Ymestyn yn Ehangach Ysgol Haf I Oedolion Sy'n Dysgu

Page 1

Prifysgol De Cymru

2il, 4ydd a 9ydd Gorffennaf 2024

Cyrsiau am ddim

YN
YSGOLHAF I OEDOLION SY'N DYSGU
YMESTYN
EHANGACH 2024
Mewn partneriaeth â

CROESO

Croeso i ysgol haf Ymestyn yn Ehangach i ddysgwyr sy'n oedolion yn

2024. Mae ein tîm yn darparu amrywiaeth o gyrsiau blasu am ddim ar gampws Trefforest Prifysgol De Cymru ar 2, 4 a 9 Gorffennaf 2024.

PWY YDYM NI?

Mae'r Rhaglen Ymestyn yn Ehangach, a sefydlwyd yn 2002, yn fenter gydweithredol, hirdymor sy'n canolbwyntio ar ranbarth ac yn cael ei chyflwyno ledled Cymru. Ei phrif nod yw ehangu mynediad i addysg uwch a sgiliau lefel uwch. Nod y rhaglen genedlaethol hon, a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), yw cynyddu nifer y bobl o grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli i gymryd rhan mewn addysg uwch Mae’n cyflawni hyn drwy godi dyheadau a sgiliau addysgol, yn ogystal â chreu cyfleoedd astudio arloesol a llwybrau dysgu sy’n arwain at addysg uwch

Nod Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach De-ddwyrain Cymru yw cynyddu cyfranogiad pobl o grwpiau a chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch yn Ne-ddwyrain Cymru gyda ffocws penodol ar bobl sy’n byw o fewn 40% isaf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, a gofalwyr.

Mae Tîm Cyflawni'r Gorllewin ym Mhrifysgol De Cymru yn gwasanaethu Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

PWY SY'N CAEL DOD?

Mae ein hysgol haf yn agored i bob oedolyn dros 18 oed. Fodd bynnag, rhoddir blaenoriaeth i ddysgwyr:

sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd lluosog.

sydd heb fanteisio ar gyfleoedd Addysg Uwch.

sy'n ofalwr di-dâl llawn amser neu'n gadael gofal.

CYFARWYDDIADAU

CYFEIRIAD

Y BRIFYSGOL

Prifysgol De Cymru

Llantwit Rd

Pontypridd

CF37 1DL

IO'r m4, ewch allan yn J32 ac ymunwch â'r A470 i'r gogledd tuag at Merthyr Tudful a

Phontypridd Ar ôl tua 6 milltir, fe welwch arwyddion ar gyfer yr A473 (Llantrisant) a Phrifysgol Cymru Dilynwch yr allanfa gyntaf oddi ar y gylchfan, ar draws y bont

Trowch i'r chwith, yna arhoswch i'r chwith, gan ddilyn yr arwyddion i fyny'r bryn i'r

Brifysgol

Os ydych chi'n agosáu at y Brifysgol i'r de o'r A470, dilynwch yr A470 i Pontypridd a chymryd allanfa'r A4223 tuag at Bontypridd

Wrth y gylchfan cymerwch y 3edd allanfa i ramp yr A470 / A4058 ac arhoswch yn y lôn dde gan gymryd y 3ydd allanfa (A4058) ar y gylchfan nesaf cyn troi i'r chwith i'r Broadway / A473 Arhoswch ar yr A473 yn dilyn arwyddion hyd at y Brifysgol

Mae maes parcio'r ymwelwyr gyferbyn â'r prif gampws. Os ydych chi'n agosáu at y Brifysgol o'r A470 trowch i'r chwith wrth y gylchfan fach ar y prif gampws. Y cod post yw CF37 1DL.

SUT MAE COFRESTRU?

Gallwch gofrestru drwy lenwi’r ffurflen archebu ar-lein sydd ar gael yn: https://forms office com/e/7REvvXWCJg neu drwy sganio’r cod

QR Os ydych chi’n cael trafferth mynd at y ffurflen neu os oes angen

cymorth arnoch i’w llenwi, cysylltwch â’n Tîm Ymestyn yn Ehangach a fydd yn hapus i helpu

01443 482 550

reachingwider@southwales.ac.uk

Sganio Fi

Amserlen

DYDD MAWRTH 2 GORFFENNAF

Celf a dylunio 10:00- 15:00

Hanes a Diwylliant Cymru 10:00-15:00

Addysgeg Gymdeithasol 10:00 – 15:00

Cyflwyniad i Ffotograffiaeth Symudol 10:00- 15:00

Therapïau Seicolegol 10:00 - 15:00

DYDD IAU 4 GORFFENNAF

Hyfforddi i fod yn Gynorthwyydd Addysgu 10:00 – 15:00

Gwaith Ieuenctid a Chymuned 10:00 – 15:00

Hanes Lleol 10:00 – 15:00

Peirianneg 10:00 - 15:00

Beth sydd nesaf i mi 10:00 -12:00

DYDD MAWRTH 9 GORFFENNAF

Troseddeg 10:00 – 15:00

Anghenion Arbennig mewn Addysg 09:30 - 12:30

Iechyd a Gofal Cymdeithasol 13:00 -16:00

Marchnata Digidol 10:00 – 15:00

Cyflwyniad i animeiddio 10:00-15:00

Beth sydd nesaf i mi 10:00 -12:00

Ysgrifennu Creadigol 10:00 - 15:00

Celf a dylunio

DYDD MAWRTH 2 GORFFENNAF 10:00 - 15:00

Gweithdy bore 10-12 cyflwyniad i arlunio

Mae’r gweithdy bore hwn yn archwilio elfennau a chonfensiynau ffurfiol tynnu llun Byddwn yn edrych ar gyfansoddiad delwedd mewn dyluniad. Bydd cyfres o weithgareddau dan arweiniad yn defnyddio pensiliau i fraslunio cyfuniad o dirweddau, ffurfiau dynol, anifeiliaid a delweddau botanegol.

Gweithdy prynhawn 1-3 cyflwyniad i beintio

Mae’r gweithdy prynhawn hwn yn archwilio technegau cymysgu lliwiau, awgrymiadau, arlliwiau, cysgodion a thonau. Byddwn yn edrych ar gyfansoddiad delwedd a chonfensiynau lliw wrth ddefnyddio lliw i gyfleu naratif neu deimlad mewn gwaith celf Bydd gweithgareddau dan arweiniad i archwilio peintio gyda phalet cyfyngedig

Hanes a Diwylliant Cymru

DYDD MAWRTH 2 GORFFENNAF 10:00 - 15:00

Mae’r cwrs hwn yn ymchwilio i safleoedd treftadaeth hynod gyfoethog Cymru gan archwilio’r dehongliadau a roddir iddynt drwy arwyddion, arweinlyfrau, teithiau tywys, gwefannau a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a sut mae hyn yn cymharu â’r wybodaeth ddiweddaraf gan haneswyr.

Os ydych chi eisiau dysgu am fywyd mewn bryngaerau, trefi Rhufeinig, eglwysi canoloesol a chestyll, ynghyd â sut y dylanwadodd safleoedd diwydiannol Cymru ar y byd ehangach a'i siapio, mae'r cwrs hwn yn addas i chi Yn y diwrnod astudio rhyngweithiol hwn byddwch yn dysgu am y ddadl barhaus rhwng haneswyr a’r sector treftadaeth ac yn dysgu ble y gallwch ddod o hyd i’r ffynonellau ymchwil hanesyddol mwyaf diweddar

geg Gymdeithasol

AWRTH 2 GORFFENNAF 10:00 - 15:00

eg gymdeithasol yn ddisgyblaeth sefydledig a phoblogaidd

dd bellach yn denu mwy a mwy o ddiddordeb ac yn cael ei n raddol ledled y DU o fewn lleoliadau gofal plant

yr undydd hwn yn cynnig cyflwyniad unigryw i’r cysyniad o mdeithasol yng nghyd-destun gweithio gyda phlant a gofalu amdanynt. Mae'r cwrs yn cynnwys cyflwyniad i s Y Model Diemwnt, Y Trydydd Cyffredin, Parthau Dysgu, rebu Cadarnhaol, a’r dull Calon, Dwylo a Meddyliau

nau anffurfiol, hwyliog hyn yn eich helpu i ddeall y dull ôl i addysgeg gymdeithasol, byddwch yn cael cipolwg ar nasoedd cadarnhaol, ac yn dysgu syniadau newydd ar o’n greadigol gyda phlant a phobl ifanc

Cyflwyniad i Ffotograffiaeth

Symudol.

DYDD MAWRTH 2 GORFFENNAF 10:00 - 15:00

Mae'r sesiwn blasu undydd hon yn cynnig cyflwyniad ysbrydoledig ac ymarferol i dynnu lluniau gwell gan ddefnyddio eich ffôn symudol. Bydd y diwrnod yn ymarferol a rhyngweithiol iawn lle bydd cyfranogwyr yn darganfod egwyddorion cyfansoddi, goleuo a fframio sy'n sail i ddelweddau cymhellol

Mae'r sesiwn blasu undydd hon yn cynnig cyflwyniad ysbrydoledig ac ymarferol i dynnu lluniau gwell gan ddefnyddio eich ffôn symudol Bydd y diwrnod yn ymarferol a rhyngweithiol iawn lle bydd cyfranogwyr yn darganfod egwyddorion cyfansoddi, goleuo a fframio sy'n sail i ddelweddau cymhellol

Therapïau Seicolegol

10:00 - 15:00

DYDD MAWRTH 2 GORFFENNAF 10:00 - 15:00

Chwarae, storïau a therapïau seicolegol.

Bydd Emma Wheeler yn darparu diwrnod blasu yn ymwneud â therapïau seicolegol a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Yn ystod y dydd byddwch yn dysgu am bwysigrwydd chwarae a chreu straeon ar gyfer therapiwteg a lles Bydd y damcaniaethau seicolegol sy'n gysylltiedig â'r therapïau yn cael eu trafod ac yn ymgysylltu â gweithgareddau creadigol a archwiliwyd

Bydd y diwrnod blasu hwn yn rhoi cipolwg i chi ar y pwnc diddorol hwn a'r ystod o lwybrau astudio sydd ar gael Emma yw Arweinydd Cwrs y rhaglen Blwyddyn Sylfaen Integredig yn PDC ac mae'n dysgu'r modiwlau Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Seicoleg.

Dechreuodd Emma ei gyrfa fel athrawes ysgol gynradd sy'n arbenigo mewn Celfyddydau Creadigol ac mae'n Seicotherapydd Celf cofrestredig HCPC.

Hyfforddi i fod yn gynorthwyydd addysgu.

DYDD IAU 4 GORFFENNAF 10:00 - 15:00

Gweithdy bore 10-12 Dysgu drwy chwarae.

Bydd gweithdy’r bore yma yn cyflwyno’r themâu trawsbynciol sydd wedi’u gwreiddio ym mhob rhan o’r cwricwlwm newydd i Gymru

Byddwn yn edrych ar sut y gallwn ymgorffori a chynnwys

llythrennedd a llythrennedd digidol mewn chwarae a bydd ail ran y gweithdy yn canolbwyntio ar roi damcaniaeth ar waith mewn sesiwn

ʻdysgu drwy chwarae’ ymarferol sy’n canolbwyntio ar lythrennedd a llythrennedd digidol

Gweithdy prynhawn 1-3 Dysgu drwy chwarae. Bydd gweithdy’r prynhawn yma yn archwilio’r themâu trawsbynciol sydd wedi’u gwreiddio ym mhob rhan o’r cwricwlwm newydd i Gymru. Byddwn yn edrych ar sut y gallwn ymgorffori a chynnwys rhifedd, yr iaith Gymraeg, a diwylliant ac ADCDF (addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang) mewn chwarae. Bydd ail ran y gweithdy yn canolbwyntio ar roi damcaniaeth ar waith mewn sesiwn ʻdysgu drwy chwarae’ ymarferol sy’n canolbwyntio ar rifedd, iaith a diwylliant Cymraeg, ac ADCDF

ENNAF 10:00 - 15:00

euenctid yn addas i unrhyw un sydd

ol, neu'n teimlo'n angerddol am

nctid yn cynnig cipolwg i chi ar

hio gyda phobl ifanc, ac yn eich

b fod yn ffurfiol ac anffurfiol.

aeth a dealltwriaeth o rai o'r sgiliau a'r

r unrhyw un sy'n gweithio gyda

unedol. y cwrs?

mrywiaeth o bynciau hanfodol i

asoed

a Chyfathrebu â Phobl Ifanc

ad sy'n Herio / Datblygu

ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng mru, 2019)

waith Ieuenctid yng Nghymru

d
Chymuned
a
?

Peirianneg

DYDD IAU 4 GORFFENNAF 10:00 - 15:00

Mewnwelediad i Hedfan

Dewch draw i'n diwrnod blasu gyrfa hedfan yn adran Peirianneg Awyrennau Prifysgol De Cymru.

Cewch gyfle i siarad â Pheiriannydd Awyrennau am gyfleoedd gyrfa yn sector hedfan Cymru; Pwyntiau mynediad i gymwysterau ac ardystio yn ogystal â thaith o amgylch ein cyfleusterau hedfan o'r radd flaenaf.

Yn ystod y dydd byddwch yn dysgu sut mae awyren yn ael ei rheoli gan y peilot, sut mae peiriant a gallwch ofyn unrhyw gwestiynau rydych an yn gyffredinol. Byddwch hefyd yn cael ewn ymarferion grŵp i gael cipolwg ar y n i ddod yn beiriannydd awyrennau

Hanes Lleol

DYDD IAU 4 GORFFENNAF 10:00-15:00

Mae'r diwrnod astudio hwn yn edrych ar sut y daeth cymdeithas Gymreig i'r amlwg; enwau pobl, arferion, straeon, llythrennedd a hyd yn oed yr iaith yn datblygu o'r dechrau fel rhan o dalaith Rufeinig ddiweddar Britannia Prima.

Byddwn yn edrych ar y bobl a adeiladodd sawl teyrnas fechan yn y bumed a'r chweched ganrif a'r rhai a ddilynodd gan gynnwys dyfodiad y Gwyddelod, Bysantiaid a Galiaid, gyda'u gwin, olifau, cnau pistasio, cerameg a gemwaith o gyn belled i ffwrdd â Gogledd Affrica Bydd y bobl a’r diwylliant sydd wedi’u gwreiddio yn y canrifoedd hyn yn dod yn fyw a chawn weld sut mae’r dylanwadau’n parhau yn y Fro Morgannwg rydyn ni’n ei hadnabod heddiw.

Troseddeg

DYDD MAWRTH 9 GORFFENNAF 10:00-15:00

Ydych chi erioed wedi meddwl beth sy'n digwydd o drosedd i'r llys?

Os mai ie oedd eich ateb, yna mae'r digwyddiad hwn ar eich cyfer chi.

Byddwch yn ymchwilio i achos o lofruddiaeth. Byddwch yn dechrau yn y sefyllfa drosedd, yn dadansoddi rhywfaint o dystiolaeth allweddol yn y labordy ac yn penderfynu ar y blaid euog.

Allwch chi ddatrys yr achos?

AnghenionDysguYchwanegolmewnaddysg

DYDD MAWRTH 9 GORFFENNAF 09:30 - 12:30

Bydd y gweithdy bore yma yn archwilio anghenion dysgu

ychwanegol mewn addysg Byddwn yn dechrau’r bore drwy ystyried beth allai anghenion ychwanegol ei olygu, yn gorfforol ac yn seicolegol, a beth yw ystyr cynhwysiant, a sut mae modd ei sicrhau

Byddwn yn trafod y model cymdeithasol o anabledd a sut mae

hyn yn rhoi'r cyfrifoldeb ar gymdeithas gyfan i fod yn decach ac yn fwy cynhwysol. Bydd rhai tasgau a gweithgareddau ymarferol yn ymwneud â deall anghenion ychwanegol a sut i wneud

addasiadau rhesymol, dod o hyd i atebion ac addasiadau wrth gynllunio gweithgareddau mewn lleoliad addysgol.

Cyflwyniad i ofal cymdeithasol

DYDD MAWRTH 9 GORFFENNAF 13:00 - 16:00

Bydd gweithdy’r prynhawn yma yn ystyried beth allai anghenion gofal a chymorth rhywun fod, naill ai’n gorfforol neu’n seicolegol Byddwn yn trafod pwy allai fod angen cymorth, gwahanol grwpiau cleientiaid a chyflyrau, a pha ofal a chymorth sydd eu hangen o bosib Bydd rhai tasgau ymarferol yn ymwneud â deall anabledd, oedran ac anghenion gofal a chymorth eraill a gweithgaredd yn ymwneud â deall yr hyn y mae dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ei olygu.

Byddwn yn trafod sut y gallem roi anghenion gofal a chymorth ar waith wrth gynllunio gweithgareddau mewn lleoliad gofal.

Marchnata Digidol

DYDD MAWRTH 9 GORFFENNAF 10:00 - 15:00

Nod y cwrs hwn yw darparu dealltwriaeth gyffredinol o'r

gwahanol fathau o gyfryngau digidol, eu rôl mewn marchnata a

chyfathrebu, a sut i'w defnyddio'n effeithiol. Byddwch yn dysgu’r canlynol:

Creu cynnwys a Strategaethau Cyfryngau Cymdeithasol, Optimeiddio Peiriannau Chwilio a Dadansoddeg Gwefan

Hysbysebu gwefannau a Marchnata drwy E-bost, Moeseg Cyfryngau Digidol a Dyfodol Cyfryngau Digidol.

Yna byddwn yn ymchwilio i'r dirwedd ddigidol, gan archwilio prosesau marchnata a chyfathrebu a thueddiadau cyfredol sy'n llywio'r diwydiant

Ar ddiwedd y cwrs, byddwch wedi creu eich llyfr gwaith creu cynnwys digidol eich hun a bydd gennych well dealltwriaeth o'r hyn i'w ddisgwyl ar eich taith i addysg uwch. .

Cyflwyniad i animeiddio

DYDD MAWRTH 9 GORFFENNAF 10:00 - 15:00

Gweithdy un diwrnod cyffrous sy'n archwilio dulliau gwahanol o animeiddio

Byddwn yn eich cyflwyno i animeiddio traddodiadol wedi'i ddarlunio, animeiddio stop-symud ac animeiddio gyda chlai.

Bydd hwn yn ddiwrnod diddorol, ymarferol a llawn hwyl, a fydd yn archwilio arddulliau a thechnegau animeiddio dan arweiniad ymarferwyr talentog y diwydiant sydd â chyfoeth o brofiad mewn addysgu a chynhyrchu animeiddiadau ar gyfer y sector cynhyrchu

Ysgrifennu Creadigol

DYDD MAWRTH 9 GORFFENNAF 10:00 - 15:00

Mae hwn yn gwrs blasu undydd ar sut i fynd ati i ddechrau eich campwaith ysgrifennu creadigol Boed hynny'n stori fer, sgript, cerdd neu nofel epig, bydd y cwrs undydd hwn yn eich helpu i ddeall y ffurf lenyddol rydych wedi’i dewis

Bydd yn trafod eich perthynas â'ch darllenwyr, yn eich helpu i ddatblygu eich ffordd o feddwl o ran yr hyn yr ydych am ei ddweud ac yn beirniadu eich gwaith eich hun mewn ffordd gadarnhaol.

Mae Dr Peter Morgan Barnes yn awdur cyhoeddedig, yn gyfarwyddwr theatr ac opera, ac mae’n arwain y gweithdy hwn ar ôl addysgu ym Mhrifysgol De Cymru yn y gorffennol. Dewch ag enghraifft o'ch gwaith, drafftiau, neu nodiadau, ynghyd â llyfr nodiadau

Beth sydd nesaf i mi?

DYDD IAU 4 GORFFENNAF 10:00 -12:00

DYDD MAWRTH 9 GORFFENNAF 10:00 - 12:00

Hanner diwrnod o 'Bywyd fel oedolyn sy'n Dysgu'

Dewch i ymuno â ni ar daith o amgylch y campws i archwilio'r cyfleusterau, cwrdd â'r staff a darganfod mwy am sut olwg fyddai ar eich taith fel dysgwr sy'n oedolion.

Byddwch yn cael eich arwain ar daith campws gan fyfyrwyr aeddfed presennol, a fydd yn dangos uchafbwyntiau'r campws i chi, gan gynnwys cyfleusterau llyfrgell, darlithfeydd, cyfleoedd chwaraeon a chymdeithasol a mannau astudio.

Byddant yn gallu ateb unrhyw un o'ch cwestiynau yn uniongyrchol a chwalu unrhyw fythau.

Byddwn yn cael cyfle i gymryd rhan mewn ceisiadau a sgyrsiau cyllid a fydd yn benodol i ddysgwyr aeddfed a rhanamser/o bell, gan roi cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau penodol i'ch anghenion eich hun.

Yn olaf, byddwn yn cymryd rhan mewn sesiwn sgiliau astudio a gynhelir gan ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr ein hunain. Bydd hyn yn rhoi trosolwg o sut olwg fydd ar astudio mewn gwirionedd, sut y byddwn yn ei ddisgwyl gennych chi a'r hyn y dylech ei ddisgwyl gennym ni. Mae'n sesiwn hwyliog a rhyngweithiol a fydd yn sicr o roi eich meddwl yn gartrefol a chefnogaeth a meysydd sy'n peri pryder neu bryder

Byddwn yn gorffen y digwyddiad gyda choffi a chacen yn un o'n siopau bwyd sy'n agored i fyfyrwyr drwy gydol y flwyddyn ac a fydd yn dod yn ganolbwynt cymunedol go iawn i chi yn y dyfodol, heb os.

Cysylltwch â ni 01443 482 550 www.ymestynynehangach.ac.uk reachingwider@southwales.ac.uk

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Ymestyn yn Ehangach Ysgol Haf I Oedolion Sy'n Dysgu by reachingwidersouthwales - Issuu