Pecyn Gwybodaeth CCB 2013 / AGM Info Pack 2013

Page 12

Cyllido Addysg Bellach ac –Uwch Noda’r Gynhadledd: 1. Mae llefarydd addysg Plaid Cymru’n cynnal adolygiad o safle Plaid Cymru ar ffioedd dysgu a chefnogaeth i fyfyrwyr ar hyn o bryd. 2. Mae Denmarc, Groeg, Cyprus, Malta, Awstria, y Ffindir, Sweden, yr Alban, Lwcsembwrg a Norwy i gyd yn cynnig addysg uwch heb ffioedd dysgu i fyfyrwyr brodorol ac o’r UE. 3. Yng Ngweriniaeth Tsiec, rhan fwyaf o’r Almaen, Ffrainc, Gwlad Pwyl, Slofenia a Slofacia, mae’r mwyafrif o fyfyrwyr yn derbyn addysg uwch am ddim. 4. Yn ôl y Drefniadaeth dros Gyd-weithio a Datblygiad Economaidd (yr OECD), caiff 0.6% o GDP y Deyrnas Gyfunol ei wario ar addysg bellach ac –uwch. Cred y Gynhadledd: 1. Bydd darparu addysg bellach ac –uwch am ddim yn sicrhau bod gan fwy o bobl y wybodaeth a’r sgiliau anghenraid er mwyn adeiladu cymdeithas deg ac economi gref. 2. Addysg am ddim yw’r system gyllido fwyaf credadwy er mwyn sicrhau mynediad a dargedwedd bob myfyriwr, heb boeni am eu cefndiroedd. 3. Dylid talu am addysg uwch gyda threth incwm sy’n fwy blaengar – dylai’r sawl sydd wedi gweld budd oherwydd cefnogaeth ein cymdeithas gefnogi eraill i lwyddo trwy dalu lefel deg o dreth. 4. Dylid gwario mwy na 0.6% o GDP y Deyrnas Gyfunol ar ddarparu addysg bellach ac –uwch am ddim, wedi eu cyllido gan y pwrs cyhoeddus. 5. Yn y tymor byr, dylai Cymru fabwysiadu system gyllido tebyg i’r Alban, sy’n sicrhau bod myfyrwyr is-raddedig brodorol ac o’r UE yn cael eu haddysg am ddim. Dyma’r farn y dyliwn ei harddel yn ein maniffesto nesaf ar gyfer etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2016. Penderfyna’r Gynhadledd: 1. I gyflwyno ymateb lawn i ymgynghoriad y Blaid ar ffioedd dysgu a chefnogaeth i fyfyrwyr, gan ddadlau o blaid addysg bellach ac –uwch am ddim. 2. I rhoi’r mandad i bob un o gynrychiolwyr etholedig Plaid Cymru Ifanc i ddadlau a phleidleisio o blaid addysg bellach ac –uwch am ddim ar bob cyfle. Cynigydd: Charlotte Britton a Phlaid Cymru Ifanc Prifysgol Abertawe Eilydd: Cerith Rhys Jones


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.