neu a all beri pryderon posibl. Mae gan Wasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant, fel llawer o asiantaethau mabwysiadu, gynghorydd cyfreithiol ar ein panel sy ' n rhoi cyngor ar faterion troseddol neu gyfreithiol a all godi.

Ar gyfer ymgeiswyr trawsryweddol, gall y Tîm Ceisiadau DBS Sensitif helpu i ymdrin â'r heriau o gyflwyno dogfennau adnabod. Gall aelod penodol o ' n tîm eich tywys drwy'r broses.

Gall rhai euogfarnau troseddol, yn enwedig rhai sy ' n ymwneud â throseddau yn erbyn plant neu droseddau treisgar, atal darpar fabwysiadwyr rhag symud ymlaen yn yr asesiad Fodd bynnag, caiff unigolion â digwyddiadau yn y gorffennol, yn enwedig y rhai a ddigwyddodd amser maith yn ôl, eu hannog i gysylltu â ni am eglurhad

Mae cael sgyrsiau agored â'ch gweithiwr cymdeithasol yn helpu pob parti i ddeall cyd-destun y digwyddiadau hyn, y gwersi a ddysgwyd, a sut y maent wedi llunio'r person yr ydych heddiw. Mae ceisio eglurhad a thrafod y manylion â ni yn hollbwysig er mwyn deall y ffordd y gall profiadau yn y gorffennol effeithio ar y broses fabwysiadu.

11

CANFYDDIADAU CYMDEITHASOL

Mae rhianta LHDTC+ wedi bod yn rhan o gymdeithas erioed, er ei fod wedi dod yn fwy amlwg yn ddiweddar Mae cymdeithas yn datblygu'n fwyfwy tuag at dderbyn, annog ac integreiddio pob math o deuluoedd yn well

Dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, mae newid amlwg wedi bod yn amlygrwydd y gymuned LHDTC+ ac, yn fwy penodol, deuluoedd LHDTC+. Mae stereoteipiau a safbwyntiau hen ffasiwn ynglŷn ag effaith unigolion LHDTC+ yn magu plant yn diflannu'n raddol. Mae ffigyrau LHDTC+ proffil uchel yn rhannu eu profiadau o fagu plant ar y cyfryngau cymdeithasol, ynghyd ag ymchwil academaidd, yn cyfrannu at chwalu hen gredoau.

Gwnaeth astudiaeth nodedig yn 2023, er enghraifft, gymharu canlyniadau plant a gaiff eu magu mewn teuluoedd LHDTC+ â'r rhai nad ydynt yn dod o deuluoedd LHDTC+ mewn meysydd amrywiol. Gwelwyd tebygrwydd trawiadol yn y canlyniadau, ac roedd plant o deuluoedd LHDTC+ hyd yn oed yn perfformio'n well na ' u cyfoedion mewn rhai meysydd, fel perfformiad academaidd (Zhang et al, 2023)

Er bod gwahaniaethu o hyd, mae amlygrwydd cynyddol teuluoedd LHDTC+ yn herio normau cymdeithasol Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant wedi llwyddo i leoli plant gyda theuluoedd LHDTC+ mewn ardaloedd gwledig a threfol yng Nghymru Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i gynwysoldeb ac yn tynnu sylw at y rhanbarthau amrywiol lle rydym wedi llwyddo i baru teuluoedd, gan gynnig sbectrwm eang a chroesawgar o gyfleoedd i ddarpar fabwysiadwyr.

Ers mis Ebrill 2019, mae 29% o deuluoedd cymeradwy Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant wedi nodi eu bod yn LHDTC+; 16.67% yw cyfartaledd y DU.

Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant wedi nodi bod mabwysiadwyr LHDTC+ yn aml yn dangos mwy o barodrwydd i ystyried lleoliadau yr ystyrir eu bod yn fwy cymhleth Mae teuluoedd LHDTC+ yn tueddu i groesawu cyfran uwch o grwpiau o frodyr a chwiorydd, plant 4 oed a throsodd, a ' r rhai sydd ag ansicrwydd ac anghenion mwy cymhleth o gymharu â'u cymheiriaid heterorywiol.

12

SGWRS

Cawn sgwrs gyda Damian, un o ddau dad a fabwysiadodd drwy Wasanaeth

Mabwysiadu Dewi Sant, a'i holi am eu taith. Wrth sôn am yr heriau, mae ' n pwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu agored, manteisio ar gymorth y gwasanaeth, a chreu amgylchedd cynhwysol. Mae stori Damian yn cynnig

ysbrydoliaeth i unigolion LHDTC+ sy ' n ystyried mabwysiadu.

Beth wnaeth eich cymell i ystyried mabwysiadu, a sut y gwnaethoch benderfynu mai dyma oedd y llwybr cywir i'ch teulu, o ystyried eich hunaniaeth LHDTC+?

Fel dau dad, mae ' r opsiynau i ni ddechrau teulu yn gyfyngedig. Mewn llawer o ffyrdd, mi wnaeth hyn help wneud y penderfyniad yn haws i ni, gan mai'r unig opsiynau oedd mabwysiadu neu ddefnyddio mam fenthyg. Roedd ein penderfyniad yn seiliedig ar ddau beth: un peth oedd ein bod am fod yn gwbl gyfartal fe rhieni a pheidio â chael un yn perthyn yn fiolegol a ' r lla ddim, a ' r ail oedd ein bod yn gwybod bod cynifer o blant hyfryd y mae angen teulu arnynt i'w caru, ac roeddem yn gwybod bod digon o gariad gennym i'w rannu. Felly dyna ni, roedd y penderfyniad wedi'i wneud, mabwysiadu oedd y ffordd ymlaen i ni ac felly gwnaethom gysylltu â Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant i gyflwyno ein hunain

A allwch rannu unrhyw heriau neu brofiadau unigryw y gwnaethoch eu hwynebu fel mabwysiadwr hoyw drwy gydol y broses fabwysiadu, a sut y gwnaethoch ymdopi â nhw?

Mae adegau pan fyddwch yn amau eich hun Yn anffodus, nid yw cymdeithas yn adlewyrchu'r ystadegau, er bod nifer y mabwysiadwyr o ' r un rhyw yn cynyddu bob blwyddyn. Mae canfyddiad heterorywiol iawn ynghlwm wrth fagu plant o hyd, boed hynny mewn hysbysebion neu yn y cyfryngau sy ' n dylanwadu ar duedd pobl o ran beth sy ' n gwneud teulu.

Pan fydd yr adegau hyn yn codi, yn gyntaf, mae ' n bwysig cofio eu bod yn gwbl normal ac, yn ail, dylech eu trafod â'ch gweithiwr cymdeithasol. Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant yn gweithio gyda llawer o fabwysiadwyr LHDTC+, felly mae ' r staff yn barod iawn i ateb eich cwestiynau. Mae gan y gwasanaeth gynllun cyfeillio hefyd lle cewch eich cyflwyno i rieni eraill o ' r un rhyw sydd mewn sefyllfa debyg. Cawsom fudd mawr o hyn gan ei bod yn wych cwrdd â phobl oedd â phrofiad bywyd ac a oedd yn gallu cymhwyso'r agweddau dyddiol ar fod yn rhiant o ' r un rhyw i'r gwersi mwy damcaniaethol.

Sut y gwnaethoch fynd ati i drafod eich hunaniaeth LHDTC+ â'r asiantaeth fabwysiadu, ac a oedd ganddi unrhyw bryderon neu gwestiynau penodol i chi?

Roeddem yn onest iawn o ' r cychwyn, ac rwy ' n credu bod hynny wedi gwneud i bawb deimlo'n gyfforddus Ni allwch fabwysiadu os nad ydych yn barod i fod yn agored Mae'r broses asesu yn ymwneud yn fawr â myfyrio arnoch chi a 'ch perthynas, a hynny'n gywir ddigon Mae'r asiantaeth yn gweithio i'ch paru chi a phlentyn er mwyn creu teulu am byth, felly mae ' n bwysig cael pethau'n iawn Po fwyaf agored a chyfforddus rydych o ' r dechrau, y mwyaf y gallwch ymlacio a mwynhau elfennau drwy'r broses.

Ym mha ffyrdd rydych wedi creu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'ch plant mabwysiedig, yn enwedig o ran deall a derbyn strwythurau teuluol amrywiol?

Mae cymaint o adnoddau anhygoel ar gael bellach. Mae gennym sawl llyfr sy ' n briodol o ran oedran sy ' n ymdrin â theuluoedd o ' r un rhyw, hil a chasineb at fenywod. Mae cynrychiolaeth gynyddol ar y teledu ac mewn ffilmiau hefyd (nid yw amser sgrin yn beth drwg – myth yw hynny a gall achub y dydd pan fyddwch am gael llonydd yn y tŷ bach!)

Mae'r amlygrwydd hwn wedi helpu i normaleiddio teuluoedd o bob math a gwneud i'n plant deimlo eu bod yn cael eu gweld a ' u cynrychioli mewn cyfryngau prif ffrwd

Mae hefyd yn bwysig bod yn agored i gwestiynau Mae plant yn chwilfrydig yn naturiol, maent yn dysgu am y byd o ' u cwmpas yn barhaus, felly gadewch iddynt ofyn cwestiynau a byddwch yn hyderus wrth ymateb Os nad ydych chi'n gwybod beth yw ' r ateb, mae ' n iawn dweud hynny Gallwn siarad am bopeth a gallwch ddod o hyd i'r ateb bob amser Rydym hefyd yn ffrindiau da gyda llawer o rieni eraill o ' r un rhyw sydd â phlant mabwysiedig – cawsom ein cyflwyno i lawer ohonynt drwy Wasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant – felly rydym wedi creu rhwydwaith o gymorth.

A allwch gynnig gwybodaeth am unrhyw adegau neu gerrig milltir cadarnhaol yn eich taith fabwysiadu a all ysbrydoli neu dawelu meddwl unigolion LHDTC+ eraill sy ' n ystyried mabwysiadu?

Mae mwy ohonom nag yr ydych yn ei feddwl, ac mae hynny'n dod yn amlwg iawn pan fyddwch yn rhan o ' r broses.

14

CYFLOGAETH ACARIAN

Datgelodd arolwg Stonewall yn 2017, ‘LGBT Britain in Work’, nad yw 18% o unigolion LHDTC+ yn trafod eu rhywioldeb yn agored yn y gweithle. Mae ymchwil ychwanegol yn dangos y gall hyd at chwarter o oedolion ifanc LHDTC+ ddewis peidio â datgelu eu hunaniaeth pan fyddant yn dechrau swydd newydd (Just Like Us, 2023). Gall y broses o ymgeisio i fabwysiadu hefyd arwain at gwestiynau di-fudd a digymell gan gyflogwyr a chydweithwyr Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant, fel pob asiantaeth, yn gofyn am eirdaon gan eich cyflogwr presennol ac unrhyw gyflogwr blaenorol lle gwnaethoch weithio gyda phlant neu unigolion agored i niwed Yn ddealladwy, gall hyn achosi gorbryder gan y bydd eich cyflogwr yn dod i wybod am eich cynlluniau i fabwysiadu Fodd bynnag, ar Gam Dau yr asesiad mabwysiadu y gofynnir am eirdaon gan gyflogwyr presennol fel arfer (oni bai eich bod yn gweithio gyda phlant a/neu oedolion agored i niwed), sy ' n rhoi digon o amser i chi ddeall y broses yn well cyn cael sgwrs gyda nhw. Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cynnig pecyn cymorth i gyflogwyr sy ' n esbonio sut y mae mabwysiadu yn effeithio ar eu busnes, a gallwch rannu hwn â'ch cyflogwr. Os ydych yn hunangyflogedig, gofynnir am eirda gan eich cyfrifydd.

Er bod adroddiadau penodol Llywodraeth y DU ar bobl

LHDTC+ a diweithdra ar y gweill o hyd, canfu adroddiad o 2021 gan elusen LHDT yr Alban, ‘LGBT Health and Wellbeing’, fod 66% o ' r unigolion a arolygwyd wedi bod yn ddi-waith yn y gorffennol Er nad yw diweithdra yn atal pobl rhag mabwysiadu, mae angen sicrwydd ar asiantaethau na fydd lleoli plentyn gyda chi yn arwain at straen ariannol gormodol a fydd yn effeithio ar eich gallu i fagu plant Mae'r broses fabwysiadu am ddim gyda

Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant, gyda chostau o bryd i'w gilydd fel yr archwiliad meddygol ar gyfer mabwysiadu a gwiriadau troseddol dramor Os bydd pryderon ariannol yn codi, mae Money.com wedi creu canllaw i gyllid personol unigolion LHDTC+ a all gynnig gwybodaeth a chanllawiau gwerthfawr.

TAI

Mae tai a llety yn chwarae rôl bwysig yn y broses asesu ar gyfer mabwysiadu, ac mae asiantaethau mabwysiadu yn blaenoriaethu sefydlogrwydd a diogelwch Datgelodd yr Arolwg LHDT Cenedlaethol yn 2018 fod unigolion LHDTC+, a gaiff eu gwrthod gan eu teuluoedd ar ôl dod allan yn aml, yn wynebu risg uwch o ddigartrefedd Os oes gennych hanes o ddigartrefedd neu ffordd o fyw grwydrol, rydym yn eich annog i fod yn onest gyda ni er mwyn hwyluso trafodaethau agored.

Gall teuluoedd sy ' n mabwysiadu fyw mewn eiddo rhent neu eiddo y maent yn berchen arnynt. Os ydych mewn eiddo rhent, gofynnir am eirda gan eich landlord i sicrhau bod gennych denantiaeth ddiogel, gan leihau'r tebygolrwydd y bydd angen i chi symud yn fuan ar ôl i blentyn gael ei leoli.

Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn cynnal asesiad iechyd a diogelwch yn eich cartref er mwyn sicrhau ei fod yn addas i blentyn Caiff unrhyw faterion a nodir eu trafod yn brydlon, gan roi'r amser angenrheidiol i chi fynd i'r afael ag unrhyw welliannau gofynnol a ' u cwblhau Mae hyn yn sicrhau bod eich cartref yn amgylchedd diogel a chroesawgar i'r plentyn gael ei leoli ynddo

16

CYFRANWYR

DANIEL WARNER

Mae Dan yn aelod ymroddedig o dîm Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant. Ymunodd yn 2014 ar ôl cael profiad gwerthfawr gydag elusen faethu a mabwysiadu arall. Mae Dan yn frwd dros feithrin deialog gynhwysol ac mae ' n credu'n gryf mewn annog darpar fabwysiadwyr o gefndiroedd amrywiol i gymryd rhan weithredol yn y sgwrs am fabwysiadu. Mae Dan yn ymrwymedig i greu amgylchedd croesawgar a chefnogol ac mae ' n chwarae rôl hanfodol yng nghanllaw LHDTC+ y gwasanaeth i fabwysiadu, gan sicrhau bod pawb yn teimlo'n wybodus ac wedi'u grymuso ar eu taith fabwysiadu.

SHAUN HOUCKE

Mae Shaun yn eiriolwr ymroddedig dros fabwysiadu i bobl LHDTC+ ac ymunodd â Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant yn 2023 Gwnaeth ef a'i ŵr fabwysiadu eu mab drwy'r gwasanaeth yn 2020, sy ' n rhoi dealltwriaeth unigryw iddo o ' r broses fabwysiadu. Mae Shaun yn ymrwymedig i gael effaith gadarnhaol a gall gynnig profiad uniongyrchol i'r gymuned LHDTC+. Mae ei daith yn ei ysbrydoli i greu lle cynhwysol o fewn y broses fabwysiadu, gan gynnig cymorth ac arweiniad i unigolion a chyplau sydd ar y llwybr tuag at fod yn rhieni. Mae eiriolaeth ac ymroddiad Shaun yn ei wneud yn adnodd gwerthfawr i'r rheini sy ' n ceisio gwybodaeth a chysylltiad yn y gymuned fabwysiadu LHDTC+.

SARAH COLDRICK

Mae Sarah Coldrick, cynghorydd cyfreithiol yn AFKA, sy ' n rhan o deulu Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant, yn cynnig cyfoeth o brofiad i'n canllaw LHDTC+ i fabwysiadu. Fel rhiant sydd wedi mabwysiadu tri phlentyn sy ' n oedolion bellach, mae wedi gweld newid sylweddol yn agweddau asiantaethau mabwysiadu a dynameg llysoedd dros y 25 mlynedd diwethaf. Mae safbwynt unigryw Sarah yn cynnig dealltwriaeth werthfawr o faes mabwysiadu wrth iddo ddatblygu, gan roi arweiniad a dealltwriaeth i unigolion LHDTC+ sy ' n ymgymryd â'r broses fabwysiadu Mae ei harbenigedd fel gweithiwr cyfreithiol proffesiynol ac fel rhiant sydd wedi mabwysiadu yn cyfoethogi ein canllaw, gan feithrin ymwybyddiaeth a chymorth i'r rhai sy ' n dechrau ar daith drawsnewidiol mabwysiadu

17

CYSYLLTWCH

Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant 28 Plas y Parc, Caerdydd CF10 3BA

029 2066 7007 or info@stdavidscs.org

ARHOSWCH YN Y DDOLEN

Dilynwch ni ymlaen Instagram, Facebook & YouTube

DONARHODDWCHTE

Diolch i chi am ddarllen y canllaw rhad ac am ddim hwn gan Wasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant, rydym yn gobeithio ei fod yn ddefnyddiol i chi.

Fel Elusen gofrestredig efallai yr hoffech ystyried cefnogi gwaith Dewi Sant. Bydd eich cyfraniad yn helpu i sicrhau bod pob plentyn sydd â chynllun mabwysiadu yng Nghymru yn cael ei leoli gyda theulu cariadus ac yn cael ei gefnogi i gyrraedd ei lawn botensial. YMA

0124
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.